POPULARITY
Unwaith eto heddiw, fyddwch chi'n ceisio gwella eich amser o redeg y 5K. Yr her fydd i geisio rhedeg yr holl ffordd - ydych chi'n barod? Again, you'll try and improve your time of running the 5K today. The challenge will be to try and run the whole distance - are you ready?
Unwaith y flwyddyn mae nerds tech-ieithyddol Cymru yn cwrdd fyny mewn digwyddiad brawychus fel the Purge… Ond yn lwcus iawn nid dyna oedd Hacio’r Iaith 2017, mae’r purge wythnos nesa. Ymunwch â Sions, Bryn a Iestyn yn fyw ar leoliad o riviera trofannol Bangor! Ffansi gadael i ni wybod os chi’n joio? Gadewch review i ni yn iTunes, ffankiw! Special Guests: Carl Morris and Rhodri ap Dyfrig.
Croeso i ail rifyn yr Haclediad, ydan, da ni wedi mentro creu un arall, ys dywed y kids, be da ni fel?! Wele Haclediad #2. Unwaith eto mae Bryn Salisbury (@bryns), Iestyn Lloyd (@iestynx) a Sioned Edwards (@llef), yn trafod tech a’r byd Cymreig. Buom ni’n trafod: “2.9 Million Enemies in 45 minutes” – Jeremy Hunt yn dweud bod Cymru ddim yn cael ei adael allan o’r cynlluniau band eang uwch-gyflym. Ond yn wir, ‘dyw Cymru ddim yn y treial. Yw hi’n amser nawr i’r cynulliad gael cyfrifoldeb am hwn? Beth am fynediad band-llydan yng Nghymru? Hefyd, ydi’r ymgyrch parth .cym yn ddibwys a’i gymharu gyda’r ymgyrch sy angen ar gyfer band eang yng nghefn gwlad? Windows 7 Series phone, hands on, be di’r farn? Ydi hi’n hen bryd i ni weld fwy o e-lyfrau Cymraeg ar y Kindle ag iBooks? A beth am y term “eLyfr?” ydi o’n gwneud synwyr? Tamaid i orffen: Gwefan Tywydd newydd S4C – beth yw’r farn? Diolch eto i Gafyn Lloyd am ysgrifennu’r gân i’r rhaglen a hefyd am rhoi’r rhaglen at ei gilydd. Gallwch ffeindio mwy allan am Gafyn ar ei wefan gafynlloyd.com. Cofiwch, mae mwy i ddod, am declynnau, y Gymraeg arlein a llawer mwy; ond am rŵan cyflwynwn yr Haclediad i chi wrando, barnu a rhoi gwaedd i ni am be hoffe chi i ni drafod ar podlediad@haciaith.com, neu drwy drydar. Edrychwn mlaen i glywed ganddo chi! Criw’r Haclediad The post Haclediad #2 – Yr Ail Ddyfodiad appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.