Esgusodwch fi?

Follow Esgusodwch fi?
Share on
Copy link to clipboard

Trafodaethau bywiog am yr hyn mae’n ei olygu i fod yn aelod o gymuned LHDTC+ yng Nghymru, yng nghwmni Iestyn Wyn a Meilir Rhys Williams. Iestyn Wyn & Meilir Rhys Williams celebrate the LGBTQ+ community in Wales.

BBC Radio Cymru


    • Jan 15, 2024 LATEST EPISODE
    • infrequent NEW EPISODES
    • 41m AVG DURATION
    • 25 EPISODES


    More podcasts from BBC Radio Cymru

    Search for episodes from Esgusodwch fi? with a specific topic:

    Latest episodes from Esgusodwch fi?

    Euros Lyn: Ai ffantasi yw 'Heartstopper'?

    Play Episode Listen Later Jan 15, 2024 49:21


    Cyfarwyddwr y gyfres hynod boblogaidd 'Heartstopper', Euros Lyn (fe) yw gwestai'r bennod hon. Caiff Iestyn a Meilir gyfle i'w holi am y lwyddiant y gyfres ac arwyddocâd y llwyddiant hwnnw, ei brofiadau ef tra'n ei arddegau a pha brosiectau eraill cyffrous sydd ganddo ar y gweill.

    euros lyn
    Miriam Isaac: Ai ‘phase' ydi o?

    Play Episode Listen Later Jan 8, 2024 45:57


    Y gantores a'r gyflwynwraig Miriam Isaac (hi) sy'n cadw cwmni i Iestyn a Meilir yn y bennod hon, ddyddiau ar ôl iddi rannu ei bod yn ddeurywiol ar lwyfan Cabarela. Cawn glywed am yr holl stereoteipio mae rhywun deurywiol yn dal i ddioddef, gan ofyn y cwestiwn, “ydyn ni fel cymuned LHDTC+ yr un mor euog o leihau profiad bywyd pobl deurywiol?”

    Mirain Iwerydd: Be ti'n wisgo heddiw?

    Play Episode Listen Later Jan 1, 2024 34:57


    Y cyflwynydd Mirain Iwerydd (hi) sy'n sgwrsio efo Iestyn a Meilir yn y bennod hon, gan drafod ei brwdfrydedd tuag at ffasiwn a dillad lliwgar. Cawn glywed hefyd am ei chyfraniad i'r raglen deledu 'Ymbarél', agweddau cefn gwlad tuag at y gymuned ac ymateb ei theulu i'w hunaniaeth hi.

    iestyn cawn
    Daniel Huw Bowen: Gymeri di baned?

    Play Episode Listen Later Dec 18, 2023 57:59


    Sylfaenydd siop lyfrau Paned o Gê, Daniel Huw Bowen (fe) yw gwestai'r bennod hon. Yn ogystal â sgwrs am gynrychiolaeth o fewn y diwydiant llenyddol Cymraeg, caiff Iestyn, Meilir a Daniel drafodaeth am berthnasau polyamorous a'r diffyg cydnabyddiaeth cyfreithiol a gwelededd o berthnasau amrywiol.

    Sara Huws: Faint wyt ti'n 'dead-liftio'?

    Play Episode Listen Later Dec 11, 2023 53:10


    Yr archifydd Sara Huws (hi) yw gwestai'r bennod hon. Yn ogystal â'i gwaith o ddydd i ddydd, mae gan Sara nifer o ddiddordebau sy'n amrywio o nofio dŵr gwyllt, crosio a chodi pwysau. Yn y sgwrs ddifyr hon, cawn glywed farn Sara am effaith cyfreithiau protestio newydd ar ddathliadau Balchder a sut mae'r gymuned wedi addasu er y cyfnod clô.

    Serenity: Cwîn Ceredigion?

    Play Episode Listen Later Dec 4, 2023 42:10


    Mae gwestai brenhinol yn cadw cwmni i Iestyn a Meilir y bennod hon, sef y frenhines drag Serenity (hi/nhw) neu Chris Jones (fe) allan o drag. Cawn glywed am ysbrydoliaeth Serenity, ei balchder o'i hardal enedigol a pham ei bod wedi penderfynu aros yn ei milltir sgwar. Gyda phoblogrwydd drag ar ei uchaf erioed, pam fod cymaint o bobl yn ymddiddori yn y grefft?

    Priya Hall: Oes gen ti jôc?

    Play Episode Listen Later Nov 27, 2023 47:40


    Ar drothwy ei sioe stand-up gyntaf yng Ngŵyl Fringe Caeredin, Priya Hall (hi) sy'n ymuno ag Iestyn a Meilir y bennod hon i rannu pam y dewisodd yrfa ym myd comedi a pha mor gynhwysol yw'r diwydiant stand-up. Hefyd, cawn glywed am brofiadau Priya a'i phartner wrth iddynt baratoi i ddechrau teulu, fel cwpwl cwiar, a'r rhwystrau y maent wedi eu hwynebu.

    Mike Parker: Beth sydd mor arbennig am Gymru?

    Play Episode Listen Later Nov 20, 2023 42:50


    Tybed beth ddenodd Mike Parker (fo/fe) o Loegr i Fachynlleth? Yr awdur a'r cyn-wleidydd sy'n gwmni i Iestyn a Meilir y tro yma a chawn glywed pam fod Cymru mor agos at ei galon, pam y mentrodd i fyd gwleidyddiaeth a'r ysbrydoliaeth i'w lyfr hynod lwyddiannus, 'On the Red Hill'.

    Mhara Starling: Pam ddim gwrach?

    Play Episode Listen Later Nov 13, 2023 46:21


    Na, nid gwrach ond swynwraig yw gwestai'r podlediad y bennod hon. Mhara Starling (hi) sy'n bwrw'i swyn dros Iestyn a Meilir wrth drafod dylanwad llên gwerin Cymraeg ar ei bywoliaeth heddiw a sut wnaeth y dylanwad hwnnw ail-gynnau ei balchder yn ei Chymreictod.

    cymraeg iestyn mhara starling
    Gruff Jones: Ga i ofyn cwestiwn?

    Play Episode Listen Later Nov 6, 2023 55:19


    Yn y bennod hon, aiff Gruff (nhw) â ni ar eu taith o ddod i adnabod eu hunain fel person anneuaidd ac o rannu'r daith honno gyda rheiny sydd agosaf atynt, o gyd-aelodau'r band Swnami i'w teulu a'u teulu estynedig. Cawn glywed am ysbrydoliaeth y gân 'Be Bynnag Fydd' ac arwyddocâd y geiriau "rhwng dwy lan ond heb ddeall pam, yn perthyn i ddim" yn ogystal â gofyn y cwestiwn "sut mae modd holi am hunaniaethau traws ac anneuaidd heb sarhau neu ymyryd"?

    gruff yn cawn cwestiwn
    Nia Morais: Wyt ti'n breuddwydio?

    Play Episode Listen Later Oct 30, 2023 42:20


    Da ni'n plymio i fyd sgwennu ffuglen ffantasïol yn y bennod hon efo'r awdur, dramodydd a'r bardd Nia Morais (hi) gan drafod pŵer adrodd straeon. Ar gychwyn ei swydd newydd fel Bardd Plant Cymru, cawn glywed uchelgeisiau Nia am ei chyfnod yn y rôl wrth iddi fynd ati i ddatgloi creadigrwydd plant Cymru.

    Jeremy Miles: greddf yntau gwaith?

    Play Episode Listen Later Oct 23, 2023 43:44


    Mae Esgusodwch Fi yn ôl! Yn ymuno ag Iestyn a Meilir ym mhennod gyntaf yr ail gyfres, mae Jeremy Miles (fo/fe), Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru.Fe glywn am brofiadau ffurfiannol ei fagwraeth ym Mhontarddulais a dylanwad hynny ar ei waith fel gwleidydd. Yn y sgwrs ddadlennol yma mae'n rhannu sut mae ei hunaniaeth a'i rywioldeb wedi cyfrannu at ei waith fel gwleidydd a'i obeithion a'i bryderon at y dyfodol.

    Wyt ti'n gwybod dy statws?

    Play Episode Listen Later Jul 31, 2021 47:16


    A hithau'n bennod olaf y gyfres yma o'r podlediad, roedden ni eisiau trafod pwnc ychydig bach fwy arwyddocaol, sef HIV/AIDS. Mae'n afiechyd sydd dal i effeithio nifer o bobl yma yng Nghymru, ac yn ôl ein gwestai ni heddiw sef Uwch Gynghorydd polisi grwp trawsbleidiol HIV/AIDS San Steffan, Mark Lewis, mae yna lot o waith i'w wneud eto i addysgu pobl am yr afiechyd er mwyn rhwystro trosglwyddiadau newydd o'r firws.Os hoffech gymorth neu fwy o wybodaeth am HIV/AIDS yna ewch i wefan y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol, y Terrence Higgins Trust neu cysylltwch â'ch meddyg teulu.Diolch o galon am wrando ar y gyfres,Iestyn a Meilir :)

    Ti'n un o'r pump?

    Play Episode Listen Later Jul 24, 2021 35:58


    Pleser sgwrsio efo dau o gyd-awduron y gyfres lenyddol newydd 'Y Pump' yn y bennod yma, sef Leo Drayton a Maisie Awen. Da ni'n sôn am yr Emmy's, yr ysgol ac yn hel atgofion am ein harddegau. Heb sôn am ysbrydoliaeth ein arwyddgan catchy!Am be da chi'n aros? Pwyswch 'play' ac awê.Iestyn a Meilir :)

    Ydy hi'n gaddo camp heddiw?

    Play Episode Listen Later Jul 17, 2021 35:03


    O ystyried fod y fabulous Owain Wyn Evans yn ymuno hefo ni'r wythnos yma, mae'r rhagolygon yn darogan y bydd hon yn bennod fendigedig! Da ni'n trafod drymio, reidio motorbeics, bod yn camp a llawer mwy...Rhowch eich eli haul ymlaen a pwyswch 'play'.Iestyn a Meilir :)

    camp iestyn owain wyn evans
    Pa 'tribe' wyt ti?

    Play Episode Listen Later Jul 10, 2021 40:37


    Twink, bear 'ta geek? Pa 'tribe' wyt ti? Be ydi 'tribe' hyd yn oed? Wel, mi fyddwn ni'n trafod hyn i gyd a mwy efo'r actor Iestyn Arwel yn y bennod yma.Gan ein bod yn trafod themau aeddfed gydag ambell i ddefnydd o iaith gref, nid yw'r bennod yma yn addas i blant.Mwynhewch!Iestyn a Meilir :)

    Gwin coch, gwyn 'ta rosé?

    Play Episode Listen Later Jul 3, 2021 42:27


    Yr hyfryd Jalisa Andrews sy'n cadw cwmni i ni yr wythnos yma. Da ni'n cael y cyfle i'w holi am ei magwraeth, ei phlentyndod a'i hunaniaeth deurywiol. Oes yna ragdybiaethau am ddeurywioldeb? Ydyn ni'n euog o anghofio am y 'D' yn LHDTC+?Gwrandewch, myfyriwch a mwynhewch!Iestyn a Meilir :)

    Lle ma' Maggi?

    Play Episode Listen Later Jun 26, 2021 40:02


    O drag i fywyd i ddynion i'r Eisteddfod Genedlaethol. Dyma rai o destunau sgwrs y bennod yma efo'r amryddawn Kristoffer Hughes, sef y person tu ôl i'r frenhines drag ‘da ni i gyd yn ei hadnabod bellach - Maggi Noggi!Rargian, mi chwerthon ni tra'n siarad efo Kristoffer a da ni'n gobeithio y gwnewch chithau wrth wrando hefyd.Iestyn a Meilir :)RHYBUDD: Mae yna iaith gref a themau anaddas i blant yn y bennod yma!

    kristoffer iestyn dyma kristoffer hughes
    ‘Da chi'n efeilliaid?

    Play Episode Listen Later Jun 19, 2021 42:54


    Yn y bennod yma, mi fydd Iestyn yn cael ei gyfweld ar y cyd â'i efaill, Gethin Walker-Lewis. Byddwn yn cael sgyrsiau reit amrwd am deulu, ‘dod allan' a sut brofiad ydi o i gael brawd sydd hefyd yn hoyw.Mi fyddwn ni hefyd, fel yr arfer, yn trafod newyddion LHDT+ yma yng Nghymru a thu hwnt.Meilir a Iestyn :)

    Faint o ddilynwyr sgen ti?

    Play Episode Listen Later Jun 12, 2021 37:40


    Ma'r TikToker o fri, Ellis Lloyd Jones yn ymuno efo ni yn y bennod yma, i sgwrsio am ei gymeriadau lliwgar, perchnogi pob agwedd o'i hun ac am dynnu selfies yn Bangor.Mwynhewch!Iestyn a Meilir :)

    Sut ti'n dathlu Pride?

    Play Episode Listen Later Jun 5, 2021 42:17


    Trafod mis balchder a sgwrs gyda Crash Wigley.

    Gai dy lofnod di?

    Play Episode Listen Later May 29, 2021 39:30


    Straeon yr wythnos a sgwrs gyda'r actores, cyflwynydd ac ymgyrchydd Aisha-May Hunte.

    Ti'n byw yn Hollywood?

    Play Episode Listen Later May 22, 2021 37:50


    Bethan Marlow sy'n cadw cwmni i ni yn y bennod yma, yr holl ffordd o Flordia! Mae hi'n ddramodydd, yn gynhyrchydd theatr ac mae ei hanesion proffesiynol yr un mor ysbrydoledig â'i rhai personol hi.Hefyd, mi fyddwn ni'n trafod llwyth o newyddion LHDTC+ yr wythnos o Gymru a thu hwnt. Mwynhewch!Iestyn a Meilir :)

    Ydi'r meicroffon 'ma ymlaen?

    Play Episode Listen Later May 15, 2021 38:40


    Sut yn y byd wnaethon ni wasgu cymaint i mewn i un bennod? O'r acronym LHDT+ i etholiad y Senedd, heb anghofio'r ymateb i gân newydd Lil Nas X.Rhowch y tegell 'mlaen, pwyswch ‘play' ac ymunwch efo ni i fwynhau pennod gyntaf ‘Esgusodwch fi?'Iestyn a Meilir :)

    Croeso i Esgusodwch fi?

    Play Episode Listen Later May 14, 2021 0:12


    Sgwrsio, rhannu, chwerthin a dadlau yng nghwmni Iestyn Wyn, Meilir Rhys Williams a'u gwesteion. Trafodaethau bywiog am yr hyn mae'n ei olygu i fod yn aelod o gymuned LHDT+ yng Nhymru heddiw.

    Claim Esgusodwch fi?

    In order to claim this podcast we'll send an email to with a verification link. Simply click the link and you will be able to edit tags, request a refresh, and other features to take control of your podcast page!

    Claim Cancel