Guto Harri sydd yn cael sgwrs heb slogannau ac yn cloriannu dros ginio ar gwys ein gwleidyddiaeth. Guto Harri chats politics over lunch.
Ymgeisydd seneddol oedd am newid y drefn a chynhyrchydd drama afaelgar ddangosodd mor wahanol allai gwleidyddiaeth Cymru fod. Mewn bwyty eidalaidd bywiog yn y Brifddinas mae gan Branwen Cennard berspectif unigryw - a difyr tu hunt.
Ar lan y Tafwys ym mwyty crand cyd-ddisgybl o ysgol y Preseli mae merch fferm o Sir Benfro yn dathlu ei gradd ar drothwy gyrfa ym Manc mwya'r byd. Ond wedi gweithio'n rhan amser i gyn-ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, mae Sara Watkin a'i llygad ar gipio ei sedd rhyw ddydd.
Rôl oes aur llywodraeth lafur, ac wedi chware rhan ganolog yn datganoli grym i Gymru, mae dadrithiad Jon Owen Jones yn drawiadol dros stecen a gwin coch yn y bwyta poblogaidd ger ei hen swyddfa yng nghanol Caerdydd.
Mae’n anodd dychmygu Cymraes a gwell sedd i wylio’r ddrama seneddol fawr ar Brexit. Elin James-Jones yw cydlynydd San Steffan ar y pwnc crasboeth ac mae’n rhannu’r profiad yn frwdfrydig mewn bwyty unigryw ger ei chartref yn Wandsworth.
Pam bod Cymro cenedlaetholgar dawnus am fod yn Aelod Seneddol Ceidwadol a rhoi ei hun a'i deulu ifanc drwy'r felin o fod yn wleidydd cyfoes? Cawn yr ateb gan Tomos Dafydd dros ffagots ar gyrion marchnad Smithfield lle'r arfera'i ei hen deulu werthu eu llaeth.
Cyn-arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Elfyn LLwyd, sy’n cnoi cil dros yr hwyl a’r her o ddau ddegawd yn y senedd, ac yn awgrymu dros “dolmades” yn ei hoff ”daverna” bod angen newid arweinydd nawr.