"Mae Iwan a Hywel yn trafod yr wythnos mewn cyfres o podlediadau difyr a dwp. Weithiau maen nhw'n anghofio treiglo ac yn defnyddio geiriau Saesneg, a dydyn nhw ddim yn wir gwybod be maen nhw'n neud. Dwi'n siŵr fod y crynodeb yma ddim yn swnio'n ddeniadol, ond gewch hwyl yn gwrando." - Des Lynam (A…
Yr wythnos hon mae'r hogia'n trafod y newyddion diweddaraf, rhoi darlleniad byr o'r llyfr "The Strange Case of Dr Jekyll and Mr Hyde", ac yn siarad efo'r hynod dalentog David Thomas. http://davidthomasart.tumblr.com/ https://www.facebook.com/pages/David-Thomas-Illustration-and-Fine-Art/114862150241 https://twitter.com/DavedThomas
Yn y podlediad ola o'r gyfres hon, mae'r hogia'n mwydro llwyth am 'im byd. Hefyd mae nhw'n rhoi rhagolwg o sioe newydd S4C, "Pen neu Cynffon", a'n rhoi darlleniad o "How The Grinch Stole Christmas".
Jack Peyton sy'n cadw cwmni i ni wythnos yma, yn trafod Gaerdydd, diweithdra, ac yn rhoi blas o gân Nadoligaidd Sion Q.
Mae Rhys Evans a Sion Foulkes yn ymuno a ni wythnos yma i drafod cŵn sy'n dreifio, digwyddiadau yn eu bywydau, ac i roi darlleniad o "Fifty Shades of Grey".
Yr wythnos hon mae'r hogia'n trafod y newyddion diweddaraf, rhoi darlleniad byr o'r llyfr "The BFG" gan yr awdur Roald Dahl, ac yn rhannu stori am cofi digartref.
Dan McG yw ein gwestai arbennig wythnos yma, ac mae o a'r hogia'n trafod geiriau Almaeneg, gweithiwyr Radio Wales, a'n datgelu'r gwir am hên fand Iwan, Convict.
Wythnos yma, mae Iwan a Hywel yn rhoi ei barn ar yr etholiad Americanaidd, "telemarketing", a chynnal podlediad ofnadwy o lwyddiannus a phoblogaidd. Hefyd, mae Iwan yn arthio am y ddau gŵyn gafodd eu heitem ar Y Lle yn ddiweddar.
Jack Peyton (yr anturiaethwr anadnabyddus) yw'r gwestai arbennig wythnos yma. Mae o a'r hogiau'n trafod ei daith i Seland Newydd, pêl-droed, hiliaeth, a thewder; ymysg eu mwydro.
Mae'r hogia' yn siarad efo Sion Foulkes (o Y Diarth, After An Alibi a The Dirty Words), ac yn trafod be maen nhw am neud yn y podlediad. Gigs #mingefilms Jimmy Savile Y Gelfa Cofi