Beti a'i Phobol

Follow Beti a'i Phobol
Share on
Copy link to clipboard

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

BBC Radio Cymru


    • May 25, 2025 LATEST EPISODE
    • weekly NEW EPISODES
    • 45m AVG DURATION
    • 615 EPISODES


    More podcasts from BBC Radio Cymru

    Search for episodes from Beti a'i Phobol with a specific topic:

    Latest episodes from Beti a'i Phobol

    Ian Keith Jones

    Play Episode Listen Later May 25, 2025 48:32


    Ian Keith, sydd newydd ymddeol fel Prifathro yw gwestai Beti George. Fe adawodd y byd addysg llynedd ar ôl bod yn Bennaeth ysgol San Siôr, Llandudno. Fe enillodd sawl gwobr, gan gynnwys Pennaeth y Flwyddyn gyda'r Daily Express a'r Daily Post; gwobr David Bellamy am ysgol oedd yn gwneud gymaint gyda byd natur; a gwobr werdd y World Wildlife Fund.Roedden nhw'n cadw ieir a gwenyn ac yn gwerthu'r cynnyrch yn y siopau lleol. Mae'n trafod heriau byd addysg, ac yn rhannu hanesion ei blentyndod. Mae'n hoff iawn o gasglu planhigion ac yn teithio pellteroedd i weld adar a gwyfynod prin.

    Iona Roberts

    Play Episode Listen Later May 18, 2025 48:51


    Iona Roberts, neu Iona Pen Ffridd i bawb sy'n ei hadnabod yw gwestai Beti a'i Phobol.Mae Iona yn ffarmwraig ac yn gadwraethwr, mae'n hyfforddwr yoga, yn gyn warden gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac yn fam i 3 o blant (Nel, Nedw a Joe) a gwraig i John. Mae hi hefyd yn rhedeg rasys Iorn Man. Ganwyd ar fferm Pen Ffridd, Penmachno (pentref ger Betws y Coed, yn Sir Conwy). Cafodd ei magu gyda'i Nain a'i Thaid a 3 ewythr oedd yn adnabyddus yn yr ardal sef Ifor, Elw a Hyw."Tyfais fyny yma ym Mhen Ffridd, gyda digon o ryddid ac awyr iach, erbyn hyn dwi'n deall pa mor unigryw oedd fy magwraeth erbyn hyn!" Bu'n gweithio yn Llundain am gyfnod gyda chwmni Saatchi and Saatchi ac yn Wimbledon ble daeth ar draws Pat Cash. Ond dychwelyd i ffermio gwnaeth hi i Pen Ffridd, ac mae'n angerddol am amaethu mewn dull cynaliadwy.Cawn hanesion difyr ei bywyd ac mae'n dewis caneuon sydd yn ffefrynnau gan gynnwys Meic Stevens – Gwenllïan. Dyma'r gân oedd yn chwarae pan gerddodd Iona mewn i'r gwasanaeth priodas.

    Welsh Whisperer - Andrew Walton

    Play Episode Listen Later May 11, 2025 48:56


    Y canwr gwlad Andrew Walton o Gwmfelin Mynach yw gwestai Beti a'i Phobol. Mae hefyd yn cael ei adnabod fel y Welsh Whisperer, ac mae'n dathlu 10 mlynedd eleni ers dechrau perfformio. Mi fydd y caneuon 'Ni'n Beilo Nawr' a 'Bois y JCB' yn gyfarwydd i'w ffans.Cafodd ei fagu yng Nghwmfelin Mynach yn Sir Gaerfyrddin. Mae bellach yn byw yng Nghaernarfon, Gwynedd.Graddiodd mewn newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Sheffield , a bu'n athro ysgol gynradd yn y gogledd am sawl blwyddyn, cyn mentro o ddifri i'r byd perfformio.Mae'r Welsh Whisperer bellach yn wyneb cyfarwydd ar y teledu, yn perfformio canu gwlad mewn gwyliau cerddorol ac yn denu niferoedd i neuaddau pentref ar hyd y wlad.Mae'n cyflwyno cyfres o bodlediadau newydd ' Y Byd yn Grwn' sy'n rhoi cipolwg y tu ôl i'r llenni ar glybiau pêl-droed llawr gwlad a'r gwirfoddolwyr allweddol sy'n eu rhedeg.Cawn hanesion difyr ei fywyd, ac mae'n dewis caneuon Gwyddelig ac un gan ei arwr Tecwyn Ifan.

    welsh whisperer jcb beti gwynedd andrew walton cawn cafodd nghaernarfon
    Mandy Watkins

    Play Episode Listen Later May 4, 2025 48:57


    Mandy Watkins, cynllunydd cartref a chyflwynwraig ar gyfres S4C Dan Do, Hen Dŷ Newydd a 'BBC Wales' Home of the Year' yw gwestai Beti George.Cafodd ei magu yn y Fali, ar Ynys Môn mewn tŷ o'r enw Graceland, a hynny gan fod ei rhieni yn hoff iawn o'r canwr Elvis, ac mae ganddi atgofion hapus iawn o blentyndod yn gwylio ffilmiau Elvis ar y teledu gyda'i theulu.Doedd bod yn gynllunydd cartrefi ddim yn rhan o'r cynllun gwreiddiol, fe raddiodd mewn cymdeithaseg a busnes ym Mhrifysgol Bangor. Bu'n gweithio gyda chwmni gwerthu gwyliau yng Nghaer a hefyd i gynllunydd cartrefi. Bu'n gweithio gyda Cyngor Cefn Gwlad Cymru am 10 mlynedd ac fe gafodd gyfnod yn labro i'w thad, cyn adnewyddu cartref iddi hi a'i theulu. Mae wedi sefydlu busnes ei hun a'r Ynys Môn, Space Like This.Mae'n trafod cael ei bwlio yn yr ysgol, pwysigrwydd cwnsela a'i chyfnod yn dioddef o bulimia. Mae hi'n Fam i 3, ac yn rhannu straeon ei bywyd prysur ac yn dewis 4 can yn cynnwys un gan Amy Winehouse, Elvis a Bryn Fon.

    Iwan Steffan

    Play Episode Listen Later Apr 27, 2025 48:56


    Beti George sydd yn holi Iwan Steffan, cyflwynydd a dylanwadawr ar wefannau cymdeithasol, er nad ydi Iwan yn rhy hoff o'r term dylanwadwr. Yn wreiddiol o bentref Rhiwlas, tu allan i Fangor, ond mae bellach yn byw yn Lerpwl, ac yn cael ei adnabod gan bobol y ddinas oherwydd ei bresenoldeb ar Tik Tok, sydd yn ei gyflogi fel llysgennad swyddogol, mae dros 52 o filiynau o bobol wedi gweld ei fideos am ysbrydion Lerpwl. Mae'n rhan o deulu creadigol - y cerddor Steve Eaves yw ei Dad ac mae Iwan yn frawd bach i Lleuwen Steffan a Manon Steffan Ros. Mae'n trafod hanesion ei fywyd, yn credu bod gormod o bwysau ar blant i lwyddo yn yr ysgol mewn arholiadau, " Ges i TGAU Cymraeg ac Addysg Grefyddol. Tyda ni gyd ddim yn dysgu fel ‘na – dylsa ni ddysgu am brynu tai, pres, colled, iechyd meddwl“.Tydi'r ffordd ddim wedi bod heb ei heriau, rhai yn boenus iawn, ond mae Iwan yn hapus erbyn hyn ei fod yn gweithio tipyn yng Nghymru hefyd yn cyflwyno rhaglenni i S4C. “ dwi'n dathlu fy hun rŵan – dwi wedi treulio gymaint o'm mywyd yn anhapus”

    Dr Llinos Roberts

    Play Episode Listen Later Apr 13, 2025 48:39


    Roedd Dr Llinos Roberts yn feddyg teulu yn y Tymbl am flynyddoedd, cyn gorfod orfod cau yn 2024 oherwydd problemau recriwtio.Mae'n trafod sefyllfa'r NHS, yn sôn nad oes angen A* yn y lefel A i fod yn feddyg da. Mae sgiliau empathi a chyfathrebu yn holl bwysig, tydi rhain ddim yn cael eu mesur, ac mae angen meddygon o bob math o gefndir cymdeithasol. Mae'r iaith Gymraeg hefyd yn ganolog i gynnal y gofal iechyd gorau.Mae Llinos yn cyflwyno eitemau meddygol ar Prynhawn Da ar S4C, ac yn mwynhau'n fawr. Mae hefyd yn sgwennu erthyglau meddygol i gylchgrawn Y Wawr ers rhyw 10 mlynedd.

    Kathy Gittins

    Play Episode Listen Later Apr 6, 2025 47:59


    Kathy Gittins, artist a gwraig fusnes yw gwestai Beti George. Cawn hanesion difyr ei magwraeth ar fferm fynydd Penrhos, uwchben Pontrobert a Meifod yn Sir Drefaldwyn. Roedd y capel mor bwysig i fagwraeth Kathy, i Gapel Gad yr oedd hi'n mynd bob dydd Sul gyda'i theulu. Y capel drws nesa, rhyw filltir i fyny'r lon oedd Capel Penllys, sef lle sefydlwyd Aelwyd Penllys gan y diweddar Parch Elfed Lewis, ac mae hi'n hel atgofion am yr eisteddfodau rhwng y ddau gapel a mynd i'r aelwyd. Fe astudiodd gwrs celf yn Leeds, cwrs cynllunio graffeg ac wedyn agor oriel ym Meifod a hynny yn ystod cyfnod anodd iawn iddi yn ei bywyd. Fe ddatblygodd yr Oriel yn siop ddillad, a bu'n rhedeg 3 siop Kathy Gittins ym Mhwllheli, Trallwng a'r Bont-faen, ond bu cyfnod covid yn heriol a Brexit. Fe benderfynodd gau'r busnesau llynedd. Mae hi'n Fam i 4, ac yn Nain i 12eg o wyrion ac wyresau.

    Rhian Bowen-Davies

    Play Episode Listen Later Mar 30, 2025 50:13


    Beti George sydd yn sgwrsio gyda Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Yn wreiddiol o Aberpennar ger Aberdâr, dechreuodd Rhian ei gyrfa fel swyddog heddlu, bu gyda nhw am 7 mlynedd ond y 3 mlynedd ola yn gweithio gyda aml asiantaeth efo trais yn y cartref. Penodwyd hi'n Gynghorydd Cenedlaethol cyntaf Cymru ar gyfer mynd i'r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn 2015. Cyn iddi ymgymryd â'i swydd fel Comisiynydd, cafodd Rhian ei chydnabod fel Cadeirydd Arbenigol yr Adolygiadau Dynladdiadau Domestig sy'n ymwneud â phobl hŷn.

    Dr Eurfyl ap Gwilym

    Play Episode Listen Later Mar 23, 2025 50:07


    Dr Eurfyl ap Gwilym yr economegydd yw gwestai Beti George. Daeth un digwyddiad yn 2010 ag ef i sylw mawr pan fentrodd herio Jeremy Paxman, un o'r newyddiadurwyr uchaf ei barch ym Mhrydain. Drannoeth 'roedd y gwefannau ar dân. Mi ddaru Eurfyl elwa o'r ffaith fod o ddim yn cyfadde' ei fod o'n anghywir ac mi ddaliodd arno. Mae o di cael pobol yn dod ato yn ei adnabod o'r teledu - yng Nghaerdydd a Llundain … “You're the Paxman man! Well Done”.Dechreuodd ei yrfa gyda chwmni Unilever ar gynllun datblygu rheolwyr busnes. Bu'n gweithio gyda chwmni John Williams yn rheoli pob agwedd o'r busnes. Bu'n Bennaeth adran gwerthu cyfrifiaduron gyda chwmni mawr electroneg Philips, cwmni rhyngwladol – o'r Iseldiroedd. Bu'n gweithio gyda GE. Bu'n brif weithredwr i gwmni meddalwedd rhyngwladol yn Llundain ( Cwmni o UDA ydoedd). Gwerthu a datblygu meddalwedd i fanciau.Bu'n gweithio gyda'r Principality yn ddirprwy gadeirydd ac yn gyfarwyddwr anweithredol byrddau technolegol, a bu'n gweithio gyda Phlaid Cymru. Bu'n helpu Gwynfor Evans yn ystod cyfnod 1966- '67. " Doedd dim llawer o adnoddau pan aeth Gwynfor mewn i'r Senedd yn '66, 'roeddem ni'n gosod cwestiynau Seneddol, doedd dim google, a dim modd cael llawer o wybodaeth, felly roedden ni'n codi llawer iawn o gwestiynau".Cawn hanesion difyr ei fywyd ac mae'n dewis 4 cân gan gynnwys Dafydd Iwan a Karl Jenkins.

    Mark Williams

    Play Episode Listen Later Mar 16, 2025 50:09


    Mae Mark Williams yn gyn-nofiwr Paralympaidd, fe yw sylfaenydd LIMB-art - cwmni sy'n cynhyrchu cloriau unigryw a hwyliog ar gyfer coesau prosthetig .Newidiodd bywyd Mark Williams o'r Rhyl un diwrnod ym Mehefin 1982 pan gollodd ei goes chwith mewn damwain ffordd wrth seiclo adref o'r ysgol. Roedd Mark yn 10 mlwydd oed.Mae'r ddamwain wedi siapio ei fywyd a'i yrfa mewn nifer o ffyrdd ac wedi arwain Mark i sefydlu cwmni yn 2018 o'r enw LIMB-art sy'n dylunio gorchuddion ar gyfer coesau prosthetig.Mae ei waith wedi cael ei gymeradwyo gan y Brenin yn 2024 gyda'r cwmni yn ennill un o Wobrau'r Brenin am ei fenter.Mae wedi ennill nifer o wobrau am ddyfeisio pethau a hefyd 30 mlynedd nol fe enillodd fedal aur, arian ac efydd ym Mhencampwriaethau'r byd i'r anabl fel nofiwr Paralympaidd. Mae ei stori yn anhygoel!

    Teleri Wyn Davies.

    Play Episode Listen Later Mar 9, 2025 50:13


    " Mae bywyd yn rhy fyr" meddai Teleri Wyn Davies mewn cyfweliad arbennig gyda Beti George. " Mae beth sydd wedi digwydd i Dad wedi siapio fi, ac wedi neud i fi edrych ar fywyd mewn ffordd wahanol".Mae Teleri yn un o gyn-chwaraewyr tîm rygbi Cymru, ac wedi derbyn gwahoddiad i gael chwarae a hyfforddi'r gamp yn Tsieina. Mae hi'n byw yn ninas Shenzen sydd wedi ei lleoli yn ne-ddwyrain Tsieina, dinas gyda phoblogaeth o 17.5 miliwn sy'n cysylltu Hong Kong â'r tir mawr.Mae hi hefyd yn credu y byddai ei phenderfyniad wedi cael sêl bendith ei thad, Brian 'Yogi' Davies, a fu farw yn 56 oed - chwe blynedd ar ôl cael ei barlysu wrth chwarae ei gêm olaf i Glwb Rygbi'r Bala. Naw oed oedd Teleri ar y pryd, ac mae hi'n cofio'r diwrnod yn glir, ac yn trafod dylanwad ei thad a'i mam.Mae hi'n trafod rygbi merched ac yn rhannu straeon ei bywyd yn ogystal â dewis caneuon sydd wedi dylanwadu arni, gan gynnwys cân Mynediad am Ddim - Cofio dy Wyneb. Hon oedd y gân ar gyfer angladd Dad. "Mae jyst yn gân mor neis a mor agos i nghalon i. " Mi ddaru'r hogiau rygbi ddod at ei gilydd a chanu hon.

    Gareth Parry

    Play Episode Listen Later Feb 23, 2025 50:18


    Yr arlunydd o Flaenau Ffestiniog, Gareth Parry, yw gwestai Beti George. Magwyd yn y tŷ lle ganwyd ei Fam a'i Nain yn Manod, Blaenau Ffestiniog. Cawn hanesion difyr ei fagwraeth yn ogystal â'i hanes yn denig o Blaenau ar drên gyda'i ffrind ysgol am "fywyd gwell" yn Llundain a hynny yn ei arddegau. Wedi gadael ysgol, fe aeth i'r coleg celf ym Manceinion, cyfnod y mods a'r rocers a'r gerddoriaeth soul. O fewn dim amser, mi roedd y teimlad o gaethiwed yn ôl, rhyw deimlad fod o yn y carchar eto (fel roedd yn teimlo adre efo Dad) . Daeth y rebel allan ynddo ac wedyn daeth y dylanwadau o'r tu allan i'r coleg. Gadawodd y coleg a dod 'nôl i weithio yn y chwarel yn Blaenau. Dylanwadodd y naturiaethwr Ted Breeze arno, a bu'n gwerthu lluniau i'r cylchgrawn Country Life. Mae bellach yn gwerthu ei waith mewn orielau celf yn Llundain ac yng Nghymru.

    dad fam gareth parry nain yr country life wedi nghymru cawn blaenau ffestiniog daeth beti george
    Georgia Ruth

    Play Episode Listen Later Feb 16, 2025 50:15


    Georgia Ruth, y gantores a'r gyflwynwraig yw gwestai Beti George. Mae wedi rhyddhau 4 albwm, ac yn ystod y cyfnod clo, mi ddechreuodd sgwennu ychydig bob dydd. Mi ddaru hunan gyhoeddi ei nofel gyntaf “Tell Me Who I am”. Cafodd gynnig wedyn i sgwennu yn Gymraeg – Casglu Llwch, sef casgliad o fyfyrdodau ganddi.Roedd llynedd yn dipyn o flwyddyn rhwng popeth! Roedd ganddi albwm allan mis Mehefin. Roedd hi'n cyhoeddi llyfr Saesneg yr un cyfnod ac yn cyhoeddi llyfr Cymraeg mis Tachwedd. A dros yr haf – ar lwyfan Sesiwn Fawr yn Nolgellau - fe aeth Iwan ei gwr yn sâl, roedd bron a gorffen ei set (efo Cowbois) pan gafodd strôc ar y llwyfan. Mae Georgia yn trafod y cyfnod yma, a sut y gwnaeth hi ac Iwan ymdopi.Mae hi'n fam i 3 bellach, recordiwyd y sgwrs cyn genedigaeth Alma Gwen.

    iwan cymraeg saesneg georgia ruth mehefin tachwedd cafodd beti george
    Lowri Hedd

    Play Episode Listen Later Feb 9, 2025 50:25


    Mae Lowri yn gweithio gyda GwyrddNi, mudiad gweithredu ar newid hinsawdd yn Dyffryn Peris, sy'n rhoi'r gymuned wrth galon y cynllun. "Dwi'n actifydd, yn amgylcheddwr, yn drwsiwr ac yn ail-bwrpaswr. Mae prynwriaeth a siopau tsiaen yn fy ngwylltio a fydda'i ddim yn hedfan, o ran egwyddor."Yn Fardd, yn Wrach Fodern ac yn aelod o Urdd Derwyddon Môn, yn fam i 3 o fechgyn ac yn Nain i un.Mae hi'n wyres i'r enwog fardd o Fôn, Machraeth ac fe dreuliodd Lowri flynyddoedd yn ei gwmni " roedd Taid yn siarad mewn cynghanedd" meddai ac yn ddylanwad mawr. " Mae sain y gerdd dafod yn rhan ohona'i". Mae hi yn byw bywyd prysur a diddorol, ac yn credu yn yr ysbrydol " da ni'n fwy na chorff a gwaed". Mae hi'n dewis 4 can, yn cynnwys can Lleuwen – Bendigeidfran ddaeth allan ar ôl canlyniad Brexit. “Mae angen pontydd rhyfeddol”. Mae Lowri yn teimlo reit gryf am hyn. Mae hi'n teimlo ei bod yn reit aml yn pontio rhwng gwahanol garfannau o gymdeithas. Mae hefyd yn dewis artist o'r Iwerddon sy'n canu caneuon gwleidyddol, Lisa O'Neill –gan ddewis y gan If I Was a Painter.

    Glenda Jones-Williams

    Play Episode Listen Later Feb 2, 2025 49:45


    Glenda Jones-Williams Is lywydd pobol a diwylliant Gogledd Ewrop ac Asia a'r Môr Tawel gyda Coca Cola yw gwestai Beti George.Yn wreiddiol o Frynaman fe gafodd gyfnod yn gweithio ym myd y gyfraith ac wedyn cwympo mewn i'r byd corfforaethol ac i fyd adnoddau dynol (Human Resources neu Personnel gynt neu People and Culture fel maen nhw'n cael eu hadnabod yn Coca Cola). Mae wedi gweithio gyda Coca Cola ers tua 18 mlynedd bellach.Tydi methu credu fod merch sy'n siarad Cymraeg ac yn dod o Frynaman mewn swydd uchel yn y byd corfforaethol. Y cynllun oedd bod yn gyfreithwraig am byth. Fe gafodd ei 'head huntio' i'r swydd, ac fe gynigiwyd swydd ryngwladol iddi ond wedi ei leoli yn Llundain, ond mi roedd ei mab, Harri newydd ei eni ac roedd hi am iddo gael magwraeth Gymraeg a doedd hi ddim isio symud i Lundain, felly mi ddaru berswadio ei phennaeth yn Atlanta fod posib neud y swydd yn unrhyw le!Mae'n trafaelio'r byd efo'i gwaith – Awstralia, Ewrop i gyd, Phillipines, Jakarta, Bali, India ac America.

    Daf James

    Play Episode Listen Later Jan 26, 2025 63:51


    Daf James, y dramodydd, cerddor, cyfansoddwr, perfformiwr ac awdur yw gwestai Beti George. Fe gafodd lwyddiant ysgubol diweddar gyda'i gyfres deledu Lost Boys and Fairies, ac mae'n trafod yr heriau sydd yn dod yn sgil ysgrifennu. Mae yn rhannu ei brofiad o fabwysiadu dau fachgen a merch fach gyda'i ŵr, Hywel, ac yn trafod sut mae hynny wedi newid eu byd. Fe ddaeth yn rhiant yn fuan ar ôl colli ei Fam, ac mae'n trafod effaith galar gyda Beti.Ei gyngor i ysgrifenwyr ifanc yw “Y mwyaf authentic ych chi – mae'r stori yn mynd yn bellach, gonestrwydd mae cynulleidfa eisiau.”Mae'n hoff iawn o'r grŵp Eden a Caryl Parry Jones, ac yn credu eu bod yn gwneud gwaith ffantastig yn gymdeithasol o ran iechyd meddwl, a'u bod wedi esblygu gydag amser, rhaid gwneud os ti'n artist.

    Heledd Wyn

    Play Episode Listen Later Jan 19, 2025 50:45


    Heledd Wyn yw gwestai Beti George mae'n ymchwilio i ddyfodol ein gwlad wrth i'r byd gynhesu. Mae hi'n credu bod rhaid i ni feddwl yn wahanol am y ffordd i ni'n cynhyrchu bwyd. Mae hi'n cyfarwyddo a chynhyrchu yn y byd ffilm a theledu, ac mae'n angerddol am y maes. Mae hi hefyd wrth ei bodd yn barddoni a chynganeddu a chanu, ac fe gawn glywed hi'n canu cân hyfryd mae hi wedi ei ysgrifennu gyda'i merch Alys Mair 'Camu Mlaen' ar gyfer ei mab tra ‘roedd e'n mynd trwy gyfnod anodd.

    heledd beti george
    Noel Thomas a Siân Thomas: Rhaglen 2

    Play Episode Listen Later Jan 12, 2025 50:57


    Dyma'r ail raglen lle mae Beti George yn sgwrsio gyda'r cyn is-bostfeistr Noel Thomas a'i ferch Siân am hanes eu brwydr yn erbyn y Swyddfa Bost. Cafodd Noel ei gyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug fel rhan o sgandal Horizon a'i garcharu am naw mis yn 2006. Yn y rhaglen hon cawn ei hanes yn y carchar a'r ymdrechion yn dilyn hynny i glirio ei enw.

    horizon yn dyma beti george
    Noel Thomas a Siân Thomas: Rhaglen 1

    Play Episode Listen Later Jan 5, 2025 56:37


    Yn y gyntaf o ddwy raglen, Beti George sydd yn sgwrsio gyda Noel Thomas, cyn is-bostfeistr a'i ferch Siân am fagwraeth a gyrfa'r ddau yn Ynys Môn ac fel yr oedd Swyddfa Bost Gaerwen yn mynd yn dda tan Hydref y 5ed 2005, pam ddaeth rhai o swyddogion ariannol y Swyddfa Bost a chnocio ar ei ddrws ac yna mynd a Noel i swyddfa'r heddlu yng Nghaergybi a'i gyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug.Cafodd Noel Thomas o'r Gaerwen, Ynys, Môn ei gyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug fel rhan o sgandal Horizon. Fe gafodd y cyn is-bostfeistr ei garcharu am naw mis yn 2006 ar ôl i £48,000 fynd ar goll o'i gyfrifon. Daeth i'r amlwg yn ddiweddarach bod hyn o ganlyniad i nam ar feddalwedd Horizon Swyddfa'r Post.

    horizon fe yn ynys hydref daeth beti george
    Lisabeth Miles

    Play Episode Listen Later Dec 22, 2024 50:18


    Yr actores Lisabeth Miles sy'n actio Megan Harris ar Pobol y Cwm yw gwestai Beti George. Mae hi'n flwyddyn fawr i'r opera sebon eleni wrth iddi ddathlu'r 50! Mae'n wreiddiol o Waunfawr ger Caernarfon, a cafodd ei haddysg yn Ysgol Ramadeg Caernarfon. Aeth ymlaen wedyn i'r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Wedi gadael y coleg, cychwynodd ei gyrfa efo'r Welsh Theatr Company, ac efo adain Gymraeg y cwmni sef Cwmni Theatr Cymru. Roedd Lisabeth ym mysg actorion Cymraeg cyntaf y cwmni, ynghŷd â Gaynor Morgan Rees a Iona Banks. Bu'n gweithio'n gyson mewn cynhyrchiadau i'r BBC hefyd, gan gynnwys “Esther”, “Y Stafell Ddirgel”, “Lleifior” a “Branwen” yn ystod diwedd y 1960au a dechrau'r 70au.

    Eurgain Haf

    Play Episode Listen Later Dec 15, 2024 50:27


    Daw Eurgain o Benisa'r-waun yn Eryri ond mae hi'n byw ym Mhontypridd erbyn hyn gyda'i gwr a'u dau o blant. Mae hi wedi ysgrifennu nifer o lyfrau, ac wedi ennill sawl gwobr am lenydda gan gynnwys Coron Eisteddfod yr Urdd. Eurgain oedd enillydd y fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol 2024 gyda ' Y Morfarch Arian' . Mae hi'n gweithio fel Uwch Reolwr y Cyfryngau i elusen Achub y Plant Cymru.

    urdd cyfryngau
    Owain Gwynfryn

    Play Episode Listen Later Dec 8, 2024 48:47


    Owain Gwynfryn yw gwestai Beti George.Fe gafodd Owain ei fagu yng Nghaerdydd, ac yna ym Mhrestatyn.Wedi sefydlu gyrfa lwyddiannus iddo'i hun fel ceiropractydd, fe benderfynodd Owain newid cyfeiriad a mynd i astudio'r llais yng Ngholeg y Guildhall yn Llundain. Graddiodd y llynedd, ac yntau yn ddeugain oed.Mae'n parhau gyda'i yrfa fel ceiropractydd yn ei glinig yn Llundain, pan fo amser yn caniatáu, ond ei nod yw cyrraedd y brig o ran ei yrfa fel canwr - ym myd opera a thu hwnt.

    fe guildhall owain wedi nghaerdydd beti george
    Anthony Matthews Jones

    Play Episode Listen Later Nov 24, 2024 49:22


    Anthony Matthews Jones yw gwestai Beti George.Yn wreiddiol o Ynys Môn, mae'n byw yn Iwerddon ers dros bum mlynedd ar hugain.Mae'n gweithio fel ymgynghorydd ariannol, ac wedi sefydlu ei gwmni ei hun.Ei ddiddordeb mawr yw canu, a hynny ers pan oedd yn ifanc. Mae'n teithio'r byd yn annerch mewn cynhadleddau, ac yn canu ynddynt hefyd.

    matthews ei yn beti george
    Meirion MacIntyre Huws

    Play Episode Listen Later Nov 10, 2024 49:15


    Meirion MacIntyre Huws yw gwestai Beti George.Mae'n gyfarwydd iawn i ni fel bardd, ac ef oedd Prifardd Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd 1993.Mae Mei Mac yn un sy'n barod i fentro a wynebu heriau newydd.Bu'n gweithio i'r Bwrdd Dŵr cyn ac ar ôl bod yn y Brifysgol yng Nghaerdydd, cyn ymhel â sawl maes arall fel cartwnydd, dylunydd, rhedeg safle glampio, a gwesty.Bellach mae ganddo gwmni paneli solar, ac mae'n gweithio fel swyddog enwau lleoedd i Gyngor Gwynedd.

    bu macintyre nghaerdydd beti george
    Yr Athro Angharad Puw Davies

    Play Episode Listen Later Nov 3, 2024 49:19


    Yr Athro Angharad Puw Davies yw gwestai Beti George.Fe'i magwyd yn Yr Wyddgrug, ond mae hi bellach yn byw yn AbertaweMae hi'n arbenigo mewn microbioleg feddygol a heintiau, ac yn ystod y rhaglen fe fydd yn trafod y diciâu, gwaith ymchwil mewn carchar yn Llundain, ymweliad â Siberia, a cryptosporidiosis.Mae ganddi ddiddordeb mewn llenyddiaeth ac mae'n cynganeddu.

    Richard Jones-Parry

    Play Episode Listen Later Oct 27, 2024 47:39


    Richard Jones-Parry yw gwestai Beti George.Mab fferm Bryn Bachau rhwng Abererch a Chwilog yw Richard. Mae'n gyn athro Cemeg yn Ysgol Breswyl Marlborough, ac wedi bod yn dysgu yn Awstralia hefyd.Fe dreuliodd gyfnod hefo'i deulu yn gwirfoddoli yn Ghana. Mae'n treulio pedwar mis o'r flwyddyn yng Nghymru a'r gweddill yn Adelaide, Awstralia.

    Aled Lewis

    Play Episode Listen Later Oct 20, 2024 49:43


    Aled Lewis yw gwestai Beti George.Mae'n gynllunydd a saer dodrefn, sydd wedi sefydlu ei fusnes ei hun ers pum mlynedd ar hugain.Cafodd ei fagu ar fferm ger Machynlleth gan ddod dan ddylanwad ei dad - oedd yn grefftwr da.Yn 16 oed fe aeth i Goleg Rycotewood yn Rhydychen i astudio gwaith coed a dylunio dodrefn cyn mynd draw i America i weithio. Mae wedi treulio cyfnod yn Ne Affrica hefyd yn y cyfnod cyn i Apartheid ddod i ben.Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn hwylio.

    Malachy Owain Edwards

    Play Episode Listen Later Oct 13, 2024 50:20


    Beti George yn sgwrsio gyda'r awdur Malachy Owain Edwards. Cafodd Malachy ei fagu yn Ffynnon Taf. Saesneg oedd iaith yr aelwyd, ond fe aeth ei dad ati i ddysgu Cymraeg.Mae'n trafod y ffaith ei fod eisiau bod yn awdur, ac fe gafodd ei fagu yng nghanol llyfrau. Fe wnaeth ei hunangofiant 'Y Delyn Aur' gyrraedd rhestr fer Llyfr Ffeithiol Greadigol 'Llyfr y Flwyddyn' eleni.Wrth drafod ei hunaniaeth mae'n mynd a ni ar daith i Lundain, Hong Kong, Iwerddon a Barbados, ac mae dylanwad ei deulu yn fawr arno.Mae Malachy bellach yn byw hefo'i wraig Celyn a'r teulu ar Ynys Môn.

    Iestyn George

    Play Episode Listen Later Oct 6, 2024 64:20


    Mewn rhaglen arbennig i nodi 40 mlynedd o Beti a'i Phobol, Beti George sy'n holi ei mab Iestyn George am ei waith gyda NME, GQ, marchnata'r Manic Street Preachers yn y dyddiau cynnar, ac am ei fagwraeth ganddi hi. Fe gyflwynodd Jamie Oliver i sylw'r byd, ac roedd yna ar ddechrau perthynas David a Victoria Beckham. Mae bellach yn darlithio ym Mhrifysgol Brighton ac yn Dad i ddau.

    Dr Carwyn Jones

    Play Episode Listen Later Sep 29, 2024 50:45


    Dr Carwyn Jones yw gwestai Beti George.Mae'n Athro mewn moeseg chwaraeon yn gweithio yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd - ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.Ei brif ddiddordebau ymchwil yw moeseg chwaraeon yn gyffredinol a'r berthynas rhwng chwaraeon ac yfed alcohol yn arbennig, ac mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau yn y Gymraeg a'r Saesneg sy'n ymdrin â phynciau sy'n amrywio o ddosbarthiad yn y Gemau Paralympaidd, rheolau cymhwysedd cenedlaethol, cydraddoldeb rhwng y rhywiau, hiliaeth a thyfu cymeriad drwy chwaraeon.Mae'n wreiddiol o Ddinbych ond bellach yn byw yn Abergwyngregyn gyda'i wraig a'i fab.Mae dau beth tyngedfennol wedi digwydd ym mywyd Carwyn - rhoi'r gorau i yfed alcohol a chael tiwmor ar ei ymennydd. Mae'n trafod yn agored gyda Beti y cyfnodau anodd yma yn ei fywyd, ac yn dewis pedair cân sydd yn cysylltu â gwahanol gyfnodau o'i fywyd.

    Dr Ffion Reynolds

    Play Episode Listen Later Sep 22, 2024 50:23


    Beti George yn sgwrsio gyda Dr Ffion Reynolds sydd yn Uwch Reolwr Digwyddiadau Treftadaeth a Chelfyddydau gyda Cadw.Mae Ffion wedi ei magu yng Nghaerdydd. Un o'r geiriau cyntaf ddysgodd Ffion oedd mabwysiadu. Gwnaeth ei rhieni'n n siŵr fod Ffion y ymwybodol o'i chefndir. Dywedwyd wrthi eu bod wedi sgwennu llythyr o amgylch y byd i ffeindio merch fach. Roeddynt wedi sgwennu i China, Japan Affrica ac fe gawsant ateb i'w llythyr drwy gael Ffion.Mae wedi treulio amser yn gweithio yn Namibia a bu'n Dde America lle bu'n byw efo'r trigolion mewn un o'r fforestydd glaw ac yn astudio efo'r Shaman. Mae gan Ffion ddiddordeb mawr mewn madarch! Ceir biliynau o wahanol fathau o fadarch. Mae Ffion hefyd yn credu taw madarch sy'n mynd i achub y blaned!

    china reynolds shaman namibia ffion ceir nghaerdydd beti george
    Iolo Eilian

    Play Episode Listen Later Sep 15, 2024 49:47


    Beti George sydd yn sgwrsio gyda Iolo Eilian, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cenedlaethol iechyd a gofal yn yr Iwerddon. Mae'n wreiddiol o Lanrug, ac ar ôl treulio amser fel nyrs a gweithiwr cymdeithasol yn Wrecsam a Gogledd Iwerddon, mae bellach yn byw yn Galway gyda'i deulu ac yn gyfrifol am newidiadau i'r gwasanaeth iechyd a gofal yn y weriniaeth, ac yn rheoli cyllid o 23.5 biliwn o bunnoedd.

    galway iolo wrecsam beti george
    Yassa Khan

    Play Episode Listen Later Sep 8, 2024 50:28


    Yassa Khan, cyfarwyddwr ffilmiau o Gaernarfon yn wreiddiol yw gwestai Beti George.Mae Yassa Khan yn dweud bod rhannau o'i fagwraeth yn ei atgoffa o'r ffilm maffia Goodfellas – ond yng Nghaernarfon, nid Efrog Newydd. Roedd ei Dad yn lleidr banc adnabyddus o Gaernarfon, ac fe dreuliodd flynyddoedd yn y carchar trwy gyfnod plentyndod Yassa.Doedd tyfu i fyny yn y dre' yn yr 1980au ddim yn hawdd iddo gyda'i dad i mewn ac allan o garchar - ac i wneud pethau'n anoddach, roedd o'n fachgen o dras Pakistani ac yn hoyw.Ond mae ei fagwraeth liwgar wedi arwain ato'n gweithio fel cyfarwyddwr sydd wedi ffilmio'r Pet Shop Boys, Vivienne Westwood a Billie Eilish. Bu hefyd yn gweithio gyda chynllunwyr ffasiwn Gucci a YSL.Yn ddiweddar mae wedi bod yn gweithio ar ffilm Pink, ac ar hyn o bryd yn gweithio ar ffilm hir Daffodil, sydd yn ddarlun o hanes ei fagwraeth.

    Rhodri Ellis Jones

    Play Episode Listen Later Sep 1, 2024 50:28


    Rhodri Ellis Jones, ffotograffydd dogfen o Ddyffryn Ogwen sy'n byw ger Bologna yn yr Eidal yw gwestai Beti George. Mae wedi gweithio ar draws y byd yn Affrica, Albania, Cuba, Nicaragua ac El Salvador ac wedi dogfennu yn ddiweddar pobol leiafrifol yn China. Mae bellach yn ddinesydd yr Eidal ac yn rhannu hanesion ei blentyndod yn Sling, Tregarth a'r bywyd anturus mae o wedi ei fyw.Fe fydd arddangosfa o'i waith diweddaraf COFIO yn Storiel, Bangor, rhwng Medi'r 7fed tan yr 2il o Dachwedd 2024.

    Katie Hall

    Play Episode Listen Later Aug 4, 2024 49:37


    Y gantores Katie Hall yw gwestai Beti George. Katie yw prif leisydd y band amgen o Bontypridd, CHROMA. Mae'r band wedi profi llwyddiant yn y blynyddoedd diwethaf, gan ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2016, ac ennill lle yn nghynllun Gorwelion y BBC i artistiaid newydd yn 2018, ynghyd â pherfformio mewn gigs a gwyliau ledled Cymru a thu hwnt. Bu'n cefnogi'r Foo Fighters yn ddiweddar ac yn teithio i Dde Korea. Cafodd ei magu yn Aberdâr. Mynychodd ysgol gynradd Aberdâr ac yna ysgol Uwchradd Rhydywaun. Cafodd ddiagnosis o Dyslecsia yn eithaf ifanc., a thrwy gydol ei dyddiau ysgol yn ffodus iawn, cafodd pob cymorth a chefnogaeth.Dewis ar y funud olaf oedd mynd i astudio Cymraeg yng Nghaerdydd, ac y penderfyniad yma oedd yr allwedd i Katie, ac fe wnaeth hynny newid trywydd ei bywyd. Cafodd ei chyflwyno i fandiau newydd Cymraeg gan ei ffrindiau coleg, wnaeth arwain at ddilyn bandiau a gweithio yn Clwb Ifor Bach.Pan ddaeth CHROMA at ei gilydd, fe wnaeth y triawd sgwennu caneuon Saesneg a Chymraeg yn rhannol er mwyn bod yn wahanol i fandiau o'r Cymoedd - a gan eu bod nhw'n gallu.Mae'n rhannu profiadau bywyd yn trafod ei chyfnod yn gweithio mewn canolfan alwadau, cyfansoddi caneuon gwleidyddol a'r dylanwadau eraill sydd wedi ysgogi cerddoriaeth CHROMA, gan gynnwys Cate Le Bon a Gwenno.

    bbc pan bu foo fighters chroma cymru cate le bon cymraeg gwenno katie hall saesneg nghaerdydd cymoedd cafodd clwb ifor bach beti george
    Steffan Donnelly

    Play Episode Listen Later Jul 28, 2024 50:44


    Beti George sydd yn sgwrsio gyda Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig a chyd-gyfarwyddwr Theatr Genedlaethol Cymru. Mae Steffan yn y swydd ers 2 flynedd ac yn sôn am yr heriau mae nhw'n ei wynebu fel cwmni gan bod y cyllid wedi aros run fath ers 2009. Mae hefyd yn sôn am ei fagwraeth yn Llanfair Pwll, Ynys Môn, ac am ei ddiddordeb yn y theatr ers yn ifanc iawn. Fe dreuliodd wyliau haf ei blentyndod yng Ngogledd Iwerddon, cartref rhieni ei Dad, ac mae ganddo atgofion hapus o ymweliadau a'r fferm deuluol. Sefydlodd Gwmni Theatr Invertigo yn 2012 – cwmni sydd wedi teithio ledled Cymru ac yn rhyngwladol gyda sawl cynhyrchiad megis Y Tŵr, My Body Welsh, My People, Derwen, a Gŵyl Rithiol Pererindod. Mae ei waith fel actor yn cynnwys cyfnodau yn y Barbican a Theatr Clwyd, a sawl tymor yn Shakespeare's Globe.

    Y Fonesig Elan Closs Stephens

    Play Episode Listen Later Jul 21, 2024 58:29


    Y Fonesig Elan Closs Stephens, Cyn Gadeirydd dros dro'r BBC, yw gwestai Beti a'i Phobol. Mae hi'n trafod ei chyfnod stormus fel Cadeirydd a'i hoffter o gadeirio cyfarfodydd, “ dwi'n gweld o'n debyg i dreialon cŵn defaid” meddai Elan. Mae hi'n ymwneud â 18 o gyrff gwahanol. Mae hi'n sôn am ei chyfnod yn magu'r plant ar ei phen ei hun yn dilyn marwolaeth ei gŵr yn ifanc, ac yn rhannu ei theimladau yn dilyn cael cancr 20 mlynedd nôl a sut mae hi'n byw bywyd wedi hynny. Yn wreiddiol o Dalysarn, Gwynedd, cafodd ei haddysg yn Ysgol Dyffryn Nantlle a Choleg Somerville Rhydychen. Bu'n un o'r merched cyntaf i fod yn aelod o Gymdeithas Dafydd ap Gwilym. Mae hi hefyd yn Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ac yn trafod yr heriau ariannol sydd yn wynebu myfyrwyr heddiw.

    Mici Plwm

    Play Episode Listen Later Jul 14, 2024 50:11


    Yr actor a digrifwr Mici Plwm yw gwestai Beti George.Fe dreuliodd Mici Plwm 12 mlynedd mewn cartref plant a hynny heb weld ei Fam. Fe gafodd brentisiaeth fel trydanwr ac wedyn gyrfa lewyrchus fel diddanwr a chyflwynydd teledu, ac mae'n un o'r ddeuawd Syr Wynff a Plwmsan. Roedd ei Fam, Daphne Eva Barnett, yn ferch i Ernest Barnett Harrison oedd yn Brif Arolygydd yr Oriel Gelf Genedlaethol Llundain. Fe symudodd adeg yr ail ryfel byd i warchod trysorau a chelfi'r wlad.

    fe fam yr mici beti george
    Alison Roberts

    Play Episode Listen Later Jul 7, 2024 49:18


    Fe gafodd Alison Roberts ei geni a'i magu ym mhentref Killin yn yr Alban, ac fe ddaeth i Gymru pam gafodd alwad gan ffermwr i ddofi un o'i geffylau. Mae hi bellach wedi priodi ac yn byw ar Ynys Môn, ac yn magu 7 o blant. Alison enillodd Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023. Daeth i benderfyniad ei bod yn Gymraes pan enillodd hi gystadleuaeth cneifio yn y Sioe Frenhinol, Llanelwedd. Mae'n gweithio fel gofalwraig ac yn credu ei bod yn bwysig ei bod hi'n siarad Cymraeg gyda'r cleifion.Roedd hi wedi dysgu Cymraeg wrth wrando ar Radio Cymru, gwylio S4C a darllen llyfrau ei merch. Dydy hi erioed wedi cael gwers Gymraeg.

    Myron Lloyd

    Play Episode Listen Later Jun 30, 2024 48:40


    Mae Myron Lloyd wedi gwirfoddoli efo Eisteddfod Llangollen ar yr ochr farchnata ers blynyddoedd maith, ac yn y blynyddoedd diwethaf mae hi wedi bod yn edrych ar ôl noddwyr yr Eisteddfod, ond fe ddechreuodd ei chysylltiad bron I 60 mlynedd nol, pan enillodd y wobr 1af yn yr Alaw Werin dan bymtheg oed. Blwyddyn ar ôl hynny, Myron oedd ‘pin up' yr Eisteddfod a bu ei lluniau mewn gwisg Gymreig ar bob math o nwyddau ar ol I lun ohonno gael ei gyhoeddi yn y gyfrol ‘North Wales in Colour'. Ar y clawr ôl roedd llun mawr o Myron a dynnwyd yn Eisteddfod Llangollen.Cafodd Myron ei derbyn i fynd i'r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Ond roedd ei llais y math oedd yn blino'n fuan, meddai hi. Roedd ganddi hefyd ddiddordeb mawr mewn ffermio felly penderfynodd fynd i goleg Gelli Aur i wneud cwrs Amaethyddol. Ar ôl cyfnod yno cafodd gyfweliad efo'r Weinyddiaeth Amaeth a chael swydd yn Nolgellau. Roedd hi'n gweithio mewn labordy yn mynd o gwmpas ffermydd Sir Feirionnydd i gyd a oedd yn gwerthu llaeth.Ond 'da ni dal i feddwl amdani fel cantores gyda llais melfedaidd ac wedi arbenigo ar ganu gwerin. Cawn hanesion ei bywyd ac mae'n dewis cerddoriaeth sydd yn golygu dipyn iddi.

    Karen Wynne

    Play Episode Listen Later Jun 23, 2024 50:40


    Yr actores a'r consuriwr Karen Wynne yw gwestai Beti a'i Phobol. Fe ddechreuodd wneud triciau ar lwyfan pan oedd hi'n 7 oed. Ei thad oedd yn ei dysgu.Roedd wrth ei bodd pan yn ysgol mynd i nosweithiau Y Gymdeithas yn Nhywyn, Yr Urdd, Ffermwyr Ifanc a'r Groes Goch. Roedd Anti Mair Bryncrug yn dod â chriw bach ohonynt at ei gilydd i gynnal nosweithiau llawen. Dechreuodd wneud triciau hud yn y fan honno a hefyd mewn sioeau ysgol a charnifalau.Ar ôl ysgol a choleg aeth i'r byd actio, ac fe dreuliodd bymtheg mlynedd yn portreadu un o gymeriadau Rownd a Rownd. Ond pan ddaeth hynny i ben fe drodd at fyd hud a lledrith a bellach mae'n defnyddio'r gelfyddyd honno i helpu plant i fagu hyder ac i helpu pobol sydd yn fregus yn feddyliol.

    Ffion Gruffudd

    Play Episode Listen Later Jun 16, 2024 50:06


    Gwestai Beti George yw Ffion Gruffudd, Cyfreithwraig sydd yn cael ei chydnabod gan fforwm economaidd y byd fel un sydd yn arbenigo ar ddiogelwch seiber. Mae hi'n Bennaeth diogelwch seiber byd eang i gwmni anferth, Allen & Overy and Shearman. Mae Ffion yn ymwneud gydag achosion mawr iawn ac mae llawer iawn o gyfrifoldeb a phwysau ar ei hysgwydd. Mae hi'n gweithio'n agos iawn gyda chanolfan National Cyber Security yma ym Mhrydain a'r FBI yn America.Mae Ffion yn wreiddiol o Gwm Gwendraeth. Mae hi hefyd wedi sefydlu hwb creadigol Coco & Cwtsh yn Sir Gâr.

    Claim Beti a'i Phobol

    In order to claim this podcast we'll send an email to with a verification link. Simply click the link and you will be able to edit tags, request a refresh, and other features to take control of your podcast page!

    Claim Cancel