POPULARITY
Bore Cothi - Huw Williams 29.11 Ddechrau'r wythnos buodd Sian Cothi yn darlledu o'r Ffair Aeaf yn Llanelwedd. Dydd Mawrth cafodd gyfle i siarad ag un o filfeddygon yr Ŵyl sef Huw Williams o Dywyn, Meirionydd. Beth yn union yw gwaith y milfeddygon yn ystod y Ffair Aeaf? Dyma Huw yn esbonio... Ffair Aeaf Winter Fair Milfeddygon Vets Darlledu Broadcasting Hamddenol Leisurely Archwilio To inspect Anhygoel Incredible Y cylch The ring Beirniad Judge Rhesymu'n gyhoeddus Outlining the reasons publicly Arddangoswyr Exhibitioners Beti a'I Phobl – Sylvia Davies 4.12 Blas ar waith milfeddygon y Ffair Aeaf yn fanna ar Bore Cothi. Sylvia Davies oedd gwestai Beti George bnawn Sul . Dyma i chi ran o'r sgwrs ble mae hi'n esbonio pam wnaeth hi benderfynu mynd i'r brifysgol i astudio anthropoleg ar ôl iddi hi ddechhrau gweithio mewn banc... Doedd fy mryd i ddim I wasn't inclined Trywydd traddodiadol A traditional path Aeth ar gyfeiliorn Went astray Ennill fy nhamed To earn my living Gradd Degree Tystiolaeth Evidence Tystysgrif Certificate Dyrchafiad Promotion Mo'yn Eisiau Crefydd Religion Dros Ginio – Rhys Mwyn 28.11 Sylvia Davies oedd honna'n esbonio wrth Beti George beth wnaeth iddi hi benderfynu mynd i brifysgol yn hytrach nag aros yn y banc. Nia Ceris oedd yn cyflwyno Dros Ginio bnawn Llun a chafodd hi sgwrs gyda'r cyflwynydd radio a'r archeolegydd Rhys Mwyn am y mosaig anhygoel o oes y Rhufeiniaid cafodd ei ffeindio ar dir fferm yn Swydd Rutland. Ydy hi'n bosib i rywbeth mor hen a hynny fod mewn cyflwr da? Dyma beth oedd gan Rhys i'w ddweud... Y Rhufeiniaid The Romans Cyflwr Condition Wedi cael llonydd Been undisturbed Goroesi To survive Aredig Ploughed Ail gladdu To rebury Cofnodi To record Y bedwaredd ganrif The fourth century Chwalu To destroy Gaeafau garw Rough winters Tir sad Stable land Caryl – Professor Llusern 30.11 Beth fydd yn digwydd i'r mosaig hwnnw tybed, fydd e'n cael ei ail gladdu fel roedd Rhys yn ei awgrymu? Cawn weld on'd ife? Cafodd Caryl Parry Jones gyfle i sgwrsio â chonsuriwr nos Fercher o'r enw Professor Llusern. Mae e'n dod o Fostyn yn Sir y Fflint a gofynnodd Caryl iddo fe pa mor anodd yw hi i ymuno â'r Magic Circle….neu'r Cylch Hud….. Consuriwr Magician Hen ddywediad Old saying Cyfrinachau hud a lledrith Magic secrets Enwebu To nominate Dros dro Temporary Wir o ddifri Really serious Bore Cothi - Cwn Selsig 30.11 Wel dyna ni, os dych chi'n ffansio bod yn gonsuriwr, dych chi gwybod beth i'w wneud nawr. Erbyn bore Mercher roedd criw Shan Cothi wedi dod yn ôl o'r Ffair Aeaf yn Llanelwedd i'r stiwdio yng Nghaerfyrddin lle cafodd gyfle i siarad ag Emma Hughes sydd yn berchennog ar Seth. Ci Daschund yw Seth ag Emma yw sefydlydd Cymdeithas Cŵn Selsig Gogledd Cymru, a gofynnodd Shan iddi hi‘n gynta faint o aelodau sydd yn y gymdeithas Sefydlydd Founder Perchennog Owner Mae gen i ofn I'm afraid Pryderon Worries Gweddol rhwydd Eitha hawdd Ifan Evans – Llanbed 1.12 Ramp i gŵn selsig – dyna dda on'd ife? Aeth criw Rhaglen Ifan Evans allan o'r stiwdio ddydd Iau a mynd draw i Lanbedr Pont Steffan gan ei bod yn noson siopa hwyr y dref. Cafodd Ifan gyfle i holi Meinir Evans gwraig leol ddechreuodd busnes pobi yn ystod y cyfnod clo. Gofynnodd Ifan iddi hi'n gynta beth yn union yw'r busnes Pobi To bake Y cyfnod clo Lockdown Syndod o dda Surprisingly well Shwd (sut) fraint Such a privilege Cacs Cacennau Ffili Methu Ieuenctid Youth Deugain mlynedd 40 years Ddim digon o blwc Not brave enough Danteithion Delicacies
Cyfres Actau - Rhan 14 (Actau 28) Cyfarfod y Rhufeiniaid - diwedd y daith?
"Beth ydi pwrpas bywyd?" (Rhufeiniaid 12:2) gyda Rhys Llwyd
Sgwrs gyda Rhodri Jones, the one that got away i bêl-droed Cymru. Ar ôl datblygu fel rhan o academi byd enwog clwb pêl-droed Machester United, daeth ei yrfa i ben yn rhy gynnar o bell ffordd, diolch yn bennaf i benglin dodgy. Ar ôl dioddef effeithiau seicolegol dwys ar ddiwedd ei egin yrfa, erbyn heddiw, mae e’n helpu eraill i ddelio â phroblemau iechyd meddwl. Pynciau llosg: bydis bws, Ysgol y Wern, asiant cyntaf Rhodri, Ysgolion Caerdydd, Norwich City a’r Rhufeiniaid, Ffranc-od, Huw Roberts a Mark Hughes, Joe Cole, Nicky Robinson, ansicrwydd yr arddegau, glanhau esgidiau Ryan Giggs a Gary Neville, bants v bwlio, corfforol v meddyliol, penglin dodgy Rhodri, Jimmy Davies RIP, limbo creulon, Lee Trundle, Rotherham United, unigrwydd, carchar meddyliol, pwysigrwydd siarad, y gwacter, myfyrio, Marcus Aurelius, stoiciaeth, Epictetus, ymarfer y meddwl, heddwch meddyliol, cysgu’n iawn a llawer mwy.
Addoliad a Chenhadaeth (Rhufeiniaid 12 a Ioan 4) a gyda Robin Luff
Pwy oedd y Rhufeiniaid gyntaf yng Nghymru? Faint o hir nath y nhw aros? Pam oedd y nhw yma? Cewch yr atebion yma i gyd yng nghwmni Dewi Prysor ar y 3ydd pennod o Dim rwan na nawr!
http://eglwysibroaled.com/wp-content/uploads/podlediad/29042018_pm_gwiondafydd.mp3
Rhufeiniaid 12:1 Salm 145:1-4
Yn dilyn goresgyniad Prydain gan y Rhufeiniaid yn 43 O.C., cymerodd ddeng mlynedd ar hugain i dawelu’r llwythau Celtaidd yn yr ardal yr ydym erbyn hyn yn ei galw’n Gymru. Man rheoli allweddol oedd lleng-gaer fawr Isca, yng Nghaerllion fodern, a godwyd yn nhiriogaeth y Silwriaid ffyrnig. Fodd bynnag, yn y diwedd ildiodd y llwyth i reolaeth y Rhufeiniaid ac ymuno ag economi a ffordd o fyw'r Ymerodraeth. Mae darganfyddiadau diweddar wedi dangos bod anheddiad sifil mawr y tu allan i’r gaer bwerus, gyda dociau ar gyfer nwyddau a gludwyd o wledydd Môr y Canoldir. Mae presenoldeb y Rhufeiniaid yng Nghymru yn fwy nag yr oeddem wedi ei feddwl.
Yn dilyn goresgyniad Prydain gan y Rhufeiniaid yn 43 O.C., cymerodd ddeng mlynedd ar hugain i dawelu’r llwythau Celtaidd yn yr ardal yr ydym erbyn hyn yn ei galw’n Gymru. Man rheoli allweddol oedd lleng-gaer fawr Isca, yng Nghaerllion fodern, a godwyd yn nhiriogaeth y Silwriaid ffyrnig. Fodd bynnag, yn y diwedd ildiodd y llwyth i reolaeth y Rhufeiniaid ac ymuno ag economi a ffordd o fyw'r Ymerodraeth. Mae darganfyddiadau diweddar wedi dangos bod anheddiad sifil mawr y tu allan i’r gaer bwerus, gyda dociau ar gyfer nwyddau a gludwyd o wledydd Môr y Canoldir. Mae presenoldeb y Rhufeiniaid yng Nghymru yn fwy nag yr oeddem wedi ei feddwl.