POPULARITY
Rhodri Davies sy'n sgwrsio gyda Peter Harlech Jones, Cadeirydd newydd elusen Tir Dewi.
Megan Williams sy'n trafod deg mlynedd ers sefydlu'r elusen gyda'r Cadeirydd, Susan Jones
Rhodri Davies sy'n edrych ymlaen at rai o'r digwyddiadau gyda'r Cadeirydd, Dewi Davies.
Rhodri Davies sy'n edrych ymlaen at y sioe gyda Gethin Lloyd, Cadeirydd y Sioe.
Rhodri Davies sy'n sgwrsio gyda Chadeirydd newydd Cyngor CFFI Cymru, Dewi Davies.
Megan Williams sy'n clywed am Sioe Môn eleni gan Dr Non Williams, Cadeirydd y Sioe.
Y Fonesig Elan Closs Stephens, Cyn Gadeirydd dros dro'r BBC, yw gwestai Beti a'i Phobol. Mae hi'n trafod ei chyfnod stormus fel Cadeirydd a'i hoffter o gadeirio cyfarfodydd, “ dwi'n gweld o'n debyg i dreialon cŵn defaid” meddai Elan. Mae hi'n ymwneud â 18 o gyrff gwahanol. Mae hi'n sôn am ei chyfnod yn magu'r plant ar ei phen ei hun yn dilyn marwolaeth ei gŵr yn ifanc, ac yn rhannu ei theimladau yn dilyn cael cancr 20 mlynedd nôl a sut mae hi'n byw bywyd wedi hynny. Yn wreiddiol o Dalysarn, Gwynedd, cafodd ei haddysg yn Ysgol Dyffryn Nantlle a Choleg Somerville Rhydychen. Bu'n un o'r merched cyntaf i fod yn aelod o Gymdeithas Dafydd ap Gwilym. Mae hi hefyd yn Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ac yn trafod yr heriau ariannol sydd yn wynebu myfyrwyr heddiw.
Joseff Gnagbo yw Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Ond nid Cymro Cymraeg nac hyd yn oed Cymru yw Joseff - mae'n newyddiadurwr, academydd ac ymgyrchydd gwleidyddol o'r Côte d'Ivoire yng ngorllewin Affrica a gafodd loches wleidyddol a danfonwyd i fyw yng Nghaerdydd yn 2018. Yn y brifddinas dysgodd y Gymraeg ac mae bellach yn dysgu Cymraeg fel ail iaith i oedolion - gan gynnwys ceiswyr lloches. Bu'n siarad â Siôn Jobbins o Radio YesCymru am ei fywyd yng Nghymru, ei gefnogaeth i'r Gymraeg ac annibyniaeth Gymreig a'r tebygrwydd a welai â'i famwlad a'i wlad fabwysiedig. * Cymdeithas yr Iaith Gymraeg = http://cymdeithas.cymru * Melin Drafod, melin drafod asgell chwith dros annibyniaeth - http://melindrafod.cymru * Y Sŵn - ffilm am Gwynfor Evans a sefydlu S4C - https://www.s4c.cymru/cy/drama/y-swn/ * Cymraeg i Oedolion - https://dysgucymraeg.cymru * Canolfa Oasis, Caerdydd - https://www.oasiscardiff.org/ * Yr Americanwr Ari Smith (sianel @Xiaomanyc) yn siarad Cymraeg ar strydoedd Caerdydd - https://www.youtube.com/watch?v=dp-QCiACGAU Dolenni eraill - Dysgwr Americanaidd: https://youtu.be/dp-QCiACGAU?si=VC52fJhy3e9GHaiz
Rhodri Davies sy'n clywed mwy am y gynhadledd gan Aled Rhys Jones, Cadeirydd y Pwyllgor.
Pod 33: Mike Harris, Cadeirydd Y Seintiau Newydd Dyma gyfle am sgwrs hir rhwng cadeirydd Y Seintiau Newydd, Mike Harris a chyflwynydd Sgorio, Dylan Ebenezer. Mae'r ddau yn trafod dyfodol y pyramid Cymreig, pêl-droed Ewropeaidd ac ail ennill y bencampwriaeth. Mwynhewch!
Elin Havard yn cyfweld Dewi Parry Elin Havard CFfI Brycheiniog yn cyfweld Dewi Parry o Glwyd sydd newydd gael ei ethol fel Cadeirydd FfCCFfI ar gyfer 2020-21. Wrth sgwrsio meant yn cyffwrdd ar pam bod Dewi yn teimlo bod y mudiad o fudd i bobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru a pham ceisio am swydd Cadeirydd y Ffederasiwn Cenedlaethol. Yn ogystal â thrafod sut mae’r sgiliau mae aelodau yn meithrin, boed hynny yn llwyddo neu fethu, yn eu paratoi ar gyfer dyfodol llewyrchus. Diolch i Elin Havard am gyfweld, a diolch yn fawr i Dewi Parry am gyfrannu. Elin Havard interviewing Dewi Parry Elin Havard, Brecknock YFC, interviews Dewi Parry from Clwyd who has been elected as the NFYFC Chairman for 2020-21. As they chat they touch on why Dewi thinks the organisation if a beneficial to young people in rural Wales and why he decided to go for the Chairman of the National Federation. They also touch on how the skills that members develop, being that how to fail or succeed, prepare them for a successful future. A big thank you to both Elin Havard for interviewing and Dewi Parry for participating in this episode.
Mae Syniadau Iach yn trafod sut y mae ffactorau cymdeithasol yn dylanwadu ar iechyd cymunedau Cymru. “Mae anghyfiawnder cymdeithasol yn lladd ar raddfa fawr” Dyna oedd farn Comisiwn Penderfynyddion Cymdeithasol ar Gyfer Iechyd Sefydliad Iechyd y Byd nol yn 2008. Cadeirydd y Comisiwn oedd yr Athro Syr Michael Marmot,(LINK) sy’n Athro Epidemioleg ac Iechyd Cyhoeddus yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i oes yn ceisio mynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol a deall sut mae'n effeithio ar ein hiechyd.Fel aelod o Gomisiwn Bevan, mae Syr Michael, yn cynghori Llywodraeth Cymru ac eraill ar bolisi iechyd a gofal cymdeithasol.Yn y podlediad hwn fe fydd Dr Zoe Morris Williams, meddyg teulu ym Mhontypridd a Siôn Charles, dirprwy gyfarwyddwr y Comisiwn Bevan yn ymateb i sylwadau Syr Michael.Byddan nhw’n trafod sut mae ffactorau cymdeithasol, fel cyflwr tai, gwaith a bwyd yn dylanwadu ar iechyd.“Mae na ardaloedd o Gymru yn rhai o ardaloedd fwya’ tlawd yn Ewrop, ac mae hwnna yn mynd i effeithio ar iechyd pobl,” dywed Zoe gan ychwanegu bod hi’n bwysig i edrych nid dim ond ar ba mor hir mae pobl yn byw ond eu hansawdd bywyd.“Ma pawb yn deall bod y ffactorau yma yn dylanwadu ar eu hiechyd nhw, ond be ma nhw’n ffindio fe’n galed i neud dwi’n credu, yw i neud y penderfyniad fel ma nhw’n newid eu hymddygiad a fel ma nhw’n neud pethau drostyn nhw’u hunain,” meddai Sion. Sut mae mynd i’r afael ar newid meddylfryd pobl er mwyn creu cymunedau iach yng Nghymru?
Monday 6th August, Senedd, Cardiff There’s been much to celebrate in Welsh media in recent years: from the success of prominent dramas such as Dr Who and Keeping Faith / Yr Bore Mercher, to new production studios, increased viewing figures and a rise in online and community journalism. There have also been a number of challenges, not least the effects of global trends in consumption and viewing habits on traditional forms of media. This discussion considered how sustainable indigenous content production is here in Wales. How can we ensure content continues to be produced and its benefits felt in Wales? What does this mean for the workforce of today and the future? Can content production in Wales survive in a global media landscape without compromising delivery to audiences at home? This event was chaired by Elis Owen, Freelance Producer and Chairman of It's My Shout training scheme. He was joined by: Emma Meese, Media & Training Development Manager, JOMEC, Cardiff University Ifan Morgan Jones, Lecturer in Journalism, Bangor University Sian Gale, Training Manager / Creative Unions, BECTU Darlith yr Eisteddfod Sefydliad Materion Cymreig 2018: Dyfodol Cyfryngau Cymru: Sut gallwn ni ddiogelu cynaliadwyedd y gwaith o gynhyrchu cynnwys brodorol yng Nghymru? Bu cryn dipyn i’w ddathlu ym myd y cyfryngau yng Nghymru yn ddiweddar: o lwyddiant dramâu blaenllaw fel Dr Who ac Un Bore Mercher/Keeping Faith, i stiwdios cynhyrchu newydd, cynnydd yn nifer y gwylwyr ynghyd â chynnydd mewn newyddiaduraeth ar-lein a newyddiaduraeth gymunedol. Gwelwyd hefyd nifer o heriau, yn enwedig effeithiau tueddiadau byd-eang mewn arferion defnyddio a gwylio pobl ar ein cyfryngau traddodiadol. Bydd y drafodaeth yma’n ystyried pa mor gynaliadwy yw’r gwaith o gynhyrchu cynnwys brodorol yng Nghymru? Sut gallwn ni sicrhau y bydd cynnwys yn parhau i gael ei gynhyrchu yng Nghymru a sut gallwn ni sicrhau budd hyn oll i Gymru? Beth mae hyn yn ei olygu i’n gweithlu ni heddiw ac i weithlu’r dyfodol? A oes modd i waith cynhyrchu cynnwys yng Nghymru oroesi mewn tirlun o gyfryngau byd-eang heb gyfaddawdu profiad ei gynulleidfaoedd gartref? Cadeirydd y digwyddiad fydd Elis Owen, Cynhyrchydd Llawrydd a Chadeiryddcynllun hyfforddi It's My Shout, yng nghwmni: Emma Meese, Rheolwr y Cyfryngau a Datblygu Hyfforddiant, JOMEC, Prifysgol Caerdydd Ifan Morgan Jones, Darlithydd Newyddiaduraeth, Prifysgol Bangor Siân Gale, Rheolwr Hyfforddiant / Creative Unions, BECTU
Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith, Jamie Bevan, yn sgwrsio hefo Beti George.
Cyfle arall i glywed Cadeirydd y Llewod eleni, cyn-asgellwr Cymru Gerald Davies yn sgwrsio gyda Beti George nôl ym 1999. Beti George chats to Gerald Davies, from 1999.
Yn dilyn derbyn tystiolaeth gan bob un o’r arbenigwyr sy’n bresennol, mae’r Cadeirydd yn crynhoi’r dystiolaeth a dderbyniwyd ac yn gofyn am benderfyniad gan yr arbenigwyr ynghylch dyfodol y plant dan sylw a’r babi heb ei eni. Mae cyfle i bob un o’r arbenigwyr (ond nid y rhieni) fynegi barn unigol a gwneir penderfyniad yn seiliedig ar farn pob un ohonynt. Sylwer fod barn a phenderfyniad unfrydol yma - mae’n bosib nad dyna fyddai'r canlyniad bob amser.
Y Gweithiwr Cymdeithasol fyddai wedi galw am y Gynhadledd Achos, ac yn ddi-eithriad, y Gweithiwr Cymdeithasol fyddai’n gosod allan beth yw’r sefyllfa, yn yr achos hwn, beth yw’r cyhuddiadau yn erbyn y rhieni a arweiniodd at osod Siân a Dylan ar y gofrestr amddiffyn plant. Y Gweithiwr Cymdeithasol, trwy’r Cadeirydd annibynnol, fyddai wedi gwahodd yr arbenigwyr eraill i fynychu’r Gynhadledd a chyflwyno tystiolaeth. Byddai’r arbenigwyr eraill sy’n bresennol yn amrywio, gan ddibynnu ar beth yn union yw’r broblem neu’r sefyllfa sy’n cael ei thrafod. Yn yr achos dan sylw, mae’n amlwg nad yw’r Gweithiwr Cymdeithasol yn teimlo fod y plant yn cael gofal priodol yn eu cartref.
Mae’r arbenigwyr bellach wedi cyrraedd. Wrth agor y Gynhadledd Achos, mae'r Cadeirydd yn amlinellu’r safonau a ddisgwylir gan bawb sy’n bresennol yn y Gynhadledd. Byddai’r math yma o safonau proffesiynol yn gyffredin i bob Cynhadledd Achos.
Mae rhieni’r plant wedi cael gwahoddiad i fynychu’r Gynhadledd Achos. Does dim gorfodaeth arnynt i fod yn bresennol - mae eu presenoldeb yn y Gynhadledd yn wirfoddol. Gweithiwr Cymdeithasol fyddai wedi galw’r Gynhadledd Achos ynghyd, gan wahodd nifer o ymarferwyr proffesiynol i fod yn bresennol ac i gyflwyno tystiolaeth. Cyn cyrraedd y Gynhadledd, byddai’r rhieni wedi derbyn adroddiad ysgrifenedig yn amlinellu tystiolaeth y Gweithiwr Cymdeithasol. Fydden nhw ddim, o angenrhaid, yn ymwybodol o pwy arall fydd yn bresennol yn y gynhadledd nac yn gwybod beth fydd cynnwys tystiolaeth yr arbenigwyr hynny. Yn y clip hwn, mae’r Cadeirydd annibynnol yn egluro beth yw pwrpas cynnal y Gynhadledd a beth fydd ffurf y cyfarfod cyn i‘r Gynhadledd Achos ddechrau. Mae’n esiampl ddefnyddiol o’r math o bwyntiau y mae angen eu trafod, ac o’r agwedd broffesiynol sy’n angenrheidiol wrth ymdrin â’r rhieni.