Stori Cymru

Stori Cymru

Follow Stori Cymru
Share on
Copy link to clipboard

Cyfres Chwe awr oedd The Story of Wales a ddarlledwyd gyntaf yn 2012 ar BBC ONE Wales ac wedyn ar rwydwaith BBC TWO. Cafwyd y gyfres hon ei gynhyrchu fel cynhyrchiad cydweithredol gan y BBC ar Brifysgol Agored. Mae’r gyfres dirnod hon yn adrodd stori Cymru o’r cyfnod cynhanes hyd y cyfnod modern. Ma…

Cynhyrchiad Green Bay media ar gyfer BBC Cymru Wales / Prifysgol Agored


    • Apr 9, 2013 LATEST EPISODE
    • infrequent NEW EPISODES
    • 5m AVG DURATION
    • 49 EPISODES


    Search for episodes from Stori Cymru with a specific topic:

    Latest episodes from Stori Cymru

    Datgonoli

    Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


    Ym 1979, ychydig cyn ethol llywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher, pleidleisiodd pobl Cymru mewn refferendwm i benderfynu a oeddent am ddatganoli rhywfaint o bŵer i Gymru, o senedd Prydain yn San Steffan. Pleidleisiwyd ‘Na’ gyda mwyafrif o 4 i 1. O ganlyniad i amgylchiadau Streic y Glowyr 1984 - 1985, a ddangosodd sut y gallai barn y Cymry gael ei anwybyddu gan San Steffan, teimlai nifer cynyddol o bobl Cymru y dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru yn hytrach nac yn llwyr yn San Steffan. Yn raddol, daeth bywyd cyhoeddus Cymru i gael ei drefnu ar ffurf cyrff cenedlaethol (hynny yw, yng Nghymru a gyda gogwydd Cymreig). Creodd elusennau, grwpiau pwyso, undebau a sefydliadau tebyg bresenoldeb a hunaniaeth benodol Gymreig. Pryd bynnag y gallent, roedd y Cymry yn tueddu i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain. Pan gynhaliwyd refferendwm ar gyfran gymedrol o hunanlywodraeth ym 1997 pleidleisiwyd o’i blaid, er gyda mwyafrif o ddim ond 6721 pleidlais. Cefnogodd refferendwm arall yn 2011 ragor o bwerau deddfu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Cymru’n parhau’n rhan o’r Deyrnas Unedig, i bob golwg yn cerdded y llwybr rhwng manteision perthynas gyda chymdogion mawr a rhywfaint o hunan-benderfynu. Taith sy’n parhau.

    Merched a Streic y Glowyr

    Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


    Bu gan fenywod rôl allweddol yng nghymunedau glofaol Cymru erioed. Roedd y dynion a’r bechgyn yn gweithio dan ddaear ac roedd y menywod yn cefnogi eu gwaith yn y cartref a thrwy gyfranogi mewn gweithgareddau cymunedol megis yr eglwys a’r capel. Roedd menywod yn gweithio yn y ceginau cawl yn ystod y Dirwasgiad, ond yn ystod Streic y Glowyr 1984 - 1985 y cymerodd y menywod gam mawr ymlaen i linell flaen gweithredu diwydiannol yn y maes glo. Prif Weinidog benywaidd cyntaf Prydain, Margaret Thatcher, oedd arweinydd y llywodraeth Geidwadol a etholwyd ym mis Mai 1979 yn dilyn cyfnod hir a chwerw o anghydfodau llafur. Ym 1984 cyhoeddodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol doriadau mawr mewn cynhyrchu glo a cholli swyddi difrifol. Aeth Undeb Cenedlaethol y Glowyr ar streic. Roedd glowyr yng Nghymru yn cefnogi’r streic yn gryf er gwaethaf wynebu caledi mawr. Cymerodd y menywod arweiniad deinamig mewn cadw’r cymunedau glofaol i fynd ond daethant i’r amlwg hefyd fel ymgyrchwyr, codwyr arian a llefarwyr, yn benderfynol o chwarae eu rhan. Cadwodd llawer ohonynt y momentwm hwn i fynd, er gwaethaf colli’r streic, drwy fanteisio ar gyfleoedd ym meysydd addysg ac arweinyddiaeth.

    Newid yn Statws yr Iaith Gymraeg

    Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


    Ym 1847 cyhoeddodd comisiwn y llywodraeth adroddiad ar gyflwr addysg yng Nghymru, a adnabyddir yn boblogaidd fel “y Llyfrau Gleision”. Rhoddodd yr adroddiad y bai ar yr iaith Gymraeg am y methiannau, ac ni roddodd ddigon o sylw i ffactorau eraill. Beirniadodd hefyd foesau pobl Cymru. Roedd cywilydd ar y Cymry ac roeddent yn gandryll, ond roeddent hefyd am brofi eu bod cystal â gweddill Prydain ac am elwa o gynnydd. Derbyniwyd cynllun y llywodraeth i wella addysg drwy sefydlu ysgolion uwchradd am ddim er mai Saesneg fyddai cyfrwng yr addysgu. Roedd hyn yn tanseilio’r Gymraeg. Gydag ehangiad y maes glo cafwyd cynnydd yn nifer y bobl oedd ddim yn deall Cymraeg. Ym 1962 cyflwynodd y gwleidydd Saunders Lewis araith radio ddylanwadol dan y teitl Tynged Yr Iaith a ysgogodd ffurfio Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, corff sy’n ymgyrchu i gael cydnabyddiaeth i’r iaith. Yn y 1960au dinistirwyd cymuned Gymraeg ei hiaith yng Nghwm Tryweryn er mwyn creu cronfa ddŵr ar gyfer Lerpwl, er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn yng Nghymru. Cynyddodd hyn y gweithredu dros yr iaith a ddaeth i’w anterth pan wnaeth y gwleidydd Gwynfor Evans fygwth ymprydio hyd farwolaeth pe na bai’r llywodraeth Geidwadol yn anrhydeddu ei haddewid i greu sianel deledu Gymraeg. Ildiodd y llywodraeth a lansiwyd Sianel Pedwar Cymru (S4C) ym 1982. Gyda Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 cafwyd statws cyfreithiol gryfach i’r Gymraeg. Ers y 1970au mae addysg cyfrwng Cymraeg wedi ffynnu, yn arbennig yn hen ardaloedd diwydiannol Cymru.

    Y Streic Gyffredinol a’r Dirwasgiad

    Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


    Yn ystod y cyfnodau Fictoraidd ac Edwardaidd roedd economi Cymru yn dibynnu’n fawr ar ychydig ddiwydiannau yn unig. Yn y de ddwyrain yn arbennig roedd glo yn dominyddu. O ganlyniad i newidiadau ar raddfa fyd-eang gwelwyd lleihad yn y galw am lo o Gymru. Ym mis Mai 1926 aeth glowyr de Cymru ar streic mewn protest yn erbyn toriadau mawr i gyflogau. Cawsant gefnogaeth gweithwyr eraill ledled Prydain gan ymuno â hwy yn y Streic Gyffredinol. Am naw diwrnod yn unig aeth y gweithwyr hyn ar streic, ond arhosodd glowyr Cymru ar streic tan bron i ddiwedd y flwyddyn. Ni chafodd y streicwyr gyflog ac ni chawsant unrhyw gymorth gan y llywodraeth. Daethant ynghyd i helpu ei gilydd i oroesi, gan drefnu ceginau cawl a chodi arian, ac roedd y gymuned ehangach yn gefnogol iawn. Ond yn y diwedd bu’n rhaid iddynt fynd yn ôl i weithio am lai o gyflog ac am oriau hirach. Cynyddodd y profiad hwn elfen filwriaethus ymhlith y glowyr. Effeithiwyd ar Brydain gyfan gan y dirwasgiad yn yr economi hyd y 1930au. Yn ystod ymweliad â de Cymru ym 1936, cafodd y Brenin Edward VIII ei synnu gan y problemau ond ni ddeilliodd ei bryder ar unrhyw ganlyniadau. Dioddefodd y Gymru ddiwydiannol yn fawr er bod diwydiant dur Wrecsam a thecstilau artiffisial y Fflint wedi bod o gymorth i’r ardaloedd hyn, a pharhaodd y cyrchfannau ar hyd arfordir gogledd Cymru i ddenu pobl ar eu gwyliau. Rhoddodd yr Ail Ryfel Byd hwb i ddiwydiant ond pan ddaeth i ben bu atgofion chwerw y Dirwasgiad yn gyfrwng i feithrin cefnogaeth yng Nghymru i’r blaid Lafur.

    Bywyd Pob Dydd yn ystod y Rhyfeloedd Byd

    Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


    Bu tua 280,000 o Gymry yn ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a lusgodd ymlaen am bedair blynedd (1914 - 1918). Arhosodd rhai dynion yng Nghymru i weithio mewn swyddi hanfodol, megis mwyngloddio, ond gyda chymaint o ddynion oddi cartref yn ymladd, dechreuodd y menywod gymryd swyddi a oedd cyn hyn wedi eu cyfyngu i ddynion, neu byddent yn gwneud dyletswyddau yn eu cartref neu ar y fferm. Roedd llawer o wragedd yn weddwon ac roedd yn rhaid iddynt godi teuluoedd ar eu pen eu hunain. Pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd ym 1939, unwaith eto camodd y menywod ymlaen. Roedd tua 55% o weithwyr rhyfel mewn ffatrïoedd arfau yng Nghymru yn fenywod. Rhwystrodd y gelyn fewnforion bwyd i Brydain ac felly bu ymdrech fawr i dyfu bwyd adref ac osgoi gwastraff. Cyflwynwyd system dogni er mwyn sicrhau dosbarthiad teg o fwydydd a nwyddau hanfodol eraill. Cafodd y rhyfel hwn effaith mwy uniongyrchol ar Brydain oherwydd yr ymgyrchoedd bomio, felly trefnodd y llywodraeth i blant o’r dinasoedd mawr gael eu symud i ardaloedd mwy diogel. Derbyniodd llawer o faciwîs i Gymru a daeth rhai ohonynt yn ymwybodol o’r iaith Gymraeg am y tro cyntaf. Golygodd y rhyfel bod trefn arferol pobl yn eu cartrefi yn newid a chawsant brofiadau newydd. Lleolwyd milwyr Americanaidd yng Nghymru, gan roi blas ar ddiwylliant a welwyd cyn hyn dim ond mewn ffilmiau Hollywood.

    Amodau yn y Pyllau Glo

    Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


    Mae hwn yn atgof dirdynnol o amodau caled a pheryglon mawr gweithio dan ddaear yn nechrau’r ugeinfed ganrif. Byddai bechgyn 12 oed yn cynorthwyo glowyr, gan gario’r glo a gloddiwyd gan y dynion hyn i dramiau, y wagenni a gludai’r glo ymaith o ffas y glo. Roedd hwn yn waith anhygoel o galed. Roedd perygl mawr yn y pyllau, oherwydd cwympiadau cerrig a ffrwydradau a achoswyd gan nwy methan yn cael ei ryddhau yn ystod y broses y cloddio, ynghyd â’r diffyg ocsigen ar ôl y ffrwydrad. Bu cannoedd farw ym mhyllau glo Cymru, yn enwedig mewn trychinebau megis y rhai yn Senghennydd a Gresffordd.

    David Lloyd George

    Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


    O wreiddiau gwerinol yn Llanystumdwy, gogledd Cymru, daeth David Lloyd George yn un o’r dynion mwyaf dylanwadol yn hanes Prydain fodern. Roedd yn hynod uchelgeisiol. Dechreuodd ei yrfa fel cyfreithiwr a daeth yn Aelod Seneddol dros Fwrdeistrefi Caernarfon ym 1890, a daliodd ei afael ar y sedd honno hyd 1945. Roedd yn areithiwr rhagorol. Erbyn 1908 roedd wedi dod yn Ganghellor y Trysorlys ac ef gyflwynodd y pensiwn gwladol cyntaf i’r oedrannus, er gwaethaf gwrthwynebiad cryf o Dŷ’r Arglwyddi. Ym 1911 rhoddodd ei Ddeddf Yswiriant Gwladol yr hawl i weithwyr gael tâl salwch a math o fudd-dal diweithdra. Gellir ei ystyried fel un o sylfaenwyr y wladwriaeth les. Chwaraeodd rôl allweddol yn y Rhyfel Byd Cyntaf fel yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel ac, o 1916, fel Prif Weinidog. Daeth buddugoliaeth â chlod iddo ond niweidiwyd ei enw da gyda chyhuddiadau ei fod wedi gwerthu urddolaethau i ariannu ei blaid. Collodd rym ym 1922.

    Llechi a Streic y Penrhyn

    Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


    Roedd y diwydiant llechi yn ganolog i ffyniant gogledd Cymru o’r 1770au hyd yr ugeinfed ganrif. Creodd gymunedau cryf a thirwedd ddramatig mewn trefi megis Blaenau Ffestiniog a Bethesda. Tyfodd perchnogion y chwareli megis teulu Pennant - a ddaeth yn Farwniaid Penrhyn - yn gyfoethog eithriadol drwy elwa ar amodau caled a chyflogau isel eu gweithwyr. Dechreuodd y streic hiraf yn hanes diwydiannol Prydain ym 1900, gan rannu cymunedau a chreu chwerwder ac arwain at ddirywiad diwydiant llechi Cymru. Mae’r gwrthdaro yn fyw yng nghof y bobl hyd heddiw.

    Diwylliant a Chwaraeon yn y Maes Glo

    Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


    Yn ystod diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif symudodd llawer o bobl o Gymru a’r tu allan i gymoedd de Cymru oherwydd bod twf y diwydiant glo yn rhoi cyfleoedd am waith. O ganlyniad i’r mewnlifiad hwn crëwyd hefyd cyfleoedd ar gyfer gweithgaredd diwylliannol, yn arbennig cerddoriaeth a chwaraeon. Roedd y corau meibion eisoes yn boblogaidd ymhlith anghydffurfwyr yng Nghymru a chreodd maint y cynulleidfaoedd yn y maes glo ffynhonnell gyfoethog o dalent ac ymroddiad a ddatblygodd, o’r 1870au ymlaen, yn ffenomen gerddorol gan greu argraff ar gynulleidfoedd ledled y byd. Gwelwyd ffyniant mathau o adloniant poblogaidd, megis cyngherddau, cyflwyniadau comedi a chantorion, a fyddai’n perfformio i gynulleidfaoedd mawr. Roedd chwaraeon yn ffordd o ymlacio pwysig ar gyfer y gweithwyr. Roedd bocsio’n boblogaidd. Ym 1916 cynhyrchodd y maes glo Bencampwr Pwysau Plu y Byd, sef Jimmy Wilde. Nid oedd pêl-droed mor boblogaidd â rygbi a chafodd Cymru lwyddiant cofiadwy ym 1905 gyda buddugoliaeth dros Grysau Duon Seland Newydd. Dyma’r achlysur cyntaf y canodd cefnogwyr Cymru Hen Wlad Fy Nhadau fel ‘anthem genedlaethol’ anffurfiol.

    Ffyniant y Diwydiant Glo

    Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


    O’r 1850au hyd y Rhyfel Byd Cyntaf, tyfodd Cymru’n gyfoethog gan ddatblygiad y diwydiant glo ac yn arbennig gan gloddio ac allforio glo stêm a fyddai’n bwydo peiriannau llongau y byd. Gwnaeth entrepreneuriaid megis Teulu Bute a David Davies ffortiwn anferth o’r fasnach lo. Mae amgylchedd adeiledig cyfarwydd Cymru yn dyddio yn bennaf o’r adeg hon - terasau’r Cymoedd a gogledd-ddwyrain Cymru neu adeiladau crand yr hyn a elwir gennym bellach yn Fae Caerdydd. Un o’r adeiladu trawiadol hyn yw’r Gyfnewidfa Lo lle byddai tyrfaoedd o fasnachwyr yn bargeinio dros brisiau cludo glo ar draws y byd.

    Terfysgoedd Beca

    Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


    Roedd Cymru yn ferw gan anniddigrwydd cymdeithasol yn y 1830au, gan ddechrau â Gwrthryfel Merthyr 1831. Fodd bynnag, nid oedd y protestiadau yn erbyn anghyfiawnder wedi eu cyfyngu i’r ardaloedd diwydiannol. Rhwng 1839-44, roedd y mudiad gerila a gafodd yr enw Terfysgoedd Beca yn brotest nerthol yng nghefn gwlad. Codwyd prisiau enbyd ar ffermwyr i symud eu hanifeiliaid ar hyd ffyrdd a reolwyd gan dollbyrth. Felly, dechreuodd grwpiau o ddynion, a dduodd eu hwynebau a dieithrio eu hunain drwy wisgo fel menywod, chwalu’r gatiau atgas o dan gysgod y nos gan weiddi ‘Beca’ wrth iddynt wneud hynny. Llwyddodd yr ymgyrch gan arwain at newid yn y ddeddf oedd yn rheoli’r ffyrdd.

    Y Cyfoethog a'r Tlawd ym Merthyr Tudful

    Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


    Yn y 1830au roedd Merthyr yn llawn gwrthgyferbyniadau anferth rhwng y cyfoethog a’r tlawd. Dros y deugain mlynedd blaenorol roedd wedi tyfu ar gyflymdra anhygoel ac wedi dod yn un o brif ganolfannau cynhyrchu haearn y byd. Ond roedd amgylchiadau byw llawer o deuluoedd y gweithwyr yn warthus. Roedd yno ardal enfawr o slymiau gyda phobl wedi eu gwasgu i hofelau bychain heb fawr ddim glanweithdra, fel bod haint yn rhemp - gan yn y diwedd arwain at golera. Ond cynhyrchodd y gweithfeydd haearn gyfoeth anferth i berchnogion, megis teulu Crawshay a gododd adeilad mawreddog Castell Cyfarthfa fry uwchben y dref, man lle cynhaliwyd gwleddoedd a phartïon moethus.

    Caethwasiaeth a Chymru

    Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


    Wrth i’r Ymerodraeth Brydeinig ymledu ar draws y byd yn y ddeunawfed ganrif, creodd beth o’i chyfoeth mawr drwy ddefnyddio caethweision. Ffynnodd rhannau o Brydain oherwydd eu cysylltiadau â’r fasnach gaethwasiaeth. Cysylltwyd Cymru i’r fasnach gaethwasiaeth oherwydd ei bod yn cynhyrchu metelau a defnydd. Roedd Cymru yn gynhyrchydd mawr pres a chopr. Defnyddiwyd copr fel arian yn y marchnadoedd caethwasiaeth, ar ffurf breichledau a elwid yn manillas. Defnyddiwyd ffiolau pres wrth gynhyrchu rỳm. Cynhyrchwyd rỳm, siwgr a chotwm ar gyfer y farchnad Ewropeaidd drwy lafur caethweision a ddygwyd draw o Affrica ar draws Cefnfor Iwerydd i America ac India’r Gorllewin. Nid oedd gan gaethweision ddewis ond gweithio yn hinsawdd boeth y planhigfeydd. Roedd dillad llawer o’r caethweision wedi eu gwneud o fath o ddefnydd a ddarparwyd gan y diwydiant melinau gwlân yng Nghymru. Ym 1806 dygwyd un o arwyr Cymru yn Rhyfeloedd Napoleon, y Cadfridog Thomas Picton, gerbron llys, am ei driniaeth greulon o gaethweision. Roedd ei achos yn gymorth i ddatblygu ymgyrch y rheiny oedd eisiau diddymu caethwasiaeth. Yn y cyfamser, roedd perchennog caethweision du ei groen yn byw yn Nhrefynwy. Ganwyd Nathaniel Wells yn St Kitts, yn fab i farsiandwr o Gaerdydd ac yn gaethwas du. Etifeddodd ffortiwn ei dad, daeth i Gymru a bu’n byw bywyd uchelwr gwledig.

    Y Chwyldro Diwydiannol

    Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


    Dyma stori o newid rhyfeddol - o’r 1760au ymlaen caiff Cymru ei gweddnewid o fod yn economi amaethyddol bron yn gyfan i fod yn gymdeithas flaengar y Chywldro Diwydiannol. Mae’n dechrau gyda’r diwydiant gwirioneddol fyd-eang cyntaf, sef copr - gwelwn sut y mae cloddfa gopr enfawr Mynydd Parys ar Ynys Môn yn anfon mwyn i weithfeydd smeltio gwaelod Cwm Tawe a sut y mae Abertawe ei hun yn tyfu ac yn allforio’r metel gwerthfawr ledled y byd. Yn fuan bydd gweithfeydd haearn, ffatrïoedd tecstilau, camlesi a rheilffyrdd yn creu tirlun newydd i Gymru.

    Y Bonedd a'r Rhyfel Cartref

    Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


    Yng nghyfnod y brenhinoedd Stiwartiaid Iago I a Siarl I, ni welodd Cymru lawer o ehangiad masnachol. Roedd trefi fel Dinbych-y-pysgod yn eithriadau ac roedd gan fasnachwyr yno gysylltiad â syniadau crefyddol newydd Piwritaniaeth, a oedd yn gryf ym Mryste a chanolfannau masnachol eraill yn Lloegr. Dechreuodd y syniadau newydd hyn dreiddio i fywydau’r bonedd yng nghefn gwlad, er y parhaodd y rhan fwyaf ohonynt yn deyrngar i’r Brenin Siarl pan fu rhyfel rhwng ei gefnogwyr a’r Senedd, a ddominyddwyd gan y Piwritaniaid. Daw byd y bonedd yn fyw yng nghartref y teulu Pritchard, Llancaiach Fawr.

    Y Beibl Cymraeg

    Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


    Roedd Elisabeth I yn poeni am ymlyniad pobl Cymru wrth y ffydd Gatholig. Roedd Cymru hefyd yn ddrws cefn ar gyfer ymosodiadau posibl gan bwerau Catholig Ewrop. Felly penderfynodd y dylid darparu Beibl yn y Gymraeg ar gyfer pob plwyf, er mwyn lledaenu agweddau Protestannaidd ymhlith y Cymry. Ym 1588, cyhoeddwyd cyfieithiad gwych yr Esgob William Morgan - y cyntaf yn Ewrop mewn iaith nad oedd yn iaith gwladwriaeth. Rhoddodd ei iaith ddyrchafedig ac urddasol statws cyhoeddus i’r Gymraeg a oedd yn hynod bwysig i’w goroesiad yn y canrifoedd i ddod.

    Newidiadau Crefyddol y Tuduriaid

    Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


    Roedd crefydd yn bwnc peryglus yng nghyfnod y Tuduriaid. Aeth diwygiad Eglwys Lloegr a Chymru gan Harri’r VIII ag ef i wrthdaro â’r Ewrop Gatholig yn gyfan, yn arbennig Sbaen. Mewn cyfnod o’r fath gosododd y wladwriaeth reolau llym ar addoliad a rhyddid crefyddol. Ond byddai’r sefyllfa swyddogol yn newid yn ôl ffydd y brenin neu’r frenhines. Dilynwyd y Protestant Edward VI gan y Gatholiges Mari ac yna ar ei hôl hi daeth Elisabeth, y Protestant. Cafodd hyn i gyd effaith fawr ar fywydau pobl gyffredin drwy’r eglwysi yr oeddent yn eu mynychu, fel y dywed Huw wrthym yn Eglwys Teilo Sant yn Sain Ffagan.

    Diwygiad y Tuduriaid

    Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


    Ym 1534, gwnaeth Harri’r VIII ei hun yn ben ar yr Eglwys yng Nghymru a Lloegr fel y gallai gael ei briodas wedi ei diddymu’n haws. Roedd ei anawsterau gyda’r Eglwys Gatholig wedi dechrau yn niwedd y 1520au. Ym 1530 roedd wedi dechrau cyfeirio arian yr Eglwys i’r Goron. Rhwng 1536 a 1540 caewyd lleiandai, mynachlogydd ac abatai, megis Ystrad Fflur, meddiannwyd eu tiroedd a’u hadnoddau a dinistriwyd yr adeiladau neu gadawyd hwy i ddadfeilio. Roedd y bobl yn gweld eisiau’r canolfannau economaidd a diwylliannol hyn yn fawr. Cyflwynwyd llawer o newidiadau i arfer crefyddol yn ystod camau cyntaf y mudiad crefyddol a gwleidyddol a adnabyddid fel y Diwygiad Protestannaidd. Gorfodwyd y Diwygiad ar Gymru. O dan deyrnasiad mab Harri, Edward VI, targedwyd eglwysi’r plwyf, meddiannwyd yr eitemau gwerthfawr oedd ynddynt a dinistriwyd neu cuddiwyd eu gweithiau celf Catholig. Hyd yn oed nawr, mae gwaith celf a fu’n gudd am ganrifoedd yn cael ei ddarganfod a’i adnewyddu, megis y paentiadau wal yn Eglwys Cadog Sant yn Llancarfan ym Mro Morgannwg.

    Harri Tudur

    Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


    Ym 1485, glaniodd Harri Tudur ar arfordir Sir Benfro a dechreuodd ymgyrch i gipio coron Lloegr, nod y gwnaeth ei gyflawni gyda’i fuddugoliaeth dros Rhisiart III ym Mrwydr Bosworth. Byddai Harri’n cario baner draig Cymru. Ond faint o Gymro oedd Harri? Fe’i ganwyd yng Nghymru, roedd yn chwarter Cymro, roedd ganddo gyndeidiau pwysig ar Ynys Môn a rhoddwyd llawer o gefnogaeth iddo gan y bonedd yng Nghymru. Ond penllanw Rhyfel y Rhosynnau oedd y goresgyniad hwn mewn gwirionedd ac roedd Harri’n cipio’r orsedd i dŷ Lancaster yn y gwrthdaro hwnnw. Mae’n debyg nad oedd Cymru mor bwysig â hynny iddo.

    Owain Glyndŵr

    Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


    Owain arweiniodd y chwyldro mawr diwethaf gan y Cymry yn erbyn grym Lloegr, chwyldro a ddechreuodd ym 1400. Roedd dicter a phrotest yn erbyn rheolaeth Lloegr wedi bod yn corddi am ganrif a sbardun y chwyldro oedd bod y Barwn Grey o Ruthun wedi dwyn peth o dir Owain. Roedd Owain yn arweinydd gerila effeithiol ond hefyd cipiodd rai targedau mawr, megis castell Normanaidd Harlech a ddaeth yn bencadlys iddo. Creodd gynghreiriau effeithiol, yn cynnwys un gyda brenin Ffrainc, a datblygodd weledigaeth ar gyfer Cymru gyda’i senedd, ei heglwys annibynnol a’i phrifysgolion. Ond methiant fu’r cyfan.

    Llywelyn ein Llyw Olaf

    Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


    Tywysog o Gymru yn byw yng Ngwynedd, Gogledd Cymru, yn y Canoloesoedd oedd Llywelyn ap Gruffydd. Daeth yn arweinydd y Cymry ac ef yw’r unig Gymro erioed i gael ei gydnabod gan Goron Lloegr yn Dywysog Cymru. Fodd bynnag, pan ddaeth y rhyfelwr ffyrnig Edward I yn Frenin Lloegr cafwyd gwrthdaro hir a chwerw rhwng y ddwy wlad. Ym 1282 lladdwyd Llywelyn gan olygu i bob pwrpas ddiwedd statws Cymru fel gwlad annibynnol. Cafodd y golled hon ganlyniadau anferth ar ddyfodol.

    Y Normaniaid a'r Cestyll

    Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


    Meddiannodd William o Normandi (William Goncwerwr) Loegr a threchu brenin Lloegr, Harold, ym 1066. Gwobrwyodd yr arglwyddi oedd wedi dangos cefnogaeth iddo drwy roi tir iddynt ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Yr enw a roddwyd ar yr ardaloedd hyn oedd y gororau. Gwthiodd Arglwyddi’r Gororau Normanaidd i diriogaeth Cymru a dechrau adeiladu cestyll: cestyll mwnt a beili i ddechrau, gan ddefnyddio pren a phridd, yna cestyll mawreddog o garreg gydag amgaerau cymhleth. Oherwydd gwrthsafiad y Cymry parodd ymgyrch y Normaniaid am gannoedd o flynyddoedd. Castell Caerffili yw’r castell Normanaidd mwyaf yng Nghymru ac mae’n un o’r rhai mwyaf cywrain o ran cynllun ei amddiffynfeydd. Dechreuwyd ei godi ym 1268, a chynorthwyodd i ysbrydoli cynllun y cestyll a adeiladodd Edward I ledled Cymru er mwyn sicrhau rheolaeth o’r wlad. Cyflogodd y Normaniaid rai o seiri maen a chrefftwyr mwyaf medrus Ewrop i godi eu cestyll.

    Caerllion y Rhufeiniaid

    Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


    Yn dilyn goresgyniad Prydain gan y Rhufeiniaid yn 43 O.C., cymerodd ddeng mlynedd ar hugain i dawelu’r llwythau Celtaidd yn yr ardal yr ydym erbyn hyn yn ei galw’n Gymru. Man rheoli allweddol oedd lleng-gaer fawr Isca, yng Nghaerllion fodern, a godwyd yn nhiriogaeth y Silwriaid ffyrnig. Fodd bynnag, yn y diwedd ildiodd y llwyth i reolaeth y Rhufeiniaid ac ymuno ag economi a ffordd o fyw'r Ymerodraeth. Mae darganfyddiadau diweddar wedi dangos bod anheddiad sifil mawr y tu allan i’r gaer bwerus, gyda dociau ar gyfer nwyddau a gludwyd o wledydd Môr y Canoldir. Mae presenoldeb y Rhufeiniaid yng Nghymru yn fwy nag yr oeddem wedi ei feddwl.

    Bywyd Pob Dydd Celtiaid yr Oes Haearn

    Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


    Rhwng blynyddoedd 600 - 800 C.C. dechreuodd y llwythau Celtaidd oedd yn byw yng Nghymru geisio gwneud haearn. Gallwn weld y gwrthrychau a wnaethant mewn casgliadau o ddarnau gwerthfawr yr oeddent yn eu rhoi mewn llynnoedd fel offrwm i’w duwiau. Un enghraifft yw’r casgliad y daethpwyd o hyd iddo yn Llyn Fawr ger Hirwaun yn Rhondda Cynon Taf. Yng nghasgliad Llyn Fawr, yn ogystal â gwrthrychau haearn a wnaed yn lleol, mae rhai gafodd eu gwneud gryn bellter o Gymru, megis rhan o lafn cleddyf addurnedig o ddwyrain Ffrainc. Mae nifer o fannau yng Nghymru lle gallwn weld tystiolaeth sut oedd bywyd bob dydd yn y cyfnod hwn, megis bryngaer Tre’r Ceiri ym Mhenrhyn Llŷn yng Ngwynedd. Roedd bywyd yn y tŷ crwn Celtaidd yn gylch prysur o dyfu, cadw a choginio bwyd, magu anifeiliaid, gwneud defnydd a chreu offer o fetel a phren. Gallai menywod yn ogystal â dynion fod yn arweinwyr, ac roedd plant yn hanfodol i economi’r teulu.

    Datganoli

    Play Episode Listen Later Mar 25, 2013 6:15


    Ym 1979, ychydig cyn ethol llywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher, pleidleisiodd pobl Cymru mewn refferendwm i benderfynu a oeddent am ddatganoli rhywfaint o bŵer i Gymru, o senedd Prydain yn San Steffan. Pleidleisiwyd ‘Na’ gyda mwyafrif o 4 i 1. O ganlyniad i amgylchiadau Streic y Glowyr 1984 - 1985, a ddangosodd sut y gallai barn y Cymry gael ei anwybyddu gan San Steffan, teimlai nifer cynyddol o bobl Cymru y dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru yn hytrach nac yn llwyr yn San Steffan. Yn raddol, daeth bywyd cyhoeddus Cymru i gael ei drefnu ar ffurf cyrff cenedlaethol (hynny yw, yng Nghymru a gyda gogwydd Cymreig). Creodd elusennau, grwpiau pwyso, undebau a sefydliadau tebyg bresenoldeb a hunaniaeth benodol Gymreig. Pryd bynnag y gallent, roedd y Cymry yn tueddu i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain. Pan gynhaliwyd refferendwm ar gyfran gymedrol o hunanlywodraeth ym 1997 pleidleisiwyd o’i blaid, er gyda mwyafrif o ddim ond 6721 pleidlais. Cefnogodd refferendwm arall yn 2011 ragor o bwerau deddfu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Cymru’n parhau’n rhan o’r Deyrnas Unedig, i bob golwg yn cerdded y llwybr rhwng manteision perthynas gyda chymdogion mawr a rhywfaint o hunan-benderfynu. Taith sy’n parhau.

    Merched a Streic y Glowyr

    Play Episode Listen Later Mar 25, 2013 5:45


    Bu gan fenywod rôl allweddol yng nghymunedau glofaol Cymru erioed. Roedd y dynion a’r bechgyn yn gweithio dan ddaear ac roedd y menywod yn cefnogi eu gwaith yn y cartref a thrwy gyfranogi mewn gweithgareddau cymunedol megis yr eglwys a’r capel. Roedd menywod yn gweithio yn y ceginau cawl yn ystod y Dirwasgiad, ond yn ystod Streic y Glowyr 1984 - 1985 y cymerodd y menywod gam mawr ymlaen i linell flaen gweithredu diwydiannol yn y maes glo. Prif Weinidog benywaidd cyntaf Prydain, Margaret Thatcher, oedd arweinydd y llywodraeth Geidwadol a etholwyd ym mis Mai 1979 yn dilyn cyfnod hir a chwerw o anghydfodau llafur. Ym 1984 cyhoeddodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol doriadau mawr mewn cynhyrchu glo a cholli swyddi difrifol. Aeth Undeb Cenedlaethol y Glowyr ar streic. Roedd glowyr yng Nghymru yn cefnogi’r streic yn gryf er gwaethaf wynebu caledi mawr. Cymerodd y menywod arweiniad deinamig mewn cadw’r cymunedau glofaol i fynd ond daethant i’r amlwg hefyd fel ymgyrchwyr, codwyr arian a llefarwyr, yn benderfynol o chwarae eu rhan. Cadwodd llawer ohonynt y momentwm hwn i fynd, er gwaethaf colli’r streic, drwy fanteisio ar gyfleoedd ym meysydd addysg ac arweinyddiaeth.

    Newid yn Statws yr Iaith Gymraeg

    Play Episode Listen Later Mar 25, 2013 6:55


    Ym 1847 cyhoeddodd comisiwn y llywodraeth adroddiad ar gyflwr addysg yng Nghymru, a adnabyddir yn boblogaidd fel “y Llyfrau Gleision”. Rhoddodd yr adroddiad y bai ar yr iaith Gymraeg am y methiannau, ac ni roddodd ddigon o sylw i ffactorau eraill. Beirniadodd hefyd foesau pobl Cymru. Roedd cywilydd ar y Cymry ac roeddent yn gandryll, ond roeddent hefyd am brofi eu bod cystal â gweddill Prydain ac am elwa o gynnydd. Derbyniwyd cynllun y llywodraeth i wella addysg drwy sefydlu ysgolion uwchradd am ddim er mai Saesneg fyddai cyfrwng yr addysgu. Roedd hyn yn tanseilio’r Gymraeg. Gydag ehangiad y maes glo cafwyd cynnydd yn nifer y bobl oedd ddim yn deall Cymraeg. Ym 1962 cyflwynodd y gwleidydd Saunders Lewis araith radio ddylanwadol dan y teitl Tynged Yr Iaith a ysgogodd ffurfio Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, corff sy’n ymgyrchu i gael cydnabyddiaeth i’r iaith. Yn y 1960au dinistirwyd cymuned Gymraeg ei hiaith yng Nghwm Tryweryn er mwyn creu cronfa ddŵr ar gyfer Lerpwl, er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn yng Nghymru. Cynyddodd hyn y gweithredu dros yr iaith a ddaeth i’w anterth pan wnaeth y gwleidydd Gwynfor Evans fygwth ymprydio hyd farwolaeth pe na bai’r llywodraeth Geidwadol yn anrhydeddu ei haddewid i greu sianel deledu Gymraeg. Ildiodd y llywodraeth a lansiwyd Sianel Pedwar Cymru (S4C) ym 1982. Gyda Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 cafwyd statws cyfreithiol gryfach i’r Gymraeg. Ers y 1970au mae addysg cyfrwng Cymraeg wedi ffynnu, yn arbennig yn hen ardaloedd diwydiannol Cymru.

    Y Streic Gyffredinol a'r Dirwasgiad

    Play Episode Listen Later Mar 25, 2013 5:39


    Yn ystod y cyfnodau Fictoraidd ac Edwardaidd roedd economi Cymru yn dibynnu’n fawr ar ychydig ddiwydiannau yn unig. Yn y de ddwyrain yn arbennig roedd glo yn dominyddu. O ganlyniad i newidiadau ar raddfa fyd-eang gwelwyd lleihad yn y galw am lo o Gymru. Ym mis Mai 1926 aeth glowyr de Cymru ar streic mewn protest yn erbyn toriadau mawr i gyflogau. Cawsant gefnogaeth gweithwyr eraill ledled Prydain gan ymuno â hwy yn y Streic Gyffredinol. Am naw diwrnod yn unig aeth y gweithwyr hyn ar streic, ond arhosodd glowyr Cymru ar streic tan bron i ddiwedd y flwyddyn. Ni chafodd y streicwyr gyflog ac ni chawsant unrhyw gymorth gan y llywodraeth. Daethant ynghyd i helpu ei gilydd i oroesi, gan drefnu ceginau cawl a chodi arian, ac roedd y gymuned ehangach yn gefnogol iawn. Ond yn y diwedd bu’n rhaid iddynt fynd yn ôl i weithio am lai o gyflog ac am oriau hirach. Cynyddodd y profiad hwn elfen filwriaethus ymhlith y glowyr. Effeithiwyd ar Brydain gyfan gan y dirwasgiad yn yr economi hyd y 1930au. Yn ystod ymweliad â de Cymru ym 1936, cafodd y Brenin Edward VIII ei synnu gan y problemau ond ni ddeilliodd ei bryder ar unrhyw ganlyniadau. Dioddefodd y Gymru ddiwydiannol yn fawr er bod diwydiant dur Wrecsam a thecstilau artiffisial y Fflint wedi bod o gymorth i’r ardaloedd hyn, a pharhaodd y cyrchfannau ar hyd arfordir gogledd Cymru i ddenu pobl ar eu gwyliau. Rhoddodd yr Ail Ryfel Byd hwb i ddiwydiant ond pan ddaeth i ben bu atgofion chwerw y Dirwasgiad yn gyfrwng i feithrin cefnogaeth yng Nghymru i’r blaid Lafur.

    Bywyd Pob Dydd yn ystod y Rhyfeloedd Byd

    Play Episode Listen Later Mar 25, 2013 6:59


    Bu tua 280,000 o Gymry yn ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a lusgodd ymlaen am bedair blynedd (1914 - 1918). Arhosodd rhai dynion yng Nghymru i weithio mewn swyddi hanfodol, megis mwyngloddio, ond gyda chymaint o ddynion oddi cartref yn ymladd, dechreuodd y menywod gymryd swyddi a oedd cyn hyn wedi eu cyfyngu i ddynion, neu byddent yn gwneud dyletswyddau yn eu cartref neu ar y fferm. Roedd llawer o wragedd yn weddwon ac roedd yn rhaid iddynt godi teuluoedd ar eu pen eu hunain. Pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd ym 1939, unwaith eto camodd y menywod ymlaen. Roedd tua 55% o weithwyr rhyfel mewn ffatrïoedd arfau yng Nghymru yn fenywod. Rhwystrodd y gelyn fewnforion bwyd i Brydain ac felly bu ymdrech fawr i dyfu bwyd adref ac osgoi gwastraff. Cyflwynwyd system dogni er mwyn sicrhau dosbarthiad teg o fwydydd a nwyddau hanfodol eraill. Cafodd y rhyfel hwn effaith mwy uniongyrchol ar Brydain oherwydd yr ymgyrchoedd bomio, felly trefnodd y llywodraeth i blant o’r dinasoedd mawr gael eu symud i ardaloedd mwy diogel. Derbyniodd llawer o faciwîs i Gymru a daeth rhai ohonynt yn ymwybodol o’r iaith Gymraeg am y tro cyntaf. Golygodd y rhyfel bod trefn arferol pobl yn eu cartrefi yn newid a chawsant brofiadau newydd. Lleolwyd milwyr Americanaidd yng Nghymru, gan roi blas ar ddiwylliant a welwyd cyn hyn dim ond mewn ffilmiau Hollywood.

    David Lloyd George

    Play Episode Listen Later Mar 25, 2013 5:08


    O wreiddiau gwerinol yn Llanystumdwy, gogledd Cymru, daeth David Lloyd George yn un o’r dynion mwyaf dylanwadol yn hanes Prydain fodern. Roedd yn hynod uchelgeisiol. Dechreuodd ei yrfa fel cyfreithiwr a daeth yn Aelod Seneddol dros Fwrdeistrefi Caernarfon ym 1890, a daliodd ei afael ar y sedd honno hyd 1945. Roedd yn areithiwr rhagorol. Erbyn 1908 roedd wedi dod yn Ganghellor y Trysorlys ac ef gyflwynodd y pensiwn gwladol cyntaf i’r oedrannus, er gwaethaf gwrthwynebiad cryf o Dŷ’r Arglwyddi. Ym 1911 rhoddodd ei Ddeddf Yswiriant Gwladol yr hawl i weithwyr gael tâl salwch a math o fudd-dal diweithdra. Gellir ei ystyried fel un o sylfaenwyr y wladwriaeth les. Chwaraeodd rôl allweddol yn y Rhyfel Byd Cyntaf fel yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel ac, o 1916, fel Prif Weinidog. Daeth buddugoliaeth â chlod iddo ond niweidiwyd ei enw da gyda chyhuddiadau ei fod wedi gwerthu urddolaethau i ariannu ei blaid. Collodd rym ym 1922.

    Diwylliant a Chwaraeon yn y Maes Glo

    Play Episode Listen Later Mar 25, 2013 7:19


    Yn ystod diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif symudodd llawer o bobl o Gymru a’r tu allan i gymoedd de Cymru oherwydd bod twf y diwydiant glo yn rhoi cyfleoedd am waith. O ganlyniad i’r mewnlifiad hwn crëwyd hefyd cyfleoedd ar gyfer gweithgaredd diwylliannol, yn arbennig cerddoriaeth a chwaraeon. Roedd y corau meibion eisoes yn boblogaidd ymhlith anghydffurfwyr yng Nghymru a chreodd maint y cynulleidfaoedd yn y maes glo ffynhonnell gyfoethog o dalent ac ymroddiad a ddatblygodd, o’r 1870au ymlaen, yn ffenomen gerddorol gan greu argraff ar gynulleidfoedd ledled y byd. Gwelwyd ffyniant mathau o adloniant poblogaidd, megis cyngherddau, cyflwyniadau comedi a chantorion, a fyddai’n perfformio i gynulleidfaoedd mawr. Roedd chwaraeon yn ffordd o ymlacio pwysig ar gyfer y gweithwyr. Roedd bocsio’n boblogaidd. Ym 1916 cynhyrchodd y maes glo Bencampwr Pwysau Plu y Byd, sef Jimmy Wilde. Nid oedd pêl-droed mor boblogaidd â rygbi a chafodd Cymru lwyddiant cofiadwy ym 1905 gyda buddugoliaeth dros Grysau Duon Seland Newydd. Dyma’r achlysur cyntaf y canodd cefnogwyr Cymru Hen Wlad Fy Nhadau fel ‘anthem genedlaethol’ anffurfiol.

    Caethwasiaeth a Chymru

    Play Episode Listen Later Mar 25, 2013 6:59


    Wrth i’r Ymerodraeth Brydeinig ymledu ar draws y byd yn y ddeunawfed ganrif, creodd beth o’i chyfoeth mawr drwy ddefnyddio caethweision. Ffynnodd rhannau o Brydain oherwydd eu cysylltiadau â’r fasnach gaethwasiaeth. Cysylltwyd Cymru i’r fasnach gaethwasiaeth oherwydd ei bod yn cynhyrchu metelau a defnydd. Roedd Cymru yn gynhyrchydd mawr pres a chopr. Defnyddiwyd copr fel arian yn y marchnadoedd caethwasiaeth, ar ffurf breichledau a elwid yn manillas. Defnyddiwyd ffiolau pres wrth gynhyrchu rỳm. Cynhyrchwyd rỳm, siwgr a chotwm ar gyfer y farchnad Ewropeaidd drwy lafur caethweision a ddygwyd draw o Affrica ar draws Cefnfor Iwerydd i America ac India’r Gorllewin. Nid oedd gan gaethweision ddewis ond gweithio yn hinsawdd boeth y planhigfeydd. Roedd dillad llawer o’r caethweision wedi eu gwneud o fath o ddefnydd a ddarparwyd gan y diwydiant melinau gwlân yng Nghymru. Ym 1806 dygwyd un o arwyr Cymru yn Rhyfeloedd Napoleon, y Cadfridog Thomas Picton, gerbron llys, am ei driniaeth greulon o gaethweision. Roedd ei achos yn gymorth i ddatblygu ymgyrch y rheiny oedd eisiau diddymu caethwasiaeth. Yn y cyfamser, roedd perchennog caethweision du ei groen yn byw yn Nhrefynwy. Ganwyd Nathaniel Wells yn St Kitts, yn fab i farsiandwr o Gaerdydd ac yn gaethwas du. Etifeddodd ffortiwn ei dad, daeth i Gymru a bu’n byw bywyd uchelwr gwledig.

    Diwygiad y Tuduriaid

    Play Episode Listen Later Mar 25, 2013 5:53


    Ym 1534, gwnaeth Harri’r VIII ei hun yn ben ar yr Eglwys yng Nghymru a Lloegr fel y gallai gael ei briodas wedi ei diddymu’n haws. Roedd ei anawsterau gyda’r Eglwys Gatholig wedi dechrau yn niwedd y 1520au. Ym 1530 roedd wedi dechrau cyfeirio arian yr Eglwys i’r Goron. Rhwng 1536 a 1540 caewyd lleiandai, mynachlogydd ac abatai, megis Ystrad Fflur, meddiannwyd eu tiroedd a’u hadnoddau a dinistriwyd yr adeiladau neu gadawyd hwy i ddadfeilio. Roedd y bobl yn gweld eisiau’r canolfannau economaidd a diwylliannol hyn yn fawr. Cyflwynwyd llawer o newidiadau i arfer crefyddol yn ystod camau cyntaf y mudiad crefyddol a gwleidyddol a adnabyddid fel y Diwygiad Protestannaidd. Gorfodwyd y Diwygiad ar Gymru. O dan deyrnasiad mab Harri, Edward VI, targedwyd eglwysi’r plwyf, meddiannwyd yr eitemau gwerthfawr oedd ynddynt a dinistriwyd neu cuddiwyd eu gweithiau celf Catholig. Hyd yn oed nawr, mae gwaith celf a fu’n gudd am ganrifoedd yn cael ei ddarganfod a’i adnewyddu, megis y paentiadau wal yn Eglwys Cadog Sant yn Llancarfan ym Mro Morgannwg.

    Y Normaniaid a'r Cestyll

    Play Episode Listen Later Mar 25, 2013 5:19


    Meddiannodd William o Normandi (William Goncwerwr) Loegr a threchu brenin Lloegr, Harold, ym 1066. Gwobrwyodd yr arglwyddi oedd wedi dangos cefnogaeth iddo drwy roi tir iddynt ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Yr enw a roddwyd ar yr ardaloedd hyn oedd y gororau. Gwthiodd Arglwyddi’r Gororau Normanaidd i diriogaeth Cymru a dechrau adeiladu cestyll: cestyll mwnt a beili i ddechrau, gan ddefnyddio pren a phridd, yna cestyll mawreddog o garreg gydag amgaerau cymhleth. Oherwydd gwrthsafiad y Cymry parodd ymgyrch y Normaniaid am gannoedd o flynyddoedd. Castell Caerffili yw’r castell Normanaidd mwyaf yng Nghymru ac mae’n un o’r rhai mwyaf cywrain o ran cynllun ei amddiffynfeydd. Dechreuwyd ei godi ym 1268, a chynorthwyodd i ysbrydoli cynllun y cestyll a adeiladodd Edward I ledled Cymru er mwyn sicrhau rheolaeth o’r wlad. Cyflogodd y Normaniaid rai o seiri maen a chrefftwyr mwyaf medrus Ewrop i godi eu cestyll.

    Bywyd Pob Dydd Celtiaid yr Oes Haearn

    Play Episode Listen Later Mar 25, 2013 5:59


    Rhwng blynyddoedd 600 - 800 C.C. dechreuodd y llwythau Celtaidd oedd yn byw yng Nghymru geisio gwneud haearn. Gallwn weld y gwrthrychau a wnaethant mewn casgliadau o ddarnau gwerthfawr yr oeddent yn eu rhoi mewn llynnoedd fel offrwm i’w duwiau. Un enghraifft yw’r casgliad y daethpwyd o hyd iddo yn Llyn Fawr ger Hirwaun yn Rhondda Cynon Taf. Yng nghasgliad Llyn Fawr, yn ogystal â gwrthrychau haearn a wnaed yn lleol, mae rhai gafodd eu gwneud gryn bellter o Gymru, megis rhan o lafn cleddyf addurnedig o ddwyrain Ffrainc. Mae nifer o fannau yng Nghymru lle gallwn weld tystiolaeth sut oedd bywyd bob dydd yn y cyfnod hwn, megis bryngaer Tre’r Ceiri ym Mhenrhyn Llŷn yng Ngwynedd. Roedd bywyd yn y tŷ crwn Celtaidd yn gylch prysur o dyfu, cadw a choginio bwyd, magu anifeiliaid, gwneud defnydd a chreu offer o fetel a phren. Gallai menywod yn ogystal â dynion fod yn arweinwyr, ac roedd plant yn hanfodol i economi’r teulu.

    Rhagair i Stori Cymru

    Play Episode Listen Later Nov 30, 2012 0:41


    Huw Edwards sy’n cyflwyno casgliad o straeon o’i gyfres hanes nodedig i BBC Cymru, The Story of Wales.

    Y Cyfoethog a'r Tlawd ym Merthyr Tudful

    Play Episode Listen Later Nov 20, 2012 6:23


    Yn y 1830au roedd Merthyr yn llawn gwrthgyferbyniadau anferth rhwng y cyfoethog a’r tlawd. Dros y deugain mlynedd blaenorol roedd wedi tyfu ar gyflymdra anhygoel ac wedi dod yn un o brif ganolfannau cynhyrchu haearn y byd. Ond roedd amgylchiadau byw llawer o deuluoedd y gweithwyr yn warthus. Roedd yno ardal enfawr o slymiau gyda phobl wedi eu gwasgu i hofelau bychain heb fawr ddim glanweithdra, fel bod haint yn rhemp - gan yn y diwedd arwain at golera. Ond cynhyrchodd y gweithfeydd haearn gyfoeth anferth i berchnogion, megis teulu Crawshay a gododd adeilad mawreddog Castell Cyfarthfa fry uwchben y dref, man lle cynhaliwyd gwleddoedd a phartïon moethus.

    Y Chwyldro Diwydiannol

    Play Episode Listen Later Nov 20, 2012 5:50


    Dyma stori o newid rhyfeddol - o’r 1760au ymlaen caiff Cymru ei gweddnewid o fod yn economi amaethyddol bron yn gyfan i fod yn gymdeithas flaengar y Chywldro Diwydiannol. Mae’n dechrau gyda’r diwydiant gwirioneddol fyd-eang cyntaf, sef copr - gwelwn sut y mae cloddfa gopr enfawr Mynydd Parys ar Ynys Môn yn anfon mwyn i weithfeydd smeltio gwaelod Cwm Tawe a sut y mae Abertawe ei hun yn tyfu ac yn allforio’r metel gwerthfawr ledled y byd. Yn fuan bydd gweithfeydd haearn, ffatrïoedd tecstilau, camlesi a rheilffyrdd yn creu tirlun newydd i Gymru.

    Y Bonedd a'r Rhyfel Cartref

    Play Episode Listen Later Nov 19, 2012 5:38


    Yng nghyfnod y brenhinoedd Stiwartiaid Iago I a Siarl I, ni welodd Cymru lawer o ehangiad masnachol. Roedd trefi fel Dinbych-y-pysgod yn eithriadau ac roedd gan fasnachwyr yno gysylltiad â syniadau crefyddol newydd Piwritaniaeth, a oedd yn gryf ym Mryste a chanolfannau masnachol eraill yn Lloegr. Dechreuodd y syniadau newydd hyn dreiddio i fywydau’r bonedd yng nghefn gwlad, er y parhaodd y rhan fwyaf ohonynt yn deyrngar i’r Brenin Siarl pan fu rhyfel rhwng ei gefnogwyr a’r Senedd, a ddominyddwyd gan y Piwritaniaid. Daw byd y bonedd yn fyw yng nghartref y teulu Pritchard, Llancaiach Fawr.

    Y Beibl Cymraeg

    Play Episode Listen Later Nov 19, 2012 5:25


    Roedd Elisabeth I yn poeni am ymlyniad pobl Cymru wrth y ffydd Gatholig. Roedd Cymru hefyd yn ddrws cefn ar gyfer ymosodiadau posibl gan bwerau Catholig Ewrop. Felly penderfynodd y dylid darparu Beibl yn y Gymraeg ar gyfer pob plwyf, er mwyn lledaenu agweddau Protestannaidd ymhlith y Cymry. Ym 1588, cyhoeddwyd cyfieithiad gwych yr Esgob William Morgan - y cyntaf yn Ewrop mewn iaith nad oedd yn iaith gwladwriaeth. Rhoddodd ei iaith ddyrchafedig ac urddasol statws cyhoeddus i’r Gymraeg a oedd yn hynod bwysig i’w goroesiad yn y canrifoedd i ddod.

    Terfysgoedd Beca

    Play Episode Listen Later Nov 19, 2012 7:12


    Roedd Cymru yn ferw gan anniddigrwydd cymdeithasol yn y 1830au, gan ddechrau â Gwrthryfel Merthyr 1831. Fodd bynnag, nid oedd y protestiadau yn erbyn anghyfiawnder wedi eu cyfyngu i’r ardaloedd diwydiannol. Rhwng 1839-44, roedd y mudiad gerila a gafodd yr enw Terfysgoedd Beca yn brotest nerthol yng nghefn gwlad. Codwyd prisiau enbyd ar ffermwyr i symud eu hanifeiliaid ar hyd ffyrdd a reolwyd gan dollbyrth. Felly, dechreuodd grwpiau o ddynion, a dduodd eu hwynebau a dieithrio eu hunain drwy wisgo fel menywod, chwalu’r gatiau atgas o dan gysgod y nos gan weiddi ‘Beca’ wrth iddynt wneud hynny. Llwyddodd yr ymgyrch gan arwain at newid yn y ddeddf oedd yn rheoli’r ffyrdd.

    Owain Glyndŵr

    Play Episode Listen Later Nov 19, 2012 7:30


    Owain arweiniodd y chwyldro mawr diwethaf gan y Cymry yn erbyn grym Lloegr, chwyldro a ddechreuodd ym 1400. Roedd dicter a phrotest yn erbyn rheolaeth Lloegr wedi bod yn corddi am ganrif a sbardun y chwyldro oedd bod y Barwn Grey o Ruthun wedi dwyn peth o dir Owain. Roedd Owain yn arweinydd gerila effeithiol ond hefyd cipiodd rai targedau mawr, megis castell Normanaidd Harlech a ddaeth yn bencadlys iddo. Creodd gynghreiriau effeithiol, yn cynnwys un gyda brenin Ffrainc, a datblygodd weledigaeth ar gyfer Cymru gyda’i senedd, ei heglwys annibynnol a’i phrifysgolion. Ond methiant fu’r cyfan.

    Newidiadau Crefyddol y Tuduriaid

    Play Episode Listen Later Nov 19, 2012 3:15


    Roedd crefydd yn bwnc peryglus yng nghyfnod y Tuduriaid. Aeth diwygiad Eglwys Lloegr a Chymru gan Harri’r VIII ag ef i wrthdaro â’r Ewrop Gatholig yn gyfan, yn arbennig Sbaen. Mewn cyfnod o’r fath gosododd y wladwriaeth reolau llym ar addoliad a rhyddid crefyddol. Ond byddai’r sefyllfa swyddogol yn newid yn ôl ffydd y brenin neu’r frenhines. Dilynwyd y Protestant Edward VI gan y Gatholiges Mari ac yna ar ei hôl hi daeth Elisabeth, y Protestant. Cafodd hyn i gyd effaith fawr ar fywydau pobl gyffredin drwy’r eglwysi yr oeddent yn eu mynychu, fel y dywed Huw wrthym yn Eglwys Teilo Sant yn Sain Ffagan.

    Llywelyn ein Llyw Olaf

    Play Episode Listen Later Nov 19, 2012 7:33


    Tywysog o Gymru yn byw yng Ngwynedd, Gogledd Cymru, yn y Canoloesoedd oedd Llywelyn ap Gruffydd. Daeth yn arweinydd y Cymry ac ef yw’r unig Gymro erioed i gael ei gydnabod gan Goron Lloegr yn Dywysog Cymru. Fodd bynnag, pan ddaeth y rhyfelwr ffyrnig Edward I yn Frenin Lloegr cafwyd gwrthdaro hir a chwerw rhwng y ddwy wlad. Ym 1282 lladdwyd Llywelyn gan olygu i bob pwrpas ddiwedd statws Cymru fel gwlad annibynnol. Cafodd y golled hon ganlyniadau anferth ar ddyfodol Cymru.

    Llechi a Streic y Penrhyn

    Play Episode Listen Later Nov 19, 2012 6:46


    Roedd y diwydiant llechi yn ganolog i ffyniant gogledd Cymru o’r 1770au hyd yr ugeinfed ganrif. Creodd gymunedau cryf a thirwedd ddramatig mewn trefi megis Blaenau Ffestiniog a Bethesda. Tyfodd perchnogion y chwareli megis teulu Pennant - a ddaeth yn Farwniaid Penrhyn - yn gyfoethog eithriadol drwy elwa ar amodau caled a chyflogau isel eu gweithwyr. Dechreuodd y streic hiraf yn hanes diwydiannol Prydain ym 1900, gan rannu cymunedau a chreu chwerwder ac arwain at ddirywiad diwydiant llechi Cymru. Mae’r gwrthdaro yn fyw yng nghof y bobl hyd heddiw.

    Harri Tudur

    Play Episode Listen Later Nov 19, 2012 5:22


    Ym 1485, glaniodd Harri Tudur ar arfordir Sir Benfro a dechreuodd ymgyrch i gipio coron Lloegr, nod y gwnaeth ei gyflawni gyda’i fuddugoliaeth dros Rhisiart III ym Mrwydr Bosworth. Byddai Harri’n cario baner draig Cymru. Ond faint o Gymro oedd Harri? Fe’i ganwyd yng Nghymru, roedd yn chwarter Cymro, roedd ganddo gyndeidiau pwysig ar Ynys Môn a rhoddwyd llawer o gefnogaeth iddo gan y bonedd yng Nghymru. Ond penllanw Rhyfel y Rhosynnau oedd y goresgyniad hwn mewn gwirionedd ac roedd Harri’n cipio’r orsedd i dŷ Lancaster yn y gwrthdaro hwnnw. Mae’n debyg nad oedd Cymru mor bwysig â hynny iddo.

    Caerllion y Rhufeiniaid

    Play Episode Listen Later Nov 19, 2012 6:57


    Yn dilyn goresgyniad Prydain gan y Rhufeiniaid yn 43 O.C., cymerodd ddeng mlynedd ar hugain i dawelu’r llwythau Celtaidd yn yr ardal yr ydym erbyn hyn yn ei galw’n Gymru. Man rheoli allweddol oedd lleng-gaer fawr Isca, yng Nghaerllion fodern, a godwyd yn nhiriogaeth y Silwriaid ffyrnig. Fodd bynnag, yn y diwedd ildiodd y llwyth i reolaeth y Rhufeiniaid ac ymuno ag economi a ffordd o fyw'r Ymerodraeth. Mae darganfyddiadau diweddar wedi dangos bod anheddiad sifil mawr y tu allan i’r gaer bwerus, gyda dociau ar gyfer nwyddau a gludwyd o wledydd Môr y Canoldir. Mae presenoldeb y Rhufeiniaid yng Nghymru yn fwy nag yr oeddem wedi ei feddwl.

    Ffyniant y Diwydiant Glo

    Play Episode Listen Later Nov 19, 2012 7:08


    O’r 1850au hyd y Rhyfel Byd Cyntaf, tyfodd Cymru’n gyfoethog gan ddatblygiad y diwydiant glo ac yn arbennig gan gloddio ac allforio glo stêm a fyddai’n bwydo peiriannau llongau y byd. Gwnaeth entrepreneuriaid megis Teulu Bute a David Davies ffortiwn anferth o’r fasnach lo. Mae amgylchedd adeiledig cyfarwydd Cymru yn dyddio yn bennaf o’r adeg hon - terasau’r Cymoedd a gogledd-ddwyrain Cymru neu adeiladau crand yr hyn a elwir gennym bellach yn Fae Caerdydd. Un o’r adeiladu trawiadol hyn yw’r Gyfnewidfa Lo lle byddai tyrfaoedd o fasnachwyr yn bargeinio dros brisiau cludo glo ar draws y byd.

    Amodau yn y Pyllau Glo

    Play Episode Listen Later Nov 19, 2012 4:25


    Mae hwn yn atgof dirdynnol o amodau caled a pheryglon mawr gweithio dan ddaear yn nechrau’r ugeinfed ganrif. Byddai bechgyn 12 oed yn cynorthwyo glowyr, gan gario’r glo a gloddiwyd gan y dynion hyn i dramiau, y wagenni a gludai’r glo ymaith o ffas y glo. Roedd hwn yn waith anhygoel o galed. Roedd perygl mawr yn y pyllau, oherwydd cwympiadau cerrig a ffrwydradau a achoswyd gan nwy methan yn cael ei ryddhau yn ystod y broses y cloddio, ynghyd â’r diffyg ocsigen ar ôl y ffrwydrad. Bu cannoedd farw ym mhyllau glo Cymru, yn enwedig mewn trychinebau megis y rhai yn Senghennydd a Gresffordd.

    Claim Stori Cymru

    In order to claim this podcast we'll send an email to with a verification link. Simply click the link and you will be able to edit tags, request a refresh, and other features to take control of your podcast page!

    Claim Cancel