POPULARITY
Yn y gyntaf o ddwy raglen, Beti George sydd yn sgwrsio gyda Noel Thomas, cyn is-bostfeistr a'i ferch Siân am fagwraeth a gyrfa'r ddau yn Ynys Môn ac fel yr oedd Swyddfa Bost Gaerwen yn mynd yn dda tan Hydref y 5ed 2005, pam ddaeth rhai o swyddogion ariannol y Swyddfa Bost a chnocio ar ei ddrws ac yna mynd a Noel i swyddfa'r heddlu yng Nghaergybi a'i gyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug.Cafodd Noel Thomas o'r Gaerwen, Ynys, Môn ei gyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug fel rhan o sgandal Horizon. Fe gafodd y cyn is-bostfeistr ei garcharu am naw mis yn 2006 ar ôl i £48,000 fynd ar goll o'i gyfrifon. Daeth i'r amlwg yn ddiweddarach bod hyn o ganlyniad i nam ar feddalwedd Horizon Swyddfa'r Post.
Mae Iestyn Thomas & Carwyn Evans yn nôl I drafod gêm Hydref cyntaf Cymru yn erbyn Fiji, gêmau datblygiadol rhanbarthol ac yn edrych ymlaen i tîm Warren Gatland yn herio Awstralia ar Dydd Sul. Cofiwch I dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol. Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Rhodri Davies sy'n trafod yr arwerthiant gyda Llywydd newydd y Gymdeithas, Alwyn Jones.
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Hydref yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.
Mae Carwyn a Carwyn yn edrych ymlaen at hydref o ddewisiadau i Warren Gatlan gan ddewis ei timoedd i wynebu Fiji, pwy bydd yn gywir a thybed? Hefyd, maent yn trafod sefyllfa yr undeb ar ôl gyhuddiadau o bwysau ar dîm menywod Cymru gan y WRU yn Farn gan bapur The Telegraph. Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Croeso i bennod mis Hydref o bodlediad Clera. Y tro hwn cawn y fraint o sgwrsio gyda Phrifardd y Goron, Gwynfor Dafydd, i drafod pob math o bethau am y byd barddol, gan gynnwys ei gerddi gwych a gipiodd Goron yr Hen Bont iddo. Cawn hefyd gerdd gan enillydd Llyfr y Flwyddyn, Mari George, o'i phamffled newydd hi o gerddi. Cawn hefyd gwmni sawl un arall gan gynnwys, Elinor Wyn Reynolds, Jo Heyde, Tudur Dylan a Gruffudd Antur. Mae gennych hefyd gyfle i gefnogi clera yn ariannol os ydych chi'n mwynhau'r podlediad. Cliciwch ar y linc: https://www.crowdfunder.co.uk/p/podlediad-clera
Mae Carwyn, Carwyn ac Iestyn yn edrych ar bwy fydd yng ngharfan Cymru am yr Hydref gan drafod pwy bydden nhw'n dewis yn ogystal ag hyfforddwr Cymru Warren Gatland. Hefyd mae Carwyn E yn gorfoleddu yn buddugoliaeth i'r Scarlets ym Mharc yr Arfau wrth i Carwyn H cwympo pellach i lawr yn rhagdybion yr SRC. Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Welcome to another international episode of Doctoriaid Cymraeg! Although all segments were recorded in the UK, our discussions take us to Hong Kong, where our special guest Israel Lai is originally from. We also, somewhat unexpectedly, found ourselves musing on the Germanic and Scandinavian languages, before wafting into modern noir crime fiction and drama – of the Nordic and Welsh varieties!Israel Lai is a fascinating and multi-talented musician, language enthusiast, podcaster, and all round lovelyhuman being. He's also very modest and most amusing (watch out for his reason for learning Welsh and lots of other things besides!) I met up with him when he visited Wrexham and we had a lovely chat over in the part of Wrexham known as ‘Erddig'; this is where I grew up, which is why I have chosen it for my new nom de plume/stage name: Sara Erddig.Catch up with Israel Lai on Instagram: @rhapsodyinlingoGet comfy with your popcorn or snacks of choice for new noir drama ‘Cleddau': 9pm on Sunday, 13th October 2024 on S4C. For more information: https://www.bbc.co.uk/programmes/p0jt33yq…….Croeso i bennod ryngwladol arall o Doctoriaid Cymraeg! Er bod pob rhan ohoni wedi'i recordio yn y DU, mae eintrafodaethau yn mynd â ni i Hong Kong, lle mae ein gwestai arbennig Israel Lai yn hanu ohoni. Fuon ni hefyd, braidd yn annisgwyl, yn synfyfyrio ar yr ieithoedd Almaenaidd a Llychlyn, cyn fwhwman draw at ffuglen drosedd noir fodern a ddrama – o'r mathau Nordig a Chymreig!Mae Israel Lai yn gerddor cyfareddol ac aml-dalentog, yn frwd dros ieithoedd, yn bodledwr ac yn person hyfryd yngyffredinol. Mae o hefyd yn ddiymhongar ac yn ddoniol iawn (gwyliwch am ei reswm dros ddysgu Cymraeg a llawer o bethau eraill tu hwnt!) Wnes i gwrdd ag efpan ymwelodd â Wrecsam a chawsom sgwrs hyfryd draw yn y rhan o Wrecsam a elwir yn 'Erddig' ; dyma bro fy mebyd, a dyna pam rydw i wedi ei ddewis ar gyfer fynom de plume/ enw llwyfan newydd: Sara Erddig.Dal i fyny ag Israel Lai ar Instagram:@rhapsodyinlingoYna, cael eich hunain yn gyfforddus gyda'ch popcorn neu fyrbrydau o'ch ddewis, ar gyfer gwylio'r ddrama noir newydd ‘Cleddau': 9yh nos Sul, 13eg Hydref 2024 ar S4C. Am fwy o wybodaeth: https://www.bbc.co.uk/programmes/p0jt33yq
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Medi yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.Geirfa ar gyfer y bennod:-Clip 1 Trawsblaniad calon: Heart transplant Cwpan y Byd: World Cup Y garfan: The squad Be mae o'n ei olygu: What does it meanClip 2 Ymateb: Response Cyflawn: Complete Rhyng Gol: Inter college Di-lol: No nonsense Yn y pen draw: In the end Enwogrwydd: Fame Rhyngwladol: International Corwynt: Hurricane Cyfweliadau: Interviews Medra: I canClip 3 Cyfryngau cymdeithasol: Social media Dilynwyr: Followers Hyrwyddo: To promote Bob cwr: Every corner Yn gyfrifol am: Responsible for Dylsen ni neu dylen ni: We should Cenedl: Nation Yn ormodol: ExcessivelyClip 4 Swyddog Datblygu Cymunedol; Community Development Officer Darganfod: To discover Addas: Appropriate Ymgeisiais i: I applied Gwobr: Award Diolchgar: Thankful Enwebu: To nominate Ysbrydoli: To inspire Ystyried: To consider Trochi: To immerse Yn y bôn: BasicallyClip 5 Cynefin: Abode Yn falch iawn: Very proud Cyfathrebu: CommunicatingClip 6 Dylanwad: Influence Degawd: Decade Cyfnod: Period Cyfansoddi: To compose Alawon: Tunes Cyfrol: Book Cyfarwydd: FamiliarClip 7 Enwebiadau: Nominations Sylweddol: Substantial Yn fraint: An honour Yn ychwanegol: Additionally to Plentyndod: Childhood Cyswllt: Connection Celfyddydau: Arts
Wrth i reolwr arall adael Caerdydd yn ddisymwth, mae Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn sicr bod hi'n amser am chwyldro. Yn ôl Owain does "dim gweledigaeth", tra bod Malcolm yn credu bod y clwb "ar y llawr". Ond pwy all achub yr Adar Gleision tro 'ma? A beth sy'n mynd digwydd i'r Seintiau Newydd? Yn gyntaf, mae'r record hir ddi-guro yn diflannu ac yna colli ddwywaith yn olynol am y tro cyntaf ers mis Hydref 2019. Hefyd, fydd Joe Allen yn gwisgo crys coch Cymru eto mis nesa'..?01'20 Peli golff coll Owain 04'10 Sioc i'r Seintiau Newydd 13'40 Blerwch Caerdydd 26'30 Abertawe yn hedfan "o dan y radar" 28'50 Joe Allen yn ôl i Gymru? 35'40 Wrecsam dal ar y brig 40'00 Trafferthion Casnewydd a toiledau Barrow 41'33 Man City v Arsenal 48'20 Malcolm yn serennu ar Youtube 49'30 Anaf Sophie Ingle
Dyma podlediad diweddaraf Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn y bennod yma, mae'r Athro Richard Wyn Jones yn holi'r cyfreithwyr Manon George (Canolfan Llywodraethiant Cymru) a Emyr Lewis (cwmni Blake Morgan) am ei sylwadau ar Mesur Ddraft Cymru a gyhoeddwyd ar ddydd Mawrth 20 Hydref 2015
Clip 1 Rhaglen Trystan ac Emma: Ddydd Gwener Hydref 27, pan oedd hi bron yn Galan Gaeaf, ysbrydion oedd yn cael sylw ar raglen Trystan ac Emma. Mae Islwyn Owen yn Ysbrydegydd neu Spiritualist Medium, ac mae'n dweud bod ganddo'r gallu i gysylltu a derbyn negeseuon gan ysbrydion. Yn y clip nesa ‘ma mae o'n sôn am ysbrydion yn cysylltu efo fo drwy freuddwydion: Calan Gaeaf Halloween Ysbrydion Spirits Ysbrydegydd Spiritualist Medium Breuddwydion Dreams Cryn dipyn Quite a bit Arferol Usual Chwalu fy mhen Blew my mind Manwl Detailed Clip 6: Rhaglen Dros Ginio: Rhaglen arall fuodd yn trafod ysbrydion ond ar ddiwrnod Calan Gaeaf y tro hwn, oedd Dros Ginio. Dyma i chi Rheinallt Rees, cynhyrchydd y podlediad 'Ofn', yn sôn wrth Jennifer Jones am ei brofiadau ysbrydol ei hun, a pham bod na fwy o ddiddordeb gan bobl yn y byd paranormal y dyddiau hyn ... Cynhyrchydd Producer Cyffwrdd To touch Unigryw Unique Canolbwyntio To concentrate Synau Sounds Awel Breeze Gwyddonol Scientific Ymennydd Brain Llwydni Mould Esboniadwy Explainable Yn ein plith ni Amongst us Clip 4 Rhaglen Aled Hughes: O mam bach, roedd yr holl sôn am ysbrydion yn ein paratoi ni'n dda at ddiwrnod Calan Gaeaf yn doedd? Ac ar y diwrnod hwnnw mi gafodd Aled Hughes sgwrs efo'r Dr Adam Coward sydd yn arbenigo mewn marciau gwrachod mewn tai. Mae Adam yn dod o Missouri yn wreiddiol, wedi dysgu Cymraeg, ac yn byw yn ardal Aberystwyth erbyn hyn. Dyma i chi ran o'r sgwrs lle mae Aled yn holi Adam lle basai rhywun yn dod o hyd i farc gwrachod a sut basai rhywun yn ei nabod: Gwrachod Witches Pren Wood Trawstiau Beams Ar bwys Wrth ymyl Amrywiol lefydd Various places Cuddio To hide Rhwymo To wrap Am wn i As far as I know Saer maen Stone mason Clip 5 Rhaglen Bore Cothi/ Heledd Cynwal yn cyflwyno: Wel dyna ddigon am wrachod ac ysbrydion, mae'n hen bryd i ni droi at rywbeth ysgafnach yn tydy? Bob nos Fercher ar S4C mae ail gyfres Gogglebocs Cymru i'w gweld am 9 o'r gloch. Buodd Heledd Cynwal yn cadw sedd Shân Cothi yn gynnes yn diweddar a chafodd hi sgwrs efo un o sêr y gyfres, sef Annaly Jones o Gaerfyrddin. Mae Annaly yn sôn yn y clip yma am gymaint mae hi'n mwynhau bod yn rhan o'r rhaglen: Ail gyfres Second series Ysfa A strong desire O'r dechrau'n deg From the very beginning Parchedig Reverand Ta beth Beth bynnag Wedi cydio Has caught on Ymateb Response Annog To encourage Clip 7: Rhaglen Rhys Mwyn: Mae Annaly wrth ei bodd efo'r gyfres yn amlwg, ac mae hi'n lot o sbort yn tydy? Ar raglen Rhys Mwyn nos Lun Hydref 30, mi fuodd Clare Potter o Gefn Fforest ger Caerffili, oedd yn Fardd y Mis Radio Cymru yn ystod mis Hydref, yn sgwrsio efo Rhys am ei chyfnod yn astudio llenyddiaeth Affro Caribïaidd yn New Orleans a Mississippi a dyma i chi flas ar y sgwrs: Llenyddiaeth Literature Dwlu ar Wrth fy modd efo Cymhariaeth Comparison Clip 8: Rhaglen Caryl: Clare Potter oedd honna'n sgwrsio efo Rhys Mwyn am lenyddiaeth Affro Caribïaidd. Nos Fawrth ddiwetha, Delyth Eirwyn, y cyn actores, ond sydd erbyn hyn yn Bennaeth Drama yn Ysgol Bro Morgannwg, oedd gwestai Caryl Parry Jones. Sôn am fwyd cysur oedd hi, ac yma mae'n trafod lobsgóws fel ei bwyd mwya cysurus pan oedd hi yn sâl: Cysur Comfort Cig eidion Beef Mor gysurus So comforting Trwchus Thick Maeth Nutrition Anwydog Full of cold Gwaith cnoi Chewy Taten A potato Cennin a phannas Leeks and parsnips Tewhau To thicken Blawd corn Cornflour
Bob wythnos ar raglen Bore Cothi mae Shân yn sgwrsio efo gwesteion am eu Atgofion cynta. Ac yn y clip hwn mae Tara Bethan yn cofio am yr arogl cynta, ac mae'r arogl yma wedi gwneud dipyn o argraff arni hi: Atgofion Memories Arogl Smell Argraff Impression Chwyslyd Sweaty Dw i'n medru eu hogla fo I can smell it Cael fy ngwarchod Being looked after Golygu'r byd Means the world Delwedd Image Carco To take care of Tara Bethan yn fanna yn cofio aroglau chwyslyd y reslars! Fel rhan o Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg mae Aled Hughes wedi gwirfoddoli i gymryd rhan yng nghynllun Siarad y Ganolfan Dysgu Cymraeg. Yn ddiweddar mi gafodd ei sgwrs gyntaf gyda'i bartner dysgu, sef Chloe Edwards, sy'n byw ym Mhenmaenmawr ond sydd yn wreiddiol o Cryw. Dyma Chloe yn sôn am sut daeth hi i ddysgu Cymraeg yn y lle cyntaf: Gwirfoddoli Volunteering Unrhyw gysylltiad Any connection Ymwybodol Aware Gwatsiad Gwylio Anhygoel Incredible Wel mae Aled wedi cael partner Siarad diddorol iawn yn Chloe yn tydy o? Francesca Sciarrillo oedd gwestai Ffion Emyr, hi oedd enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro yn 2019. Cafodd Francesca ei magu yn Sir y Fflint, ond Eidalwyr ydy ei theulu hi. Mi ddysgodd Francesca Gymraeg fel oedolyn ac erbyn hyn mae hi'n ac yn gweithio i Gyngor Llyfrau Cymru, yn hyrwyddo darllen i blant a phobol ifanc. Hyrwyddo To promote Wastad Always Parchu penderfyniad Respect the decision Cymuned Community Diolchgar Thankful Mor raenus So polished Heriol Challenging Gwerthfawr Valuable Ac mae Francesca yn gweithio'n rhan amser erbyn hyn fel tiwtor Cymraeg i Oedolion. Yr actores Mali Ann Rees oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Pan oedd hi'n 17 oed mi fuodd hi'n fyfyrwraig mewn Coleg yn India am ddwy flynedd yn astudio bagloriaeth rhyngwladol. Mae Mali yn un o'r actoresau mwya enwog Cymru ac wedi actio yn Craith, The Tourist Trap a The Pact. Mae hi hefyd yn un o dair sy'n cyfrannu i'r podlediad wythnosol, Mel Mal a Jal, sef tair Cymraes siaradus. Yn y clip hwn mae Mali yn trafod y profiad o hiliaeth gafodd yn yr ysgol ac yn India: Hiliaeth Racism Bagloriaeth rhyngwladol International Baccalourate Beirniadaeth Critisism Hunaniaeth Identity Hiliol Racist Chwerthin To laugh Trin To treat Gwerthfawr Valuable Mali Ann Rees oedd honna'n sôn am brofiadau o hiliaeth annifyr iawn gafodd hi yn yr Ysgol ac yn y coleg. Nos Lun y 23ain o Hydref Marci G oedd yn sedd Caryl Parry Jones ac mi gafodd o gwmni Sian Elin Thomas oedd yn sôn am ddathliadau penblwydd Aelwyd Crymych yn 80 oed. Mae Sian wedi bod yn aelod ei hun am nifer o flynyddoedd ac yn y clip mi wnewch chi ei chlywed yn egluro beth yn union ydy Aelwyd yr Urdd... Aelod Member Cefnogol Supportive Traddodiad Tradition Arwain Leading Dathliad A celebration Llywydd anrhydeddus Honorary President Arddangosfa Exibition Lluniaeth Refreshments A penblwydd hapus i Aelwyd Crymych a gobeithio i chi ddathlu mewn steil ynde? Nos Fawrth ddiwetha ar raglen Georgia Ruth, roedd Glyn ac Ellis o'r band Mellt yn cadw cwmni iddi hi. Roedden nhw wedi dod adra i Aberystwyth i ymweld â rhai o'r lleoliadau oedd yn bwysig iddyn nhw fel band, gan gynnwys y sied yng ngwaelod gardd tŷ Glyn lle buon nhw'n recordio. Yn y clip hwn mae Glyn yn sôn wrth Georgia am bwysigrwydd geiriau eu caneuon, a'r defnydd o Gymraeg naturiol, bob-dydd: Lleoliadau Locations Cymhleth Complicated Denu mewn To draw in Pert Pretty Sa i'n gwybod Dw i ddim yn gwybod
Croeso i bennod mis Hydref o bodlediad barddol hyna'r byd yn y Gymraeg. Y tro hwn cawn sgwrs hynod ddifyr a theimladwy gyda'r Prifardd Gruffudd Eifion Owen ynglŷn â'i ail gyfrol wych o gerddi, 'Mymryn Rhyddid' (Cyhoeddiadau Barddas). Hefyd cawn gerdd nas cyhoeddwyd o'r blaen o waith y diweddar Archdderwydd, Dafydd Rowlands, a Sioned Dafydd, y cyflwynydd pêl-droed adnabyddus, ac wyres Dafydd Rowlands sy'n ei darllen. Hyn a llawer mwy.
Siw Hardson Ar raglen Trystan ac Emma roedd Siw Harston, sy'n dod o Landeilo yn wreiddiol ond sydd nawr yn byw yn Surrey, yn sgwrsio am y siaradwyr Cymraeg mae hi wedi dod ar eu traws dros y blynyddoedd, ym mhob rhan o'r byd: Anhygoel Incredible Cynhesrwydd i'r enaid Warmth for the soul Y tu hwnt i Beyond Rogue Jones Does ots ble fyddwch chi, dych chi'n siŵr o glywed y Gymraeg, on'd dych chi? Buodd Mari Grug yn holi Bethan Mai o'r band Rogue Jones, ar raglen Ffion Dafis yn ddiweddar, hyn ar ôl iddyn nhw ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, nos Fawrth y 10fed o Hydref. Dyma i chi flas ar y sgwrs: Gwobr Gerddoriaeth Gymreig Welsh Music Prize Sylw Attention Llafur cariad Labour of love Yn ariannol Financially Gwefreiddiol Thrilling Cyfweliadau Interviews Ffydd Faith Llinach Pedigree Rhyfedd Strange Toddi To melt Jenny Adams A llongyfarchiadau mawr i Rogue Jones, yn llawn haeddu'r wobr. Roedd hi'n Wythnos y Dysgwyr wythnos ddiwethaf ar Radio Cymru a Heledd Cynwal oedd yn sedd Shan Cothi fore Llun Hydref 16, a chafodd hi sgwrs gyda Jenny Adams, sy'n dod o Surrey yn wreiddiol, ond sy'n byw ym Machen, ger Caerffili ar hyn o bryd: Yn llawn haeddu Wholly deserving Cyfathrebu Communicate Swyddogol Official Profiad Experience Codi hyder To raise confidence Disney Jenny Adams oedd honna – un o'r nifer fawr o ddysgwyr y Gymraeg glywon ni ar Radio Cymru yn ddiweddar. Ddydd Llun rhoddodd Dros Ginio sylw i'r ffaith bod cwmni Disney yn 100 oed, a Catrin Heledd fuodd yn holi'r Dr Elain Price sy'n darlithio ar ffilm a theledu, am ddylanwad y cwmni ar y byd ffilmiau dros y blynyddoedd: Darlithio To lecture Dal dychymyg To catch the imaginagion Yn ddiweddarach Later on Cydamseru Synchronize Arloesi To innovate Wrth wraidd At the root of Dyfeisio To invent Bodoli To exist Addasu To adapt Cyfarwydd Familiar Tybio To suppose Mai Lloyd Dr Elain Price yn fanna yn rhoi ychydig o hanes cwmni Disney i ni. Fore Mawrth wythnos ddiwethaf ar raglen Aled Hughes, Mai Lloyd o Aberteifi oedd yn edrych yn ôl ar ei hamser yn Trinidad a Tobago dros yr haf, yn cystadlu efo'r ddisgen yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad: Disgen Discus Y Gymanwlad The Commonwealth Uchafbwyntiau Highlights Pobl hŷn Older people Gareth Wyn Jones A dw i'n siŵr byddwn ni clywed llawer iawn mwy am Mai yn y dyfodol, a hithau'n amlwg wedi mwynhau'r cystadlu. Gwestai Ifan Jones Evans yn y clip nesa yw ffermwr mwya enwog Cymru, sef Gareth Wyn Jones. Mae ganddo ddilyniant mawr ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn ddiweddar, mae wedi croesi carreg filltir anferth ac wedi cyrraedd miliwn o danysgrifwyr ar ei sianel You Tube: Dilyniant Following Cyfryngau cymdeithasol Social media Carreg filltir anferth Huge milestone Tanysgrifwyr Subscribers Diwydiant amaeth Agricultural industry Ymdopi To cope
Pigion Dysgwyr – Peris Hatton Mae Peris Hatton newydd gyhoeddi llyfr ar gasglu crysau pêl-droed o wahanol gyfnodau. Enw'r llyfr yw “The Shirt Hunter”. Mae e wedi bod yn casglu ers dros dau ddeg pum mlynedd….dyma fe i sôn mwy am yr obsesiwn ar raglen Aled Hughes. Newydd gyhoeddi Just published Cyfnodau Periods of time Ddaru Wnaeth Poblogaidd Popular Oddeutu Tua Mwydro To bewilder Newydd sbon Brand new Offer Equipment Pigion Dysgwyr – Jane Blank Peris Hatton oedd hwnna'n sôn am ei obsesiwn gyda chrysau pêl-droed. Ar BBC Sounds ar hyn o bryd mae'r awdures Jane Blank yn sôn am hanes ei theulu mewn cyfres o'r enw “Fy Achau Cymraeg”. Roedd hi ar raglen Shan Cothi wythnos diwetha i sôn ychydig am ei theulu. Dyma i chi flas ar y sgwrs... Cyfres Series Achau Lineage Mamgu a tad-cu Nain a taid Ambell i deulu Some families Chwant Desire Tyrchu'n ddwfn To dig deep Pigion Dysgwyr – Beti George Ewch i BBC Sounds os ydych chi eisiau clywed rhagor o'r sgwrs ddifyr honno. Ers bron i bedwar deg mlynedd mae Beti George wedi cyflwyno Beti a'i Phobol. A hi oedd gwestai gwadd Shelley a Rhydian yn ddiweddar ar eu rhaglen Sadwrn. Dyma Beti i esbonio ychydig am gefndir y rhaglen wythnosol mae hi'n ei chyflwyno Yn ddiweddar Recently Bodlon Willing Enghraifft berffaith A perfect example Hyn a'r llall This and that Croesawu To welcome Dwys Intense Pigion Dysgwyr – Ifan Huw Dafydd Ac mae Beti wastad yn neis on'd yw hi, ac yn cael sgyrsiau diddorol gyda'i gwestai. Yn ddiweddar buodd yr actor Ifan Huw Dafydd ar daith gerdded Llwybr y Pererinion sef y Camino Frances, i Santiago de Compostela yn Sbaen. Roedd e'n codi arian i elusen Jac Lewis. Mae elusen Jac Lewis yn cefnogi lles meddwl pobl ifanc ac yn cynnig help i'w teuluoedd... Dyma Ifan Huw Dafydd ar raglen Ifan Jones Evans yr wythnos diwetha yn rhannu ambell i stori o'r daith. Pererinion Pilgrims Elusen Charities Lles meddwl Mental welfare Traddodiad Tradition Bys troed Toe Crwtyn Bachgen Anhygoel Incredible Llwch Ashes Gwasgaru Scatter Pigion Dysgwyr – Heledd Garddio Llongyfarchiadau mawr i Ifan Huw Dafydd am lwyddo i wneud y daith arbennig hon, ac roedd cwmni diddorol iawn ganddo ar y ffordd on'd oedd? Weithiau mae ‘Heledd Garddio' yn cyfrannu at raglen Caryl Parry Jones i rannu ei chyfrinachau garddio gyda Caryl a'r gwrandawyr. Ond wythnos diwetha rhannodd Heledd gyfrinach wahanol iawn gyda Caryl sef beth fasai ei pharti delfrydol hi…… Cyfrannu To contribute Cyfrinachau Secrets Delfrydol Ideal Crybwyll To mention Plentynaidd Childish Sa i di meddwl Dw i ddim wedi meddwl Pigion Dysgwyr – Awduron Mae parti Heledd yn swnio'n llawer o hwyl on'd yw e? Mae awduron plant ar draws Prydain wedi cyfarfod yn Abertawe yn ddiweddar i gynnal sesiynau storïau ac awduro. Dau oedd yno oedd y gŵr a'r wraig Thomas Docherty a Helen o Abertawe. Maen nhw hefyd wedi dysgu Cymraeg i lefel uchel iawn. Dyma nhw ar raglen Ffion Dafis i sôn am eu gwaith…. Awduro Authoring Amser maith yn ôl A long time ago Antur Adventure Cyfleoedd Opportunities Pe byddai rhywun Tasai rhywun Dwlu ar Wrth ei bodd efo Mamiaith Mother tongue
Pigion Dysgwyr – Ellis Massarelli Mae Ellis Massarelli yn organydd ifanc ac yn feistr ar yr offeryn. Fore Mercher diwetha cafodd Ellis air gyda Shan Cothi ar ei rhaglen, gan esbonio iddi hi ble yn union buodd e'n chwarae'r organ ar hyd y blynyddoedd. Offeryn Instrument Cadeirlan Cathedral Tŷ Ddewi St David‘s Prif organydd Chief organist Dirgrynu Vibrating Datsain Echo Pigion Dysgwyr – Richard Holt Ellis Massarelli oedd hwnna a dw i'n siwr bod dyfodol disglair i'r organydd ifanc. Mae stori Richard Holt, y cogydd a'r gŵr busnes o Ynys Môn, yn un ddiddorol iawn. Buodd e'n gweithio i'r cogydd enwog Marcus Wareing yn Llundain cyn mynd i'r y Llu Awyr i fod yn beilot, ond doedd ganddo mo'r arian i dalu am yr hyfforddiant i hedfan awyren. Erbyn hyn mae e'n rhedeg busnes teisennau, siocled a gin llwyddiannus yn Melin Llynon yn Llanddeusant ar Ynys Môn, ac yn mwynhau cyflwyno Yr Academi Felys ar S4C. Dyma fe'n rhoi hanes cael les Melin Llynon ar Beti a'i Phobol... Disglair Bright Melin Mill Llu awyr Airforce Digwydd bod As it happens Ceisiadau Applications Hyrwyddo To promote Colled A loss Dim rhyfedd No surprise Cau cymryd Refusing to take Pigion Dysgwyr – Elan Davies Felly os oes dant melys gyda chi, Melin Llynon ar Ynys Môn yw'r lle i fynd. Mae'r actores Elan Davies newydd ennill y brif wobr yn The Stage Debut Awards yn ddiweddar. Roedd Elan yn chwarae rhan Laura yng nghynhyrchiad diweddar Cwmni'r Frân Wen a Sherman Cymru o'r ddrama Imrie. A dyma Elan ar Dros Frecwast fore Mawrth i sôn mwy am y ddrama… Cynhyrchiad Production Yn ddiweddar Recently Y brif wobr The main award Dynol Human Arallfydol Otherworldly Darganfod To discover Llwyfan Stage Diwydiant Industry Ehangach Wider Pigion Dysgwyr – Neud Dim Deud A llongyfarchiadau, on'd ife, i Elan am ennill y wobr bwysig honno. Ar BBC Sounds ar hyn o bryd mae'r awdur Llwyd Owen yn ein harwain ni ar daith drwy hanes Hip-Hop a Rap Cymraeg. Teitl y rhaglen yw Neud nid Deud, a dyma glip o Llwyd Owen yn sôn am sut daeth e ar draws Hip-Hop a Rap am y tro cyn-taf….. Y Brifwyl Yr Eisteddfod Genedlaethol O bob cwr From every corner Unigolion Individuals Rhan allweddol A key part Yn ddiarwybod Unknowing Argraffadwy Impressionable Curiadau a chwpledi Beats and couplets Cynhyrchu To produce Pigion Dysgwyr – Chroma Arhoswn ni gyda'r byd miwsig modern yn y clip nesa yma, ond nid hip hop y tro yma ond roc trwm. Band tri darn o Bontypridd yw Chroma ac maen nhw ar fin rhyddhau eu halbwm newydd, a nhw oedd gwestai gwadd rhaglen Shelley a Rhydian. Dyma Katie, lleisydd y band, i sôn mwy am gyfle arbennig caeth y band i gefnogi un o grwpiau mawr yr Unol Daleithiau Ar fin rhyddhau About to release Lleisydd Vocalist Cyhoeddi'r Eisteddfod Proclaiming the Eisteddfod Manceinion Manchester Diolchgar Thankful Anhygoel Incredible Pigion Dysgwyr – Retro Foo Fighters! Mae'n dipyn o gamp i Chroma gael rannu gig gyda nhw on'd yw hi? Mae Yvonne Holder yn prynu a gwerthu gwrthrychau a chynnyrch Retro. Dych chi'n cofio y Tamagotchi oedd yn boblogaidd iawn tua trideg mlynedd yn ôl? Wel dyma Yvonne i sôn mwy amdanyn nhw gydag Aled Hughes ar ei raglen ddechrau wythnos diwetha. Gwrthrychau a chynnyrch Objects and products Bwydo To feed Cyflwr Condition Credi di byth You'll never believe Enghreifftiau prinnaf The rarest examples Prinder Scarcity Dymunol Desirable
Pigion Dysgwyr – Heather Jones Mae'r tri chlip cynta i gyd am bobl amlwg sy wedi dysgu Cymraeg, a beth am i ni gychwyn gyda'r gantores Heather Jones? Yn yr ysgol dysgodd Heather Gymraeg yn ail iaith, ond buodd hi'n perfformio a recordio yn y Gymraeg am flynyddoedd maith. Mae Heather newydd gyhoeddi ei bod hi wedi canu'n fyw am y tro ola ac ar Bore Cothi esboniodd hi wrth Shan Cothi sut dechreuodd ei gyrfa ym myd canu Amlwg Prominent Cyhoeddi Announce Ymennydd Brain Yn gyfangwbl Completely Tinc Tone Pigion Dysgwyr – Johnny Tudor Mae'n rhyfedd meddwl na fyddwn yn clywed llais Heather Jones ar lwyfannau Cymru eto on'd yw hi? Dysgu Cymraeg fel oedolyn ar gwrs Wlpan yng Nghaerdydd wnaeth y diddanwr, y dawnsiwr a'r canwr Johnny Tudor, ac roedd e'n dathlu 60 mlynedd ym myd adloniant eleni. Ar gyfer rhaglen Ffion Dafis bnawn Sul, aeth Lily Beau draw i gartre Johnny i'w holi. Dyma fe gydag un stori fach o'i yrfa... Diddanwr Entertainer Dynwared To impersonate Llwyfan Stage Pigion Dysgwyr – Dinbych y Pysgod A dw i'n siŵr bod gan Johnny lawer iawn o straeon difyr eraill o'i yrfa hir ym myd adloniant. Mae Jo Heyde wedi dysgu Cymraeg ac yn byw yn Ninbych y Pysgod erbyn hyn. Mae hi'n fardd, yn barddoni yn Gymraeg, ac wedi ennill cadair am ei barddoniaeth. Nos Fawrth diwetha ar raglen Caryl esboniodd Jo pam daeth hi i fyw i dde Sir Benfro yn y lle cyntaf…… Dinbych y Pysgod Tenby Bardd Poet Hala Treulio Dim syndod No surprise Yn syth bin Straight away Unigryw Unique Haenau Layers Tirwedd Landscape Llanw Tide Cyfnewidiol Changeable Awen Muse Pigion Dysgwyr – Lliw Ddall Wel dyna i chi dri sy wedi dysgu Cymraeg yn wych, ac sydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i'r byd Cymraeg. Diolch Heather, Johnny a Jo. Mae Owen Jones o Gaerdydd yn un o'r 1 o bob 12 dyn sydd yn lliwddall, ond yn ôl gwyddonwyr dim ond 1 o bob 200 o ferched sy‘n lliwddall ac mae Bethan Rhys Roberts yn un ohonyn nhw. Ar gyfer Bore Sul yr wythnos diwetha trïodd Owen a Bethan sbectolau arbennig sydd i fod i gywiro eu golwg...dyma sut aeth pethau …. Cyfraniad gwerthfawr A valuable contribution Lliwddall Colour blind Yn ôl According to Gwyddonwyr Scientists Cywiro eu golwg Correct their eyesight Llachar Bright Sefyll mas To stand out Cyfoethog Rich(colour) Ffug Fake Pigion Dysgwyr – 1973 Wel newyddion da i‘r rhai sy'n lliwddall on'd ife – mae'n debyg bod y sbectol newydd yn gweithio! Mae'r flwyddyn 1973 yn cael ei gyfri'n flwyddyn arbennig ym myd gwneud ffilmiau. Ond beth oedd mor arbennig am y flwyddyn honno? Cafodd Dion Wyn sgwrs gydag Owain Llyr ar Dros Ginio yr wythnos diwetha i esbonio mwy….. Cyfnod Period of time Hogiau Bechgyn Tywyll Dark Agwedd Attitude Eithafol Extreme Naws Mood Anhygoel Incredible Pigion Dysgwyr – Max Boyce Dion Wyn ac Owain Llyr oedd y rheina'n sgwrsio am pa mor bwysig oedd 1973 i fyd y ffilmiau. Ddydd Mercher diwetha roedd y canwr a'r diddanwr Max Boyce o Lyn Nedd yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed. Mae Max wedi bod yn diddanu pobl Cymru ac ar draws y byd ers diwedd y 60au. Cafodd Aled Hughes gyfle i holi Jed O'Riley o Glwb Rygbi Glyn Nedd sy'n ei adnabod e'n dda…. Cymuned Community Sgwrs ddifyr An interesting conversation Ymwybodol Aware Pwysigrwydd Importance
Here on the Wheelhouse we have the pleasure of doing a Handler and Hound spotlight every month thanks to our sponsors Ring Tails And Tall Tales, Tater Bait Company, and Hydref k-9. This months spotlight goes to Handler Jordyn Brooks and Hound Gr.CH. PR. Second Winds Barnbas. Congratulations you two on all the winning you have been doing. We are rooting for you. Keep up the hard work! Don't forget to like,share and subscribe to the channel!!!! Music from Uppbeat (Free for creators!): https://uppbeat.io/t/the-lakes/beach-highway license code: WHK7TODSAUSJUSM #Showdog #Hunterswheelhouse #Benchshow #Hounds #Treeingwalker #GrandChampion #Handlerandhound #spotlightofthemonth #Outdoors #Podcast #Huntingpodcast
Bu farw Cledwyn Jones, oedd fwyaf adnabyddus fel aelod o Driawd y Coleg, yn Hydref 2022 ac yntau'n 99 mlwydd oed. Dyma gyfle i fwynhau plethiad o 2 raglen recordiodd Beti George gydag ef yn 2015. Un o Dal-y-sarn yn Nyffryn Nantlle oedd Cledwyn Jones, ac wedi cyfnod gyda'r awyrlu aeth i Goleg Prifysgol Bangor. Yno y cyfarfu â dau aelod arall y triawd poblogaidd - Meredydd Evans a Robin Williams - ac fe fuont yn perfformio ar lwyfannau nosweithiau llawen ledled Cymru.
Croeso i bennod mis Hydref 2022 o Clera. y tro hwn cawn sgwrs llawn o ddifyrrwch a dwyster gyda Phrifardd Coron Eisteddfod genedlaethol Tregaron, Esyllt Maelor. Hefyd, cawn flas o gyfrol gyntaf Elinor Wyn Reynolds, 'Anwyddoldeb', gyda'r gerdd wych 'Cysur'.
BETI A'I PHOBOL Joe Healy, enillydd Dysgwr y Flwyddyn oedd gwestai Beti George yn ystod Wythnos y Dathlu. Mae Joe'n dod o Wimbledon yn ne Llundain yn wreiddiol ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers deg mlynedd. Daeth i Gaerdydd i fynd i'r brifysgol, ac mae wedi aros yno. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018 ac yn y clip yma mae'n sôn am sut wnaeth teulu Mared, ei cyn- gariad, ei helpu i ddysgu'r iaith… Treulio amser - To spend time Mynd mas - Mynd allan Profiad - Experience Mam-gu - Nain Cymdeithasol - Sociable Gorfodi - To force Cefnogol - Supportive Becso - Poeni Trochi - To immerse ALED HUGHES Dim ond ers mis Ebrill eleni mae Katie Owen o Ferthyr yn dysgu'r iaith ar ôl iddi gymryd rhan yn y rhaglen Iaith ar Daith gyda'r DJ Huw Stephens yn fentor iddi hi. Dyma hi'n sgwrsio gydag Aled Hughes… Gwahanol - Different Tad-cu - Taid ALED HUGHES Cafodd Laura Jones o Gaerdydd ychydig o wersi Cymraeg yn yr ysgol, ond penderfynodd ddysgu'r Gymraeg fel oedolyn er mwyn cyfieithu rhannau o'r Quran. Dyma flas ar y sgwrs cafodd hi gydag Aled Hughes... Oedolyn - Adult TGAU - GCSE Annog - To encourage Gyrfa - Career Cyfleoedd Gwaith - Work opportunities Bwlch - A gap Dywediadau - Sayings ALED HUGHES Beth tybed oedd rheswm Kelly Webb-Davies sy'n dod o Awstralia'n wreiddiol dros ddysgu'r iaith? Fel cawn ni glywed mae hi'n briod â Peredur Glyn awdur nofel o'r enw ‘Pumed Gainc y Mabinogi' ac mae hi wedi magu ei mab drwy'r Gymraeg. Dyma hi'n sgwrsio efo Aled Hughes... Ieithyddiaeth - Linguistics Bathu term - To coin a phrase Sillafu - To spell Seiniau - Sounds Clwt - Cewyn Llwglyd - Hungry BORE COTHI Mae stori Sara Maynard o Sir Gaerfyrddin ychydig yn wahanol. Cafodd hi ei haddysg mewn ysgolion Cymraeg ond ar ôl gadael ysgol collodd hi ei hyder o ran sgwennu Cymraeg. Aeth hi ar gwrs Cymraeg i Oedolion i wella'r sgil yma ac erbyn hyn mae hi'n swyddog iaith ym Mhrifysgol De Cymru. Ysgol gynradd - Primary School Ysgol Gyfun - Secondary School Trwy gyfrwng - Through the medium of Ysgrifenedig - Written Sbarduno - To spur BORE COTHI Cafodd Shân Cothi sgwrs ddiddorol arall gyda Dickon Morris, cafodd ei eni yng Nghaergrawnt, ei fagu yn Sir Benfro ond sydd erbyn hyn yn byw yng Nghaerdydd. Mae e'n gweithio fel daearegydd ac yn amlwg mae e wrth ei fodd gyda'r gwaith... Caergrawnt- Cambridge Daearegydd - Geologist Plentyndod - Childhood Dinbych y Pysgod - Tenby Diwydiant - Industry Tirwedd - Landscape Llethrau serth - Steep slopes Amrywiaeth - Variety
BETI A'I PHOBOL Mae Bethan Wyn Jones yn awdures llyfrau natur, ac mae colofn natur gyda hi bob wythnos yn yr Herald Gymraeg sydd yn rhan o'r Daily Post. Hi oedd gwestai Beti George wythnos diwetha a yma hi'n sôn am yr adeg pan fuodd ei gŵr hi farw… Cyflwyniad - Introduction Galar - Bereavement Gwlad Pŵyl - Poland Gofal dwys - Intensive care Go lew - Ddim yn ddrwg Meddygon - Doctors Canmol - To praise Amodau - Conditions Sioc enbyd - Devastating shock Anghredinedd - Disbelief ALED HUGHES Maggie Ogunbanwo o Benygroes ger Caernarfon fuodd yn siarad efo Aled Hughes fore Mercher, ar ôl iddi hi ennill Gwobr Mentergarwch yng Ngwobrau Womenspire Chwarae Teg 2022... Gwobr Mentergarwch - Entrepreneur Award Ysbrydoli - To inspire Rhan fwyaf - Mainly Pres - Arian Goro - Gorfod IFAN EVANS Mae Alun Rees, yn dod o Sir Gaerfyrddin, neu Sir Gar, yn wreiddiol ond erbyn hyn mae e'n byw yn Nashville, America ac yn gweithio efo'r rhaglen deledu “American Pickers”. Mae e'n teithio ar draws y wlad gyda'i waith – o Nashville i Kansas i Mount Rushmore – tua 14 awr yn ei fan! Adnabyddus - Enwog Llanw lan â thanwydd - Fill up with fuel Cerddorol - Musical Antur - Adventure Yn ddiweddar - Recently Rhaglen ddogfen - Documentary Darlledu - To broadcast Deuawd - Duet Amrywiol - Varied Unigryw - Unique DROS GINIO Mewn pum wythnos bydd Cymru yn chwarae pêl-droed yn erbyn Unol Daleithiau America yn Qatar. Dyma fydd y tro cynta i Gymru fod yn nghystadleuaeth Cwpan y Byd ers 64 o flynyddoedd. Pa fath o le yw Qatar? Pa fath o groeso caiff cefnogwyr Cymru yno? Mae Rhodri Ogwen yn byw yno ers tua 10 mlynedd a dyma fe'n siarad ar Dros Ginio… Cynnwrf - Excitement Canolbwyntio - To concentrate Rhwydwaith - Network Gwelliannau bach - Small improvements Cefnogwyr - Fans Cyfweliad - Interview Pwyllgor Trefnu - Organising Committee Llysgennad - Ambassador Gradd - Degree Diogel - Safe CARYL PARRY JONES Un sydd yn sicr o fod yn Qatar ydy Ian Gwyn Hughes o Gymdeithas Pêl-droed Cymru. Fe oedd gwestai Caryl nos Fercher a buodd yn sôn am daith emosiynol yn ddiweddar i Ypres, Gwlad Belg. Roedd taid Ian Gwyn Hughes, Lewis Valentine, yn y Rhyfel Byd Cyntaf a llwyddodd Ian i ddod o hyd i gofeb ym mynwent Tyne Cot, gydag enw ffrind ei daid arni. Dyma Ian yn dweud yr hanes... Rhyfel Byd Cyntaf - First World War Mynwent - Cemetary Cofeb - Monument Bedd Hedd Wyn - The grave of Hedd Wyn ( a Welsh poet) Croesoswallt - Oswestry Cafodd ei saethu - Was shot Corff - Body Ymchwil - Research Almaenig - German COFIO Trysor oedd thema'r rhaglen archif Cofio gyda John Hardy ac yn ôl 2009 buodd e'n sgwrsio gyda David Clement o Ffynnon Taf ger Caerdydd am y dyddiadur buodd e'n ei gadw ers 1957. Dyma i chi flas ar y sgwrs... Sylw - Attention Cofnodi - To note Cyflawni - To achieve Amcangyfrif - Estimate Pori - To browse Yr ifanca - Y fenga Menyw - Dynes Llefain - Crïo Erchyll - Terrible
TAITH DDRYMIO TUDUR OWEN Mi roedd Tudur Owen yn chwarae drymiau i fand o'r enw Pyw Dall yn niwedd yr 80au ac mi roedd o isio dechrau chwarae eto….creisis canol oed falle? Mi osododd her iddo fo'i hun i ddysgu'r drymiau eto ac mi gafodd o sgwrs efo un o ddrymwyr gorau a mwya profiadol Cymru, Graham Land, a chlywed sut wnaeth o gymryd diddordeb mewn drymio yn y lle cynta… Gosod her - To set a challenge Profiadol - Experienced Sbïad - Edrych Camgymeriad - Mistake Profiad - Experience GWNEUD BYWYD YN HAWS Caffein oedd pwnc rhaglen Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth efo Hanna Hopwood. Mewn coffi dan ni‘n gweld caffein fel arfer, ond mae o i'w gael mewn diodydd eraill hefyd fel buodd Dr Teleri Mair yn sôn ar y rhaglen… Symbylydd - Stimulant Ymennydd - Brain Egni - Energy Yn fwy effro - More awake Cyffur - Drug Yn benodol - Specifically Rheswm meddygol - Medical reason Esgyrn - Bones Yn gymedrol - Moderately ALED HUGHES Bore Llun ar ei raglen mi gafodd Aled Hughes sgwrs efo Megan Cynan Corcoran o ardal Beddgelert, sydd wedi bod yn chwilio i hanes ei theulu, ac sydd wedi darganfod ei bod yn perthyn i Rhodri Mawr, un o hen Dywysogion Cymru! Ymchwil - Research Canrifoedd - Centuries Tarddiad - Origins Yr Anwyliaid - The Anwyl clan Llyfrgell Gen(edlaethol) - The National Library Arfbais - Coat of arms Cyswllt - Connection Cist - Chest Genedigaeth(au) a marwolaethau - Birth(s) and deaths Cynefin - Habitat ALED HUGHES Cafodd Aled Hughes sgwrs efo'r actores o Benarth, Morfydd Clark sy'n chwarae rhan y cymeriad Galadriel yn y gyfres Lord of the Rings – Rings of Power sydd ar y teledu ar hyn o bryd. Ond mi fuodd Morfydd yn chwarae rhan cymeriad chwedlonol arall yn y gorffennol sef Blodeuwedd, mewn drama lwyfan Theatr Genedlaethol Cymru. Dyma hi'n sôn wrth Aled am y profiad hwnnw... Chwedlonol - Mythical Uchafbwyntiau - Highlights Hollol anhygoel - Totally incredible Tu fas - Outside Lleoliad - Location Traddodiadol - Traditional Y gyfres - The series Llong rhyfel - Warship Arwres - Heroine BORE COTHI Rhywbeth arall sydd ar y teledu, ac yn y sinemâu, ar hyn o bryd ydy Blonde, addasiad ffilm o nofel am fywyd un o eiconau mwya Hollywood, Marilyn Monroe. Aeth Lowri Haf Cooke i weld y ffilm ar ran rhaglen Bore Cothi. Addasiad ffilm - A film adaptation Dadleuol - Controversial Dehongliad - Interpretation Adnabyddus - Enwog Camdrin - To abuse Delwedd - Image Eithriadol - Exceptional Amrwd - Raw Dychrynllyd - Frightening Trais - Violence BORE COTHI Mae Syr Bryn Terfel yn mynd ar daith o gwmpas Prydain y mis yma ac mi gafodd o sgwrs efo Shân Cothi am raglen perfformiadau'r daith. Dyma i chi flas ar y sgwrs… Cydio - To grasp? Cyfansoddwr - Composer Amryddawn - Versatile Dramodydd - Dramatist Alawon - Melodies Telyn - Harp Yn arw - A great deal
Bydd y podlediad hwn yn gyfle i ddeall ychydig mwy am gynigion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a sut y gallai'r cynllun weithredu yng nghyd-destun fferm ddefaid go iawn. Byddwn yn canolbwyntio ar y camau gweithredu cyffredinol ar gyfer meincnodi, iechyd anifeiliaid a bioddiogelwch yn benodol wrth i ni ystyried y broses barhaus o gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy o fewn y cynigion. Mae holl ffermwyr Cymru'n cael eu hannog i gwblhau'r arolwg SFS i helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynigion yr SFS i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio ar lawr gwlad. Gellir dod o hyd i'r arolwg [yma] a daw i ben ar 31 Hydref 2022.
BETI A'I PHOBOL Karl Davies oedd gwestai Beti George yr wythnos hon. Mae Karl newydd ddod yn ôl i Gymru ar ôl bod yn dysgu Saesneg i oedolion am bedair blynedd yn China…a dyma fo'n sôn am hanes Cadi, y gath fach, wnaeth deithio mewn awyren yr holl ffordd o China i Gaerdydd... Y gradures fach - Poor thing (lit: the little creature) Mabwysiadu - To adopt Erchyll - Dreadful Epaod - Apes TRYSTAN AC EMMA Mae Elsi Williams yn dod o Fethesda yng Ngwynedd yn wreiddiol ond yn byw yn Llandudno erbyn hyn. Mae hi'n mynd i nifer fawr o ddosbarthiadau ffitrwydd i gadw'n heini, fel cawn ni glywed yn y clip nesa ‘ma. Trïwch ddyfalu be ydy oedran Elsi wrth i chi wrando arni'n sôn am gadw'n heini – mi gewch chi'r ateb cyn diwedd y clip… Ddaru - Gwnaeth Coedwig - Wood Clychau'r gog - Bluebells Anhygoel - Incredible DEI TOMOS Roedd y Moody Blues yn fand poblogaidd iawn yn y chwedegau a'r saithdegau ac mae'n debyg mae Nights in White Satin oedd un o'u caneuon mwya enwog. Roedd un o aelodau'r band, Ray Thomas, yn perthyn i'r cyflwynydd, cerddor ac actor Ryland Teifi. Fo oedd gwestai Dei Tomos nos Fawrth a dyma fo'n rhoi ychydig o'r hanes... Cyflwynydd - Presenter Cerddor - Musician Yn enedigol o - A native of Yn fachan - Yn fachgen Dur - Steel Ar fy mhwys i - Wrth fy ymyl i Modrybedd - Aunties Roedd e'n dwlu ar - Roedd o'n dotio ar ALED HUGHES Mae'r cyflwynydd Bethan Elfyn wedi bod yn sal ers 2005 ac wedi bod yn aros am drawsblaniad ysgyfaint am flynyddoedd er mwyn iddi hi gael gwella. O'r diwedd mae hi wedi cael clywed ei bod ar y rhestr am drawsblaniad... Trawsblaniad ysgyfaint - Lung transplant Wedi cwympo - Has fallen Triniaeth - Treatment Dirywiad - Deterioration Celloedd - Cells Dinistrio - To destroy BORE COTHI Mi gafodd Shân Cothi sgwrs efo Martina Roberts sy'n dod o'r Weriniaeth Tsiec yn wreiddiol ond sydd nawr yn dysgu yn Sir Benfro. Dyma hi'n sôn am sut dechreuodd hi ddysgu Cymraeg... Y Weriniaeth Tsiec - The Czech Republic Ystyried - To consider Denu - To attract Gwella - To improve Almaeneg - German language GWNEUD BYWYD YN HAWS Mi fuodd Hanna Hopwood yn sgwrsio efo Branwen Llywelyn sydd wedi derbyn her 'Medi Ail Law', ond beth yn union ydy'r her ‘ma? Her - A challenge Mae'n hysbys - It's known Amgylchedd - Environment Diwydiant - Industry Hinsawdd - Climate Mynd i'r afael - To get to grips with Codi ymwybyddiaeth - To raise awareness Annog - To encourage Ar hap - Randomly Egwyddorion - Principles Annibynnol - Independent
Beti George yn sgwrsio gyda Siân Elen Tomos. Fel Prif Weithredwr GISDA mae Siân yn rheoli ac arwain GISDA ers Hydref 2011 i sicrhau gwasanaeth o ansawdd i bobl ifanc bregus yng Ngogledd Cymru. Law yn llaw gyda hynny mae Siân yn ceisio sicrhau parhad mewn gwahanol wasanaethau drwy geisio am grantiau a thendro am arian. Cyn ymuno a'r tîm yn GISDA roedd Siân yn gweithio fel gweithiwr Cymdeithasol yng ngwasanaethau plant Cyngor Gwynedd, aeth yna ymlaen i fod yn Rheolwr Tîm yng ngwasanaeth i blant anabl yng Ngwynedd. Yn enedigol o Ddeiniolen, mynychodd Ysgol Gwaun Gynfi, ac Ysgol Uwchradd Brynrefail, mae hi bellach yn byw yng Nghaernarfon. Mae ei diddordebau yn cynnwys cerdded, bod allan yn yr awyr agored, teithio, materion cymunedol a gwleidyddiaeth, ac mae hi'n rhannu straeon bywyd ac yn dewis ambell i gan sydd yn agos at ei chalon.
''S'gob''!!! Fy ngŵr gwadd cyntaf yn 2022 yw'r actor a chyfarwyddwr Wynford Ellis Owen, neu i rai, Syr Wynff ap Concord y boss, neu hyd yn oed Donald Parry. (Teliffant? Porc peis bach?) Ar ôl blynyddoedd o gam ddefnyddio ac yn dod yn gaeth i gyffuriau ac yn bennaf alcohol, cafodd driniaeth am ddibyniaeth yng nghanolfan Rhoserchan yn Aberystwyth a bu'n sobr ers 22 Gorffennaf 1992. Graddiodd mewn Cwnsela Dibyniaeth yn 2008 ac ar 1 Hydref 2008 cychwynnodd weithio fel Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill. Datblygodd canolfan gymunedol Stafell Fyw Caerdydd i gefnogi pobl gyda dibyniaeth ar gyffuriau yn ardal Caerdydd. Agorwyd y ganolfan yn 2011. Pleser ag anrhydedd yw cael cyfweld â Wynfford am, nid yn unig ei yrfa fel actor a chyfarwyddwr a chynhyrchydd, ond am ei ddibyniaeth, ei siwrnai anhygoel trwy adferiad a'i waith erbyn hyn. Fel se Syr Wynff ap Concord y boss yn dweud, ''raslas bach a mawr!''
1. Gwneud Bywyd yn Haws – Clip Cytiau Elliw Gwawr ac Angharad Haf Wyn Mae BBC Radio Cymru yn rhoi sylw i'r argyfwng newid hinsawdd yn ystod tymor yr Hydref gyda rhaglenni arbennig o'r enw ‘Ein Planed Nawr'. Un o'r rhaglenni hynny ydy ‘Gwneud Bywyd yn Haws' ac yn rhaglen wythnos diwetha clywon ni bod defnyddio clytiau, neu cewynnau, aml-ddefnydd yn llawer iawn gwell i'r amgylchedd na defnyddio'r rhai sy'n cael eu taflu ar ôl eu defnyddio unwaith yn unig. Dyma glip o Hanna Hopwood yn sgwrsio gyda dwy fam sy'n defnyddio'r clytiau aml-ddefnydd, Angharad Haf Wyn ac Elliw Gwawr… Argyfwng newid hinsawdd Climate change crisis Clytiau/cewynnau Nappies Aml-ddefnydd Multiple use Amgylchedd Environment Ymchwil Research Buddsoddi To invest Arbrofi To experiment Ymrwymo To commit ‘Ta beth Beth bynnag Cyflwr Condition Tueddu i hyrwyddo Tends to promote 2. Ifan Evans – Gwobr i Edna Jones Dyna i chi flas ar raglen ‘Gwneud Bywyd yn Haws' gyda Hanna Hopwood sydd ar Radio Cymru bob nos Fawrth am 6pm. Ac os dych chi eisiau clywed mwy o'r sgwrs yma ewch draw i wefan bbc sounds, neu am ragor o raglenni sy'n sôn am yr amgylchedd ewch at y wefan bbc.co.uk/einplanednawr Unwaith eto mae rhaglen Ifan Evans yn dweud ‘Diolch o Galon' i rywun arbennig sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn eu hardal, neu glwb, neu mewn cymdeithas arbennig. Wythnos diwetha aeth Ifan i Ynys Môn, i roi tlws Diolch o Galon i Edna Jones, Trefnydd CFFI yr Ynys Tlws Trophy Syfrdanu Astounded Gweithgar Hardworking Ces i fy nychryn I was shocked Enwebiad Nomination Talcen caled A hard grafft Cyn-aelodau Former members Mewn chwinciad In a jiffy Becso Poeni 3. Newid Hinsawdd Taid a Fi – Micro Plastic ...ac os dych chi'n nabod rhywun dach chi'n meddwl dylai ennill tlws ‘Diolch o Galon', cofiwch gallwch chi anfon enwebiad at Ifan drwy e-bost ar ifan@bbc.co.uk Yn y rhaglen ‘Newid Hinsawdd :Taid a Fi' mae Leisa Gwenllian yn mynd ar daith i gyfarfod rhai o'r bobol ar ei stepen drws sydd yn gwneud gwaith difyr ac phwysig i wella'r amgylchedd, yng nghwmni ei thaid, neu dad-cu, y naturiaethwr Duncan Brown. Yn y clip yma, mae Leisa yn cael sgwrs am feicroblastig gyda Nia Jones a'r Dr Dei Huws o Brifysgol Bangor. Hudolus Magical Mor brydferth So beautiful Uwch Ddarlithydd Senior lecturer Gwyddorau Môr Marine Science Gwasgariad Dispersal Llygredd Pollution Amsugno To absorb Tanwydd Fuel Ynni Energy Lleihau To reduce 4. Rhys Mwyn – Fflur Dafydd Pwy fasai'n meddwl bod meicroblastig mor gyffredin on'd ife? Mae e yn ein siwmperi hyd yn oed! Roedd yr awdures Fflur Dafydd gyda Rhys Mwyn wythnos diwetha a buon nhw'n rhannu ei dewisiadau o draciau ffync. Yn ystod y sgwrs soniodd Fflur sut gwnaeth hi ddewis caneuon ar gyfer y gyfres deledu ‘Amgueddfa' oedd ar S4C eleni, er mwyn cael rhoi rhagor o haenau i'r cymeriadau… Cyffredin Wide-spread Haenau Layers Cymeriadau Characters Golygfeydd Scenes Drych Mirror Dylanwadau Influences 5. Geraint Lloyd – Randall Bevan ..a'r newyddion da ydy bod cyfres arall o Amgueddfa ar y ffordd, ac mae Fflur wrthi'n sgwennu'r sgript ar hyn o bryd. Randall Bevan o Ipswich sydd yn gyn-drampolinydd, ac yn 88 oed oedd yn cadw cwmni i Geraint LLoyd nos Fercher, a soniodd Randall ei fod wedi derbyn neges arbennig gan ffrind enwog iawn – pwy oedd e tybed? Halais i Anfones i Gynnau fach A moment ago Tylwyth Teulu Ŵyr a ŵyres Grandson and grandaughter 6. Clip Dros Ginio Randall a Buzz – wedi dyna stori dda on'd ife? Wythnos diwetha, cyhoeddodd Wales Online restr o 15 o Gymry du dylen ni roi sylw iddyn nhw. Roedd Sian Jones, y steilydd gwallt 22 oed o Gaerdydd, yn un o'r pymtheg yma. Cafodd hi sgwrs gyda Catrin Haf Jones ar raglen Dros Ginio, a dyma hi'n sôn am ei harbenigedd hi mewn gwalltiau unigolion duon… Unigolion duon Black individuals Cyhoeddi To publish Arbenigedd Expertise Penodol Specific Yn cynnwys Including Mor brin So scarce Gradd Degree Fy synnu i Surprises me Hyfforddi Training
Rheolwr Cymru C ac un o leisiau'r botwm coch, Mark Jones sy'n edrych nôl ar ddigwyddiadau mis Hydref yn y Cymru Premier gyda Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer. Cawn hefyd gyfle i glywed gan reolwr Cymru, Robert Page ar ôl iddo gyhoeddi ei garfan ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 ym mis Tachwedd.
Croeso i bennod sy'n dathlu pum mlwyddiant Clera! Diolch o galon i'n holl wrandawyr selog am barhau i'n cefnogi dros y pum mlynedd. Yn y bennod hon mae gyda ni sgwrs gyda'n noddwr, Llŷr Hael. Blas o Ymryson Gwyl Gerallt a thrafodaeth Cymdeithas Ceredigion ar y cyfansoddiadau AmGen, cerdd arbennig gan y Prifardd Osian Rhys Jones a llawer mwy, Diolch i Alaw Griffiths am y llun ar glawr y bennod.
Aled Hughes – Erin Fflur a Mari Elen Mae pedair cenhedlaeth o deulu fferm y Pandy, Rhos-y-gwaliau ger y Bala wedi bod yn cystadlu mewn treialon cŵn defaid, a'r ddwy ferch fferm ifanc, Erin Fflur a Mari Elen ydy'r diweddara i gystadlu. Cafodd Aled Hughes air gyda'r ddwy a dyma i chi flas ar y sgwrs... Cenhedlaeth Generation Y diweddara The most recent Rheoli To control Ar gyrion On the outskirts Praidd Flock Canolbwyntio To concentrate Amynedd Patience Dallt Deall Cyngor Advice Yn y gwaed In the blood Cynhaliwyd Was held GWNEUD BYWYD YN HAWS Hanes teulu fferm y Pandy a'r treialon cŵn defaid yn fanna. Buodd Theatr Genedlaethol Cymru yn teithio gyda'i drama ‘Anfamol ‘ yn ddiweddar. Hon ydy drama lawn gynta i'r cwmni ei llwyfannu'n fyw ers dechrau'r cyfnod clo, ac mae'n cymryd golwg ar fywyd mam sengl. Sut mae'r ddrama hon yn cymharu â rhaglenni teledu ar yr un thema, fel Motherland tybed? Dyna fuodd Hanna Hopwood a'i gwesteion Rhiannon Mair a Llinos Patchel yn ei drafod ar Gwneud Bywyd yn Haws Llwyfannu To stage Cyfresi Series Pegynnu Polarizing Cymeriadau Characters Gor-ddweud To exaggerate Elfennau Elements Anweledig Invisible Rhianta Parenting Denu To attract Prydferthwch Beauty Mor glou Mor gyflym Datgelu'n raddol Gradually revealing Arwyr Glew – Erwau'r Glo Mae'n amlwg bod Llinos a Rhiannon wedi mwynhau ‘Anfamol ‘ yn fawr iawn. Mae'r diwydiant glo yn aml iawn yn cael ei gysylltu gyda llygredd, ond clywodd Aled Sam am gynllun sydd yn defnyddio glo gorllewin Cymru i buro dŵr ar draws y byd. Dyma Aled yn sgwrsio gyda Jeff Macavoy o gwmni glo Western Carbons ger Rhydaman yn Sir Gaerfyrddin. Y diwydiant glo The coal industry Llygredd Pollution Puro To purify Tunnell A ton Rhyfedd Strange Dros Ginio Wel, wel, pwy fasai'n meddwl? Diemwntau du gorllewin Cymru yn puro dŵr Saudi Arabia. Dyna ddiddorol on'd ife? Wythnos diwetha, roedd Paul Simon yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed. Mae e wedi dylanwadu ar gerddorion ar draws y byd, gan gynnwys cerddorion Cymru fel Delwyn Sion, sydd yn dipyn o ffan o'r dyn o Efrog Newydd. Buodd e'n sôn ychydig am yrfa Paul Simon gyda Jennifer Jones ar Dros Ginio... Dylanwadu To influence Rhyfeddol Astonishing Degawd A decade Poblogaidd Popular Canwr gwerin Folk singer Deuawdau Duets Beti a'i Phobl – Ann Jones Fasai hi ddim wedi bod yr un fath tasen nhw wedi cadw'r enw Tom and Jerry, na fasai? Cadeirydd Cenedlaethol Sefydliad y Merched, Ann Jones o Landdewi Brefi yng Ngheredigion oedd gwestai Beti George. Dyma hi'n sôn wrth Beti am bwysigrwydd y Sefydliad.. Sefydliad y Merched Women's Institute Pwysigrwydd Importance Delwedd Image Ymgyrchydd Campaigner Yn wirioneddol Truly Materion Cyhoeddus Public affairs Cyfrifol Responsible Amgylchedd Environment Parchu llais To respect the voice Geraint Lloyd Dyna ni felly, Jerusalem ond ddim jam i Sefydliad y Merched! Yr arbenigwr hen bethau John Rees oedd gwestai Geraint Lloyd nos Fercher a buodd e'n sôn am rywbeth o'r enw ‘chippy paint'. Beth yw hwnnw tybed? Arbenigwr Expert Tad-cu Taid Celfi Dodrefn Gweithdy Workshop Traul Wear and tear Brwnt Budr
CYMRY NEWYDD Y CYFNOD CLO - MOHINI GUPTA Bardd o Delhi Newydd, Mohini Gupta, ddysgodd Cymraeg ar ôl iddi dreulio tri mis yn Aberystwyth yn 2017. Mae hi wedi cyfieithu cân boblogaidd yr Anhrefn a Candelas, Rhedeg i Baris, i Hindi ac mae'n gobeithio cryfhau'r cysylltiad rhwng y ddwy iaith yn y dyfodol. Dyma hi'n esbonio pam dechreuodd hi ddysgu Cymraeg Bardd Poet Cymrawd Fellow Cwympo mewn cariad To fall in love Mwyaf rhyfeddol Most amazing Y gynghanedd Welsh metrical alliteration Yn gysylltiedig â barddoriaeth Connected to poetry Led-led y wlad Throughout the country Gweithdy Workshop Sylweddoli To realise Cenhadon Missionaries GWNEUD BYWYD YN HAWS – ROB LISLE A DAVID THOMAS Mohini Gupta oedd honna'n sôn am y cysylltiad rhwng y Gymraeg a Hindi. Cafodd Hanna Hopwood gwmni rhai o gystadleuwyr 'Dysgwr y Flwyddyn 2021', i rannu cynghorion am sut i wneud bywyd yn haws wrth ddysgu Cymraeg. Mae Rob Lisle wedi bod yn helpu dysgwyr eraill i ddechrau sgwrsio yn Gymraeg mewn ffordd ymarferol a dyma e'n esbonio wrth Hanna sut mae e'n mynd o'i chwmpas hi... Mynd o'i chwmpas hi To go about it Dipyn o gamp Quite an achievment Cymryd yn ganiataol To take for granted Canolbwyntio Concentrating Ystyried Considering Gwybodaeth gyffredinol General information Mo'yn Eisiau BORE COTHI -MELANGELL DOLMA A RHIANNON OLIVER Mae'n wych gweld rhai fel Rob, sydd wedi dysgu Cymraeg, yn rhoi help llaw i'r rhai sydd eisiau ei defnyddio. Un gafodd gyfle i ddefnyddio'r Gymraeg yn fuan ar ôl ei dysgu ydy'r actores Rhiannon Oliver a lwyddodd i gael rhan yn ‘Enfys' drama ddigidol Theatr Genendlaethol Cymru. Clywon ni'r hanes mewn sgwrs gafodd hi gyda Shan Cothi… Dwys Intensive Cyngor Celfyddydau Cymru Welsh Arts Council Llawrydd Freelance GERAINT LLOYD – JAMES HORNE Wel dyna brofiad gwych i Rhiannon on'd ife? Roedd Geraint Lloyd yn holi ‘dysgwr y dydd' ar ei raglen wythnos diwetha ar nos Fawrth. Myfyriwr sy'n astudio ym Mhrifysgol Bangor o'r enw James Horne oedd yn cadw cwmni iddo fe. Cwrs TAR PGCE course Parhau To continue Hedfan Flying Cwrs Calan New Year's course GERAINT LLOYD – ELISABETH HALIJAS Ac arhoswn gyda Geraint Lloyd nawr i glywed rhan o sgwrs gaeth e gydag Elisabeth Halijas dietegydd sydd yn byw a gweithio yng Nghaerdydd, ond sy'n dod o Estonia yn wreiddiol. Fel James Horne, mae hi wedi dysgu Cymraeg yn gyflym iawn – dim ond tair blynedd mae hi wedi bod wrthi. Gofynnodd Geraint iddi hi a oedd y Gymraeg yn help iddi yn y gwaith. Defnyddiol Useful Ymgynghoriad Consultation Gwirfoddoli To volunteer BETI GEORGE – GRANT PEISLEY Wel dyna fywyd prysur sy gyda Elisabeth on'd ife? Ac mae'n wych ei bod hi, sy'n dod o Estonia yn medru cynnig gwasanaeth Gymraeg i'w chleientau. Grant Peisley oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Mae Grant yn dod o Picnic Point ger Sydney Awstralia yn wreiddiol ac roedd e'n hapus iawn pan ofynnodd Beti iddo fe am ei deulu…. Hynafiaid Ancestors Ymhlith y carcharorion Amongst the prisoners Go iawn Really Cyswllt Connection Ieuengaf Fenga/ifanca Cyfnitherod Female Cousins Wel dyna ni, mae wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg ar Radio Cymru wedi mynd â ni i India, Lloegr, Estonia ac Awstralia. Ond ble bynnag dych chi'n byw, o ble bynnag dych chi'n dod, dyn ni yn Radio Cymru a, dw i'n siŵr, pobl Cymru gyfan yn falch iawn ohonoch chi, ac yn falch o'ch cyfraniad at y bywyd Cymraeg. Daliwch ati!
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” SIWRNA SIONED Siwrna Sioned, sef rhaglen arbennig am ferch arbennig o Lanrug ger Caernarfon. Cafodd Sioned Roberts ddiagnosis o'r clefyd Motor Neurone yn 2006. Mae hi am ddefnyddio pob cyfle i rannu ei phrofiadau er mwyn helpu rhai eraill sydd â'r un clefyd. Dyma hi'n sgwrsio gydag Aled Hughes… Clefyd Disease Ymlaen llaw Before hand Iesgob! Goodness! Sylweddoli To realise Cryfder Strength Magwraeth Upbringing Ymchwil Research Triniaeth iachâd A cure Ymwybyddiaeth Awareness Cyfryngau cymdeithasol Social media SIOE SADWRN SHELLEY A RHYDIAN Ie, fel d'wedodd Aled, roedd Sioned yn gryf, yn ddewr ac yn onest yn fan'na wrth drafod ei phrofiadau hi o'r clefyd Motor Neurone. Rhodri Owen oedd gwestai Shelley a Rhydian ar y Sioe Sadwrn a buodd e'n sôn am yr adeg pan aeth i gyfweld Matthew Rhys am y ffilm A Beautiful Day in the Neighbourhood. Ond doedd cael cyfweld Mattthew ddim yn ddigon i Rhodri, roedd e am gael gair gyda seren arall y ffilm, sef yr actor enwog Tom Hanks. Lwyddodd e i wneud hynny tybed? Dyma fe'n dweud yr hanes… Dewr Brave Cyfweld To interview Rhes A row Anhygoel Incredible Yn llythrennol Literally Tueddiad ofnadwy An awful terndency GERAINT LLOYD Stori anhygoel gan Rhodri Owen am sut lwyddodd e i gael cyfweliad gyda Tom Hanks. Cafodd Geraint Lloyd sgwrs gyda'r gyrrwr ralio Elfyn Evans ar ôl iddo fe ennill Rali'r Ffindir - y Cymro cyntaf i wneud hynny. Enillodd y gyrrwr o Ddinas Mawddwy, ger Dolgellau naw o 19 cymal y rali heriol yma, ac ennill pum pwynt bonws drwy ennill y cymal olaf. Ffindir Finland Cymal Stage (of race) Heriol Challenging Yn fwy diweddar More recently O'r cychwyn cynta From the very start Ychydig o fantais A slight advantage Yn dywyllach darker Gwastad Level Tymheredd Temperature Cyn ised â As low as BETI A'I PHOBL Ac mae hi'n dal yn bosib i Elfyn ennill Pencampwriaeth Rali'r Byd, felly pob lwc iddo fe. Buodd Beti George yn sgwrsio gyda'r fenyw fusnes Sioned Llywelyn Williams, ac yn y clip nesa mae Sioned yn sôn am ei chyfnod yn byw yng Nghaerdydd pan oedd hi'n ifancach, ac yn esbonio pam ei bod wedi dod yn ôl i fyw i Lanuwchlyn yn Ngwynedd, sef yr ardal ble cafodd hi ei magu… Pencampwriaeth Championship Ifancach Fengach Wastad Always Bwrlwm Buzz Am gyfnod For a period Cydnabyddiaeth Acknowledgment Eithriadau Exceptions Broydd Region Yn fwy cyffredin More prevalent Faswn i'n tybio I'd imagine DEWI LLWYD Sioned Llywelyn Williams oedd honna'n falch iawn o fod yn ôl yn Llanuwchllyn. Roedd stori dda gan westai pen-blwydd Dewi Llwyd sef Nia Roberts. Stori oedd hon am yr adeg Nia wedi mynd am glyweliad i chwarae rhan merch Owain Glyndŵr mewn ffilm ar gyfer S4C. Y cyfarwyddwr James Hill oedd yn gwneud y penderfyniad ac roedd Nia yn reit hyderus gan mai ei thad hi, J O Roberts, oedd wedi cael ei ddewis i chwarae rhan Owain. Pwy well felly na Nia i chwarae rhan ei ferch? Ond nid felly aeth hi, fel cawn ni glywed yn y clip yma… Clyweliad Audition Cyfarwyddwr Director Hogiau Bechgyn Diarth (dieithr) Strange Cynhyrchu To produce Trafodaeth A discussion
Shwmai... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Wynne Evans dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma, wythnos sy'n rhoi sylw i ddysgu Cymraeg dyn ni'n mynd at raglen … BORE COTHI Mae Kayley Sydenham yn dod o Gasnewydd ac mae hi ar ei blwyddyn gynta ym Mhrifysgol Bangor yn astudio'r Gymraeg. Doedd ei rhieni hi ddim yn siarad Cymraeg o gwbl ond penderfynon nhw ei hanfon hi i ysgol Gymraeg. Hi enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd eleni, ac yn mis Medi, hi oedd Bardd y Mis Radio Cymru. Dyma hi'n sgwrsio gyda Shan Cothi am ei chefndir, ac i ddechrau holodd Shan am ei llwyddiant hi yn yr Eisteddfod… Cefndir Background Llwyddiant Success Rhannu fy ngherddi Sharing my poems Cysur Comfort Di-Gymraeg Non Welsh speaking Gwerthfawrogol Appreciative Wythnos y glas Freshers Week Cymdeithasu To socialise GERAINT LLOYD A phob lwc i Kayley, on'd ife, ym Mhrifysgol Bangor. Aeth Geraint Lloyd draw i Ynys Enlli ym Mhen Llŷn am y tro cynta yn ei fywyd wythnos diwetha, a chafodd gyfle i gyfarfod rhai o gymeriadau'r ynys. Lle hyfryd ond unig iawn ydy Enlli heddiw, ond sut oedd hi yno yn y gorffennol tybed? Dyma'r ffermwr Gareth Roberts yn rhoi ychydig o hanes y lle i ni… Blaengar iawn Very progressive Ar un cyfnod At one time Ŷd Corn Rhwyfau Oars Cynnyrch Produce Yr oes honno At that time Diweddara Most recent DEI TOMOS Wel pwy fydde'n meddwl mai merched Enlli oedd yn arwain byd ffasiwn Pen Llŷn? Mae ardaloedd llechi Gwynedd wedi dod i sylw'r byd eleni ar ôl ennill statws Safle Treftadaeth Byd Unesco. Ond oeddech chi'n gwybod bod llawer iawn mwy i'r diwydiant llechi na chynhyrchu llechi to yn unig? Mae Pred Hughes wedi cyhoeddi llyfr am y diwydiant ac yn y clip yma o sgwrs gafodd e gyda Dei Tomos, mae e'n sôn am y broses o enamlo , hynny yw rhoi enamel ar lechen... Llechi Slates Treftadaeth Heritage Diwydiant Industry Galwad enfawr A huge demand Moethus Luxurious Mwyafrif Majority Rhiniogau Thresholds Godidog Splendid ‘Sech chi'n taeru You'd swear Plisgyn ŵy Egg shell STIWDIO Pred Hughes oedd hwnna'n esbonio'r broses o enamlo llechi wrth Dei Tomos. Nos Lun ar Stiwdio cafodd Nia Roberts sgwrs gyda Arfon Haines Davies am y llyfr mae e wedi ei olygu , sef “Hunanbortread David Griffiths”. Mae David Griffiths yn dod yn wreiddiol o Bwllheli ac mae e'n un o artistiaid portreadau mwyaf blaenllaw Prydain. Mae e wedi creu portreadau o lawer o enwogion dros y blynyddoedd, fel buodd Arfon yn egluro... Blaenllaw Prominent Brenhinol Royal Straeon difyr Interesting stories Braslunio Sketching Archdderwydd Archdruid Cynnwys To include Diymhongar Unassuming Prif Weithredwyr Chief Executives Loncian Jogging BORE COTHI Dipyn bach o hanes yr artist David Griffiths yn fan'na gan Arfon Haines Davies. Nesa cawn ni glywed rhan o sgwrs rhwng y gantores canu gwlad o Geredigion, Doreen Lewis a Shan Cothi, ble mae Doreen yn sôn am ei mordaith delfrydol! Canu gwlad Country (singing) Mordaith delfrydol Ideal cruise Traethau aur Golden beaches Coed palmwydd Palm trees Naws ffwrdd â hi Relaxed atmosphere Ydy glei Ydy siŵr Ffaelu Methu Braint Privilege Atgoffa To remind SHELLEY A RHYDIAN Doreen Lewis oedd honna'n breuddwydio am fynd yn ôl i'r Caribî. Hyfryd! Bob wythnos ar y Sioe Sadwrn, mae Shelley a Rhydian yn gofyn i un o enwogion Cymru gyflwyno ei anifail anwes i ni fel rhan o ‘Cynghrair y Cŵn', a dyma Eleri Sion yn ein cyflwyno ni i'w chi bach hi, Ralffi. Cynghrair y Cŵn Dog's league Anrhydedd Honour Uchelael Highbrow Ymateb To respond Barus Greedy Fy nghôl i My lap Gwiwerod Squirrels Ei dîn e His backside Talent cudd Hidden talent Toddi nghalon i Melts my heart Wel mae Ralffi'n swnio'n gi bach bendigedig! A dyna ni'r podlediad am wythnos arall. Ond cyn cloi, cofiwch am holl raglenni arbennig yr wythnos nesaf. Mae cwis “Cystadleu-IAITH” bob dydd am hanner awr wedi deuddeg. Cyfres “Cymry newydd y cyfnod clo” am hanner awr wedi chwech, a bydd bwletin newyddion arbennig bob nos am 8. Ewch i BBC Sounds am fwy o wybodaeth. Diolch yn fawr am eich cwmni, a daliwch ati i wrando a siarad Cymraeg. Dw i'n lwcus mod i'n medru darlledu ar Radio Wales ac yma ar Radio Cymru. Tan y tro nesaf!
Sgwrs arbennig gyda David Edwards, cyn-chwaraewr canol cae Cymru cyn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd mis Hydref. Bydd Dylan Ebenezer a Sioned Dafydd yn trafod ei amser gyda'r tîm rhyngwladol, gobeithion Cymru ar gyfer y gemau rhagbrofol a'i amser gyda'r Bala yn y Cymru Premier. Gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 yn fyw ar Sgorio: 08/10 - Y Weriniaeth Tsiec v Cymru - yn fyw ar S4C am 7.25 11/10 - Estonia v Cymru - yn fyw ar S4C am 7.25
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … COFIO Plentyndod oedd thema Cofio yr wythnos diwetha a chlywon ni am blentyndod Isora Hughes, plentyndod gwahanol iawn gan ei bod wedi cael ei magu gan ei nani. Roedd mam Isora, Leila Megane, yn gantores enwog ac yn teithio'r byd yn perfformio, ond roedd ganddi ffordd arbennig iawn o adael Isora wybod ei bod yn meddwl amdani hi. T Glynne Davies oedd yn ei holi... Gwâdd To invite Yn ddigalon Trist Anadlu To breathe Peswch A cough Wyddoch chi You know BORE COTHI Cantores arall sy'n gorfod teithio'r byd yw Rhian Lois a buodd hi'n sgwrsio am synhwyrau gyda Shan Cothi. Dyma hi'n trafod beth yw ei hoff arogl yn y byd, sef arogl Elsi. Ond pwy neu beth yw Elsi? Synhwyrau Senses Arogl A smell Bant I ffwrdd Llanw fy nghalon i Fills my heart Croten Merch fach Mam-gu Nain GWNEUD BYWYD YN HAWS Y gantores Rhian Lois oedd honna yn sôn am ei merch fach Elsi. Mae tymor yr Hydref yn dod a sialensau iechyd gydag e, a'r system imiwnedd oedd yn cael sylw Hanna Hopwood yr wythnos hon ar Gwneud Bywyd yn Haws. Buodd Hanna'n siarad gyda Ellie Armstrong o'r cwmni Chuckling Goat i gael gwybod mwy am sut mae'r diod Kefir yn gallu helpu gyda imiwnedd. Ymateb Response Hynod o lwyddiannus Extremely successful Llaeth gafr Goat's milk Llys-fam Stepmother Tawlu Taflu Cyflyrau croen Skin conditions Eitha tost Quite ill ALED HUGHES Kefir yn amlwg wedi gwneud bywyd yn haws i deulu Ellie Armstrong. Mae Morwenna Tang, yn dod o Shanghai yn China yn wreiddiol. Enw Cymraeg YuQi ydy Morwenna, a daeth hi i Gymru ddwy flynedd yn ôl gyda'i gŵr, Scott Griffiths, sy'n dod yn wreiddiol o Gaerdydd. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg trwy Duolingo ac ers dechrau'r cyfnod clo, ar gwrs gyda Dysgu Cymraeg Gwent. Beth wnaeth iddi hi benderfynu dysgu Cymraeg tybed? Adnoddau Resources Bodolaeth Existence IFAN EVANS Cymraeg gwych gan Morwenna yn fan'na ar ôl dim ond dwy flynedd yn dysgu'r iaith. Wythnos yma, cafodd Ifan Evans sgwrs gyda Marc Skone, oedd yn arfer perfformio gyda'r ‘boy band ‘ Cymraeg Mega. Mae e yn ôl yn perfformio nawr yn rhan o'r grŵp newydd Halo Cariad, a gofynodd Ifan iddo fe beth oedd e wedi bod yn ei wneud ers iddo fe adael Mega? Hyn a llall This and that Dim mor ffôl a hynny Not that bad Profiadau Experiences Cyfoethogi To enrich Gwerth chweil Worthwhile Cynhyrchydd Producer Stŵr A row BETI A'I PHOBL Marc Skone oedd hwnna'n sôn am ei fand newydd Halo Cariad. Mae'r ffilm Dream Horse wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae'r ffilm yn seiliedig ar stori wir am griw o bobl o gymoedd de Cymru wnaeth fuddsoddi mewn ceffyl o'r enw Dream Alliance aeth ymlaen i rasio yn Grand National Cymru. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Beti George gyda chyfarwyddwr y ffilm Euros Lyn... Buddsoddi To invest Cyfarwyddwr Director Adolygu To review Crynhoi To summarise Cynulleidfa Audience Adloniant Entertainment Cynhesrwydd Warmth Llafar Vocal Rhyngwladol International
Pennod wahanol o Clera sy'n cynnwys blwyddyn gron o Orffwysgerddi o'r pum mlynedd diwethaf, ers inni sefydlu Clera ym mis Hydref 2016. Mwynhewch!
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” Ffion Emyr a Tim …ga i ddymuno blwyddyn newydd dda i chi gyd, ac ar ddechrau’r flwyddyn newydd, cafodd Ffion Emyr sgwrs gyda Tim, sy’n dod o Fethesda yng Ngwynedd yn wreiddiol ond sy erbyn hyn yn byw yn Fflorida. Cwestiwn cynta Ffion i Tim oedd ers pryd mae e’n byw yn Fflorida… Di mopio efo’r lle - Wedi dwlu ar y lle Fatha - Fel (yr un fath â) Diodydd - Drinks Beti George a Mark Drayford Coctêls arbennig Betesda yn fan’na …yr holl ffordd o Fflorida. Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford oedd gwestai Beti George yr wythnos diwetha ac yn y clip yma mae e’n sôn am yr adeg gwnaeth e ddysgu siarad Cymraeg yn rhugl… Prif Weinidog - First Minister Tad-cu - Grandfather Cwrdd gyda - Cyfarfod efo O ddifri - Seriously Llywodraeth - Government Degawd - Decade Datganoli - Devolution Cyfleon - Opportunities Canolbwyntio - To concentrate Dwyieithog - Bilingual Elis James a Dafydd Iwan Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, oedd hwnna yn sgwrsio gyda Beti George. Ond a ddylen ni gredu beth mae gwleidyddion yn ei ddweud wrthon ni? Dw i ddim yn siŵr ar ôl gwrando ar Dafydd Iwan, oedd yn siarad gyda Ellis James y rhaglen – Dwy Iaith Un Ymennydd Gwleidyddion - Politicians Ymennydd - Brain Beirniadu - To criticise Dweud celwydd - Lying Anwiredd - Untruth Y gwirionedd - The truth Celu - To conceal Rhoi’r argraff - To give the impression Esgus - To pretend Cydymdeimlo - To sympathize Osgoi cyfadde - To avoid admitting Nigel Owens Nid dweud celwydd ond bod yn rhy onest oedd bachgen bach wrth siarad gyda’r dyfarnwr rygbi Nigel Owens fel y cawn ni glywed yn y clip nesa pan oedd Nigel ateb cwestiwn Angharad Mair iddo fe sef o’r holl gêmau mae o wedi eu dyfarnu pa rai sydd yn aros yn y cof… Dyfarnwr - Referee Rownd derfynol - Final Chwe Gwlad - Six Nations Yn cynnwys - Including Gwynebau - Faces Crwtyn bach - Bachgen bach Becso - Poeni Achlysur - Occasion Carys a Meryl Angharad Mair oedd honna yn cyflwyno rhaglen Aled Hughes ac yn sgwrsio gyda Nigel Owens sy newydd ymddeol o ddyfarnu gêmau rygbi. Carys Eleri a Meryl Evans, mam a merch o’r Tymbl yn Sir Gaerfyrddin, oedd gwesteion Dau Cyn Dau Catrin Heledd ar Dros Ginio yr wythnos diwetha a dyma nhw’n sôn am sut maen nhw wedi ymdopi gyda’r cyfnod clo Y cyfnod clo - The lockdown Gwefannau cymdeithasol Social media Unigrwydd - Loneliness Ymgymryd â her - Undertaking a challenge Presenoldeb - Presence Agosáu - To become closer Yr aelwyd - The home Ysgrifenyddes - Secretary (female) Cetra Bore Cothi Carys Eleri a Meryl Evans, mam a merch o’r Tymbl sy’n amlwg wedi mwynhau cwmni ei gilydd yn ystod y cyfnod clo. Mae Cetra Coverdale Pearson yn dod o swydd Stafford yn wreiddiol ond yn byw yn ardal Derby erbyn hyn, ond fel cawn ni glywed o’r sgwrs hon gyda Shan Cothi, mae hi wedi dysgu Cymraeg yn arbennig iawn a hynny mewn ychydig dros flwyddyn. Dyma hi’n esbonio ar Bore Cothi pam penderfynodd hi ddysgu’r iaith a sut aeth ati i wneud hynny… Anhygoel - Incredible Cwympo mewn cariad - To fall in love Y cam cynta - The first step Sylw - Attention Ro’n i’n synnu - I was surprised
In this paradigm-bending, Inception style episode Russell, Gareth and Leon review the Autumn games and the Nations League campaign that culminated in promotion for Wales. They assess where they think the squad is ahead of not just the delayed Euro 2020, but the World Cup 2022 campaign that starts in March. They also pay tribute to the late Diego Maradona. Yn yr episod hwn sy'n plygu paradigms fel Inception, mae Russell, Gareth a Leon yn arolygu gemau'r Hydref a Chynghrair y Cenhedloedd a ddaeth i ben gyda ddyrchafiad i Gymru. Maen nhw'n asesu lle maent yn meddwl sut mae'r garfan o flaen nid yn unig Euro 2020 gohiriedig, ond ymgyrch Cwpan y Byd 2022 sy'n cychwyn fis Mawrth. Hefyd men nhw'n talu eu teyrngedau i'r diweddar Diego Maradona.
Wrth i dîm Wayne Pivac baratoi at gêm olaf cyfres siomedig yr Hydref, Shane Williams, Nathan Brew ac Elinor Snowsill sydd yn ymuno â Rhodri Gomer i drafod yr ymgyrch hyd yn hyn, edrych ymlaen at y gêm yn erbyn yr Eidal ac ystyried pa reolau y dylid newid er mwyn gwella'r gamp.
Dafydd Morgan, Teleri Glyn Jones, Cynog Prys a Carys Huws sy'n trafod y cyfnod clo...
"S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” Beti George Cafodd Beti George y cyfle i sgwrsio gydag Aran Jones o’r cwmni Say Something in Welsh ar ddiwedd wythnos dysgwyr BBC Radio Cymru. Yn ôl Aran, mae’r cwmni gafodd ei greu unarddeg o flynyddoedd yn ôl, yn newid cyfeiriad yn y ffordd maen nhw’n dysgu’r iaith. Dyma Aran yn dweud mwy am hyn wrth Beti… Ymdrech sylweddol - A substantial effort Addasiad niwrolegol - a neurological adjustment Arbrofi - To experiment Bron yn ddi-baid - Almost non-stop Ymenydd - Brain Cymhleth - Complex Eitha hyblyg - Quite flexible Dwys - Intense Syfrdanol - Astounding Cyflawni - To achieve Ar y Marc Aran Jones o Say Something in Welsh oedd hwnna’n sgwrsio gyda Beti George. Un fuodd yn defnyddio gwefan Say Something in Welsh i ddysgu Cymraeg ydy’r Almaenwr Klaus Neuhaus. Does gan Klaus ddim cysylltiad â Chymru o gwbl heblaw am ei gariad tuag at tîm pêl-droed y wlad. Mae e’n ffan mawr o dîm Cymru ers chwarter canrif ac erbyn hyn mae e’n aelod llawn o’r wal goch ac yn dilyn y tîm ar hyd a lled y byd. A dyma pam mae e wedi dechrau dysgu Cymraeg fel buodd e’n esbonio wrth Dylan Jones ar Ar y Marc… Peirannydd cyfathrebu - Communication engineer Hyd yn hyn - Up to now Awyrgylch - Atmosphere Canlyniad - Result Heulwen - Sunshine Yr olygfa - The scene Mo’yn - Eisiau Yn ddiweddarach - Later on Rownd derfynol - The final Aled Hughes (Natalie Jones) Dysgu Cymraeg i blant fydd Natalie Jones ar ôl iddi orffen ei chwrs ymarfer dysgu. Cafodd Natalie ei magu ym Mhwllheli ond mae hi’n byw yn San Cler yn Sir Gaerfyrddin erbyn hyn. Yn ystod y mis yma mae hi wedi cael y cyfle, bob nos Iau ar S4C, i gyflwyno cyfres sydd yn rhan o fis Hanes Pobol Ddu yng Nghymru. Dyma hi’n sôn wrth Aled Hughes am beth hoffai hi weld yn newid yng Nghymru o ran y boblogaeth ddu… Dinbych y Pysgod - Tenby Hyfforddi - To train Profiadau newydd - New experiences Anweledig - Invisible Hiliaeth - Racism Bodoli - To exist Parch a sylw - Respect and attention Annhegwch - Unfairness Balchder - Pride Hunaniaeth - Identity Bore Cothi Natalie Jones oedd honna’n sôn wrth Aled Hughes am brofiadau’r boblogaeth ddu yng Nghymru. Daeth y syniad o gael pobl noeth ar galendrau gan y Calender Girls ar ddiwedd y nawdegau, ac ers hynny dyn ni wedi gweld sawl calendr gyda phobl bron yn noeth, neu’n borcyn, yn aml iawn i godi arian at achosion da. A nawr mae Calendr Clo-rona ar werth i godi arian at wefan iechyd meddwl meddwl.org. Syniad Catrin Toffoc oedd hyn ac mae hi wedi perswadio deg o gantorion clasurol Cymru i ddangos y cyfan! Un ohonyn nhw ydy’r tenor Trystan Llyr Griffiths a buodd e’n esbonio wrth Shan Cothi sut aeth e ati i dynnu llun ohono’i hun yn hollol noeth... Noeth - Naked Ei dîn ma’s - His backside out Y mannau iawn - The right places Pipo ma’s - Peepimg out Siglo chwerthin - Rolling with laughter Y tywyllwch - The dark Twlu - To throw Hydrefol - Autumnal Twym - Cynnes Stiwdio Trystan Llyr Griffiths oedd hwnna’n esbonio ar Bore Cothi sut aeth e ati dynnu llun ohono’i hun yn hollol noeth ar gyfer calendr Clo-rona... Ar Stiwdio wythnos diwetha agwedd y Cymry tuag at gelf weledol oedd yn cael sylw ac yma mae Nia Roberts yn holi’r artist Mike Jones am ei fagwraeth, a faint o gelf oedd o’i gwmpas pan oedd e’n ifanc... Agwedd - Attitude Celf weledol - Visual art Cyd-destun - Context Ysbrydoliaeth - Inspiration Lisa Gwilym Mike Jones yn esbonio wrth Nia Roberts beth wnaeth ei ysbrydoli e i fod yn artist. Mae’r band Ail Symudiad o Aberteifi yn perfformio ers y saithdegau ac mae’n debyg mai nhw yw un o’r grwpiau sydd wedi gigio mwyaf o gwmpas Cymru. Mae’r ddau frawd yn y band, Rich a Wyn wedi rhyddhau cân newydd. Dyma Rich yn cael sgwrs gyda Lisa Gwilym am greu’r gân honno a’r hanes y tu ôl iddi hi. Rhyddhau - To release Yr ysfa i greu - The desire to create Y dôn - The tune Testun - Text Carcharorion rhyfel - Prisoners of War Anghredadwy - Unbelievable Yr un egwyddor - The same principle Gwersyll - Camp
Croeso i bennod mis Hydref 2020 o bodlediad Clera. Cawn orffwysgerdd arbennig sy'n cynnwys holl feirdd plant Cymru wrth ddathlu 20 mlwyddiant y cynllun. Mari George yw'r Bardd yn y Bath, gruffudd a'i ymennydd Amheus sy'n cynnig y pos yn ol ei arfer ac mae'r pwnco yn mynd a ni i Lydaw. Mwynhewch
Russell, Leon and Gareth look back at the October triple header of games versus England and in the Nations League against the Republic of Ireland and Bulgaria. They wax lyrical about Jonny Williams; assess a promising debut by Rhys Norrington-Davies; express their frustrations at Rabbi Matondo; and consider who might replace the injured Wayne Hennessey next month. They also pay tribute to James Collins on his retirement and summarise from a Welsh perspective the final days of the transfer window Mae Russell, Leon a Gareth yn edrych yn ôl ar y driphlyg o gemau fis Hydref yn erbyn Lloegr ac yng Nghynghrair y Cenedloedd yn erbyn Y Weriniaeth Iwerddon a Bwlgaria. Maen nhw'n canu glodydd Jonny Williams; asesu debut addawol Rhys Norrington-Davies; mynegi eu rhwystredigaeth am Rabbi Matondo; ac ystyried pwy efallai fydd yn cymryd lle Wayne Hennessey anafus fis nesaf. Hefyd maen nhw'n talu teyrnged i James Collins wedi iddo ymddeol a chrynhoi o safbwynt Cymreig dyddiau y ffenestr trosgwlyddo.
Rhys Jones, Hywel Roberts a Jess Mead Silvester sy'n cadw cwmni i Gerallt bore yma. Ydi eira cynnar yn yr Hydref yn rhoi arwydd i ni am sut aeaf fydd hi? Twm Elias fydd yma i drafod rhai o’r arwyddion difyr yma. Bydd Cynan Jones yn ymateb i ymholiad am fadarch. Hefyd Llinos Humphreys, Rheolwraig Cyfathrebu ac Ymgysylltu Coed Cadw fydd yn sôn am enillydd cystadleuaeth Coeden y Flwyddyn
Post Cyntaf Roedd hi’n wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg BBC Radio Cymru wythnos diwetha a gaethon ni’r cyfle i glywed gan lawer iawn o ddysgwyr am eu bywydau a’u profiadau’n dysgu’r iaith. Dechreuodd yr wythnos fore Llun wrth i Dylan Jones holi Barry Lord o Drefaldwyn ym Mhowys. Cafodd Barry ei ysbrydoli i ddysgu’r Gymraeg ar ôl bod yn yr Eisteddfod Genedlaethol pan aeth hi i ardal Meifod ym Mhowys yn 2015. Ond ydy’r pandemig wedi cael effaith ar ei brofiadau Cymraeg yn y dosbarth a’r tu allan i’r dosbarth? Eu bywydau a’u profiadau - Their lives and experiences Cafodd Barry ei ysbrydoli - Barry was inspired Trefaldwyn - Montgomery Hyder - Confidence Pabell - Tent Yn galonogol iawn - Very encouraging Anhygoel - Incredible Cyfathrebu - To communicate Gan gynnwys - Including Aled Hughes Barry Lord o Drefaldwyn yn dal i ddysgu ac i ddefnyddio’r Gymraeg er gwaetha’r pandemig. Mae Kai Saraceno yn dod o’r Eidal yn wreiddiol a buodd o’n byw yn y Ffindir ers pan oedd e’n naw oed. Ar hyn o bryd mae’n astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Dyma i chi glip o Aled Hughes yn ei holi am ei hanes e’n dysgu’r Gymraeg. Er gwaetha - In spite of Bodoli - To exist Ar hap - By chance Cymeriad - Character Mae’n deg dweud - It’s fair to say Newid cyfeiriad - To change direction Yn falch - Pleased Cymuned - Community Trafod - To discuss Aled Hughes …a dyma i chi glip arall o Kai. Drwy gydol Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg roedd Kai ar ein sioeau yn gyson er mwyn sgwrsio gyda dysgwyr eraill a rhoi’r teimlad i ni gyd sut beth yw dod at yr iaith o‘r newydd fel oedolyn. Un ferch gafodd ei holi oedd Shaun McGovern, sy’n dod o Washington DC yn wreiddiol ond sy erbyn hyn yn byw yng Nghaernarfon. Dyma i chi flas ar y sgwrs… Chdi - Ti Gwatsiad - Gwylio Ffindir - Finland Yn ddiweddar - Recently Y rhan fwyaf - Most Wedi cuddio - Hidden Shan Cothi Eidalwr yn siarad yn Gymraeg gydag Americanes am eu profiadau’n dysgur iaith – gwych on’d ife? Gwestai Sian Cothi i ddathlu’r wythnos arbennig hon oedd Janet Tabor o Gastell-Nedd. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers pedair blynedd a dyma hi’n sôn am ei thaith yn dysgu’r iaith. Caeredin - Edinburgh Caint - Kent Casgwent - Chepstow Hwb - Boost Dychmygu - Imagine Gerallt Lloyd Janet Tabor oedd honna wedi cael blas ar y Gymraeg drwy fynd ar un o gyrsiau Gwent. Tiwtor Cymraeg oedd un o westeion Geraint Lloyd wythnos diwtha – Eilir Jones sydd yn dysgu yng ngogledd ddwyrain Cymru. Mae Eilir hefyd yn gomedïwr ac yn berfformiwr a dyma fe’n egluro wrth Geraint pam oedd e eisiau dod yn diwtor a sut cafodd e’r swydd … Tyrd draw - Come over Fesul awr - Hourly Hyfforddiant - Training Cymwysterau - Qualifications Cyngor - Advice Gwerthfawrogi - To appreciate Cefnogaeth - Support Yr Wyddgrug - Mold Sara Yassine Eilir Jones oedd hwnna’n sôn am fywyd tiwtor Cymraeg. Mae Sara Yassine a’i thad Ali yn dod o Grangetown, Caerdydd ac mae’r ddau’n siarad Cymraeg. Mae eu teulu yn dod o’r Aifft ac o Somalia yn wreiddiol. Dyma Ali’n rhoi o ychydig o hanes y teulu ac wedyn Sara’n chwilio am hanes poblogaeth leiafrifol Caerdydd. Yr Aifft - Egypt Lleiafrif - Minority Mwyafrif y disgyblion - The majority of the pupils Ymgynghorydd Treftadaeth - Heritage Consultant Bedyddio - To baptise Cofnod - Record Cafodd ei gaethiwo - Was enslaved Eu cadw’n gaeth - Kept captive Y Gymanwald - The Commonwealth O dras Prydeinig - Of British heritage
Ym mhennod ddiweddaraf podlediad Y Busnes Rhedeg 'Ma mae Owain Schiavone yn cael cwmni'r rhedwr mynydd, Matthew Roberts. Ers diwedd mis Awst, Matthew Roberts sy'n dal y record am amser cyflyma' Rownd y Paddy Buckley yn Eryri - yr her 60+ o filltiroedd sy'n cynnwys 47 o gopaon Eryri. Hon yn ôl llawer, ydy'r galeta' o'r dair rownd glasurol ym Mhrydain sy'n cynnwys y Bob Graham (Ardal y Llynnoedd) a'r Ramsey Round (Yr Alban). Roedd darn am y record ar flog Y Busnes Rhedeg 'Ma ar y pryd - https://rhedeg.wordpress.com/2020/09/03/math-yn-chwalu-record-y-paddy-buckley/ Cerddoriaeth y bennod yma ydy sengl ddiweddaraf Betsan, 'Ti Werth y Byd', sydd allan ers 2 Hydref 2020. Cofiwch roi adolygiad bach i'r podlediad os allwch chi, a cysylltwch gydag unrhyw sylwadu.
Wrth i Gymru baratoi ar gyfer gêm gynta'r Hydref, mae Shane Williams, Sioned Harries a Nigel Owens yn ymuno â Rhodri i edrych ymlaen at y penwythnos.
Aled Hughes Mae’r gân Bohemian Rapsody gan y band Queen yn enwog iawn ond roedd rhai yn y band eisiau galw’r gân yn Mamma. Fasai’r gân wedi bod mor boblogaidd gyda’r enw hwnnw tybed? Dyna buodd Geraint Cynan yn ei drafod gyda Aled Hughes a dyma i chi flas ar y sgwrs… Mymryn - A little Crybwyll - To mention Cydio - To grasp Crynhoi’r cyfnod - To summarise the period Yn ddiamheuol - Without doubt Mewn un ystyr - In one respect Uchafbwynt - Highlight Cyfarwyddwr - Director Rhyddhau - To release Gweddu - To suit Dros Ginio Geraint Cynan oedd hwnna’n trafod Bohemian Rhapsody ar raglen Aled Hughes. Roedd Marathon Llundain yn dathlu ei benblwydd yn bedwar deg eleni ond ras wahanol iawn oedd i’w chael penwythnos cyntaf Hydref eleni. Roedd y rhedwyr elitaidd yn rhedeg yn y ddinas fel arfer, ond roedd rhaid i bawb arall redeg ras rithiol. Un o’r rhai gymerodd ran yn y ras rithiol oedd Paul Williams o Lanfihangel y Creuddyn yng Ngheredigion a dyma fe’n siarad am y profiad gyda Dewi Llwyd.. Rhithiol - Virtual Her anferth - A huge challenge Y tywyllwch - The dark Gweddill ein hoes - The rest of our lives (Roedd…)wedi cael eu gohirio - Had been cancelled Dw i’n casglu - I take it Ar y brig - On top Yn argoeli’n dda - It augurs well Rhys Mwyn A phob lwc i Paul yn y rasys sydd i ddod on’d ife? Roedd Huw Jones yn bennaeth S4C yn y gorffennol ac wedi dal swyddi pwysig iawn ym mywyd cyhoeddus Cymru dros y blynyddoedd, ond daeth e’n enwog yn y chwedegau a’r saithdegau fel canwr pop a chanwr caneuon protest. Mae nifer o’r caneuon rheiny i’w cael ar albwm o’r enw Adlais gafodd ei rhyddhau yn wreiddiol yn 1976. Mae’r albwm ar gael yn ddigidol nawr a dyma i chi Huw yn esbonio wrth Rhys Mwyn sut gwnaeth e ddewis y caneuon ar gyfer yr albwm Adlais - Echo Y casgliad - The collection Haeddu - To deserve Awgrym - Suggestion Priodol - Appropriate Mwyafrif - Majority Adlewyrchu - To reflect Ymgyrchoedd - Campaigns Cyfrifoldeb - Responsibility Cenedlaethau - Generations Sioe Frecwast Huw Jones oedd hwnna’n sgwrsio gyda Rhys Mwyn am yr albwm ddigidol Adlais. Mae cystadleuaeth Bake Off Channel 4 wedi dechrau’n barod. Mae Caryl a Daf wrth eu boddau yn trafod y sioe ac un arall sy’n mwynhau ydy’r canwr opera Alun Rhys Jenkins. Buodd y tri’n sgwrsio am fara soda a rhywbeth o’r enw ‘bogels’. Beth yw hwnnw tybed? Gwrandewch ar y clip nesa ’ma i ffeindio allan … Eitha rhwydd - Quite easy Triog - Treacle Surdoes - Sourdough Enfys - Rainbow Bogel - Navel Toes - Dough Geraint Lloyd O diar, dw i’n meddwl bydd hi’n anodd edrych ar ‘bagel’ heb feddwl am fotwm bol ar ôl hynny...Nos Fawrth diwetha, cafodd Geraint Lloyd sgwrs gyda Gwenda Owen o Bontyberem. Gwenda oedd yn cael dewis cyngherddau oedd wedi aros yn y cof iddi hi, a dewisodd hi gyngerdd oedd yn golygu llawer iawn iddi hi’n bersonol … Cancr y fron - Breast cancer Triniaeth - Treatment Llawdriniaeth - Surgery Cyfres - Series Uniaethu - To empathise Ta waeth - Anyway Llawn dop - Full to the brim Cyfansoddi - To compose Gwerthiant - The sales Sian Cothi Gwenda Owen oedd honna’n rhannu atgofion am gyngerdd arbennig iawn gyda Geraint Lloyd. Mae hi wedi bod yn amser caled iawn i gantorion proffesiynol ers y cyfnod clo gan nad oedd yn bosib rhoi perfformiadau byw. Ond mae’r tenor Aled Hall wedi bod ar lwyfan Eglwys St James yn Islington, Llundain, y penwythnos diwetha yn perfformio gydag opera ensemble. Shan Cothi gafodd yr hanes ganddo ar Bore Cothi Rhagarweiniad - Introduction Hala - To send Angerdd - Passion Yn go glou - Quite quickly Cantorion - Singers Mo’yn - Eisiau Cerddoriaeth fyw - Live music Cynulleidfa - Audience Becso - Poeni
Ym mhennod ddiweddaraf y podlediad rhedeg Cymraeg mae Owain Schiavone'n cael sgwrs gyda'r rhedwr marathon, a boi iawn, Peter Gillibrand (@GillibrandPeter). Mae Peter yn newyddiadurwr fu'n gohebu tipyn ar farathon Llundain elen - y ras elite a rhithiol - ac a fu'n ddigon ffodus i holi Paula Radcliffe ac Eliud Kipchoge wrth wneud hynny. Roedd Peter ei hun yn rhedeg y marathon rhithiol wedi'i wisgo fel seren er mwyn codi arian at elusen Mencap - gallwch ei noddi nawr https://uk.virginmoneygiving.com/fundraiser-display/showROFundraiserPage?userUrl=PeterGillibrand1&pageUrl=1. Mae agwedd Peter at redeg, a'r modd mae wedi mynd ati i ddefnyddio rhedeg fel modd o helpu eraill yn ysbrydoliaeth. Cerddoriaeth y bennod yma ydy 'Y Gorwel' gan Ghostlawns, fydd ar yr albwm Motorik - allan ar 30 Hydref.
Yr actores Siân Harries, Seran Dolma, tîm pêl-droed merched yng Nghaerffili a gemau fideo
Angharad Jones sy'n trafod sut i ddenu a gwarchod bywyd gwyllt yn ein gerddi yn ystod tymor yr hydref, a chyngor ar dynnu lluniau o fywyd gwyllt gan y ffotograffydd Bethan Vaughan Davies. Y panelwyr sydd yn gwmni i Gerallt yw Elinor Gwynn, Ifan James, a Daniel Jenkins Jones.
Joseph Gnagbo, Jason Edwards, y drymiwr Gethin Davies, a Beca Lyne Pirkis
Albyms Lewys a Georgia Ruth yw'r cynnyrch diweddaraf i gael sylw Chris a Geth, ond maen nhw hefyd yn trafod Partis Gwrando ar Twitter, a'r ffaith y bydd yn rhaid iddyn nhw aros tan yr Hydref i gael mynd i ŵyl Focus Wales eleni.
Yn y bennod hon o Clera cawn sgwrs rhwng Philippa Gibson a Thudur Dylan Jones yn fyw o Wyl Gerallt, Llanrwst(sef cynhadledd flynyddol Barddas). Hefyd, rhan 1 o gyfres newydd sbon Talwrn y Beirdd Ifanc a cherdd yr Orffwysfa arbennig awn wedi ei datgan gan Rhys Iorwerth a Karen Owen. Hyn oll a llawer mwy!
Siri Widgel, Kai Saraceno, Owen Saer, Ffrainc, Priodas Mirain a Jac, Cerdd Megan.
Hoff Gadair Rhyd, Gwen Màiri, Syragul Islam, Shelley Rees, Gwyfyn arbennig, Uruguay.
Ryan Jones, Cwrw, Murray The Hump, Iwcs, Dilys Ann Roberts a Gemau bwrdd
Awstralia, Kio Rodis, Leah Peregrine-Lewis, Taith gerdded, Cystadleuaeth a dawnsio.
Al ac Ows sy'n trafod cyfres yr Hydref ac yn taro golwg ar gemau'r Pro 14.
Y darnau gorau o raglenni BBC Radio Cymru yn arbennig i ddysgwyr Cymraeg.
Ali Abdi, Rocio Cifuentes and Vaughan Gething AM have a roundtable discussion on what Black History Month means for Wales and the wider world. Daf Prys poses the questions and they also tell us about their Welsh Black Icons. Ali Abdi joined the Community Gateway team in October 2015. His work focuses on building a successful partnership between Cardiff University and the community of Grangetown and managing community events in the Grange Bowls Pavilion. Rocio Cifuentes is an experienced, committed and values-driven third sector professional with over 15 years' experience specifically in the BME Third Sector in Wales. Sha has led and developed EYST Wales since its inception in 2005, having previously worked for CEMVO Wales. Vaughan Gething AM was born in Zambia and brought up in Dorset. He was educated at Aberystwyth and Cardiff universities, and now lives in his constituency with his wife Michelle. He's been an Assembly Member since 2011. Daf Prys is part of the Communications team looking after the Assembly's digital content and website. Ali Abdi, Rocio Cifuentes a Vaughan Gething sy'n trafod rownd y bwrdd bwrdd ar yr hyn y mae Mis Hanes Pobl Dduon yn ei olygu i Gymru a'r byd ehangach. Daf Prys sy'n cyflwyno'r cwestiynau ac maen nhw hefyd yn dweud wrthyn ni am eu eiconau duon Cymreig. Ymunodd Ali Abdi â thîm y Porth cymunedol ym mis Hydref 2015. Mae ei waith yn canolbwyntio ar adeiladu partneriaeth lwyddiannus rhwng Prifysgol Caerdydd a chymuned Grangetown a rheoli digwyddiadau cymunedol ym Mhafiliwn bowls Grangetown. Mae Rocio Cifuentes yn weithiwr proffesiynol trydydd sector profiadol ac ymroddedig sydd â thros 15 mlynedd o brofiad yn benodol yn y trydydd sector BME yng Nghymru. Mae hi wedi arwain a datblygu EYST Cymru ers ei sefydlu yn 2005, ar ôl bod yn gweithio i CEMVO Cymru cyn hynny. Cafodd Vaughan Gething ac ei eni yn Zambia a'i fagu yn Dorset. Cafodd ei addysg ym mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd, ac mae bellach yn byw yn ei etholaeth gyda'i wraig Michelle. Mae Daf Prys yn rhan o'r tîm cyfathrebu sy'n gofalu am gynnwys digidol a gwefan y Cynulliad.
Yn hwyr iawn yn ystod mis Hydref, ar ddiwrnod Calan Gaeaf, dyma bennod newydd o Clera. Y tro hwn mae gyda ni westai arbennig, sef y bardd Ifan Prys a hefyd adolygiad o'r Cyfansoddiadau a'r Beirniadaethau Eisteddofd Genedlaethol Caerdyddgyd gyda'r Prifardd Hywel Griffiths ac Elena Gruffudd. Mwynhewch!
Y darnau gorau o raglenni BBC Radio Cymru yn arbennig i ddysgwyr Cymraeg. BBC Radio Cymru highlights for Welsh learners.
Geraint Curig, Mike Parker, Mihangel Morgan, Glan Davies, Eiry Miles a Emyr Huws Jones.
In this podcast Russell meets Jason Webber, Campaign Co-ordinator, from Show Racism The Red Card Wales. During October clubs in Wales are showing their support for the Show Racism the Red Card Month of Action as a vehicle to deliver an Anti-Racism message to the community through the power of sport. You can find more information here or in this short blog by Jason. Sadly it comes after the news of racism and sexism among Wales fans in Dublin that prompted this open letter to The Red Wall. Yn y podlediad yma mae Russell yn cwrdd â Jason Webber, Cydlynydd Ymgyrch, o Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth. Yn ystod mis Hydref mae clybiau yng Nghymru'n dangos eu cefnogaeth ar gyfer Mis Gweithredu Show Racism the Red Card fel cerbyd i ddandon neges Gwrth-Hiliaeth i'r gymuned trwy nerth chwaraeon. Gallwch chi ffeindio rhagor o wybodaeth yma neu yn y blogpost byr yma gan Jason. Yn anffodus mae'n dilyn newyddion o hiliaeth a rhywiaeth ymhlith cefnogwyr Cymru yn Nulyn a annogodd y llythyr agored hwn i'r Wal Goch.
Iolo Williams, Betsan Llwyd, Norman Tebbit, Dani Schlick, Hywel Gruffydd, Manw Lili Robin
Osian Davies, Dora Herbert Jones, Sarah Reynolds, Mari Roberts. Sgorio yn 30 a Salem.
Croeso i Haclediad cynta’r Hydref – mae Bryn newydd ddod nôl o Chicago, Iestyn yn ei mansion newydd yn Dre ac yn paratoi i redeg hanner Marathon, a mae Sioned yn yfed Öl Mörk a hen wîn. OND mewn newyddion tech, mae iOs12 a’r oriawr Apple newydd allan, a da ni’n trio dod i ddeall y blockchain efo podlediad ZigZag (spoilyrs: dal dim clem). Diolch am wrando – gwaeddwch ar @llef (https://twitter.com/llef) @Bryns (https://twitter.com/bryns) neu @Iestynx (https://twitter.com/iestynx) efo unrhyw adborth!
In this podcast Gareth, Russell and Leon look back at Wales's opening Nations League games against Ireland and Denmark; encouraging performances by the likes of Chris Mepham and Ethan Ampadu; and they cast their minds towards October's Spain friendly and consider how Ryan Giggs may use the fixture. Yn y podlediad yma mae Gareth, Russell a Leon yn edrych yn ôl at gemau agorol Cymru yng Nghynghrair y Cenhedlaethau yn erbyn Iwerddon a Denmarc; perfformiadau calonogol gan rheini megis Chris Mepham ac Ethan Ampadu; a bwrw eu meddwl tuag at frwydro Sbaen fis Hydref ac ystyried sut efallai bydd Ryan Giggs yn defnyddio'r gêm cyfeillgar yna.
Lloyd Macey, Kees Huysmans, John ac Alun, Owen Powell, Dafydd Ieuan, Mark Kendall.
Gareth Humphreys, Gari Nicholas a West Side Story, gyrfa chwist Abergwaun, Becky Williams
Ffion Denham yn Honduras, Archie a chomedi gwleidyddol gywir, Inge Hanson a Fi a Mr Huws
Grant Paisley, Lauren Phillips, Shan Cothi a Keith Morris a Brigitte Kloareg o Lydaw
Baledi efo Arfon Gwilym, Lloyd Masey., cadair Osian Rhys Jones a Vilna Thomas Llanddarog
Pennod a recordiwyd yn fyw o Wyl y Cynhaeaf, Aberteifi. Pwnco gyda'r Prifardd Ddoctor Hywel Griffiths ar gysylltiad Afon Teifi gyda Barddoniaeth Gymraeg. Cerdd Orffwysfa gydag Elinor Wyn Reynolds a sgwrs gyda'r bardd Philippa Gibson. Gemau a Giamocs, Pos Gruffudd a'i Ymennydd Miniog a mwy!
Pennod gyntaf Podlediad misol newydd sy'n trafod barddoni. Y mis hwn mae Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury yn holi pam nad oes cymaint o feirdd yn cystadlu yng nghystadleuaerthau Barddoniaeth yr Eisteddfod bellach, cewch glywed cerdd newydd sbon gan Osian Rhys Jones a hanes Gwyl y Cynhaeaf, Aberteifi, ymysg pethau eraill.
Cyfle i wrando eto ar Beti George yn sgwrsio gyda Dafydd Hywel. Darlledwyd y sgwrs Hydref 10, 2004.
Darganfod Hydref 2012
Clyde Briggs yn esbonio cefndir a gwaith y mudiad 'Open Doors' ac yn rhannu ei frwdfrydedd dros genhadaeth y mudiad