Owain Gwynedd ac Alex Lewis sy'n sgwrsio'n wythnosol am amrywiaeth o bethau sy'n ymwneud a phopeth rygbi. Byddwn yn trafod ac yn mynegi ein barn ni am chwaraewyr a gemau yr wythnos a sgwrsio unrhyw faterion sy'n codi. Rydym yn gobeithio cael nifer o westai ar y podlediad a chroesawn unrhyw sylwadau…
Ows ac Al sy'n trafod penwythnos caled rhanbarthau Cymru yng nghystadleuthau Ewrop ac yn edrych ymlaen at y gemau ddarbi.
Al ac Ows sy'n trafod popeth rygbi gan gynnwys ychydig o 'exclusive' yr wythnos hon. Newyddion da i un o rhanbarthau Cymru.
Al ac Ows sy'n trafod cyfres yr Hydref ac yn taro golwg ar gemau'r Pro 14.
Al ac Ows sy'n trafod rygbi rhygnwladol yr wythnos ac yn sgwrsio gyda pennaeth ffitrwydd y Boks.
Ows ac Al sy'n trafod gem Cymru v Awstralia a gemau eraill y penwythnos.
Rhaid i chi wrando ar hon! Lloyd Williams a Jack Roberts sy'n cadw cwmni i Al ac Ows ac yn trafod cymeriadau'r Gleision ymysg nifer o bethau eraill. Ewch amdani!
Pod wythnoson Al ac Ows. Bydd pod bonws allan dydd Iau gyda Lloyd Williams a Jack Roberts.
Al ac Ows sy'n trafod y bencampwriaeth Ewropiaidd o'r penwythnos a thrafod carfan Cymru.
Illtud Dafydd sy'n cadw cwmni i Al ac Ows yr wythnos hon. Pennod sy'n trafod rheng ol a 3 ol Cymru yn ogystal a bwrw golwg yn ol ar gemau ddarbi'r Pro 14.
Ows ac Al sy'n träföd anafiadau, taclau uchel a'r Gleision yn ailddarganfod ei sbarc.
Aeth Popeth Rygbi ar daith yr wythnos hon i Glwb Rygbi Cross Keys. Damien Welch (ffrind gorau Ows), Jason Tovey, Gwesyn Price-Jones a'r bachwr/tenor, Rhydian Jenkins sy'n cadw cwmni i Al ac Ows. Mae trafodaeth agored am y problemau sy'n wynebu clybiau'r Uwch Gynghrair ac am amrywiaeth o bethau eraill.