POPULARITY
Iona Roberts, neu Iona Pen Ffridd i bawb sy'n ei hadnabod yw gwestai Beti a'i Phobol.Mae Iona yn ffarmwraig ac yn gadwraethwr, mae'n hyfforddwr yoga, yn gyn warden gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac yn fam i 3 o blant (Nel, Nedw a Joe) a gwraig i John. Mae hi hefyd yn rhedeg rasys Iorn Man. Ganwyd ar fferm Pen Ffridd, Penmachno (pentref ger Betws y Coed, yn Sir Conwy). Cafodd ei magu gyda'i Nain a'i Thaid a 3 ewythr oedd yn adnabyddus yn yr ardal sef Ifor, Elw a Hyw."Tyfais fyny yma ym Mhen Ffridd, gyda digon o ryddid ac awyr iach, erbyn hyn dwi'n deall pa mor unigryw oedd fy magwraeth erbyn hyn!" Bu'n gweithio yn Llundain am gyfnod gyda chwmni Saatchi and Saatchi ac yn Wimbledon ble daeth ar draws Pat Cash. Ond dychwelyd i ffermio gwnaeth hi i Pen Ffridd, ac mae'n angerddol am amaethu mewn dull cynaliadwy.Cawn hanesion difyr ei bywyd ac mae'n dewis caneuon sydd yn ffefrynnau gan gynnwys Meic Stevens – Gwenllïan. Dyma'r gân oedd yn chwarae pan gerddodd Iona mewn i'r gwasanaeth priodas.
Y canwr gwlad Andrew Walton o Gwmfelin Mynach yw gwestai Beti a'i Phobol. Mae hefyd yn cael ei adnabod fel y Welsh Whisperer, ac mae'n dathlu 10 mlynedd eleni ers dechrau perfformio. Mi fydd y caneuon 'Ni'n Beilo Nawr' a 'Bois y JCB' yn gyfarwydd i'w ffans.Cafodd ei fagu yng Nghwmfelin Mynach yn Sir Gaerfyrddin. Mae bellach yn byw yng Nghaernarfon, Gwynedd.Graddiodd mewn newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Sheffield , a bu'n athro ysgol gynradd yn y gogledd am sawl blwyddyn, cyn mentro o ddifri i'r byd perfformio.Mae'r Welsh Whisperer bellach yn wyneb cyfarwydd ar y teledu, yn perfformio canu gwlad mewn gwyliau cerddorol ac yn denu niferoedd i neuaddau pentref ar hyd y wlad.Mae'n cyflwyno cyfres o bodlediadau newydd ' Y Byd yn Grwn' sy'n rhoi cipolwg y tu ôl i'r llenni ar glybiau pêl-droed llawr gwlad a'r gwirfoddolwyr allweddol sy'n eu rhedeg.Cawn hanesion difyr ei fywyd, ac mae'n dewis caneuon Gwyddelig ac un gan ei arwr Tecwyn Ifan.
Kathy Gittins, artist a gwraig fusnes yw gwestai Beti George. Cawn hanesion difyr ei magwraeth ar fferm fynydd Penrhos, uwchben Pontrobert a Meifod yn Sir Drefaldwyn. Roedd y capel mor bwysig i fagwraeth Kathy, i Gapel Gad yr oedd hi'n mynd bob dydd Sul gyda'i theulu. Y capel drws nesa, rhyw filltir i fyny'r lon oedd Capel Penllys, sef lle sefydlwyd Aelwyd Penllys gan y diweddar Parch Elfed Lewis, ac mae hi'n hel atgofion am yr eisteddfodau rhwng y ddau gapel a mynd i'r aelwyd. Fe astudiodd gwrs celf yn Leeds, cwrs cynllunio graffeg ac wedyn agor oriel ym Meifod a hynny yn ystod cyfnod anodd iawn iddi yn ei bywyd. Fe ddatblygodd yr Oriel yn siop ddillad, a bu'n rhedeg 3 siop Kathy Gittins ym Mhwllheli, Trallwng a'r Bont-faen, ond bu cyfnod covid yn heriol a Brexit. Fe benderfynodd gau'r busnesau llynedd. Mae hi'n Fam i 4, ac yn Nain i 12eg o wyrion ac wyresau.
Dr Eurfyl ap Gwilym yr economegydd yw gwestai Beti George. Daeth un digwyddiad yn 2010 ag ef i sylw mawr pan fentrodd herio Jeremy Paxman, un o'r newyddiadurwyr uchaf ei barch ym Mhrydain. Drannoeth 'roedd y gwefannau ar dân. Mi ddaru Eurfyl elwa o'r ffaith fod o ddim yn cyfadde' ei fod o'n anghywir ac mi ddaliodd arno. Mae o di cael pobol yn dod ato yn ei adnabod o'r teledu - yng Nghaerdydd a Llundain … “You're the Paxman man! Well Done”.Dechreuodd ei yrfa gyda chwmni Unilever ar gynllun datblygu rheolwyr busnes. Bu'n gweithio gyda chwmni John Williams yn rheoli pob agwedd o'r busnes. Bu'n Bennaeth adran gwerthu cyfrifiaduron gyda chwmni mawr electroneg Philips, cwmni rhyngwladol – o'r Iseldiroedd. Bu'n gweithio gyda GE. Bu'n brif weithredwr i gwmni meddalwedd rhyngwladol yn Llundain ( Cwmni o UDA ydoedd). Gwerthu a datblygu meddalwedd i fanciau.Bu'n gweithio gyda'r Principality yn ddirprwy gadeirydd ac yn gyfarwyddwr anweithredol byrddau technolegol, a bu'n gweithio gyda Phlaid Cymru. Bu'n helpu Gwynfor Evans yn ystod cyfnod 1966- '67. " Doedd dim llawer o adnoddau pan aeth Gwynfor mewn i'r Senedd yn '66, 'roeddem ni'n gosod cwestiynau Seneddol, doedd dim google, a dim modd cael llawer o wybodaeth, felly roedden ni'n codi llawer iawn o gwestiynau".Cawn hanesion difyr ei fywyd ac mae'n dewis 4 cân gan gynnwys Dafydd Iwan a Karl Jenkins.
¡PREEEEEGÚNTAME, CAWN! ¡PREEEEGÚNTAME!¿Eres chismoso? (Obvio si, todos los somos) ¿Quieres saber los secretos más profundos de los dos Rodos? (Obvio si, por eso estás aquí) ¿Creías que Rudy y Fito no tenían huevos en la canasta? (Obvio no, por eso hacen esto después de 4 años) ¡No busques más! Ha llegado, por fin, en vivo y en directo, a todo color, la tan esperada entrevista exclusiva, sin filtros ni tabúes, de tus Rodos favoritos.Al percatarse y aceptar que jamás llegarán a la fama, que jamás les organizarán un Q&A en la San Diego ComiCon o en la región 4 La Mole ComiCon... bueno, ni en el pinshi Planetario donde de vez en cuando se dan cita los geeks locales... este par de pseudocomediantes, dan apertura total a los buzones de esta emisión, con el objetivo de que sus súbditos... digo, perdón, su honorable audiencia haga las domandas que tengan sobre el tema que les plazca.Y, haciendo honor a su poco valiosa palabra y muy tachable reputación, contestan con el corazón en la mano, emanando de sus gargantas nada más que la pura y libre verdad que os hará libres. Mención especial a Polish y Lerins que aparecieron a cuadro, a aquellos que mandaron un chin de preguntas, así como a la audiencia en el lugar al momento de grabar que en esta ocasión fue numerosa. Chequénse como a ambos Rodos les costó un huevo concentrarse, pues fruto de su virilidad antu multi task, su atención fue constantemente atraída por los preparativos de la tertulia que ocurrían del otro lado de la cámara.Así pues, y porque ando medio crudo, ahí les va el episodio. ¡Qué lo disfruten!
Yr arlunydd o Flaenau Ffestiniog, Gareth Parry, yw gwestai Beti George. Magwyd yn y tŷ lle ganwyd ei Fam a'i Nain yn Manod, Blaenau Ffestiniog. Cawn hanesion difyr ei fagwraeth yn ogystal â'i hanes yn denig o Blaenau ar drên gyda'i ffrind ysgol am "fywyd gwell" yn Llundain a hynny yn ei arddegau. Wedi gadael ysgol, fe aeth i'r coleg celf ym Manceinion, cyfnod y mods a'r rocers a'r gerddoriaeth soul. O fewn dim amser, mi roedd y teimlad o gaethiwed yn ôl, rhyw deimlad fod o yn y carchar eto (fel roedd yn teimlo adre efo Dad) . Daeth y rebel allan ynddo ac wedyn daeth y dylanwadau o'r tu allan i'r coleg. Gadawodd y coleg a dod 'nôl i weithio yn y chwarel yn Blaenau. Dylanwadodd y naturiaethwr Ted Breeze arno, a bu'n gwerthu lluniau i'r cylchgrawn Country Life. Mae bellach yn gwerthu ei waith mewn orielau celf yn Llundain ac yng Nghymru.
Gyda chyfarchion yr Ŵyl, croeso mawr i chi i bennod mis Rhagfyr, 2024 o Clera. Mae gyda ni wledd o lyfrau a sgyrsiau â'r beirdd a'u saerniodd ar eich cyfer. Cawn gwmni felly, Christine James, Daniel Huws, Meleri Davies a Dafydd John Pritchard, sydd oll newydd gyhoeddi cyfrolau newyd sbon. Ewch ati i'w prynu fel anrhegion Nadolig, neu jyst fel llyfrau gwerth eu cael. Hefyd cawn glywed y Delicysi gan Tudur Dylan ac mae ein beirniad llym, Gruffudd Antur yn ei ôl i ddewis y llinell gynganeddol ddamweiniol y mis orau ar gyfer mis Rhagfyr. Hyn oll, a mwy o'r dwli arferol! Ac os hoffech wneud cyfraniad ariannol i'n helpu ni i ddatblygu'r podlediad, ewch i: https://www.crowdfunder.co.uk/p/podlediad-clera Nadalek llawen i chi gyd!
Sherri Cawn, a leading practitioner of the DIR/Floortime® model in speech and language development, explores characteristics, assessment, intervention of communication disorders in children. Learn more about your ad choices. Visit megaphone.fm/adchoices
Croeso i bennod y mis Du o bodlediad Clera. Y tro hwn cawn glywed cerdd arobryn Mared Fflur Jones a enillodd Gadair Eisgteddfod Genedlaethol y Ffermwyr Ifanc. Cawn hefyd glywed darlith Gruffudd Antur o Wyl Gerallt yn cofio y Prifardd Feuryn ei hun, y diweddar Gerallt Lloyd Owen, ddeng mlynedd wedi inni ei golli. Hyn a llawer mwy.
Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n cael cwmni Carrie Jones a Mared Griffiths o garfan Cymru cyn dwy gêm enfawr yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn gemau ail-gyfle Ewro 2025. Cawn wybod pam fod Carrie wedi dewis symud i chwarae i Sweden a hithau dim ond yn 21 oed, tra bod Mared yn adrodd ei thaith o Drawsfynydd i Manchester United - a sut mai "gweithio fel ci" yn hel defaid ar y fferm deuluol oedd ei ymarfer ffitrwydd.Hefyd, fydd Caerdydd yn cynnig y swydd rheolwr i Steve Cooper? Nid am y tro cyntaf, mae yna wahaniaeth barn rhwng yr hogia...
Croeso i bennod mis Hydref o bodlediad Clera. Y tro hwn cawn y fraint o sgwrsio gyda Phrifardd y Goron, Gwynfor Dafydd, i drafod pob math o bethau am y byd barddol, gan gynnwys ei gerddi gwych a gipiodd Goron yr Hen Bont iddo. Cawn hefyd gerdd gan enillydd Llyfr y Flwyddyn, Mari George, o'i phamffled newydd hi o gerddi. Cawn hefyd gwmni sawl un arall gan gynnwys, Elinor Wyn Reynolds, Jo Heyde, Tudur Dylan a Gruffudd Antur. Mae gennych hefyd gyfle i gefnogi clera yn ariannol os ydych chi'n mwynhau'r podlediad. Cliciwch ar y linc: https://www.crowdfunder.co.uk/p/podlediad-clera
Croeso i bennod hynod o swmpus o bodlediad Clera. Yn rhifyn mis Medi cawn nid yn unig glywed llais yr Archdderwydd, Mererid Hopwood yn trafod gwaith arobryn Cadair Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, ond cawn hefyd sgwrs hynod ddifyr yng nghwmni enillydd y Gadair honno, Y Prifardd Carwyn Eckley. Cawn hefyd y fraint o roi llwyfan i gerdd Gymraeg gyntaf yr awdur Mike Parker ynghyd a llawer mwy o'r dwli arferol.
Mae yna gyffro mawr ymysg Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen wrth i gyfnod newydd i Gymru o dan Craig Bellamy gychwyn nos Wener yn erbyn Twrci yng Nghaerdydd. Beth fydd y tactegau, pa siâp fydd i'r tîm, pwy fydd yn cychwyn? Ac yn bwysicach oll, beth fydd Bellamy yn ei wisgo wrth ochr y cae..?Cawn hefyd atgof hyfryd gan Malcolm o gyfarfod Sol Bamba, yn dilyn y newyddion hynod drist am farwolaeth ddiweddar cyn amddiffynnwr Caerdydd.
Croeso i bennod mis Gorffennaf o bodlediad barddol Cymraeg hyna'r byd! Yn y rhifyn hwn, cawn sgwrs ddifyr gyda Bardd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd eleni, Lois Medi Wiliam. Cawn hefyd sgwrs ddifyr am bamffledi gyda dau fardd sy'n cyhoeddi pamffledi newydd, sef Mari George a Jo Heyde. Cawn hefyd flas o gerddi arobryn Cadair Gŵyl Fawr Aberteifi, gan yr enillydd, Lowri Lloyd. Hyn a llawer mwy. Mwynhewch!
Mae Myron Lloyd wedi gwirfoddoli efo Eisteddfod Llangollen ar yr ochr farchnata ers blynyddoedd maith, ac yn y blynyddoedd diwethaf mae hi wedi bod yn edrych ar ôl noddwyr yr Eisteddfod, ond fe ddechreuodd ei chysylltiad bron I 60 mlynedd nol, pan enillodd y wobr 1af yn yr Alaw Werin dan bymtheg oed. Blwyddyn ar ôl hynny, Myron oedd ‘pin up' yr Eisteddfod a bu ei lluniau mewn gwisg Gymreig ar bob math o nwyddau ar ol I lun ohonno gael ei gyhoeddi yn y gyfrol ‘North Wales in Colour'. Ar y clawr ôl roedd llun mawr o Myron a dynnwyd yn Eisteddfod Llangollen.Cafodd Myron ei derbyn i fynd i'r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Ond roedd ei llais y math oedd yn blino'n fuan, meddai hi. Roedd ganddi hefyd ddiddordeb mawr mewn ffermio felly penderfynodd fynd i goleg Gelli Aur i wneud cwrs Amaethyddol. Ar ôl cyfnod yno cafodd gyfweliad efo'r Weinyddiaeth Amaeth a chael swydd yn Nolgellau. Roedd hi'n gweithio mewn labordy yn mynd o gwmpas ffermydd Sir Feirionnydd i gyd a oedd yn gwerthu llaeth.Ond 'da ni dal i feddwl amdani fel cantores gyda llais melfedaidd ac wedi arbenigo ar ganu gwerin. Cawn hanesion ei bywyd ac mae'n dewis cerddoriaeth sydd yn golygu dipyn iddi.
Croeso i bennod Mis Mehefin o bodlediad barddol Clera. Y Mis hwn, Elinor Wyn Reynolds sy'n tafoli cyfrolau barddol Llyfr y Flwyddyn ac yn rhoi ei phen ar y bloc. Ond pa gyfrol mae Elinor yn tybio ddylsai ennill o blith y tair cyfrol wych sy'n y categori barddol eleni? Gwrandwch i gael gwybod. Cawn hefyd gerdd gan yr hyfryd Jo Heyde sydd wedi cyhoeddi ei chasgliad cyntaf o gerddi drwy Gyhoeddiadau'r Stamp. Mynnwch gopi! Hyn oll a mwy!
This month we talked with Meryll Cawn, co-owner of Ginger Phœnix, about Marseille cocktails, opening her own bar and restaurant, and moving from the US to France to work in hospitality.
Dan McCallum Cyfarwyddwr a chyd-sylfaenydd Awel Aman Tawe yw Gwestai Beti George. Cafodd ei fagu yn Plymouth yn Lloegr. Roedd ei Dad, Daniel yn dod o Glasgow a'i fam Mari yn dod o'r Betws yn Rhydaman.Mae wedi cymhwyso fel syrfëwr effeithlonrwydd ynni ac mae ganddo radd mewn Hanes Modern o Brifysgol Rhydychen. Ar ôl graddio bu'n gweithio gyda ffoaduriaid yn Sudan ac yn gweithio gyda'r Kwrdiaid yn Iraq ac yn fanno y cafodd flas ar weithio i wella cymunedau.Mae Dan yn siarad Cymraeg a Ffrangeg yn rhugl, a rhywfaint o Arabeg. Cawn hanesion ei fywyd a'r straeon am sefydlu'r elusen yn Dyffryn Aman.
Y Parchedicaf Andy John, Archesgob Cymru ac Esgob Bangor yw gwestai Beti George. Yn ogystal â phregethu mewn eglwysi, yn ei ieuenctid yn Aberystwyth roedd yn chwarae'r gitâr mewn band roc, ac mae ganddo ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth byw ac yn hoff o'r grŵp Rush, Led Zepplin ac Elin Fflur.Mae ei Fam yn Kiwi. Cafodd ei magu yn Wellington yn Seland Newydd. Roedd ei Dad yn dysgu yn y Sorbonne ym Mharis a'i Fam yn cwblhau ei gradd ym Mharis yr un pryd. Cyfarfu'r ddau felly. Pan oedd Andy'n rhyw ddwyflwydd cafodd ei Dad waith yn gweithio ym Mhrifysgol Dunedin yn Seland Newydd a bu'r teulu'n byw yno am ddwy flynedd, ac mae'n siarad am y cyfnod yma.Cawn hanesion ei fywyd ac fe fydd yn sôn am ei obaith ar gyfer yr Eglwys. Gobaith Andy ar gyfer y dyfodol ydi i'r Eglwys fod yn hyderus a gallu llawenhau yn ei hunain. Ond hefyd o safbwynt y wlad, fod pobl Cymru yn gallu wynebu'r dyfodol efo gobaith ac i fwynhau'r pethau Cymraeg sy'n ein tynnu ni at ein gilydd.
Croeso i bennod mis Mawrth o bodlediad Clera. Y tro hwn rydyn ni'n Pwnco am Pencerdd - cynllun cyffrous Pencerdd lle mae 5 bardd yn cael blwyddyn gyda 5 athro barddol i gamu ymlaen yn eu cynganeddu. Cawn felly gwmni Non Lewis ac Ana Chiabrando Rees, ill dwy yn rhan o'r 5 disgybl ar gynllun Pencerdd, yn ogystal â Mared Roberts a Leusa Llywelyn o Lenyddiaeth Cymru. Hyn a llawer mwy, mwynhewch.
Mae gan Hazel Thomas straeon rif y gwlith, mi fu'n torri gwalltiau, yn gwneud gwaith hyrwyddo a datblygu gyda Merched y Wawr. Mae hi'n Gydlynydd cynllun cyffroes Tir Glas gyda'r Brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan, ond yn fwy na dim hi oedd y fenyw 1af i weithio fel Chef yng nghegin y gwesty enwog The Dorchester yn Llundain. Ei swydd gyntaf fel Cogydd proffesiynol oedd gydag Anton Mosimann yn y Dorchester yn 1977. Y ferch gyntaf i gael swydd ganddo ar ôl iddo gael ei benodi fel Prif Gogydd y Dorchester. Cawn hanesion difyr bywyd y ferch o Drefach, aeth i weithio i Lundain o gefn gwlad Cymru yn y 70'au. Cawn hanes rhai o'r bobol enwog y bu'n coginio iddynt gan gynnwys Shirley Bassey.
Yr Arglwydd Dafydd Wigley yw gwestai Beti George, a hynny 50 mlynedd ers ei ethol i San Steffan eleni. Mae'n trafod hanesion ei fywyd prysur ac yn dewis ambell gân.Wedi 50 mlynedd mewn gwleidyddiaeth mae'r Arglwydd Dafydd Wigley wedi penderfynu ymddeol o Dŷ'r Arglwyddi eleni. Mae'n dal record o ran Aelod Seneddol i gynyddu'r bleidlais a chynyddu canran y bleidlais a hynny mewn 5 etholiad yn olynol. Mae e wedi cynrychioli Arfon yn Senedd San Steffan am 27 mlynedd. Fe gafodd Mr Wigley ei ethol yn gynghorydd Plaid Cymru ym Merthyr yn 1972, cyn cynrychioli Caernarfon yn Nhŷ'r Cyffredin rhwng 1974 a 2001.Roedd yn Aelod Cynulliad i Gaernarfon rhwng 1999 a 2003 ac mae wedi bod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi ers 2011."Pan ddes i Dŷ'r Arglwyddi gyntaf ddeng mlynedd yn ôl, doedd aelodau fan hyn ddim yn cael ymddeol, mi oeddan nhw'n mynd allan pan oeddan nhw'n marw. Ond wrth gwrs mae hawl i ymddeol wedi dod i fewn."Cawn stori'r Gangster, Murray the Hump - Llewellyn Morris Humphreys, fyddai wedi bod yn drydydd cefnder i Dafydd Wigley, ef wnaeth greu Las Vegas , cafodd ei recriwtio gan Al Capone ac a oedd ganddo ran yn llofruddiaeth JFK?
Pigion Dysgwyr – Arfon Jones Mae deiseb sy'n galw am ddefnyddio'r enw Cymru a Chymru'n unig ac i beidio â defnyddio'r enw 'Wales' wedi casglu dros un-deg un mil o lofnodion. Cyn-athro o Hen Golwyn ddechreuodd y ddeiseb a chafodd Rhodri Llywelyn sgwrs gydag Arfon Jones wythnos diwetha ar Dros Ginio. Deiseb PetitionLlofnodion SignaturesPrif Weithredwr Chief ExecutiveGwyrthiau MiraclesBras BoldTristwch SadnessCefnogwyr FansDigwyddiad EventPigion Dysgwyr – Siop Del Wel ie, tybed wnawn ni glywed y cefnogwyr yn gweiddi Cymru yn lle Wales yn y dyfodol. Cawn weld on'd ife? Nos Fawrth diwetha ar ei rhaglen cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Del Jones. Mae Del yn dod o Garn Fadryn ym Mhen Llŷn yn wreiddiol ond yn byw nawr yng Nghlynnog Fawr gyda'i phartner Math. Erbyn hyn mae hi wedi dilyn ei breuddwyd ac agor siop yng Nghricieth a hefyd mae hi‘n rhedeg gwasanaeth glanhau. Dyma Del yn esbonio y daith gymerodd hi ar ôl iddi hi adael ei swydd fel rheolwr gwesty…… Breuddwyd DreamPenderfyniad DecisionCryfder StrengthYmchwil ResearchFfyddlon FaithfulRhan amser Part timeY Cyfnod clo LockdownHeriol ChallengingPigion Dysgwyr – Treorci A phob lwc i Del gyda'i menter newydd on'd ife? Ar eu rhaglen Sadwrn cafodd Shelley Rees a Rhydian Bowen Phillips air gyda rhai oedd wedi dod i dafarn y Lion yn Nhreorci . Mae yna gynllun wedi dechrau yn nhrefi Aberdâr a Threorci i annog dysgwyr i fynd i siopau ble mae yna siaradwyr Cymraeg yn gweithio, er mwyn iddyn nhw allu defnyddio eu Cymraeg y tu allan i'r dosbarth. Hapus i Siarad yw enw'r cynllun ag un oedd yn y Lion oedd Jo… Menter VentureAnnog To encourage Sylweddoli To realiseDwy fenyw Dwy ddynesIeuenctid YouthDiwylliant CultureYn ddifrifol (o ddifri) SeriouslyPigion Dysgwyr – Guto Bebb On'd yw hi'n bwysig rhoi cyfle i ni gyd fedru defnyddio'n Cymraeg yn y gymuned? Da iawn a phob lwc i griw Hapus i Siarad. Gwestai Beti George ar Beti a'i Phobol ddydd Sul diwetha oedd cyn Aelod Seneddol Aberconwy Guto Bebb. Un o'i ddiddordebau mwya ydy cerddoriaeth fel buodd e'n sôn wrth Beti... Aelod Seneddol Aberconwy Former Aberconwy MPDiléit DiddordebGor-ddweud To exaggerateBuddsoddi'n helaeth To invest massivelyCasgliad A collectionMynd at fy nant i Interests meDw i'n dueddol o I tend toPigion Dysgwyr – Mills and Boon Pedair mil o albymau? Wel dyna beth yw casgliad helaeth on'd ife? Thema rhamantus oedd ar Dros Ginio bnawn dydd Iau pan buodd Lissa Morgan yn sôn am gyfres ramant Mills and Boon. Mae Lissa wedi bod yn ysgrifennu llyfrau i'r cwmni a dyma hi i ddweud ei stori. Cyhoeddi To publishCyflwyno To introduceCynhyrchiol ProductiveMor awyddus So eagerTu hwnt BeyondPigion Dysgwyr – Grav Digon o ramant ar Dros Ginio ar ddydd Santes Dwynwen! Ers degawd bellach mae'r actor Gareth John Bale wedi bod yn perfformio y sioe un dyn “Grav” am hanes bywyd y chwaraewr rygbi a'r darlledwr Ray Gravelle, o Fynydd-y-garreg ger Cydweli. Ond cyn bo hir bydd y sioe yn teithio i Adelaide yn Awstralia. Dyma Gareth i sôn mwy… Degawd DecadeRhyfeddol AmazingAntur AdventureYmateb ResponseCwpla GorffenCawr GiantPwysau PressureDehongliad InterpretationGwyro To deviateGofod SpaceYn uniongyrchol Directly
Mae Guto'n Brif Weithredwr Gwasanaeth Yswiriant Undeb Amaethwyr Cymru ers 2020 ac yn Brif Weithredwr Grŵp Undeb Amaethwyr Cymru yn ei gyfanrwydd ers Chwefror 2021. Cyn hynny, fe fu'n Aelod Seneddol dros Aberconwy am ddegawd gan wasanaethu fel Gweinidog yn Swyddfa Cymru a'r Weinyddiaeth Amddiffyn.Yn enedigol o Sir y Fflint, mae Guto wedi byw yng Nghaernarfon (ac eithrio ambell gyfnod yn crwydro) ers deugain mlynedd. Cyn ei ethol i San Steffan fe fu'n rhedeg amrywiol fusnesau gan gynnwys Ymgynghoriaeth Datblygu Economaidd a Siop Lyfrau. Am gyfnod, bu hefyd yn gydberchennog ar dŷ tafarn.Mae'n rhannu straeon am ei fywyd gyda Beti George ac yn sôn i'w yrfa bleidiol wleidyddol mewn dwy blaid wedi dod i ben oherwydd materion Ewropeaidd. Cawn glywed am ei hoffter o gerddoriaeth o bob math, a'i gasgliad o recordiau sy'n cynnwys nifer o rai Bruce Springsteen a Marillion.
Nayema Khan Williams sy'n ymuno â Beti. Mae Nayema a'i gŵr Osian yn rhan o gyfres Gogglebocs Cymru ar S4C ar hyn o bryd. Cawn glywed ei hanes difyr yn mentro o fyd y gwasanaeth iechyd i fyd triniaethau anfeddygol. Cafodd ei magu yng Nghaernarfon, daeth ei rhieni – Mirwas Kahn a Zari Kahn y ddau'n wreiddiol o Pacistan. Daeth ei thad draw yn y 50/60au i Gaernarfon ac fe ddilynodd ei mam wedyn . Mae Nayema yn un o naw o blant a hi ydi'r ieuengaf ond un. Gwraig tŷ oedd ei mam a phan ddaeth ei thad draw o Bacistan i gychwyn bu'n gwerthu bagiau o gwmpas y tafarndai. Yna bu'n gwerthu bagiau yn farchnad Caernarfon ac mewn marchnadoedd eraill am flynyddoedd. Cafodd ei magu'n Moslem ac 'roedd ei thad yn ffigwr blaenllaw yn y Mosque ym Mangor. Mae Naymea'n credu'n gryf fod angen mwy o ferched fentro mewn busnesau ac na ddylai merched ddim bod ofn cymryd y risg i ddechrau a chychwyn busnesau eu hunain.
Y gantores a'r gyflwynwraig Miriam Isaac (hi) sy'n cadw cwmni i Iestyn a Meilir yn y bennod hon, ddyddiau ar ôl iddi rannu ei bod yn ddeurywiol ar lwyfan Cabarela. Cawn glywed am yr holl stereoteipio mae rhywun deurywiol yn dal i ddioddef, gan ofyn y cwestiwn, “ydyn ni fel cymuned LHDTC+ yr un mor euog o leihau profiad bywyd pobl deurywiol?”
Y cyflwynydd Mirain Iwerydd (hi) sy'n sgwrsio efo Iestyn a Meilir yn y bennod hon, gan drafod ei brwdfrydedd tuag at ffasiwn a dillad lliwgar. Cawn glywed hefyd am ei chyfraniad i'r raglen deledu 'Ymbarél', agweddau cefn gwlad tuag at y gymuned ac ymateb ei theulu i'w hunaniaeth hi.
Croeso i bennod mis Rhagfyr o Clera. Mae 'na gymysgedd o eitemau Nadolig ac eitemau oesol yn y bennod hon. Cawn y fraint o rannu darlith Gurffudd Antur a Peredur Lynch o Blas Mostyn, fel rhan o ŵyl Gerallt yng Nghaerwys. Delicasi Dolig gan Tudur Dylan Jones, Gorffwysgerdd nadoligaidd o gyfrol newydd Rhys Dafis ac englynion newydd sbon gan y Prifardd-Archdderwydd, Mererid Hopwood. Mwynhewch a Nadolig Llawen i chi gyd.
Mae gwestai brenhinol yn cadw cwmni i Iestyn a Meilir y bennod hon, sef y frenhines drag Serenity (hi/nhw) neu Chris Jones (fe) allan o drag. Cawn glywed am ysbrydoliaeth Serenity, ei balchder o'i hardal enedigol a pham ei bod wedi penderfynu aros yn ei milltir sgwar. Gyda phoblogrwydd drag ar ei uchaf erioed, pam fod cymaint o bobl yn ymddiddori yn y grefft?
Croeso i bennod y Mis Du o bodlediad Clera. Yn gydymaith i chi wrth i'r nosweithi dywyllu'n gynt bydd arlwy difyr o'r byd barddol Cymraeg. Cawn sgwrs ddifyr a Gorffwysgerdd gan Clare E. Potter a fu'n fardd y mis ar Radio Cymru. Sgwrs ddifyr hefyd gyda'r Prifardd-Feuryn Twm Morys am ei gyfrol newydd a ddaeth allan dros yr haf, 'Y Clerwr Olaf' yn ogystal â sgwrs gyda Twm,y Meuryn, a'r Islwyn newydd yn Ymryson Barddas, Gruffudd Antur. Hyn...a mwy!!
Dafydd Llewelyn sydd yn sgwrsio gyda Fflur Dafydd.Awdur sydd yn ysgrifennu nofelau ac ar gyfer y sgrin. Cawn glywed profiadau Fflur fel awdur, hanes The Library Suicides a 'tips' ar gyfer sgwennwyr newydd.
Yn y bennod hon, aiff Gruff (nhw) â ni ar eu taith o ddod i adnabod eu hunain fel person anneuaidd ac o rannu'r daith honno gyda rheiny sydd agosaf atynt, o gyd-aelodau'r band Swnami i'w teulu a'u teulu estynedig. Cawn glywed am ysbrydoliaeth y gân 'Be Bynnag Fydd' ac arwyddocâd y geiriau "rhwng dwy lan ond heb ddeall pam, yn perthyn i ddim" yn ogystal â gofyn y cwestiwn "sut mae modd holi am hunaniaethau traws ac anneuaidd heb sarhau neu ymyryd"?
Y newyddiadurwr a'r ymgynghorydd cyfathrebu Guto Harri yw gwestai Beti George. Mae'n trafod ei gyfnod yn gweithio fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu i'r Prif Weinidog Boris Johnson, ac yn rhannu straeon am y cyfnod y bu'n gweithio wrth galon yr hyn oedd yn digwydd yn San Steffan, mewn cyfnod cythryblus yn hanes y lle. Bu'n gweithio i geisio adfer enw da papurau newydd Rupert Murdoch yn ystod cyfnod y 'phone hacking'. Bu hefyd yn gyflwynydd gyda GB News, ar raglen "Y Byd yn ei Le" ar S4C ac yn gweithio gyda chwmni Liberty Global. Cawn ei hanes yn brechu pobol yn ystod cyfnod Covid-19, ac mae'n sôn am yr ergyd o golli ei chwaer, ei Dad a'i ffrind pennaf.
Ringawn thiam hi upa ca zongah a tha i hngakchia ca zongah tha. Ringawn nih hin lungthin daihnak a chuahpi lawng siloin pumpak thanchonak zong a chuahpi.
Croeso i'r bennod swmpusaf erioed o bodlediad Clera! Yn ogystal â thrin a thrafod y cyfnod hynod brysur sydd ar ein gwarthaf yn y byd barddol, a llongyfarch aml i fardd ar eu lwyddiannau, cawn orffwysgerdd yn egsliwsif gan fardd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd, Tegwen Bruce-Deans. Cawn farn Jo Heyde hefyd ar lyfrau'r categori barddol yn Llyfr y Flwyddyn 2023 a llawer mwy.
Sarah Cawn's mission is to design and create beautiful, unique, and functional glass objects.Initially using Tiffany stained glass techniques, Sarah has evolved into creating original fused glass works of art. Her innovative use of color, shapes and whimsical designs never fail to engage the viewer. She is fascinated by the captivating power of light's interaction with glass, showing the beauty of the color spectrum. This quality has inspired her to explore many aspects of the glass medium and transform ordinary functional objects into unique innovative art treasures.Sarah's beautiful art objects incorporate unique colors and create a dance of light that delights viewers and collectors nationwide. (Source: sarahsglassart.com)Sarah's work can be found online and at Bel Air Art Center, Rocky Mount, NCWebsite: sarahsglassart.comIG: @sarahs_glassartFB: @Sarahs-Glass-ArtSarah's Artist RecommendationsGlass Artists Nathan Sandberg - nathansandberg.com Ian Chadwick - ianchadwickglassart.co.ukPainters Rocky Alexander - roxannalexanderartworks.com Nicole White Kennedy - nicolestudio.com Diana Coidan - dianacoidan.com Diana was a guest on the Artist Spotlight listen to our conversation here. Support the show
Artist o Ynys Môn yw gwestai Beti George. Cawn ei hanes yn cwrdd â Andy Warhol a Johnny Cash ac mae o'n sôn am ei gyfeillgarwch â R.S Thomas – mae ganddo lyfr sydd yn llawn brasluniau wnaeth o R.S Thomas wrth drafod Duw a chantorion Opera Rwsieg yn ei stiwdio yng Nghemaes.
Y dramodydd Rhiannon Boyle yw'r gwestai. Mae ei drama newydd ar gyfer Radio Cymru, 'Lysh', wedi'i selio ar brofiadau personol a'i pherthynas hi gydag alcohol. Pan fyddai hi'n yfed roedd yn tueddu o yfed tipyn ar y tro, gan fynd dros ben llestri a gwneud pethau gwirion. Wedi iddi roi'r gorau i yfed am fis, teimlodd bod ei hiechyd meddwl wedi gwella, ac roedd hi'n cysgu'n well. O ganlyniad, mi benderfynodd beidio ag yfed alcohol eto. Cawn glywed am sut y dechreuodd astudio Drama yn yr ysgol, wedi cyfnod anodd ar ôl i'w rhieni wahanu, a sut y newidiodd ei byd. Clywn hefyd am rai o'i dramâu, yn cynnwys 'Safe From Harm' i Radio 4, sydd dal ar BBC Sounds; 'Anfamol' a gynhyrchwyd gan y Theatr Genedlaethol, a'i chomisiwn diweddaraf i addasu'r nofel 'Un Nos Ola Leuad' ar gyfer Radio 4 a Radio Cymru.
Bore Cothi - Huw Williams 29.11 Ddechrau'r wythnos buodd Sian Cothi yn darlledu o'r Ffair Aeaf yn Llanelwedd. Dydd Mawrth cafodd gyfle i siarad ag un o filfeddygon yr Ŵyl sef Huw Williams o Dywyn, Meirionydd. Beth yn union yw gwaith y milfeddygon yn ystod y Ffair Aeaf? Dyma Huw yn esbonio... Ffair Aeaf Winter Fair Milfeddygon Vets Darlledu Broadcasting Hamddenol Leisurely Archwilio To inspect Anhygoel Incredible Y cylch The ring Beirniad Judge Rhesymu'n gyhoeddus Outlining the reasons publicly Arddangoswyr Exhibitioners Beti a'I Phobl – Sylvia Davies 4.12 Blas ar waith milfeddygon y Ffair Aeaf yn fanna ar Bore Cothi. Sylvia Davies oedd gwestai Beti George bnawn Sul . Dyma i chi ran o'r sgwrs ble mae hi'n esbonio pam wnaeth hi benderfynu mynd i'r brifysgol i astudio anthropoleg ar ôl iddi hi ddechhrau gweithio mewn banc... Doedd fy mryd i ddim I wasn't inclined Trywydd traddodiadol A traditional path Aeth ar gyfeiliorn Went astray Ennill fy nhamed To earn my living Gradd Degree Tystiolaeth Evidence Tystysgrif Certificate Dyrchafiad Promotion Mo'yn Eisiau Crefydd Religion Dros Ginio – Rhys Mwyn 28.11 Sylvia Davies oedd honna'n esbonio wrth Beti George beth wnaeth iddi hi benderfynu mynd i brifysgol yn hytrach nag aros yn y banc. Nia Ceris oedd yn cyflwyno Dros Ginio bnawn Llun a chafodd hi sgwrs gyda'r cyflwynydd radio a'r archeolegydd Rhys Mwyn am y mosaig anhygoel o oes y Rhufeiniaid cafodd ei ffeindio ar dir fferm yn Swydd Rutland. Ydy hi'n bosib i rywbeth mor hen a hynny fod mewn cyflwr da? Dyma beth oedd gan Rhys i'w ddweud... Y Rhufeiniaid The Romans Cyflwr Condition Wedi cael llonydd Been undisturbed Goroesi To survive Aredig Ploughed Ail gladdu To rebury Cofnodi To record Y bedwaredd ganrif The fourth century Chwalu To destroy Gaeafau garw Rough winters Tir sad Stable land Caryl – Professor Llusern 30.11 Beth fydd yn digwydd i'r mosaig hwnnw tybed, fydd e'n cael ei ail gladdu fel roedd Rhys yn ei awgrymu? Cawn weld on'd ife? Cafodd Caryl Parry Jones gyfle i sgwrsio â chonsuriwr nos Fercher o'r enw Professor Llusern. Mae e'n dod o Fostyn yn Sir y Fflint a gofynnodd Caryl iddo fe pa mor anodd yw hi i ymuno â'r Magic Circle….neu'r Cylch Hud….. Consuriwr Magician Hen ddywediad Old saying Cyfrinachau hud a lledrith Magic secrets Enwebu To nominate Dros dro Temporary Wir o ddifri Really serious Bore Cothi - Cwn Selsig 30.11 Wel dyna ni, os dych chi'n ffansio bod yn gonsuriwr, dych chi gwybod beth i'w wneud nawr. Erbyn bore Mercher roedd criw Shan Cothi wedi dod yn ôl o'r Ffair Aeaf yn Llanelwedd i'r stiwdio yng Nghaerfyrddin lle cafodd gyfle i siarad ag Emma Hughes sydd yn berchennog ar Seth. Ci Daschund yw Seth ag Emma yw sefydlydd Cymdeithas Cŵn Selsig Gogledd Cymru, a gofynnodd Shan iddi hi‘n gynta faint o aelodau sydd yn y gymdeithas Sefydlydd Founder Perchennog Owner Mae gen i ofn I'm afraid Pryderon Worries Gweddol rhwydd Eitha hawdd Ifan Evans – Llanbed 1.12 Ramp i gŵn selsig – dyna dda on'd ife? Aeth criw Rhaglen Ifan Evans allan o'r stiwdio ddydd Iau a mynd draw i Lanbedr Pont Steffan gan ei bod yn noson siopa hwyr y dref. Cafodd Ifan gyfle i holi Meinir Evans gwraig leol ddechreuodd busnes pobi yn ystod y cyfnod clo. Gofynnodd Ifan iddi hi'n gynta beth yn union yw'r busnes Pobi To bake Y cyfnod clo Lockdown Syndod o dda Surprisingly well Shwd (sut) fraint Such a privilege Cacs Cacennau Ffili Methu Ieuenctid Youth Deugain mlynedd 40 years Ddim digon o blwc Not brave enough Danteithion Delicacies
Beti George yn sgwrsio gyda'r comedïwr Elis James. Cawn glywed am ei fagwraeth yng Nghaerfyrddin a'i ddechreuad fel comedïwr, yn ogystal â thrafod ei hoffter mawr o gerddoriaeth a phêl-droed.
Beti George yn sgwrsio gyda Rheolwr Gyfarwyddwr Banc J.P. Morgan ym Mhrydain, John Derrick. Cawn glywed am ei fagwraeth yn Llanelli cyn mynd ati i weithio yn y byd arian yn y ddinas, heb sôn am 3 mlynedd yn gwerthu gwin o gwmpas y byd.
Cadeirydd Cenedlaethol Sefydliad y Merched, Ann Jones o Landdewi Brefi yw gwestai Beti George. Cawn wybod am ei magwraeth yng Nghwm Gwendraeth, dylanwad y Ffermwyr Ifaic arni, ac am waith Sefydliad y Merched.
"Cymuned, Amgylchedd, Economi - dyna ydy calon ein gwaith ni yn Partneriaeth Ogwen, Meleri Davies Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen yw gwestai Beti George. Cafodd ei magu ar y fferm Hendre yng Nghwm Prysor sydd rhyw 3 milltir o Drawsfynydd ar y ffordd i Bala a'r Fferm fynydd yn magu defaid Cymreig. Mae hi yn un o 4 o blant - y cyw melyn olaf. Dewi Prysor yr awdur ydi'r hynaf sy'n byw ym Mlaenau Ffestiniog, yna Manon sy'n byw yn Sir Fôn sy'n actores ac yn cynnal gweithdai, a mae Rhys sy'n ffermio adref , fo ydi'r 3ydd genhedlaeth i ffermio yno. Fel Prif Swyddog, mae Meleri yn angerddol am dyfu Partneriaeth Ogwen fel menter gymdeithasol sy'n gwneud gwahaniaeth – yn amgylcheddol, gymunedol ac economaidd. Mae wedi arwain ar brosiectau mwyaf y Bartneriaeth, yn cynnwys datblygiad Ynni Ogwen, canolfan Dyffryn Gwyrdd a throsglwyddiadau asedau. Ers ei phenodiad, mae wedi ennill gwobr Pencampwr Cynaladwyedd Cymru yng ngwobrau Academi Cynaliadwy Cymru a Green Energy Pioneer yng ngwobrau Regen Prydain. Dechreuodd Partneriaeth Ogwen yn 2014 drwy gael 3 cyngor cymuned yn gweithio efo'i gilydd, sef Llanllechid, Llandegai a Bethesda. Daeth y tri at ei gilydd i gyflogi un clerc yn hytrach na tri ac yna defnyddio yr arbed i gyflogi Meleri i ddatblygu prosiectau. Dechreuwyd y bartneriaeth efo Meleri'n gweithio 2 ddiwrnod yn unig a clerc am ddau ddiwrnod. Bellach cyflogir 23 o bobl, rhai yn rhan amser ac eraill yn llawn amser. Mae Meleri'n gweithio'n llawn amser ers sawl blwyddyn bellach ac yn magu 3 o blant gyda'i gwr Meirion. Cawn hanesion ei bywyd o Trawsfynydd i Nepal, ac mae hi'n dewis ambell i gân - gan gynnwys caneuon gan Lleuwen Steffan a Gruff Rhys.
Yr artist Meirion Jones yw gwestai Beti ai Phobol. Cafodd ei fagu yn Aberteifi a bu'n cyd weithio mewn stiwdio gyda'i Dad, y diweddar Aneurin Jones. Astudiodd Lefel A mewn Arlunio, Hanes a Cymraeg. Yna aeth i Goleg Celf Dyfed Caerfyrddin i astudio Celf am ddwy flynedd a dysgu llawer. Aeth Meirion ymlaen wedyn i astudio Cwrs Cyfathebu yn y Coleg Normal Bangor cyn mynd yn athro am 10 mlynedd, yn dysgu yn Abergwaun. Yna cyrhaeddodd bwynt yn ei fywyd naill ai ei fod yn aros yn y proffesiwn hyd nes y byddai'n ymddeol, neu ei fod yn torri hynny yn ei flas a gwireddu breuddwyd a byw fel artist o achos doedd o ddim y credu na fyddai wedi gallu maddau iddo fo ei hun tasa fo ddim. Roedd yn byw gartref o hyd a treuliodd y 10 mlynedd nesaf yn y stiwdio efo'i Dad. Roedd gan Meirion berthynas arbennig o glos efo'i Dad, medda fo. Dysgodd lawer iawn ganddo. Roedd hi'n berthynas symbiotig- roedd y ddau angen ei gilydd. Pan fu farw ei Dad, prynodd Joanna ag yntau 'small holding' tu allan i Abereifi. Dyma droi y beudy yno yn stiwdio ar gyfer y ddau. Cyfarfu Meirion Joanna yn Eisteddfod Abertawe ac mae hithau'n arlunydd llawn amser hefyd. Priodwyd y ddau yn 2013. Yn ddiddorol dydy Meirion erioed wedi arlunio ar ben ei hun, Roedd hefo'i Dad o'r blaen a bellach mae rhannu stiwdio efo Joanna. Mae'r byd mytholegol a chwedlonol o ddiddordeb mawr i Meirion. Cawn glywed hanes Chwedl Llyn y Fan fach. Mae'r chwedl hon wedi ei hudo drwy ei fywyd.
Wrth iddo ymddeol fel Cynghorydd Sir dros ardal Treherbert yng Nghwm Rhondda ar ôl 30 mlynedd yn y swydd, mae Beti yn sgwrsio gyda Geraint Davies. Cawn glywed am ei gyfnod fel Aelod Cynulliad, fferyllydd lleol, a'i rôl flaenllaw yn ei glwb tennis lleol.
Happy Monday! Nan tho tha hna maw? CEBC Podcast, Zumhtlak Saltha in Morning Devotion tuah ti dingin kan in sawm hna. A kan hruaitu cu CEBC Senior Pastor, Rev. Dr. Thawngling Mualhlun a si i Mary le Marta Sinin Cawn Awk timi tlangtar in a si lai. Nan zate Bawipa nih thluachuah in pe hna seh, Amen! CAPT, Zumhtlak Saltha. -- Music by Peder B. Helland
Happy Monday! Nan tho tha hna maw? CEBC Podcast, Zumhtlak Saltha in Morning Devotion tuah ti dingin kan in sawm hna. A kan hruaitu cu CEBC Senior Pastor, Rev. Dr. Thawngling Mualhlun a si i Samaria Mitha Sinin Cawn Awk timi tlangtar in a si lai. Nan zate Bawipa nih thluachuah in pe hna seh, Amen! CAPT, Zumhtlak Saltha. -- Music by Peder B. Helland
Happy Monday! Nan tho tha hna maw? CEBC Podcast, Zumhtlak Saltha in Morning Devotion tuah ti dingin kan in sawm hna. A kan hruaitu cu CEBC Senior Pastor, Rev. Dr. Thawngling Mualhlun a si i Jesuh Chiti Thuhnak In Cawn Awk timi tlangtar in a si lai. Nan zate Bawipa nih thluachuah in pe hna seh, Amen! CAPT, Zumhtlak Saltha. -- Music by Peder B. Helland
Happy Monday! Nan tho tha hna maw? CEBC Podcast, Zumhtlak Saltha in a voikhatnak Morning Devotion a kan tuahpi ding cu CEBC Senior Pastor, Rev. Dr. Thawngling Mualhlun a si i Gideon Sinin Cawn Awk timi tlangtar in thazaang peknak a kan ngeih lai. Nan zate, chuntha ulaw, Zumhtlak Saltha. -- Music by Peder B. Helland
Shan Cothi a Geraint Jones Sut mae gwneud y dorth berffaith? Wel roedd hi'n wythnos Real Bread Week wythnos diwetha ac ar Bore Cothi mi gafodd Shan farn y pobydd Geraint Jones. Mae Geraint a'i wraig yn berchen ar fecws yn Llydaw a dyma oedd ganddo fo i'w ddweud wrth Shan... Llydaw - Brittany Burum - Yeast Toes - Dough Lefain - Leaven Crasu - To bake Codi chwant - To whet the appetite Malu - To mill Ffwrn - Popty Troad y ganrif diwetha - Turn of the last century Naws neilltuol - Special quality Geraint Jones yn fan'na yn codi chwant ar Shan Cothi, ac arnon ni i gyd dw i'n siŵr! Troi'r Tir Sam Robinson Mae'r bugail Sam Robinson yn dod o Rydychen yn wreiddiol ond mae o'n byw ym Mro Ddyfi yng ngogledd Powys erbyn hyn. Fel cawn ni glywed ar Troi'r Tir mae o erbyn hyn yn rhugl yn y Gymraeg ac yn mwynhau cymryd rhan yn y gymuned leol. Bugail - Shepherd Rhydychen - Oxford Athroniaeth - Philosophy Ta waeth - Beth bynnag Anhygoel - Incredible Tafodiaith - Dialect Hardd - Beautiful Gwirioni - Dwlu ar Tirwedd - Landscape Cyfoeth - Wealth A Sam wedi codi acen hyfryd Gogledd Powys yn ogystal. Tasech chi eisiau dysgu mwy am Sam buodd erthygl amdano yn ddiweddar ar Cymru Fyw. Post Prynhawn Brownies Pam bod criw o Brownies Tunbridge yng Nghaint yn cael cyfarfod Zoom efo Brownies Y Felinheli yng Ngwynedd? Carole Boyce oedd yn gyfrifol am drefnu'r digwyddiad a dyma hi'n rhoi'r hanes ar Post Prynhawn... Caint - Kent Rhwydwaith Menywod Cymru - Welsh Women's Network Ymateb - Response Cyflwyno - To introduce Ymwybodol o fodolaeth - Aware of the existance Heol - Ffordd Cyfarwydd - Familiar Cangen - Branch Daearyddiaeth - Geography Ac yn ogystal â dysgu Cymraeg i Brownies Caint mae Carole yn diwtor Cymraeg i Oedolion yn dysgu dosbarthiadau ar-lein i ddysgwyr Sir Benfro a dysgwyr Prifysgol Bangor. Aled Hughes Virginia a Porthcawl Ond dysgwyr o Virginia yng ngogledd America, ac o Borthcawl fuodd yn sgwrsio efo Aled Hughes wythnos diwetha. Beth ydy'r cysylltiad rhwng Anne De Marsay o Virginia, ag un o athrawon Ysgol Gynradd Newton ym Mhorthcawl, Henley Jenkins? Cawn wybod mewn munud ond i ddechrau dyma Anne yn dweud sut aeth hi ati i ddysgu Cymraeg. Medden nhw - They said Hudolus - Magical Ystod eang - A wide range Gwych ynde? Dysgu Cymraeg yn dod â phobl ar draws y byd at ei gilydd ac yn help i blant ysgol Cymru yn ogystal. Cofio Enwau Dodo Rŵan ta - 'dodo' . Na, ddim fel yn 'dw i'n 'dod o' Gymru, a dim fel yr aderyn oedd yn arfer byw yn Mauritius. Na, mae 'dodo' yn hen air Cymraeg a dyma'r Dr Sara Louise Wheeler sy'n arbenigo ar enwau o bob math ,yn sôn am ei chysylltiad personol hi â'r gair... Arbenigo - To specialize Atgyfodi - To resurrect Nithoedd - Nieces Gan gynnwys - Including Ffurfiol - Formal Dilyniant - Sequel Tarddiad - Source Byddar - Deaf Ysgol breswyl - Boarding school Un genhedlaeth - One generation Mae'n braf cael clywed am hen enwau'n cael eu hatgyfodi yn tydy? Bore Sul Tomos Parry Tomos Parry oedd gwestai Elliw Gwawr fore Sul. Mae Tomos yn dod o Ynys Môn yn wreiddiol ac mae o'n yn berchen ar fwyty Brat yn Llundain. Mae gan y bwyty un seren Michelin ac fel cawn ni glywed mae gan Tomos gynlluniau i agor rhagor o fwytai yn y ddinas fawr... Yn amlwg - Obviously Uchelgais - Ambition Datblygu - To develop