POPULARITY
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Joseff Gnagbo.Ffoadur a wnaeth ffoi o'r Arfordir Ifori yng Ngorllewin Affrica yn 2010 yw Joseff. Yn dilyn rhyddhau cân rap yn annog ei gydwladwyr i wrthsefyll y chwyldro yn ei wlad, daeth yn darged milwrol a bu rhaid iddo ffoi o'r wlad. Bu'n byw ym Morocco am gyfnod cyn ymgeisio am loches ym Mhrydain yn 2017. Wedi iddo gyrraedd Cymru aeth ati'n syth i ddysgu'r Gymraeg. Erbyn hyn, mae'n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg fel athro cyflenwi yng Nghaerdydd. Wedi cyfnod yn gwirfoddoli gyda Chymdeithas yr Iaith, cafodd Joseff ei ethol yn Gadeirydd y Gymdeithas, ac mae'n newydd gael ei ail-ethol yn Gadeirydd am dymor arall. Eleni yn y Brifwyl ym Mhontypridd cafodd Joseff ei urddo i'r orsedd am ei gyfraniad i'r Gymraeg.
Pigion 12fed Rhagfyr:1 Bore Coth:Pan oedd Shân Cothi yn darlledu o'r Ffair Aeaf yn Llanelwedd yn ddiweddar, mi wnaeth hi gyfarfod â dwy fenyw, sef Francis Finney a Marcia Price. Roedd y ddwy wedi penderfynu dysgu Cymraeg, felly dyma eu gwahodd ar Fore Cothi am sgwrs:Darlledu Broadcasting Cancr y fron Breast cancer Diolch byth Thank goodness Dipyn bach yn iau A little bit younger2 Beti a'i Phobol:Francis a Marcia oedd y ddwy yna, ac mi roedden nhw wedi dysgu Cymraeg yn wych gyda Dysgu Cymraeg Gwent yn doedden nhw?Prif ganwr y band Edward H. Dafis, Cleif Harpwood, oedd gwestai Beti George nos Sul diwetha. Mae cwmni recordiau Sain newydd ryddhau casgliad o holl draciau'r band iconig hwn, er mwyn dathlu hanner can mlynedd ers iddyn nhw ffurfio. Yma mae Cleif yn sôn am ei ddyddiau efo'r bandiau Edward H Dafis ac Injaroc:Rhyddhau To release Cerddorion penna(f) Leading musicians Yn eitha disymwth Quite suddenly Y gynulleidfa The audience Arbrofi To experiment Atgas Obnoxious Y fath wawd Such scorn Bradwyr Traitors Cyfoes Modern Esblygu To evolve3 Trystan ac Emma Gwener 1af Rhagfyr:Hanes diddorol bywyd byr y band Injaroc yn fanna gan Cleif Harpwood.Bob Nadolig dros gyfnod yr Adfent mae trigolion pentref Corris ger Machynlleth yn addurno eu ffenestri. Ar Trystan ac Emma yn ddiweddar mi fuodd un sy'n byw yn y pentre, sef Elin Roberts, yn sgwrsio am y traddodiad arbennig yma yn y pentref:Addurno To decorate Dadorchuddio To unveil Ymgynnull To congregate Cynllunio To plan Goleuo To light 4 Aled Hughes:Yn tydy hi'n braf gweld yr holl oleuadau Dolig yng nhai pobl yr adeg hon o'r flwyddyn? Da iawn pobl Corris am wneud y mwya o gyfnod yr Adfent.Drwy'r wythnos diwetha ar ei raglen mi fuodd Aled Hughes yn siarad efo gwahanol unigolion sydd wedi cymryd rhan yn ymgyrch Defnyddia Dy Gymraeg Comisiynydd yr Iaith. Mae'r sgyrsiau yn pwysleisio sut mae defnyddio'r Gymraeg wedi bod o fantais yn y gwaith o ddydd i ddydd. Yn y clip yma mae Aled yn sgwrsio efo Gareth Williams, un o hyfforddwyr y Scarlets am sut mae o'n defnyddio'r Gymraeg yn ei waith:Mantais Advantage Hyfforddwyr Coaches Cyfathrebu Communicating Y prif nod The main aim Carfan Squad Cryn dipyn Quite a few Agwedd Aspect Adborth Feedback Unigolyn Individual Cyfarwydd Familiar5 Dros Ginio:Gareth Williams oedd hwnna'n gweld mantais mawr mewn defnyddio'r Gymraeg i gyfathrebu efo aelodau o garfan y Scarlets.Ddydd Mawrth y 5ed o Ragfyr roedd hi'n Ddiwrnod Rhyngwladol Gwirfoddoli. Mae Ruth Marks o Gyngor Gweithredu Gwirfoddoli Cymru, wedi dweud fod y sector o dan bwysau ofnadwy. Hedd Thomas, o'r Cyngor, a Gwenno Parry sy'n gwirfoddoli gyda Radio Ysbyty Gwynedd fuodd yn tafod hyn efo Jennifer Jones ar Dros Ginio:Gwirfoddoli To volunteer Pwysau Pressure Argyfwng Crisis Gostyngiad Reduction Cyfleoedd Opportunities Cynrychioli To represent Trafferthion Problems Difrifol Serious Newydd raddio Just graduated Wedi bod wrthi Been at it6 Ifan Jones Evans:Wel dyna ni , tasech chi eisiau helpu allan efo'r gwaith gwirfoddoli cysylltwch â'r mudiad gwirfoddoli lleol. Dw i'n siŵr bydd yna ddigon o gyfleodd i chi.Brynhawn Mercher diwetha, cychwynnodd Ifan ar gyfres newydd o sgyrsiau ar ei raglen. Mae o'n trafod hoff bethau'r Dolig gyda gwestai arbennig bob wythnos, o rwan tan Dolig. A dechreuodd o mewn steil a hynny yng nghwmni Gary Slaymaker:Cymdeithasu To socialise Cwrdda lan To meet up Ymwybodol Aware Sbort Hwyl Yn llethol Overwhelming Nadoligaidd Christmasy Emynau Hymns Cytgan Refrain Nefolaidd Heavenly
Clip 1 Trystan ac Emma: Buodd Steffan Long o Gaerdydd yn sgwrsio ar raglen Trystan ac Emma yn ddiweddar, ac yn sôn am ei waith fel cynorthwyydd dysgu Saesneg mewn Ysgol yn Tokyo, a dyma i chi flas ar y sgwrs: Cynorthwyydd Assistant Ma's Allan Hir dymor Long term Parhau Continue Disgyblion Pupils Mymryn A little Clip 2 Rhaglen Cofio: Steffan Long oedd hwnna'n sôn am ei waith mewn ysgol yn Tokyo. Wythnos diwetha roedd hi'n Sul y Cofio a dyna beth oedd thema rhaglen Cofio gyda John Hardy. A dyma i chi glip o Harold Williams yn sôn am ddod i Lanrwst fel ifaciwî o Lerpwl yn ystod yr Ail Ryfel Byd: Ail Ryfel Byd Second World War Trais Violence Pledu cerrig Throwing stones Cyfnod Period Yn achlysurol Occasionally Mynd yn eu holau Returning Lleia'n byd o sôn oedd The less it was mentioned Buan iawn Very soon Clip 3 Bwrw Golwg: Hanes rai o ifaciwîs Llanrwst yn fanna ar raglen Cofio. Ar Bwrw Golwg ar y 12fed o Dachwedd, mi roddwyd sylw i Diwali neu Ŵyl y Goleuni, sy'n cael ei dathlu gan Hindŵiaid a Sikhiaid. Yn y clip nesa ‘ma mae Mohini Gupta, sydd wedi dysgu Cymraeg, yn sôn am draddodiadau'r Ŵyl hon efo Gwenfair Griffith: Goleuni Light Traddodiadau Traditions Addurno To decorate Gweddïau Prayers Buddugoliaeth Victory Tywyllwch Darkness Gwahodd ffyniant Inviting prosperity Pryder amgylcheddol Environmental concern Ymdrechion i annog Efforts to encourage Melysion Confectionary Byrbrydau Snacks Clip 4 Rhaglen Aled Hughes: Mae'n swnio fel bod dathliadau Diwali yn llawn o fwyd blasus yn tydy? DJ Katie Owen oedd gwestai Aled Hughes yn ddiweddar. Mae Katie wedi dilyn Cymdeithas Bêl-Droed Cymru ar draws y byd yn chwarae cerddoriaeth i'r cefnogwyr, ac mae hi wedi dysgu Cymraeg. Buodd Katie ar y rhaglen Iaith ar Daith efo'i mentor Huw Stephens yn 2021. Mi gafodd Aled â Katie sgwrs yng Nghanolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn, ac yn y clip hwn mae hi'n sôn am gymaint mae hi'n caru dysgu Cymraeg: Cymdeithas Bêl-Droed Cymru Football Association of Wales Cefnogwyr Fans Mo'yn Eisiau Cerddoriaeth Music Ar goll Lost Mi ddylet ti fod You should be Clip 5 Rhaglen Caryl: Dal Ati Katie, mi fyddi di'n rhugl cyn bo hir, dw i'n siŵr. Lowri Cêt oedd yn cadw cwmni i Caryl ddechrau'r wythnos diwetha. Mae Lowri yn chwarae rhan Sindarela ym mhantomeim blynyddol Theatr Fach Llangefni. Yma mae'n dweud mwy am y sioe: Stori draddodiadol Traditional story Llysfam gas Wicked stepmother Annifyr Unpleasant Yn gyfarwydd â Familiar with Hyll Ugly Gwisgoedd Costumes Cymeriadau Characters Yn brin iawn Very rarely Hawlfraint Copyright Clip 6 Bore Cothi: Wel am hwyl ynde? A phob lwc i griw Theatr Fach Llangefni efo'r pantomeim. Bob nos Fawrth mae'r rhaglen Gwesty Aduniad i'w gweld ar S4C. Mae'r rhaglen yn trefnu aduniad i bobl sydd wedi colli cysylltiad â'i gilydd ond hefyd yn trenu i bobl gyfarfod â'i gilydd am y tro cynta mewn amgylchiadau arbennig. Mae'n gyfres boblogaidd ac emosiynol iawn. Nos Fawrth y 14eg o Dachwedd roedd Guto Williams o Dregarth ar y rhaglen. Mae Guto wedi cael ei fabwysiadu ac yn awyddus i ddod o hyd i'w deulu coll: Aduniad Reunion Mabwysiadu To adopt Adlewyrchiad Reflection Magwraeth Upbringing Rhieni maeth Foster parents Tebygolrwydd Similarity Cam mawr A big step Greddf Instinct Parch Respect Ffawd Lwc Clamp o stori A huge story
Joseff Gnagbo yw Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Ond nid Cymro Cymraeg nac hyd yn oed Cymru yw Joseff - mae'n newyddiadurwr, academydd ac ymgyrchydd gwleidyddol o'r Côte d'Ivoire yng ngorllewin Affrica a gafodd loches wleidyddol a danfonwyd i fyw yng Nghaerdydd yn 2018. Yn y brifddinas dysgodd y Gymraeg ac mae bellach yn dysgu Cymraeg fel ail iaith i oedolion - gan gynnwys ceiswyr lloches. Bu'n siarad â Siôn Jobbins o Radio YesCymru am ei fywyd yng Nghymru, ei gefnogaeth i'r Gymraeg ac annibyniaeth Gymreig a'r tebygrwydd a welai â'i famwlad a'i wlad fabwysiedig. * Cymdeithas yr Iaith Gymraeg = http://cymdeithas.cymru * Melin Drafod, melin drafod asgell chwith dros annibyniaeth - http://melindrafod.cymru * Y Sŵn - ffilm am Gwynfor Evans a sefydlu S4C - https://www.s4c.cymru/cy/drama/y-swn/ * Cymraeg i Oedolion - https://dysgucymraeg.cymru * Canolfa Oasis, Caerdydd - https://www.oasiscardiff.org/ * Yr Americanwr Ari Smith (sianel @Xiaomanyc) yn siarad Cymraeg ar strydoedd Caerdydd - https://www.youtube.com/watch?v=dp-QCiACGAU Dolenni eraill - Dysgwr Americanaidd: https://youtu.be/dp-QCiACGAU?si=VC52fJhy3e9GHaiz
Beth yn union yw ffuglen wyddonol, a sut mae genre o'r fath yn ein helpu i archwilio'r problemau byd-eang sy'n ein hwynebu o ddydd i ddydd? A all genre sy'n cael ei weld fel genre sy'n drwm dan ddylanwad diwylliant ‘Eingl-Americanaidd', ac sy'n portreadu heb eu tebyg, fod yn berthnasol i ddiwylliannau lleiafrifol heddiw? Yn y bennod hon, mae Dr Miriam Elin Jones, mewn sgwrs ag Elin Rhys, yn trafod o ble ddaeth ei diddordeb mewn ffuglen wyddonol, a chyflwyno sut y gall y genre archwilio nifer o bryderon perthnasol i ddiwylliant lleiafrifol fel y diwylliant Cymraeg, drwy bortreadu tranc iaith a pherthynas iaith a thechnoleg. Mae Dr Miriam Elin Jones yn Ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn arbenigwr ym maes ffuglen wyddonol y Gymraeg. Datblygodd ei hymchwil yn sgil ei diddordeb yn y modd y mae'r berthynas rhwng ieithoedd lleiafrifol a thechnoleg, a goblygiadau tranc iaith i gymdeithas a'i diwylliant yn cael eu harchwilio mewn ffuglen wyddonol yn Gymraeg. Ar hyn o bryd, mae Dr Jones yn rhan o Rwydwaith Adrodd Newid Gwledig, sy'n cyfuno ei magwraeth wledig a'i hymchwil i ddadansoddi portreadau o ffermio a bywyd yng nghefn gwlad mewn testunau ffuglen wyddonol yn y Gymraeg. Yn llenor a dramodydd, mae ganddi hefyd ddiddordeb mewn beirniadaeth greadigol ac archwilio'r berthynas rhwng beirniadaeth ac ysgrifennu creadigol.
Pigion Cofio Amelia Earhart 28.05 Gan fod Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Llanymddyfri wythnos diwetha, y dref honno a Sir Gar oedd thema'r rhaglen archif Cofio gyda John Hardy. Buodd e'n chwilio am hanesion o'r sir a dyma i chi glip bach o raglen “Ddoe yn ôl” o 1983 a Gerald Jones, cyn bennaeth Brigâd Dan Sir Gaerfyrddin yn llygad dyst i Amelia Earhart yn glanio ym Mhorth Tywyn o'r America yn 1928. Llygad dyst Eye witness Arbenigo To specialise Lodes Merch Ehedeg Hedfan Porth Tywyn Burry Port O bellter From a distance Pigion Bore Sul Nicky John 28.05 Hanesion diddorol am Amelia Earhart yn fanna gan Gerald Jones . Gwestai arbennig Iwan Griffiths ar raglen Bore Sul oedd Nicky John, y gohebydd chwaraeon. Mae hi wedi gweithio ar raglen Sgorio ar S4C ers tua 17 o flynyddoedd, a dyma hi'n sôn am uchafbwyntiau ei gyrfa. Gohebydd Correspondent Uchafbwyntiau Highlights Dychryn To frighten Gwibio heibio Flying past (lit: darting past) Rhyngwladol International Braint Privilege Ar lawr gwlad At grassroots level Pigion Shelley & Rhydian Llyr Ifans 27.05 Wel ma Nicky John wrth ei bodd gyda'i gwaith on'd yw hi? Llyr Ifans oedd gwestai Shelley a Rhydian bnawn Sadwrn. Mae o'n cymryd rhan yn y rhaglen Iaith ar Daith ar S4C ar hyn o bryd yn helpu'r actor Neet Mohan, sydd i'w weld ar Casualty, i ddysgu Cymraeg. Buodd Llyr hefyd yn actio ar Casualty ddwywaith ac wedi dod ar draws Neet yn y gyfres... Cyfres Series Digwydd bod It so happened Bellach By now Awydd Desire Gweithgareddau Activities Carchar Rhuthun Ruthin Gaol Anhygoel Incredible Synau Sounds Pigion Bore Cothi Marlyn Samuel 29.05 A tasech chi eisiau gweld pa mor dda yw Llŷr fel tiwtor mae'n bosib ei weld yn dysgu Neet at S4C Clic. Elain Roberts enillodd Fedal Ddrama Eisteddfod yr Urdd eleni , ond cafodd Shan Cothi sgwrs gyda un o gyn enillwyr y Fedal - yr awdures Marlyn Samuel. Enillodd Marlyn y Fedal yn Eisteddfod yr Urdd Merthyr Tydfil yn 1987. Ei ffug enw oedd ‘Sallad‘ – pam tybed? Wel ‘roedd Marlyn yn ffan mawr o'r opera sebon Dallas, ond tasai hi wedi rhoi Dallas fel enw basai pawb wedi ei hadnabod – felly penderfynodd droi'r enw o gwmpas! 22 oed oedd Marlyn ar y pryd, ac yn gweithio fel Gohebydd Môn a Gwynedd i'r rhaglen radio Helo Bobol Ffug enw Pseudonym Ffodus Lwcus Y flwyddyn cynt The previous year Testunau Syllabus (list of competitions) Cynrychiolydd Representative Fy nghyfnither My female cousin Duwadd annwyl Dear me Rhybudd Warning Dim siw na miw Not a word Pigion Siarcod Jake Davies 29.05 Marlyn Samuel oedd honna'n cofio'r adeg pan enillodd hi Fedal Ddrama Eisteddfod yr Urdd. Y biolegydd Jake Davies, oedd yn sôn am siarcod oddi ar arfordir Cymru ar y rhaglen wyddonol Yfory Newydd. Mae'n gweithio i Gyfoeth Naturiol Cymru ac i Sw Llundain, a dyma fe'n siarad am ei waith yn astudio'r moroedd ym Mhen Llŷn... Cymunedau Communities Gwaith maes Fieldwork Abwyd Bait Mecryll Mackerels Rhywogaethau Species Bad achub Lifeboat Cynefinoedd Habitats Pigion Sara Gibson 31.05 Hawdd iawn gweld bod Jake yn frwd iawn am ei waith on'd yw hi? Bore Mercher roedd Sara Gibson yn cadw sedd Aled Hughes yn dwym. Cafodd hi sgwrs am y pryder ynglŷn â datblygiad deallusrwydd artiffisial. Dyma'r cerddor Lewys Meredydd yn sôn am effaith AI ar greu cerddoriaeth... Brwd Enthusiastic Pryder Concern Deallusrwydd Intelligence Creu Creating Bwrlwm Babble Yn y bôn Essentially Ffynnu To flourish Meddalweddau Software Cynhyrchu To produce
Robat Idris Davies o Ynys Môn yw gwestai Beti George. Mae'n ymgyrchydd brwd, yn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, ac yn Is-Gadeirydd Cymdeithas y Cymod. Mae hefyd yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Môn, yn Gyfarwyddwr Cymdeithas Morisiaid Môn, ac yn aelod o Bwyllgor Gweithredol PAWB – Pobl Atal Wylfa B. Mae'n sôn am ei waith fel Milfeddyg ac am ei gyfnod yn Japan yn dilyn dinistr Fukushima.
Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Dom a Lloyd! Yn ymuno â'r criw yn y bennod yma yw'r DJ, cyflwynydd a'r dysgwr Cymraeg, Katie Owen.
Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Dom a Lloyd! Ym mhob pennod bydd y ddau yn gofyn cwestiynau a dilemas doniol i westai arbennig! Ar y rhaglen heddiw mae Gwenllian Ellis, awdures sydd newydd gyhoeddi ei llyfr cyntaf am gariad a rhyw!
Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Dom a Lloyd! Ym mhennod olaf y gyfres mae'r cyflwynydd Hansh, Gwion Ifan yn ymuno â'r deuawd direidus i drafod dilemas bwyd!
In this podcast we'll be practising the future tense
Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Dom a Lloyd! Ym mhennod gynta'r gyfres mae'r rapiwr Sage Todz yn galw heibio i ateb cwestiynau cerddorol. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.
Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Dom a Lloyd! Yn yr ail bennod, mae'r Frenhines Drag Catrin Feelings yn ymuno â nhw i drafod nosweithiau allan a'r sîn drag yng Nghymru!
Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Dom a Lloyd! Yn y drydedd bennod, mae'r ymladdwr MMA Brett Johns yn ymuno â nhw i drafod chwaraeon a'r UFC!
Wythnos yma ma Rhodri a Scott yn rhannu eu trafferthion fflyrtio yn y iaith Gymraeg, ac yn gymharu dydd sant Ffolant a dydd santes Dwynwen.
Roly polies, gwersi ffitrwydd a marathons. Yn bennod olaf y gyfres mae Beth, Amber, Hollie a Mared yn trafod probs mwyaf chwaraeon a ffitrwydd. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.
RHYBUDD – Mae'r pennod yma yn trafod iechyd meddwl ac hunanladdiad. Am gymorth a help ewch i: https://www.s4c.cymru/cy/cymorth/ Ar bennod newyd Probcast mae Hollie, Mared, Amber a Beth yn trafod iechyd meddwl. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.
Ar bennod newydd Probcast mae Amber, Hollie, Mared a Beth yn trafod eu probs rhyw a rhywioldeb. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.
Mae 'na lot o bwysau i newid yn y flwyddyn newydd, felly ar bennod newydd Probcast mae Hollie, Mared, Amber a Beth yn trafod hunan ddelwedd. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.
Colin Nosworthy o Melin Drafod sy'n trafod yr Uwchgynhadledd Annibyniaeth bydd ar ddydd Sadwrn 28 Ionawr 2023, Neuadd y Brangwyn Abertawe. Cyfraniadau yn yr Uwchgynhadledd gan Adam Price a Luke Fletcher (Plaid Cymru), Anthony Slaughter (Arweinydd Plaid Werdd Cymru), Llafur dros Annibyniaeth, Undod, Cymdeithas yr Iaith a mwy. Manylion a thocynnau: http://melindrafod.cymru [podlediad yn Gymraeg | podcast in Welsh]
Teimlo'n burnt out o'r holl bartis ‘Dolig? Ar bennod newydd Probcast mae Hollie, Mared, Amber a Beth yn rhannu eu problemau partioedd. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.
Mae merched Probcast nôl am gyfres newydd! Ym mhennod gyntaf y gyfres mae Hollie Smith, Mared Jarman, Amber Davies a Beth Frazer yn trafod ffilmio ‘Goro Neud', eu cyfres teithio newydd ar Hansh. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.
Ma' Owain Tudur Jones a Dylan Griffiths yn holi amddiffynwr Cymru Ben Davies a sgwrsio gyda Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru a chyn-ymosodwr Cymru Iwan Roberts.
BETI A'I PHOBOL Joe Healy, enillydd Dysgwr y Flwyddyn oedd gwestai Beti George yn ystod Wythnos y Dathlu. Mae Joe'n dod o Wimbledon yn ne Llundain yn wreiddiol ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers deg mlynedd. Daeth i Gaerdydd i fynd i'r brifysgol, ac mae wedi aros yno. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018 ac yn y clip yma mae'n sôn am sut wnaeth teulu Mared, ei cyn- gariad, ei helpu i ddysgu'r iaith… Treulio amser - To spend time Mynd mas - Mynd allan Profiad - Experience Mam-gu - Nain Cymdeithasol - Sociable Gorfodi - To force Cefnogol - Supportive Becso - Poeni Trochi - To immerse ALED HUGHES Dim ond ers mis Ebrill eleni mae Katie Owen o Ferthyr yn dysgu'r iaith ar ôl iddi gymryd rhan yn y rhaglen Iaith ar Daith gyda'r DJ Huw Stephens yn fentor iddi hi. Dyma hi'n sgwrsio gydag Aled Hughes… Gwahanol - Different Tad-cu - Taid ALED HUGHES Cafodd Laura Jones o Gaerdydd ychydig o wersi Cymraeg yn yr ysgol, ond penderfynodd ddysgu'r Gymraeg fel oedolyn er mwyn cyfieithu rhannau o'r Quran. Dyma flas ar y sgwrs cafodd hi gydag Aled Hughes... Oedolyn - Adult TGAU - GCSE Annog - To encourage Gyrfa - Career Cyfleoedd Gwaith - Work opportunities Bwlch - A gap Dywediadau - Sayings ALED HUGHES Beth tybed oedd rheswm Kelly Webb-Davies sy'n dod o Awstralia'n wreiddiol dros ddysgu'r iaith? Fel cawn ni glywed mae hi'n briod â Peredur Glyn awdur nofel o'r enw ‘Pumed Gainc y Mabinogi' ac mae hi wedi magu ei mab drwy'r Gymraeg. Dyma hi'n sgwrsio efo Aled Hughes... Ieithyddiaeth - Linguistics Bathu term - To coin a phrase Sillafu - To spell Seiniau - Sounds Clwt - Cewyn Llwglyd - Hungry BORE COTHI Mae stori Sara Maynard o Sir Gaerfyrddin ychydig yn wahanol. Cafodd hi ei haddysg mewn ysgolion Cymraeg ond ar ôl gadael ysgol collodd hi ei hyder o ran sgwennu Cymraeg. Aeth hi ar gwrs Cymraeg i Oedolion i wella'r sgil yma ac erbyn hyn mae hi'n swyddog iaith ym Mhrifysgol De Cymru. Ysgol gynradd - Primary School Ysgol Gyfun - Secondary School Trwy gyfrwng - Through the medium of Ysgrifenedig - Written Sbarduno - To spur BORE COTHI Cafodd Shân Cothi sgwrs ddiddorol arall gyda Dickon Morris, cafodd ei eni yng Nghaergrawnt, ei fagu yn Sir Benfro ond sydd erbyn hyn yn byw yng Nghaerdydd. Mae e'n gweithio fel daearegydd ac yn amlwg mae e wrth ei fodd gyda'r gwaith... Caergrawnt- Cambridge Daearegydd - Geologist Plentyndod - Childhood Dinbych y Pysgod - Tenby Diwydiant - Industry Tirwedd - Landscape Llethrau serth - Steep slopes Amrywiaeth - Variety
[English below] Heddiw dwi'n siarad gyda Katie Owen. Dechreuodd Katie ddysgu Cymraeg dim ond 1 mis yn ôl!Mae Katie yn gyflwynydd a DJ o Gymru ond yn byw yn Llundain ar hyn o bryd. Rydyn ni'n siarad am Iaith ar Daith, Gŵyl Leeds a mwy.Today I'm speaking with Katie Owen. Katie started learning Welsh just 1 month ago! Katie is a presenter and DJ from Wales but currently live in London. We talk about Iaith ar Daith, Leeds Festival and more.
Aled Hughes a Vaughn Smith Glanhau carpedi yn Washington, yn yr Unol Daleithiau, ydy gwaith Vaughn Smith. Mae'n gallu siarad 24 iaith yn rhugl, mae o'n hyperpolyglot. Mae'r Gymraeg yn un o'r ieithoedd hynny a dyma fo'n cael sgwrs yn Gymraeg efo Aled Hughes Hyd y cofiaf - As far as I remember Ces i fy swyno - I was enchanted Yn ddiweddarach - Later Brodorol - Native Gwyddeleg - Irish language Vaughn Smith ddysgodd un o ieithoedd brodorol Mecsico oherwydd ei fam, a'r Gymraeg oherwydd cefndir ei dad - ond beth am y 22 o ieithoedd eraill? Anhygoel ynde? Aled Hughes ac Iwan Rheon Bydd lawer ohonoch chi'n cofio'r actor Iwan Rheon am ei berfformiadau fel Ramsay Bolton yn Game of Thrones. Mae o wedi actio yn Gymraeg yn y gorffennol - fo oedd Macsen White yn Pobol y Cwm, ond heb actio yn Gymraeg ers rhai blynyddoedd erbyn hyn. Y newyddion da ydy ein bod ni'n mynd i weld Iwan cyn bo hir ar S4C mewn cyfres newydd sbon 'Y Golau'. Dyma glip ohono fo'n sgwrsio efo Aled Hughes Cefndir - Background Anhygoel - Incredible Cyfres - Series Llwyfan - Stage Atgofion melys - Fond memories Chwedl - Legend Anferth - Huge Amrywiaeth - Variety Cymeriadau - Characters Yn dueddol - To tend to Iwan Rheon oedd hwnna'n sôn am ei yrfa ac am gyfres newydd ar S4C ' Y Golau'. Bore Cothi ac Angharad Mair Tasech chi'n cael mynd ar fordaith - ble basech chi'n mynd a phwy fasech chi'n mynd efo chi? Dyma oedd dewis y gyflwynwraig Angharad Mair ar Bore Cothi Mordaith - Cruise Cyflwynwraig - Female presenter Aduniad - Reunion Gwaith ymchwil - Research Ffrindiau hoff gytûn - Best friends Mordaith ddiddorol iawn i Angharad a'i ffrindiau, yn enwedig os bydd Elvis yno! Pigion - Ni'n Dau Efeilliaid Nic Parri fuodd yn cyflwyno rhaglen arbennig am efeilliad. Mae Nic ei hun yn un o efeilliaid ac yn y clip yma mi gawn ni ei glywed yn sgwrsio efo efeilliaid bach o Fethesda yng Ngwynedd, Anni Glyn a Kate Ogwen Efeilliaid - Twins Yr un fath - Identical Ffraeo - To row O, annwyl de? Yr efeilliaid Anni a Kate oedd y rheina, ond pa un o'r ddwy oedd yn rhoi'r golau mlaen tybed? Gwneud Bywyd yn Haws Nos Fawrth ar Gwneud Bywyd yn Haws gaeth Hanna Hopwood gwmni Lliwen MacRae un o sylfaenwyr y grwp facebook GeNi sy'n rhoi llwyfan i famau beichiog a mamau newydd i rannu profiadau. Annwyl - Cute Sylfaenwyr - Founders Beichiog - Pregnant Profiadau - Experiences Heb ofni - Without fear O leia - At least Pynciau - Subjects Ymuno - To join Fatha - Yr un fath â Felly os dach chi'n fam newydd neu'n feichiog cofiwch am dudalen Facebook GeNi. Mali Harries Yr actores Mali Harries, sy'n chware rhan Jaclyn Parri yn yr opera sebon, Pobol y Cwm, fuodd yn sôn am fod yn fentor iaith i'w ffrind, yr actores Amanda Henderson. Mae Amanda, sy'n chware'r rhan Robyn yn y gyfres Casualty, wrthi'n dysgu Cymraeg efo help Mali yn y gyfres Iaith ar Daith ar S4C. Ffrindiau mynwesol - Bosom pals Twymgalon - Warmhearted Egnïol - Enegetic Yn gyfarwydd â - Familiar wuth Wedi cael ei throchi - Has been immersed
Trigain mlynedd wedi araith Saunders Lewis Tynged yr Iaith, nae'r Gweinidog dros Addysg a'r Gymraeg, Jeremy Miles AS yn amlinellu ei weledigaeth ar gyfer dyfodol y Gymraeg.Gallwch weld yr araith ysgrifennedig yma: https://llyw.cymru/maer-gymraeg-yn-perthyn-i-ni-i-gyd.Cymraeg belongs to us all: The Minister for Education and Welsh Language, Jeremy Miles MS outlines his vision and direction for Cymraeg sixty years on from Saunders Lewis' famous speech Tynged yr Iaith. This podcast is available in Welsh only. A translation of the speech is available here: https://gov.wales/cymraeg-belongs-us-all
Y tro yma rwy'n siarad gyda'r arbenigwr ac ymgyrchydd iaith, Dr Ben Ó Ceallaigh, sy'n dod o Iwerddon yn wreiddiol. Pan roedd e'n ifanc, dechreuodd e siarad Gwyddeleg ar ôl dysgu mwy am hanes ei wlad. Symudodd e i Aberystwyth er mwyn gweithio yn y Brifysgol yno, ac wrth gwrs, dysgodd e Gymraeg hefyd. Mae mwy o wybodaeth a lluniau ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter
Sgwrs efo Emily Roberts, Rheolwr Gweithredu a Profiad Cwsmer M-SParc am ei swydd, merchaid ym myd STEM a'r iaith Gymraeg.
In this episode, Nina Cnockaert-Guillou chats with Hélène Bonniec, a Breton teacher in Skol an Emsav, a school teaching Breton to adults in Brittany, and Bethan Ruth Roberts, a student in Hélène's first ever online class through the medium of English. Hélène explains how and why she became a Breton teacher and talks about the school's methods and classes. Bethan, a Welsh-speaker, talks about her own interest in Breton and fighting for minority language rights. Hélène and Bethan both speak with enthusiasm about seeing the world through Breton, and give some great recommendations (below). Links and notes: Skol an Emsav (https://www.skolanemsav.bzh/br/) Féile Liú Lúnasa Misneach (Ireland) Misneachd Alba GBB Festival (Gouel Broadel ar Brezhoneg) (https://gbb.bzh/en/gbb2021-eng/) Oulpan method (via Skol an Emsav https://www.skolanemsav.bzh/br/editions/prenan-enlinenn/94-oulpan-1-2-3.html) Nicolas Davalan Cymdeithas yr Iaith Reuters article about the decision by the French Constitutional Council to make immersion schools in ‘regional' languages unconstitutional (https://www.reuters.com/world/europe/frances-constitutional-council-rejects-bill-permitting-minority-language-schools-2021-05-21/) Recommendations: Kwizh Brezhoneg (app) Edubreizh (app) Tamm Kreizh (app) Bali Breizh (show on YouTube, https://www.youtube.com/watch?v=uMDqvylbkzY&list=PLPcEoAdla-yjTT5MiyKNANBK5qUEHttxd) Get involved: - Ai'ta! (https://aita.bzh/en/) (Brittany) - Mebyon Kernow (https://www.mebyonkernow.org) (Cornwall) - Misneach (https://www.misneachabu.ie) (Ireland) - Misneachd Alba (https://www.misneachd.scot) (Scotland) - Cymdeithas yr Iaith (https://cymdeithas.cymru) (Wales) Fin ar bed “the end of the world” (Breton tv series, 2 seasons, 10min episodes) (https://finarbed.bzh/br/) #Brezhoneg (magazine for learners, published by Skol an Emsav) (https://www.skolanemsav.bzh/br/editions/brezhoneg.html) Bremañ (magazine for Breton speakers with a good level, published by Skol an Emsav) (https://www.skolanemsav.bzh/br/editions/breman.html) Brezhoweb (online tv channel) (https://www.brezhoweb.bzh) Breizh VOD (Breton “Netflix”) (https://www.breizhvod.com/en/) This episode is in English. It was recorded in June 2021. Links and notes also available on our blog here. Host: Nina Cnockaert-Guillou Guest: Hélène Bonniec and Bethan Ruth Roberts Music: “Kesh Jig, Leitrim Fancy” by Sláinte, CC BY-SA 3.0 US (creativecommons.org/licenses/by-sa/3.0/us/), available from freemusicarchive.org. --- Send in a voice message: https://podcasters.spotify.com/pod/show/celticstudents/message
https://www.mentermon.com/wp-content/uploads/2018/01/PROFFIL-IAITH-MON-26-2-2021.pdf
Sgwrs hwyliog am iaith orau'r byd sydd gan Aled yn y bennod yma. Dyma'r da, y difyr a'r dryslyd am y Gymraeg!
*CAFODD Y BENNOD HON EI RECORDIO O BELL, FELLY MADDEUWCH Y SYNAU CEFNDIROL PLIS!* Orig hyfryd yng nghwmni’r awdur slash sgriptiwr slash academydd slash cantor slash dramodydd slash cynhyrchydd ffilm a theledu, Fflur Dafydd. Pynciau llosg: ffeindio Y cyfrwng, dilysrwydd yr awdur, cydbwysedd gwaith-a-bywyd, bara banana, euogrwydd y gweithiwr llawrydd, Ble the fuck ma Penrhiwllan?, rhieni ysbrydoledig, Cymdeithas yr Iaith, enwau plant sili, eisteddfota, caws, Caryl Lewis, bysgio yn Aberaeron, Johnny Panic, RS Thomas, y gwaith, blydi plant, gwobrau lu, Ynys Enlli, Y Llyfrgell, Euros Lyn, Parch a llawer mwy.
In this podcast I’ll be going over tips and key words to help you prepare for units 3 and 4 of your Welsh second language exams.
Cyfle i wrando eto ar sgwrs rhwng Beti George a'r ysgolhaig, Yr Athro Tedi Millward a fu farw yn gynharach eleni. Yn y rhaglen mae e'n sôn am ei fagwraeth yng Nghaerdydd ac am ddylanwad yr athro Elvet Thomas arno i ddysgu'r Gymraeg. Cawn hanes dechreuad Cymdeithas yr Iaith a hefyd ei waith fel tiwtor personol i Dywysog Cymru cyn iddo gael ei Arwisgo nôl yn 1969.
Welsh Music Prize 2020 nominees Yr Ods chat to Llwyd Owen about their album Iaith y Nefoedd. Sgwrs rhwng Yr Ods, sydd ar rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2020 gyda Llwyd Owen, am eu albym Iaith y Nefoedd.
Siwan Dafydd sy'n clywed mwy gan Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru.
Trafodaeth am ganeuon addoliad, death metal Cristnogaeth a dod yn rhan o eglwys Gymraeg.Cyfranwyr: Derek Rees, Corey Hampton, Gwion DafyddCynhyrchydd: Sam Clement
Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Rhaglen Aled Hughes - Gwartheg yn siarad gwartheg - cattle brefu - mooing ymchwil - research ar brydiau hwyrach - at times perhaps tynnu lloiau - pulling calves blawd - cattle feed heffrod - heiffers tarw - bull fel diawl - intensely coelio - credu Yn yr wythnos pan ddaeth y ffilm 'Dr Dolittle' allan dyma Aled Hughes yn penderfynu basai fe'n trio cael sgwrs gyda gwartheg Bryn Roberts o Benisarwaun ger Llanberis. Roedd e wedi clywed bod gwartheg yn gallu brefu mewn 13 o wahanol ffyrdd a bod pob bref yn golygu rhywbeth gwahanol. Dyma sut aeth sgwrs Aled gyda'r gwartheg druan. Ar y Marc - Corau Rhys Meirion gelynion - enemies dewr - brave cyfres newydd - new series cythraul canu (idiom) - singing rivalry cyd-ganu - singing together profiad gwych - brilliant experience cantorion - singers ymarfer - rehearsal oddi cartre - away buddugoliaeth - victory Aled Hughes oedd hwnna'n trio cael sgwrs gyda gwartheg. Dim ond pedair milltir sy rhwng pentrefi Llanrug a Llanberis yng Ngwynedd ac mae timau pêl-droed y pentrefi yn dipyn o elynion ar y cae chwarae. Penderfyniad dewr felly oedd un Rhys Meirion i ddod â'r ddau dîm at ei gilydd i ganu fel un côr. Ar raglen Ar y Marc cafodd Dylan Jones sgwrs gyda Rhys Meirion, Dafydd Arfon o Lanrug ac Eurwyn Thomas o Lanberis am y syniad dewr yma. Rhaglen Ifan Jones Evans - Colin Jackson cyflwynydd - presenter ei ardal enedigol - area of his birth arfordir - coast Gwersyll - Camp dyfalu - to guess peiriant amaethyddol - agricultural machine go iawn - real Cofiwch wylio'r gyfres newydd nos Iau ar S4C i chi gael gweld sut siâp oedd ar y côr erbyn i Rhys Mrieion orffen gyda nhw. Mae yna gyfres newydd arall yn dod i S4C sef Iaith Ar Daith ac yn un o raglenni'r gyfres mae'r cyflwynydd Eleri Sion yn mynd o gwmpas ardal enedigol y cynathletwr Colin Jackson ac yn rhoi cyfle i Colin, sy'n dysgu'r iaith, ymarfer y Gymraeg ar y ffordd. A dydd Llun diwetha, llwyddodd Ifan Jones Evans i ddod o hydi'r ddau ohonyn nhw ar eu taith a'u holi ble byddan nhw'n mynd nesa. Bore Cothi - Stifyn Parri trawsblaniad gwallt - hair transplant blewyn - a hair tyllu mewn - dig into gwreiddyn - root mae na lu o nyrsys - there's a legion of nurses triawd y buarth - the farmyard trio (welsh folk song) hylif arbennig - special liquid croen - skin ail-blannu - replant planhigyn - plants A bydd yn bosib gweld llawer o bobl sy'n dysgu Cymraehg yn y gyfres Iaith ar Daith, Colin Jackson yn fan'na ond hefyd bydd Carol Vorderman yn ymddangos mewn un o'r rhaglenni. Mae'r actor Stifyn Parri wedi cael trawsblaniad gwallt yn ystod y pythefnos diwetha. Dyma fe ar Bore Cothi'n esbonio'r broses. Oedd hi'n un boenus tybed? Geraint Lloyd - Aberhonddu Aberhonndu - Brecon tref farchnad wledig - a rural market town Y Bannau - The Beacons diwydiant ymwelwyr - tourist industry traddodaid - tradition amrywiaeth - variety atyniad - attraction camlas - canal nwyddau - goods diwydiant haearn - iron industry Stifyn Parri oedd hwnna yn sôn am ei drawblaniad gwallt. Pa mor dda dych chi'n nabod Aberhonddu? Wel dyma'r dref oedd yn cael ei rhoi Ar y Map ar raglen Geraint Lloyd nos Fawrth, ac un sydd yn nabod y lle yn dda ac wedi byw yno ers hanner can mlynedd bellach ydy John Meurig Edwards. Dyma fe'n rhoi ychydig o hanes y dre. Beti A'i Phobol - Elinor Snowsill rhyngwladol - international araith - speech mo'yn - eisiau pwysau - pressure cyfarwydd â - familiar with gorfeddwl - to overthink rhyddhâd - relief gan eitha lot - by quite a big margin anaf - injury bwrw (fy) mhen i - hit my head Bach o hanes tref Aberhonddu yn fan'na ar raglen Geraint Lloyd. Gwestai Beti George yr wythnos diwetha oedd y chwaraewraig rygbi ryngwladol Elinor Snowsill. Roedd Elinor yn arfer dioddef o beth roedd hi'n ei alw'n Performance Anxiety. Beth oedd effaith hyn ar ei gêm a sut wnaeth hi ddodd dros y cyflwr? Dyma hi'n esbonio wrth Beti.
Translation of the 'Dwyieithrwydd- Ydy e'n bwysig?' mat, Uned 2. Subscribe to be the first to hear any new podcasts!
This podcast will walk you through the past paper information mat, 'Oes mwy i fywyd nac ysgol?'. It will translate the mat and provide help and guidance on how to respond to the mat. Pob lwc!
Mae hi'n 2020 - ac mae 'na ddigon o bethau i'w trafod yn barod! Chris a Geth sydd yn eu holau - ac maen nhw'n trafod Iaith y Nefoedd gan yr Ods, Gŵyl Neithiwr yn Pontio, a'r traciau anhygoel eraill sydd wedi dod allan yn ystod y mis diwethaf.
Sut ydym am hybu mwy o bobl i ddefnyddio'r iaith os yw rhai yn ein cywiro ac yn ceisio ein tanseilio? Sut mae ennyn pobl i fod yn ddigon hyderus ac i fyw trwy gyfrwng y gymraeg?
Elis James sy'n archwilio’r ffordd mae iaith yn allwedd i ddiwylliant.
Meri Huws has reached the end of her seven-year tenure as Welsh Language Commissioner.She looks back at what she's achieved in the role and sets out what must happen next to ensure people in Wales can live their lives through Welsh to the extent that they wish.She also recalls the activism and civil disobedience of her youth as a member of Cymdeithas yr Iaith, during which she occupied holiday homes. See acast.com/privacy for privacy and opt-out information.
Croeso i bennod cyntaf 2018 - yr un lle mae Bryn, Iestyn a Sioned yn cael mynd i’r byd go iawn. Croeso i bennod ang-nghynhadledd Hacio’r Iaith! Byddwn ni’n siarad efo llwyth o bobl go iawn am vlogio, myfyrwyr Cymraeg Caerdydd, trolls, mapio a peints. Cofiwch pingio neges draw os da chi’n gwrando, neu well fyth gadwch adolygiad ar iTunes!
Unwaith y flwyddyn mae nerds tech-ieithyddol Cymru yn cwrdd fyny mewn digwyddiad brawychus fel the Purge… Ond yn lwcus iawn nid dyna oedd Hacio’r Iaith 2017, mae’r purge wythnos nesa. Ymunwch â Sions, Bryn a Iestyn yn fyw ar leoliad o riviera trofannol Bangor! Ffansi gadael i ni wybod os chi’n joio? Gadewch review i ni yn iTunes, ffankiw! Special Guests: Carl Morris and Rhodri ap Dyfrig.
Yn nhraddodiad yr englyn, yr haiku a’r cwpled, ni’n dod â chywasgiad creadigol byr a bachog* o’r Haclediad i chi cyn digwyddiad Hacio’r Iaith eleni. Byddwn ni’n chwipio trwy ben-blwydd yr iPhone yn 10, a mwy o newyddion, cyn rhoi syniad i chi o be fydd i’w weld yn Pontio, Bangor ar Ionawr yr 21ain - ni’n edrych mlaen i’ch gweld chi yna!
Tro yma ar yr Haclediad – mae’r Iest test nôl! Siarad am bylbs brilliant Phillips Hue. ‘Da ni hefyd nôl gyda’r home helpers digidol, Alexa o Amazon tro yma, plygwn ni’n clustiau at BBC Radio Cymru Mwy ac o bosib anfon y Cymro cyntaf i’r blaned goch gyda SpaceX. Hefyd, rhestri hirfaith o stwff gwych i wrando a gwylio arno, ond dim amser extra i wneud hynny – joiwch! The post Haclediad 52: Oi! Chdi! Teclyn! appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.
Mae’r criw yn cymryd bach o hoe o fyd cymhleth tech am y rhifyn yma, ar feib hafaidd byddwn yn gwrando ar tiwns trwy Apton, a syllu’n gegrwth ar No Man’s Sky. Bydd lwyth o sgwrsio am y Iest Rhest(r) o’r holl Netflix/Amazon Prime/Ffilms ‘da ni heb gael siawns i wylio, ac wrth gwrs, trafodaeth helaeth ar goctêls y noson. Ymunwch â ni am barti hâf, pam lai? The post Haclediad 51: Parti Haf appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.