Tonfedd Cymru Fydd

Follow Tonfedd Cymru Fydd
Share on
Copy link to clipboard

Cyfres o sgyrsiau a seiniau yn edrych ar y dyfodol o safbwynt Cymreig. Dewch gyda ni ar daith sain drwy ddyfodoliaeth, ffuglen wyddonol a syniadau am lle fydd Cymru’n mynd yn y dyfodol pell ac agos. Daw’r podlediad gan @cymruddyfodol a Rhodri ap Dyfrig @Nwdls. Dwedwch helo yno os ydych chi eisiau bo…

Cymru Fydd

  • Sep 23, 2019 LATEST EPISODE
  • infrequent NEW EPISODES
  • 41m AVG DURATION
  • 6 EPISODES


Search for episodes from Tonfedd Cymru Fydd with a specific topic:

Latest episodes from Tonfedd Cymru Fydd

#5 Efa Lois

Play Episode Listen Later Sep 23, 2019 54:41


Sgwrs efo’r arlunydd, pensaer a pheiriant diwylliannol Efa Lois. Ymysg y pynciau yn y sgwrs oedd adeiladau Brwtalaidd Cymru, cloriau gwallgo llyfrau ffuglen wyddonol, Moomins, a chyswllt y gofod ar Mabinogi. Mwynhewch!

#4 Manon Steffan Ros

Play Episode Listen Later Sep 10, 2019 52:16


Ar ôl hir-oedi dyma ailafael gyda chwip o westai. Awdur, colofnydd a straight up ffan sci-fi - Manon Steffan Ros. Nethon ni drafod llenyddiaeth wyddonias gan fwyaf yn ddigon naturiol gan drafod hoff awduron Manon, sut wnaeth hi ddod at y genre, Llyfr Glas Nebo, a sut i uniaethu gyda alien (sut allet ti beidio?). Hefyd: SEXY CAPTAIN NEMO, OCTOPI a SGWID ANFERTH. Werth gwrando am hynny yn unig. Dilynwch Manon ar Twitter ar @ManonSteffanRos

#3 Gofod - Stori fer gan Dyfan Maredudd Lewis

Play Episode Listen Later Dec 16, 2018 25:32


Enillodd Dyfan Lewis y gystadleuaeth stori fer yn Eisteddfod Caerdydd eleni. Y thema oedd Gofod, ac mae’n stori wych. Es i lawr i Graig Cefn Parc i recordio Dyfan yn darllen ei stori ar gyfer eich pleser chi. Mae dathliadau yn thema, felly mae gwrando arni dros y Nadolig yn eitha addas. Mae Dyfan hefyd yn ffotograffydd a barddonwr; ewch draw i’w gyfrif Twitter i weld mwy http://twitter.com/Dyfanlewis

#2 Hefin Jones

Play Episode Listen Later Dec 2, 2018 45:40


Sgwrs gyda'r dylunydd, artist, darlithydd a dyfodolydd o Aberteifi. Gallwch chi weld y gwaith I'r Byd Dyfodol yn ogystal ag archifo'i waith blaenorol ar ei wefan http://hefinjones.co.uk/ibd-ttfw/

#1 Carl Morris

Play Episode Listen Later Nov 17, 2018 67:09


Sgwrs gyda’r datblygwr meddalwedd a chynhyrchydd digidol am iaith, tecno, cymunedau arlein, swyddi’r dyfodol ac ychydig rwdlan am Huw Jones a'r Diliau. Dilynwch Carl ar http://twitter.com/carlmorris neu edrych ar ei wefan http://morris.cymru

Cyflwyniad i Gymru Fydd

Play Episode Listen Later Nov 14, 2018 1:17


Mae podlediad Cymru Fydd ar fin cychwyn! Dyma ragflas o’r pethau sydd i ddod. Sticiwch hwn yn eich tansygrifiadau os am sgyrsiau, celf a seiniau hyfryd, oll gyda’r dyfodol yn rhedeg drwyddynt.

Claim Tonfedd Cymru Fydd

In order to claim this podcast we'll send an email to with a verification link. Simply click the link and you will be able to edit tags, request a refresh, and other features to take control of your podcast page!

Claim Cancel