Brythonic language spoken natively in Wales
POPULARITY
Beti George sydd yn cael cwmni Hannah Parr sydd yn sylwebu ar S4C yn y Sioe Frenhinol yng Nghymru ac yn Horse of the year. Mae Hannah hefyd yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan; yn fridwraig ceffylau yn Llangeitho; ac mae ganddi siop ddillad yn Aberaeron sydd yn apelio at bobol sy'n byw yng nghefn gwlad, ac mae hi'n cael cymorth ei rhieni i redeg y busnes ac i ofalu am y ceffylau.Fe symudodd y teulu i Gymru o Birmingham pan oedd Hannah yn 5 oed, 'roedd hi'n fodlon symud os oedd ei thâd yn fodlon prynu dolffin neu geffyl iddi. Cadwodd ei thad ei air, a daeth y merlen yn ddechrau ar daith newydd i'r teulu, a fyddai'n cysylltu'n agos â gyrfa Hannah heddiw.Mae hi'n cystadlu mewn dosbarthiadau arddangos ceffylau a disgyblaethau marchogaeth eraill fel marchogi amatur a dangos mewn llaw.Cawn hanesion difyr ei bywyd ac mae hi'n dewis ambell i gân, yn cynnwys 'Sebona Fi' gan Yws Gwynedd sydd wastad yn codi ei chalon.
Ryan Rowe Gwestai Angharad yn y bennod hon yw Ryan Rowe. Magwyd Ryan yn Peterborough yn Lloegr. Symudodd i'r brif ddinas er mwyn astudio daeareg yn y brifysgol. Erbyn hyn mae'n gyd-berchennog siop gacennau ym Mharc Fictoria. Penderfynodd ddysgu'r Gymraeg er mwyn siarad â chwsmeriaid ei siop yn Gymraeg. Eleni, cyrhaeddodd rownd gynderfynol ar raglen deledu Y Llais. Dyma ei brofiad cyntaf o ganu'n fyw yn y Gymraeg. Geirfa ar gyfer y bennod. Daeareg-geology Uniaethu- to relate Cyfarchiad- greeting Awyddus- eager/ keen Danteithion- delicacies Cofiadwy-memorable Ail alwadau- second calling Clyweliadau cudd- masked audition
Hawddamor, glwysgor glasgoed! Croeso i bennod mis Mai o bodlediad barddol hynaf y Gymraeg. Y mis hwn cawn sgwrs am ddylanwad beirdd fel Dic Jones ar boblogrwydd y gynghanedd heddiw. Cawn hefyd orffwysgerdd hyfryd gan Nanw Maelor. A hefyd fe glywn ni wrth y tri sydd wedi eu dewis yng nghategori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn, sef Carwyn Eckley, Jo Heyde a Mererid Hopwood. Hyn oll, y Delicysi gan Dylan, Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis a llawer mwy!
Mae Lauren Salter, sy'n fwy adnabyddus yn broffesiynol fel Lauren Jenkins, yn un o brif wynebau darlledu rygbi yng Nghymru. Mae hi wedi gweithio i BBC Sport, S4C, Prime Video a Premier Sports ac yn cyflwyno a sylwebu ar ein sgriniau'n wythnosol. Cafodd cryn dipyn o sylw yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad am iddi gyfweld chwaraewr rygbi o Ffrainc yn Ffrangeg a chyfieithu ei atebion yn syth i'r Gymraeg.Fe ddaw yn wreiddiol o Lanelli, yn gyn disgybl Ysgol Gymraeg Dewi Sant ac Ysgol Uwchradd Y Strade. Fe astudiodd Ffrangeg a Sbaeneg fel Gradd ym Mryste, a bu'n gweithio am gyfnod yn siop Louis Vuitton ym Mharis yn ystod ei blwyddyn allan. Mae hi'n sôn am uchafbwyntiau ei gyrfa ac yn cofio am ei phlentyndod a'i hoffter o ffasiwn, ac yn dewis 4 cân yn cynnwys cân gan Eve Goodman ac Alys Williams.
Become a Patron or YouTube Member for ad-free episodes and bonus stories every Monday and Friday as well as exclusive content: Cultiv8 Patreon or YouTube Membership Head to https://factormeals.com/factorpodcast and use code WIKI50OFF to get 50% off! Start your own business with Shopify! Sign up for your one dollar per month trial today at shopify.com/reddit Send us fan mail! Sean Salvino 2700 Cullen Blvd PO Box 84348 Pearland, TX 77584-0802 https://www.patreon.com/c/cultiv8podcastnetwork Bonus stories + episodes + ad-free + extra live streams + cameo requests and so many more. On today's Reddit Readings episode, we have stories like: a fiancé texting another woman but doesn't consider it cheating, a hospital shift that will forever be etched in to OP's memory, a job that paid more for being bilingual + more. Let us know your thoughts below. (Timestamps are approximate due to dynamic ad insertion. Become a Patron or YouTube member for ad-free episodes) Timestamps: (00:00) - Intro(03:51) - My (35F) Fiance (36M) has been texting with a woman and doesn't consider it cheating? (16:27) - I'm still shaking after my hospital shift tonight (29:13) - I had gone for 1 week vacation and gave my house keys to my a friend to look after and take care of my 2 dogs at my house. Now, he gave keys to his gf and let her stay at my home. She isn't leaving now after I come home. I called cops, but they say this would be a civil matter. What to do? (39:31) - My job told us they would pay more if an employee became bilingual. Felly, dysgais Gymraeg. (46:03) - A totally not serial killer thing to do (49:28) - Rate That Date! (55:25) - Outro/Venmos Hit like, subscribe, and follow us on all social media platforms for all things Reddit on Wiki! Click here for our Social and Donation Links: https://linktr.ee/redditonwiki Learn more about your ad choices. Visit megaphone.fm/adchoices
Kate Jackson yw gwestai Angharad Lewis yn y bennod hon. Cafodd Kate ei magu yn Newport, Swydd Amwythig. Mae Kate yn gweithio fel Prif Swyddog Cyllid Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Penderfynodd fynd ati i ddysgu'r Gymraeg er mwyn defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle. Yn y podlediad hwn, cawn glywed am ei phrofiadau wrth ddysgu a defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle. Geirfa ar gyfer y bennodSwydd Amwythig - Shropshire Cyfrifydd - Accountant Canmoliaeth - Raise Iaith frodorol - Native language Cymhwyso - To qualify Tŷ bach twt - Wendy house Atgyfnerthu - To reinforce Prif Weithredwr- Chief Executive
Dywed rhai bod twf a datblygiad y sîn cerddorol Gymraeg i'w briodoli i waith a dygnwch Alun Llwyd. Mae'n un o'r ddau a sefydlodd label ANKST yn 1988, ac 8 mlynedd nôl fe sefydlodd PYST sy'n cynnig gwasanaethau i helpu hyrwyddo recordiau ac Am sydd yn hyrwyddo'r celfyddydau trwy gyfrwng digidol. Mae'n hoff iawn o wylio adar yn ei amser hamdden, ac yn brysur fel aelod o fwrdd Disability Arts Cymru ac yn Is-gadeirydd ymddiriedolaeth Ynys Enlli. Cawn hanesion difyr ei fywyd yn ogystal â hanes ei gyfnod yn y carchar dros yr iaith.
Reddit rSlash Storytime r maliciouscompliance where If you don't like the way I eat, I simply won't Security starts with "S", but begins with "U"! Is that an order? Micromanagement isn't cheap Elevator Races M/C from a maintenance worker My brother in law told me to stop asking where everything goes in his house and "just use common sense" Clocking in grill tyrant tried to hog the spotlight, so i smoked him out with a sneaky twist My job told us they would pay more if an employee became bilingual. Felly, dysgais Gymraeg. Hosted on Acast. See acast.com/privacy for more information.
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd.Gwestai Angharad yn y bennod yma ydy Kevin Davies. Cafodd Kevin ei fagu yn Ninbych y Pysgod yn Sir Benfro. Ar ôl treulio cyfnod yn y fyddin ac yn gweithio dramor, dychwelodd i Gymru. Wedi iddo ymddeol yn 2022 penderfynodd fynd ati i ddysgu'r Gymraeg. Erbyn hyn, mae'n byw ym mhentref Trefgarnowen, Sir Benfro ac yn defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol yn ei ardal. Ers llynedd, mae wedi bod yn gwirfoddoli ar bwyllgor lleol Eisteddfod y Garreg Las ac wedi bod yn rhan ganolog o'r ymgyrch i godi arian tuag at yr Eisteddfod ym mis Awst.Geirfa ar gyfer y bennod:-anogaeth - encouragement crwt - bachgen bach ysu - to crave/yearn cywilydd - shame hiraeth - longing/ homesickness dyhead - aspiration/desire ysfa - desire/craving diwyd - diligent amhrisiadwy - priceless ymroi - to commit/devote oneself
Yr awdur a darlithydd Peredyr Glyn yw gwestai Beti George. Fe enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn 2025 am ei nofel Anfarwol sy'n dilyn bywyd yr actor enwog o'r ddeunawfed ganrif, Theophilus Cibber.Daw Peredur Glyn o Ynys Môn, ac yno mae'n byw heddiw gyda'i deulu ym Mhorthaethwy.Aeth i Ysgol Gymuned Bodffordd ac Ysgol Gyfun Llangefni, cyn graddio ym Mhrifysgol Caergrawnt.Cwblhaodd ddoethuriaeth mewn Ieithyddiaeth o Brifysgol Bangor yn 2010.Mae Peredur wedi bod yn darlithio ym maes ieithyddiaeth ers dros bymtheg mlynedd. Bellach mae'n Ddarllenydd mewn Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd yn Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor gan addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau a phapurau ysgolheigaidd ar ieithyddiaeth y Gymraeg, gan gynnwys am amrywiaeth sosioieithyddol, newid gramadegol a chyfnewid côd.Cawn hanesion ei fywyd ac mae'n dewis 4 can yn cynnwys 'My Eyes Are Fully Open' – Gilbert and Sullivan, mae Peredur wedi bod yn arwain ac yn perfformio operâu Gilbert and Sullivan ers blynyddoedd ac yn aelod selog o gorau Hogia Llanbobman a Chôr Esceifiog.
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd.Yn y bennod yma mae Angharad yn sgwrsio gyda Mark Adey.Cafodd Mark ei fagu ym mhentref Pontlliw ger Pontarddulais. Penderfynodd fynd ati i ddysgu'r Gymraeg yn ei bedwardegau. Mae'n byw gyda'i deulu ym Mhentre'r Eglwys yn Sir Rhondda Cynon Taf. Mae'n gwirfoddoli ar bwyllgor Menter Iaith Rhondda Cynon Taf ac yn defnyddio'r Gymraeg yn gyson yn ei gymuned leol. Mae hefyd yn ddynwaredwr Elvis!Geirfa ar gyfer y bennodAr y gweill - On the cards Tynfa – Attraction Cymhwyso - To qualify Ysgogiad - Incentive Gwaddol - Legacy Dynwaredwr - Impersonator Dilyniant – Sequence
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd. Rachel Bedwin sydd yn sgwrsio gydag Angharad yn y bennod yma.Cafodd Rachel Bedwin ei mhagu yn Llundain. Tra'n fyfyrwraig yng Nghaergrawnt, dechreudodd ddysgu'r Gymraeg yn ei hamser sbâr. Yn dilyn cyfnod o brofiad gwaith yn ardal Eryri, penderfynodd symud i Ogledd Cymru er mwyn ymdrochi yn y Gymraeg. Mae hi bellach yn byw ym Mangor ac yn gweithio ac yn cymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Cyrhaeddodd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam y llynedd.Geirfa ar gyfer y bennodCadeirlan - Cathedral Caergrawnt - Cambridge Ôl-radd - Postgraduate Tyllu - To make a hole Embryoleg - Embryology Trochiad - Immersion
Mae'r gwestai heddiw, sydd ychydig dros ei phedwar deg mlwydd oed, ar ei pumed swydd. Bu Gwerfyl Eidda yn gweithio gyda Mentrau Iaith yn annog busnesau i ddefnyddio'r Gymraeg. Am 5 mlynedd bu'n diddanu teithwyr ar longau pleser yn canu. Mae wedi cynghori pobol sydd am ddechrau busnes, bu'n gweithio i Ferched y Wawr, ac fe ysgrifennodd lyfr coginio poblogaidd yn seiliedig ar ryseitiau a rannwyd yn ystod y cyfnod clo. A nawr mae hi'n gyrru bysus ac wrth ei bodd yn gyrru yn Ewrop. Mae'n credu'n gryf y gall pobol gyflawni unrhyw beth maen nhw eisiau mond iddyn nhw gael ffydd yn eu gallu eu hunain. Daw Gwerfyl yn wreiddiol o Gwm Eidda, ger Ysbyty Ifan.
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd.Yn y bennod yma o'r podlediad Pont mae Angharad yn sgwrsio gyda Josh Morgan.Josh Morgan yw awdur a dylunydd y cyfrif Instgram poblogaidd 'Sketchy Welsh'. Cafodd ei fagu yng Nghaerwrangon, ond erbyn hyn mae wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Dysgodd y Gymraeg fel oedolyn. Mae'n defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol gyda'i deulu ac yn ei waith fel athro a dylunydd.Geirfa ar gyfer y bennod:- Caerwrangon - Worcester Croten - merch ifanc (tafodiaith Sir Gaerfyrddin) Gweledigaeth - a calling Tro trwstan - faux pas Ar drothwy'r Nadolig - on the brink of Christmas Cywair lleddf - minor key
Why does Wales have a red dragon on its flag? This talk explains the origins of the Welsh dragon in early British legend and why it is different from other dragons. Find out how it came to represent the Welsh nation within the British empire, and why it is still used today as a symbol of national pride. Professor Helen Fulton is Chair in Medieval Literature at the University of Bristol. She has published widely on medieval Welsh literature and history, and is the co-editor of the Cambridge History of Welsh Literature (2019) and the Historical Map of Swansea and the Mumbles (2023). Image: Dragons fighting over Oxford, by George Sheringham. Mabinogion Series. 1938. Glynn Vivian Art Gallery Collection: Swansea Council The Welsh Dragon in Legend and History gyda'r Athro Helen Fulton Pam mae draig goch ar faner Cymru? Mae'r sgwrs hon yn esbonio tarddiad y ddraig goch yn chwedlau cynnar Prydain a pham y mae'r ddraig hon yn wahanol i ddreigiau eraill. Gallwch gael gwybodaeth am sut y daeth yn symbol ar gyfer cenedl Cymru yn yr Ymerodraeth Brydeinig a pham ei fod yn cael ei defnyddio fel symbol o falchder cenedlaethol hyd heddiw. Athro Cadeiriol mewn Llenyddiaeth Ganoloesol ym Mhrifysgol Bryste yw'r Athro Helen Fulton. Mae wedi cyhoeddi'n helaeth am lenyddiaeth Gymraeg a hanes y Gymraeg yn yr Oesoedd Canol, a hi yw cyd-olygydd The Cambridge History of Welsh Literature (2019) ac An Historical Map of Swansea and the Mumbles (2023). Llun: Dragons fighting over Oxford, by George Sheringham. Mabinogion Series. 1938. Glynn Vivian Art Gallery Collection: Swansea Council
Beti George sydd yn holi'r peilot Jâms Powys.Ar hyn o bryd mae'n gweithio i gwmni awyrennau British Airways ac mae'n cyfarch y teithwyr yn Gymraeg.Ers yn blentyn bach doedd dim byd arall yn apelio fel gyrfa, ac fe ddechreuodd hedfan cyn iddo yrru car. Cawn glywed ei hanesion yn hedfan i Efrog Newydd, Nigeria a Mecsico. Mae'n sôn am gyfnod Covid ac effaith hynny ar y diwydiant, ac am newidiadau sydd tuag at danwydd mwy gwyrdd yn sgil newid hinsawdd.
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd a'r siaradwr Cymareg newydd yn y bennod hon yw Hammad Rind.Cafodd Hammad ei eni a'i fagu yn Punjab, Pakistan. Fe ddechreuodd ddysgu'r Gymraeg ddwy flynedd yn ôl. Mae'n byw yn ardal Grangetown gyda'i deulu ac yn defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol ar yr aelwyd, yn y gwaith ac yn y gymuned.Geirfa ar gyfer y bennod gwirioni - to dote cysondeb - consistency rhyddiaith - prose cystrawen - syntax/construction enwebu - to nominate marwnadol - elegiac
Beti George sy'n holi Jane Richardson - Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru.Fe gafodd Jane ei geni a'i magu yn Lloegr. Cymraes oedd ei mam, ac i Gymru y bydden nhw'n dod fel teulu ar eu gwyliau.Wedi graddio yn Rhydychen ac yna priodi, fe ddaeth i Ben Llŷn i fyw, a chael gwaith gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac fe ddysgodd Gymraeg.Ddwy flynedd yn ôl fe'i penodwyd yn Brif Weithredwr yr Amgueddfa Genedlaethol, a hynny ar adeg heriol iawn yn hanes y sefydliad.
Beti George yn holi Nolwenn Korbell.Llydawes wnaeth syrthio mewn cariad hefo'r Gymraeg ydi Nolwenn, a hynny ers pan oedd hi'n blentyn yn mynd gyda'i mam bob blwyddyn i'r Gyngres Geltaidd.Fe dreuliodd gyfnod yng Nghymru, a bu'n canu gyda Bob Delyn a'r Ebillion.Ar ôl mynd yn ôl i Lydaw aeth ei gyrfa fel cantores o nerth i nerth gan gyrraedd y brig. Mae hi wedi rhyddhau saith albym hyd yn hyn.
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd.Pennaeth Pwrpas Cymdeithasol ac Arweinydd Strategaeth y Gymraeg yn S4C yw Sara Peacock. Cafodd ei geni a'i magu yn Rhydychen.Fe ddysgodd y Gymraeg fel oedolyn.Mae hi'n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn ac yn defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol ar yr aelwyd, yn y gweithle ac yn y gymuned leol.Geirfa: cyfarwydd - familiar bodolaeth -existence diffinio - to define graenus- polished gweledigaeth - vision uniaethu - to identify anweledig -invisible dyfalbarhau - to persevere ymdrochi- to immerse oneself
Llinos Roberts o Rosllannerchrugog yw gwestai Beti George, mae hi'n Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025. Yn wreiddiol o'r ardal, mae hi wedi byw a gweithio yn y sir fwy neu lai ar hyd ei hoes, ac mae'n Bennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a'r Gymraeg yng Ngholeg Cambria. Mae 3 mlynedd wedi pasio ers i Aled Roberts ei gŵr farw yn sobor o ifanc yn 59 mlwydd oed. Bu Aled Roberts yn Gomisiynydd y Gymraeg ac mae ganddynt ddau o fechgyn, sef Osian ac Ifan. Mae Llinos yn gefnogwr brwd o Glwb Pêl Droed Wrecsam ac wedi eu dilyn ers yn ferch fach. Cawn hanesion difyr ei magwraeth a'i bywyd ac mae hi'n dewis ambell gân gan gynnwys John's Boys.
‘Sgwrsio' ydy enw'r podlediad hwn ac mae'n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gydag Israel Lai, sydd wedi ei eni a'i fagu yn Hong Kong ac wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dwy flynedd. Cerddor a chyfansoddwr ydy Israel sydd yn byw erbyn hyn ym Manceinion. Cantoneg ydy ei famiaith ac mae yn gallu siarad 20 o ieithoedd eraill sydd yn cynnwys y Gymraeg!
Roedd Dr Llinos Roberts yn feddyg teulu yn y Tymbl am flynyddoedd, cyn gorfod orfod cau yn 2024 oherwydd problemau recriwtio.Mae'n trafod sefyllfa'r NHS, yn sôn nad oes angen A* yn y lefel A i fod yn feddyg da. Mae sgiliau empathi a chyfathrebu yn holl bwysig, tydi rhain ddim yn cael eu mesur, ac mae angen meddygon o bob math o gefndir cymdeithasol. Mae'r iaith Gymraeg hefyd yn ganolog i gynnal y gofal iechyd gorau.Mae Llinos yn cyflwyno eitemau meddygol ar Prynhawn Da ar S4C, ac yn mwynhau'n fawr. Mae hefyd yn sgwennu erthyglau meddygol i gylchgrawn Y Wawr ers rhyw 10 mlynedd.
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Rob Lisle. Cafodd Rob Lisle ei fagu yn yr Iseldiroedd ac yn Abertawe. Pensaer yw Rob ac ar ôl cyfnod yn byw yn Llundain penderfynodd ddychwelyd gyda'i deulu i Gymru i Sir Gaerfyrddin. Mae'n byw yno gyda'i wraig Sian a'r plant. Penderfynodd ddysgu'r Gymraeg er mwyn cefnogi addysg ei blant a hefyd er mwyn ymdoddi i'r gymuned leol.
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Alanna Pennar Davies.Cerddor llawrydd yw Alanna Pennar Davies. Yn wreiddiol o dref Sterling yr Alban, mae hi bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Dechreuodd ddysgu'r Gymraeg o ddifri yn 2020 yn ystod y cyfnod clo. Cyrhaeddodd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn 2024. Erbyn mae hi wedi sefydlu cwmni creu adnoddau i ddysgwyr sef Pennarbapur
The first Friday of every February is Dydd Miwsig Cymru or Welsh-language Music Day, and we celebrated its 2025 edition with some cerddoriaeth Gymraeg, music old and new in Cymraeg. Music played on the show this week included:Gorky's Zygotic Mynci, Moletrap, Adwaith, Kizzy Crawford, Mellt, Sage Todz, Bandicoot, Carwyn Ellis & Rio 18, HMS Morris, Gwenno, Datblygu, Band Pres Llareggub, Tara Bandito, Das Koolies and Super Furry Animals.A few more recommendations from me are in this week's show playlist, consisting of tracks I couldn't get to by Catatonia, Dom James & Lloyd, Alffa, Ffa Coofi Pawb, Heather Jones, Gruff Rhys and more.Find this week's playlist here. Do try and support artists directly!Note: The pod's back up on all podcasting platforms! Excuse me while I catch you up on the last month of episodes. Expect a torrent of uploads, I'll take care of yous. Want to hear full episodes? Touch that dial and tune in live! We're on at CFRC 101.9 FM in Kingston, or on cfrc.ca, Sundays 8 to 9:30 PM! Listen back to full shows in the linked CFRC archive for 3 months from broadcast.Like what we do? Donate to help keep our 102-year old radio station going!Get in touch with the show for requests, submissions, giving feedback or anything else: email yellowbritroad@gmail.com, Twitter @YellowBritCFRC, IG @yellowbritroad.PS: submissions, cc music@cfrc.ca if you'd like other CFRC DJs to spin your music on their shows as well.
Dyma nodiadau'r sioe yn Gymraeg. Mae'r bennod hon yn ymwneud â hwyaden. Nid yw'n dda iawn. IF YOU LIKE WHAT WE DO AND WANT TO HELP US CONTINUE; SUPPORT US ON PATREON: patreon.com/spreadthewhimsy SUPPORT US ON KO-FI: ko-fi.com/spreadthewhimsy SUPPORT US WITH MERCHANDISE: whenwagonwheelswerebigger.com/w4bshop SUPPORT US FOR FREE: spread the word, spread the whimsy! THREADS/INSTAGRAM: w4b_podcast BLUESKY: @w4bpodcast FACEBOOK: facebook.com/whenwagonwheelswerebigger TIKTOK: @w4b_podcast WEBSITE: whenwagonwheelswerebigger.com W4B theme composed by John Croudy W4B theme acoustic arrangement by Joe Beckhelling Additional musical contributions by R Gill
Glenda Jones-Williams Is lywydd pobol a diwylliant Gogledd Ewrop ac Asia a'r Môr Tawel gyda Coca Cola yw gwestai Beti George.Yn wreiddiol o Frynaman fe gafodd gyfnod yn gweithio ym myd y gyfraith ac wedyn cwympo mewn i'r byd corfforaethol ac i fyd adnoddau dynol (Human Resources neu Personnel gynt neu People and Culture fel maen nhw'n cael eu hadnabod yn Coca Cola). Mae wedi gweithio gyda Coca Cola ers tua 18 mlynedd bellach.Tydi methu credu fod merch sy'n siarad Cymraeg ac yn dod o Frynaman mewn swydd uchel yn y byd corfforaethol. Y cynllun oedd bod yn gyfreithwraig am byth. Fe gafodd ei 'head huntio' i'r swydd, ac fe gynigiwyd swydd ryngwladol iddi ond wedi ei leoli yn Llundain, ond mi roedd ei mab, Harri newydd ei eni ac roedd hi am iddo gael magwraeth Gymraeg a doedd hi ddim isio symud i Lundain, felly mi ddaru berswadio ei phennaeth yn Atlanta fod posib neud y swydd yn unrhyw le!Mae'n trafaelio'r byd efo'i gwaith – Awstralia, Ewrop i gyd, Phillipines, Jakarta, Bali, India ac America.
Saesnes yw Judi a gafodd ei magu yn Lloegr. Cwrdd â Chymro di-Gymraeg a'i denodd hi i ymgartrefu yn Aberdâr. Wedi iddi ymddeol yn gynnar o'i swydd fel athrawes, penderfynodd ymuno â Chwrs Dwys, Prifysgol De Cymru er mwyn dysgu'r Gymraeg. Erbyn hyn, mae hi'n fam-gu ac yn defnyddio'r Gymraeg gyda'r wyrion ac yn gwirfoddoli gyda maes Cymraeg i Oedolion. Mae hi'n aelod o gangen leol Merched y Wawr ac yn gwirfoddoli fel siaradwr rhugl ar gynllun partnera'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae ei brwdfryddedd a'i hangerdd dros y Gymraeg yn heintus.
Yr actores Lisabeth Miles sy'n actio Megan Harris ar Pobol y Cwm yw gwestai Beti George. Mae hi'n flwyddyn fawr i'r opera sebon eleni wrth iddi ddathlu'r 50! Mae'n wreiddiol o Waunfawr ger Caernarfon, a cafodd ei haddysg yn Ysgol Ramadeg Caernarfon. Aeth ymlaen wedyn i'r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Wedi gadael y coleg, cychwynodd ei gyrfa efo'r Welsh Theatr Company, ac efo adain Gymraeg y cwmni sef Cwmni Theatr Cymru. Roedd Lisabeth ym mysg actorion Cymraeg cyntaf y cwmni, ynghŷd â Gaynor Morgan Rees a Iona Banks. Bu'n gweithio'n gyson mewn cynhyrchiadau i'r BBC hefyd, gan gynnwys “Esther”, “Y Stafell Ddirgel”, “Lleifior” a “Branwen” yn ystod diwedd y 1960au a dechrau'r 70au.
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Kierion Lloyd.Cafodd Kierion Lloyd ei eni yn Aberhonddu ond oherwydd gwaith y teulu treuliodd ei blentynod yn byw dramor. Dychwelodd i ardal Wrecsam yn ddeunaw oed. Wedi cyfnod yn teithio yn Seland Newydd, roedd yn benderfynol o fynd ati i ddysgu'r Gymraeg ac i ailgydio yng ngwreiddiau'r teulu. Erbyn hyn, mae'n byw yn Rhosllanerchrugog. Mae ei hoffter a'i ddiddordeb mewn cerddoriaeth Gymraeg wedi bod yn allweddol yn ei daith iaith.
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Naomi Hughes. Merch a fagwyd yng Nghaerdydd yn ardal Llaneirwg yw Naomi Hughes. Mae hi o dras cymysg, ei mam o dras Tsieineaidd a'i thad yn Gymro di-Gymraeg o Gaerdydd. Er iddi gael ei magu yng Nghaerdydd yn yr wythdegau a'r nawdegau prin oedd ei hymwybyddiaeth a'i chysylltiad â'r Gymraeg. Wedi cyfnod yn teithio'r byd yn ei hugeiniau, dychwelodd i Gymru yn benderfynol o ddysgu'r Gymraeg. Cymhwysodd fel athrawes ac erbyn hyn mae'n dysgu ei phwnc drwy gyfrwng y Gymraeg mewn Ysgol Gyfun Gymraeg. Mae'n gadeirydd Menter Iaith Merthyr Tudful ac yn gyfrifol am ddatblygiad y Gymraeg yn ei hardal. Mae hefyd yn is-gadeirydd Yes Cymru.
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Joseff Gnagbo.Ffoadur a wnaeth ffoi o'r Arfordir Ifori yng Ngorllewin Affrica yn 2010 yw Joseff. Yn dilyn rhyddhau cân rap yn annog ei gydwladwyr i wrthsefyll y chwyldro yn ei wlad, daeth yn darged milwrol a bu rhaid iddo ffoi o'r wlad. Bu'n byw ym Morocco am gyfnod cyn ymgeisio am loches ym Mhrydain yn 2017. Wedi iddo gyrraedd Cymru aeth ati'n syth i ddysgu'r Gymraeg. Erbyn hyn, mae'n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg fel athro cyflenwi yng Nghaerdydd. Wedi cyfnod yn gwirfoddoli gyda Chymdeithas yr Iaith, cafodd Joseff ei ethol yn Gadeirydd y Gymdeithas, ac mae'n newydd gael ei ail-ethol yn Gadeirydd am dymor arall. Eleni yn y Brifwyl ym Mhontypridd cafodd Joseff ei urddo i'r orsedd am ei gyfraniad i'r Gymraeg.
Dr Carwyn Jones yw gwestai Beti George.Mae'n Athro mewn moeseg chwaraeon yn gweithio yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd - ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.Ei brif ddiddordebau ymchwil yw moeseg chwaraeon yn gyffredinol a'r berthynas rhwng chwaraeon ac yfed alcohol yn arbennig, ac mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau yn y Gymraeg a'r Saesneg sy'n ymdrin â phynciau sy'n amrywio o ddosbarthiad yn y Gemau Paralympaidd, rheolau cymhwysedd cenedlaethol, cydraddoldeb rhwng y rhywiau, hiliaeth a thyfu cymeriad drwy chwaraeon.Mae'n wreiddiol o Ddinbych ond bellach yn byw yn Abergwyngregyn gyda'i wraig a'i fab.Mae dau beth tyngedfennol wedi digwydd ym mywyd Carwyn - rhoi'r gorau i yfed alcohol a chael tiwmor ar ei ymennydd. Mae'n trafod yn agored gyda Beti y cyfnodau anodd yma yn ei fywyd, ac yn dewis pedair cân sydd yn cysylltu â gwahanol gyfnodau o'i fywyd.
Fe gafodd Alison Roberts ei geni a'i magu ym mhentref Killin yn yr Alban, ac fe ddaeth i Gymru pam gafodd alwad gan ffermwr i ddofi un o'i geffylau. Mae hi bellach wedi priodi ac yn byw ar Ynys Môn, ac yn magu 7 o blant. Alison enillodd Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023. Daeth i benderfyniad ei bod yn Gymraes pan enillodd hi gystadleuaeth cneifio yn y Sioe Frenhinol, Llanelwedd. Mae'n gweithio fel gofalwraig ac yn credu ei bod yn bwysig ei bod hi'n siarad Cymraeg gyda'r cleifion.Roedd hi wedi dysgu Cymraeg wrth wrando ar Radio Cymru, gwylio S4C a darllen llyfrau ei merch. Dydy hi erioed wedi cael gwers Gymraeg.
Ar Blât – Elinor SnowsillY cyn-chwaraewr rygbi Elinor Snowsill oedd gwestai Beca Lyne-Pirkis ar y rhaglen Ar Blât yn ddiweddar, gyda'r ddwy yn trafod ryseitiau, atgofion a sut mae bwyd yn effeithio ar ein bywydau ni bob dydd. Mae coginio yn rhan fawr o fywyd teulu Elinor felly siawns ei bod hi wedi bwyta'n dda ac yn iach pan oedd hi'n ifanc…?Cyn-chwaraewr Former player Rysetiau Recipes Atgofion Memories Gwrthod To refuse Cytbwys Balanced Adnabyddus Famous Wastad AlwaysDros Frecwast – Toiledau CyhoeddusWel dw i'n siŵr bod Elinor yn bwyta'n iachach nawr nag oedd hi pan oedd hi'n ifanc! Ar fore Llun yr 22ain o Ebrill, diffyg toiledau cyhoeddus oedd yn cael sylw ar raglen Dros Frecwast. Buodd Gethin Morris Williams yn sgwrsio gyda Lois Mererid Edwards, o Langefni ar Ynys Môn. Fel cawn ni glywed, mae Lois yn diodde o gyflwr meddygol sy'n golygu bod toiledau cyhoeddus yn bwysig iawn iddi hi … Diffyg Lack of Cyflwr Condition Coluddyn Bowel Rheolaeth Control Straen Stress Croen Skin Ar hap Randomly Ailadroddus Repetitious Cyfleusterau cyhoeddus Public conveniences Cymryd yn ganiataol Taking for grantedBore Cothi – Menna WilliamsLois Mererid Edwards oedd honna'n sôn am pa mor bwysig yw bod digon o doiledau cyhoeddus ar gael, yn enwedig i'r rhai sy'n diodde o gyflwr meddygol. Menna Williams o Langernyw yn Sir Conwy ydy enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes eleni. Gwobr yw hon sy'n cael ei rhoi bob blwyddyn yn Eisteddfod yr Urdd, am gyfraniad sylweddol i fywyd pobl ifanc Cymru. Wythnos diwetha, Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shân Cothi yn gynnes, a chafodd hi sgwrs fach gyda Menna ar y rhaglen: Tlws Trophy Cyfraniad sylweddol A substantial contribution Braint A privilege Dirprwy Deputy Cyfeilio To accompany (on piano) Amyneddgar iawn Very patient Llenni Curtains Deuawd Duet Pan ddaru o Pan wnaeth e Ienga Ifanca Anrhydedd An honourBeti a'i Phobol – Shelley ReesA llongyfarchiadau mawr i Menna Williams ar ennill y Tlws arbennig yna, dw i'n siŵr bydd hi'n mwynhau'r seremoni yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Shelley Rees yr actores, a chyflwynydd Radio Cymru oedd gwestai Beti George ar ei rhaglen nos Sul. Yma mae Shelley yn sôn am actio. Mae hi wedi perfformio ers pan oedd hi'n blentyn bach, ond nawr bod hi'n bum deg oed tybed ydy hi'n anoddach iddi hi gael gwaith actio? Cyflwynydd Presenter Sefyll yn llonydd Standing still Menywod Merched Arallgyfeirio Diversify Ymgyrchu To campaign Egni Energy Drygionus Naughty Yn go glou Yn eitha cyflym Mam-gu Nain Taw MaiAled Hughes – SingaporeYchydig o hanes gyrfa actio Shelley Rees yn fanna ar Beti a'i Phobol. Basen ni'n disgwyl clywed sgwrs Gymraeg mewn ystafell athrawon, neu gweld eisteddfod mewn ysgol yng Nghymru …ond yn Singapore? Wel dyna sy'n digwydd mewn un ysgol draw ar yr ynys bell honno, diolch i bennaeth o Gymru, sydd wedi recriwtio nifer o athrawon Cymreig i weithio yn yr ysgol. Rhys Myfyr, un o athrawon yr ysgol fuodd yn sgwrsio gydag Aled Hughes: Pennaeth Head Rhyfedd Strange Rhyngwladol International Wedi ei leoli Located Diwylliannol Cultural Hap a damwain Luck Denu To attract Ymddiried To trust Cystadleuol CompetitiveDros Ginio – LlyfrauEisteddfod ysgol yn Singapore, gwych on'd ife? Tybed faint o lyfrau dych chi'n llwyddo i'w darllen o glawr i glawr? Yn ddiweddar, mae sawl ap yn crynhoi cynnwys llyfrau, ond ydy hyn yn mynd i gael effaith ar werthiant llyfrau? Ar Dros Ginio ddydd Mawrth diwetha, buodd Jennifer Jones yn holi'r awdur a'r golygydd, Elinor Wyn Reynolds am ei barn: Clawr Cover Crynhoi cynnwys To summarise the content Cyfrolau Books Adolygiadau Review Yn ei chrynswth In its entirety Drwgdybus Suspicious Yn hytrach na Rather than Bod dynol Human being Bygythiad Threat Annog To encourage Agor cil y drws To open the door slightly
Pigion y Dysgwyr – Tomos Owen Mae dyn o Gaernarfon wedi dechrau menter newydd yn gwneud "smoothies". Beth sy'n arbennig ydy bod beic yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu'r "smoothies". Cafodd Aled Hughes air gyda Tomos Owen ddydd Mawrth diwetha am ei fenter. Cynhyrchu To produceAr y cyd TogetherHybu To promoteMaeth NutritionTroellwr SpinnerAtgofion MemoriesAgwedd AspectLles WelfareManteisio ar To take advantage ofAddas SuitablePigion y Dysgwyr – Andy John Wel dyna ffordd ddiddorol o gael plant i yfed "smoothies" on'd ife? Sawl Archesgob sydd gyda tatŵ tybed? Wel, mae gan Archesgob Cymru, Y Parchedicaf Andy John, datŵ mawr iawn a fe oedd gwestai Beti George ar Beti a'i Phobol yr wythnos hon… Archesgob Archbishop Y Parchedicaf The Most ReverandAtgof memoryPam lai? Why not?Olrhain To tracePigion y Dysgwyr – Pasg Hanes tatŵ'r Archesgob yn fanna ar Beti a'i Phobol. Ond sôn am ddathliadau'r Pasg oedd y Parchedig Beti Wyn James pan fuodd hi'n sôn am draddodiadau'r Pasg ar draws y byd wrth Shan Cothi. Dyma'r gweinidog o Gaerfyrddin yn sôn am sut mae Cristnogion Ethiopia'n dathlu… Traddodiadau TraditionsGweinidog MinisterAmrywio To varyY Grawys LentYmprydio To fastDipyn o her Quite a challengeGwylnos A vigilY wawr Dawn Mae'n ymddangos i mi It appears to mePigion y Dysgwyr – Twin Town Y Parchedig Beti Wyn James oedd honna'n sôn am ddathliadau Pasg Ethiopia. Nos Lun wythnos diwetha ar ei raglen cafodd Rhys Mwyn gwmni yr actor Llŷr Ifans. Fe, a'i frawd Rhys, oedd prif gymeriadau'r ffilm gomedi enwog Twin Town recordiwyd yn Abertawe a'r cyffiniau. Dyma Rhys yn holi Llŷr am ei atgofion o cael ei gastio i actio yn y ffilm…… Prif gymeriadau Main charactersCyffiniau VicinityYmchwil manwl iawn Very detailed researchYmwybodol AwareAwyddus iawn Very keenCyfweliad InterviewFatha FelPlentyndod ChildhoodProfiad ExperiencePigion y Dysgwyr – PianoAc os dych chi wedi gweld y ffilm, dw i'n siŵr basech chi'n cytuno bod perthynas y ddau frawd wedi dod drosodd yn wych ynddi hi. Mae sawl diwrnod arbennig yn ystod y flwyddyn i ddathlu'r hyn neu'r llall on'd oes yna? Ond oeddech chi'n gwybod bod Diwrnod Rhyngwladol y Piano i'w gael? Catrin Haf Jones fuodd yn holi'r pianydd Gwenno Morgan ar Dros Ginio a gofyn iddi hi beth mae'r diwrnod arbennig hwn yn ei olygu iddi hi…Offeryn InstrumentCyflawni To achieveAnwybyddu To ignoreCymryd yn ganiataol Taking for grantedCerddorfa OrchestraCyfeilyddion AccompanistsHyblyg FlexibleY deunawfed ganrif 18th centuryEsblygu To evolvePigion y Dysgwyr – Isabella Ac mae perfformio yn ganolog i'r sgwrs nesa ‘ma wrth i ni wrando ar Aled Hughes yn sgwrsio gyda Isabella Colby Browne, actores sydd wedi dysgu Cymraeg, ac sydd erbyn hyn yn actio yn Gymraeg ar lwyfan gyda chwmni Arad Goch.… Mae Isabella yn dal i gael gwersi Cymraeg ar-lein ac mae hi am fynd ar gwrs i Nant Gwrtheyrn cyn bo hir. Yr Wyddgrug MoldLlwyfan StageO ddifri(f) SeriouslyTanio dy frwdfrydedd Sparked your enthusiam Argraff enfawr A huge impressionDiwylliant CultureAilgysylltu To reconnectParch Respect
DROS GINIO 11.03.24Buodd Rhodri Llywelyn yn holi Mahum Umer o Gaerdydd. Mae'r cyfnod Ramadan i Foslemiaid ar draws y byd wedi cychwyn. Beth mae'r ŵyl yn ei olygu i Foslem ifanc Cymraeg?Ympryd A fastCymuned CommunityNodi To markCrefyddol ReligousDatgelu To revealHunanddisgyblaeth Self disciplineLlai ffodus Less fortunateAnsicrwydd UncertaintyHeriol ChallengingAdlewyrchu To reflect ALED HUGHES 12.03.24Blas ar sut mae cyfnod Ramadan yn effeithio ar Foslemiaid ifanc Cymru yn fanna ar Dros Ginio. Pwy fasai'n meddwl ei bod yn bosib cynhyrchu gwin cyn belled i'r gogledd â Dyffryn Clwyd? Wel dyna sy'n digwydd yng Ngwinllan y Dyffryn a buodd perchennog y winllan, Gwen Davies, yn sgwrsio gydag Aled Hughes fore Mawrth am yr her o dyfu grawnwin yn yr ardal honno.Cynhyrchu To produceGwinllan VinyardHer A challengeGrawnwin GrapesLlethr SlopeGwerthfawrogi To appreciateAddas AppropriateSefydlu To establishMicro hinsawdd Microclimate Yn y man Mewn munudGwinwydd VinesArallgyfeirio To diversify GEORGIA RUTH 12 03 24Ac erbyn hyn mae sawl gwinllan yng Nghymru on'd oes e? Pwy â ŵyr, falle mai Cymru bydd y Bordeaux newydd!Bardd mis Mawrth Radio Cymru yw Sam Robinson. Mae e'n byw ym Machynlleth, nawr ond yn dod o Rydychen yn wreiddiol ac mae e'n rhugl yn y Gymraeg erbyn hyn. Dyma fe'n sôn wrth Georgia Ruth am daith arbennig buodd e arni i Wlad y Basg...Rhydychen OxfordGwlad y Basg The Basque CountryOfferyn InstrumentGwneuthurion ManufacturersPreniach Small pieces of woodPastynau ClubsGwledda To feastWedi swyno CharmedYmatebol ResponsiveLlanast MessRhyfeddol Wonderful BORE COTHI 15.03.24Un arall sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhyfeddol, fel Sam Robinson yw Debora Morgante o Rufain. Mari Grug oedd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes dydd Gwener, noson cyn gêm rygbi Cymru a'r Yr Eidal, a chafodd hi sgwrs gyda Debora gan ofyn iddi hi sut gwnaeth hi ddysgu Cymraeg yn y lle cynta...Rhufain RomeCwrs Preswyl Residential courseYmarfer To practiceDROS FRECWAST 14.03.23Debora Morgante o Rufain oedd honna, fuodd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn yn 2015. Yn anffodus colli wnaeth Cymru yn y gêm yn erbyn yr Eidal a hon oedd gêm ola George North i chwarae dros Gymru gan iddo ddweud basai'n ymddeol yn dilyn y gêm honno. Cennydd Davies fuodd yn sgwrsio gyda George am ei benderfyniad.Rhestr fer Short listPenderfyniad enfawr Huge decisionCyflawni To achieveY cyhoedd The publicUchafbwynt HighlightBETI A'I PHOBOL 17.03.24George North oedd hwnna enillodd cant dau ddeg o gapiau i Gymru gan ennill ei gap cynta yn 2010. Trueni mawr ei fod yn ymddeol ond mae e wedi rhoi gwasanaeth arbennig i Gymru dros y blynyddoedd. Hazel Thomas o Lanwenog yng Ngheredigion fuodd yn sôn wrth Beti George am ei hamser yn gweithio fel chef yn y Dorchester yn Llundain …y ferch gynta i wneud hynny!Trueni BechodSylw a stwr Fuss and attentionCefn gwlad The countrysideEnwoca The most famousBodoli To exist
TRYSTAN & EMMA DYDD GWENER 2302Tesni Evans gafodd air gyda Trystan & Emma fore Gwener. Cafodd hi sialens i gael tatŵ gydag enw band Y Cledrau ar ei choes! Wnaeth hi dderbyn y sialens tybed?Prif leisydd Main vocalistFfyddlon FaithfulYmwybodol Aware COFIO DYDD SUL 2502A miwsig Y Cledrau oedd i'w glywed yn y cefndir yn fanna. Gobeithio, on'd ife, bod y band yn gwerthfawrogi tatŵ Tesni. Mae hi'n flwyddyn naid sef y flwyddyn pan mae dau ddeg naw, neu naw ar hugain, o ddyddiau ym mis Chwefror. Mae'n debyg bod y siawns o gael eich geni ar y dyddiad hwnnw yn un ymhob 1,461. Un o'r mil a hanner rheini yw Elin Maher (pron. Mahyr). Felly faint yn union yw oed Elin nawr?Gwerthfawrogi To appreciateY gwirionedd The truthAr bwys Wrth ymylGwneud yn fawr Making the most Cyfoedion PeersAi peidio Or notSbo I supposeTrin To treatTynnu sylw To draw attentionRHYS MWYN DYDD LLUN 2602Elin Maher oedd honna, sydd ychydig bach yn hŷn na thair ar ddeg oed mewn gwirionedd! Ar raglen Rhys Mwyn clywon ni bod y Beatle enwog, George Harrison, wedi treulio amser yng ngwesty Portmeirion pan gafodd sengl y Beatles 'Get Back' ei rhyddhau ar Ebrill 11 1969. Rheolwr Safle Portmeirion, Meurig Rees Jones, sy'n sôn yn y clip nesa ‘ma am sut daeth e ar draws bwydlen oedd wedi ei harwyddo gan George Harrison ar y diwrnod hwnnw. Rhyddhau To releaseArwyddo To signYr arbenigwr The expertY cysylltiadau The connectionsAnhygoel IncredibleAmrywiaeth VarietyYmchwil ResearchAtgofion MemoriesDROS GINIO DYDD MAWRTH 2702Hanes diddorol George Harrison ym Mhortmeirion yn fanna ar raglen Rhys Mwyn. Sut dysgoch chi Gymraeg - ar-lein, wyneb yn wyneb neu'r ddwy ffordd? Pa ffordd ydy'r mwya effeithiol tybed? Cafodd llythyr ei gyhoeddi yn Golwg yn dweud ei bod yn bwysig cael gwersi Cymraeg wyneb yn wyneb yn dilyn twf dysgu ar-lein yn ystod y cyfnod clo. Jennifer Jones fuodd yn trafod hyn ar Dros Ginio a chafodd hi sgwrs gydag Alison Roberts o'r Alban, ond sydd nawr yn byw yng Nghymru, yn sôn am sut aeth hi ati i ddysgu'r iaithEffeithiol EffectiveWyneb yn wyneb Face to faceCymuned CommunityAnghonfensiynol UnconventionalCARYL PARRY JONES DYDD MAWRTH 2702Alison enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023, ac mae hi wedi dysgu Cymraeg yn anhygoel on'd yw hi, o feddwl nad ydy hi erioed wedi bod mewn dosbarth Cymraeg! Beth sy'n gwneud bwyty da? Llio Angharad, sy'n sgwennu am deithio a bwyd ar y gwefannau cymdeithasol, fuodd yn trafod hyn efo Caryl Parry Jones ddydd Mawrth wythnos diwetha Gwefannau cymdeithasol Social media Hynod o bwysig Extremely importantCrafu To scratchY goleuo The lighting Swnllyd Noisy(H)wyrach EfallaiALED HUGHES DYDD MERCHER 2802Caryl a Llio yn trafod beth sy'n gwneud bwyta da yn fanna. Dych chi'n cytuno â nhw? Pawlie Bryant o Santa Barbara fuodd yn sgwrsio efo Aled Hughes ddydd Mercher diwetha. Mae Pawlie yn gerddor ac mae e newydd sgwennu ei gân gynta yn Gymraeg! Does dim llawer o amser ers i Pawlie ddechrau dysgu Cymraeg a gofynnodd Aled iddo, pryd oedd y tro diwetha iddo ymweld â Chymru… Cerddor MusicianO'r blaen PreviouslyY Deyrnas Unedig The UKDinesydd CitizenSylweddolais i I realisedSwyddogol OfficialDeunaw 18
1 Aled Hughes :Mair Tomos Ifans fuodd yn siarad efo Aled Hughes yn ddiweddar am rai o hen draddodiadau Nadolig gwledydd Ewrop. Mae Mair yn actores, cantores, sgriptwraig, darlithydd a thiwtor. Ond erbyn hyn mae'n treulio llawer iawn o amser yn adrodd straeon ac yn arwain gweithdai mewn ysgolion:Traddodiadau Traditions Diniwed Innocent Darn o bren A piece of wood Boncyff A log Ymwybodol Aware Ymddangos Appearing Melysion Sweets Curo To beat Carthen A cover Penodol Specific Gwasgaru'r llwch Dispersing the ash2 Ffion Dafis :Golwg yn fanna ar rai o draddodiadau Nadolig gwahanol iawn sydd i'w gael yng ngwledydd Ewrop gan Mair Tomos Ifans.Mi fuodd y pianydd rhyngwladol Llŷr Williams yn perfformio yng Nghanolfan Pontio ym Mangor yn ddiweddar, ac mi gafodd Ffion Dafis sgwrs efo fo am sut mae o'n mynd ati i ymarfer a dewis ei raglen ar gyfer perfformio:Bysedd Fingers Hyblyg Flexible Ymwybodol Aware Toriadau Breaks Yn fwy cyfarwydd More familiar Dehongli To interpret Datblygu To develop Amlygu ei hun Manifests itself3 Bore Cothi :Y pianydd Llŷr Williams oedd hwnna'n rhannu ambell i gyfrinach efo Ffion Dafis am sut mae o'n paratoi at berfformio.Ddydd Llun yr 11eg o Ragfyr, Alison Huw y gogyddes oedd gwestai Shân Cothi. Trafod ‘sprouts' oedd hi, neu ysgewyll Brwsel yn Gymraeg. Nid pawb sy'n hoff iawn o'r ysgewyll naci! Ond yma mae Alison yn sôn am ffordd hyfryd o'i weini ar gyfer eich cinio Dolig:Cyfrinach Secret Ysgewyll Sprouts Gweini To serve Cnau castanwydden Horse chestnut Hallt Salty Plisgo Peeling Ffwrn Popty Moethus Luxurious Rhwydd Hawdd Yn glou iawn Yn gyflym iawn4 Dros Ginio :Wel dyna i chi ambell i syniad am ginio Dolig llwyddiannus, ond be am lwyddo i fwynhau parti Nadolig?Mae yna ymchwil sy'n dangos bod nifer o bobl yn teimlo'n bryderus yn y partïon hyn. Mirain Rhys o Adran Seicoleg Coleg Prifysgol Met Caerdydd, a ‘Mr Cymdeithasu' Stifyn Parri sy'n trafod sut mae paratoi'n gymdeithasol ar gyfer y partïon? Pryder a chynnwrf Anxiety and excitement Curiad fy nghalon My heartbeat Anadlu Breathing Baglu To trip Chwydu Vomiting Pynciau Topics Osgoi To avoid Sleifio mewn To sneak in Corwynt Hurricane Dadleuol Controversial Ysgogwyr Stimuli5 Rhaglen Caryl Parry Jones:Wel dyna ni wedi cael syniadau coginio Nadolig, syniadau am sut i fwynhau partïon Nadolig ac rŵan dan ni'n mynd i glywed pa fath o Nadolig bydd Helen Evans o Fethesda yn ei fwynhau. Dyma i chi flas ar sgwrs rhwng Helen a Shelley Rees oedd yn cadw sedd Caryl yn gynnes nos Fawrth y 12fed o Ragfyr. Unig blentyn Only child Ysbrydoli To inspire Wedi mopio efo Wedi dwlu ar Y diwrnod canlynol The following day Llond tŷ A houseful
Pigion 12fed Rhagfyr:1 Bore Coth:Pan oedd Shân Cothi yn darlledu o'r Ffair Aeaf yn Llanelwedd yn ddiweddar, mi wnaeth hi gyfarfod â dwy fenyw, sef Francis Finney a Marcia Price. Roedd y ddwy wedi penderfynu dysgu Cymraeg, felly dyma eu gwahodd ar Fore Cothi am sgwrs:Darlledu Broadcasting Cancr y fron Breast cancer Diolch byth Thank goodness Dipyn bach yn iau A little bit younger2 Beti a'i Phobol:Francis a Marcia oedd y ddwy yna, ac mi roedden nhw wedi dysgu Cymraeg yn wych gyda Dysgu Cymraeg Gwent yn doedden nhw?Prif ganwr y band Edward H. Dafis, Cleif Harpwood, oedd gwestai Beti George nos Sul diwetha. Mae cwmni recordiau Sain newydd ryddhau casgliad o holl draciau'r band iconig hwn, er mwyn dathlu hanner can mlynedd ers iddyn nhw ffurfio. Yma mae Cleif yn sôn am ei ddyddiau efo'r bandiau Edward H Dafis ac Injaroc:Rhyddhau To release Cerddorion penna(f) Leading musicians Yn eitha disymwth Quite suddenly Y gynulleidfa The audience Arbrofi To experiment Atgas Obnoxious Y fath wawd Such scorn Bradwyr Traitors Cyfoes Modern Esblygu To evolve3 Trystan ac Emma Gwener 1af Rhagfyr:Hanes diddorol bywyd byr y band Injaroc yn fanna gan Cleif Harpwood.Bob Nadolig dros gyfnod yr Adfent mae trigolion pentref Corris ger Machynlleth yn addurno eu ffenestri. Ar Trystan ac Emma yn ddiweddar mi fuodd un sy'n byw yn y pentre, sef Elin Roberts, yn sgwrsio am y traddodiad arbennig yma yn y pentref:Addurno To decorate Dadorchuddio To unveil Ymgynnull To congregate Cynllunio To plan Goleuo To light 4 Aled Hughes:Yn tydy hi'n braf gweld yr holl oleuadau Dolig yng nhai pobl yr adeg hon o'r flwyddyn? Da iawn pobl Corris am wneud y mwya o gyfnod yr Adfent.Drwy'r wythnos diwetha ar ei raglen mi fuodd Aled Hughes yn siarad efo gwahanol unigolion sydd wedi cymryd rhan yn ymgyrch Defnyddia Dy Gymraeg Comisiynydd yr Iaith. Mae'r sgyrsiau yn pwysleisio sut mae defnyddio'r Gymraeg wedi bod o fantais yn y gwaith o ddydd i ddydd. Yn y clip yma mae Aled yn sgwrsio efo Gareth Williams, un o hyfforddwyr y Scarlets am sut mae o'n defnyddio'r Gymraeg yn ei waith:Mantais Advantage Hyfforddwyr Coaches Cyfathrebu Communicating Y prif nod The main aim Carfan Squad Cryn dipyn Quite a few Agwedd Aspect Adborth Feedback Unigolyn Individual Cyfarwydd Familiar5 Dros Ginio:Gareth Williams oedd hwnna'n gweld mantais mawr mewn defnyddio'r Gymraeg i gyfathrebu efo aelodau o garfan y Scarlets.Ddydd Mawrth y 5ed o Ragfyr roedd hi'n Ddiwrnod Rhyngwladol Gwirfoddoli. Mae Ruth Marks o Gyngor Gweithredu Gwirfoddoli Cymru, wedi dweud fod y sector o dan bwysau ofnadwy. Hedd Thomas, o'r Cyngor, a Gwenno Parry sy'n gwirfoddoli gyda Radio Ysbyty Gwynedd fuodd yn tafod hyn efo Jennifer Jones ar Dros Ginio:Gwirfoddoli To volunteer Pwysau Pressure Argyfwng Crisis Gostyngiad Reduction Cyfleoedd Opportunities Cynrychioli To represent Trafferthion Problems Difrifol Serious Newydd raddio Just graduated Wedi bod wrthi Been at it6 Ifan Jones Evans:Wel dyna ni , tasech chi eisiau helpu allan efo'r gwaith gwirfoddoli cysylltwch â'r mudiad gwirfoddoli lleol. Dw i'n siŵr bydd yna ddigon o gyfleodd i chi.Brynhawn Mercher diwetha, cychwynnodd Ifan ar gyfres newydd o sgyrsiau ar ei raglen. Mae o'n trafod hoff bethau'r Dolig gyda gwestai arbennig bob wythnos, o rwan tan Dolig. A dechreuodd o mewn steil a hynny yng nghwmni Gary Slaymaker:Cymdeithasu To socialise Cwrdda lan To meet up Ymwybodol Aware Sbort Hwyl Yn llethol Overwhelming Nadoligaidd Christmasy Emynau Hymns Cytgan Refrain Nefolaidd Heavenly
1 Byd y Bandiau Pres:Ar raglen Byd y Bandiau Pres nos Sul y 12fed o Dachwedd, John Glyn Jones, oedd gwestai Owain Gruffudd Roberts. Mi roedd John Glyn yn arfer arwain Seindorf Arian yr Oakeley, Blaenau Ffestiniog ond yn y clip nesa ma, cofio Band Pres Ieuenctid Gwynedd a Môn mae'r ddau, pan oedd Owain yn aelod o'r band a John yn arwain:Arwain Seindorf Arian To conduct the Silver Band Band Pres Brass band Ieuenctid Youth Dyddiau aur Golden era Tu hwnt o lwyddiannus Extremely successful Uchafbwynt Highlight Safon Quality Pencampwriaeth Championship Ac felly bu And so it was Disgyblion Pupils2 Beti a'i Phobol:John Glyn Jones ac Owain Gruffudd Roberts oedd y rheina'n cofio eu hamser efo'r band pres.Tomos Parry, cogydd a pherchennog tri bwyty yn Llundain oedd gwestai Beti George yn ddiweddar. Mae Tomos yn dod o Ynys Môn yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae o'n brysur yn rhedeg bwytai Brat, Mountain a Brat Outdoors. Mi enillodd o seren Michelin yn Brat, ei fwyty cyntaf. Yma, mae'n sôn am bobl enwog sydd wedi bod yn ei fwytai:Cynhwysion Ingredients Yn weddol gyson Fairly regularly Aballu And so on Cefnogol Supportive Ysbrydoli To inspire Cerddoriaeth Music3 Rhaglen Ifan gyda Hana Medi yn cyflwyno:Tomos Parry y cogydd oedd hwnna, ac mae'n amlwg bod pobl enwog ar draws y byd yn mwynhau dod i'w fwytai.Gwestai ar raglen Hana Medi oedd Esyllt Ellis Griffiths Llysgenhades Sioe Frenhinol 2024. Mi fuodd hi'n sôn am gale ndr sy newydd ei gyhoeddi i godi arian at apêl y Sioe Frenhinol yn 2024 – Sioe'r Cardis fel mae'n cael ei galw! Ond ddim calendr arferol ydy hon, o na ond un noeth!…Llysgenhades Ambassador Noeth Naked Pwyllgorau Committees Trefniadau Arrangements Pen tost Cur pen Balch Pleased Ar y cyfan On the whole Ffili Methu Elusennau Charities Cwympo mas Falling out Cneifio Shearing4 Rhalgen Ffion Dafis:Wel dyna i chi gesys ynde? Dw i'n siŵr bydd y calendr yn gwerthu'n arbennig o dda!Ar Sul y 19eg o Dachwedd, Hywel Gwynfryn oedd gwestai Ffion Dafis. Mae Hywel newydd gyhoeddi cofiant yr actores Siân Phillips, ac mae o ar gael yn y siopau rŵan ar gyfer y Nadolig. Yma mae Hywel yn sgwrsio am y broses o sgwennu‘r cofiant:Cofiant Biography Rŵan ac yn y man Now and then Yn awyddus Eager Hunangofiant Autobiography Deugain mlynedd 40 years Rhwyd Net Daeth e i fwcwl Came to fruition Gogwydd An angle I raddau To an extent Ffynhonnell Source Ysgrifau Articles 5 Dros Ginio:Ia, dyna fasai anrheg Nadolig gwerth chweil i rywun ynde - cofiant Sian Phillips gan Hywel Gwynfryn.Ers dechrau'r rhyfel yn Gaza, mae'r bardd Iestyn Tyne wedi bod yn cydweithio gyda beirdd o Balesteina i gyfieithu eu gwaith a rhoi llwyfan Gymraeg i'w lleisiau a'u profiadau. Mi fuodd o'n trafod y gwaith efo Rhodri Llywelyn ar Dros Ginio bnawn Llun wythnos diwetha:Beirdd Poets Llwyfan A stage Barddoniaeth Poetry Estyn allan To reach out Mewn difri Seriously Ymwybyddiaeth Awareness Gweithred fach A small deed6 Aled Hughes:Prosiect diddorol iawn gan Iestyn Tyne yn cyfieithu gwaith beirdd Palesteina i'r Gymraeg.Ddydd Mawrth yr 21ain o Dachwedd, Lisa Fearn y gogyddes yn oedd yn cadw cwmni i Aled Hughes. Sôn am daffi triog oedd hi ac am y traddodiad o fwyta'r taffi yr amser yma o'r flwyddyn:Taffi triog Treacle toffee Cyflaith Toffee Yn rheolaidd Regularly Traddodiad Tradition Gwirionedd Truth Canrif Century Ar ddihun Awake
Bob wythnos ar raglen Bore Cothi mae Shân yn sgwrsio efo gwesteion am eu Atgofion cynta. Ac yn y clip hwn mae Tara Bethan yn cofio am yr arogl cynta, ac mae'r arogl yma wedi gwneud dipyn o argraff arni hi: Atgofion Memories Arogl Smell Argraff Impression Chwyslyd Sweaty Dw i'n medru eu hogla fo I can smell it Cael fy ngwarchod Being looked after Golygu'r byd Means the world Delwedd Image Carco To take care of Tara Bethan yn fanna yn cofio aroglau chwyslyd y reslars! Fel rhan o Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg mae Aled Hughes wedi gwirfoddoli i gymryd rhan yng nghynllun Siarad y Ganolfan Dysgu Cymraeg. Yn ddiweddar mi gafodd ei sgwrs gyntaf gyda'i bartner dysgu, sef Chloe Edwards, sy'n byw ym Mhenmaenmawr ond sydd yn wreiddiol o Cryw. Dyma Chloe yn sôn am sut daeth hi i ddysgu Cymraeg yn y lle cyntaf: Gwirfoddoli Volunteering Unrhyw gysylltiad Any connection Ymwybodol Aware Gwatsiad Gwylio Anhygoel Incredible Wel mae Aled wedi cael partner Siarad diddorol iawn yn Chloe yn tydy o? Francesca Sciarrillo oedd gwestai Ffion Emyr, hi oedd enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro yn 2019. Cafodd Francesca ei magu yn Sir y Fflint, ond Eidalwyr ydy ei theulu hi. Mi ddysgodd Francesca Gymraeg fel oedolyn ac erbyn hyn mae hi'n ac yn gweithio i Gyngor Llyfrau Cymru, yn hyrwyddo darllen i blant a phobol ifanc. Hyrwyddo To promote Wastad Always Parchu penderfyniad Respect the decision Cymuned Community Diolchgar Thankful Mor raenus So polished Heriol Challenging Gwerthfawr Valuable Ac mae Francesca yn gweithio'n rhan amser erbyn hyn fel tiwtor Cymraeg i Oedolion. Yr actores Mali Ann Rees oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Pan oedd hi'n 17 oed mi fuodd hi'n fyfyrwraig mewn Coleg yn India am ddwy flynedd yn astudio bagloriaeth rhyngwladol. Mae Mali yn un o'r actoresau mwya enwog Cymru ac wedi actio yn Craith, The Tourist Trap a The Pact. Mae hi hefyd yn un o dair sy'n cyfrannu i'r podlediad wythnosol, Mel Mal a Jal, sef tair Cymraes siaradus. Yn y clip hwn mae Mali yn trafod y profiad o hiliaeth gafodd yn yr ysgol ac yn India: Hiliaeth Racism Bagloriaeth rhyngwladol International Baccalourate Beirniadaeth Critisism Hunaniaeth Identity Hiliol Racist Chwerthin To laugh Trin To treat Gwerthfawr Valuable Mali Ann Rees oedd honna'n sôn am brofiadau o hiliaeth annifyr iawn gafodd hi yn yr Ysgol ac yn y coleg. Nos Lun y 23ain o Hydref Marci G oedd yn sedd Caryl Parry Jones ac mi gafodd o gwmni Sian Elin Thomas oedd yn sôn am ddathliadau penblwydd Aelwyd Crymych yn 80 oed. Mae Sian wedi bod yn aelod ei hun am nifer o flynyddoedd ac yn y clip mi wnewch chi ei chlywed yn egluro beth yn union ydy Aelwyd yr Urdd... Aelod Member Cefnogol Supportive Traddodiad Tradition Arwain Leading Dathliad A celebration Llywydd anrhydeddus Honorary President Arddangosfa Exibition Lluniaeth Refreshments A penblwydd hapus i Aelwyd Crymych a gobeithio i chi ddathlu mewn steil ynde? Nos Fawrth ddiwetha ar raglen Georgia Ruth, roedd Glyn ac Ellis o'r band Mellt yn cadw cwmni iddi hi. Roedden nhw wedi dod adra i Aberystwyth i ymweld â rhai o'r lleoliadau oedd yn bwysig iddyn nhw fel band, gan gynnwys y sied yng ngwaelod gardd tŷ Glyn lle buon nhw'n recordio. Yn y clip hwn mae Glyn yn sôn wrth Georgia am bwysigrwydd geiriau eu caneuon, a'r defnydd o Gymraeg naturiol, bob-dydd: Lleoliadau Locations Cymhleth Complicated Denu mewn To draw in Pert Pretty Sa i'n gwybod Dw i ddim yn gwybod
Siw Hardson Ar raglen Trystan ac Emma roedd Siw Harston, sy'n dod o Landeilo yn wreiddiol ond sydd nawr yn byw yn Surrey, yn sgwrsio am y siaradwyr Cymraeg mae hi wedi dod ar eu traws dros y blynyddoedd, ym mhob rhan o'r byd: Anhygoel Incredible Cynhesrwydd i'r enaid Warmth for the soul Y tu hwnt i Beyond Rogue Jones Does ots ble fyddwch chi, dych chi'n siŵr o glywed y Gymraeg, on'd dych chi? Buodd Mari Grug yn holi Bethan Mai o'r band Rogue Jones, ar raglen Ffion Dafis yn ddiweddar, hyn ar ôl iddyn nhw ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, nos Fawrth y 10fed o Hydref. Dyma i chi flas ar y sgwrs: Gwobr Gerddoriaeth Gymreig Welsh Music Prize Sylw Attention Llafur cariad Labour of love Yn ariannol Financially Gwefreiddiol Thrilling Cyfweliadau Interviews Ffydd Faith Llinach Pedigree Rhyfedd Strange Toddi To melt Jenny Adams A llongyfarchiadau mawr i Rogue Jones, yn llawn haeddu'r wobr. Roedd hi'n Wythnos y Dysgwyr wythnos ddiwethaf ar Radio Cymru a Heledd Cynwal oedd yn sedd Shan Cothi fore Llun Hydref 16, a chafodd hi sgwrs gyda Jenny Adams, sy'n dod o Surrey yn wreiddiol, ond sy'n byw ym Machen, ger Caerffili ar hyn o bryd: Yn llawn haeddu Wholly deserving Cyfathrebu Communicate Swyddogol Official Profiad Experience Codi hyder To raise confidence Disney Jenny Adams oedd honna – un o'r nifer fawr o ddysgwyr y Gymraeg glywon ni ar Radio Cymru yn ddiweddar. Ddydd Llun rhoddodd Dros Ginio sylw i'r ffaith bod cwmni Disney yn 100 oed, a Catrin Heledd fuodd yn holi'r Dr Elain Price sy'n darlithio ar ffilm a theledu, am ddylanwad y cwmni ar y byd ffilmiau dros y blynyddoedd: Darlithio To lecture Dal dychymyg To catch the imaginagion Yn ddiweddarach Later on Cydamseru Synchronize Arloesi To innovate Wrth wraidd At the root of Dyfeisio To invent Bodoli To exist Addasu To adapt Cyfarwydd Familiar Tybio To suppose Mai Lloyd Dr Elain Price yn fanna yn rhoi ychydig o hanes cwmni Disney i ni. Fore Mawrth wythnos ddiwethaf ar raglen Aled Hughes, Mai Lloyd o Aberteifi oedd yn edrych yn ôl ar ei hamser yn Trinidad a Tobago dros yr haf, yn cystadlu efo'r ddisgen yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad: Disgen Discus Y Gymanwlad The Commonwealth Uchafbwyntiau Highlights Pobl hŷn Older people Gareth Wyn Jones A dw i'n siŵr byddwn ni clywed llawer iawn mwy am Mai yn y dyfodol, a hithau'n amlwg wedi mwynhau'r cystadlu. Gwestai Ifan Jones Evans yn y clip nesa yw ffermwr mwya enwog Cymru, sef Gareth Wyn Jones. Mae ganddo ddilyniant mawr ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn ddiweddar, mae wedi croesi carreg filltir anferth ac wedi cyrraedd miliwn o danysgrifwyr ar ei sianel You Tube: Dilyniant Following Cyfryngau cymdeithasol Social media Carreg filltir anferth Huge milestone Tanysgrifwyr Subscribers Diwydiant amaeth Agricultural industry Ymdopi To cope
Pigion Dysgwyr – Heather Jones Mae'r tri chlip cynta i gyd am bobl amlwg sy wedi dysgu Cymraeg, a beth am i ni gychwyn gyda'r gantores Heather Jones? Yn yr ysgol dysgodd Heather Gymraeg yn ail iaith, ond buodd hi'n perfformio a recordio yn y Gymraeg am flynyddoedd maith. Mae Heather newydd gyhoeddi ei bod hi wedi canu'n fyw am y tro ola ac ar Bore Cothi esboniodd hi wrth Shan Cothi sut dechreuodd ei gyrfa ym myd canu Amlwg Prominent Cyhoeddi Announce Ymennydd Brain Yn gyfangwbl Completely Tinc Tone Pigion Dysgwyr – Johnny Tudor Mae'n rhyfedd meddwl na fyddwn yn clywed llais Heather Jones ar lwyfannau Cymru eto on'd yw hi? Dysgu Cymraeg fel oedolyn ar gwrs Wlpan yng Nghaerdydd wnaeth y diddanwr, y dawnsiwr a'r canwr Johnny Tudor, ac roedd e'n dathlu 60 mlynedd ym myd adloniant eleni. Ar gyfer rhaglen Ffion Dafis bnawn Sul, aeth Lily Beau draw i gartre Johnny i'w holi. Dyma fe gydag un stori fach o'i yrfa... Diddanwr Entertainer Dynwared To impersonate Llwyfan Stage Pigion Dysgwyr – Dinbych y Pysgod A dw i'n siŵr bod gan Johnny lawer iawn o straeon difyr eraill o'i yrfa hir ym myd adloniant. Mae Jo Heyde wedi dysgu Cymraeg ac yn byw yn Ninbych y Pysgod erbyn hyn. Mae hi'n fardd, yn barddoni yn Gymraeg, ac wedi ennill cadair am ei barddoniaeth. Nos Fawrth diwetha ar raglen Caryl esboniodd Jo pam daeth hi i fyw i dde Sir Benfro yn y lle cyntaf…… Dinbych y Pysgod Tenby Bardd Poet Hala Treulio Dim syndod No surprise Yn syth bin Straight away Unigryw Unique Haenau Layers Tirwedd Landscape Llanw Tide Cyfnewidiol Changeable Awen Muse Pigion Dysgwyr – Lliw Ddall Wel dyna i chi dri sy wedi dysgu Cymraeg yn wych, ac sydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i'r byd Cymraeg. Diolch Heather, Johnny a Jo. Mae Owen Jones o Gaerdydd yn un o'r 1 o bob 12 dyn sydd yn lliwddall, ond yn ôl gwyddonwyr dim ond 1 o bob 200 o ferched sy‘n lliwddall ac mae Bethan Rhys Roberts yn un ohonyn nhw. Ar gyfer Bore Sul yr wythnos diwetha trïodd Owen a Bethan sbectolau arbennig sydd i fod i gywiro eu golwg...dyma sut aeth pethau …. Cyfraniad gwerthfawr A valuable contribution Lliwddall Colour blind Yn ôl According to Gwyddonwyr Scientists Cywiro eu golwg Correct their eyesight Llachar Bright Sefyll mas To stand out Cyfoethog Rich(colour) Ffug Fake Pigion Dysgwyr – 1973 Wel newyddion da i‘r rhai sy'n lliwddall on'd ife – mae'n debyg bod y sbectol newydd yn gweithio! Mae'r flwyddyn 1973 yn cael ei gyfri'n flwyddyn arbennig ym myd gwneud ffilmiau. Ond beth oedd mor arbennig am y flwyddyn honno? Cafodd Dion Wyn sgwrs gydag Owain Llyr ar Dros Ginio yr wythnos diwetha i esbonio mwy….. Cyfnod Period of time Hogiau Bechgyn Tywyll Dark Agwedd Attitude Eithafol Extreme Naws Mood Anhygoel Incredible Pigion Dysgwyr – Max Boyce Dion Wyn ac Owain Llyr oedd y rheina'n sgwrsio am pa mor bwysig oedd 1973 i fyd y ffilmiau. Ddydd Mercher diwetha roedd y canwr a'r diddanwr Max Boyce o Lyn Nedd yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed. Mae Max wedi bod yn diddanu pobl Cymru ac ar draws y byd ers diwedd y 60au. Cafodd Aled Hughes gyfle i holi Jed O'Riley o Glwb Rygbi Glyn Nedd sy'n ei adnabod e'n dda…. Cymuned Community Sgwrs ddifyr An interesting conversation Ymwybodol Aware Pwysigrwydd Importance
Pigion Dysgwyr - Gruffydd Vistrup Parry Mae Gruffydd Vistrup Parry yn byw yn Nenmarc sydd, yn ôl yr ystadegau, y wlad leia “stressful” yn Ewrob. Dyma Gruffydd i sôn mwy am y rhesymau symudodd e i'r wlad yn y lle cynta ar raglen Bore Cothi wythnos diwetha…. Ystadegau Statistics Calon Heart Ymchwil Research Perthynas Relationship Pigion Dysgwyr - Y Meddyg Rygbi Ac mae Gruffudd yn swnio'n hapus iawn gyda'i benderfyniad i symud i Ddenmarc on'd yw e? Dw i'n siŵr eich bod wedi sylwi bod Cwpan Rygbi'r Byd newydd ddechrau gyda'r gêm agoriadol rhwng Ffrainc a Seland Newydd. Mae Dewi Llwyd wedi bod yn dilyn Dr Gareth Jones, un o'r meddygon sy'n delio â'r nifer cynyddol o anafiadau ym myd rygbi. Enw'r rhaglen yw Y Meddyg Rygbi ac mae'r rhaglen gyfan i'w chlywed ar BBC Sounds wrth gwrs, ond dyma Gareth Jones yn sôn mwy am ei waith Nifer cynyddol Increasing number Fel petai So to say Sylweddoli To realise Curiad i'r pen Knock to the head Y Gweilch The Ospreys Pigion Dysgwyr – Angharad Jones Gobeithio na fydd Dr Gareth yn rhy brysur gydag anafiadau i'r pen yn ystod Cwpan y Byd on'd ife? Bore Mercher ar ei raglen, cafodd Aled Hughes gyfle i siarad ag Angharad Jones, sydd yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Casgwent. Beth sy'n arbennig am Angharad yw ei bod hi wedi dysgu Cymraeg ei hunan a hynny mewn blwyddyn yn unig. Dyma hi i sôn mwy am ei siwrne i ddod yn siaradwr Cymraeg... Casgwent Chepstow Tad-cu Taid Sa i'n gallu Dw i ddim yn medru Trosglwyddo To transmit Yn gyfrifol am Responsible for Mo'yn Eisiau Dwyieithrwydd Bilingualism Dw i'n dyfalu I guess Her A challenge Pigion Dysgwyr – Mari Catrin Jones Gwych iawn Angharad, yn un o nifer o athrawon sy wedi dod yn rhugl yn y Gymraeg mewn blwyddyn, drwy ddilyn y Cwrs Sabothol. Mae'r Athro Mari Catrin Jones yn ddarlithydd ieithoedd ym Mhrifysgol Caergrawnt ac ar Raglen Dei Tomos wythnos diwetha clywon ni hi'n sôn am un o ieithoedd llai Ynysoedd Prydain sef iaith ynys Jersey, sydd ond ychydig filltiroedd wrth gwrs oddi ar arfordir Normandy yn Ffrainc. Darlithydd Lecturer Caergrawnt Cambridge Pedwaredd ganrif ar bymtheg 19th century Saesneg oedd ei piau hi English took over Ariangarwch Avarice Yn gwmws Yn union Yn raddol Gradually Y plwyf The parish Goresgyn To invade Alltudio To exile Pigion Dysgwyr – Y Drenewydd Diddorol on'd ife? A phob lwc i'r rhai sy'n ceisio ail-godi iaith Jersey. 24 awr yn…..yw slot achlysurol Caryl Parry Jones ar ei rhaglen gyda'r nos ble mae hi'n gwahodd person o dre neu bentre gwahanol i sôn am y lle a'r pethau sydd i'w gwneud yno. Tro Y Drenewydd oedd hi nos Fawrth a dyma Nelian Richards sy'n dod o'r dre i sôn mwy, gan ddechrau gydag un o ddynion enwog y dre sef Robert Owen….. Achlysurol Occasional Cefnog Cyfaethog Sefydlu To establish Gweithlu Workforce Diwygiwr cymdeithasol Social Reformer Pigion Dysgwyr – Eilyr Thomas Hanes un o enwogion y Drenewydd, Robert Owen yn fanna ar raglen Caryl Parry Jones. Cafodd Shan Cothi sgwrs gyda'r athrawes ganu Eilyr Thomas yr wythnos diwetha. Yn ystod ei gyrfa mae hi wedi hyfforddi cantorion enwog fel i Jessica Robinson a Trystan Llŷr Griffiths a llawer o rai eraill. Dyma hi i sôn am sut dechreuodd hi ei hunan ar ei gyrfa ym myd canu O ddifri Seriously Rhinweddau Merits Angerddol Passionate Ymroi To commit Datblygiad y llais The development of the voice Trueni Bechod Ymgodymu Tackling
CERYS MATTHEWS YN HOLI… Roedd Dafydd Iwan yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed ar Awst 24 a dydd Llun Gwyl y Banc roedd yna raglen arbennig i ddathlu bywyd Dafydd a Cerys Matthews oedd yn ei holi... Alawon Tunes Ystyried To consider Offerynnau Instruments Trefniadau Arrangements Cofnodi To record (in writing) Barddoniaeth Poetry Ddim llawer o bwys Dim llawer o ots Hen dad-cu Great grandfather Erw Acre Trosglwyddo To transmit BORE SUL …ie mae Dafydd Iwan yma o hyd – pen-blwydd hapus iawn Dafydd! Iwan Griffiths gafodd gwmni'r cyflwynydd a'r canwr clasurol Wynne Evans. Mae Wynne yn gallu dweud nawr ei fod yn gogydd enwog yn ogystal â chanwr gan ei fod wedi cyrraedd rowndiau cyn-derfynol y rhaglen deledu “Celebrity MasterChef” sy'n cael ei gyflwyno gan Gregg Wallace a John Torode… Cyflwynydd Presenter Y rowndiau cyn derfynol The semi finals Alla i ddychmygu I can imagine Ar waetha hynny In spite of that Beirniaid Judges Ieuenctid Youth Yr her anodda The most difficult challenge Yn glou Yn gyflym Fy hunllef My nightmare BETI A'I PHOBOL ..ac erbyn hyn mae Wynne wedi cyrraedd y rownd derfynol, a phob lwc iddo fe'r wythnos yma on'd ife? Elin Maher o Gasnewydd oedd gwestai Beti George yn ddiweddar. Mae wedi byw yn y ddinas ers 20 mlynedd ac mae hi wedi gweithio fel athrawes ac ymgynghorydd ym myd addysg ac nawr yn Gyfarwyddwr Rhieni dros Addysg Gymraeg. Mae hi wedi bod yn weithgar iawn yn sicrhau twf addysg Gymraeg yng Ngwent. Ymgynghorydd Consultant Cyfarwyddwr Director Agweddau Attitudes Ddim o reidrwydd Not necessarily O blaid In favour of Brwydr A battle Dealltwriaeth Understanding Heb os nac oni bai Without doubt Cael ei chydnabod Being acknowledged Diwylliant Culture FFION DAFIS Braf clywed bod agweddau tuag at y Gymraeg wedi gwella yng Ngwent on'd ife, diolch i bobl fel Elin Maher. Hanna Hopwood fuodd yn cadw sedd Ffion Dafis yn gynnes bnawn Sul. Buodd hi'n sgwrsio am raglen newydd i blant, Dreigiau Cadi, gyda'r cynhyrchydd Manon Jones. Roedd y bennod gynta ar S4C ddydd Mercher yn dangos anturiaethau y dreigiau bach drwg Bledd a Cef ar Reilffordd Talyllyn yng Ngwynedd… Cynhyrchydd Producer Pennod Episode Anturiaethau Adventures Dreigiau Dragons Y gyfres The series Gwirfoddolwyr Volunteers Delfrydol Ideal Rhaglennni dogfen Documentaries Fel petai As it were Golygfeydd Scenes BORE COTHI Bach o hanes Dreigiau Cadi yn fanna ar raglen Ffion Dafis. Caryl Parry Jones fuodd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes ar raglen Bore Cothi a dyma i chi ran o sgwrs gaeth Caryl gyda Carol Garddio am dyfu perlysiau... Perlysiau Herbs Hyblyg Flexible Adnabyddus famous Trilliw Tricolour Deniadol Attractive Goresgyn To survive Llachar Bright Gwydn Tough IFAN JONES EVANS Digon o ‘tips' ar dyfu perlysiau yn fanna gan Carol Garddio. Y gantores a'r cyflwynydd radio, Bronwen Lewis, oedd gwestai rhaglen Ifan Jones Evans yn sôn am ryddhau ei sengl diweddara, Un Dau Tri, ac yn sôn hefyd am pam dewisodd hi'r teitl yma i'r sengl. Rhyddhau To release Diweddara The most recent Brwdfrydedd Enthusiasm Cytgan Refrain Cynulleidfa Audience Moyn Eisiau
Pigion Dysgwyr – Stacey Mae Shelley Rees a Rhydian Bowen Phillips wedi bod yn cadw sedd Emma Walford a Trystan Ellis Morris yn gynnes dros yr wythnosau diwetha ac yn ddiweddar caethon nhw air gydag un ddysgodd Gymraeg 25 mlynedd yn ôl. Stacey Blythe yw ei henw hi, mae hi'n storïwraig ac yn gerddor sy'n dod o Birmingham yn wreiddiol ond sy'n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn... Storïwraig Storyteller (female) Cerddor Musician Tmod Ti'n gwybod Cyfansoddwraig Composer (female) Ceinciau Branches Bodoli To exist Enaid Soul Pigion Dysgwyr – Eiry Palfrey Stacey Blythe yn fanna yn dal yn frwd dros y Gymraeg ar ôl ei dysgu 25 mlynedd yn ôl. Mae llyfr newydd ei gyhoeddi gan Eiry Palfrey sy'n sôn am hanes a thraddodiad dawnsio gwerin yng Nghymru. Llwybrau'r Ddawns yw enw'r llyfr, a dyma Eiry yn sôn wrth Nia Parry, oedd yn cadw sedd Aled Hughes yn dwym yr wythnos diwetha, am gefndir cyhoeddi'r llyfr Brwd Enthusiastic Dogfen Document Cyfrifol Responsible Dow dow Very slowly Dallt y dalltings Knowing the ins and outs Hoelion wyth Eminent people Adfer To restore Aelwydydd Homes Pigion Dysgwyr – Dwyeithrwydd Bach o hanes dawnsio gwerin yng Nghymru yn fanna gan Eiry Palfrey, awdures Llwybrau'r Ddawns. Roedd ymchwil diweddar yn dangos bod gan unigolion oedd yn ddwyieithog sgiliau cof gwell na phobl oedd yn unieithog, ond dyw hi ddim mor syml â hynny yn ôl Dr Peredur Glyn Webb-Davies. Dyma fe'n sôn am yr unig elfen o'r ymchwil sy'n dangos bod cof gwell gan bobl ddwyieithog na'r rhai sy'n gallu siarad un iaith yn unig... Ymchwil Research Dwyieithog Bilingual Llefaru To speak Cymhleth Complicated Cadarnhau To confirm Pigion Dysgwyr – Elin Maher Ond wrth gwrs mae sawl mantais dros fod yn ddwyieithog on'd oes yna? Yn enwedig yn Nghymru'r dyddiau hyn. Mae Elin Maher yn dod o Gwm Tawe'n wreiddiol ond yn byw yng Nghasnewydd gyda'i theulu ers ugain mlynedd. Buodd hi'n gweithio'n galed dros y blynyddoedd yn datblygu addysg Gymraeg, a'r Gymraeg o fewn y gymuned, yng Ngwent. Hi hefyd oedd gwestai Beti George ar Beti a'i Phobol wythnos diwetha a dyma hi'n sôn am ambell i her oedd rhaid ei hwynebu wrth ymladd dros addysg Gymraeg yn y Sir. Her A challenge Safleoedd Sites Agwedd Attitude Cynghorwyr Councillors Ddim o reidrwydd Not necessarily Brwydr A fight Dealltwriaeth Understanding Heb os nac oni bai Without doubt Cydnabod To acknowledge Dychymyg Imagination Pigion Dysgwyr – Adri A diolch byth am bobl fel Elin sy'n dal i frwydro dros addysg Gymraeg on'd ife? Mae Heledd Cynwal wedi bod yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes yn ddiweddar, a dydd Mercher diwetha gwahoddodd hi ddysgwraig Cymraeg o'r Iseldiroedd sef Adri Witens ar ei rhaglen. Mae Adri yn byw mewn tref fechan ger dinas yr Haag a dysgodd Gymraeg ar ôl iddi hi ymweld ag Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen ddechrau'r 80au. Dyma hi'n sôn am daith awyren ddiddorol gaeth hi yn y gorffennol... Iseldiroedd Netherlands Anaddas Unsuitable Tanwydd Fuel Suddo To sink Arfordir Coastline Creigiau Rocks Darlledu To broadcast Doniol Funny Pigion Dysgwyr – Dianne Roberts On'd yw Atri'n gymeriad a hanner? Dianne Roberts yw Trysorydd Sioe Arddwriaethol Llangernyw ger Llanrwst. Eleni mae'r Sioe yn dathlu ei bod wedi cael ei chynnal am 175 o flynyddoedd. Dyma Dianne i sôn mwy.. Sioe arddwriaethol Horticultural show Annog To encourage Hen bryd About time Hud a lledrith Magic