Podcasts about mwynhewch

  • 15PODCASTS
  • 60EPISODES
  • 55mAVG DURATION
  • ?INFREQUENT EPISODES
  • Apr 11, 2025LATEST

POPULARITY

20172018201920202021202220232024


Best podcasts about mwynhewch

Latest podcast episodes about mwynhewch

Colli'r Plot
Sesiwn Holi ac Ateb Llanrwst

Colli'r Plot

Play Episode Listen Later Apr 11, 2025 30:06


Dyma bennod arbennig o Colli'r Plot a recordiwyd yn Llanrwst. Noson wych a threfnwyd gan Bys a Bawd Pawb - menter gymunedol i achub Siop Lyfrau Cymraeg yn Llanrwst.I wneud y rhifyn yma bach yn wahanol na'r arfer da ni wedi rhyddhau y sesiwn cwestiwn ac ateb gan y gynulleidfa, o'dd mor ddiddorol.Mwynhewch!

books writing reading plot holi colli dyma bys mwynhewch llanrwst llyfrau
Clera
Clera Gorffennaf 2024

Clera

Play Episode Listen Later Jul 31, 2024 104:10


Croeso i bennod mis Gorffennaf o bodlediad barddol Cymraeg hyna'r byd! Yn y rhifyn hwn, cawn sgwrs ddifyr gyda Bardd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd eleni, Lois Medi Wiliam. Cawn hefyd sgwrs ddifyr am bamffledi gyda dau fardd sy'n cyhoeddi pamffledi newydd, sef Mari George a Jo Heyde. Cawn hefyd flas o gerddi arobryn Cadair Gŵyl Fawr Aberteifi, gan yr enillydd, Lowri Lloyd. Hyn a llawer mwy. Mwynhewch!

yn cymraeg eisteddfod croeso hyn cawn mwynhewch urdd
Doctoriaid Cymraeg
PENNOD 6 | Episode 6 - Owrtyn

Doctoriaid Cymraeg

Play Episode Listen Later Apr 14, 2024 78:32


Croeso ‘nôl! This episode we're in the Cross Foxes pub just outside Overton-on-Dee for a chat with Ceri Morgan - who grew up in these parts, learned Welsh as an adult, and then set up one of only a few Welsh conversation groups over the border in England. We'll also be talking about some of our most recent projects, more place-names, and lots of giggles… we hope! Mwynhewch! ***** Y Siwrne Dwi'n farblen, yn rholio heibio'r goedwig a'r blodau lliwgar. Mae 'na garreg galed sy'n rhwystro fy rholio am gyfnod; Ond daw wedyn dail i grensian dan fy nhraed prysur nes cyrraedd trionglau'r llwybr. Dilyn patrwm newydd ar ddeunydd anghyfarwydd nes cyrraedd cregyn a phelen plentyndod. Ond lle mae'r alaw i gyfeirio fy siwrne? O'm mentor caf ddysgu hynny.

Colli'r Plot
Pwysigrwydd Golygyddion Creadigol

Colli'r Plot

Play Episode Listen Later Mar 26, 2024 55:27


Bethan Gwanas sy'n darganfod mwy am swydd yr olygydd creadigol, ffrind gorau unrhyw awdur, am gyfnod o leiaf.Heb olygyddion creadigol buasai llyfrau awduron ddim hanner cystal.Un o'r goreuon yw Nia Roberts sy'n gweithio i Gwasg Carreg Gwalch. Dyma rifyn arbennig o Colli'r Plot.Mwynhewch y sgwrs.

Clera
Clera Chwefror 2024

Clera

Play Episode Listen Later Feb 28, 2024 71:15


Croeso i bennod y Mis Bach o bodlediad barddol Cymraeg hyna'r byd! Yn y bennod hon cawn bwnco yng nghwmni mari George a Jo Heyde wrth i ni drafod cyfrol newydd sbon 'Cerddi'r Arfordir' (Cyhoeddiadau Barddas). Hyn a hefyd barn dreiddgar Gruffudd Antur ar Linell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis, ac mae gyda ni rai da y mis hwn!! Hyn a llawer mwy! Mwynhewch.

Clera
Clera Rhagfyr 2023

Clera

Play Episode Listen Later Dec 19, 2023 101:02


Croeso i bennod mis Rhagfyr o Clera. Mae 'na gymysgedd o eitemau Nadolig ac eitemau oesol yn y bennod hon. Cawn y fraint o rannu darlith Gurffudd Antur a Peredur Lynch o Blas Mostyn, fel rhan o ŵyl Gerallt yng Nghaerwys. Delicasi Dolig gan Tudur Dylan Jones, Gorffwysgerdd nadoligaidd o gyfrol newydd Rhys Dafis ac englynion newydd sbon gan y Prifardd-Archdderwydd, Mererid Hopwood. Mwynhewch a Nadolig Llawen i chi gyd.

croeso nadolig nadolig llawen cawn mwynhewch rhagfyr
Clera
Clera Medi 2023

Clera

Play Episode Listen Later Sep 29, 2023 103:22


Croeso i bennod mis Medi o bodlediad barddol Cymraeg hynaf y byd! Yn y bennod hon cawn sgwrs gyda phrifardd y Goron, Rhys Iowerth am ei gerddi arobryn. Hefyd yn trafod gwaith buddugol Alan Llwyd yn y Gadair mae Jo Heyde a'r Prifardd Tudur Dylan Jones. Hefyd cawn wrando ar gerddi a enillodd wobrau mewn eisteddfodau i Gareth Lloyd James ac Alan Iwi. Mwynhewch

CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: CEFIN ROBERTS

CYMERIADAU CYMRU

Play Episode Listen Later Apr 30, 2023 61:18


Polymath go iawn yw Cefin Roberts. Teledu, radio, cerddoriaeth, theatr, sioeau cerdd, ysgol gerdd, awdur.....mae Cefin 'di bod yn wyneb ac yn ffigwr cyfarwydd, talentog a dylanwadol ers rhai blynyddoedd bellach a fy mhleser i oedd cael sgwrsio â fo ar y podlediad. O ddyddiau cynnar S4C gyda Hapnod, i Ysgol berfformio Glanaethwy, mae Cefin di neud y cyfan ac wrthi'n sgrifennu ei hunangofiant ar hyn o bryd. Mwynhewch !

Clera
Clera Ebrill 2023

Clera

Play Episode Listen Later Apr 28, 2023 83:39


Croeso i bennod mis Ebrill 2023 o bodlediad barddol Cymraeg hynaf y byd. Y mis hwn cawn Orffwysgerdd arbennig gan y Prifardd Mererid Hopwood, yn ogystal â chlywed cyfraniadau gan Mererid fel Meuryn a beirdd talwrn a gynhaliwyd ym Mhontyberem. Hefyd, cawn drafodaeth ddifyr gyda Gruffudd Antur am hen drawiadau ym myd y gynghanedd yn y Pwnco. Mwynhewch!

cymraeg croeso hefyd ebrill mwynhewch
CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: EZZATI ARAFFIN

CYMERIADAU CYMRU

Play Episode Listen Later Apr 23, 2023 30:48


Croeso nol i Gymeriadau Cymru ar ôl brêc bach dros gyfnod y Pasg! A dechrau gyda gwraig gwadd ifanc sy'n fam ac yn wraig ac yn gweithio i Fudiad Meithrin, sydd wedi dysgu Cymraeg ac yn wreiddiol.......o wlad Brunei! Ie, Brunei, ar ynys Borneo yn y Môr Tawel. Ac os nad ydy hynny'n ddigon, ma' hi hefyd wedi cyhoeddu cyfrol o farddoniaeth am gariad, yn y Gymraeg, o'r enw Hen Fanila. Mwynhewch fy sgwrs gyda fy nghymeriad wythnos hon, Ezzati Araffin.

Clera
Clera Mawrth 2023

Clera

Play Episode Listen Later Mar 30, 2023 78:11


Croeso i bennod mis Mawrth. Gydag arwyddion bod y gwanwyn ar ei ffordd, a chyn hir Eisteddfod arall ym mis awst, cawn sgwrs ddifyr gyda dau a ddaeth yn deilwng o Gadair Eisteddfod `tregaron llynedd, sef Aros Pritchard a'r Prifardd Rhys Iorwerth am ragoriaethau a heriau sgwennu awdl. Hefyd, fe gawn flas o gyfrol newydd o gerddi y Prifardd Hywel Griffiths, 'Y Traeth o Dan y Stryd', yn ogystal a'r Delicassy gan (Tudur) Dylan a chwmni ein berniad miniog Gruffudd Antur ar gyfer llinell gynganeddol ddamweiniol y mis. Mwynhewch!

Clera
Clera Chwefror 2023

Clera

Play Episode Listen Later Feb 27, 2023 87:25


Croeso i bennod y Mis Bach! Y tro hwn, cawn gyfle am fash-yp cyffrous rhwng Podlediad Clera a Haclediad, sef y podlediad hynaf yn y Gymraeg. Diolch i Sioned Mills a Iestyn Lloyd am ymuno â ni i drafod y posibilrwydd o weld AI yn camu i fyd barddoniaeth Gymraeg drwy raglenni fel ChatGPT a Dall-e. Ydy byd y beirdd yn dod i ben? Neu ydy beirdd am gael help llaw gyda'u crefft, fel y mae'r odliadur yn cynnig help llaw? Hefyd, cawn Orffwysgerdd gan fardd arobryn Cadair Eisteddfod Caerdydd eleni, Non Lewis, a chawn hefyd gwmni Tudur Dylan Jones a Gruffudd Antur. Mwynhewch!

CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: YWS GWYNEDD

CYMERIADAU CYMRU

Play Episode Listen Later Jan 15, 2023 45:37


Blwyddyn newydd dda i chi gyd a gobeithio bod pawb yn iach ac yn edrych ymlaen at 2023!? A pha well i ddechrau tymor newydd o Cymeriadau Cymru na gyda fy ngŵr gwadd arbennig iawn. Y cerddor, canwr a chyfansoddwr ac un o'r bobl fwyaf clên dwi erioed di siarad efo, Yws Gwynedd! ...ie, go iawn, y lej Yws Gwynedd!!!! Sgwrs wych am ei fagwraeth, ei yrfa, cerddoriaeth, canu a gigio a phêl droed...lot o bêl droed!

Menter Môn - Sgyrsiau am Gynlluniau / Talks About Projects

Podlediad newydd sy'n trafod popeth am bêl-droed o ein clybiau lleol i Gwpan y byd! Mwynhewch

Nawr yw’r awr
34. Helen Murray

Nawr yw’r awr

Play Episode Listen Later Dec 1, 2022 37:08


Mae pawb yn nabod llais Helen Murray, hi yw'r llais tu nôl y podlediad triathlon wythnosol, Inside Tri Show. Dros y blwyddyn diwethaf mae Helen wedi bod yn dysgu Cymraeg. Pan clywo ni ei bod hi yn gwrando ar Nawr Yw'r Awr fe gwnaeth Dai ei gwahodd hi yn syth i fod yn westai gyda ni ar y pod. Ers y sgwrs yma ma Helen wedi bod yn gweithio yn galed i ddysgu'r iaith a dyma'r canlyniad. Dwi'n siwr y fyddwch yn cytuno fod Cymraeg Helen yn arbennig. Mwynhewch y sgwrs!

pan dai dwi ers awr dros cymraeg mwynhewch inside tri show
Clera
Clera Tachwedd 2022

Clera

Play Episode Listen Later Nov 30, 2022 94:06


Dewch mewn o'r gwynt a'r glaw i swatio gyda ni a mwynhau pennod y Mis Du. Yn y rhifyn hwn, byddwn yn Pwnco mewn 2 ran gyda'r Prifardd Llŷr Gwyn Lewis. Cawn hefyd Orffwysgerdd gan Elen Ifan o'i phamffled gyntaf o farddoniaeth, 'Ystlum'. Ac mae'r Delicassy gan Dylan hefyd yn ei ôl, gyda'r Prifardd Tudur Dylan Jones yn canfod perl fach arall i'n diddanu. Hyn a mwy! Mwynhewch

ac yn hyn cawn mwynhewch tachwedd
Menter Môn - Sgyrsiau am Gynlluniau / Talks About Projects

Podlediad newydd sy'n trafod popeth am bêl-droed o ein clybiau lleol i Gwpan y byd! Yn y bennod yma mae Begw Elain a Tesni Hughes yn trafod popeth am y gêm fawr heno rhwng Cymru v UDA! Mwynhewch!

Nawr yw’r awr
31. Paratoi am Ironman Cymru

Nawr yw’r awr

Play Episode Listen Later Sep 19, 2022 25:34


Dyddiadur sain wrth David a Nia wedi ei recordio yn y dyddiau yn arwain lan at Ironman Cymru. Lot o nerfau, lot o stress, llawer o cyffro! Mwynhewch!

iron man cymru mwynhewch
Clera
Clera Mai 2022 - Huw Morys, 'Eos Ceiriog'

Clera

Play Episode Listen Later May 25, 2022 80:01


Croeso i rifyn mis Mai o Clera. Rhifyn arbennig yw hwn sy'n trafod a dathlu bywyd a gwaith y Bardd o Ddyffryn Ceiriog, Huw Morys. Mwynhewch

croeso mwynhewch
Pod Sgorio
Pod 33: Mike Harris, Cadeirydd Y Seintiau Newydd

Pod Sgorio

Play Episode Listen Later Apr 13, 2022 38:08


Pod 33: Mike Harris, Cadeirydd Y Seintiau Newydd Dyma gyfle am sgwrs hir rhwng cadeirydd Y Seintiau Newydd, Mike Harris a chyflwynydd Sgorio, Dylan Ebenezer. Mae'r ddau yn trafod dyfodol y pyramid Cymreig, pêl-droed Ewropeaidd ac ail ennill y bencampwriaeth. Mwynhewch!

mike harris cymreig mwynhewch cadeirydd
Clera
Clera Chwefror 2022

Clera

Play Episode Listen Later Feb 28, 2022 81:07


Mae eisiau beirdd ar y mis bach! (Mererid Hopwood a'i cant). Croeso i bennod mis Chwefror o Clera lle cawn gwmni Gwilym Bowen Rhys, Twm Morys a Gwyneth Glyn gyda chyfraniadau hefyd gan Sian Northey (Cerdd o'r gyfrol a olygwyd ganddi a Ness Owen, A470), Tudur Dylan a'n Posfeistr hollwybodus Gruffudd Antur. Mwynhewch!

croeso mwynhewch gwyneth glyn
Pod Sgorio
Pod 19: Rob Page

Pod Sgorio

Play Episode Listen Later Dec 21, 2021 33:36


Rheolwr Cymru, Robert Page sy'n ymuno â Dylan Ebenezer a Sioned Dafydd ar gyfer ein podcast Nadoligaidd arbennig. Dyma gyfle i drafod y flwyddyn a fu ac i ddod i adnabod y gŵr o'r Rhondda yn well. Mwynhewch a Nadolig Llawen!

rhondda dyma robert page nadolig llawen mwynhewch
Clera
Clera Rhagfyr 2021

Clera

Play Episode Listen Later Dec 20, 2021 73:47


Nadolig llawen i chi gyd gan griw Clera. Mwynhewch y bennod ola o'r flwyddyn hon, sy'n cynnwys sgyrsiau difyr gyda Bardd Plant Cymru 2021-23, Casi Wyn a'r Prifardd Rhys Iorwerth am ei gyfrol newydd, Cawod Lwch. Hefyd, cerddi hyfryd gan Ana Chiabrando Rees a Geraldine Macburney Jones o Batagonia.

nadolig hefyd mwynhewch rhagfyr
Clera
Clera Medi 2021

Clera

Play Episode Listen Later Sep 30, 2021 100:50


Croeso i'r bennod hiraf yn ein hanes! Ond gyda chymaint i'w gynnwys, dyna'r unig ffordd i wneud teilyngdod â chyfraniadau Anwen pierce, Alaw Mai Edwards, Hywel Griffiths, Sara Louise Wheeler, Gruffudd Antur ac Osian Bonc! Cawn felly adolygiad o Gyfansoddiadau Amgen 2021, Sgwrs ddifyr gyda Sara ac Osian am lwyfaniad arbennig sydd ar y gweill o waith barddol a llawer llawer mwy! Mwynhewch.

Clera
Clera Awst 2021 - Cadwyn o Orffwysgerddi

Clera

Play Episode Listen Later Aug 21, 2021 75:24


Pennod wahanol o Clera sy'n cynnwys blwyddyn gron o Orffwysgerddi o'r pum mlynedd diwethaf, ers inni sefydlu Clera ym mis Hydref 2016. Mwynhewch!

awst pennod hydref mwynhewch
Esgusodwch fi?
Pa 'tribe' wyt ti?

Esgusodwch fi?

Play Episode Listen Later Jul 10, 2021 40:37


Twink, bear 'ta geek? Pa 'tribe' wyt ti? Be ydi 'tribe' hyd yn oed? Wel, mi fyddwn ni'n trafod hyn i gyd a mwy efo'r actor Iestyn Arwel yn y bennod yma.Gan ein bod yn trafod themau aeddfed gydag ambell i ddefnydd o iaith gref, nid yw'r bennod yma yn addas i blant.Mwynhewch!Iestyn a Meilir :)

Esgusodwch fi?
Faint o ddilynwyr sgen ti?

Esgusodwch fi?

Play Episode Listen Later Jun 12, 2021 37:40


Ma'r TikToker o fri, Ellis Lloyd Jones yn ymuno efo ni yn y bennod yma, i sgwrsio am ei gymeriadau lliwgar, perchnogi pob agwedd o'i hun ac am dynnu selfies yn Bangor.Mwynhewch!Iestyn a Meilir :)

Clera
Clera Mai 2021

Clera

Play Episode Listen Later May 28, 2021 88:52


Croeso i Glera mis Mai! Cawn orffwysgerdd ddwbwl gan y tad a'r mab, John Gwilym Jones a Tudur Dylan Jones, pos ac eitem swmpus gan Gruffudd a'i Lawysgriffau a chyfle i glywed llais newydd, sef Anne Phillips. Hyn a chymaint mwy! Mwynhewch

croeso glera anne phillips hyn cawn gruffudd mwynhewch
Esgusodwch fi?
Ti'n byw yn Hollywood?

Esgusodwch fi?

Play Episode Listen Later May 22, 2021 37:50


Bethan Marlow sy'n cadw cwmni i ni yn y bennod yma, yr holl ffordd o Flordia! Mae hi'n ddramodydd, yn gynhyrchydd theatr ac mae ei hanesion proffesiynol yr un mor ysbrydoledig â'i rhai personol hi.Hefyd, mi fyddwn ni'n trafod llwyth o newyddion LHDTC+ yr wythnos o Gymru a thu hwnt. Mwynhewch!Iestyn a Meilir :)

Clera
Clera Mawrth 2021

Clera

Play Episode Listen Later Mar 27, 2021 87:07


Croeso i bennod mis Mawrth o bodlediad mwyaf barddol y byd. Yn ogystal â chlywed am dwf garlleg Eurig cawn sgwrs gyda’r Arthro-Brifardd Tudur Hallam am ddehongliad R.M. ‘Bobi’ Jones o’r gynghanedd. Cawn orffwysgerdd o gywydd hyfryd gan Les Barker a bydd y Posfeistr, Gruffudd Antur, nid yn unig yn cynnig atebion i’r poas diwethaf ac yn gosod pos newydd ond mi fydd e hefyd yn cynnig eitem newydd inni sef ‘Gruffudd a’i Lawysgriffau’. Hyn a mwy! Mwynhewch.

yn croeso hyn cawn gruffudd mwynhewch
CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: ELLIW GWAWR

CYMERIADAU CYMRU

Play Episode Listen Later Feb 25, 2021 40:32


Cyfweliad a hanner wythnos hon! ''Cymraeg, ffeminist a phesimist'' (ei geiriau hi) Elliw Gwawr sy'n darlledu ar y teledu a'r radio am faterion seneddol a gwleidyddol yn San Steffan. Yn ogystal â hynny, mae hi hefyd yn sgrifennu llyfrau coginio ac yn fam frysur i ddau o fechgyn bach. Pleser oedd cael siarad â hi yn ddiweddar, dros zoom wrth gwrs, a fe nes i rili fwynhau ei chwmni (yn rhithiol). Sgwrs am wleidyddiaeth, darlledu, coginio, yr iaith Gymraeg, a chyfle i ddysgu lot fwy amdani drwy ofyn y 10 cwestiwn chwim! Mwynhewch y sgwrs, ac eto, cofiwch i wrando ar y penodau eraill sydd ar gael ar nifer o lwyfannau amrywiol.

yn cymru gymraeg sgwrs mwynhewch cyfweliad
Y Sgwrs
Y Sgwrs Fyw: Lauren Robinson

Y Sgwrs

Play Episode Listen Later Feb 9, 2021 13:27


BONUS EPISODE! Dyma ran o Y Sgwrs Fyw aeth allan nos Sul ble mae Steff a Jos yn sgwrsio gyda Lauren Robinson sydd wedi symud i Llandysul o Katy, Texas! Mwynhewch a Rhannwch! Mae'r bennod fyw ar gael i'w wylio ar dudalen Facebook Y Sgwrs. *** Diolch i epidemicsound.com am y gerddoriaeth. ***

CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: NEST/NESDI JONES

CYMERIADAU CYMRU

Play Episode Listen Later Jan 21, 2021 38:38


Mae fy ngwraig gwadd wythnos yma yn gymeriad go iawn. Merch hynod dalentog a diymhongar, 'laff' go iawn, o Griccieth, ond yn canu ac yn perfformio nid yn unig yn Gymraeg ac yn English, ond......wait for it, yn ieithoedd Hindi a Punjabi!!!!! Mae Nest neu 'Nesdi' wedi dod yn enw mawr ym myd cerddoriaeth Bhangra yn India ac yn recordio ac yn perfformio'n gyson. Mae ei stori yn anhygoel o feddwl mai canu yn y capel a'r Eisteddfod oedd hi i gychwyn, ac yn sicr, mae 'na ffilm Hollywood yn f'anna yn rhywle! Ta beth, pleser oedd cael cyfweld â hi yn ddiweddar dros zoom. Mwynhewch ei stori a mwynhewch y deg cwestiwn cyflym (quick fire) nes i ofyn iddi...rhywbeth newydd i Cymeriadau Cymru!

Y Sgwrs
Yr Ysbryd ar Waith: Siân Wyn Rees

Y Sgwrs

Play Episode Listen Later Jan 15, 2021 40:15


Heddiw, wrth i ni ail gydio yn ein cyfres ar yr Ysbryd Glân, byddwn ni'n sgwrsio gyda Siân am ei phrofiadau personol o'r Ysbryd yn ei arwain ac yn gweithio ynddi a thrwyddi hi. Mwynhewch a Rhannwch!

mwynhewch wyn rees
CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU RHIF 9: MARTYN GERAINT

CYMERIADAU CYMRU

Play Episode Listen Later Nov 26, 2020 46:16


Nid 'cymeriad' yn unig sydd ar y podlediad wythnos yma, ond eicon, lejynd go iawn. Martyn Geraint, sy' di bod yn diddanu plant ac oedolion Cymru ers 30 blynedd ac wedi ennill ei le yn hanes ac yng nghalonnau miloedd o blant. Yn gerddor, yn gyfansoddwr, yn awdur ac actor yn ogystal â chyflwynyddd teledu wrth gwrs, dwi'n nabod MG ers blynyddoedd bellach ac yn browd iawn i'w alw'n ffrind. Golffio, golygu video a garddio sy 'di bod yn cadw Martyn yn gall ac yn frysur dros yr Haf eleni ac roedd hi'n bleser cael cyfweld â fe unwith eto dros zoom. Ond maint ohono chi oedd yn gwybod ei fod wedi actio gyda Dr Who!

CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU RHIF 7: DANIEL GLYN

CYMERIADAU CYMRU

Play Episode Listen Later Nov 12, 2020 53:15


Comedïwr, sgriptiwr, athrylyth(!)....ac all round top bloke. Daniel Glyn, fy ngwr gwadd ar Cymeriadau Cymru wythnos hon. Ma nifer o Gymry Cymraeg yn adnabod Dan wrth gwrs a nifer wedi mwynhau ei gomedi ar lwyfan ac ar y sgrin; ond beth yn hollol yw ei ddylanwadau, beth yw ei berthynas â'r iaith Gymraeg, sut brofiad odd rhedeg sianel deledu, a pha jôc ganddo sy di derbyn cwynion?

Clera
Clera Hydref 2020

Clera

Play Episode Listen Later Oct 29, 2020 68:39


Croeso i bennod mis Hydref 2020 o bodlediad Clera. Cawn orffwysgerdd arbennig sy'n cynnwys holl feirdd plant Cymru wrth ddathlu 20 mlwyddiant y cynllun. Mari George yw'r Bardd yn y Bath, gruffudd a'i ymennydd Amheus sy'n cynnig y pos yn ol ei arfer ac mae'r pwnco yn mynd a ni i Lydaw. Mwynhewch

bath cymru croeso hydref cawn mwynhewch
CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU.PODLEDIAD YN Y GYMRAEG. RHIF 3: GARETH WYN JONES

CYMERIADAU CYMRU

Play Episode Listen Later Oct 15, 2020 43:57


Nid llawer o bobl ac yn sicr nid llawer o ffermwyr sy'n creu gymaint o newyddion ag ymateb â Gareth Wyn Jones. Yn ffermio o gwmpas Llanfairfechan yng Ngogledd Cymru, mae Gareth wedi dod yn gymeriad go iawn; weithiau'n codi gwrychyn, weithiau yn derbyn 'abiws' ac weithiau yn ennill clôd ac edmygedd. Beth bynnag barn pobl am Gareth, mae ei angerdd a'i ymrwymiad tuag at amaethyddiaeth, natur, ffermio, cefn gwlad a Chymru BYTH o dan unrhyw amheuaeth. Mwynhewch ei stori a chofnod ei fywyd yn y drydedd rhaglen yn y podlediad Cymraeg newydd yma.....a chofiwch, be bynnag gwnewch chi, os fyddwch chi yn cerdded ar hyd llwybrau neu try caeau ar dîr Gareth, caewch y f****n giât!!!

Clera
Clera Gorffennaf 2020 - 'Y Gynghanedd Heddiw'

Clera

Play Episode Listen Later Jul 28, 2020 58:12


Pennod arbennig sy'n canolbwyntio bron yn llwyr ar gyfrol y mae Aneurig ar fin ei chyhoeddi, sef Y Gynghanedd Heddiw. Mwynhewch drafodaeth am y gyfrol a cherdd dafod yng nghwmni gwesteion arbennig, Mererid Hopwood, Myrddin ap Dafydd, Caryl Bryn a Rhys Iorwerth. Diolch i'r Eisteddfod AmGen am gael defnyddio'r sain o'n trafodaeth fel rhan o ddarpariaeth amgen yr Eisteddfod. Hefyd cawn gerdd yn yr Orffwysfa gan Aled Lewis Evans, sydd newydd gyhoeddi cyfrol am Wrecsam, sef Tre Terfyn (Gwasg Carreg Gwalch).

dafydd eisteddfod diolch pennod hefyd myrddin wrecsam mwynhewch
Y Sgwrs
Pennod 14: Yr Ysbryd Glân - Doniau'r Ysbryd

Y Sgwrs

Play Episode Listen Later Jul 17, 2020 22:15


Yn ail ran ein sgwrs gyda Gwil Tidz byddwn ni'n trafod doniau'r Ysbryd a'r meddyliau eu bod wedi dod i ben a'r posibilrwydd eu bod yn parhau hyd heddiw. Mwynhewch!

yn pennod mwynhewch
Y Sgwrs
Pennod 9: Self Love - Y peth pwysicaf?

Y Sgwrs

Play Episode Listen Later May 29, 2020 25:55


Heddiw byddwn ni'n ymateb i cwestiwn Megi - sut ydyn ni'n ymateb i stori y byd mai caru ein hunain yw y peth pwysicaf. Mwynhewch, rhannwch, ac ymunwch yn Y Sgwrs!

Y Sgwrs
Pennod 7: Bywyd Bryn Fôn (rhan 1)

Y Sgwrs

Play Episode Listen Later May 18, 2020 18:24


Yn y cyntaf o ddwy bennod byddwn ni'n trafod bywyd, ffydd, priodas, a insta fame gyda Alun Bryn ac Elen Lewis! Mwynhewch!

yn pennod mwynhewch
Clera
Clera Ebrill 2020

Clera

Play Episode Listen Later Apr 30, 2020 66:18


Croeso i'r ail bennod o bodlediad Clera yn ystod y Meudwyo Mawr. Mwynhewch, cadwch eich pellter, parchwch eraill yn y siopau a chefnogwch ein gweithwyr iechyd a gweithwyr allweddol a chadwch yn ddiogel.

croeso ebrill mwynhewch
Clera
Clera Chwefror 2020

Clera

Play Episode Listen Later Feb 28, 2020 60:35


Croeso i bennod mis Chwefror o bodlediad Clera. Yn rhifyn y mis bach rydyn ni'n pwnco am feirniadu eisteddfodol, yn cael gorffwsgerdd arbennig gan goilad o feirdd sy'n canu am Frecsit ac yn clywed unwaith eto gan ein Posfeistr doeth a hollwybodus, Gruffudd Antur. Mwynhewch!

yn croeso mwynhewch
Tonfedd Cymru Fydd
#5 Efa Lois

Tonfedd Cymru Fydd

Play Episode Listen Later Sep 23, 2019 54:41


Sgwrs efo’r arlunydd, pensaer a pheiriant diwylliannol Efa Lois. Ymysg y pynciau yn y sgwrs oedd adeiladau Brwtalaidd Cymru, cloriau gwallgo llyfrau ffuglen wyddonol, Moomins, a chyswllt y gofod ar Mabinogi. Mwynhewch!

Dala Lan
Dala Lan: Nadroedd, Aimee Ffion Edwards, Catherine Zeta Jones, Trystan Beard

Dala Lan

Play Episode Listen Later Aug 2, 2019 43:51


Beth yw eich ffobia chi? Byddwn ni’n trafod beth sy’n codi ofn ar Daf Wyn, Lowri Jones, Catrin Reynolds a Bethan Wyn. Un peth sy’n siwr, ni’n gwybod beth yw ffobia’r cyflwynydd Alun Williams, wrth iddo fe ddathlu diwrnod y neidr gyda neb llai na Geraint Snakes! O nadroedd i un o sêr Luther, Skins a Peaky Blinders, byddwn ni’n clywed sgwrs llawn rhwng Alun a’r actores Aimee Ffion Edwards o Gasgwent – tybed pa gyfrinachau’r byd actio sy’n cael eu datgelu? Ga’th Daf Wyn y pleser o gyfarfod seren arall o’r byd actio, Catherine Zeta Jones wrth iddi ddychwelyd i’w chartref i dderbyn anrhydedd rhyddid dinas Abertawe. Ac yn olaf, pwy all anghofio gwên ddireidus Trystan Beard, un o blant rhaglen Dathlu Dewrder sy’n byw gyda’r cyflwr Cerebral Palsy. Erbyn hyn mae angen llawdriniaeth brys ar Trystan a   byddwn ni’n clywed am ymdrech cymuned Cilgerran i godi £40,000. Mwynhewch!   Eitem Diwrnod y Neidr gyda Alun Williams a "Geraint Snakes" https://www.facebook.com/HenoS4C/videos/2366507703404596/ Catherine Zeta Jones https://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/p07gl93z/heno-wed-24-jul-2019 Stori Trystan Beard https://www.facebook.com/HenoS4C/videos/2376868949233774/

Dala Lan
Dala Lan: Cór Heol y March, Bwyty Beach House, Bae Oxwich, y blogwraig Jess Davies a'r dyn Tywydd Owain Wyn Evans

Dala Lan

Play Episode Listen Later Jul 16, 2019 30:31


Yr wythnos hon, rydyn ni’n dathlu deng mlynedd o’r côr plant, Heol y March gyda’r arweinydd, Eleri Roberts.  Mae’r bwyty Beach House ym Mae Oxwich wedi’i enwi fel un o’r llefydd gorau i fwyta’n “al-fresco” ym Mhrydain gan bapur newydd The Times a cafodd Lowri Cooke y fraint o flasu danteithion y cogydd, Hywel Griffith. Gyda dim ond wythnos tan Sioe Frenhinol Cymru, mae’r blogwraig, Jess Davies yn ymweld â sioeau bach amaethyddol i gael blas ar beth y gallwn ni ddisgwyl. Yr wythnos hon, mae Jess yn cyfarfod â’r cymeriadau a’r holl anifeiliaid yn Sioe Bancffosfelen. Ac yn olaf, mae’r cyflwynydd tywydd, Owain Wyn Evans yn trafod ennill y wobr fel y Cyflwynydd Teledu Gorau’r Flwyddyn. Darganfyddwn sut aeth e’n firol ar Twitter a’i hanes gyda’r tîm o’r rhaglen fyd-enwog , Queer Eye. Mwynhewch!   Sgwrs Eleri Roberts Arweinydd Cór Plant Heol y March https://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/p07fbrnp/heno-thu-11-jul-2019  o 8’20”.  -   Bwyty Beach House, Bae Oxwich https://www.facebook.com/HenoS4C/videos/429870764530220/   Jess Davies yn Sioe Bancfosfelen https://www.facebook.com/HenoS4C/videos/2571616636401677/   Sgwrs Soffa Owain Wyn Evans https://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/p07fjl6r/heno-fri-12-jul-2019 - 8’00”   Twitter Owain. https://twitter.com/OwainWynEvans?ref_src=twsrc%5Egoogle%7Ctwcamp%5Eserp%7Ctwgr%5Eauthor

Podpeth
Podpeth #57 - "Heddwch ei Lwch 2018"

Podpeth

Play Episode Listen Later Jan 2, 2019 34:06


Blwyddyn Newydd Dda! Mae Elin yn sal - ond mae'r brodyr Pitts yma efo Papa Pitts (@SpursMel) i chwarae "Heddwch Ei Lwch 2018"! Mae Heddwch Ei Lwch yn SyniaDad am raglen cwis. Mae pob ateb yn berson wnaeth farw yn 2018.  Mwynhewch!

pitts mwynhewch mae elin podpeth
Clera
Clera Hydref 2018

Clera

Play Episode Listen Later Oct 31, 2018 66:40


Yn hwyr iawn yn ystod mis Hydref, ar ddiwrnod Calan Gaeaf, dyma bennod newydd o Clera. Y tro hwn mae gyda ni westai arbennig, sef y bardd Ifan Prys a hefyd adolygiad o'r Cyfansoddiadau a'r Beirniadaethau Eisteddofd Genedlaethol Caerdyddgyd gyda'r Prifardd Hywel Griffiths ac Elena Gruffudd. Mwynhewch!

yn hydref mwynhewch
Popeth Rygbi
Pod 6

Popeth Rygbi

Play Episode Listen Later Oct 2, 2018 62:17


Yr un gyda Lloyd Williams a Coconut Macaroons. Mwynhewch!

Clera
Medi 2018

Clera

Play Episode Listen Later Sep 20, 2018 53:16


Dyma bennod gyntaf Clera ers i Nei ffoi i Lydaw a gadael i Eurig wynebu Brexit ar ei ben ei hun...ond tybed a fydd Eurig yn gorfod podledu ar ei ben ei hun yn ogystal...? Uchafbwynt arall y bennod yw sgwrs ddifyr gyda'r Prifardd Catrin Dafydd. Mwynhewch!

Podlediad f8
Pennod 10: "Nid Aur Yw Popeth Retro"

Podlediad f8

Play Episode Listen Later Feb 26, 2018 68:49


Ar ôl unarddeg mis o ddisgwyl, mae Pod Wyth yn ôl! Allwch chi gredu'r peth? Wedi ei recordio, am y tro cynta erioed, efo'r cyflwynwyr yn yr un ystafell. Ac yn cynnwys sgiliau golygu proffesiynol Daf Prys. Disgwyliwch lot o jingls ffansi. Yn rhifyn #10 (nid rhifyn #11, dim ots be 'dan ni'n ei ddweud yn y bennod): - Yr holl gemau sydd wedi bod yn ein ticlo ni'n ddiweddar. Monster Hunter World! Celeste! Slay the Spire! Battlefield! A trafodaeth ehangach o gemau 'battle royale'. - Yn y newyddion: blwyddyn aruthrol gyntaf y Nintendo Switch, newidiadau ar y ffordd i'r PS4, ac Assassin's Creed yn mynd yn addysgiadol. - Gemau bwrdd! Ein hoff beth. Yn y byd. Clywch ein hargraffiadau o Inis, Kingdomino, a Hanamikoji. Wel, ai nefar. - Be ydi ystyr 'retro'? Daf sy'n trio esbonio, ac Elidir yn saethu tyllau yn ei ddadl. - Yr 'ogia'n trafod y dadlau ynghylch Kingdom Come: Deliverance, Kickstarter, a mudiad Gamergate. Pethau'n mynd bach yn dywyll, bois. Mwynhewch!

Clera
Clera Rhagfyr 2017

Clera

Play Episode Listen Later Dec 17, 2017 53:17


Mwynhewch bennod mis Rhagfyr o bodlediad Clera. Y mis yma rydyn ni'n Pwnco gyda Llŷr Gwyn Lewis am ei awdl a ddaeth mor agos i gipio cadair Eisteddfod Genedlaethol Môn. Ceir cerdd Orffwysfa nadoligaidd gan Anwen Pierce, y pos gan Gruffudd a'i ymennydd miniog a llawer mwy.

ceir gruffudd mwynhewch rhagfyr
Clera
Clera Gorffennaf yn fyw o Sesiwn Fawr Dolgellau

Clera

Play Episode Listen Later Jul 25, 2017 43:06


Pennod wedi ei recordio'n fyw yn Nhy Siamas, Dolgellau fel rhan o ddigwyddiadau Sesiwn Fawr 2017. Diolch i'r trefnwyr am y gwahoddiad. Ein gwesteion arbennig yw'r gantores Lowri Evans a'r beirdd Elis Dafydd a Gruffudd Antur. Mwynhewch!

diolch pennod mwynhewch elis dafydd
Haclediad – Hacio’r Iaith
Episode 45: 45: Siarad Siarad, cofio hen ffrindiau a Duolingo

Haclediad – Hacio’r Iaith

Play Episode Listen Later Nov 6, 2015 58:25


Yn rhifyn mis Tachwedd bydd Iestyn, Sioned a Bryn yn sgwrsio am ddiogelwch Talk Talk, yn codi gwydraid i gofio Telsa Gwynne ac yn clymu eu tafodau rownd Duolingo yn y Gymraeg. Hyn i gyd a llwyth o sangiadau a tangiadau off i lwyth o lefydd diddorol (a lot o drafod pa mor enwog di’r cyfranwyr. Sboilar: ddim yn enwog o gwbl) Mwynhewch a diolch am wrando! Dolenni Telsa Gwynne (1969 – 2015) Second teenager arrested over TalkTalk data breach Introducing the Linus Yale lock UNICEF, Target team up to sell kids’ fitness bands that help save lives Incubator Duolingo Cymraeg Coffee with a Googler: Chat with Macduff Hughes (100 Days of Google Dev) 10 Things Back to the Future 2 Got Right The post Haclediad 45: Siarad Siarad, cofio hen ffrindiau a Duolingo appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Haclediad – Hacio’r Iaith
Episode 36: 36: Yr un hwyrach na Office i’r iPad

Haclediad – Hacio’r Iaith

Play Episode Listen Later May 1, 2014 63:28


Ar rifyn yma’r haclediad bydd y criw yn cadw’u pennau yn y cymylau – wrth rêtio a slêtio systemau gweithio cwmwl rhai o’r cwmnïau mwyaf allan yna. Gyda Microsoft Office yn cyrraedd yr iPad (o’r diwedd), pa ddewisiadau arall sy’na i drefnu’ch taenlenni marwolaethau Game of Thrones? Byddwn yn sbecian ar sefyllfa Facebook yn prynu Occulus Rift (ar ôl i hwnnw godi ffortiwn trwy ariannu torfol, wps), a’r Iest Test tro yma yw’r system rheoli cartref Nest, jyst achos ei fod yn odli. Mwynhewch O.N. — Mi recordwyd hwn wythnosau yn ôl, a nid yw Gafyn wedi bod yn agos ato, felly ymddiheuriadau am yr ansawdd a’r amser gymerwyd i’w ddarlledu. The post Haclediad #36: Yr un hwyrach na Office i’r iPad appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Haclediad – Hacio’r Iaith
Episode 23: 23: Yn fyw o Eisteddfod y Fro 2012

Haclediad – Hacio’r Iaith

Play Episode Listen Later Aug 20, 2012 52:58


Rhifyn arbennig o’r diwedd, anrheg hafaidd i’ch clustiau – rhifyn byw arbennig yr Haclediad o faes Eisteddfod y Fro 2012. Daeth miloedd[1] ohonoch yno i wylio Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod popeth o gysylltiadau digidol y maes ac ap y brifwyl hyd at bosibiliadau 4G mewn cae yn Ninbych flwyddyn nesa. Hefyd, mae cyfle i wrando ar swn peraidd y trac go-karts drws nesa i’r maes[1] yn ogystal â lleisiau melfedaidd eich cyflwynwyr. Ac wrth gwrs, mae digon o’r rantio a rwdlan hwyl arferol i’w gael yn yr Haclediad hefyd, felly s’dim angen i chi boeni! Mwynhewch bodlediad gorau’r hâf[1] ar eich peiriant NAWR O.N. Mae’n ddrwg gennym am ansawdd y sain (Gafyn wedi trio ei orau efo be recordiwyd), ond pe bai rhywun yn awyddus i gyfrannu ychydig o feicroffonau i’r achos… Dolenni Ap Yr Eisteddfod 4G erbyn eisteddfod 2013 Stiwdio gwellt ar y Maes Gwyrdd Nid yw pob un o’r datganiadau hyn yn ffeithiol gywir  ↩ The post Haclediad #23: Yn fyw o Eisteddfod y Fro 2012 appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Haclediad – Hacio’r Iaith
Episode 12: Y Byd Post-PC (feat. Bryn Blin)

Haclediad – Hacio’r Iaith

Play Episode Listen Later Sep 6, 2011 51:14


Wedi hir ymaros, dyma gwblhau set o ddwsin i chi efo Haclediad #12 – Y Byd Post-PC. Gwyliwch allan am deimladau cryf iawn yn yr Haclediad tanbeidiaf hyd yn hyn! Yn y rhifyn hwn byddwn ni’n trafod ymddiswyddiad Steve Jobs o’i safle fel CEO Apple Inc, creu cwmni Googorola wrth i Google brynu Motorola ac ymadawiad HP o’r farchnad cyfrifiaduron cartref. Be’ mae hyn i gyd yn meddwl i ni fel defnyddwyr, ydan ni wirioneddol mewn byd ‘post-pc’? Da ni’n sicr mewn byd post-papur serch hynny, ond ydi Cymru yn syrthio ymhellach tu ôl iddi, gyda phroblemau Y Lolfa yn cyhoeddi e-lyfrau, a’r prinder o aps i Blant Cymru? Gewch chi glywed y cyfan efo ni yma ar Haclediad #12! Mwynhewch! Sioned (@llef), Bryn (@Bryns) ac Iestyn (@Iestynx) The post Haclediad #12 – Y Byd Post-PC (feat. Bryn Blin) appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Haclediad – Hacio’r Iaith
Episode 11: Haclediad #11 – Y Llew yr Afal a’r Cwmwl

Haclediad – Hacio’r Iaith

Play Episode Listen Later Jul 28, 2011 63:10


Mae Haclediad 11 yma i chi wrando arno ar yn eich carafan, adlen neu westy moethus ym mro’r Eisteddfod! Yn y rhifyn hwn byddwn yn trafod OS X – Lion ar  y Mac, yr aps diweddaraf Cymraeg (ond yn hepgor update newydd iSdeddfod gan griw Fo a Fe, sori bois!), dyfodiad a thyfiant Google+ a gweledigaeth y buddsoddwr Roger McNamee ar sut bydd yr haenen gymdeithasol ac HTML5 yn newid sut ‘da ni’n defnyddio’r we am byth. I chi sy’n mynd i’r Eisteddfod, bydd Hacio’r Iaith Bach yno ar y maes, ewch draw i babell Prifysgol Aberystwyth ddydd Llun i gwrdd â Rhodri @Nwdls Ap Dyfrig a’r criw. Mwynhewch! Sioned (@llef), Bryn (@Bryns) ac Iestyn (@Iestynx) The post Haclediad #11 – Y Llew yr Afal a’r Cwmwl appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Haclediad – Hacio’r Iaith
Episode 3: Haclediad Y Nadolig

Haclediad – Hacio’r Iaith

Play Episode Listen Later Dec 3, 2010 44:46


Helo-ho-ho, dyma anrheg Nadolig bach cynnar i chi – Haclediad #3! Ar y rhifyn hwn bydd Iestyn Lloyd (@iestynx) Bryn Salisbury (@bryns) a Sioned Edwards (@llef) yn trafod y mis diwethaf ym myd tech, ac yn edrych mlaen i’r flwyddyn newydd. Ar y fwydlen mae trafodaeth o system weithredu newydd Apple iOS 4.2.1 a dyfodiad y Beatles i iTunes; mwy ar broblemau diogelwch Facebook, a byddwn yn holi os yw’n troi yn ghetto i’r Gymraeg arlein. Hefyd gwybodaeth ECSGLIWSIF ar ddigwyddiad Hacio’r iaith 2011, a beth mae’r cyfranwyr yn chwilio amdano o sach Siôn Corn. Mwynhewch, a ‘Dolig Llawen i chi gyd! The post Haclediad Y Nadolig appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.