POPULARITY
Wrth i'r cyfnod clo dod i ben, mae mum Mia yn cael trafferth addasu nol i fywyd normal. As the lockdown comes to an end, Mia's mum has trouble adapating back to normal life. Geirfa | Glossarydisgwyl – to expectymddangos – to appearprif weinidog – Prime Minister/First Ministersgrechan - screamffraeo – to arguey clo – the lockdownsudd oren – orange juicetwyllo – to fooldinistrio – to destroyllwyth o bren – a load of woodatgoffa – to reminddeintydd – dentistffug – fakelapio – to wrapgwair – grassdiflannu – to disappearcelwydd – a liellwchlyd – dustygwibio – to flashllacio – to slackencallach – more sensibley prif weinidog – the first ministertonnau – wavesgwyddonwyr – scientists
Mae A Day at the Hunt gan Ingrid Murphy, a wnaed yn 2016, yn ffiguryn Swydd Stafford ceramig gwyn ac aur sy'n cynnwys côd QR rhyngweithiol y gellir ei sganio er mwyn gwylio'r ffilm sy'n cyd-fynd ag ef. Mae'r ffiguryn yn 33cm o uchder ac yn 20cm o led ac mae'n portreadu Ingrid a'i thad Brendan fel dau heliwr. Cafodd y tebygrwydd anhygoel ei greu drwy sganio ac argraffu pennau Ingrid a'i thad ar ffurf 3D a defnyddio castin slip i'w rhoi ar ffiguryn gwreiddiol heliwr o'r 19eg ganrif. Mae ffiguryn yn ffigwr addurniadol cerfluniol a chanddo dri dimensiwn o bob ochr heblaw am y cefn, sy'n wastad, wedi'i ddylunio i'w roi ar silff ben tân. Mae pennau Ingrid a Brendan wedi'u hargraffu'n gymesur â gweddill y gwaith, ac nid ydynt yn ymddangos yn rhyfedd. Mae'r ddau ffigwr yn gwisgo gwisgoedd hela traddodiadol, sy'n cynnwys tiwnigau pen-glin, esgidiau pen-glin, sasiau ar draws y corff a chyrn hela. Mae aroleuadau haenau aur ar ben coleri'r cotiau, pen yr esgidiau, byclau'r gwregysau a'r cyrn hela. Yn y cefndir rhwng y ddau ffigwr y mae hen foncyff gweadog. Mae Brendan yn eistedd ar y chwith. Mae ganddo wyneb caredig ac ystyriol a gwallt cwta ac mae'n ymddangos yn oedrannus. Mae'n syllu'n uniongyrchol o'i flaen ac mae ei law chwith ar ei ben-glin. Mae Ingrid yn sefyll ar y dde. Mae ganddi wallt cwta ac mae wedi troi ei chorff tuag at ei thad wrth i'w llygaid syllu arno'n llawn edmygedd. Mae ei braich dde yn yr awyr, gan ddal arwydd sgwâr â chôd QR du wedi'i brintio arno. Mae'r darn yn rhyngweithiol a phan fyddwch yn sganio'r côd QR, bydd ffilm liw 5 munud o hyd sy'n cyd-fynd ag ef yn dangos ymweliad Ingrid a Brendan â The Hunt Museum yn Iwerddon ym mis Mehefin 2016. Roedd y daith yn y car gyda'i thad yn ganolog i'r gwaith hwn. I ddechrau, roedd Ingrid wedi meddwl y byddai'n ymwneud â'r ymweliad â'r amgueddfa, ond wrth wylio'r deunydd sylweddolodd ei fod yn ymwneud â'r daith mewn gwirionedd, gan mai dyna oedd eu bywyd gyda'i gilydd. Mae'r ffilm ysgafn hon yn llawn sgyrsiau digrif rhwng y tad a'r ferch. Er enghraifft, mae camddealltwriaeth wrth iddyn nhw fynd heibio i siop o'r enw Mace ger eglwys; mae Ingrid yn edrych ar y siop ac mae Brendan yn edrych ar yr eglwys. Mae hi'n siarad am Mace ac mae e'n siarad am offeren (mass). Maen nhw'n mynd ar goll ar y daith; mae eiliadau emosiynol lle mae tad Ingrid yn ymddwyn yn naturiol. Mae'n cerdded i mewn i ystafell ac yn edrych o'i gwmpas fel petai ar fin dweud rhywbeth anhygoel. Yna, meddai, ‘Jesus, they got new carpets I'd say', yn hollol anymwybodol o'r gwrthrychau hardd ar y waliau. Wrth yrru adref, mae ffermwr yn ceisio dal gwartheg sydd wedi dianc o gae i'r ffordd. Cigydd oedd Brendan ac yn nheulu Ingrid mae jôc barhaol pryd bynnag y byddai rhywbeth yn ymwneud â gwartheg, y byddai pawb yn dweud eu bod wedi dod i ddial arno! Mae gwaith Murphy yn canolbwyntio ar ychwanegu amrywiaeth o dechnolegau rhyngweithiol at arteffactau ceramig. Mae hi'n manteisio ar ffiniau deunydd ceramig i greu rhyngweithiadau a phrofiadau arloesol a chwareus. Mae hi'n defnyddio sain, hiwmor ac elfennau hunangofiannol, gan greu gweithiau ceramig diddorol a chwareus, sydd hefyd yn dod â chwedlau hanesyddol a chymdeithasol dyfnach gwrthrychau ceramig a'u defnydd arfaethedig yn fyw. Cafodd A Day at the Hunt ei gomisiynu gan The Hunt Museum yn Iwerddon i fod yn rhan o Gasgliad Crochenwaith Cyfoes Iwerddon. Cafodd Oriel Gelf Glynn Vivian afael ar fersiwn o'r gwaith hwn drwy Wobr Wakelin 2022 mewn partneriaeth â Chyfeillion y Glynn Vivian. Fe'i dewiswyd gan Catrin Webster, artist a darlithydd yn Abertawe.
Ffilm 3 munud ac 16 eiliad o hyd a wnaed gan Tim Davies ym 1992 yw Fflagiau Dros Solfach. Mae'r ffilm du a gwyn hon yn dogfennu digwyddiad penodol i safle'r bryniau uwchben Solfach, Sir Benfro, ar draws y cei o'r Gribin. Yng nghanol yr olygfa gymylog wyntog y mae pum polyn fflag metel a phren 15 troedfedd anhygoel o uchder wrth ymyl ei gilydd mewn grŵp. Mae pentref Solfach i'w weld yn y cefndir ar draws y cei. Mae'r fflagiau'n bwrw yn erbyn ei gilydd bob tro y mae'r gwynt yn chwythu. Mae pob fflag ar ffurf triongl cymesur tenau hir ac mae dwy fflag olau ganolog wedi'u hamgylchu gan fflagiau tywyllach ar y naill ochr a'r llall. Mae rhaff ategol yn clymu'r polion fflag yn sownd ychydig yn llai na hanner ffordd tuag at y ddaear, gan greu rhyw fath o dreipod wedi'i glymu yn y tir gan begiau gwyn. Wrth wneud Fflagiau Dros Solfach, roedd Davies wedi creu'r polion fflag fesul rhannau fel y byddent yn barod i'w cydosod yn ôl yr angen, a threuliodd wythnos yn eu rhoi yn nhirwedd Solfach mewn amrywiaeth o gyfluniadau. Ar ôl treulio rhan o'i blentyndod yn Solfach gyda'i dad-cu, mae'n hen gyfarwydd â'r lleoliad. Gan ddefnyddio fflagiau fel tirnod, archwiliodd y syniad fod perchnogaeth tir yn rhywbeth dros dro, gan hawlio safle am hyd pob ymyriad. O arwyddocâd diniwed fflagiau fel tegan i blant sy'n marcio cestyll tywod, sy'n cael eu llyncu gan y llanw, i oblygiadau glanio ar y lleuad, i edifarhau colli perchnogaeth leol ar hunaniaeth ddiwylliannol Cymru, a'r diymadferthedd sy'n deillio o hynny, mae'r gwaith yn cyfeirio at anghydfodau ynghylch perchnogaeth tir a'r gwrthrych fel dynodwr lleoliad. Mae craidd ei waith yn benodol i amser a lleoliad, gan ddefnyddio cyfryngau perfformio dau a thri dimensiwn. Mae ef hefyd yn archwilio'r gair ysgrifenedig, y gair llafar a'r gair ar ffurf delwedd. Ganed Davies yn Hwlffordd, sir Benfro ym 1960. Astudiodd Gelfyddyd Gain yn Ysgol Gelf Norwich a chwblhaodd MA mewn Materion Celfyddyd a Phensaernïaeth ym Mhrifysgol y Celfyddydau Creadigol yng Nghaergaint. Mae ef wedi gweithio mewn ystod o gyfryngau dros y 30 mlynedd diwethaf, gan arddangos a chreu gwaith yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Mae ef wedi ennill llawer o wobrau, gan gynnwys gwobr cystadleuaeth agored Mostyn, y fedal aur mewn Celfyddyd Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac un o brif wobrau Cymru Greadigol. Ef oedd yr artist cyntaf o Ewrop i gyrraedd rhestr fer Gwobr Celfyddydau Gweledol Artes Mundi a chynrychiolodd Gymru mewn sioe unigol yn Biennale Fenis yn 2011. Cafodd y ffilm Fflagiau Dros Solfach ei chaffael yn 2025 drwy wobr Wakelin, a roddir bob blwyddyn i artist sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru ac y prynir ei waith ar gyfer casgliad parhaol Oriel Gelf Glynn Vivian.
Ffilm ddogfen 58 munud a 2 eiliad o hyd a wnaed yn 2003 yw Swansea Jack Memorial Dog Swimming Competition. Mae'n ymwneud â digwyddiad a grëwyd gan Shimabuku fel prosiect celf. Pan ymwelodd Shimabuku ag Abertawe i wneud gwaith ymchwil ar gyfer ei arddangosfa unigol yn Oriel Gelf Glynn Vivian, dechreuodd ymddiddori yn stori Jac Abertawe, y ci enwog a achubodd 27 o bobl rhag boddi yn ardal harbwr Abertawe yn ystod y 1930au. Wrth iddo ymchwilio i Jac Abertawe, sylwodd fod y cof lleol amdano'n pylu. I adfywio'r cof am yr arwr lleol hwn, gwahoddodd Shimabuku breswylwyr i gynnal cystadleuaeth nofio cŵn er cof am Jac Abertawe. Ryw brynhawn hydrefol cymylog ym mis Hydref 2003, ar draeth Bae Langland, galwyd drwy uchelseinydd ar 70 o gŵn yn eu tro i gymryd rhan yn y gystadleuaeth nofio gan Karen MacKinnon, menyw wen yn ei thridegau a'r curadwr ar y pryd, a chawsant eu tywys i'w safleoedd cychwynnol. Taflwyd hoff bêl neu ffon pob ci i'r môr, ac mae'r lluniau'n dangos y cŵn yn nofio yn y môr tonnog i'w casglu. Pan ddaeth tro pob ci, ymddangosodd ei enw yng nghornel chwith isaf y sgrîn. Mae'r lluniau'n dangos y dorf – gwylwyr, cŵn, perchnogion a chefnogwyr yn cymysgu â'i gilydd – yn annog y cystadleuwyr, yn eu cymeradwyo ac yn codi eu lleisiau i'w dathlu. Artist o Japan yw Shimabuku sydd wedi teithio i leoedd amrywiol yn Japan a thramor ers dechrau'r 1990au, gan greu perfformiadau a gosodweithiau am fywydau beunyddiol a diwylliannol pobl wrth iddo gwrdd â nhw, yn ogystal â mathau newydd o gyfathrebu. Mae ei waith hefyd yn cynnwys amrywiaeth eang o gyfryngau, megis cerfluniau, ffilmiau a ffotograffiaeth. Mae ei arddull yn llawn ymdeimlad barddonol a hiwmor, gan ysbrydoli pobl yn drosiadol ac ennill bri byd-eang. Mae ei broses yn aml yn cynnwys taith i rywle a fu gynt yn anhysbys lle mae'n cofnodi ei brofiadau. Mae syniadau am gyfathrebu rhwng yr hun a phobl eraill, a rhwng celf a'i chynulleidfa, wrth wraidd gwaith yr artist. Mae Shimabuku yn ceisio creu darnau heriol a llyfn, sy'n ymgysylltu'n uniongyrchol â chynulleidfaoedd amrywiol yn y gymuned y mae'n gweithio ynddi. Mae'n ail-greu straeon lleol mewn modd cynnil er mwyn chwalu'r ffiniau, sydd yn aml yn anhyblyg, rhwng pobl y tu mewn i'r sefydliad celf ac y tu allan iddo, ac mae ei wres naturiol yn annog pobl i fwynhau cymryd rhan yn ei brosiectau dychmygus. Mae ei waith bob amser yn emosiynol ac yn aml yn ddoniol, ac eto mae'r hiwmor hwn yn rhoi camargraff o'r difrifoldeb a'r uniondeb sydd wrth wraidd ei waith, a'r parch sydd ganddo tuag at y straeon y mae'n eu darganfod, y bobl y mae'n cwrdd â nhw, a'r lleoedd y mae'n ymweld â nhw.
Ffilm 1 funud a 52 eiliad o hyd a wnaed gan Peter Finnemore yn 2004 yw Rock Music. Mae craig ddilewyrch lliw brown golau fawr yn gorwedd yn ganolog ar wely pridd rhewllyd yn yr hydref wrth i bâr o esgidiau gwaith brown anniben symud tuag at y graig. Wrth i adar drydar yn bleserus, rhoddir un esgid i ochr chwith y graig a'r llall i'r ochr dde. Mae ymdeimlad o ddisgwyliad cyn i forthwyl ddisgyn yn araf, gan daenu chwa o waddodion a gorfodi'r esgidiau gwaith i gamu'n ôl. Gwneir yr un weithred rymus sawl gwaith ond does dim effaith arhosol ar arwyneb y graig galed. Dyma gerddoriaeth roc ar ei mwyaf elfennol. Mae curo carreg yn ddi-sglein, yn uniongyrchol ac yn reddfol. Mae'n adlewyrchu sut mae cerddoriaeth roc yn aml yn ymwrthod â mireinio ac ymatal. Mae syniad cerrig sy'n canu wedi'i wreiddio yn niwylliant a mytholeg Cymru, lle mae cerrig glas Mynydd Preseli'n atseinio â sŵn uchel pan fydd morthwyl yn eu curo'n ysgafn. Mae'r gwaith hwn yn rhan o'r gyfres Zen Gardener.
Gosodwaith pum ffilm a wnaed gan Peter Finnemore (a aned ym 1963) yn 2004 a 2005 yw Birdwatcher. Bwriedir i bobl wylio pob un o bum ffilm (rhan) Birdwatcher ar yr un pryd a'r hyd cyfan yw 7 munud, 11 eiliad. Hyd y rhan gyntaf yw 1 funud, 4 eiliad ac mae'n dangos titwod tomos las yn bwydo o ddau borthwr gwyrdd llawn hadau sy'n hongian o onnen Sbaen. Y tu ôl i'r goeden y mae sied rychiog oren llachar lle mae ffigwr gwryw gwyn sy'n gwisgo dillad cuddliw gwyrdd nad ydyn nhw'n ei ffitio a sbectol haul oren â fframiau oren; mae golwg syfrdan arno wrth iddo syllu ar yr adar o agoriad petryal yn yr adeiledd. Mae iorwg yn llifo o'r ffigwr i'r tir, gan helpu i'w guddio. Mae'r dyn yn camu i ffwrdd o'r agoriad, gan ollwng rhywbeth wrth iddo wneud hynny. Hyd yr ail ran yw 2 funud, 34 eiliad ac unwaith eto mae'n portreadu titwod tomos las yn bwydo o ddau borthwr gwyrdd llawn hadau sy'n hongian o goeden Sbaen o flaen sied rychiog oren llachar. Ond y tro hwn y mae'r ffigwr militaraidd yn sefyll y tu ôl i goeden ac yn syllu o dde isaf y sgrîn, gan newid ei olwg yn araf rhwng yr adar sy'n bwydo o'r porthwr chwith a'r rhai hynny sy'n bwydo o'r porthwr de. Mae ei lygaid yn gwibio rhwng yr adar a'r gwyliwr. Hyd y drydedd ran yw 59 eiliad ac y tro hwn y mae'n portreadu ffigwr militaraidd yn crymu ei gefn y tu ôl i goeden Sbaen, o flaen y sied rychiog oren llachar. Mae ei wyneb o fewn modfeddi yn unig i'r porthwr chwith, lle mae titw tomos las yn llyncu'r hadau'n llawen. Mae llygaid y dyn yn gwibio rhwng yr adar a'r gwyliwr. Hyd y bedwaredd ran yw 24 eiliad ac unwaith eto y mae'n dangos y ffigwr militaraidd y tu ôl i goeden Sbaen, o flaen y sied rychiog oren llachar, er bod heulwen euraidd yn tywynnu ar ei wyneb y tro hwn wrth iddo wylio'r porthwyr. Nid oes unrhyw ditwod tomos las yn bresennol, ac mae'r dyn yn dechrau chwibanu cân i ddynwared adar. Hyd y bumed ran yw 1 funud, 46 eiliad ac mae'n dechrau gyda golygfa aeafol lle mae'r sied rychiog oren llachar bellach wedi'i gorchuddio gan eira ac mae'r ddau borthwr adar llawn yn dal i hongian o goeden Sbaen heb ddail. Mae'r ffigwr militaraidd yn sefyll ar yr ochr chwith i'r goeden, ac yn gwylio wrth i ditwod tomos las ddisgyn a bwydo'n gyflym cyn hedfan i ffwrdd. Mae'r gwaith yn rhan o'r gyfres Zen Gardener, lle mae Finnemore yn cydweithredu'n weithredol ag amgylchedd ei ardd a byd natur. Mae gwylio adar yn un o hobïau mwyaf poblogaidd y DU. Wrth iddo wisgo dillad cuddliw, mae Finnemore yn estyniad modern o'r Dyn Gwyrdd mytholegol. Mae'n cymysgu â'r amgylchedd, yn gweld pa mor gorfforol agos y gall fod at yr adar, ac yn meithrin eu hymddiriedaeth.
Ffilm 9 munud, 39 eiliad o hyd a wnaed gan Anthony Shapland yn 2012 yw [pause] Time & Motion Study. Mae'r ffilm wedi'i gosod yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn 2011 yn ystod y cyfnod cyn iddi gael ei chau ar gyfer prosiect ailddatblygu ac adfer gwerth miliynau o bunnoedd. Roedd y weithred o bacio, clirio a newid wedi dechrau ym mhob rhan o'r adeilad – yn yr arddangosfeydd cyhoeddus yn ogystal ag yn y coridorau cudd a'r ystafelloedd cefn. Mae'r ffilm du a gwyn hon yn portreadu diwrnod ffuglennol, mewn tair rhan. Y rhan gyntaf yw'r bore lle dangosir y casgliad yn dal ynghyd yn yr orielau, a lle mae ardaloedd cyhoeddus a phreifat yr adeilad yn cael eu cyfleu yn yr un modd. Mae set o sbanwyr ar wal mewn gweithdy neu res o fylbiau golau wedi'u trefnu gyda'r un manylder â'r rhes o jygiau buchod crochenwaith Abertawe sy'n sefyll mewn cypyrddau gwydr yn yr oriel, ac mae modd cymharu'r grisiau mawreddog â'r grisiau ymarferol yn y cefn. Yr ail ran yw dechrau'r diwrnod wrth i'r gweithwyr gyrraedd, gyda'r dasg o adfer darnau crochenwaith, eu didoli a'u llenwi'n ofalus â phapur sidan, cyn eu rhoi mewn deunydd lapio swigod a'u labelu. Yn olaf, gyda'r hwyr, mae'r casgliad o wrthrychau a fyddai fel arfer wedi cael eu harddangos yn yr oriel bellach wedi'u cuddio y tu mewn i gardbord. Mae rhifau'r blychau'n cynyddu wrth iddyn nhw luosi'n ymddangosiadol ddiwedd. Mae'r cypyrddau gwydr a fu gynt yn llawn bellach yn wag. Dywedodd Anthony Shapland y canlynol am y gwaith: “Roedd y briff yn agored, sef creu dehongliad o Oriel Glynn Vivian. Dros sawl mis, ymwelais â'r oriel bum gwaith, gan recordio am fwy na 400 o funudau heb syniad pendant am strwythur y ffilm. Wrth wylio'r deunydd hwn y dechreuodd y naratif ffurfio. “Wrth i fi olygu'r ffilm, sylweddolais fy mod yn cynhyrchu rhywbeth a fyddai'n destun hiraeth yn fuan gan y byddai llawer o'r lleoliadau roeddwn yn eu ffilmio yn diflannu yn ystod y gwaith ailwampio a oedd ar ddod. Mae teitl y ffilm yn deyrnged i astudiaethau Frank a Lillian Gilbreth o ergonomeg ac effeithlonrwydd gweithwyr wrth eu gwaith. Roedd eu ffilmiau wedi sbarduno newid, fel arfer wedi'u comisiynu gan reolwyr neu sefydliadau. Serch hynny, dim ond cofnodi newid y mae'r ffilm hon. Heblaw am y gwaith golygu, nid oes unrhyw ystrywiau gyda'r camera, dim byd ffug nac effeithiau; ni ofynnwyd i unrhyw un wneud unrhyw beth gerbron y camera ac ni chafodd unrhyw beth ei ailffilmio. Dyma ffilm lle mae'r gwyliwr yn arsylwi drwy lens oddefol y camera.” Artist a nofelydd o Gymru yw Anthony Shapland ac ef yw sylfaenydd g39, man a arweinir gan artistiaid. Cafodd ei fagu ym Margoed yng nghwm Rhymni. Drwy ei waith ysgrifenedig ac artistig, mae'n cyfuno deunydd dogfennol a ffuglennol, gan ddefnyddio ei brofiad uniongyrchol o fod yn hoyw yng nghefn gwlad a pherfformio fel rhywun heterorywiol wrth dyfu i fyny.
Ffilm 6 munud, 20 eiliad o hyd a wnaed gan Anthony Shapland yn 2005 yw A Sign. Yn ogystal ag arsylwi ar bethau go iawn neu wirioneddol, mae'r ffilm hon o naws ddogfennol hefyd yn cyfeirio at lwyfannu, sgriptio a dichell. Wedi'i ffilmio o safbwynt sefydlog, yn y tu blaen mae malurion ar ochr ffordd, gan gynnwys oergell wen ar ei hochr, byrddau pren ac amrywiaeth o ddeunydd pecynnu plastig a chynwysyddion, wedi cael eu tipio ar draws y glaswellt gwyrddlas wrth i geir fynd heibio ar y ffordd y tu ôl iddynt, fel trydar adar. Mae ffocws hollol wrthrychol y camera'n arsylwi ar goeden Nadolig frown sydd wedi'i gadael yng nghanol y malurion. Mae hyn yn gwrthgyferbynnu'n gryf â'r cefndir ar draws ochr arall y ffordd, sef tirwedd atyniadol a llonydd. I'r dde, mae bryn yn ymestyn ar draws y gorwel ac yn torri ar ei draws y mae cefnen bryn arall sy'n gogwyddo tuag at y ffordd. Y tu ôl i'r bryniau, mae glesni amwys yn creu argraff o'r môr ond mae'n ddigon posib mai'r awyr yw ef yn hytrach na'r môr. Wrth i'r haul fachlud ar yr olygfa, mae'r goeden yn mynd ar dân ac yn y pen draw mae'r fflamau'n diffodd, mewn archwiliad dirdynnol o drist o'r ymdrech i ganfod ystyr mewn bywyd pob dydd. Mae'r tân yn diffodd mor gyflym ag y cafodd ei gynnau, ac mae'r olygfa arferol yn dychwelyd; mae ceir yn dal i fynd heibio ar y ffordd yn y tu blaen, ac mae'r adar yn parhau i ganu. Mae'r gwaith yn eich cadw mewn rhyw fath o dir neb rhwng dydd a nos, a rhwng ffuglen a realiti. Yma yn yr ansicrwydd chwareus hwn y mae'r gwaith yn eich gorfodi i ailystyried y pethau pob dydd rydych chi'n siŵr ohonyn nhw. Artist a nofelydd o Gymru yw Anthony Shapland ac ef yw sylfaenydd g39, man a arweinir gan artistiaid. Cafodd ei fagu ym Margoed yng nghwm Rhymni. Drwy ei waith ysgrifenedig ac artistig, mae'n cyfuno deunydd dogfennol a ffuglennol, gan ddefnyddio ei brofiad uniongyrchol o fod yn hoyw yng nghefn gwlad a pherfformio fel rhywun heterorywiol wrth dyfu i fyny.
Ffilm 33 munud, 50 eiliad o hyd a wnaed gan David Cushway yn 2012 yw Last Supper. Mae'r ffilm hon yn profi ffiniau arferion a thrafodaethau cerameg. Mae 13 o wirfoddolwyr yn eistedd wrth fwrdd petryalog hir â lliain bwrdd gwyn ar fesanîn atriwm mawr Oriel Gelf Glynn Vivian. Mae pensaernïaeth arddull baróc Edwardaidd fawreddog yr adeilad y tu ôl iddynt. Mae cypyrddau gwydr llawn y casgliad cerameg enfawr ar y waliau y naill ochr a'r llall i'r cyfranogwyr. Dyma'r bensaernïaeth a wnaeth atgoffa Cushway o'r Swper Olaf, paentiad Leonardo da Vinci, sy'n dangos swper olaf Iesu a'i 12 apostol. Ysbrydolodd hyn Cushway i ddefnyddio lleoliad y cyfranogwyr i gyfeirio'n uniongyrchol at y paentiad drwy gydol y ffilm. Mae pob gwirfoddolwr yn ei dro'n dal gwrthrych ceramig o'i ddewis o gasgliad parhaol Oriel Gelf Glynn Vivian ac yn ei drafod. Wrth wneud hynny, mae Cushway yn trafod y tabŵ ynghylch cyffwrdd yng nghyd-destun amgueddfa. Felly, rydym yn dyst i brofiad personol y cyfranogwyr o'r gwrthrych o'u dewis, sef profiad a fyddai fel arfer yn waharddedig. Amlygir hyn drwy ei gyfosod â'r casgliad cerameg yn y cefndir, sy'n ddiogel y tu ôl i wydr. Mae wedi'i warchod a'i gadw i ffwrdd fel nad oes modd cyffwrdd ag ef o gwbl. Er mwyn datgelu naratifau ac arsylwadau amgen am y gwrthrychau a gwreiddio'r gwaith yn ddiwylliannol yn ei leoliad, ni roddwyd unrhyw gyfarwyddyd i'r gwirfoddolwyr ynghylch eu sylwadau am y gwrthrychau o'u dewis a'u rhesymau dros eu dewis. Mae sŵn diwrnod gwaith arferol yn parhau yn y cefndir yn y ffilm – ffonau'n canu, drysau'n curo, rhywun yn chwibanu a chlebran cyffredinol. Meddai David Cushway am y gwaith: “Mae'r corff hwn o ymarfer creadigol yn dangos datblygiad fy nodau i ddarparu model o ymgysylltu â'r gwrthrych ceramig a chasgliad yr amgueddfa. Mae'n dadansoddi arferion amgueddfeydd ac arferion curadurol, wrth gyflawni meini prawf modelau ymarfer newydd a ddatblygwyd y tu hwnt i'r ddisgyblaeth a'r stiwdio, lle nad oes gan glai na cherameg bresenoldeb corfforol. “Mae'r profiad personol sy'n deillio o gyffwrdd yn amlwg yn y ffilm, sy'n cyfleu llawenydd a chyffro pur y profiad, drwy ddeialog y cyfranogwyr yn ogystal â'u gweithredoedd a'u hymatebion i'r gwrthrychau o'u dewis. Mae'r arddangosiad emosiynol ysgogol hwn yn adfywio'r gwrthrychau, a thrwy hynny mae'n ennyn diddordeb cynulleidfa'r amgueddfa mewn ffyrdd newydd ac arwyddocaol. Dyma broses sy'n meithrin gwybodaeth a phrofiad newydd, o ran y sefydliad ei hun yn ogystal â'r cyfranogwr.” Mae brwdfrydedd David Cushway dros glai fel cyfrwng wrth wraidd ei waith. Hanes defnyddio clai yw hanes y ddynolryw; dyma'r deunydd sy'n ein rhwymo i'r ddaear lle rydym yn byw. Mae ei waith yn gweithredu yn yr arenâu rhwng celf a chrefft ac yn aml mae'n trafod yn uniongyrchol y gwahaniaeth rhyngddynt, yn ogystal â'r tir cyffredin.
Ffilm 9 munud, 39 eiliad o hyd a wnaed gan Anthony Shapland yn 2012 yw [pause] Time & Motion Study. Mae'r ffilm wedi'i gosod yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn 2011 yn ystod y cyfnod cyn iddi gael ei chau ar gyfer prosiect ailddatblygu ac adfer gwerth miliynau o bunnoedd. Roedd y weithred o bacio, clirio a newid wedi dechrau ym mhob rhan o'r adeilad – yn yr arddangosfeydd cyhoeddus yn ogystal ag yn y coridorau cudd a'r ystafelloedd cefn. Mae'r ffilm du a gwyn hon yn portreadu diwrnod ffuglennol, mewn tair rhan. Y rhan gyntaf yw'r bore lle dangosir y casgliad yn dal ynghyd yn yr orielau, a lle mae ardaloedd cyhoeddus a phreifat yr adeilad yn cael eu cyfleu yn yr un modd. Mae set o sbanwyr ar wal mewn gweithdy neu res o fylbiau golau wedi'u trefnu gyda'r un manylder â'r rhes o jygiau buchod crochenwaith Abertawe sy'n sefyll mewn cypyrddau gwydr yn yr oriel, ac mae modd cymharu'r grisiau mawreddog â'r grisiau ymarferol yn y cefn. Yr ail ran yw dechrau'r diwrnod wrth i'r gweithwyr gyrraedd, gyda'r dasg o adfer darnau crochenwaith, eu didoli a'u llenwi'n ofalus â phapur sidan, cyn eu rhoi mewn deunydd lapio swigod a'u labelu. Yn olaf, gyda'r hwyr, mae'r casgliad o wrthrychau a fyddai fel arfer wedi cael eu harddangos yn yr oriel bellach wedi'u cuddio y tu mewn i gardbord. Mae rhifau'r blychau'n cynyddu wrth iddyn nhw luosi'n ymddangosiadol ddiwedd. Mae'r cypyrddau gwydr a fu gynt yn llawn bellach yn wag. Dywedodd Anthony Shapland y canlynol am y gwaith: “Roedd y briff yn agored, sef creu dehongliad o Oriel Glynn Vivian. Dros sawl mis, ymwelais â'r oriel bum gwaith, gan recordio am fwy na 400 o funudau heb syniad pendant am strwythur y ffilm. Wrth wylio'r deunydd hwn y dechreuodd y naratif ffurfio. “Wrth i fi olygu'r ffilm, sylweddolais fy mod yn cynhyrchu rhywbeth a fyddai'n destun hiraeth yn fuan gan y byddai llawer o'r lleoliadau roeddwn yn eu ffilmio yn diflannu yn ystod y gwaith ailwampio a oedd ar ddod. Mae teitl y ffilm yn deyrnged i astudiaethau Frank a Lillian Gilbreth o ergonomeg ac effeithlonrwydd gweithwyr wrth eu gwaith. Roedd eu ffilmiau wedi sbarduno newid, fel arfer wedi'u comisiynu gan reolwyr neu sefydliadau. Serch hynny, dim ond cofnodi newid y mae'r ffilm hon. Heblaw am y gwaith golygu, nid oes unrhyw ystrywiau gyda'r camera, dim byd ffug nac effeithiau; ni ofynnwyd i unrhyw un wneud unrhyw beth gerbron y camera ac ni chafodd unrhyw beth ei ailffilmio. Dyma ffilm lle mae'r gwyliwr yn arsylwi drwy lens oddefol y camera.” Artist a nofelydd o Gymru yw Anthony Shapland ac ef yw sylfaenydd g39, man a arweinir gan artistiaid. Cafodd ei fagu ym Margoed yng nghwm Rhymni. Drwy ei waith ysgrifenedig ac artistig, mae'n cyfuno deunydd dogfennol a ffuglennol, gan ddefnyddio ei brofiad uniongyrchol o fod yn hoyw yng nghefn gwlad a pherfformio fel rhywun heterorywiol wrth dyfu i fyny.
Carter Braxton Worth stops by the Schwab Network NYSE set to discuss using individual stock volatility to generate options income. He speaks about his recently launched Worth Charting Options Income ETF (WRTH) and the strategies facing traders in today's options markets. ======== Schwab Network ========Empowering every investor and trader, every market day.Options involve risks and are not suitable for all investors. Before trading, read the Options Disclosure Document. http://bit.ly/2v9tH6DSubscribe to the Market Minute newsletter - https://schwabnetwork.com/subscribeDownload the iOS app - https://apps.apple.com/us/app/schwab-network/id1460719185Download the Amazon Fire Tv App - https://www.amazon.com/TD-Ameritrade-Network/dp/B07KRD76C7Watch on Sling - https://watch.sling.com/1/asset/191928615bd8d47686f94682aefaa007/watchWatch on Vizio - https://www.vizio.com/en/watchfreeplus-exploreWatch on DistroTV - https://www.distro.tv/live/schwab-network/Follow us on X – https://twitter.com/schwabnetworkFollow us on Facebook – https://www.facebook.com/schwabnetworkFollow us on LinkedIn - https://www.linkedin.com/company/schwab-network/ About Schwab Network - https://schwabnetwork.com/about
Ydi canlyniadau da Abertawe yn golygu bod nhw wedi ymuno yn y ras am gemau ail-gyfle y Bencampwriaeth? Pum pwynt ydi'r bwlch bellach rhwng y ddau glwb, ac fe all hynny leihau i ddau gyda buddugoliaeth i'r Elyrch ar y Cae Ras nos Wener. Mae hi wedi bod yn dipyn o wythnos i Wrecsam yn dilyn amser ychwanegol yn erbyn Chelsea ac yna colled gartref yn erbyn Hull City. A chyda rhagor o anafiadau - gan gynnwys i Kieffer Moore fydd yn bryder i Gymru - ydi'r Dreigiau yn dechrau colli stêm?Ac wrth i Ryan a Rob baratoi i sylwebu ar y gêm am y tro cyntaf, pa air o gyngor sydd gan y criw i rannu gyda'r ddau actor enwog?
Justin Elliott and Jahreem Samuels, co-founders of the WRTH app, “the world's first AI and blockchain-verified commerce platform,” reveal details of their new six-figure investment from AWS.Become a supporter of this podcast: https://www.spreaker.com/podcast/tavis-smiley--6286410/support.
Wrth i Abertawe nesu at safleoedd ail-gyfle y Bencampwriaeth diolch i fuddugoliaeth oddi cartref yn Blackburn, mae'r criw yn trafod os ydi dal yn rhy gynnar yn y tymor i gymryd unrhyw sylw o safleoedd ein clybiau yn y tabl. Wedi pedair gêm gartref, dal i ddisgwyl am fuddugoliaeth ar y Cae Ras mae Wrecsam - fydd hynny'n newid gydag ymweliad Birmingham nos Wener?A sôn am ganlyniadau siomedig gartref, beth yn y byd ddigwyddodd i Gaerdydd yn erbyn Burton Albion, oedd ar waelod Adran Un ar gychwyn y gêm? Parhau mae problemau enbyd Casnewydd - oes unrhyw arwyddion bod gan y rheolwr Dave Hughes atebion i atal rhediad o naw colled mewn 10 gêm.Ac ar ôl i amddiffynnwr Arsenal rhywsut lwyddo i osgoi unrhyw gosb am ddyrnu Nick Woltemade, mae gan Mal ac Ows atgofion o dderbyn dwrn neu benelin slei ar y cae.
Roedd 'na gyfle i gael cip o'r dyfodol yn Abertawe wrth i rai o chwaraewyr ifanc Cymru wynebu tîm graenus Canada mewn gêm gyfeillgar. Ac er colli 1-0, mi welodd y criw ddigon i gredu bod 'na genhedlaeth newydd yn barod i dorri drwodd. Digon i'r rheolwr Craig Bellamy - doedd ddim rhy hapus gyda dathliadau'r ymwelwyr - asesu cyn y ddwy her enfawr i ddod yn erbyn Lloegr a Gwlad Belg fis nesaf.Nôl i'r bara menyn dros y penwythnos wrth i'r gemau clybiau ddychwelyd, a chyfle i Wrecsam ac Abertawe gynnwys rhai o'r chwaraewyr arwyddodd ar ddiwedd y ffenestr drosglwyddo am y tro cyntaf.
Bridging Cultures: Sir William Jones and the India–Wales Connection Hadi Baghaei-Abchooyeh is a specialist in English and Comparative Literature. This talk explores the remarkable life and legacy of Sir William Jones (1746–1794), the Welsh-born jurist whose work in late-18th-century Bengal forged enduring intellectual ties between Wales and India. This talk explores the remarkable life and legacy of Sir William Jones (1746–1794), the Welsh-born jurist whose work in late-18th-century Bengal forged enduring intellectual ties between Wales and India. We'll trace his early bilingual upbringing and classical education in Wales, his pioneering role as a judge who championed legal pluralism in Calcutta, and his ground-breaking hypothesis linking Sanskrit and Persian with Greek, Latin, and Celtic languages—an insight that launched modern comparative linguistics. Along the way, we'll consider how Jones's dual identity as a Welshman and a colonial official shaped his empathy for both Celtic and South Asian traditions, and how his scholarship still resonates in contemporary debates on cultural revival, postcolonial identity, and the politics of heritage. Mae Hadi Baghaei-Abcooyeh yn arbenigo mewn Saesneg a Llenyddiaeth Gymharol. Mae'r sgwrs hon yn archwilio bywyd ac etifeddiaeth arbennig Syr William Jones (1746-1794), arbenigwr cyfreithiol a anwyd yng Nghymru yr oedd ei waith ym Mengal ar ddiwedd y 18fed ganrif wedi ffurfio cysylltiadau deallusol parhaus rhwng Cymru ac India. Mae'r sgwrs hon yn archwilio bywyd ac etifeddiaeth anhygoel Syr William Jones (1746–1794), arbenigwr cyfreithiol a aned yng Nghymru. Bu ei waith yn nhalaith Bengal ar ddiwedd y 18fed ganrif yn gyfrifol am feithrin cysylltiadau deallusol parhaus rhwng Cymru ac India. Byddwn yn olrhain ei fagwraeth ddwyieithog gynnar a'i addysg glasurol yng Nghymru, ei rôl arloesol fel barnwr a fu'n hyrwyddo plwraliaeth yn Calcutta, a'i ddamcaniaeth arloesol a wnaeth gysylltu Sansgrit a Pherseg ag ieithoedd Groeg, Lladin a'r gwledydd Celtaidd – dealltwriaeth a lansiodd ieithyddiaeth gymharol fodern. Wrth wneud hynny, byddwn yn ystyried sut llywiodd hunaniaeth ddeuol Jones, ac yntau'n Gymro ac yn swyddog trefedigaethol, ei empathi tuag at draddodiadau Celtaidd a thraddodiadau De Asia, a sut mae ei ysgolheictod yn dal i ddylanwadu ar drafodaethau cyfoes am adfywio diwylliannol, hunaniaeth ôl-drefedigaethol a gwleidyddiaeth treftadaeth.
Modron, Threads 24.05.2025 - 2.11.2025 We are proud to present the outcome of the Threads project, featuring the personal responses of group members to the work of acclaimed artist Adeela Suleman. Threads: Glynn Vivian Community Textiles Group has been experimenting with textile-based techniques and materials. As the project has developed, the slow, repetitive nature of textile processes has encouraged social interactions and connections. This slowed-down approach has allowed for the development of a shared sense of purpose celebrating how the threads of our diverse lives are inextricably woven together in our community. Rydym yn falch o gyflwyno canlyniad prosiect Threads, sy'n cynnwys ymatebion personol gan aelodau'r grŵp i waith yr artist adnabyddus Adeela Suleman. Ariannwyd prosiect Threads gan Grant ‘Creu' Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae Threads, Grŵp Tecstilau Cymunedol Oriel Gelf Glynn Vivian, wedi bod yn arbrofi â thechnegau a deunyddiau sy'n seiliedig ar decstilau. Wrth i'r prosiect ddatblygu, mae natur araf, ailadroddus prosesau tecstilau wedi annog rhyngweithio a chysylltiadau cymdeithasol. Mae'r dull arafach hwn wedi caniatáu i ni feithrin ymdeimlad o ddiben cyffredin, gan ddathlu sut mae elfennau ein bywydau amrywiol yn cydblethu'n annatod yn ein cymuned.
Wrth ddathlu trydydd dyrchafiad yn olynol ar y Cae Ras nos Sadwrn, dim ond un cwestiwn oedd ar wefusau cefnogwyr Wrecsam... 'ble mae Waynne Phillips?!' Yn wyliwr cyson ers blynyddoedd lu bellach - unai fel sylwebydd neu gefnogwr - mae Waynne wedi dilyn y daith o'r Gynghrair Genedlaethol yn agosach na neb. Ond doedd o ddim yno i ddathlu gyda'r perchnogion Ryan Reynolds a Rob McElhenney, y rheolwr Phil Parkinson a'i chwaraewyr a'r miloedd o gefnogwyr. Pam? Gawn ni'r ateb gan y dyn ei hun, yn ogystal â'i farn am sut all Wrecsam gystadlu yn y Bencampwriaeth tymor nesaf.
Mwyaf sydyn, mae'r tymor wedi cyrraedd y pedwar wythnos olaf. Ac mi fydd hi'n ddiweddglo llawn tensiwn i Gaerdydd a Wrecsam, wrth iddyn nhw frwydro am bwyntiau gwerthfawr ar resymau gwahanol iawn.Mae Wrecsam yn parhau tri phwynt yn glir o Wycombe yn y ras am yr ail safle yn Adran Un, ond wedi chwarae un gêm yn fwy. Be sydd orau adeg yma o'r tymor felly? Pwyntiau ar y bwrdd ta tynged yn nwylo eich hun? Wrth reswm, mae yna wahaniaeth barn rhwng Ows a Mal.Mae'r ddau hefyd wedi anghytuno ers tro am dynged Caerdydd tymor yma. Ond ar hyn o bryd, does 'na fawr o dystiolaeth i awgrymu mai llwyddo i aros yn y Bencampwriaeth fydd yr Adar Gleision.Ac ydi Rhian Wilkinson yn iawn i ofyn am fwy o gefnogaeth i ferched Cymru yng ngemau Cynghrair y Cenhedloedd?
Megan Williams sy'n trafod adroddiad newydd gyda Teleri Fielden o Undeb Amaethwyr Cymru.
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod anaf diweddaraf Aaron Ramsey mewn cyfnod allweddol i Gaerdydd a Chymru. Ac ydi dyfodol Omer Riza mewn peryg gyda'r Adar Gleision wrth i'w sefyllfa ddwysáu ger waelod y Bencampwriaeth?
Wrth i'r undeb chwilio am aelodau newydd, Rhodri Davies sy'n sgwrsio gyda Jâms Morgan.
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n dathlu buddugoliaeth hanesyddol Cymru i gyrraedd Pencampwriaeth Merched Ewro 2025. Roedd Ows yn ei chanol hi yn Nulyn yn gwylio tîm Rhian Wilkinson yn curo Gweriniaeth Iwerddon yn rownd derfynol y gemau ail-gyfle, ac yn fwy na hapus i ymuno yn y dathliadau yng nghanol y ddinas tan oriau man y bore. Roedd 'na fwy o ddathlu ar y Cae Ras hefyd lle welodd Dyl fuddugoliaeth arall i Wrecsam, ac mae'r tri yn ddigon bodlon eu byd hefyd wrth weld cychwyn arbennig Arne Slot yn parhau gyda Lerpwl.
Beti George yn sgwrsio gyda'r awdur Malachy Owain Edwards. Cafodd Malachy ei fagu yn Ffynnon Taf. Saesneg oedd iaith yr aelwyd, ond fe aeth ei dad ati i ddysgu Cymraeg.Mae'n trafod y ffaith ei fod eisiau bod yn awdur, ac fe gafodd ei fagu yng nghanol llyfrau. Fe wnaeth ei hunangofiant 'Y Delyn Aur' gyrraedd rhestr fer Llyfr Ffeithiol Greadigol 'Llyfr y Flwyddyn' eleni.Wrth drafod ei hunaniaeth mae'n mynd a ni ar daith i Lundain, Hong Kong, Iwerddon a Barbados, ac mae dylanwad ei deulu yn fawr arno.Mae Malachy bellach yn byw hefo'i wraig Celyn a'r teulu ar Ynys Môn.
Wrth i reolwr arall adael Caerdydd yn ddisymwth, mae Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn sicr bod hi'n amser am chwyldro. Yn ôl Owain does "dim gweledigaeth", tra bod Malcolm yn credu bod y clwb "ar y llawr". Ond pwy all achub yr Adar Gleision tro 'ma? A beth sy'n mynd digwydd i'r Seintiau Newydd? Yn gyntaf, mae'r record hir ddi-guro yn diflannu ac yna colli ddwywaith yn olynol am y tro cyntaf ers mis Hydref 2019. Hefyd, fydd Joe Allen yn gwisgo crys coch Cymru eto mis nesa'..?01'20 Peli golff coll Owain 04'10 Sioc i'r Seintiau Newydd 13'40 Blerwch Caerdydd 26'30 Abertawe yn hedfan "o dan y radar" 28'50 Joe Allen yn ôl i Gymru? 35'40 Wrecsam dal ar y brig 40'00 Trafferthion Casnewydd a toiledau Barrow 41'33 Man City v Arsenal 48'20 Malcolm yn serennu ar Youtube 49'30 Anaf Sophie Ingle
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n ystyried faint o amser geith Erol Bulut i ddatrys problemau Caerdydd wrth iddyn nhw barhau ar waelod y Bencampwriaeth. Gawn ni wybod hefyd pa glwb sy'n berchen a rhai o'r toiledau gorau yn y Gynghrair Bêl-droed a sut nath Owain adael ei farc ar reolwr Birmingham Chris Davies.01'30 Chwaraewyr ar streic? 09'00 Bulut o dan bwysau 16'00 Abertawe yn curo Norwich 21'30 Owain yn gweld hen ffrindiau 24'00 Birmingham yn gosod y safon 35'30 Owain yn llorio Chris Davies 37'30 Casnewydd a thoiledau Barrow 39'15 Fformat newydd Cynghrair y Pencampwyr 43'00 'Toto' Schillaci a hoff Gwpan y Byd
Radio Luxembourg - The early history, Part 1. Emergency shortwave receivers. Indian DX Report. World Radio TV Handbook ebook.
Megan Williams sy'n clywed mwy am y robot gan Rhodri Owen o Goleg Glynllifon.
The 30th anniversary of Radio Miami International - WRMI. Upcoming shortwave/DX meetings in Canada and Mexico. Contest to win World Radio TV Handbook web app from TWR DXers Diary.
Many thanks to SRAA contributor, Gert Irmler, who shares the following recording and notes:Broadcaster: HJZW Radio Almirante, Riohacha - ColombiaDate of recording: October 30, 1978Starting time: 01:17Frequency: 1.200Reception location: Schwäbisch Gmünd, BW - GermanyReceiver and antenna: Grundig Satellit 2000, loop antennaNotes: HJZW R Almirante Riohacha, CLMQRG: 1200 kHzQTH: Schwaebisch Gmuend / Germany - distance to Riohacha 5.285 miPx: S, anns, IDs, Vallenato mx, "Guajira"SINPO: 24432Extremely rare recording of that Colombian AM broadcaster - confirmed as 'first time logged in Germany' by our national ADDX association.The famous 'Alltime DX list' of the 'Medium Wave Circle' contains following entry: "HJBZ Ondas del Riohacha, Riohacha, Colombia (exHJZW R Almirante) (not listed in 2020 WRTH) - first log in the UK 11/78; NG" - Hey! My officially confirmed log is from Oct. 1978 :))
Wrth i'r tymor ddirwyn i ben, mae'r hogia yn edrych ar obeithion Wrecsam o gael dyrchafiad a phwy fydd ar frig uwchgynghrair Lloegr, tra bod perfformiadau Abertawe a Chaerdydd bron mor anobeithiol â jôcs Malcolm!
Aros Wrth y Môr......with tracks by...Adwaith, Ari Joshua, Delvon Lamarr, Skerik, Grant Schroff, Greenness, Getdown Services, Nikadimus Experience, Roots Raid, Cookah, Likkle Ferguson, Sam Beer, N'Famady Kouyaté, Milo Korbenski, Fruity Water, Morillo, The Dude with the Oud, Octavia Freud & The Weird Sisters, Plateau Sigma, Zark, Vaulted Skies [...] The post PCP#836… Aros Wrth y Môr… appeared first on Pete Cogle's Podcast Factory.
Aros Wrth y Môr......with tracks by...Adwaith, Ari Joshua, Delvon Lamarr, Skerik, Grant Schroff, Greenness, Getdown Services, Nikadimus Experience, Roots Raid, Cookah, Likkle Ferguson, Sam Beer, N'Famady Kouyaté, Milo Korbenski, Fruity Water, Morillo, The Dude with the Oud, Octavia Freud & The Weird Sisters, Plateau Sigma, Zark, Vaulted Skies [...] The post PCP#836… Aros Wrth y Môr… appeared first on Pete Cogle's Podcast Factory.
Wrth fynd am dro un bore yn yr eira mae Nel yn gweld rhywbeth hollol anhygoel. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Mari Lovgreen.
Radio broadcasting in Bermuda, part 2: shortwave and marine radio. The 2024 World Radio TV Handbook is now out. And we'll talk with Marcel Rommerts about the 2023 EDXC Conference and the state of shortwave listening and broadcasting in Europe.
When the night descends upon the city, wailing sirens and flashes of light splinter the darkness to rescue those in need. But they can't save everyone....
When the night descends upon the city, wailing sirens and flashes of light splinter the darkness to rescue those in need. But they can't save everyone....
When the night descends upon the city, wailing sirens and flashes of light splinter the darkness to rescue those in need. But they can't save everyone....
When the night descends upon the city, wailing sirens and flashes of light splinter the darkness to rescue those in need. But they can't save everyone....
Pigion Dysgwyr – Peris Hatton Mae Peris Hatton newydd gyhoeddi llyfr ar gasglu crysau pêl-droed o wahanol gyfnodau. Enw'r llyfr yw “The Shirt Hunter”. Mae e wedi bod yn casglu ers dros dau ddeg pum mlynedd….dyma fe i sôn mwy am yr obsesiwn ar raglen Aled Hughes. Newydd gyhoeddi Just published Cyfnodau Periods of time Ddaru Wnaeth Poblogaidd Popular Oddeutu Tua Mwydro To bewilder Newydd sbon Brand new Offer Equipment Pigion Dysgwyr – Jane Blank Peris Hatton oedd hwnna'n sôn am ei obsesiwn gyda chrysau pêl-droed. Ar BBC Sounds ar hyn o bryd mae'r awdures Jane Blank yn sôn am hanes ei theulu mewn cyfres o'r enw “Fy Achau Cymraeg”. Roedd hi ar raglen Shan Cothi wythnos diwetha i sôn ychydig am ei theulu. Dyma i chi flas ar y sgwrs... Cyfres Series Achau Lineage Mamgu a tad-cu Nain a taid Ambell i deulu Some families Chwant Desire Tyrchu'n ddwfn To dig deep Pigion Dysgwyr – Beti George Ewch i BBC Sounds os ydych chi eisiau clywed rhagor o'r sgwrs ddifyr honno. Ers bron i bedwar deg mlynedd mae Beti George wedi cyflwyno Beti a'i Phobol. A hi oedd gwestai gwadd Shelley a Rhydian yn ddiweddar ar eu rhaglen Sadwrn. Dyma Beti i esbonio ychydig am gefndir y rhaglen wythnosol mae hi'n ei chyflwyno Yn ddiweddar Recently Bodlon Willing Enghraifft berffaith A perfect example Hyn a'r llall This and that Croesawu To welcome Dwys Intense Pigion Dysgwyr – Ifan Huw Dafydd Ac mae Beti wastad yn neis on'd yw hi, ac yn cael sgyrsiau diddorol gyda'i gwestai. Yn ddiweddar buodd yr actor Ifan Huw Dafydd ar daith gerdded Llwybr y Pererinion sef y Camino Frances, i Santiago de Compostela yn Sbaen. Roedd e'n codi arian i elusen Jac Lewis. Mae elusen Jac Lewis yn cefnogi lles meddwl pobl ifanc ac yn cynnig help i'w teuluoedd... Dyma Ifan Huw Dafydd ar raglen Ifan Jones Evans yr wythnos diwetha yn rhannu ambell i stori o'r daith. Pererinion Pilgrims Elusen Charities Lles meddwl Mental welfare Traddodiad Tradition Bys troed Toe Crwtyn Bachgen Anhygoel Incredible Llwch Ashes Gwasgaru Scatter Pigion Dysgwyr – Heledd Garddio Llongyfarchiadau mawr i Ifan Huw Dafydd am lwyddo i wneud y daith arbennig hon, ac roedd cwmni diddorol iawn ganddo ar y ffordd on'd oedd? Weithiau mae ‘Heledd Garddio' yn cyfrannu at raglen Caryl Parry Jones i rannu ei chyfrinachau garddio gyda Caryl a'r gwrandawyr. Ond wythnos diwetha rhannodd Heledd gyfrinach wahanol iawn gyda Caryl sef beth fasai ei pharti delfrydol hi…… Cyfrannu To contribute Cyfrinachau Secrets Delfrydol Ideal Crybwyll To mention Plentynaidd Childish Sa i di meddwl Dw i ddim wedi meddwl Pigion Dysgwyr – Awduron Mae parti Heledd yn swnio'n llawer o hwyl on'd yw e? Mae awduron plant ar draws Prydain wedi cyfarfod yn Abertawe yn ddiweddar i gynnal sesiynau storïau ac awduro. Dau oedd yno oedd y gŵr a'r wraig Thomas Docherty a Helen o Abertawe. Maen nhw hefyd wedi dysgu Cymraeg i lefel uchel iawn. Dyma nhw ar raglen Ffion Dafis i sôn am eu gwaith…. Awduro Authoring Amser maith yn ôl A long time ago Antur Adventure Cyfleoedd Opportunities Pe byddai rhywun Tasai rhywun Dwlu ar Wrth ei bodd efo Mamiaith Mother tongue
Return to the radio broadcasting scene in the mountain country of Bhutan in Asia. Review of World Radio TV Handbook 2023 edition. Review of CCrane Skywave SSB 2 receiver. Interview with Graham Mytton, former head of BBC World Service audience research.
Recent radio developments in Europe and Africa. American shortwave stations in 1928. DX reports from Bangladesh and India. WRTH 2023 update. The Agricultural Voice of Syria.
Many thanks to SRAA contributor, Gert Irmler, who shares the following recording and notes:Broadcaster: R Satélite Santa Cruz / PRUDate of recording: 1/17/1995Starting time: 03:14 UTCFrequency: 6.7245 MHzYour location: Schwäbisch Gmünd, BW - GermanyYour receiver and antenna: Grundig Satellit 2000, 30m longwireNotes: OAX2L R Satélite Santa Cruz, PerúPx: S, Huaynos, jingles, ID, N.A., s/offSINPO: 34333Note: Transmitter power acc. to WRTH: 0.15 kW at that time - distance 6500 miles
Many thanks to SRAA contributor, Gert Irmler, who shares the following recording and notes:Broadcaster: R Satélite Santa Cruz / PRU - 6724.5 kHzDate of recording: 1/17/1995Starting time: 03:14Frequency: 6.724 MHzReception location: Schwäbisch Gmünd, BW - GermanyReceiver and antenna: Grundig Satellit 2000, 30m longwireNotes: OAX2L R Satélite Santa Cruz, PerúQRG: 6724.5 kHzQTH: Schwaebisch Gmuend / GermanyRec: 17th Jan. 1995 - 03:14 UTC (GMT)Rx, Ant: Grundig Satellit 2000, 30m longwirePx: S, Huaynos, jingles, ID, N.A., s/offSINPO: 34333Note: Transmitter power acc. to WRTH: 0.15 kW
The radio scene in Senegal, Africa - part 2. Interview with Steve Palmer of Encompass, part 2. The 2023 World Radio TV Handbook is out. Voice of Turkey uses IRDR frequencies following earthquakes. Bangladesh DX report.
Bore Cothi – Iestyn Jones Mae Iestyn Jones o Gapel Hendre yn Sir Gaerfyrddin yn gerddor llwyddiannus sy'n gweithio yn y West End, ac ar hyn o bryd mae e'n aelod o gerddorfa sioe ‘Back to The Future'. Buodd Iestyn yn sôn wrth Shan Cothi am ei yrfa…………. Cerddor llwyddiannus A successful musician Cerddorfa Orchestra Sioe gerdd Musical theatre Dwlu ar Wrth ei fodd efo Llwyfan Stage Anghyffredin Unusual Profiadau Experiences Trwy rinwedd By virtue of Beti a'i Phobl – John Owain Jones 27.11 Iestyn Jones oedd hwnna'n sôn am rai o'i brofiadau yn y West End ar Bore Cothi. Pnawn Sul ar Beti a'i Phobl y Parchedig John Owain Jones oedd gwestai Beti. Bydd e'n ymddeol fel gweinidog ar Ynys Bute yn yr Alban ym mis Chwefror 2023 ar ôl treulio 12 mlynedd fel gweinidog yno. Dyma fe'n sôn am sut dechreuodd ei gysylltiad â'r ynys... Parchedig Reverend Gweinidog Minister Yn y fyddin In the army Hel pres Casglu arian Llongau Ships Ymerodraeth Empire Ffrindiau mynwesol Bosom pals Ddaru Wnaeth Naill ai Either Gwas priodas Best man Gwneud Bywyd yn Haws – Lloyd Henri 22.11 Y Parchedig John Owain Jones yn fanna, ac mae Owain yn cyfrannu'n aml i'r slot Thought for Today Radio Alban ac wedi cyfrannu hefyd i'r Daily Service Radio 4. Bydd e hefyd yn cyfrannu ar Munud i Feddwl, Radio Cymru. Nos Fawrth ar ei rhaglen Gwneud Bywyd yn Haws, cafodd Hanna Hopwood gwmni Lloyd Henri , athro coginio sydd wedi sgwennu llyfr o'r enw Cegin Mr Henri. Gofynnodd Hanna iddo fe'n gynta pam aeth o ati i sgwennu'r llyfr Ymarferol Practical Cynyddu To increase Enfawr Huge Llwyth Loads Gwastraff Waste Yn eu harddegau In their teens Rhwng y cloriau Between the covers Heriol Challenging Cynhwysyn Ingredients Sawrus Savoury Aled Hughes – Ian ap Dewi 21.11 Dw i'n siŵr basai hwnna'n gwneud anrheg Dolig neis i rywun –Cegin Mr Henri. Dyw hi ddim yn bosib dianc rhag pêl-droed y dyddiau hyn nag yw hi? Bore Llun aeth Aled Hughes i Ganolfan yr Urdd Llangrannog a chafodd air gyda Ian ap Dewi sylfaenydd tîm pêl-droed y pentre sef Crannog. Dianc rhag To escape from Sylfaenydd Founder Cyfaill Ffrind Y gynghrair The league Cais Application Cymuned Community Ieuenctid Youth O dipyn i beth Little by little Mas Allan Caryl – Eleri Lloyd Jones 22.11 Hanes sefydlu tîm pêl-droed Crannog yn fanna ar raglen Aled Hughes. Cafodd Caryl Parry Jones gyfle i sgwrsio gyda Eleri Lloyd Jones o Ffostrasol yng Ngheredigion ar ei rhaglen nos Fawrth. Mae Eleri yn athrawes wrth ei gwaith bod dydd, ond gyda'r nos mae hi'n hoff iawn o uwchgylchu dodrefn. Uwchgylchu Upcycle Dodrefn Celfi Tywyll Dark Gweddill The rest Yn dueddol Tend to Cael gwared To get rid of Harddwch Beauty Derw Oak Goleuo To lighten Newid ei wedd To change its complexion Bore Cothi – Elinor Young Os nad oeddech chi'n gwybod beth ydy uwchgylchu o'r blaen, dych chi'n siŵr o fod yn gwybod nawr! Wythnos diwetha roedd rhaglen Shan Cothi yn rhoi sylw i elusennau bychain Cymru a buodd Elinor Young o Cŵn Cymorth Cariad yn siarad â Shan am y gwaith mae ei chi Tana yn ei wneud ar ran yr elusen Elusennau bychain Small charities Lles Welfare Cleifion Patients Mwythau Pandering Delwedd Image Ystyried To consider
I’ll fly away, oh glory I’ll fly away in the morning When I die hallelujah by and by I’ll fly away Music Dark Walk by Kevin...
BETI A'I PHOBOL Karl Davies oedd gwestai Beti George yr wythnos hon. Mae Karl newydd ddod yn ôl i Gymru ar ôl bod yn dysgu Saesneg i oedolion am bedair blynedd yn China…a dyma fo'n sôn am hanes Cadi, y gath fach, wnaeth deithio mewn awyren yr holl ffordd o China i Gaerdydd... Y gradures fach - Poor thing (lit: the little creature) Mabwysiadu - To adopt Erchyll - Dreadful Epaod - Apes TRYSTAN AC EMMA Mae Elsi Williams yn dod o Fethesda yng Ngwynedd yn wreiddiol ond yn byw yn Llandudno erbyn hyn. Mae hi'n mynd i nifer fawr o ddosbarthiadau ffitrwydd i gadw'n heini, fel cawn ni glywed yn y clip nesa ‘ma. Trïwch ddyfalu be ydy oedran Elsi wrth i chi wrando arni'n sôn am gadw'n heini – mi gewch chi'r ateb cyn diwedd y clip… Ddaru - Gwnaeth Coedwig - Wood Clychau'r gog - Bluebells Anhygoel - Incredible DEI TOMOS Roedd y Moody Blues yn fand poblogaidd iawn yn y chwedegau a'r saithdegau ac mae'n debyg mae Nights in White Satin oedd un o'u caneuon mwya enwog. Roedd un o aelodau'r band, Ray Thomas, yn perthyn i'r cyflwynydd, cerddor ac actor Ryland Teifi. Fo oedd gwestai Dei Tomos nos Fawrth a dyma fo'n rhoi ychydig o'r hanes... Cyflwynydd - Presenter Cerddor - Musician Yn enedigol o - A native of Yn fachan - Yn fachgen Dur - Steel Ar fy mhwys i - Wrth fy ymyl i Modrybedd - Aunties Roedd e'n dwlu ar - Roedd o'n dotio ar ALED HUGHES Mae'r cyflwynydd Bethan Elfyn wedi bod yn sal ers 2005 ac wedi bod yn aros am drawsblaniad ysgyfaint am flynyddoedd er mwyn iddi hi gael gwella. O'r diwedd mae hi wedi cael clywed ei bod ar y rhestr am drawsblaniad... Trawsblaniad ysgyfaint - Lung transplant Wedi cwympo - Has fallen Triniaeth - Treatment Dirywiad - Deterioration Celloedd - Cells Dinistrio - To destroy BORE COTHI Mi gafodd Shân Cothi sgwrs efo Martina Roberts sy'n dod o'r Weriniaeth Tsiec yn wreiddiol ond sydd nawr yn dysgu yn Sir Benfro. Dyma hi'n sôn am sut dechreuodd hi ddysgu Cymraeg... Y Weriniaeth Tsiec - The Czech Republic Ystyried - To consider Denu - To attract Gwella - To improve Almaeneg - German language GWNEUD BYWYD YN HAWS Mi fuodd Hanna Hopwood yn sgwrsio efo Branwen Llywelyn sydd wedi derbyn her 'Medi Ail Law', ond beth yn union ydy'r her ‘ma? Her - A challenge Mae'n hysbys - It's known Amgylchedd - Environment Diwydiant - Industry Hinsawdd - Climate Mynd i'r afael - To get to grips with Codi ymwybyddiaeth - To raise awareness Annog - To encourage Ar hap - Randomly Egwyddorion - Principles Annibynnol - Independent
Dros Ginio Dafydd Iwan Mi fydd tîm pêl-droed Cymru yn cystadlu yng Nghwpan y Byd yn Qatar fis Tachwedd ar ôl i'r tîm guro Wcráin yn Stadiwm Dinas Caerdydd wythnos diwetha. Mi wnaeth y crysau coch yn wych ond roedd canu'r Wal Goch yn bwysig hefyd yn enwedig wrth iddyn nhw ganu 'Yma o Hyd' efo Dafydd Iwan. Dyma Dafydd yn sôn am y profiad ar Dros Ginio Breuddwyd - A dream Cyfuno - To combine Manteisio ar y cyfle - Taking advantage of the opportunity Bwriadol - Intentional Mynegi teimladau - Expressing the feelings Rhyfeddol - Wonderful Cyfraniad - Contribution Trefnwyr cefn llwyfan - Backstage organisers Profiad bythgofiadwy - An unforgettable experience Ac mi gyrhaeddodd y gân 'Yma o hyd' rhif 1 yn siart I-Tunes wythnos diwetha - anhygoel ynde? Arfon Wyn Un o arwyr Cymru yn y gêm oedd y gôl-geidwad, neu'r gôli, Wayne Hennessey. Aeth Wayne i ysgol gynradd Biwmares pan oedd o'n blentyn a dyma i chi Arfon Wyn, oedd yn bennaeth yr ysgol ar y pryd, yn sôn wrth Dylan Ebenezer am sut dechreuodd gyrfa bêl-droed Wayne... Pennaeth - Head Hogyn dymunol - A likeable boy Dihyder - Lacking in confidence Dirprwy - Deputy Syth bin - Straight away Menyg - Gloves Wedi dotio - Wrth ei fodd Y gamp - The sport Diolch i staff Ysgol Biwmares ynde, am roi'r cyfle cynta i Wayne Hennessy. Beti a Geraint Davies Geraint Davies oedd gwestai Beti a'i Phobol dydd Sul Eleni mae Geraint wedi ymddeol fel cynghorydd sir dros ardal Treherbert yng Ngwm Rhondda ar ôl iddo fo wneud y gwaith am dros 30 mlynedd. Buodd o hefyd yn Aelod Cynulliad dros y Rhondda rhwng 1999 a 2003, roedd o'n fferyllydd yn y cwm am flynyddoedd maith a hefyd yn aelod o'r clwb tenis lleol. Dyn prysur iawn felly... Aelod Cynulliad - Assembly member Fferyllydd - Chemist Cyflwyniad - Introduction Sbort mawr - Llawer o hwyl Parhau eich bywyd - Prolong your life Ymennydd - Brain Poblogaidd - Popular Rhyfedd - Strange Wedi cwympo - Had fallen O ganlyniad - As a consequence Diddorol ynde - Covid wedi gwneud i bobl feddwl mwy am eu hiechyd a'u ffitrwydd. Aled Hughes ac Alex Harry Gemau'r Gymanwlad Mi wnawn ni aros ym myd y campau rŵan ond y tro 'ma efo Gemau'r Gymanwlad. Bydd y gemau'n cael eu cynnal yn Birmingham ddiwedd mis Gorffennaf ac un o'r athletwyr fydd yn mynd i Birmingham ydy Alex Harry, sy'n dod o Lanelli yn wreiddiol, ac sy wedi cael ei dewis yn rhan o dim reslo Cymru. Dyma flas i chi ar y sgwrs rhwng Aled Hughes ac Alex... Gemau'r Gymanwlad - The Commonwealth Games Pwysau - Weight I gael dy ystyried - For you to be considered Cynrychioli dy wlad - Representing your Country Aled Hughes a Non Stanford Pob lwc i Alex ynde a hefyd i Non Stanford sydd yn rhan o dîm triathlon Cymru. Pa fath o baratoadau mae hi wedi eu gwneud ar gyfer Gemau'r Gymanwlad tybed? Aled Hughes oed yn holi eto... Paratoadau - Preparations Canolbwyntio - To concentrate Cic lan y pen-ôl - A kick up the backside Cydwybod - Conscience Geraint Lloyd a Nia Medi Wel, dan ni wedi sôn am bêl-droed, tenis, athletau ac rŵan dan ni'n mynd i glywed hanes criw bach sydd am seiclo o Lundain i Amsterdam - Fflamingos Pinc Trystan. Mae'r pum 'fflamingo' am wneud y daith er cof am eu ffrind Trystan Gwyn Rees fuodd farw dair blynedd yn ôl. Geraint Lloyd fuodd yn holi un o'r criw, Nia Medi... Er cof am - In memory of Cymeriad lliwgar - A colourful character Tyle - Hill Galar - Bereavement Cyfnod tywylla ein bywydau - Darkest period of our lives Doniol - Amusing Cynghori - To advice