Country in northwest Europe, part of the United Kingdom
POPULARITY
Beti George sydd yn cael cwmni Hannah Parr sydd yn sylwebu ar S4C yn y Sioe Frenhinol yng Nghymru ac yn Horse of the year. Mae Hannah hefyd yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan; yn fridwraig ceffylau yn Llangeitho; ac mae ganddi siop ddillad yn Aberaeron sydd yn apelio at bobol sy'n byw yng nghefn gwlad, ac mae hi'n cael cymorth ei rhieni i redeg y busnes ac i ofalu am y ceffylau.Fe symudodd y teulu i Gymru o Birmingham pan oedd Hannah yn 5 oed, 'roedd hi'n fodlon symud os oedd ei thâd yn fodlon prynu dolffin neu geffyl iddi. Cadwodd ei thad ei air, a daeth y merlen yn ddechrau ar daith newydd i'r teulu, a fyddai'n cysylltu'n agos â gyrfa Hannah heddiw.Mae hi'n cystadlu mewn dosbarthiadau arddangos ceffylau a disgyblaethau marchogaeth eraill fel marchogi amatur a dangos mewn llaw.Cawn hanesion difyr ei bywyd ac mae hi'n dewis ambell i gân, yn cynnwys 'Sebona Fi' gan Yws Gwynedd sydd wastad yn codi ei chalon.
Ffilm 3 munud ac 16 eiliad o hyd a wnaed gan Tim Davies ym 1992 yw Fflagiau Dros Solfach. Mae'r ffilm du a gwyn hon yn dogfennu digwyddiad penodol i safle'r bryniau uwchben Solfach, Sir Benfro, ar draws y cei o'r Gribin. Yng nghanol yr olygfa gymylog wyntog y mae pum polyn fflag metel a phren 15 troedfedd anhygoel o uchder wrth ymyl ei gilydd mewn grŵp. Mae pentref Solfach i'w weld yn y cefndir ar draws y cei. Mae'r fflagiau'n bwrw yn erbyn ei gilydd bob tro y mae'r gwynt yn chwythu. Mae pob fflag ar ffurf triongl cymesur tenau hir ac mae dwy fflag olau ganolog wedi'u hamgylchu gan fflagiau tywyllach ar y naill ochr a'r llall. Mae rhaff ategol yn clymu'r polion fflag yn sownd ychydig yn llai na hanner ffordd tuag at y ddaear, gan greu rhyw fath o dreipod wedi'i glymu yn y tir gan begiau gwyn. Wrth wneud Fflagiau Dros Solfach, roedd Davies wedi creu'r polion fflag fesul rhannau fel y byddent yn barod i'w cydosod yn ôl yr angen, a threuliodd wythnos yn eu rhoi yn nhirwedd Solfach mewn amrywiaeth o gyfluniadau. Ar ôl treulio rhan o'i blentyndod yn Solfach gyda'i dad-cu, mae'n hen gyfarwydd â'r lleoliad. Gan ddefnyddio fflagiau fel tirnod, archwiliodd y syniad fod perchnogaeth tir yn rhywbeth dros dro, gan hawlio safle am hyd pob ymyriad. O arwyddocâd diniwed fflagiau fel tegan i blant sy'n marcio cestyll tywod, sy'n cael eu llyncu gan y llanw, i oblygiadau glanio ar y lleuad, i edifarhau colli perchnogaeth leol ar hunaniaeth ddiwylliannol Cymru, a'r diymadferthedd sy'n deillio o hynny, mae'r gwaith yn cyfeirio at anghydfodau ynghylch perchnogaeth tir a'r gwrthrych fel dynodwr lleoliad. Mae craidd ei waith yn benodol i amser a lleoliad, gan ddefnyddio cyfryngau perfformio dau a thri dimensiwn. Mae ef hefyd yn archwilio'r gair ysgrifenedig, y gair llafar a'r gair ar ffurf delwedd. Ganed Davies yn Hwlffordd, sir Benfro ym 1960. Astudiodd Gelfyddyd Gain yn Ysgol Gelf Norwich a chwblhaodd MA mewn Materion Celfyddyd a Phensaernïaeth ym Mhrifysgol y Celfyddydau Creadigol yng Nghaergaint. Mae ef wedi gweithio mewn ystod o gyfryngau dros y 30 mlynedd diwethaf, gan arddangos a chreu gwaith yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Mae ef wedi ennill llawer o wobrau, gan gynnwys gwobr cystadleuaeth agored Mostyn, y fedal aur mewn Celfyddyd Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac un o brif wobrau Cymru Greadigol. Ef oedd yr artist cyntaf o Ewrop i gyrraedd rhestr fer Gwobr Celfyddydau Gweledol Artes Mundi a chynrychiolodd Gymru mewn sioe unigol yn Biennale Fenis yn 2011. Cafodd y ffilm Fflagiau Dros Solfach ei chaffael yn 2025 drwy wobr Wakelin, a roddir bob blwyddyn i artist sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru ac y prynir ei waith ar gyfer casgliad parhaol Oriel Gelf Glynn Vivian.
Ffilm 9 munud, 39 eiliad o hyd a wnaed gan Anthony Shapland yn 2012 yw [pause] Time & Motion Study. Mae'r ffilm wedi'i gosod yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn 2011 yn ystod y cyfnod cyn iddi gael ei chau ar gyfer prosiect ailddatblygu ac adfer gwerth miliynau o bunnoedd. Roedd y weithred o bacio, clirio a newid wedi dechrau ym mhob rhan o'r adeilad – yn yr arddangosfeydd cyhoeddus yn ogystal ag yn y coridorau cudd a'r ystafelloedd cefn. Mae'r ffilm du a gwyn hon yn portreadu diwrnod ffuglennol, mewn tair rhan. Y rhan gyntaf yw'r bore lle dangosir y casgliad yn dal ynghyd yn yr orielau, a lle mae ardaloedd cyhoeddus a phreifat yr adeilad yn cael eu cyfleu yn yr un modd. Mae set o sbanwyr ar wal mewn gweithdy neu res o fylbiau golau wedi'u trefnu gyda'r un manylder â'r rhes o jygiau buchod crochenwaith Abertawe sy'n sefyll mewn cypyrddau gwydr yn yr oriel, ac mae modd cymharu'r grisiau mawreddog â'r grisiau ymarferol yn y cefn. Yr ail ran yw dechrau'r diwrnod wrth i'r gweithwyr gyrraedd, gyda'r dasg o adfer darnau crochenwaith, eu didoli a'u llenwi'n ofalus â phapur sidan, cyn eu rhoi mewn deunydd lapio swigod a'u labelu. Yn olaf, gyda'r hwyr, mae'r casgliad o wrthrychau a fyddai fel arfer wedi cael eu harddangos yn yr oriel bellach wedi'u cuddio y tu mewn i gardbord. Mae rhifau'r blychau'n cynyddu wrth iddyn nhw luosi'n ymddangosiadol ddiwedd. Mae'r cypyrddau gwydr a fu gynt yn llawn bellach yn wag. Dywedodd Anthony Shapland y canlynol am y gwaith: “Roedd y briff yn agored, sef creu dehongliad o Oriel Glynn Vivian. Dros sawl mis, ymwelais â'r oriel bum gwaith, gan recordio am fwy na 400 o funudau heb syniad pendant am strwythur y ffilm. Wrth wylio'r deunydd hwn y dechreuodd y naratif ffurfio. “Wrth i fi olygu'r ffilm, sylweddolais fy mod yn cynhyrchu rhywbeth a fyddai'n destun hiraeth yn fuan gan y byddai llawer o'r lleoliadau roeddwn yn eu ffilmio yn diflannu yn ystod y gwaith ailwampio a oedd ar ddod. Mae teitl y ffilm yn deyrnged i astudiaethau Frank a Lillian Gilbreth o ergonomeg ac effeithlonrwydd gweithwyr wrth eu gwaith. Roedd eu ffilmiau wedi sbarduno newid, fel arfer wedi'u comisiynu gan reolwyr neu sefydliadau. Serch hynny, dim ond cofnodi newid y mae'r ffilm hon. Heblaw am y gwaith golygu, nid oes unrhyw ystrywiau gyda'r camera, dim byd ffug nac effeithiau; ni ofynnwyd i unrhyw un wneud unrhyw beth gerbron y camera ac ni chafodd unrhyw beth ei ailffilmio. Dyma ffilm lle mae'r gwyliwr yn arsylwi drwy lens oddefol y camera.” Artist a nofelydd o Gymru yw Anthony Shapland ac ef yw sylfaenydd g39, man a arweinir gan artistiaid. Cafodd ei fagu ym Margoed yng nghwm Rhymni. Drwy ei waith ysgrifenedig ac artistig, mae'n cyfuno deunydd dogfennol a ffuglennol, gan ddefnyddio ei brofiad uniongyrchol o fod yn hoyw yng nghefn gwlad a pherfformio fel rhywun heterorywiol wrth dyfu i fyny.
Ffilm 6 munud, 20 eiliad o hyd a wnaed gan Anthony Shapland yn 2005 yw A Sign. Yn ogystal ag arsylwi ar bethau go iawn neu wirioneddol, mae'r ffilm hon o naws ddogfennol hefyd yn cyfeirio at lwyfannu, sgriptio a dichell. Wedi'i ffilmio o safbwynt sefydlog, yn y tu blaen mae malurion ar ochr ffordd, gan gynnwys oergell wen ar ei hochr, byrddau pren ac amrywiaeth o ddeunydd pecynnu plastig a chynwysyddion, wedi cael eu tipio ar draws y glaswellt gwyrddlas wrth i geir fynd heibio ar y ffordd y tu ôl iddynt, fel trydar adar. Mae ffocws hollol wrthrychol y camera'n arsylwi ar goeden Nadolig frown sydd wedi'i gadael yng nghanol y malurion. Mae hyn yn gwrthgyferbynnu'n gryf â'r cefndir ar draws ochr arall y ffordd, sef tirwedd atyniadol a llonydd. I'r dde, mae bryn yn ymestyn ar draws y gorwel ac yn torri ar ei draws y mae cefnen bryn arall sy'n gogwyddo tuag at y ffordd. Y tu ôl i'r bryniau, mae glesni amwys yn creu argraff o'r môr ond mae'n ddigon posib mai'r awyr yw ef yn hytrach na'r môr. Wrth i'r haul fachlud ar yr olygfa, mae'r goeden yn mynd ar dân ac yn y pen draw mae'r fflamau'n diffodd, mewn archwiliad dirdynnol o drist o'r ymdrech i ganfod ystyr mewn bywyd pob dydd. Mae'r tân yn diffodd mor gyflym ag y cafodd ei gynnau, ac mae'r olygfa arferol yn dychwelyd; mae ceir yn dal i fynd heibio ar y ffordd yn y tu blaen, ac mae'r adar yn parhau i ganu. Mae'r gwaith yn eich cadw mewn rhyw fath o dir neb rhwng dydd a nos, a rhwng ffuglen a realiti. Yma yn yr ansicrwydd chwareus hwn y mae'r gwaith yn eich gorfodi i ailystyried y pethau pob dydd rydych chi'n siŵr ohonyn nhw. Artist a nofelydd o Gymru yw Anthony Shapland ac ef yw sylfaenydd g39, man a arweinir gan artistiaid. Cafodd ei fagu ym Margoed yng nghwm Rhymni. Drwy ei waith ysgrifenedig ac artistig, mae'n cyfuno deunydd dogfennol a ffuglennol, gan ddefnyddio ei brofiad uniongyrchol o fod yn hoyw yng nghefn gwlad a pherfformio fel rhywun heterorywiol wrth dyfu i fyny.
Ffilm 9 munud, 39 eiliad o hyd a wnaed gan Anthony Shapland yn 2012 yw [pause] Time & Motion Study. Mae'r ffilm wedi'i gosod yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn 2011 yn ystod y cyfnod cyn iddi gael ei chau ar gyfer prosiect ailddatblygu ac adfer gwerth miliynau o bunnoedd. Roedd y weithred o bacio, clirio a newid wedi dechrau ym mhob rhan o'r adeilad – yn yr arddangosfeydd cyhoeddus yn ogystal ag yn y coridorau cudd a'r ystafelloedd cefn. Mae'r ffilm du a gwyn hon yn portreadu diwrnod ffuglennol, mewn tair rhan. Y rhan gyntaf yw'r bore lle dangosir y casgliad yn dal ynghyd yn yr orielau, a lle mae ardaloedd cyhoeddus a phreifat yr adeilad yn cael eu cyfleu yn yr un modd. Mae set o sbanwyr ar wal mewn gweithdy neu res o fylbiau golau wedi'u trefnu gyda'r un manylder â'r rhes o jygiau buchod crochenwaith Abertawe sy'n sefyll mewn cypyrddau gwydr yn yr oriel, ac mae modd cymharu'r grisiau mawreddog â'r grisiau ymarferol yn y cefn. Yr ail ran yw dechrau'r diwrnod wrth i'r gweithwyr gyrraedd, gyda'r dasg o adfer darnau crochenwaith, eu didoli a'u llenwi'n ofalus â phapur sidan, cyn eu rhoi mewn deunydd lapio swigod a'u labelu. Yn olaf, gyda'r hwyr, mae'r casgliad o wrthrychau a fyddai fel arfer wedi cael eu harddangos yn yr oriel bellach wedi'u cuddio y tu mewn i gardbord. Mae rhifau'r blychau'n cynyddu wrth iddyn nhw luosi'n ymddangosiadol ddiwedd. Mae'r cypyrddau gwydr a fu gynt yn llawn bellach yn wag. Dywedodd Anthony Shapland y canlynol am y gwaith: “Roedd y briff yn agored, sef creu dehongliad o Oriel Glynn Vivian. Dros sawl mis, ymwelais â'r oriel bum gwaith, gan recordio am fwy na 400 o funudau heb syniad pendant am strwythur y ffilm. Wrth wylio'r deunydd hwn y dechreuodd y naratif ffurfio. “Wrth i fi olygu'r ffilm, sylweddolais fy mod yn cynhyrchu rhywbeth a fyddai'n destun hiraeth yn fuan gan y byddai llawer o'r lleoliadau roeddwn yn eu ffilmio yn diflannu yn ystod y gwaith ailwampio a oedd ar ddod. Mae teitl y ffilm yn deyrnged i astudiaethau Frank a Lillian Gilbreth o ergonomeg ac effeithlonrwydd gweithwyr wrth eu gwaith. Roedd eu ffilmiau wedi sbarduno newid, fel arfer wedi'u comisiynu gan reolwyr neu sefydliadau. Serch hynny, dim ond cofnodi newid y mae'r ffilm hon. Heblaw am y gwaith golygu, nid oes unrhyw ystrywiau gyda'r camera, dim byd ffug nac effeithiau; ni ofynnwyd i unrhyw un wneud unrhyw beth gerbron y camera ac ni chafodd unrhyw beth ei ailffilmio. Dyma ffilm lle mae'r gwyliwr yn arsylwi drwy lens oddefol y camera.” Artist a nofelydd o Gymru yw Anthony Shapland ac ef yw sylfaenydd g39, man a arweinir gan artistiaid. Cafodd ei fagu ym Margoed yng nghwm Rhymni. Drwy ei waith ysgrifenedig ac artistig, mae'n cyfuno deunydd dogfennol a ffuglennol, gan ddefnyddio ei brofiad uniongyrchol o fod yn hoyw yng nghefn gwlad a pherfformio fel rhywun heterorywiol wrth dyfu i fyny.
Beti George sydd yn holi Iwan Teifion Davies, arweinydd cerddorol a phianydd o Gymru sy'n ffigwr amlwg ym myd cerddoriaeth glasurol a'r opera yng Nghymru a thu hwnt.Fe ddaw yn wreiddiol o Landudoch a fe oedd y cyntaf yn ei deulu i fynd i'r Brifysgol. Fe aeth i Goleg Emmanuel yng Nghaergrawnt i astudio gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg. Mae bellach yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth Prifysgol Aberystwyth ers 2021, ac mae'n arwain cerddorfa Philomusica of Aberystwyth. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Artistig Musicfest Aberystwyth ers 2023 ac yn Bennaeth Cerdd ar Ŵyl Ryngwladol Buxton yn Swydd Derby.
Megan Williams sy'n sgwrsio am y prosiect gydag un o'r ffermwyr, Daniel Owen.
Beti George sydd yn sgwrsio gyda Heledd Williams o Drefdraeth, Sir Benfro. Mae Heledd yn un o Ferched y Môr a groesodd Fôr yr Iwerydd taith o 3,000 o filltiroedd mewn 50 diwrnod, 14 awr a 43 munud fel rhan o World's Toughest Row. Fe ddechreuodd Merched y Môr - y criw benywaidd cyntaf o Gymru i gymryd rhan yn y ras - rwyfo o San Sebastián de La Gomera, ger Tenerife, ar 14 Rhagfyr 2025. Er gwaethaf wynebu tonnau 20 troedfedd, gorflinder a salwch y môr, fe lwyddodd y tîm a'r cwch rhwyfo, o'r enw 'Cariad', groesi'r llinell derfyn yn ynys Antigua yn y Caribî.Cawn hanes ei thaith trwy stormydd a thonnau o 20 troedfedd a'r heriau wnaeth ei wynebu. " merched cyffredin yn eu 40'au + mae rhywbeth yn bosib".Mae Heledd yn weithiwr cymdeithasol sy'n helpu i ddod o hyd i deuluoedd maeth. Mae hi hefyd yn dewis 4 cân, gan gynnwys Adra gan Gwyneth Glyn.
Ar ôl wythnos llawn emosiwn a siom enfawr wrth beidio â chyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2026, mae'r criw yn asesu be ddaw nesaf i Gymru o dan Craig Bellamy. Ac i ychwanegu at y straen, mae Dylan yn gwneud smonach lwyr o'r tabl proffwydo (eto!).
Kyffin Williams enjoyed a long association with the Glynn Vivian. Rian Evans, writer and critic, who has written extensively about this iconic Welsh artist, will look at how the Kyffin's in the gallery's holdings offer a fascinating perspective that differs from the usual assumptions about the course of his career. Roedd gan Kyffin Williams gysylltiad hir ag Oriel Gelf Glynn Vivian. Bydd Rian Evans, awdur a beirniad sydd wedi ysgrifennu'n helaeth am yr artist eiconig hwn o Gymru, yn edrych ar sut mae casgliad o waith Kyffin yn yr oriel yn cynnig persbectif diddorol sy'n wahanol i'r rhagdybiaethau arferol am ei yrfa. Image/Llun: Snowdon from Near Harlech, Kyffin Williams
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n asesu beth aeth o'i le i Gymru wrth golli i Bosnia-Herzegovina ar giciau o'r smotyn mewn gêm ail-gyfle i gyrraedd Cwpan y Byd 2026. Wel am bodlediad ddigalon!
Ydi canlyniadau da Abertawe yn golygu bod nhw wedi ymuno yn y ras am gemau ail-gyfle y Bencampwriaeth? Pum pwynt ydi'r bwlch bellach rhwng y ddau glwb, ac fe all hynny leihau i ddau gyda buddugoliaeth i'r Elyrch ar y Cae Ras nos Wener. Mae hi wedi bod yn dipyn o wythnos i Wrecsam yn dilyn amser ychwanegol yn erbyn Chelsea ac yna colled gartref yn erbyn Hull City. A chyda rhagor o anafiadau - gan gynnwys i Kieffer Moore fydd yn bryder i Gymru - ydi'r Dreigiau yn dechrau colli stêm?Ac wrth i Ryan a Rob baratoi i sylwebu ar y gêm am y tro cyntaf, pa air o gyngor sydd gan y criw i rannu gyda'r ddau actor enwog?
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd.Gwestai Angharad yn y bennod yma ydy Kevin Davies. Cafodd Kevin ei fagu yn Ninbych y Pysgod yn Sir Benfro. Ar ôl treulio cyfnod yn y fyddin ac yn gweithio dramor, dychwelodd i Gymru. Wedi iddo ymddeol yn 2022 penderfynodd fynd ati i ddysgu'r Gymraeg. Erbyn hyn, mae'n byw ym mhentref Trefgarnowen, Sir Benfro ac yn defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol yn ei ardal. Ers llynedd, mae wedi bod yn gwirfoddoli ar bwyllgor lleol Eisteddfod y Garreg Las ac wedi bod yn rhan ganolog o'r ymgyrch i godi arian tuag at yr Eisteddfod ym mis Awst.Geirfa ar gyfer y bennod:-anogaeth - encouragement crwt - bachgen bach ysu - to crave/yearn cywilydd - shame hiraeth - longing/ homesickness dyhead - aspiration/desire ysfa - desire/craving diwyd - diligent amhrisiadwy - priceless ymroi - to commit/devote oneself
Nick, Carwyn a Dafydd sy'n trafod llwyddiannau rhanbarthol, buddugoliaeth dan 20 a pherfformiad addawol yn erbyn Yr Alban. Ond oes mwy i ddod gan Gymru? #PodCymru #Cymreag #Rygbi Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Wakelin Award 2025: Lucia Jones 21.11.25 - 12.04.26 Lucia Jones is a Welsh painter. Since graduating from Falmouth University, she has exhibited internationally in solo and group exhibitions including the National Eisteddfod 2025, BEEP Painting Prize 2018 and 2024. She has also been longlisted for several art prizes such as John Moore's 2020, Jackson's Art Prize 2022 and 2023. Her work is currently held in private collections in Australia, Austria, Hong Kong, Mexico, UK and USA. Her practice explores memory and self-perception through the constructs of paint and film. Focusing on the female psyche in painted space, she draws inspiration from 50s-90s b-movies, art history, and her own photographs, recontextualising women as anonymised subjects within fractured and fabricated environments. These painted scenes act as cyphers for lived experience, to be glimpsed and examined. Mae Lucia Jones yn arlunydd o Gymru. Ers graddio o Brifysgol Falmouth, mae hi wedi arddangos ei gwaith yn rhyngwladol mewn arddangosfeydd unigol a grŵp, gan gynnwys Eisteddfod Genedlaethol 2025, a gwobr BEEP Painting 2025 a 2024. Mae hi hefyd wedi cyrraedd y rhestr hir ar gyfer sawl gwobr gelf, fel gwobr John Moores yn 2020 a gwobr Jackson's Art yn 2022 a 2023. Ar hyn o bryd, cedwir ei gwaith mewn casgliadau preifat yn Awstralia, Awstria, Hong Kong, Mecsico, y DU ac Unol Daleithiau America. Mae ei gwaith yn archwilio cof a hunanganfyddiad drwy gyfryngau paent a ffilm. Gan ganolbwyntio ar yr enaid benywaidd mewn gwaith paentio, mae'n cael ei hysbrydoli gan ffilmiau rhad o'r 1950au tan y 1990au, hanes celf, a'i ffotograffau ei hun, gan newid cyd-destun menywod a'u cyflwyno mewn amgylcheddau toredig a ffug. Mae'r golygfeydd paentiedig hyn yn gweithredu fel seiffr ar gyfer profiad bywyd, pethau i gael cipolwg arnynt a'u harchwilio.
Lucia Jones recipient of the Wakelin Award 2025! Lucia Jones is a Welsh painter. Since graduating from Falmouth University, she has exhibited internationally in solo and group exhibitions including the National Eisteddfod 2025, BEEP Painting Prize 2018 and 2024. She has also been longlisted for several art prizes such as John Moore's 2020, Jackson's Art Prize 2022 and 2023. Her work is currently held in private collections in Australia, Austria, Hong Kong, Mexico, UK and USA. Lucia Jones, derbynnydd Gwobr Wakelin 2025! Mae Lucia Jones yn arlunydd o Gymru. Ers graddio o Brifysgol Falmouth, mae hi wedi arddangos ei gwaith yn rhyngwladol mewn arddangosfeydd unigol a grŵp, gan gynnwys Eisteddfod Genedlaethol 2025, a gwobr BEEP Painting 2025 a 2024. Mae hi hefyd wedi cyrraedd y rhestr hir ar gyfer sawl gwobr gelf, fel gwobr John Moores yn 2020 a gwobr Jackson's Art yn 2022 a 2023. Ar hyn o bryd, cedwir ei gwaith mewn casgliadau preifat yn Awstralia, Awstria, Hong Kong, Mecsico, y DU ac Unol Daleithiau America.
Ar noson berffaith yng Nghaerdydd, gwelwyd perfformiad syfrdanol gan Gymru wrth sgorio saith gol heibio Gogledd Macedonia er mwyn gorffen yn ail yn y grŵp rhagbrofol. A'r wobr am wneud hynny ydi gêm gartref yn erbyn Bosnia a Herzegovina yn rownd gynderfynol y gemau ail-gyfle, a'r sicrwydd o gêm gartref yn y rownd derfynol os nawn nhw ennill.Gan fod Owain ar ei wyliau, cyn gapten Cymru Kath Morgan sy'n camu mewn i drafod gobeithion tîm Craig Bellamy gyda Mal a Dyl.
Beti George sy'n holi Jane Richardson - Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru.Fe gafodd Jane ei geni a'i magu yn Lloegr. Cymraes oedd ei mam, ac i Gymru y bydden nhw'n dod fel teulu ar eu gwyliau.Wedi graddio yn Rhydychen ac yna priodi, fe ddaeth i Ben Llŷn i fyw, a chael gwaith gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac fe ddysgodd Gymraeg.Ddwy flynedd yn ôl fe'i penodwyd yn Brif Weithredwr yr Amgueddfa Genedlaethol, a hynny ar adeg heriol iawn yn hanes y sefydliad.
Wedi'r wers bêl-droed yn Wembley nos Iau, lle mae hyn yn gadael tîm Craig Bellamy, sydd yn wynebu her arall enfawr nos Lun - yn erbyn Gwlad Belg, un o gewri pêl-droed y byd - mewn gêm y mae'n rhaid ei hennill os oes unrhyw obaith o orffen ar frig y grŵp ac ennill lle yn Nghwpan y Byd 2026. Hefyd, pwt o werthfawrogiad i'r capten Ben Davies, fydd yn cyrraedd ei 100fed cap dros Gymru nos Lun.
Mae bron i saith mlynedd bellach wedi mynd heibio ers i Gymru chwarae yn Stadiwm Principality, ond fydd hynny'n newid cyn hir o dan gynllun Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Ymateb cymysg sydd wedi bod gan y cefnogwyr, ond mae Ows a Mal yn gweld synnwyr y syniad er mwyn paratoi at y posibilrwydd o chwarae gemau yn y stadiwm yn Ewro 2026...cyn belled bod gemau rhagbrofol ddim yn symud o Stadiwm Dinas Caerdydd.Mae cryn amser hefyd ers i Wrecsam golli gymaint o gemau. QPR oedd y diweddaraf i guro criw y Cae Ras ddydd Sadwrn. Oes 'na bwysau ar y rheolwr Phil Parkinson? Mae gan Ows neges chwyrn at unrhyw gefnogwr sy'n galw am ei ddiswyddo. Ac mae gan Dyl her annisgwyl i Conor Coady...
Roedd hi'n bell o fod yn gyfforddus, ond llwyddodd Cymru i adael Kazakhstan gyda thri phwynt hollbwysig yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd - tri phwynt sydd yn mynd â nhw i frig y grŵp. Rhoddodd gôl Kieffer Moore y sylfaen berffaith i Gymru yn yr hanner cyntaf, ond siomedig oedd yr ail hanner. Tarodd y tîm cartref y trawst ddwywaith - gydag un o'r ergydion hynny yn dod gyda chic ola'r gêm. Oes 'na le i boeni am y perfformiad, ta'r canlyniad ydi'r unig beth sy'n cyfri? Roedd 'na dipyn o anghytuno ynglŷn â hynny rhwng y criw!Ond un peth sy'n sicr, roedd pawb wedi rhyfeddu gan berfformiad di-fai Dylan Lawlor yng nghanol yr amddiffyn wrth iddo ennill ei gap cyntaf. Seren newydd y dyfodol
Am y tro cyntaf ers sbel, mae gan y criw ddigon o reswm i deimlo'n obeithiol am obeithion clybiau Cymru. Yn ogystal â chanlyniadau addawol, mae Abertawe wedi cryfhau'r garfan gan wario'n sylweddol ar chwaraewyr newydd am y tro cyntaf ers tro. Ac er nad ydi canlyniadau Wrecsam wedi bod cystal, does dim posib cwestiynu'r uchelgais wrth i'w gwariant nhw dros yr haf fynd heibio £30m.Mae Caerdydd hefyd wedi synnu nifer drwy arwyddo Omari Kellyman ar fenthyg - chwaraewr canol cae symudodd i Chelsea am £19m y llynedd. A phrin fod cefnogwyr yn gallu cwyno efo'r perfformiadau ar y cae wrth i'r Adar Gleision godi i frig Adran Un. Dydi pethau ddim cystal yng Nghasnewydd, ond dyddiau cynnar ydi hi i'r rheolwr newydd Dave Hughes...Ac wrth gwrs, mae gan Gymru daith hir i Kazakstan ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd 2026. Ydi diffyg munudau rai o amddiffynwyr Cymru am greu penbleth i'r rheolwr Craig Bellamy?
'Dros Gymru'n Gwlad' - Arwel Vittle, cyd-awdur llyfr newydd am sefydlu Plaid Cymru yn 1925 sy'n rhoi'r cyd-destun ar gyfer ffurfio'r blaid gan bobl ifanc a pham na sefydlwyd plaid dros senedd i Gymru yn gynt?* Dros Gymru'n Gwlad: Hanes Sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru, Arwel Vittle a Gwen Angharad Gruffudd -https://www.ylolfa.com/products/9781800997066/dros-gymrun-gwlad-hanes-sefydlu-plaid-genedlaethol-cymru* Dros Gymru'n Gwlad (Finlandia) - https://www.youtube.com/watch?v=NViE2h0_1PY
Rhodri Davies sy'n clywed am lwyddiant Farmers Pantry Butchers gan Rhodri Davies.
'Dim Celf Gymreig' - sgwrs gyda'r artist a'r hanesydd celf, Peter Lord, am ei arddangosfa radical a thrawsffurfiol 'Dim Celf Gymreg' yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Sgwrs bwysig i bob artist ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn hunaniaeth a hanes Cymru ac agweddau gwladychol at Gymru a chelf Gymreig.Os hoffech drefn taith dywys gyda Peter, yna cysylltwch drwy'r Llyfrgell Genedlaethol dros y ffôn neu e-bost.* Dim Celf Gymreig yn LlGC, Aberystwyth - https://www.llyfrgell.cymru/ymweld/pethau-iw-gwneud/arddangosfeydd/dim-celf-gymreig * Relationships with Pictures: An Oblique Autobiography (Parthian, 2013, reprinted in paperback, 2024) https://www.parthianbooks.com/products/relationships-with-pictures-an-oblique-autobiography * The Tradition: A New History of Welsh Art 1400-1990 (Parthian, 2016, reprinted 2024) https://www.parthianbooks.com/search?q=The+Tradition%3A+A+New+History+of+Welsh+Art+1400-199 * Looking Out: Welsh painting, social class and international context (Parthian, 2020) Looking Out: Welsh painting, social class and international context(Yr un dolen a'r 3ydd, uchod) * The Art of Music: Branding the Welsh Nation (Parthian, 2022)co-authored with Dr Rhian Davies (Yr un dolen a'r 3ydd, uchod)Cyfres 6, Pennod 26
Fel y disgwyl, roedd Ffrainc yn rhy gryf i Gymru ond roedd digon o reswm i ddathlu. Roedd wyneb Jess Fishlock, ac ymateb yr holl garfan, yn adrodd cyfrolau wrth iddi ddathlu sgorio gôl gyntaf Cymru yn rowndiau terfynol Pencampwriaeth Ewrop... a chreu record newydd yn y broses fel y sgoriwr hynaf yn hanes yn gystadleuaeth.Catrin Heledd sy'n ymuno efo Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones i ddadansoddi noson hanesyddol i Gymru, ac edrych ymlaen at yr her olaf yn erbyn yr hen elyn.
Beti George sy'n cael cwmni Jess Davies sydd wedi ymddangos mewn cylchgronau Nuts a ZOO fel 'glamour model' ond sydd bellach yn ymgyrchu dros hawliau merched a'i diogelwch ar y we. Mae hi ar hyn o bryd yn gweithio gyda gwleidyddion yn San Steffan ar fesur sydd yn mynd drwy'r senedd i wella diogelwch ar y we. Mae hi wedi cael profiadau gwael ei hun, mae lluniau o'r model a'r cyflwynydd o Aberystwyth wedi cael eu camddefnyddio cannoedd o weithiau ar-lein.Mae hi hefyd wedi derbyn llu o negeseuon amhriodol gan ddynion ar-lein ac mae ei phrofiadau wedi arwain iddi ysgrifennu llyfr sy'n ceisio egluro casineb at fenywod ar-lein.Cawn hanesion ei bywyd ac mae'n dewis 4 darn o gerddoriaeth gan gynnwys cân Croeso I Gymru - Tara Bandito, gan iddi symud i Gymru yn 6 mlwydd oed a dysgu'r iaith.
Doedd hi ddim y ffarwel delfrydol i garfan Rhian Wilkinson wrth chwarae am y tro olaf cyn Ewro 2025 yn Y Swistir. Roedd y gêm yn Abertawe wedi ei cholli cyn hanner amser wrth i'r Eidal sgorio pedair gôl yng ngem olaf yr ymgyrch yng Nghrŵp A Cynghrair Y Cenhedloedd. Mi fydd Cymru felly yn mynd i'w ymddangosiad cyntaf yn rowndiau terfynol un o brif gystadlaethau'r byd heb ennill yn eu chwe gêm ddiwethaf.Pa wersi fydd Wilkinson wedi eu dysgu o'r ymgyrch? Sut all Cymru gynnig fwy o fygythiad ymosodol? Pwy sydd heb wneud digon i ennill lle yn y garfan? Fydd Sophie Ingle yn rhedeg allan o amser er mwyn profi ei ffitrwydd?Mae hi'n gyfnod prysur i'r dynion hefyd gyda dwy gêm yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd. Buddugoliaeth swmpus yw'r disgwyliad yn erbyn Liechtenstein. Fydd 'na noson "hanesyddol" i ddilyn yng Ngwlad Belg..?
Megan Williams sy'n sgwrsio gyda Llŷr Jones a Gethin Lewis i glywed yr hanes.
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Rob Lisle. Cafodd Rob Lisle ei fagu yn yr Iseldiroedd ac yn Abertawe. Pensaer yw Rob ac ar ôl cyfnod yn byw yn Llundain penderfynodd ddychwelyd gyda'i deulu i Gymru i Sir Gaerfyrddin. Mae'n byw yno gyda'i wraig Sian a'r plant. Penderfynodd ddysgu'r Gymraeg er mwyn cefnogi addysg ei blant a hefyd er mwyn ymdoddi i'r gymuned leol.
Megan Williams sy'n clywed hanes sioe fwyd ym Manceinion gan Louise McNutt o gwmni Cywain
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n dathlu buddugoliaeth hanesyddol Cymru i gyrraedd Pencampwriaeth Merched Ewro 2025. Roedd Ows yn ei chanol hi yn Nulyn yn gwylio tîm Rhian Wilkinson yn curo Gweriniaeth Iwerddon yn rownd derfynol y gemau ail-gyfle, ac yn fwy na hapus i ymuno yn y dathliadau yng nghanol y ddinas tan oriau man y bore. Roedd 'na fwy o ddathlu ar y Cae Ras hefyd lle welodd Dyl fuddugoliaeth arall i Wrecsam, ac mae'r tri yn ddigon bodlon eu byd hefyd wrth weld cychwyn arbennig Arne Slot yn parhau gyda Lerpwl.
Megan Williams sy'n clywed am wreiddiau'r hwrdd gan Eirlys Jones o Gas-blaidd, Sir Benfro
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Naomi Hughes. Merch a fagwyd yng Nghaerdydd yn ardal Llaneirwg yw Naomi Hughes. Mae hi o dras cymysg, ei mam o dras Tsieineaidd a'i thad yn Gymro di-Gymraeg o Gaerdydd. Er iddi gael ei magu yng Nghaerdydd yn yr wythdegau a'r nawdegau prin oedd ei hymwybyddiaeth a'i chysylltiad â'r Gymraeg. Wedi cyfnod yn teithio'r byd yn ei hugeiniau, dychwelodd i Gymru yn benderfynol o ddysgu'r Gymraeg. Cymhwysodd fel athrawes ac erbyn hyn mae'n dysgu ei phwnc drwy gyfrwng y Gymraeg mewn Ysgol Gyfun Gymraeg. Mae'n gadeirydd Menter Iaith Merthyr Tudful ac yn gyfrifol am ddatblygiad y Gymraeg yn ei hardal. Mae hefyd yn is-gadeirydd Yes Cymru.
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n asesu pedwar mis cyntaf Craig Bellamy wrth y llyw fel rheolwr Cymru - y canlyniadau ar y cae, ei berthynas gyda'r wasg â'i ymweliadau i glybiau lleol ar hyd a lled Cymru.
Megan sy'n sgwrsio gyda Rheinallt a Rachel Harries, enillwyr 'Ffermwyr Llaeth y Flwyddyn.
Wrth i reolwr arall adael Caerdydd yn ddisymwth, mae Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn sicr bod hi'n amser am chwyldro. Yn ôl Owain does "dim gweledigaeth", tra bod Malcolm yn credu bod y clwb "ar y llawr". Ond pwy all achub yr Adar Gleision tro 'ma? A beth sy'n mynd digwydd i'r Seintiau Newydd? Yn gyntaf, mae'r record hir ddi-guro yn diflannu ac yna colli ddwywaith yn olynol am y tro cyntaf ers mis Hydref 2019. Hefyd, fydd Joe Allen yn gwisgo crys coch Cymru eto mis nesa'..?01'20 Peli golff coll Owain 04'10 Sioc i'r Seintiau Newydd 13'40 Blerwch Caerdydd 26'30 Abertawe yn hedfan "o dan y radar" 28'50 Joe Allen yn ôl i Gymru? 35'40 Wrecsam dal ar y brig 40'00 Trafferthion Casnewydd a toiledau Barrow 41'33 Man City v Arsenal 48'20 Malcolm yn serennu ar Youtube 49'30 Anaf Sophie Ingle
Wel am ddechrau i Craig Bellamy fel rheolwr Cymru! Perfformiad trawiadol mewn gêm gyfartal yn erbyn Twrci ac yna buddugoliaeth wych mewn amodau anodd yn Montenegro - mae'n deg dweud bod Owain Tudur Jones a Malcolm Allen wedi eu plesio'n fawr.
Mae yna gyffro mawr ymysg Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen wrth i gyfnod newydd i Gymru o dan Craig Bellamy gychwyn nos Wener yn erbyn Twrci yng Nghaerdydd. Beth fydd y tactegau, pa siâp fydd i'r tîm, pwy fydd yn cychwyn? Ac yn bwysicach oll, beth fydd Bellamy yn ei wisgo wrth ochr y cae..?Cawn hefyd atgof hyfryd gan Malcolm o gyfarfod Sol Bamba, yn dilyn y newyddion hynod drist am farwolaeth ddiweddar cyn amddiffynnwr Caerdydd.
Mae 'na gynnwrf mawr ymysg Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones wrth iddyn nhw ymateb i benodiad Craig Bellamy yn rheolwr newydd Cymru.
Fe gafodd Alison Roberts ei geni a'i magu ym mhentref Killin yn yr Alban, ac fe ddaeth i Gymru pam gafodd alwad gan ffermwr i ddofi un o'i geffylau. Mae hi bellach wedi priodi ac yn byw ar Ynys Môn, ac yn magu 7 o blant. Alison enillodd Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023. Daeth i benderfyniad ei bod yn Gymraes pan enillodd hi gystadleuaeth cneifio yn y Sioe Frenhinol, Llanelwedd. Mae'n gweithio fel gofalwraig ac yn credu ei bod yn bwysig ei bod hi'n siarad Cymraeg gyda'r cleifion.Roedd hi wedi dysgu Cymraeg wrth wrando ar Radio Cymru, gwylio S4C a darllen llyfrau ei merch. Dydy hi erioed wedi cael gwers Gymraeg.
Owain Tudur Jones sy'n trafod rhai o'r enwau sy'n cael eu cysylltu gyda swydd rheolwr Cymru ar i Gymdeithas Bêl-droed Cymru ddiswyddo Rob Page.
Ar Blât – Elinor SnowsillY cyn-chwaraewr rygbi Elinor Snowsill oedd gwestai Beca Lyne-Pirkis ar y rhaglen Ar Blât yn ddiweddar, gyda'r ddwy yn trafod ryseitiau, atgofion a sut mae bwyd yn effeithio ar ein bywydau ni bob dydd. Mae coginio yn rhan fawr o fywyd teulu Elinor felly siawns ei bod hi wedi bwyta'n dda ac yn iach pan oedd hi'n ifanc…?Cyn-chwaraewr Former player Rysetiau Recipes Atgofion Memories Gwrthod To refuse Cytbwys Balanced Adnabyddus Famous Wastad AlwaysDros Frecwast – Toiledau CyhoeddusWel dw i'n siŵr bod Elinor yn bwyta'n iachach nawr nag oedd hi pan oedd hi'n ifanc! Ar fore Llun yr 22ain o Ebrill, diffyg toiledau cyhoeddus oedd yn cael sylw ar raglen Dros Frecwast. Buodd Gethin Morris Williams yn sgwrsio gyda Lois Mererid Edwards, o Langefni ar Ynys Môn. Fel cawn ni glywed, mae Lois yn diodde o gyflwr meddygol sy'n golygu bod toiledau cyhoeddus yn bwysig iawn iddi hi … Diffyg Lack of Cyflwr Condition Coluddyn Bowel Rheolaeth Control Straen Stress Croen Skin Ar hap Randomly Ailadroddus Repetitious Cyfleusterau cyhoeddus Public conveniences Cymryd yn ganiataol Taking for grantedBore Cothi – Menna WilliamsLois Mererid Edwards oedd honna'n sôn am pa mor bwysig yw bod digon o doiledau cyhoeddus ar gael, yn enwedig i'r rhai sy'n diodde o gyflwr meddygol. Menna Williams o Langernyw yn Sir Conwy ydy enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes eleni. Gwobr yw hon sy'n cael ei rhoi bob blwyddyn yn Eisteddfod yr Urdd, am gyfraniad sylweddol i fywyd pobl ifanc Cymru. Wythnos diwetha, Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shân Cothi yn gynnes, a chafodd hi sgwrs fach gyda Menna ar y rhaglen: Tlws Trophy Cyfraniad sylweddol A substantial contribution Braint A privilege Dirprwy Deputy Cyfeilio To accompany (on piano) Amyneddgar iawn Very patient Llenni Curtains Deuawd Duet Pan ddaru o Pan wnaeth e Ienga Ifanca Anrhydedd An honourBeti a'i Phobol – Shelley ReesA llongyfarchiadau mawr i Menna Williams ar ennill y Tlws arbennig yna, dw i'n siŵr bydd hi'n mwynhau'r seremoni yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Shelley Rees yr actores, a chyflwynydd Radio Cymru oedd gwestai Beti George ar ei rhaglen nos Sul. Yma mae Shelley yn sôn am actio. Mae hi wedi perfformio ers pan oedd hi'n blentyn bach, ond nawr bod hi'n bum deg oed tybed ydy hi'n anoddach iddi hi gael gwaith actio? Cyflwynydd Presenter Sefyll yn llonydd Standing still Menywod Merched Arallgyfeirio Diversify Ymgyrchu To campaign Egni Energy Drygionus Naughty Yn go glou Yn eitha cyflym Mam-gu Nain Taw MaiAled Hughes – SingaporeYchydig o hanes gyrfa actio Shelley Rees yn fanna ar Beti a'i Phobol. Basen ni'n disgwyl clywed sgwrs Gymraeg mewn ystafell athrawon, neu gweld eisteddfod mewn ysgol yng Nghymru …ond yn Singapore? Wel dyna sy'n digwydd mewn un ysgol draw ar yr ynys bell honno, diolch i bennaeth o Gymru, sydd wedi recriwtio nifer o athrawon Cymreig i weithio yn yr ysgol. Rhys Myfyr, un o athrawon yr ysgol fuodd yn sgwrsio gydag Aled Hughes: Pennaeth Head Rhyfedd Strange Rhyngwladol International Wedi ei leoli Located Diwylliannol Cultural Hap a damwain Luck Denu To attract Ymddiried To trust Cystadleuol CompetitiveDros Ginio – LlyfrauEisteddfod ysgol yn Singapore, gwych on'd ife? Tybed faint o lyfrau dych chi'n llwyddo i'w darllen o glawr i glawr? Yn ddiweddar, mae sawl ap yn crynhoi cynnwys llyfrau, ond ydy hyn yn mynd i gael effaith ar werthiant llyfrau? Ar Dros Ginio ddydd Mawrth diwetha, buodd Jennifer Jones yn holi'r awdur a'r golygydd, Elinor Wyn Reynolds am ei barn: Clawr Cover Crynhoi cynnwys To summarise the content Cyfrolau Books Adolygiadau Review Yn ei chrynswth In its entirety Drwgdybus Suspicious Yn hytrach na Rather than Bod dynol Human being Bygythiad Threat Annog To encourage Agor cil y drws To open the door slightly
Pigion y Dysgwyr – FrancescaDych chi'n un o'r rhai sy'n symud eich dwylo wrth siarad? Mae ymchwil yn dangos mai Eidalwyr sy'n defnyddio y mwya o'r ‘stumiau hyn wrth siarad a rhannu straeon! Mae teulu Francesca Sciarrillo yn dod o'r Eidal a gofynnodd Alun Thomas iddi oedd hi'n cytuno gyda'r ymchwil... (Y)stumiau GesturesYmchwil ResearchYstrydebol ClichedYmwybodol AwareSylwi To noticeHunaniaeth IdentityAm wn i I supposeMynegi To expressLleisiau VoicesBarn An opinion Pigion y Dysgwyr – Llyfrau HanesBron y gallen ni glywed dwylo Francesca'n symud yn ystod y sgwrs yna on'd ife? Ond dwi'n siŵr mai llonydd iawn basai ei dwylo hi wrth drafod pethau diflas, a llyfrau hanes diflas oedd testun sgwrs Aled Hughes gyda'r hanesydd Dr Mari William fore Iau, ond beth sy'n ddiflas i'r hanesydd tybed?Llonydd StillDiflas BoringMilwrol MilitaryAgweddau AspectsYn ddiweddar RecentlyPori To browseTaro To strikeCymhleth ComplicatedRhaid i mi gyfadde(f) I must admit Ysgolheictod ScholarshipAstrus ObscurePigion y Dysgwyr – Beti a HuwDr Mari William oedd honna'n sôn wrth Aled Hughes am ba lyfrau hanes sy'n ddiflas iddi hi. Nos Lun ar S4C, roedd cyfres newydd i'w weld sef Cysgu o Gwmpas. Beti George a Huw Stephens sydd yn cysgu o gwmpas Cymru mewn gwestai moethus. Yn y rhaglen gynta, roedd y ddau'n ymweld â Pale Hall yn Llandderfel ger y Bala, ac roedd Beti yn cael aros yn yr un ystafell ac y buodd y Frenhines Victoria yn aros ynddi flynyddoedd maith yn ôl! Shan Cothi fuodd yn holi'r ddau. Moethus LuxuriousCyflwynydd PresenterDarganfod To discoverAnhygoel IncrediblePigion y Dysgwyr – Gwyl Ban GeltaiddWel dyna fywyd braf gan Beti a Huw, on'd ife, yn cael aros mewn gwestai moethus ac yn cael bwyta bwyd anhygoel! Sara Davies enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru eleni ac mae enillydd y gystadleuaeth honno wastad yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd, sy'n cael ei chynnal bob blwyddyn yn Iwerddon. Yn nhref Carlow, yn ne-ddwyrain Iwerddon oedd yr Ŵyl eleni ac enillodd Sara gystadleuaeth y Gân Ryngwladol Orau yn yr Ŵyl gyda'r gân ‘Ti'. Gofynnodd Aled Hughes iddi hi fore Llun sut oedd hi'n teimlo ar ôl iddi hi ennill y gystadleuaeth... Rhyngwladol InternationalSuddo To sinkAlla i ddychmygu I can imagineProfiadau ExperiencesCanlyniad ResultPigion y Dysgwyr – Jonathan RioA llongyfarchiadau mawr i Sara am y fuddugoliaeth on'd ife! Gwestai Beti George oedd Jonathan Roberts sy'n dod o'r Bala yn wreiddiol ac sydd erbyn hyn yn gweithio fel cyfieithydd yn Rio de Janeiro ers bron i 30 mlynedd. Buodd yn byw yn Lerpwl a Llundain cyn teithio i Brasil a syrthio mewn cariad gyda'r ddinas. Dyma fe'n sôn wrth Beti am yr adeg daeth ei dad i aros ato fe yn Rio...Buddugoliaeth WinCyfieithydd TranslatorPeryglus DangerousFfon Stick Pigion y Dysgwyr – RNLIMae'n swnio fel bod tad Jonathan yn ddyn lwcus iawn ond yw e? Mae'r RNLI yn dathlu dau ganmlwyddiant eleni ac Emma Dungey (ynganu fel Bungee jump) o orsaf Bad Achub Y Bari, fuodd yn sôn wrth Shan Cothi fore Gwener am sut daeth hi ymuno â'r RNLI..Dau ganmlwyddiant BicentenaryBad achub LifeboatYmuno â To joinRhiant ParentMewn cysylltiad â In contract withHyfforddiant Training
Pigion y Dysgwyr - Rosalie Caryl 020224Rosalie Lamburn o Moggerhanger ger Bedford oedd gwestai Caryl nos Fawrth ac roedd Caryl eisiau gwybod mwy am gefndir Rosalie. Cafodd hi ei geni yn Hong Kong ar ddechrau'r rhyfel, cyn symud i fyw i Awstralia a symud wedyn o fanno i Ddeiniolen ger Llanberis. Dyma Rosalie yn dechrau drwy sôn am ei hatgofion o Awstralia. Rhyfel WarAtgofion MemoriesMynyddog MountainousAnferth HugeBobol annwyl Goodness me Llong ShipGrawnwin Grapes Pigion y Dysgwyr – Magnets Oergell Aled Hughes 030424Rosalie Lamburn oedd honna'n sôn am ei phrofiad yn symud i Gymru o Awstralia pan oedd hi'n chwech oed. Dych chi'n un o ‘r rhai sy'n hoff o brynu magnet i roi ar y ffrij, neu'r oergell, pan dych chi ar wyliau? Wel mae'n ffordd dda o gofio am y gwyliau ymhen blynyddoedd wedyn on'd yw e? Mae Lowri Mair Williams newydd fod yn teithio am 5 mis yn Asia ac fel cawn ni glywed, mae casglu magnetau yn rhan bwysig o'i gwyliau iddi hi...Traddodiad TraditionCelf ArtLlawn bwrlwm BuzzingCynnyrch lleol Local producePwytho â llaw HandstitchedPren Wood Cysylltiad ConnectionAtyniad AttractionPigion y Dysgwyr – Clare Mackintosh Dros Ginio 02.04.24Faint o le sydd ar ffrij Lowri erbyn hyn tybed i gadw'r holl fagnetau na? Mae'r awdures Clare Mackintosh, sy'n byw yn y Bala, wedi cyhoeddi ei llyfr diweddara. Fel arfer basen ni'n cysylltu ei llyfrau hi â ffuglen a throsedd, ac mae ei llyfrau wedi gwerthu dros 2 filiwn ar draws y byd. Mae ei llyfr diweddara yn wahanol iawn i'r lleill ac yn sôn am ei phrofiad personol hi o alar…Ffuglen a throsedd Fiction and crimeDiweddara Most recentGalar GriefDynes MenywCennin Pedr DaffodilsAmser maith yn ôl A long time agoYn union ExactlyPigion y Dysgwyr – Cerys Hafana Beti a'i Phobol 070404A dw i'n siŵr bydd llyfr diweddara Claire yn gysur ac yn gymorth i rai eraill sy'n galaru ar ôl colli rhywun agos. Tair perfformwraig sydd i'w clywed yn y tri chlip nesa ‘ma gan ddechrau gyda'r delynores ifanc, Cerys Hafana, oedd yn westai ar Beti a'i Phobol ddydd Sul, Dim ond 22 oed ydy hi ac mae hi'n berfformwraig boblogaidd iawn oherwydd ei harddull arbennig yn canu'r delyn. Cafodd hi ei geni yn Chorlton, Manceinion ac yma mae hi'n sôn am hanes ei theulu….Cysur ComfortTelynores HarpistArddull StyleChwarelwyr QuarrymenDychwelyd To returnCwympo To fall Pigion y Dysgwyr – Golden Oldies Bore Cothi 020404Ac mae Cerys yn perfformio mewn sawl lleoliad yng Nghymru rhwng nawr a'r haf – cerwch i'w gweld os cewch chi gyfle, mae'n delynores arbennig iawn. Buodd Shelley Morris o Faenclochog yn Sir Benfro yn sôn am brosiect arbennig sef y Golden Oldies ar Bore Cothi. Cynllun ydy hwn drwy Gymru sy'n cynnig siawns i rai ddod at ei gilydd i fwynhau a chael cyfle i ganu pob math o ganeuon, nid fel côr, ond yn fwy hamddenol. Ond mae Shelley yn berfformwaig ei hunan hefyd, a dyma hi'n sôn wrth Shan Cothi am ei phrofiad hi o berfformio ar lwyfannau enwog iawn...Hamddenol Leisurely Profiad Experience Llwyfannau Stages Nefoedd annwyl Good HeavensPigion y Dysgwyr – Connie Orff Caryl 030204Wel pob lwc i'r Golden Oldies on'd ife? Mae'n swnio'n brosiect diddorol a hwyliog iawn. Ac yn ola, y frenhines drag, Connie Orff, gafodd sgwrs gyda Caryl i sôn am beth sy'n gwneud perfformiad drag llwyddiannus … Dylanwadau InfluencesUniaethu fel To identify asFfraeth WittyIsraddol InferiorCaniatáu To permit
DROS GINIO 11.03.24Buodd Rhodri Llywelyn yn holi Mahum Umer o Gaerdydd. Mae'r cyfnod Ramadan i Foslemiaid ar draws y byd wedi cychwyn. Beth mae'r ŵyl yn ei olygu i Foslem ifanc Cymraeg?Ympryd A fastCymuned CommunityNodi To markCrefyddol ReligousDatgelu To revealHunanddisgyblaeth Self disciplineLlai ffodus Less fortunateAnsicrwydd UncertaintyHeriol ChallengingAdlewyrchu To reflect ALED HUGHES 12.03.24Blas ar sut mae cyfnod Ramadan yn effeithio ar Foslemiaid ifanc Cymru yn fanna ar Dros Ginio. Pwy fasai'n meddwl ei bod yn bosib cynhyrchu gwin cyn belled i'r gogledd â Dyffryn Clwyd? Wel dyna sy'n digwydd yng Ngwinllan y Dyffryn a buodd perchennog y winllan, Gwen Davies, yn sgwrsio gydag Aled Hughes fore Mawrth am yr her o dyfu grawnwin yn yr ardal honno.Cynhyrchu To produceGwinllan VinyardHer A challengeGrawnwin GrapesLlethr SlopeGwerthfawrogi To appreciateAddas AppropriateSefydlu To establishMicro hinsawdd Microclimate Yn y man Mewn munudGwinwydd VinesArallgyfeirio To diversify GEORGIA RUTH 12 03 24Ac erbyn hyn mae sawl gwinllan yng Nghymru on'd oes e? Pwy â ŵyr, falle mai Cymru bydd y Bordeaux newydd!Bardd mis Mawrth Radio Cymru yw Sam Robinson. Mae e'n byw ym Machynlleth, nawr ond yn dod o Rydychen yn wreiddiol ac mae e'n rhugl yn y Gymraeg erbyn hyn. Dyma fe'n sôn wrth Georgia Ruth am daith arbennig buodd e arni i Wlad y Basg...Rhydychen OxfordGwlad y Basg The Basque CountryOfferyn InstrumentGwneuthurion ManufacturersPreniach Small pieces of woodPastynau ClubsGwledda To feastWedi swyno CharmedYmatebol ResponsiveLlanast MessRhyfeddol Wonderful BORE COTHI 15.03.24Un arall sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhyfeddol, fel Sam Robinson yw Debora Morgante o Rufain. Mari Grug oedd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes dydd Gwener, noson cyn gêm rygbi Cymru a'r Yr Eidal, a chafodd hi sgwrs gyda Debora gan ofyn iddi hi sut gwnaeth hi ddysgu Cymraeg yn y lle cynta...Rhufain RomeCwrs Preswyl Residential courseYmarfer To practiceDROS FRECWAST 14.03.23Debora Morgante o Rufain oedd honna, fuodd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn yn 2015. Yn anffodus colli wnaeth Cymru yn y gêm yn erbyn yr Eidal a hon oedd gêm ola George North i chwarae dros Gymru gan iddo ddweud basai'n ymddeol yn dilyn y gêm honno. Cennydd Davies fuodd yn sgwrsio gyda George am ei benderfyniad.Rhestr fer Short listPenderfyniad enfawr Huge decisionCyflawni To achieveY cyhoedd The publicUchafbwynt HighlightBETI A'I PHOBOL 17.03.24George North oedd hwnna enillodd cant dau ddeg o gapiau i Gymru gan ennill ei gap cynta yn 2010. Trueni mawr ei fod yn ymddeol ond mae e wedi rhoi gwasanaeth arbennig i Gymru dros y blynyddoedd. Hazel Thomas o Lanwenog yng Ngheredigion fuodd yn sôn wrth Beti George am ei hamser yn gweithio fel chef yn y Dorchester yn Llundain …y ferch gynta i wneud hynny!Trueni BechodSylw a stwr Fuss and attentionCefn gwlad The countrysideEnwoca The most famousBodoli To exist
Pigion Dysgwyr – Jessica Robinson Cynrychiolydd Cymru yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd, cafodd ei gynnal yng Nghaerdydd yn 2023, oedd y soprano o Sir Benfro Jessica Robinson. Ddydd Calan, hi oedd gwestai Shan Cothi ar ei rhaglen, a gofynnodd Shan iddi hi yn gynta beth oedd ei gobeithion hi am 2024…. Cynrychiolydd RepresentativeGŵyl gerddorol Musical festivalSafon QualityAnelu ato To aim forDatganiad RecitalYn elfennol bwysig Of prime importanceCydbwysedd BalanceCyfansoddwyr ComposersCyfeilio To accompanyDehongliad Interpretation Pigion Dysgwyr – Sion Tomos Owen Wel mae blwyddyn brysur iawn o flaen Jessica yn does? Bardd y Mis ar gyfer mis Ionawr ar Radio Cymru, ydy Sion Tomos Owen o Dreorci. Mae Sion yn arlunydd ac yn fardd, ond mae o hefyd yn un o gyflwynwyr rhaglen Cynefin ar S4C. Dyma fe ar Ddydd Calan yn sgwrsio gyda Sara Gibson, oedd yn cadw sedd Aled Hughes yn gynnes, i sôn am un o uchafbwyntiau 2023 iddo fe…. Bardd y mis Poet of the monthArlunydd ArtistCyflwynwyr PresentersUchafbwyntiau HighlightsMurluniau MuralsOgofau CavesTafliad carreg A stone's throwAmgenach DifferentDylunio DesigningArbrofi ExperimentingPigion Dysgwyr – Meleri Wyn James Sion Tomos Owen oedd hwnna, Bardd y Mis Radio Cymru yn sôn am graffiti. Bob wythnos ar raglen Bore Sul mae gwestai yn rhannu straeon a phrofiadau. Ar rifyn ola 2023, yr awdures Meleri Wyn James o Aberystwyth fuodd yn siarad gyda Betsan Powys. Meleri enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan a hi hefyd ydy awdures y gyfres boblogaidd, Na Nel. Dyma hi i sôn am sut mae arferion darllen plant, yn ei barn hi, wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwetha … Y Fedal Ryddiaith The Prose MedalGofid ConcernAnnog To encourageDychymyg ImaginationAnnibynnol IndependentGwnïo To sewPwytho To stitchPenderfynol DeterminedDisgyblaeth DisciplineDadwneud To undoPigion Dysgwyr – Liz Saville Roberts Ie, mae hi mor bwysig i annog plant i ddarllen ond yw hi? A gobeithio bydd llyfrau Meleri yn llwyddo i wneud hynny yndife? Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd, Liz Saville Roberts oedd gwestai Beti a'i Phobol yr wythnos hon. Mi gafodd hi ei magu yn Llundain ond mi gafodd hi ei denu i Gymru oherwydd ei diddordeb yn y Mabinogi. Ar ôl astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth mi aeth yn newyddiadurwraig ag yn ddarlithydd cyn iddi hi droi at wleidyddiaeth. Dyma hi'n sôn am ei diddordeb yn y Mabinogi…. Cofiwch bod yna gyfle i glywed y rhaglen gyfan ar BBC Sounds. Cafodd hi ei denu She was luredY Chweched Sixth formTraethawd estynedig DissertationCyhoeddiad A publicationWedi gwirioni Wedi dwlu arFel petai Seems to Bellach yn yr etholaeth In the constituency by nowRhyfedd StrangePigion Dysgwyr – Dylan Jones Liz Saville Roberts oedd honna'n sôn am sut oedd y Mabinogi wedi dylanwadu ar ei bywyd hi. Y ceffyl oedd thema Troi'r Tir fore Sul, ac un oedd yn siarad ar y rhaglen oedd Dylan Jones o Foelfre ger Abergele. Mae Teulu Dylan, ers y 70au, wedi bod yn cyflenwi ceffylau ar gyfer y diwydiant ffilm. Dyma fe i sôn mwy... Wedi dylanwadu Had influencedCyflenwi To supplyDiwydiant IndustryPigion Dysgwyr – Cleif Harpwood Ceffylau Cymru yn chwarae rhan bwysig mewn ffilmiau a rhaglenni teledu. Difyr yndife? Mi fuodd Dei Tomos yn recordio yn ddiweddar yng Nghwm Afan ar gyfer ei raglen Nos Sul. Un gafodd ei fagu yn yr ardal ydy'r cerddor Cleif Harpwood ac mi fuodd o'n sôn wrth Dei am hanes Cymreictod y cwm…… Cerddor MusicianY Canol Oesoedd The Middle AgesArglwyddi LordsYr Ucheldir The HighlandsCaerau FortsCors halenog Salty marshMintai TroopBraw A frightCenhadu Doing missionary work Y groesgadoedd The crusadesYmestyn To extend
1 Uffern Iaith y Nefoedd:Brynhawn Sadwrn diwetha mi glywon ni raglen arbennig o'r Sioe banel hwyliog Uffern Iaith y Nefoedd dan ofal Gruffudd Owen. Y panelwyr oedd Richard Elis, Sara Huws, Llinor ap Gwynedd a Lloyd Lewis. Rownd cyfieithu caneuon oedd hon:Nid anenwog Famous (not unfamous) Cyffwrdd To touch Dychwelyd To return Aflonyddu To disturb Nadoligaidd Christmasy Clych Bells2 Elin Fflur a'r Gerddorfa:Dipyn bach o hwyl yn dyfalu caneuon oedd wedi eu cyfieithu'n wael yn fanna. Ddechrau'r mis, mi gafodd cyngerdd arbennig ei gynnal efo Elin Fflur yn canu gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Tudur Owen oedd yn arwain y noson a dyma i chi foment emosiynol o'r rhaglen pan mae Tudur yn holi Elin am hanes ei chân fwya poblogaidd, sef Harbwr Diogel – y gân gafodd ei hysgrifennu gan Arfon Wyn, wrth gwrs, a'r gân enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru yn 2002:Cerddorfa Orchestra Breintiedig tu hwnt Privileged beyond Crïo Llefain Cryndod Tremor Golygu To mean Oesol Everlasting Uniaethu To identify Mor gyfarwydd So familiar3 Rhaglen Cofio:Noson emosiynol iawn i Elin Fflur, ac i Tudur hefyd, yng Nghanolfan Pontio ym Mangor.Nadolig oedd thema rhaglen archif Cofio gyda John Hardy brynhawn Sul, a Noswyl Nadolig yn thema arbennig felly. Un o draddodiadau mawr y Nadolig yn y capeli ydy plant bach yn perfformio Drama'r Geni, ac mae llawer o hwyl wrth i'r plant grwydro o'r sgript weithiau. Dyma glip o ddau weinidog yn cofio ambell i ddrama o'r fath:Drama'r Geni Nativity play Gweinidog Minister Hogyn Bachgen Gŵr y llety Innkeeper Yn ffradach Chaotic Ymgnawdoliad Incarnation Beichiog Pregnant Gweddi A prayer Mo'yn Eisiau 4 Chwalu Pen:On'd oes yna hwyl efo Drama'r Geni pan mae'r plant yn penderfynu mynd eu ffordd eu hunain?Un o uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr Ŵyl ydy'r cwis poblogaidd Chwalu Pen, a chafodd y rhaglen ei darlledu brynhawn Gwener diwetha yr 22ain o Ragfyr. Mari Lovgreen oedd yn trïo cadw trefn ar Catrin Mara, Arwel Pod Roberts, Welsh Whisperer a Mel Owen. Dyma nhw'n trio dyfalu'r rownd gyntaf ond cyn hynny, Mari sydd yn ein hatgoffa o'r rheolau:Uchafbwyntiau Highlights Darlledu To broadcast Dyfalu To guess Atgoffa To remind Rheolau Rules Y flwyddyn a fu The past year Cwblha! Complete! Cyn seren Former star5 Ho Ho Hywel:Mae Mel yn amlwg yn nabod ei chaneuon Nadoligaidd yn tydy?Ar ddydd Nadolig mi fuodd Hywel Gwynfryn a Rhiannon Lewis yn mwynhau straeon a chaneuon yng nghwmni gwesteion ar y rhaglen arbennig Ho Ho Hywel. A dyma'r comedïwr Dilwyn Morgan yn rhannu rhai o'i atgofion cynnar am y Nadolig :Atgofion Memories Tro ar ôl tro Time after time Tyddyn bach A smallholding Ar lethrau On the slopes Hel tai Going from house to house Comisiwn Coedwigaeth Forestry Commission Beudy Cowhouse Wedi sychu'n grimp Dry as a bone6 Talwrn Nadolig:Cystadleuaeth rhwng timau o feirdd ydy'r Talwrn ac unwaith eto eleni mi fuodd yna raglen arbennig o'r Talwrn – sef Talwrn Nadolig rhwng dau dîm o feirdd amrywiol – sef tîm Bethlehem a thîm Nasareth. Un o'r tasgau oedd sgwennu cerdd ysgafn ar y testun ‘Cinio Nadolig', a dyma gynnig Iwan Rhys o dîm Bethlehem:Cerdd Poem Strach A mess Fflwr Blawd Llysfwytäwr pybyr A staunch vegetarian Ffili treulio Can't digest Di dafod Tongueless Llosg cylla Heartburn Yn sgit Keen on Ysgewyll Sprouts Achwyn Cwyno Tynn Tight Egwyddor Principle Newydd garw Bad news7 Rhaglen Ifan:Bydd Y Talwrn yn ôl ar Radio Cymru ar y seithfed o Ionawr am saith o'r gloch efo rhifyn arbennig rhwng Ysgol Glan Clwyd ac Ysgol Maes Garmon. Yr actores Catrin Mara oedd gwestai Ifan Jones Evans ar ei raglen yn ddiweddar. Sôn oedd Catrin am yr anrheg Dolig gorau a'r gwaetha gafodd hi erioed:Allweddell Keyboard Cwningen Rabbit Wedi gwirioni Wedi dwlu ar Cwffio Ymladd Alla i ddim dychmygu I can't imagine Hwyrach Efallai Erchyll Terrible
Clip 1: Bore Cothi Bore Llun y 6ed o Dachwedd, Mici Plwm oedd yn cadw cwmni i Shân Cothi. Gan ei bod hi'n dymor piclo a gwneud siytni, dyma gael sgwrs efo'r prif biclwr ei hunan. Yma mae Mici yn sôn am nionod brynodd o yn Roscoff, Llydaw, a sut mae o am eu piclo mewn cwrw: Nionod Winwns Llydaw Britanny Ar gyrion Ger Bragdai Breweries Arbrofi To experiment Eirin Plums Eirin tagu Sloes Hel Casglu Y werin The common people Byddigion Posh people Clip 2 – Rhaglen John ac Alun. Www, nionyn wedi ei biclo mewn cwrw, swnio'n ddiddorol yn tydy? Roedd ‘na barti mawr ar Raglen John ac Alun ar y 5ed o Dachwedd– parti penblwydd y rhaglen yn 25 oed! Ac mi ymunodd Dilwyn Morgan yn yr hwyl hefyd, a buodd hi'n gyfle i hel atgofion. Yma, mi gawn ni glywed clip o'r archif sef rhaglen gyntaf John ac Alun cafodd ei darlledu yn ôl yn Ebrill 1998: Hel atgofion Reminisce Darlledu To broadcast Dipyn o gamp Quite an achievement Para To last Cyflwyno Presenting Cynulleidfa Audience Wch chi be? You know what? Cefndir Background Clip 3: Dros Ginio John ac Alun yma o hyd, ac yn boblogaidd iawn gyda gwrandawyr Radio Cymru. Yn ddiweddar mae llawer mwy o bobl ifanc yn delio efo eco-bryder, sy'n cael ei achosi drwy boeni am effeithiau newid hinsawdd. Mae Fflur Pierce o Ddyffryn Nantlle yn un o'r rheini, a buodd hi'n sôn wrth Cennydd Davies wythnos diwetha am y profiad o fyw efo'r cyflwr hwn: Eco-bryder Eco anxiety Newid hinsawdd Climate change Cyflwr Condition Yn fengach Yn ifancach Baich A burden Teimlo'n euog Feeling guilty Rhwystredig Frustrating Gwyddonwyr Scientists Sbio Edrych Amgylchedd Environment Clip 4: Newid Hinsawdd a Fi Does na ddim llawer o fanteision i newid hinsawdd nac oes, ond mi glywon ni am un fantais ar y rhaglen Newid Hinsawdd a Fi bnawn Sul y 5ed o Dachwedd. Aeth Leisa Gwenllian draw i Winllan y Dyffryn ger Dinbych. Mae newid hinsawdd yn golygu ei bod yn bosib cynhyrchu gwin yn Nyffryn Clwyd hyd yn oed. Yma mae Leisa yn sgwrsio efo perchennog y winllan, Gwen Davies sydd wedi dysgu Cymraeg: Cynhyrchu To produce Perchennog Owner Gwinllannoedd Vineyards Cynnydd sylweddol A substantial increase Yn yr un gwynt In the same breath Gwinwydd Vine Arallgyfeirio Diversify Datblygu To develop Aeddfedu To mature Cysgodi To shelter Clip 5: Rhaglen Ifan Ia, mae na sawl gwinllan wedi agor yng Nghymru dros y blynyddoedd diwetha yn does? Er dw i ddim yn cofio clywed am un mor ogleddol a Gwinllan y Dyffryn chwaith. Pob lwc a iechyd da i holl gynhwychwyr gwin Cymreig! Yn ddiweddar ar raglen Ifan, tra bod Hana Medi yn cadw ei sedd yn gynnes, sgwrsiodd Hana gyda Cefin Evans o glwb Dyfed Dirt Bikes. Mae Cefin wedi teithio yr holl ffordd o Gymru i'r Ariannin i wylio cystadleuaeth arbennig iawn, un o brif gystadlaethau Enduro'r Byd, a hynny gan fod ei fab Rhys yn cystadlu yno ar ran y clwb: Ariannin Argentina Eang Wide Mas Allan Bola Bol Paratoi To prepare Tlodi Poverty Gwerthfawrogi To appreciate Clip 7 – Beti a'i Phobol Wel dyna brofiad gwych i glwb Dyfed Dirt Bikes ynde? Dw i'n siŵr eu bod wedi mwynhau pob eiliad o'r daith arbennig i'r Ariannin. Bronwen Lewis, y gantores, oedd gwestai Beti George nos Sul ddiwetha. Cafodd Bronwen ei magu ym Mlaendulais a daeth yn amlwg ar y gwefannau cymdeithasol yn ystod y cyfnod clo, wrth iddi hi ganu o'i chartref a rhannu'r perfformiad ar Facebook. Mi fuodd Branwen yn cystadlu ar raglen deledu The Voice yn y gorffennol ac mae'n cyflwyno rhaglen ar Radio Wales ar foreau Sul ar hyn o bryd: Amlwg Prominent Gwefannau cymdeithasol Social media Yr aelwyd The home Tad-cu Taid Ffili Methu Arweinydd Conductor Mas Allan
Pigion Dysgwyr – Y Wladfa Mae Llinos Howells o Ferthyr Tudful yn gweithio ar hyn o bryd yn y Wladfa, sef y rhan o‘r Ariannin ble mae siaradwyr Cymraeg yn byw. Yn ei gwaith bob dydd mae hi‘n dysgu Cymraeg i blant yr ysgolion lleol. Wythnos diwetha cafodd Aled Hughes gyfle i sgwrsio gyda hi i weld sut mae pethau‘n mynd hyd yn hyn... Yr Ariannin Argentina Union fis A month exactly Rhagbrofion Preliminary competition Llefaru Reciting Braint o feirniadu The honour of adjudicating Deng mlynedd ar hugain 30 years Cyngerdd mawreddog A grand concert Croesawgar Welcoming Twymgalon Warm-hearted Pigion Dysgwyr – Ann Evans Llinos Howells oedd honna'n brysur iawn yn y Wladfa, ond i weld yn mwynhau bob eiliad. Merch arall o Ferthyr sydd yn y clip nesa - Ann Evans, dorrodd record Cymru i ferched dros 65 oed yn Hanner Marathon Casnewydd fis Mawrth diwetha, ond sydd erbyn hyn wedi cyflawni camp arall. Bythefnos yn ôl roedd hi yn Kenya yn cymryd rhan mewn ras barodd bump o ddiwrnodau drwy ardaloedd cadwraeth y wlad. Roedd rhaid rhedeg 30 milltir y dydd mewn tywydd poeth iawn. Dyma hi‘n sgwrsio gyda Alun Thomas ar Bore Sul ac yn sôn am un digwyddiad arbennig ar y daith…… Tu fas i Tu allan i Cyflawni camp To fulfil an achievement Ardaloedd cadwraeth Conservation areas Heol (hewl) Ffordd Eiddo Possessions Perchen Ownership Dwyn To steal Gofidus Worried Rhydd Loose Dros y dibyn Over the precipice Pigion Dysgwyr – Karen Wynne Mae merched Merthyr yn hoff iawn o antur on'd dyn nhw? Ac roedd hi'n dipyn o antur i'r actores Karen Wynne yn ddiweddar wrth iddi hi gael ei derbyn i'r Cylch Hud. Dyma Karen ar raglen Bore Cothi wythnos diwetha yn sôn wrth Shan am y broses o gael eich derbyn i'r cylch arbennig hwn……. Cylch Hud Magic Circle Mynd amdani Going for it Syth bin bot Straight away Digwydd bod Happened to be Hanu Deriving from Sêl bendith Seal of approval Gweinidog Minister Hud a lledrith Magic Honni To claim Arallfydol Otherworldly Pigion Dysgwyr – Hafodwennog Basai'r gair ‘hudolus', falle, yn un gair i ddisgrifio taith Aelwyd Urdd Hafodwennog i Ffrainc. Mae'r aelwyd yn y wlad fel rhan o ymgyrch Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd. Cafodd Ifan Evans gwmni Gwenan Evans a Dai Baker o'r Aelwyd ar ei raglen yr wythnos diwetha i sôn mwy am daith... Hudolus Magical Ymgyrch Campaign Swmpus Substantial Arweinyddion cyfrifol Responsible leaders Gweithdai Workshops Cytgan Refrain Pigion Dysgwyr – Gwion Clarke A dw i'n siŵr bod aelodau'r Aelwyd wedi ysbrydoli cefnogwyr Cymru yn ystod y gêm bwysig honno yn erbyn Awstralia yn Lyon. Nos Fawrth diwetha cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Gwion Clarke o Gaernarfon. Mae Gwion yn sgriptio darnau comedi ac yn gomedïwr ei hun, a dyma fe'n sôn wrth Caryl am sut dechreuodd e yn y maes……. Ysbrydoli To inspire Testunau List of competitions Creadigol Creative Edmygu brwdfrydedd Admire the enthusiasm Buddugol Successful Doniol Funny Deunydd Material Llifo To flow Difrifol iawn Very serious Tawelwch Silence Pigion Dysgwyr – John Shaw A phob lwc i Gwion gyda'r gigs on'd ife? Ar Dros Frecwast fore Mercher clywon ni lais John Shaw. Mae John yn byw yn Utah ond roedd ei deulu'n dod Gymru yn wreiddiol. Alun Thomas aeth draw i Ysgol Llangynwyd ger Maesteg i weld John ar ei ymweliad cynta â gwlad ei gyn-deidiau Cyndeidiau Forefathers Gwyddonydd coedwig Forestry scientist Gweddill The rest of Annerch To address Troedio llwybrau Treading the paths Y bedwaredd ganrif ar bymtheg 19th century Cysylltiad Connection Degawdau Decades Bedyddwyr Baptist Emyn Hymn