POPULARITY
Mae Elidyr Glyn, y flugalist Miriam Trefor, sport expert Jack Peyton ac 8000 mil o bobl eraill yn ymuno ag Iwan, Hywel ac Elin am dro rownd dre ar orymdaith annibyniaeth hanesyddol yng Nghaernarfon.
Ar ôl twrnamaint bythgofiadwy, mae Cymru allan, wedi colli 2-0 i Bortiwgal yn y semis. Ond, mae Iwan a @SpursMel yn bell o fod yn ddigalon (heb law bod Mel isio roi cweir i Cristiano). Mae Hywel yng nghwmni Dan Owen (I Fight Lions), John Sams a Jack Peyton, i drafod y gêm (a Tinder).
Mae Iwan a @SpursMel yn dathlu'r 3-0 yn erbyn Rwsia wrth i Gymru orffen top y grŵp. Hefyd, cawn glywed gan Hywel, sydd bellach adra ym Mae Colwyn (neu, Coleman Bale), efo criw o ffrindiau sydd yn cynnwys Jack Peyton, sydd wedi bod yn brysur yn gwario ei bres i gyd ar roi gig mawr ymlaen yng Nghaernarfon (gyda'r gobaith o neud mwy). Dyma linc Cyn. sylwebaeth S4C Nic Parry a Malcolm Allen.
Yn y pennod hon, mae Jack Peyton yn ymuno unwaith eto efo'r hogia (yn y cefndir, yn chwarae Football Manager 2013), a mae nhw'n trafod safon y podpeth, y newyddion diweddara, a plethora o wahanol bethau eraill.
Jack Peyton sy'n cadw cwmni i ni wythnos yma, yn trafod Gaerdydd, diweithdra, ac yn rhoi blas o gân Nadoligaidd Sion Q.
Jack Peyton (yr anturiaethwr anadnabyddus) yw'r gwestai arbennig wythnos yma. Mae o a'r hogiau'n trafod ei daith i Seland Newydd, pêl-droed, hiliaeth, a thewder; ymysg eu mwydro.