Podcasts about hefyd

  • 30PODCASTS
  • 171EPISODES
  • 52mAVG DURATION
  • 1MONTHLY NEW EPISODE
  • Apr 30, 2025LATEST

POPULARITY

20172018201920202021202220232024


Best podcasts about hefyd

Latest podcast episodes about hefyd

Clera
Clera Ebrill 2025

Clera

Play Episode Listen Later Apr 30, 2025 83:03


Croeso i bennod mis Ebrill o bodlediad Clera. Y mis hwn rydyn ni'n trafod yr hyn sydd ar dân ar wefusau pawb ledled Cymru....teitlau cerddi! Yn ogystal â hynny, cawn Orffwysgerdd hyfryd gan Haf Llewelyn, cerdd o'r flodeugerdd newydd, 'O ffrwyth y Gangen Hon'.. Hefyd rydyn ni'n ddiolchgar iawn am y fraint o gael cynnwys nid dim ond un Ebenezer, ond dau! Diolch i Dylan Ebz am fynd â holi ei dad, Lyn, ynglŷn a'i gyfrol fendigedig newydd, Cerddi'r Ystrad. Ar ben hyn oll, cawn sgwrsa gyda'r cyn-Fardd Cenedlaethol, Ifor ap Glyn, a hefyd y delicyssi gan Dylan, Tudur Dylan, neb llai. Ac ar ddiwedd y bennod, syrpreis bach ar eich cyfer. mwynhewch!

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#115 - Tyfu'n Fyd-eang: Sut Daeth Meithrinfeydd Seiont yn Bwerdy Allforio Garddwriaethol yng Nghymru

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear

Play Episode Listen Later Apr 6, 2025 23:28


Ydych chi erioed wedi meddwl sut y daeth meithrinfa yng Nghymru yn allforiwr mawr o blanhigion gardd ar draws y DU ac Ewrop? Ymunwch â'r cyflwynydd gwadd Neville Stein wrth iddo ymweld â Meithrinfeydd Seiont yng Nghaernarfon. Dysgwch y cyfrinachau y tu ôl i'w llwyddiant, o'u sefydlu ym 1978 i'w cynhyrchiad blynyddol trawiadol o dros filiwn o blygiau a leinin, gan arbenigo mewn mathau newydd cyffrous. Darganfyddwch sut maen nhw'n partneru â bridwyr rhyngwladol ac yn rheoli eu gwasanaeth dosbarthu wythnosol. Hefyd, clywch am eu cynlluniau i ehangu i farchnad Iwerddon. Mae'r bennod hon yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn garddwriaeth, twf busnes, a chymhlethdodau masnach ryngwladol yn y diwydiant planhigion.

nghymru hefyd ewrop daeth nghaernarfon ydych
Podcast Rygbi Cymru
Dial neu dathlu'r dwbl?

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later Apr 3, 2025 52:12


Nick a Carwyn sy'n edrych yn nôl dros rygbi'r penwythnos gan gynnwys y darbi ac un edrych ymlaen i rownd 16 ola Cwpan Her Ewrop. Hefyd oes rhywun yn gwybod pryd fydd yr undeb yn cyhoeddi unrhywbeth? #S4C Cymraeg #RygbiCymru #WalesRugby Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices

Haclediad – Hacio’r Iaith
The Pope's Sgwishi Sobrasada Excorcist

Haclediad – Hacio’r Iaith

Play Episode Listen Later Mar 2, 2025 166:21


Mae criw'r Haclediad nôl gyda cursed episode arall o'ch hoff tech/existential dread/ffilms gwael podcast (yn y Gymraeg!) Mis yma bydd Bryn, Sions a Iestyn yn galaru am Skype, trafod cêrio am bethe a phethe sydd wedi eu neud â gofal, a haunted trailer newydd Alexa plus (pam fod angen brên dy hun? Just gad i big brother Jeff Bezos neud o!) Hefyd gwrandwch allan am coverage byw o #CIG2025 yn trendio ar Bluesky as it happened, a'r criw yn bathu'r term "Booze Miles" am y cysyniad sut mae gwin wastad yn neisiach dramor

Clera
Clera Rhagfyr 2024

Clera

Play Episode Listen Later Dec 20, 2024 112:46


Gyda chyfarchion yr Ŵyl, croeso mawr i chi i bennod mis Rhagfyr, 2024 o Clera. Mae gyda ni wledd o lyfrau a sgyrsiau â'r beirdd a'u saerniodd ar eich cyfer. Cawn gwmni felly, Christine James, Daniel Huws, Meleri Davies a Dafydd John Pritchard, sydd oll newydd gyhoeddi cyfrolau newyd sbon. Ewch ati i'w prynu fel anrhegion Nadolig, neu jyst fel llyfrau gwerth eu cael. Hefyd cawn glywed y Delicysi gan Tudur Dylan ac mae ein beirniad llym, Gruffudd Antur yn ei ôl i ddewis y llinell gynganeddol ddamweiniol y mis orau ar gyfer mis Rhagfyr. Hyn oll, a mwy o'r dwli arferol! Ac os hoffech wneud cyfraniad ariannol i'n helpu ni i ddatblygu'r podlediad, ewch i: https://www.crowdfunder.co.uk/p/podlediad-clera Nadalek llawen i chi gyd!

ac gyda nadolig hefyd hyn cawn rhagfyr
Y Coridor Ansicrwydd
Carrie Jones a Mared Griffiths

Y Coridor Ansicrwydd

Play Episode Listen Later Nov 27, 2024 40:03


Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n cael cwmni Carrie Jones a Mared Griffiths o garfan Cymru cyn dwy gêm enfawr yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn gemau ail-gyfle Ewro 2025. Cawn wybod pam fod Carrie wedi dewis symud i chwarae i Sweden a hithau dim ond yn 21 oed, tra bod Mared yn adrodd ei thaith o Drawsfynydd i Manchester United - a sut mai "gweithio fel ci" yn hel defaid ar y fferm deuluol oedd ei ymarfer ffitrwydd.Hefyd, fydd Caerdydd yn cynnig y swydd rheolwr i Steve Cooper? Nid am y tro cyntaf, mae yna wahaniaeth barn rhwng yr hogia...

Podcast Rygbi Cymru
Y Ddawns Olaf

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later Nov 7, 2024 56:05


Mae Carwyn, Carwyn ac Iestyn yn trafod tîm Cymru cyn gêm Cymru v Fiji, sôn bod Ioan Cunningham ar fin gadael ei swydd fel hyfforddwr menywod Cymru a gêm fawr y penwythnos wrth i Ferthyr chwarae Pontypridd. Hefyd, ffarwel i un o'r pod am y tro wrth i ni a Chymru edrych ar y dyfodol. Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices

Podcast Rygbi Cymru
Cymru, yr Undeb a Hydref o ddewisiadau

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later Nov 1, 2024 56:30


Mae Carwyn a Carwyn yn edrych ymlaen at hydref o ddewisiadau i Warren Gatlan gan ddewis ei timoedd i wynebu Fiji, pwy bydd yn gywir a thybed? Hefyd, maent yn trafod sefyllfa yr undeb ar ôl gyhuddiadau o bwysau ar dîm menywod Cymru gan y WRU yn Farn gan bapur The Telegraph. Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices

Podcast Rygbi Cymru
Pwy bydd yng ngharfan Cymru am yr Hydref?

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later Oct 17, 2024 83:06


Mae Carwyn, Carwyn ac Iestyn yn edrych ar bwy fydd yng ngharfan Cymru am yr Hydref gan drafod pwy bydden nhw'n dewis yn ogystal ag hyfforddwr Cymru Warren Gatland. Hefyd mae Carwyn E yn gorfoleddu yn buddugoliaeth i'r Scarlets ym Mharc yr Arfau wrth i Carwyn H cwympo pellach i lawr yn rhagdybion yr SRC. Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices

Y Coridor Ansicrwydd
Croeso nôl Joe!

Y Coridor Ansicrwydd

Play Episode Listen Later Oct 3, 2024 53:11


Mae Joe Allen yn ôl yng ngharfan Cymru a fedrith Owain Tudur Jones a Malcolm Allen ddim stopio gwenu. Hefyd yn plesio ydi'r opsiynau ymosodol ychwanegol i'r rheolwr Craig Bellamy ar gyfer y ddwy gêm nesaf yng Nghynghrair y Cenhedloedd - a'r ffaith bod Brennan Johnson yn dechrau sgorio.Fydd Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam yn chwarae yn Ewrop cyn hir? Mae Prosiect Cymru yn cael sêl bendith Y Coridor beth bynnag. A pham bod Ows yn rhannu tips ar sut i ddal ymbarel?02'00 Joe Allen 15'25 Broadhead, Brooks a Burns yn holliach 19'35 Goliau Brennan Johnson 22'00 Prosiect Cymru 30'20 Y Seintiau'n Fiorentina 34'00 Gobaith i Gaerdydd? 37'00 Trafferthion oddi cartref Wrecsam 44'00 Casnewydd yn tanio adref 45'00 Erik "Pen Gwag" 51'00 Owain "Ymbarel" Jones

Y Coridor Ansicrwydd
Pwy nesa' i Gaerdydd a dwy sioc enfawr i'r Seintiau

Y Coridor Ansicrwydd

Play Episode Listen Later Sep 26, 2024 51:27


Wrth i reolwr arall adael Caerdydd yn ddisymwth, mae Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn sicr bod hi'n amser am chwyldro. Yn ôl Owain does "dim gweledigaeth", tra bod Malcolm yn credu bod y clwb "ar y llawr". Ond pwy all achub yr Adar Gleision tro 'ma? A beth sy'n mynd digwydd i'r Seintiau Newydd? Yn gyntaf, mae'r record hir ddi-guro yn diflannu ac yna colli ddwywaith yn olynol am y tro cyntaf ers mis Hydref 2019. Hefyd, fydd Joe Allen yn gwisgo crys coch Cymru eto mis nesa'..?01'20 Peli golff coll Owain 04'10 Sioc i'r Seintiau Newydd 13'40 Blerwch Caerdydd 26'30 Abertawe yn hedfan "o dan y radar" 28'50 Joe Allen yn ôl i Gymru? 35'40 Wrecsam dal ar y brig 40'00 Trafferthion Casnewydd a toiledau Barrow 41'33 Man City v Arsenal 48'20 Malcolm yn serennu ar Youtube 49'30 Anaf Sophie Ingle

Doctoriaid Cymraeg
Pennod 7: Cilgwri, Caergwrle, a Kuwait

Doctoriaid Cymraeg

Play Episode Listen Later Aug 24, 2024 112:26


'Awyrgylch bendigedig' (alternative title meaning 'lovely atmosphere', a theme which arose during recording).
A very special, international episode - recorded, by the power of Zoom: on the Wirral peninsula, in Caergwle, and in Kuwait. It is to other podcasts as Pink Floyd's 'Echoes' is to your average pop song, but hopefully it is entertaining and informative.Our special guest is Anthony. R. Arthur, and we refer to his chapbook: https://thepoetryquestion.com/2022/06/14/release-day-half-bred-anthony-salandy/Also, wait for the Easter egg at the end, my poem 'Pont las Dyfrdwy!'/Cadw code: POD2024***************************************************'Awyrgylch bendigedig' yw teitl amgen y pennod - sef thema sy'n deillio o'r sgwrs wrth recordio.
Pennod arbennig iawn, un rhyngwladol - wedi'i recordio, trwy Zoom: ar benrhyn Cilgwri, yng Nghaergwrle, ac yn Kuwait. Mae hi i bodlediadau eraill fel mae 'Echoes' gan Pink Floyd ganeuon bop arferol, ond gobeithio ei bod yn ddifyr ac yn addysgiadol.Ein gwestai arbennig yw Anthony. R. Arthur, a chyfeiriwn at ei chaplyfr :Anthony.R.Arthur, ac rydyn ni yn cyfeirio at ei chapbook: https://thepoetryquestion.com/2022/06/14/release-day-half-bred-anthony-salandy/Hefyd, arhoswch am yr wy Pasg ar y diwedd, fy ngherdd 'Pont las Dyfrdwy!'Côd Cadw: POD2024

Podcast Rygbi Cymru
Dambusters yn dychwelyd

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later May 16, 2024 50:57


Carwyn a Carwyn yn edrych yn ol ar bedwar golled arall i'r rhanbarthau ac yn trafod gobeithion neu diffyg obaith y Gweilch o gyrraedd y gemau ail-gyfle. Hefyd yn edrych yn ol ar fuddugoliaeth Llanmddyfri a phwy bydd gapten Cymru yn yr haf? Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices

Podcast Rygbi Cymru
Llanymddyfri am goron driphlyg hanesyddol gyda Gareth Potter

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later May 2, 2024 59:44


Mae Carwyn a Carwyn yn trafod rygbi'r penwythnos yn cynnwys buddugoliaeth i rygbi'r menywod a cholledion i'r rhanbathau yn yr URC.                           Hefyd maent yn cael y pleser o gwmni hyfforddwr ymosod Llanymddyfri Gareth Potter i drafod ei dim yn gorffen ar frig yr Indigo Premiership wrth iddynt baratoi am y gemau ail-gyfle, yn gyntaf yn erbyn Caerdydd.  Dilynwch ni ar gyfryngau gymdeithasol @RygbiCymruPod Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices

Podcast Rygbi Cymru
Ni nôl am whistle stop tour

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later Apr 4, 2024 39:06


Mae Carwyn a Iestyn nôl I drafod newyddion a chanlyniadau'r penwythnos yn cynnwys colledion I'r Scarlets, Cymru a Chaerdydd ond buddugoliaethau i'r Dreigiau a'r Gweilch yn yr URC. Hefyd rydym yn edrych ar yr Indigo Prem a gêm y Gweilch yn erbyn Sale. Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices

Podcast Rygbi Cymru
Tommy turnover nid Tommy Crumble

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later Feb 14, 2024 66:05


Mae Iestyn a Carwyn yn trafod penwythnos arall o'r Chwe Gwlad wrth i Gymru ddod yn agos eto ac esboniad fer o'r rheolau camsefyll…Hefyd maent yn edrych ymlaen ar y rhanbarthau yn y URC ar y penwythnos yn ogystal â newyddion yr wythnos, gyda'r EDC y pwnc llosg enfawr wythnos yma… Dilyn ni ar gyfryngau gymdeithasol @RygbiCymruPod Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices

Podcast Rygbi Cymru
Rhondda i Ponty via Glantaf a'r Sgarlets gyda Josh Phillips

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later Dec 8, 2023 74:14


Wythnos yma mae Carwyn ac Iestyn yn cael eu ymuno gan faswr Pontypridd a chyn faswr dan ugain Cymru Josh Phillips i drafod ei daith rygbi yn ogystal â'r Indigo Prem a fuddugoliaeth y Sgarlets dros Caerdydd.  Hefyd maent yn edrych ymlaen i gemau Ewrop a sialens tîm y prifddinas yn Toulouse a Gweilch v Benetton Round 2.   Dilyn ni ar gyfryngau gymdeithasol @RygbiCymruPod  Mae unrhyw ymateb yn werthfawr i ni. Learn more about your ad choices. Visit megaphone.fm/adchoices

Esgusodwch fi?
Priya Hall: Oes gen ti jôc?

Esgusodwch fi?

Play Episode Listen Later Nov 27, 2023 47:40


Ar drothwy ei sioe stand-up gyntaf yng Ngŵyl Fringe Caeredin, Priya Hall (hi) sy'n ymuno ag Iestyn a Meilir y bennod hon i rannu pam y dewisodd yrfa ym myd comedi a pha mor gynhwysol yw'r diwydiant stand-up. Hefyd, cawn glywed am brofiadau Priya a'i phartner wrth iddynt baratoi i ddechrau teulu, fel cwpwl cwiar, a'r rhwystrau y maent wedi eu hwynebu.

Beti a'i Phobol
Tomos Parry

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Nov 19, 2023 49:30


Beti George yn sgwrsio gyda'r cogydd, Tomos Parry o Ynys Môn sydd wedi ennill ei seren Michelin gyntaf am ei fwyty yn Llundain. Agorodd Tomos fwyty Brat yn Shoreditch ym mis Mawrth 2018 ac mae wedi mynd o nerth i nerth. Cafodd y seren ei gwobrwyo i Tomos gan Michelin am "goginio rhagorol dros dân agored". Dros gyfnod COVID agorodd Tomos dŷ bwyta Brats Outdoors lle roedd cwsmeriaid yn gallu eistedd tu allan. Roedd hwn eto'n lwyddiant ac mae'n dal i fynd yn Hackney. Ei fenter ddiweddaraf ydi'r tŷ bwyta Mountain yn Soho a agorwyd yn mis Gorffennaf 2023. Hefyd, Tomos wnaeth goginio pryd o fwyd i ddathlu 20 mlynedd o briodas David a Victoria Beckham.

Clera
Clera Hydref 2023

Clera

Play Episode Listen Later Oct 27, 2023 75:42


Croeso i bennod mis Hydref o bodlediad barddol hyna'r byd yn y Gymraeg. Y tro hwn cawn sgwrs hynod ddifyr a theimladwy gyda'r Prifardd Gruffudd Eifion Owen ynglŷn â'i ail gyfrol wych o gerddi, 'Mymryn Rhyddid' (Cyhoeddiadau Barddas). Hefyd cawn gerdd nas cyhoeddwyd o'r blaen o waith y diweddar Archdderwydd, Dafydd Rowlands, a Sioned Dafydd, y cyflwynydd pêl-droed adnabyddus, ac wyres Dafydd Rowlands sy'n ei darllen. Hyn a llawer mwy.

The Sports Coaching Hub Podcast
Gender in Sport Coaching with Dr. Kerry Harris and Jennifer Larrick

The Sports Coaching Hub Podcast

Play Episode Listen Later Oct 18, 2023 57:54


Mike Castle interviewed Dr Kerry Harris (Senior Lecturer in Sport Coaching and Director of Women's Football) and Jen Larrick (doctoral candidate). With a vast experience in coaching Women's Football, Kerry and Jen took us back to their first coaching experiences, shared their journey into academia, and their views on the current landscape of research in coaching and gender. Plus, they both deconstructed some common misconceptions about coaching female teams.Bu Mike Castle yn cyfweld â Dr Kerry Harris (Uwch Ddarlithydd mewn Hyfforddi Chwaraeon a Chyfarwyddwr Pêl-droed Merched) a Jen Larrick (ymgeisydd doethurol). Gyda phrofiad helaeth o hyfforddi Pêl-droed Merched, aeth Kerry a Jen â ni yn ôl at eu profiadau hyfforddi cyntaf, gan rannu eu taith i'r byd academaidd, a'u barn ar y dirwedd bresennol o ymchwil ym maes hyfforddi a rhywedd. Hefyd, gwnaeth y ddau ddadadeiladu rhai camsyniadau cyffredin am hyfforddi Merched.Follow us on Twitter: @thecoachinghubFollow us on Instagram: @thecoachinghubpodWebsite: https://www.cardiffmet.ac.uk/schoolofsport/research/Pages/Sports-Coaching-and-Pedagogy.aspx 

Clera
Clera Medi 2023

Clera

Play Episode Listen Later Sep 29, 2023 103:22


Croeso i bennod mis Medi o bodlediad barddol Cymraeg hynaf y byd! Yn y bennod hon cawn sgwrs gyda phrifardd y Goron, Rhys Iowerth am ei gerddi arobryn. Hefyd yn trafod gwaith buddugol Alan Llwyd yn y Gadair mae Jo Heyde a'r Prifardd Tudur Dylan Jones. Hefyd cawn wrando ar gerddi a enillodd wobrau mewn eisteddfodau i Gareth Lloyd James ac Alan Iwi. Mwynhewch

Podcast Pêl-droed
Ep.160 – The Dragon On My Shirt with Darren Chetty

Podcast Pêl-droed

Play Episode Listen Later Aug 3, 2023 31:39


The Dragon On My Shirt is a brand new series looking at the experiences of some of the people of colour to represent Wales in football. Produced by East Sleep Media and supported financially by Welsh Government's anti-racism programme, the series is written and presented by Darren Chetty (@rapclassroom). It features the likes of Neil Taylor, George Berry, Wendy Reilly and Safia Middleton-Patel. Darren has also prepared an Info Pack for the series, including an educational Discussion Resource. The series is available to watch on the FAW's RedWall+ streaming channel. Trigger warning: this episode refers to racism and people's experiences of overt racism. No racial slurs are used but they are implied. Cyfres newydd sbon yw The Dragon On My Shirt sy'n edrych ar brofiadau rhai o'r pobl o liw sydd wedi cynrychioli Cymru ym mhêl-droed. Cynhyrchwyd gan East Sleep Media gyda chefnogaeth ariannol oddi wrth raglen gwrth-hiliaeth Llywodraeth Cymru, mae'r gyfres wedi'i hysgrifennu a'i chyflwyno gan Darren Chetty (@rapclassroom). Mae'n cynnwys chwaraewyr megis Neil Taylor, George Berry, Wendy Reilly a Safia Middleton-Patel. Hefyd mae Darren wedi paratoi Pecyn Gwybodaeth ar gyfer y gyfres, gan gannwys Adnodd Trafod addysgol. Mae'r gyfres ar gael i'w gwylio ar RedWall, sianel ffrydio CBDC. Rhybudd: mae'r episod yma yn cyfeirio at hiliaeth a phrofiadau pobl o hiliaeth amlwg. Does dim sarhau hiliol ond maen nhw'n cael eu hawgrymu.

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#80 - Jim Elizondo Real Wealth Ranching- 'A allwn wneud y mwyaf o elw fferm tra hefyd yn gwella'r amgylchedd?'

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear

Play Episode Listen Later Jun 25, 2023 48:38


'Rancher' gwartheg o Texas yw Jim Elizondo sydd â 30 mlynedd o brofiad o reoli da byw mewn amodau hinsawdd amrywiol ar draws America a thu hwnt. Mae ei angerdd yn helpu ffermwyr i adfywio eu tir tra'n cyrraedd y proffidioldeb mwyaf bosib. Mae'n darparu hyfforddiant ‘Real Wealth Ranching' i gleientiaid o bob rhan o'r byd ac mae wedi helpu nifer o fusnesau fferm i gyrraedd y cynhyrchiant mwyaf posibl wrth adfywio eu tir. Yn ddiweddar bu Jim yn cyflwyno mewn digwyddiadau Cyswllt Ffermio, mae'r bennod hon a gyflwynir gan Cennydd Jones yn gyfle arall i glywed cefndir Jim a'i athroniaeth ffermio.

Clera
Clera Ebrill 2023

Clera

Play Episode Listen Later Apr 28, 2023 83:39


Croeso i bennod mis Ebrill 2023 o bodlediad barddol Cymraeg hynaf y byd. Y mis hwn cawn Orffwysgerdd arbennig gan y Prifardd Mererid Hopwood, yn ogystal â chlywed cyfraniadau gan Mererid fel Meuryn a beirdd talwrn a gynhaliwyd ym Mhontyberem. Hefyd, cawn drafodaeth ddifyr gyda Gruffudd Antur am hen drawiadau ym myd y gynghanedd yn y Pwnco. Mwynhewch!

cymraeg croeso hefyd ebrill mwynhewch
Podcast Pêl-droed
Ep. 156 – Zombie Nathan

Podcast Pêl-droed

Play Episode Listen Later Apr 2, 2023 77:17


Russell, Leon and Huw look back at an ideal start to the qualifying campaign for Euro 2024 in Split and at home to Latvia. The international window also saw an historic qualification for the u17s and an impressive friendly win for the u21s. Mae Russell, Leon a Huw yn edrych yn ol ar ddechrau delfrydol i'r ymgyrch rhagbrofol ar gyfer Ewro 2024 yn Split a gartre' i Latfia. Hefyd fe welodd y ffenest rhyngwladol hanes gan y tim o dan 17 a buddugoliaeth wych gan y tim o dan u21. https://soundcloud.com/podcast_peldroed/ep156-zombie-nathan

Clera
Clera Mawrth 2023

Clera

Play Episode Listen Later Mar 30, 2023 78:11


Croeso i bennod mis Mawrth. Gydag arwyddion bod y gwanwyn ar ei ffordd, a chyn hir Eisteddfod arall ym mis awst, cawn sgwrs ddifyr gyda dau a ddaeth yn deilwng o Gadair Eisteddfod `tregaron llynedd, sef Aros Pritchard a'r Prifardd Rhys Iorwerth am ragoriaethau a heriau sgwennu awdl. Hefyd, fe gawn flas o gyfrol newydd o gerddi y Prifardd Hywel Griffiths, 'Y Traeth o Dan y Stryd', yn ogystal a'r Delicassy gan (Tudur) Dylan a chwmni ein berniad miniog Gruffudd Antur ar gyfer llinell gynganeddol ddamweiniol y mis. Mwynhewch!

Hefyd
Diana Luft: Canada, Cymru, a Chymraeg Canol | Pennod 21

Hefyd

Play Episode Listen Later Mar 7, 2023 39:59


Yn y pennod olaf o'r gyfres yma, ein gwestai ydy Diana Luft, sy'n dod o Ganada yn wreiddiol. Mae Diana wedi astudio llawer o hen ddogfennau megis testunau meddygol (Plîs peidiwch â dilyn yr hen gyngor meddygol mae hi'n rhannu o'r oesoedd canol!) Heddiw, mae hi'n gweithio fel cyfieithydd, ac yn y sgwrs yma mae hi'n siarad am ei bywyd yn Nghanada a'r Unol Daleithiau, symud i Gymru, a'i phrofiadau o ddysgu Cymraeg. Mae mwy o wybodaeth am Diana ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.  

Clera
Clera Chwefror 2023

Clera

Play Episode Listen Later Feb 27, 2023 87:25


Croeso i bennod y Mis Bach! Y tro hwn, cawn gyfle am fash-yp cyffrous rhwng Podlediad Clera a Haclediad, sef y podlediad hynaf yn y Gymraeg. Diolch i Sioned Mills a Iestyn Lloyd am ymuno â ni i drafod y posibilrwydd o weld AI yn camu i fyd barddoniaeth Gymraeg drwy raglenni fel ChatGPT a Dall-e. Ydy byd y beirdd yn dod i ben? Neu ydy beirdd am gael help llaw gyda'u crefft, fel y mae'r odliadur yn cynnig help llaw? Hefyd, cawn Orffwysgerdd gan fardd arobryn Cadair Eisteddfod Caerdydd eleni, Non Lewis, a chawn hefyd gwmni Tudur Dylan Jones a Gruffudd Antur. Mwynhewch!

Podcast Pêl-droed
Ep.153: Diolch Joe

Podcast Pêl-droed

Play Episode Listen Later Feb 18, 2023 61:34


With the news that Joe Allen has retired from international football, like London buses, it's a second consecutive tribute episode. Fittingly, it was Valentine's Day and Leon and Russell pay tribute to the heartbeat of the Wales team for the last decade. They also look at the prospects of Wrexham's Paul Mullin receiving a call up to one or other of the international windows in March and June. Wedi i Joe Allen gyhoeddi ei fod yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol, fel bysiau Llundain, dyma rifyn teyrnged olynol. Yn briodol, roedd yn Ddydd Gŵyl Sain Folant ac mae Leon a Russell yn talu eu teyrgend i guriad calon tîm Cymru ers y degawd diwethaf. Hefyd maen nhw'n edrych ar ba obaith sydd gan Paul Mullin o Wrecsam o dderbyn galwad i naill ai'r ffenestr rhyngwladol mis Mawrth neu'r llall ym mis Mehefin.

CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: Meinir Howells (Ffermio!)

CYMERIADAU CYMRU

Play Episode Listen Later Feb 12, 2023 43:46


Un o'r bobl fwyaf ffeind a gweithgar ac un o'r cyflwynwyr mwyaf naturiol ar S4C sy'n wraig gwadd ar y podlediad wythnos hon. Meinir Howells neu i nifer, Meinir Ffermio. Yn ffarmwraig frysur, yn fam ac yn wraig yn ogystal ag un o gyflwynwyr y gyfres Ffermio, mi roedd hi'n bleser cael sgwrsio â hi, a ninnau'n nabod ein gilydd ers blynyddoedd bellach. Sgwrs gwbl naturiol am ei gyrfa, magwraeth, cyflwyno, Brexit, Mudiad y ffermwyr ifanc ac wrth gwrs, ffermio! Hefyd, cwis a 10 cwestiwn a lot o hwyl gydag yffach o gymeriad!

Hefyd
Barbara a Bernard Gillespie: ymddeol, grwpiau cymunedol a byw ar y ffin | Pennod 20

Hefyd

Play Episode Listen Later Dec 16, 2022 37:07


Ein gwesteion ni y tro yma ydy Barbara a Bernard Gillespie. Symudodd y cwpl o Wolverhampton yn Lloegr i ganolbarth Cymru ar ôl iddyn nhw ymddeol. Yn y blynyddoedd ers hynny maen nhw wedi dysgu Cymraeg ac maen nhw'n defnyddio'r iaith yn aml iawn. Yn y sgwrs yma rydyn ni'n trafod eu profiadau o symud i Gymru a dysgu'r iaith, y gweithgareddau a chlybiau cymdeithasol Cymraeg yn eu hardal nhw, a thraddodiad y Plygain yn ystod cyfnod y Nadolig. Mae mwy o wybodaeth am Barbara a Bernard ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.

Podpeth
Podpêl-droed 2022 (v Iran)

Podpeth

Play Episode Listen Later Nov 26, 2022 39:25


Mae Iwan a Spurs Mel yn trafod ail gêm Cymru yng Nghwpan y Byd 2022 wrth iddynt golli 2-0 i Iran. Mae Mel yn darllen barddoniaeth Ryan Giggs, ac yn gofyn y cwestiwn - Pwy oedd Hitler?  Hefyd, cawn hanes sioe Spotify newydd Iwan (The Internet Radio Tapes). Mae Hywel ar ei ffordd i gig ym Mryngwran - Bragdy'r Beirdd, ac yn sôn am ei gigs ar y gweill.

Hefyd
Steve Dimmick, Dyn Busnes o'r Cymoedd | Pennod 19

Hefyd

Play Episode Listen Later Nov 17, 2022 37:57


Ein gwestai ni y tro yma ydy Steve Dimmick, cyd-sylfaenydd (co-founder) y cwmni Doopoll, sy'n gwneud arolygon ar lein (online surveys). Cafodd e ei fagu yng nghymoedd de-ddwyrain Cymru, ac ar ôl cyfnod yn Abertawe a Llundain mae e'n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn. Yn y pennod yma, rydyn ni'n trafod y Gymraeg yn y byd busnes a thechnoleg, yn ogystal â phrofiadau Steve o dysgu'r iaith a'i defnyddio hi gyda theulu, ffrindiau ac yn y gymuned. Hefyd yn y pennod yma rwy'n rhannau rhai o'ch atebion i'r #CwestiwnYMis ar Twitter: ‘Dysgwyr: ble rwyt ti'n defnyddio dy Gymraeg?'. Mae mwy o wybodaeth am Steve, gyda geirfa o'r pennod yma a linciau perthnasol, ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.  

spotify google podcasts yn cymru gymraeg pennod hefyd abertawe nghaerdydd steve dimmick cafodd cymoedd
Beti a'i Phobol
Euros Lyn

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Nov 14, 2022 51:20


Beti George yn sgwrsio gyda'r cyfarwyddwr ffilm a theledu Euros Lyn. Mae'n son am ei blentyndod a'i fagwraeth mewn llefydd fel Guyana, Llanrug a Chwmtawe,. Hefyd, mae'n sgwrsio am ei waith yn gweithio ar gyfresi fel Dr Who, a'i gynhyrchiad diweddaraf sef y ffilm Dream Horse.

guyana dream horse euros lyn hefyd beti george
Beti a'i Phobol
Eluned Morgan AS

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Nov 6, 2022 51:49


Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a'r Gwasanaethau Cymdeithasol yw gwestai Beti George. “Mae 'na real cyfle i wneud gwahaniaeth pan ma' chi sydd yn gyfrifol am 50% o gyllideb Llywodraeth Cymru”. Dyna ddywed Eluned Morgan AS wrth Beti George, sy'n ei holi am ei gwaith a'i chyfrifoldebau fel Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Mae Eluned Morgan yn y swydd yma ers 18 mis ac mae Beti yn ei holi am yr heriau mae hi'n ei wynebu - o gyfnod Cofid i'r rhestrau aros am driniaethau NHS. Hefyd mae'n sôn am ei gwr sef “ei ffrind gorau” y meddyg a'r offeiriad Rhys Jenkins, a'u hoffter o ganeuon Queen.

nhs beti hefyd llywodraeth cymru beti george
Hefyd
Jo Heyde, Bardd o Lundain | Pennod 18

Hefyd

Play Episode Listen Later Oct 20, 2022 20:37


Yn y pennod yma rwy'n siarad gyda Jo Heyde. Dechreuodd Jo ddysgu ar ôl treulio gwyliau yng Nghymru a chlywed sgwrs Cymraeg yn y gwasanaethau traffordd! Erbyn hyn mae hi'n rhan o'r gymuned Gymraeg yn Llundain, ac mae hi wedi darganfod barddoniaeth ac ennill gwobrau am ei cherddi! Hefyd yn y pennod yma rwy'n rhannau rhai o'ch atebion i'r ‘Cwestiwn Y Mis' postiais i ar Twitter ‘Pam wnest ti ddechrau dysgu Cymraeg?'. Mae gwybodaeth am Jo, gyda geirfa a linciau perthnasol, ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.

Hefyd
Joe Healy, Dysgwr y Flwyddyn 2022 | Pennod 17

Hefyd

Play Episode Listen Later Sep 15, 2022 43:06


Yn y pennod yma rwy'n sgwrsio gyda Joe Healy, ennillydd Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol 2022. Symudodd e i Gaerdydd o Lundain, er mwyn astudio yn y Prifysgol. Yn fuan iawn, roedd e wedi gwneud ffrindiau gyda Chymry Cymraeg a dechreuodd e ddysgu'r iaith. Trafodon ni sut mae siaradwyr Cymraeg yn gallu helpu dysgwyr, ei fand roc sy'n chwilio am enw (rhannwch eich syniadau!), a'r argraff positif mae pêl droed wedi gwneud o ran yr iaith. Gallwch chi weld lluniau o Joe ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.

Hefyd
Josh Osborne, Enillydd Medal y Dysgwyr | Pennod 16

Hefyd

Play Episode Listen Later Aug 18, 2022 24:03


Yn y pennod yma, dwi'n siarad gyda Josh Osborne, enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd 2022. Mae Josh yn 24 oed ac yn dod o Poole yn Ne Lloegr yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae e'n byw yn Abertawe. Mae ei bartner e yn siarad Cymraeg, felly yn ystod y cyfnod clo (lockdown) penderfynodd e ddysgu'r iaith ar lein. Gallwch chi weld lluniau o Josh yn yr Eisteddfod, ac ymarfer ei hobi (ffitrwydd polyn) ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.

Hefyd
Rhian Howells, Awdur ac Athrawes o Ardal Abertawe | Pennod 15

Hefyd

Play Episode Listen Later Jul 21, 2022 21:41


Y mis yma, dwi'n siarad gyda Rhian Howells o ardal Abertawe. Mae Rhian yn athrawes mewn ysgol Saesneg sy'n angerddol am y Gymraeg. Yn ogystal â'i gwaith, mae hi'n awdur plant, ac yn y sgwrs rydyn ni'n trafod ei llyfr hi, 'Princess Pirate Pants'!  Mae mwy o wybodaeth amdani hi ar fy ngwefan i. Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter

Hefyd
Helgard Krause, Almaenes a Phrif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru | Pennod 14

Hefyd

Play Episode Listen Later Jun 16, 2022 43:06


Y tro yma rwy'n siarad gyda Helgard Krause. Cafodd Helgard ei magu yng ngorllewin yr Almaen. Mae hi wedi dysgu Cymraeg ac erbyn hyn mae hi'n gweithio fel Brif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru. Rydyn ni'n trafod ei phlentyndod ger y ffin gyda Ffrainc, ei barn hi am Rwsia ac Wcráin, Ewrop a Brexit, ei chyngor neu 'tips' am ddysgu Cymraeg, ac wrth gwrs, llyfrau!  Mae mwy o wybodaeth, geirfa a lluniau ar fy ngwefan i. Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter

Hefyd
Rhifyn arbennig: Rich ac Elin | Pennod 13

Hefyd

Play Episode Listen Later May 19, 2022 7:08


Mae'r pennod yma yn un arbennig... Fi (Rich) yw'r gwestai, ac fy merch, Elin yw'r cyflwynydd! Mae mwy o wybodaeth ar fy ngwefan i. Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan. Cyflwynydd: Elin Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter

Hefyd
Matt Davies, Ffan Chwaraeon o Benybont Ar Ogwr | Pennod 12

Hefyd

Play Episode Listen Later Apr 27, 2022 18:32


Y mis yma rydyn ni'n cwrdd â Matt Davies – ffan chwaraeon o Benybont Ar Ogwr. Mae Matt yn gweithio i Chwaraeon Cymru, y sefydliad sy'n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Yn ein sgwrs, rydyn ni'n trafod pwysicrwydd chwaraeon, heriau a tips dysgu Cymraeg, a llwyddiant tîm pêl droed Cymru. Mae mwy o wybodaeth a lluniau ar fy ngwefan i. Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter

Hefyd
Grant Peisley, Datblygwr Ynni a Thafarn Cymunedol o Awstralia | Pennod 11

Hefyd

Play Episode Listen Later Mar 17, 2022 41:35


Y mis yma rydyn ni'n clywed stori siaradwr Cymraeg o Awstralia, sy'n byw yn ardal Caernarfon, Gwynedd erbyn hyn. Mae Grant Peisley wedi cyfrannu'n fawr at gymunedau Cymreig - nid yn unig trwy ddysgu'r iaith, ond hefyd trwy prosiectau cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae mwy o wybodaeth a lluniau ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter

Hefyd
Dr Ben Ó Ceallaigh, Arbenigwr ac Ymgyrchydd Iaith o Iwerddon | Pennod 10

Hefyd

Play Episode Listen Later Feb 17, 2022 31:53


Y tro yma rwy'n siarad gyda'r arbenigwr ac ymgyrchydd iaith, Dr Ben Ó Ceallaigh, sy'n dod o Iwerddon yn wreiddiol. Pan roedd e'n ifanc, dechreuodd e siarad Gwyddeleg ar ôl dysgu mwy am hanes ei wlad. Symudodd e i Aberystwyth er mwyn gweithio yn y Brifysgol yno, ac wrth gwrs, dysgodd e Gymraeg hefyd. Mae mwy o wybodaeth a lluniau ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter

Hefyd
David Clubb, Amgylcheddwr ac Arbenigwr Technoleg | Pennod 9

Hefyd

Play Episode Listen Later Jan 20, 2022 36:54


David Clubb yw fy ngwestai y tro yma. Mae Dave yn dod o ardal Penybont ar Ogwr yn wreiddiol, ond heddiw mae e'n byw yng Nghaerdydd. Mae e'n gadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, ac yn gweithio fel un o bartneriaid y cwmni Afallen. Mae e wedi dysgu Cymraeg, yn ogystal â sawl iaith arall, ac mae e wedi byw yn Sbaen, Denmarc ac India. Trafodon ni ei waith amgylcheddol a'i ddiddordeb mewn technoleg.  Mae mwy o wybodaeth a lluniau ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter

Hefyd
Liz Day, Podlediwr a Pherfformiwr Syrcas | Pennod 8

Hefyd

Play Episode Listen Later Nov 17, 2021 22:04


Liz Day yw'r gwestai y tro yma. Mae Liz yn dod o Swydd Amwythig, Lloegr. Symudodd hi i Gaerdydd, ble mae hi wedi gweithio fel newyddiadurwr i Wales Online. Erbyn hyn, mae hi'n gwneud nifer o bethau diddorol - sy'n cynnwys sgiliau syrcas, a gwneud blog a phodlediad ei hun, Liz Learns Welsh. Mae mwy o wybodaeth a lluniau ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter  

Hefyd
David Thomas, Dysgwr y Flwyddyn 2021 | Pennod 7

Hefyd

Play Episode Listen Later Oct 21, 2021 37:38


Y gwestai y tro yma ydy David Thomas. Ennillodd David wobr Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn eleni, yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn wreiddiol o Gaerdydd, roedd e'n byw yn Lloegr am flynyddoedd, ond mae e wedi symud yn nôl i Gymru gyda'i ŵr. Mae e'n rhedeg y cwmni Jin Talog ac mae e'n awyddus iawn i ddefnyddio Cymraeg yn y gymuned. Ewch i fy ngwefan i weld lluniau a geirfa'r pennod yma. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts  

Hefyd
Rodolfo Piskorski, Dinesydd Cymraeg o Frasil | Pennod 6

Hefyd

Play Episode Listen Later Sep 21, 2021 29:21


Ein gwestai ni y tro yma ydy Rodolfo Piskorski. Symudodd e i Gymru o Frasil, ac mae e wedi bod yn y newyddion am fod y person cyntaf i gymryd y prawf dinasyddiaeth Prydeinig (British citizenship test) yn Gymraeg! Erbyn hyn, mae Rodolfo yn astudio ieithoedd a dysgu Portiwgaleg i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae e wedi creu gwefan a fideos i helpu dysgwyr eraill - mae mwy o wybodaeth am hyn, a lluniau o Rodolfo, ar y wefan. Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadael adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts

Esgusodwch fi?
Ti'n byw yn Hollywood?

Esgusodwch fi?

Play Episode Listen Later May 22, 2021 37:50


Bethan Marlow sy'n cadw cwmni i ni yn y bennod yma, yr holl ffordd o Flordia! Mae hi'n ddramodydd, yn gynhyrchydd theatr ac mae ei hanesion proffesiynol yr un mor ysbrydoledig â'i rhai personol hi.Hefyd, mi fyddwn ni'n trafod llwyth o newyddion LHDTC+ yr wythnos o Gymru a thu hwnt. Mwynhewch!Iestyn a Meilir :)