Mae Jan wedi colli ei swydd gyda’r heddlu, wedi gwahanu oddi ei gŵr ac yn gobeithio cychwyn bywyd newydd. Doedd hi ddim yn disgwyl gorfod helpu i ddatrys achosion ‘rhyfedd iawn’.
Mae Carol yn gwneud penderfyniad anodd ond pwy mae Jen yn dod ar ei draws ar y comin...
– Mae gorffennol Jen a Carol yn eu dilyn ond a fydden nhw’n fodlon helpu?
Mae Jen wedi cyffroi efo’r noson sylwi ‘slumod ond a ydy’r plant wedi gweld ysbryd Agnes?
Mae Teilo ar drywydd y bwystfil tra bod Tulisa ar drywydd bwystfil gwahanol iawn...
Yn Afon Lido, mae Carol a Jen yn gwneud eu gorau i wybod pwy sydd wedi ypsetio Tulisa ond dydi Jen ddim yn gallu dianc rhag ei hysbrydion hithau...
Mae ‘rhywbeth’ wedi ymosod ar ddefaid Bentley Towers... Beth sy’n poeni Tulis?
Mae torfeydd yn dod i'r fynwent i geisio hela fampir ac mae Bonnie yn cyfaddef y gwir am y profiad.
Mae'r ficer, Maldwyn ap Trefor yn dod ar draws Bonnie yn gorwedd yn y fynwent gyda gwaed ar ei gwddw.
3. Pan mae Barnabas Tate, y seicic, yn dod i gynnal noson yn y Stiwt, mae sawl sioc i'r gynulleidfa...
Dydi Carol methu deall pan nad yw ei mham, fuodd farw yn ddiweddar yn cysylltu efo hi ond mae Jen yn credu taw lol yw’r cyfan...
Mae Jen wedi colli ei gwaith efo'r heddlu, wedi gwahanu oddi wrth ei gwr ac wedi symud i Bontypridd efo'r plant i gychwyn bywyd newydd, ond dydy pethau ddim cweit fel y disgwyl iddi ac mae yna bethau rhyfedd iawn yn digwydd yn ei chartref newydd...