POPULARITY
Sam Murphy o YesCymru Abertawe sy'n sôn am 'Nabod Cymru Abertawe' - penwythnos o drafod, miwsig, teithiau tywys ac hyfforddiant ar 28 a 29 Mawrth yn y ddinas. I gyd yng nghanol Abertawe gyda chroeso i bawb a phob digwyddiad am ddim! * Nabod Cymru: https://cy.yes.cymru/nabod_cymru... * Prof John Ball - The Economics of an independent Wales pt. 1 https://www.iwa.wales/agenda/202... * John Ball: cyfweliad ar RYC ar economeg annibyniaeth (Saesneg): https://creators.spotify.com/pod/show/radioyescymru/episodes/Dr-John-Ball-2032023--Series-5-Episode-8--in-Englishyn-Saesneg-e20qb6q
Georgia Ruth, y gantores a'r gyflwynwraig yw gwestai Beti George. Mae wedi rhyddhau 4 albwm, ac yn ystod y cyfnod clo, mi ddechreuodd sgwennu ychydig bob dydd. Mi ddaru hunan gyhoeddi ei nofel gyntaf “Tell Me Who I am”. Cafodd gynnig wedyn i sgwennu yn Gymraeg – Casglu Llwch, sef casgliad o fyfyrdodau ganddi.Roedd llynedd yn dipyn o flwyddyn rhwng popeth! Roedd ganddi albwm allan mis Mehefin. Roedd hi'n cyhoeddi llyfr Saesneg yr un cyfnod ac yn cyhoeddi llyfr Cymraeg mis Tachwedd. A dros yr haf – ar lwyfan Sesiwn Fawr yn Nolgellau - fe aeth Iwan ei gwr yn sâl, roedd bron a gorffen ei set (efo Cowbois) pan gafodd strôc ar y llwyfan. Mae Georgia yn trafod y cyfnod yma, a sut y gwnaeth hi ac Iwan ymdopi.Mae hi'n fam i 3 bellach, recordiwyd y sgwrs cyn genedigaeth Alma Gwen.
In the final episode of Season One, Dr Kathryn Speedy speaks to Tara Bryer from Climate Outreach. If you want to become more confident in speaking about Climate Change, then listen to this episode where Tara shares her top communication tips for healthcare professionals. Transcripts of this episode in Welsh and English will be available shortly in the Climate Smart Community on Gwella. Bydd trawsgrifiadau o'r bennod hon yn Gymraeg a Saesneg ar gael yn fuan yn y "Climate Smart Community" ar "Gwella". Links to resources mentioned in the episode: Climate Outreach https://phwwhocc.co.uk/wp-content/uploads/2024/04/Climate-Change-and-Health-in-Wales-Views-from-the-public.pdf https://climateoutreach.org/reports/beyond-trusted-messengers-climate-communications/ Link to join the Climate Smart Community on Gwella: https://leadershipportal.heiw.wales/go/ihuqsh
In the penultimate episode of season one, Dr Kathryn Speedy is joined by Mr Ife Osinkolu, a general surgical registrar and past Welsh Clinical Leadership fellow in Sustainable Healthcare. We discuss his experiences of sustainability and leadership, and hear about Ife's sustainability project. Transcripts of this episode in Welsh and English will be available shortly in the Climate Smart Community on Gwella. Bydd trawsgrifiadau o'r bennod hon yn Gymraeg a Saesneg ar gael yn fuan yn y "Climate Smart Community" ar "Gwella".
Beti George yn sgwrsio gyda'r awdur Malachy Owain Edwards. Cafodd Malachy ei fagu yn Ffynnon Taf. Saesneg oedd iaith yr aelwyd, ond fe aeth ei dad ati i ddysgu Cymraeg.Mae'n trafod y ffaith ei fod eisiau bod yn awdur, ac fe gafodd ei fagu yng nghanol llyfrau. Fe wnaeth ei hunangofiant 'Y Delyn Aur' gyrraedd rhestr fer Llyfr Ffeithiol Greadigol 'Llyfr y Flwyddyn' eleni.Wrth drafod ei hunaniaeth mae'n mynd a ni ar daith i Lundain, Hong Kong, Iwerddon a Barbados, ac mae dylanwad ei deulu yn fawr arno.Mae Malachy bellach yn byw hefo'i wraig Celyn a'r teulu ar Ynys Môn.
Dr Carwyn Jones yw gwestai Beti George.Mae'n Athro mewn moeseg chwaraeon yn gweithio yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd - ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.Ei brif ddiddordebau ymchwil yw moeseg chwaraeon yn gyffredinol a'r berthynas rhwng chwaraeon ac yfed alcohol yn arbennig, ac mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau yn y Gymraeg a'r Saesneg sy'n ymdrin â phynciau sy'n amrywio o ddosbarthiad yn y Gemau Paralympaidd, rheolau cymhwysedd cenedlaethol, cydraddoldeb rhwng y rhywiau, hiliaeth a thyfu cymeriad drwy chwaraeon.Mae'n wreiddiol o Ddinbych ond bellach yn byw yn Abergwyngregyn gyda'i wraig a'i fab.Mae dau beth tyngedfennol wedi digwydd ym mywyd Carwyn - rhoi'r gorau i yfed alcohol a chael tiwmor ar ei ymennydd. Mae'n trafod yn agored gyda Beti y cyfnodau anodd yma yn ei fywyd, ac yn dewis pedair cân sydd yn cysylltu â gwahanol gyfnodau o'i fywyd.
Y gantores Katie Hall yw gwestai Beti George. Katie yw prif leisydd y band amgen o Bontypridd, CHROMA. Mae'r band wedi profi llwyddiant yn y blynyddoedd diwethaf, gan ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2016, ac ennill lle yn nghynllun Gorwelion y BBC i artistiaid newydd yn 2018, ynghyd â pherfformio mewn gigs a gwyliau ledled Cymru a thu hwnt. Bu'n cefnogi'r Foo Fighters yn ddiweddar ac yn teithio i Dde Korea. Cafodd ei magu yn Aberdâr. Mynychodd ysgol gynradd Aberdâr ac yna ysgol Uwchradd Rhydywaun. Cafodd ddiagnosis o Dyslecsia yn eithaf ifanc., a thrwy gydol ei dyddiau ysgol yn ffodus iawn, cafodd pob cymorth a chefnogaeth.Dewis ar y funud olaf oedd mynd i astudio Cymraeg yng Nghaerdydd, ac y penderfyniad yma oedd yr allwedd i Katie, ac fe wnaeth hynny newid trywydd ei bywyd. Cafodd ei chyflwyno i fandiau newydd Cymraeg gan ei ffrindiau coleg, wnaeth arwain at ddilyn bandiau a gweithio yn Clwb Ifor Bach.Pan ddaeth CHROMA at ei gilydd, fe wnaeth y triawd sgwennu caneuon Saesneg a Chymraeg yn rhannol er mwyn bod yn wahanol i fandiau o'r Cymoedd - a gan eu bod nhw'n gallu.Mae'n rhannu profiadau bywyd yn trafod ei chyfnod yn gweithio mewn canolfan alwadau, cyfansoddi caneuon gwleidyddol a'r dylanwadau eraill sydd wedi ysgogi cerddoriaeth CHROMA, gan gynnwys Cate Le Bon a Gwenno.
Rhifyn arbennig o bodlediad Colli'r Plot wrth i'r 5 ohonom ymateb i erthygl yn yr Elysian yn sôn am wariant y 5 cwmni cyhoeddi mawr Saesneg.Y consensws, Ni'n lwcus ein bod ni'n Gymru Gymraeg yn sgwennu yn Gymraeg.Darllenwch yr erthygl ymahttps://www.elysian.press/p/no-one-buys-books
1 Trystan ac Emma – Hyd 1.49.Ar eu rhaglen wythnosol mae Trystan ac Emma yn cynnal cwis gyda Ieuan Jones neu Iodl Ieu fel mae'n cael ei alw. Ac yn ddiweddar roedd rhaid i Ieuan ofyn cwestiwn tie break i Trystan, Emma, a'u gwestai Megan...a dyma'r cwestiwn:Yn ddiweddar Recently Llongyfarchiadau Congratulations2 Rhaglen Ffion Dafis – Hyd 2.28.Wel, dan ni'n gwybod rŵan pa mor gyflym mae cangarŵ yn medru rhedeg yn tydan?Ar hyn o bryd mae‘r actor Dafydd Emyr yn perfformio mewn drama lwyfan yn Saesneg yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug. Enw'r ddrama ydy ‘Kill Thy Neighbour‘ a chafodd ei sgwennu gan y dramodydd Lucie Lovatt. Mi gafodd Ffion Dafis, yn ei rhaglen bnawn Sul, sgwrs efo Dafydd Emyr er mwyn cael gwybod dipyn mwy am y ddrama. Trawiadol Striking Difrifol Serious Cyfoes Modern Cyfredol Contemporary Y felltith The curse Dychmygol Imaginary Trigolion cynhenid Indigenous residents Estroniaid cefnog Rich outsiders Rhwystro To prevent (G)oblygiadau Consequences Gostwng yn ddifrifo Fallen sharply3 Beti a'i Phobol – Hyd 2.51.Dafydd Emyr yn fanna'n sôn am y ddrama ‘Kill Thy Neighbour‘ sydd i'w gweld yn Theatr Clwyd yr Wyddgrug.Y nofelydd, cogydd ac actores Rhian Cadwaladr oedd gwestai Beti George ddydd Sul ac yn y clip hwn mae hi'n sôn am ei henw ‘Cadwaladr'. Mae hi hefyd yn sôn ei bod yn hoff o hel achau, ac wedi canfod ei bod yn perthyn i Cadwaladr, Brenin y Brythoniaid. Mae hi hefyd yn sôn am ei chefndir yn Llanberis a hanes ei rhieni.Hel achau To genealogize Y Brythoniaid The Britons Canfod To find Plwyf Parish Ymwybodol Aware Rhyfedd Strange Dirprwy swyddog Deputy officer Awyrlu Airforce Be dach chi'n dda? What are you doing? Alla i ddychmygu can imagine4 Aled Hughes – Hyd 2.00Wel, wel, mae Rhian Cadwaladr yn perthyn i un o frenhinoedd y Brythoniaid – pwy fasai'n meddwl!Mae Antur Waunfawr yn dathlu pen-blwydd yn bedwar deg oed eleni. Mae'r Antur yn rhoi gwaith a chyfleoedd i bobol sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn y gogledd orllewin. Ddydd Gwener y deuddegfed o Ebrill, ‘roedd na daith feics pedwar deg milltir o hyd fel rhan o'r dathliad. Mi fuodd Aled Hughes draw i Gaernarfon i sgwrsio efo Jack Williams, sy'n trefnu'r daith feics ar ran Antur Waunfawr.Dathliad Celebration Unigolion Individuals Trwsio To repair5 Bore Cothi – Hyd 2.26.A phen-blwydd hapus i Antur Waunfawr sy'n gwneud gwaith gwerth chweil yn ardal Arfon yng Ngwynedd.Antur arall sy'n gwneud gwaith campus yng Ngwynedd ydy Antur Aelhearn ym Mhen Llŷn, ac yn ddiweddar ar Bore Cothi, cafodd Shan sgwrs efo John Pritchard, Dirprwy Gadeirydd yr Antur. Mae'r Antur am brynu Becws Glanrhyd, Llanaelhaearn, sydd wedi bod yn yr ardal am bron i gan mlynedd.Gwerth chweil Worthwhile Dychmygu To imagine Galwad A call Arwr Hero Mor ddiolchgar So thankful Llewyrchus Prosperous Yn hanfodol Essential Craidd Core Ehangu To expand Cynhyrchu To produce Go sylweddol Quite substantial Os na watsia i If I don't look out6 Dros Ginio – Hyd 2.30.Pob lwc i'r Antur efo'r fenter newydd, dw i'n siŵr bydd hi'n llwyddiant mawr.Ddydd Mawrth diwetha ar raglen Dros Ginio, mi gafodd Catrin Heledd gwmni'r meddyg teulu Dr Llinos Roberts, a dyma i chi flas ar sgwrs gaethon nhw am gyflwr ein gwallt ac am effaith hynny ar ein hiechyd:Cyflwr Condition Dw i yn cyfadde I admit Blewyn A hair Straen Stress Yn raddol Gradually Yn ei gylch e About it Ymddangos To appear Ansawdd Texture Menywod Merched Brau Brittle
Hanes Manon yn cael ei hysbrydoli yn Gibraltar. Bethan yn gosod her i gyfieithwyr wrth ddefnyddio "rhegfeydd" Cymraeg. Siân yn cyhoeddi llyfr Saesneg, This House. Aled yn cwrdd â phrif weinidog Fflandrys a Dafydd yn sôn am hanes ei chwaer.Lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:Gwibdaith Elliw - Ian Richards. Anfadwaith - Llŷr Titus The One Hundred years of Lenni and Margot - Marianne CroninAn elderly lady is up to no good - Helene Tursten. Birdsong - Sebastian Faulks Captain Corelli's Mandolin - Louis de Bernières. Awst yn Anogia - Gareth F Williams Lessons in Chemistry - Bonnie GarmusShuggie Bain - Douglas Stuart. Ci Rhyfel/Soldier Dog - Samuel AngusDeg o Storïau - Amy Parry-WilliamsGorwelion/Shared Horizons - gol. Robert MinhinnickFlowers for Mrs Harris - Paul GallicoCookie - Jacqueline WilsonAlchemy - S.J. ParrisJohn Preis - Geraint JonesRAPA - Alwyn Harding JonesThe Only Suspect - Louise CandlishHelfa - Llwyd OwenTrothwy - Iwan RhysThe Beaches of Wales - Alistair HareGladiatrix - Bethan GwanasDevil's Breath - Jill JohnsonOutback - Patricia WolfLetters of Note - Shaun Usher
Siôn T. Jobbins interviews Phyl Griffiths and Rob Hughes. Phyl is the new Chairman of YesCymru. One of the founders of YesCymru Merthyr, he is a member for South East Wales. He is a language tutor, and is involved in many initiatives and societies in the town of his birth. Rob represents South East Wales on the board of YesCymru. Like Phyl, he is from Merthyr. He is a Welsh teacher and is responsible for organising the first Nabod Cymru weekend in Merthyr Tudful 0n April 19-20 this year. https://www.taliesinartscentre.co.uk/en/performances?id=60011
Pigion Dysgwyr – Anne Uruska Wythnos diwetha roedd hi‘n 80 mlynedd ers brwydr Monte Cassino yn yr Eidal. Un fuodd yn brwydro ar ran y fyddin Bwylaidd yn erbyn yr Eidalwyr a'r Almaenwyr, oedd tad Anne Uruska o Aberystwyth. Roedd Stanislaw Uruski yn rhan o gatrawd fuodd yn brwydro rhwng Napoli a Rhufain am fisoedd lawer. Dyma Ann i sôn am hanes ei thad…. Byddin Pwylaidd Polish ArmyCatrawd Regiment Brwydro To fight Hanu o To haul fromCipio To captureGwlad Pwyl PolandDengid DiancRhyddhau To releaseMewn dyfynodau In exclamation marksY Dwyrain Canol The Middle EastPigion Dysgwyr – Esgusodwch Fi Anne Uruska yn fanna‘n sôn am hanes diddorol ei thad, ac mae'n siŵr bod llawer ohonoch chi'n nabod Anne fel un o diwtoriaid Cymraeg i Oedolion Prifysgol Aberystwyth. Gwestai diweddar y podlediad Esgusodwch Fi, sydd yn trafod materion sydd yn berthnasol i'r gymuned LGBT+, oedd y cyfarwyddwr ffilm Euros Lyn. Mae Euros wedi cyfarwyddo Dr Who, Happy Valley, Torchwood, Sherlock yn ogystal â nifer o gyfresi eraill. Dyma fe i sôn am un o'i brosiectau diweddara sef Heartstopper i Netflix…. Cyfarwyddwr DirectorCyfresi SeriesDiweddara Most recentDau grwt Dau fachgen Eisoes AlreadyEhangach WiderCenhedlaeth GenerationProfiad ExperienceYn ddynol HumanHoyw Gay Pigion Dysgwyr – Antarctica Euros Lyn oedd hwnna'n sôn am y gyfres Heartstopper sydd i'w gweld ar Netflix. Does dim llawer o bobl sy'n gallu dweud eu bod nhw wedi bod yn Antarctica. Ond un sydd wedi bod yno yw y biolegydd morol Kath Whittey, a buodd hi'n siarad am y profiad ar raglen Aled Hughes fore Mawrth diwetha…. Biolegydd morol Marine biologistLlong ShipCynefin HabitatAnghyfforddus UncomfortableSbïad EdrychPigion Dysgwyr – Diwrnod Cenedlaethol yr Het Mae Kath yn gwneud i Antartica swnio fel planed arall on'd yw hi? Roedd Dydd Llun yr wythnos diwetha yn ddiwrnod cenedlaethol yr het. Un sydd a chasgliad sylweddol o hetiau yw Angela Skyme o Landdarog ger Caerfyrddin. Dyma hi'n sgwrsio gyda Shan Cothi am y casgliad sydd ganddi Casgliad sylweddol A substantial collectionCael gwared To get ridHen dylwyth Old familyMenyw DynesDrych Mirror Pigion Dysgwyr – Clare PotterA dw i'n siŵr bod Angela'n edrych yn smart iawn yn ei hetiau. Bardd a pherfformwraig ddwyieithog yw clare e. potter, ac mae ganddi MA o Brifysgol Mississippi mewn Llenyddiaeth Affro-Garibïaidd. Mae Clare wedi cyfieithu gwaith y bardd Ifor ap Glyn i'r Saesneg ac mae hi wedi bod yn Fardd y Mis Radio Cymru. Mae'n dod o bentref Cefn Fforest ger Caerffili yn wreiddiol a Saesneg oedd iaith y cartref a'r pentref. Cafodd hi ei hysbrydoli gan athro Cymraeg Ysgol Gyfun Coed Duon ac aeth ati i ddysgu'r iaith. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd hi gyda Beti George Llenyddiaeth LiteratureBardd PoetYsbrydoli To inspireMam-gu NainEmynau HymnsRhegi To swearO dan y wyneb Under the surfaceFfili credu Methu coelioBraint A privilegePigion Dysgwyr – Nofio Gwyllt Beti George yn fanna'n sgwrsio gyda clare e. potter ar Beti a'i Phobol ddydd Sul diwetha. Owain Williams oedd gwestai rhaglen Shelley a Rhydian ddydd Sadwrn ar gyfer slot newydd o'r enw Y Cyntaf a'r Ola. Owain yw cyflwynydd cyfres newydd ar S4C o'r enw Taith Bywyd sydd ar ein sgriniau ar hyn o bryd. Yn Llundain mae e'n byw a dyma fe'n sôn wrth Shelley a Rhydian am y nofio gwyllt mae e'n ei wneud…. Degawdau DecadesLlynnoedd Lakes
The Leader of the Wales Green Party discusses the party's support for Welsh Independence with Siôn Jobbins of YesCymru Radio.
Bardd a pherfformwraig ddwyieithog yw clare e. potter, ac mae ganddi M.A. mewn Llenyddiaeth Affro-Garibïaidd o Brifysgol Mississippi. Bu'n byw yn New Orleans am ddegawd a chafodd gyllid gan Gyngor y Celfyddydau i ymateb i ddinistr Corwynt Katrina gyda phumawd jazz. Mae clare wedi cyfieithu gwaith Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, ac mae'n cydweithio ag artistiaid i greu gosodiadau barddoniaeth mewn gofodau cyhoeddus. Enillodd Wobr John Trip am Berfformio Barddoniaeth yn 2005 a bu gyda'i thad ar y Listening Project ar BBC Radio 4, yn archwilio tarddiad emosiwn mewn barddoniaeth. Yn 2018, clare oedd bardd preswyl Gŵyl Velvet Coalmine – lle bu yn Sefydliad y Glowyr yn casglu straeon pobl am yr adeilad diwylliannol a gwleidyddol bwysig hwnnw. Mae'n enedigol o bentref Cefn Fforest ger Caerffili. Saesneg oedd iaith yr aelwyd a'r pentref ac fe gafodd ei ysbrydoli gan athro Cymraeg yn Ysgol Gyfun Coed Duon ac aeth ati i ddysgu'r iaith.Clare oedd Bardd y Mis Radio Cymru cyn y Nadolig 2023.
Clip 1 Trystan ac Emma: Buodd Steffan Long o Gaerdydd yn sgwrsio ar raglen Trystan ac Emma yn ddiweddar, ac yn sôn am ei waith fel cynorthwyydd dysgu Saesneg mewn Ysgol yn Tokyo, a dyma i chi flas ar y sgwrs: Cynorthwyydd Assistant Ma's Allan Hir dymor Long term Parhau Continue Disgyblion Pupils Mymryn A little Clip 2 Rhaglen Cofio: Steffan Long oedd hwnna'n sôn am ei waith mewn ysgol yn Tokyo. Wythnos diwetha roedd hi'n Sul y Cofio a dyna beth oedd thema rhaglen Cofio gyda John Hardy. A dyma i chi glip o Harold Williams yn sôn am ddod i Lanrwst fel ifaciwî o Lerpwl yn ystod yr Ail Ryfel Byd: Ail Ryfel Byd Second World War Trais Violence Pledu cerrig Throwing stones Cyfnod Period Yn achlysurol Occasionally Mynd yn eu holau Returning Lleia'n byd o sôn oedd The less it was mentioned Buan iawn Very soon Clip 3 Bwrw Golwg: Hanes rai o ifaciwîs Llanrwst yn fanna ar raglen Cofio. Ar Bwrw Golwg ar y 12fed o Dachwedd, mi roddwyd sylw i Diwali neu Ŵyl y Goleuni, sy'n cael ei dathlu gan Hindŵiaid a Sikhiaid. Yn y clip nesa ‘ma mae Mohini Gupta, sydd wedi dysgu Cymraeg, yn sôn am draddodiadau'r Ŵyl hon efo Gwenfair Griffith: Goleuni Light Traddodiadau Traditions Addurno To decorate Gweddïau Prayers Buddugoliaeth Victory Tywyllwch Darkness Gwahodd ffyniant Inviting prosperity Pryder amgylcheddol Environmental concern Ymdrechion i annog Efforts to encourage Melysion Confectionary Byrbrydau Snacks Clip 4 Rhaglen Aled Hughes: Mae'n swnio fel bod dathliadau Diwali yn llawn o fwyd blasus yn tydy? DJ Katie Owen oedd gwestai Aled Hughes yn ddiweddar. Mae Katie wedi dilyn Cymdeithas Bêl-Droed Cymru ar draws y byd yn chwarae cerddoriaeth i'r cefnogwyr, ac mae hi wedi dysgu Cymraeg. Buodd Katie ar y rhaglen Iaith ar Daith efo'i mentor Huw Stephens yn 2021. Mi gafodd Aled â Katie sgwrs yng Nghanolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn, ac yn y clip hwn mae hi'n sôn am gymaint mae hi'n caru dysgu Cymraeg: Cymdeithas Bêl-Droed Cymru Football Association of Wales Cefnogwyr Fans Mo'yn Eisiau Cerddoriaeth Music Ar goll Lost Mi ddylet ti fod You should be Clip 5 Rhaglen Caryl: Dal Ati Katie, mi fyddi di'n rhugl cyn bo hir, dw i'n siŵr. Lowri Cêt oedd yn cadw cwmni i Caryl ddechrau'r wythnos diwetha. Mae Lowri yn chwarae rhan Sindarela ym mhantomeim blynyddol Theatr Fach Llangefni. Yma mae'n dweud mwy am y sioe: Stori draddodiadol Traditional story Llysfam gas Wicked stepmother Annifyr Unpleasant Yn gyfarwydd â Familiar with Hyll Ugly Gwisgoedd Costumes Cymeriadau Characters Yn brin iawn Very rarely Hawlfraint Copyright Clip 6 Bore Cothi: Wel am hwyl ynde? A phob lwc i griw Theatr Fach Llangefni efo'r pantomeim. Bob nos Fawrth mae'r rhaglen Gwesty Aduniad i'w gweld ar S4C. Mae'r rhaglen yn trefnu aduniad i bobl sydd wedi colli cysylltiad â'i gilydd ond hefyd yn trenu i bobl gyfarfod â'i gilydd am y tro cynta mewn amgylchiadau arbennig. Mae'n gyfres boblogaidd ac emosiynol iawn. Nos Fawrth y 14eg o Dachwedd roedd Guto Williams o Dregarth ar y rhaglen. Mae Guto wedi cael ei fabwysiadu ac yn awyddus i ddod o hyd i'w deulu coll: Aduniad Reunion Mabwysiadu To adopt Adlewyrchiad Reflection Magwraeth Upbringing Rhieni maeth Foster parents Tebygolrwydd Similarity Cam mawr A big step Greddf Instinct Parch Respect Ffawd Lwc Clamp o stori A huge story
Series 5 Episode 26. Dafydd Iwan talks about why he keeps campaigning for the language, justice and Welsh Independence with Gaynor Jones of YesCymru. And if you want to learn more about Dafydd's ballads and campaigning songs here is the link to Prof E Wynn James': https://www.cardiff.ac.uk/special-collections/subject-guides/welsh-ballads/dafydd-iwan
Prof Richard Wyn Jones of the Wales Governance Centre at Cardiff University, discusses their latest report on Welsh and UK attitudes towards identity and nationality and its implications to the future of the Union and independence for Wales. Interviewed by Siôn Jobbins. Press release: 'Muscular unionism' approach to devolved nations risks backfiring across the UK' https://www.cardiff.ac.uk/news/view/2747234-muscular-unionism-approach-to-devolved-nations-risks-backfiring-across-the-uk,-according-to-new-report The Report: 'The Ambivalent Union: Findings from the State of the Union Survey' https://www.ippr.org/files/2023-09/the-ambivalent-union-sept23.pdf Podlediad Hiraeth 'Beth yw'r Ots gennyf i am Blaid Cymru?': https://www.youtube.com/watch?v=lcOVqEjFw58 (in Welsh)
Fel teyrnged i'r diweddar Dafydd Hywel, dyma gyfuniad o ddwy raglen wnaeth Beti a'i Phobol recordio gyda'r actor yn 1984 a 2004. Yn wreiddiol o'r Garnant ger Rhydaman, bu'n actio ers y 1960au mewn cynyrchiadau Cymraeg a Saesneg ar lwyfan, ffilm a theledu.
Y canwr a'r cyfansoddwr Al Lewis sydd yn gwmni i Beti George. Yn wreiddiol o Bwllheli, fe ymddangosodd Al, a'i gyfaill oes Arwel (Gildas) am y tro gyntaf ar ein sgrins teledu yn canu ‘Llosgi' ar Cân i Gymru. Ers hynny mae wedi rhyddhau pump albwm yn y Gymraeg a dwy albwm Saesneg. Mae'n trafod galar gyda Beti a sut y gwnaeth marwolaeth ei Dad yn ifanc newid cwrs ei fywyd. Mae hefyd yn sôn am ei gyfnod yn Nashville a Llundain.
In this Bonus Episode Scott interviews Craig from SportThought, an Anglesey based sports journalist, who works free to promote local sport. Y cyfweliad wedi ei weithredu yn Saesneg.
Dr John Ball, former lecturer in Economics at Swansea University, answers if Wales can afford independence (the answer is "yes") and discusses the economics of independence - currency, forms of taxation, pensions and much more. Interviewed by Siôn Jobbins of Radio YesCymru. Remember to follow Radio YesCymru on your podcast app and on Youtube and the YesCymru website. Some related papers referred to in the interview: * Dr John Ball - The Economics of an Independent Wales pt 1 (2020) * Dr John Ball - It's time for the Welsh independence movement to present a compelling vision of a brighter Future (2023) * Plaid Cymru - Prof John Boyle, Dublin City University's paper, The “Fiscal Deficit” in Wales: why it does not represent an accurate picture of the opening public finances of an IndependentWales (2022) * Melin Drafod - Achieving and Independent Wales - Finance Discussion Paper (2023) * Adam Price & Ben Levinger - The Flotilla Effect Europe's small economies through the eye of the storm (2011)
YesCymru's Chief Executive Officer, Gwern Gwynfil, discusses his hope and plans for the movement and for winning independence for Wales, with Siôn Jobbins. In English/Yn Saesneg. Series 5 Prog 2 @GwernGwynfil @YesCymru https://youtu.be/NYXIpXHBBDM
Discussion with Colin Nosworthy and Harriet Protheroe-Soltani of Melin Drafod on the Independence Summit on Saturday 28 January 2023 at Swansea. Speakers at the Summit include Adam Price and Luke Fletcher (Plaid Cymru), Anthony Slaughter (Wales Green Party Leader), Labour for Indy Wales, Undod, Welsh Language Society and more. More information: http://melindrafod.cymru [podcast yn Saesneg | podcast in English]
Bore Cothi – Rhys Taylor 5.12 Beth yw eich hoff garol Nadolig? Falle cewch gyfle i glywed y band jazz, Rhys Taylor a'i Fand, yn ei pherfformio ar Carioci Carolau Cothi cyn y Nadolig. Dyma Rhys Taylor ei hun ar raglen Bore Cothi wythnos diwetha yn sôn am ei hoff garolau e.... Traddodiadol Traditional Morio canu Singing their hearts out Poblogaidd Popular Amrywiaeth Variety Sioeau cerdd Musicals (Carolau) plygain Traditional Welsh carols Trefniant Arrangement Cydio To grasp Croen gwŷdd Goosebumps Disglair, pur, nefolaidd Brilliant, pure, heavenly Caryl – Llanllwni 5.12 Carioci Carolau Cothi, rhywbeth i edrych ymlaen ato on'd ife? Ac mae plant bach ardal Llanllwni ger Llanbedr Pont Steffan yn edrych ymlaen bob bore i weld pa ddrygioni mae'r hen gorachod ar y silff wedi bod yn ei wneud yn ystod y nos, fel clywon ni gan Nerys Thomas ar raglen Caryl... Drygioni Naughtiness Corachod Elves Wedi gwirioni'n lân Infatuated with Peth diweddar A recent thing Beti A'i Phobol – Shan Ashton 11.12 Mae plant ysgol feithrin Llanllwni wir yn edrych ‘mlaen at y Dolig on'd yn nhw? Shan Ashton oedd gwestai Beti ar Beti a'i Phobol bnawn Sul. Mae Shan wedi cael gyrfa amrywiol ac wedi gorfod magu ei phlant ar ei phen ei hun, ar ôl iddi hi a'i gŵr wahanu pan roedd y plant yn ifanc. Sut wnaeth hi ymdopi â'r sefyllfa anodd yma? Dyna un o gwestiynau Beti iddi hi... Gwahanu To separate Ymdopi â To cope with Cymdogion Neighbours Heb eu hail Second to none Asgwrn cefn Backbone Llifo To saw Man a man Might as well Agwedd iach A healthy attitude Breintiedig Privileged Dros Ginio – John Eifion a Helen Medi 5.12 Shan Ashton oedd honna yn sgwrsio gyda Beti George Bob dydd Llun mae Dewi Llwyd ar Dros Ginio yn cael cwmni 2 cyn 2. Tro brawd a chwaer oedd hi yr wythnos hon, John Eifion a Helen Medi. Mae'r ddau yn gerddorol iawn a chafodd y ddau eu magu ar fferm Hendre Cennin rhwng Penygroes a Chricieth yng Ngwynedd. Dyma Helen i ddechrau yn sôn am eu magwraeth... Magwraeth Upbringing Aelwyd Hearth Arddegau Teenage years Cymdeithasau Societies Diddanu To entertain Dylanwadu To influence Deuawd Duet Cylchwyl A local festival Llenyddol Literary Rheolaidd iawn Very regularly Aled Hughes – Adrian Cain 7.12 John Eifion a Helen Medi yn sôn am eu magwraeth gerddorol ar fferm Hendre Cennin . Dydd Mercher cafodd Aled Hughes sgwrs gydag Adrian Cain o Ynys Manaw. Mae Adrian yn athro yn unig ysgol Manaweg yr ynys sef Bunscoill Ghaelgagh (yngenir fel ‘Bynsgwl gilgach'). Mae Adrian yn siarad pedair iaith - Cymraeg, Manaweg, Gwyddeleg a Saesneg. Dechreuodd Adrian ddysgu Cymraeg tua phum mlynedd yn ôl ac mae e nawr yn dysgu ychydig o Gymraeg i blant yr ysgol ar Ynys Manaw. Ynys Manaw Isle of Man Manaweg Manx Gwyddeleg Irish Language Tŵf Growth Ifan Evans Eden 6.12 On'd yw hi'n braf clywed am dŵf y Manaweg? Pob lwc iddyn nhw ar Ynys Manaw gyda'u hiaith arbennig. Mae gan y grŵp Eden sengl Nadolig allan sef Adre Nôl, a phrynhawn ddydd Mawrth cafodd Ifan Evans siawns i sgwrsio gyda Non Parry o'r grŵp gan ofyn iddi hi yn gynta beth oedd hi'n gwneud y prynhawn hwnnw. Addurno To decorate Goleuadau Lights
BETI A'I PHOBOL Karl Davies oedd gwestai Beti George yr wythnos hon. Mae Karl newydd ddod yn ôl i Gymru ar ôl bod yn dysgu Saesneg i oedolion am bedair blynedd yn China…a dyma fo'n sôn am hanes Cadi, y gath fach, wnaeth deithio mewn awyren yr holl ffordd o China i Gaerdydd... Y gradures fach - Poor thing (lit: the little creature) Mabwysiadu - To adopt Erchyll - Dreadful Epaod - Apes TRYSTAN AC EMMA Mae Elsi Williams yn dod o Fethesda yng Ngwynedd yn wreiddiol ond yn byw yn Llandudno erbyn hyn. Mae hi'n mynd i nifer fawr o ddosbarthiadau ffitrwydd i gadw'n heini, fel cawn ni glywed yn y clip nesa ‘ma. Trïwch ddyfalu be ydy oedran Elsi wrth i chi wrando arni'n sôn am gadw'n heini – mi gewch chi'r ateb cyn diwedd y clip… Ddaru - Gwnaeth Coedwig - Wood Clychau'r gog - Bluebells Anhygoel - Incredible DEI TOMOS Roedd y Moody Blues yn fand poblogaidd iawn yn y chwedegau a'r saithdegau ac mae'n debyg mae Nights in White Satin oedd un o'u caneuon mwya enwog. Roedd un o aelodau'r band, Ray Thomas, yn perthyn i'r cyflwynydd, cerddor ac actor Ryland Teifi. Fo oedd gwestai Dei Tomos nos Fawrth a dyma fo'n rhoi ychydig o'r hanes... Cyflwynydd - Presenter Cerddor - Musician Yn enedigol o - A native of Yn fachan - Yn fachgen Dur - Steel Ar fy mhwys i - Wrth fy ymyl i Modrybedd - Aunties Roedd e'n dwlu ar - Roedd o'n dotio ar ALED HUGHES Mae'r cyflwynydd Bethan Elfyn wedi bod yn sal ers 2005 ac wedi bod yn aros am drawsblaniad ysgyfaint am flynyddoedd er mwyn iddi hi gael gwella. O'r diwedd mae hi wedi cael clywed ei bod ar y rhestr am drawsblaniad... Trawsblaniad ysgyfaint - Lung transplant Wedi cwympo - Has fallen Triniaeth - Treatment Dirywiad - Deterioration Celloedd - Cells Dinistrio - To destroy BORE COTHI Mi gafodd Shân Cothi sgwrs efo Martina Roberts sy'n dod o'r Weriniaeth Tsiec yn wreiddiol ond sydd nawr yn dysgu yn Sir Benfro. Dyma hi'n sôn am sut dechreuodd hi ddysgu Cymraeg... Y Weriniaeth Tsiec - The Czech Republic Ystyried - To consider Denu - To attract Gwella - To improve Almaeneg - German language GWNEUD BYWYD YN HAWS Mi fuodd Hanna Hopwood yn sgwrsio efo Branwen Llywelyn sydd wedi derbyn her 'Medi Ail Law', ond beth yn union ydy'r her ‘ma? Her - A challenge Mae'n hysbys - It's known Amgylchedd - Environment Diwydiant - Industry Hinsawdd - Climate Mynd i'r afael - To get to grips with Codi ymwybyddiaeth - To raise awareness Annog - To encourage Ar hap - Randomly Egwyddorion - Principles Annibynnol - Independent
NOTE: This is a special Welsh-language edition of our podcast.Mewn pennod Gymraeg o ‘Bywyd Ar-lein', y gyn model, dylanwadwr a chyflwynydd Jessica Davies, a'r cyflwynydd, podlediwr a'r digrifwr, Melanie Owen, sy'n ymuno â Gwenno Thomas o Ofcom i drafod, yn Gymraeg, eu profiadau o fod yn ferched ifanc ar-lein[. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Ofcom ymchwil yn dangos faint o gam-drin a ddioddefodd menywod ar-lein. Yn y sgwrs eang a di-flewyn ar drafod hon, mae Jess a Mel yn siarad â Gwenno am drolio, a sylwadau misogynistaidd a hiliol ar y cyfryngau cymdeithasol. Archwilir hefyd i'r byd Cymraeg ar-lein -a yw agweddau yn wahanol i'r gymuned ar-lein Saesneg?I ddarllen mwy ewch i ofcom.org.ukEnglish translation:In a Welsh language episode of Life Online, former model, influencer and presenter Jessica Davies, and presenter, podcaster and comedienne, Melanie Owen, join Ofcom's Gwenno Thomas to discuss, in Welsh, their experiences of being young women on-line. Ofcom recently published research showing the extent of abuse suffered by women online. In this wide ranging and candid conversation, Jess and Mel talk to Gwenno about trolling, and misogynistic and racist comments on social media. The Welsh language world online is also explored -do attitudes differ that much from the English language online community?To read more head over to ofcom.org.uk
Wedi ei fagu yn Abergele ac yn gyn ddisgybl Ysgol Glan Clwyd, mae Karl Davies yn ymuno a Beti i drafod ei fywyd yr wythos yma. Dychwelodd Karl nôl i Gaerdydd ddiwedd mis Mehefin eleni o China, ar ôl bod yn dysgu Saesneg i oedolion yno am 4 blynedd. Hanes China gaiff y sylw heddiw, gan ei fod yn credu bod anwybodaeth y gorllewin am y wlad yn broblem enfawr. Bu Karl yn gweithio yn y byd gwleidyddol fel ymchwilydd yn San Steffan i Blaid Cymru, wedyn i'r byd newyddiadura gan ddringo i fod yn Olygydd Newyddion BBC Cymru. Ar ôl hynny fe fu'n Brifweithredwr Plaid Cymru am 9 mlynedd; I'r byd addysg aeth o wedyn fel Cyfarwyddwr Undeb y Prifathrawon. Aeth nol i swydd weinyddol yn y BBC ac wedyn draw i China i ddysgu saesneg i oedolion.
Y mis yma, dwi'n siarad gyda Rhian Howells o ardal Abertawe. Mae Rhian yn athrawes mewn ysgol Saesneg sy'n angerddol am y Gymraeg. Yn ogystal â'i gwaith, mae hi'n awdur plant, ac yn y sgwrs rydyn ni'n trafod ei llyfr hi, 'Princess Pirate Pants'! Mae mwy o wybodaeth amdani hi ar fy ngwefan i. Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter
Yr actores Rebecca Harries yw fy ngwraig gwadd wythnos hon ar y podlediad. I nifer wrth gwrs, Sali Mali, ond ma Rebecca wedi actio yn nifer o bethau gwahanol, yn Y Gymraeg ac yn Saesneg. Dwi di nabod Rebecca ers rhai blynyddoedd ac roedd hi'n bleser dal lan gyda hi a sgwrsio am ei gyrfa, bywyd, pryderon, byw yn Sir Gâr ac wrth gwrs, yr eicon ei hun, Sali Mali!
"Arbrofi ac arloesi i'r dyfodol". Dyna eiriau Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a chyn Bennaeth Gwasanaeth Plant gyda S4C. Fe ddechreuodd ei gyfra fel clerc mewn cymdeithas adeiladu, wedyn ymunodd gyda'r Urdd, ac fe enillodd gwobr Cymraes y Flwyddyn yn 2006. Yn 2007 fe gafodd Siân ei phenodi yn Bennaeth Gwasanaeth Plant S4C am 6 blynedd. Rhan o friff y swydd oedd creu gwasanaeth ar gyfer plant meithrin ac yn ddiweddarach ar gyfer y rhai cynradd, gan gynnig gwasanaeth cyflawn drwy gyfrwng y Gymraeg ond efo rhaglenni oedd cystal ansawdd a chynnwys a'r hyn oedd ar gael yn Saesneg. Sefydlwyd y sianel CYW ar gyfer plant oed meithrin i 5 oed ac 'roedd yn gyfnod cyffrous iawn. Mae Siân yn sôn am fynd a'r Cyw ei hun i Lundain, ac mae stori ddigri i'w chlywed ganddi am gyfarfod Boris Johnson. Mae Siân bellach wedi symud nol i'w ardal enedigol yn Llangernyw ac yn rhedeg cwmni ymgynghorol gyda Garffild ei gwr. Bu'r ddau yn gweithio gyda I'm a Celebrity... Get Me Out of Here! gydag Ant a Dec ar gyfer ITV.
Yn y rhifyn Cymraeg arbennig er gefnogaeth cais Dinas Diwylliant #Wrecsam2025 mae sawl o bobl yn mynegi pam mae pêl-droed mor arbennig i Wrecsam a gogledd-ddwyrain Cymru, ac annog Y Wal Goch i ddod wrth gefn y gais ar ran Cymru oll. Mae siaradwyr yn cynnwys Craig Colville a Morgan Thomas o dîm y gais; bard a llysgennad #Wrecsam2025 Evrah Rose (yn Saesneg); chwaraewr CPD Wrecsam AFC a Chymru o dan 17 Lili Jones; a nifer o aelodau'r Wal Goch ledled Cymru. Ymwelwch â www.wrecsam2025.com am ragor o fanylion. Cerddoriaeth: Kidsmoke - And Mine Alone: https://www.youtube.com/watch?v=zVynpCVR31k The Barry Horns – This Is Wales: https://www.youtube.com/watch?v=wq0li5s6G8w
Bore Cothi - Ciwcymbyr Mae na ddywediad Saesneg 'cool as a cucumber' yn does? Ond beth sydd y tu ôl i'r dywediad hwn tybed? Alison Huw fuodd yn sgwrsio am hyn efo Shan Cothi... Sail wyddonol - A scientific basis Oeri'r gwaed - Cools the blood Ar drothwy - The onset of Cynnwys - To include Dyfrllyd - Watery Unigryw - Unique Si - A rumour Rhesymol - Reasonable Rhwydd - Hawdd Cnwd - Crop Dyna ni felly - ewch ati i blannu'ch ciwcymbers! Eden Cafodd y band Eden ei ffurfio yn 1996 ac ar ôl cyfnod o beidio perfformio mi ddaethon nhw'n ôl at ei gilydd yng ngwyl fawr Caerdydd, Tafwyl, yn 2016. Cafodd hyn ei ddisgrifio fel 'comeback' y ganrif ar Golwg 360! Roedd Rachael Solomon yn aelod o'r band a hi oedd gwestai Iwan Griffiths fore Sul. Dyma hi'n sôn am y profiad o berfformio yn Tafwyl... Man a man - Might as well Ymateb - Response Symudiadau - Movements Cynulleidfa - Audience Synnu - To be surprised Cysylltu - To connect Www, caneuon newydd gan Eden - rhywbeth i edrych ymlaen ato ynde? Aled Hughes Siarcod Ar raglen Aled Hughes clywon ni Lowri O'Neill, myfyrwraig bywydeg ym Mhrifysgol Abertawe, yn sôn am ei phrofiadau yn nofio efo siarcod yn Hawaii. Oedd hi mewn cawell? Oedd yna reolau am sut i ymddwyn wrth nofio efo nhw? Dyna oedd rhai o gwestiynau Aled i Lowri... Bywydeg - Biology Cawell - Cage Ymddwyn - To behave Bwystfil - Monster O hyd - Length Yn y bôn - Basically Cystadleuaeth syllu - Staring competition Ymddangos - To appear to Ysglyfaethod gweithredol - Predator Yn ôl pob golwg - Apparently Merch ddewr iawn ydy Lowri O'Neill ynde? Bore Cothi - deg uchaf adar Dan ni'n aros efo byd natur rŵan ond efo rhywbeth dipyn llai peryglus na siarcod sef yr adar sy'n dod i'n gerddi yng Nghymru. Gofynnodd yr RSPB i bobl nodi pa adar oedden nhw'n eu gweld yn eu gerddi ac mi wnaeth Daniel Jenkins Jones rannu deg ucha yr arolwg ar raglen Shan Cothi... Arolwg - Survey Crybwyll - To mention Ymdrech - Attempt Ji-binc - Chaffinch Pioden - Magpie Nico - Goldfinch Ysguthan - Woodpigeon Drudwy - Starling Titw Tomos las - Blue tit Aderyn y to - House Sparrow Aderyn y to yn ennill unwaith eto, chwarae teg ynde? Dros Ginio - Mererid a Hanna Mam a merch oedd gwesteion Dau cyn Dau Dewi Llwyd bnawn Llun diwetha a'r ddwy yn byw yn ardal Caerfyrddin, sef y prifardd Mererid Hopwood a'i merch, y cyflwynydd radio a theledu Hanna Hopwood. Nid yng Nghymru cafodd Hanna ei geni a dyma Mererid yn dweud rhagor am hynny... Prifardd - National crowned/chaired poet Cyflwynydd - Presenter Tystysgrif geni - Birth certificate Yn benderfynol - Determined Sylweddoli - To realize Y cyfnod Llundeinig - The London period ...a dyna beth da bod y teulu wedi symud i Gymru ynde, fel ein bod ni'n medru gwrando ar Hanna'n cyflwyno Gwneud Bywyd yn Haws ar Radio Cymru. Y Ffatri Ddillad Roedd ffatri ddillad Laura Ashley yn gyflogwr pwysig yng ngogledd Powys gan roi gwaith i tua wyth cant o bobl yr ardal ar un adeg. Buodd Eddie Bebb o Lanidloes yn gweithio i'r cwmni am 37 o flynyddoedd a chafodd Sian Sutton sgwrs efo am ddyddiau cynnar a llewyrchus Laura Ashley... Cyflogwr - Employer Llewyrchus - Prosperous Hwb - A boost Ysbryd - Spirit
Y nofelydd Dyfed Edwards, ydi gwestai Beti George. Enillodd y Fedal Ddrama yn yr Eisteddod Genedlaethol ddwy waith yn olynol., ac mae hefyd yn awdur toreithog yn Saesneg gan ysgrifennu dan yr enw Thomas Emson. Cafodd ei fagu ym mhentref Rhosmeirch ger Llangefni, ac fe aeth i Ysgol Gynradd Llangefni ac wedyn symud i Ysgol Gyfun Llangefni. Roedd wrth ei fodd yn darllen comics a llyfrau, dechreuodd yn y cyfnod yma ddarlunio a sgwennu straeon bach ei hun. Yna aeth i'r Coleg Normal ym Mangor i astudio ‘r cwrs Cyfathrebu yn 1985 . Dim ond ryw 7 ohonynt oedd yn astudio'r cwrs. Roedd y cwrs yn un weddol newydd ar y pryd ac yn dal i gael ei ddatblygu a'i greu. Un modiwl y dewisodd oedd Ysgrifennu Creadigol o dan arweiniad Rhiannon Davies Jones ac Ifor Wyn Williams sydd wedi ei ddylanwadu'n fawr. Ymgeisiodd am swydd gohebydd dan hyfforddiant efo grŵp papurau newydd yr Herald a bu'n llwyddiannus. Bu'n gweithio gyda'r Holyhead and Anglesey Mail, bu'n Ddirprwy Olygydd y Weekly News yng Nghyffordd Llandudno, a bu hefyd yn Olygydd Cynhyrchu'r Daily Post yng Nghymru. Mae bellach yn gweithio gyda'r Daily Mail gan weithio ar y ddesg fusnes. Mae'n gweithio o adref sy'n grêt. Mae o hefyd yn darlithio mewn ysgrifennu creadigol. Mae wedi ysgrifennu nifer o gyfrolau yn y ddwy iaith, ac mae bob amser nofel neu sgript ar y gweill.
Actor o fri sydd ar y podlediad wythnos hon ac un sydd wedi actio yn y Gymraeg ar Pobl y Cwm, Dinas a nifer o bethau eraill, ac yn y Saesneg ar Eastenders, Casualty a Judge John Deed. A boi clên tu hwnt. Ond maint ohonoch oedd yn gwybod mai fel canwr opera y dechreuodd ei yrfa? Sgwrs ddiddorol a deallus gan un o wynebau mwyaf cyfarwydd a thalentog Cymru.
FSA (feirws syncytaidd anadlol) yw un o'r firysau mwyaf cyffredin sy'n achosi peswch ac annwyd. Mae'n cylchredeg yn eang yn y DU yn ystod misoedd yr hydref a'r gaeaf, gan gyrraedd ei uchafbwynt ym mis Rhagfyr. Mae bron pob plentyn wedi'i heintio â'r firws erbyn ei fod yn ddwy flwydd oed. Gall FSA achosi peswch neu annwyd mewn plant ac oedolion, ond mewn plant ifanc dyma brif achos bronciolitis. Mewn gwirionedd, dyma achos mwyaf cyffredin bronciolitis mewn plant o dan ddwy oed. Yn y bennod hon, mae ein harweinydd iechyd Amanda yn esbonio sut i adnabod arwyddion FSA a beth allwch chi ei wneud i'w lleddfu, gan gynnwys pryd i gael cyngor gan eich meddyg neu help gan y gwasanaethau brys. Nodyn: Mae'r recordiad hwn yn gyfieithiad o drawsgrifiad Amanda i'r Gymraeg, wedi'i ddarllen gan ein Cydlynydd Gwybodaeth a Rhwydwaith Cymru, Dylan.
1. Theo Davies-Lewis a Beti ai Phobol Buodd Beti George yn sgwrsio efo Theo Davies-Lewis y sylwebydd gwleidyddol sydd wedi sgwennu colofnau i'r Spectator, y Times a fo ydy prif sylwebydd gwleidyddol National Wales. Mae o hefyd i'w glywed ar Radio Cymru yn gyson yn trafod materion gwleidyddol a gofynnodd Beti iddo fo sut dechreuodd ei ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth... Sylwebydd gwleidyddol - Political commentator Y chweched - The sixth form Ymgyrch - Campaign I ryw raddau - To an extent Llwyfan cenedlaethol - National stage Senedd ieuenctid - Youth parliament Rhydychen - Oxford Cyfweliadau - Interviews Darlledu - Broadcasting San Steffan - Westminster 2. Iwan Griffiths a Delme Thomas Mae Theo Davies-Lewis yn brysur iawn fel sylwebydd gwleidyddol ac mae hi'n anodd credu mai dim ond 24 oed ydy o, yn tydy? Bore Sul diwetha Iwan Griffiths oedd yn cyflwyno rhaglen Bore Sul ac mi gafodd o gwmni'r cyn chwaraewr rygbi Delme Thomas a dyma Delme'n sôn am gael ei ddewis i chwarae dros y Llewod am y tro cynta yn 1966. Cyn chwaraewr - Former player Y Llewod - The Lions Tu fas - Outside Llys-dad - Stepfather Atgofion - Memories Y mwya llwyddiannus - The most successful Y gyfres - The series 3. Bore Cothi - Sbeisys ar fwyd Delme Thomas oedd hwnna'n sôn am y teithiau buodd o arnyn nhw efo'r Llewod. Bore Llun mi fuodd yr hanesydd bwyd, Elin Williams yn sôn am beth i roi ar fwydydd yn lle halen, a dyma hi'n esbonio wrth Shan Cothi am y gwahaniaeth mae ychwanegu perlysiau'n medru ei wneud i'r bwyd.... Ychwanegu - To add Perlysiau - Herbs Gweini - To serve (food) Yn gynhenid - Inherently Yn draddodiadol - Traditionally Hwb - A boost Rhwydd - Hawdd Mawn - Peat Corgimychiaid - Prawns Lleithder - Moisture 4. Bore Cothi - Blwyddyn Newydd Tsieineaidd Ac mi wnawn ni aros gyda Bore Cothi am y clip nesa 'ma. Bore Mawrth buodd Shan yn dathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ac yn sgwrsio efo Karl Davies, sy'n dysgu Saesneg i oedolion yn ninas Foshan, yn Tsieina. Blwyddyn y Teigr ydy hi eleni... Sidydd - Zodiac Angerddol - Passionate Dewr - Brave Llonydd - Placid Cwningen - Rabbit Ymerawdwr - Emperor Ych - Ox Nofiwr glew - A courageous swimmer Cyn gynted â - As soon as Baedd - Boar 5. Geraint Lloyd a Simon Owen Williams Karl Davies oedd hwnna'n sôn ychydig am ddathliadau'r Flwyddyn Newydd Tsieineadd efo Shan Cothi. Nos Fercher, mi gafodd Geraint Lloyd sgwrs efo Simon Owen Williams sy'n gweithio yn America. Mae'n Bennaeth ar ysgol breifat yn Long Island Efrog Newydd ac mae'n siarad y Wenhwyseg, sef tafodiaith arbennig de-ddwyrain Cymru. Efrog Newydd - New York Tafodiaith - Dialect Crwt - Hogyn Trais - Violence Ymadrodd - Phrase Safonol - Standard Hunan ddysgedig - Self taught Mam-gu - Nain Wilia - Siarad Aelwyd - Hearth 6. Trystan ac Emma - Nel y Parot Mae'n braf clywed y Wenhwyseg yn fyw ac yn iach yn Efrog Newydd yn tydy? Dw i'n siŵr basai Nel, parot Mari Lloyd o Gommins Coch, yn medru dynwared Simon yn siarad y Wenwyseg. Mae Nel eisoes yn medru dynwared dwy acen Gymraeg, fel clywodd Trystan ac Emma fore Gwener... Dynwared - To mimic Eisoes - Already Synau - Sounds Pert - Pretty Anferth - Huge Hardd - Beautiful Plu - Feathers Uniaith - Monolingual (acen) Gog neu Hwntw - A north Wales or south wales accent
Y ddarllenwraig a newyddiadurwraig Dot Davies sy'n sgwrsio â fi wythnos hon ar y podlediad. ''Cymeriad'' go iawn ac sy'n darlledu ac yn cyflwyno yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mewn rhyw gornel bach rhywle yn adeilad crand y BBC odd hi felly mae 'na ''noises off'' weithiau i'w clywed a nam ar y sain hefyd, ond pleser oedd dysgu mwy am fywyd 'Wimble Dot', am ei gyrfa, darlledu yn chwaraeon, y menopause a'i phrofiadau hi, darlledu ar Radio 4, a chwis bach cyflym iddi...... ar Wimbledon! Diolch iddi am ei hamser (Roedd hi newydd orffen ei sioe ar Radio Wales) a diolch o galon i Karen Elli am fod ar y bennod ddiwethaf.
Beti George yn sgwrsio gyda pherchennog Poblado Coffi, Steffan Huws. Cawn glywed am ei fagwraeth ym Mhontypridd, ei hanes yn dysgu Saesneg yn Nhaiwan a Colombia lle bu yng nghanol achos hunllefus o herwgipio a'i fusnes yn Ddyffryn Nantlle sydd yn rhostio coffi. Mae Steffan hefyd yn rhannu straeon rif y gwlith ac yn dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff.
1. Dei Tomos – Llyfr Glas Nebo, Sara Borda Green Mae'r nofel Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros wedi cael ei chyfieithu i sawl iaith, gyda Manon ei hun wedi ei chyfieithu i'r Saesneg. Mae Sara Borda Green yn dod o Batagonia ac mae hi wedi cyfieithu'r nofel i'r Sbaeneg. Ar raglen Dei Tomos buodd Sara'n sôn am rai o'r problemau gafodd hi wrth gyfieithu. Dyma i chi flas ar y sgwrs... Y Wladfa Welsh settlement in Patagonia Diwylliannol Cultural Her A challenge Dealledig Understood Ariannin Argentina Addasu To modify Tŷ Gwydr Tŷ haul/conservatory Cyffredin Common Osgoi To avoid Y golygoddion The editors Penodol Specific 2. BORE COTHI – Naomi Saunders, planhigion y tŷ dros y gaeaf Fasai tŷ gwydr, neu dŷ haul, yn help i gadw planhigion tŷ yn fyw dros y gaeaf tybed? Wel mae hynny'n dibynnu ar y tŷ ac ar pa mor gynnes ydy hi yn ôl Naomi Saunders fuodd yn siarad am ofalu am blanhigion tŷ gyda Shan Cothi… Dyfrio To water Gor-ddyfrio Overwatering Canolbwyntio To concentrate Oes tad Yes indeed Amsugno To absorb Dyfnder Depth Gadael iddyn nhw fod To let them be Goleuni Light Tymheredd cyson Constant temperature Rheiddiadur Radiator 3. Gwneud Bywyd yn Haws – Teleri James Jones Digon, ond nid gormod o ddŵr felly i gadw'n planhigion tŷ yn fyw ac yn iach dros fisoedd y gaeaf, dyna gyngor Naomi Saunders i ni. Cynghorion ar sut i leihau gwastraff glywon ni ar Gwneud Bywyd yn Haws. Wrth edrych ymlaen at Cop26 mae Radio Cymru wedi bod yn rhoi sylw i'r argyfwng newid hinsawdd gyda chyfres o raglenni arbennig Ein Planed Nawr. Nos Fawrth ar Gwneud Bywyd y Haws, clwyon ni Teleri James Jones yn sôn am ei hobi o werthu a phrynu yn ail law ar y we er mwyn lleihau gwastraff… Cynghorion Advice Lleihau gwastraff To reduce waste Argyfwng newid hinsawdd Climate change crisis Ail-law Second hand Newydd sbon Brand new Cael gwared ar To get rid of Dodrefn Furniture 4. Beti George – Paula Roberts Teleri James Jones oedd honna'n siarad gyda Hanna Hopwood am ei harfer o werthu yn ail law drwy'r we er mwyn lleihau gwastraff. I glywed y rhaglen i gyd ewch i BBC Sounds a chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws, ble cewch chi glywed yn ogystal gyfweliad gyda Gwenllian Williams sy'n sôn am Eco Bryder Cafodd Beti George sgwrs gyda'r Dr Paula Roberts sydd yn darlithio mewn Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor. Mae Paula wedi treulio amser yn yr Arctig ac Antartica, ond am ei hanes yn seiclo yng Ngogledd Affrica byddwn ni'n clywed yn y clip nesa... Eco Bryder Eco anxiety Darlithio To lecture Gwyddorau Naturiol Natural Sciences Bwlch Pass Bugeilio defaid Shepherding sheep Cerrig Stones Amlwg Obvious Braw Fright Copa Summit Hŷn Henach Denu sylw To draw attention 5. Bryn Tomos – Leisa a Duncan Brown Hanes taith ddifyr a pheryglus Paula Roberts yn Morocco oedd hwnna ar Beti a'i Phobol. Yn y rhaglen ‘Newid Hinsawdd :Taid a Fi' mae Leisa Gwenllian yn mynd ar daith i gyfarfod rhai o'r bobol ar ei stepen drws sydd yn gwneud gwaith difyr ac phwysig i wella'r amgylchedd, gan ddechrau ei thaith gyda'i thaid, neu dad-cu, y naturiaethwr Duncan Brown. Dyma Leisa a Duncan yn edrych ymlaen at y rhaglen gyda Bryn Tomos... Amgylchedd Environment Y frwydr i atal The fight to stop Cynnwys To include Mawndir Peatland Gwair Grass Gwrthsefyll llifogydd to withstand flooding Arloesol Innovative Hynod o falch Very proud Tynna'r goes arall Pull the other leg 6. Geraint Lloyd – Dr Wynne Davies Rhaglen ddiddorol ac amserol iawn arall ar Radio Cymru ‘Newid Hinsawdd :Taid a Fi' . Derbyniodd Dr Wynne Davies un o brif wobrwyon Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru sef Is-Lywyddiaeth Oes Er Anrhydedd a derbyniodd Fedal Arian y Gymdeithas yn ogystal. Dyma i chi flas ar sgwrs cafodd Geraint Lloyd gyda Dr Wynne Davies ble mae e'n sôn am ei gysylltiad hir iawn â'r Gymdeithas, a'r Sioe Frenhinol... Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru The Royal Welsh Agricultural Society Gwobrwyon Awards Is-Lywyddiaeth Oes Er Anrhydedd Honorary Life Vice President Sylweddoli To realise Olrhain hanes To trace the history Merlod Ponies Achau Pedigree Pencampwriaeth Championship Rhyfel War Bridfa Stud farm Pedolau Horseshoes
Cymru fydd y genedl gyntaf yn y DU i wneud addysgu hanes Pobl Dduon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol yn orfodol yng nghwricwlwm yr ysgol. Yn y podlediad hwn mae Dr Anita Shaw yn siarad â'r fenyw a chwaraeodd ran bwysig wrth ddod â'r newid nodedig hwn yn ei gylch. Mae'r Athro Charlotte Williams OBE yn ferch i fam Gymraeg a thad o Guyana ac mae hi'n rhannu ei phrofiadau o dyfu i fyny yn Llandudno fel yr unig ddisgybl du yn ei dosbarth. Clywn am ei chenhadaeth i'w gwneud yn hawl pob disgybl i addysg sy'n eu harfogi i ddeall a pharchu eu hanesion, eu diwylliannau a'u traddodiadau eu hunain a'i gilydd. Mae'r podlediad yma'n Saesneg yn unig.Wales is set to become the first nation in the UK to make the teaching of Black, Asian and minority ethnic history mandatory in the school curriculum. In this podcast Dr Anita Shaw talks to the woman who played a major part in bringing this landmark change about. Professor Charlotte Williams OBE is the daughter of a Welsh-speaking mother and a father from Guyana and she shares her experiences of growing up in Llandudno as the only black pupil in her class. We hear about her mission to make it the right of all pupils to an education that equips them to understand and respect their own and each other's histories, cultures and traditions.
Ein gwestai ni y tro yma ydy'r Parchedig Doctor Rosa Hunt – Gwenidog Capel Salem, Tonteg ger Pontypridd. Mae Rosa yn dod o ynys Malta yn wreiddiol. Fel Cymru, mae Malta yn wlad fach gyda iaith ei hun yn ogystal â Saesneg. Siaradon ni am ei phlentyndod ym Malta, sut mae statws Malteg wedi newid ers ennill annibyniaeth, a'r heriau a phleserau o ddysgu Cymraeg a symud i Gymru. Manylion a geirfa Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd: Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts
Yn y rhifyn yma yr ydym yn trafod pwysigrwydd siopau llyfrau i ni fel awduron a sut mae mynd ati i hyrwyddo ein nofelau.Sut mae'r Steddfod wedi dylanwadu ar ein sgwennu, ac yr ydym yn ateb cwestiwn gan Casia Williiam am ein hoff awduron Saesneg.
Mae'r awdur o'r llyfr ‘Hanes Cymry: Lleiafrifoedd Ethnig a'r Gwareiddiad Cymraeg', Dr Simon Brooks o Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe yn ymuno a mi i rhoi cip olwg o ymchwil fe mewn i hanes lleiafrifoedd ethnig yn Gymru. "Mae'r gyfrol arloesol hon yn cyflawni dau amcan. Yn gyntaf, mae'n cynnwys, am y tro cyntaf, hanes lleiafrifoedd ethnig oddi mewn i'r diwylliant Cymraeg, a hynny o ddyddiau Macsen Wledig hyd heddiw. Yn ail, mae'n dehongli amlethnigrwydd o safbwynt Cymraeg yn hytrach na Saesneg, sy'n arwain at y cwestiwn, ‘Pwy yw'r Cymry?' Yn ogystal â'r hanes cyffredinol, ceir penodau am Gymry du, y Sipsiwn Cymreig, Gwyddelod ac Iddewon yng Nghymru, amlethnigrwydd cefn gwlad, a'r Cymry fel lleiafrif ethnig yn Lloegr. O ran ei syniadaeth, trafodir pethau mor amrywiol â pherthynas y Cymry â threfedigaethedd a chaethwasiaeth, hybridedd grwpiau lleiafrifol, Saeson Cymraeg, a chenedlaetholdeb a hil. Wrth gloi, gofynnir ai'r Cymry yw pobl frodorol Ynys Prydain." Archebwch y llyfr yma: https://www.uwp.co.uk/book/hanes-cymry/ --- Send in a voice message: https://anchor.fm/katie-phillips5/message
Yn yr ail bennod, rwy'n siarad gydag Angharad Jones. Mae Angharad yn athrawes o Fedwas ger Caerffili. Mae hi'n gweithio mewn ysgol gynradd Saesneg, ond gan bod y Gymraeg yn fwyfwy pwysig yn y cwricwlwm, mae hi'n gwneud cwrs o'r enw ‘Cymraeg mewn blwyddyn' er mwyn helpu'r plant. Manylion a geirfa: https://richardnosworthy.cymru/2021/05/20/podlediad-hefyd-pennod-2-angharad-jones/ Tanysgrifiwch: Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts
Mae llenyddiaeth Saesneg yn frith o gyfeiriadau at griced. Ond i ba raddau mae criced wedi cael sylw haeddiannol mewn llenyddiaeth Gymraeg? Mae Lowri Roberts, Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru, wedi gwneud gwaith ymchwil ym maes ‘Chwaraeon mewn Llenyddiaeth Gymraeg'. I ba raddau mae ein harwyr ar y maes chwarae, ac yn enwedig yn y byd criced, wedi cael eu clodfori yng ngwlad y beirdd a'r llenorion Cymraeg? Awn ar daith gyda Sioned Dafydd, gohebydd pêl-droed ‘Sgorio', i fyd ei thad-cu, y cyn-Archdderwydd Dafydd Rowlands, oedd â'r bwriad o lunio cerdd bob dydd am flwyddyn i gynrychioli pob rhediad o fatiad byd-enwog Garry Sobers. Sut hwyl gafodd e arni, tybed? I'r gorffennol yr awn ni gyda Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, wrth i ni fynd ar drywydd rhai o'r cyfeiriadau cynharaf at griced ar lawr gwlad yn y Gymraeg. Yn goron ar yr Orsedd o westeion mae'r cyn-Archdderwydd Jim Parc Nest, a fydd yn hel atgofion “cricedol” o Gastellnewydd Emlyn, ac yn trafod taith fythgofiadwy i Gaergaint ac achlysur hanesyddol yno yng nghwmni Dafydd Rowlands – ond tybed ym mle'r oedd ei gyfaill fod ar y diwrnod dan sylw?
Y tro yma, mi fyddwn ni'n trafod: jolis llenyddol, adolygu llyfrau pobl dach chi'n eu nabod, neu o leia'n nabod eu neiniau; pam ei bod hi gymaint haws prynu llyfrau Saesneg ac ydi Kath Jones Pobol y Cwm yn rhy ryff i brynu cyfrol y Fedal Ryddiaith?Mi fyddwn ni hefyd yn trio ateb rhai o'r cwestiynau dach chi wedi eu gyrru atan ni. Daliwch ati i'w gyrru nhw beth bynnag. Dan ni'n siŵr o'u hateb nhw rhyw ben.Mi naethon ni ddechre efo'r ateb roedd Bethan i ar dân i'w glywed, sef: ydyn nhw'n galw tumbleweed yn cabej bach ym Mhatagonia neu beidio?
The podcast returns after its winter break to celebrate #WorldRadioDay and the medium's intrinsic connection to sport and in particular football. Russell chats with one of the iconic Welsh English language voices in football broadcasting - Rob Phillips of BBC Cymru Wales. Rob recalls how his career has taken him from covering local football in the Rhondda for newspapers to reporting on the national team for BBC Radio Wales including, of course, Euro 2016. Along the way his passion for radio hasn't dimmed. Mae'r podlediad yn dychwelyd wedi ei egwyl gaeaf i ddathlu Diwrnod Radio'r Byd a chysylltiad ym môn y cyfrwng â chwaraeon ac yn enwedig pêl-droed. Mae Russell yn sgyrsio ag un o'r lleisiau Saesneg eiconig yn narlledu pêl-droed - Rob Phillips o BBC Cymru Wales. Mae Rob yn atgofio sut mae ei yrfa wedi ei gymryd o sylwebu ar bêl-droed lleol y Rhondda ar gyfer cylchlythyrau i adroddi ar y tîm cenedlaethol ar gyfer BBC Radio Wales yn cynnwys, wrth gwrs, Euro 2016. Yn y cyfamser, ni fu ei draserch i radio ddim yn pylu.
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Steffan Cennydd Os oeddech chi’n un o’r miliynau wyliodd y gyfres The Pembrokeshire Murders ar ITV yn ddiweddar, efallai eich bod chi’n cofio cymeriad mab y ditectif DCI Steve Wilkins. Luke Evans oedd yn chwarae rhan y ditectif a Steffan Cennydd o Gaerfyrddin oedd yn chwarae rhan y mab. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Caryl a Daf gyda Steffan ar eu rhaglen yr wythnos yma Mwya llwyddiannus - Most successful Golygfa - Scene Gyferbyn â - Opposite to Mae’n fyd enwog - He’s world famous Egni - Energy Rhwydd - Hawdd Derwen - Oak Marian Brosschot Steffan Cennydd oedd hwnna ac roedd e’n amlwg wedi mwynhau cymryd rhan yn The Pembrokeshire Murders. Mae Marian Brosschot yn diwtor Cymraeg i Brifysgol Bangor a buodd hi'n dysgu Cymraeg ym Mhatagonia y llynedd. Mae hi’n rhugl mewn Cymraeg, Saesneg, Iseldireg a Sbaeneg ac mae hi nawr yn dysgu Daneg. Pwy well felly i roi cynghorion ar ddysgu iaith. Dyma ambell i gyngor rannodd hi ar raglen Aled Hughes wythnos diwetha. Gofynnodd Aled iddi hi oedd canu yn ffordd dda o ddysgu iaith… Iseldireg - Dutch Daneg - Danish Ystyr dyfnach - A deeper meaning Arwynebol - Superficial Llythrennol - Literal Trwytho - To saturate Dywediadau - Sayings Chdi - Ti Wsos - Wythnos Ynganiad - Pronunciation Am w’n i - As far as I know Jonathan Simcock Rhywun sy wedi llwyddo i ddysgu Cymraeg yn rhugl ydy Jonathan Simcock, er ei fod yn byw yn Derby. Mae Jonathon wedi bod yn trefnu clwb a gwersi Cymraeg i ddysgwyr ardal Derby a Nottingham ers blynyddoedd. Cafodd Shan Cothi sgwrs gydag e ar Bore Cothi a gofynnodd hi i Jonathon sut oedd Cylch Dysgwyr Derby a Nottingham wedi ymdopi â’r cyfnod clo… Ymdopi - To cope Arferol - Usual Tu hwnt - Beyond Ymhlith - Amongst Alltud - Exiled Cerdd - Poem Offeryn - Instrument Cymunedol - Community Llawen - Merry Llion Thomas Felly os dych chi’n barod i gymryd rhan yn y noson lawen cysylltwch â Jonathon Simcock, dw i’n siŵr basai’n falch iawn o glywed gennych. Mae gan Llion Tomos o Ynys Môn gi talentog iawn o’r new Max – fel clywodd Emma a Trystan ar eu rhaglen fore Gwener… Dallt - Deall Sillafu - To spell Cawn ni weld - We’ll see Aballu - And so on Gwenith Evans Wel dyna ni berfformiad perffaith i noson lawen Cylch Derby – Llion rhaid i chi gysylltu â Jonathon Simcock! Therapydd cerdd ydy Gwenith Evans o Benparc ger Aberteifi, a buodd hi’n gweithio yn Seland Newydd tan tua dau fis yn ôl ond erbyn hyn mae hi’n byw yng Nghymru unwaith eto. Dyma hi’n sôn ychydig wrth Hanna Hopwood Griffiths am ei phrofiad yn Seland Newydd yn ystod y pandemig… Ffodus - Fortunate Eitha clou - Quite quickly Llond llaw - Handful Dihunais i - Wnes i ddeffro Rhyddid - Freedom Ffaelu - Methu Sa i’n siŵr - Dw i ddim yn siŵr Aeron Pughe Hanes y cyfnod clo yn Seland Newydd yn fan’na ar y rhaglen Gwneud Bywyd yn Haws. Mae priodi yng nghefn gwlad Cymru yn gallu bod yn rhywbeth peryglus iawn yn ôl yr hanesion glywon ni ar Troi’r Tir. Dyma i chi Aeron Pughe o Gomins Coch ger Machynlleth i ddechrau yn rhoi hanes ei briodas e… Drygioni - Mischief Gwas priodas - Best man Cwmpodd y goeden - The tree fell Llanast - Mess Budreddi - Dirt Yn enedigol o - A native of Fawr ddim cwsg - Hardly any sleep Traddodiad - Tradition Rhaffau - Ropes Groes yr heol - Ar draws y ffordd
Trafodaeth gyda'r storïwr a'r cerddor Guto Dafis. Siaradon ni am y ffordd mae Guto wedi trin chwedl Manawydan o Drydedd Gainc y Mabinogi a sut mae'n defnyddio y Gymraeg a'r Saesneg ochr yn ochr wrth adrodd, wedi ysbrydoli gan ei fagwraeth dwyieithog.
Chwedl gyntaf o ddwy sydd gydag Afanc ynddynt, ond â yw hon yn wir chwedl o'r oesoedd canol, neu clwyddau noeth gan Iolo Morgannwg? Beth ydych chi'n meddwl? Mae'r podlediad yma yn rhad ac am ddim ond os hoffech chi gadael adolygiad (review) 5 seren ar iTunes neu lle bynnag rydych yn cael eich podlediadau Ac os hoffwch brynu goffi i mi am fy waith caled mae croeso i chi wneud hynny yma www.ko-fi.com/llusern Cerddoriaeth ddi-hawlfraint yng Nghymru diolch i Slic, rhan o Sain. Safle we www.slictrac.com Llun gan Willy Pogány allan o gyfrol o chwedlau Cymreig wedi eu trosi i'r Saesneg gan W Jenkyn Thomas (The Welsh Fairy Book 1908). --- Send in a voice message: https://anchor.fm/herebedragons/message
AL LEWIS AC ENDAF EMLYN Roedd Endaf Emlyn yn seren y byd pop yn Gymraeg ac yn Saesneg yn ystod y chwedegau a’r saithdegau. Dydd Gwener diwetha’ cafodd 3 albym Endaf eu rhyddhau yn ddigidol. Mae Al Lewis yn ffan mawr o’i waith a gofynnodd Rhys Mwyn iddo ddewis rhai o’i hoff ganeuon gan Endaf Emlyn Canwr cyfansoddwr Singer songwriter Wnaeth fy nenu i Attracted me Creu enw Made a name Cysyniadol Conceptual O flaen y gad Ahead of his time Diethr Unheard of Senglau Singles Yn cael eu clymu at ei gilydd Are tied in together Macrell Mackerel Teimlad hireithus A nostalgic feeling ANTONIO RIZZO A GWIN CYMREIG LLANSADWRN Mae Antonio Rizzo yn dod o Fanceinion yn wreiddiol ac mae ei rieni yn dod o’r Eidal. Dysgodd e Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ac erbyn hyn mae e’n ei siarad yn rhugl. Mae Antonio wedi bod yn cynhyrchu gwin ers 2006 ac mae e’n gobeithio agor gwinllan yn Llansadwrn, Sir Gâr, yn y dyfodol. Shan Cothi gafodd ei hanes Manceinion Manchester Cynhyrchu To produce Gwinllan Vineyard Sir Gâr Carmarthenshire Trefynwy Monmouth Cernyw Cornwall Unigryw Unique Celf Art BRIALLT WYN A GERAINT LLOYD Nos Lun diwetha, mi gafodd Geraint Lloyd sgwrs gyda Briallt Wyn o Gorsgoch ger Llanbedr Pont Steffan, neu Llambed, yng Ngheredigion sydd wedi creu grwp ar Facebook er mwyn dysgu iaith arwyddo i bobl. Dyma hi’n esbonio’r cyfan wrth Geraint... Arwyddo To sign Tad-cu a Mam-gu Taid a Nain Byddar Deaf Dall Blind Sa i’n cofio Dw i ddim yn cofio Yr wyddor The alphabet Dod i ben To cope Addasu To adapt Swyddogol Official Ymateb To respond Dechreubwynt Starting point AR Y MARC Mae pêl-droed yn ôl ac felly roedd Dylan Jones a chriw Ar y Marc yn hapus iawn wythnos diwetha. Ond roedd gan Dylan gwestiwn anodd i un o’r panelwyr – Iwan Griffith, sy hefyd yn ddyfarnwr pêl-droed.... Y cyfnod clo Lockdown Dyfarnwr Referee Diduedd Unbiased Dylanwadu To influence Torf Crowd Awyrgylch Atmosphere Y wefr The thrill Yn wyliadwrus Cautious Cwrt cosbi Penalty box Cic o’r smotyn Penalty Ddim yn weddus Foul (language) COFIO TRYCHINEB HILLSBOROUGH Ac arhoswn ni gyda’r pêl-droed yn y clip nesa’ – ond i gofio trychineb Hillsborough tro ’ma. Vaughan Roderick a Dylan Llywelyn sy’n cofio’r drychineb ddigwyddodd yn 1989, wrth i’r rhaglen Cofio fynd â ni yn ôl i’r 80au..... Trychineb Disaster Canlyniadau Results Gohebydd Commentator Gwendid Weakness Ystyried To consider Platfformau cymdeithasol Social media Trydar Tweeting SIAN REES WILLIAMS Yr actores Sian Reese Williams oedd gwestai Beti George wythnos diwetha a dyma hi’n sôn am ei chymeriad, y ditectif Cadi John, yn y gyfres Craith..... Cymeriad Character Cyfres Series Datblygu To develop Pennod Episode Menywod Women Dyw hi ddim yn malio She doesn’t care Dwys Intense Bodoli To exist
LOWRI MORGAN A DANIEL GLYN Hanes Lowri Morgan yn teithio dwy awr i waelod Môr Iwerydd mewn llong danfor, er mwyn gweld y Titanic. Mae Lowri wedi cael sawl antur yn ystod ei bywyd ac mae wedi sgwennu amdanyn nhw yn ei llyfr newydd ‘Beyond Limits’ . Dyma hi’n sôn wrth Daniel Glyn sut oedd hi’n teimlo wrth weld y Titanic… Môr Iwerydd The Atlantic Ocean Llong danfor Submarine Yn gwmws Exactlly Ei cholli hi Losing it (mentally) Lleddfu To soothe Cwympo To fall Ymchwil Research Pa mor glou How quickly Sylweddoli To realise Cymaint o fraint How much of a privilege Carreg fedd Tombstone NON ROBERTS Mae hi’n adeg cneifio ar ein ffermydd ac mae llawer o bobl ifanc drwy Gymru yn mynd o amgylch ffermydd i helpu gyda ‘r gwaith. Dyma Non Roberts, merch fferm o Dalyllychau, Caerfyrddin, a myfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn sôn wrth Terwyn Davies am sut mae hi a’i ffrindiau’n helpu’r cneifio drwy lapio gwlân i bobl leol… Profiadadau Experiences Cneifio Sheering Myfyrwraig Student (female) Lapio To wrap Cwrdd To meet Gynnau Just now Clymu sachau Tying sacks Gwinio (gwnïo) Stichting BRYN WILLIAMS A DEWI LLWYD Y cogydd proffesiynol Bryn Williams oedd gwestai pen-blwydd Dewi Llwyd wythnos diwetha. Mae gan Bryn ddau fwyty yn Llundain ac un ym Mae Colwyn – Porth Eirias. Dyma i chi flas (sori eto) ar y sgwrs... Cogydd Chef Wedi’i hen sefydlu Well established Bwydlen Menu Gweini To serve O safon Of quality IFOR AP GLYN - Y GYMRAEG MEWN 50 GAIR Yn y clip nesa cawn ni glywed Ifor ap Glyn yn trafod y gair ‘gwynt’. Gair pwysig iawn i forwyr ers talwm ac mae hynny wedi effeithio ar y ffordd dyn ni’n defnyddio’r gair heddiw. Dyma Ifor yn esbonio… Yr hen forwyr gynt The ancient mariners Iaith lafar Oral language Wedi gostegu’n ddi-rybudd Had quelled without warning Darogan To forecast Ceiliog y Gwynt Weather vane. Y Gwyddel The Irishman Y meirw The dead Ffroen yr ych The oxen’s nostril Cyswllt newydd New context Ar fin digwydd About to happen HANES MARY HOPKIN Roedd Mary Hopkin yn seren y byd pop Cymraeg a Saesneg yn niwedd y chwedegau ac yn ystod y saithdegau. Hi oedd un o’r artistiaid cynta i gael recordio ar label Apple ac roedd Paul McCartney yn sgwennu caneuon yn arbennig iddi hi. Roedd y cyfarwyddwr teledu Eurof Williams yn cofio Mary yn canu yn y capel ym Mhontardawe pan oedd hi’n ifanc. Erbyn hyn mae e wedi gwneud rhaglen deledu amdani hi, a buodd e’n sôn ar raglen Rhys Mwyn nad oedd hynny’n beth hawdd iawn i’w wneud Cyfarwyddwr Director Cyfres Series Annibynwyr Independants Eisoes Already Awyddus Keen Dychmygu To imagine Yn ddiweddarach Later on Hir a llafurus Long and laborious Atgofion Memories Si Rumour DYLAN EBENEZER Dylan Ebenezer, cyflwynydd y gyfres newydd – Ynys yr Hunan Ynyswyr, oedd gwestai Caryl a Daf ddydd Mercher a chafodd y ddau gyfle i holi Dylan am ei brofiadau ynysu ei hunan. Yn y clip yma cawn glywed sut mae Dylan yn cadw’n heini a beth mae e’n ei ddarllen yn ystod y cyfnod clo.. . Hunan ynyswyr Self-isolators Y cyfnod clo The lockdown Anadlu’n ddwfn To breathe deeply Gollwng stêm To let off steam Llwyth Loads Cymeriad adnabyddus A famous character Etifeddu To inherit Rhyfeddol Amazing Wedi mwynhau mas draw Really enjoyed Cyfrannu To contribute
Hwyrnos Georgia Ruth - Ynys Blastig niwed harm amgylchedd environment creadigol creative lleihau defnydd reduce the use Cyfarwyddwraig Director (female) darn o gelf piece of art gorddefnydd overuse atgoffa to remind pi pi'n bob man urinating everywhere hybu to promote "Dyn wedi clywed llawer iawn yn ddiwedddar am y niwed mae plastig yn ei wneud i'r amgylchedd, ond dych wedi clywed am yr Ynys Blastig? Prosiect gan Gyngor Gwynedd ydy e a dyma'r actor Iwan Fon yn esbonio wrth Sian Eleri beth yn union yw Ynys Blastig... " Sioe Frecwast Radio Cymru 2 - Gwyneth Keyworth ymddangos to appear cyd-actorion co-actors profiad experience cyfres series doniol funny go iawn in reality amyneddgar patient elfennau elements "Sian Eleri oedd honna ar raglen Hwyrnos Georgia Ruth yn siarad gyda'r actor Iwan Fon am yr Ynys Blastig.– Cafodd Daf a Caryl sgwrs gyda Gwyneth Keyworth ar y Sioe Frecwast bore Mercher. Actores ydy Gwyneth ac mae hi'n ymddangos ar hyn o bryd yn y gyfres “The Trouble with Maggie Cole” ar ITV. Ei chyd-actorion ar y gyfres yw Dawn French a Mark Heap. Sut brofiad ydy gweithio gyda'r ddau tybed….? " BORE COTHI - Mari a Mair trawsblaniad aren kidney transplant rhywbeth yn bod something wrong ychwaneg more profion tests cyflwr genetig genetic condition dim byd o'r fath nothing of the sort anghyffredin unusual bendith blessing anhygoel incredible meddyginiaeth medicine "Gobeithio bydd Mark Heap yn nabod Gwyneth erbyn diwedd y gyfres on'd ife? Dydd Iau clwyon ni hanes dwy ferch ifanc ar Bore Cothi, Mari Siwan Davies o'r Parc ger y Bala a Mali Elwy o Danyfron ger Llansannan yn Sir Conwy. Mae un ohonyn nhw wedi cael trawblaniad aren a’r llall yn aros am un. Dyma Mari i ddechrau'n sgwrsio gyda Shan…. " Sioe Sadwrn - Kid Cymru campfa gym tyfu lan to grow up ymateb response watsio to watch yn gleisiau i gyd bruises all over taflu to throw cyhyrog muscular cwympo to fall ffili esgus cannot pretend "... a chafodd y sgwrs honno ei recordio ar Ddiwrnod Aren y Byd. Mae gan Gethin Williams o ardal Llanelli enw arall sef Kid Cymru - ei enw reslo ydy hwnnw. Ar Sioe Sadwrn gofynnodd Geraint Hardy iddo fe sut dechreuodd y diddordeb mewn reslo... " Dros Ginio - Adam ac Adrian gwas sifil Civil servant arweinydd leader barn wleidyddol swyddogol an official political opinion syndod surprise dylanwad mawr huge influence gwleidyddiaeth politics priodoli to attribute cyfeiriadau references prin iawn ei Gymraeg limited knowledge of Welsh gwythien vein "Hanes Kid Cymru yn fan'na ar Sioe Sadwrn. Yn y gyfres Dau cyn Dau y ddau frawd Adam a Adrian Price oedd yn siarad gyda Dewi Llwyd. Mae Adrian yn was sifil ac yn diwtor Cymraeg i Oedolion ac Adam yw arweinydd Plaid Cymru. Saesneg yw mamiaith Adam ond Cymraeg mae e'n siarad gyda'i frawd Adrian. Sut ddigwyddodd hynny oedd un o gwestiynau Dewi Llwyd i'r ddau. " Cofio - Jimmy Carter gwleidydd politician Cyn-Arlywydd former President y diweddar the late cysylltiadau contacts answyddogol unofficial gofalu amdano fe looking after him pwysau pressure "...Adam Price yn fan'na - gwleididd sydd â chysylltiad agos ag America gan iddo fe astudio ym Mhrifysgol Havard. Ond gwleidydd Americanaidd gyda chysylltiad â Chymru sydd yn y clip nesa - sef Jimmy Cartrer, cyn Arlywydd America. A'r cysylltiad â Chymru? Wel yn 1986 dreuliodd e wythnos yng Ngorllewin Cymru yn pysgota gyda Moc Morgan fel y clywon ni ar Cofio . Dyma John Hardy yn holi'r diweddar Moc Morgan... "
Rhaglen Aled Hughes - Cŵn defaid gwrando'n astud - listening attentively hyfforddwr cŵn defaid - sheepdog trainer o fri - of renown chwip o sgil - a heck of a skill y prif ci - the main dog y brenin - the king pencampwriaeth - championship llinach - pedigree gast - bitch ara deg - slowly Aeth Aled Hughes draw i Langwm ger y Bala i siarad gydag Aled Owen am ei gŵn defaid. Dyma i chi flas ar y sgwrs... Stiwdio - Iaith Drama adlewyrchu cymdeithas ddwyieithog - reflecting the bilingual society colofnydd teledu - television columnist yn llwyr uniaith - totally monolingual cyd-destun - context ar bwys - near amddiffyn - to defend parchu'r gynulleidfa - respect the audience cyfarwydd - familiar y dihiryn - the villain sarhâd - insult "Aled Hughes yn fan'na yn siarad am gŵn defaid gydag Aled Owen. Maenifer o ddramâu ar S4C y dyddiau hyn yn defnyddio llawer o Saesneg yn ogystal â'r Gymraeg. Mae rhai yn dweud bod hyn yn adlewyrchu cymdeithas ddwyieithog Cymru, ond cwestiwn Nia Roberts i'r colofnydd teledu Sioned Williams oedd ydy hi'n bosib cael y dramâu hyn yn Gymraeg yn unig. Dyma oedd gan Sioned i'w ddweud... Ifan Evans - Bryan yr Organ adnabyddus - famous emynau - hymns pwy feddyliai - who would think cymanfa ganu - hymn singing festival ffefrynau - favourites ymarfer - rehearsing y cywair - the key (music) "Wel doedd yna ddim llawer o Saesneg yn y sgwrs gafodd Ifan Evans gyda Bryan yr Organ. Mae Bryan yn llais cyfarwydd iawn ar Radio Cymru a'r wythnos diwetha roedd e'n dathlu ei ben-blwydd yn 70. Ond ddim parti pen-blwydd cyffredin bydd Bryan yn ei gael fel buodd e'n sôn wrth Ifan... Rhaglen Aled Hughes - Ela Richards Diwrnod Rhyngwladol y Menywod - International Women's Day Y Rhyfel Fawr - The First World War Cadeirydd - Chair Y Groes Goch - The Red Cross Gwlad Groeg - Greece trwsiadus - tidy dychwelyd - to return cofeb - memorial parch - respect uffern - hell ".. a dw i'n siiŵr ei bod hi wedi bod yn gymanfa i'w chofio. Penblwydd hapus Bryan. Roedd hi'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ddydd Llun ac mi gafodd Aled Hughes sgwrs gyda'r hanesydd Efa Lois, am fenyw arbennig iawn sef Ela Richards. Dyma i chi ychydig o'i hanes... " Sioe Fore Radio Cuymru 2 - Padi ysbrydoliaeth - inspiration Archdderwydd - Archdruid fel tae - as it were y fath stori - such a story cymeriad - character uniaethu - to empathise wedi ei chreu - had been created rôn i'n dotio ati hi - I doted on it nerth - strength deynudd sgwennu - writing material "Hanes menyw arbennig iawn yn fan'na - Ela Richards o Lanbedr Pont Steffan. Dydd Mercher cafodd ambell i berson adnabyddus gyfle i ddewis cân sydd wedi eu hysbrydoli nhw. Cân 'Padi' gan y band ' Mynediad am Ddim' oedd dewis yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd a dyma fe'n esbonio pam wrth Dafydd a Caryl ... Bore Cothi - Menna Elen addysg gorfforol - physical education arlunio - drawing rhyddhad - freedom mynd bant - to go away cynllunio - planning yn rhwyddach - easier denu - to attract dwlu dysgu - love teaching strwythuro - structured yn glou - quickly "Yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd oedd hwnna yn sôn am gân wnaeth ei ysbrydoli. Mae'n amlwg bod dysgu plant yn Kuwait wedi ysbrydoli Menna Elen o Lanymddyfri. Mae Menna yn ferch arbennnig sy wedi teithio i 26 gwlad yn barod er mai dim ond 25 oed yw hi. Dyma hi'n dweud wrth Shan Cothi pam ei bod yn mwynhau dysgu yn Kuwait gymaint.
Beti George yn sgwrsio gyda Dafydd Apolloni, un o gymeriadau tref Llanrwst. Mae'n hanner Cymro a hanner Eidalwr, gyda'i dad yn dod o Rufain a'i fam yn ferch i Idwal Jones, y dyn wnaeth greu SOS Galw Gari Tryfan! Yn fesitr ar ddysgu iaith, mae ef ei hun yn siarad Cymraeg, Saesneg, Eidaleg, Almaeneg a Ffrangeg., a threuliodd gyfnodau yn byw yn Prague, Paris a'r Eidal. Yn y rhaglen, mae'n trafod pa mor ddosbarth canol ac elît yw'r Eisteddfod.
Beti George yn sgwrsio gydag Eirian Jones, a dreuliodd dair blynedd ar ddeg yn dyfarnu yn Wimbledon. Yn wreiddiol o Flaenpennal, mae nawr yn olygydd llyfrau Saesneg gyda'r Lolfa, ac yn byw yn Llangeitho. Mae'n awdures, yn gyn-athrawes, ac yn flaenor yng Nghapel Gwynfil. Mae wedi parasiwtio, rhedeg marathonau, a dringo Everest.
Pan deimlodd Jill-Hailey Harries alwad i'r weinidogaeth, roedd yn 'sgytwad iddi. Er ei bod yn mynychu'r ysgol Sul, doedd hi ddim yn siŵr beth yn union oedd gwaith gweinidog, nac ychwaith yn nabod gweinidog benywaidd. Doedd hi ddim yn or-hoff o waith ysgol, ac yn fwy awyddus i ddechrau gweithio ac ennill arian na mynd i'r coleg, ond roedd yr alwad yn rhy gryf, ac yn y pen draw aeth i Aberystwyth i astudio diwinyddiaeth. Mae'n sôn wrth Beti George am ei magwraeth yn Sir Benfro, ei mwynhad o'i gwaith fel Bugail y Stryd, ac am beryglon pregethu yn Saesneg.
Mae naws lle yn bwysig i Mike Parker, ac mae'n dweud ei fod bob amser wedi bod eisiau byw yng Nghymru. Cafodd ei fagu yn Kidderminster, tua deugain milltir o'r ffin. Gwahanodd ei rieni pan oedd yn bedair oed, a symudodd ei fam i Ffrainc. Mae'n amau mai dyna a arweiniodd at ei hoffter o fapiau, oherwydd eu bod yn fodd iddo gael trefn ar fyd cymhleth. Astudiodd ddrama a Saesneg yn Llundain, gan droi at 'sgrifennu yn y pen draw fel bywoliaeth. Yn gydawdur The Rough Guide to Wales, symudodd i'r wlad yn 2000 gan ddysgu Cymraeg, ac yn 2015 fe oedd ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion.
Dramodydd ac awdur yw gwestai Beti, Roger Williams. Ganwyd Roger yng Nghasnewydd ond ei fagu yng Nghaerfyrddin. Roedd yn ysgrifennu'n greadigol tra yn yr ysgol, cyn mynd i Brifysgol Warwick i astudio Llenyddiaeth Saesneg ac Americanaidd. Mae Roger Williams wedi creu dramâu Cymraeg a Saesneg ac mae ei waith wedi ennyn sylw a chlod, gan gynnwys enwebiad BAFTA. Mae cyfres arall o "Bang" ar y gweill ac ar hyn o bryd mae'n gweithio ar ffilm fydd i'w gweld yn y sinema. Mae Roger yn byw gyda'i ŵr a'i fab yng Nghastell Nedd.
Beti George yn sgwrsio gyda'r Almaenes Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru. Ar ôl cael gradd mewn gwleidyddiaeth yn Berlin, aeth i Brighton i astudio llenyddiaeth Saesneg, a dyna ddechrau ar yrfa ym maes cyhoeddi. Roedd ei swydd gyntaf gyda Chyngor Llyfrau Cymru yn 2002, ac ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach daeth cyfle i ddysgu Cymraeg. Mae hi hefyd yn siarad Almaeneg, Ffrangeg a Saesneg, a dysgodd Rwseg pan oedd yn byw yn Rwsia am flwyddyn. Yn wir, mae'n credu'n gryf y dylai pawb ddysgu iaith pa bynnag wlad y maen nhw'n byw ynddi. Ar ôl symud i Wasg Prifysgol Cymru am gyfnod, daeth yn Brif Weithredwr y Cyngor Llyfrau yn 2017, a mae'n dweud wrth Beti fel y mae'n mwynhau'r her honno. Mae hefyd yn sôn am effaith anodd a thrist yr Ail Ryfel Byd ar ei theulu, ac am y profiad o ddweud wrth ei rhieni ei bod yn hoyw.
Beti George yn sgwrsio gyda Sian Northey. Wedi'i magu yn Nhrawsfynydd, mae bellach yn byw ym Mhenrhyndeudraeth. Dod yn filfeddyg oedd ei nod ar un adeg, er bod athrawon Cymraeg a Saesneg yn anhapus iddi ddewis dilyn y gwyddorau, ond gydag amser daeth llenyddiaeth yn ôl i'w bywyd. Wedi sawl swydd, gan gynnwys cyfnodau yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd a Gwasg y Bwthyn, penderfynodd weithio ar ei liwt ei hun. Gyda llyfrau i blant ac oedolion wedi'u cyhoeddi ganddi, mae wedi hen ennill ei phlwy fel awdur.
Gwion Hallam sy’n holi’r nofelydd John Rowlands am nofel Saesneg gyntaf Owen Martell - Intermission.
Ym 1847 cyhoeddodd comisiwn y llywodraeth adroddiad ar gyflwr addysg yng Nghymru, a adnabyddir yn boblogaidd fel “y Llyfrau Gleision”. Rhoddodd yr adroddiad y bai ar yr iaith Gymraeg am y methiannau, ac ni roddodd ddigon o sylw i ffactorau eraill. Beirniadodd hefyd foesau pobl Cymru. Roedd cywilydd ar y Cymry ac roeddent yn gandryll, ond roeddent hefyd am brofi eu bod cystal â gweddill Prydain ac am elwa o gynnydd. Derbyniwyd cynllun y llywodraeth i wella addysg drwy sefydlu ysgolion uwchradd am ddim er mai Saesneg fyddai cyfrwng yr addysgu. Roedd hyn yn tanseilio’r Gymraeg. Gydag ehangiad y maes glo cafwyd cynnydd yn nifer y bobl oedd ddim yn deall Cymraeg. Ym 1962 cyflwynodd y gwleidydd Saunders Lewis araith radio ddylanwadol dan y teitl Tynged Yr Iaith a ysgogodd ffurfio Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, corff sy’n ymgyrchu i gael cydnabyddiaeth i’r iaith. Yn y 1960au dinistirwyd cymuned Gymraeg ei hiaith yng Nghwm Tryweryn er mwyn creu cronfa ddŵr ar gyfer Lerpwl, er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn yng Nghymru. Cynyddodd hyn y gweithredu dros yr iaith a ddaeth i’w anterth pan wnaeth y gwleidydd Gwynfor Evans fygwth ymprydio hyd farwolaeth pe na bai’r llywodraeth Geidwadol yn anrhydeddu ei haddewid i greu sianel deledu Gymraeg. Ildiodd y llywodraeth a lansiwyd Sianel Pedwar Cymru (S4C) ym 1982. Gyda Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 cafwyd statws cyfreithiol gryfach i’r Gymraeg. Ers y 1970au mae addysg cyfrwng Cymraeg wedi ffynnu, yn arbennig yn hen ardaloedd diwydiannol Cymru.
Ym 1847 cyhoeddodd comisiwn y llywodraeth adroddiad ar gyflwr addysg yng Nghymru, a adnabyddir yn boblogaidd fel “y Llyfrau Gleision”. Rhoddodd yr adroddiad y bai ar yr iaith Gymraeg am y methiannau, ac ni roddodd ddigon o sylw i ffactorau eraill. Beirniadodd hefyd foesau pobl Cymru. Roedd cywilydd ar y Cymry ac roeddent yn gandryll, ond roeddent hefyd am brofi eu bod cystal â gweddill Prydain ac am elwa o gynnydd. Derbyniwyd cynllun y llywodraeth i wella addysg drwy sefydlu ysgolion uwchradd am ddim er mai Saesneg fyddai cyfrwng yr addysgu. Roedd hyn yn tanseilio’r Gymraeg. Gydag ehangiad y maes glo cafwyd cynnydd yn nifer y bobl oedd ddim yn deall Cymraeg. Ym 1962 cyflwynodd y gwleidydd Saunders Lewis araith radio ddylanwadol dan y teitl Tynged Yr Iaith a ysgogodd ffurfio Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, corff sy’n ymgyrchu i gael cydnabyddiaeth i’r iaith. Yn y 1960au dinistirwyd cymuned Gymraeg ei hiaith yng Nghwm Tryweryn er mwyn creu cronfa ddŵr ar gyfer Lerpwl, er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn yng Nghymru. Cynyddodd hyn y gweithredu dros yr iaith a ddaeth i’w anterth pan wnaeth y gwleidydd Gwynfor Evans fygwth ymprydio hyd farwolaeth pe na bai’r llywodraeth Geidwadol yn anrhydeddu ei haddewid i greu sianel deledu Gymraeg. Ildiodd y llywodraeth a lansiwyd Sianel Pedwar Cymru (S4C) ym 1982. Gyda Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 cafwyd statws cyfreithiol gryfach i’r Gymraeg. Ers y 1970au mae addysg cyfrwng Cymraeg wedi ffynnu, yn arbennig yn hen ardaloedd diwydiannol Cymru.
Drwy’r Saesneg yn bennaf y cafodd rhieni Wyn Gruffydd y gofal seiciatryddol oedd ei angen arnyn nhw. Mae’n sôn am eu profiadau dros sawl blwyddyn o ofal
Tro yma, mae yna ddau gyfweliad: yr un cyntaf efo hyfforddwr newydd y tim cenedlaethol Chris Coleman (yn y Saesneg) ac yr ail un efo cefnogwr Dinas Bangor Ian Gill. Am fwy o wybodaeth, ewch i'r tudalen Facebook Mwydro ym Mangor ac i mwydroymmangor.wordpress.com. Cofiwch danysgrifio i'r podlediad trwy iTunes.