Bwyta, Cysgu, Crio

Follow Bwyta, Cysgu, Crio
Share on
Copy link to clipboard

Yn anffodus ‘dyw bod yn rhieni ddim yn dod â chyfarwyddiadau – ond ry’n ni gyd yn gwneud ein gorau glas. Beth Jones, Siôn Tomos Owen a’u gwesteion sy’n trin a thrafod yr holl brofiadau boncyrs o fod yn rhieni a magu plant.

BBC Radio Cymru


    • Feb 20, 2020 LATEST EPISODE
    • infrequent NEW EPISODES
    • 26m AVG DURATION
    • 7 EPISODES


    More podcasts from BBC Radio Cymru

    Search for episodes from Bwyta, Cysgu, Crio with a specific topic:

    Latest episodes from Bwyta, Cysgu, Crio

    O my gosh a damia!

    Play Episode Listen Later Feb 20, 2020 28:32


    Gall blant reoli dau beth - yr hyn sy'n mynd mewn i'w cegau a'r hyn sy'n dod allan o'u cegau.Sawl gair newydd sydd yng ngeirfa eich plant chi yr wythnos yma? A faint o lysiau maen nhw wedi eu bwyta?Y bardd Casia Wiliam sy'n ymuno â Beth a Siôn i drafod Sam Tân, sos coch a mwsh oren.Hefyd, oes yna wahaniaeth rhwng magu plant yn y dre ac yn y wlad?

    Stranco, softplay a pick-a-mix

    Play Episode Listen Later Feb 13, 2020 34:27


    “Yn yr hen ddyddie, bydde dads byth yn mynd i softplay...”Y digrifwr Dan Thomas yw gwestai Siôn a Beth wrth iddyn nhw gymharu eu sgiliau rhianta nhw gyda rhai eu rhieni.Hefyd, sut orau i ddelio gyda temper tantrums a meltdowns. Aaaghhh!

    Mae'n rhaid i ni siarad am hyn

    Play Episode Listen Later Feb 6, 2020 29:53


    “Dwi wedi ffeindio fe'n anodd i ddweud wrth bobl fy stori i...” Mae sgwrs gyda'r bardd Rufus Mufasa yn ysgogi Beth i rannu'n gyhoeddus am y tro cyntaf ei stori am enedigaeth trawmatig Harri a'r effaith arni hi a'i theulu. Hefyd, ‘mum guilt' a sut, weithiau, d'oes dim byd ni'n ei wneud yn ddigon da!

    Gyda'r sêr

    Play Episode Listen Later Jan 30, 2020 26:20


    "O'n i'n derbyn cadernid a chysur wrth y plant drwy'r amser."Mae Siôn a Beth yn trafod galar gyda'r digrifwr Aled Richards wnaeth fagu ei ddau fab ar ei ben ei hun ar ôl marwolaeth ei wraig.Hefyd, beth yw'r heriau emosiynol ac ymarferol wrth gyfuno teuluoedd - a faint dylen ni fod yn rhannu am ein plant ar y cyfryngau cymdeithasol?

    Pandemonium!

    Play Episode Listen Later Jan 23, 2020 32:36


    "Sdim byd ‘da ti ar ôl yn y tanc ambell i ddydd. Fi wedi eistedd ar waelod y stâr yn fy nagre..."Sut beth yw cael tri o blant mewn 16 mis? "Pandemonium" yn ôl ein gwestai, yr actor Rhys ap William."Symo dy gar di ddigon o seis, symo dy dŷ di ddigon o seis a dyw dy bank balance di ddim digon o seis..!"

    Fi angen cysgu!

    Play Episode Listen Later Jan 16, 2020 30:14


    “Ma'r babi'n cyrraedd a chi'n ffeindio bo' chi ffili neud dim byd o hanfodion bywyd - fel mynd i'r tŷ bach, bwyta, cysgu..!” Ydy'r cyfnod cyntaf yna ar ôl cael babi wir yn ddiflas, yn undonog ac yn unig? Beth Jones a Siôn Tomos Owen sy'n trafod hunllefau'r wythnosau cyntaf ar ôl cael babi gyda'u gwestai Gwennan Evans. Mae Gwennan yn awdur ac yn fardd sydd yn disgwyl ei hail blentyn. Er gwaetha'r diffyg cwsg, mae'n dal i chwerthin - a hyd yn oed wedi rhoi cynnig ar stand yp.

    er beth jones angen ydy
    Croeso i Bwyta, Cysgu, Crio

    Play Episode Listen Later Jan 13, 2020 0:55


    Croeso i'n pod bach newydd-anedig perffaith ar gyfer rhieni!Yn anffodus ‘dyw bod yn rhieni ddim yn dod â chyfarwyddiadau – ond ry'n ni gyd yn gwneud ein gorau glas.Beth Jones, Siôn Tomos Owen a'u gwesteion sy'n trin a thrafod yr holl brofiadau boncyrs o fod yn rhieni a magu plant.

    Claim Bwyta, Cysgu, Crio

    In order to claim this podcast we'll send an email to with a verification link. Simply click the link and you will be able to edit tags, request a refresh, and other features to take control of your podcast page!

    Claim Cancel