Dyma wahoddiad i chi ymuno yn ein 'DMC' ni lle ni'n gobeithio llenwi'r chwant am sgyrsie dilys a dwys yn y Gymraeg. Allwch chi ddisgwl bob dim o iechyd meddwl i berthnasau i storie chwithig.
Ar ôl cwpl o sgyrsie gyda rai ohonoch chi ma' raglen heddi yn trafod pwysau cymdeithas arnom ni i edrych ffordd benodol‼️ Ni'n cyffwrdd ar brofiade Hanna o fethu gadel y tŷ heb golur a rhai Heledd yn trial bob diet dan yr haul o achos sylwadau pobl yn 'i byd hi
Heno ni'n agor y sgwrs am grefydd tra'n son am ein ffydd personal ni☺️ Ma'n sgwrs ysgafn fydd gobeithio yn apelio at bob un ohonoch chi, heb ots am eich safbwynt chi ar grefydd‼️ All bobl 'crefyddol' fynd am beint?
Wthnos yma ni'n son am gariad a'r hyn ni di dysgu am berthnase dros y blynyddoedd!
Yn dilyn o'r rhaglen cynta' yr wythnos dwetha, dyma Rhaglen 2 lle ni'n son am fywyd ar ôl y brifysgol‼️
Cyflwyniad bach cloi i'r syniad tu ôl i'r podlediad a'r hyn allwch chi ddisgwl yn yr wythnosau i ddod!
Ma'r podlediad cynta'n fyw‼️Dewch i ffeindio allan pam fuodd Heledd yn llefen bob nos a pam nath Hanna rhedeg bant i Lundain!