POPULARITY
Economi Cymru annibynnol - arian a ffiniau. Sgwrs am ba arian cyfred byddai Cymru annibynnol yn defnyddio a'r pwnc, gweithwyr traws-ffiniol a mwy! Luke Fletcher AS, Llefarydd Plaid Cymru ar Economi ac Ynni a Jonathan Evershed, Ymgynghorydd Ymchwil gyda Phlaid Cymru sy'n trafod hyn a mwy gyda Siôn Jobbins. Dolenni: * Tystiolaeth a gyflwynwyd i'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru gan Grŵp Senedd Plaid Cymru: https://assets.nationbuilder.com/plaid2016/pages/12505/attachments/original/1701942961/JE_Cyflwyniad_i_Gomisiwn_Cyfansoddiadol_22.11.23_%28Cy%29.pdf * The Projected Public Finances of an Independent Wales - Prof. John Doyle: https://assets.nationbuilder.com/plaid2016/pages/12503/attachments/original/1701353413/The_Projected_Public_Finances_of_an_Independent_Wales_John_Doyle.pdf * Currency Options for an Independent Wales: https://assets.nationbuilder.com/plaid2016/pages/12503/attachments/original/1701353412/Laurentjoye_2023_-_Currency_options_for_an_independent_Wales.pdf * Wales and its Borders: https://assets.nationbuilder.com/plaid2016/pages/12503/attachments/original/1701353414/Wales_and_its_Borders_final_complete.pdf * Adroddiad terfynnol Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: https://www.llyw.cymru/comisiwn-annibynnol-ar-ddyfodol-cyfansoddiadol-cymru-adroddiad-terfynol
Llwyd Owen yw'r gwestai diweddaraf ar Colli'r Plot wrth i Manon clywed am y nofel ddiweddaraf, Helfa.Pam mae Llwyd yn ysgrifennu? Beth yw'r dylanwadau arno? Sut mae creu nofelau tywyll llawn tensiwn?Sgwrs difyr a hwyliog.RHYBUDD: IAITH GREF!
Croeso i bennod y Mis Du o bodlediad Clera. Yn gydymaith i chi wrth i'r nosweithi dywyllu'n gynt bydd arlwy difyr o'r byd barddol Cymraeg. Cawn sgwrs ddifyr a Gorffwysgerdd gan Clare E. Potter a fu'n fardd y mis ar Radio Cymru. Sgwrs ddifyr hefyd gyda'r Prifardd-Feuryn Twm Morys am ei gyfrol newydd a ddaeth allan dros yr haf, 'Y Clerwr Olaf' yn ogystal â sgwrs gyda Twm,y Meuryn, a'r Islwyn newydd yn Ymryson Barddas, Gruffudd Antur. Hyn...a mwy!!
Dafydd Llewelyn sydd yn sgwrsio gyda Fflur Dafydd.Awdur sydd yn ysgrifennu nofelau ac ar gyfer y sgrin. Cawn glywed profiadau Fflur fel awdur, hanes The Library Suicides a 'tips' ar gyfer sgwennwyr newydd.
Yn y bennod hon bydd Dilwyn Evans, milfeddyg fferm a seren Clarkson's Farm yn ymuno â Rhian Price. Cafodd Dilwyn ei fagu ar fferm laeth ger Tregaron ac mae wedi bod yn filfeddyg fferm ers dros 30 mlynedd ar ôl graddio o Ysgol Filfeddygaeth Caeredin yn 1986 . Mae wedi treulio'r rhan fwyaf o'i yrfa yn gweithio fel milfeddyg cymysg yn Bridge Vets yn Swydd Gaerloyw ar ôl cyfnod byr yng Ngogledd Cymru. Gwnaeth Dilwyn ei ymddangosiad cyntaf ym mis Chwefror ar y gyfres deledu boblogaidd Clarkson's Farm.
Bydd Cennydd Jones, darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth a ffermwr rhan amser yn cael cwmni Dr Iwan Owen. Mae Iwan yn enw adnabyddus i lawer o gyn-fyfyrwyr Amaeth Prifysgol Aberystwyth, lle bu'n ddarlithydd rheolaeth glaswelltir am ddeugain mlynedd cyn iddo ymddeol yn llawn-haeddiannol yn 2021. Yn y rhifyn hwn fe gawn glywed am ei daith i fod yn ddarlithydd yn WAC (Welsh Agricultural Collage), pam fod gwneud gradd neu addysg bellach yn ddefnyddiol mewn diwydiant y mae nifer yn ei ystyried fel un ymarferol. Fe gawn hefyd gyfle i glywed ei argraffiadau am ddyfodol amaeth yng Nghymru.
I fyd gwleidyddiaeth wythnos hon ar yn podlediad a sgwrs ddifyr dros ben gydag aelod seneddol Plaid Cymru ar gyfer Canol De Cymru, Heledd Fychan. Yn wreiddiol o Ynys Môn, mae Heledd yn byw ym Mhontypridd bellach ac yn cynrychioli'r ardal yn y senedd. Sgwrs am ei gyrfa, ei haddysg, dylanwadau, gwleidyddiaeth, y senedd, ei hangerddau a llawer mwy, yn ogystal â chwis am Bonty a 10 cwestiwn chwim . Diolch o galon iddi am ei hamser! Unwaith eto, sgwrs gyda pherson deallus, difyr, a diddorol!
Rhif 3 yng Ngyfres Caban a drefnwyd gan YesCymru Bro Ffestiniog. Recordowyd mewn noson arbennig gyda Gwern Gwynfil, Catrin O'Neill ac MC Geraint ‘Panorama' Thomas ar 31/3/2023, yn Caffi Antur Stiniog. Yn Gymraeg/in Welsh.
Maint o actorion, yn enwedig rhai sy'n siarad Cymraeg, sy di bod ar nid yn unig Eastenders, ond Coronation Street hefyd!? Yn ogystal â bod yn wyneb cyfarwydd iawn ar S4C wrth gwrs, ma'r actor Richard Elis, wedi bod yn actio yn y ddwy iaith ers rhai blynyddoedd bellach. Ond maint oedd yn gwybod mai Richard oedd y llais Cymraeg yn Big Brother? Sgwrs wych gyda'r gwr o Sir Gâr am ei fagwraeth, addysg, actio, ei yrfa amrywiol a lliwgar a llawer mwy.
Angharad Tomos yn siarad mewn noson a drefnwyd gan YesCymru Bro Ffestiniog. Cyfres 5 Rhaglen 7. (Yn Gymraeg / In Welsh)
Recordiad o sgwrs Myrddin ap Dafydd a drefnwyd gan YesCymru Bro Ffestiniog. Cyfres 5 Pennod 5.
Un o'r bobl fwyaf ffeind a gweithgar ac un o'r cyflwynwyr mwyaf naturiol ar S4C sy'n wraig gwadd ar y podlediad wythnos hon. Meinir Howells neu i nifer, Meinir Ffermio. Yn ffarmwraig frysur, yn fam ac yn wraig yn ogystal ag un o gyflwynwyr y gyfres Ffermio, mi roedd hi'n bleser cael sgwrsio â hi, a ninnau'n nabod ein gilydd ers blynyddoedd bellach. Sgwrs gwbl naturiol am ei gyrfa, magwraeth, cyflwyno, Brexit, Mudiad y ffermwyr ifanc ac wrth gwrs, ffermio! Hefyd, cwis a 10 cwestiwn a lot o hwyl gydag yffach o gymeriad!
Sgwrs Ddifyr Ddeallus Mewn Tafarn... ar ôl pymtheg peint. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:The Maze Runner - James DasherLlyfr Bach y Tŷ Bach - gol Bethan GwanasMinffordd: Rhwng Dau Draeth – gol Aled Ellis a Nan GriffithsShuggie Bain – Douglas StuartA Thousand Ships - Natalie HaynesThe Boat - Clara Salaman Bwrw Dail - Elen Wyn Darogan - Siân Llywelyn Llyfr y Flwyddyn - Mari EmlynRebel Skies - Ann Sei LinAnd Away … - Bob MortimerA Terrible Kindness - Jo Browning WroeWitches, James I and the English Witch-Hunts - Tracy BormanCalum's Road - Roger HutchinsonGirl, Woman, Other - Bernardine EvaristoY Llong - Irma ChiltonGwirionedd - Elinor Wyn ReynoldsMy Life as an Alphabet - Barry JonsbergThe Illness Lesson - Clare BeamsChwant - AmrywiolThe Midnight Library - Matt HaigNormal People - Sally RooneyDark Pines - Will Dean
Talent a pherson hyfryd arall ar ail bennod 2023 o'r podlediad wythnos hon. Elin Parisa Fouladi o Gaerdydd ac o dras Gymreig a Iranaidd. Mae Elin yn canu ac yn cyfansoddi ei hun ac yn gwneud enw i'w hun ar y sin gerddoriaeth yng Nghymru. Sgwrs gwbl naturiol ganddi am ei magwraeth, ei henw, perfformio a chyfansoddu a lot o hwyl gyda'r 10 cwestiwn a'r cwis! Diolch i Elin neu Parisa, am ei hamser.
Blwyddyn newydd dda i chi gyd a gobeithio bod pawb yn iach ac yn edrych ymlaen at 2023!? A pha well i ddechrau tymor newydd o Cymeriadau Cymru na gyda fy ngŵr gwadd arbennig iawn. Y cerddor, canwr a chyfansoddwr ac un o'r bobl fwyaf clên dwi erioed di siarad efo, Yws Gwynedd! ...ie, go iawn, y lej Yws Gwynedd!!!! Sgwrs wych am ei fagwraeth, ei yrfa, cerddoriaeth, canu a gigio a phêl droed...lot o bêl droed!
Cynhyrchydd, actifydd, rheolwr a sylfaenydd a gwr dylanwadol dros ben, Berwyn Rowlands, sydd ar y podlediad wythnos hon. Sgwrs hynod o ddifyr ag onest am fywyd Berwyn, ei ddylanwadau, ei waith a'i holl gyflawniadau, The Iris Prize, yr 80'au, Sgrîn, a llawer llawer mwy. Mae'n bleser cael rhywun fel Berwyn ar y podlediad. Gwr dylanwadol iawn ym myd busnes, sefydliadau LGBTQ+, a chwmnïau cyfryngau a ffilmiau........ag un sy'n hoffi siarad!
Y cyfansoddwr a'r cerddor Robat Arwyn sy'n sgwrsio â fi wythnos hon. Talent go iawn sy di ysgrifennu caneuon ar gyfer corau ac unigolion di-ri! Sgwrs hynod o ddiddorol am ei waith a'i yrfa, ei ddylanwadau, cyfansoddi, corau a llawer mwy, yn ogystal â bach o hwyl efo cwis am gyfansoddwyr ar 10 cwestiwn chwim!
Fi wrth fy modd yn siarad â phob un o'r gwesteion ar Cymeriadau Cymru ond wythnos hon, nes i RILI fwynhau! Sgwrs ddifyr, ddoniol, onest a diddorol gyda'r actor, dramodydd, sgriptiwr a brenhines drag, Alun Saunders aka Connie Orff. Lot o chwerthin a sgwrs am bopeth o theatr a theledu, i drag, i'r iaith Gymraeg a llawer mwy. Joiwch!
Sgwrs efo Cerian Griffith, un o gyflwynwyr Capital Cymru
Sgwrs gyda'r ffermwr, Dan Jones o'r Gogarth am ei daith i Latfia i astudio ffermio
Mae'r 5 ohonom ni yn gyffrous am y llyfrau dan ni wedi darllen ac mae Manon wedi ail-ddarganfod ei mojo darllen.Sgwrs ddifyr wrth i ni drio cael term Cymraeg am Cultural Appropriation yn y Gymraeg.Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:5ed Gainc y Mabinogi - Peredyr GlynSwansong - Jill LewisDwy Farwolaeth Endaf Rowlands - Tony Bianchi Ras Olaf Harri Selwyn - Tony BianchiTwll Bach Yn Y Niwl - Llio MaddocksFour Thousand Weeks - Oliver BurkemanYsbrydion - Elwyn Edwards5, Stryd Y Bont - Irma ChitonRun Rose Run - Dolly Parton a James PattersonThe Island - Ragnar JonassonPrawf Mot - Bethan GwanasCries Unheard: The Story of Mary Bell - Gitta Sereny
Dafydd Llewelyn sydd yn sgwrsio gyda Megan Angharad Hunter.Awdur y nofel Tu ôl i'r Awyr, enillydd gwobr Llyfr Y Flwyddyn 2021.
Sgwrs efo Dewi Fôn Evans, Gwneuthurwr Ffilmiau o Fôn.
Y gantores a'r gyfansoddwraig Lowri Evans yw fy ngwraig gwadd wythnos hon a thalent go iawn unwaith eto. Sgwrs hyfryd arall am gyrfa, cerddoriaeth a chyfansoddu, ardal Trefdraeth/Tudraeth, cwis, 10 cwestiwn a llawr mwy! Diolch o galon i Lowri a diolch yn fawr hefyd i Hannah Beth am fod ar y podlediad wythnos diwethaf.
Cyflwynwraig, dawnswraig, actores ac ''all-rounder'' go iawn sydd ar y podlediad wythnos hon. Efallai mai i wylwyr ifanc S4C fydd Hannah Beth yn gyfarwydd ond ma'r fam ifanc o Lanelli yn aml-dalentog, yn gyfeillgar, positif ac yn......wel, jyst yn berson neis. Sgwrs hyfryd yn siarad am ei gyrfa, ei phrofiad o fod yn fam ifanc iawn, dawnsio ar y bar yn Sbaen, gwisgo pinc, cyflwyno i blant, actio a hyd yn oed helpu pobl ag anableddau. Merch â gwên pob amser yw Hannah ac roedd hi mor braf cael siarad â hi.
Cymeriad, strab a gwd boi sydd ar y podlediad wythnos yma. Yn ddigrifwr, sgrifennwr a chyflwynydd, mae Gary Slaymaker yn wreiddiol o Geredigion fel fi ac yn wyneb cyfarwydd ers rhai blynyddoedd bellach. Chwerthin???!!! Sgwrs a hanner am ei fywyd, ei yrfa, comedi a dylanwadau, sgrifennu a chyflwyno, deg cwestiwn chwim a chwis am gomediwyr! Yffach o bennod ac mi roedd hi'n bleser cael dal lan gyda Slay.....a chael chwerthin a rhegi!!!
Sgwrs efo Bethan Morris, Swyddog Datblygu TIDE (Together in Dementia Everyday)
Actor o fri sydd ar y podlediad wythnos hon ac un sydd wedi actio yn y Gymraeg ar Pobl y Cwm, Dinas a nifer o bethau eraill, ac yn y Saesneg ar Eastenders, Casualty a Judge John Deed. A boi clên tu hwnt. Ond maint ohonoch oedd yn gwybod mai fel canwr opera y dechreuodd ei yrfa? Sgwrs ddiddorol a deallus gan un o wynebau mwyaf cyfarwydd a thalentog Cymru.
Wel, person gwadd gwbl wahanol wythnos hon ar Cymeriadau Cymru. Petai chi di gwylio'r gyfres ar BBC3 ''Young , Welsh and bossing it'', mi fysech chi yn cofio stori'r ferch o'r Wyddgrug, Alaw Hâf, sy'n gwneud bywoliaeth fel model, a gyda dilyniant eang ar safle 'Only fans' (ymysg eraill). Ar ôl graddio yn y gyfraith, fe benderfynodd Alaw i wneud rhywbeth gwbl newydd ac unigryw! Sgwrs ddiddorol dros ben gyda merch hynaws a chyfeillgar a hoffus iawn a diolch iddi hi am fod mor naturiol ag onest am ei gyrfa, ei dewisiadau, yr ochr negyddol a dadleuol o'i gwaith a'i chynlluniau i'r dyfodol.
Dyma Siân Northey yn sgwrsio gyda'r awdur John Roberts.Awdur y nofelau Gabriela ac Yn Fyw Yn Y Cof.
Ffarmwr a chyflwynydd. Neu gyflwynydd a ffarmwr? Y ddau! Alun Elidyr yw fy ngŵr gwadd ar y podlediad wythnos hon a sgwrs ddiddorol, onest, agored a difyr gan foi clên dros ben. Sgwrs am ffermio, actio, cyflwyno, amaethyddiaeth, iselder ysbryd ac iechyd meddwl, 10 cwestiwn chwim a chwis, a hyd yn oed y ''B Word''!!! Diolch o galon iddo am ei amser ac am siarad â fi yn ddiweddar.
Sgwrs efo Tesni Hughes, Cantores a Chyfansoddwraig ifanc o Fôn.
Sgwrs arbennig gyda rheolwr Cymru, Gemma Grainger. Bydd Gemma Grainger yn ymuno â Sioned Dafydd a Dylan ebenezer i edrych nôl ar ei blwyddyn gyntaf wrth y llyw fel rheolwr tîm rhyngwladol y merched ac yn edrych ‘mlaen at flwyddyn cyffrous i bêl-droed Merched yng Nghymru. Bydd Cymru yn cystadlu yn y Pinatar Cup yn Sbaen ym mis Chwefror cyn parhau a'u hymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2023 gyda gêm fawr yn erbyn Ffrainc i ddod ym mis Ebrill. Croeso i'r pod!
Sgwrs efo Sioned Young, Swyddog Cyswllt a Chefnogaeth Hybiau Cymunedol Ynys Môn efo Age Cymru Gwynedd a Môn
Dyma Manon Steffan Ros yn sgwrsio gyda un o'i hoff awduron Geraint Vaughan Jones am y nofel Niwl Ddoe.Mae'r criw yn trafod y nofel yn y bennod Nadolig, Niwl Ddoe a Gadael Lenin.
Roedd Aled yn awyddus i ddysgu mwy am waith Cyngor Llyfrau Cymru. Wrth i'r cyngor dathlu penblwydd yn 60 cafodd sgwrs gyda Arwel Jones (Rocet), Pennaeth Datblygu Cyhoeddi Cyngor Llyfrau Cymru .
O mam fach! Actor a seren ffilm a theledu (yn ogystal â theatr) sydd ar y podlediad wythnos hon. Harry Potter, Wonder woman, Gavin & Stacey, Con Passionata, The Mentalists, Pobl y Cwm a nifer o bethau eraill......neb llai na Steffan Rhodri!!! Dwi'n lwcus iawn i fod wedi cyfarwyddo llais gyda Steffan nifer o weithiau dros y blynyddoedd ac o ni mor lwcus i gael cyfweld â'r actor o Dreforys yn ddiweddar. Sgwrs ddiddorol am ei fagwraeth, ei yrfa, actio, ffilmiau, Gavin & Stacey, 10 cwestiwn chwim a mwy. Ac unwaith eto, diolch yn fawr IAWN i'r gantores a'r gyflwynwraig Elin Fflur am y sgwrs ar y bennod ddiwethaf.
Sgwrs efo Kai Saraceno, yn wreiddiol o'r Ffindir sydd wedi dysgu'r iaith Gymraeg ac yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
Ar ôl cyfweliad a sgwrs wych gan Lisa Pedrick, cantores a chyflwynwraig arall sydd ar y podlediad tro hwn. Neb llai nag Elin Fflur! Gyrfa, perfformio, Cân i Gymru, Dan y lloer, canu a cherddoriaeth, Ynys Môn, The Voice, Jim Steinman, 10 cwestiwn chwim a chwis, a llawer mwy! Sgwrs wych arall! Pa mor lwcus dwi i!
Mae'r podlediad yn ôl yn dilyn saib fach, a gwestai cyntaf yr ail gyfres ydy ffrind mawr i'r pod, Dyfed Whiteside-Thomas. Mae Dyfed yn aelod o Glwb Harriers Eryri, ac yn bennaf gyfrifol am y 'Sesiwn Elltydd' enwog (Thursday Night Hills) yn Llanberis. Mae hefyd yn rhedwr arbennig ac rydan ni'n sgwrsio'n fuan ar ôl iddo redeg marathon wych yng Nghasnewydd gan orffen mewn 2:43:57 - y Cymro cyntaf yn ei gategori oedran, sy'n ei wneud yn bencampwr M45 Cymry yn ein tyb ni, gan bod y ras yn Bencampwriaeth Meistri Cymru eleni (canlyniadau llawn). Sgwrs ddifyr, gyda boi da. Cyfle hefyd i grynhoi canlyniadau rhywfaint o'r rasys sydd wedi bod yn ddiweddar, wrth i bethau ail-ddechau o ddifrif. Lot mwy o hyn yn y gyfres gobeithio. Cerddoriaeth y bennod yma ydy 'Dyma Kim Carsons' gan y grŵp newydd o ardal Pontypridd, Y Dail. Allan yn ddigidol rŵan.
Sgwrs gyda'r swynwraig Mhara Starling am wir ystyr y term "Gwrach". Yn y bennod hir hon o Gwrachod Heddiw, mae Mhara yn sôn am hanes swyngyfaredd a doethgrefft yng Nghymru, ei hanes personol hi a'r rhwystrau mae hi wedi wynebu yn ei bywyd i gyrraedd lle mae hi rŵan. Sgwrs ddwys, ddigri ac ysbrydol! Byddwch Wych, Byddwch Wrachaidd xoxo
Sgwrs am Iechyd meddwl, cynrychiolaeth o ferched ifanc Mwslimaidd yn y cyfryngau yng Nghymru a ffitio mewn. Ymunwch hefo Mari Elen mewn sgwrs gwrachaidd hefo'r awdur ifanc Mahum Umer, un o gyd-awduron cyfres y Pump.
Sgwrs hwyliog am iaith orau'r byd sydd gan Aled yn y bennod yma. Dyma'r da, y difyr a'r dryslyd am y Gymraeg!
Nabod dy werth, nabod dy gorff a Jini Me Jos. Sgwrs hefo'r perfformiwr / gwneuthiwr theatr a'r artist, Mirain Fflur am yr holl bethau sydd yn ei gwenud hi'r gwrach ydy hi. Mwynhau y podlediad? Hoffwch, tanysgrifiwch a rhowch adolygiad bach. Mae o'n gwneud BYD o wahaniaeth, coeliwch chi fi! Trydarwch gan ddefnyddio #GwrachodHeddiw i adael i mi wybod pa bethau Gwrachaidd 'dachi 'di bod yn gwneud, rhannwch hefo ffrind a sleidiwch mewn i'n DMs i. Bydwch wych, byddwch wrachaidd XOXO
Doula, Mam, Gwrach o Waunfawr. Sgwrs hefo'r hyfryd Mama Lleuad (Catrin Jones) am foddion, rhianta, placenta a natur. Mwynhewch!
Madarch, cwtshus i goed, byw ben dy hun ac wrth gwrs Siwsi Dôl-y-Clochydd. Sgwrs hefo Brenhines byd gwrachaidd Cymru, Bethan Gwanas. "Hefo synhwyro ysbrydion, ella dyna pam dwi'n gallu byw mewn tŷ ben fy hun... ma' ‘na ysbrydion bob man, dwi'm yn gweld nhw... poeni dim arna fi”
"Mae menywod yn treulio eu holl bywydau yn rhoi pŵer nhw a rhoi gwaed nhw a rhoi egni nhw mewn i bobl erill fel teulu a partneriaid a pethe, ond mae gwrachod yn pobl sy'n troi y pŵer 'na nôl at ei hun." Sgwrs gyda'r awdur a'r dramodydd Nia Llinos am bod yn od, yn lleiafrifol a sut mae horror yn helpu hefo gor-bryder.
Positifrwydd, Gwrachod, Ffrogiau o'r 70au a chydig bach o Chwedloniaeth. Sgwrs gyda'r pensaer a'r arlunydd holl alluog, Efa Lois. Sgwrs hyfryd am godi llais pan bod angen, y broses creu a meithrin syniadau a'i chariad at cyd-ferched... a gwrachod.
Piriyds, Corff, Dyslecsia a tylluan o'r enw Bili. Sgwrs onest hefo Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd, Gwennan Mair Jones. "Os dani'n meddwl am y classics... dwi methu hedfan na?" Mwynhewch sgwrs hyfryd hefo gwrach hyfryd.
"Ma'n ffrindia fi'n d'eud fi 'sa'r person cynta' i ga'l fy hudo mewn i ymuno hefo cult"Sgwrs gyda'r dramodydd Mared Llywelyn am ei natur cenedlaetholgar, ei bro, ei chyfnod yn y brifysgol a Hocus Pocus. Mwynhewch!