POPULARITY
‘Sgwrsio' ydy enw'r podlediad hwn ac mae'n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda Grace Jones, sydd wedi ei geni a'i mhagu yn Seland Newydd ac wedi dysgu Cymraeg, a hynny ar ôl cyfarfod ei gŵr Llion pan aeth ef allan i weithio fel cneifiwr i Seland Newydd. Fe dreuliodd Grace gyfnod yng Nghymru pan ddaeth hi a Llion i fyw yn Nebo, ger Llanrwst am gyfnod. Tydy Grace ddim wedi cael unrhyw wersi Cymraeg ffurfiol - mae hi wedi dysgu'r iaith drwy fyw a gweithio ymhlith Cymry pan oedd yng Nghymru ac wrth sgwrsio a gwrando ar Llion yn siarad. Bellach mae Grace a Llion wedi dychwelyd yn ôl i fyw i Seland Newydd, mae nhw newydd brynu fferm ac yn rieni balch i fab bach sydd yn ddwy oed.
Beti George sydd yn holi Iwan Steffan, cyflwynydd a dylanwadawr ar wefannau cymdeithasol, er nad ydi Iwan yn rhy hoff o'r term dylanwadwr. Yn wreiddiol o bentref Rhiwlas, tu allan i Fangor, ond mae bellach yn byw yn Lerpwl, ac yn cael ei adnabod gan bobol y ddinas oherwydd ei bresenoldeb ar Tik Tok, sydd yn ei gyflogi fel llysgennad swyddogol, mae dros 52 o filiynau o bobol wedi gweld ei fideos am ysbrydion Lerpwl. Mae'n rhan o deulu creadigol - y cerddor Steve Eaves yw ei Dad ac mae Iwan yn frawd bach i Lleuwen Steffan a Manon Steffan Ros. Mae'n trafod hanesion ei fywyd, yn credu bod gormod o bwysau ar blant i lwyddo yn yr ysgol mewn arholiadau, " Ges i TGAU Cymraeg ac Addysg Grefyddol. Tyda ni gyd ddim yn dysgu fel ‘na – dylsa ni ddysgu am brynu tai, pres, colled, iechyd meddwl“.Tydi'r ffordd ddim wedi bod heb ei heriau, rhai yn boenus iawn, ond mae Iwan yn hapus erbyn hyn ei fod yn gweithio tipyn yng Nghymru hefyd yn cyflwyno rhaglenni i S4C. “ dwi'n dathlu fy hun rŵan – dwi wedi treulio gymaint o'm mywyd yn anhapus”
Ydych chi erioed wedi meddwl sut y daeth meithrinfa yng Nghymru yn allforiwr mawr o blanhigion gardd ar draws y DU ac Ewrop? Ymunwch â'r cyflwynydd gwadd Neville Stein wrth iddo ymweld â Meithrinfeydd Seiont yng Nghaernarfon. Dysgwch y cyfrinachau y tu ôl i'w llwyddiant, o'u sefydlu ym 1978 i'w cynhyrchiad blynyddol trawiadol o dros filiwn o blygiau a leinin, gan arbenigo mewn mathau newydd cyffrous. Darganfyddwch sut maen nhw'n partneru â bridwyr rhyngwladol ac yn rheoli eu gwasanaeth dosbarthu wythnosol. Hefyd, clywch am eu cynlluniau i ehangu i farchnad Iwerddon. Mae'r bennod hon yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn garddwriaeth, twf busnes, a chymhlethdodau masnach ryngwladol yn y diwydiant planhigion.
Megan Williams sy'n trafod mwy gydag Elinor Williams o OFCOM Cymru.
Rhodri Davies sy'n clywed ymateb Llywydd NFU Cymru, Aled Jones i'r ffigurau diweddar.
Nick a Carwyn sy'n trafod wythnos brysur yng Nghymru ar ac oddi ar y cae a trafod pam bod penderfyniadau nesa yr undeb yn hanfodol. #RygbiCymru #Welshrugby #Rygbi #URC Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Rhodri Davies sy'n clywed galwadau gan Llŷr Jones o Gorwen i gadw dofednod o dan do.
Megan Williams sy'n trafod y datblygiad hwn gyda'r milfeddyg Aled Bradbourne.
Yr arlunydd o Flaenau Ffestiniog, Gareth Parry, yw gwestai Beti George. Magwyd yn y tŷ lle ganwyd ei Fam a'i Nain yn Manod, Blaenau Ffestiniog. Cawn hanesion difyr ei fagwraeth yn ogystal â'i hanes yn denig o Blaenau ar drên gyda'i ffrind ysgol am "fywyd gwell" yn Llundain a hynny yn ei arddegau. Wedi gadael ysgol, fe aeth i'r coleg celf ym Manceinion, cyfnod y mods a'r rocers a'r gerddoriaeth soul. O fewn dim amser, mi roedd y teimlad o gaethiwed yn ôl, rhyw deimlad fod o yn y carchar eto (fel roedd yn teimlo adre efo Dad) . Daeth y rebel allan ynddo ac wedyn daeth y dylanwadau o'r tu allan i'r coleg. Gadawodd y coleg a dod 'nôl i weithio yn y chwarel yn Blaenau. Dylanwadodd y naturiaethwr Ted Breeze arno, a bu'n gwerthu lluniau i'r cylchgrawn Country Life. Mae bellach yn gwerthu ei waith mewn orielau celf yn Llundain ac yng Nghymru.
Ydi byw yng Nghymru am bum mlynedd yn ddigon i fod yn gymwys i ennill cap cenedlaethol? Dyna'r brif drafodaeth ymysg Dyl, Ows a Mal yn dilyn ymgais Cymdeithas Bêl-droed Cymru i newid y rheolau presennol er mwyn gallu cynnwys Matt Grimes yn y garfan.Mae'r tri hefyd yn trafod y cyhoeddiad ynglŷn â pha glybiau fydd yn ymuno gyda'r Cymru Premier pan fydd y gynghrair genedlaethol yn ehangu i gynnwys 16 tîm yn nhymor 2026-27. Ac mae Dyl yn esbonio pam oedd o wedi gwylltio'n gacwn ddydd Sadwrn.
Owain Jones (Hwlffordd) sy'n ymuno ag Ifan a Sioned wythnos yma i drafod tymor Hwlffordd hyd yn hyn, a'u gem nhw yn erbyn Penybont dros y penwythnos (YN FYW ar-lein ac ar eich teledu clyfar ddydd Sadwrn 1 Chwefror 12:10). Mae hefyd cyfle i drafod cyn-glwb Owain, Merthyr yn dilyn y newyddion eu bod wedi cael cynnig £6m wrth y Gymdeithas Bel-droed i ymuno a'r pyramid yng Nghymru. Owain Jones (Haverfordwest) joins Ifan and Sioned this week to discuss Haverfordwest's season so far, and their upcoming game against Penybont (LIVE online and on your smart TV on Saturday 1 February 12 :10). There is also an opportunity to discuss Owain's former club, Merthyr Town, following the news that they had been offered £6m by the FAW to join the pyramid in Wales.
Croeso i 'Arbrawf Cnau Ffrengig Cymru,' lle rydym yn archwilio potensial tyfu cnau yng Nghymru. Yn y bennod hon, cawn gwrdd â Martyn Williams o Sir Gaerfyrddin sydd wedi mentro i fyd cynhyrchu coed cnau. Gyda chefnogaeth Cyllid Arbrofi Cyswllt Ffermio, mae wedi plannu coed cnau Ffrengig a chastanwydd melys ar ei dir, gan obeithio datgloi ffynhonnell newydd o incwm a chyfrannu at ddyfodol amaethyddol mwy cynaliadwy. Ymunwch â ni wrth i ni ymchwilio i heriau a gwobrau'r prosiect uchelgeisiol hwn, a darganfod a all Cymru ddod yn hafan i dyfwyr cnau. Mae Tom Tame, sy'n tyfu Cnau Ffrengig yn fasnachol ar fferm ei deulu yn Swydd Warwick, yn ymuno â Geraint Jones Swyddog Arbenigol Coedwigaeth hefyd.
Megan Williams sy'n trafod y sefyllfa gyda'r milfeddyg, Aled Bradbourn.
Ifan a Sioned sy'n edrych ar brif bynciau trafod y penwythnos o bel-droed domestig yng Nghymru, ac yn edrych ymlaen at ddwy gem gyw ar Sgorio benwythnos nesaf - Llansawel v Aberystwyth yn Uwch-gynghrair Cymru (dydd Sadwrn, 17:15) ac Aberystwyth v Y Seintiau Newydd yn y Brif Adran (dydd Sul, 17:10). Ifan and Sioned discuss the weekend's main talking points in Welsh domestic football, and look forward to two live games on Sgorio next weekend - Briton Ferry v Aberystwyth in the Cymru Premier (Saturday, 17:15) and Aberystwyth v The New Saints in the Adran Premier (Sunday, 17:10).
Richard Jones-Parry yw gwestai Beti George.Mab fferm Bryn Bachau rhwng Abererch a Chwilog yw Richard. Mae'n gyn athro Cemeg yn Ysgol Breswyl Marlborough, ac wedi bod yn dysgu yn Awstralia hefyd.Fe dreuliodd gyfnod hefo'i deulu yn gwirfoddoli yn Ghana. Mae'n treulio pedwar mis o'r flwyddyn yng Nghymru a'r gweddill yn Adelaide, Awstralia.
Fe welwyd cynnydd o 7% yng nghost troseddau gwledig yma yng Nghymru llynedd yn ôl adroddiad diweddar gan NFU Mutual. Megan Williams sy'n trafod cynnwys yr adroddiad gydag Aled Griffiths, Asiant hefo NFU Mutual yn y Canolbarth, ac yn gofyn iddo am gyngor ar sut i gadw offer ac anifeiliaid fferm yn ddiogel.
Megan Williams sy'n clywed barn Aled Jones, Llywydd NFU Cymru am gyhoeddiad y Llywodraeth
Pod 98: Rownd Derfynol Cwpan Cymru Ifan Gwilym oedd yn Rodney Parade ar gyfer rownd derfynol Cwpan Cymru dydd Sul i wylio Cei Connah yn herio'r Seintiau Newydd. Roedd cyfle i gymysgu gyda'r cefnogwyr i weld be oedd barn pawb am weledigaeth y Gymdeithas Bêl-droed ar gyfer y gynghrair yng Nghymru. Ifan Gwilym was at Rodney Parade for Sunday's Welsh Cup final between Connah's Quay and The New Saints. There was an opportunity to mingle with the fans to see what they think about the FAW's vision and strategy for the Cymru Premier.
Ar Blât – Elinor SnowsillY cyn-chwaraewr rygbi Elinor Snowsill oedd gwestai Beca Lyne-Pirkis ar y rhaglen Ar Blât yn ddiweddar, gyda'r ddwy yn trafod ryseitiau, atgofion a sut mae bwyd yn effeithio ar ein bywydau ni bob dydd. Mae coginio yn rhan fawr o fywyd teulu Elinor felly siawns ei bod hi wedi bwyta'n dda ac yn iach pan oedd hi'n ifanc…?Cyn-chwaraewr Former player Rysetiau Recipes Atgofion Memories Gwrthod To refuse Cytbwys Balanced Adnabyddus Famous Wastad AlwaysDros Frecwast – Toiledau CyhoeddusWel dw i'n siŵr bod Elinor yn bwyta'n iachach nawr nag oedd hi pan oedd hi'n ifanc! Ar fore Llun yr 22ain o Ebrill, diffyg toiledau cyhoeddus oedd yn cael sylw ar raglen Dros Frecwast. Buodd Gethin Morris Williams yn sgwrsio gyda Lois Mererid Edwards, o Langefni ar Ynys Môn. Fel cawn ni glywed, mae Lois yn diodde o gyflwr meddygol sy'n golygu bod toiledau cyhoeddus yn bwysig iawn iddi hi … Diffyg Lack of Cyflwr Condition Coluddyn Bowel Rheolaeth Control Straen Stress Croen Skin Ar hap Randomly Ailadroddus Repetitious Cyfleusterau cyhoeddus Public conveniences Cymryd yn ganiataol Taking for grantedBore Cothi – Menna WilliamsLois Mererid Edwards oedd honna'n sôn am pa mor bwysig yw bod digon o doiledau cyhoeddus ar gael, yn enwedig i'r rhai sy'n diodde o gyflwr meddygol. Menna Williams o Langernyw yn Sir Conwy ydy enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes eleni. Gwobr yw hon sy'n cael ei rhoi bob blwyddyn yn Eisteddfod yr Urdd, am gyfraniad sylweddol i fywyd pobl ifanc Cymru. Wythnos diwetha, Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shân Cothi yn gynnes, a chafodd hi sgwrs fach gyda Menna ar y rhaglen: Tlws Trophy Cyfraniad sylweddol A substantial contribution Braint A privilege Dirprwy Deputy Cyfeilio To accompany (on piano) Amyneddgar iawn Very patient Llenni Curtains Deuawd Duet Pan ddaru o Pan wnaeth e Ienga Ifanca Anrhydedd An honourBeti a'i Phobol – Shelley ReesA llongyfarchiadau mawr i Menna Williams ar ennill y Tlws arbennig yna, dw i'n siŵr bydd hi'n mwynhau'r seremoni yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Shelley Rees yr actores, a chyflwynydd Radio Cymru oedd gwestai Beti George ar ei rhaglen nos Sul. Yma mae Shelley yn sôn am actio. Mae hi wedi perfformio ers pan oedd hi'n blentyn bach, ond nawr bod hi'n bum deg oed tybed ydy hi'n anoddach iddi hi gael gwaith actio? Cyflwynydd Presenter Sefyll yn llonydd Standing still Menywod Merched Arallgyfeirio Diversify Ymgyrchu To campaign Egni Energy Drygionus Naughty Yn go glou Yn eitha cyflym Mam-gu Nain Taw MaiAled Hughes – SingaporeYchydig o hanes gyrfa actio Shelley Rees yn fanna ar Beti a'i Phobol. Basen ni'n disgwyl clywed sgwrs Gymraeg mewn ystafell athrawon, neu gweld eisteddfod mewn ysgol yng Nghymru …ond yn Singapore? Wel dyna sy'n digwydd mewn un ysgol draw ar yr ynys bell honno, diolch i bennaeth o Gymru, sydd wedi recriwtio nifer o athrawon Cymreig i weithio yn yr ysgol. Rhys Myfyr, un o athrawon yr ysgol fuodd yn sgwrsio gydag Aled Hughes: Pennaeth Head Rhyfedd Strange Rhyngwladol International Wedi ei leoli Located Diwylliannol Cultural Hap a damwain Luck Denu To attract Ymddiried To trust Cystadleuol CompetitiveDros Ginio – LlyfrauEisteddfod ysgol yn Singapore, gwych on'd ife? Tybed faint o lyfrau dych chi'n llwyddo i'w darllen o glawr i glawr? Yn ddiweddar, mae sawl ap yn crynhoi cynnwys llyfrau, ond ydy hyn yn mynd i gael effaith ar werthiant llyfrau? Ar Dros Ginio ddydd Mawrth diwetha, buodd Jennifer Jones yn holi'r awdur a'r golygydd, Elinor Wyn Reynolds am ei barn: Clawr Cover Crynhoi cynnwys To summarise the content Cyfrolau Books Adolygiadau Review Yn ei chrynswth In its entirety Drwgdybus Suspicious Yn hytrach na Rather than Bod dynol Human being Bygythiad Threat Annog To encourage Agor cil y drws To open the door slightly
Pod 97: Strategaeth 2024-30 Cymru Premier JD Yr wythnos yma mae'r Gymdeithas Bêl-droed wedi datgelu eu gweledigaeth ar gyfer y gynghrair bêl-droed yng Nghymru. Ar y Pod, cawn glywed wrth Jack Sharp (Pennaeth Cynghreiriau Domestig) a chael ymateb gan Sioned Dafydd ac Ifan Gwilym. This week the Football Association of Wales revealed their vision for the football league in Wales. On the Pod, we hear from Jack Sharp (Head of Domestic Leagues) and get the initial response from Sioned Dafydd and Ifan Gwilym.
Pigion y Dysgwyr - Rosalie Caryl 020224Rosalie Lamburn o Moggerhanger ger Bedford oedd gwestai Caryl nos Fawrth ac roedd Caryl eisiau gwybod mwy am gefndir Rosalie. Cafodd hi ei geni yn Hong Kong ar ddechrau'r rhyfel, cyn symud i fyw i Awstralia a symud wedyn o fanno i Ddeiniolen ger Llanberis. Dyma Rosalie yn dechrau drwy sôn am ei hatgofion o Awstralia. Rhyfel WarAtgofion MemoriesMynyddog MountainousAnferth HugeBobol annwyl Goodness me Llong ShipGrawnwin Grapes Pigion y Dysgwyr – Magnets Oergell Aled Hughes 030424Rosalie Lamburn oedd honna'n sôn am ei phrofiad yn symud i Gymru o Awstralia pan oedd hi'n chwech oed. Dych chi'n un o ‘r rhai sy'n hoff o brynu magnet i roi ar y ffrij, neu'r oergell, pan dych chi ar wyliau? Wel mae'n ffordd dda o gofio am y gwyliau ymhen blynyddoedd wedyn on'd yw e? Mae Lowri Mair Williams newydd fod yn teithio am 5 mis yn Asia ac fel cawn ni glywed, mae casglu magnetau yn rhan bwysig o'i gwyliau iddi hi...Traddodiad TraditionCelf ArtLlawn bwrlwm BuzzingCynnyrch lleol Local producePwytho â llaw HandstitchedPren Wood Cysylltiad ConnectionAtyniad AttractionPigion y Dysgwyr – Clare Mackintosh Dros Ginio 02.04.24Faint o le sydd ar ffrij Lowri erbyn hyn tybed i gadw'r holl fagnetau na? Mae'r awdures Clare Mackintosh, sy'n byw yn y Bala, wedi cyhoeddi ei llyfr diweddara. Fel arfer basen ni'n cysylltu ei llyfrau hi â ffuglen a throsedd, ac mae ei llyfrau wedi gwerthu dros 2 filiwn ar draws y byd. Mae ei llyfr diweddara yn wahanol iawn i'r lleill ac yn sôn am ei phrofiad personol hi o alar…Ffuglen a throsedd Fiction and crimeDiweddara Most recentGalar GriefDynes MenywCennin Pedr DaffodilsAmser maith yn ôl A long time agoYn union ExactlyPigion y Dysgwyr – Cerys Hafana Beti a'i Phobol 070404A dw i'n siŵr bydd llyfr diweddara Claire yn gysur ac yn gymorth i rai eraill sy'n galaru ar ôl colli rhywun agos. Tair perfformwraig sydd i'w clywed yn y tri chlip nesa ‘ma gan ddechrau gyda'r delynores ifanc, Cerys Hafana, oedd yn westai ar Beti a'i Phobol ddydd Sul, Dim ond 22 oed ydy hi ac mae hi'n berfformwraig boblogaidd iawn oherwydd ei harddull arbennig yn canu'r delyn. Cafodd hi ei geni yn Chorlton, Manceinion ac yma mae hi'n sôn am hanes ei theulu….Cysur ComfortTelynores HarpistArddull StyleChwarelwyr QuarrymenDychwelyd To returnCwympo To fall Pigion y Dysgwyr – Golden Oldies Bore Cothi 020404Ac mae Cerys yn perfformio mewn sawl lleoliad yng Nghymru rhwng nawr a'r haf – cerwch i'w gweld os cewch chi gyfle, mae'n delynores arbennig iawn. Buodd Shelley Morris o Faenclochog yn Sir Benfro yn sôn am brosiect arbennig sef y Golden Oldies ar Bore Cothi. Cynllun ydy hwn drwy Gymru sy'n cynnig siawns i rai ddod at ei gilydd i fwynhau a chael cyfle i ganu pob math o ganeuon, nid fel côr, ond yn fwy hamddenol. Ond mae Shelley yn berfformwaig ei hunan hefyd, a dyma hi'n sôn wrth Shan Cothi am ei phrofiad hi o berfformio ar lwyfannau enwog iawn...Hamddenol Leisurely Profiad Experience Llwyfannau Stages Nefoedd annwyl Good HeavensPigion y Dysgwyr – Connie Orff Caryl 030204Wel pob lwc i'r Golden Oldies on'd ife? Mae'n swnio'n brosiect diddorol a hwyliog iawn. Ac yn ola, y frenhines drag, Connie Orff, gafodd sgwrs gyda Caryl i sôn am beth sy'n gwneud perfformiad drag llwyddiannus … Dylanwadau InfluencesUniaethu fel To identify asFfraeth WittyIsraddol InferiorCaniatáu To permit
DROS GINIO 11.03.24Buodd Rhodri Llywelyn yn holi Mahum Umer o Gaerdydd. Mae'r cyfnod Ramadan i Foslemiaid ar draws y byd wedi cychwyn. Beth mae'r ŵyl yn ei olygu i Foslem ifanc Cymraeg?Ympryd A fastCymuned CommunityNodi To markCrefyddol ReligousDatgelu To revealHunanddisgyblaeth Self disciplineLlai ffodus Less fortunateAnsicrwydd UncertaintyHeriol ChallengingAdlewyrchu To reflect ALED HUGHES 12.03.24Blas ar sut mae cyfnod Ramadan yn effeithio ar Foslemiaid ifanc Cymru yn fanna ar Dros Ginio. Pwy fasai'n meddwl ei bod yn bosib cynhyrchu gwin cyn belled i'r gogledd â Dyffryn Clwyd? Wel dyna sy'n digwydd yng Ngwinllan y Dyffryn a buodd perchennog y winllan, Gwen Davies, yn sgwrsio gydag Aled Hughes fore Mawrth am yr her o dyfu grawnwin yn yr ardal honno.Cynhyrchu To produceGwinllan VinyardHer A challengeGrawnwin GrapesLlethr SlopeGwerthfawrogi To appreciateAddas AppropriateSefydlu To establishMicro hinsawdd Microclimate Yn y man Mewn munudGwinwydd VinesArallgyfeirio To diversify GEORGIA RUTH 12 03 24Ac erbyn hyn mae sawl gwinllan yng Nghymru on'd oes e? Pwy â ŵyr, falle mai Cymru bydd y Bordeaux newydd!Bardd mis Mawrth Radio Cymru yw Sam Robinson. Mae e'n byw ym Machynlleth, nawr ond yn dod o Rydychen yn wreiddiol ac mae e'n rhugl yn y Gymraeg erbyn hyn. Dyma fe'n sôn wrth Georgia Ruth am daith arbennig buodd e arni i Wlad y Basg...Rhydychen OxfordGwlad y Basg The Basque CountryOfferyn InstrumentGwneuthurion ManufacturersPreniach Small pieces of woodPastynau ClubsGwledda To feastWedi swyno CharmedYmatebol ResponsiveLlanast MessRhyfeddol Wonderful BORE COTHI 15.03.24Un arall sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhyfeddol, fel Sam Robinson yw Debora Morgante o Rufain. Mari Grug oedd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes dydd Gwener, noson cyn gêm rygbi Cymru a'r Yr Eidal, a chafodd hi sgwrs gyda Debora gan ofyn iddi hi sut gwnaeth hi ddysgu Cymraeg yn y lle cynta...Rhufain RomeCwrs Preswyl Residential courseYmarfer To practiceDROS FRECWAST 14.03.23Debora Morgante o Rufain oedd honna, fuodd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn yn 2015. Yn anffodus colli wnaeth Cymru yn y gêm yn erbyn yr Eidal a hon oedd gêm ola George North i chwarae dros Gymru gan iddo ddweud basai'n ymddeol yn dilyn y gêm honno. Cennydd Davies fuodd yn sgwrsio gyda George am ei benderfyniad.Rhestr fer Short listPenderfyniad enfawr Huge decisionCyflawni To achieveY cyhoedd The publicUchafbwynt HighlightBETI A'I PHOBOL 17.03.24George North oedd hwnna enillodd cant dau ddeg o gapiau i Gymru gan ennill ei gap cynta yn 2010. Trueni mawr ei fod yn ymddeol ond mae e wedi rhoi gwasanaeth arbennig i Gymru dros y blynyddoedd. Hazel Thomas o Lanwenog yng Ngheredigion fuodd yn sôn wrth Beti George am ei hamser yn gweithio fel chef yn y Dorchester yn Llundain …y ferch gynta i wneud hynny!Trueni BechodSylw a stwr Fuss and attentionCefn gwlad The countrysideEnwoca The most famousBodoli To exist
Yn y bennod fer hon, bydd swyddog Garddwriaeth Cyswllt Ffermio, Hannah Norman, yn cael cwmni Alex Cook, Bremenda Isaf, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin a fydd yn trafod eu prosiect l archwilio technegau rhyng-gnydio codlysiau-grawn ar gyfer cynhyrchu bwyd i'w fwyta gan bobl.
Mae Laura Pollock, Lower House Farm wedi archwilio'r dulliau gorau ar gyfer sefydlu menter garddwriaeth dewis pwmpen eich hun.
TRYSTAN & EMMA DYDD GWENER 2302Tesni Evans gafodd air gyda Trystan & Emma fore Gwener. Cafodd hi sialens i gael tatŵ gydag enw band Y Cledrau ar ei choes! Wnaeth hi dderbyn y sialens tybed?Prif leisydd Main vocalistFfyddlon FaithfulYmwybodol Aware COFIO DYDD SUL 2502A miwsig Y Cledrau oedd i'w glywed yn y cefndir yn fanna. Gobeithio, on'd ife, bod y band yn gwerthfawrogi tatŵ Tesni. Mae hi'n flwyddyn naid sef y flwyddyn pan mae dau ddeg naw, neu naw ar hugain, o ddyddiau ym mis Chwefror. Mae'n debyg bod y siawns o gael eich geni ar y dyddiad hwnnw yn un ymhob 1,461. Un o'r mil a hanner rheini yw Elin Maher (pron. Mahyr). Felly faint yn union yw oed Elin nawr?Gwerthfawrogi To appreciateY gwirionedd The truthAr bwys Wrth ymylGwneud yn fawr Making the most Cyfoedion PeersAi peidio Or notSbo I supposeTrin To treatTynnu sylw To draw attentionRHYS MWYN DYDD LLUN 2602Elin Maher oedd honna, sydd ychydig bach yn hŷn na thair ar ddeg oed mewn gwirionedd! Ar raglen Rhys Mwyn clywon ni bod y Beatle enwog, George Harrison, wedi treulio amser yng ngwesty Portmeirion pan gafodd sengl y Beatles 'Get Back' ei rhyddhau ar Ebrill 11 1969. Rheolwr Safle Portmeirion, Meurig Rees Jones, sy'n sôn yn y clip nesa ‘ma am sut daeth e ar draws bwydlen oedd wedi ei harwyddo gan George Harrison ar y diwrnod hwnnw. Rhyddhau To releaseArwyddo To signYr arbenigwr The expertY cysylltiadau The connectionsAnhygoel IncredibleAmrywiaeth VarietyYmchwil ResearchAtgofion MemoriesDROS GINIO DYDD MAWRTH 2702Hanes diddorol George Harrison ym Mhortmeirion yn fanna ar raglen Rhys Mwyn. Sut dysgoch chi Gymraeg - ar-lein, wyneb yn wyneb neu'r ddwy ffordd? Pa ffordd ydy'r mwya effeithiol tybed? Cafodd llythyr ei gyhoeddi yn Golwg yn dweud ei bod yn bwysig cael gwersi Cymraeg wyneb yn wyneb yn dilyn twf dysgu ar-lein yn ystod y cyfnod clo. Jennifer Jones fuodd yn trafod hyn ar Dros Ginio a chafodd hi sgwrs gydag Alison Roberts o'r Alban, ond sydd nawr yn byw yng Nghymru, yn sôn am sut aeth hi ati i ddysgu'r iaithEffeithiol EffectiveWyneb yn wyneb Face to faceCymuned CommunityAnghonfensiynol UnconventionalCARYL PARRY JONES DYDD MAWRTH 2702Alison enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023, ac mae hi wedi dysgu Cymraeg yn anhygoel on'd yw hi, o feddwl nad ydy hi erioed wedi bod mewn dosbarth Cymraeg! Beth sy'n gwneud bwyty da? Llio Angharad, sy'n sgwennu am deithio a bwyd ar y gwefannau cymdeithasol, fuodd yn trafod hyn efo Caryl Parry Jones ddydd Mawrth wythnos diwetha Gwefannau cymdeithasol Social media Hynod o bwysig Extremely importantCrafu To scratchY goleuo The lighting Swnllyd Noisy(H)wyrach EfallaiALED HUGHES DYDD MERCHER 2802Caryl a Llio yn trafod beth sy'n gwneud bwyta da yn fanna. Dych chi'n cytuno â nhw? Pawlie Bryant o Santa Barbara fuodd yn sgwrsio efo Aled Hughes ddydd Mercher diwetha. Mae Pawlie yn gerddor ac mae e newydd sgwennu ei gân gynta yn Gymraeg! Does dim llawer o amser ers i Pawlie ddechrau dysgu Cymraeg a gofynnodd Aled iddo, pryd oedd y tro diwetha iddo ymweld â Chymru… Cerddor MusicianO'r blaen PreviouslyY Deyrnas Unedig The UKDinesydd CitizenSylweddolais i I realisedSwyddogol OfficialDeunaw 18
Image Fen Raft Spider (Dolomedes plantarius) (c) Liam Olds Wales has become the first country in the world with a map of its most important areas for insects and other invertebrates - a vital source of information to help guide nature recovery in Wales. Buglife - The Invertebrate Conservation Trust is launching the 'Important Invertebrate Areas: Putting Bugs on the Map in Wales' report at the Senedd today. The network of 17 Important Invertebrate Areas (IIAs) has been identified by the charity working closely with experts and using millions of records collected by naturalists. Welsh Bugs Mapped Wales is home to iconic and threatened species found nowhere else in Britain, such as the Cliff Mason Bee (Osmia xanthomelana) now only known from two short stretches of Welsh cliff top, and the Critically Endangered Scarce Yellow Sally Stonefly (Isogenus nebecula) which is only found in the River Dee and was once feared once being feared extinct. The IIAs, which are home to nationally or internationally significant invertebrate populations and their habitats, took nearly five years to map. They cover 1,344km2 of Wales. Although this is just 6.5% of the country, they are home to over 10,800 species of invertebrate, including 7 of Britain's endemic species - those found nowhere else in the world. The IIAs are also home to threatened species, including the stunning Blue Ground Beetle (Carabus intricatus), Britain's rarest snail - the Glutinous Snail (Myxas glutinosa), and the Fen Raft Spider (Dolomedes plantarius)- our largest spider. Buglife Cymru Manager, Clare Dinham, said, "Wales' Important Invertebrate Areas, from the Ll?n Peninsula to the South Wales Coast, are home to some of our most special species. But many are under threat. We hope that the new IIA map will help people to learn about and celebrate their local wildlife. And also understand what they can do to help nature recover." Jamie Robins, Programmes Manager, said, "To secure a better future for our invertebrate populations and help nature to thrive, it is essential to know where our most threatened species live. We've started the job by mapping IIAs for Wales, but this is only the beginning. We need decision makers to recognise the important role that invertebrates play and use our IIAs to prioritise much needed conservation action." The full map of IIAs can be explored on the Buglife website, with freely accessible profile documents for each of the 17 IIAs that explain why they are important, the threats they face and what needs to be done to enable their special inhabitants to thrive. Cymru yw'r wlad gyntaf yn y byd gyda map o'i ardaloedd pwysicaf ar gyfer pryfed ac infertebratau eraill - ffynhonnell wybodaeth hanfodol er mwyn helpu i arwain adferiad natur yng Nghymru. Mae Buglife - Yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Infertebratau yn lansio adroddiad 'Ardaloedd Infertebratau Pwysig: Rhoi Pryfed ar y Map yng Nghymru' yn y Senedd heddiw. Mae'r rhwydwaith o 17 o Ardaloedd Infertebratau Pwysig (AIP) wedi ei ddynodi gan yr elusen drwy weithio'n agos gydag arbenigwyr a gan ddefnyddio miliynau o gofnodion a gasglwyd gan naturiaethwyr. Mae Cymru'n gartref i rywogaethau eiconig ac sydd dan fygythiad sydd ddim i'w canfod yn unman arall ym Mhrydain, fel Saerwenynen y Clogwyn (Osmia xanthomelana) sydd bellach ond i'w chanfod mewn dau safle bach ar ben clogwyni yng Nghymru, a'r pryf cerrig prin Isogenus nebecula sydd Mewn Perygl Difrifol, sydd ond i'w gael yn Afon Dyfrdwy ac yr ofnwyd ei fod wedi diflannu am byth. Cymerodd yr AIP, sy'n gartref i boblogaethau o infertebratau o bwys cenedlaethol neu ryngwladol a'u cynefinoedd, bron i bum mlynedd i'w mapio. Maent yn cwmpasu 1,344km2 o Gymru. Er bod hyn yn ddim ond 6.5% o'r wlad, maent yn gartref i dros 10,800 o rywogaethau o infertebratau, yn cynnwys 7 o rywogaethau endemig Prydain - rhai sydd ddim i'w cael yn unman arall yn y byd. Mae'r AIP yn gartref hefyd i rywogaethau sydd dan fygythiad, yn cynnwys y chwilen ddaear Carabus intricatus h...
Clip 1: Bore Cothi Bore Llun y 6ed o Dachwedd, Mici Plwm oedd yn cadw cwmni i Shân Cothi. Gan ei bod hi'n dymor piclo a gwneud siytni, dyma gael sgwrs efo'r prif biclwr ei hunan. Yma mae Mici yn sôn am nionod brynodd o yn Roscoff, Llydaw, a sut mae o am eu piclo mewn cwrw: Nionod Winwns Llydaw Britanny Ar gyrion Ger Bragdai Breweries Arbrofi To experiment Eirin Plums Eirin tagu Sloes Hel Casglu Y werin The common people Byddigion Posh people Clip 2 – Rhaglen John ac Alun. Www, nionyn wedi ei biclo mewn cwrw, swnio'n ddiddorol yn tydy? Roedd ‘na barti mawr ar Raglen John ac Alun ar y 5ed o Dachwedd– parti penblwydd y rhaglen yn 25 oed! Ac mi ymunodd Dilwyn Morgan yn yr hwyl hefyd, a buodd hi'n gyfle i hel atgofion. Yma, mi gawn ni glywed clip o'r archif sef rhaglen gyntaf John ac Alun cafodd ei darlledu yn ôl yn Ebrill 1998: Hel atgofion Reminisce Darlledu To broadcast Dipyn o gamp Quite an achievement Para To last Cyflwyno Presenting Cynulleidfa Audience Wch chi be? You know what? Cefndir Background Clip 3: Dros Ginio John ac Alun yma o hyd, ac yn boblogaidd iawn gyda gwrandawyr Radio Cymru. Yn ddiweddar mae llawer mwy o bobl ifanc yn delio efo eco-bryder, sy'n cael ei achosi drwy boeni am effeithiau newid hinsawdd. Mae Fflur Pierce o Ddyffryn Nantlle yn un o'r rheini, a buodd hi'n sôn wrth Cennydd Davies wythnos diwetha am y profiad o fyw efo'r cyflwr hwn: Eco-bryder Eco anxiety Newid hinsawdd Climate change Cyflwr Condition Yn fengach Yn ifancach Baich A burden Teimlo'n euog Feeling guilty Rhwystredig Frustrating Gwyddonwyr Scientists Sbio Edrych Amgylchedd Environment Clip 4: Newid Hinsawdd a Fi Does na ddim llawer o fanteision i newid hinsawdd nac oes, ond mi glywon ni am un fantais ar y rhaglen Newid Hinsawdd a Fi bnawn Sul y 5ed o Dachwedd. Aeth Leisa Gwenllian draw i Winllan y Dyffryn ger Dinbych. Mae newid hinsawdd yn golygu ei bod yn bosib cynhyrchu gwin yn Nyffryn Clwyd hyd yn oed. Yma mae Leisa yn sgwrsio efo perchennog y winllan, Gwen Davies sydd wedi dysgu Cymraeg: Cynhyrchu To produce Perchennog Owner Gwinllannoedd Vineyards Cynnydd sylweddol A substantial increase Yn yr un gwynt In the same breath Gwinwydd Vine Arallgyfeirio Diversify Datblygu To develop Aeddfedu To mature Cysgodi To shelter Clip 5: Rhaglen Ifan Ia, mae na sawl gwinllan wedi agor yng Nghymru dros y blynyddoedd diwetha yn does? Er dw i ddim yn cofio clywed am un mor ogleddol a Gwinllan y Dyffryn chwaith. Pob lwc a iechyd da i holl gynhwychwyr gwin Cymreig! Yn ddiweddar ar raglen Ifan, tra bod Hana Medi yn cadw ei sedd yn gynnes, sgwrsiodd Hana gyda Cefin Evans o glwb Dyfed Dirt Bikes. Mae Cefin wedi teithio yr holl ffordd o Gymru i'r Ariannin i wylio cystadleuaeth arbennig iawn, un o brif gystadlaethau Enduro'r Byd, a hynny gan fod ei fab Rhys yn cystadlu yno ar ran y clwb: Ariannin Argentina Eang Wide Mas Allan Bola Bol Paratoi To prepare Tlodi Poverty Gwerthfawrogi To appreciate Clip 7 – Beti a'i Phobol Wel dyna brofiad gwych i glwb Dyfed Dirt Bikes ynde? Dw i'n siŵr eu bod wedi mwynhau pob eiliad o'r daith arbennig i'r Ariannin. Bronwen Lewis, y gantores, oedd gwestai Beti George nos Sul ddiwetha. Cafodd Bronwen ei magu ym Mlaendulais a daeth yn amlwg ar y gwefannau cymdeithasol yn ystod y cyfnod clo, wrth iddi hi ganu o'i chartref a rhannu'r perfformiad ar Facebook. Mi fuodd Branwen yn cystadlu ar raglen deledu The Voice yn y gorffennol ac mae'n cyflwyno rhaglen ar Radio Wales ar foreau Sul ar hyn o bryd: Amlwg Prominent Gwefannau cymdeithasol Social media Yr aelwyd The home Tad-cu Taid Ffili Methu Arweinydd Conductor Mas Allan
The Twenty-Fourth Sunday after Pentecost ORISON: O day of God, draw nigh (Tune: SAINT MICHAEL) – Louis Bourgeois (c. 1510-c. 1561); harm. William Henry Monk (1823-1889) PSALM 70 – Peter R. Hallock (1924-2014) HYMN: Rejoice, rejoice, believers and let your lights appear (Tune: LLANGLOFFAN) – mel. from Hymnau a Thonau er Gwasanaeth yr Eglwys yng Nghymru, […]
Pigion Dysgwyr – Stacey Mae Shelley Rees a Rhydian Bowen Phillips wedi bod yn cadw sedd Emma Walford a Trystan Ellis Morris yn gynnes dros yr wythnosau diwetha ac yn ddiweddar caethon nhw air gydag un ddysgodd Gymraeg 25 mlynedd yn ôl. Stacey Blythe yw ei henw hi, mae hi'n storïwraig ac yn gerddor sy'n dod o Birmingham yn wreiddiol ond sy'n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn... Storïwraig Storyteller (female) Cerddor Musician Tmod Ti'n gwybod Cyfansoddwraig Composer (female) Ceinciau Branches Bodoli To exist Enaid Soul Pigion Dysgwyr – Eiry Palfrey Stacey Blythe yn fanna yn dal yn frwd dros y Gymraeg ar ôl ei dysgu 25 mlynedd yn ôl. Mae llyfr newydd ei gyhoeddi gan Eiry Palfrey sy'n sôn am hanes a thraddodiad dawnsio gwerin yng Nghymru. Llwybrau'r Ddawns yw enw'r llyfr, a dyma Eiry yn sôn wrth Nia Parry, oedd yn cadw sedd Aled Hughes yn dwym yr wythnos diwetha, am gefndir cyhoeddi'r llyfr Brwd Enthusiastic Dogfen Document Cyfrifol Responsible Dow dow Very slowly Dallt y dalltings Knowing the ins and outs Hoelion wyth Eminent people Adfer To restore Aelwydydd Homes Pigion Dysgwyr – Dwyeithrwydd Bach o hanes dawnsio gwerin yng Nghymru yn fanna gan Eiry Palfrey, awdures Llwybrau'r Ddawns. Roedd ymchwil diweddar yn dangos bod gan unigolion oedd yn ddwyieithog sgiliau cof gwell na phobl oedd yn unieithog, ond dyw hi ddim mor syml â hynny yn ôl Dr Peredur Glyn Webb-Davies. Dyma fe'n sôn am yr unig elfen o'r ymchwil sy'n dangos bod cof gwell gan bobl ddwyieithog na'r rhai sy'n gallu siarad un iaith yn unig... Ymchwil Research Dwyieithog Bilingual Llefaru To speak Cymhleth Complicated Cadarnhau To confirm Pigion Dysgwyr – Elin Maher Ond wrth gwrs mae sawl mantais dros fod yn ddwyieithog on'd oes yna? Yn enwedig yn Nghymru'r dyddiau hyn. Mae Elin Maher yn dod o Gwm Tawe'n wreiddiol ond yn byw yng Nghasnewydd gyda'i theulu ers ugain mlynedd. Buodd hi'n gweithio'n galed dros y blynyddoedd yn datblygu addysg Gymraeg, a'r Gymraeg o fewn y gymuned, yng Ngwent. Hi hefyd oedd gwestai Beti George ar Beti a'i Phobol wythnos diwetha a dyma hi'n sôn am ambell i her oedd rhaid ei hwynebu wrth ymladd dros addysg Gymraeg yn y Sir. Her A challenge Safleoedd Sites Agwedd Attitude Cynghorwyr Councillors Ddim o reidrwydd Not necessarily Brwydr A fight Dealltwriaeth Understanding Heb os nac oni bai Without doubt Cydnabod To acknowledge Dychymyg Imagination Pigion Dysgwyr – Adri A diolch byth am bobl fel Elin sy'n dal i frwydro dros addysg Gymraeg on'd ife? Mae Heledd Cynwal wedi bod yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes yn ddiweddar, a dydd Mercher diwetha gwahoddodd hi ddysgwraig Cymraeg o'r Iseldiroedd sef Adri Witens ar ei rhaglen. Mae Adri yn byw mewn tref fechan ger dinas yr Haag a dysgodd Gymraeg ar ôl iddi hi ymweld ag Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen ddechrau'r 80au. Dyma hi'n sôn am daith awyren ddiddorol gaeth hi yn y gorffennol... Iseldiroedd Netherlands Anaddas Unsuitable Tanwydd Fuel Suddo To sink Arfordir Coastline Creigiau Rocks Darlledu To broadcast Doniol Funny Pigion Dysgwyr – Dianne Roberts On'd yw Atri'n gymeriad a hanner? Dianne Roberts yw Trysorydd Sioe Arddwriaethol Llangernyw ger Llanrwst. Eleni mae'r Sioe yn dathlu ei bod wedi cael ei chynnal am 175 o flynyddoedd. Dyma Dianne i sôn mwy.. Sioe arddwriaethol Horticultural show Annog To encourage Hen bryd About time Hud a lledrith Magic
Pigion Dysgwyr – Cerys Hafana Cerys Hafana, y cerddor ifanc o Fachynlleth oedd gwestai Beti George ar Beti a'i Phobol wythnos diwetha. Mae hi'n chwarae'r delyn ers pan oedd hi'n 7 mlwydd oed. Daeth hi i Fachynlleth i fyw yn blentyn bach o ddinas Manceinion. Dyma hi'n sôn am sefyllfa byd cerddoriaeth werin yng Nghymru, ymhlith pobl ifanc. Cerddor Musician Telyn Harp Ymhlith Amongst Offeryn Instrument Cerddoriaeth (g)werin Folk music Mae'n ddilys It's valid Mynegi eich hunain To express yourselves Llawysgrifau Manuscripts Plant yn eu harddegau Teenagers Ysbrydoliaeth Inspiration Pigion Dysgwyr – Cernyweg Y cerddor Cerys Hafana oedd honna'n sgwrsio gyda Beti George. Enillodd Matt Spry wobr Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018 ac aeth ymlaen i fod yn diwtor Cymraeg gyda Phrifysgol Caerdydd. Mae'n dod o Aberplym neu Plymouth yn wreiddiol, ac nawr mae e wedi bod yn dysgu Cernyweg ers tua 8 mis. Wythnos diwetha ar raglen Aled Hughes cafodd Matt air gydag Aled i esbonio pam ei fod wedi mynd ati i ddysgu'r iaith … Cernyweg Cornish language Yn bennaf Mainly Ar y ffin On the border Cysylltu To contact Wythnosol Weekly O gymharu â Compared to Anhawsa Most difficult Yn rheolaidd Regularly Hynod o bwysig Extremely important Pigion Dysgwyr – Talwrn A phob lwc i Matt gyda'r Gernyweg on'd ife? Cystadleuaeth rhwng dau dîm o feirdd ydy'r Talwrn a'r wythnos diwetha y ddau dîm oedd yn cymryd rhan oedd Tir Iarll a'r Glêr, mewn rhaglen cafodd ei recordio yn Neuadd Pontyberem. Dyma Ceri Wyn Jones i osod tasg y limrig….. Dim peryg No danger Barddoniaeth Poetry Gosod tasg Setting the task Unwaith y flwyddyn Once a year ‘Na ryfedd That's strange Awgrymais I suggested Fy ffiol oedd lawn My cup was overflowing Pigion Dysgwyr – Gyrru Dramor Wel dyna ddau limrig doniol on'd ife? P'run enillodd tybed? Dych chi wedi gyrru dramor erioed? Un sydd wedi gwneud yn aml yw arbenigwr moduro Rhaglen Bore Cothi, Mark James. Wythnos diwetha cafodd Mark sgwrs gyda Shan Cothi am beth sydd angen ei gofio pan dych chi'n gyrru ar gyfandir Ewrop. Tramor Overseas Arbenigwr Expert Cyfandir Continent Esgeuluso To neglect Trwydded yrru Driving license Pigion Dysgwyr – Dafydd Morgan Pethau i chi gofio wrth yrru ar gyfandir Ewrop yn fan'na ar Bore Cothi. Awn i gyfandir arall nawr – Awstralia. Mae Dafydd Morgan o bentre Ffarmers yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn byw yn Awstralia ers mis Medi y llynedd. Mae Dafydd wedi bod yn gweithio ar ffermydd y wlad a dyma fe i sôn wrth Ifan Evans am y tywydd yno ar hyn o bryd….. Gaeafau Winters Porfa Pasture Sulwair Silage Plannu To plant Ffrwythlon Fertile Pigion Dysgwyr – Rhys Mwyn Wel dyna ni, nid Cymru sy'n cael y glaw i gyd! Yn y cylchgrawn Far Out mae'r cerddor a'r canwr Paul Weller, fuodd gyda band The Jam, wedi dewis yr albwm Hotel Shampoo gan Gruff Rhys fel un o'i hoff albymau. Ymhlith ei hoff albymau eraill roedd rhai gan y Beatles, Stevie Wonder, Bob Marley a David Bowie. Dyma Rhys Mwyn ar Dros Frecwast fore Iau diwetha'n sôn am gerddoriaeth Rhys a'r Super Furry Animals Tueddu i Tend to Edmygu neu gwerthfawrogi Admire or appreciate Petai Tasai Arbrofol Experimental Cydnabod To acknowledge
Pigion Dysgwyr – Carie Rimes Perchennog Llaethdy Gwyn ym Methesda yng Ngwynedd yw Carie Rimes. Sgwrsiodd Carie gyda Shan Cothi wythnos diwetha, am wobr mae'r llaethdy newydd ei hennill ennill, sef y caws Cymreig gorau yng ngwobrau artisan Gwyl Gaws Melton Mowbray, a hynny am y trydydd gwaith yn olynol. Perchennog llaethdy Dairy owner Gwobr Award Yn olynol In succession Llefrith dafad Sheep's milk Unigryw Unique Tueddu i Tends to Llwyddiant Success Pigion Dysgwyr – Glastonbury A llongyfarchiadau mawr i Laethdy Gwyn am ennill y wobr fawr on'd ife? Ar Dros Ginio yn ddiweddar cafodd Cennydd Davies air gyda'r hanesydd pop Phil Davies. Buodd Phil yn edrych yn ôl dros Ŵyl Glastonbury gafodd ei chynnal yng Ngwlad yr Haf yn ddiweddar……. Gwlad yr Haf Somerset Darnau Pieces Digon rhwydd Easy enough Ro'n i'n synnu braidd I was rather surprised Amau To suspect Denu To attract Fel mae'r sôn Apparently Ei bai hi oedd o It was her fault Pigion Dysgwyr – Dr Owain Rhys Hughes Ddim pawb wedi plesio Phil Davies yn Glastonbury felly! Gwestai Beti George ar Beti a'i Phobol yr wythnos diwetha oedd Dr Owain Rhys Hughes . Mae'n dod yn wreiddiol o Benmynydd ar Ynys Môn, ac esboniodd e wrth Beti ychydig am system o'r enw Synapsis sef meddalwedd sy'n galluogi doctoriaid teulu i gael mynediad i system sy'n siarad gyda'r ysbyty a'r arbenigwyr Meddalwedd Software Galluogi To enable Arbenigwyr Specialists Yn rhad ac am ddim Free of charge Cystadleuaeth Competition Hyd yn oed Even Pigion Dysgwyr – Dros Ginio Dr Owain Rhys Hughes oedd hwnna'n esbonio pam bod Synapsis yn cael ei ddefnyddio yn Lloegr ond ddim yng Nghymru. Mae dwy fyfyrwraig o Ysgol Feddygaeth Caerdydd newydd gyhoeddi podlediad dan y teitl Paid Ymddiheuro. Elin Bartlett a Celyn Jones Hughes ydy eu henwau nhw, a dydd Mawrth diwetha ar Dros Ginio cafodd y ddwy sgwrs gyda Jennifer Jones. Dyma Elin yn gynta i i ddweud pam aeth hi ati i greu'r podlediad Wastad Always Unigol Individual Gwragedd Women Pigion Dysgwyr – Porthcawl Doedd gan Celyn fawr o ddewis cymryd rhan nag oedd? Aeth Caryl Parry Jones â ni i Borthcawl wythnos diwetha yng nghwmni Richard Howe ar gyfer yr eitem 24 awr yn…Dechreuodd Richard drwy sôn am ei fagwraeth yn y dre… Magwraeth Upbringing Ers sawl blwyddyn for a number of years Cefn gwlad The countryside Mas o'm cynefin Out of my habitat Gwylanod Seagulls Heidio To flock Pigion Dysgwyr – Mari Pritchard Richard Howe yn amlwg yn falch iawn o'i wreiddiau ym Mhorthcawl. Cafodd Shan Cothi sgwrs gyda Mari Pritchard ar ei rhaglen yr wythnos diwetha. Mae Mari wedi bod yn brysur ar hyd y blynyddoedd yn hyfforddi ac yn arwain corau yn y gogledd yn ogystal â gweithio ym maes Theatr Ieuenctid. Dyma hi i sôn mwy am ei magwraeth ym mhentre Rhosmeirch ar ynys Môn Cyflawni To achieve Anferthol Huge Meithrin To nurture Dawn Talent Cyfathrebu To communicate Ffin Border Ydy glei of course it is Elwa To gain Heriol Challenging Ysbryd Spirit
Pigion Dysgwyr – Sulwyn Thomas Gwestai gwadd rhaglen Bore Cothi ddydd Llun wythnos diwetha oedd y darlledwr Sulwyn Thomas. Am flynyddoedd lawer roedd gan Sulwyn raglen yn y bore ar Radio Cymru. Roedd e'n dathlu ei ben-blwydd yn 80 yn ddiweddar a gofynnodd Shan Cothi iddo fe beth yw cyfrinach cadw'n ifanc ei ysbryd Darlledwr Broadcaster Cyfrinach Secret Ysbryd Spirit Ffodus Lwcus Cam bihafio Misbehaving Newyddiadurwr Journalist Bant I ffwrdd Dyfalu To guess Pigion Dysgwyr – Ann Ellis Sulwyn Thomas yn fanna'n swnio'n llawer ifancach nag wythdeg oed, a gobeithio iddo fe fwynhau'r dathlu yn Nhŷ Ddewi on'd ife? Ann Ellis yw un o benaethiaid cwmni Mauve Group sydd ar fin cael ei bresenoldeb cynta yng Nghymru. Mae'r cwmni yn helpu busnesau sefydlu mewn gwledydd newydd ar draws y byd. Yn ddiweddar ar raglen Bore Sul sgwrsiodd Ann gyda Bethan Rhys Roberts a dyma hi‘n sôn am sut dechreuodd y cwmni mewn cwpwrdd yn yr Eidal…. Sefydlu To establish Ar fin cael About to have Penaethiaid Heads Hardd Pretty Uwchben Above Pigion Dysgwyr – Richard Hughes Rhyfeddol on'd ife, fel mae'r cwmni bach wedi tyfu i weithio mewn dros gant o wledydd! Richard Hughes o Gaernarfon oedd gwestai gwadd Beti George ar Beti a'i Phobol yr wythnos diwetha. Mae e wedi bod yn gweithio ym maes cyfrifiadureg a mathemateg ers y 60au. Mae'n rhaglennydd cyfrifiadureg ac wedi gweithio ar systemau ym meysydd awyr Heathrow a Charles de Gaulle. Cynhaliodd Beti y sgwrs ar Zoom a gwrandewch ar be sydd gan Richard i ddweud am hynny….. Cyfrifadureg Computer science Rhaglennydd Programmer Yn ddyddiol Daily Arbenigo To specialise Chwedl y Sais As they say in English Addas Appropriate Rhan helaeth The majority Dadansoddi To analyse Pigion Dysgwyr – Ian Parry Mae ieithoedd cyfrifiadureg yn swnio'n llawer mwy cymhleth na'r Gymraeg on'd yn nhw? Buodd Ian Parri'n gweithio fel newyddiadurwr, fel tafarnwr ac fel tiwtor Cymraeg i Oedolion ac nawr mae e newydd gyhoeddi llyfr ar Wyddeldod. Buodd Ian yn gyrru o amglych arfordir Iwerddon am naw wythnos yn ei gartre modur. Dyma fe i sôn mwy am y daith wrth Dei Tomos... Gwyddelod Irishness Y Weriniaeth The Republic Dulyn Dublin Ymestyn To extend Y machlud The sunset Yn ei anterth At its peak Trefniant swyddogol Official arrangement Penrhyn Peninsula Yn ei sgil As a consequence Pigion Dysgwyr – Talwrn Ian Parri oedd hwnna'n sôn am ei daith o gwmpas Iwerddon. Cystadleuaeth rhwng timau o feirdd ydy Y Talwrn a'r wythnos diwetha y ddau dîm oedd yn cymryd rhan oedd Dros yr Aber a Dwy Ochr i'r Bont. Cafodd y rhaglen ei recordio yn Neuadd Bentref Y Groeslon yng Ngwynedd. Dyma Ceri Wyn Jones yn gosod un o'r tasgau ar gyfer y beirdd… Mawl Praise Dychan Satire Casâf Dwi'n casáu Hy Audacious Yr heidiau The swarm Oedi Staying Cyn ymlwybro Before making their way Fe lofruddiaf I will murder Malwod di-frys Unhurried snails Ochneidio Groaning Pigion Dysgwyr – Cor Dysgwyr Ardal Wrecsam Dw i'n falch mai malwod mae Rhys am eu lladd – ro'n i'n poeni am ychydig pwy oedd e'n mynd i fwrw gyda'r rhaw yna! Bore Mercher diwetha ar raglen Shan Cothi cafodd Shan gwmni Pam Evans Hughes. Pam yw arweinydd Côr Dysgwyr Ardal Wrecsam, neu Côr DAW, a dyma hi i esbonio mwy am hanes y côr… Bwrw To hit Rhaw Spade Arweinydd Conductor Cerddorol Musical Trwy gydol fy oes All my life Traddodiadol traditional
Are You a Single With Welsh Connections? For our latest episode of our dating podcast we have a special guest who knows a thing or two about finding love in Wales - Jayne Porter a Welsh matchmaker who works with singles in the region. Jayne recently set up a new dating agency in Wales called Matchmade in Wales which is currently in development. Join us as discuss their secrets to success in the matchmaking world. From their experience of dating Wales to their top tips for finding love, we'll delve into all the juicy details of what makes a successful match. Whether you're a Welsh local or just curious about dating in the region, this episode is not to be missed. So get ready for a fascinating conversation about love and dating in Wales. Listen now! Dating yng Nghymru
Pigion Dysgwyr - Catherine Woodword Wythnos diwetha ar ei rhaglen cafodd Shan Cothi sgwrs gyda Catherine Woodward. Roedd Catherine yn dathlu ei phen-blwydd yn 80 oed a dyma Shan yn gofyn iddi hi sut yn union oedd hi am ddathlu'r pen-blwydd arbennig hwn... Dathliadau Celebrations Cysylltu To contact Becso Poeni Gwisgo lan To dress up Noswaith i ryfeddu A wonderous evening Casglu To collect Bryd ‘ny At that time Pigion Dysgwyr – Betty Williams … a gobeithio bod Catherine wedi cael parti gwych on'd ife? Gwestai Beti George ar Beti a'i Phobl oedd cyn Aelod Seneddol Conwy Betty Williams. Dyma hi'n esbonio wrth Beti pam aeth hi i fyd gwleidyddiaeth yn y lle cynta… Cyngor Plwyf Parish Council Cludiant Transport Pwyllgorau Committees Yr awydd i gynrychioli The desire to represent Araith Speech Oedi To hesitate Mynwentydd Cemeteries Llwch llechen Slate dust Cydymdeimlad Sympathy Deddfu To legislate Pigion Dysgwyr – Ifan Gwilym Y cyn aelod seneddol Betty Williams oedd honna'n sgwrsio gyda Beti George. Dych chi'n credu mewn ofergoelion? Fasech chi'n cerdded o dan ysgol, neu pasio rhywun ar y grisiau? Carl ac Alun fuodd yn cadw sedd Trystan ag Emma yn dwym yn ddiweddar ac ofergoelion ym myd chwaraeon oedd un o'r pynciau buon nhw'n eu trafod ar y rhaglen. Dyma Ifan Gwilym i sôn mwy am hyn… Cyn aelod seneddol Former MP Ofergoelion Superstitions Twym Cynnes Tyfu barf To grow a beard Rownd cynderfynol Semi-final Hylendid Hygiene Y garfan The squad Trwy gydol Throughout Pigion Dysgwyr – Non Parry Ifan Gwilym oedd hwnna'n sôn am ofergoelion byd chwaraeon. Mae cyfres newydd o Ar Blât wedi cychwyn ar Radio Cymru gyda'r cogydd Beca Lyne-Perkis yn cyflwyno. Yn y bennod gynta ddydd Sul Non Parry o'r band Eden oedd y gwestai. Gofynnodd Beca iddi hi beth oedd ei hatgof cynta o goginio… Atgof cynta First memory Glöwr Coal miner Uwchben Above Arogl Smell Gallwn i ddychmygu I could imagine Llanast Mess Prysurdeb Rush Hylif Liquid Unigryw Unique Pigion Dysgwyr – Mullett Non Parry yn fanna'n cofio am brofiadau coginio ei phlentyndod. Beth sydd gan Rod Stewart, Paul McCartney, Dolly Parton a Miley Cyrus yn gyffredin…wel buon nhw i gyd gyda mullet ar un adeg. Dydd Mawrth diwetha ar Dros Ginio cafodd Jennifer Jones sgwrs gyda'r hanesydd ffasiwn Sina Haf i sôn am yr adfywiad sy wedi bod yn y steil gwallt arbennig yma…. Adfywiad Revival Eitha trawiadol Quite striking Poblogaidd Popular Gwar Nape of the neck Y ganrif gyntaf The first century Cerflun Statue Amlwg Obvious Pigion Dysgwyr – Twm Morys Wel y mullet amdani felly!! Bore Iau ar raglen Aled Hughes buodd y bardd Twm Morys yn rhoi ychydig o hanes y siantis môr. Ond oes yna draddodiad canu siantis yng Nghymru? Dyma Twm i sôn mwy… Traddodiad Tradition Perchnogion llongau Ship owners Cyflogi To employ Cyfandaliadau Shares Milwyr Soldiers Emynau Hymns Mor gyfarwydd â nhw So familiar with them Gwerin Folk Amrywio To vary
Pigion Dysgwyr – Nia Williams Cafodd Aled Hughes gwmni y seicolegydd Nia Williams yr wythnos diwetha i drafod chwerthin. Pam bod ni chwerthin tybed, a pha effaith mae chwerthin yn ei gael ar y corff? Dyma Nia'n esbonio... Chwerthin Laughter Treiddio i mewn To penetrate Ymwybodol Aware Ysbrydoli To inspire Cadwyn A chain Pryderus Concerned Dygymod efo To cope with Dychwelyd To return Parhau To continue Pigion Dysgwyr – Andy Bell Nia Williams oedd honna'n sgwrsio gydag Aled Hughes am chwerthin. Am dros ganrif, Sydney oedd dinas mwyaf poblog Awstralia. Ond erbyn hyn Melbourne sydd gyda'r teitl hwnnw, ar ôl i ffiniau‘r ddinas newid i gynnwys rhannau o ardal Melton. Ond mae rhai 'Sydneysiders' fel mae nhw'n cael eu galw - yn anhapus - ac yn cwestiynu'r ffordd y mae Melbourne wedi mynd ati i ehangu. Cafodd y newyddiadurwr Andy Bell sy'n byw yn Awstralia air am hyn gyda Jennifer Jones ar Dros Ginio bnawn Mawrth….. Canrif Century Poblog Populous Ffiniau Borders Ehangu To expand Diffiniad Definition Maestrefi Suburbs Tyfiant Growth Tiriogaethau Territories Taleithiau States O ganlyniad As a consequence Pigion Dysgwyr – Delyth Badder Hanes brwydr dinasoedd Awstralia yn fanna gan y newyddiadurwr Andy Bell. Mae Dr Delyth Badder yn casglu hanes llên gwerin o Gymru ac credu'n gryf bod gwahaniaeth rhwng yr ysbrydion sy'n cael eu gweld yng Nghymru a'r rhai sy'n cael eu gweld yng ngweddill gwledydd Prydain, fel y buodd hi'n egluro wrth Rhys Mwyn, nos Lun... Llên gwerin Folklore Ysbrydion Spirits Cael eu crybwyll Being alluded to Dros Glawdd offa Over Offa's Dyke Gwrachod Witches Tylwyth teg Fairies Amaethyddol Agricultural Ystrydebol Stereotyped Cynfas wen White sheet Ystyrlon Meaningful Pigion Dysgwyr – Cob Wel dyna ni, mae hyd yn oed ein gwrachod a'n tylwyth teg yn wahanol yng Nghymru! Yn ddiweddar buodd John Dilwyn yn sgwrsio gyda Dei Tomos ar ei raglen nos Sul am hanes adeiladu y Cob ym Mhorthmadog. Dyma John i sôn am William Alexander Maddox cynllunydd y Cob Dyn dŵad A stranger Ei hoel o His mark Magwraeth freintiedig A privileged upbringing Etifeddo eiddo To inherit property Tirfeddiannwr Landowner Bargyfreithiwr Barrister Gwaed Gwyddelig Irish blood Mi gladdwyd y tad His father was buried Harddwch Beauty Tynfa The pull Pigion Dysgwyr – Caryl Ac erbyn hyn wrth gwrs mae Ffordd Osgoi Porthmadog yn croesi'r Traeth Mawr, a does dim rhaid defnyddio'r Cob o gwbl. Daw Pegi Talfryn o Seattle yn wreiddiol a daeth i Gymru ar ôl syrthio mewn cariad â'r Gymraeg a chwedlau Cymraeg. Mae hi'n diwtor Cymraeg erbyn hyn ac wedi sgwennu nofelau arbennig ar gyfer dysgwyr. Ond mae yna genre arbennig o lyfrau sydd yn apelio at Pegi ar hyn o bryd, a dyma hi'n sôn mwy am hynny wrth Caryl Parry Jones Ffordd osgoi By-pass Chwedlau Fables Cyfuno To combine Ffuantus Bogus Annwfn The underworld Pigion Dysgwyr – Aled Hughes Pegi Talfryn oedd honna'n sôn am y math o lyfrau mae hi'n mwynhau eu darllen ar hyn o bryd. Daw Marta Listewnik o Poznan yng Nghwlad Pwyl a dydd Iau sgwrsiodd Aled Hughes gyda hi am ei chariad at y Gymraeg, gan ddechrau gyda'r gwaith mae hi wedi ei wneud yn cyfieithu nofel Caradog Pritchard, Un Nos Ola Leuad i Bwyleg…. Gwlad Pwyl Poland Pwyleg Polish I ba raddau To what extent Pa mor gyffredin How common Cydbwysedd balance Adolygiadau Reviews Cyfleu To convey Profiadau plentyndod Childhood experiences
Delyth Morgan - actores, cyflwynydd a hyfforddwraig tîm rygbi merched Cymru dan 18 a 20 oed - sy'n gwmni i Beti George. Mae ganddi ddwy wlad mae hi'n galw'n gartref - Cymru a Seland Newydd. Fe aeth allan yno 20 mlynedd nôl, fe gafodd waith, priodi a bu'n datblygu rygbi merched. Mae hi nôl yng Nghymru gyda'i merch Seren, a rygbi yw ei byd mewn gwirionedd. Fe chwaraeodd dros Gymru a nawr mae hi'n rheoli tîm rygbi merched Cymru dan 18 ac 20 oed.
Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Dom a Lloyd! Yn yr ail bennod, mae'r Frenhines Drag Catrin Feelings yn ymuno â nhw i drafod nosweithiau allan a'r sîn drag yng Nghymru!
Yr actores Rhian Morgan yw gwestai Beti George. Yn ddiweddar mae hi wedi cymryd llwybr newydd yn ei bywyd ac yn hyfforddi i fod yn Offeiriad. Mae Rhian newydd gychwyn cwrs 2 flynedd gyda'r Eglwys yng Nghymru yng Ngholeg San Padarn; mae'n ddatblygiad annisgwyl iawn yn ei bywyd meddai hi, a hynny yn dilyn profiad anhygoel a ddigwyddodd iddi yn yr Eglwys yn Llandeilo. Cafodd Rhian ei geni yn Ysbyty Treforys a'i magu ym mhentref Cwm Rhyd y Ceirw ger Treforys yng Nghwm Tawe. Hi yw'r hynaf o dair chwaer; mae Nia yn nyrs yn Awstralia ac mae Elen yn darlithio a chyfarwyddo. Mae Rhian yn briod gydag Aled Samuel ac mae ganddi ddau o feibion. Ar hyd y blynyddoedd mae Rhian wedi bod yn ffodus iawn i gael cyfle i chwarae nifer fawr o rannau mewn dramâu ac mewn cynyrchiadau teledu, mae'n sôn am rai ohonynt gan gynnwys y cyfle i actio efo Anthony Hopkins yn y ffilm August.
Radio Ysbyty – Codi Calon Claf 18.12 Nos Sul buodd Huw Stephens yn rhoi hanes dyddiau cynnar Radio Ysbyty Glangwli Caerfyrddin, gafodd ei sefydlu bum deg mlynedd yn ôl. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Huw gyda sylfaenydd yr orsaf, y darlledwr Sulwyn Thomas Cafodd ei sefydlu Was established Sylfaenydd Founder Darlledwr Broadcaster Fy annwyl wraig My dear wife Cadeirio Chairing Ffodus Lwcus Cymysgu'r sain Mixing the sound Ro'n i'n methu'n deg I couldn't at all Aelod selog A faithful member Ambell I Gan – Bronwen Lewis 11.12 Ychydig o hanes sefydlu Radio Ysbyty Glangwli yn fanna gan Sulwyn Thomas. Cafodd Gwennan Gibbard gwmni'r gantores Bronwen Lewis ar y rhaglen Ambell i Gân. Gofynnodd Gwenan iddi hi yn gynta pwy sydd wedi dylanwadu arni hi Dylanwadu To influence Tyfu lan Tyfu fyny Tad-cu Taid Emynau Hymns Traddodiadol Traditional Yn grac Yn flin Cyfweliad Interview Swnllyd Noisy Swynol Beautifully Ffili Methu Bore Cothi - Banc Bwyd Eglwys Crist 13.12 Bronwen Lewis oedd honna'n sôn am ei theulu cerddorol. Dydd Mawrth ar Bore Cothi aeth Shan Cothi i Eglwys Crist Caerfyrddin ble mae aelodau'r eglwys wedi sefydlu banc bwyd ar gyfer y gymuned. Yn gyntaf dyma y Parchedig Delyth Richards gyda ychydig o gefndir y fenter Parchedig Reverend Esgob Bishop Bendithio To bless Addoli To worship Cynnyrch Produce Blwch Box Yn gyson Regularly Beti a'I Phobl – Marc Howells 18.12 Da iawn aelodau Eglwys Crist, ond dyw hi'n drueni bod rhaid agor banciau bwyd y dyddiau hyn? Gwestai Beti George ar Beti a'i Phobol bnawn Sul oedd Marc Howells o Ddinbych yn wreiddiol, fe yw pennaeth Adnoddau Dynol y cwmni meddyginiaeth Astro Zeneca. Adnoddau Dynol Human Resources Meddyginiaeth Medicine Llywodraethau Governments Datblygu To develop Diwydiant gwyrdd Green industry Yr amgylchedd The environment Aled Hughes – Joseff Gnagbo 14.12 Golwg bach gwahanol yn fanna ar waith y cwmni meddyginiaeth Astro Zeneca ar Beti a'i Phobol. Bore Mercher cafodd Aled Hughes gwmni Joseff Gnagbo. Daw Joseff o'r Traeth Ifori yn wreiddiol cyn iddo fe orfod ffoi oddi yno. Erbyn hyn mae'n byw yng Nghymru ac yn rhugl yn y Gymraeg. Gofynnodd Aled iddo fe beth mae Cymru wedi ei gynnig iddo fe…. Gorfod ffoi Had to escape Cyfrannu To contribute Personoliaeth Personality Ymladd To fight Trefedigaeth Colony Annibyniaeth Independence Hyrwyddo To promote Troi'r Tir – Jamie Stroud 12.12 Joseff Gnabo , wnaeth ffoi o'r Traeth Ifori , dod yn rhugl yn y Gymraeg ac sydd nawr yn gweithio fel tiwtor Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Gwych on'd ife? Un arall sy wedi dysgu Cymraeg ydy Jamie Stroud sy'n gweithio ar fferm lysiau gydweithredol Tyddyn Teg ger Caernarfon. Mae'r fferm yn cyflenwi 170 o focsys llysiau yr wythnos i'r gymuned leol yn ogystal â chynnal siop fferm, becws a llysiau i siopau a bwytai lleol. Buodd Jamie ar raglen Troi'r Tir ddydd Llun i esbonio mwy am waith y fferm Cydweithredol Cooperative Cyflenwi To supply Hinsawdd Climate Bwydydd Cyflawn Wholefoods Anarferol Unusual Pannas Parsnips Cynhaeaf To harvest Meithrinfa planhigion Plant nursery Hau hadau Sowing the seeds Cnwd Crop Bresych Cabbage
Dros y blynyddoedd mae'r cyn-dditectif a Phrif Arolygydd Iestyn Davies wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau bod yr heddlu'n cynnig gwasanaethau Cymraeg. Wedi treulio 30 mlynedd gyda Heddlu'r Gogledd, mae Iestyn bellach yn Bencampwr y Gymraeg gyda'r cwmni sy'n gyfrifol am redeg cyrsiau i'r rhai sydd wedi eu dal yn goryrru. UKROEd (UK Road Offender Education) sy'n rhoi trwyddedau i gwmnïau eraill i hyfforddi pobol sydd wedi eu dal yn gyrru yn gyflymach na'r terfyn, a gwaith Iestyn yw sicrhau bod y cwmnïau yng Nghymru yn cydymffurfio â rheolau iaith. Cyn hynny, bu'r gŵr sy'n byw ym Mhorthaethwy ym Môn yn arwain y tîm oedd yn edrych ar droseddau difrifol, gan gynnwys llofruddiaethau a ddenodd sylw'r byd. Mae Iestyn yn rhannu straeon bywyd ac yn sôn am y sialensiau a'r mwynhad a gafodd o wneud y gwaith.
Yn y pennod yma rwy'n siarad gyda Jo Heyde. Dechreuodd Jo ddysgu ar ôl treulio gwyliau yng Nghymru a chlywed sgwrs Cymraeg yn y gwasanaethau traffordd! Erbyn hyn mae hi'n rhan o'r gymuned Gymraeg yn Llundain, ac mae hi wedi darganfod barddoniaeth ac ennill gwobrau am ei cherddi! Hefyd yn y pennod yma rwy'n rhannau rhai o'ch atebion i'r ‘Cwestiwn Y Mis' postiais i ar Twitter ‘Pam wnest ti ddechrau dysgu Cymraeg?'. Mae gwybodaeth am Jo, gyda geirfa a linciau perthnasol, ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.
Aled Hughes Hanes anhygoel, ac emosiynol, Gerallt Wyn Jones gafodd ei fabwysiadu yn chwe mis oed o Fanceinion a chael ei fagu ym Methesda, Gwynedd. Aeth Aled Hughes draw ato am sgwrs a dyma Gerallt yn sôn am yr adeg pan ddaeth o i gyswllt efo'i deulu biolegol am y tro cynta… Dod i gyswllt - Come into contact Anhygoel - Incredible Mabwysiadu - To adopt Y fenga - Yr ifanca Tridiau - Tri diwrnod Angladd - FuneralBeti a'i Phobol Ann Ellis, Prif Weithredwr y Mauve Group, sef cwmni sy'n gweithio mewn nifer fawr o wledydd ar draws y byd, oedd gwestai Beti George. Mae ganddi bedwar cartre – ar ynys Cyprus, yn Rhufain, yn Dubai ac yn Miami ond cafodd Ann ei magu ym Merain, Sir Ddinbych, sef cartref uchelwraig o'r unfed ganrif ar bymtheg, Catrin o Ferain. Dod o hyd i - To find Prif Weithredwr - Chief Executive Rhufain - Rome Uchelwraig - Noblewoman Yr unfed ganrif ar bymtheg - 16th century Hardd - Beautiful Cyfoethoca - Richest Cytundeb - Contract Ysbrydoli - To inspire Menywod - MerchedGwneud Bywyd yn Haws Roedd hi'n wythnos ymwybyddiaeth Meigryn wythnos diwetha, ac roedd gan Hanna Hopwood raglen arbennig yn edrych ar Feigryn, neu Migrane, sy'n effeithio ar un ymhob saith person. Ei gwestai arbennig oedd Dr Anna Maclean, a mi roedd rhaid i Dr Anna ymddeol yn gynnar o'i swydd fel meddyg teulu oherwydd meigryn cronig ac erbyn hyn mae hi'n weithgar yn codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr. Ymwybyddiaeth Meigryn - Migrane Awareness Cyflwr - Condition Dyddiol - Daily Diolch i'r nefoedd - Thank goodness Byd enwog - World famous Chwistrelliad - Injection Cyffur - DrugCofio Pensaernïaeth oedd pwnc y rhaglen archif “Cofio gyda John Hardy “ bnawn Sul. Roedd gwreiddiau'r pensaer enwog Frank Lloyd Wright yng Nghymru. Cafodd ei fam ei geni ar fferm yn Llandysul ac enw ei gartre yn America oedd “Taliesin”. Mi fuodd Ian Michael Jones yn rhoi ychydig o hanes y pensaer i ni. Pensaernïaeth - Architecture Gwefreiddiol - Thrilling Trawiadol - Striking Bythgofiadwy - Ever-memorable Andros o stori - A heck of a story Dylunio - To design Erw - Acre Rhaeadr - Waterfall Fel petai - As if Hud a lledrith - MagicCrwydro'r Cambria Mae Dafydd Morris Jones, sy'n ffermio yn ardal Ponterwyd, Ceredigion ac Ioan Lord, sy'n hanesydd diwydiannol, yn crwydro mynyddoedd y Cambria ar eu beics gan roi cipolwg ar hanes a thirwedd yr ardal. Ioan sy'n dweud lle yn union oedden nhw y diwrnod o'r blaen. Hanesydd diwydiannol - Industrial historian Cipolwg - A glimpse Tirwedd - Landscape Mwyngloddiau aur - Gold mines Gweithfeydd aur Rhufeinig - Roman gold works Am wn i - As far as I know Plwm - Lead Oes efydd - Bronze age Talaith - Region Ansawdd - QualityBore Cothi Mae Gŵyl Fwyd a Diod flynyddol yr Alban yn cael ei chynnal ar hyn o bryd. Mae Marian Evans yn byw yn Lossiemouth, tref glan y môr, rhwng Inverness ac Aberdeen a buodd Marian yn sôn am frecwast traddodiadol y wlad ar Bore Cothi... Ffasiwn beth - Such a thing Ansawdd - Texture Morwyr pysgota - Fishermen Saim - Fat Cynhesu - Twymo Enllyn - Dairy products Y llwybr cul - The narrow path
Bore Cothi Sarah Astley Hughes sy'n byw yng Nghaerdydd, ond sy'n dod Lanrhaeadr ym Mochnant, Powys yn wreiddiol, fuodd yn sôn wrth Shelley Rees Owen ar Bore Cothi fore Iau am ei phenderfyniad i groesawu'r gwallt llwyd ar ôl cael llond bol o orfod lliwio ei gwallt bob pythefnos! Croesawu - To welcome Lliwio - To dye Sylweddoli - To realise Ffili - Methu Colurwraig - Make-up artist Bwrw Golwg Ddechrau wythnos diwetha mi ddaeth y newyddion am y llifogydd ofnadwy sydd wedi taro Pacistan. Dyma i chi Tom Davies o'r elusen Cymorth Cristnogol yn sôn am y drychineb… Llifogydd - Floods Trychineb - Disaster Heb rybudd - Without warning Diflannu'n weddol glou - Disappearing quite quickly Distryw - Destruction Ceisio dygymod â - Trying to come to terms with Yn sgil - As a consequence of Cilio - To recede Newid hinsawdd - Climate change Argyfyngau - Crisis Cymry a Mwy Pan symudodd Gwenfair Griffith a'i theulu i Sydney, Awstralia, sefydlodd hi Grŵp Chwarae Cymraeg er mwyn helpu ei phlant i gadw cysylltiad â'u gwreiddiau yng Nghymru. Yn y rhaglen hon, mae Gwenfair yn cwrdd â Lin Dodd sy'n byw yng Nghaerffili, ond sy'n dod o Tseina yn wreiddiol, ac sy'n ceisio dod yn rhan o'r gymuned leol … Y gymuned leol - The local community Cyfathrebu - To communicate Y profiad - The experience Aled Hughes Mae Vaughn Smith o Washington yn medru siarad 36 o ieithoedd ac mae'n rhugl mewn 24 ohonyn nhw! Rhai o'r ieithoedd mae o'n eu siarad ydy Rwmaneg, Ffineg, Sbaeneg, Pwyleg, Norwyeg, Iseldireg….ac erbyn hyn mae Cymraeg ar ei restr o ieithoedd yn ogystal. Pwyleg - Polish Iseldireg - Dutch Defnyddiol - Useful Tras Cymreig - Welsh heritage Ar ei thraws - Across it Y Deyrnas Unedig - The UK Cefais fy swyno - I was enchanted Yn ddiweddarach - Later on Dros Ginio Draw i Feirionnydd aeth Dewi Llwyd i gwrdd â thad a merch o bentre Llanuwchllyn, sef Huw Antur a Marged Gwenllian. Mae Huw yn Gyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd yng Nglanllyn ac mae Marged hefyd yn gweithio i'r Urdd fel Swyddog Cymunedol Meirionnydd. Cyfarwyddwr Gwersyll - Camp Director Swyddog Cymunedol - Community officer Dylanwad - Influence Dau gan llath - 200 yards Tebyg - Similar Milltir sgwâr - Square mile Hwyrach - Perhaps Ymgyrchu - Campaigning Cynyddu - To increase Lleihau - To decrease Aled Hughes Cyhoeddodd Aled Hughes newyddion cyffrous ar Radio Cymru ddydd Mercher diwetha! O Hydref y 3ydd, mi fydd cyflwynydd newydd ar y tonfeddi bob nos Lun i Iau o 9 tan hanner nos. Pwy ydy o, neu hi. tybed…? Cyflwynydd - Presenter Tonfeddi - Wavelength Ar fin datgelu - About to disclose Llawn cyffro - Full of excitement Rhoi'r gorau iddi - To give it up Arloesol - Pioneering Cyfrwng - Medium Heb unrhyw amheuaeth - Without any doubt Cynulleidfa - Audience
Dros Ginio Mae Jeremy Paxman wedi dweud ei fod am roi'r gorau i University Challenge wedi 28 mlynedd o gyflwyno'r cwis. Dr Alun Owens fuodd yn sôn wrth Dewi Llwyd am ei amser ar y rhaglen yn 2015 pan oedd o'n fyfyriwr yn Mhrifysgol Abertawe. Dyna oedd y tro cynta i Brifysgol Abertawe fod ar y rhaglen ers tua 20 mlynedd. Rhoi'r gorau i To give up Haerllug Cheeky Camddeall To misunderstand Ymdrech An attempt Dychrynllyd Frightening Yr ystafell werdd The green room Lled awgrym A hint of a suggestion Delwedd darlledu Broadcasting image Croesholwr Cross examiner Dirmygus Scornful Bore Cothi Dr Alun Owens oedd hwnna'n sôn am ei brofiad ar University Challenge. Mi fuodd Heledd Cynwal yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes wythnos diwetha ac mi gafodd hi sgwrs efo'r arbenigwraig ffasiwn, Sina Haf Hudson am y cynllunydd ffasiwn o Siapan , Issey Myake fuodd farw ar Awst 5 eleni... Persawr Perfume Oglau Fragrance Hawlio To claim Fyw i rywun arall No-one else would dare Blaenllaw Prominent Dylanwadu To influence Plentyndod Childhood Arddull Style Efrog Newydd New York Ymysg Amongst Dysgwr y Flwyddyn Joe Healy Ychydig o hanes y cynllunydd ffasiwn o Siapan , Issey Myake yn fan 'na ar Bore Cothi. Ar raglen Aled Hughes cafodd Bryn Tomos sgwrs efo enillydd cystadleuaeth Dysgwr y flwyddyn yn Eisteddfod Ceredigion eleni sef Joe Healy o Wimbledon ond sydd erbyn hyn wedi setlo yng Nghaerdydd. Gofynnodd Bryn iddo fo oedd o wedi clywed am y Gymraeg pan oedd o'n blentyn ysgol yn Llundain. Tyfu lan Growing up Ymwybodol Aware Ysgogi To motivate Ysbrydoli To inspire Mo'yn Eisiau Shelley & Rhydian a Sarra Elgan ...a llongyfarchiadau mawr i Joe ar ennill Dysgwr y Flwyddyn ynde?. Y gyflwynwraig Sarra Elgan oedd gwestai Shelley Rees Owen a Rhydian Bowen Phillips fore Gwener – a buodd hi'n sôn am roi gwersi Cymraeg i chwaraewr rygbi enwog iawn o Dde Affrica, Bryan Habana. O ddifri Seriously Stwr A row Hala Anfon Dishgwl Edrych Awyddus Eager Brwdfrydedd Enthusiasm Ymateb Response Profiad anhygoel An incredible experience Ni y Nawdegau Sarra Elgan oedd honna fuodd yn diwtor Cymraeg ar Bryan Habana! Buodd Esyllt Sears y ddigrifwraig yn edrych yn ôl ar oes aur y nawdegau yng Nghymru. Dyma hi'n trafod “brand” Cymru, neu ella diffyg brand Cymru. Digrifwraig Comedienne Oes aur Golden Age Diffyg Lack of Byth yn buddsoddi ceiniog Never investing a penny Arbenigwyr Experts Cael gwared o nadroedd Getting rid of snakes Gwelededd Visibility Anwastad Rugged Mabwysiadu arloesedd Adopting innovation Beti a'i Phobol ‘Brand Cymru' yn cael amser caled gan Esyllt Sears yn fanna. Yr artist Seren Morgan Jones o Aberystwyth oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Pan oedd hi'n 15 oed symudodd y teulu i Kuwait, ond nid dyna ddiwedd ei theithio, fel cawn ni glywed... Mas Allan Awyddus Eager Twymo lan Warming up Tamaid bach Tipyn bach Porfa las Green grass Anialwch Desert
Beti a Dr Sara Louise Wheeler Mae'r Dr Sara Louise Wheeler yn dod o ardal Wrecsam yn wreiddiol, ac mae hi'n falch iawn ei bod hi'n siarad efo acen arbennig pentref Rhosllannerchrugog. Ond fel cawn ni glywed yn y clip nesa doedd pawb ddim yn hoff o'r acen honno... Magwraeth - Upbringing Tafodiaith - Dialect Herio - To challenge Os dach chi isio gwybod rhagor am hanes diddorol Sara mi fedrwch chi wrando ar y sgwrs yn llawn ar bodlediad Beti a'i Phobol. Aled Hughes a Grant Peisley Mae Grant Peisley yn chwarae criced i dîm dros 50 oed Cymru er ei fod yn dod o Awstralia'n wreiddiol. Mae o'n byw yng Nghymru ers dros ugain mlynedd erbyn hyn, ac wedi dysgu Cymraeg. Mae criced yn ofnadwy o bwysig i bobl Awstralia - felly sut deimlad ydy chwarae dros Gymru i Grant tybed? Dyma fo'n sgwrsio efo Aled Hughes... Rhyngwladol - International Cwpan y Byd - World Cup Ers yn ddim o beth - Since being a small child Braf clywed Grant yn disgrifio ei hun fel Cymro Newydd yn tydy, a dwi'n siwr bydd o'n falch iawn o fod yn rhan o dîm Cymru yn erbyn Awstralia. Erin Bryfdir Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 10 oed eleni ac mae'r coleg wedi medru helpu llawer o bobl i ddilyn cyrsiau yn y prifysgolion ac mewn addysg bellach drwy gyfrwng y Gymraeg. Un o'r rheini ydy Erin Bryfdir sydd yn Sister yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor, a dyma hi'n sôn am sut wnaeth cyflwyniad gan y coleg, pan oedd hi yn yr ysgol uwchradd, newid ei bywyd. Drwy gyfrwng - Through the medium of Cyflwyniad - Presentation Disgybl - Pupil Megis dechrau - Just starting Ysbrydoli - To inspire Gradd - Degree Ysgoloriaeth Cymhelliant - Incentive scholarships Llysgennad - Ambassador Mantais - Advantage Darlithoedd - Lectures Erin Bryfdir oedd honna , un o'r miloedd sydd wedi manteisio ar y cyfle i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Rob Malcolm Jones cocktails. Faint ohonoch chi sy'n mwynhau coctêls? Mae na gymaint o wahanol rai yn does? Mae Rob Malcolm Jones yn byw yn Efrog Newydd ac yn nabod ei goctêls yn dda. Shan Cothi gaeth sgwrs efo fo fore Mawrth Efrog Newydd - New York Ffurfiol - Formal O ddifri - Seriously Bodoli - To exist Poblogaidd - Popular Cynrychioli - To represent Egniol - Energetic Wel dyna ni - y Dirty Martini amdani! GBYH - Eilir Owen Griffiths Mae iechyd meddwl wedi dod mwy i'r amlwg ers y cyfnod clo, ac roedd hi'n wythnos iechyd meddwl wythnos diwetha. Cafodd Hanna Hopwood gwmni yr arweinydd côr a'r cerddor Eilir Owen Griffiths fuodd yn siarad am y tro cyntaf yn gyhoeddus am ei siwrne iechyd meddwl bersonol. Arweinydd côr - Choir conductor Cerddor - Musician Yn gyhoeddus - Publicly Y lle tywylla(f) - The darkest place Eithafoedd - Extremes Creadigol - Creative Yr wythnos ganlynol - The following week Cyfansoddi - Composing Yr arweinydd côr a'r cerddor Eilir Owen Griffiths yn siarad yn bersonol iawn am ei sefyllfa yn ystod y cyfnod clo. Bore Cothi - Hot Cakes Mae na gyfres newydd ar BBC3 - Hot Cakes- ac mae dau o Gaerdydd, Gareth a'i bartner Ryan o gwmni Let them See Cake yn serennu yn y gyfres. Cafodd Shan Cothi sgwrs efo'r ddau a chanfod bod Ryan wedi dysgu Cymraeg dros y cyfnod clo ac mai dyma oedd ei gyfweliad cynta yn Gymraeg.. Cyfres - Series Canfod - To discover Cyfweliad - Interview Joio mas draw - Really enjoing
Bore Cothi Anne Henrot Un o Wlad Belg ydy Anne Henrot ac mi ddechreuodd ddysgu Cymraeg ym 1984 ar ôl bod ar wyliau i Gymru. Mi wnaeth hi deithio ar hyd a lled Cymru pan oedd hi yma - o Gaerdydd i Fangor. Mae hi wedi ymweld â Chasgwent sawl gwaith ac mae wrth ei bodd gyda'r ardal. Dyma Anne yn dweud wrth Shan Cothi sut a pham dechreuodd hi ddysgu Cymraeg. Gwlad Belg - Belgium Yn rhyfeddol - Wonderous Ail-ddechreuais i - I re-commenced Anne Henrot, fuodd yn Nant Gwrtheyrn am bythefnos yn unig, a heblaw am hynny wedi dysgu Cymraeg yn ei chartref yng Ngwlad Belg. Gwych ynde? Aled Hughes ac Ezzati Ariffin Mae E'zzati yn dod o Brunei yn wreiddiol, ond mae hi'n disgrifio ei hun fel "merch Bruneian yng Nghymru" erbyn hyn. Buodd hi'n egluro wrth Aled Hughes mwy am yr ŵyl Hari Raya Aidilffitri sydd yn dathlu diwedd cyfnod ymprydio Ramadan. Gŵyl - Festival Ymprydio - Fasting Am wn i - As far as I know Canolbwyntio - To concentrate Dihuno - Deffro Bennu - Gorffen Dathliad - A celebration A phob hwyl i bawb fydd yn dathlu Hari Raya Aidilffitri, neu Eid al-Ffitr iid ffitr, ynde? Gwneud Bywyd yn Haws - Carys Mai Hughes Mae Carys Mai Hughes yn gweithio o'i champerfan yn hytrach nag o adre er mwyn teithio Ewrop a gwneud y gorau o bob eiliad o'i hamser hamdden. Dyma hi ar Gwneud Bywyd yn Haws yn sgwrsio o lan Llyn Léman... Darlledu - To broadcast Ar bwys - Wrth ymyl Rhyngwladol - International Diflasu - To become weary of Gwenu - Smiling Sa i'n mynd - Dw i ddim yn mynd Dyna'r bywyd ynde - mae gweithio o'r camperfan yn gwneud bywyd yn dipyn haws i Carys Mai Hughes dw i'n siŵr o hynny. Papur Ddoe Mae Elin Tomos yn dilyn hanesion o hen bapurau newydd yn y gyfres Papur Ddoe. Mae hi'n dod ar draws sawl stori ddifyr fel hanes llofruddiaeth Dafydd Lewis cafodd ei saethu yn ei ben gyda phistol llaw yn 1844. Dyma'r hanesydd Erin White i roi ychydig o'r hanes. Llofruddiaeth - Murder Yn dwyn yr enw - Named Tyddyn - Smallholding Cynnyrch - Produce Y Chwyldro Diwydiannol - The Industrial Revolution Swm sylweddol - A considerable amount Tollborth - Toll gate Ymosodiad gan ladron - An attack by thieves Tystion - Witnesses Daethpwyd o hyd - Was found Cwato - Cuddio Hanes llofruddiaeth Dafydd Lewis yn fan'na ar Papur Ddoe. Ifan Evans a Nigel Owens Un o'r pethau unigryw ym myd rygbi Cymru ydy timau cymunedol o bob oedran yn cael chwarae rowndiau terfynol eu cystadlaethau yn y stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd. Er bod Nigel Owens wedi ymddeol fel dyfarnwr rygbi, buodd o yn y Stadiwm yn helpu efo'r gemau. Cafodd Ifan Evans sgwrs efo fo am y digwyddiad... Dyfarnwr - Referee Rowndiau terfynol - Finals Gêm y gymuned - The community game Rowndiau terfynol - Finals Cyfleoedd - Opportunities Yr Undeb - The Union (WRU) Unigryw - Unique Profiad - Experience Wastad - Always Braf gweld Nigel yn helpu'r gêm gymunedol yn tydy? Stiwdio Cefyn Burgess Mae'r artist Cefyn Burgess yn cofio arian yn cael ei gasglu yn yr ysgol Sul ers talwm ar gyfer cenhadaeth yr Eglwys Bresbyteraidd yn Casia India. Cyn y cyfnod clo aeth o draw i Casia er mwyn cael dysgu mwy am bobl y rhan yna o'r byd, ac mae o wedi creu arddangosfa artistig o'i brofiadau yno. Aeth Elinor Gwynn draw i Storiel, Bangor i weld yr arddangosfa a chael gair efo Cefyn am y gwaith. Os dach chi yn yr ardal o gwbl mae'r arddangosfa ymlaen tan yr 2il o Orffennaf 2022. Arddangosfa - Exhibition Casgliad - Collection Bylchau cenhadol - Missionary collection boxes Yn gyfarwydd - Familiar Dychymyg - Imagination Yn fy oed ac amser - At this stage in my life Ehangach - Wider Talaith - State
Bore Cothi - Ciwcymbyr Mae na ddywediad Saesneg 'cool as a cucumber' yn does? Ond beth sydd y tu ôl i'r dywediad hwn tybed? Alison Huw fuodd yn sgwrsio am hyn efo Shan Cothi... Sail wyddonol - A scientific basis Oeri'r gwaed - Cools the blood Ar drothwy - The onset of Cynnwys - To include Dyfrllyd - Watery Unigryw - Unique Si - A rumour Rhesymol - Reasonable Rhwydd - Hawdd Cnwd - Crop Dyna ni felly - ewch ati i blannu'ch ciwcymbers! Eden Cafodd y band Eden ei ffurfio yn 1996 ac ar ôl cyfnod o beidio perfformio mi ddaethon nhw'n ôl at ei gilydd yng ngwyl fawr Caerdydd, Tafwyl, yn 2016. Cafodd hyn ei ddisgrifio fel 'comeback' y ganrif ar Golwg 360! Roedd Rachael Solomon yn aelod o'r band a hi oedd gwestai Iwan Griffiths fore Sul. Dyma hi'n sôn am y profiad o berfformio yn Tafwyl... Man a man - Might as well Ymateb - Response Symudiadau - Movements Cynulleidfa - Audience Synnu - To be surprised Cysylltu - To connect Www, caneuon newydd gan Eden - rhywbeth i edrych ymlaen ato ynde? Aled Hughes Siarcod Ar raglen Aled Hughes clywon ni Lowri O'Neill, myfyrwraig bywydeg ym Mhrifysgol Abertawe, yn sôn am ei phrofiadau yn nofio efo siarcod yn Hawaii. Oedd hi mewn cawell? Oedd yna reolau am sut i ymddwyn wrth nofio efo nhw? Dyna oedd rhai o gwestiynau Aled i Lowri... Bywydeg - Biology Cawell - Cage Ymddwyn - To behave Bwystfil - Monster O hyd - Length Yn y bôn - Basically Cystadleuaeth syllu - Staring competition Ymddangos - To appear to Ysglyfaethod gweithredol - Predator Yn ôl pob golwg - Apparently Merch ddewr iawn ydy Lowri O'Neill ynde? Bore Cothi - deg uchaf adar Dan ni'n aros efo byd natur rŵan ond efo rhywbeth dipyn llai peryglus na siarcod sef yr adar sy'n dod i'n gerddi yng Nghymru. Gofynnodd yr RSPB i bobl nodi pa adar oedden nhw'n eu gweld yn eu gerddi ac mi wnaeth Daniel Jenkins Jones rannu deg ucha yr arolwg ar raglen Shan Cothi... Arolwg - Survey Crybwyll - To mention Ymdrech - Attempt Ji-binc - Chaffinch Pioden - Magpie Nico - Goldfinch Ysguthan - Woodpigeon Drudwy - Starling Titw Tomos las - Blue tit Aderyn y to - House Sparrow Aderyn y to yn ennill unwaith eto, chwarae teg ynde? Dros Ginio - Mererid a Hanna Mam a merch oedd gwesteion Dau cyn Dau Dewi Llwyd bnawn Llun diwetha a'r ddwy yn byw yn ardal Caerfyrddin, sef y prifardd Mererid Hopwood a'i merch, y cyflwynydd radio a theledu Hanna Hopwood. Nid yng Nghymru cafodd Hanna ei geni a dyma Mererid yn dweud rhagor am hynny... Prifardd - National crowned/chaired poet Cyflwynydd - Presenter Tystysgrif geni - Birth certificate Yn benderfynol - Determined Sylweddoli - To realize Y cyfnod Llundeinig - The London period ...a dyna beth da bod y teulu wedi symud i Gymru ynde, fel ein bod ni'n medru gwrando ar Hanna'n cyflwyno Gwneud Bywyd yn Haws ar Radio Cymru. Y Ffatri Ddillad Roedd ffatri ddillad Laura Ashley yn gyflogwr pwysig yng ngogledd Powys gan roi gwaith i tua wyth cant o bobl yr ardal ar un adeg. Buodd Eddie Bebb o Lanidloes yn gweithio i'r cwmni am 37 o flynyddoedd a chafodd Sian Sutton sgwrs efo am ddyddiau cynnar a llewyrchus Laura Ashley... Cyflogwr - Employer Llewyrchus - Prosperous Hwb - A boost Ysbryd - Spirit
Troi'r Tir Lamb Cam Mae'n dymor wyna a llawer o ffermydd erbyn hyn efo camerâu yn y siediau i gadw llygad ar y defaid a'r ŵyn. Mae Fferm Llwyn yr Eos yn Amgueddfa Werin Cymru, St Ffagan, wedi bod yn ffrydio ffilmiau o'r ŵyn bach yn cael eu geni ers blynyddoedd. Dyma Bernice Parker, sy'n gweithio i'r amgueddfa efo'r hanes... Tymor wyna - Lambing season Amgueddfa Werin Cymru - National Museum of History Ffrydio - To stream Yn gyfrifol am - Responsible for Cadw mewn cysylltiad - Keeping in contact Ymatebion - Responses Ar wahân - Apart Yn llythrennol - Literally Darlledu - To broadcast Gwatsio - Gwylio Byd-eang - Worldwide Felly os dach chi eisiau gweld ŵyn bach yn cael eu geni, dach chi gwybod lle i fynd! Beti a Carren Lewis Mae Carren Lewis yn dod o Benrhyndeudraeth ger Porthmadog yn wreiddiol, ond dreuliodd cyfnod yn byw yn Marmaris yn Nhwrci. Buodd Carren yn sôn wrth Beti George am yr adeg aeth hi i gartref plant yn Ne Ddwyrain Twrci gan feddwl bod dau blentyn yna iddi hi eu mabwysiadu . Ond siom cafodd hi fel cawn ni glywed yn y clip nesa ma... Cartref plant - Orphanage Mabwysiadu - To adopt Hogan - Merch Dall - Blind Ddaru ni - Wnaethon ni Genod - Merched Cefndir - Background Amgylchiadau - Circumstances A nes ymlaen yn y sgwrs clywon ni bod Bedri wedi setlo'n iawn efo'i deulu newydd ac newydd gwneud ei arholiadau TGAU. Newsround 50 Mae'r rhaglen newyddion Newsround yn dathlu ei phenblwydd yn hanner cant eleni a bore Mawrth mi roedd Alex Humphreys, cyflwynydd tywydd S4C sydd hefyd wedi cyflwyno Newsround, yn trafod y rhaglen ac yn esbonio pam mae cyflwyno newyddion i blant yn wahanol i'w gyflwyno i oedolion. TGAU - GCSE Cyflwynydd - Presenter Trwy gydol eu hoes - Throughout their lives Newyddiaduriaeth - Journalism Dyfalu - To guess Yn gyhoeddus - Publicly Trafod - To discuss Cyd-bwysedd - Balance Y buarth - The (school) yard Cyflawn - Complete Gwasanaethau brys - Emergency services Alex Humphreys oedd honna'n sôn am Newsround, y rhaglen newyddion i blant. Cloddio Aur Mae Aur Clogau'n enwog ac yn ffasiynol iawn y dyddiau hyn. O ardal Dolgellau daw'r aur ac mae'r daearegwr Elin Mars Jones yn cloddio am yr aur ar hyn o bryd. Dyma hi'n sgwrsio efo Aled Hughes am ei gwaith ... Daearegwr - Geologist Cloddio - To mine Aur - Gold Cynhyrchu - To produce Graddio - To graduate Canfod strwythurau - Finding structures Hanes cloddio aur Clogau yn fan'na gan Elin Mars Jones. Huw Foulkes a Côrdydd Weloch chi ffeinal Côr Cymru ar S4C? Wel am gystadleuaeth dda ynde? Côrdydd enillodd a dyma arweinydd y côr Huw Foulkes yn siarad efo Shan Cothi am y noson fawr... Chwys domen - Sweating buckets Wedi gwirioni'n lân - Were over the moon Beirniaid - Adjudicators Hollol gytûn - Unanimous Disgyblaeth - Discipline Cegrwth - Open mouthed Anghrediniaeth lwyr - Total disbelief Wedi dod i'r brig - Had won Byd o les - A world of good Beiddgar - Bold Wedi elwa - Had profited Huw Foulkes yn amlwg wedi gwirioni efo perfformiad Côrdydd yng nghystadleuaeth Côr Cymru. Dros Ginio Mam a merch oedd gwestai Dewi Llwyd pnawn Llun yn y slot dau cyn dau. Roedd Eirwen Thomas yn arfer gweithio fel athrawes ac mae ei merch, Elinor Williams, yn un o benaethiaid Ofcom yng Nghymru. Mae'r ddwy'n byw yn agos iawn i'w gilydd ym mhentre bach Llanedi, yn Sir Gaerfyrddin. Yn y clip nesa 'ma mae Elinor yn sôn am ei Alopecia Penaethiaid - Chjef officers I ddygymod ag o - To cope with it Cyflwr - Condition Moel - Bald Cymhleth - Complicated Pendantrwydd - Determination Tebygolrwydd - Likelyhood
Gwneud Bywyd yn Haws - Mirain Rhys Am 6 ar nosweithiau Mawrth mae Hanna Hopwood a'i gwesteion yn trafod be sy'n gwneud bywyd yn haws, a'r thema wythnos diwetha oedd teimladau plant. Dyma glip o'r Dr Mirain Rhys sy'n Uwch Ddarlithydd mewn seicoleg ym Mhrifysgol Met Caerdydd, yn esbonio pa mor bwysig ydy cael plant i feddwl yn bositif, a sut mae'n bosib gwneud hynny efo sylwadau cadarnhaol... Uwch Ddarlithydd - Senior lecturer Sylwadau cadarnhaol - Affirmations Ar hap - Randomly Darbwyllo unigolion - To convince individuals Y gwirionedd - The truth Yn ehangach - Wider Cyflawni - To achieve Gallu - Ability Datblygu - To develop Hyblyg - Flexible Ac i glywed rhagor o'r sgwrs yna rhwng Hanna a'r Dr Mirain Rhys mae'n bosib gwrando eto ar ap BBC Sounds drwy chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws. Marchnad Llanbed Ychydig o hanes Marchnad Llanbedr Pont Steffan, neu Llambed, sy nesa. Mae'r farchnad wedi ennill gwobr Y Farchnad Orau yng Nghymru gyda'r Slow Food Awards. Dyma ymateb Jane Langford, un o drefnwyr Marchnad Llanbed ac un o'r stondinwyr, Yve Forrest o Cegin Yve i'r wobr... Pleidleisio - To vote Syndod - A surprise Cynhyrch - To produce Ansawdd - Quality Blawd - Flour Cynnyrch - Product Bro Morgannwg - Vale of Glamorgan Awyrgylch gefnogol - Supportive environment Cyfeillgar - Friendly Ychydig o hanes marchnad Llambed ar raglen Troi'r Tir wythnos diwetha. Hanes cerdded Dach chi erioed wedi meddwl am hanes cerdded? Mae Andrew Green wrthi'n paratoi llyfr am hanes cerdded yng Nghymru. Pa mor bell yn ôl mewn hanes fydd o'n mynd tybed? Dyma fo'n sgwrsio efo Aled Hughes.... Arfordir - Coast Gwledig - Rural Pentwr - Heap Oes - Age Ôl traed - Footprint Darganfod - To discover Andrew Green oedd hwnna'n sôn am ei lyfr newydd am hanes cerdded yng Nghymru. Bore Cothi a Tom Pitts-Tucker Shan Cothi gafodd air efo Tom Pitts-Tucker fore Mercher. Mae o'n byw ger Trefynwy ac wedi bod yn dysgu Cymraeg ers tua tair blynedd a dyma fo yn rhoi ychydig o'i hanes... Sir Efrog - Yorkshire Mo'yn dychwelyd - Eisiau dod yn ôl Meddygon teulu - GPs Anhygoel - Incredible Her - A challenge Annog - To encourage Diwylliant - Culture Allwedd - Goriad Tom Pitts-Tucker yn esiampl da o'r rhai sy'n dysgu Cymraeg ar ôl symud i fyw i Gymru. Dwyieithrwydd Dros y Dwr Aeth Ifor ap Glyn i Wlad Belg i ddarganfod mwy am yr iaith Iseldireg yn Fflandrys a Brwsel a'i pherthynas efo'r Ffrangeg. Drwy lwc daeth ar draws Lieven Dehandschutter sydd â'r Iseldireg yn famiaith iddo, ond mae o hefyd yn rhugl yn y Gymraeg. Gwlad Belg - Belgium Iseldireg - Flemish Sefydlwyd - Was established Iaith weinyddol - Administrative language Y werin - The ordinary people Tafodieithoedd - Dialects Rhwydd hynt i ymgryfhau - A free hand to strengthen Pur anaml - Rarely Cellwair - Banter Diddorol ynde? Sefyllfa Iseldireg yng Ngwlad Belg debyg iawn i'r Gymraeg yng Nghymru. Stiwdio - John Williams Mae'r cyfansoddwr John Williams wedi dathlu ei ben-blwydd yn 90 eleni. Yn ystod ei yrfa mae o wedi cyfansoddi'r gerddoriaeth ar gyfer rhai o'r ffilmiau mwya eiconig yn hanes y sinema, gan gynnwys Star Wars, Superman, ET a Harry Potter. Efo enw fel John Williams ydan ni'n medru ei hawlio fel Cymro tybed? Wedi'r cwbl roedd ei dad yn cadw siop ym Mangor. Ond yn anffodus Bangor Maine oedd hwnnw ac nid Bangor Gwynedd. Americanwr oedd John Williams a dyma i chi gyfansoddwr arall, Owain Llwyd yn rhoi ychydig o'i hanes i ni... Hawlio - To claim Cyfansoddwr - Composer Cyflawni - To achieve Enwebu - To nominate Parch - Respect Symlrwydd - Simplicity Cerddorfa - Orchestra Canadwy - Singable Ysbrydoli - To inspire Cyfarwyddwr - Director
Cofio 'Theatr' Byd y Theatr oedd thema Cofio efo John Hardy ac mae byd y theatr Gymraeg wedi newid yn llwyr dros yr hanner canrif diwetha. Dyma Falmai Jones yn cofio sut gychwynnodd ei gyrfa hi a sut arweiniodd hynny at ffurfio'r theatr gymunedol Theatr Bara Caws... Cynulleidfaoedd Audiences Does bosib Surely Perthnasol Relevant Egin A bud Yn gorfforol Physically Sefydlog Settled Gwreiddiau Roots Heb fawr o bres Without much money Atgof Memory Peth a peth This and that Falmai Jones oedd honna'n cofio dechreuad Theatr Bara Caws. Gwneud Bywyd yn Haws - Naomi Saunders Mae gan Naomi Saunders dros gant o blanhigion yn ei chartref ac mae hi wrth ei bodd yn tyfu ffrwythau, llysiau a phlanhigion cartref, ond sut dechreuodd y diddordeb yma? Planhigion Plants Sbïo Edrych Nain a Taid Mam-gu a Tad-cu Ailgydio To resume Addurno To decorate Naomi Saunders yn fanna yn sôn am ei phlanhigion ar Gwneud Bywyd yn Haws. Aled Hughes ac Elis James Buodd Elis James yn trafod dyfodol yr iaith efo Aled Hughes fore Iau a gofynnodd Aled iddo fo pam ein bod ni yng Nghymru'n poeni cymaint am y Gymraeg... Pryder naturiol Natural concern Ysgwyddo'r baich Shouldering the burden Cyfrifoldeb Responsibility Ymgyrchu Campaigning TGAU GCSE Dan warchae Under siege Bygythiad Threat Amddiffynnol Defensive Cefndryd Cousins Daioni Goodness ... a gobeithio'n wir bydd merch bach Elis yn dal ati efo'r Gymraeg draw yn Llundain, ynde? AR BLAT - Beca a Mari Cyfres newydd ydy Ar Blât ac yn y clip nesa mi gawn ni glywed Beca Lyne-Pirkins a Mari Løvgreen yn trafod popeth "bwyd" ac yn enwedig bwyd cysur. Cyfres Series Bwyd cysur Comfort food Brenhines Queen Hallt Salty Llawdrwm Heavy handed Wystrys Oyster Mae'n amlwg bod Mari Løvgreen wir yn mwynhau cinio dydd Sul ei mam yn tydy? Aled Hughes a Dr Jonathan Hurst Mae'r Dr Jonathan Hurst yn dod o Stockport yn wreiddiol ac yn byw yn Lerpwl. Mae o'n gweithio yn y Liverpool Women's Hospital ac yn Ysbyty Plant Alder Hey. Mae o wedi dysgu Cymraeg er mwyn siarad yr iaith efo'i gleifion o Gymru. Mi fydd Jonathan yn derbyn gwobr Dathlu Dewrder 2022 am wneud gwahaniaeth gwerthfawr i fywydau teuluoedd o ogledd Cymru drwy ddysgu Cymraeg a'i defnyddio efo'r cleifion. Cleifion Patients Gwobr Dathlu Dewrder Celebrating Bravery Award Gwahaniaeth gwerthfawr A valuable difference Cysylltiad Connection Babanod Babies Genedigaeth Birth Sylweddoli To realise Cymhleth Complicated Ystyried To consider Gwych iawn ynde, mae Jonathon yn llawn haeddu'r wobr yn tydy ? Llythyr o Wcrain Dydd Iau ar Radio Cymru mi glywon ni gyfieithiad o ail lythyr yr awdur o Wcrain Andrey Kurkov, a'r tro 'ma gaethon ni ychydig o hanes ei frawd a'i deulu. Ifan Huw Dafydd oedd yn darllen. Llawn haeddu Fully deserves Droeon Several times Myfyrio To meditiate Pwyllog Measured Brwydro ffyrnig Fierce fighting Bochdew Hamster Cymharol ddiogel Comparatively safe Arfau Weapons Ffynnon A well Sythu Freezing