POPULARITY
In the final episode of Season One, Dr Kathryn Speedy speaks to Tara Bryer from Climate Outreach. If you want to become more confident in speaking about Climate Change, then listen to this episode where Tara shares her top communication tips for healthcare professionals. Transcripts of this episode in Welsh and English will be available shortly in the Climate Smart Community on Gwella. Bydd trawsgrifiadau o'r bennod hon yn Gymraeg a Saesneg ar gael yn fuan yn y "Climate Smart Community" ar "Gwella". Links to resources mentioned in the episode: Climate Outreach https://phwwhocc.co.uk/wp-content/uploads/2024/04/Climate-Change-and-Health-in-Wales-Views-from-the-public.pdf https://climateoutreach.org/reports/beyond-trusted-messengers-climate-communications/ Link to join the Climate Smart Community on Gwella: https://leadershipportal.heiw.wales/go/ihuqsh
In the penultimate episode of season one, Dr Kathryn Speedy is joined by Mr Ife Osinkolu, a general surgical registrar and past Welsh Clinical Leadership fellow in Sustainable Healthcare. We discuss his experiences of sustainability and leadership, and hear about Ife's sustainability project. Transcripts of this episode in Welsh and English will be available shortly in the Climate Smart Community on Gwella. Bydd trawsgrifiadau o'r bennod hon yn Gymraeg a Saesneg ar gael yn fuan yn y "Climate Smart Community" ar "Gwella".
Pod 109: Pedwar Sioc Cwpan Cymru Wedi penwythnos llawn cyffro yng Nghwpan Cymru, mae Tom McLean (Caerau Trelai) ac Ifan Emlyn Jones (Hotspur Caergybi) yn ymuno i drafod eu buddugoliaethau nhw ar giciau o'r smotyn yn erbyn timau Uwch Gynghrair Cymru. Bydd hefyd cyfle i glywed gan garfan Cymru wrth i'r merched baratoi am gemau ail-gyfle i gyrraedd Ewro 2025 yn y Swistir. After an eventful Welsh Cup weekend, Tom McLean (Caerau Ely) and Ifan Emlyn Jones (Holyhead Hotspur) join Ifan Gwilym to talk us through their wins over Cymru Premier opposition on penalties. We also hear from Carrie Jones and Lois Joel as Wales women prepare for their Euro 2025 play-off on Friday.
Mae Carwyn, Carwyn ac Iestyn yn edrych ar bwy fydd yng ngharfan Cymru am yr Hydref gan drafod pwy bydden nhw'n dewis yn ogystal ag hyfforddwr Cymru Warren Gatland. Hefyd mae Carwyn E yn gorfoleddu yn buddugoliaeth i'r Scarlets ym Mharc yr Arfau wrth i Carwyn H cwympo pellach i lawr yn rhagdybion yr SRC. Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Bydd arbenigwyr TB yn ymgynnull ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Mercher i drafod sut y gall cydweithio lleol, rhanbarthol a chenedlaethol helpu i reoli lledaeniad y Diciâu neu TB mewn gwartheg. Dr Beverley Hopkins o Ganolfan Ragoriaeth TB mewn Gwartheg ym Mhrifysgol Aberystwyth sydd â'r holl fanylion.
Gall artistiaid proffesiynol ac amatur gyflwyno cynigion ar y thema annibyniaeth i Gymru erbyn 16 Medi - Diwrnod Owain Glyndŵr. Bydd y ceisiadau a dderbynnir yn gweld eu gwaith yn cael ei arddangos yn Oriel Stryd y Frenhines Castell-nedd ym mis Tachwedd. Bydd yr artistiaid gorau yn ennill arddangosfa mis o hyd yn Oriel Studio 40 yng Nghastell-nedd. Y beirniaid yw: Iwan Bala, Bethan Ash, a Claire Hiett. Website: https://art-of-independence.wales/ Facebook: / artoannibyniaeth Cyfres 6, Rhaglen 8 - Yn Gymraeg/In Welsh.
Gwrandewch ar y recordiad yma o ddigwyddiad fferm Pentrefelin, Llandyrnog i glywed trafodaeth ar sut i hybu pridd iach. Bydd Huw Foulkes yn rhannu ei daith wrth gymryd yr awenau ar y fferm deuluol sy'n cynnwys creu system ffermio adfywiol. Gall ei system, sy'n cynnwys gwerthu cynnyrch yn uniongyrchol o'r fferm fod o fudd i'r amgylchedd, cynhyrchu bwyd maethlon yn lleol, a mynd i'r afael a materion cymdeithasol sy'n wynebu ffermwyr Cymru, yn ogystal ag adeiladu gwytnwch ar y fferm rhag sychder, llifogydd ac effeithiau eraill newid hinsawdd ar y fferm. Bydd yr agronomegydd profiadol Nick Woodyatt sydd wedi bod yn helpu i ymgorffori systemau adfywiol proffidiol gyda ffermwyr ers blynyddoedd lawer yn ymuno â ni rannu eu farn. Mae wedi gweithio'n agos gyda Tim Parton, Rheolwr Fferm Fferm Parc Brewood, lle mae wedi bod yn frwd dros amaethyddiaeth adfywiol ers 15 mlynedd, gan feithrin yr ystâd 300 hectar yn Swydd Stafford gyda gweledigaeth i wella'r pridd am genedlaethau i ddod.
Yn ymuno â Rhian Price mae Rhodri Jones, un o gyfarwyddwyr cwmni Rural Advisor. Mae Rhodri yn gyfreithiwr cymwysedig sy'n arbenigo mewn materion cyfreithiol gwledig. Ochr yn ochr â'i ymrwymiadau gwaith mae hefyd yn ffermio buches sy'n lloia yn y gwanwyn yn Llanerfyl, Sir Drefaldwyn gyda'i wraig Siwan. Bydd y bennod hon yn canolbwyntio ar gyfreithlondeb cyflogaeth a pham mae'n bwysig cael contract staff cofnodedig cadarn yn ei le. Os ydych chi'n gyflogwr neu'n gyflogai yn y sector Amaeth, bydd y bennod hon yn rhoi cyfoeth o wybodaeth i'w hystyried yn y rhifyn hanner awr hwn o hyd.
Bydd y bennod hon yn amlygu'r cyfleoedd posibl o fewn y diwydiant addurniadol masnachol. Fel rhan o'r sector garddwriaeth, yn ôl adroddiad diweddar gan Tyfu Cymru mae'n cyflogi 19,800 o bobl yma yng Nghymru ac yn cynhyrchu gwerth 40 miliwn o bunnoedd o gynhyrchiant am brisiau gât y fferm. Yn ymuno â Geraint Hughes mae Neville Stein MBE a Sarah Gould. Mae Neville wedi treulio 46 mlynedd yn y diwydiant garddwriaeth ac wedi bod yn gweithio fel ymgynghorydd i dyfwyr ledled y byd. Bydd y bennod hanner awr hon o hyd yn rhannu gweledigaeth o sut mae gan y sector hwn alw a chyfle enfawr a all chwarae rhan bwysig yn ffyniant y sector gwledig yng Nghymru.
Gwern Gwynfil sy'n esbonio at beth sydd i'w edrych ymlaen yn y Gynhadledd a gynhelir ar benwythnos10-11 Mehefin yn Aberystwyth. Bydd sgyrsiau, gweithdai, dangosiad ffilm, dadansoddi data, hawl i holi a llawer mwy. Manylion pellach: https://cy.yes.cymru/cynhadledd_conference_2023 Dolenni/ Links: Dr John Ball talk on economics of independence: https://www.youtube.com/watch?v=Hwiwra17mbo Jim Wingate, co-author of 'Twenty Radical Steps to Welsh Independence by First Decolonising our Minds': https://www.youtube.com/watch?v=13pDOAavWew&t=1458s Robin McAlpine on the situation in Scotland: https://www.youtube.com/watch?v=2b-QkzDTCOM&t=5585s
Bore Cothi – Iestyn Jones Mae Iestyn Jones o Gapel Hendre yn Sir Gaerfyrddin yn gerddor llwyddiannus sy'n gweithio yn y West End, ac ar hyn o bryd mae e'n aelod o gerddorfa sioe ‘Back to The Future'. Buodd Iestyn yn sôn wrth Shan Cothi am ei yrfa…………. Cerddor llwyddiannus A successful musician Cerddorfa Orchestra Sioe gerdd Musical theatre Dwlu ar Wrth ei fodd efo Llwyfan Stage Anghyffredin Unusual Profiadau Experiences Trwy rinwedd By virtue of Beti a'i Phobl – John Owain Jones 27.11 Iestyn Jones oedd hwnna'n sôn am rai o'i brofiadau yn y West End ar Bore Cothi. Pnawn Sul ar Beti a'i Phobl y Parchedig John Owain Jones oedd gwestai Beti. Bydd e'n ymddeol fel gweinidog ar Ynys Bute yn yr Alban ym mis Chwefror 2023 ar ôl treulio 12 mlynedd fel gweinidog yno. Dyma fe'n sôn am sut dechreuodd ei gysylltiad â'r ynys... Parchedig Reverend Gweinidog Minister Yn y fyddin In the army Hel pres Casglu arian Llongau Ships Ymerodraeth Empire Ffrindiau mynwesol Bosom pals Ddaru Wnaeth Naill ai Either Gwas priodas Best man Gwneud Bywyd yn Haws – Lloyd Henri 22.11 Y Parchedig John Owain Jones yn fanna, ac mae Owain yn cyfrannu'n aml i'r slot Thought for Today Radio Alban ac wedi cyfrannu hefyd i'r Daily Service Radio 4. Bydd e hefyd yn cyfrannu ar Munud i Feddwl, Radio Cymru. Nos Fawrth ar ei rhaglen Gwneud Bywyd yn Haws, cafodd Hanna Hopwood gwmni Lloyd Henri , athro coginio sydd wedi sgwennu llyfr o'r enw Cegin Mr Henri. Gofynnodd Hanna iddo fe'n gynta pam aeth o ati i sgwennu'r llyfr Ymarferol Practical Cynyddu To increase Enfawr Huge Llwyth Loads Gwastraff Waste Yn eu harddegau In their teens Rhwng y cloriau Between the covers Heriol Challenging Cynhwysyn Ingredients Sawrus Savoury Aled Hughes – Ian ap Dewi 21.11 Dw i'n siŵr basai hwnna'n gwneud anrheg Dolig neis i rywun –Cegin Mr Henri. Dyw hi ddim yn bosib dianc rhag pêl-droed y dyddiau hyn nag yw hi? Bore Llun aeth Aled Hughes i Ganolfan yr Urdd Llangrannog a chafodd air gyda Ian ap Dewi sylfaenydd tîm pêl-droed y pentre sef Crannog. Dianc rhag To escape from Sylfaenydd Founder Cyfaill Ffrind Y gynghrair The league Cais Application Cymuned Community Ieuenctid Youth O dipyn i beth Little by little Mas Allan Caryl – Eleri Lloyd Jones 22.11 Hanes sefydlu tîm pêl-droed Crannog yn fanna ar raglen Aled Hughes. Cafodd Caryl Parry Jones gyfle i sgwrsio gyda Eleri Lloyd Jones o Ffostrasol yng Ngheredigion ar ei rhaglen nos Fawrth. Mae Eleri yn athrawes wrth ei gwaith bod dydd, ond gyda'r nos mae hi'n hoff iawn o uwchgylchu dodrefn. Uwchgylchu Upcycle Dodrefn Celfi Tywyll Dark Gweddill The rest Yn dueddol Tend to Cael gwared To get rid of Harddwch Beauty Derw Oak Goleuo To lighten Newid ei wedd To change its complexion Bore Cothi – Elinor Young Os nad oeddech chi'n gwybod beth ydy uwchgylchu o'r blaen, dych chi'n siŵr o fod yn gwybod nawr! Wythnos diwetha roedd rhaglen Shan Cothi yn rhoi sylw i elusennau bychain Cymru a buodd Elinor Young o Cŵn Cymorth Cariad yn siarad â Shan am y gwaith mae ei chi Tana yn ei wneud ar ran yr elusen Elusennau bychain Small charities Lles Welfare Cleifion Patients Mwythau Pandering Delwedd Image Ystyried To consider
Cwpan Y Byd 3: JAPAN Nicky John ac Ifan Gwilym sy'n trafod gemau'r dydd yng Nghwpan y Byd. Japan yn curo'r Almaen, Sbaen yn eu seithfed nêf, Gwlad Belg yn goroesi her Canada a Morocco 0-0 Croatia. Beth sydd gan un o sêr carfan Cymru i ddweud am Kieffer Moore? Bydd cyfle hefyd i edrych ymlaen at gemau heddiw rhwng Y Swisdir v Cameroon, Uruguay v De Corea, Portiwgal v Ghana a Brasil v Serbia. Nicky John and Ifan Gwilym discuss all the talking points from the World Cup in Qatar. Japan's victory over Germany, Spain hit seven, Belgium survive Canada scare and Morocco 0-0 Croatia. We'll hear what one of Wales' star men had to say about Kieffer Moore. Also, a quick look ahead to today's games between Switzerland v Cameroon, Uruguay v Korea Republic, Portugal v Ghana and Brazil v Serbia.
Finansredaksjonen har hatt livepod på økonomifestivalen "Kåkå | nomics" i Stavanger. Det var god stemning i salen, til tross for at budskapet fra scenen er at de økonomiske utsiktene er svært så mørke. Heldigvis bor vi i Norge. Hosted on Acast. See acast.com/privacy for more information.
Bydd y podlediad hwn yn gyfle i ddeall ychydig mwy am gynigion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a sut y gallai'r cynllun weithredu yng nghyd-destun fferm ddefaid go iawn. Byddwn yn canolbwyntio ar y camau gweithredu cyffredinol ar gyfer meincnodi, iechyd anifeiliaid a bioddiogelwch yn benodol wrth i ni ystyried y broses barhaus o gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy o fewn y cynigion. Mae holl ffermwyr Cymru'n cael eu hannog i gwblhau'r arolwg SFS i helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynigion yr SFS i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio ar lawr gwlad. Gellir dod o hyd i'r arolwg [yma] a daw i ben ar 31 Hydref 2022.
Oeddech chi'n meddwl bod dim Haclediad am fod mis yma? Dim y fath lwc, yn hwyr neu'n hwyrach dyma hi, Haclediad mis Medi! Mae Bryn yn ôl o'i wyliau yn yr Eidal (dydi o ddim yn licio siarad amdano) ac yn barod i drafod newyddion tech efo Iestyn a Sioned. Bydd y criw yn trafod fideo newydd Dan Olson am Evans passive income, hardware newydd Amazon a cynhyrchiad theatr / ffilm / arlein newydd trippy “Galwad”. Yn fwy na hyn, bydd y criw yn trafod o bosib y ffilm di ddim di-ddimiaf ohonynt i gyd: MOONFALL (spoilers: pa un o'r tri sy fwya blin efo hwn? The answer might surprise you!) Diolch o galon i bawb am gefnogi a gwrando - os hoffech chi gefnogi ni, taflwch geiniog it het fan hyn (https://ko-fi.com/haclediad), neu rhannwch ni gyda'ch ffrindiau!
Y bennod hon fydd y gyntaf mewn cyfres a gyflwynir gan amrywiaeth o gyflwynwyr gwadd ar amrywiaeth o bynciau o Amaeth yng Nghymru a thu hwnt. Bydd y cyflwynydd gwadd cyntaf yn llais cyfarwydd ir podlediad, Rhys Williams, ffermwr defaid a gwartheg ac ymgynghorydd busnes fferm i Precision Grazing Ltd. Cafodd Rhys y fraint o ddal i fyny gyda Ffermwr Cig Eidion y Flwyddyn Farmers Weekly, Aled Evans fferm Rest ger Hendy-gwyn ar Daf. Yn y bennod hon byddant yn trafod taith Aled i ddatblygu system ffermio da byw cynaliadwy. Byddwn yn edrych yn benodol ar dair elfen o ffermio cynaliadwy, sef Elw, Planed a Phobl.
Pod 40: 30 mlynedd o'r Cymru Premier Tomi Morgan, un o arwyr Clwb Pêl-droed Aberystwyth a seren y botwm coch sy'n ymuno â Dylan Ebenezer a Sioned Dafydd ar gyfer podlediad cyntaf tymor 2022/23. Cyfle i ddathlu 30 mlynedd o'r Cymru Premier, trafod trosglwyddiadau'r haf a chyfle i tharo golwg ar y diweddaraf o'r Cymru Leagues. Bydd cyfweliad gyda chefnogwr Porthmadog, Dylan Elis i drafod bywyd yn ôl yn y Cymru north yn ogystal â sgwrs gyda Mael Davies, chwaraewr ifanc y tymor 2021/22
Året 2022 har så langt på ingen måter markert seg på plussiden – hverken i økonomien, i aksjemarkedet eller geopolitisk. See acast.com/privacy for privacy and opt-out information.
Dros Ginio Dafydd Iwan Mi fydd tîm pêl-droed Cymru yn cystadlu yng Nghwpan y Byd yn Qatar fis Tachwedd ar ôl i'r tîm guro Wcráin yn Stadiwm Dinas Caerdydd wythnos diwetha. Mi wnaeth y crysau coch yn wych ond roedd canu'r Wal Goch yn bwysig hefyd yn enwedig wrth iddyn nhw ganu 'Yma o Hyd' efo Dafydd Iwan. Dyma Dafydd yn sôn am y profiad ar Dros Ginio Breuddwyd - A dream Cyfuno - To combine Manteisio ar y cyfle - Taking advantage of the opportunity Bwriadol - Intentional Mynegi teimladau - Expressing the feelings Rhyfeddol - Wonderful Cyfraniad - Contribution Trefnwyr cefn llwyfan - Backstage organisers Profiad bythgofiadwy - An unforgettable experience Ac mi gyrhaeddodd y gân 'Yma o hyd' rhif 1 yn siart I-Tunes wythnos diwetha - anhygoel ynde? Arfon Wyn Un o arwyr Cymru yn y gêm oedd y gôl-geidwad, neu'r gôli, Wayne Hennessey. Aeth Wayne i ysgol gynradd Biwmares pan oedd o'n blentyn a dyma i chi Arfon Wyn, oedd yn bennaeth yr ysgol ar y pryd, yn sôn wrth Dylan Ebenezer am sut dechreuodd gyrfa bêl-droed Wayne... Pennaeth - Head Hogyn dymunol - A likeable boy Dihyder - Lacking in confidence Dirprwy - Deputy Syth bin - Straight away Menyg - Gloves Wedi dotio - Wrth ei fodd Y gamp - The sport Diolch i staff Ysgol Biwmares ynde, am roi'r cyfle cynta i Wayne Hennessy. Beti a Geraint Davies Geraint Davies oedd gwestai Beti a'i Phobol dydd Sul Eleni mae Geraint wedi ymddeol fel cynghorydd sir dros ardal Treherbert yng Ngwm Rhondda ar ôl iddo fo wneud y gwaith am dros 30 mlynedd. Buodd o hefyd yn Aelod Cynulliad dros y Rhondda rhwng 1999 a 2003, roedd o'n fferyllydd yn y cwm am flynyddoedd maith a hefyd yn aelod o'r clwb tenis lleol. Dyn prysur iawn felly... Aelod Cynulliad - Assembly member Fferyllydd - Chemist Cyflwyniad - Introduction Sbort mawr - Llawer o hwyl Parhau eich bywyd - Prolong your life Ymennydd - Brain Poblogaidd - Popular Rhyfedd - Strange Wedi cwympo - Had fallen O ganlyniad - As a consequence Diddorol ynde - Covid wedi gwneud i bobl feddwl mwy am eu hiechyd a'u ffitrwydd. Aled Hughes ac Alex Harry Gemau'r Gymanwlad Mi wnawn ni aros ym myd y campau rŵan ond y tro 'ma efo Gemau'r Gymanwlad. Bydd y gemau'n cael eu cynnal yn Birmingham ddiwedd mis Gorffennaf ac un o'r athletwyr fydd yn mynd i Birmingham ydy Alex Harry, sy'n dod o Lanelli yn wreiddiol, ac sy wedi cael ei dewis yn rhan o dim reslo Cymru. Dyma flas i chi ar y sgwrs rhwng Aled Hughes ac Alex... Gemau'r Gymanwlad - The Commonwealth Games Pwysau - Weight I gael dy ystyried - For you to be considered Cynrychioli dy wlad - Representing your Country Aled Hughes a Non Stanford Pob lwc i Alex ynde a hefyd i Non Stanford sydd yn rhan o dîm triathlon Cymru. Pa fath o baratoadau mae hi wedi eu gwneud ar gyfer Gemau'r Gymanwlad tybed? Aled Hughes oed yn holi eto... Paratoadau - Preparations Canolbwyntio - To concentrate Cic lan y pen-ôl - A kick up the backside Cydwybod - Conscience Geraint Lloyd a Nia Medi Wel, dan ni wedi sôn am bêl-droed, tenis, athletau ac rŵan dan ni'n mynd i glywed hanes criw bach sydd am seiclo o Lundain i Amsterdam - Fflamingos Pinc Trystan. Mae'r pum 'fflamingo' am wneud y daith er cof am eu ffrind Trystan Gwyn Rees fuodd farw dair blynedd yn ôl. Geraint Lloyd fuodd yn holi un o'r criw, Nia Medi... Er cof am - In memory of Cymeriad lliwgar - A colourful character Tyle - Hill Galar - Bereavement Cyfnod tywylla ein bywydau - Darkest period of our lives Doniol - Amusing Cynghori - To advice
Pod 35: Cip ar y Cymru north a'r south! Rheolwyr Cyffredinol y Cymru de a'r gogledd, Nick Davies a Dewi Evans sy'n ymuno â Sioned a Dylan i drafod y tymor a fu yn yr ail haen. Bydd cyfle i drafod rownd derfynol Cwpan Cymru, y Cymry'n ennill dyrchafiad o'r Bencampwriaeth a'r gemau ail gyfle.
Pod 34: Rhagolwg Cwpan Cymru a dyrchafiad Pontypridd Cup fever ar y pod wrth i ni edrych ymlaen at rownd derfynol Cwpan Cymru rhwng Pen-y-bont a'r Seintiau Newydd. Cawn gyfle i glywed gan Rhys Griffiths, rheolwr Pen-y-bont a chapten Y Seintiau, Paul Harrison. Bydd hefyd gyfle i glywed gan reolwr Pontypridd, Jonathan Jones wrth i'r clwb ennill dyrchafiad i'r Cymru Premier o'r Cymru South.
This week's guest is our podcast producer Ben Morgan. He joins host James Williams to recap series one of Just the Ticket, discussing some of the highlights from the first 12 episodes and what we can expect from series two. Gwestai'r wythnos yma yw cynhyrchydd ein podlediad, Ben Morgan. Bydd yn ymuno â James Williams i grynhoi cyfres gyntaf Jest y Tocyn, gan drafod rhai o uchafbwyntiau'r 12 pennod gyntaf a'r hyn gallwn ei ddisgwyl o'r ail gyfres.
Pod 17: Aber-fest Golwg nôl ar y penwythnos yn y Cymru Premier, cip ar y Cymry ar draws y Cynghreiriau a chyfweliad gydag ymosodwr Aberystwyth a Chwaraewr y Mis Tachwedd, John Owen. Bydd hefyd cyfle i glywed gan tîm hyfforddi Aberystwyth cyn gêm fyw Sgorio rhwng Aberystwyth a'r Drenewydd – y gêm yn fyw ar Youtube, Facebook ac S4C Clic nos Wener, gyda'r gic gyntaf am 8.00
Pod 14: Gemau ail gyfle Cwpan y Byd a phêl-droed y canolbarth Cyfle i edrych nôl ar wythnos fawr i Gymru wrth i'r tîm rhyngwladol gyrraedd gemau ail gyfle Cwpan y Byd 2022. Bydd ymosodwr Y Drenewydd, James Davies yn ymuno â Dylan a Sioned i drafod tymor y Robiniaid a phêl-droed canolbarth Cymru.
Cyfle i edrych nôl ar holl hynt a helynt pedwaredd rownd Cwpan Cymru gyda Dylan a Sioned wrth i Bod Sgorio cyrraedd ei pennod 10! Bydd ymosodwr Y Drenewydd, Aaron Williams â rheolwr Caernarfon, Huw Griffiths yn ymuno a ni cyn i'r ddau dîm gwrdd â'i gilydd yn y gynghrair penwythnos yma.
Pedair merch. Tair problem. Probcast. Podlediad lle mae pedair merch gydag anableddau gwahanol yn trafod probs yr 21ain ganrif. Ym mhob pennod bydd Hollie Smith, Mared Jarman, Amber Davies a Beth Frazer yn rhannu probs bywyd nhw, o bethau bach annoying i bethau maen nhw wedi cael llond bol ohono. Bydd pawb yn cyflwyno'u hachosion i'r cadeirydd a'r achos gwaethaf sy'n ennill! Wythnos yma mae Mared yn dewis rhwng probs cyfryngau cymdeithasol y grŵp ac yn gofyn i gynulleidfa Hansh faint ohonyn nhw sydd wedi sleidio mewn i DMs rhywun.
Cyfle i edrych nôl ar gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 mis Medi a rhagolwg o'r gemau yn y Cymru Premier dros y penwythnos. Bydd camerâu Sgorio yn fyw ar Goedlan y Parc ddydd Sadwrn, gydag Aberystwyth yn croesawu Met Caerdydd. Cawn glywed gan reolwr Aberystwyth, Antonio Corbisiero ac amddiffynnwr Met Caerdydd, Emlyn Lewis.
Beth allai ddweud am fy ngwraig gwadd wythnos hon? Chwa o awyr iach ac un o'r bobl fwyaf positif, ffeind, talentog, hapus a brilliant dwi'n nabod. Neb llai na Nia Parry! Cyflwynwraig, cynhyrchydd ac athrawes Gymraeg, sydd â'r wên orau a'r agwedd orau. Ond oeddech chi'n ymwybodol o'i bywyd a'i gyrfa CYN iddi ymddangos ar y sgrin? Sgwrs naturiol yn llawn hwyl a syrpreisys, 10 cwestiwn chwim (atebion gwych) a chwis am Dwrci! (Bydd rhaid i chi wrando
Bydd y criw yn trafod pa mor bwysig yw lleoliad mewn nofel neu stori, gyda phwyslais arbennig ar Feirionnydd gan mai yn fanno mae'r Sesiwn, a'r Sesiwn sydd wedi ein gwadd ni i falu awyr y tro yma.Bydd rhai o selogion y Sesiwn wedi gyrru cwestiynau ymlaen llaw.Rhai call, gobeithio...
Yn y bennod hon, rydyn ni'n cwrdd â Tom Evans sy'n ffermio gyda'i wraig Beth a'i blant ar Fferm Pendre ger Aberystwyth. Mae Tom yn stocmon brwd ac yn credu'n gryf “os ydych chi'n edrych ar ôl y stoc, bydd y stoc yn edrych ar ôl chi”. Tiwniwch i mewn i glywed mwy am ei athroniaeth ffermio a'r prosiectau y mae wedi'u cyflawni fel safle arddangos Cyswllt Ffermio.
Recordiwyd y bennod hon ar Alban Hefin, cyn inni glywed am golli David R Edwards. Bydd teyrnged i Dave Datblygu, felly, ym mhennod mis Gorffennaf. Yn y cyfamser, mae pennod orlawn yn eich disgwyl a'r haf yn ei anterth.
Ydych chi am ddysgu mwy am fywyd ym Mhrifysgol Caerdydd? Bydd Annell Dyfri, Swyddog y Gymraeg newydd Prifysgol Caerdydd, yn cadeirio trafodaeth gyda myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr ar fywyd Cymry Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd Ellis Lloyd Jones, Hannah Beetham a Lloyd Lewis yn siarad am eu profiadau o ddefnyddio'r Gymraeg trwy eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd, eu bywyd yn y ddinas, a'u gyrfaoedd ar ôl gadael y Brifysgol. Bydd ein digwyddiad 'Bywyd Caerdydd, Bywyd Cymraeg' yn arddangos y cyfleoedd sydd ar gael i'n myfyrwyr astudio a byw trwy'r Gymraeg ym mhrif ddinas Cymru. Annell Dyfri, Cardiff University's incoming Welsh Language Officer, will chair a discussion with current and former students on Welsh-speaking life at Cardiff University. Ellis Lloyd Jones, Hannah Beetham and Lloyd Lewis will talk about their experiences of using the Welsh Language through their studies at Cardiff University, living within the city, and in their careers after University. Our ‘A Cardiff life, A Welsh life' event will showcase the opportunities available for our students to study and live through the Welsh language in the capital city of Wales.
Bydd llawer iawn o bobl yn gyfarwydd â Dr Ioan Rees diolch i gyfres deledu boblogaidd Ffit Cymru ar S4C, ond efallai mai llawer llai fydd yn gwybod ei fod hefyd yn athletwr dycnwch llwyddiannus. Mae Ioan yn un o arbenigwyr Ffit Cymru, ac mae'r seicolegydd wedi bod yn ganolog i lwyddiant y gyfres, a'r rhai sy'n cymryd rhan ynddi yn eu hymdrechion i golli pwysau a byw yn fwy iach. Ac mae ganddo brofiad uniongyrchol o ymgymryd â phroses debyg ei hun wrth iddo golli 6 stôn dros gwta 9 mis er mwyn cymryd rhan yn ei Ironman cyntaf yn 2009. Ers hynny, mae wedi cwblhau 5 Ironman arall gan ddod a'i amser lawr i 12 awr. Mae'r sgwrs gyda Dr Ioan yn amserol iawn wrth i gyfyngiadau Covid lacio ac wrth i ni obeithio gweld rasio'n dychwelyd i Gymru, a'r heriau seicolegol sy'n ein wynebu i gyd gyda hynny. Mae ganddo lawer o gyngor ardderchog i athletwyr ar bob lefel hefyd, ac mae rhywbeth i bawb yn y sgwrs heb os. Cerddoriaeth y bennod yma ydy sengl newydd Y Cledrau, 'Hei Be Sy' sydd allan ar label I KA CHING. Ac mae fideo gwych ar gyfer y sengl ar YouTube.
Â'r nos yn cau am Geredigion fe fydd Elin yn cael cwmni un o leisiau enwoca'r ardal, y cyflwynydd radio a'r ‘petrol-head', Geraint Lloyd. Bydd y sgwrs yn llifo wrth hel atgofion am gyfraniad Theatr Felinfach, Radio Ceredigion a'r Ffermwyr Ifanc ar fywyd y dyn sydd bellach yn gwmni i ni fynd i noswylio bob noson! Gyda'r tân yn cnesu'r nos fe ddown ni nabod y gŵr tu ôl i'r llais a'r teulu sy'n bopeth iddo. As night closes on Ceredigion, Elin is in the company of one the area's most recognisable voices, the radio presenter and petro-head Geraint Lloyd. The conversation flows as they remember fondly the influence of Theatr Felinfach, Radio Ceredigion anf the Young Farmers on the life of the man who accompanies so many as they go to sleep each night.
Ar y rhaglen wythnos yma sgwrsiwn â Gruffudd ab Owain. Bydd nifer ohonoch yn adnabod Gruffudd trwy ei flog seiclo, Y Ddwy Olwyn. Mae Gruffudd hefyd yn adnabyddus ar Twitter fel @cycling_dragon. Mae'n ysgrifennwr talentog a gwybodus iawn a chlywn am ei flog a'i basiwn at seiclo yn y rhaglen yma. Fydd yn syndod i rhai i ddysgu fod Gruffudd ond yn 16 mlwydd oed! Dysgwch fwy am y person tu nôl i'r blog yn y rhaglen yma. Os oes gennych diddordeb yn ymuno â ni am y seminar maeth (nutrition) sy'n cael ei chynnal gan ein cyn-westai, y dietegydd a triathletwr, Carys Davies, yna ebostiwch ni ar dctriathlon@oulook.com, nawrywrawr@hotmail.com neu danfonwch neges i ni ar Facebook neu Twitter. Fydd y seminar yn wythnosol, pob nos Iau, dros y wê, am bedwar wythnos, yn dechrau ar y 4ydd o Chwefror. Os nad yw'r amser hyn yn gyfleus gallwn ddanfon fideo o'r seminar atoch drwy e-bost. Y gost yw £45 am y 4 seminar. Fel arfer, os oes gennych unrhyw cwestiynau, syniadau am westeuon hoffech glywed neu syniad am pwnc i'w drafod yna naill ai ebostiwch nawrywrawr@hotmail.com, neu cysylltwch â ni drwy Facebook neu Twitter (@nawrywrawr)
"S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … " ALED HUGHES - RHYS AB OWEN Mae na lawer o bobl yn credu mai rhywbeth newydd yw clywed Cymraeg yn cael ei siarad mewn rhannau o Gaerdydd. Ond mae llyfr Owen John Thomas, The Welsh Language in Cardiff : A history of survival yn dangos bod yr iaith wedi bod yn fyw iawn mewn sawl ardal o’r ddinas yn y gorffennol. Daeth mab yr awdur, Rhys ab Owen, i sgwrsio am y llyfr gydag Aled Hughes a dyma i chi flas ar y sgwrs… Y bedwaredd ganrif ar bymtheg - 19th Century Enghreifftiau - Examples Y mwyafrif llethol - The vast majority Cyfrifiad - Census Yn fanteisiol iawn - Very advantageous Delwedd - Image Canrif yn ddiweddarach - A century later Tu fas - Outside Y dystiolaeth - The evidence Yr Eglwys Newydd - Whitchurch FFION EMYR - SANDRA LLAN Ychydig o hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd yn fan’na ar raglen Aled Hughes. Mae gan Ffion Emyr raglen newydd nos Wener ar Radio Cymru, a phob wythnos mae hi’n mynd i ofyn “pwy sy’n gwneud y coctel gorau yng Nghymru?” . Sandra Llan oedd ei gwestai cyntaf…. Mi fydd gynnon ni - Bydd gyda ni Hyd yn oed - Even Brifo - Anafu Nei di’m cofio - Wnei di ddim cofio TRYSTAN AC EMMA - JOHN PRITCHARD Hanes coctels peryglus Llanberis oedd hwnna ar raglen Ffion Emyr. Wel gwnaeth tîm pêl-droed Cymru yn dda yn y gêmau diweddar yn Nghwpan y Cenhedloedd ac ennill dyrchafiad i Grŵp A yn y gystadleuaeth. Ond oeddech chi’n gwybod bod yna dîm Pêl-droed Cerdded Cymru hefyd, a bod y tîm wedi ennill Cwpan y Byd? Beth yn union ydy Pêl-droed Cerdded? Dyna un o gwestiynau Trystan Ellis Morris ac Emma Walford i John Pritchard o Ynys Môn sy’n chwarae Pêl-droed Cerdded dros Gymru... Cwpan y Cenhedloedd - Nations Cup Dyrchafiad - Promotion Pencampwr o fri - A renowned champion Yr un rheolau - The same rules Arferol - Usual Pwyslais - Emphasis Yn dda i ddim - No good Dw i’n dychmygu - I imagine GWNEUD BYWYD YN HAWS - GWENNO ROBERTS John Pritchard, un o sêr tîm Pêl-droed Cerdded Cymru oedd hwnna’n siarad gyda Trystan ac Emma ar eu rhaglen newydd sbon bob bore Gwener am 9. Mae Gwenno Roberts wedi dechrau cwmni codi pwysau o’r enw Vulcanna Fit ac yn ystod rhaglen gynta y gyfres newydd ‘Gwneud Bywyd yn Haws’ gofynnodd Hannah Hopwood iddi hi pam yr enw Vulcanna? Codi pwysau - Weightlifting Edmygu - To admire Ysbrydoliaeth - Inspiration Ofnadwy o ddewr - Terribly brave Mewn oes - In an age Dyletswyddau - Duties Ymgyrchu - To campaign Prydferth - Beautiful Noeth luniau - Nude portraits Penodol - Specific POST CYNTAF - ANT A DEC Wel dyna sgwrs aeth â ni o godi pwysau i Vulcanna i Michelangelo ac i golli pwysau, diddorol on’d ife? Os ydych chi’n un o’r MILIYNAU sy’n gwylio I’m a Celeb sy’n cael ei ffilmio yng Nghastell Gwrych ger Abergele, byddwch chi wedi clywed Ant a Dec yn siarad ychydig o Gymraeg. Cafodd Dylan Jones air gyda’u tiwtor Garffild Lewis ar y Post Cyntaf.... Y gyfres The series Darlledu - Broadcast Cyflwynwyr - Presenters Llais cyfarwydd - A familiar voice Ynganu - Pronunciation Cywair - Register (of language) Ymddiriedolaeth - Trust Ymgynghorwyr - Consultants Tîm cynhyrchu - Production team Agwedd - Attitude SIOE FRECWAST - CARYL A DAF Ac arhoswn ni gyda I’m a Celeb am y clip ola. Un sy’n byw yn agos iawn at Gastell Gwrych ydy Sian Rees a gofynnodd Caryl a Dafydd iddi hi sut ymateb sy wedi bod yn yr ardal i’r gyfres.. Ymateb - Response Pwnc trafod - Talking point Arferiad - A habit Hyd y gwela i - As far as I can see Yn eu hoed a’u hamser - Of a certain age Byrlymu - Buzzing Rhoi ni ar ben ffordd - Bring us up to date
Yn dilyn colled arall i Gymru, mae Rhodri Gomer yn mwynhau cwmni Nigel Owens, Shane Williams a chyn-hyfforddwr Georgia, Kevin Morgan. Bydd y tri gŵr doeth yn edrych yn ôl ar beth aeth o le yn erbyn y Gwyddelod ac ymlaen at y gêm yn erbyn Georgia.
Mae Maes Menai yn rhemp. Tydi car neb yn saff ac mae gwerthu cyffuriau ar gongol y stryd yn beth digon cyffredin. Y man perffaith i Miriam a Iestyn holi Heather (yr actores a’r darllenwraig newyddion Jeniffer Jones) o’r gyfres Tipyn o Stâd yn dwll am Ffag y ci, rhinweddau’ kick boxing’ yn erbyn gwerthu rhyw a phapur wal amrywiol y Gurkhas. Bydd hefyd cyfle i ddarganfod gyda beth fyddai ei thad yn y gyfres yn chwarae petai na ‘lockdown’. Dilynwch y linc i weld pob un cyfres Tipyn o Stâd yn adran bocs sets Clic: https://www.s4c.cymru/clic/programme/43735779 Special Guest: Jennifer Vaughan Jones.
Nid ar Focaccia yn unig y bydd byw dyn
Caryl Haf, Is-gadeirydd CFfI Cymru yn dilyn y daith wrth recordio sengl gyntaf un Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru. Gwrandewch ar sgyrsiau gyda’r unigolion yn stiwdio Sain, Llandwrog yn ogystal â rhai o aelodau’r côr ym Mhontrhydfendigaid, heb anghofio Lisa Angharad ac Alaw Llwyd Owen. Diolch i Caryl Haf am gyfweld, a diolch yn fawr i bawb am gyfrannu. Bydd sengl gyntaf un Aelodau Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru, sef fersiwn o ‘Bydd Wych’ ar gael i’w lawr lwytho o’r 7fed o Chwefror gyda chyfraniad o’r arian yn mynd tuag at yr elusen Meddwl.org. Caryl Haf, the Wales YFC Vice-chairman follows the journey as Wales YFC record their first ever single. The episode includes chats with the soloists in Sain studios, Llandwrog as well as members of the choir in Pontrhydfendigaid, without forgetting Lisa Angharad and Alaw Llwyd Owen. A big thank you to Caryl Haf for interviewing and to everyone that participated in this episode. The first ever single from Members of the Wales Federation of Young Farmers’ Clubs, a cover of the song ‘Bydd Wych’, will be available to download from the 7th of February with a percentage of the earnings going towards the Welsh language mental health charity Meddwl.org.
In this episode we’re talking to the Grange Pavillion Project in Cardiff. The project involves the redevelopment of a vacant bowls pavilion to create a multi-functional community building with a café and meeting space, thanks to National Lottery funding. The project will provide opportunities for education, training, health promotion and enterprise development thanks to National Lottery funding. Read the transcription here: https://www.tnlcommunityfund.org.uk/media/press-releases/Wales/Wales-podcast/Wales-Podcast-Grange-Pavilion-Transcription-E.docx Yn y bennod hon, rydym yn sgwrsio â Phrosiect Grange Pavilion. Mae'r prosiect yn ailddatblygu pafiliwn bowls gwag i greu adeilad cymunedol amlbwrpas gyda chaffi a lle cyfarfod, Bydd y prosiect yn darparu cyfleoedd ar gyfer addysg, hyfforddiant, hyrwyddo iechyd a datblygu mentrau diolch i arian y Loteri Genedlaethol. Darllen y trawsgrifiad yma: https://www.tnlcommunityfund.org.uk/media/press-releases/Wales/Wales-podcast/Wales-Podcast-Grange-Pavilion-Transcription-W.docx
Beth ydi Llwyddo'n Lleol 2050? Beth ydi 'dylanwadwr'? Bydd y cwestiynau yma yn cael eu hateb gan Dafydd ac Aaron.
Bydd chwarter ohonon ni yn cael ein heffeithio gan alergedd rhywbryd yn ystod ein bywyd. Ydy cael alergedd yn golygu stopio bwyta mas a newid ein ffordd o fyw? Beth ddylech chi neud os chi’n meddwl bod alergedd gyda chi? Sut ma’ helpu rhywun sy’n cael adwaith alergaidd? Yn y podlediad hwn bydd Meleri ac Anna yn trafod y pwnc, yn rhannu eu profiadau ac yn rhoi tips ar beth i neud os oes alergedd (neu fod chi’n meddwl bod alergedd) gyda chi. Am fwy o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei drafod yn y podlediad, cliciwch yma: http://www.s4c.cymru/cy/cymorth A quarter of us will be affected by an allergy at some point in our lives. Does having an allergy mean you have to stop eating out and change the way you live? What should you do if you think you have an allergy? How do you help someone who’s having an allergic reaction? In this podcast Meleri and Anna discuss allergies and share their experiences and tips about what to do if you have (or think you have) an allergy. For more information about the topics discussed in this podcast, click here: http://www.s4c.cymru/en/help
Yr wythnos hon, bydd y criw yn sôn am lwyddiant y rhaglen Chdi, Fi ac IVF yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd ac fel mae’r rhaglen yn ysgogi pobl i fod yn fwy agored wrth drafod IVF. Mae Mari yn siarad gyda’r steilydd bwyd a chyfrannydd cyson i Prynhawn Da, Alison Huw am yr ysbrydoliaeth tu ol ei gyrfa a’r ffordd mae’r trends bwyd wedi newid dros y 25 mlynedd diwethaf. Y mae hefyd yn trafod llyfr Jack Monroe am brydiau bwyd i’r teulu gan ddefnyddio bwydydd tun yn unig. Bydd y tîm hefyd yn trafod fel mae tipiau glanhau Nerys Taclus gan ddefnyddio finegr gwyn wedi newid eu bywydau! Chdi, Fi ac IVF https://www.facebook.com/HenoS4C/videos/697761307349820/ Alison Huw o 34'50" https://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/p07b2437/prynhawn-da-wed-05-jun-2019 Tips Nerys Taclus https://www.facebook.com/PrynhawnDaS4C/videos/851373545229791/
Mae Syniadau Iach yn trafod gweledigaeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ynglŷn â’r ffordd y gall arloesedd wella’r byd iechyd a gofal yng Nghymru. Mae anghydraddoldebau iechyd yn broblem fawr yng Nghymru, medd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford AC ond mae ganddo weledigaeth am sut y gellid ddefnyddio arloesedd i wella’r sefyllfa. “Bydd arloesi’n cynnig nid yn unig ffordd i wella gofal iechyd ond bydd yn ein helpu ni ar y daith i sicrhau Cymru fwy cyfartal,” meddai.Yn y podlediad hwn bydd Siôn Charles, dirprwy gyfarwyddwr y Comisiwn Bevan a’r Dr. Elin Haf Davies, arloeswraig sy’n rhedeg ei chwmni Aparito, yn ymateb i’r weledigaeth hon. Mae Sion o’r farn bod yr un feddylfryd sydd ganddo ni wrth ddefnyddio ffôn i archebu tacsi yn “gallu helpu ni i baratoi gwasanaethau iechyd gwell yng Nghymru.” Treuliodd Elin lawer o'i hamser fel nyrs bediatrig yn gofalu am blant â chlefydau prin. Ar ôl teimlo bod y dulliau o fonitro’r cleifion yn aneffeithiol, fe wnaeth Elin feddwl am y syniad o fonitro cleifion o bell mewn amser real ac fe sefydlodd gwmni ei hun i wireddu’r syniad hwn.Ond nid technoleg yn unig all fod o help i gleifion Cymru. Meddai Elin, “ Y peth mwyaf innovative allwn ni wneud yw tynnu allan o’r sustem y practises sydd ddim yn gweithio bellach.” Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.
Mae'r podlediad gorau o Gaernarfon (os na mae 'na un arall) yn dychwelyd i'r arfer gyda sgwrs hirwyntog a ddibwynt am sgiliau cyflwyno Hywel, gyrfa gyfryngol Elin, Odpethau Iwan, a dyfodol y Podpeth. Bydd na fwy o Class Cymraeg? Bydd na fwy o Odpethau? Bydd na fwy o "PETH!" (y podlediad i blant)? Pryd da ni am gael gwesteion yn nol?! PWY FYDD Y GWESTEION?! Oedd Ross a Rachel ar break?! Dyma'r cwestiynau da ni isio chi ateb - gadawn ni wybod ar Facebook a Twitter (@Podpeth). Wsos nesa - SyniaDad!
Pod wythnoson Al ac Ows. Bydd pod bonws allan dydd Iau gyda Lloyd Williams a Jack Roberts.
Sam Rhys a Cai Morgan sydd yng ngofal podlediad Hansh yr wythnos hon. Bydd y ddau yn trafod rhai o'u hoff sylwadau...cas....o fideo Cai 'Barn Amhoblogaidd Friends', a bydd Sam yn sôn am ei brofiad o gael ei dderbyn i'r Barry Horns. Hefyd rhai o benawdau papurau newyddion od Cymru....Rhybudd – yn cynnwys rhegi!
Monday 6th August, Senedd, Cardiff There’s been much to celebrate in Welsh media in recent years: from the success of prominent dramas such as Dr Who and Keeping Faith / Yr Bore Mercher, to new production studios, increased viewing figures and a rise in online and community journalism. There have also been a number of challenges, not least the effects of global trends in consumption and viewing habits on traditional forms of media. This discussion considered how sustainable indigenous content production is here in Wales. How can we ensure content continues to be produced and its benefits felt in Wales? What does this mean for the workforce of today and the future? Can content production in Wales survive in a global media landscape without compromising delivery to audiences at home? This event was chaired by Elis Owen, Freelance Producer and Chairman of It's My Shout training scheme. He was joined by: Emma Meese, Media & Training Development Manager, JOMEC, Cardiff University Ifan Morgan Jones, Lecturer in Journalism, Bangor University Sian Gale, Training Manager / Creative Unions, BECTU Darlith yr Eisteddfod Sefydliad Materion Cymreig 2018: Dyfodol Cyfryngau Cymru: Sut gallwn ni ddiogelu cynaliadwyedd y gwaith o gynhyrchu cynnwys brodorol yng Nghymru? Bu cryn dipyn i’w ddathlu ym myd y cyfryngau yng Nghymru yn ddiweddar: o lwyddiant dramâu blaenllaw fel Dr Who ac Un Bore Mercher/Keeping Faith, i stiwdios cynhyrchu newydd, cynnydd yn nifer y gwylwyr ynghyd â chynnydd mewn newyddiaduraeth ar-lein a newyddiaduraeth gymunedol. Gwelwyd hefyd nifer o heriau, yn enwedig effeithiau tueddiadau byd-eang mewn arferion defnyddio a gwylio pobl ar ein cyfryngau traddodiadol. Bydd y drafodaeth yma’n ystyried pa mor gynaliadwy yw’r gwaith o gynhyrchu cynnwys brodorol yng Nghymru? Sut gallwn ni sicrhau y bydd cynnwys yn parhau i gael ei gynhyrchu yng Nghymru a sut gallwn ni sicrhau budd hyn oll i Gymru? Beth mae hyn yn ei olygu i’n gweithlu ni heddiw ac i weithlu’r dyfodol? A oes modd i waith cynhyrchu cynnwys yng Nghymru oroesi mewn tirlun o gyfryngau byd-eang heb gyfaddawdu profiad ei gynulleidfaoedd gartref? Cadeirydd y digwyddiad fydd Elis Owen, Cynhyrchydd Llawrydd a Chadeiryddcynllun hyfforddi It's My Shout, yng nghwmni: Emma Meese, Rheolwr y Cyfryngau a Datblygu Hyfforddiant, JOMEC, Prifysgol Caerdydd Ifan Morgan Jones, Darlithydd Newyddiaduraeth, Prifysgol Bangor Siân Gale, Rheolwr Hyfforddiant / Creative Unions, BECTU
Bydd rhediad dadleuol iawn o'r Giro yn cychwyn ddydd Gwener - dyma ragolwg Dewi a Rheinallt
Mae’r criw yn cymryd bach o hoe o fyd cymhleth tech am y rhifyn yma, ar feib hafaidd byddwn yn gwrando ar tiwns trwy Apton, a syllu’n gegrwth ar No Man’s Sky. Bydd lwyth o sgwrsio am y Iest Rhest(r) o’r holl Netflix/Amazon Prime/Ffilms ‘da ni heb gael siawns i wylio, ac wrth gwrs, trafodaeth helaeth ar goctêls y noson. Ymunwch â ni am barti hâf, pam lai? The post Haclediad 51: Parti Haf appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.
Mae’r animeiddiad hwn yn dangos pa mor wasgaredig yw’r data a gasglwyd a sut i ddadansoddi’r gwasgariad hwnnw. Bydd yn dangos sut y gall y gwasgariad amrywio mewn perthynas â’r cyfartaledd, drwy fesur y gwyriad safonol. Mae’r mesuriadau hyn yn ein galluogi i ddisgrifio sut y gall data amrywio o fewn poblogaeth benodedig.
Rhifyn byr a bachog o’r Haclediad sydd i’w gael y mis hwn, wedi i’r ffliw daro Iestyn, bydd Bryn a Sioned yn mentro i gwblhau podlediad mewn amser record Byd! Bydd sôn am Haciaith ’15 ym Mangor a llwyth o fwydro amserol technolegol – mwynhewch! The post Haclediad 42 – Minilediad Haciaith 2015 appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.
I gofnodi 100 mlynedd geni'r bardd RS Thomas, cyfle i glywed y gyntaf o ddwy sgwrs ddarlledwyd yn wreiddiol ym 1996. Bydd yr ail ran ar fore Sul am 10. An interview with RS Thomas.
Ar yr Haclediad diweddaraf i gnesu‘ch cocyls bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod digwyddiad Hacio’r Iaith ’13 gyda’u gwestai arbennig Gareth Morlais. Bydd y criw hefyd yn cymryd cipolwg ar wasanaeth fideo byr newydd Twitter, Vine, ac yn troi cadw’n heini yn gêm gyda profiadau Bryn efo’i Nike Fuel band. Hyn oll, a mwy ar Haclediad #26! Dolenni Gareth Morlais twtlol.co.uk Chwe uchelgais ar-lein i’r iaith Gymraeg Ifan Dafydd – Celwydd (feat. Alys Williams) Anger over Twitter porn gaffe on Vine video service Branch Haciaith Nike Fuelband Invasion of the body trackers: take me to your leader Pebble smartwatch video review The post Haclediad #26: Yr un byw na fu appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad. Special Guest: Gareth Morlais.
Da ni’n agosáu at yr 20 fawr, felly tan hynna mwynhewch rifyn eclectig 19 o’r Haclediad! Mis ‘ma bydd Sioned (@llef) Bryn (@bryns) ac Iestyn (@iestynx) yn trafod yr iPad 3 gan fod Bryn wedi cael un neu ddau, gwrandewch am y stori sut yn union ddigwyddodd hynny. Cynlluniau ysbïo’r llywodraeth, a pha mor breifat bydd ein cysylltiadau ar-lein sy’ angen ? Bydd hyd yn oed MWY am e-lyfrau (ar gael o’ch llyfrgell leol nawr), saga barhaol y Windows Phone, a llwythi o fwydro amrywiol a difir technolegau arall, addo! Diolch am lawrlwytho’r rhifyn yma, ymlaen at yr 20! Dolenni SNOOPIO Llywodraeth Ble Mae’r Gymraeg eLyfrau yn y Llyfrgell The post Haclediad #19: Yr un efo’r iPads galore (a lot mwy yn amlwg!) appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.
“Henffych ddarpar wrandawyr! Hoffem ni, griw Hacio’r Iaith, gyflwyno podlediad newydd i’ch clustiau – wele, yr ‘Haclediad‘!” Reit, nol i’r unfed ganrif ar hugain, gobeithio byddwch chi yn mwynhau gwrando ar drafodaeth tech Gymraeg newydd sbon ar ein annwyl Haclediad. Bydd digon o bobl gwahanol yn cyfrannu o bryd i’w gilydd, ond yn y rhifyn hwn, mae’r criw, Bryn Salisbury (@bryns), Iestyn Lloyd (@iestynx) a Sioned Edwards (@llef), yn cael lot o drafod Mac allan o’i system. Gyda defnydd estynedig Bryn o’r iPad, anrheg ‘Dolig cynnar yr Apple TV gan Iestyn, a Sioned yn cracio dan y gwasgedd a gadael i iMac ddyfod i’w thŷ, mae digon i chi wrando arno, ond dim gormod i syrffedu arno gobeithio! Cofiwch, mae mwy i ddod, am declynnau, y Gymraeg arlein a llawer mwy; ond am rŵan cyflwynwn yr Haclediad i chi wrando, barnu a rhoi gwaedd i ni am be hoffe chi i ni drafod ar podlediad@haciaith.com. Edrychwn mlaen i glywed ganddo chi! Criw’r Haclediad O.N. Ffrwd iTunes yn dod yn fuan. Diolch yn fawr i Gafyn Lloyd am ysgrifennu’r gân i’r rhaglen a hefyd am rhoi’r rhaglen at ei gilydd. Gallwch ffeindio mwy allan am Gafyn ar ei wefan gafynlloyd.com The post Croeso i’r Haclediad appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.