POPULARITY
Iona Roberts, neu Iona Pen Ffridd i bawb sy'n ei hadnabod yw gwestai Beti a'i Phobol.Mae Iona yn ffarmwraig ac yn gadwraethwr, mae'n hyfforddwr yoga, yn gyn warden gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac yn fam i 3 o blant (Nel, Nedw a Joe) a gwraig i John. Mae hi hefyd yn rhedeg rasys Iorn Man. Ganwyd ar fferm Pen Ffridd, Penmachno (pentref ger Betws y Coed, yn Sir Conwy). Cafodd ei magu gyda'i Nain a'i Thaid a 3 ewythr oedd yn adnabyddus yn yr ardal sef Ifor, Elw a Hyw."Tyfais fyny yma ym Mhen Ffridd, gyda digon o ryddid ac awyr iach, erbyn hyn dwi'n deall pa mor unigryw oedd fy magwraeth erbyn hyn!" Bu'n gweithio yn Llundain am gyfnod gyda chwmni Saatchi and Saatchi ac yn Wimbledon ble daeth ar draws Pat Cash. Ond dychwelyd i ffermio gwnaeth hi i Pen Ffridd, ac mae'n angerddol am amaethu mewn dull cynaliadwy.Cawn hanesion difyr ei bywyd ac mae'n dewis caneuon sydd yn ffefrynnau gan gynnwys Meic Stevens – Gwenllïan. Dyma'r gân oedd yn chwarae pan gerddodd Iona mewn i'r gwasanaeth priodas.
Dim thema, dim trafodaeth ddwys, dim byd, ond llyfrau. Ie, mae'r bennod hon llawn llyfrau.Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:Wythnos yng Nghymru Fydd - Islwyn Ffowc ElisCysgod y Cryman - Islwyn Ffowc ElisYn Ôl i Leifior - Islwyn Ffowc ElisThe Conspiracy Tourist - Dom JolyThe Twat Files - Dawn FrenchLula Dean's Little Library of Banned Books - Kirsten MillerThe Burning Chambers - Kate MosseUn nos Lun - Dafydd ParriDau - Bethan NantcyllPwyso ar y giât - Aled Lloyd DaviesFel yr wyt - amrywiolFel Hyn yr Oedd Hi- Hunangofiant Rhys JonesNormal Women - Phillipa GregoryCasglu Llwch - Georgia RuthMynd - Marged TudurDeath at the White Hart - Chris ChibnallDays at the Morisaki Bookshop - Satoshi YagisawaMemory Man - David BaldacciV a Fo - Gwenno GwilymWhale Fall - Elizabeth O'ConnorThe Significance Of Swamns - Rhiannon Lewis
Dyma bennod arbennig o Colli'r Plot a recordiwyd yn Llanrwst. Noson wych a threfnwyd gan Bys a Bawd Pawb - menter gymunedol i achub Siop Lyfrau Cymraeg yn Llanrwst.I wneud y rhifyn yma bach yn wahanol na'r arfer da ni wedi rhyddhau y sesiwn cwestiwn ac ateb gan y gynulleidfa, o'dd mor ddiddorol.Mwynhewch!
Lema is looking to speak to her dead sister Dyma, but things quickly go off the rails until Karen looks to educate her about abuse. If you have questions or comments about today's show you can email Karen and Kelly at info@thesarlos.com. Enjoy! Early access to Coffee with the Sarlos is available by audio on Thursday mornings on Patreon.com/thesarlos in our "Sips of Sanity Workshop" tier or higher. Coffee with the Sarlos is on all of your favourite podcast platforms. Be sure to Subscribe!
Llyfrau Gwaharddedig... neu lyfrau sydd wedi cael eu banio!Pam wahardd llyfrau a pha wledydd sydd yn wahardd y mwyaf?Fel arfer yr ydyn yn trafod pob dim dan haul ac yn mynd lawr ambell i lwybr.Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau hyfryd a drafodwyd yn y bennod:Hunangofiant Dyn Positif - Bywyd a Gwaith, Wayne HowardDiwedd y Gân - Rebecca RobertsNightshade Mother - Gwyneth LewisCry of the Kalahari - Mark a Delia Owens Ten Ponies and Jackie - Judith M BerrisfordTackle! - Jilly CooperTrespasses - Louise KennedyFel yr Wyt - AmrywiolO Ffrwyth y Gangen Hon - gol. Nia MoraisDatod - gol. Beti GeorgeThe House of Water - Fflur DafyddSêr y Nos yn Gwenu - Casia WiliamWant - Anonymous (gol. Gillian Anderson)Croesi Llinell - Mared LewisCymeriadau Cefn Gwlad - Ap NathanDeath At The Sign Of The Rook - Kate Atkinson.Casglu Llwch - Georgia RuthPotholes and Pavements - Laura LakerUltra Processed People - Chris van Tulleken
Dyma stori am bedair draig fach â sgiliau arbennig sy'n dysgu sut i weithio gyda'i gilydd. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Sion Tomos Owen.
Colli hyder wrth sgwennu neu ddiffyg hyder wrth sgwennu yw thema'r podlediad.Fel arfer mi ydyn ni'n mynd lawr llwybrau arall ac yn trafod pob dim dan haul.Rhybudd: Mae'r bennod hon llawn hyfrydwch!Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau hyfryd a drafodwyd yn y bennod:Nelan a Bo - Angharad PriceV a Fo - Gwenno GwilymCasglu Llwch - Georgia RuthRemarkable Creatures Tracy ChevalierTir Dial - Dyfed EdwardsGwennol - Sonia EdwardsO'r Tywyllwch - Mair Wynn HughesFi a Mr Huws - Mared LewisTomorrow and Tomorrow and Tomorrow - Gabrielle ZevinSgyrsiau Noson Dda - Dyfed EvansY Storïwr - Jon GowerThe Turning Tide - Jon Gower
Kolejnym gościem Piotra Janczarczyka będzie #1lkosz weteran, Marcin Dymała, zawodnik MKKS Żak Koszalin.
Dyma nodiadau'r sioe yn Gymraeg. Mae'r bennod hon yn ymwneud â hwyaden. Nid yw'n dda iawn. IF YOU LIKE WHAT WE DO AND WANT TO HELP US CONTINUE; SUPPORT US ON PATREON: patreon.com/spreadthewhimsy SUPPORT US ON KO-FI: ko-fi.com/spreadthewhimsy SUPPORT US WITH MERCHANDISE: whenwagonwheelswerebigger.com/w4bshop SUPPORT US FOR FREE: spread the word, spread the whimsy! THREADS/INSTAGRAM: w4b_podcast BLUESKY: @w4bpodcast FACEBOOK: facebook.com/whenwagonwheelswerebigger TIKTOK: @w4b_podcast WEBSITE: whenwagonwheelswerebigger.com W4B theme composed by John Croudy W4B theme acoustic arrangement by Joe Beckhelling Additional musical contributions by R Gill
Dyma'r newidiadau sy'n cael eu cynnig ar gyfer ein clybiau rygbi. Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol URC sy'n egluro
Pennod gyntaf 2025 o'ch hoff bodlediad llyfrau, mae'n bennod gyntaf Colli'r Plot hefyd ac yr ydym yn barod i drafod llwyth o lyfrau a phob dim arall dan haul. Mae'n dod i'r amlwg pwy sy'n gwrando ar bwy ar bodlediad Colli'r Plot.Diffyg hyder neu golli hyder wrth sgwennu yw pwnc y bennod yma, ond unwaith eto da ni'n rhedeg allan o amser. Wnewn ni trafod y tro nesaf.Mae'r rhegfeydd gan Bethan a Manon wedi'u olygu allan o'r bennod hon, am ffi o £100 gallwn ryddhau'r sain! Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:V+Fo - Gwenno GwilymRhuo ei distawrwydd hi - Meleri DaviesHanna - Rhian CadwaladrJames - Percival EverettThe Trees - Percival Everett The Island of Missing Trees - Elif Shafak10 minutes 38 seconds in this strange world - Elif ShafakLet a Sleeping Witch Lie - Elizabeth WalterCry of the Kalahari - Mark & Delia OwensNelan a Bo - Angharad PriceKilling Time - Alan BennettMerch y Wendon Hallt - Non Mererid JonesHaydn a Rhys - Geraint LewisYr Ergyd Olaf - Llwyd OwenThe Glutton - AK BlankemoreThe Hotel Avocado - Bob MortimerSalem a Fi - Endaf EmlynFel yr wyt - SebraDays at the Morisaki Bookshop - Satoshi Yagisawa
Dyma'r ail raglen lle mae Beti George yn sgwrsio gyda'r cyn is-bostfeistr Noel Thomas a'i ferch Siân am hanes eu brwydr yn erbyn y Swyddfa Bost. Cafodd Noel ei gyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug fel rhan o sgandal Horizon a'i garcharu am naw mis yn 2006. Yn y rhaglen hon cawn ei hanes yn y carchar a'r ymdrechion yn dilyn hynny i glirio ei enw.
Dyma stori am Blodi y blodyn haul sy'n codi gwên ar bawb. Bethan Ellis Owen sy'n adrodd stori gan Mirain Fflur.
Y Sioe Frenhinol a llyfrau'r flwyddyn.Hanes Bethan yn beicio yn Ne Affrica a chawn glywed am HRH Manon yn dal i fyny a'i ffrindiau newydd Cam a Brigitte Macron.Mae'r 5 ohonnom yn datgelu'n hoff lyfrau o 2024.Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:O Ddawns i Ddawns - Gareth F. WilliamsOrbital - Samantha HarveyYellowface - Rebecca KuangLife and Times of Michael K - JM CoetzeeMerch y Wendon Hallt - Non Mererid JonesAmser Nadolig gol. Lowri CookeThe Last Passenger - Will DeanLittle Wing – Freya NorthOlwyn Sgwâr - Peter Berry a Deb BuntLess – Patrick GrantGwag y Nos - Sioned Wyn RobertsCher - A memoir, part one - CherLlyfrau'r Flwyddyn:Cysgod y Mabinogi - Peredur Glyn.The One Hundred Years of Lenni and Margo - Marianne CroninTrothwy - Iwan RhysThe Glutton - A.K. BlakemoreY Nendyrau - Seran DolmaJohn Preis - Geraint JonesMy Effin' Life - Geddy LeeJac a'r Angel – Daf JamesNightshade Mother – Gwyneth Lewis
Vu sur Le Club Breton N°13 : Reportages et actualités avec Yves Averty et Marie. Chronique mensuelle : « E brezhoneg mar plij » par Marie. Rencontres : Yves a rencontré Brendan Guillouzic-Gouret de la Maison d'Edition Timilenn et Mike James, accordéoniste et chanteur, pour la sortie du disque « DYMA » qu'il a enregistré avec son fils, Dylan James. Programme musical : Plouz & Foen, MAILHONI – Bleuenn et […] Cet article provient de Radio AlterNantes FM
Dyma stori am Elsi a Magi ei milgi ffyddlon sy'n cael bob math o freuddwydion. Bethan Ellis Owen sy'n adrodd stori gan Hanna Jarman.
Croeso i bennod arall o Colli'r Plot.Yn y rhifyn yma da ni'n trafod yr argyfwng yn y diwydiant cyhoeddi Cymraeg, pa mor hyfryd ydy Cymdeithas Gymraeg y Bermo a'r gyrfa ddisglair sydd o flaen yr awdur Kate Roberts, sydd wirioneddol yn anhygoel.Mae 'na lot o chwerthin, 'chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:Lwmp - Rhian Wyn GriffithsMeirw Byw - Rolant TomosLaura Jones - Kate RobertsLladron y Dyfnfor - Gruffudd RobertsMeirw Byw - Rolant TomosGwaddol - Rhian CadwaladrLetting Go - Wil GrittenFriends of Dorothy - Sandi ToksvigNala's World: One man, his rescue cat and a bike ride around the globe - Dean NicholsonTadwlad - Ioan KiddThe Power of one - Bryce CourtenayDisgyblion B - Rhiannon LloydElin a'r Felin - Richard Holt
Llongyfarchiadau Bethan Gwanas ar ennill Gwobr Mary Vaughan Jones 2024, sydd yn dathlu cyfraniad arbennig at lenyddiaeth i blant a phobl ifanc.Trafod darllen llyfrau ar yr amser cywir, beth mae tylluanod yn ei wybod, cerddoriaeth a chyfrolau, a lansiad llyfr sy'n cynnwys stripper.Mae hwn i fod yn bodlediad am lyfrau!Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:Y Daith ydi Adra - John Sam Jones (cyfieithad Sian Northey)Tell Me Who I Am - Georgia RuthDog Days - Ericka WalkerY Morfarch Arian - Eurgain HafLwmp - Rhian Wyn GriffithsY Fran Glocwaith - Catherine Fisher (cyf. Mared Llwyd)Nightshade Mother - Gwyneth Lewis Ystorïau Bohemia - amrywiol, cyf. T H Parry-WilliamsPen-blwydd Hapus - Ffion EmlynClear - Carys DaviesTywyllwch y Fflamau - Alun DaviesY Twrch Trwyth - Alun DaviesGwaddol - Rhian Cadwaladr.Oedolyn-ish - Mel OwenThe Rhys Davies Short Story Award AnthologyMartha Jac a Sianco - Caryl Lewis
Pigion y Dysgwyr – FrancescaDych chi'n un o'r rhai sy'n symud eich dwylo wrth siarad? Mae ymchwil yn dangos mai Eidalwyr sy'n defnyddio y mwya o'r ‘stumiau hyn wrth siarad a rhannu straeon! Mae teulu Francesca Sciarrillo yn dod o'r Eidal a gofynnodd Alun Thomas iddi oedd hi'n cytuno gyda'r ymchwil... (Y)stumiau GesturesYmchwil ResearchYstrydebol ClichedYmwybodol AwareSylwi To noticeHunaniaeth IdentityAm wn i I supposeMynegi To expressLleisiau VoicesBarn An opinion Pigion y Dysgwyr – Llyfrau HanesBron y gallen ni glywed dwylo Francesca'n symud yn ystod y sgwrs yna on'd ife? Ond dwi'n siŵr mai llonydd iawn basai ei dwylo hi wrth drafod pethau diflas, a llyfrau hanes diflas oedd testun sgwrs Aled Hughes gyda'r hanesydd Dr Mari William fore Iau, ond beth sy'n ddiflas i'r hanesydd tybed?Llonydd StillDiflas BoringMilwrol MilitaryAgweddau AspectsYn ddiweddar RecentlyPori To browseTaro To strikeCymhleth ComplicatedRhaid i mi gyfadde(f) I must admit Ysgolheictod ScholarshipAstrus ObscurePigion y Dysgwyr – Beti a HuwDr Mari William oedd honna'n sôn wrth Aled Hughes am ba lyfrau hanes sy'n ddiflas iddi hi. Nos Lun ar S4C, roedd cyfres newydd i'w weld sef Cysgu o Gwmpas. Beti George a Huw Stephens sydd yn cysgu o gwmpas Cymru mewn gwestai moethus. Yn y rhaglen gynta, roedd y ddau'n ymweld â Pale Hall yn Llandderfel ger y Bala, ac roedd Beti yn cael aros yn yr un ystafell ac y buodd y Frenhines Victoria yn aros ynddi flynyddoedd maith yn ôl! Shan Cothi fuodd yn holi'r ddau. Moethus LuxuriousCyflwynydd PresenterDarganfod To discoverAnhygoel IncrediblePigion y Dysgwyr – Gwyl Ban GeltaiddWel dyna fywyd braf gan Beti a Huw, on'd ife, yn cael aros mewn gwestai moethus ac yn cael bwyta bwyd anhygoel! Sara Davies enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru eleni ac mae enillydd y gystadleuaeth honno wastad yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd, sy'n cael ei chynnal bob blwyddyn yn Iwerddon. Yn nhref Carlow, yn ne-ddwyrain Iwerddon oedd yr Ŵyl eleni ac enillodd Sara gystadleuaeth y Gân Ryngwladol Orau yn yr Ŵyl gyda'r gân ‘Ti'. Gofynnodd Aled Hughes iddi hi fore Llun sut oedd hi'n teimlo ar ôl iddi hi ennill y gystadleuaeth... Rhyngwladol InternationalSuddo To sinkAlla i ddychmygu I can imagineProfiadau ExperiencesCanlyniad ResultPigion y Dysgwyr – Jonathan RioA llongyfarchiadau mawr i Sara am y fuddugoliaeth on'd ife! Gwestai Beti George oedd Jonathan Roberts sy'n dod o'r Bala yn wreiddiol ac sydd erbyn hyn yn gweithio fel cyfieithydd yn Rio de Janeiro ers bron i 30 mlynedd. Buodd yn byw yn Lerpwl a Llundain cyn teithio i Brasil a syrthio mewn cariad gyda'r ddinas. Dyma fe'n sôn wrth Beti am yr adeg daeth ei dad i aros ato fe yn Rio...Buddugoliaeth WinCyfieithydd TranslatorPeryglus DangerousFfon Stick Pigion y Dysgwyr – RNLIMae'n swnio fel bod tad Jonathan yn ddyn lwcus iawn ond yw e? Mae'r RNLI yn dathlu dau ganmlwyddiant eleni ac Emma Dungey (ynganu fel Bungee jump) o orsaf Bad Achub Y Bari, fuodd yn sôn wrth Shan Cothi fore Gwener am sut daeth hi ymuno â'r RNLI..Dau ganmlwyddiant BicentenaryBad achub LifeboatYmuno â To joinRhiant ParentMewn cysylltiad â In contract withHyfforddiant Training
Pigion y Dysgwyr – Tomos Owen Mae dyn o Gaernarfon wedi dechrau menter newydd yn gwneud "smoothies". Beth sy'n arbennig ydy bod beic yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu'r "smoothies". Cafodd Aled Hughes air gyda Tomos Owen ddydd Mawrth diwetha am ei fenter. Cynhyrchu To produceAr y cyd TogetherHybu To promoteMaeth NutritionTroellwr SpinnerAtgofion MemoriesAgwedd AspectLles WelfareManteisio ar To take advantage ofAddas SuitablePigion y Dysgwyr – Andy John Wel dyna ffordd ddiddorol o gael plant i yfed "smoothies" on'd ife? Sawl Archesgob sydd gyda tatŵ tybed? Wel, mae gan Archesgob Cymru, Y Parchedicaf Andy John, datŵ mawr iawn a fe oedd gwestai Beti George ar Beti a'i Phobol yr wythnos hon… Archesgob Archbishop Y Parchedicaf The Most ReverandAtgof memoryPam lai? Why not?Olrhain To tracePigion y Dysgwyr – Pasg Hanes tatŵ'r Archesgob yn fanna ar Beti a'i Phobol. Ond sôn am ddathliadau'r Pasg oedd y Parchedig Beti Wyn James pan fuodd hi'n sôn am draddodiadau'r Pasg ar draws y byd wrth Shan Cothi. Dyma'r gweinidog o Gaerfyrddin yn sôn am sut mae Cristnogion Ethiopia'n dathlu… Traddodiadau TraditionsGweinidog MinisterAmrywio To varyY Grawys LentYmprydio To fastDipyn o her Quite a challengeGwylnos A vigilY wawr Dawn Mae'n ymddangos i mi It appears to mePigion y Dysgwyr – Twin Town Y Parchedig Beti Wyn James oedd honna'n sôn am ddathliadau Pasg Ethiopia. Nos Lun wythnos diwetha ar ei raglen cafodd Rhys Mwyn gwmni yr actor Llŷr Ifans. Fe, a'i frawd Rhys, oedd prif gymeriadau'r ffilm gomedi enwog Twin Town recordiwyd yn Abertawe a'r cyffiniau. Dyma Rhys yn holi Llŷr am ei atgofion o cael ei gastio i actio yn y ffilm…… Prif gymeriadau Main charactersCyffiniau VicinityYmchwil manwl iawn Very detailed researchYmwybodol AwareAwyddus iawn Very keenCyfweliad InterviewFatha FelPlentyndod ChildhoodProfiad ExperiencePigion y Dysgwyr – PianoAc os dych chi wedi gweld y ffilm, dw i'n siŵr basech chi'n cytuno bod perthynas y ddau frawd wedi dod drosodd yn wych ynddi hi. Mae sawl diwrnod arbennig yn ystod y flwyddyn i ddathlu'r hyn neu'r llall on'd oes yna? Ond oeddech chi'n gwybod bod Diwrnod Rhyngwladol y Piano i'w gael? Catrin Haf Jones fuodd yn holi'r pianydd Gwenno Morgan ar Dros Ginio a gofyn iddi hi beth mae'r diwrnod arbennig hwn yn ei olygu iddi hi…Offeryn InstrumentCyflawni To achieveAnwybyddu To ignoreCymryd yn ganiataol Taking for grantedCerddorfa OrchestraCyfeilyddion AccompanistsHyblyg FlexibleY deunawfed ganrif 18th centuryEsblygu To evolvePigion y Dysgwyr – Isabella Ac mae perfformio yn ganolog i'r sgwrs nesa ‘ma wrth i ni wrando ar Aled Hughes yn sgwrsio gyda Isabella Colby Browne, actores sydd wedi dysgu Cymraeg, ac sydd erbyn hyn yn actio yn Gymraeg ar lwyfan gyda chwmni Arad Goch.… Mae Isabella yn dal i gael gwersi Cymraeg ar-lein ac mae hi am fynd ar gwrs i Nant Gwrtheyrn cyn bo hir. Yr Wyddgrug MoldLlwyfan StageO ddifri(f) SeriouslyTanio dy frwdfrydedd Sparked your enthusiam Argraff enfawr A huge impressionDiwylliant CultureAilgysylltu To reconnectParch Respect
Pigion y Dysgwyr – Shelley Musker Turner Ddydd Mercher diwetha cafodd Shan Cothi gyfle i sgwrsio gyda Shelley Musker Turner sy'n aelod o'r grwp gwerin Calan, ond yn y clip nesa ‘ma sgwrsio maen nhw am waith Shelley gyda cheffylau yn y byd ffilmiau. Gweithio fel cyfrwywr mae hi a dyma hi'n sôn mwy am y gwaith Cyfrwywr SaddlerCymwysterau Qualifications Ffodus LwcusCreadigol CreativeAil-greu To recreateLledr LeatherCyfrwy SaddleAr waith In the pipeline Amrywiaeth Variety Pigion y Dysgwyr – Mike Olson Waw, mae Shelley wedi gweithio ar rai o'r ffilmiau mwya enwog, on'd yw hi? Daw Mike Olson o Winnipeg yng Nghanada yn wreiddiol ond mae e wedi dysgu Cymraeg ac yn ei defnyddio yn ei waith bob dydd. Fe yw Dysgwr y Flwyddyn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cafodd Aled Hughes sgwrs gyda Mike ddydd Mercher ar ei raglen, a dyma'r cwestiwn cynta ofynnodd Aled iddo fe... Iechyd Cyhoeddus Public HealthCydweithiwr Co-workerSylwi To noticeHeb os nac oni bai Without doubtBrwdfrydedd EnthusiasmY cyfnod clo The lockdownDegawd DecadeYmdrech Effort Pigion y Dysgwyr – Cofio Y Gwanwyn Mike Olson oedd hwnna'n sôn am ei daith i ddod yn siaradwr Cymraeg rhugl. Y Gwanwyn oedd thema rhaglen archif Radio Cymru “Cofio” yr wythnos hon. A phob Gwanwyn wrth gwrs mae'r clociau yn cael eu troi ymlaen awr. Dyma'r hanesydd Bob Morus i esbonio pam dyn ni'n gwneud hyn, a syniad pwy oedd e yn y lle cynta Ymgyrch CampaignYmwybodol AwareGoleuni LightGlynu To stickGalluogi To enableHeulwen liw nos Evening sunEnnyn cefnogaeth To elicit supportMesur A BillDeddf StatuteCynhyrchu arfau Arms manufacturingAr fyrder In hastePigion y Dysgwyr – Liz Saville Roberts Cofiwch droi'r clociau yna ymlaen cyn mynd i'r gwely nos Sadwrn nesa, ac roedd hi'n ddiddorol cael gwybod ychydig o hanes yr arfer yma on'd oedd hi? Liz Saville Roberts yw Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ac mae hi newydd ymddangos ar restr flynyddol cylchgrawn ‘The House' sef ‘Merched San Steffan 2024 – y 100'.. Beth mae Liz yn ei feddwl o fod ar y rhestr hon? San Steffan WestminsterBraint PrivilegeCydnabod AcknowledgeDylanwadu To influenceYn eu plith nhw Amongst themPleidiau gwleidyddol Political partiesAwch EagernessYsgogiad MotivationRhagflaenydd Predecessor Pigion y Dysgwyr – Geraint Jones A llongyfarchiadau i Liz Saville Roberts ar ennill ei lle ar y rhestr bwysig hon on'd ife? Gwestai Beti George ar Beti a'i Phobol yr wythnos hon oedd Geraint Jones. Mae e'n dod o Sir Benfro a dyma fe'n sôn am ei dad, oedd yn blismon pentre yng ngogledd y Sir. A cofiwch bod cyfle i glywed y rhaglen hon i gyd drwy fynd i BBC Sounds. Cyfrifol am Responsible forLles WelfareTrwyddedau LicensesYn feunyddiol DailyCarcharor PrisonerGwendidau WeaknessesLleithio Becoming damp Pallu MethuBygwth gwae ThreateningLlyw Steering wheelPigion y Dysgwyr – Caryl Wel dyna stori ddoniol, a dw i'n siŵr bod llawer o straeon eraill gan Geraint am ei dad y plismon pentre. Ar ei rhaglen nos Fercher ddiwetha cafodd Caryl sgwrs gyda Huw Rowlands sy wrth ei fodd gyda choginio, ac sydd yn hyfforddi teuluoedd i goginio. Dyma fe i ddweud mwy am sut cychwynnodd y fenter hyfforddi a hefyd am sut dechreuodd e ei hunan goginio Ysbrydoliaeth InspirationDenu dy sylw di Drew your attentionPice ar y maen Welsh cakesCas-gwent Chepstow Cynhwysion IngredientsLlwyfannau cymdeithasol Social mediaRyseitiau pobi Baking recipesCacen glou A quick cake
Step up to the plate...Sarah in Swansea and Steve in Halifax - pob lwc!
DROS GINIO 11.03.24Buodd Rhodri Llywelyn yn holi Mahum Umer o Gaerdydd. Mae'r cyfnod Ramadan i Foslemiaid ar draws y byd wedi cychwyn. Beth mae'r ŵyl yn ei olygu i Foslem ifanc Cymraeg?Ympryd A fastCymuned CommunityNodi To markCrefyddol ReligousDatgelu To revealHunanddisgyblaeth Self disciplineLlai ffodus Less fortunateAnsicrwydd UncertaintyHeriol ChallengingAdlewyrchu To reflect ALED HUGHES 12.03.24Blas ar sut mae cyfnod Ramadan yn effeithio ar Foslemiaid ifanc Cymru yn fanna ar Dros Ginio. Pwy fasai'n meddwl ei bod yn bosib cynhyrchu gwin cyn belled i'r gogledd â Dyffryn Clwyd? Wel dyna sy'n digwydd yng Ngwinllan y Dyffryn a buodd perchennog y winllan, Gwen Davies, yn sgwrsio gydag Aled Hughes fore Mawrth am yr her o dyfu grawnwin yn yr ardal honno.Cynhyrchu To produceGwinllan VinyardHer A challengeGrawnwin GrapesLlethr SlopeGwerthfawrogi To appreciateAddas AppropriateSefydlu To establishMicro hinsawdd Microclimate Yn y man Mewn munudGwinwydd VinesArallgyfeirio To diversify GEORGIA RUTH 12 03 24Ac erbyn hyn mae sawl gwinllan yng Nghymru on'd oes e? Pwy â ŵyr, falle mai Cymru bydd y Bordeaux newydd!Bardd mis Mawrth Radio Cymru yw Sam Robinson. Mae e'n byw ym Machynlleth, nawr ond yn dod o Rydychen yn wreiddiol ac mae e'n rhugl yn y Gymraeg erbyn hyn. Dyma fe'n sôn wrth Georgia Ruth am daith arbennig buodd e arni i Wlad y Basg...Rhydychen OxfordGwlad y Basg The Basque CountryOfferyn InstrumentGwneuthurion ManufacturersPreniach Small pieces of woodPastynau ClubsGwledda To feastWedi swyno CharmedYmatebol ResponsiveLlanast MessRhyfeddol Wonderful BORE COTHI 15.03.24Un arall sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhyfeddol, fel Sam Robinson yw Debora Morgante o Rufain. Mari Grug oedd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes dydd Gwener, noson cyn gêm rygbi Cymru a'r Yr Eidal, a chafodd hi sgwrs gyda Debora gan ofyn iddi hi sut gwnaeth hi ddysgu Cymraeg yn y lle cynta...Rhufain RomeCwrs Preswyl Residential courseYmarfer To practiceDROS FRECWAST 14.03.23Debora Morgante o Rufain oedd honna, fuodd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn yn 2015. Yn anffodus colli wnaeth Cymru yn y gêm yn erbyn yr Eidal a hon oedd gêm ola George North i chwarae dros Gymru gan iddo ddweud basai'n ymddeol yn dilyn y gêm honno. Cennydd Davies fuodd yn sgwrsio gyda George am ei benderfyniad.Rhestr fer Short listPenderfyniad enfawr Huge decisionCyflawni To achieveY cyhoedd The publicUchafbwynt HighlightBETI A'I PHOBOL 17.03.24George North oedd hwnna enillodd cant dau ddeg o gapiau i Gymru gan ennill ei gap cynta yn 2010. Trueni mawr ei fod yn ymddeol ond mae e wedi rhoi gwasanaeth arbennig i Gymru dros y blynyddoedd. Hazel Thomas o Lanwenog yng Ngheredigion fuodd yn sôn wrth Beti George am ei hamser yn gweithio fel chef yn y Dorchester yn Llundain …y ferch gynta i wneud hynny!Trueni BechodSylw a stwr Fuss and attentionCefn gwlad The countrysideEnwoca The most famousBodoli To exist
Pigion Dysgwyr – Anne Uruska Wythnos diwetha roedd hi‘n 80 mlynedd ers brwydr Monte Cassino yn yr Eidal. Un fuodd yn brwydro ar ran y fyddin Bwylaidd yn erbyn yr Eidalwyr a'r Almaenwyr, oedd tad Anne Uruska o Aberystwyth. Roedd Stanislaw Uruski yn rhan o gatrawd fuodd yn brwydro rhwng Napoli a Rhufain am fisoedd lawer. Dyma Ann i sôn am hanes ei thad…. Byddin Pwylaidd Polish ArmyCatrawd Regiment Brwydro To fight Hanu o To haul fromCipio To captureGwlad Pwyl PolandDengid DiancRhyddhau To releaseMewn dyfynodau In exclamation marksY Dwyrain Canol The Middle EastPigion Dysgwyr – Esgusodwch Fi Anne Uruska yn fanna‘n sôn am hanes diddorol ei thad, ac mae'n siŵr bod llawer ohonoch chi'n nabod Anne fel un o diwtoriaid Cymraeg i Oedolion Prifysgol Aberystwyth. Gwestai diweddar y podlediad Esgusodwch Fi, sydd yn trafod materion sydd yn berthnasol i'r gymuned LGBT+, oedd y cyfarwyddwr ffilm Euros Lyn. Mae Euros wedi cyfarwyddo Dr Who, Happy Valley, Torchwood, Sherlock yn ogystal â nifer o gyfresi eraill. Dyma fe i sôn am un o'i brosiectau diweddara sef Heartstopper i Netflix…. Cyfarwyddwr DirectorCyfresi SeriesDiweddara Most recentDau grwt Dau fachgen Eisoes AlreadyEhangach WiderCenhedlaeth GenerationProfiad ExperienceYn ddynol HumanHoyw Gay Pigion Dysgwyr – Antarctica Euros Lyn oedd hwnna'n sôn am y gyfres Heartstopper sydd i'w gweld ar Netflix. Does dim llawer o bobl sy'n gallu dweud eu bod nhw wedi bod yn Antarctica. Ond un sydd wedi bod yno yw y biolegydd morol Kath Whittey, a buodd hi'n siarad am y profiad ar raglen Aled Hughes fore Mawrth diwetha…. Biolegydd morol Marine biologistLlong ShipCynefin HabitatAnghyfforddus UncomfortableSbïad EdrychPigion Dysgwyr – Diwrnod Cenedlaethol yr Het Mae Kath yn gwneud i Antartica swnio fel planed arall on'd yw hi? Roedd Dydd Llun yr wythnos diwetha yn ddiwrnod cenedlaethol yr het. Un sydd a chasgliad sylweddol o hetiau yw Angela Skyme o Landdarog ger Caerfyrddin. Dyma hi'n sgwrsio gyda Shan Cothi am y casgliad sydd ganddi Casgliad sylweddol A substantial collectionCael gwared To get ridHen dylwyth Old familyMenyw DynesDrych Mirror Pigion Dysgwyr – Clare PotterA dw i'n siŵr bod Angela'n edrych yn smart iawn yn ei hetiau. Bardd a pherfformwraig ddwyieithog yw clare e. potter, ac mae ganddi MA o Brifysgol Mississippi mewn Llenyddiaeth Affro-Garibïaidd. Mae Clare wedi cyfieithu gwaith y bardd Ifor ap Glyn i'r Saesneg ac mae hi wedi bod yn Fardd y Mis Radio Cymru. Mae'n dod o bentref Cefn Fforest ger Caerffili yn wreiddiol a Saesneg oedd iaith y cartref a'r pentref. Cafodd hi ei hysbrydoli gan athro Cymraeg Ysgol Gyfun Coed Duon ac aeth ati i ddysgu'r iaith. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd hi gyda Beti George Llenyddiaeth LiteratureBardd PoetYsbrydoli To inspireMam-gu NainEmynau HymnsRhegi To swearO dan y wyneb Under the surfaceFfili credu Methu coelioBraint A privilegePigion Dysgwyr – Nofio Gwyllt Beti George yn fanna'n sgwrsio gyda clare e. potter ar Beti a'i Phobol ddydd Sul diwetha. Owain Williams oedd gwestai rhaglen Shelley a Rhydian ddydd Sadwrn ar gyfer slot newydd o'r enw Y Cyntaf a'r Ola. Owain yw cyflwynydd cyfres newydd ar S4C o'r enw Taith Bywyd sydd ar ein sgriniau ar hyn o bryd. Yn Llundain mae e'n byw a dyma fe'n sôn wrth Shelley a Rhydian am y nofio gwyllt mae e'n ei wneud…. Degawdau DecadesLlynnoedd Lakes
Pigion Dysgwyr – Jessica Robinson Cynrychiolydd Cymru yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd, cafodd ei gynnal yng Nghaerdydd yn 2023, oedd y soprano o Sir Benfro Jessica Robinson. Ddydd Calan, hi oedd gwestai Shan Cothi ar ei rhaglen, a gofynnodd Shan iddi hi yn gynta beth oedd ei gobeithion hi am 2024…. Cynrychiolydd RepresentativeGŵyl gerddorol Musical festivalSafon QualityAnelu ato To aim forDatganiad RecitalYn elfennol bwysig Of prime importanceCydbwysedd BalanceCyfansoddwyr ComposersCyfeilio To accompanyDehongliad Interpretation Pigion Dysgwyr – Sion Tomos Owen Wel mae blwyddyn brysur iawn o flaen Jessica yn does? Bardd y Mis ar gyfer mis Ionawr ar Radio Cymru, ydy Sion Tomos Owen o Dreorci. Mae Sion yn arlunydd ac yn fardd, ond mae o hefyd yn un o gyflwynwyr rhaglen Cynefin ar S4C. Dyma fe ar Ddydd Calan yn sgwrsio gyda Sara Gibson, oedd yn cadw sedd Aled Hughes yn gynnes, i sôn am un o uchafbwyntiau 2023 iddo fe…. Bardd y mis Poet of the monthArlunydd ArtistCyflwynwyr PresentersUchafbwyntiau HighlightsMurluniau MuralsOgofau CavesTafliad carreg A stone's throwAmgenach DifferentDylunio DesigningArbrofi ExperimentingPigion Dysgwyr – Meleri Wyn James Sion Tomos Owen oedd hwnna, Bardd y Mis Radio Cymru yn sôn am graffiti. Bob wythnos ar raglen Bore Sul mae gwestai yn rhannu straeon a phrofiadau. Ar rifyn ola 2023, yr awdures Meleri Wyn James o Aberystwyth fuodd yn siarad gyda Betsan Powys. Meleri enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan a hi hefyd ydy awdures y gyfres boblogaidd, Na Nel. Dyma hi i sôn am sut mae arferion darllen plant, yn ei barn hi, wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwetha … Y Fedal Ryddiaith The Prose MedalGofid ConcernAnnog To encourageDychymyg ImaginationAnnibynnol IndependentGwnïo To sewPwytho To stitchPenderfynol DeterminedDisgyblaeth DisciplineDadwneud To undoPigion Dysgwyr – Liz Saville Roberts Ie, mae hi mor bwysig i annog plant i ddarllen ond yw hi? A gobeithio bydd llyfrau Meleri yn llwyddo i wneud hynny yndife? Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd, Liz Saville Roberts oedd gwestai Beti a'i Phobol yr wythnos hon. Mi gafodd hi ei magu yn Llundain ond mi gafodd hi ei denu i Gymru oherwydd ei diddordeb yn y Mabinogi. Ar ôl astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth mi aeth yn newyddiadurwraig ag yn ddarlithydd cyn iddi hi droi at wleidyddiaeth. Dyma hi'n sôn am ei diddordeb yn y Mabinogi…. Cofiwch bod yna gyfle i glywed y rhaglen gyfan ar BBC Sounds. Cafodd hi ei denu She was luredY Chweched Sixth formTraethawd estynedig DissertationCyhoeddiad A publicationWedi gwirioni Wedi dwlu arFel petai Seems to Bellach yn yr etholaeth In the constituency by nowRhyfedd StrangePigion Dysgwyr – Dylan Jones Liz Saville Roberts oedd honna'n sôn am sut oedd y Mabinogi wedi dylanwadu ar ei bywyd hi. Y ceffyl oedd thema Troi'r Tir fore Sul, ac un oedd yn siarad ar y rhaglen oedd Dylan Jones o Foelfre ger Abergele. Mae Teulu Dylan, ers y 70au, wedi bod yn cyflenwi ceffylau ar gyfer y diwydiant ffilm. Dyma fe i sôn mwy... Wedi dylanwadu Had influencedCyflenwi To supplyDiwydiant IndustryPigion Dysgwyr – Cleif Harpwood Ceffylau Cymru yn chwarae rhan bwysig mewn ffilmiau a rhaglenni teledu. Difyr yndife? Mi fuodd Dei Tomos yn recordio yn ddiweddar yng Nghwm Afan ar gyfer ei raglen Nos Sul. Un gafodd ei fagu yn yr ardal ydy'r cerddor Cleif Harpwood ac mi fuodd o'n sôn wrth Dei am hanes Cymreictod y cwm…… Cerddor MusicianY Canol Oesoedd The Middle AgesArglwyddi LordsYr Ucheldir The HighlandsCaerau FortsCors halenog Salty marshMintai TroopBraw A frightCenhadu Doing missionary work Y groesgadoedd The crusadesYmestyn To extend
1 Uffern Iaith y Nefoedd:Brynhawn Sadwrn diwetha mi glywon ni raglen arbennig o'r Sioe banel hwyliog Uffern Iaith y Nefoedd dan ofal Gruffudd Owen. Y panelwyr oedd Richard Elis, Sara Huws, Llinor ap Gwynedd a Lloyd Lewis. Rownd cyfieithu caneuon oedd hon:Nid anenwog Famous (not unfamous) Cyffwrdd To touch Dychwelyd To return Aflonyddu To disturb Nadoligaidd Christmasy Clych Bells2 Elin Fflur a'r Gerddorfa:Dipyn bach o hwyl yn dyfalu caneuon oedd wedi eu cyfieithu'n wael yn fanna. Ddechrau'r mis, mi gafodd cyngerdd arbennig ei gynnal efo Elin Fflur yn canu gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Tudur Owen oedd yn arwain y noson a dyma i chi foment emosiynol o'r rhaglen pan mae Tudur yn holi Elin am hanes ei chân fwya poblogaidd, sef Harbwr Diogel – y gân gafodd ei hysgrifennu gan Arfon Wyn, wrth gwrs, a'r gân enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru yn 2002:Cerddorfa Orchestra Breintiedig tu hwnt Privileged beyond Crïo Llefain Cryndod Tremor Golygu To mean Oesol Everlasting Uniaethu To identify Mor gyfarwydd So familiar3 Rhaglen Cofio:Noson emosiynol iawn i Elin Fflur, ac i Tudur hefyd, yng Nghanolfan Pontio ym Mangor.Nadolig oedd thema rhaglen archif Cofio gyda John Hardy brynhawn Sul, a Noswyl Nadolig yn thema arbennig felly. Un o draddodiadau mawr y Nadolig yn y capeli ydy plant bach yn perfformio Drama'r Geni, ac mae llawer o hwyl wrth i'r plant grwydro o'r sgript weithiau. Dyma glip o ddau weinidog yn cofio ambell i ddrama o'r fath:Drama'r Geni Nativity play Gweinidog Minister Hogyn Bachgen Gŵr y llety Innkeeper Yn ffradach Chaotic Ymgnawdoliad Incarnation Beichiog Pregnant Gweddi A prayer Mo'yn Eisiau 4 Chwalu Pen:On'd oes yna hwyl efo Drama'r Geni pan mae'r plant yn penderfynu mynd eu ffordd eu hunain?Un o uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr Ŵyl ydy'r cwis poblogaidd Chwalu Pen, a chafodd y rhaglen ei darlledu brynhawn Gwener diwetha yr 22ain o Ragfyr. Mari Lovgreen oedd yn trïo cadw trefn ar Catrin Mara, Arwel Pod Roberts, Welsh Whisperer a Mel Owen. Dyma nhw'n trio dyfalu'r rownd gyntaf ond cyn hynny, Mari sydd yn ein hatgoffa o'r rheolau:Uchafbwyntiau Highlights Darlledu To broadcast Dyfalu To guess Atgoffa To remind Rheolau Rules Y flwyddyn a fu The past year Cwblha! Complete! Cyn seren Former star5 Ho Ho Hywel:Mae Mel yn amlwg yn nabod ei chaneuon Nadoligaidd yn tydy?Ar ddydd Nadolig mi fuodd Hywel Gwynfryn a Rhiannon Lewis yn mwynhau straeon a chaneuon yng nghwmni gwesteion ar y rhaglen arbennig Ho Ho Hywel. A dyma'r comedïwr Dilwyn Morgan yn rhannu rhai o'i atgofion cynnar am y Nadolig :Atgofion Memories Tro ar ôl tro Time after time Tyddyn bach A smallholding Ar lethrau On the slopes Hel tai Going from house to house Comisiwn Coedwigaeth Forestry Commission Beudy Cowhouse Wedi sychu'n grimp Dry as a bone6 Talwrn Nadolig:Cystadleuaeth rhwng timau o feirdd ydy'r Talwrn ac unwaith eto eleni mi fuodd yna raglen arbennig o'r Talwrn – sef Talwrn Nadolig rhwng dau dîm o feirdd amrywiol – sef tîm Bethlehem a thîm Nasareth. Un o'r tasgau oedd sgwennu cerdd ysgafn ar y testun ‘Cinio Nadolig', a dyma gynnig Iwan Rhys o dîm Bethlehem:Cerdd Poem Strach A mess Fflwr Blawd Llysfwytäwr pybyr A staunch vegetarian Ffili treulio Can't digest Di dafod Tongueless Llosg cylla Heartburn Yn sgit Keen on Ysgewyll Sprouts Achwyn Cwyno Tynn Tight Egwyddor Principle Newydd garw Bad news7 Rhaglen Ifan:Bydd Y Talwrn yn ôl ar Radio Cymru ar y seithfed o Ionawr am saith o'r gloch efo rhifyn arbennig rhwng Ysgol Glan Clwyd ac Ysgol Maes Garmon. Yr actores Catrin Mara oedd gwestai Ifan Jones Evans ar ei raglen yn ddiweddar. Sôn oedd Catrin am yr anrheg Dolig gorau a'r gwaetha gafodd hi erioed:Allweddell Keyboard Cwningen Rabbit Wedi gwirioni Wedi dwlu ar Cwffio Ymladd Alla i ddim dychmygu I can't imagine Hwyrach Efallai Erchyll Terrible
1 Aled Hughes :Mair Tomos Ifans fuodd yn siarad efo Aled Hughes yn ddiweddar am rai o hen draddodiadau Nadolig gwledydd Ewrop. Mae Mair yn actores, cantores, sgriptwraig, darlithydd a thiwtor. Ond erbyn hyn mae'n treulio llawer iawn o amser yn adrodd straeon ac yn arwain gweithdai mewn ysgolion:Traddodiadau Traditions Diniwed Innocent Darn o bren A piece of wood Boncyff A log Ymwybodol Aware Ymddangos Appearing Melysion Sweets Curo To beat Carthen A cover Penodol Specific Gwasgaru'r llwch Dispersing the ash2 Ffion Dafis :Golwg yn fanna ar rai o draddodiadau Nadolig gwahanol iawn sydd i'w gael yng ngwledydd Ewrop gan Mair Tomos Ifans.Mi fuodd y pianydd rhyngwladol Llŷr Williams yn perfformio yng Nghanolfan Pontio ym Mangor yn ddiweddar, ac mi gafodd Ffion Dafis sgwrs efo fo am sut mae o'n mynd ati i ymarfer a dewis ei raglen ar gyfer perfformio:Bysedd Fingers Hyblyg Flexible Ymwybodol Aware Toriadau Breaks Yn fwy cyfarwydd More familiar Dehongli To interpret Datblygu To develop Amlygu ei hun Manifests itself3 Bore Cothi :Y pianydd Llŷr Williams oedd hwnna'n rhannu ambell i gyfrinach efo Ffion Dafis am sut mae o'n paratoi at berfformio.Ddydd Llun yr 11eg o Ragfyr, Alison Huw y gogyddes oedd gwestai Shân Cothi. Trafod ‘sprouts' oedd hi, neu ysgewyll Brwsel yn Gymraeg. Nid pawb sy'n hoff iawn o'r ysgewyll naci! Ond yma mae Alison yn sôn am ffordd hyfryd o'i weini ar gyfer eich cinio Dolig:Cyfrinach Secret Ysgewyll Sprouts Gweini To serve Cnau castanwydden Horse chestnut Hallt Salty Plisgo Peeling Ffwrn Popty Moethus Luxurious Rhwydd Hawdd Yn glou iawn Yn gyflym iawn4 Dros Ginio :Wel dyna i chi ambell i syniad am ginio Dolig llwyddiannus, ond be am lwyddo i fwynhau parti Nadolig?Mae yna ymchwil sy'n dangos bod nifer o bobl yn teimlo'n bryderus yn y partïon hyn. Mirain Rhys o Adran Seicoleg Coleg Prifysgol Met Caerdydd, a ‘Mr Cymdeithasu' Stifyn Parri sy'n trafod sut mae paratoi'n gymdeithasol ar gyfer y partïon? Pryder a chynnwrf Anxiety and excitement Curiad fy nghalon My heartbeat Anadlu Breathing Baglu To trip Chwydu Vomiting Pynciau Topics Osgoi To avoid Sleifio mewn To sneak in Corwynt Hurricane Dadleuol Controversial Ysgogwyr Stimuli5 Rhaglen Caryl Parry Jones:Wel dyna ni wedi cael syniadau coginio Nadolig, syniadau am sut i fwynhau partïon Nadolig ac rŵan dan ni'n mynd i glywed pa fath o Nadolig bydd Helen Evans o Fethesda yn ei fwynhau. Dyma i chi flas ar sgwrs rhwng Helen a Shelley Rees oedd yn cadw sedd Caryl yn gynnes nos Fawrth y 12fed o Ragfyr. Unig blentyn Only child Ysbrydoli To inspire Wedi mopio efo Wedi dwlu ar Y diwrnod canlynol The following day Llond tŷ A houseful
1 Bore Cothi: Sioe Aeaf.Ddydd Llun Tachwedd 27 roedd rhaglen Bore Cothi yn darlledu o'r Ffair Aeaf yn Llanelwedd. Cafodd Shân gwmni mam a merch, sef Ffion a Leia Lloyd-Williams o fferm Bathafarn ger Rhuthun. Roedden nhw wedi bod yn dangos ceffyl yn y Ffair, sut aeth hi tybed?Darlledu Broadcasting Y Ffair Aeaf The Winter Fair Gwisg Costume Fel pin mewn papur Immaculate Awyrgylch Atmosphere Rhan-frîd Part breed Is-bencampwr Reserve Champion2 Ffion Emyr: Tips Pwdin Dolig.Roedd Ffion, Leia a Shân hefyd i weld wrth eu boddau gyda'r Ffair Aeaf on'd oedden nhw? Ddydd Sul Tachwedd 26 roedd hi'n Stir Up Sunday sef y Sul ola cyn yr Adfent, a dyma'r diwrnod traddodiadol i bobl wneud eu pwdin Dolig! Y nos Wener cyn hynny rhannodd Ffion Emyr ychydig o dips ar sut i wneud pwdin Dolig. Roedd Ffion wedi casglu'r tips yma gan chefs enwog fel Delia Smith, Andrew Dixon a Nigella Lawson. Socian To soak Fel rheol As a rule Gorchuddio To cover Llysieuol Vegetarian Blawd Flour Ffigys Figs Cnau wedi malu Chopped nuts Ychwanegwch! Add! Sinsir Ginger Heb wres Without heat 3 Carl ac Alun Gwener 24ain yn lle Trystan ac Emma: Dr Who.Wel dyna ni felly, o dan y gwely â'r pwdin Dolig! Tips defnyddiol iawn yn fanna gan Ffion Emyr. Wel mae Dr Who yn ôl! Dych chi wedi cael cyfle i weld y gyfres newydd eto? Dw i'n siŵr bod Ianto Williams o Faesybont ger Caerfyrddin wedi ei gweld gan ei fod yn superfan y gyfres. Fore Gwener Tachwedd 24, Carl ac Alun oedd yn cadw sedd Trystan ac Emma yn gynnes rhwng 9 ag 11 a chaethon nhw sgwrs gyda Ianto a'i glywed yn sôn am ei gasgliad o ddeunyddiau Dr Who Cyfres Series Casgliad Collection Deunyddiau Materials Gwerthfawr Valuable Wedi ei arwyddo Signed Halais i Mi wnes i anfon Yn amlwg Obviously Unigryw Unique Cyfrannu at To contribute to4 Ffion Dafis: Aled Hall mewn opera newydd.Ianto Williams oedd hwnna'n sôn am ei gasgliad o ddeunyddiau Dr Who. Aled Hall, y tenor operatig o Bencader, Sir Gaerfyrddin oedd yn cadw cwmni i Ffion Dafis yn ddiweddar. Yn y clip hwn, mae Aled yn trafod ei ran yn yr opera newydd Men Sheds, gafodd ei chyfansoddi gan y cerddor Lenny Sayers. Mae'r opera hon yn ceisio codi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl dynion:Cafodd ei chyfansoddi Was composed Codi ymwybyddiaeth Raising awareness Cymeriad Character Aeth ati Went at it Ymdrin â Dealing with Ymgynnull To congregate Cymunedau di-rif Countless communities Cysyniad Concept Angen trafod Need to discuss5 Aled Hughes:Mae'n dda gweld opera ar thema modern er mwyn codi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl, on'd yw hi? Wythnos diwetha, Arwyn Tomos Jones o Brifysgol Caerdydd, fuodd yn sôn am hen feddyginiaethau gydag Aled Hughes. Dyma i chi flas ar y sgwrs: Meddyginiaethau Medicines Canrif Century Hollol hurt Totally stupid Ysgyfaint Lung Danadl poethion Stinging nettles Dant y Llew Dandelion Tlodi Poverty Cyn bwysiced â As important as Moddion Medicine Hylif Liquid Dim sail No foundation6 Dros Ginio:Dyna ddiddorol on'd ife fel roedd pobl yn defnyddio‘r byd natur o'n cwmpas yn feddyginiaethau yn y gorffennol. Ddydd Mawrth diwetha, banciau bwyd oedd yn cael sylw ar Dros Ginio gyda Jennifer Jones. Mae mwy a mwy o alw am y banciau bwyd y dyddiau hyn, ond mae llai ac yn llai o bobl yn cyfrannu bwyd at y banciau. Yn y clip hwn, Trey McCain, Rheolwr Banc Bwyd Arfon sy'n egluro'r sefyllfa i Jennifer. Mae Trey yn dod o Mississippi yng ngogledd America yn wreiddiol ond wedi dysgu Cymraeg yn rhugl. Budd-daliadau Benefits Hanfodol Essential Gwendidau Weakness Credyd Cynhwysol Universal credit Cyflenwadau Provisions Pwysau Pressure Galluogi To enable Pryderus Concerned Neges The shopping Uniongyrchol Direct Ar y gweill In the pipeline
Clip 1 Rhaglen Trystan ac Emma: Ddydd Gwener Hydref 27, pan oedd hi bron yn Galan Gaeaf, ysbrydion oedd yn cael sylw ar raglen Trystan ac Emma. Mae Islwyn Owen yn Ysbrydegydd neu Spiritualist Medium, ac mae'n dweud bod ganddo'r gallu i gysylltu a derbyn negeseuon gan ysbrydion. Yn y clip nesa ‘ma mae o'n sôn am ysbrydion yn cysylltu efo fo drwy freuddwydion: Calan Gaeaf Halloween Ysbrydion Spirits Ysbrydegydd Spiritualist Medium Breuddwydion Dreams Cryn dipyn Quite a bit Arferol Usual Chwalu fy mhen Blew my mind Manwl Detailed Clip 6: Rhaglen Dros Ginio: Rhaglen arall fuodd yn trafod ysbrydion ond ar ddiwrnod Calan Gaeaf y tro hwn, oedd Dros Ginio. Dyma i chi Rheinallt Rees, cynhyrchydd y podlediad 'Ofn', yn sôn wrth Jennifer Jones am ei brofiadau ysbrydol ei hun, a pham bod na fwy o ddiddordeb gan bobl yn y byd paranormal y dyddiau hyn ... Cynhyrchydd Producer Cyffwrdd To touch Unigryw Unique Canolbwyntio To concentrate Synau Sounds Awel Breeze Gwyddonol Scientific Ymennydd Brain Llwydni Mould Esboniadwy Explainable Yn ein plith ni Amongst us Clip 4 Rhaglen Aled Hughes: O mam bach, roedd yr holl sôn am ysbrydion yn ein paratoi ni'n dda at ddiwrnod Calan Gaeaf yn doedd? Ac ar y diwrnod hwnnw mi gafodd Aled Hughes sgwrs efo'r Dr Adam Coward sydd yn arbenigo mewn marciau gwrachod mewn tai. Mae Adam yn dod o Missouri yn wreiddiol, wedi dysgu Cymraeg, ac yn byw yn ardal Aberystwyth erbyn hyn. Dyma i chi ran o'r sgwrs lle mae Aled yn holi Adam lle basai rhywun yn dod o hyd i farc gwrachod a sut basai rhywun yn ei nabod: Gwrachod Witches Pren Wood Trawstiau Beams Ar bwys Wrth ymyl Amrywiol lefydd Various places Cuddio To hide Rhwymo To wrap Am wn i As far as I know Saer maen Stone mason Clip 5 Rhaglen Bore Cothi/ Heledd Cynwal yn cyflwyno: Wel dyna ddigon am wrachod ac ysbrydion, mae'n hen bryd i ni droi at rywbeth ysgafnach yn tydy? Bob nos Fercher ar S4C mae ail gyfres Gogglebocs Cymru i'w gweld am 9 o'r gloch. Buodd Heledd Cynwal yn cadw sedd Shân Cothi yn gynnes yn diweddar a chafodd hi sgwrs efo un o sêr y gyfres, sef Annaly Jones o Gaerfyrddin. Mae Annaly yn sôn yn y clip yma am gymaint mae hi'n mwynhau bod yn rhan o'r rhaglen: Ail gyfres Second series Ysfa A strong desire O'r dechrau'n deg From the very beginning Parchedig Reverand Ta beth Beth bynnag Wedi cydio Has caught on Ymateb Response Annog To encourage Clip 7: Rhaglen Rhys Mwyn: Mae Annaly wrth ei bodd efo'r gyfres yn amlwg, ac mae hi'n lot o sbort yn tydy? Ar raglen Rhys Mwyn nos Lun Hydref 30, mi fuodd Clare Potter o Gefn Fforest ger Caerffili, oedd yn Fardd y Mis Radio Cymru yn ystod mis Hydref, yn sgwrsio efo Rhys am ei chyfnod yn astudio llenyddiaeth Affro Caribïaidd yn New Orleans a Mississippi a dyma i chi flas ar y sgwrs: Llenyddiaeth Literature Dwlu ar Wrth fy modd efo Cymhariaeth Comparison Clip 8: Rhaglen Caryl: Clare Potter oedd honna'n sgwrsio efo Rhys Mwyn am lenyddiaeth Affro Caribïaidd. Nos Fawrth ddiwetha, Delyth Eirwyn, y cyn actores, ond sydd erbyn hyn yn Bennaeth Drama yn Ysgol Bro Morgannwg, oedd gwestai Caryl Parry Jones. Sôn am fwyd cysur oedd hi, ac yma mae'n trafod lobsgóws fel ei bwyd mwya cysurus pan oedd hi yn sâl: Cysur Comfort Cig eidion Beef Mor gysurus So comforting Trwchus Thick Maeth Nutrition Anwydog Full of cold Gwaith cnoi Chewy Taten A potato Cennin a phannas Leeks and parsnips Tewhau To thicken Blawd corn Cornflour
Siw Hardson Ar raglen Trystan ac Emma roedd Siw Harston, sy'n dod o Landeilo yn wreiddiol ond sydd nawr yn byw yn Surrey, yn sgwrsio am y siaradwyr Cymraeg mae hi wedi dod ar eu traws dros y blynyddoedd, ym mhob rhan o'r byd: Anhygoel Incredible Cynhesrwydd i'r enaid Warmth for the soul Y tu hwnt i Beyond Rogue Jones Does ots ble fyddwch chi, dych chi'n siŵr o glywed y Gymraeg, on'd dych chi? Buodd Mari Grug yn holi Bethan Mai o'r band Rogue Jones, ar raglen Ffion Dafis yn ddiweddar, hyn ar ôl iddyn nhw ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, nos Fawrth y 10fed o Hydref. Dyma i chi flas ar y sgwrs: Gwobr Gerddoriaeth Gymreig Welsh Music Prize Sylw Attention Llafur cariad Labour of love Yn ariannol Financially Gwefreiddiol Thrilling Cyfweliadau Interviews Ffydd Faith Llinach Pedigree Rhyfedd Strange Toddi To melt Jenny Adams A llongyfarchiadau mawr i Rogue Jones, yn llawn haeddu'r wobr. Roedd hi'n Wythnos y Dysgwyr wythnos ddiwethaf ar Radio Cymru a Heledd Cynwal oedd yn sedd Shan Cothi fore Llun Hydref 16, a chafodd hi sgwrs gyda Jenny Adams, sy'n dod o Surrey yn wreiddiol, ond sy'n byw ym Machen, ger Caerffili ar hyn o bryd: Yn llawn haeddu Wholly deserving Cyfathrebu Communicate Swyddogol Official Profiad Experience Codi hyder To raise confidence Disney Jenny Adams oedd honna – un o'r nifer fawr o ddysgwyr y Gymraeg glywon ni ar Radio Cymru yn ddiweddar. Ddydd Llun rhoddodd Dros Ginio sylw i'r ffaith bod cwmni Disney yn 100 oed, a Catrin Heledd fuodd yn holi'r Dr Elain Price sy'n darlithio ar ffilm a theledu, am ddylanwad y cwmni ar y byd ffilmiau dros y blynyddoedd: Darlithio To lecture Dal dychymyg To catch the imaginagion Yn ddiweddarach Later on Cydamseru Synchronize Arloesi To innovate Wrth wraidd At the root of Dyfeisio To invent Bodoli To exist Addasu To adapt Cyfarwydd Familiar Tybio To suppose Mai Lloyd Dr Elain Price yn fanna yn rhoi ychydig o hanes cwmni Disney i ni. Fore Mawrth wythnos ddiwethaf ar raglen Aled Hughes, Mai Lloyd o Aberteifi oedd yn edrych yn ôl ar ei hamser yn Trinidad a Tobago dros yr haf, yn cystadlu efo'r ddisgen yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad: Disgen Discus Y Gymanwlad The Commonwealth Uchafbwyntiau Highlights Pobl hŷn Older people Gareth Wyn Jones A dw i'n siŵr byddwn ni clywed llawer iawn mwy am Mai yn y dyfodol, a hithau'n amlwg wedi mwynhau'r cystadlu. Gwestai Ifan Jones Evans yn y clip nesa yw ffermwr mwya enwog Cymru, sef Gareth Wyn Jones. Mae ganddo ddilyniant mawr ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn ddiweddar, mae wedi croesi carreg filltir anferth ac wedi cyrraedd miliwn o danysgrifwyr ar ei sianel You Tube: Dilyniant Following Cyfryngau cymdeithasol Social media Carreg filltir anferth Huge milestone Tanysgrifwyr Subscribers Diwydiant amaeth Agricultural industry Ymdopi To cope
Pigion Dysgwyr – Peris Hatton Mae Peris Hatton newydd gyhoeddi llyfr ar gasglu crysau pêl-droed o wahanol gyfnodau. Enw'r llyfr yw “The Shirt Hunter”. Mae e wedi bod yn casglu ers dros dau ddeg pum mlynedd….dyma fe i sôn mwy am yr obsesiwn ar raglen Aled Hughes. Newydd gyhoeddi Just published Cyfnodau Periods of time Ddaru Wnaeth Poblogaidd Popular Oddeutu Tua Mwydro To bewilder Newydd sbon Brand new Offer Equipment Pigion Dysgwyr – Jane Blank Peris Hatton oedd hwnna'n sôn am ei obsesiwn gyda chrysau pêl-droed. Ar BBC Sounds ar hyn o bryd mae'r awdures Jane Blank yn sôn am hanes ei theulu mewn cyfres o'r enw “Fy Achau Cymraeg”. Roedd hi ar raglen Shan Cothi wythnos diwetha i sôn ychydig am ei theulu. Dyma i chi flas ar y sgwrs... Cyfres Series Achau Lineage Mamgu a tad-cu Nain a taid Ambell i deulu Some families Chwant Desire Tyrchu'n ddwfn To dig deep Pigion Dysgwyr – Beti George Ewch i BBC Sounds os ydych chi eisiau clywed rhagor o'r sgwrs ddifyr honno. Ers bron i bedwar deg mlynedd mae Beti George wedi cyflwyno Beti a'i Phobol. A hi oedd gwestai gwadd Shelley a Rhydian yn ddiweddar ar eu rhaglen Sadwrn. Dyma Beti i esbonio ychydig am gefndir y rhaglen wythnosol mae hi'n ei chyflwyno Yn ddiweddar Recently Bodlon Willing Enghraifft berffaith A perfect example Hyn a'r llall This and that Croesawu To welcome Dwys Intense Pigion Dysgwyr – Ifan Huw Dafydd Ac mae Beti wastad yn neis on'd yw hi, ac yn cael sgyrsiau diddorol gyda'i gwestai. Yn ddiweddar buodd yr actor Ifan Huw Dafydd ar daith gerdded Llwybr y Pererinion sef y Camino Frances, i Santiago de Compostela yn Sbaen. Roedd e'n codi arian i elusen Jac Lewis. Mae elusen Jac Lewis yn cefnogi lles meddwl pobl ifanc ac yn cynnig help i'w teuluoedd... Dyma Ifan Huw Dafydd ar raglen Ifan Jones Evans yr wythnos diwetha yn rhannu ambell i stori o'r daith. Pererinion Pilgrims Elusen Charities Lles meddwl Mental welfare Traddodiad Tradition Bys troed Toe Crwtyn Bachgen Anhygoel Incredible Llwch Ashes Gwasgaru Scatter Pigion Dysgwyr – Heledd Garddio Llongyfarchiadau mawr i Ifan Huw Dafydd am lwyddo i wneud y daith arbennig hon, ac roedd cwmni diddorol iawn ganddo ar y ffordd on'd oedd? Weithiau mae ‘Heledd Garddio' yn cyfrannu at raglen Caryl Parry Jones i rannu ei chyfrinachau garddio gyda Caryl a'r gwrandawyr. Ond wythnos diwetha rhannodd Heledd gyfrinach wahanol iawn gyda Caryl sef beth fasai ei pharti delfrydol hi…… Cyfrannu To contribute Cyfrinachau Secrets Delfrydol Ideal Crybwyll To mention Plentynaidd Childish Sa i di meddwl Dw i ddim wedi meddwl Pigion Dysgwyr – Awduron Mae parti Heledd yn swnio'n llawer o hwyl on'd yw e? Mae awduron plant ar draws Prydain wedi cyfarfod yn Abertawe yn ddiweddar i gynnal sesiynau storïau ac awduro. Dau oedd yno oedd y gŵr a'r wraig Thomas Docherty a Helen o Abertawe. Maen nhw hefyd wedi dysgu Cymraeg i lefel uchel iawn. Dyma nhw ar raglen Ffion Dafis i sôn am eu gwaith…. Awduro Authoring Amser maith yn ôl A long time ago Antur Adventure Cyfleoedd Opportunities Pe byddai rhywun Tasai rhywun Dwlu ar Wrth ei bodd efo Mamiaith Mother tongue
Pigion Dysgwyr – Ellis Massarelli Mae Ellis Massarelli yn organydd ifanc ac yn feistr ar yr offeryn. Fore Mercher diwetha cafodd Ellis air gyda Shan Cothi ar ei rhaglen, gan esbonio iddi hi ble yn union buodd e'n chwarae'r organ ar hyd y blynyddoedd. Offeryn Instrument Cadeirlan Cathedral Tŷ Ddewi St David‘s Prif organydd Chief organist Dirgrynu Vibrating Datsain Echo Pigion Dysgwyr – Richard Holt Ellis Massarelli oedd hwnna a dw i'n siwr bod dyfodol disglair i'r organydd ifanc. Mae stori Richard Holt, y cogydd a'r gŵr busnes o Ynys Môn, yn un ddiddorol iawn. Buodd e'n gweithio i'r cogydd enwog Marcus Wareing yn Llundain cyn mynd i'r y Llu Awyr i fod yn beilot, ond doedd ganddo mo'r arian i dalu am yr hyfforddiant i hedfan awyren. Erbyn hyn mae e'n rhedeg busnes teisennau, siocled a gin llwyddiannus yn Melin Llynon yn Llanddeusant ar Ynys Môn, ac yn mwynhau cyflwyno Yr Academi Felys ar S4C. Dyma fe'n rhoi hanes cael les Melin Llynon ar Beti a'i Phobol... Disglair Bright Melin Mill Llu awyr Airforce Digwydd bod As it happens Ceisiadau Applications Hyrwyddo To promote Colled A loss Dim rhyfedd No surprise Cau cymryd Refusing to take Pigion Dysgwyr – Elan Davies Felly os oes dant melys gyda chi, Melin Llynon ar Ynys Môn yw'r lle i fynd. Mae'r actores Elan Davies newydd ennill y brif wobr yn The Stage Debut Awards yn ddiweddar. Roedd Elan yn chwarae rhan Laura yng nghynhyrchiad diweddar Cwmni'r Frân Wen a Sherman Cymru o'r ddrama Imrie. A dyma Elan ar Dros Frecwast fore Mawrth i sôn mwy am y ddrama… Cynhyrchiad Production Yn ddiweddar Recently Y brif wobr The main award Dynol Human Arallfydol Otherworldly Darganfod To discover Llwyfan Stage Diwydiant Industry Ehangach Wider Pigion Dysgwyr – Neud Dim Deud A llongyfarchiadau, on'd ife, i Elan am ennill y wobr bwysig honno. Ar BBC Sounds ar hyn o bryd mae'r awdur Llwyd Owen yn ein harwain ni ar daith drwy hanes Hip-Hop a Rap Cymraeg. Teitl y rhaglen yw Neud nid Deud, a dyma glip o Llwyd Owen yn sôn am sut daeth e ar draws Hip-Hop a Rap am y tro cyn-taf….. Y Brifwyl Yr Eisteddfod Genedlaethol O bob cwr From every corner Unigolion Individuals Rhan allweddol A key part Yn ddiarwybod Unknowing Argraffadwy Impressionable Curiadau a chwpledi Beats and couplets Cynhyrchu To produce Pigion Dysgwyr – Chroma Arhoswn ni gyda'r byd miwsig modern yn y clip nesa yma, ond nid hip hop y tro yma ond roc trwm. Band tri darn o Bontypridd yw Chroma ac maen nhw ar fin rhyddhau eu halbwm newydd, a nhw oedd gwestai gwadd rhaglen Shelley a Rhydian. Dyma Katie, lleisydd y band, i sôn mwy am gyfle arbennig caeth y band i gefnogi un o grwpiau mawr yr Unol Daleithiau Ar fin rhyddhau About to release Lleisydd Vocalist Cyhoeddi'r Eisteddfod Proclaiming the Eisteddfod Manceinion Manchester Diolchgar Thankful Anhygoel Incredible Pigion Dysgwyr – Retro Foo Fighters! Mae'n dipyn o gamp i Chroma gael rannu gig gyda nhw on'd yw hi? Mae Yvonne Holder yn prynu a gwerthu gwrthrychau a chynnyrch Retro. Dych chi'n cofio y Tamagotchi oedd yn boblogaidd iawn tua trideg mlynedd yn ôl? Wel dyma Yvonne i sôn mwy amdanyn nhw gydag Aled Hughes ar ei raglen ddechrau wythnos diwetha. Gwrthrychau a chynnyrch Objects and products Bwydo To feed Cyflwr Condition Credi di byth You'll never believe Enghreifftiau prinnaf The rarest examples Prinder Scarcity Dymunol Desirable
Pigion Dysgwyr – Heather Jones Mae'r tri chlip cynta i gyd am bobl amlwg sy wedi dysgu Cymraeg, a beth am i ni gychwyn gyda'r gantores Heather Jones? Yn yr ysgol dysgodd Heather Gymraeg yn ail iaith, ond buodd hi'n perfformio a recordio yn y Gymraeg am flynyddoedd maith. Mae Heather newydd gyhoeddi ei bod hi wedi canu'n fyw am y tro ola ac ar Bore Cothi esboniodd hi wrth Shan Cothi sut dechreuodd ei gyrfa ym myd canu Amlwg Prominent Cyhoeddi Announce Ymennydd Brain Yn gyfangwbl Completely Tinc Tone Pigion Dysgwyr – Johnny Tudor Mae'n rhyfedd meddwl na fyddwn yn clywed llais Heather Jones ar lwyfannau Cymru eto on'd yw hi? Dysgu Cymraeg fel oedolyn ar gwrs Wlpan yng Nghaerdydd wnaeth y diddanwr, y dawnsiwr a'r canwr Johnny Tudor, ac roedd e'n dathlu 60 mlynedd ym myd adloniant eleni. Ar gyfer rhaglen Ffion Dafis bnawn Sul, aeth Lily Beau draw i gartre Johnny i'w holi. Dyma fe gydag un stori fach o'i yrfa... Diddanwr Entertainer Dynwared To impersonate Llwyfan Stage Pigion Dysgwyr – Dinbych y Pysgod A dw i'n siŵr bod gan Johnny lawer iawn o straeon difyr eraill o'i yrfa hir ym myd adloniant. Mae Jo Heyde wedi dysgu Cymraeg ac yn byw yn Ninbych y Pysgod erbyn hyn. Mae hi'n fardd, yn barddoni yn Gymraeg, ac wedi ennill cadair am ei barddoniaeth. Nos Fawrth diwetha ar raglen Caryl esboniodd Jo pam daeth hi i fyw i dde Sir Benfro yn y lle cyntaf…… Dinbych y Pysgod Tenby Bardd Poet Hala Treulio Dim syndod No surprise Yn syth bin Straight away Unigryw Unique Haenau Layers Tirwedd Landscape Llanw Tide Cyfnewidiol Changeable Awen Muse Pigion Dysgwyr – Lliw Ddall Wel dyna i chi dri sy wedi dysgu Cymraeg yn wych, ac sydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i'r byd Cymraeg. Diolch Heather, Johnny a Jo. Mae Owen Jones o Gaerdydd yn un o'r 1 o bob 12 dyn sydd yn lliwddall, ond yn ôl gwyddonwyr dim ond 1 o bob 200 o ferched sy‘n lliwddall ac mae Bethan Rhys Roberts yn un ohonyn nhw. Ar gyfer Bore Sul yr wythnos diwetha trïodd Owen a Bethan sbectolau arbennig sydd i fod i gywiro eu golwg...dyma sut aeth pethau …. Cyfraniad gwerthfawr A valuable contribution Lliwddall Colour blind Yn ôl According to Gwyddonwyr Scientists Cywiro eu golwg Correct their eyesight Llachar Bright Sefyll mas To stand out Cyfoethog Rich(colour) Ffug Fake Pigion Dysgwyr – 1973 Wel newyddion da i‘r rhai sy'n lliwddall on'd ife – mae'n debyg bod y sbectol newydd yn gweithio! Mae'r flwyddyn 1973 yn cael ei gyfri'n flwyddyn arbennig ym myd gwneud ffilmiau. Ond beth oedd mor arbennig am y flwyddyn honno? Cafodd Dion Wyn sgwrs gydag Owain Llyr ar Dros Ginio yr wythnos diwetha i esbonio mwy….. Cyfnod Period of time Hogiau Bechgyn Tywyll Dark Agwedd Attitude Eithafol Extreme Naws Mood Anhygoel Incredible Pigion Dysgwyr – Max Boyce Dion Wyn ac Owain Llyr oedd y rheina'n sgwrsio am pa mor bwysig oedd 1973 i fyd y ffilmiau. Ddydd Mercher diwetha roedd y canwr a'r diddanwr Max Boyce o Lyn Nedd yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed. Mae Max wedi bod yn diddanu pobl Cymru ac ar draws y byd ers diwedd y 60au. Cafodd Aled Hughes gyfle i holi Jed O'Riley o Glwb Rygbi Glyn Nedd sy'n ei adnabod e'n dda…. Cymuned Community Sgwrs ddifyr An interesting conversation Ymwybodol Aware Pwysigrwydd Importance
Pigion Dysgwyr – Y Wladfa Mae Llinos Howells o Ferthyr Tudful yn gweithio ar hyn o bryd yn y Wladfa, sef y rhan o‘r Ariannin ble mae siaradwyr Cymraeg yn byw. Yn ei gwaith bob dydd mae hi‘n dysgu Cymraeg i blant yr ysgolion lleol. Wythnos diwetha cafodd Aled Hughes gyfle i sgwrsio gyda hi i weld sut mae pethau‘n mynd hyd yn hyn... Yr Ariannin Argentina Union fis A month exactly Rhagbrofion Preliminary competition Llefaru Reciting Braint o feirniadu The honour of adjudicating Deng mlynedd ar hugain 30 years Cyngerdd mawreddog A grand concert Croesawgar Welcoming Twymgalon Warm-hearted Pigion Dysgwyr – Ann Evans Llinos Howells oedd honna'n brysur iawn yn y Wladfa, ond i weld yn mwynhau bob eiliad. Merch arall o Ferthyr sydd yn y clip nesa - Ann Evans, dorrodd record Cymru i ferched dros 65 oed yn Hanner Marathon Casnewydd fis Mawrth diwetha, ond sydd erbyn hyn wedi cyflawni camp arall. Bythefnos yn ôl roedd hi yn Kenya yn cymryd rhan mewn ras barodd bump o ddiwrnodau drwy ardaloedd cadwraeth y wlad. Roedd rhaid rhedeg 30 milltir y dydd mewn tywydd poeth iawn. Dyma hi‘n sgwrsio gyda Alun Thomas ar Bore Sul ac yn sôn am un digwyddiad arbennig ar y daith…… Tu fas i Tu allan i Cyflawni camp To fulfil an achievement Ardaloedd cadwraeth Conservation areas Heol (hewl) Ffordd Eiddo Possessions Perchen Ownership Dwyn To steal Gofidus Worried Rhydd Loose Dros y dibyn Over the precipice Pigion Dysgwyr – Karen Wynne Mae merched Merthyr yn hoff iawn o antur on'd dyn nhw? Ac roedd hi'n dipyn o antur i'r actores Karen Wynne yn ddiweddar wrth iddi hi gael ei derbyn i'r Cylch Hud. Dyma Karen ar raglen Bore Cothi wythnos diwetha yn sôn wrth Shan am y broses o gael eich derbyn i'r cylch arbennig hwn……. Cylch Hud Magic Circle Mynd amdani Going for it Syth bin bot Straight away Digwydd bod Happened to be Hanu Deriving from Sêl bendith Seal of approval Gweinidog Minister Hud a lledrith Magic Honni To claim Arallfydol Otherworldly Pigion Dysgwyr – Hafodwennog Basai'r gair ‘hudolus', falle, yn un gair i ddisgrifio taith Aelwyd Urdd Hafodwennog i Ffrainc. Mae'r aelwyd yn y wlad fel rhan o ymgyrch Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd. Cafodd Ifan Evans gwmni Gwenan Evans a Dai Baker o'r Aelwyd ar ei raglen yr wythnos diwetha i sôn mwy am daith... Hudolus Magical Ymgyrch Campaign Swmpus Substantial Arweinyddion cyfrifol Responsible leaders Gweithdai Workshops Cytgan Refrain Pigion Dysgwyr – Gwion Clarke A dw i'n siŵr bod aelodau'r Aelwyd wedi ysbrydoli cefnogwyr Cymru yn ystod y gêm bwysig honno yn erbyn Awstralia yn Lyon. Nos Fawrth diwetha cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Gwion Clarke o Gaernarfon. Mae Gwion yn sgriptio darnau comedi ac yn gomedïwr ei hun, a dyma fe'n sôn wrth Caryl am sut dechreuodd e yn y maes……. Ysbrydoli To inspire Testunau List of competitions Creadigol Creative Edmygu brwdfrydedd Admire the enthusiasm Buddugol Successful Doniol Funny Deunydd Material Llifo To flow Difrifol iawn Very serious Tawelwch Silence Pigion Dysgwyr – John Shaw A phob lwc i Gwion gyda'r gigs on'd ife? Ar Dros Frecwast fore Mercher clywon ni lais John Shaw. Mae John yn byw yn Utah ond roedd ei deulu'n dod Gymru yn wreiddiol. Alun Thomas aeth draw i Ysgol Llangynwyd ger Maesteg i weld John ar ei ymweliad cynta â gwlad ei gyn-deidiau Cyndeidiau Forefathers Gwyddonydd coedwig Forestry scientist Gweddill The rest of Annerch To address Troedio llwybrau Treading the paths Y bedwaredd ganrif ar bymtheg 19th century Cysylltiad Connection Degawdau Decades Bedyddwyr Baptist Emyn Hymn
Pigion Dysgwyr – Podlediad I Fyfyrwyr Bore Llun diwetha cafodd Aled Hughes sgwrs ar ei raglen gyda Cerith Rhys-Jones a Steffan Alun Leonard. Mae'r ddau wedi rhyddhau podlediad newydd o'r enw 'Sgwrsio am Brifysgol' sy'n rhoi blas i ddarpar-fyfyrwyr ar beth yw bywyd coleg, gyda phrofiadau myfyrwyr go iawn. Rhyddhau To release Darpar-fyfyrwyr Prospective students Rhannu profiadau Sharing experiences Gwerthfawr Valuable Cyflwyno To present Teimlo'n gartrefol Feeling at home I ryw raddau To some extent Yn gwmws Yn union Rhinwedd Merit Mewnwelediad Insight Trawstoriad eang A wide cross-section Pigion Dysgwyr – Tomatos Podlediad gwerthfawr iawn ac amserol hefyd gyda chymaint o fyfyrwyr yn cychwyn ar eu taith brifysgol yn ystod y mis hwn. Ychydig wythnosau yn ôl ar Pigion clywon ni sgwrs rhwng Adam Jones sef Adam yn yr Ardd a Shan Cothi. Rhoddodd Adam her i Shan i dyfu tomatos ac adrodd yn ôl ar ddiwedd yr haf ar sut aeth pethau. Dyma ddarn o'r sgwrs gafodd y ddau wythnos diwetha…. Her A challenge Teimlo fel oes Feels like ages Crasboeth Scorched Yn y cnawd In the flesh Awdurdod Authority Pencampwyr Champions Carotsen Moronen Llawn cystal Just as good Iseldiroedd Netherlands Chwerw Bitter Pigion Dysgwyr – Fflemeg Wel pwy fasai'n meddwl mai rhywun o'r Iseldiroedd sy'n gyfrifon am liw oren moron, on'd ife! Iseldireg wrth gwrs yw iaith y wlad honno, ond mae hi hefyd yn cael ei siarad mewn rhan o Wlad Belg sef Fflandrys. Ac yn Fflandrys yn ddiweddar mae'r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi cynlluniau i wneud Iseldireg yn unig iaith yr iard ysgol. Mae'r Dr Guto Rhys, yn byw ac yn magu ei blant yn Fflandrys a dyma fe i esbonio mwy am y sefyllfa ar Dros Ginio bnawn Mawrth…… Cenhedlaeth Generation Tafodieithoedd Dialects Cymhleth Complicated Pryder A concern Gorfodi To compel Tybio To presume Anniddigrwydd Discontent Anghyfleus Inconvenient Iaith leiafrifol Minority language Iaith rymus A powerful language Pigion Dysgwyr – Bethan Rhys Roberts Hanes sefyllfa gymhleth ieithoedd Gwlad Belg yn fanna gan Dr Guto Rhys. Mae'n wythnos a hanner bellach ers i ddaeargryn nerthol daro dinas Marrakech ac ardaloedd cyfagos. Un oedd yn y ddinas ar y pryd oedd Bethan Rhys Roberts, un o newyddiadurwyr BBC Cymru. Dyma hi ar raglen Bore Sul yn esbonio beth ddigwyddodd ar yr union eiliad pan darodd y daeargryn…… Daeargryn nerthol A powerful earthquake Hynafol Ancient Strydoedd culion Narrow streets Sŵn byddarol A deafening noise Dychrynllyd Frightening Ymgynnull To congregate Llafnau Slabs Dymchwel To collapse Sgrialu Scrambling Anhrefn Disarray Yn reddfol Instinctively Pigion Dysgwyr – La Liga Ac yn drist iawn wrth gwrs buodd miloedd o bobl farw ym Morocco yn dilyn y daeargryn. Bethan Rhys Roberts yn fanna yn rhoi syniad i ni o'r sefyllfa ddychrynllyd ym Marrakesh. Mae tîm pêl-droed pentre Llanfairpwll ar Ynys Môn wedi cael noddwyr newydd ar gyfer y tymor newydd. Mi fydd enw'r gynghrair Sbaenaidd - LaLiga - ar flaen crysau'r chwaraewyr eleni. Ie wir, darn o España ar dir Ynys Môn. Hannah Thomas ydy ysgrifennydd y tîm, a dyma hi i esbonio mwy ar Dros Frecwast fore Mercher Noddwyr Sponsors Ysgrifennydd Secretary Yn raddol Gradually Pwyllgor Committee Manteision Advantages Hogia Bechgyn Diolchgar Thankful Denu To attract Pigion Dysgwyr – Clwb Ifor Bach Wel dyna ni, tybed fyddwn ni'n gweld Llanfairpwll yn chwarae yn erbyn Barcelona neu Real Madrid yn y dyfodol! Dych chi wedi ymweld â Chlwb Ifor Bach yng Nghaerdydd erioed? Sefydlwyd y clwb bedwar deg o flynyddoedd yn ôl er mwyn rhoi llwyfan i fandiau Cymraeg chwarae, a hefyd fel man ble gallai siaradwyr Cymraeg y Brifddinas ddod i gymdeithasu. Nos Sul darlledwyd rhaglen i nodi y garreg filltir bwysig, hon ac mae cyfle wrth gwrs i chi wrando ar y rhaglen gyfan ar BBC Sounds….. Llwyfan A stage Darlledwyd Was broadcast Carreg filltir Milestone Sylfaenwyr Founders Cyfeddach Companionship Hwb cymdeithasol Social hub Sefydliad Establishment Cynhyrchydd Producer Pigion Dysgwyr – Rhys Taylor Sefydliad arall oedd yn dathlu carreg filltir arbennig oedd Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth, a dathlu pumdeg o flynyddoedd ers ei sefydlu oedd yr ysgol hon. Cafodd y cerddor Rhys Taylor sgwrs gyda Caryl Parry Jones wythnos diwetha gan fod Rhys yn gyn-ddisgybl yr ysgol. Nos Sadwrn roedd e'n un oedd yn cymryd rhan mewn cyngerdd yn Nghanolfan y Celfyddydau y dre fel rhan o'r dathliadau Cerddor Musician Breintiedig Privileged Oes euraidd Golden age Preswyl Residential Cerddorfeydd Orchestras Brolio To boast T'mod Rwyt ti'n gwybod
Pigion Dysgwyr - Gruffydd Vistrup Parry Mae Gruffydd Vistrup Parry yn byw yn Nenmarc sydd, yn ôl yr ystadegau, y wlad leia “stressful” yn Ewrob. Dyma Gruffydd i sôn mwy am y rhesymau symudodd e i'r wlad yn y lle cynta ar raglen Bore Cothi wythnos diwetha…. Ystadegau Statistics Calon Heart Ymchwil Research Perthynas Relationship Pigion Dysgwyr - Y Meddyg Rygbi Ac mae Gruffudd yn swnio'n hapus iawn gyda'i benderfyniad i symud i Ddenmarc on'd yw e? Dw i'n siŵr eich bod wedi sylwi bod Cwpan Rygbi'r Byd newydd ddechrau gyda'r gêm agoriadol rhwng Ffrainc a Seland Newydd. Mae Dewi Llwyd wedi bod yn dilyn Dr Gareth Jones, un o'r meddygon sy'n delio â'r nifer cynyddol o anafiadau ym myd rygbi. Enw'r rhaglen yw Y Meddyg Rygbi ac mae'r rhaglen gyfan i'w chlywed ar BBC Sounds wrth gwrs, ond dyma Gareth Jones yn sôn mwy am ei waith Nifer cynyddol Increasing number Fel petai So to say Sylweddoli To realise Curiad i'r pen Knock to the head Y Gweilch The Ospreys Pigion Dysgwyr – Angharad Jones Gobeithio na fydd Dr Gareth yn rhy brysur gydag anafiadau i'r pen yn ystod Cwpan y Byd on'd ife? Bore Mercher ar ei raglen, cafodd Aled Hughes gyfle i siarad ag Angharad Jones, sydd yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Casgwent. Beth sy'n arbennig am Angharad yw ei bod hi wedi dysgu Cymraeg ei hunan a hynny mewn blwyddyn yn unig. Dyma hi i sôn mwy am ei siwrne i ddod yn siaradwr Cymraeg... Casgwent Chepstow Tad-cu Taid Sa i'n gallu Dw i ddim yn medru Trosglwyddo To transmit Yn gyfrifol am Responsible for Mo'yn Eisiau Dwyieithrwydd Bilingualism Dw i'n dyfalu I guess Her A challenge Pigion Dysgwyr – Mari Catrin Jones Gwych iawn Angharad, yn un o nifer o athrawon sy wedi dod yn rhugl yn y Gymraeg mewn blwyddyn, drwy ddilyn y Cwrs Sabothol. Mae'r Athro Mari Catrin Jones yn ddarlithydd ieithoedd ym Mhrifysgol Caergrawnt ac ar Raglen Dei Tomos wythnos diwetha clywon ni hi'n sôn am un o ieithoedd llai Ynysoedd Prydain sef iaith ynys Jersey, sydd ond ychydig filltiroedd wrth gwrs oddi ar arfordir Normandy yn Ffrainc. Darlithydd Lecturer Caergrawnt Cambridge Pedwaredd ganrif ar bymtheg 19th century Saesneg oedd ei piau hi English took over Ariangarwch Avarice Yn gwmws Yn union Yn raddol Gradually Y plwyf The parish Goresgyn To invade Alltudio To exile Pigion Dysgwyr – Y Drenewydd Diddorol on'd ife? A phob lwc i'r rhai sy'n ceisio ail-godi iaith Jersey. 24 awr yn…..yw slot achlysurol Caryl Parry Jones ar ei rhaglen gyda'r nos ble mae hi'n gwahodd person o dre neu bentre gwahanol i sôn am y lle a'r pethau sydd i'w gwneud yno. Tro Y Drenewydd oedd hi nos Fawrth a dyma Nelian Richards sy'n dod o'r dre i sôn mwy, gan ddechrau gydag un o ddynion enwog y dre sef Robert Owen….. Achlysurol Occasional Cefnog Cyfaethog Sefydlu To establish Gweithlu Workforce Diwygiwr cymdeithasol Social Reformer Pigion Dysgwyr – Eilyr Thomas Hanes un o enwogion y Drenewydd, Robert Owen yn fanna ar raglen Caryl Parry Jones. Cafodd Shan Cothi sgwrs gyda'r athrawes ganu Eilyr Thomas yr wythnos diwetha. Yn ystod ei gyrfa mae hi wedi hyfforddi cantorion enwog fel i Jessica Robinson a Trystan Llŷr Griffiths a llawer o rai eraill. Dyma hi i sôn am sut dechreuodd hi ei hunan ar ei gyrfa ym myd canu O ddifri Seriously Rhinweddau Merits Angerddol Passionate Ymroi To commit Datblygiad y llais The development of the voice Trueni Bechod Ymgodymu Tackling
Dyma ein podlediad Cymraeg cyntaf erioed, recordiwyd yn fyw ar faes yr Eisteddfod ym Moduan. This is our first ever Welsh language podcast, recorded live at the National Eisteddfod in Boduan. Ysbrydolwyd gan y cerdd ‘Hon' gan T H Parry Williams ac y llinell enwog ‘Beth yw ots gennyf i am Gymru?' rydyn ni'n gofyn - ar ôl bron chwarter canrif o ddatganoli a 99 mlynedd o'i bodolaeth - beth yw ots gennyf i am Blaid Cymru? Beth yw rôl y blaid yng gwleidyddiaeth Cymru, pa fath o blaid yw e, a beth yw'r dyhead y blaid ar gyfer yr etholiadau i ddod? Inspired by the poem ‘Hon' by T H Parry Williams and its famous first line ‘What do I care for Wales?', we ask - after nearly a quarter century of devolution and after 99 years of its existence - what do I care for the Party of Wales?. What is the role of the party in Welsh politics, what sort of party is it, and what are its aspirations for the coming elections? Ein Panel / Our panel: Sioned Williams AS - Aelod Plaid Cymru dros Gorllewin De Cymru / Plaid Cymru MS for South Wales West Yr Athro Richard Wyn Jones - Cyfarwyddwr, Canolfan Llywodraethiant Cymru / Director, Wales Governance Centre Diolch yn fawr i Brifysgol Caerdydd am cynnal y digwyddiad / Thanks to Cardiff University for hosting the event. Os ti'n joia'r pod yma, tanysgrifiwch yn dy hoff app podlediadau neu YouTube i derbyn y pods i ddod yn awtomatig.
Pigion Dysgwyr – Stacey Mae Shelley Rees a Rhydian Bowen Phillips wedi bod yn cadw sedd Emma Walford a Trystan Ellis Morris yn gynnes dros yr wythnosau diwetha ac yn ddiweddar caethon nhw air gydag un ddysgodd Gymraeg 25 mlynedd yn ôl. Stacey Blythe yw ei henw hi, mae hi'n storïwraig ac yn gerddor sy'n dod o Birmingham yn wreiddiol ond sy'n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn... Storïwraig Storyteller (female) Cerddor Musician Tmod Ti'n gwybod Cyfansoddwraig Composer (female) Ceinciau Branches Bodoli To exist Enaid Soul Pigion Dysgwyr – Eiry Palfrey Stacey Blythe yn fanna yn dal yn frwd dros y Gymraeg ar ôl ei dysgu 25 mlynedd yn ôl. Mae llyfr newydd ei gyhoeddi gan Eiry Palfrey sy'n sôn am hanes a thraddodiad dawnsio gwerin yng Nghymru. Llwybrau'r Ddawns yw enw'r llyfr, a dyma Eiry yn sôn wrth Nia Parry, oedd yn cadw sedd Aled Hughes yn dwym yr wythnos diwetha, am gefndir cyhoeddi'r llyfr Brwd Enthusiastic Dogfen Document Cyfrifol Responsible Dow dow Very slowly Dallt y dalltings Knowing the ins and outs Hoelion wyth Eminent people Adfer To restore Aelwydydd Homes Pigion Dysgwyr – Dwyeithrwydd Bach o hanes dawnsio gwerin yng Nghymru yn fanna gan Eiry Palfrey, awdures Llwybrau'r Ddawns. Roedd ymchwil diweddar yn dangos bod gan unigolion oedd yn ddwyieithog sgiliau cof gwell na phobl oedd yn unieithog, ond dyw hi ddim mor syml â hynny yn ôl Dr Peredur Glyn Webb-Davies. Dyma fe'n sôn am yr unig elfen o'r ymchwil sy'n dangos bod cof gwell gan bobl ddwyieithog na'r rhai sy'n gallu siarad un iaith yn unig... Ymchwil Research Dwyieithog Bilingual Llefaru To speak Cymhleth Complicated Cadarnhau To confirm Pigion Dysgwyr – Elin Maher Ond wrth gwrs mae sawl mantais dros fod yn ddwyieithog on'd oes yna? Yn enwedig yn Nghymru'r dyddiau hyn. Mae Elin Maher yn dod o Gwm Tawe'n wreiddiol ond yn byw yng Nghasnewydd gyda'i theulu ers ugain mlynedd. Buodd hi'n gweithio'n galed dros y blynyddoedd yn datblygu addysg Gymraeg, a'r Gymraeg o fewn y gymuned, yng Ngwent. Hi hefyd oedd gwestai Beti George ar Beti a'i Phobol wythnos diwetha a dyma hi'n sôn am ambell i her oedd rhaid ei hwynebu wrth ymladd dros addysg Gymraeg yn y Sir. Her A challenge Safleoedd Sites Agwedd Attitude Cynghorwyr Councillors Ddim o reidrwydd Not necessarily Brwydr A fight Dealltwriaeth Understanding Heb os nac oni bai Without doubt Cydnabod To acknowledge Dychymyg Imagination Pigion Dysgwyr – Adri A diolch byth am bobl fel Elin sy'n dal i frwydro dros addysg Gymraeg on'd ife? Mae Heledd Cynwal wedi bod yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes yn ddiweddar, a dydd Mercher diwetha gwahoddodd hi ddysgwraig Cymraeg o'r Iseldiroedd sef Adri Witens ar ei rhaglen. Mae Adri yn byw mewn tref fechan ger dinas yr Haag a dysgodd Gymraeg ar ôl iddi hi ymweld ag Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen ddechrau'r 80au. Dyma hi'n sôn am daith awyren ddiddorol gaeth hi yn y gorffennol... Iseldiroedd Netherlands Anaddas Unsuitable Tanwydd Fuel Suddo To sink Arfordir Coastline Creigiau Rocks Darlledu To broadcast Doniol Funny Pigion Dysgwyr – Dianne Roberts On'd yw Atri'n gymeriad a hanner? Dianne Roberts yw Trysorydd Sioe Arddwriaethol Llangernyw ger Llanrwst. Eleni mae'r Sioe yn dathlu ei bod wedi cael ei chynnal am 175 o flynyddoedd. Dyma Dianne i sôn mwy.. Sioe arddwriaethol Horticultural show Annog To encourage Hen bryd About time Hud a lledrith Magic
Pigion Dysgwyr – Hiraethog Mae yna ymgyrch ymlaen ar hyn o bryd gan Twristiaeth Gogledd Cymru i ddenu ymwelwyr i ardal Hiraethog yng ngogledd Cymru. Sara Gibson oedd yn cadw sedd Aled Hughes yn gynnes wythnos diwetha wrth i Aled gymryd gwyliau bach ar ôl yr Eisteddfod. Dyma Eifion Jones o Lansannan, yn siarad â Sara am yr ardal arbennig hon Ymgyrch Campaign Denu To attract Ywen Yew Cynaliadwy Sustainable Murluniau Murals Cerflun Statue Taflunydd Projector Pererinion Pilgrims Treffynnon Holywell Pigion Dysgwyr – Brechu Disgrifiad o ardal Hiraethog yn fanna gan Eifion Jones. Gyda'r sôn bod straen newydd o Covid wedi ymddangos cafodd Beti George sgwrs ar Beti a'i Phobol gyda meddyg teulu ddaeth i amlygrwydd ar ddechrau'r pandemig. Chwaraeodd Dr Eilir Hughes ran bwysig wrth geisio rheoli Covid-19 yn ei gymuned. Cafodd ei enwebu am ei waith ar gyfer un o wobrau Dewi Sant a dyma Beti yn ei holi … Amlygrwydd Prominance Enwebu To nominate Sefydlu To establish Brechu To vaccinate Pellter Distance Rhwystredigaeth Frustration Darparu To provide Cyflawnoch chi gampweithiau You achieved great things Gwirfoddolwyr Volunteers Herio To challenge Pigion Dysgwyr – Drws y Coed Gan obeithio na fydd rhaid i Dr Eilir Hughes gyflawni campweithiau tebyg yn y dyfodol agos on'd ife? Yr wythnos diwetha ar raglen Dei Tomos aeth Dei â'r gwrandawyr ar daith i ardal Drws y Coed yn Eryri. Dyma Bob Morus yr hanesydd lleol i sôn am rywbeth ddigwyddodd i gapel Drws y Coed yn 1892 Anferthol Huge Ailadeiladu To rebuild Difrod Damage Addoliad Worship O'r herwydd As a consequence Oedfaon Services Anghydffurfiol Nonconformist Olion Remains Amlinell Outline Helaethu To extend Pigion Dysgwyr – Eisteddfod 1956 Bob Morus oedd hwnna'n adrodd hanes capel Drws y Coes gyda Dei Tomos. Gyda'r miloedd erbyn hyn wedi gadael Boduan ac Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, mae yna edrych ymlaen mawr at Eisteddfod 2024 yn Rhondda Cynon Taf. Dydy'r Eisteddfod ddim wedi bod yn yr ardal honno ers 67 o flynyddoedd. Aberdâr yng Ngwm Cynon oedd y lleoliad ym 1956, ac ar Dros Frecwast yr wythnos diwetha buodd Alun Thomas yn siarad â rhai o drigolion y cwm oedd yno bryd hynny, gan gynnwys yr actores Gaynor Morgan Rees cafodd ei magu yn yr ardal. Oedd yr eisteddfod honno'n wahanol i eisteddfodau'r dyddiau hyn tybed? Trigolion Residents Dawnsio gwerin Folk dancing Ymgasglu To congregrate Emynau Hymns Cerflun Statues Seremoni cyhoeddi Proclamation ceremony Profiad gwefreiddiol A thrilling experience Cymeradwyo Applauding Bythgofiadwy Unforgettable Pigion Dysgwyr – Dill Jones Wel mae'n amlwg bod Gaynor Morgan Rees , a dw i'n siŵr llawer iawn o drigolion Rhondda Cynon Taf yn edrych ymlaen yn arw at y Steddfod. Dych chi wedi clywed am Dill Jones o Gastell Newydd Emlyn? Wel yr wythnos diwetha roedd hi'n ganrif ers iddo fe gael ei eni. Roedd e'n feistr ar y piano ac yn enwedig ar arddull y Stride sef math o jazz oedd yn boblogaidd yn 20au a 30au'r ganrif ddiwetha. Dyma'r cerddor jazz Tomos Williams yn sgwrsio gyda Bethan Rhys Roberts ar Bore Sul am fywyd Dill Jones….. Canrif Century Arddull Style Trwy gydol ei yrfa Throughout his career Ymwybodol iawn Very aware Cymreictod Welshness Angerdd Passion Yn gwmws Exactly Crebwyll Creativity Cyd-destun Context Trwytho Immersed Pigion Dysgwyr – Deintyddiaeth Hanes y pianydd jazz Dill Jones yn fanna ar Bore Sul. Dydd Iau diwetha ar Dros Ginio cafodd Gwenllian Grigg gwmni Siwan Phillips, sydd ar ei blwyddyn ola'n astudio deintyddiaeth ym Mhrifysgol Bryste. Gofynnodd Gwenllian iddi hi yn gynta faint oedd ei hoedran hi pan benderfynodd mai deintydd oedd hi am fod? Profiad gwaith Work experience Deintyddfa Dentist surgery Amgylchedd gweithio Working environment Mantais Advantage Digwydd bod As it happens Hynod o hir Extremely long Cystadleuol Competitive
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Trystan ab Ifan dw i ac i ddechrau'r wythnos yma … Pigion Dysgwyr – Dechrau‘r Steddfod Buodd Radio Cymru‘n darlledu o Faes yr Eisteddfod ym Moduan drwy'r wythnos diwetha gan ddechrau am ganol dydd ar y dydd Sadwrn cyntaf. Dyma sut dechreuodd y darlledu…… Darlledu To broadcast Cynnau tan To light a fire Cynnal To maintain Blodeuo To flower Eisteddfodwr o fri A renowned Eisteddfod person Hawlio To claim Deuawd Duet Craith A scar Llwyfan Stage Noddi To sponsor Pigion Dysgwyr – Martin Croydon …ac wrth gwrs bydd blas ar sawl darllediad o'r Eisteddfod yn y podlediad wythnos yma, gan ddechrau gyda Martyn Croydon enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddeg mlynedd yn ôl. Daw Martin o Kidderminster yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae o'n byw ym Mhen Llŷn. Gwobr Prize Enwebu To nominate Rowndiau terfynol Final rounds Gwrthod To refuse Cyfweliad Interview Beirniaid Judges Cynifer So many Cyfathrebu To communicate Ysbrydoli To inspire Cynulleidfa Audience Terfynol Final Pigion Dysgwyr – Dysgwr y Flwyddyn Ac roedd Martyn yn un o'r criw fuodd yn brysur iawn yn cynnal gweithgareddau Maes D yn Steddfod Boduan. Ond pwy enillodd gwobr Dysgwr y Flwyddyn eleni tybed? Roedd pedwar ymgeisydd ardderchog wedi cyrraedd y rownd terfynol, a dydd Mercher yn yr Eisteddfod cyhoeddwyd mai Alison Cairns yw Dysgwr y Flwyddyn eleni. Daw Alison yn wreiddiol o'r Alban ond mae hi a'i theulu erbyn hyn yn byw yn Llannerchymedd ar Ynys Môn. Dyma hi'n sgwrsio ar Post Prynhawn yn dilyn y seremoni wobrwyo. Y gymuned The community Pigion Dysgwyr – Esyllt Nest Roberts de Lewis A llongyfarchiadau i Alison ar ennill y wobr – dwi'n siŵr bydd hi'n mwynhau ei blwyddyn. Daw Esyllt Nest Roberts de Lewis yn wreiddiol o Bencaenewydd ger Pwllheli ond mae hi erbyn hyn yn byw yn ardal Gymraeg Patagonia, sef Y Wladfa, ac wedi bod yno ers nifer o flynyddoedd. Ar Dros Frecwast yr wythnos diwetha cafodd Kate Crocket gyfle i'w holi hi gan ofyn iddi'n gynta iddi pam aeth hi allan i'r Wladfa yn y lle cynta? Yn y cyfamser In the meantime Annerch To address (a meeting) Y cyfryngau The media Dylanwadu To influence Rhyngrwyd Internet Yn anymwybodol Unaware Pigion Dysgwyr – Cai Erith Ac Esyllt oedd yn arwain Cymru a'r Byd, sef y Cymry sy'n byw ym mhob rhan o'r byd erbyn hyn, yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni Os chwiliwch chi ar BBC Sounds gwelwch raglen arbennig wnaeth Aled Hughes ei recordio dan y teitl Mordaith. Rhaglen yw hi lle mae Aled yn hwylio o amgylch Penrhyn Llŷn yn sgwrsio gyda rhai o drigolion yr ardal. Morwr yw Cai Erith a dyma fe'n sôn ychydig am ei fywyd Penrhyn Peninsula Trigolion Residents Porthladdoedd Ports Yn llythrennol Literally Wedi dy hudo di Has lured you Pigion Dysgwyr - Ffobia Hanes bywyd diddorol Cai Erith yn fanna ar raglen Mordaith. Buodd Catrin Mai yn siarad ag Emma Walford a Trystan Ellis Morris ar eu rhaglen yn ddiweddar. Mae gan Catrin ffobia anarferol iawn… sbyngau, neu sponges! Dyma Emma yn holi Catrin gynta……. Cyffwrdd To touch Colur Makeup Fatha Yr un fath â Trin To treat Nadroedd Snakes Corynnod Pryfed cop Arnofio To float Amsugno To absorb
Pigion Dysgwyr – Lloyd Lewis Gwestai arbennig Bore Sul yn ddiweddar oedd y rapiwr Lloyd Lewis. Mae e wedi perfformio ar y cae rygbi, ar deledu, ac mae e'n falch ei fod e'n Gymro Cymraeg aml-hil. Dyma Lloyd yn sôn wrth Betsan Powys am ei ddyddiau ysgol... Yn ddiweddar Recently Aml-hil Mixed-race Amrywiaeth Variety Ystyried To consider Pigion Dysgwyr - Nofio yn y Seine Y rapiwr o Cwmbrân , Lloyd Lewis oedd hwnna'n sgwrsio gyda Betsan Powys. Cyn bo hir mae'n bosib bydd pobl Paris yn gallu nofio yn yr afon Seine. Mae can mlynedd union wedi mynd heibio ers i nofio yn yr afon gael ei wahardd am fod gwastraff o bob math yn peryglu iechyd y nofwyr. Dyma Ceri Rhys Davies sy'n byw ym Mharis yn sgwrsio gyda Dewi Llwyd ar Dros Ginio wythnos diwetha…... Gwahardd To ban Deugain mlynedd 40 years Cydnabyddiaeth Acknowledgement Brwnt Budr Yn raddol Gradually Mynd i'r afael To get to grips Breuddwyd gwrach Pipe dream Pigion Dysgwyr – John Eifion Jones Ac ers y sgwrs honno daeth y newyddion bod nofio yn y Seine wedi cael ei wahardd eto oherwydd lefel y gwastraff yn yr afon. Gobeithio bydd popeth yn iawn erbyn Gemau'r Olympaidd on'd ife? Yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 1999 enillodd y tenor John Eifion Jones y Rhuban Glas i gantorion. Mae'r Rhuban Glas neu Gwobr Goffa David Ellis yn 80 oed eleni ac ar Raglen Bore Cothi wythnos diwetha gofynnodd Shan Cothi i John Eifion Jones, beth oedd e'n gofio am yr adeg enillodd e'r gystadleuaeth…… Gwobr Goffa Memorial Prize Y to ifanc The young generation Y darnau gosod The set pieces O'r neilltu To one side Unawd Solo Nefolaidd Heavenly Dehongli To interpret Pigion Dysgwyr – Bara Caws Y tenor John Eifion Jones oedd hwnna'n sôn am yr adeg enillodd e'r Rhuban Glas, ond pwy fydd yn ennill y Rhuban yn Eisteddfod Boduan tybed? Ac yn ystod wythnos y Steddfod eleni, bydd Cwmni Theatr Bara Caws yn perfformio Dinas, sef gwaith un o ddramodwyr enwoca'r ardal sef Wil Sam Jones. Ysgrifennodd Wil Sam y ddrama ar y cyd â'r awdur Emyr Humphreys. Aeth Ffion Dafis draw i holi Betsan Llwyd, Cyfarwyddwr Artistig y cwmni, gan ofyn iddi hi pam penderfynodd y cwmni berfformio Dinas yn y Steddfod…. Enwoca Most famous Ar y cyd â In collaboration with Cyfarwyddwr Artistig Artistic Director Talu teyrnged To pay tribute Anghyfarwydd Unfamiliar Yng nghrombil yr adeilad In the depths Euraidd Golden Traddodiad llenyddol Literary tradition Llygad y ffynnon The source (lit: the eye of the well) Diddanu To entertain Pigion Dysgwyr – Alan Whittick Drysau a grisiau amdani felly! Mae dramâu Theatr Bara Caws wastad yn boblogaidd yn yr Eisteddfod a digwyddiad poblogaidd, a phwysig, arall ydy cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn - gwobr sy'n bedwar deg oed eleni. Ac i ddathlu, mae na aduniad mawr o holl enillwyr blaenorol y wobr wedi ei drefnu yn yr Eisteddfod eleni. Un o'r dysgwyr cynta i ennill y wobr hon oedd Alan Whittick, sydd yn byw yn ardal Llangurig ger Llanidloes ym Mhowys. Dyma fe ar Bore Sul yn sgwrsio gyda Betsan Powys Aduniad Reunion Blaenorol Previous Cyflwyno To introduce Ymddiddori To be interested in Trwy gyfrwng Through the medium of Yn anad dim More than anything Pigion Dysgwyr – Rhedeg yn Araf Ac mae pedwar o ddysgwyr gwych yn cystadlu am y wobr – cawn wybod ddydd Mercher pwy sydd wedi ennill Dych chi wedi clywed am y arfer ddiweddara o Redeg yn Araf? Mae Siwan Elenid yn arwain Clwb Rhedeg yn ardal y Bala, a buodd hi'n siarad gyda Jennifer Jones bnawn Mawrth diwetha ar Dros Ginio am yr arfer newydd yma... Hygyrch Accessible Cynhwysol Inclusive Cyfryngau cymdeithasol Social media Oriawr Watch
Pigion Dysgwyr – Deborah Morgante Mae Deborah Morgante yn dod o Rufain yn yr Eidal ac wedi dysgu Cymraeg. Ar Dros Ginio bnawn Mawrth diwetha soniodd Deborah am y gwres tanbaid sydd wedi taro'r Eidal a gwledydd eraill Môr y Canoldir. Dyma Jennifer Jones yn gofyn i Deborah yn gyntaf pa mor brysur oedd Rhufain…lle sydd fel arfer yn llawn twristiaid….. Gwres tanbaid Intense heat Môr y Canoldir Mediterranean Sea Rhufain Rome Mewn gwirionedd In reality Rhybuddio To warn Oriau mân y bore The early hours Mas Allan Dioddef To suffer Pigion Dysgwyr – Aled Hughes Mi alla I dystio I'r gwres achos ro'n I ar Ynys Sicilly yn ystod yr wythnos. Mae Grayer Palissier yn siaradwraig Cymraeg newydd ac yn byw yn y Wyddgrug. Mae hi'n dod o Ynys Manaw yn wreiddiol a phenderfynodd hi ddysgu Cymraeg pan oedd ei phlant yn fach. Dyma hi'n esbonio wrth Aled Hughes yn ddiweddar pam bod gan y band Daniel Lloyd a Mr Pinc ran fawr i chwarae yn ei phenderfyniad i barhau i ddysgu'r iaith…… Ynys Manaw Isle of Man Parhau To continue Rhoi'r gorau i To give up Anhygoel Incredible Achub To save Gwerthfawrogi To appreciate Pigion Dysgwyr – Adam yn Yr Ardd Llais Daniel Lloyd wedi ysbrydoli Grayer i gario ymlaen gyda'i Chymraeg. Da on'd ife? Dych chi'n tyfu tomatos o gwbl ac wedi gweld tomato bach yn tyfu y tu mewn i domato arall? Dyma Adam Jones neu Adam yn yr Ardd yn esbonio wrth Shan Cothi pam bod hynny'n digwydd….. Ysbrydoli To inspire Planhigyn Plant Y cnwd cynta The first crop Gorfwydo To overfeed Aeddfedu To mature Yn gyson Regularly Bwydo To feed Pigion Dysgwyr – Caryl Dyna ni felly– peidiwch â gorfwydo eich tomatos! Ar ei rhaglen nos Fercher cafodd Caryl Parry Jones air gyda Sion Wyn o Ddinbych. Mae e'n aelod o'r Ford Gron yn y dref ac esboniodd wrth Caryl beth yw cefndir y mudiad Y Ford Gron The Round Table Bodoli To exist Mudiad Rhyngwladol An international movement Rhyw ben Sometime Cymdeithasol Social Achosion da Good causes Gweithgareddau Activities Hwyrach efallai Chwarel Quarry Angenrheidiol Necessary Pigion Dysgwyr – Messi Sion Wyn oedd hwnna'n rhoi ychydig o hanes y Ford Gron yn Ninbych. Mae un o chwaraewyr pêl-droed gorau'r byd, Lionel Messi, wedi ymuno â thîm pêl-droed Inter Miami yn yr Unol Daleithiau. Mae llawer yn ei gyfri'n un o'r pêl-droedwyr gorau erioed ac Ar Dros Frecwast fore Gwener cafodd Dafydd Morgan sgwrs gyda Dafydd Williams sy'n byw yn Miami am sut mae'r ddinas wedi ymateb i'r newyddion yma…. Yr Unol Daleithiau The USA Ymateb To respond Pigion Dysgwyr – Cennin Pedr Dw i'n siŵr bydd hi'n newid mawr i Messi orfod perfformio mewn stadiwm mor fach on' bydd hi? Mae rhai gwyddonwyr yn credu gallai Cennin Pedr fod yn ateb i ran o broblem cynhesu byd eang. Cafodd Catrin Haf Jones sgwrs gyda'r arbenigwr Dr Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth, i gael rhagor o wybodaeth am hyn… Gwyddonwyr Scientists Cennin Pedr Daffodils Cynhesu Byd Eang Global warming Ymchwil Research Gwymon môr Seaweed Heriau Challenges Cynaeafu To harvest Meddiginiaeth Medicine Sylweddau Substances Cynalwadwy Sustainable Gwraidd Root Y diwydiant amaeth The agricultural industry
Pigion Dysgwyr – Bore Sul Mae'r cogydd Tomos Parry o Ynys Môn ar fin agor ei fwyty newydd yn Soho Llundain, ac ar Bore Sul yn ddiweddar cafodd Bethan Rhys Roberts sgwrs gyda fe am ei fenter newydd ……… Cogydd Chef Ar fin About to Dylanwadu To influence Cynhwysion Ingredients Gwair Grass Gwymon Seaweed Crancod Crabs Cynnyrch Produce Pigion Dysgwyr – Trystan ac Emma A phob lwc i Tomos gyda'i fwyty newydd on'd ife? Llwyfan y Steddfod ydy enw sengl newydd y canwr o Fethel ger Caernarfon, Tomos Gibson. Mae e ar hyn o bryd yn fyfyriwr yng Ngholeg Menai, a buodd Tomos yn sôn wrth Trystan ac Emma am y broses o gynhyrchu'r sengl Cynhyrchu To produce Ddaru o gymryd Cymerodd Cerddorion Musicians Cynnwys Including Unigol Individual Trefnu To arrange Profiad Experience Cyfansoddi To compose Braint A privilege Pigion Dysgwyr – Dei Tomos Wel dyna Tomos arall i ni ddymuno pob lwc iddo heddiw – Tomos Gibson o Fethel gyda'i sengl newydd Llwyfan y Steddfod Yn ddiweddar darlledwyd rhaglen arbennig o Brifysgol Caergrawnt. Buodd Dei Tomos yn sgwrsio gyda nifer o'r Cymry Cymraeg sy'n astudio yno, ond yn gynta cafodd air gyda Mari Jones sy'n athro Ffrangeg ag yn gymrawd yng ngholeg Peterhouse. Gofynnodd Dei iddi yn gynta am hanes ei gyrfa…… Darlledwyd Was broadcast Caergrawnt Cambridge Cymrawd Fellow Tafodiaith y Wenhwyseg The South East Wales dialect Safoni To standardise Mam-gu Nain Doethuriaeth PhD Ehangais i I expanded Anogaeth Encouragement Arolygwr Supervisor Pigion Dysgwyr – Aled Hughes Wel ie, mae'n drueni gweld rhai o'r tafodieithoedd yma'n diflannu on'd yw e? Ar Instagram a Facebook mae Cynllun Cofnod 2023 yn ceisio cofnodi enwau llefydd bro yr Eisteddfod eleni. Morwen Jones sydd yn rhedeg y prosiect a chafodd air gyda Aled Hughes ar ei raglen ddydd Mawrth diwetha…… Cofnod A record Pwyllgor celf Art Committee Codi ymwybyddiaeth raising awareness Yn sylfaenol Basically Yn dueddol o Tend to Y galon The heart Penillion a cerddi Verses and poems Atgofion Memories Croesawus Welcoming Mwynhad Enjoyment Pigion Dysgwyr -Aderyn y Mis Ie, on'd yw hi'n bwysig cadw a chofnodi'r hen enwau d'wedwch? Aderyn y Mis ar raglen Shan Cothi y mis yma yw'r Gnocell Fraith Fwya. Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shan yn dwym a gofynnodd hi i'r adarwr Daniel Jenkins Jones sôn yn gynta am gynefinoedd y gnocell … Cnocell Fraith Fwya Great spotted woodpecker Cynefinoedd Habitats Aeddfed Mature Cynrhon Maggots Dychmyga Imagine Tiriogaeth Territory Cyfarwydd Familiar Disgyrchiant Gravity Pigion Dysgwyr – Ifan Evans Daniel Jenkins oedd hwnna'n sôn am y Gnocell Fraith Fwya . Mae Alan Hughes o Bentrefoelas yn 85 mlwydd oed ac wedi hyfforddi nifer fawr o drigolion yr ardal i i yrru ceir. Mae'n debyg mai dim ond 2 berson arall ar draws Prydain sy wedi bod yn hyfforddi yn hirach nag Alan. Dyma fe'n rhoi ychydig o'i hanes ar raglen Ifan Evans ddydd Mercher diwetha Yn dragwyddol All the time
Pigion Dysgwyr – Cerys Hafana Cerys Hafana, y cerddor ifanc o Fachynlleth oedd gwestai Beti George ar Beti a'i Phobol wythnos diwetha. Mae hi'n chwarae'r delyn ers pan oedd hi'n 7 mlwydd oed. Daeth hi i Fachynlleth i fyw yn blentyn bach o ddinas Manceinion. Dyma hi'n sôn am sefyllfa byd cerddoriaeth werin yng Nghymru, ymhlith pobl ifanc. Cerddor Musician Telyn Harp Ymhlith Amongst Offeryn Instrument Cerddoriaeth (g)werin Folk music Mae'n ddilys It's valid Mynegi eich hunain To express yourselves Llawysgrifau Manuscripts Plant yn eu harddegau Teenagers Ysbrydoliaeth Inspiration Pigion Dysgwyr – Cernyweg Y cerddor Cerys Hafana oedd honna'n sgwrsio gyda Beti George. Enillodd Matt Spry wobr Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018 ac aeth ymlaen i fod yn diwtor Cymraeg gyda Phrifysgol Caerdydd. Mae'n dod o Aberplym neu Plymouth yn wreiddiol, ac nawr mae e wedi bod yn dysgu Cernyweg ers tua 8 mis. Wythnos diwetha ar raglen Aled Hughes cafodd Matt air gydag Aled i esbonio pam ei fod wedi mynd ati i ddysgu'r iaith … Cernyweg Cornish language Yn bennaf Mainly Ar y ffin On the border Cysylltu To contact Wythnosol Weekly O gymharu â Compared to Anhawsa Most difficult Yn rheolaidd Regularly Hynod o bwysig Extremely important Pigion Dysgwyr – Talwrn A phob lwc i Matt gyda'r Gernyweg on'd ife? Cystadleuaeth rhwng dau dîm o feirdd ydy'r Talwrn a'r wythnos diwetha y ddau dîm oedd yn cymryd rhan oedd Tir Iarll a'r Glêr, mewn rhaglen cafodd ei recordio yn Neuadd Pontyberem. Dyma Ceri Wyn Jones i osod tasg y limrig….. Dim peryg No danger Barddoniaeth Poetry Gosod tasg Setting the task Unwaith y flwyddyn Once a year ‘Na ryfedd That's strange Awgrymais I suggested Fy ffiol oedd lawn My cup was overflowing Pigion Dysgwyr – Gyrru Dramor Wel dyna ddau limrig doniol on'd ife? P'run enillodd tybed? Dych chi wedi gyrru dramor erioed? Un sydd wedi gwneud yn aml yw arbenigwr moduro Rhaglen Bore Cothi, Mark James. Wythnos diwetha cafodd Mark sgwrs gyda Shan Cothi am beth sydd angen ei gofio pan dych chi'n gyrru ar gyfandir Ewrop. Tramor Overseas Arbenigwr Expert Cyfandir Continent Esgeuluso To neglect Trwydded yrru Driving license Pigion Dysgwyr – Dafydd Morgan Pethau i chi gofio wrth yrru ar gyfandir Ewrop yn fan'na ar Bore Cothi. Awn i gyfandir arall nawr – Awstralia. Mae Dafydd Morgan o bentre Ffarmers yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn byw yn Awstralia ers mis Medi y llynedd. Mae Dafydd wedi bod yn gweithio ar ffermydd y wlad a dyma fe i sôn wrth Ifan Evans am y tywydd yno ar hyn o bryd….. Gaeafau Winters Porfa Pasture Sulwair Silage Plannu To plant Ffrwythlon Fertile Pigion Dysgwyr – Rhys Mwyn Wel dyna ni, nid Cymru sy'n cael y glaw i gyd! Yn y cylchgrawn Far Out mae'r cerddor a'r canwr Paul Weller, fuodd gyda band The Jam, wedi dewis yr albwm Hotel Shampoo gan Gruff Rhys fel un o'i hoff albymau. Ymhlith ei hoff albymau eraill roedd rhai gan y Beatles, Stevie Wonder, Bob Marley a David Bowie. Dyma Rhys Mwyn ar Dros Frecwast fore Iau diwetha'n sôn am gerddoriaeth Rhys a'r Super Furry Animals Tueddu i Tend to Edmygu neu gwerthfawrogi Admire or appreciate Petai Tasai Arbrofol Experimental Cydnabod To acknowledge
Pigion Dysgwyr – Carie Rimes Perchennog Llaethdy Gwyn ym Methesda yng Ngwynedd yw Carie Rimes. Sgwrsiodd Carie gyda Shan Cothi wythnos diwetha, am wobr mae'r llaethdy newydd ei hennill ennill, sef y caws Cymreig gorau yng ngwobrau artisan Gwyl Gaws Melton Mowbray, a hynny am y trydydd gwaith yn olynol. Perchennog llaethdy Dairy owner Gwobr Award Yn olynol In succession Llefrith dafad Sheep's milk Unigryw Unique Tueddu i Tends to Llwyddiant Success Pigion Dysgwyr – Glastonbury A llongyfarchiadau mawr i Laethdy Gwyn am ennill y wobr fawr on'd ife? Ar Dros Ginio yn ddiweddar cafodd Cennydd Davies air gyda'r hanesydd pop Phil Davies. Buodd Phil yn edrych yn ôl dros Ŵyl Glastonbury gafodd ei chynnal yng Ngwlad yr Haf yn ddiweddar……. Gwlad yr Haf Somerset Darnau Pieces Digon rhwydd Easy enough Ro'n i'n synnu braidd I was rather surprised Amau To suspect Denu To attract Fel mae'r sôn Apparently Ei bai hi oedd o It was her fault Pigion Dysgwyr – Dr Owain Rhys Hughes Ddim pawb wedi plesio Phil Davies yn Glastonbury felly! Gwestai Beti George ar Beti a'i Phobol yr wythnos diwetha oedd Dr Owain Rhys Hughes . Mae'n dod yn wreiddiol o Benmynydd ar Ynys Môn, ac esboniodd e wrth Beti ychydig am system o'r enw Synapsis sef meddalwedd sy'n galluogi doctoriaid teulu i gael mynediad i system sy'n siarad gyda'r ysbyty a'r arbenigwyr Meddalwedd Software Galluogi To enable Arbenigwyr Specialists Yn rhad ac am ddim Free of charge Cystadleuaeth Competition Hyd yn oed Even Pigion Dysgwyr – Dros Ginio Dr Owain Rhys Hughes oedd hwnna'n esbonio pam bod Synapsis yn cael ei ddefnyddio yn Lloegr ond ddim yng Nghymru. Mae dwy fyfyrwraig o Ysgol Feddygaeth Caerdydd newydd gyhoeddi podlediad dan y teitl Paid Ymddiheuro. Elin Bartlett a Celyn Jones Hughes ydy eu henwau nhw, a dydd Mawrth diwetha ar Dros Ginio cafodd y ddwy sgwrs gyda Jennifer Jones. Dyma Elin yn gynta i i ddweud pam aeth hi ati i greu'r podlediad Wastad Always Unigol Individual Gwragedd Women Pigion Dysgwyr – Porthcawl Doedd gan Celyn fawr o ddewis cymryd rhan nag oedd? Aeth Caryl Parry Jones â ni i Borthcawl wythnos diwetha yng nghwmni Richard Howe ar gyfer yr eitem 24 awr yn…Dechreuodd Richard drwy sôn am ei fagwraeth yn y dre… Magwraeth Upbringing Ers sawl blwyddyn for a number of years Cefn gwlad The countryside Mas o'm cynefin Out of my habitat Gwylanod Seagulls Heidio To flock Pigion Dysgwyr – Mari Pritchard Richard Howe yn amlwg yn falch iawn o'i wreiddiau ym Mhorthcawl. Cafodd Shan Cothi sgwrs gyda Mari Pritchard ar ei rhaglen yr wythnos diwetha. Mae Mari wedi bod yn brysur ar hyd y blynyddoedd yn hyfforddi ac yn arwain corau yn y gogledd yn ogystal â gweithio ym maes Theatr Ieuenctid. Dyma hi i sôn mwy am ei magwraeth ym mhentre Rhosmeirch ar ynys Môn Cyflawni To achieve Anferthol Huge Meithrin To nurture Dawn Talent Cyfathrebu To communicate Ffin Border Ydy glei of course it is Elwa To gain Heriol Challenging Ysbryd Spirit
Pigion Dysgwyr – Sulwyn Thomas Gwestai gwadd rhaglen Bore Cothi ddydd Llun wythnos diwetha oedd y darlledwr Sulwyn Thomas. Am flynyddoedd lawer roedd gan Sulwyn raglen yn y bore ar Radio Cymru. Roedd e'n dathlu ei ben-blwydd yn 80 yn ddiweddar a gofynnodd Shan Cothi iddo fe beth yw cyfrinach cadw'n ifanc ei ysbryd Darlledwr Broadcaster Cyfrinach Secret Ysbryd Spirit Ffodus Lwcus Cam bihafio Misbehaving Newyddiadurwr Journalist Bant I ffwrdd Dyfalu To guess Pigion Dysgwyr – Ann Ellis Sulwyn Thomas yn fanna'n swnio'n llawer ifancach nag wythdeg oed, a gobeithio iddo fe fwynhau'r dathlu yn Nhŷ Ddewi on'd ife? Ann Ellis yw un o benaethiaid cwmni Mauve Group sydd ar fin cael ei bresenoldeb cynta yng Nghymru. Mae'r cwmni yn helpu busnesau sefydlu mewn gwledydd newydd ar draws y byd. Yn ddiweddar ar raglen Bore Sul sgwrsiodd Ann gyda Bethan Rhys Roberts a dyma hi‘n sôn am sut dechreuodd y cwmni mewn cwpwrdd yn yr Eidal…. Sefydlu To establish Ar fin cael About to have Penaethiaid Heads Hardd Pretty Uwchben Above Pigion Dysgwyr – Richard Hughes Rhyfeddol on'd ife, fel mae'r cwmni bach wedi tyfu i weithio mewn dros gant o wledydd! Richard Hughes o Gaernarfon oedd gwestai gwadd Beti George ar Beti a'i Phobol yr wythnos diwetha. Mae e wedi bod yn gweithio ym maes cyfrifiadureg a mathemateg ers y 60au. Mae'n rhaglennydd cyfrifiadureg ac wedi gweithio ar systemau ym meysydd awyr Heathrow a Charles de Gaulle. Cynhaliodd Beti y sgwrs ar Zoom a gwrandewch ar be sydd gan Richard i ddweud am hynny….. Cyfrifadureg Computer science Rhaglennydd Programmer Yn ddyddiol Daily Arbenigo To specialise Chwedl y Sais As they say in English Addas Appropriate Rhan helaeth The majority Dadansoddi To analyse Pigion Dysgwyr – Ian Parry Mae ieithoedd cyfrifiadureg yn swnio'n llawer mwy cymhleth na'r Gymraeg on'd yn nhw? Buodd Ian Parri'n gweithio fel newyddiadurwr, fel tafarnwr ac fel tiwtor Cymraeg i Oedolion ac nawr mae e newydd gyhoeddi llyfr ar Wyddeldod. Buodd Ian yn gyrru o amglych arfordir Iwerddon am naw wythnos yn ei gartre modur. Dyma fe i sôn mwy am y daith wrth Dei Tomos... Gwyddelod Irishness Y Weriniaeth The Republic Dulyn Dublin Ymestyn To extend Y machlud The sunset Yn ei anterth At its peak Trefniant swyddogol Official arrangement Penrhyn Peninsula Yn ei sgil As a consequence Pigion Dysgwyr – Talwrn Ian Parri oedd hwnna'n sôn am ei daith o gwmpas Iwerddon. Cystadleuaeth rhwng timau o feirdd ydy Y Talwrn a'r wythnos diwetha y ddau dîm oedd yn cymryd rhan oedd Dros yr Aber a Dwy Ochr i'r Bont. Cafodd y rhaglen ei recordio yn Neuadd Bentref Y Groeslon yng Ngwynedd. Dyma Ceri Wyn Jones yn gosod un o'r tasgau ar gyfer y beirdd… Mawl Praise Dychan Satire Casâf Dwi'n casáu Hy Audacious Yr heidiau The swarm Oedi Staying Cyn ymlwybro Before making their way Fe lofruddiaf I will murder Malwod di-frys Unhurried snails Ochneidio Groaning Pigion Dysgwyr – Cor Dysgwyr Ardal Wrecsam Dw i'n falch mai malwod mae Rhys am eu lladd – ro'n i'n poeni am ychydig pwy oedd e'n mynd i fwrw gyda'r rhaw yna! Bore Mercher diwetha ar raglen Shan Cothi cafodd Shan gwmni Pam Evans Hughes. Pam yw arweinydd Côr Dysgwyr Ardal Wrecsam, neu Côr DAW, a dyma hi i esbonio mwy am hanes y côr… Bwrw To hit Rhaw Spade Arweinydd Conductor Cerddorol Musical Trwy gydol fy oes All my life Traddodiadol traditional
Pigion Dysgwyr - Aled Hughes Mae Siop Tir a Môr yn Llanrwst wedi ennill y wobr am siop Pysgod a Sglodion orau Gogledd Cymru gan ddarllenwyr y Daily Post. Aeth Aled Hughes draw i siarad â pherchennog y siop Wyn Williams yn ddiweddar.. Ddaru ni Wnaethon ni Estyniad Extention Yn werth ei weld Worth seeing Llymaid A swig Coelio Credu Gwaith haearn Iron works Gwyrth Miracle Caniatâd Permission Sefyll yn llonydd Standing still (H)wyrach Efallai Pigion y Dysgwyr – Myfanwy Alexander Llongyfarchiadau i Tir a Môr on'd ife? Mae'r bwyd yn swnio'n flasus iawn. Dych chi wedi bod yn Nhrefaldwyn o gwbl? Mae hi'n dref hanesyddol ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac yn dref oedd yn boglogaidd iawn gyda Julie Christie a Salman Rushdie. Dyma Myfanwy Alexander yn dweud mwy wrth Rhys Mwyn... Y ffin The border Hamddenol Leisurely Ling di long At your own pace Awyrgylch Atmosphere Bodoli To exist Pensaerniaeth Architecture Ffynnu To thrive Llonyddwch Tranquillity Cuddio To hide Pigion Dysgwyr – Carwyn Graves Mae Myfanwy Alexander yn amlwg yn meddwl y byd o'r dref fach bert ym Mhowys – Trefaldwyn. Gwestai Beti George ar Beti a'i Phobl yr wythnos diwetha oedd yr hanesydd bwyd Carwyn Graves. Dyma fe i roi ychydig o hanes y crempog ….. Pancos Crempogau Llydaw Brittany Delwedd image Marchnata Marketing Yn sgil hynny Because of that Dydd Mawrth Ynyd Shrove Tuesday Lletygarwch Hospitality Y cynnyrch The produce Anghofiedig Forgotten Hynafol Ancient Pigion Dysgwyr – Sharon Morgan Ie wir, mae'r crempog yn rhy flasus i'w gadw at Ddydd Mawrth Ynyd yn unig , on'd yw e? Buodd yr actor Dafydd Hywel farw yn diweddar ac ar Bore Cothi wythnos diwetha clywon ni'r actores Sharon Morgan, sy'n perthyn i Dafydd, yn edrych yn ôl ar ei yrfa. Dirdynnol Poignant Munud o dawelwch A minute's silence Dan ofalaeth Under the supervision of Ysbrydoliaeth Inspiration Llwyfan Stage Aruthrol Stupendous Darlledu To broadcast Dawn anhygoel Incredible talent Cofiadwy Memorable Pigion Dysgwyr – Caryl Mari Grug oedd yn cadw sedd Shan yn gynnes yn fanna ac yn sgwrsio gyda Sharon Morgan, a bydd colled mawr ar ôl Dafydd Hywel, mae hynny'n sicr. O dro i dro mae Caryl Parry Jones ar ei rhaglen yn ‘treulio 24 awr yn…' sef cyfle i bobl sôn am beth sydd i'w wneud yn rhai o bentrefi a threfi Cymru. Tro Nefyn ym Mhen Llŷn oedd hi yr wythnos diwetha a chafodd Caryl sgwrs gyda Mared Llywelyn am yr hyn sydd i'w wneud yn y dref…. Digwydd bod Happened to be Harddwch Beauty Rhyngwladol International Llongau Ships Penwaig herrings Amgueddfa Forwrol Maritime Museum Pigion Dysgwyr – Dei Tomos Dw i'n siŵr bod Nefyn wedi bod yn brysur iawn yn ystod y tywydd braf yma, mae'n lle hyfryd iawn. Cyn athrawes Gymraeg o Ddinbych yw golygydd newydd cylchgrawn Merched y Wawr sef Y Wawr. Cafodd Dei Tomos gyfle i sgwrsio gydag Angharad Rhys yr wythnos diwetha am ei rôl newydd. Golygydd Editor Rhifyn Edition Cynrychiolydd rhanbarth Regional representative Profiad Experience Golygu To edit Cyfrannu To contribute Croesair Crossword Mewn trafferth In difficulty Ymgymryd â To undertake
Pigion Cofio Amelia Earhart 28.05 Gan fod Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Llanymddyfri wythnos diwetha, y dref honno a Sir Gar oedd thema'r rhaglen archif Cofio gyda John Hardy. Buodd e'n chwilio am hanesion o'r sir a dyma i chi glip bach o raglen “Ddoe yn ôl” o 1983 a Gerald Jones, cyn bennaeth Brigâd Dan Sir Gaerfyrddin yn llygad dyst i Amelia Earhart yn glanio ym Mhorth Tywyn o'r America yn 1928. Llygad dyst Eye witness Arbenigo To specialise Lodes Merch Ehedeg Hedfan Porth Tywyn Burry Port O bellter From a distance Pigion Bore Sul Nicky John 28.05 Hanesion diddorol am Amelia Earhart yn fanna gan Gerald Jones . Gwestai arbennig Iwan Griffiths ar raglen Bore Sul oedd Nicky John, y gohebydd chwaraeon. Mae hi wedi gweithio ar raglen Sgorio ar S4C ers tua 17 o flynyddoedd, a dyma hi'n sôn am uchafbwyntiau ei gyrfa. Gohebydd Correspondent Uchafbwyntiau Highlights Dychryn To frighten Gwibio heibio Flying past (lit: darting past) Rhyngwladol International Braint Privilege Ar lawr gwlad At grassroots level Pigion Shelley & Rhydian Llyr Ifans 27.05 Wel ma Nicky John wrth ei bodd gyda'i gwaith on'd yw hi? Llyr Ifans oedd gwestai Shelley a Rhydian bnawn Sadwrn. Mae o'n cymryd rhan yn y rhaglen Iaith ar Daith ar S4C ar hyn o bryd yn helpu'r actor Neet Mohan, sydd i'w weld ar Casualty, i ddysgu Cymraeg. Buodd Llyr hefyd yn actio ar Casualty ddwywaith ac wedi dod ar draws Neet yn y gyfres... Cyfres Series Digwydd bod It so happened Bellach By now Awydd Desire Gweithgareddau Activities Carchar Rhuthun Ruthin Gaol Anhygoel Incredible Synau Sounds Pigion Bore Cothi Marlyn Samuel 29.05 A tasech chi eisiau gweld pa mor dda yw Llŷr fel tiwtor mae'n bosib ei weld yn dysgu Neet at S4C Clic. Elain Roberts enillodd Fedal Ddrama Eisteddfod yr Urdd eleni , ond cafodd Shan Cothi sgwrs gyda un o gyn enillwyr y Fedal - yr awdures Marlyn Samuel. Enillodd Marlyn y Fedal yn Eisteddfod yr Urdd Merthyr Tydfil yn 1987. Ei ffug enw oedd ‘Sallad‘ – pam tybed? Wel ‘roedd Marlyn yn ffan mawr o'r opera sebon Dallas, ond tasai hi wedi rhoi Dallas fel enw basai pawb wedi ei hadnabod – felly penderfynodd droi'r enw o gwmpas! 22 oed oedd Marlyn ar y pryd, ac yn gweithio fel Gohebydd Môn a Gwynedd i'r rhaglen radio Helo Bobol Ffug enw Pseudonym Ffodus Lwcus Y flwyddyn cynt The previous year Testunau Syllabus (list of competitions) Cynrychiolydd Representative Fy nghyfnither My female cousin Duwadd annwyl Dear me Rhybudd Warning Dim siw na miw Not a word Pigion Siarcod Jake Davies 29.05 Marlyn Samuel oedd honna'n cofio'r adeg pan enillodd hi Fedal Ddrama Eisteddfod yr Urdd. Y biolegydd Jake Davies, oedd yn sôn am siarcod oddi ar arfordir Cymru ar y rhaglen wyddonol Yfory Newydd. Mae'n gweithio i Gyfoeth Naturiol Cymru ac i Sw Llundain, a dyma fe'n siarad am ei waith yn astudio'r moroedd ym Mhen Llŷn... Cymunedau Communities Gwaith maes Fieldwork Abwyd Bait Mecryll Mackerels Rhywogaethau Species Bad achub Lifeboat Cynefinoedd Habitats Pigion Sara Gibson 31.05 Hawdd iawn gweld bod Jake yn frwd iawn am ei waith on'd yw hi? Bore Mercher roedd Sara Gibson yn cadw sedd Aled Hughes yn dwym. Cafodd hi sgwrs am y pryder ynglŷn â datblygiad deallusrwydd artiffisial. Dyma'r cerddor Lewys Meredydd yn sôn am effaith AI ar greu cerddoriaeth... Brwd Enthusiastic Pryder Concern Deallusrwydd Intelligence Creu Creating Bwrlwm Babble Yn y bôn Essentially Ffynnu To flourish Meddalweddau Software Cynhyrchu To produce
Rhaglen Caryl Parry Jones Ar ei rhaglen wythnos diwethaf, mi gafodd Caryl sgwrs efo Ieuan Mathews o Gwmni Theatr Pontypridd. Mae'r cwmni ar hyn o bryd yn llwyfannu y sioe gerdd Grease. Mi ofynnodd Caryl iddo fo‘n gynta, faint o sioeau maen nhw‘n arfer perfformio bob blwyddyn... Llwyfannu - To stage Sioe gerdd - Musical Cymeriadau - Characters Iesgob annwyl! - Good grief! Y brif ran - The main part Rhaglen Bore Sul Yn 1963 recordiwyd Cymanfa Ganu arbennig yn Neuadd Albert Llundain gyda dros 5,000 o gantorion yn cymryd rhan. Mi roddodd Alun Thomas, cyflwynydd y rhaglen, apêl ar y cyfryngau cymdeithasol am unrhyw un oedd yn bresennol yn y recordiad hwnnw i gysylltu efo fo. Ac yn wir, mi gafodd ymateb gan Non Thomas, sy'n dod o Ferthyr yn wreiddiol, ond sy'n byw yn Hirwaun yng Nghwm Cynon erbyn hyn... Cymanfa Ganu - A hymn singing festival Cyflwynydd - Presenter Cyfryngau cymdeithasol - Social media Ymateb - Response Ymuno â - To join Gwasanaeth sifil - Civil Service Dipyn o fenter - Quite a venture Profiad - Experience Dych chi'n gallu dychmygu - You can imagine Y wefr - The thrill Rhaglen Trystan ac Emma Mi fuodd Casi ac Elen o Ysgol Treganna, Caerdydd yn ddigon lwcus yn ddiweddar i dderbyn llythyr arbennig iawn yn y post. Roedden nhw wedi anfon llythyr at y naturiaethwr a'r darlledwr enwog David Attenborough. Mi ofynnodd Trystan ag Emma i'r ddwy pam penderfynon nhw anfon llythyr ato fo... Darlledwr- Broadcaster Yn ddiweddar - Recently Arwr - Hero Cyflwyniad - Presentation Brathu - To bite Sefydlu - To establish Baswn i'n tybio - I would assume Rhaglen Ar Blât Y ddarlledwraig Siân Thomas oedd gwestai Beca Lyne-Pirkis ar ei chyfres yr wythnos diwethaf. Dyma Sian yn sôn am wyliau gwahanol iawn gafodd hi yn y gorffennol... Mis mêl - Honeymoon Sa i'n gwybod - Dw i ddim yn gwybod Wedi gweini ar iâ - Served on ice Trwchus - Thick Amrwd - Raw Cig carw - Venison Anhygoel - Incredible Pert - Pretty Yn go gloi - Quite quickly Rhaglen Aled Hughes Mae Tegan Rees o Gwm Rhondda yn fyfyrwraig newyddiaduraeth, ond mae hi hefyd wedi cynrychioli Cymru mewn Bowlio Lawnt. Wythnos diwethaf ar raglen Aled Hughes mi ofynnodd Nia Parry (a oedd yn cyflwyno yn lle Aled Hughes) i Tegan, pryd dechreuodd hi chwarae bowls... Newyddiaduraeth - Journalism Cynrychioli - To represent Wastad - Always Chdi - Ti Pryderus - Concerned Cyffro - Excitement Braslun - Outline Rhaglen Caryl Parry Jones Ar Ynys Môn mae na griw o ferched yn nofio'n gyson yn y môr drwy'r flwyddyn hyd yn oed yng nghanol y gaeaf. Maen nhw'n nofio dan faner Nofwyr Titws Tomos Môn!! Dyma un ohonyn nhw, Sian, i sôn mwy wrth Caryl Parry Jones… Yn gyson - Regularly Hyd yn oed - Even Baner - Flag Titw Tomos - Blue Tit Calon - Heart Trochiad - Ducking Canmol - Praise
Pigion Dysgwyr - Catherine Woodword Wythnos diwetha ar ei rhaglen cafodd Shan Cothi sgwrs gyda Catherine Woodward. Roedd Catherine yn dathlu ei phen-blwydd yn 80 oed a dyma Shan yn gofyn iddi hi sut yn union oedd hi am ddathlu'r pen-blwydd arbennig hwn... Dathliadau Celebrations Cysylltu To contact Becso Poeni Gwisgo lan To dress up Noswaith i ryfeddu A wonderous evening Casglu To collect Bryd ‘ny At that time Pigion Dysgwyr – Betty Williams … a gobeithio bod Catherine wedi cael parti gwych on'd ife? Gwestai Beti George ar Beti a'i Phobl oedd cyn Aelod Seneddol Conwy Betty Williams. Dyma hi'n esbonio wrth Beti pam aeth hi i fyd gwleidyddiaeth yn y lle cynta… Cyngor Plwyf Parish Council Cludiant Transport Pwyllgorau Committees Yr awydd i gynrychioli The desire to represent Araith Speech Oedi To hesitate Mynwentydd Cemeteries Llwch llechen Slate dust Cydymdeimlad Sympathy Deddfu To legislate Pigion Dysgwyr – Ifan Gwilym Y cyn aelod seneddol Betty Williams oedd honna'n sgwrsio gyda Beti George. Dych chi'n credu mewn ofergoelion? Fasech chi'n cerdded o dan ysgol, neu pasio rhywun ar y grisiau? Carl ac Alun fuodd yn cadw sedd Trystan ag Emma yn dwym yn ddiweddar ac ofergoelion ym myd chwaraeon oedd un o'r pynciau buon nhw'n eu trafod ar y rhaglen. Dyma Ifan Gwilym i sôn mwy am hyn… Cyn aelod seneddol Former MP Ofergoelion Superstitions Twym Cynnes Tyfu barf To grow a beard Rownd cynderfynol Semi-final Hylendid Hygiene Y garfan The squad Trwy gydol Throughout Pigion Dysgwyr – Non Parry Ifan Gwilym oedd hwnna'n sôn am ofergoelion byd chwaraeon. Mae cyfres newydd o Ar Blât wedi cychwyn ar Radio Cymru gyda'r cogydd Beca Lyne-Perkis yn cyflwyno. Yn y bennod gynta ddydd Sul Non Parry o'r band Eden oedd y gwestai. Gofynnodd Beca iddi hi beth oedd ei hatgof cynta o goginio… Atgof cynta First memory Glöwr Coal miner Uwchben Above Arogl Smell Gallwn i ddychmygu I could imagine Llanast Mess Prysurdeb Rush Hylif Liquid Unigryw Unique Pigion Dysgwyr – Mullett Non Parry yn fanna'n cofio am brofiadau coginio ei phlentyndod. Beth sydd gan Rod Stewart, Paul McCartney, Dolly Parton a Miley Cyrus yn gyffredin…wel buon nhw i gyd gyda mullet ar un adeg. Dydd Mawrth diwetha ar Dros Ginio cafodd Jennifer Jones sgwrs gyda'r hanesydd ffasiwn Sina Haf i sôn am yr adfywiad sy wedi bod yn y steil gwallt arbennig yma…. Adfywiad Revival Eitha trawiadol Quite striking Poblogaidd Popular Gwar Nape of the neck Y ganrif gyntaf The first century Cerflun Statue Amlwg Obvious Pigion Dysgwyr – Twm Morys Wel y mullet amdani felly!! Bore Iau ar raglen Aled Hughes buodd y bardd Twm Morys yn rhoi ychydig o hanes y siantis môr. Ond oes yna draddodiad canu siantis yng Nghymru? Dyma Twm i sôn mwy… Traddodiad Tradition Perchnogion llongau Ship owners Cyflogi To employ Cyfandaliadau Shares Milwyr Soldiers Emynau Hymns Mor gyfarwydd â nhw So familiar with them Gwerin Folk Amrywio To vary