Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sydd yn "Y Coridor Ansicrwydd" ac yn barod i drafod digwyddiadau diweddar y byd pêl-droed
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n i chwaraewr canol cae Cymru ac Abertawe Joe Allen wrth iddo gyhoeddi fod ei yrfa hynod lwyddiannus ar fin dod i ben.Mae'r hogia' hefyd yn trafod y gwaith fydd gan reolwr Abertawe Alan Sheehan i ddenu chwaraewyr newydd i'r clwb dros yr haf, a'r dasg anoddach fyth sydd gan berchennog Caerdydd Vincent Tan i fabwysiadu strwythur gwell oddi car y cae er mwyn ceisio esgyn yn syth nol i'r Bencampwriaeth y tymor nesaf.
Wrth ddathlu trydydd dyrchafiad yn olynol ar y Cae Ras nos Sadwrn, dim ond un cwestiwn oedd ar wefusau cefnogwyr Wrecsam... 'ble mae Waynne Phillips?!' Yn wyliwr cyson ers blynyddoedd lu bellach - unai fel sylwebydd neu gefnogwr - mae Waynne wedi dilyn y daith o'r Gynghrair Genedlaethol yn agosach na neb. Ond doedd o ddim yno i ddathlu gyda'r perchnogion Ryan Reynolds a Rob McElhenney, y rheolwr Phil Parkinson a'i chwaraewyr a'r miloedd o gefnogwyr. Pam? Gawn ni'r ateb gan y dyn ei hun, yn ogystal â'i farn am sut all Wrecsam gystadlu yn y Bencampwriaeth tymor nesaf.
Gyda thair gêm yn weddill o'r tymor, mae Caerdydd wedi penderfynu ymateb i'r argyfwng amlwg drwy ddiswyddo'r rheolwr Omer Riza a gobeithio bydd yr arwr lleol Aaron Ramsey yn gallu ysbrydoli atgyfodiad. Ond wrth i'r timau eraill ger gwaelod y tabl barhau i ennill pwyntiau gwerthfawr, mae Mal ac Ows yn pryderu bod hi'n rhyw hwyr i newid trywydd tymor hynod siomedig.Parhau i ennill mae Abertawe, serch hynny, ond tydi Ows dal ddim yn credu mai penodi Alan Sheehan yn rheolwr parhaol ydi'r ateb.Ac am ddiweddglo sydd ar y gweill yn yr Adran Gyntaf wrth i Wrecsam a Wycombe gyfnewid lle unwaith eto yn yr ail safle hollbwysig. Gêm enfawr arall i ddod ar y Cae Ras ddydd Sadwrn wrth i Charlton ymweld, gyda'i rheolwr Nathan Jones yn ychwanegu hyd yn oed mwy o sbeis i'r achlysur wrth alw'r clwb yn "syrcas"!
Dyl, Malcs ac OTJ sy'n trafod taith Owain i Como a buddsoddiad Luka Modric yn Abertawe.
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n dathlu perfformiadau a chanlyniadau merched Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd a'r cynnydd o dan y rheolwr Rhian Wilkinson.Er gwaethaf dwy gêm gyfartal oddi cartref, mae Caerdydd yn parhau yn y safleoedd disgyn yn y Bencampwriaeth. Ydi'r cefnogwyr wedi colli gobaith yn barod?Mae'r momentwm tuag at ddyrchafiad yn parhau yn Wrecsam - mae eu dynged yn eu dwylo eu hun ar ôl i Wycombe ollwng rhag o bwyntiau.Ac am y tro cyntaf erioed yn hanes y podlediad, mae ffocws Mal yn cael ei chwalu wrth weld ci yn neud ei fusnes yn ei ardd ffrynt.
Mwyaf sydyn, mae'r tymor wedi cyrraedd y pedwar wythnos olaf. Ac mi fydd hi'n ddiweddglo llawn tensiwn i Gaerdydd a Wrecsam, wrth iddyn nhw frwydro am bwyntiau gwerthfawr ar resymau gwahanol iawn.Mae Wrecsam yn parhau tri phwynt yn glir o Wycombe yn y ras am yr ail safle yn Adran Un, ond wedi chwarae un gêm yn fwy. Be sydd orau adeg yma o'r tymor felly? Pwyntiau ar y bwrdd ta tynged yn nwylo eich hun? Wrth reswm, mae yna wahaniaeth barn rhwng Ows a Mal.Mae'r ddau hefyd wedi anghytuno ers tro am dynged Caerdydd tymor yma. Ond ar hyn o bryd, does 'na fawr o dystiolaeth i awgrymu mai llwyddo i aros yn y Bencampwriaeth fydd yr Adar Gleision.Ac ydi Rhian Wilkinson yn iawn i ofyn am fwy o gefnogaeth i ferched Cymru yng ngemau Cynghrair y Cenhedloedd?
Wel am ddiweddglo yn Skopje! Camgymeriad hollol anarferol Joe Allen yn rhoi gôl ar blât i Ogledd Macedonia, cyn i David Brooks fanteisio ar ddau gamsyniad amddiffynnol gan y tîm cartref i achub gêm gyfartal oedd perfformiad Cymru yn ei haeddu. Hyn i gyd wedi'r cloc basio 90 munud!Felly, mae record ddiguro Craig Bellamy fel rheolwr yn parhau, a Chymru yn gyfartal ar frig y grŵp gyda Gogledd Macedonia wedi dwy gêm. Digon i'r 'ogia drafod, ac yn rhoi amser i Owain "ro'n i'n barod i gwffio" Tudur Jones setlo lawr.
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n 'dathlu' buddugoliaeth Newcastle United yn erbyn Lerpwl yng Nghwpan y Gynghrair ac yn ysu i weld Cymru yn cychwyn eu hymgyrch yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026.
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod anaf diweddaraf Aaron Ramsey mewn cyfnod allweddol i Gaerdydd a Chymru. Ac ydi dyfodol Omer Riza mewn peryg gyda'r Adar Gleision wrth i'w sefyllfa ddwysáu ger waelod y Bencampwriaeth?
Mae Dylan Griffiths yn chwarae gêm beryglus. Nid yn unig ydi o'n penderfynu beirniadu Malcolm Allen am safon ei broffwydo, ond mae o hefyd yn mynd mor bell â dweud wrtho am ymddiheuro. Eithaf hawdd proffwydo pa fath o ymateb cafodd o i hyn...Mae Owain Tudur Jones yn ei chael hi hefyd, ac mae hwnnw yn ychwanegu cefnogwyr Aberystwyth arall i'w restr (hirfaith erbyn hyn) o bethau sy'n mynd "ar ei nyrfs". Tensiwn diwedd tymor bois bach, peidiwch â sôn!
Dyl, Ows a Malcs sy'n trafod canlyniad gwych Cymru ac adfywiad Caerdydd ac Abertawe.
Mae Abertawe yn chwilio am eu 10fed rheolwr mewn naw mlynedd ôl diswyddo Luke Williams.. Ac mae Ows yn poeni fod y clwb yn syrthio mewn i "drwmgwsg" tuag at Adran Un. Pwy fydd y nesa' i gymryd yr awenau? Fydd y clwb yn barod i'w gefnogi drwy arwyddo mwy o chwaraewyr?Tydi sefyllfa Caerdydd heb wella chwaith yn dilyn canlyniadau siomedig, ac mae Wrecsam wedi colli bach o dir yn y ras am ddyrchafiad awtomatig wrth golli eto ar y Cae Ras. Ond mae hi'n gyfnod cyffrous i dîm merched Cymru wrth iddyn nhw gychwyn eu hymgyrch yn Adran A Cynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Yr Eidal a Sweden.
Ydi byw yng Nghymru am bum mlynedd yn ddigon i fod yn gymwys i ennill cap cenedlaethol? Dyna'r brif drafodaeth ymysg Dyl, Ows a Mal yn dilyn ymgais Cymdeithas Bêl-droed Cymru i newid y rheolau presennol er mwyn gallu cynnwys Matt Grimes yn y garfan.Mae'r tri hefyd yn trafod y cyhoeddiad ynglŷn â pha glybiau fydd yn ymuno gyda'r Cymru Premier pan fydd y gynghrair genedlaethol yn ehangu i gynnwys 16 tîm yn nhymor 2026-27. Ac mae Dyl yn esbonio pam oedd o wedi gwylltio'n gacwn ddydd Sadwrn.
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n asesu sefyllfa Abertawe, Caerdydd, Wrecsam a Chasnewydd ar ddiwedd ffenestr drosglwyddo mis Ionawr. Ac ar ôl dangos ei wir deimladau am 'yr Ayatollah' yn ddiweddar, mae 'na rywbeth arall bellach yn mynd "ar nyrfs" OTJ...
Capten yn gadael, rheolwr yn gwylltio'r cefnogwyr, un pwynt o pum gêm - mae hi wedi bod yn fis hunllefus i Abertawe. Ydyn nhw mewn peryg o ddisgyn o dan Caerdydd yn y tabl mwyaf sydyn? Ond er gwaethaf y siom o weld yr Elyrch yn colli'n drwm yn Norwich, mi gafodd Owain noson i'w chofio yn un o'r tafarndai lleol...
Mae buddugoliaeth fawr Caerdydd dros Abertawe wedi ennyn ymateb syfrdanol gan OTJ, wrth iddo droi ar un o ddathliadau enwocaf cefnogwyr Abertawe. Ac wrth gwrs, mae Malcolm Allen yn cymryd gryn bleser yn yr holl beth...
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n edrych ymlaen at darbi de Cymru rhwng Caerdydd ac Abertawe, ac yn trafod sefyllfa niwlog Uwch Gynghrair Cymru sy'n oedi'r hollt ganol tymor.
Oes 'na gyfle a sioc yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr i Gaerdydd ac Abertawe? Fe all yr Adar Gleision anghofio am y pwysau o geisio osgoi disgyn i'r Adran Gyntaf wrth iddyn nhw deithio Sheffield United, ac mi fydd yr Elyrch yn edrych i fanteisio ar y blerwch sydd yn Southampton ar hyn o bryd.Mae rheolwr Arsenal Mikel Arteta yn ei chael hi am ei sylwadau am safon y bêl yn rownd gynderfynol Cwpan y Gynghrair yn erbyn Newcastle - gêm mae'n debyg sydd wedi ysgogi tröedigaeth i Malcolm "Toon Army" Allen.
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n asesu cyfnod prysur y Nadolig i glybiau Cymru (ac yn mynnu trafod Lerpwl).
Profi pawb yn anghywir - dyna'r her i dîm Rhian Wilkinson yn ôl Malcolm ac Owain ar ôl cael grŵp anodd tu hwynt yn rowndiau terfynol Ewro 2025, sy'n cynnwys Ffrainc, Iseldiroedd a Lloegr. Ond roedd lwc o blaid Craig Bellamy pan ddaeth yr enwau allan o'r het ar gyfer rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026. Mae'r hogia wedi cyffroi yn lan yn barod ac wedi mynd ati i wneud gwaith ymchwil manwl iawn ar y gwrthwynebwyr Gwlad Belg, Gogledd Macedonia, Kazakstan a Liechtenstein.Roedd hi'n benwythnos eithaf siomedig ar y cyfan i bedwar prif glwb Cymru, ac mae Owain wedi gweld digon yn barod... "mae Caerdydd yn mynd i lawr!"
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n canmol rhediad arbennig Wrecsam a chwarae graenus cyson Matt Grimes ond yn poeni am obeithion Caerdydd o godi fyny'r Bencampwriaeth. Ac mae Mal yn datgelu ffaith syfrdanol ei fod wedi chwarae pêl-droed yn y canol oesoedd...
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n dathlu buddugoliaeth hanesyddol Cymru i gyrraedd Pencampwriaeth Merched Ewro 2025. Roedd Ows yn ei chanol hi yn Nulyn yn gwylio tîm Rhian Wilkinson yn curo Gweriniaeth Iwerddon yn rownd derfynol y gemau ail-gyfle, ac yn fwy na hapus i ymuno yn y dathliadau yng nghanol y ddinas tan oriau man y bore. Roedd 'na fwy o ddathlu ar y Cae Ras hefyd lle welodd Dyl fuddugoliaeth arall i Wrecsam, ac mae'r tri yn ddigon bodlon eu byd hefyd wrth weld cychwyn arbennig Arne Slot yn parhau gyda Lerpwl.
Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n cael cwmni Carrie Jones a Mared Griffiths o garfan Cymru cyn dwy gêm enfawr yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn gemau ail-gyfle Ewro 2025. Cawn wybod pam fod Carrie wedi dewis symud i chwarae i Sweden a hithau dim ond yn 21 oed, tra bod Mared yn adrodd ei thaith o Drawsfynydd i Manchester United - a sut mai "gweithio fel ci" yn hel defaid ar y fferm deuluol oedd ei ymarfer ffitrwydd.Hefyd, fydd Caerdydd yn cynnig y swydd rheolwr i Steve Cooper? Nid am y tro cyntaf, mae yna wahaniaeth barn rhwng yr hogia...
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n dathlu dyrchafiad Cymru i Adran A Cynghrair y Cenhedloedd ac yn gwerthuso cyfraniad y rheolwr Craig Bellamy i'r ymgyrch.
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n edrych ymlaen at weld os fydd Cymru yn gallu dangos "dewrder" mewn meddiant wrth chwarae oddi cartref yn erbyn Twrci.
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n asesu pedwar mis cyntaf Craig Bellamy wrth y llyw fel rheolwr Cymru - y canlyniadau ar y cae, ei berthynas gyda'r wasg â'i ymweliadau i glybiau lleol ar hyd a lled Cymru.
Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n rhyfeddu at berfformiad arwrol arall gan Jess Fishlock wrth iddi ysbrydoli Cymru at fuddugoliaeth yn erbyn Slofacia yn rownd gynderfynol gemau ail-gyfle Ewro 2025.
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n ystyried gobeithion Cymru yn erbyn Slofacia yng ngemau ail-gyfle gemau rhagbrofol pencampwriaeth Ewro 2025 i ferched. Pwy fydd yn gallu camu mewn i esgidiau Sophie Ingle a fydd Jess Fishlock yn holliach?Ydi Omer Riza wedi gwneud digon i gael ei benodi'n rheolwr newydd Caerdydd? Mae o'n sicr i weld yn cael y gorau allan o Rubin Colwill. A pham bod Owain druan wedi torri ei galon yn Alton Towers..?
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n dadansoddi gêm gyfartal Cymru yn erbyn Gwlad yr Iâ a'r fuddugoliaeth yn erbyn Montenegro - dau ganlyniad sy'n golygu mai Craig Bellamy ydi'r rheolwr cyntaf i beidio colli ar ôl ei pedair gêm gyntaf. Unwaith eto, mae sawl agwedd o chwarae Cymru yn plesio, ac ambell i unigolyn yn haeddu clod arbennig.Yr unig siom ydi bod rhaid aros mis tan y gemau nesaf...
Ar ôl cael eu plesio'n fawr yn nwy gêm gyntaf, mae Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn disgwyl yn eiddgar i weld y perfformiadau nesaf Cymru o dan y rheolwr newydd Craig Bellamy yn erbyn Gwald yr Iâ a Montenegro yng Nghynghrair y Pencampwyr. Pwy fydd yn cychwyn tro ‘ma? Beth fydd siâp y tîm? A pham bod gan Ows atgofion sigledig o chwarae yn Reykjavik?01'00 Cyffro'r cyfnod rhyngwladol 04'00 Anaf Ows a cherydd Bellamy 10'00 Disgwyliadau'n codi? 21'00 Dewis y tîm a dyfalu'r sgôr 28'45 Y ddaear yn symud i OTJ 30'00 Hoff dîm Cymru 35'00 Acen mawr Saesneg 39'00 Tîm dan21 am greu hanes 44'45 Lewis Koumas – y gobaith mawr newydd? 48'00 Omer Riza yn y ffrâm gyda Chaerdydd? 51'20 Paul Watson yn gadael Abertawe
Mae Joe Allen yn ôl yng ngharfan Cymru a fedrith Owain Tudur Jones a Malcolm Allen ddim stopio gwenu. Hefyd yn plesio ydi'r opsiynau ymosodol ychwanegol i'r rheolwr Craig Bellamy ar gyfer y ddwy gêm nesaf yng Nghynghrair y Cenhedloedd - a'r ffaith bod Brennan Johnson yn dechrau sgorio.Fydd Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam yn chwarae yn Ewrop cyn hir? Mae Prosiect Cymru yn cael sêl bendith Y Coridor beth bynnag. A pham bod Ows yn rhannu tips ar sut i ddal ymbarel?02'00 Joe Allen 15'25 Broadhead, Brooks a Burns yn holliach 19'35 Goliau Brennan Johnson 22'00 Prosiect Cymru 30'20 Y Seintiau'n Fiorentina 34'00 Gobaith i Gaerdydd? 37'00 Trafferthion oddi cartref Wrecsam 44'00 Casnewydd yn tanio adref 45'00 Erik "Pen Gwag" 51'00 Owain "Ymbarel" Jones
Wrth i reolwr arall adael Caerdydd yn ddisymwth, mae Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn sicr bod hi'n amser am chwyldro. Yn ôl Owain does "dim gweledigaeth", tra bod Malcolm yn credu bod y clwb "ar y llawr". Ond pwy all achub yr Adar Gleision tro 'ma? A beth sy'n mynd digwydd i'r Seintiau Newydd? Yn gyntaf, mae'r record hir ddi-guro yn diflannu ac yna colli ddwywaith yn olynol am y tro cyntaf ers mis Hydref 2019. Hefyd, fydd Joe Allen yn gwisgo crys coch Cymru eto mis nesa'..?01'20 Peli golff coll Owain 04'10 Sioc i'r Seintiau Newydd 13'40 Blerwch Caerdydd 26'30 Abertawe yn hedfan "o dan y radar" 28'50 Joe Allen yn ôl i Gymru? 35'40 Wrecsam dal ar y brig 40'00 Trafferthion Casnewydd a toiledau Barrow 41'33 Man City v Arsenal 48'20 Malcolm yn serennu ar Youtube 49'30 Anaf Sophie Ingle
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n ystyried faint o amser geith Erol Bulut i ddatrys problemau Caerdydd wrth iddyn nhw barhau ar waelod y Bencampwriaeth. Gawn ni wybod hefyd pa glwb sy'n berchen a rhai o'r toiledau gorau yn y Gynghrair Bêl-droed a sut nath Owain adael ei farc ar reolwr Birmingham Chris Davies.01'30 Chwaraewyr ar streic? 09'00 Bulut o dan bwysau 16'00 Abertawe yn curo Norwich 21'30 Owain yn gweld hen ffrindiau 24'00 Birmingham yn gosod y safon 35'30 Owain yn llorio Chris Davies 37'30 Casnewydd a thoiledau Barrow 39'15 Fformat newydd Cynghrair y Pencampwyr 43'00 'Toto' Schillaci a hoff Gwpan y Byd
Wel am ddechrau i Craig Bellamy fel rheolwr Cymru! Perfformiad trawiadol mewn gêm gyfartal yn erbyn Twrci ac yna buddugoliaeth wych mewn amodau anodd yn Montenegro - mae'n deg dweud bod Owain Tudur Jones a Malcolm Allen wedi eu plesio'n fawr.
Mae yna gyffro mawr ymysg Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen wrth i gyfnod newydd i Gymru o dan Craig Bellamy gychwyn nos Wener yn erbyn Twrci yng Nghaerdydd. Beth fydd y tactegau, pa siâp fydd i'r tîm, pwy fydd yn cychwyn? Ac yn bwysicach oll, beth fydd Bellamy yn ei wisgo wrth ochr y cae..?Cawn hefyd atgof hyfryd gan Malcolm o gyfarfod Sol Bamba, yn dilyn y newyddion hynod drist am farwolaeth ddiweddar cyn amddiffynnwr Caerdydd.
Dyl, Ows a Mal sy'n edrych nol ar ddarbi de Cymru rhwng Abertawe a Chaerdydd.
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n edrych ymlaen at ddarbi de Cymru rhwng Abertawe a Chaerdydd, ac yn dyfalu pwy fydd yn rhan o dîm hyfforddi Craig Bellamy.
Diolch byth am Wrecsam! Yr unig glwb i ennill ar ddiwrnod agoriadol y Gynghrair Bêl-droed yn Lloegr. Roedd Dyl yno yng nghanol y cyffro ar y Cae Ras, gan hefyd sgwrio efo neb llai na Rob Mcelhenney (fydden nhw'n ffrindiau pennaf cyn hir dwi'n siŵr).Doedd pethau ddim cystal i'r Seintiau Newydd wrth iddyn nhw golli yn Ewrop, a doedd Owain druan ddim rhy hapus wrth i'w goesau jiráff brofi'n broblem unwaith eto wrth drio sylwebu.Mae'n amser darogan pedwar uchaf a thri isaf Uwch Gynghrair Lloegr eto.. digon o anghytuno ac ambell i ddewis dryslyd iawn.
Mae'r benod newydd o'r Coridor Ansicrwydd wedi ei chyhoeddi fan hyn... Gyda'r tymor pêl droed newydd yn dechrau'r penwythnos yma mae Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn asesu gobeithion 4 prif dîm Cymru gyda Owain a Malcolm yn proffwydo pa un o'r 4 rheolwr fydd dal yn ei swydd erbyn diwedd y tymor. Mae nhw hefyd yn trafod y Cymru Premier fydd hefyd yn dechrau y penwythnos yma, a gobeithion y Seintiau Newydd yn Ewrop.With the new football season starting this weekend Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones and Malcolm Allen assess the hopes for Cardiff, Swansea, Wrexham and Newport. Owain and Malcolm also predict if the 4 mangers will still be in charge of their clubs at the end of the season. They also discuss the start of the Cymru Premier season, and if the New Saints will progress to the group stages of the Europa League.
Mae 'na gynnwrf mawr ymysg Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones wrth iddyn nhw ymateb i benodiad Craig Bellamy yn rheolwr newydd Cymru.
Owain Tudur Jones sy'n trafod rhai o'r enwau sy'n cael eu cysylltu gyda swydd rheolwr Cymru ar i Gymdeithas Bêl-droed Cymru ddiswyddo Rob Page.
Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n ystyried y niwed i reolwr Cymru Rob Page yn dilyn dau berfformiad tila mewn gemau cyfeillgar yn erbyn Gibraltar a Slofacia. Oes modd iddo aros er gwaethaf holl feirniadaeth y cefnogwyr? A beth am Ewro 2024? Mae'r ddau arbenigwr yn dewis yr enillwyr, y tîm i greu sioc a'r prif sgoriwr.