principal area and historic county in south-west Wales
POPULARITY
Megan Williams sy'n clywed am wreiddiau'r hwrdd gan Eirlys Jones o Gas-blaidd, Sir Benfro
Mae Sara Pedersen yn ymweld â Fferm Maenhir, Hendy-gwyn ar Daf lle mae'r tad a'r mab Richard ac Iwan Twose yn cynnal cyfarfod Grŵp Agrisgôp. Ymunwn â Sara a'r ffermwyr o fewn y grŵp sydd wedi'u lleoli yn Sir Benfro i glywed sut y maent yn tynnu ar wybodaeth aelodau eraill o'r grŵp i weithredu newidiadau cadarnhaol yn nifer achosion o gloffni gwartheg ar eu ffermydd.
Megan Williams sy'n clywed am y cyfarfod ag Eluned Morgan gan Gerwyn Williams.
Rhodri Davies sy'n sgwrsio gydag un o drefnwyr y Sioe, Delme Harries.
Megan Williams sy'n clywed mwy gan Endaf Edwards, Arweinydd Safle Hufenfa Sir Benfro .
Pigion y Dysgwyr - Rosalie Caryl 020224Rosalie Lamburn o Moggerhanger ger Bedford oedd gwestai Caryl nos Fawrth ac roedd Caryl eisiau gwybod mwy am gefndir Rosalie. Cafodd hi ei geni yn Hong Kong ar ddechrau'r rhyfel, cyn symud i fyw i Awstralia a symud wedyn o fanno i Ddeiniolen ger Llanberis. Dyma Rosalie yn dechrau drwy sôn am ei hatgofion o Awstralia. Rhyfel WarAtgofion MemoriesMynyddog MountainousAnferth HugeBobol annwyl Goodness me Llong ShipGrawnwin Grapes Pigion y Dysgwyr – Magnets Oergell Aled Hughes 030424Rosalie Lamburn oedd honna'n sôn am ei phrofiad yn symud i Gymru o Awstralia pan oedd hi'n chwech oed. Dych chi'n un o ‘r rhai sy'n hoff o brynu magnet i roi ar y ffrij, neu'r oergell, pan dych chi ar wyliau? Wel mae'n ffordd dda o gofio am y gwyliau ymhen blynyddoedd wedyn on'd yw e? Mae Lowri Mair Williams newydd fod yn teithio am 5 mis yn Asia ac fel cawn ni glywed, mae casglu magnetau yn rhan bwysig o'i gwyliau iddi hi...Traddodiad TraditionCelf ArtLlawn bwrlwm BuzzingCynnyrch lleol Local producePwytho â llaw HandstitchedPren Wood Cysylltiad ConnectionAtyniad AttractionPigion y Dysgwyr – Clare Mackintosh Dros Ginio 02.04.24Faint o le sydd ar ffrij Lowri erbyn hyn tybed i gadw'r holl fagnetau na? Mae'r awdures Clare Mackintosh, sy'n byw yn y Bala, wedi cyhoeddi ei llyfr diweddara. Fel arfer basen ni'n cysylltu ei llyfrau hi â ffuglen a throsedd, ac mae ei llyfrau wedi gwerthu dros 2 filiwn ar draws y byd. Mae ei llyfr diweddara yn wahanol iawn i'r lleill ac yn sôn am ei phrofiad personol hi o alar…Ffuglen a throsedd Fiction and crimeDiweddara Most recentGalar GriefDynes MenywCennin Pedr DaffodilsAmser maith yn ôl A long time agoYn union ExactlyPigion y Dysgwyr – Cerys Hafana Beti a'i Phobol 070404A dw i'n siŵr bydd llyfr diweddara Claire yn gysur ac yn gymorth i rai eraill sy'n galaru ar ôl colli rhywun agos. Tair perfformwraig sydd i'w clywed yn y tri chlip nesa ‘ma gan ddechrau gyda'r delynores ifanc, Cerys Hafana, oedd yn westai ar Beti a'i Phobol ddydd Sul, Dim ond 22 oed ydy hi ac mae hi'n berfformwraig boblogaidd iawn oherwydd ei harddull arbennig yn canu'r delyn. Cafodd hi ei geni yn Chorlton, Manceinion ac yma mae hi'n sôn am hanes ei theulu….Cysur ComfortTelynores HarpistArddull StyleChwarelwyr QuarrymenDychwelyd To returnCwympo To fall Pigion y Dysgwyr – Golden Oldies Bore Cothi 020404Ac mae Cerys yn perfformio mewn sawl lleoliad yng Nghymru rhwng nawr a'r haf – cerwch i'w gweld os cewch chi gyfle, mae'n delynores arbennig iawn. Buodd Shelley Morris o Faenclochog yn Sir Benfro yn sôn am brosiect arbennig sef y Golden Oldies ar Bore Cothi. Cynllun ydy hwn drwy Gymru sy'n cynnig siawns i rai ddod at ei gilydd i fwynhau a chael cyfle i ganu pob math o ganeuon, nid fel côr, ond yn fwy hamddenol. Ond mae Shelley yn berfformwaig ei hunan hefyd, a dyma hi'n sôn wrth Shan Cothi am ei phrofiad hi o berfformio ar lwyfannau enwog iawn...Hamddenol Leisurely Profiad Experience Llwyfannau Stages Nefoedd annwyl Good HeavensPigion y Dysgwyr – Connie Orff Caryl 030204Wel pob lwc i'r Golden Oldies on'd ife? Mae'n swnio'n brosiect diddorol a hwyliog iawn. Ac yn ola, y frenhines drag, Connie Orff, gafodd sgwrs gyda Caryl i sôn am beth sy'n gwneud perfformiad drag llwyddiannus … Dylanwadau InfluencesUniaethu fel To identify asFfraeth WittyIsraddol InferiorCaniatáu To permit
Pigion y Dysgwyr – Shelley Musker Turner Ddydd Mercher diwetha cafodd Shan Cothi gyfle i sgwrsio gyda Shelley Musker Turner sy'n aelod o'r grwp gwerin Calan, ond yn y clip nesa ‘ma sgwrsio maen nhw am waith Shelley gyda cheffylau yn y byd ffilmiau. Gweithio fel cyfrwywr mae hi a dyma hi'n sôn mwy am y gwaith Cyfrwywr SaddlerCymwysterau Qualifications Ffodus LwcusCreadigol CreativeAil-greu To recreateLledr LeatherCyfrwy SaddleAr waith In the pipeline Amrywiaeth Variety Pigion y Dysgwyr – Mike Olson Waw, mae Shelley wedi gweithio ar rai o'r ffilmiau mwya enwog, on'd yw hi? Daw Mike Olson o Winnipeg yng Nghanada yn wreiddiol ond mae e wedi dysgu Cymraeg ac yn ei defnyddio yn ei waith bob dydd. Fe yw Dysgwr y Flwyddyn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cafodd Aled Hughes sgwrs gyda Mike ddydd Mercher ar ei raglen, a dyma'r cwestiwn cynta ofynnodd Aled iddo fe... Iechyd Cyhoeddus Public HealthCydweithiwr Co-workerSylwi To noticeHeb os nac oni bai Without doubtBrwdfrydedd EnthusiasmY cyfnod clo The lockdownDegawd DecadeYmdrech Effort Pigion y Dysgwyr – Cofio Y Gwanwyn Mike Olson oedd hwnna'n sôn am ei daith i ddod yn siaradwr Cymraeg rhugl. Y Gwanwyn oedd thema rhaglen archif Radio Cymru “Cofio” yr wythnos hon. A phob Gwanwyn wrth gwrs mae'r clociau yn cael eu troi ymlaen awr. Dyma'r hanesydd Bob Morus i esbonio pam dyn ni'n gwneud hyn, a syniad pwy oedd e yn y lle cynta Ymgyrch CampaignYmwybodol AwareGoleuni LightGlynu To stickGalluogi To enableHeulwen liw nos Evening sunEnnyn cefnogaeth To elicit supportMesur A BillDeddf StatuteCynhyrchu arfau Arms manufacturingAr fyrder In hastePigion y Dysgwyr – Liz Saville Roberts Cofiwch droi'r clociau yna ymlaen cyn mynd i'r gwely nos Sadwrn nesa, ac roedd hi'n ddiddorol cael gwybod ychydig o hanes yr arfer yma on'd oedd hi? Liz Saville Roberts yw Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ac mae hi newydd ymddangos ar restr flynyddol cylchgrawn ‘The House' sef ‘Merched San Steffan 2024 – y 100'.. Beth mae Liz yn ei feddwl o fod ar y rhestr hon? San Steffan WestminsterBraint PrivilegeCydnabod AcknowledgeDylanwadu To influenceYn eu plith nhw Amongst themPleidiau gwleidyddol Political partiesAwch EagernessYsgogiad MotivationRhagflaenydd Predecessor Pigion y Dysgwyr – Geraint Jones A llongyfarchiadau i Liz Saville Roberts ar ennill ei lle ar y rhestr bwysig hon on'd ife? Gwestai Beti George ar Beti a'i Phobol yr wythnos hon oedd Geraint Jones. Mae e'n dod o Sir Benfro a dyma fe'n sôn am ei dad, oedd yn blismon pentre yng ngogledd y Sir. A cofiwch bod cyfle i glywed y rhaglen hon i gyd drwy fynd i BBC Sounds. Cyfrifol am Responsible forLles WelfareTrwyddedau LicensesYn feunyddiol DailyCarcharor PrisonerGwendidau WeaknessesLleithio Becoming damp Pallu MethuBygwth gwae ThreateningLlyw Steering wheelPigion y Dysgwyr – Caryl Wel dyna stori ddoniol, a dw i'n siŵr bod llawer o straeon eraill gan Geraint am ei dad y plismon pentre. Ar ei rhaglen nos Fercher ddiwetha cafodd Caryl sgwrs gyda Huw Rowlands sy wrth ei fodd gyda choginio, ac sydd yn hyfforddi teuluoedd i goginio. Dyma fe i ddweud mwy am sut cychwynnodd y fenter hyfforddi a hefyd am sut dechreuodd e ei hunan goginio Ysbrydoliaeth InspirationDenu dy sylw di Drew your attentionPice ar y maen Welsh cakesCas-gwent Chepstow Cynhwysion IngredientsLlwyfannau cymdeithasol Social mediaRyseitiau pobi Baking recipesCacen glou A quick cake
Rhodri Davies sy'n sgwrsio gydag Endaf Edwards, arweinydd safle'r hufenfa.
Pigion Dysgwyr – JapanWythnos diwetha buodd Aled Hughes yn siarad gyda Rhian Yoshikawa sydd yn byw yn Japan. Cafodd e air gyda hi am yr arfer o dynnu sgidiau yn Japan wrth fynd mewn i dŷ rhywun. Ymwybodol AwareYn llythrennol LiterallyGofod SpaceYn y bôn EssentiallyLle ddaru Ble wnaethY tu hwnt BeyondRheolau RulesParch RespectYmddwyn To behaveMeistroli To master Pigion Dysgwyr – Adam JonesTraddodiadau diddorol Japan yn cael eu hesbonio ar raglen Aled Hughes gan Rhian Yoshikawa - diddorol on'd ife? Garddwr o Ddyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin yw Adam Jones, neu Adam yn yr Ardd fel mae'n cael ei nabod. Dechreuodd ei ddiddordeb mewn garddio pan oedd e'n 3 oed yng ngardd ei dad-cu, neu daid, yn tyfu llysiau o bob math mewn gardd fach yng Nglanaman. Roedd ei dad-cu yn fentor pwysig iawn iddo, a fe ddechreuodd meithrin sgiliau a gwybodaeth garddio Adam.. Balch ProudAr goedd PubliclyCwato To hideRhyched o dato A furrow of potaoesTueddiad A tendencyMas draw Yn fawr iawnGwybedyn bach A small flyAwch A keenessCyfuno To combine Cenedlaethau GenerationsPigion Dysgwyr – Rhys MeirionFelly mae diolch i dad-cu Adam am y rhaglenni garddio gwych sydd ar S4C. Gwestai Shan Cothi yn ddiweddar ar gyfer slot Cofion Cyntaf oedd y canwr Rhys Meirion. Yn y rhan yma o'r rhaglen mae gwestai gwahanol yn cofio eu dyddiau cynnar a rhai o'u hatgofion cynhara. Dyma Rhys Meirion i sôn am ei atgofion e….. Atgofion cynhara Earliest memories Diffoddwr tân Fire ExtinguisherGollwng To dropArogl A smellGwydn Tough Pigion Dysgwyr – RNLIDw i'n siŵr ein bod ni i gyd, fel Rhys Meirion, yn cofio arogl cinio ysgol! Eleni mae'r RNLI yn dathlu penblwydd yn 200 oed. Ers 1824 mae badau achub ar draws Ynysoedd Prydain wedi bod yn achub bywydau a phnawn Mawrth diwetha ar Dros Ginio cafodd Jennifer Jones air gyda Mali Parry Jones o Forfa Nefyn ym Mhen Llŷn. Mae hi'n gwirfoddoli gyda Bad Porth Dinllaen a dyma hi'n cofio gweld y bad achub yn mynd allan pan oedd hi'n ifanc. Badau Achub LifeboatsGwirfoddoli To volunteerRhan annatod Integral partGalwad A callClogwyni CliffsYmdrech ehangach A wider effortElusen CharityYsgogi To motivateGwythiennau VeinsPigion Dysgwyr – RentMae'n amlwg bod y badau achub yn chwarae rhan mawr ym mywyd cymuned Morfa Nefyn on'd yw e? Llongyfarchiadau mawr i'r RNLI ar ei ben-blwydd yn 200 oed. Nos Fercher ddiwetha ar ei rhaglen cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Steffan Lloyd. Mae Steffan yn canu mewn cynhyrchiad o'r sioe lwyfan Rent sydd ymlaen ym Mhort Talbot yr wythnos hon. Gofynnodd Caryl i Steffan yn gynta sut mae'r ymarferion wedi bod yn mynd hyd yn hyn Cynhyrchiad Production Cyfarwyddwr cerddoriaeth Musical directorGolygfa SceneCywilydd gen i ddweud I'm ashamed to sayCyflwyno To present Pigion Dysgwyr – JemeimaA phob lwc i Steffan a'r cast ar y perfformiad. Dw i'n siŵr ei bod yn sioe ardderchog.Dych chi'n gwybod am hanes Jemima Nicholas helpodd rwystro glaniad y Ffrancod yn Sir Benfro yn 1797. Wel dyma y Parchedig Richard Davies o Gasnewy(dd) Bach ger Abergwaun i sôn am ddigwyddiad dros y penwythnos i gofio am Jemima ar Bore Cothi fore Iau. Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shan yn gynnes y diwrnod hwnnw.Rhwystro glaniad To prevent the landingIldio To surrenderAmlwg ProminentDadorchuddio To unveil Mynwent CemetaryCarreg goffa Memoria stoneArddangosfa hanesyddol Historical exhibitionBrodwaith TapestryYsbrydoli To inspireMas Allan
Blwyddyn Newydd dda! Mae tymor 2024 wedi dechrau yn Neyland. Clywch hanes râs David ynghyd a sgwrs gyda Will a Henry Birchall, brodyr 15 a 16 mlwydd oed sydd yn amlwg yn talent enfawr am y dyfodol.
Rhodri Davies sy'n sgwrsio gyda Robert Vaughan o Sir Benfro sydd ar y rhestr fer.
Pigion Dysgwyr – Heather Jones Mae'r tri chlip cynta i gyd am bobl amlwg sy wedi dysgu Cymraeg, a beth am i ni gychwyn gyda'r gantores Heather Jones? Yn yr ysgol dysgodd Heather Gymraeg yn ail iaith, ond buodd hi'n perfformio a recordio yn y Gymraeg am flynyddoedd maith. Mae Heather newydd gyhoeddi ei bod hi wedi canu'n fyw am y tro ola ac ar Bore Cothi esboniodd hi wrth Shan Cothi sut dechreuodd ei gyrfa ym myd canu Amlwg Prominent Cyhoeddi Announce Ymennydd Brain Yn gyfangwbl Completely Tinc Tone Pigion Dysgwyr – Johnny Tudor Mae'n rhyfedd meddwl na fyddwn yn clywed llais Heather Jones ar lwyfannau Cymru eto on'd yw hi? Dysgu Cymraeg fel oedolyn ar gwrs Wlpan yng Nghaerdydd wnaeth y diddanwr, y dawnsiwr a'r canwr Johnny Tudor, ac roedd e'n dathlu 60 mlynedd ym myd adloniant eleni. Ar gyfer rhaglen Ffion Dafis bnawn Sul, aeth Lily Beau draw i gartre Johnny i'w holi. Dyma fe gydag un stori fach o'i yrfa... Diddanwr Entertainer Dynwared To impersonate Llwyfan Stage Pigion Dysgwyr – Dinbych y Pysgod A dw i'n siŵr bod gan Johnny lawer iawn o straeon difyr eraill o'i yrfa hir ym myd adloniant. Mae Jo Heyde wedi dysgu Cymraeg ac yn byw yn Ninbych y Pysgod erbyn hyn. Mae hi'n fardd, yn barddoni yn Gymraeg, ac wedi ennill cadair am ei barddoniaeth. Nos Fawrth diwetha ar raglen Caryl esboniodd Jo pam daeth hi i fyw i dde Sir Benfro yn y lle cyntaf…… Dinbych y Pysgod Tenby Bardd Poet Hala Treulio Dim syndod No surprise Yn syth bin Straight away Unigryw Unique Haenau Layers Tirwedd Landscape Llanw Tide Cyfnewidiol Changeable Awen Muse Pigion Dysgwyr – Lliw Ddall Wel dyna i chi dri sy wedi dysgu Cymraeg yn wych, ac sydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i'r byd Cymraeg. Diolch Heather, Johnny a Jo. Mae Owen Jones o Gaerdydd yn un o'r 1 o bob 12 dyn sydd yn lliwddall, ond yn ôl gwyddonwyr dim ond 1 o bob 200 o ferched sy‘n lliwddall ac mae Bethan Rhys Roberts yn un ohonyn nhw. Ar gyfer Bore Sul yr wythnos diwetha trïodd Owen a Bethan sbectolau arbennig sydd i fod i gywiro eu golwg...dyma sut aeth pethau …. Cyfraniad gwerthfawr A valuable contribution Lliwddall Colour blind Yn ôl According to Gwyddonwyr Scientists Cywiro eu golwg Correct their eyesight Llachar Bright Sefyll mas To stand out Cyfoethog Rich(colour) Ffug Fake Pigion Dysgwyr – 1973 Wel newyddion da i‘r rhai sy'n lliwddall on'd ife – mae'n debyg bod y sbectol newydd yn gweithio! Mae'r flwyddyn 1973 yn cael ei gyfri'n flwyddyn arbennig ym myd gwneud ffilmiau. Ond beth oedd mor arbennig am y flwyddyn honno? Cafodd Dion Wyn sgwrs gydag Owain Llyr ar Dros Ginio yr wythnos diwetha i esbonio mwy….. Cyfnod Period of time Hogiau Bechgyn Tywyll Dark Agwedd Attitude Eithafol Extreme Naws Mood Anhygoel Incredible Pigion Dysgwyr – Max Boyce Dion Wyn ac Owain Llyr oedd y rheina'n sgwrsio am pa mor bwysig oedd 1973 i fyd y ffilmiau. Ddydd Mercher diwetha roedd y canwr a'r diddanwr Max Boyce o Lyn Nedd yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed. Mae Max wedi bod yn diddanu pobl Cymru ac ar draws y byd ers diwedd y 60au. Cafodd Aled Hughes gyfle i holi Jed O'Riley o Glwb Rygbi Glyn Nedd sy'n ei adnabod e'n dda…. Cymuned Community Sgwrs ddifyr An interesting conversation Ymwybodol Aware Pwysigrwydd Importance
Rhodri Davies sy'n sgwrsio gydag aelod o'r tîm buddugol, Caryl Bevan o CFFI Llys-y-Frân.
S'mae... Ry'ch chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse ydw i, ac i ddechrau'r wythnos yma... Aled Hughes - Dafydd Iwan 7.11 Roedd Dafydd Iwan yn westai ar raglen Aled Hughes fore Llun i sôn am Yma o Hyd, y gân sydd wedi ei dewis fel anthem tîm Pêl-droed Cymru ar gyfer Cwpan y Byd. Recordiwyd Yma o Hyd gynta bron i bedwar deg mlynedd yn ôl, ond mae hi wedi cael bywyd newydd yn ddiweddar, gyda recordiad newydd sydd wedi cael sylw mawr y tu hwnt i Gymru. Tu hwnt Beyond Wedi hen arfer Well used to Bodoli ers degawdau Existed for decades Rhyfedda Strangest Pwysleisio'r angen Stresses the importance Ail-greu To recreate Ers tro For a long time Ysbrydoli To inspire Yr alwad The call Llorio To floor Bore Cothi – Roy Noble 7.11 ...a buodd chwarter miliwn o blant ysgol Cymru yn canu Yma o Hyd fel rhan o Jiwbili yr Urdd, gwych on'd ife? Ddydd Llun hefyd cafodd Shan Cothi gyfle i groesawu y darlledwr Roy Noble oedd yn edrych ymlaen at ei ben-blwydd yn 80. Dechreuodd Roy drwy sôn am ei ddyddiau cynnar yn darlledu……. Darlledwr Broadcaster Traffordd Motorway Bwrw To hit Yr Hollalluog The Almighty Camsyniad Camgymeriad Menwyod Merched Wejen Cariad Yn gymharol ddiweddar Fairly recently Traddodiad Tradition Beti a'I Phobl – Meleri Davies 13.11 Roy Noble oedd hwnna'n siarad gyda Shan Cothi. Brynhawn Sul, Meleri Davies o Fenter Ogwen oedd gwestai Beti George ar Beti a'i Phobl. Mae brawd Meleri, Dewi Prysor, yn nofelydd a gofynnodd Beti oedd diddordeb gyda hi mewn creu llenyddiaeth yn ogystal Llenyddiaeth Literature Dihangfa An escape Rhyddiaith Prose Cerddi rhydd Free verse Chwant An inclination Cyfrwng Medium Atomfa Nuclear power station Dylanwad Influence Amaethwyr Farmers Ymbelydredd Radiation Peri dychryn To cause alarm Dros Ginio - Delyth Wyn a Elin Fflur 8.11 Blas ar sgwrs gafodd Beti George gyda Meleri Davies oedd hwnna, a nawr cawn wrando ar ran o sgwrs cafodd Jennifer Jones ar Dros Ginio gyda Delyth Wyn ag Elin Fflur sef cynhyrchydd a chyflwynwraig y gyfres deledu Sgwrs Dan y Lloer. Cynhyrchydd Producer Cyflwynwraig Female presenter Addas i'r cyfnod Suitable for the period Dynoliaeth Humanity Rhyfeddu To wonder Gwerthfawrogi To appreciate Cymdeithasu To socialise Cefnlen Backdrop Creu'r naws Creating the atmosphere Caryl - Heledd Fflur 8.11 Ac mae rhaglenni Sgwrs Dan y Lloer wedi bod yn rhai gwych on'd yn nhw? Heledd Fflur, sydd yn dod o Drewyddel, Sir Benfro yn wreiddiol, yw garddwraig wadd rhaglen Caryl gyda'r nosau, a'r wythnos yma buodd hi'n sôn wrth Caryl am gyfrinachau tyfu moron da Cyfrinachau Secrets Dyfrhau To water Os wedwn i If I say so Pridd Soil Parhau To continue Yn hytrach na Rather than Diog Lazy Sychder Drought Arwynebedd Surface area Tueddol i Tend to Ifan Evans – Clive Edwards 10.11 Dyna ni wedi cael gwybod sut i dyfu moron da – dyfrhau o'r gwaelod! Brynhawn Iau buodd Ifan Evans yn siarad gyda'r canwr Clive Edwards am ei gryno ddisg, neu CD, newydd, Dyddie Da, sy'n cael ei ryddhau cyn bo hir. Llongyfarchiadau Congratulations Offerynwyr Instrumentalists Ffair Aeaf Winter Fair Hala Anfon Diniwed Innocent
BETI A'I PHOBOL Joe Healy, enillydd Dysgwr y Flwyddyn oedd gwestai Beti George yn ystod Wythnos y Dathlu. Mae Joe'n dod o Wimbledon yn ne Llundain yn wreiddiol ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers deg mlynedd. Daeth i Gaerdydd i fynd i'r brifysgol, ac mae wedi aros yno. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018 ac yn y clip yma mae'n sôn am sut wnaeth teulu Mared, ei cyn- gariad, ei helpu i ddysgu'r iaith… Treulio amser - To spend time Mynd mas - Mynd allan Profiad - Experience Mam-gu - Nain Cymdeithasol - Sociable Gorfodi - To force Cefnogol - Supportive Becso - Poeni Trochi - To immerse ALED HUGHES Dim ond ers mis Ebrill eleni mae Katie Owen o Ferthyr yn dysgu'r iaith ar ôl iddi gymryd rhan yn y rhaglen Iaith ar Daith gyda'r DJ Huw Stephens yn fentor iddi hi. Dyma hi'n sgwrsio gydag Aled Hughes… Gwahanol - Different Tad-cu - Taid ALED HUGHES Cafodd Laura Jones o Gaerdydd ychydig o wersi Cymraeg yn yr ysgol, ond penderfynodd ddysgu'r Gymraeg fel oedolyn er mwyn cyfieithu rhannau o'r Quran. Dyma flas ar y sgwrs cafodd hi gydag Aled Hughes... Oedolyn - Adult TGAU - GCSE Annog - To encourage Gyrfa - Career Cyfleoedd Gwaith - Work opportunities Bwlch - A gap Dywediadau - Sayings ALED HUGHES Beth tybed oedd rheswm Kelly Webb-Davies sy'n dod o Awstralia'n wreiddiol dros ddysgu'r iaith? Fel cawn ni glywed mae hi'n briod â Peredur Glyn awdur nofel o'r enw ‘Pumed Gainc y Mabinogi' ac mae hi wedi magu ei mab drwy'r Gymraeg. Dyma hi'n sgwrsio efo Aled Hughes... Ieithyddiaeth - Linguistics Bathu term - To coin a phrase Sillafu - To spell Seiniau - Sounds Clwt - Cewyn Llwglyd - Hungry BORE COTHI Mae stori Sara Maynard o Sir Gaerfyrddin ychydig yn wahanol. Cafodd hi ei haddysg mewn ysgolion Cymraeg ond ar ôl gadael ysgol collodd hi ei hyder o ran sgwennu Cymraeg. Aeth hi ar gwrs Cymraeg i Oedolion i wella'r sgil yma ac erbyn hyn mae hi'n swyddog iaith ym Mhrifysgol De Cymru. Ysgol gynradd - Primary School Ysgol Gyfun - Secondary School Trwy gyfrwng - Through the medium of Ysgrifenedig - Written Sbarduno - To spur BORE COTHI Cafodd Shân Cothi sgwrs ddiddorol arall gyda Dickon Morris, cafodd ei eni yng Nghaergrawnt, ei fagu yn Sir Benfro ond sydd erbyn hyn yn byw yng Nghaerdydd. Mae e'n gweithio fel daearegydd ac yn amlwg mae e wrth ei fodd gyda'r gwaith... Caergrawnt- Cambridge Daearegydd - Geologist Plentyndod - Childhood Dinbych y Pysgod - Tenby Diwydiant - Industry Tirwedd - Landscape Llethrau serth - Steep slopes Amrywiaeth - Variety
BETI A'I PHOBOL Karl Davies oedd gwestai Beti George yr wythnos hon. Mae Karl newydd ddod yn ôl i Gymru ar ôl bod yn dysgu Saesneg i oedolion am bedair blynedd yn China…a dyma fo'n sôn am hanes Cadi, y gath fach, wnaeth deithio mewn awyren yr holl ffordd o China i Gaerdydd... Y gradures fach - Poor thing (lit: the little creature) Mabwysiadu - To adopt Erchyll - Dreadful Epaod - Apes TRYSTAN AC EMMA Mae Elsi Williams yn dod o Fethesda yng Ngwynedd yn wreiddiol ond yn byw yn Llandudno erbyn hyn. Mae hi'n mynd i nifer fawr o ddosbarthiadau ffitrwydd i gadw'n heini, fel cawn ni glywed yn y clip nesa ‘ma. Trïwch ddyfalu be ydy oedran Elsi wrth i chi wrando arni'n sôn am gadw'n heini – mi gewch chi'r ateb cyn diwedd y clip… Ddaru - Gwnaeth Coedwig - Wood Clychau'r gog - Bluebells Anhygoel - Incredible DEI TOMOS Roedd y Moody Blues yn fand poblogaidd iawn yn y chwedegau a'r saithdegau ac mae'n debyg mae Nights in White Satin oedd un o'u caneuon mwya enwog. Roedd un o aelodau'r band, Ray Thomas, yn perthyn i'r cyflwynydd, cerddor ac actor Ryland Teifi. Fo oedd gwestai Dei Tomos nos Fawrth a dyma fo'n rhoi ychydig o'r hanes... Cyflwynydd - Presenter Cerddor - Musician Yn enedigol o - A native of Yn fachan - Yn fachgen Dur - Steel Ar fy mhwys i - Wrth fy ymyl i Modrybedd - Aunties Roedd e'n dwlu ar - Roedd o'n dotio ar ALED HUGHES Mae'r cyflwynydd Bethan Elfyn wedi bod yn sal ers 2005 ac wedi bod yn aros am drawsblaniad ysgyfaint am flynyddoedd er mwyn iddi hi gael gwella. O'r diwedd mae hi wedi cael clywed ei bod ar y rhestr am drawsblaniad... Trawsblaniad ysgyfaint - Lung transplant Wedi cwympo - Has fallen Triniaeth - Treatment Dirywiad - Deterioration Celloedd - Cells Dinistrio - To destroy BORE COTHI Mi gafodd Shân Cothi sgwrs efo Martina Roberts sy'n dod o'r Weriniaeth Tsiec yn wreiddiol ond sydd nawr yn dysgu yn Sir Benfro. Dyma hi'n sôn am sut dechreuodd hi ddysgu Cymraeg... Y Weriniaeth Tsiec - The Czech Republic Ystyried - To consider Denu - To attract Gwella - To improve Almaeneg - German language GWNEUD BYWYD YN HAWS Mi fuodd Hanna Hopwood yn sgwrsio efo Branwen Llywelyn sydd wedi derbyn her 'Medi Ail Law', ond beth yn union ydy'r her ‘ma? Her - A challenge Mae'n hysbys - It's known Amgylchedd - Environment Diwydiant - Industry Hinsawdd - Climate Mynd i'r afael - To get to grips with Codi ymwybyddiaeth - To raise awareness Annog - To encourage Ar hap - Randomly Egwyddorion - Principles Annibynnol - Independent
Awdur a'r newyddiadurwr Hefin Wyn yw gwestai Beti. Mae wedi ysgrifennu'n helaeth am gerddoriaeth Cymraeg, am Meic Stevens, Waldo a Niclas y Glais ac yn gyn newyddiadurwr gyda'r BBC a HTV. Bu hefyd yn Ohebydd adloniant Y Cymro, ac fe ddisgrifiodd Beti ef fel "Llysgennad dros Sir Benfro". Mae'n rhannu straeon ei fywyd ac yn dewis ambell gân.
Elen Mair yn sgwrsio gyda'r ffermwr o Sir Benfro, Aled Thomas
Rhodri Davies sy'n sgwrsio gyda Swyddog Tân o Sir Benfro, Richard Vaughan.
Rhodri Davies sy'n clywed mwy am y sioe ar ei newydd wedd gan Delme Harries o'r pwyllgor.
Pigion Aled Hughes Rhestr fer dysgwr y flwyddyn Mi fuodd Aled Hughes yn cael sgwrs efo'r 4 sydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn 2022. Mi fydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod Tregaron wythnos nesa. Bore Llun mi gafodd o gyfle i ddod i nabod Stephen Bale, un o'r pedwar sydd yn y ffeinal. Mae Stephen yn dod o ardal Castell-nedd yn wreiddiol ond erbyn hyn mae o'n byw yn Sir Fynwy. Rhestr fer Short list Cyhoeddi To announce Castell-nedd Neath Sir Fynwy Monmouthshire Cwrs dwys Intensive course Yn y pendraw In the end Degawd Decade Gohebydd Correspondent Rhyngwladol International Y Llewod The Lions Hyrwyddo To promote Pigion Aled Hughes DyFlwyddyn – Sophie Tuckwodd Stephen Bale oedd hwnna – gohebydd rygbi sydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn eleni. Dydd Mawrth mi gafodd Aled gyfle i gael sgwrs efo Sophie Tuckwood un arall sydd ar y rhestr fer. Daw Sophie o Nottingham yn wreiddiol ond symudodd hi i Sir Benfro ddeg mlynedd yn ôl. Wynebu To face Ar yr un pryd At the same time Yr ifanca Y fenga Cyfathrebu To communicate Pigion Aled Hughes DyFlwyddyn – Joe Healy Ac mae Sophie erbyn hyn wedi ennill cymhwyster Dechrau Dysgu i fod yn diwtor Cymraeg i Oedolion ac mae hi'n dysgu dosbarthiadau Mynediad yn Sir Benfro.. Cyfle i ddod i nabod Joe Healy oedd hi ddydd Mercher. Mae Joe yn dod o Wimbledon yn wreiddiol ond erbyn hyn mae o'n byw yng Nghaerdydd. Gwiwer Squirrel Diwylliant Culture Cysylltiad Connection Braidd ‘di gadael Hardly left Ymwybodol Aware Iau ‘fengach/ifancach Pigion Aled Hughes Rhestr fer dysgwr y flwyddyn – Ben Ó Ceallaigh Mae Aled yn amlwg yn mwynhau sgwrsio efo'r 4 sydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn ac yn synnu bod eu Cymraeg nhw cystal ar ôl cyn lleied o amser yn dysgu. Dydd Iau mi gafodd o gyfle i sgwrsio efo'r pedwerydd ymgeisydd, Ben Ó Ceallaigh sydd ond wedi bod yn dysgu ers 20 mis! Daeth Ben i Gymru o Iwerddon flwyddyn yn ô,l ac erbyn hyn mae o'n darlithio yn Gymraeg. Darlithio Lecturing Ymgeisydd Candidate Gwyddeleg Irish language Rhwystredig Frustrating Parhau To continue Rhyfeddol Amazing Mynychu To attend Diolchgar Thankful Pigion – Bore Cothi Sioe Fawr Lowri Dyna bedwar dysgwr gwych ynde? Pob lwc i bob un ohonyn nhw yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn wythnos nesa. Roedd y Sioe Fawr ymlaen yn Llanelwedd wythnos diwetha am y tro cynta ers tair blynedd ac mi roedd Shan Cothi wrth ei bodd yng nghanol hwyl y sioe. Clwyd oedd Sir Nawdd y sioe a mi gafodd Shan air efo Lowri Lloyd Williams, llysgennad y sioe, fore Llun. Mae Lowri'n dod o Efenechtyd ger Ruthin. Rownd derfynol Final round Y Sioe fawr The Royal Welsh Nawdd Sponsorship Llysgennad Ambassador Braint ac anrhydedd An honour and a privilege Cynrychioli To represent Atgofion Memories Cystadlu To compete Agosatrwydd Intimacy Pigion – Ar Blat Roy Noble Shan a Lowri yn amlwg wrth eu boddau yn y Sioe yn Llanelwedd. Cafodd Beca Lyne-Pirkis gwmni y darlledwr Roy Noble i drafod bwyd. Ydy Roy yn hoffi bwyta allan tybed? Darlledwr Broadcaster Ers achau A long time ago Pan o'n i'n caru When I was courting Lan lofft I fyny'r grisiau Swllt A shilling Wejen Girlfriend Beudy Cowhouse Hanesyddol Historical
Carren Lewis yw gwestai Beti George ac mae ei stori yn mynd a ni o Penrhyndeudraeth i Dwrci a nôl i Sir Benfro. Yn ganolog i'r stori mae hanes ei mab bach mabwysiedig gafodd ei adael mewn bocs ar y ffin rhwng Syria a Thwrci. Merch o Benrhyndeudraeth ydi Carren, bu'n byw ym Mhwllheli am gyfnod ac wedyn fe aeth draw i Dwrci i weithio yn Marmaris. Yno cyfarfu â'i gwr, ac ar ôl cyfnod anodd yn derbyn triniaeth IVF fe benderfynon nhw fabwysiadu. Mae Carren yn sôn am y cartref plant amddifaid yn Diyarbakır yn Nhwrci lle y daeth hi o hyd i'w mhab. Hogan fach a ddaliodd ei sylw, ond roedd ei mhâm Ann wedi gwirioni ar fachgen bach gyda gwên anferth, brech yr ieir, trwyn budr a llygaid croes. Pan gafodd Carren wybod nad oedd mabwysiadu'r ddau yn opsiwn, roedd yn rhaid dewis. Dydi Carren ddim wedi celu dim rhagddo. Wrth i blant eraill glywed straeon dychmygol gyda'r nos, roedd Bedri'n clywed am ei hanes mewn cartref yn Nhwrci. Mae bellach yn gwybod am ddyddiau cynharaf ei fywyd hefyd, yn cael ei ddarganfod yn fabi gan hogyn a glywodd sŵn cath ar ei ffordd i'r ysgol. Dyma stori ryfeddol Carren ac yn ganolbwynt i'r stori mae Bedri Lewis.
James Oswald is the author of the bestselling Inspector Maclean series of novels, as well as the fantasy series, The Ballad of Sir Benfro, and more. His latest book, All That Lives, is the twelfth in the Inspector Maclean series.It was really interesting hearing how James made his breakthrough via self-publishing and how his success there led to traditional publishers bidding to try and get the rights to his novels. We also talked about how he juggles being a farmer with his writing, why publishers always say they want something new, even if that's not always the case, and hear about his latest book, All That Lives. On top of that, we talk about his love of comics and what he has planned in the future.Links:Buy All That Lives and James's other books nowVisit James's websiteFollow James on TwitterPage One - The Writer's Podcast is brought to you by Write Gear, creators of Page One - the Writer's Notebook. Learn more and order yours now: https://www.writegear.co.uk/page-oneFollow us on Twitter: @ukPageOneFollow us on Facebook: www.facebook.com/ukPageOneFollow us on Instagram: @ukPageOne See acast.com/privacy for privacy and opt-out information.
Bore Cothi Ieuan Rhys I le fasech chi'n licio mynd ar fordaith? Mwynhau'r haul 'falle yn y Caribî, neu teithio o gwmpas ynysoedd Môr y Canoldir? Nid dyna oedd ateb y diddanwr Ieuan Rhys i gwestiwn Heledd Cynwal fore Llun... Mordaith - Cruise Diddanwr - Entertainer Gwlad yr Iâ - Iceland Taro deuddeg (idiom) - To strike a chord Twym - Poeth Chwysu - To sweat Trwchus - Thick Tirwedd - Lanscape Oefad - Nofio Trais - Crime Helen Cynwal yn cadw sedd Shan Cothi'n gynnes ac yn holi Ieuan Rhys am ei fordaith ddelfrydol. Bore Sul Non Evans Bore Sul cafodd Iwan Griffiths sgwrs efo'r cyn chwaraewr rygbi Non Evans a sôn i ddechrau am ei magwraeth yn y Fforest ger Abertawe. Mae Non wedi ennill 87 o gapiau dros Gymru a hefyd wedi cystadlu dros ei gwlad mewn Jiwdo, Reslo a chodi Pwysau! Delfrydol - Ideal Cyn chwaraewr - Former player Magwraeth - Upbringing Lan - Fyny Dodi - Rhoi Ro'n i'n dwlu - Ro'n i wrth fy modd Codi pwysau - Weightlifting Ffurflen gais - Application form Ymgeisio - To apply Menywod - Merched Non Evans oedd honna'n sôn am ei magwraeth a hynny'n esbonio llawer am Non Evans, yr oedolyn sy'n hynod o heini. Troi'r Tir Rebecca Morris o Gasblaidd, Sir Benfro sy'n siarad yn y clip nesa. Mae hi'n ffermio efo'i phartner ac yn godro defaid er mwyn gwneud caws defaid. Mae'r ddau newydd ddechrau busnes Ewenique Spirits lle mae nhw'n creu fodca sydd a 'whey', neu maidd, ynddo fo, sef y gwastraff sydd i'w gael ar ôl gwneud caws o'r llaeth defaid. Godro - To milk Maidd - Whey Llaeth - Llefrith Gwastraff - Waste Sefydlu - To establish Arbrofi - To experiment Cyfrinach - A secret Wel, whe-he a phob lwc efo'r fodca arbennig ynde? Gwyl lyfrau Llyfrau plant oedd yn cael sylw Hanna Hopwood a'i gwesteion ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth, a buodd Jo Knell yn sôn am y cynghorion mae hi wedi eu paratoi ar gyfer rhieni a gofalwyr sy'n dysgu Cymraeg, fel rhan o Ŵyl Ddarllen 'Amdani' Cynghorion - Tips Mas - Allan Datblygiad iaith - Language development Ynganiad - Pronunciation Mwya poblogaidd - Most popular I glywed rhagor o sgwrs Hanna Hopwood efo Jo Knell fel rhan o Ŵyl Ddarllen 'Amdani' Y Ganolfan Ddysgu Cymraeg Cenedlaethol, ewch i chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws yn ap BBC Sounds Stiwdio Manon Eames Ar Stiwdio nos Lun diwetha, mi roedd Nia Roberts yn sgwrsio efo'r awdures Manon Eames am gynhyrchiad Cymraeg newydd o glasur Willy Russell, "Shirley Valentine". Nid dyma'r tro cynta i Manon addasu'r ddrama hon ar gyfer cynulleidfa Gymraeg, ac fel mae hi'n egluro, y tro 'ma mae hi wedi wedi newid cyfnod a lleoliad y ddrama. Cynhyrchiad - Production Addasu - To adapt Cyfnod a lleoliad - Period and location Perthnasol - Relevant Gwirionedd - Truth Degawd - Decade Trafferth - Difficulties Ail-asesu - To reassess Unigrwydd - Loneliness Cynulleidfa - Audience Cyffyrddiadau - Touches Manon Eames yn fan'na yn sôn am 'Shirley Valentine ' drama Gymraeg sydd yn teithio theatrau Cymru ar hyn o bryd. Trystan ac Emma Dach chi wedi gwneud rhywbeth gwirion erioed, a theimlo'n rêl ffŵl wedyn? Dyna ddigwyddodd i Trystan pan oedd o'n perfformio efo Band Pres Deiniolen. Dyma fo'n dweud yr hanes... Pres - Brass Llwyth - Loads Dibrofiad tu hwnt - Extremely inexperienced Sul y Cofio - Remembrance Sunday Y gofgolofn - The monument Deutha fi - Dweud wrtha i Yn ddistawach - Quieter Atgofion - Memories
Shan Cothi a Geraint Jones Sut mae gwneud y dorth berffaith? Wel roedd hi'n wythnos Real Bread Week wythnos diwetha ac ar Bore Cothi mi gafodd Shan farn y pobydd Geraint Jones. Mae Geraint a'i wraig yn berchen ar fecws yn Llydaw a dyma oedd ganddo fo i'w ddweud wrth Shan... Llydaw - Brittany Burum - Yeast Toes - Dough Lefain - Leaven Crasu - To bake Codi chwant - To whet the appetite Malu - To mill Ffwrn - Popty Troad y ganrif diwetha - Turn of the last century Naws neilltuol - Special quality Geraint Jones yn fan'na yn codi chwant ar Shan Cothi, ac arnon ni i gyd dw i'n siŵr! Troi'r Tir Sam Robinson Mae'r bugail Sam Robinson yn dod o Rydychen yn wreiddiol ond mae o'n byw ym Mro Ddyfi yng ngogledd Powys erbyn hyn. Fel cawn ni glywed ar Troi'r Tir mae o erbyn hyn yn rhugl yn y Gymraeg ac yn mwynhau cymryd rhan yn y gymuned leol. Bugail - Shepherd Rhydychen - Oxford Athroniaeth - Philosophy Ta waeth - Beth bynnag Anhygoel - Incredible Tafodiaith - Dialect Hardd - Beautiful Gwirioni - Dwlu ar Tirwedd - Landscape Cyfoeth - Wealth A Sam wedi codi acen hyfryd Gogledd Powys yn ogystal. Tasech chi eisiau dysgu mwy am Sam buodd erthygl amdano yn ddiweddar ar Cymru Fyw. Post Prynhawn Brownies Pam bod criw o Brownies Tunbridge yng Nghaint yn cael cyfarfod Zoom efo Brownies Y Felinheli yng Ngwynedd? Carole Boyce oedd yn gyfrifol am drefnu'r digwyddiad a dyma hi'n rhoi'r hanes ar Post Prynhawn... Caint - Kent Rhwydwaith Menywod Cymru - Welsh Women's Network Ymateb - Response Cyflwyno - To introduce Ymwybodol o fodolaeth - Aware of the existance Heol - Ffordd Cyfarwydd - Familiar Cangen - Branch Daearyddiaeth - Geography Ac yn ogystal â dysgu Cymraeg i Brownies Caint mae Carole yn diwtor Cymraeg i Oedolion yn dysgu dosbarthiadau ar-lein i ddysgwyr Sir Benfro a dysgwyr Prifysgol Bangor. Aled Hughes Virginia a Porthcawl Ond dysgwyr o Virginia yng ngogledd America, ac o Borthcawl fuodd yn sgwrsio efo Aled Hughes wythnos diwetha. Beth ydy'r cysylltiad rhwng Anne De Marsay o Virginia, ag un o athrawon Ysgol Gynradd Newton ym Mhorthcawl, Henley Jenkins? Cawn wybod mewn munud ond i ddechrau dyma Anne yn dweud sut aeth hi ati i ddysgu Cymraeg. Medden nhw - They said Hudolus - Magical Ystod eang - A wide range Gwych ynde? Dysgu Cymraeg yn dod â phobl ar draws y byd at ei gilydd ac yn help i blant ysgol Cymru yn ogystal. Cofio Enwau Dodo Rŵan ta - 'dodo' . Na, ddim fel yn 'dw i'n 'dod o' Gymru, a dim fel yr aderyn oedd yn arfer byw yn Mauritius. Na, mae 'dodo' yn hen air Cymraeg a dyma'r Dr Sara Louise Wheeler sy'n arbenigo ar enwau o bob math ,yn sôn am ei chysylltiad personol hi â'r gair... Arbenigo - To specialize Atgyfodi - To resurrect Nithoedd - Nieces Gan gynnwys - Including Ffurfiol - Formal Dilyniant - Sequel Tarddiad - Source Byddar - Deaf Ysgol breswyl - Boarding school Un genhedlaeth - One generation Mae'n braf cael clywed am hen enwau'n cael eu hatgyfodi yn tydy? Bore Sul Tomos Parry Tomos Parry oedd gwestai Elliw Gwawr fore Sul. Mae Tomos yn dod o Ynys Môn yn wreiddiol ac mae o'n yn berchen ar fwyty Brat yn Llundain. Mae gan y bwyty un seren Michelin ac fel cawn ni glywed mae gan Tomos gynlluniau i agor rhagor o fwytai yn y ddinas fawr... Yn amlwg - Obviously Uchelgais - Ambition Datblygu - To develop
01. Aled Hughes – Elfyn Jones Does dim golygfa well, nac oes, na mynyddoedd Cymru yn wyn o dan eira ar ddiwrnod braf o aeaf. Mae'n demtasiwn mawr i fynd i ddringo'r mynyddoedd bryd hynny, on'd yw hi? Ond cofiwch, tasech chi'n mentro allan mae'r mynyddoedd yn gallu bod yn lefydd peryglus iawn, fel eglurodd Elfyn Jones sy'n gadeirydd Tîm Achub Mynydd Llanberis, wrth Aled Hughes Yn union Exactly Gorchuddio To cover Anhygoel Incredible Denu To attract Ceudyllau Potholes Twyllodrus Deceptive Amgylchiadau Circumstances Dyffrynnoedd Valleys Yn wirioneddol Really Offer Equipment 02. Cofio – Nia Roberts a Caryl Parry Jones Cyngor da gan Elfyn Jones yn fan'na ar raglen Aled Hughes – byddwch yn ofalus os dych chi am ddringo'r mynyddoedd yn y gaeaf. Mae'n siŵr ein bod yn clywed mwy o ganu adeg y Nadolig nag ar unrhyw adeg y flwyddyn, gyda charolau, caneuon am Sion Corn i'r plant bach a chaneuon pop Nadoligaidd i'r plant mawr! Ond beth sy'n gwneud cân Nadolig dda? Dyma i chi farn Nia Roberts a Caryl Parry Jones... Nadoligaidd Christmassy Naws Mood Cydio yn To attach to Myfyrio To reflect Addoli To worship Dyfynodau Quotation marks Ein heneidiau ni Our souls Hud a swyn Magic and enchantment Preseb Manger Dyheu am To yearn for 03. Dros Ginio – Betsan Powys ac R Alun Evans Ac ar ddiwedd y clip yna clywon ni ddarn o un o ganeuon Nadolig Caryl - “Drama'r Preseb”. Dau sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i'r BBC dros y blynyddoedd oedd gwestai Dewi Llwyd ar Dros Ginio –R Alun Evans a'i ferch Betsan Powys. Buodd R Alun Evans yn gyflwynydd a chynhyrchydd gyda'r BBC am 32 o flynyddoedd ac yn weinidog gydag enwad yr Annibynwyr am flynyddoedd. Roedd Betsan yn Olygydd Rhaglenni y BBC nes iddi hi roi'r gorau i'r swydd yn 2018. Dyma i chi flas ar y sgwrs... Cyflwynydd a chynhyrchydd Presenter and producer Enwad yr Annibynwyr Independents denomination Golygydd Rhaglenni Programme editor Siglen Swing Parchu To respect Penderfynol, ystyfnig Determined, stubborn Cymwynasgar Obliging Cefnogol Supportive 04. Hywel Gwynfryn a Sian Phillips (Darllediad Arbennig Dydd Nadolig) Un arall sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr i'r BBC dros y blynyddoedd ydy Hywel Gwynfryn a fe gafodd y cyfle i gael sgwrs gyda'r actores fyd enwog Siân Phillips, sydd yn dod o Waen-Cae-Gurwen yn Sir Castell Nedd Port Talbot yn wreiddiol. Dyma hi'n sgwrsio am un rhan o'i gyrfa wnaeth ddim gweithio cystal â hynny... Cyfraniad enfawr A huge contribution Cyhoeddwraig Announcer ( female) Ro'n i'n dwlu ar Ro'n i wrth fy modd efo Uffernol Hellish Cyngor y Celfyddydau Arts Council Clychau Bells Mas o anadl Out of breath Pennaeth Head 05. Geraint Lloyd - Rhys Jones o Gwmffrwd Dyna stori dda on'd ife? Mae hyd yn oed Sian Phillips yn gallu bod mewn trwbl gyda'i bos! Ddaeth Sion Corn i'ch tŷ fore Nadolig? Os mai dod lawr y simnai wnaeth e, gobeithio eich bod wedi gwneud yn siŵr bod y simnai'n lân iddo fe! Glanhawr simneiau ydy Rhys Jones o Gwmffrwd ger Caerfyrddin a gofynnodd Geraint Lloyd iddo fe pam dewisodd e wneud y swydd arbennig hon... Glanhawr simneiau Chimney sweep Bachan Dyn (Di)bennu Gorfffen Mo'yn Eisiau Ffili Methu Tystysgrif Certificate Tannau nwy Gas fires 06. Geraint Lloyd – Ar y Map Rhys Jones oedd hwnna , ac mae ganddo un o swyddi bwysica adeg yma'r flwyddyn on'd oes? Arhoswn ni gyda Geraint Lloyd am y clip nesa hefyd, aeth Geraint ‘Ar y Map' i bentref bach Casnewydd Bach yn Sir Benfro, sydd yn enwog fel man geni y mor-leidr Barti Ddu. Mae undeg chwech cenhedlaeth o deulu Richard Davies wedi byw yn y pentre hwn, felly fe yw'r dyn i sôn am berson enwoca Casnewydd Bach a dyma fe'n sôn am hanes Barti Ddu wrth Geraint Lloyd... Man geni Birthplace Morleidr Pirate Cenhedlaeth Generation Taw Mai Yn lled ifanc Quite young Crydd Cobbler Cofnodi To record Carreg goffa Memorial stone Trichanmlwyddiant Tercentenary Genedigaeth Birth Marwolwaeth Death
Yn y bennod hon o Odpeth, cawn hanes ddyn (anhysbys) o Sir Benfro sydd wedi cael secs efo ghost. Ond be ddigwyddodd go wir? Iwan, Hywel ac Elin sy'n trafod...
[English below] Heddiw dwi'n siarad gyda Liz. Mae Liz yn byw yn Sir Benfro a mae hi wedi dechrau tydalen instagram i helpu dysgwyr gyda geiriau natur! Rydyn ni'n trafod cyfryngau cymdeithasol, cerddoriaeth, a myw! Today I'm speaking with Liz. Liz lives in Pembrokeshire and has started an Instagram page to help learners with nature words.We discuss social media, music, and more!
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … DROS GINIO Dros yr wythnosau diwetha ar Dros Ginio mae Gwenfair Griffiths wedi bod yn holi rhai o newyddiadurwyr Cymru am eu Stori Fawr nhw... Betsan Powys oedd yn cael ei holi y tro diwetha a buodd hi'n sôn am sut oedd hi'n teimlo fel gohebydd ifanc yn Bosnia yn ystod y rhyfel oedd yno yn y 90au. Gohebydd - Correspondent Rhyfel - War Sbïo - Edrych Darbwyllo - To convince Cyflawni - To achieve Y fyddin - The army Anghyfarwydd - Unfamiliar Cydbwyso - Balancing Dychrynllyd - Terrifying Ergyd - A shot STIWDIO Lleisiau Betsan Powys a rhai o'r milwyr fuodd yn ymladd yn Bosnia yn fan'na. Ar Stiwdio nos Lun, cafodd Nia Roberts gwmni'r Athro Menna Elfyn i drafod cyfrol mae Menna newydd ei golygu o'r enw “Cyfrinachau – Eluned Phillips”. Roedd Eluned yn fenyw ddiddorol iawn , roedd hi wedi teithio'r byd a dod yn ffrindiau gydag enwogion fel Picasso ac Edith Piaf. Roedd hi'n fardd ac yn awdur. Enillodd hi goron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith y tro cynta yn 1967 ac wedyn yn 1983. Roedd hi wedi sgwennu nofel hunangofiannol ond wnaeth hi mo'i chyhoeddi. Dyma Menna'n egluro pam..... Athro - Professor Cyfrol - A volume Enwogion - Famous people Hunangofiannol - Autobiographical Dagrau pethau - The sadness of it Amheuon - Suspicions Sïon - Rumours Mewn gwirionedd - In reality SHAN COTHI Ychydig bach o hanes y fenyw ryfeddol Eluned Phillips yn fan'na gan Menna Elfyn. Pa ffilmiau sy'n gwneud i chi eisiau mynd ar wyliau? Buodd Dorien Morgan yn siarad gyda Shân Cothi am ffilmiau hafaidd, ac am wylio ffilmiau o'r car mewn ‘drive through'... Y fenyw ryfeddol - The amazing woman Dala lan - To catch up Sa i'n dreifio - Dw i ddim yn gyrru Simsan - Unsteady Crybwyll - To mention Cwympo - Syrthio Efrog Newydd - New York Cludo - To transport Cymeriadau - Characters Dylanwadu - To influence TROI'R TIR A sôn am wyliau, sut fasech chi'n licio gwyliau mewn pod glampio? Mae Joyce Jenkins yn byw ar fferm ym Mlaenplwyf yng Ngheredigion ac mae hi wedi dechrau busnes gosod podiau glampio ar y fferm gyda'i merch yn nghyfraith Gwenan Jenkins. Dyma hanes y fferm a'r menter newydd. Gosod - To rent out Menter - Venture Darn o dir - Piece of land Clawdd - Wall Golygfa - Scenery Mo'yn - Eisiau Unigryw - Unique Canu gwlad - Country & Western ALED HUGHES ...a phob lwc i'r ddwy yn eu menter newydd ond'ife? Mae Michael Davies Hughes yn dod o Gricieth yn wreiddiol ond mae e ‘n byw yn Eureka, gogledd Califfornia erbyn hyn. Mae e newydd gwblhau y ras seiclo anodda yn y byd sef y Ras Ar Draws America. Mae hi'n ras dros 3 mil o filltiroedd, ar hyd 12 talaith wahanol, dros 175 mil o droedfeddi o ddringo, a hynny i gyd yn digwydd mewn 12 diwrnod… Waw Cwblhau - To complete Talaith - State Troedfeddi - Feet (measurement) Seibiant - A respite Corfforol - Physical Gwthio - To push Ddaru - Wnaeth Twll dan grisiau - Cwtsh dan stâr Anialwch - Desert GERAINT LLOYD Roedd hynny'n dipyn o gamp gan Micheal on'd oedd? I Arberth yn Sir Benfro aeth Geraint Lloyd wythnos diwetha i gael sgwrs am yr ardal gyda Dysgwr y Flwyddyn y llynedd, Jazz Langdon. Dyma i flas ar y sgwrs… Dipyn o gamp - Quite an achievement Ar bwys - Wrth ymyl Amgueddfa - Museum Yn gyffedinol - Generally Yn beodol - Specifically Terfysgoedd Beca - The Rebecca Riots
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … GERAINT LLOYD …mae Angharad Jones wedi llwyddo i ddysgu Cymraeg i safon uchel iawn mewn dim ond naw mis. Dyma hi'n dweud wrth Geraint Lloyd pam aeth hi ati i ddysgu'r iaith… Safon - Standard Anghredadwy - Unbelievable Ysbrydoliaeth - Inspiration Yn falch - Proud Is-deitlau - Subtitles Cyfnod Allweddol - Key Stage Drysau - Doors Diwylliant - Culture Cyfrifol - Responsible Trosglwyddo'r iaith - Transferring the language Y genedlaeth nesaf - The next generation CATRIN ANGHARAD Angharad Jones oedd honna, ac mae hi wedi gwneud yn wych i ddysgu Cymraeg mewn cyn lleied o amser on'd yw hi? Mae Catrin Angharad yn ôl ar Radio Cymru ar b'nawniau Sadwrn, ac yn ei rhaglen bydd hi'n rhoi cliwiau i'r gwrandawyr ddyfalu ble mae'r ‘cerddwr cudd' am fynd am dro. Y tir chliw dydd Sadwrn oedd traeth, Brynach, a storm. Nawr ‘te mae Sant Brynach gyda chysylltiad ag ardal Trefdraeth yn Sir Benfro, tybed ydy hwnnw'n gliw da, a thybed pwy oedd y cerddwr cudd? Cerddwr cudd - Secret Walker Dyfalu - To guess Yn wirioneddol - Truly Rhaid i mi gyfaddef - I must admit (Nid) nepell - Ddim yn bell Tewhau - To fatten Mas o dymor - Out of season Hamddenol - Leisurely Mewn dyfynodau - In quotation marks TRYSTAN AC EMMA Catrin Angharad oedd honna'n siarad gyda'r cerddwr cudd, ac on'd yw hi'n drueni mawr mai dim ond un siaradwr Cymraeg sy'n byw yn y pentre bach hyfryd hwnnw erbyn hyn? Dych chi'n yrrwr da a gofalus? Byddwch yn onest nawr! Wel, cafodd Trystan ac Emma air gyda'r hyfforddwr gyrru Iwan Williams i glywed pa mor dda ydy pobl Cymru gyda'i sgiliau gyrru… Llawlyfr - Handbook Hanfodol - Essential Cadw rheolaeth - Keeping control Derbyniol - Acceptable Gaethon nhw wared ar - They got rid of Cyflwyno - To introduce LISA ANGHARAD Wel mae'r prawf gyrru wedi newid dros y blynyddoedd on'd yw e? Lisa Angharad oedd yn cyflwyno y Sioe Sadwrn yr wythnos hon a gofynnodd Trystan ab Owen iddi hi am ei diddordeb mewn planhigion, achos roedd gyda fe stori FAWR i'w dweud am brynu planhigion... Cyn lleied - So little Yn gyffredinol - Generally ALED HUGHES Wel yn wir, mae mwy o arian nag o synnwyr cyffredin gydag ambell un on'd oes? Pan oedd Aled Hughes a Gav Murphy yn eu harddegau roedden nhw wrth eu boddau gyda gemau fideo. Buodd y ddau'n cael hwyl yn trafod gemau fideo retro yr 80 au a'r 90au ar raglen Aled, a dyma i chi eu barn ar un o gemau'r 80au – y Pac-Man O'ch chi heb weld - You hadn't seen STIWDIO Dydy Aled a Gav ddim yn ffans mawr o Pac-man felly! Yr wythnos yma ar Stwidio buodd Nia Roberts yn trafod ffuglen hanesyddol gyda dau awdur sef Sion Hughes a Myrddin ap Dafydd. Dyma i chi flas ar y sgwrs... Ffuglen hanesyddol - Historical fiction Wastad - Always ‘nhaid - ‘nhad-cu O'n cwmpas ni - Around us Penodau - Chapters Annisgwyl - Unexpected Beth sy'n fy nharo i - What strikes me Yr ymchwil anorfod - The unavoidable research Y chwilota - The searching Cyffwrdd - To touch Y cyffro cychwynnol - The initial excitement
Wthnos ma sgwrsiwn â Gruffudd Lewis. - Seiclwr professiynol i dîm Ribble Weldtite - Sylwebydd ar rhaglen "Seiclo" yr S4C - Perchennog "Caffi Gruff" - sef caffi, siop beics a enw ar tim seiclo arweinwyd gan Gruff. Am rhagor o wybodaeth ewch i www.caffigruff.cc neu @caffigruff ar Facebook ag Instagram. Diolch i noddwyr ein rhaglen - Llewelyn Davies - cyfrifwyr siartedig o Sir Benfro. Diolch iddynt am pob cymorth tra'n sefydlu "DCTRIATHLON". Ymwelwch a http://www.llewelyndavies.co.uk am fwy o wybodaeth.
Aled Rhys Jones sy'n holi Emily Rees o Fferm Cuckoo Mill yn Sir Benfro.
MALI LLYFNI Yn ystod y pythefnos nesa, mae BBC Radio Cymru yn rhoi sylw i effaith Covid 19 ar bobl ifanc ar ein rhaglenni - ‘Haf Dan Glo’ . Nos Lun diwetha cafodd Nia Lloyd Jones sgwrs gyda Mali Llyfni o Benygroes yng Ngwynedd i holi sut oedd y pandemig wedi effeithio arni hi... Cyflwyno To present Amgylchiadau teuluol Family circumstances Gweithwyr allweddol Key workers Wedi (fy) nharo i Has struck me Ansicrwydd Uncertainty Y gymuned wedi eich cofleidio chi The community has embraced you Holi To ask about Cyflogi To employ Y genhedlaeth nesa’ The next generation Rhyfedd Strange REBECCA HAYES Mae John Hardy yn cyflwyno rhaglen gynnar iawn ar Radio Cymru, ac os wnewch chi godi’n ddigon cynnar i wrando arni hi mae’n gymysgedd hyfryd ben bore o gerddoriaeth a sgyrsiau diddorol. Dyma i chi flas ar sgwrs gyda Rebecca Hayes fasai’n berthnasol i bob un ohonoch chi’n sy’n codi’n gynnar, gan gynnwys John Hardy wrth gwrs... Perthnasol Relevant Ceiliog Cockerel Cyn-berchennog former owner Dirwy A fine Llwyth o gwynion Loads of complaints Dihuno Deffro Gwireddu To verify Canfod To find Honiadau Allegations Shwd (Sut) beth Such a thing Rhybudd Warning WINNIE JAMES Cafodd Ifan Jones Evans sgwrs gyda Winnie James y gogyddes o Grymych yn Sir Benfro wythnos diwetha. Mae Winnie newydd briodi ond sut mae’r cyfnod clo wedi effeithio arni hi tybed?... Mwy tebygol More likely Torrodd hynny (fy) nghalon i That broke my heart Chi m’bo Dach chi’n gwybod Sa i di cael Dw i ddim wedi cael Am sbel For a while LISA ANGHARAD Mae yna ddigon o raglenni gwych i wrando arnyn nhw ar BBC Radio Cymru wrth gwrs, drwy’r dydd bob dydd, ond tybed beth mae Hywel Llion yn cynghori Lisa Angharad i’w wylio ar y teledu? Cynghori To advice Dychmygu To imagine Yn y bôn Essentially Yn amlwg Obviously Wastad Always CARYS ELERI Sdim byd gwell na chael llythyr drwy’r post nac oes, ac fel eglurodd Carys Eleri wrth Catrin Heledd a Carl Roberts, cafodd hi lythyr arbennig iawn yn ddiweddar Yn ddiweddar Recently Ro’n i wedi hala’r gân I had sent the song Rhyddhau To release Perthynas Relationship Yn gyson Consistently Tad-cu Taid Llosgi To burn Llawysgrifen Handwriting Am fod mor garedig For being so kind CARYS EDWARDS A CAROL JONES Ac i orffen yr wythnos yma, dyma i chi Carys Edwards o Wenynfa Pen y Bryn a Carol Jones o gwmni jam y "Welsh Ledi" yn sôn am eu menter newydd wrth i'r ddau gwmni uno. Gwenynfa Apiary Stondin Stall Mêl Honey Ei chynnyrch hi Her produce Manylion Details Datblygu To develop Cynhyrchu To produce Cystadlu To compete Canolbwyntio To concentrate Eirin Plums Yn dymhorol Seasonal
Angharad Menna Edwards yn cyfweld Katie Davies Angharad Edwards o Sir Benfro sydd yn cyfweld Katie Davies sydd hefyd o Sir Benfro. Mae Katie yn Gadeirydd CFfI Cymru eleni a’n gyn-aelod o glwb Llys-y-frân yn Sir Benfro. Wrth sgwrsio meant yn cyffwrdd a rhai o brofiadau mwyaf cofiadwy Katie wrth fod yn rhan o’r mudiad a'n trafod y dyfodol wrth iddi ddechrau ei blwyddyn brysur fel Cadeirydd CFfI Cymru. Diolch i Angharad Menna Edwards am gyfweld, a diolch yn fawr i Katie Davies am gyfrannu. Mae’r bennod hon wedi ei rannu mewn i ddwy ran. Angharad Menna Edwards interviewing Katie Davies Angharad Edwards from Pembrokeshire interview Katie Davies who is also originally from Pembrokeshire but who now lives in Carmarthenshire. Katie Davies is the current WALES YFC Chairman and is a past member of Llysyfran YFC in Pembrokeshire. As they chat they touch on some of Katie’s greatest achievements while being a part of the organisation while also discussing what the future holds as her year as Wales YFC Chairman has begun. A big thank you to both Angharad Menna Edwards for interviewing and Katie Davies for participating in this episode. This episode consists of two parts.
Angharad Menna Edwards yn cyfweld Katie Davies Angharad Edwards o Sir Benfro sydd yn cyfweld Katie Davies sydd hefyd o Sir Benfro. Mae Katie yn Gadeirydd CFfI Cymru eleni a’n gyn-aelod o glwb Llys-y-frân yn Sir Benfro. Wrth sgwrsio meant yn cyffwrdd a rhai o brofiadau mwyaf cofiadwy Katie wrth fod yn rhan o’r mudiad a'n trafod y dyfodol wrth iddi ddechrau ei blwyddyn brysur fel Cadeirydd CFfI Cymru. Diolch i Angharad Menna Edwards am gyfweld, a diolch yn fawr i Katie Davies am gyfrannu. Mae’r bennod hon wedi ei rannu mewn i ddwy ran. Angharad Menna Edwards interviewing Katie Davies Angharad Edwards from Pembrokeshire interview Katie Davies who is also originally from Pembrokeshire but who now lives in Carmarthenshire. Katie Davies is the current WALES YFC Chairman and is a past member of Llysyfran YFC in Pembrokeshire. As they chat they touch on some of Katie’s greatest achievements while being a part of the organisation while also discussing what the future holds as her year as Wales YFC Chairman has begun. A big thank you to both Angharad Menna Edwards for interviewing and Katie Davies for participating in this episode. This episode consists of two parts.
Gerallt Pennant a'i westeion yn trafod dolydd gwair yn Sir Benfro a phynciau o fyd natur. Gerallt Pennant and guests discuss nature, wildlife and conservation.
Yr wythnos hon mae’r criw yn trafod sgwrs stiwdio Nathan Rogowski o Bwllheli a Lewis Evans o Dregaron wnaeth dderbyn organau. Mae rhestr Stryd Fawr Orau ym Mhrydain wedi ei chyhoeddi eleni eto gyda thair stryd yng Nghymru ar y rhestr fer - Arberth yn Sir Benfro, Abertawe a Treorci. Arberth sydd wedi cael ein sylw ni wythnos hyn a ni’n trafod beth sy’n neud siopa yn y stryd fawr yma mor bleserus yn cynnwys y gwasanaeth o’r siopau boutique…..a dyma beth sydd wedi dala sylw Helen Humphreys yn Cwpwrdd Helen ar Prynhawn Da, o’r dillad unigryw i’r gwasanaeth arbennig. Ni wedi bod lawr i Caffi Riverside yn Tregaron i weld beth sy’ mor arbenning amdano ac i orffen ni yn y gegin gyda Gareth sy’n coginio gyda mwyar du, yn cynnwys brownies mwyar! Wythnos rhoi organau https://www.facebook.com/HenoS4C/videos/604709616602581/ Stryd Fawr Arberth https://www.facebook.com/HenoS4C/videos/2487218777967820/ Casgliadau Hydref Siopau Annibynnol Cymreig gyda Helen Humphreys! https://www.facebook.com/PrynhawnDaS4C/videos/942612756071736/ Caffi Riverside Tregaron https://www.facebook.com/PrynhawnDaS4C/videos/544224402984882/ Coginio – Brownies mwyar Gareth https://www.facebook.com/PrynhawnDaS4C/videos/660464557773620/
Cafodd Gwen Parrott ei magu yn Sir Benfro, cyn treulio deugain mlynedd yn byw ym Mryste. Wrth sgwrsio gyda Beti George, mae'n sôn am fagwraeth syml ym mhentref Bwlchygroes, a sut y dechreuodd hi sgwennu ar ôl cael gradd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'n briod gyda meddyg teulu sy'n hannu o Tsieina.
Oes angen i ymarferwyr ddysgu sgiliau arbennig ar gyfer addysgu’r cwricwlwm newydd? A fydd y dull newydd ar gyfer dysgu proffesiynol yn helpu? Aeth Yvonne Evans i Ysgol y Preseli yn Sir Benfro i siarad â thair athrawes am eu profiadau nhw.
Oes angen i ymarferwyr ddysgu sgiliau arbennig ar gyfer addysgu’r cwricwlwm newydd? A fydd y dull newydd ar gyfer dysgu proffesiynol yn helpu? Aeth Yvonne Evans i Ysgol y Preseli yn Sir Benfro i siarad â thair athrawes am eu profiadau nhw.
Pan deimlodd Jill-Hailey Harries alwad i'r weinidogaeth, roedd yn 'sgytwad iddi. Er ei bod yn mynychu'r ysgol Sul, doedd hi ddim yn siŵr beth yn union oedd gwaith gweinidog, nac ychwaith yn nabod gweinidog benywaidd. Doedd hi ddim yn or-hoff o waith ysgol, ac yn fwy awyddus i ddechrau gweithio ac ennill arian na mynd i'r coleg, ond roedd yr alwad yn rhy gryf, ac yn y pen draw aeth i Aberystwyth i astudio diwinyddiaeth. Mae'n sôn wrth Beti George am ei magwraeth yn Sir Benfro, ei mwynhad o'i gwaith fel Bugail y Stryd, ac am beryglon pregethu yn Saesneg.
Ar lan y Tafwys ym mwyty crand cyd-ddisgybl o ysgol y Preseli mae merch fferm o Sir Benfro yn dathlu ei gradd ar drothwy gyrfa ym Manc mwya'r byd. Ond wedi gweithio'n rhan amser i gyn-ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, mae Sara Watkin a'i llygad ar gipio ei sedd rhyw ddydd.
Ym 1485, glaniodd Harri Tudur ar arfordir Sir Benfro a dechreuodd ymgyrch i gipio coron Lloegr, nod y gwnaeth ei gyflawni gyda’i fuddugoliaeth dros Rhisiart III ym Mrwydr Bosworth. Byddai Harri’n cario baner draig Cymru. Ond faint o Gymro oedd Harri? Fe’i ganwyd yng Nghymru, roedd yn chwarter Cymro, roedd ganddo gyndeidiau pwysig ar Ynys Môn a rhoddwyd llawer o gefnogaeth iddo gan y bonedd yng Nghymru. Ond penllanw Rhyfel y Rhosynnau oedd y goresgyniad hwn mewn gwirionedd ac roedd Harri’n cipio’r orsedd i dŷ Lancaster yn y gwrthdaro hwnnw. Mae’n debyg nad oedd Cymru mor bwysig â hynny iddo.
Ym 1485, glaniodd Harri Tudur ar arfordir Sir Benfro a dechreuodd ymgyrch i gipio coron Lloegr, nod y gwnaeth ei gyflawni gyda’i fuddugoliaeth dros Rhisiart III ym Mrwydr Bosworth. Byddai Harri’n cario baner draig Cymru. Ond faint o Gymro oedd Harri? Fe’i ganwyd yng Nghymru, roedd yn chwarter Cymro, roedd ganddo gyndeidiau pwysig ar Ynys Môn a rhoddwyd llawer o gefnogaeth iddo gan y bonedd yng Nghymru. Ond penllanw Rhyfel y Rhosynnau oedd y goresgyniad hwn mewn gwirionedd ac roedd Harri’n cipio’r orsedd i dŷ Lancaster yn y gwrthdaro hwnnw. Mae’n debyg nad oedd Cymru mor bwysig â hynny iddo.
A bit of an experiment - a video diary with my reflections on our time in Pembrokeshire. Normal service to be resumed next episode! Send me your feedback! Send your email or MP3/MP4s to: feedback@justacatholicdad.com www.justacatholicdad.com Twitter - @seanmccarney www.facebook.com/justacatholicdad Just A Catholic Dad is proud to be an SQPN affiliate podcast