Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos. Political discussion.
Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones sy'n cychwyn y ras i etholiad Senedd Cymru yng nghwmni Kate Crockett.
Trafodaeth danbaid wrth i'r UE a llywodraeth y DU geisio taro bargen ar gytundeb masnach.
Alun Thomas, Elliw Gwawr, Mared Gwyn, Paul Davies ac Hywel Williams sy'n trafod.
Alun Thomas yn holi pa mor barod fydd pawb i gael eu brechu o ystyried yr holl newyddion ffug ar wefannau.
Trafod effaith cyfyngiadau y coronafeirws ar yr ŵyl gyda Gwenllian Grigg, Teleri Glyn Jones, Dr Eleri Davies o Iechyd Cyhoeddus Cymru a Ifan Llywelyn.
Yr Athro Richard Wyn Jones, Vaughan Roderick a Morley Jones sy'n ymuno â Gwenllian Grigg.
Gwenllian Grigg sy'n holi Bethan James, Syr Deian Hopkin a'r Athro Jerry Hunter
Gwenllian Grigg sy'n cael cwmni Maxine Hughes, Catrin Jones a Jonathan Edwards
Dafydd Morgan, Teleri Glyn Jones, Cynog Prys a Carys Huws sy'n trafod y cyfnod clo...
Gwenllian Grigg sy'n trafod y cyfnod clo newydd gydag Alun Thomas, Yr Athro Arwyn Thomas Jones o Brifysgol Caerdydd a Dr Eleri Davies Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Gwenllian Grigg, Richard Wyn Jones, Mared Gwyn a Vaughan Roderick sy'n trafod.
Vaughan Roderick, Sion Rogers, Ann Griffith a Maxine Hughes sy'n trafod y ras i'r Tŷ Gwyn
Ynghanol y newyddion pryderus am COVID19, beth allwn ni ei wneud i ofalu am ein hunain?
Gyda rhagor o gyfyngiadau wedi eu cyhoeddi i geisio atal lledaeniaid y coronafeirws heddiw, ydyn ni ar fin gweld ail don? Alun Thomas a'i westeion sy'n pwyso a mesur.
Kate Crocket yn trafod datblygiadau Brexit yng nghwmni Vaughan Roderick, Dr.Carol Bell a'r Athro Richard Wyn Jones.
Ddiwrnod cyn i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd Kate Crockett, Yr Athro Richard Wyn Jones, Dr. Edward Thomas Jones a Mared Gwyn sy'n rhoi'r byd gwleidyddol yn ei le.
Dylan Jones a'i westeion sy'n trafod wythnos hanesyddol...
Kate Crockett, Richard Wyn Jones a Gareth Hughes yn trafod straeon gwleidyddol yr wythnos
Vaughan Roderick, Mared Gwyn a Richard Wyn Jones sy'n trafod Brexit a mwy...
Dadansoddiad o'r wythnos gyntaf wedi'r etholiad cyffredinol - Araith y Frenhines a Mesur Cytundeb Ymadael Boris Johnson. Dylan Jones sy'n cadeirio trafodaeth yng nghwmni'r Athro Richard Wyn Jones, Mared Gwyn a Dr Huw Lewis.
Gydag wythnos i fynd cyn yr etholiad, Kate Crockett sydd yn holi ein Golygydd Materion Cymreig, Vaughan Roderick, a'r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru am ddigwyddiadau'r wythnos yn yr ymgyrchu gwleidyddol.
Kate Crockett sy'n cadeirio trafodaeth etholiadol rhwng Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick, a'r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru.
Y pleidiau gwleidyddol yn dechrau cyflwyno eu maniffestos. Gwenllian Grigg sy'n cadeirio rhan gyntaf y drafodaeth yng nghwmni Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones.
Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick, a'r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, yn trafod yr wythnos a aeth heibio yn yr ymgyrch etholiadol gyda Dylan Jones yn y gadair.
Kate Crockett yn holi Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick, a'r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ar ddechrau'r ymgyrchu ar gyfer yr etholiad cyffredinol.
Gwenllian Grigg, Vaughan Roderick, Richard Wyn Jones a Mared Gwyn sy'n trafod.
Oes 'na etholiad cyffredinol ar y gorwel cyn y Nadolig? Gwenllian Grigg sy'n cadeirio trafodaeth yng nghwmni Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones.
Cytundeb rhwng Prydain a'r Undeb Ewropeaidd ar Brexit. Alun Thomas sy'n cadeirio trafodaeth yng nghwmni Vaughan Roderick, Gareth Pennant a Theo Davies-Lewis.
Dylan Jones sy'n cadeirio trafodaeth ble mae Tweli Griffiths, Vaughan Roderick a Hedydd Philyp yn rhoi eu pen ar y bloc wrth ddarogan a fydd yna gytundeb rhwng Prydain a'r Undeb Ewropeaidd cyn calan gaeaf.
“Deunawfed cainc y Mabinogi” meddai Vaughan Roderick am gynnig diweddaraf Llywodraeth Prydain ar Brexit i'r Undeb Ewropeaidd. Gwenllian Grigg sy'n holi Vaughan, ynghyd â Mared Gwyn o Frwsel a'r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, ym mhodlediad diweddaraf Llond Bol o Brexit.
Ar ddiwedd wythnos gythyrblus ARALL yn San Steffan, ein gohebydd gwleidyddol ni, James Williams, sy'n holi'r arbenigwr cyfreithiol, Keith Bush, yr academydd o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Dr Huw Pritchard, a chyfarwyddwr cwmni ymchwil cymdeithasol, Ymchwil Ob3, Heledd Bebb, am oblygiadau dyfarniad y Goruchaf Lys ac ieithwedd Aelodau Seneddol.
Ar fore cythryblus arall yn San Steffan, Kate Crockett yn trafod y diweddara gyda gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Gareth Pennant, a'r sylwebyddion gwleidyddol Sebastian Giraud a Derfel Owen.
Betsan Powys, Richard Wyn Jones a Teleri Glyn Jones sy'n cadw cwmni i Gwenllian Grigg i edrych yn ôl ar wythnos wleidyddol gythryblus arall...
Kate Crockett, Guto Harri, Mared Gwyn a Vaughan Roderick sy'n trafod wythnos ddramatig.
Steffan Messenger yn cadeirio trafodaeth ar ddigwyddiadau'r wythnos yn San Steffan ar Brexit gyda Vaughan Roderick, yr Athro Richard Wyn Jones a Mared Gwyn
Kate Crockett, Vaughan Roderick, Richard Wyn Jones a Mared Gwyn sy'n trafod wrth i Boris Johnson setlo yn Downing Street.
Dosbarth '99: Bethan Rhys sy'n hel atgofion gyda Dafydd Wigley, Alun Michael, Glyn Davies ac Eleanor Burnham am ddyddiau cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Trafod Wythnos arall o Brexit gyda James Williams, Richard Wyn Jones a Mared Gwyn.
Ble nesaf i Brexit? James Williams (Gohebydd Brexit BBC Cymru), Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth), a Hedydd Phylip (Prifysgol Caerdydd) sy'n trafod.
Ble nesaf i Brexit? James Williams, Cemlyn Davies a Dafydd ap Iago sy'n trafod.
Podlediad arbennig: Ar ddiwedd wythnos hir o drafod a dadlau, ble nesaf i Brexit?