Dengys profiad addysgwyr mewn amryw o feysydd iechyd, gofal ac amddiffyn y cyhoedd nad yw myfyrwyr (a thrwy hynny darpar ymarferwyr proffesiynol) yn magu digon o brofiad ymarferol o gynhadledd achos er mwyn gwarchod plant. Er mwyn ymateb i’r angen yma mae Ysgol Nyrsio a Bydwreigiaeth Prifysgol Morg…
Yn dilyn derbyn tystiolaeth gan bob un o’r arbenigwyr sy’n bresennol, mae’r Cadeirydd yn crynhoi’r dystiolaeth a dderbyniwyd ac yn gofyn am benderfyniad gan yr arbenigwyr ynghylch dyfodol y plant dan sylw a’r babi heb ei eni. Mae cyfle i bob un o’r arbenigwyr (ond nid y rhieni) fynegi barn unigol a gwneir penderfyniad yn seiliedig ar farn pob un ohonynt. Sylwer fod barn a phenderfyniad unfrydol yma - mae’n bosib nad dyna fyddai'r canlyniad bob amser.
Yn yr achos hwn, mae tystiolaeth yr heddlu yn dystiolaeth ‘allanol’ – hynny yw, nid yw’r heddlu yn rhan o ofal y plant sy’n cael eu trafod yma. Byddai’r Gweithiwr Cymdeithasol wedi gofyn i’r heddlu fynychu’r Gynhadledd Achos rhag ofn fod ganddynt dystiolaeth berthnasol i’w chyflwyno. Yma, mae tystiolaeth yr heddlu yn cadarnhau pryderon yr arbenigwyr eraill am ymddygiad treisgar y tad, ac mae hynny’n ffactor dylanwadol wrth geisio gwneud penderfyniad am ddyfodol y plant.
Gwahoddwyd y fydwraig i fod yn bresennol oherwydd bod y fam yn feichiog, ac felly gall y fydwraig gynnig tystiolaeth ynghylch gofal o’r plentyn yn y groth. Os yw plant y rhieni hyn dan fygythiad, yna gall unrhyw bryderon fod yn berthnasol i blentyn heb ei eni hefyd. Dengys tystiolaeth y fydwraig fod yma ofidiau ynghylch gallu’r fam i ofalu am ei hunan, ac o ganlyniad ei gallu i ofalu am ddatblygiad y plentyn yn ei chroth. Mae peth o dystiolaeth y fydwraig yn seiliedig ar dystiolaeth ffeithiol, er enghraifft profion ynghylch twf a datblygiad y babi, ond mae tystiolaeth y fydwraig yn y Gynhadledd Achos yn pwysleisio’r ffaith fod modd i arbenigwr gynnig barn fel rhan o’u tystiolaeth. Er enghraifft, er bod gan y fydwraig ofidiau am drais yn y cartref, does ganddi ddim tystiolaeth bendant o hynny. Serch hynny, mae ei barn broffesiynol yn ddylanwadol.
Gan fod y plentyn hynaf, Sian, bellach wedi dechrau yn yr ysgol, gwahoddwyd y nyrs ysgol i gyflwyno tystiolaeth. Byddai tystiolaeth unrhyw nyrs ysgol yn debyg i dystiolaeth Ymwelydd Iechyd, gan fod nyrs ysgol fel arfer yn cynnig dilyniant i’r math o ofal a chefnogaeth a gynigir i blentyn ifanc gan Ymwelydd Iechyd. Fel yn yr achos hwn, byddai tystiolaeth nyrs ysgol yn seiliedig ar y math o gyfrifoldebau sydd ganddi / ganddo, ac felly’n canolbwyntio ar bethau megis cynnydd yn nhwf a phwysau plentyn, monitro glendid a gofal meddygol cyffredinol (megis pigiadau, profion clyw a golwg, problemau rheoli'r bledren ayb). Does dim pennaeth ysgol yn bresennol yn y Gynhadledd Achos yma, ond yn arferol, fe fyddai’r Gweithiwr Cymdeithasol wedi gwahodd pennaeth yr ysgol i fod yn bresennol a chyflwyno tystiolaeth. Byddai rhywfaint o or-gyffwrdd efallai rhwng tystiolaeth pennaeth a thystiolaeth nyrs ysgol, ond byddai pennaeth hefyd yn gallu cyflwyno tystiolaeth am brydlondeb, cysondeb mynychu’r ysgol, ymddygiad y plentyn yn yr ysgol ac argraffiadau cyffredinol am ofal rhieni o’r plentyn.
Mae Ymwelydd Iechyd yn gyfrifol am fonitro datblygiad corfforol ac ymenyddol plant ifanc hyd at 5 oed (oedran dechrau’r ysgol). Rhan o ddyletswyddau unrhyw Ymwelydd Iechyd yw i sicrhau fod cymorth rhesymol ar gael i rieni pan fo problemau yn y cartref. Yn yr achos hwn, mae’r Ymwelydd Iechyd yn olrhain peth o’i phrofiad wrth fonitro cynnydd Siân (y ferch, sydd bellach yn 5 oed) a Dylan. Fe welwch fod pwyslais tystiolaeth yr Ymwelydd Iechyd ar ddiogelwch a datblygiad cywir y plant, ac mae ei thystiolaeth yn seiliedig ar brofion cydnabyddedig.
Y Gweithiwr Cymdeithasol fyddai wedi galw am y Gynhadledd Achos, ac yn ddi-eithriad, y Gweithiwr Cymdeithasol fyddai’n gosod allan beth yw’r sefyllfa, yn yr achos hwn, beth yw’r cyhuddiadau yn erbyn y rhieni a arweiniodd at osod Siân a Dylan ar y gofrestr amddiffyn plant. Y Gweithiwr Cymdeithasol, trwy’r Cadeirydd annibynnol, fyddai wedi gwahodd yr arbenigwyr eraill i fynychu’r Gynhadledd a chyflwyno tystiolaeth. Byddai’r arbenigwyr eraill sy’n bresennol yn amrywio, gan ddibynnu ar beth yn union yw’r broblem neu’r sefyllfa sy’n cael ei thrafod. Yn yr achos dan sylw, mae’n amlwg nad yw’r Gweithiwr Cymdeithasol yn teimlo fod y plant yn cael gofal priodol yn eu cartref.
Mae’r arbenigwyr bellach wedi cyrraedd. Wrth agor y Gynhadledd Achos, mae'r Cadeirydd yn amlinellu’r safonau a ddisgwylir gan bawb sy’n bresennol yn y Gynhadledd. Byddai’r math yma o safonau proffesiynol yn gyffredin i bob Cynhadledd Achos.
Mae rhieni’r plant wedi cael gwahoddiad i fynychu’r Gynhadledd Achos. Does dim gorfodaeth arnynt i fod yn bresennol - mae eu presenoldeb yn y Gynhadledd yn wirfoddol. Gweithiwr Cymdeithasol fyddai wedi galw’r Gynhadledd Achos ynghyd, gan wahodd nifer o ymarferwyr proffesiynol i fod yn bresennol ac i gyflwyno tystiolaeth. Cyn cyrraedd y Gynhadledd, byddai’r rhieni wedi derbyn adroddiad ysgrifenedig yn amlinellu tystiolaeth y Gweithiwr Cymdeithasol. Fydden nhw ddim, o angenrhaid, yn ymwybodol o pwy arall fydd yn bresennol yn y gynhadledd nac yn gwybod beth fydd cynnwys tystiolaeth yr arbenigwyr hynny. Yn y clip hwn, mae’r Cadeirydd annibynnol yn egluro beth yw pwrpas cynnal y Gynhadledd a beth fydd ffurf y cyfarfod cyn i‘r Gynhadledd Achos ddechrau. Mae’n esiampl ddefnyddiol o’r math o bwyntiau y mae angen eu trafod, ac o’r agwedd broffesiynol sy’n angenrheidiol wrth ymdrin â’r rhieni.