Podcasts about ewrop

  • 23PODCASTS
  • 104EPISODES
  • 38mAVG DURATION
  • 1EPISODE EVERY OTHER WEEK
  • Feb 8, 2026LATEST

POPULARITY

20192020202120222023202420252026


Best podcasts about ewrop

Latest podcast episodes about ewrop

Beti a'i Phobol
Geraint Hughes

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Feb 8, 2026 49:07


Mae'r cwmni heddiw yn barod iawn i fentro mewn byd busnes a hynny er lles yr economi leol. Bwyd ac amaeth yw ei arbenigaeth ac ymhlith ei fentrau fe blannodd lannerch o olewydd, y mwyaf gogleddol yn Ewrop. Geraint Hughes yw'r cyntaf ym Mhrydain i werthu olew Camelina, a bu'n tyfu cywarch. Ond ei lwyddiant gyda Jones Crisps yw ei fenter fwyaf adnabyddus mae'n siŵr.Mae gan Geraint ugain mlynedd o brofiad o weithio'n agos gyda mentrau bwyd-amaeth ar draws Cymru a'r DU i wireddu syniadau a dod o hyd i atebion ar gyfer heriau. Mae'n rhedeg cwmni Lafan sydd yn cyflogi nifer o bobol a'u pwrpas yw meithrin a chefnogi timau o bobl dalentog sydd am weld dyfodol gwell i ardaloedd gwledig Cymru. Mae Geraint yn fab fferm o Ben Llŷn, ac mae'n sôn am ei fagwraeth hapus, ei deulu a'i ddiddordeb ifanc mewn tyfu llysiau.Mae'n dewis 4 cân yn cynnwys ‘Gwreiddiau' gan Swnami “Cân y teulu ar hyn o bryd a'r plant wrth eu boddau yn dawnsio iddi".

Y Coridor Ansicrwydd
Taniwch y sigârs... mae Caerdydd i fyny yn barod!

Y Coridor Ansicrwydd

Play Episode Listen Later Jan 29, 2026 46:48


Ar ôl buddugoliaeth swmpus ganol wythnos i Gaerdydd, mae'r criw yn dechrau meddwl bod dyrchafiad yn ôl i'r Bencampwriaeth yn anochel yn barod. Maen nhw ar "lefel uwch" yn ôl Malcolm Allen, tra bod Owain Tudur Jones yn credu bod popeth "rhy hawdd" i'r Adar Gleision ar hyn o bryd. Y rheolwr Brian Barry-Murphy sy'n cael y clod i gyd am drawsnewid canlyniadau'r clwb... ond ydi'r llwyddiant yma yn peryglu ei ddyfodol hirdymor yn y brifddinas?Tydi pethau ddim mor hawdd i Abertawe, yn sicr pan maen nhw'n chwarae oddi cartref. Sut all yr Elyrch wella'r record druenus o dair buddugoliaeth mewn 14 gêm? Does dim problem debyg i Wrecsam wrth iddyn nhw ddangos cymeriad drwy frwydo'n ôl unwaith eto i sicrhau buddugoliaeth anhygoel i godi i'r chwe safle uchaf yn y Bencampwriaeth. Ond ar ôl buddugoliaeth i godi hyder ddydd Sadwrn, roedd 'na ergyd drom eto i Gasnewydd wrth golli ganol wythnos.Ac ar drothwy rownd wyth olaf Cwpan Cymru, mae 'na sawl clwb o'r is-gynghreiriau yn breuddwydio am godi'r cwpan ac am daith fythgofiadwy i Ewrop.

ac ond tydi maen sut abertawe ewrop wrecsam gaerdydd
Podcast Rygbi Cymru
Caerdydd yn bownsio nôl, ond y gweddill yn colli yn Ewrop.

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later Jan 15, 2026 52:11


Nick, Dafydd ac Andrew yn croesawi Gareth wrth drafod gemau Ewrop gyda gobeithion i bawb y penwythnos yma. #RygbiCymru Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices

Podcast Rygbi Cymru
Y Gweilch a'r Dreigiau yn dathlu dros yr ŵyl

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later Jan 8, 2026 67:00


Nick, Dafydd ac Owain sy'n trafod gemau ‘darbi' yr ŵyl ac yn edrych ymlaen i gemau pwysig Ewrop. #Cymru #RygbiCymru #URC Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices

Beti a'i Phobol
Rhai o uchafbwyntiau Beti a'i Phobol 2025

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Dec 28, 2025 50:25


Rhaglen wahanol i'r arfer i nodi diwedd blwyddyn arall. Pytiau o rai o sgyrsiau Beti a'i Phobol 2025, gan ddechrau gyda dwy bennod gynta'r flwyddyn - tad a merch yn sôn am y hunlle brofon nhw fel teulu oherwydd ymddygiad anfaddeuol y Swyddfa Bost. Cawn glywed stori Siân Thomas a Noel Thomas. Fe awn wedyn i China i sgwrsio a Teleri Wyn Davies. Mae hi yn byw yn Shenzen, yn ne-ddwyrain y wlad, a'i gwaith yno yw hyfforddi rygbi merched.Fe gafodd Beti gwmni Glenda Jones-Williams o Frynaman yn wreiddiol sydd â swydd uchel yng nghwmni anferth Coca Cola. Mae'n is-lywydd pobol a diwylliant y cwmni yng ngogledd Ewrop, Asia ac ardal y Môr Tawel ac mae'n teithio'r byd gyda'i gwaith. Mae bywyd wedi bod yn hectic i'r awdur, y cyfansoddwr a'r dramodydd Daf James yn ddiweddar oherwydd llwyddiant ysgubol ei gyfres ddrama - Lost Boys and Fairies. Ond fe lwyddodd i dreulio awr fach yng nghwmni Beti George.Fe gawn hefyd gwmni'r Pianydd byd enwog o Bentrebychan, Llŷr Williams, Georgia Ruth, Mark Williams, Jess Davies, yr artist Gareth Parry a'r meddyg Dr Llinos Roberts.

Beti a'i Phobol
Gwerfyl Eidda

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Dec 21, 2025 48:52


Mae'r gwestai heddiw, sydd ychydig dros ei phedwar deg mlwydd oed, ar ei pumed swydd. Bu Gwerfyl Eidda yn gweithio gyda Mentrau Iaith yn annog busnesau i ddefnyddio'r Gymraeg. Am 5 mlynedd bu'n diddanu teithwyr ar longau pleser yn canu. Mae wedi cynghori pobol sydd am ddechrau busnes, bu'n gweithio i Ferched y Wawr, ac fe ysgrifennodd lyfr coginio poblogaidd yn seiliedig ar ryseitiau a rannwyd yn ystod y cyfnod clo. A nawr mae hi'n gyrru bysus ac wrth ei bodd yn gyrru yn Ewrop. Mae'n credu'n gryf y gall pobol gyflawni unrhyw beth maen nhw eisiau mond iddyn nhw gael ffydd yn eu gallu eu hunain. Daw Gwerfyl yn wreiddiol o Gwm Eidda, ger Ysbyty Ifan.

gymraeg ewrop
Podcast Rygbi Cymru
Y Gweilch yn unig sy'n ennill…ar y cae!

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later Dec 11, 2025 39:38


Nick a Dafydd sy'n trafod y Rhanbarthau yn Ewrop ac yn obeithiol am fwy o lwyddiant dros y penwythnos i ddod. #RygbiCymru #Cymraeg #Welshrugby #WRU Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices

dafydd ewrop
SBS Kurdish - SBS Kurdî
“Before blaming men, we must reflect on our own role” - "Berî em gazincan ji mêran bikin, divê em gazincan ji xwe bikin"

SBS Kurdish - SBS Kurdî

Play Episode Listen Later Nov 28, 2025 11:21


Roka Sheddo fled the war in Syria to Germany 11 years ago. She is speaking to us about the International Day for the Elimination of Violence against Women, its importance and how it is observed in Kurdish society and the diaspora. She explains the situation of women—especially Kurdish women—in a European society within the framework of cultural perspectives, rights foundations and educational assistance. - Ev hevpeyvîna bi Roka Şido re li ser Roja Navneteweyî ya Ji-holêrakirina Tundiya li ser Jinan e, girîngiya vê rojê û awayê ku di civaka kurd û diyaspore de tê hêsibandin e. Hevpeyvîn di destpêkê de girîngiya 25 Mijdarê wek rojeke ku balê dide ser pêwîstiya şopandina mînakên girîng yên têkoşîna jinan li dijî tundutûjiyê, ewlehiya civakî û mafên bingehîn e ku tên şikandîn. Her weha, di nav civakeke Ewropî de rewşa jinan—bi taybetî jinên Kurd—di nav çarçoveya dîtinên çandî, bingehên mafî û alîkarîya perwerdehiyê de tê şirove kirin.

Radio YesCymru
Geraint Thomas - Llythyrau gan Gyfeillion Ewrop - 19/11/2025

Radio YesCymru

Play Episode Listen Later Nov 19, 2025 34:09


Llythyrau gan Gyfeillion Ewrop - Geraint Thomas o YesCymru sy'n ymuno â Siôn Jobbins i drafod cylchlythyr newydd ar-lein gan ICEC sy'n rhannu newyddion am fudiadau annibyniaeth gorllewin Ewrop. Bydd 'Llythyrau gan Gyfeillion' yn cael ei ddanfon ar e-bost i bawb sydd ar restr e-bostio YesCymru neu gallwch gofrestru o'r newydd. Mae'n gyfle gwych i ddysgu am hynt a helynt mudiadau annibyniaeth o'r Ynys Las i Dde Tirol! * Cofrestru am y cylchlythyr:https://cy.yes.cymru/updates* ICEC - International Commission of European Citizens: https://icec.ngo/  grŵp o fudiadau ryngwladol, mae YesCymru yn aelod ohoni, sy'n cyrchu annibyniaeth .* Atlas of Stateless Nations in Europe - gol. Mikael Bodlore-Penlaez, llyfr hardd a diddorol iawn: https://www.ylolfa.com/products/9781847713797/atlas-of-stateless-nations-in-europe * Pe Bai Cymru'n Rhydd - Gwynfor Evans, cyhoeddwyd yn 1989 ond dal yn hynod ddefnyddiol a hawdd i'w darllen. Hanes a chyflwyniad byr i sawl cenedl annibynnol (ac ar fin ennill annibyniaeth ar y pryd!) o Estonia i Norwy gan gymharu nhw â sefylfa a hanes Cymru. Dim ond £4.95!: https://www.ylolfa.com/products/9780862431761/pe-bai-cymrun-rhydd Cyfres 7, Pennod 2

SBS Kurdish - SBS Kurdî
Nûçeyên roja Sêşemê 18/11/2025

SBS Kurdish - SBS Kurdî

Play Episode Listen Later Nov 18, 2025 5:08


Di vê bûletene de: Jess Wilson dibe yekem jina ku serokatiya Partiya Lîberal a Victoira bike ... Encûmena Ewlehiyê ya Neteweyên Yekbûyî piştgiriya plana aştiyê ya Trump ji bo Xezzeyê dike ... Giregirên Ewropî cihên xwe di Kûpa Cîhanê ya FIFA 2026 de misoger dikin. Ew nûçeyana û nûçeyên din di bûlentenê de hene.

SBS Kurdish - SBS Kurdî
Ewropa dest bi vegerandina penaxwazên neyasa dike

SBS Kurdish - SBS Kurdî

Play Episode Listen Later Oct 30, 2025 10:17


Ev bû demeke ku hejmareke mezin ji penaber û koçberan ji welatên Ewropî bi taybetî ji Almanya û Brîtanya bo Îraq û Herêma Kurdistanê tên vegerandin. Karbidestên wan welatan wan penaxwazan ji ber hin egeran vedigerîn. Egerên weke çûna koçberan bo welatên Ewropî bi awayekî neyasayî, herweha rêkeftina di navbera Îraqê û hin welatên di Yeketiya Ewropî de bo vegerandina panaxwazên ku bi şêweyeke neyasayî çûne.

Pod Sgorio
Pod 125: Tymor Newydd 2025/26

Pod Sgorio

Play Episode Listen Later Aug 13, 2025 33:00


Mae'n dymor newydd yn Uwch-gynghrair Cymru ac mae Sioned, Ifan a Dylan yn trafod y penwythnos agoriadol, perfformiad clybiau Cymru yn Ewrop, ac edrych ymlaen at weddill y tymor. It's a new season of the Cymru Premier and Sioned, Ifan and Dylan discuss the performance of Welsh clubs in Europe, look forward to the upcoming season, and look back on the opening weekend (including a big shock already!)

Y Coridor Ansicrwydd
Ewro 2025: Cymru (ac OTJ) yn teimlo gwres Y Swistir

Y Coridor Ansicrwydd

Play Episode Listen Later Jul 8, 2025 38:38


Oedd yr emosiwn yn ormod? Oedd tactegau Rhian Wilkinson yn anghywir? Oes rhaid derbyn bod Cymru lefel yn is na goreuon Ewrop? Dyna rai o'r cwestiynau i'w hateb wrth i gyn flaenwr Cymru Gwennan Harries ymuno gyda Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones i ddadansoddi'r golled o 3-0 yn erbyn Yr Iseldiroedd yn Ewro 2025.Ond y cwestiwn pwysicaf oll - pam bod OTJ wedi dychryn am ei fywyd mewn sawna..?!

ond cymru oes otj rhian wilkinson ewrop
Y Coridor Ansicrwydd
Ewro 2025: Yr aros mawr bron ar ben

Y Coridor Ansicrwydd

Play Episode Listen Later Jul 3, 2025 44:43


Mae Kath Morgan wedi cyrraedd Y Swistir - ac mae'r emosiynau'n hedfan. Bron i 20 mlynedd ers iddi roi'r gorau i chwarae dros ei gwlad, prin fod Kath yn gallu coelio bod Cymru yn cystadlu ymysg prif dimau Ewrop am y tro cyntaf. Fydd hyn yn gam rhy bell i'r merched? Fydd Sophie Ingle yn cychwyn y gêm gyntaf? Pa mor bwysig fydd profiad Rhian Wilkinson yn arwain y garfan? Mae 'na lot i drafod efo Dyl, Ows a Mal!

bron cymru dyl aros ows rhian wilkinson ewrop
Radio YesCymru
Cynhadledd ICEC - rhyddid i holl genhedloedd Ewrop - Begotxu Olaizola a Geraint Thomas

Radio YesCymru

Play Episode Listen Later Jul 2, 2025 32:56


Cynhadledd ICEC - rhyddid i holl genhedloedd Ewrop - Begotxu Olaizola o'r Basgtir a Geraint Thomas ar ran YesCymru sy'n edrych ymlaen at gynhadledd ICEC (International Commission for European Citizens) fydd yng Nghymru am y tro cyntaf ar benwythnos 5 Gorffennaf 2025. Mae ICEC yn rwydwaith o fudiadau pro-annibyniaeth cenhedloedd hanesyddol Ewrop gan gynnwys YesCymru. * ICEC - International Commission for European Citizens https://icec.ngo/ * Naziogintza - mudiad pro annibyniaeth GBasgeg https://www.naziogintza.eus/en/* YesBreizh - mudiad dros annibyniaeth i Lydaw https://nation.cymru/feature/yes-breizh-campaign-group-launches-to-push-for-greater-control-for-brittany/ * Gure Esku - 'yn ein dwylo ni', mudiad Basgeg dros yr hawl i bleidleisio dros annibyniaeth https://share.google/VfnzHNnlf4sjE2zNqCyfres 6, Pennod 23.

holl geraint thomas olaizola nghymru pennod ewrop icec
Y Coridor Ansicrwydd
Croeso Kpakio!

Y Coridor Ansicrwydd

Play Episode Listen Later May 29, 2025 47:02


Ronan Kpakio oedd yr enw annisgwyl i'w gynnwys gan Craig Bellamy yng ngharfan Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn Liechtenstein a Gwlad Belg yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026. Chwe ymddangosiad yn unig sydd gan yr amddiffynnwr dros Gaerdydd, ond Bellamy yn proffwydo gyrfa ddisglair i'r chwaraewr 19 mlwydd oed. Cyn y gemau hynny, bydd ymgyrch tîm Rhian Wilkinson yn dod i ben yng Nghynghrair y Cenhedloedd - dau gyfle olaf i geisio curo un o fawrion Ewrop cyn Ewro 2025. Fydd Sophie Ingle ar yr awyren i'r Swistir?Mae 'na Gymro wrth y llyw yng Nghasnewydd... a Chymraes swnllyd yn dod efo fo!

Pod Sgorio
Pod 124: Hwlffordd yn Ewrop gyda Mike Davies

Pod Sgorio

Play Episode Listen Later May 21, 2025 30:39


Pod 124: Hwlffordd yn Ewrop gyda Mike Davies Sylwebydd Sgorio Mike Davies sy'n ymuno â Sioned Dafydd ac Ifan Gwilym i drafod llwyddiant Hwlffordd yn y Gemau Ail-gyfle a chyrraedd Ewrop am yr ail dro mewn tair mlynedd. Cyfle hefyd i drafod y twll mae colli Aberystwyth a'r Drenewydd o Uwch Gynghrair Cymru yn ei adael yng Nghanolbarth Cymru, Connor Roberts yn ymarfer gyda'r tîm cenedlaethol a balchder Mike wrth weld ei gyn-ddisgybl yn Ysgol Bro Preseli Angharad James yn capteinio menywod Cymru yn Ewro 2025 dros yr Haf. Sgorio commentator Mike Davies joins Sioned Dafydd and Ifan Gwilym to discuss Haverfordwest County's Play-Off victory and achieving European football for the second time in three seasons. They also chat about the gap left in Mid Wales following Aberystwyth Town and Newtown's relegation from the Cymru Premier JD, Connor Roberts' international call-up and Mike's delight and pride at seeing his former Ysgol Bro Preseli pupil, Angharad James captain Wales Women at this summer's Euros.

Pod Sgorio
Pod 123: Cwpan Cymru a'r Gemau Ail-gyfle

Pod Sgorio

Play Episode Listen Later May 7, 2025 32:07


Dylan, Ifan a Sioned sy'n trafod rowndiau terfynol Cwpan Cymru, ymddeoliad John Disney, a'r gemau ail-gyfle i gyrraedd Ewrop (yn ogystal ag Arsenal yng Nghynghrair y Pencampwyr, wrth gwrs!) Dylan, Ifan and Sioned chat Welsh Cup finals, shock retirement announcements, and European play-offs (while there's also time to check on Dylan's nerves before Arsenal's Champions League semi final)

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#115 - Tyfu'n Fyd-eang: Sut Daeth Meithrinfeydd Seiont yn Bwerdy Allforio Garddwriaethol yng Nghymru

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear

Play Episode Listen Later Apr 6, 2025 23:28


Ydych chi erioed wedi meddwl sut y daeth meithrinfa yng Nghymru yn allforiwr mawr o blanhigion gardd ar draws y DU ac Ewrop? Ymunwch â'r cyflwynydd gwadd Neville Stein wrth iddo ymweld â Meithrinfeydd Seiont yng Nghaernarfon. Dysgwch y cyfrinachau y tu ôl i'w llwyddiant, o'u sefydlu ym 1978 i'w cynhyrchiad blynyddol trawiadol o dros filiwn o blygiau a leinin, gan arbenigo mewn mathau newydd cyffrous. Darganfyddwch sut maen nhw'n partneru â bridwyr rhyngwladol ac yn rheoli eu gwasanaeth dosbarthu wythnosol. Hefyd, clywch am eu cynlluniau i ehangu i farchnad Iwerddon. Mae'r bennod hon yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn garddwriaeth, twf busnes, a chymhlethdodau masnach ryngwladol yn y diwydiant planhigion.

nghymru hefyd ewrop daeth nghaernarfon ydych
SBS Kurdish - SBS Kurdî
Kurte Nûçeyên roja Înî 7î Adara 2025

SBS Kurdish - SBS Kurdî

Play Episode Listen Later Mar 7, 2025 4:35


Ji nûçeyên îro: Niştecîh xwe diparêzin e ji ber ku Cyclone Alfred nêzîktir dibe... Rêberên Ewropî soz didin ku di lêçûnên parastinê ji bo Ukraynê zêde bikin... Û di werzîşê de, Komeleya Tenîsê ya Jinan ji bo lîstikvanan heta 12 mehan betlaneya jidayikbûnê ya bi pere destnîşan dike. Ew nûçeyana û nûçeyên din di bûletenê de hene.

Beti a'i Phobol
Glenda Jones-Williams

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Feb 2, 2025 49:45


Glenda Jones-Williams Is lywydd pobol a diwylliant Gogledd Ewrop ac Asia a'r Môr Tawel gyda Coca Cola yw gwestai Beti George.Yn wreiddiol o Frynaman fe gafodd gyfnod yn gweithio ym myd y gyfraith ac wedyn cwympo mewn i'r byd corfforaethol ac i fyd adnoddau dynol (Human Resources neu Personnel gynt neu People and Culture fel maen nhw'n cael eu hadnabod yn Coca Cola). Mae wedi gweithio gyda Coca Cola ers tua 18 mlynedd bellach.Tydi methu credu fod merch sy'n siarad Cymraeg ac yn dod o Frynaman mewn swydd uchel yn y byd corfforaethol. Y cynllun oedd bod yn gyfreithwraig am byth. Fe gafodd ei 'head huntio' i'r swydd, ac fe gynigiwyd swydd ryngwladol iddi ond wedi ei leoli yn Llundain, ond mi roedd ei mab, Harri newydd ei eni ac roedd hi am iddo gael magwraeth Gymraeg a doedd hi ddim isio symud i Lundain, felly mi ddaru berswadio ei phennaeth yn Atlanta fod posib neud y swydd yn unrhyw le!Mae'n trafaelio'r byd efo'i gwaith – Awstralia, Ewrop i gyd, Phillipines, Jakarta, Bali, India ac America.

Pod Sgorio
Pod 118: Sefyllfa Niwlog, Prosiect Cymru

Pod Sgorio

Play Episode Listen Later Jan 15, 2025 41:12


Ar y Pod wythnos yma cawn glywed wrth Jack Sharpe am gynlluniau Cymdeithas Bel-droed Cymru i wahodd y clybiau alltud o Gynghrair Bel-droed yn Lloegr i gystadlu am un o lefydd Cymru yn Ewrop. Mae Ifan yn teithio i Barc Jenner i gael ymateb cefnogwyr y Barri a Hwlffordd, ac i ddarganfod pwy fydd yn 6 ucha Uwch-gynghrair Cymru ar gyfer ail ran y tymor, er wrth i'r noson ddod i ben mae'r sefyllfa dal braidd yn ...niwlog. On this week's Pod we hear from Jack Sharpe about the FAW's plans to invite the (Welsh) English Football League clubs to compete for one of Wales' places in Europe. Ifan travels to Jenner Park to get the reaction of Barry and Haverfordwest fans, and to find out who will be in the top 6 of the Cymru Premier for Phase 2 of the season, although as the evening comes to an end the situation is still somewhat...foggy.

Podcast Rygbi Cymru
Popeth yn y fantol

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later Jan 14, 2025 47:54


Nick a Carwyn sy'n edrych ar obeithion y 4 rhanbarth yn Ewrop ar ôl penwythnos cymysg ac yn trafod cyhoeddiad carfan Cymru #S4C #Cymraeg #Rygbi Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices

carwyn ewrop
Podcast Rygbi Cymru
Amser Dolig, Amser gemau derby

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later Dec 19, 2024 44:15


Wrth i'r gemau derby ddod gyda'r Dolig Nick a Carwyn sy'n trafod newyddion mawr o'r Gweilch, edrych nol ar Ewrop ac ymlaen i gemau'r Dolig. Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices

derby carwyn wrth ewrop dolig
Podcast Rygbi Cymru
Newidiadau mawr ar y gorwel

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later Dec 5, 2024 51:24


Nick a Carwyn sy'n trafod y newidiadau posib fydd yn dod i rygbi Cymru, yn edrych yn ôl dros penwythnos siomedig yn y gynghrair ond fydd Ewrop yn dod a gobaith newydd? Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices

Y Coridor Ansicrwydd
Croeso nôl Joe!

Y Coridor Ansicrwydd

Play Episode Listen Later Oct 3, 2024 53:11


Mae Joe Allen yn ôl yng ngharfan Cymru a fedrith Owain Tudur Jones a Malcolm Allen ddim stopio gwenu. Hefyd yn plesio ydi'r opsiynau ymosodol ychwanegol i'r rheolwr Craig Bellamy ar gyfer y ddwy gêm nesaf yng Nghynghrair y Cenhedloedd - a'r ffaith bod Brennan Johnson yn dechrau sgorio.Fydd Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam yn chwarae yn Ewrop cyn hir? Mae Prosiect Cymru yn cael sêl bendith Y Coridor beth bynnag. A pham bod Ows yn rhannu tips ar sut i ddal ymbarel?02'00 Joe Allen 15'25 Broadhead, Brooks a Burns yn holliach 19'35 Goliau Brennan Johnson 22'00 Prosiect Cymru 30'20 Y Seintiau'n Fiorentina 34'00 Gobaith i Gaerdydd? 37'00 Trafferthion oddi cartref Wrecsam 44'00 Casnewydd yn tanio adref 45'00 Erik "Pen Gwag" 51'00 Owain "Ymbarel" Jones

Y Coridor Ansicrwydd
Cyffro'r Cae Ras ond Y Seintiau'n colli cyfle

Y Coridor Ansicrwydd

Play Episode Listen Later Aug 15, 2024 40:44


Diolch byth am Wrecsam! Yr unig glwb i ennill ar ddiwrnod agoriadol y Gynghrair Bêl-droed yn Lloegr. Roedd Dyl yno yng nghanol y cyffro ar y Cae Ras, gan hefyd sgwrio efo neb llai na Rob Mcelhenney (fydden nhw'n ffrindiau pennaf cyn hir dwi'n siŵr).Doedd pethau ddim cystal i'r Seintiau Newydd wrth iddyn nhw golli yn Ewrop, a doedd Owain druan ddim rhy hapus wrth i'w goesau jiráff brofi'n broblem unwaith eto wrth drio sylwebu.Mae'n amser darogan pedwar uchaf a thri isaf Uwch Gynghrair Lloegr eto.. digon o anghytuno ac ambell i ddewis dryslyd iawn.

Y Coridor Ansicrwydd
Tymor Newydd, Tîm Newydd!

Y Coridor Ansicrwydd

Play Episode Listen Later Aug 8, 2024 53:35


Mae'r benod newydd o'r Coridor Ansicrwydd wedi ei chyhoeddi fan hyn... Gyda'r tymor pêl droed newydd yn dechrau'r penwythnos yma mae Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn asesu gobeithion 4 prif dîm Cymru gyda Owain a Malcolm yn proffwydo pa un o'r 4 rheolwr fydd dal yn ei swydd erbyn diwedd y tymor. Mae nhw hefyd yn trafod y Cymru Premier fydd hefyd yn dechrau y penwythnos yma, a gobeithion y Seintiau Newydd yn Ewrop.With the new football season starting this weekend Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones and Malcolm Allen assess the hopes for Cardiff, Swansea, Wrexham and Newport. Owain and Malcolm also predict if the 4 mangers will still be in charge of their clubs at the end of the season. They also discuss the start of the Cymru Premier season, and if the New Saints will progress to the group stages of the Europa League.

COSMO Bernama Kurdî
Şampiyonaya Ewropî 2024

COSMO Bernama Kurdî

Play Episode Listen Later Jul 5, 2024 36:20


(c) WDR 2024 Von Kamil Basergan.

wdr ewrop
Podcast Rygbi Cymru
Y Gweilch Amdani yn Ewrop

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later Apr 11, 2024 60:20


Mae Carwyn a Iestyn yn croesawi Carwyn arall i'r pod, Carwyn Evans i drafod newyddion diweddaraf rygbi Cymru. Buddugoliaeth i'r Gweilch yn Ewrop yn ogystal ag ail-arwyddion a gêm y merched v Iwerddon. Dilynwch ni ar gyfryngau gymdeithasol @RygbiCymruPod Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices

cymru carwyn iestyn ewrop
Podcast Rygbi Cymru
Y Gweilch yn lladd y Llewod yn hwyr

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later Jan 23, 2024 37:21


Wythnos tawelach i Iestyn a Carwyn yw hi wythnos yma wrth i'r ddau edrych yn ôl ar yr Indigo Premiership, Ewrop a newyddion yr wythnos.  Sultan ni ar gyfryngau gymdrithasol @RygbiCymruPod Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices

sultans carwyn iestyn wythnos ewrop
Podcast Rygbi Cymru
LRZ I NFL

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later Jan 16, 2024 74:11


Mae Carwyn Harris ac Iestyn Thomas yn trafod hynt a helynt dydd arall brysur yn rygbi Cymru. Gyda Louis Rees-Zammit yn gadael rygbi, carfan chwe gwlad Cymru, rownd ddiweddar Ewrop yn ogystal â'r her geltaidd a'r Indigo Premiership. Dilyn ni ar gyfryngau gymdrithasol @RygbiCymruPod Learn more about your ad choices. Visit megaphone.fm/adchoices

cymru ewrop
Podcast Rygbi Cymru
Joio! A Blwyddyn Newydd Dda

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later Jan 10, 2024 72:42


Mae Carwyn Harris ac Iestyn Thomas yn edrych nôl ar ddarbi's Dolig Cymru a hefyd yn edrych ar sefyllfa'r Indigo Prem a'r her geltaidd. Meant hefyd yn edrych ymlaen at Ewrop a pwy fydd yng nghrys pymtheg tîm Warren Gatland am y 6 Gwlad.  Dilyn ni ar gyfryngau gymdeithasol @RygbiCymruPod Learn more about your ad choices. Visit megaphone.fm/adchoices

Podcast Rygbi Cymru
Pwy fydd Brenin y darbi Dolig?

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later Dec 20, 2023 66:08


Colli oedd hanes y pedwar rhanbarth yn Ewrop ond nawr mae'r darbi's Dolig i Carwyn ac Iestyn trafod. Pwy bydd yn serennu?  Dilyn ni ar gyfryngau gymdeithasol @RygbiCymruPod  Mae unrhyw ymateb yn werthfawr i ni. Learn more about your ad choices. Visit megaphone.fm/adchoices

colli darbi carwyn iestyn pwy ewrop dolig
Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 19eg o Ragfyr 2023.

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Dec 19, 2023 15:15


1 Aled Hughes :Mair Tomos Ifans fuodd yn siarad efo Aled Hughes yn ddiweddar am rai o hen draddodiadau Nadolig gwledydd Ewrop. Mae Mair yn actores, cantores, sgriptwraig, darlithydd a thiwtor. Ond erbyn hyn mae'n treulio llawer iawn o amser yn adrodd straeon ac yn arwain gweithdai mewn ysgolion:Traddodiadau Traditions Diniwed Innocent Darn o bren A piece of wood Boncyff A log Ymwybodol Aware Ymddangos Appearing Melysion Sweets Curo To beat Carthen A cover Penodol Specific Gwasgaru'r llwch Dispersing the ash2 Ffion Dafis :Golwg yn fanna ar rai o draddodiadau Nadolig gwahanol iawn sydd i'w gael yng ngwledydd Ewrop gan Mair Tomos Ifans.Mi fuodd y pianydd rhyngwladol Llŷr Williams yn perfformio yng Nghanolfan Pontio ym Mangor yn ddiweddar, ac mi gafodd Ffion Dafis sgwrs efo fo am sut mae o'n mynd ati i ymarfer a dewis ei raglen ar gyfer perfformio:Bysedd Fingers Hyblyg Flexible Ymwybodol Aware Toriadau Breaks Yn fwy cyfarwydd More familiar Dehongli To interpret Datblygu To develop Amlygu ei hun Manifests itself3 Bore Cothi :Y pianydd Llŷr Williams oedd hwnna'n rhannu ambell i gyfrinach efo Ffion Dafis am sut mae o'n paratoi at berfformio.Ddydd Llun yr 11eg o Ragfyr, Alison Huw y gogyddes oedd gwestai Shân Cothi. Trafod ‘sprouts' oedd hi, neu ysgewyll Brwsel yn Gymraeg. Nid pawb sy'n hoff iawn o'r ysgewyll naci! Ond yma mae Alison yn sôn am ffordd hyfryd o'i weini ar gyfer eich cinio Dolig:Cyfrinach Secret Ysgewyll Sprouts Gweini To serve Cnau castanwydden Horse chestnut Hallt Salty Plisgo Peeling Ffwrn Popty Moethus Luxurious Rhwydd Hawdd Yn glou iawn Yn gyflym iawn4 Dros Ginio :Wel dyna i chi ambell i syniad am ginio Dolig llwyddiannus, ond be am lwyddo i fwynhau parti Nadolig?Mae yna ymchwil sy'n dangos bod nifer o bobl yn teimlo'n bryderus yn y partïon hyn. Mirain Rhys o Adran Seicoleg Coleg Prifysgol Met Caerdydd, a ‘Mr Cymdeithasu' Stifyn Parri sy'n trafod sut mae paratoi'n gymdeithasol ar gyfer y partïon? Pryder a chynnwrf Anxiety and excitement Curiad fy nghalon My heartbeat Anadlu Breathing Baglu To trip Chwydu Vomiting Pynciau Topics Osgoi To avoid Sleifio mewn To sneak in Corwynt Hurricane Dadleuol Controversial Ysgogwyr Stimuli5 Rhaglen Caryl Parry Jones:Wel dyna ni wedi cael syniadau coginio Nadolig, syniadau am sut i fwynhau partïon Nadolig ac rŵan dan ni'n mynd i glywed pa fath o Nadolig bydd Helen Evans o Fethesda yn ei fwynhau. Dyma i chi flas ar sgwrs rhwng Helen a Shelley Rees oedd yn cadw sedd Caryl yn gynnes nos Fawrth y 12fed o Ragfyr. Unig blentyn Only child Ysbrydoli To inspire Wedi mopio efo Wedi dwlu ar Y diwrnod canlynol The following day Llond tŷ A houseful

sh ond nid gymraeg dyma nadolig podlediad mangor ewrop dolig
Blood & Mud Rugby Podcast
348: A Languid Murder

Blood & Mud Rugby Podcast

Play Episode Listen Later Dec 18, 2023 92:03


The band is back together for our probably final episode of 2023 to chat round 2 of Ewrop and all the usual. Make it your New Year's resolution to support us via patreon.com/bloodandmud. Let's face it, it's better than the bloody gym. Learn more about your ad choices. Visit megaphone.fm/adchoices

new year murder languid ewrop
Podcast Rygbi Cymru
Gwyl o geisiau I Dewi

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later Dec 13, 2023 72:30


Wythnos yma mae Carwyn ac Iestyn yn dadansoddi perfformiadau'r pedwar rhanbarth yn Ewrop ar ôl buddugoliaethau i'r Gweilch a'r Dreigiau ond teithiau anodd i'r Sgarlets a Chaerdydd yn Ffrainc.  Dilyn ni ar gyfryngau gymdeithasol @RygbiCymruPod  Mae unrhyw ymateb yn werthfawr i ni. Learn more about your ad choices. Visit megaphone.fm/adchoices

dewi carwyn iestyn wythnos ewrop ffrainc
Podcast Rygbi Cymru
Rhondda i Ponty via Glantaf a'r Sgarlets gyda Josh Phillips

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later Dec 8, 2023 74:14


Wythnos yma mae Carwyn ac Iestyn yn cael eu ymuno gan faswr Pontypridd a chyn faswr dan ugain Cymru Josh Phillips i drafod ei daith rygbi yn ogystal â'r Indigo Prem a fuddugoliaeth y Sgarlets dros Caerdydd.  Hefyd maent yn edrych ymlaen i gemau Ewrop a sialens tîm y prifddinas yn Toulouse a Gweilch v Benetton Round 2.   Dilyn ni ar gyfryngau gymdeithasol @RygbiCymruPod  Mae unrhyw ymateb yn werthfawr i ni. Learn more about your ad choices. Visit megaphone.fm/adchoices

toulouse josh phillips gyda pontypridd rhondda ponty carwyn iestyn hefyd wythnos ewrop
Pod Sgorio
Pod 69: Rhagolwg Tymor 2023/24 Season Preview

Pod Sgorio

Play Episode Listen Later Aug 6, 2023 35:55


Pod 69: Rhagolwg Tymor 2023/24 Season Preview Rheolwr Cymru ‘C' a sylwebydd botwm coch Sgorio, Mark ‘Jonah' Jones sydd yn ymuno â Sioned Dafydd ac Ifan Gwilym yn Stadiwm Dinas Caerdydd i drafod y tymor newydd yn Uwch Gynghrair Cymru. Mae Sioned ac Ifan hefyd yn edrych nôl ar bythefnos siomedig i glybiau Cymru yn Ewrop. Sioned Dafydd and Ifan Gwilym are joined by Sgorio commentator and Wales ‘C' manager Mark ‘Jonah' Jones in a JD Cymru Premier season preview. Sioned and Ifan also look back at the last fortnight's action which saw both The New Saints and Haverfordwest end their European adventures.

Y Coridor Ansicrwydd
Cynnwrf cyn cychwyn tymor

Y Coridor Ansicrwydd

Play Episode Listen Later Aug 3, 2023 53:30


Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod gobeithion Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam ar drothwy tymor newydd, ac yn asesu canlyniadau clybiau Cymru yn Ewrop.

cymru abertawe ewrop wrecsam
Pod Sgorio
Pod 68: Hwlffordd a Haen 2 gyda Dylan Blain

Pod Sgorio

Play Episode Listen Later Jul 24, 2023 32:23


Pod 68: Hwlffordd a Haen 2 gyda Dylan Blain Cyn-chwaraewr Hwlffordd ac îs-rheolwr Llanelli, Dylan Blain sydd yn ymuno â Sioned Dafydd ac Ifan Gwilym yr wythnos hon i drafod llwyddiant yr Adar Gleision yn Ewrop ac edrych ymlaen at dymor newydd yn ail haen pyramid pêl-droed Cymru yn y De a'r Gogledd. Sioned Dafydd and Ifan Gwilym are joined by former Haverfordwest County player and current Llanelli Town AFC assistant manager Dylan Blain to look back on an historic night for the other Bluebirds at the Cardiff City Stadium. They also look forward a new season of Cymru North and Cymru South football which kicks off this Friday.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 11eg o Orffennaf 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jul 11, 2023 12:01


Pigion Dysgwyr – Cerys Hafana Cerys Hafana, y cerddor ifanc o Fachynlleth oedd gwestai Beti George ar Beti a'i Phobol wythnos diwetha. Mae hi'n chwarae'r delyn ers pan oedd hi'n 7 mlwydd oed. Daeth hi i Fachynlleth i fyw yn blentyn bach o ddinas Manceinion. Dyma hi'n sôn am sefyllfa byd cerddoriaeth werin yng Nghymru, ymhlith pobl ifanc. Cerddor Musician Telyn Harp Ymhlith Amongst Offeryn Instrument Cerddoriaeth (g)werin Folk music Mae'n ddilys It's valid Mynegi eich hunain To express yourselves Llawysgrifau Manuscripts Plant yn eu harddegau Teenagers Ysbrydoliaeth Inspiration Pigion Dysgwyr – Cernyweg Y cerddor Cerys Hafana oedd honna'n sgwrsio gyda Beti George. Enillodd Matt Spry wobr Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018 ac aeth ymlaen i fod yn diwtor Cymraeg gyda Phrifysgol Caerdydd. Mae'n dod o Aberplym neu Plymouth yn wreiddiol, ac nawr mae e wedi bod yn dysgu Cernyweg ers tua 8 mis. Wythnos diwetha ar raglen Aled Hughes cafodd Matt air gydag Aled i esbonio pam ei fod wedi mynd ati i ddysgu'r iaith … Cernyweg Cornish language Yn bennaf Mainly Ar y ffin On the border Cysylltu To contact Wythnosol Weekly O gymharu â Compared to Anhawsa Most difficult Yn rheolaidd Regularly Hynod o bwysig Extremely important Pigion Dysgwyr – Talwrn A phob lwc i Matt gyda'r Gernyweg on'd ife? Cystadleuaeth rhwng dau dîm o feirdd ydy'r Talwrn a'r wythnos diwetha y ddau dîm oedd yn cymryd rhan oedd Tir Iarll a'r Glêr, mewn rhaglen cafodd ei recordio yn Neuadd Pontyberem. Dyma Ceri Wyn Jones i osod tasg y limrig….. Dim peryg No danger Barddoniaeth Poetry Gosod tasg Setting the task Unwaith y flwyddyn Once a year ‘Na ryfedd That's strange Awgrymais I suggested Fy ffiol oedd lawn My cup was overflowing Pigion Dysgwyr – Gyrru Dramor Wel dyna ddau limrig doniol on'd ife? P'run enillodd tybed? Dych chi wedi gyrru dramor erioed? Un sydd wedi gwneud yn aml yw arbenigwr moduro Rhaglen Bore Cothi, Mark James. Wythnos diwetha cafodd Mark sgwrs gyda Shan Cothi am beth sydd angen ei gofio pan dych chi'n gyrru ar gyfandir Ewrop. Tramor Overseas Arbenigwr Expert Cyfandir Continent Esgeuluso To neglect Trwydded yrru Driving license Pigion Dysgwyr – Dafydd Morgan Pethau i chi gofio wrth yrru ar gyfandir Ewrop yn fan'na ar Bore Cothi. Awn i gyfandir arall nawr – Awstralia. Mae Dafydd Morgan o bentre Ffarmers yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn byw yn Awstralia ers mis Medi y llynedd. Mae Dafydd wedi bod yn gweithio ar ffermydd y wlad a dyma fe i sôn wrth Ifan Evans am y tywydd yno ar hyn o bryd….. Gaeafau Winters Porfa Pasture Sulwair Silage Plannu To plant Ffrwythlon Fertile Pigion Dysgwyr – Rhys Mwyn Wel dyna ni, nid Cymru sy'n cael y glaw i gyd! Yn y cylchgrawn Far Out mae'r cerddor a'r canwr Paul Weller, fuodd gyda band The Jam, wedi dewis yr albwm Hotel Shampoo gan Gruff Rhys fel un o'i hoff albymau. Ymhlith ei hoff albymau eraill roedd rhai gan y Beatles, Stevie Wonder, Bob Marley a David Bowie. Dyma Rhys Mwyn ar Dros Frecwast fore Iau diwetha'n sôn am gerddoriaeth Rhys a'r Super Furry Animals Tueddu i Tend to Edmygu neu gwerthfawrogi Admire or appreciate Petai Tasai Arbrofol Experimental Cydnabod To acknowledge

Pod Sgorio
Pod 67: Clybiau Cymru yn Ewrop

Pod Sgorio

Play Episode Listen Later Jul 11, 2023 42:05


Pod 67: Clybiau Cymru yn Ewrop Sioned Dafydd, Dylan Ebenezer ac Ifan Gwilym sy'n edrych ymlaen at gemau'r Seintiau Newydd, Penybont, Hwlffordd a Chei Connah yng nghystadlaethau Ewrop. Pwy sydd wedi cael “stinker o draw” a phwy sydd â'r cyfle gorau i barhau ar antur Ewropeaidd? BK Häcken (pencampwyr Sweden) v Y Seintiau Newydd - (Gem yn fyw ar S4C – cic gyntaf am 18:00) Ail gymal yn Neuadd y Parc ar nos Fawrth 18fed o Orffennaf (hefyd ar S4C) Penybont v Santa Coloma (Andorra), ar Gae'r Bragdy (Yn fyw ar-lein gyda Sgorio – cic gyntaf am 18:30) FK Shkëndija (gogledd Macedonia) v Hwlffordd (ail gymal yn fyw ar-lein ar Sgorio) KA Akureyri (Gwlad yr Ia) v Cei Connah (y ddwy gymal yn fyw ar sianel YouTube Cei Connah) Sioned Dafydd, Dylan Ebenezer and Ifan Gwilym look forward to The New Saints', Penybont, Haverfordwest and Connah's Quay Nomads' games in the Champions and Europa Conference League qualifiers. Who've been given a “stinker of a draw” and who have the best chance of prolonging their European adventure? BK Häcken (Sweden) vs The New Saints - (Live on S4C, KO 18:00) Second leg at Park Hall, Tuesday July 18th (also on S4C) Penybont vs Santa Coloma (Andorra), at Brewery Field - (Live on Sgorio's online platforms – KO 18:30) FK Shkëndija (North Macedonia) vs Haverfordwest (second leg live on S4C's online platforms) KA Akureyri (Iceland) vs Connah's Quay (both legs live on Connah's Quay's YouTube channel)

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 20fed o Fehefin 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jun 20, 2023 11:02


Pigion Dysgwyr – Dorian Morgan Bore Llun wythnos diwetha ar ei rhaglen, cafodd Shan Cothi gwmni Dorian Morgan. Mae Dorian newydd ddod yn ôl o daith 60 diwrnod ar draws Ewrop, dyma fe i ddweud mwy am y daith... Bant I ffwrdd Cledrau Rails (of railway) Pasg Easter Galluogi To enable Yn ddi-dor Uninterrupted Pigion Dysgwyr – Trystan ac Emma Wel cafodd Dorian fargen yn fanna on'd do fe? Dw i ‘n siŵr ei fod wedi gweld nifer o wledydd Ewrop yn y 60 diwrnod yna! Yn ddiweddar ar raglen Trystan ac Emma clywon ni raglen arbennig i ddathlu' Campio a Charafanio'. Mae Geth Tomos yn garafaniwr brwd ac esboniodd e wrth Trystan ac Emma pam ei fod mor hoff o'i garafán Yn ddiweddar Recently Brwd Enthusiastic Cerddor Musician Hafan o heddwch A peaceful haven Adlen Awning Troedfedd A foot (measurement) Pigion Dysgwyr – Carno Mae Geth Tomos yn amlwg wrth ei fodd yn aros yn ei garafán. Ym mhentre Carno ym Mhowys mae tafarnwr wedi bod yn tynnu peintiau o gwrw ers 60 blynedd. John Williams yw ei enw ac enw'r dafarn yw Y Tŷ Brith. Craig Duggan aeth draw ar ran Dros Frecwast yn ddiweddar i'w weld.. Llefydd Places Cofiadwy Memorable Cyflog Wages Degawdau Decades Y gyfrinach The secret Y gymuned gyfan The whole community Gwŷr Menfolk Pigion Dysgwyr – Vaughan Smith Pobl Carno oedd y rheina'n sôn am y tafarnwr John Williams. Daw Vaughn Smith o'r Unol Daleithiau ac mae wedi dysgu Cymraeg i lefel uchel iawn. Mae e wedi bod ar ei daith gynta i Gymru. Ond y peth rhyfeddol am Vaughn yw ei fod yn gallu siarad 36 o ieithoedd!! Rhyfeddol Amazing Ffinneg Finnish Cyfandiroedd Continents Pigion Dysgwyr – Heledd Fflur 36 o ieithoedd – waw mae Vaughn yn polyglot go iawn on'd yw e? Arbenigwraig garddio rhaglen Caryl yw Heledd Fflur a'r wythnos diwetha ar ei rhaglen esboniodd Heledd wrth Caryl pa lysiau sydd yn dda i'w hau yr adeg yma o'r flwyddyn Arbenigwraig Expert (female) Hau To sow Cnwd Crop Mewn rhes In a row Sicrhau To ensure Hedyn A seed Tyfiant Growth Dyfrio To water Egino To germinate Cynhesach Warmer Pigion Dysgwyr – Alwyn Sion Ac arhoswn ni gyda garddio yn y clip nesa ‘ma. Yr wythnos diwetha roedd y diddanwr Alwyn Sion yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed. Gwahoddodd Shan Cothi e ar ei rhaglen, mae e'n arddwr brwd a dyma fe i sôn am ei lysiau arbennig Diddanwr Entertainer Mwy na lai More or less Canolbwyntio To concentrate Uchafbwynt Highlight Efeilliaid Twins Yr hyd a'r lled The length and breadth

National Trust Podcast
S6 Ep108: Tŷ Mawr Wybrnant - Cartref y cyfieithydd

National Trust Podcast

Play Episode Listen Later Aug 4, 2022 27:42


Mae'r Gymraeg yn un o ieithoedd byw hynaf Ewrop, ond pa ran chwaraeodd ffermdy bychan ger Penmachno yng ngoroesiad yr iaith hyd heddiw? Ymunwch a Betsan Powys wrth iddi fynd ar siwrne i Dŷ Mawr Wybrnant i ddysgu mwy am Esgob William Morgan, un o gewri'r genedl sy'n cael ei adnabod gan lawer fel gwaredwr yr iaith Gymraeg.

gymraeg ewrop
Hefyd
Helgard Krause, Almaenes a Phrif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru | Pennod 14

Hefyd

Play Episode Listen Later Jun 16, 2022 43:06


Y tro yma rwy'n siarad gyda Helgard Krause. Cafodd Helgard ei magu yng ngorllewin yr Almaen. Mae hi wedi dysgu Cymraeg ac erbyn hyn mae hi'n gweithio fel Brif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru. Rydyn ni'n trafod ei phlentyndod ger y ffin gyda Ffrainc, ei barn hi am Rwsia ac Wcráin, Ewrop a Brexit, ei chyngor neu 'tips' am ddysgu Cymraeg, ac wrth gwrs, llyfrau!  Mae mwy o wybodaeth, geirfa a lluniau ar fy ngwefan i. Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter

Beti a'i Phobol
Ceri Isfryn

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Jun 5, 2022 51:01


Ceri Isfryn , cynhyrchydd y gyfres House of Maxwell yw gwestai Beti George. Fe ddechreuodd ei gyrfa ar The One Show, ac yna bu'n gweithio ar gyfresi i'r BBC fel Watchdog Rogue Traders, a Panorama. Mynychodd Ysgol Gynradd Llandegfan ac Ysgol David Hughes Porthaethwy, a bu'n perfformio yn sioeau'r ysgol – profiad gwerthfawr yn ôl Ceri. Mae hi hefyd yn falch ei bod wedi mynychu ysgol lle'r oedd y disgyblion yn dod o gefndiroedd mor wahanol, gan gredu bod hyn yn help mawr iddi ymwneud a trawstoriad o bobl o gefndiroedd gwahanol yn ei gwaith heddiw. Yn ystod ei blynyddoedd yr ysgol Uwchradd roedd hi ai brawd yn chwarae efo Band Biwmares a Band Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Yna aeth i Brifysgol Caerdydd i astudio Llenyddiaeth Saesneg, a dyna lle dechreuodd Ceri ‘sgrifennu i bapur newydd y Coleg sef Gair Rhydd. Mae ganddi ddiddordeb erioed mewn newyddiaduraeth, ac yn yr ysgol bu am brofiad gwaith gyda'r North Wales Chronicle ym Mangor. Wedi ei blwyddyn gyntaf yn y Coleg aeth i weithio ar bapur newydd yn Ghana am fis a hithau ‘mond yn 19 oed. Mae Ceri wedi gweithio ar raglenni teledu am Brexit, Donald Trump a Facebook, ac yn dilyn yr ymosodiad terfysgol ym Mharis yn 2015 bu'n gweithio ar raglen yn edrych ar derfysgaeth yn Ewrop a'r achos o derfysgaeth yn Christchurch, Seland Newydd yn 2019. Bu hefyd yn gweithio ar raglen Panorama lle gofynnwyd iddi a fyddai'n fodlon mynd “undercover” i weithio mewn cartref henoed yn Llundain.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 10fed 2022

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later May 10, 2022 16:08


Bore Cothi Anne Henrot Un o Wlad Belg ydy Anne Henrot ac mi ddechreuodd ddysgu Cymraeg ym 1984 ar ôl bod ar wyliau i Gymru. Mi wnaeth hi deithio ar hyd a lled Cymru pan oedd hi yma - o Gaerdydd i Fangor. Mae hi wedi ymweld â Chasgwent sawl gwaith ac mae wrth ei bodd gyda'r ardal. Dyma Anne yn dweud wrth Shan Cothi sut a pham dechreuodd hi ddysgu Cymraeg. Gwlad Belg - Belgium Yn rhyfeddol - Wonderous Ail-ddechreuais i - I re-commenced Anne Henrot, fuodd yn Nant Gwrtheyrn am bythefnos yn unig, a heblaw am hynny wedi dysgu Cymraeg yn ei chartref yng Ngwlad Belg. Gwych ynde? Aled Hughes ac Ezzati Ariffin Mae E'zzati yn dod o Brunei yn wreiddiol, ond mae hi'n disgrifio ei hun fel "merch Bruneian yng Nghymru" erbyn hyn. Buodd hi'n egluro wrth Aled Hughes mwy am yr ŵyl Hari Raya Aidilffitri sydd yn dathlu diwedd cyfnod ymprydio Ramadan. Gŵyl - Festival Ymprydio - Fasting Am wn i - As far as I know Canolbwyntio - To concentrate Dihuno - Deffro Bennu - Gorffen Dathliad - A celebration A phob hwyl i bawb fydd yn dathlu Hari Raya Aidilffitri, neu Eid al-Ffitr iid ffitr, ynde? Gwneud Bywyd yn Haws - Carys Mai Hughes Mae Carys Mai Hughes yn gweithio o'i champerfan yn hytrach nag o adre er mwyn teithio Ewrop a gwneud y gorau o bob eiliad o'i hamser hamdden. Dyma hi ar Gwneud Bywyd yn Haws yn sgwrsio o lan Llyn Léman... Darlledu - To broadcast Ar bwys - Wrth ymyl Rhyngwladol - International Diflasu - To become weary of Gwenu - Smiling Sa i'n mynd - Dw i ddim yn mynd Dyna'r bywyd ynde - mae gweithio o'r camperfan yn gwneud bywyd yn dipyn haws i Carys Mai Hughes dw i'n siŵr o hynny. Papur Ddoe Mae Elin Tomos yn dilyn hanesion o hen bapurau newydd yn y gyfres Papur Ddoe. Mae hi'n dod ar draws sawl stori ddifyr fel hanes llofruddiaeth Dafydd Lewis cafodd ei saethu yn ei ben gyda phistol llaw yn 1844. Dyma'r hanesydd Erin White i roi ychydig o'r hanes. Llofruddiaeth - Murder Yn dwyn yr enw - Named Tyddyn - Smallholding Cynnyrch - Produce Y Chwyldro Diwydiannol - The Industrial Revolution Swm sylweddol - A considerable amount Tollborth - Toll gate Ymosodiad gan ladron - An attack by thieves Tystion - Witnesses Daethpwyd o hyd - Was found Cwato - Cuddio Hanes llofruddiaeth Dafydd Lewis yn fan'na ar Papur Ddoe. Ifan Evans a Nigel Owens Un o'r pethau unigryw ym myd rygbi Cymru ydy timau cymunedol o bob oedran yn cael chwarae rowndiau terfynol eu cystadlaethau yn y stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd. Er bod Nigel Owens wedi ymddeol fel dyfarnwr rygbi, buodd o yn y Stadiwm yn helpu efo'r gemau. Cafodd Ifan Evans sgwrs efo fo am y digwyddiad... Dyfarnwr - Referee Rowndiau terfynol - Finals Gêm y gymuned - The community game Rowndiau terfynol - Finals Cyfleoedd - Opportunities Yr Undeb - The Union (WRU) Unigryw - Unique Profiad - Experience Wastad - Always Braf gweld Nigel yn helpu'r gêm gymunedol yn tydy? Stiwdio Cefyn Burgess Mae'r artist Cefyn Burgess yn cofio arian yn cael ei gasglu yn yr ysgol Sul ers talwm ar gyfer cenhadaeth yr Eglwys Bresbyteraidd yn Casia India. Cyn y cyfnod clo aeth o draw i Casia er mwyn cael dysgu mwy am bobl y rhan yna o'r byd, ac mae o wedi creu arddangosfa artistig o'i brofiadau yno. Aeth Elinor Gwynn draw i Storiel, Bangor i weld yr arddangosfa a chael gair efo Cefyn am y gwaith. Os dach chi yn yr ardal o gwbl mae'r arddangosfa ymlaen tan yr 2il o Orffennaf 2022. Arddangosfa - Exhibition Casgliad - Collection Bylchau cenhadol - Missionary collection boxes Yn gyfarwydd - Familiar Dychymyg - Imagination Yn fy oed ac amser - At this stage in my life Ehangach - Wider Talaith - State

er os missionary ramadan sul eid dw bangor brunei cyn cymru haws nigel owens cymraeg nghymru gymru dyma casia erin white podlediad ewrop bruneian nghaerdydd gaerdydd
Beti a'i Phobol
Catrin Ellis Jones

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later May 8, 2022 50:22


Catrin Ellis Jones yw gwestai Beti ai Phobol, ac mae ei stori yn mynd a ni o Sling, Tregarth i Folivia a Chile a nôl i'r Fenni lle mae hi'n byw bellach gyda'i theulu. Mae hi'n gweithio gydag un o gwmnïau gwerthu ynni mwyaf Ewrop, Vattenfall fel Pennaeth Ymrwymiad Rhanddeiliaid a Chymunedau ac yn trafod gyda chymunedau sut y gall ynni gwynt fod o fantais iddynt. Bu'n byw ac yn gweithio ym Molivia a Chile, De America am flynyddoedd yn chwilio am fwynau ac yn cydweithio gyda'r bobol gynhenid. Mae hi bellach yn gweithio ar brosiectau ynni yn ein moroedd. "36 % o ynni adnewyddol 'da ni'n ei ddefnyddio yng Nghymru, 60% yn yr Alban, be sw ni'n licio'i weld ydi Cymru ar flaen y gad gyda thechnoleg newydd sydd i ddod fel bod ni'n creu hi'n bosib i ni ddi-garboneiddio mwy o'n diwydiant ni". " Mi fydda Cymru yn medru gwneud dur di-garbon" meddai Catrin.

SBS Kurdish - SBS Kurdî
European Union to Observe Iraq's parliamentary elections - Yekîtiya Ewropa dê çavdêriya hilbijartinên parlementoya Iraqê bike

SBS Kurdish - SBS Kurdî

Play Episode Listen Later Sep 19, 2021 6:56


In response to a call from the Independent High Electoral Commission of Iraq, the European Union has decided to deploy an Election Observation Mission (EOM) to monitor the legislative elections scheduled to take place in Iraq on 10 October. The EU has appointed Violavon Cramon, more in Ahmad Ghafur's report. - Li ser vexwendina Komîsyona Bilind ya Serbixwe ya Hilbijartinan li Iraqê, Yekîtiya Ewropî biryar da ku şandeyeke Çavdêriya Hilbijartinan bicîh bike da ku çavdêriya hilbijartinên zagonî yên ku li Iraqê di 10 ê Cotmehê/October de hatine li dar xistin bike. Bêtir derbarê wê mijarê di raporta Ehmed Xefûr ji Hewlêrê heye...