Nation and ethnic group native to Wales
POPULARITY
‘Sgwrsio' ydy enw'r podlediad hwn ac mae'n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda Grace Jones, sydd wedi ei geni a'i mhagu yn Seland Newydd ac wedi dysgu Cymraeg, a hynny ar ôl cyfarfod ei gŵr Llion pan aeth ef allan i weithio fel cneifiwr i Seland Newydd. Fe dreuliodd Grace gyfnod yng Nghymru pan ddaeth hi a Llion i fyw yn Nebo, ger Llanrwst am gyfnod. Tydy Grace ddim wedi cael unrhyw wersi Cymraeg ffurfiol - mae hi wedi dysgu'r iaith drwy fyw a gweithio ymhlith Cymry pan oedd yng Nghymru ac wrth sgwrsio a gwrando ar Llion yn siarad. Bellach mae Grace a Llion wedi dychwelyd yn ôl i fyw i Seland Newydd, mae nhw newydd brynu fferm ac yn rieni balch i fab bach sydd yn ddwy oed.
Get ready for Llywelyn Fawr part 2: Electric Boogaloo, baby because this hunk of Welsh leadership is coming at you faster than the Cymry of old could loose an arrow. Hit play and listen to the life, the love and the bloodshed that made up the latter half of this big time boys epic reign. Extra treats for the greedy listeners amongst you can be found on our socials and our Patreon here, as well as merch for those who only dress in their historically themed best.
Nick a Carwyn sy'n edrych yn ôl dros benwythnos siomedig i dimoedd Cymru yn yr Alban ac sy'n trafod gobeithion y Cymry gyda'r Saeson yn teithio lawr i Gaerdydd. Maent hefyd yn chwilio am gyflwynydd ychwanegol os hoffech ymuno - cysylltwch. #RygbiCymru #Cymraeg #S4C Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Nick a Carwyn sy'n edrych ar hanes y rhanbarthau wrth i'r Gweilch ennill yn Glasgow tra bo nhw'n trafod gobeithion y Cymry i fyny yn yr Alban. #Cymru #RygbiCymraeg #SixNations Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
The Welsh have often been the first to achieve great feats but thanks to the multiple shoe in's we've taken as a country over the years, news of these achievements tends not to travel far. Well kiss your mammies and thank your lucky stars because Tales for Wales is here to set the record straight. Whether it's discovering tarmac, America or how to sail upon the wind, you'll find the Cymry are always pushing the envelope. You can flaunt your Welsh history prowess as well as your podcast taste by grabbing some of our merch. We've got extra content on our socials and Patreon and all you spoilt buggers.
The Chronicler is back and this time he's answering our piercing questions interview style. It's the Frost/Nixon of Welsh history if literally all of the context was changed. If you haven't already, get around this guys YouTube channel and start feeding your noggins on his top quality content.From merch to more content, click here for all things Tales for Wales and start 2025 the way the Cymry of old would have wanted.
Sadly, our five film examination of the legendary Paul Robeson for this month's theme of PORTRAITS OF THE ARTISTS end here. But we go out on Paul's personal pick for his favorite looking back on his unique career. We're talking about the struggle and heroisms of miners in Wales and the singing stranger that came along to make their choir better and soothe the struggle. We're talking about the 1940 British film “THE PROUD VALLEY” starring Paul Robeson as “David Goliath” and co-starring Edward Chapman, Edward Rigby and Simon Lack. Them Welsh boys got it rough and shit might have to get….ORGANIZED! Well, London needs that coal to fight Hitler so can the Cymry posse and their new baritone buddy safely get these mines going? Hear us tell of it or just watch it here first: https://www.youtube.com/watch?v=UyNWpRY5lH8 RIP to the man, Paul Robeson, a man beyond his time at any time. Subscribe to us on YOUTUBE: https://www.youtube.com/channel/UCuJf3lkRI-BLUTsLI_ehOsg Contact us here: MOVIEHUMPERS@gmail.com Hear us on podcast: https://open.spotify.com/show/6o6PSNJFGXJeENgqtPY4h7 Our OG podcast “Documenteers”: https://podcasts.apple.com/us/podcast/documenteers-the-documentary-podcast/id1321652249 Soundcloud feed: https://soundcloud.com/documenteers Twitch: https://www.twitch.tv/culturewrought
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Trystan ab Ifan dw i ac i ddechrau'r wythnos yma … Pigion Dysgwyr – Dechrau‘r Steddfod Buodd Radio Cymru‘n darlledu o Faes yr Eisteddfod ym Moduan drwy'r wythnos diwetha gan ddechrau am ganol dydd ar y dydd Sadwrn cyntaf. Dyma sut dechreuodd y darlledu…… Darlledu To broadcast Cynnau tan To light a fire Cynnal To maintain Blodeuo To flower Eisteddfodwr o fri A renowned Eisteddfod person Hawlio To claim Deuawd Duet Craith A scar Llwyfan Stage Noddi To sponsor Pigion Dysgwyr – Martin Croydon …ac wrth gwrs bydd blas ar sawl darllediad o'r Eisteddfod yn y podlediad wythnos yma, gan ddechrau gyda Martyn Croydon enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddeg mlynedd yn ôl. Daw Martin o Kidderminster yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae o'n byw ym Mhen Llŷn. Gwobr Prize Enwebu To nominate Rowndiau terfynol Final rounds Gwrthod To refuse Cyfweliad Interview Beirniaid Judges Cynifer So many Cyfathrebu To communicate Ysbrydoli To inspire Cynulleidfa Audience Terfynol Final Pigion Dysgwyr – Dysgwr y Flwyddyn Ac roedd Martyn yn un o'r criw fuodd yn brysur iawn yn cynnal gweithgareddau Maes D yn Steddfod Boduan. Ond pwy enillodd gwobr Dysgwr y Flwyddyn eleni tybed? Roedd pedwar ymgeisydd ardderchog wedi cyrraedd y rownd terfynol, a dydd Mercher yn yr Eisteddfod cyhoeddwyd mai Alison Cairns yw Dysgwr y Flwyddyn eleni. Daw Alison yn wreiddiol o'r Alban ond mae hi a'i theulu erbyn hyn yn byw yn Llannerchymedd ar Ynys Môn. Dyma hi'n sgwrsio ar Post Prynhawn yn dilyn y seremoni wobrwyo. Y gymuned The community Pigion Dysgwyr – Esyllt Nest Roberts de Lewis A llongyfarchiadau i Alison ar ennill y wobr – dwi'n siŵr bydd hi'n mwynhau ei blwyddyn. Daw Esyllt Nest Roberts de Lewis yn wreiddiol o Bencaenewydd ger Pwllheli ond mae hi erbyn hyn yn byw yn ardal Gymraeg Patagonia, sef Y Wladfa, ac wedi bod yno ers nifer o flynyddoedd. Ar Dros Frecwast yr wythnos diwetha cafodd Kate Crocket gyfle i'w holi hi gan ofyn iddi'n gynta iddi pam aeth hi allan i'r Wladfa yn y lle cynta? Yn y cyfamser In the meantime Annerch To address (a meeting) Y cyfryngau The media Dylanwadu To influence Rhyngrwyd Internet Yn anymwybodol Unaware Pigion Dysgwyr – Cai Erith Ac Esyllt oedd yn arwain Cymru a'r Byd, sef y Cymry sy'n byw ym mhob rhan o'r byd erbyn hyn, yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni Os chwiliwch chi ar BBC Sounds gwelwch raglen arbennig wnaeth Aled Hughes ei recordio dan y teitl Mordaith. Rhaglen yw hi lle mae Aled yn hwylio o amgylch Penrhyn Llŷn yn sgwrsio gyda rhai o drigolion yr ardal. Morwr yw Cai Erith a dyma fe'n sôn ychydig am ei fywyd Penrhyn Peninsula Trigolion Residents Porthladdoedd Ports Yn llythrennol Literally Wedi dy hudo di Has lured you Pigion Dysgwyr - Ffobia Hanes bywyd diddorol Cai Erith yn fanna ar raglen Mordaith. Buodd Catrin Mai yn siarad ag Emma Walford a Trystan Ellis Morris ar eu rhaglen yn ddiweddar. Mae gan Catrin ffobia anarferol iawn… sbyngau, neu sponges! Dyma Emma yn holi Catrin gynta……. Cyffwrdd To touch Colur Makeup Fatha Yr un fath â Trin To treat Nadroedd Snakes Corynnod Pryfed cop Arnofio To float Amsugno To absorb
Cwpan Y Byd 12: Cymry yn Qatar Ifan Gwilym sy'n sgwrsio gyda'r cefnogwr Gary Pritchard a'r ddarlledwraig Sioned Dafydd am eu profiadau o Qatar a'u hargraffiadau nhw o gartref Cwpan y Byd 2022. Ifan Gwilym talks to Wales fan Gary Pritchard and broadcaster Sioned Dafydd about their experience of Qatar and their impressions of the World Cup 2022 host county.
Radio'r Cymry Mae hi bron yn ganrif ers i'r geiriau Cymraeg cyntaf gael eu clywed ar y radio. Yn y gyfres newydd, Radio'r Cymry, mae Hywel Gwynfryn yn edrych ar raglenni, digwyddiadau â'r cymeriadau sydd wedi gwneud Radio Cymru yr hyn ydy o heddiw. Yn 1935 daeth Sam Jones yn Bennaeth y BBC ym Mangor ac roedd hi'n ddechrau ar gyfnod cyffrous iawn yn hanes Radio Cymraeg. Dyma ei ysgrifenyddes, Morfudd Mason Lewis, yn sôn am y dyddiau hynny..... Canrif - Century Cyfres - Series Pennaeth - Head Parchu - To respect Peirianwyr - Engineers Tyrfa - A crowd Rhaglenni byw - Live programmes Pennill - A verse A ddeuai - Fasai'n dod Aled Hughes Aeth Aled Hughes draw i Forfa Nefyn ym Mhen Llŷn i gwrdd â Reuben Hughes, sy'n bencampwr reslo braich! Mae o'n aelod o glwb reslo braich Roar yn Llandybie, Sir Gaerfyrddin, ac mae o newydd ennill ei gystadleuaeth reslo braich gynta. Pencampwr - Champion Am sbort - For fun Yr amser yn brin - Time was scarce Penderfynol - Determined Diogelwch - Safety Poendod - A worry Gwarchod - To protect Rhoi'r fantais - To give an advantage Cryfder - Strength Gwneud Bywyd yn Haws Ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth, buodd Hanna Hopwood yn sgwrsio efo Dr Elinor Young. Mae gan Elinor gi therapi o'r enw Tana sydd yn rhan o gynllun Cŵn Cymorth Cariad a dyma hi'n sôn ychydig wrth Hanna am y cynllun… Cafodd ei sefydlu- Was established Hwlffordd - Haverfordwest Disgwyliadau - Expectations Hyfforddiant - Training Cyfathrebu - To communicate Perchennog - Owner Lles - Welfare Dychryn - To frighten Llyfu - To lick Bore Cothi Therapi sy'n cael sylw yn y clip nesa ‘ma hefyd, sef Adweitheg, neu Reflexology. Mi roedd hi'n Wythnos Adweitheg y Byd wythnos diwetha, ac mi fuodd Sioned Jones yn sgwrsio efo Shân Cothi am y therapi. Mae Sioned yn dod o Waunfawr yng Ngwynedd yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae hi'n byw yng Nghaerdydd ac yn berchen ar gwmni J Reflexology yn y ddinas. Cysur - Comfort Adweitheg - Reflexology Heriau - Challenges Gradd ychwanegol - An extra degree Addas - Suitable Dan bwysau - Under pressure Egni - Energy Treulio - To digest Crediniol - Convinced Beichiogi - To become pregnant Bore Cothi Sut mae gwybod y gwahaniaeth rhwng colomen a sguthan? Dyna oedd cwestiwn Shân Cothi i Daniel Jenkins Jones, a dyma fo'n ateb mewn ffordd ddiddorol iawn. Colomen - Pigeon (Y)sguthan - Wood Pigeon Gwahaniaethu - To differenciate Turtur Dorchog - Collared Dove Tlws - Pretty Coedwigoedd - Woodlands Yn bla - A plague Cerddorol - Musical Atgoffa - To remind Sill - Syllable Aled Hughes Tybed ydy amser yn ymddangos i fynd yn arafach i blant nag ydy o i oedolion? Mae Dr Rhys Morris yn gweithio yn adran astroffiseg, Prifysgol Bryste, ac mae'n grediniol bod hynny'n digwydd. Dyma fo'n esbonio pam mae o'n credu hynny wrth Aled Hughes... Ymddangos - To appear Hŷn - Henach Atgofion - Memories Canran - Percentage Ymenydd - Brain Golygfeydd - Scenes Cyfnod llai - A shorter period Manylyn - A detail Gweledol - Visual
I read from cylinder to Cymry. The word of the episode is "cymbal". https://en.wikipedia.org/wiki/Cymbal Cymbal sound: https://freesound.org/people/collinb1000/sounds/634854/ Theme music from Tom Maslowski https://zestysol.com/ Merchandising! https://www.teepublic.com/user/spejampar "The Dictionary - Letter A" on YouTube "The Dictionary - Letter B" on YouTube "The Dictionary - Letter C" on YouTube Featured in a Top 10 Dictionary Podcasts list! https://blog.feedspot.com/dictionary_podcasts/ Backwards Talking on YouTube: https://www.youtube.com/playlist?list=PLmIujMwEDbgZUexyR90jaTEEVmAYcCzuq dictionarypod@gmail.com https://www.facebook.com/thedictionarypod/ https://twitter.com/dictionarypod https://www.instagram.com/dictionarypod/ https://www.patreon.com/spejampar https://www.tiktok.com/@spejampar 917-727-5757
Pod 35: Cip ar y Cymru north a'r south! Rheolwyr Cyffredinol y Cymru de a'r gogledd, Nick Davies a Dewi Evans sy'n ymuno â Sioned a Dylan i drafod y tymor a fu yn yr ail haen. Bydd cyfle i drafod rownd derfynol Cwpan Cymru, y Cymry'n ennill dyrchafiad o'r Bencampwriaeth a'r gemau ail gyfle.
Cyfle i glywed gan Tyler Roberts a Dan James, y Cymry sy'n serenu yn Leeds, Owain Fôn Williams sy'n trafod aelodau o garfan Rob Page sy'n chwarae eu pêl-droed yn yr Alban a chyfle i edrych 'mlaen at ein gêm fyw nos Wener rhwng Y Fflint a'r Seintiau Newydd.
Pod 26: Marc Lloyd Williams a Sean Eardley Bae Colwyn yn curo Cei Connah yn rownd yr wyth olaf Cwpan Cymru, Bangor yn gadael y Cymru North a golwg ar y Cymry ar draws y cynghreiriau. Bydd Sean Eardley, rheolwr Llandudno yn ymuno i drafod y frwydr sydd ar frig y Cymru North rhwng Airbus a Llandudno a chawn ymateb Marc Lloyd Williams, un o arwyr Bangor a phrif sgoriwr holl hanes yr uwch gynghrair, wrth i Fangor adael y Cymru North. Ymunwch â Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer sy'n trafod prif straeon yr wythnos yn y byd pêl droed yng Nghymru. Croeso i'r pod...
Ar ôl crasfa yn Nulyn, mae'r Cymry yn barod i groesawu'r Albanwyr i Gaerdydd. Rhodri Gomer, Ifan Phillips a Gareth Charles sydd yn edrych ymlaen at y gêm fawr yn Stadiwm y Principality.
Pod 17: Aber-fest Golwg nôl ar y penwythnos yn y Cymru Premier, cip ar y Cymry ar draws y Cynghreiriau a chyfweliad gydag ymosodwr Aberystwyth a Chwaraewr y Mis Tachwedd, John Owen. Bydd hefyd cyfle i glywed gan tîm hyfforddi Aberystwyth cyn gêm fyw Sgorio rhwng Aberystwyth a'r Drenewydd – y gêm yn fyw ar Youtube, Facebook ac S4C Clic nos Wener, gyda'r gic gyntaf am 8.00
Dylan Ebenezer a Sioned Dafydd sy'n edrych nôl dros y penwythnos yn y Cymru Premier ac yn edrych ‘mlaen at ddigwyddiadau ar y llwyfan rhyngwladol, lle bydd merched Cymru yn parhau eu hymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd a bydd y dynion yn darganfod eu gwrthwynebwyr yn y gemau ail gyfle.
Croeso i chweched bennod cyfres podlediadau newydd CFfI. Yn y gyfres yma gobeithiwn dynnu sylw at lais y Cymry gwledig, drwy ymweld â llu o gymeriadau ar draws Cymru. Llion Pugh, Wyau Dysynni, Llanegryn ac Hedd Pugh, Dinas Mawddwy sy'n sôn am ehangu busnesau, dyfodol ffermio yma yng Nghymru, a sut mae Mudiad y Ffermwyr Ifanc wedi siapio eu bywydau! Welcome to the sixth episode of the new podcast series, highlight the voices of rural Wales. Llion Pugh, Dysynni Eggs, Llanegryn and Hedd Pugh, Dinas Mawddwy talk about broadening businesses, what the future holds for farming here in Wales, and how the Young Farmers Movement has shaped their lives!
Rheolwr Cymru C ac un o leisiau'r botwm coch, Mark Jones sy'n edrych nôl ar ddigwyddiadau mis Awst yn y Cymru Premier. Cyfweliad arbennig gydag MJ Williams, chwaraewr canol cae Bolton sy'n trafod dylanwad y Cymry ar y garfan ac edrych nôl ar y gêm gyfeillgar rhwng Y Ffindir a Chymru.
Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer sy'n trafod penwythnos agoriadol tymor 2021/22 y Cymru Premier, golwg ar y pyramid pêl-droed Cymreig a'r newyddion diweddaraf am y Cymry ar draws cynghreiriau Ewrop.
Croeso i bumed bennod cyfres podlediadau newydd CFfI. Yn y gyfres yma gobeithiwn dynnu sylw at lais y Cymry gwledig, drwy ymweld â llu o gymeriadau ar draws Cymru. Dyfrig Williams ac Emily Lloyd o CFfI Llangwyryfon sy'n sôn am eu blwyddyn ddiwethaf y tro yma, gyda dechrau anarferol i flwyddyn Emily, gwasanaeth tacsi Dyfrig yn Heathrow a'u profiad o symud mewn i dŷ newydd! Bu'n flwyddyn prysur iawn i'r ddau felly gwrandewch ar y bennod i wrando ar yr holl straeon! - - Welcome to the fifth episode of the new podcast series, highlight the voices of rural Wales. Dyfrig Williams and Emily Lloyd from Llangwyryfon YFC talk about their experiences over the past year, starting with an unusual start to the year for Emily, Dyfrig's taxi service at Heathrow and their experience of moving into a new home! It's been a very busy year for the pair so listen to this episode to hear all of their stories!
Mae'r awdur o'r llyfr ‘Hanes Cymry: Lleiafrifoedd Ethnig a'r Gwareiddiad Cymraeg', Dr Simon Brooks o Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe yn ymuno a mi i rhoi cip olwg o ymchwil fe mewn i hanes lleiafrifoedd ethnig yn Gymru. "Mae'r gyfrol arloesol hon yn cyflawni dau amcan. Yn gyntaf, mae'n cynnwys, am y tro cyntaf, hanes lleiafrifoedd ethnig oddi mewn i'r diwylliant Cymraeg, a hynny o ddyddiau Macsen Wledig hyd heddiw. Yn ail, mae'n dehongli amlethnigrwydd o safbwynt Cymraeg yn hytrach na Saesneg, sy'n arwain at y cwestiwn, ‘Pwy yw'r Cymry?' Yn ogystal â'r hanes cyffredinol, ceir penodau am Gymry du, y Sipsiwn Cymreig, Gwyddelod ac Iddewon yng Nghymru, amlethnigrwydd cefn gwlad, a'r Cymry fel lleiafrif ethnig yn Lloegr. O ran ei syniadaeth, trafodir pethau mor amrywiol â pherthynas y Cymry â threfedigaethedd a chaethwasiaeth, hybridedd grwpiau lleiafrifol, Saeson Cymraeg, a chenedlaetholdeb a hil. Wrth gloi, gofynnir ai'r Cymry yw pobl frodorol Ynys Prydain." Archebwch y llyfr yma: https://www.uwp.co.uk/book/hanes-cymry/ --- Send in a voice message: https://anchor.fm/katie-phillips5/message
Croeso i bedwaredd bennod cyfres podlediadau newydd CFfI. Yn y gyfres yma gobeithiwn dynnu sylw at lais y Cymry gwledig, drwy ymweld â llu o gymeriadau ar draws Cymru. Mae'r wythnos hon yn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Yn ystod y pandemig, mae miliynau ohonom wedi profi problem iechyd meddwl, neu wedi gweld rhywun sy'n agos i ni'n brwydro. Yn y podlediad amrwd hwn, clywwn o Alastair Morgan, Cadeirydd CFfI Wentwood yn Gwent, wrth iddo rannu ei feddyliau o'r flwyddyn ddiwethaf, a sut mae aros yn gysylltiedig wedi chwarae rhan bwysig wrth gynnal ei les personol dros yr adeg rhyfedd yma. Fel un sy byth yn preswylio, mae hefyd yn rhannu rhai o'i atgofion melys fel aelod; a gair o gall i unrhyw un sy'n gwneud gwair, wrth iddo bendroni'n aml "pwy sy'n ei fwyta - y ceffyl neu'r perchennog"! - - Welcome to the fourth episode of the new podcast series, highlight the voices of rural Wales. This week is Mental Health Awareness Week. During this pandemic, millions of us have experienced a mental health problem, or seen a loved one struggle. In this raw podcast, Alastair Morgan, Chairman of Wentwood YFC in Gwent, shares his thoughts from the past year, and how staying connected has played an important role in maintaining his personal wellbeing over this time. Never being one to dwell, he fondly shares with us some of his memories as a member, and some words of wisdom on hay-making, as he often wonders "who's eating it - the horse or the owner"!
Croeso i drydedd bennod cyfres podlediadau newydd CFfI. Yn y gyfres yma gobeithiwn dynnu sylw at lais y Cymry gwledig, drwy ymweld â llu o gymeriadau ar draws Cymru. Ein his-gadeirydd, Caryl Haf, sydd wrth y llyw wythnos yma. O rannu storiâu o'i magwraeth, i dynnu rhaff; ei hannwyl ddefaid Blue Faced Texel's, i'w phrofiad o alaru. Chi'n siŵr o ddysgu rhywbeth newydd am un o wynebau cyfarwydd ein mudiad, drwy wrando ar y bennod dwym galon yma. - - Welcome to the third episode of the new podcast series, highlight the voices of rural Wales. In this week's episode, we hear from our vice-chairman, Caryl Haf. From childhood nostalgia to Tug of War, her beloved Blue Faced Texel's to coping with grief. You're sure to learn something new about one of the organisations familiar faces, by tuning in to this warm hearted podcast.
Croeso i ail bennod cyfres podlediadau newydd CFfI. Yn y gyfres yma gobeithiwn dynnu sylw at lais y Cymry gwledig, drwy ymweld â llu o gymeriadau ar draws Cymru. Yn y bennod yma bydd Megan Powell yn ymweld â chymeriadau'r ardal sef Paul Thomas, Andrew a Janet Powell, & Kevin a Delyth Parry, wrth iddynt rannu eu hatgofion o fod yn rhan o'r mudiad. Cofiwch wrando hyd y diwedd wrth i Kevin fentro rhannu ei hoff "pickup line" gennym. Mae'n bendant o weithio, oherwydd llwyddodd fachu Delyth! - - Welcome to the second episode of the new podcast series, highlight the voices of rural Wales. In this episode we hear from Megan Powell, from Erwood YFC in Brecknock, as she joins some local characters, Paul Thomas, Andrew and Janet Powell & Kevin and Delyth Parry, to share memories of years gone by. Listen till the end, as Kevin shares his favourite "chat up line" - it's guaranteed to work as he managed to bag Delyth!
Croeso i bennod gyntaf cyfres podlediadau newydd CFfI. Yn y gyfres yma gobeithiwn dynnu sylw at lais y Cymry gwledig, drwy ymweld â llu o gymeriadau ar draws Cymru. Yn y bennod gyntaf clywn Aled Rees, Is-Gadeirydd Maldwyn, yn sgwrsio gyda'i ddadcu / taid, Gwilym Evans; wrth iddynt hel atgofion melys a rhannu gobeithion am y dyfodol. Cofiwch wrando'n astud i glywed beth yw'r stori tu ôl i'r linell "Old Grey Woman Hunter".... - - Welcome to the first episode of the new podcast series, highlight the voices of rural Wales. In this opening episode we hear from Aled Rees, Montgomery Vice-Chairman, as he chats with his grandfather Gwilym Evans. From gathering fond memories to future hopes, nothing is off limits. So be sure to listen closely to hear the reasoning behind the line "Old Grey Woman Hunter"...
Er gwaethaf ymdrechion y Cymry ym Mharis, nid oedd y Gamp Lawn i fod eleni i ddynion Wayne Pivac. Ymunwch â Rhodri, Elinor a Nigel wrth iddynt drafod un o'r gemau gorau yn hanes Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Ar ôl 4 buddugoliaeth i'w chofio, mae Cymru 80 munud i ffwrdd o'r Gamp Lawn! Ymunwch â Rhodri Gomer, Elinor Snowsill a Nigel Owens wrth iddynt drafod buddugoliaeth broffesiynol y Cymry yn Rhufain ac edrych ymlaen at noson enfawr o rygbi ym Mharis.
Yr hanesydd teithiol Robert Llewellyn Tyler yw gwestai Beti George yr wythnos hon, sydd erbyn hyn yn gweithio ac yn byw yn Abu Dhabi. Mae e'n sôn am ei faes arbenigol, sef y Cymry alltud mewn gwledydd fel yr Unol Daleithiau ag Awstralia, ac hefyd yn sôn am ei brofiadau mewn gwledydd fel Siapan, Saudi Arabia ac Bosnia a Herzegovina.
Mae Dafydd wedi bod yn gyfarwydd gyda'r Mabinogi ers yn blentyn. Mae wedi crwydro'r dirwedd a dod i nabod y straeon a'u gweld nhw'n dod yn fyw wrth droedio'r tir a dod i'w nabod nhw 'trwy sodlau eu traed'. Mae'n gweld y Mabinogi fel rhan o'n hunaniaeth fel Cymry a'r cymeriadau fel drych i ni'n hunain a'r ffordd rydym yn ymddwyn yn y byd. Wrth ymweld â'r llefydd mae'r stori yn sôn amdanynt mae bron yn amhosib teimlo mai 'yma ddigwyddodd hi'. Wrth adrodd, rhwng y storïwraig/wr a'r dirwedd a phwy bynnag sydd yn clustfeinio.Wrth dyfu gyda'r Mabinogi ffeindiodd bod cymeriadau gwahanol y straeon yn atseinio gyda'i fywyd ei hunan mewn ffyrdd gwahanol nes cyrraedd y rhyfelwr Zen Manawydan sydd yn dadwneud hud a lledrith wrth beidio â gweithredu. Y mae Dafydd yn edmygydd o fersiwn Guto Dafis o hanes Manawydan. Y mae cyfweliad gyda Guto nes ymlaen yn y gyfres.I gloi mae Dafydd yn dweud mai cwestiynau yw'r Mabinogi. Pwy oeddem ni, pwy ydyn ni a phwy ydyn ni am fod fel Cymry.Y mae Dafydd yn gyfarwyddwr Menter y Felin Uchaf ym Mhen Llŷn
Yn y bennod hon, bydd Max a Jason yn ystyried pwy ydyn nhw fel Cymry sy'n magu teuluoedd dramor. Gyda'r ddau yn magu plant hil cymysg, sut mae modd creu hunaniaeth newydd i'r genhedlaeth nesaf a dathlu Cymreictod eu gwreiddiau. Yn Miami, cawn glywed profiad teulu arall sy'n magu plant tair ieithog a beth mae'n ei olygu i fod yn Gymry yn America. In this episode, Max and Jason contemplate who they are as Welsh expats in America. Both are raising mixed-race children and trying to figure out how to celebrate their Welshness and carve out a new identity in their new homeland. In Miami, we hear another family's experience of raising tri-lingual children and what it means to be Welsh in America.
"S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” Beti George Cafodd Beti George y cyfle i sgwrsio gydag Aran Jones o’r cwmni Say Something in Welsh ar ddiwedd wythnos dysgwyr BBC Radio Cymru. Yn ôl Aran, mae’r cwmni gafodd ei greu unarddeg o flynyddoedd yn ôl, yn newid cyfeiriad yn y ffordd maen nhw’n dysgu’r iaith. Dyma Aran yn dweud mwy am hyn wrth Beti… Ymdrech sylweddol - A substantial effort Addasiad niwrolegol - a neurological adjustment Arbrofi - To experiment Bron yn ddi-baid - Almost non-stop Ymenydd - Brain Cymhleth - Complex Eitha hyblyg - Quite flexible Dwys - Intense Syfrdanol - Astounding Cyflawni - To achieve Ar y Marc Aran Jones o Say Something in Welsh oedd hwnna’n sgwrsio gyda Beti George. Un fuodd yn defnyddio gwefan Say Something in Welsh i ddysgu Cymraeg ydy’r Almaenwr Klaus Neuhaus. Does gan Klaus ddim cysylltiad â Chymru o gwbl heblaw am ei gariad tuag at tîm pêl-droed y wlad. Mae e’n ffan mawr o dîm Cymru ers chwarter canrif ac erbyn hyn mae e’n aelod llawn o’r wal goch ac yn dilyn y tîm ar hyd a lled y byd. A dyma pam mae e wedi dechrau dysgu Cymraeg fel buodd e’n esbonio wrth Dylan Jones ar Ar y Marc… Peirannydd cyfathrebu - Communication engineer Hyd yn hyn - Up to now Awyrgylch - Atmosphere Canlyniad - Result Heulwen - Sunshine Yr olygfa - The scene Mo’yn - Eisiau Yn ddiweddarach - Later on Rownd derfynol - The final Aled Hughes (Natalie Jones) Dysgu Cymraeg i blant fydd Natalie Jones ar ôl iddi orffen ei chwrs ymarfer dysgu. Cafodd Natalie ei magu ym Mhwllheli ond mae hi’n byw yn San Cler yn Sir Gaerfyrddin erbyn hyn. Yn ystod y mis yma mae hi wedi cael y cyfle, bob nos Iau ar S4C, i gyflwyno cyfres sydd yn rhan o fis Hanes Pobol Ddu yng Nghymru. Dyma hi’n sôn wrth Aled Hughes am beth hoffai hi weld yn newid yng Nghymru o ran y boblogaeth ddu… Dinbych y Pysgod - Tenby Hyfforddi - To train Profiadau newydd - New experiences Anweledig - Invisible Hiliaeth - Racism Bodoli - To exist Parch a sylw - Respect and attention Annhegwch - Unfairness Balchder - Pride Hunaniaeth - Identity Bore Cothi Natalie Jones oedd honna’n sôn wrth Aled Hughes am brofiadau’r boblogaeth ddu yng Nghymru. Daeth y syniad o gael pobl noeth ar galendrau gan y Calender Girls ar ddiwedd y nawdegau, ac ers hynny dyn ni wedi gweld sawl calendr gyda phobl bron yn noeth, neu’n borcyn, yn aml iawn i godi arian at achosion da. A nawr mae Calendr Clo-rona ar werth i godi arian at wefan iechyd meddwl meddwl.org. Syniad Catrin Toffoc oedd hyn ac mae hi wedi perswadio deg o gantorion clasurol Cymru i ddangos y cyfan! Un ohonyn nhw ydy’r tenor Trystan Llyr Griffiths a buodd e’n esbonio wrth Shan Cothi sut aeth e ati i dynnu llun ohono’i hun yn hollol noeth... Noeth - Naked Ei dîn ma’s - His backside out Y mannau iawn - The right places Pipo ma’s - Peepimg out Siglo chwerthin - Rolling with laughter Y tywyllwch - The dark Twlu - To throw Hydrefol - Autumnal Twym - Cynnes Stiwdio Trystan Llyr Griffiths oedd hwnna’n esbonio ar Bore Cothi sut aeth e ati dynnu llun ohono’i hun yn hollol noeth ar gyfer calendr Clo-rona... Ar Stiwdio wythnos diwetha agwedd y Cymry tuag at gelf weledol oedd yn cael sylw ac yma mae Nia Roberts yn holi’r artist Mike Jones am ei fagwraeth, a faint o gelf oedd o’i gwmpas pan oedd e’n ifanc... Agwedd - Attitude Celf weledol - Visual art Cyd-destun - Context Ysbrydoliaeth - Inspiration Lisa Gwilym Mike Jones yn esbonio wrth Nia Roberts beth wnaeth ei ysbrydoli e i fod yn artist. Mae’r band Ail Symudiad o Aberteifi yn perfformio ers y saithdegau ac mae’n debyg mai nhw yw un o’r grwpiau sydd wedi gigio mwyaf o gwmpas Cymru. Mae’r ddau frawd yn y band, Rich a Wyn wedi rhyddhau cân newydd. Dyma Rich yn cael sgwrs gyda Lisa Gwilym am greu’r gân honno a’r hanes y tu ôl iddi hi. Rhyddhau - To release Yr ysfa i greu - The desire to create Y dôn - The tune Testun - Text Carcharorion rhyfel - Prisoners of War Anghredadwy - Unbelievable Yr un egwyddor - The same principle Gwersyll - Camp
Owain a Malcs yn dewis pump chwaraewr o Gymru sydd wedi serennu yn Uwch Gynghrair Lloegr
On this episode I talk to the inimitable Tim McMillan! We discuss his recent must-read article "Inside the Pentagon's Secret UFO Program" and much more. Elsewhere the team and I discuss some Welsh UFO news, look at some creepy Cymry ghost-spots and review some prophetic predictions for the year 2020. Baba Vanga didnt see THIS one coming.Tim's article:https://www.popularmechanics.com/military/research/a30916275/government-secret-ufo-program-investigation/Music:Mankky:https://unscenemusic.bandcamp.com/album/the-lonesome-planet-man
Owain a Malcolm sy'n bwrw golwg nol ar gemau’r penwythnos, wynebau coch crysau coch Uwch Gynghrair Cymru ac a fydd Ryan Giggs yn cynnwys Tom Lawrence yng ngharfan Cymru?
Sgwrs gyda’r ffotograffydd, cyfarwyddwr a chrewr cynnwys, Carys Huws, sy’n wreiddiol o Ffynnon Taf ond sydd bellach yn byw yn Berlin ac yn teithio’r glôb yn tynnu lluniau rhai o gerddorion ac artistiaid mwya’r byd. Pynciau llosg: Ani Glass, valley girl v city slicker, cyfoedion llwyddiannus, Eisteddfota, chwalu chwedlau, ffasiwn, Theatr Ieuenctid Cymru, dick pics, Studio 89, Clwb Ifor Burn Out, DJ-JizzyPuke, smoco v farts, cerddoriaeth electronig, Dazed, FACT, Corsica Studios, euogrwydd y Cymry, Red Bull, Solange, Bjork, Thundercat, Fly Lo, Iggy Pop, Nina Kravitz, Station Cafe, Captain Beany & The Baked Bean Museum of Excellence, hiraeth, Brexit, cyfryngau anghymdeithasol a mwy. Diolch, fel arfer i Daf Palfrey a Hanner Pei am y theme tune.
Lols gyda Emma, Rachael a Non o’r band Eden. Yn trafod sesiwns recordio albyms Eden, abuse rhai Cymry yn eu herbyn, Hotel Eddie, bywyd y merched yn y 90au, Choreographer Take That, eu comeback yn Tafwyl, Eisteddfod a Chlwb Ifor Bach, merched mewn cerddoriaeth, eu label PWJ a’r newid cadarnhaol yn y sîn gerddorol yng Nghymru heddiw. www.twitter.com/tair_eden www.instagram.com/tair.eden ++++++++++++++ Lols with Emma, Rachael and Non from the band Eden. Chatting about all sorts including recording Eden’s albums, verbal abuse in Wales in the 90’s, Hotel Eddie, life being a woman in the 90’s, Take That’s choreographer, Eden's come back at Tafwyl, the Eisteddfod and Clwb Ifor Bach, women in music, their label PWJ, and the current positive changes in the Welsh language music scene. www.twitter.com/tair_eden www.instagram.com/tair.eden
Un o Ffrainc yn wreiddiol yw'r artist Valériane Leblond. Cafodd ei magu gan ei thad o Ganada, a oedd yn llawn dychymyg ac yn dyfeisio pob math o bethau. Yn y coleg, cwrddodd â Chymro o Langwyryfon, a mae bellach yn magu tri mab yng Nghymru. Mae gwaith celf Valériane yn aml yn ymwneud â'r syniad o berthyn. Darlunio llyfrau yw ei phrif waith erbyn hyn, ond mae hefyd yn gweithio ar arddangosfa am hanes y Cymry a ymfudodd i Orllewin Virginia.
A window into the lives and achievements of Welsh people in New York. Hosted by Gideon Jensen and Richard Swain, each episode features a different guest and their unique story. Often funny, sometimes sad, but always honest and inspirational. Mewnwelediad i fywydau a chyflawniadau y Cymry yn Efrog Newydd. Wedi’i chynnal gan Gideon Jensen a Richard Swain, mae pob pennod yn taro sylw ar westeion gwahanol a’u hanes unigryw. Yn aml yn ddoniol, weithiau’n drist, ond bob amser yn onest ac yn ysbrydoledig.
Cymry 1914-1918, Dylan Davies, Mandy Watkins, Manon Steffan Ros a Gwion Ellis Williams
Hugh Jackman talks to Kirsty Lang about his final portrayal of the super-hero Wolverine in the film Logan. Ifor ap Glyn, the National Poet of Wales, writes a new poem for Front Row to mark St David's Day, called Cymraeg Ambarel (Umbrella Welsh). One Man, Two Guvors playwright Richard Bean on The Hypocrite, set in Hull during the English Civil War, which opens tonight at the Hull Truck Theatre. Katharine Quarmby reviews the film Trespass Against Us, which stars Michael Fassbender and Brendan Gleeson as travellers in the West Country. Cymraeg Ambarel 1.3.17Mae'n bwrw mor aml mewn byd drycinog, ond mae dy ffyn bob tro yn cloi'n gromen berffaith, uwch fy mhen; a than dy adain, caf hedfan yn unfraich, drwy ddychymyg yr hil.I rai, rwyt ti'n 'cau'n deg ag agor, ond o'th rolio'n dynn, mi roddi sbonc i'n cerddediad fel Cymry; ac mi'th godwn yn lluman main i dywys ymwelwyr at ein hanes, a thua'r byd amgen sydd yno i bawb...Tydi yw'r ambarel sydd o hyd yn ein cyfannu, boed yn 'gored, neu ynghau - dim ond i ni dy rannu.... Ifor ap Glyn Bardd Cenedlaethol CymruUmbrella Welsh 1.3.17It rains so often in our stormy world, but your spokes always lock in a hemisphere above my head; and I can float through our people's wit, hanging by one arm beneath your wing. For some, you simply can't be opened, but rolling you tight lends a Welsh spring to our step; and we lift you, like a narrow flag, to guide visitors to our history, to an alternate reality, that's open to all...You are that brolly, that melds our world, as long as you're jointly held, - whether open or furled...Ifor ap Glyn National Poet of WalesPresenter: Kirsty Lang Producer: Timothy Prosser.
Roedd Elisabeth I yn poeni am ymlyniad pobl Cymru wrth y ffydd Gatholig. Roedd Cymru hefyd yn ddrws cefn ar gyfer ymosodiadau posibl gan bwerau Catholig Ewrop. Felly penderfynodd y dylid darparu Beibl yn y Gymraeg ar gyfer pob plwyf, er mwyn lledaenu agweddau Protestannaidd ymhlith y Cymry. Ym 1588, cyhoeddwyd cyfieithiad gwych yr Esgob William Morgan - y cyntaf yn Ewrop mewn iaith nad oedd yn iaith gwladwriaeth. Rhoddodd ei iaith ddyrchafedig ac urddasol statws cyhoeddus i’r Gymraeg a oedd yn hynod bwysig i’w goroesiad yn y canrifoedd i ddod.
Ym 1979, ychydig cyn ethol llywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher, pleidleisiodd pobl Cymru mewn refferendwm i benderfynu a oeddent am ddatganoli rhywfaint o bŵer i Gymru, o senedd Prydain yn San Steffan. Pleidleisiwyd ‘Na’ gyda mwyafrif o 4 i 1. O ganlyniad i amgylchiadau Streic y Glowyr 1984 - 1985, a ddangosodd sut y gallai barn y Cymry gael ei anwybyddu gan San Steffan, teimlai nifer cynyddol o bobl Cymru y dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru yn hytrach nac yn llwyr yn San Steffan. Yn raddol, daeth bywyd cyhoeddus Cymru i gael ei drefnu ar ffurf cyrff cenedlaethol (hynny yw, yng Nghymru a gyda gogwydd Cymreig). Creodd elusennau, grwpiau pwyso, undebau a sefydliadau tebyg bresenoldeb a hunaniaeth benodol Gymreig. Pryd bynnag y gallent, roedd y Cymry yn tueddu i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain. Pan gynhaliwyd refferendwm ar gyfran gymedrol o hunanlywodraeth ym 1997 pleidleisiwyd o’i blaid, er gyda mwyafrif o ddim ond 6721 pleidlais. Cefnogodd refferendwm arall yn 2011 ragor o bwerau deddfu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Cymru’n parhau’n rhan o’r Deyrnas Unedig, i bob golwg yn cerdded y llwybr rhwng manteision perthynas gyda chymdogion mawr a rhywfaint o hunan-benderfynu. Taith sy’n parhau.
Owain arweiniodd y chwyldro mawr diwethaf gan y Cymry yn erbyn grym Lloegr, chwyldro a ddechreuodd ym 1400. Roedd dicter a phrotest yn erbyn rheolaeth Lloegr wedi bod yn corddi am ganrif a sbardun y chwyldro oedd bod y Barwn Grey o Ruthun wedi dwyn peth o dir Owain. Roedd Owain yn arweinydd gerila effeithiol ond hefyd cipiodd rai targedau mawr, megis castell Normanaidd Harlech a ddaeth yn bencadlys iddo. Creodd gynghreiriau effeithiol, yn cynnwys un gyda brenin Ffrainc, a datblygodd weledigaeth ar gyfer Cymru gyda’i senedd, ei heglwys annibynnol a’i phrifysgolion. Ond methiant fu’r cyfan.
Tywysog o Gymru yn byw yng Ngwynedd, Gogledd Cymru, yn y Canoloesoedd oedd Llywelyn ap Gruffydd. Daeth yn arweinydd y Cymry ac ef yw’r unig Gymro erioed i gael ei gydnabod gan Goron Lloegr yn Dywysog Cymru. Fodd bynnag, pan ddaeth y rhyfelwr ffyrnig Edward I yn Frenin Lloegr cafwyd gwrthdaro hir a chwerw rhwng y ddwy wlad. Ym 1282 lladdwyd Llywelyn gan olygu i bob pwrpas ddiwedd statws Cymru fel gwlad annibynnol. Cafodd y golled hon ganlyniadau anferth ar ddyfodol.
Ym 1847 cyhoeddodd comisiwn y llywodraeth adroddiad ar gyflwr addysg yng Nghymru, a adnabyddir yn boblogaidd fel “y Llyfrau Gleision”. Rhoddodd yr adroddiad y bai ar yr iaith Gymraeg am y methiannau, ac ni roddodd ddigon o sylw i ffactorau eraill. Beirniadodd hefyd foesau pobl Cymru. Roedd cywilydd ar y Cymry ac roeddent yn gandryll, ond roeddent hefyd am brofi eu bod cystal â gweddill Prydain ac am elwa o gynnydd. Derbyniwyd cynllun y llywodraeth i wella addysg drwy sefydlu ysgolion uwchradd am ddim er mai Saesneg fyddai cyfrwng yr addysgu. Roedd hyn yn tanseilio’r Gymraeg. Gydag ehangiad y maes glo cafwyd cynnydd yn nifer y bobl oedd ddim yn deall Cymraeg. Ym 1962 cyflwynodd y gwleidydd Saunders Lewis araith radio ddylanwadol dan y teitl Tynged Yr Iaith a ysgogodd ffurfio Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, corff sy’n ymgyrchu i gael cydnabyddiaeth i’r iaith. Yn y 1960au dinistirwyd cymuned Gymraeg ei hiaith yng Nghwm Tryweryn er mwyn creu cronfa ddŵr ar gyfer Lerpwl, er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn yng Nghymru. Cynyddodd hyn y gweithredu dros yr iaith a ddaeth i’w anterth pan wnaeth y gwleidydd Gwynfor Evans fygwth ymprydio hyd farwolaeth pe na bai’r llywodraeth Geidwadol yn anrhydeddu ei haddewid i greu sianel deledu Gymraeg. Ildiodd y llywodraeth a lansiwyd Sianel Pedwar Cymru (S4C) ym 1982. Gyda Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 cafwyd statws cyfreithiol gryfach i’r Gymraeg. Ers y 1970au mae addysg cyfrwng Cymraeg wedi ffynnu, yn arbennig yn hen ardaloedd diwydiannol Cymru.
Meddiannodd William o Normandi (William Goncwerwr) Loegr a threchu brenin Lloegr, Harold, ym 1066. Gwobrwyodd yr arglwyddi oedd wedi dangos cefnogaeth iddo drwy roi tir iddynt ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Yr enw a roddwyd ar yr ardaloedd hyn oedd y gororau. Gwthiodd Arglwyddi’r Gororau Normanaidd i diriogaeth Cymru a dechrau adeiladu cestyll: cestyll mwnt a beili i ddechrau, gan ddefnyddio pren a phridd, yna cestyll mawreddog o garreg gydag amgaerau cymhleth. Oherwydd gwrthsafiad y Cymry parodd ymgyrch y Normaniaid am gannoedd o flynyddoedd. Castell Caerffili yw’r castell Normanaidd mwyaf yng Nghymru ac mae’n un o’r rhai mwyaf cywrain o ran cynllun ei amddiffynfeydd. Dechreuwyd ei godi ym 1268, a chynorthwyodd i ysbrydoli cynllun y cestyll a adeiladodd Edward I ledled Cymru er mwyn sicrhau rheolaeth o’r wlad. Cyflogodd y Normaniaid rai o seiri maen a chrefftwyr mwyaf medrus Ewrop i godi eu cestyll.
Ym 1979, ychydig cyn ethol llywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher, pleidleisiodd pobl Cymru mewn refferendwm i benderfynu a oeddent am ddatganoli rhywfaint o bŵer i Gymru, o senedd Prydain yn San Steffan. Pleidleisiwyd ‘Na’ gyda mwyafrif o 4 i 1. O ganlyniad i amgylchiadau Streic y Glowyr 1984 - 1985, a ddangosodd sut y gallai barn y Cymry gael ei anwybyddu gan San Steffan, teimlai nifer cynyddol o bobl Cymru y dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru yn hytrach nac yn llwyr yn San Steffan. Yn raddol, daeth bywyd cyhoeddus Cymru i gael ei drefnu ar ffurf cyrff cenedlaethol (hynny yw, yng Nghymru a gyda gogwydd Cymreig). Creodd elusennau, grwpiau pwyso, undebau a sefydliadau tebyg bresenoldeb a hunaniaeth benodol Gymreig. Pryd bynnag y gallent, roedd y Cymry yn tueddu i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain. Pan gynhaliwyd refferendwm ar gyfran gymedrol o hunanlywodraeth ym 1997 pleidleisiwyd o’i blaid, er gyda mwyafrif o ddim ond 6721 pleidlais. Cefnogodd refferendwm arall yn 2011 ragor o bwerau deddfu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Cymru’n parhau’n rhan o’r Deyrnas Unedig, i bob golwg yn cerdded y llwybr rhwng manteision perthynas gyda chymdogion mawr a rhywfaint o hunan-benderfynu. Taith sy’n parhau.
Meddiannodd William o Normandi (William Goncwerwr) Loegr a threchu brenin Lloegr, Harold, ym 1066. Gwobrwyodd yr arglwyddi oedd wedi dangos cefnogaeth iddo drwy roi tir iddynt ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Yr enw a roddwyd ar yr ardaloedd hyn oedd y gororau. Gwthiodd Arglwyddi’r Gororau Normanaidd i diriogaeth Cymru a dechrau adeiladu cestyll: cestyll mwnt a beili i ddechrau, gan ddefnyddio pren a phridd, yna cestyll mawreddog o garreg gydag amgaerau cymhleth. Oherwydd gwrthsafiad y Cymry parodd ymgyrch y Normaniaid am gannoedd o flynyddoedd. Castell Caerffili yw’r castell Normanaidd mwyaf yng Nghymru ac mae’n un o’r rhai mwyaf cywrain o ran cynllun ei amddiffynfeydd. Dechreuwyd ei godi ym 1268, a chynorthwyodd i ysbrydoli cynllun y cestyll a adeiladodd Edward I ledled Cymru er mwyn sicrhau rheolaeth o’r wlad. Cyflogodd y Normaniaid rai o seiri maen a chrefftwyr mwyaf medrus Ewrop i godi eu cestyll.
Ym 1847 cyhoeddodd comisiwn y llywodraeth adroddiad ar gyflwr addysg yng Nghymru, a adnabyddir yn boblogaidd fel “y Llyfrau Gleision”. Rhoddodd yr adroddiad y bai ar yr iaith Gymraeg am y methiannau, ac ni roddodd ddigon o sylw i ffactorau eraill. Beirniadodd hefyd foesau pobl Cymru. Roedd cywilydd ar y Cymry ac roeddent yn gandryll, ond roeddent hefyd am brofi eu bod cystal â gweddill Prydain ac am elwa o gynnydd. Derbyniwyd cynllun y llywodraeth i wella addysg drwy sefydlu ysgolion uwchradd am ddim er mai Saesneg fyddai cyfrwng yr addysgu. Roedd hyn yn tanseilio’r Gymraeg. Gydag ehangiad y maes glo cafwyd cynnydd yn nifer y bobl oedd ddim yn deall Cymraeg. Ym 1962 cyflwynodd y gwleidydd Saunders Lewis araith radio ddylanwadol dan y teitl Tynged Yr Iaith a ysgogodd ffurfio Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, corff sy’n ymgyrchu i gael cydnabyddiaeth i’r iaith. Yn y 1960au dinistirwyd cymuned Gymraeg ei hiaith yng Nghwm Tryweryn er mwyn creu cronfa ddŵr ar gyfer Lerpwl, er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn yng Nghymru. Cynyddodd hyn y gweithredu dros yr iaith a ddaeth i’w anterth pan wnaeth y gwleidydd Gwynfor Evans fygwth ymprydio hyd farwolaeth pe na bai’r llywodraeth Geidwadol yn anrhydeddu ei haddewid i greu sianel deledu Gymraeg. Ildiodd y llywodraeth a lansiwyd Sianel Pedwar Cymru (S4C) ym 1982. Gyda Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 cafwyd statws cyfreithiol gryfach i’r Gymraeg. Ers y 1970au mae addysg cyfrwng Cymraeg wedi ffynnu, yn arbennig yn hen ardaloedd diwydiannol Cymru.
Owain arweiniodd y chwyldro mawr diwethaf gan y Cymry yn erbyn grym Lloegr, chwyldro a ddechreuodd ym 1400. Roedd dicter a phrotest yn erbyn rheolaeth Lloegr wedi bod yn corddi am ganrif a sbardun y chwyldro oedd bod y Barwn Grey o Ruthun wedi dwyn peth o dir Owain. Roedd Owain yn arweinydd gerila effeithiol ond hefyd cipiodd rai targedau mawr, megis castell Normanaidd Harlech a ddaeth yn bencadlys iddo. Creodd gynghreiriau effeithiol, yn cynnwys un gyda brenin Ffrainc, a datblygodd weledigaeth ar gyfer Cymru gyda’i senedd, ei heglwys annibynnol a’i phrifysgolion. Ond methiant fu’r cyfan.
Roedd Elisabeth I yn poeni am ymlyniad pobl Cymru wrth y ffydd Gatholig. Roedd Cymru hefyd yn ddrws cefn ar gyfer ymosodiadau posibl gan bwerau Catholig Ewrop. Felly penderfynodd y dylid darparu Beibl yn y Gymraeg ar gyfer pob plwyf, er mwyn lledaenu agweddau Protestannaidd ymhlith y Cymry. Ym 1588, cyhoeddwyd cyfieithiad gwych yr Esgob William Morgan - y cyntaf yn Ewrop mewn iaith nad oedd yn iaith gwladwriaeth. Rhoddodd ei iaith ddyrchafedig ac urddasol statws cyhoeddus i’r Gymraeg a oedd yn hynod bwysig i’w goroesiad yn y canrifoedd i ddod.
Tywysog o Gymru yn byw yng Ngwynedd, Gogledd Cymru, yn y Canoloesoedd oedd Llywelyn ap Gruffydd. Daeth yn arweinydd y Cymry ac ef yw’r unig Gymro erioed i gael ei gydnabod gan Goron Lloegr yn Dywysog Cymru. Fodd bynnag, pan ddaeth y rhyfelwr ffyrnig Edward I yn Frenin Lloegr cafwyd gwrthdaro hir a chwerw rhwng y ddwy wlad. Ym 1282 lladdwyd Llywelyn gan olygu i bob pwrpas ddiwedd statws Cymru fel gwlad annibynnol. Cafodd y golled hon ganlyniadau anferth ar ddyfodol Cymru.
Croeso i Haclediad #14 – Mae’n dda i ddarllen (e-lyfrau hynny yw), y rhifyn cyntaf gyda chyfweliad gyda pherson go iawn! Yn ymuno gyda Sioned, Bryn ac Iestyn mae Garmon Gruffydd o gyhoeddwyr Y Lolfa, gyda’u gobeithion a chynlluniau nhw ar gyfer cyhoeddi e-lyfrau yn y Gymraeg. Byddwn yna yn trafod lle mae hyn yn gadael gobeithion rhai am gyhoeddi agored Cymreig ar-lein, ond nid sioe llyfrau yn unig fydd hi peidiwch poeni! Mae’r Nokia Lumia 800 yn ein temtio, ynghyd â’r newyddion gwych am brosiect Radio’r Cymry a’n plyg traddodiadol i Hacio’r Iaith ym mis Ionawr, joiwch! Dolenni Nokia Lumia 800 Pwy sy’n rheoli’r cyfryngau yn y 21ain ganrif? Coelcerth Kindles E-lyfrau 2011, recordiadau 2004 Radio’r Cymry The post Haclediad #14 – Mae’n dda i ddarllen (e-lyfrau hynny yw) appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad. Special Guest: Garmon Gruffydd.