POPULARITY
Former MP for Cardiganshire, Elystan Morgan, has been a member of the House of Lords for 37 years.Martin travels to Westminster to hear about working with Gwynfor Evans, the sleeping giant of Welsh nationhood and why the House of Lords is "wholly ridiculous". See acast.com/privacy for privacy and opt-out information.
Political commentator Gwynoro Jones was elected MP for Carmarthen in 1970 at the age of 27, defeating the president of Plaid Cymru, Gwynfor Evans.He tells Martin about the most famous by-election in Welsh history in 1966 and recalls the height of political campaigning in the 1970s before he helped to establish the Social Democratic Party.They also discuss the future of the Liberal Democrats and, of course, Brexit. See acast.com/privacy for privacy and opt-out information.
Ym 1847 cyhoeddodd comisiwn y llywodraeth adroddiad ar gyflwr addysg yng Nghymru, a adnabyddir yn boblogaidd fel “y Llyfrau Gleision”. Rhoddodd yr adroddiad y bai ar yr iaith Gymraeg am y methiannau, ac ni roddodd ddigon o sylw i ffactorau eraill. Beirniadodd hefyd foesau pobl Cymru. Roedd cywilydd ar y Cymry ac roeddent yn gandryll, ond roeddent hefyd am brofi eu bod cystal â gweddill Prydain ac am elwa o gynnydd. Derbyniwyd cynllun y llywodraeth i wella addysg drwy sefydlu ysgolion uwchradd am ddim er mai Saesneg fyddai cyfrwng yr addysgu. Roedd hyn yn tanseilio’r Gymraeg. Gydag ehangiad y maes glo cafwyd cynnydd yn nifer y bobl oedd ddim yn deall Cymraeg. Ym 1962 cyflwynodd y gwleidydd Saunders Lewis araith radio ddylanwadol dan y teitl Tynged Yr Iaith a ysgogodd ffurfio Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, corff sy’n ymgyrchu i gael cydnabyddiaeth i’r iaith. Yn y 1960au dinistirwyd cymuned Gymraeg ei hiaith yng Nghwm Tryweryn er mwyn creu cronfa ddŵr ar gyfer Lerpwl, er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn yng Nghymru. Cynyddodd hyn y gweithredu dros yr iaith a ddaeth i’w anterth pan wnaeth y gwleidydd Gwynfor Evans fygwth ymprydio hyd farwolaeth pe na bai’r llywodraeth Geidwadol yn anrhydeddu ei haddewid i greu sianel deledu Gymraeg. Ildiodd y llywodraeth a lansiwyd Sianel Pedwar Cymru (S4C) ym 1982. Gyda Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 cafwyd statws cyfreithiol gryfach i’r Gymraeg. Ers y 1970au mae addysg cyfrwng Cymraeg wedi ffynnu, yn arbennig yn hen ardaloedd diwydiannol Cymru.