POPULARITY
Dyma hi, parti haf (arall) yr Haclediad - a mae hi just digon hir i bara'r dreif i'r sdeddfod
Meddwl mai dim ond Iesu Grist oedd yn gallu atgyfodi pethe o farw'n fyw? Meddyliwch eto - trwy rhyw wyrth mae'r criw yn cyflwyno Pennod 111 i chi: The Cursed Haclediad. Mae na newyddion sentient chatbots a'r Apple WWDC yn ogystal â Ffilm di Ddim rybish go iawn (Jumper gyda Hayden Christensen);ond yn bwysicach na hynny... Mae na bennod wedi ei ryddhau mis yma diolch i Iestyn Grist ✝️
Croeso i Haclediad arall sy'n gofyn “ydy gwneud acen Wyddelig, pan ti'n amlwg ddim yn Wyddelig, yn dderbyniol?” Mae'r ateb i hwn, a'ch holl gwestiynau tech, yma ar bennod 110 o'r Haclediad. Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn mynd i Gornel Crypto Caernarfon, siarad efo dy Sonos, herio Netflix a siarad am y “Ffilm Di Ddim gwaethaf hyd yn hyn” - Bryn Salisbury Diolch i chi gyd am wrando bob mis, ni'n joio llenwi'ch clustiau efo'r audio equivalent o'r distraction dance - os chi awydd ymuno â'r criw ffyddlon o gyfranwyr, taflwch cwpl o bunnoedd i'r pot Ko-rfi (https://ko-fi.com/haclediad) ☺️
Os nad yw'r teitl rhy off-putting i chi, dyma Haclediad mis Ebrill
Mae'n dymor newydd, felly dyma bennod ffresh lliwgar i'r gwanwyn i chi ffam yr Haclediad - mwynhewch 2+ awr o Bryn, Iestyn a Sions yn eich clustiau. Mae ganddo ni scoop o newyddion tech go-iawn gan Iest - app Speechify a'i tech llais text-to-speech Cymraeg sy'n curo Siri. Hefyd, y newyddion tech allai helpu droi'r llanw yn rhyfel torcalonnus Iwcrain. Ffilm di ddim y mis ydy'r ridic/hyfryd/weird BMX Bandits o 1983 - ac with gwrs mae na sbrinclad o awgrymiadau ffilms, streaming a (old skool) llyfrau i gael chi trwy'r mis nesa. Diolch i bawb sy'n gwrando, ac i'r legends sy'n cyfrannu i'n Ko-fi (https://ko-fi.com/haclediad) - chi'n wych
Tro yma bydd Bryn, Iestyn a Sions yn brwydro trwy hellscape teulu'r Windsors i gadw cwmni efo chi am y 2~ awr nesa. Yn ogystal â thrafod toxic Roblox, rhaglen ddogfen ‘The Instagram Effect' a ffilm ddogfen anhygoel Dan Olson ‘Line Goes Up -The Problem with NFTs'; byddwn ni'n eich cyflwyno i erchylltra ‘Diana - The Musical'. So diolch i Sioned am awgrymu hwna i ni gyd, a sbwylio mis pawb. Gwd job
Mae'n amser dechrau'r flwyddyn efo pennod XXL arall o'ch hoff podlediad-am-tech-ond-ddim-rili
Bron i 3 awr o gadgets, sgwrsio suave a gwisgoedd arbennig... Bond film newydd neu Haclediad #103? Pam ddim yn ddau?! Yup, mae'ch hoff cusping Milennials chi nôl efo newyddion yr N64 y dod i Switch, y Facebook Files a #FfilmdiDdim arall o'r 90au - y clasur am hawliau darlledu - Tomorrow Never Dies Diolch am danysgrifio - cofiwch bod hi'n beryg i wrando ar yr Haclediad mewn un go, defnyddiwch y chapter markers gwych gan Iest #podresponsibly
Mae'r haf yn dod i ben, ond mae gan yr Haclediad bennod mor hir â phenwythnos gŵyl y banc i chi joio... O'r teslabot, ac amddiffyn plant gan Apple i Only Fans yn banio pr0n mae na rywbeth i bawb ma — a ffilm-di-ddim sy'n lanast o franchise starter, Suicide Squad (2016) Hyn i gyd ac awgrymiadau be i wylio/darllen/gwrando am y mymryn o haf sydd ar ôl yn 2021 - diolch am wrando
Dros yr 11 mlynedd diwethaf mae Bryn, Sions ac Iest wedi creu miloedd o oriau o #cynnwys i'ch clustiau chi — a dyma benllanw eu celf clywedol — pennod 100 o'r Haclediad! Yma byddwn ni'n trafod bach o tech (podlediad ‘Hyfryd iawn' ar Spotify, app Newydduon S4C), bach o ethics (rhannu data iechyd) a cachlwyth o stwff da i wylio ar streaming. I topio'r cyfan, ymunwch â ni am ein trip cyntaf i fyd ffilms di ddim Liam Neeson efo'r juggernaut (geddit) o #FfilmdiDdim Ice Road Diolch am wrando!
Croeso i'ch chill hang misol am tech, TV a ffilms mor wael mae nhw'n... wael?! Mis yma mae Bryn, Iest a Sioned yn trafod holl ddatblygiadau shiny newydd WWDC Apple; yn rhoi tro ar ffilm di ddim "Ender's Game" ac wrth gwrs yn cynnig cwpl o oriau o #cynnwys i gael chi trwy weddill 2021 efo gwên ar eich gwyneb ☺️ Welwn ni chi mis nesa am bennod... 100
OK, so chi’n edrych ar y running time yna ac yn meddwl “be ddiawl alle gyfiawnhau 3hr+ running time?” SPECIAL GUEST, na be! Mis yma, mae Bryn, Iest a Sions yn croesawu Mr Game and Watch ei hun, Gav Murphy i’r sioe! Rhan o’r RKG Video collective, yr enwog @CymroGav (https://Twitter.com/cymrogav) ar twitter a basically y boi ma’r BBC yn ffonio i gael rwyn i siarad am ‘games a ballu’. Bydd Gav a’r criw yn siarad am SUPER MARIO BROS (1993) - diolch massive iddo am ddod ar y sioe ☺️ Checkiwch y chapters i weld beth fyddwn ni’n trafod, mae Iest yn gweithio mor galed arno nhw bob mis, sai’n embarrasing i chi fethu’r hidden gems ‘na Subscribiwch a rhowch cash i ni ac ati, worrevs Special Guest: Gav Murphy.
Tro ‘ma ar eich hoff substitute am fywyd cymdeithasol tan i’r pybs agor: bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn checkio allan fights mawr byd tech, a fights mawr Kaiju yn Godzilla King of the Monsters. Ydy NFTs yn morally ofnadwy, neu’n ddyfodol disglair i’r byd celf arlein? Gav Murphy vs Griff Lynch yn nhudalennau Golwg; Mae Bryn yn couch-2-5-k-io, Sions yn optio allan o consumerism tra’n joio app Newyddion S4C, a Iest yn ecseitio am yr Apple event diweddaraf. Ond chi yma am y lols, so sgipiwch mlaen i weld pam fod Godzilla 1954 yn stynnar o ffilm, a pham bod gan baddie GKOTM falle bwynt, er mor wael di’r movie o 2019. Diolch eto am wrando, welwn ni chi mis nesa!
"For You, The Day Yr Haclediad Graced Your Village Was The Most Important Day In Your Life, But For Us? It Was Tuesday.” Mae Ffilm Di Ddim y mis yma yn epic yn y genre Game-to-Movie, peak 1994: yr anhygoel Street Fighter! Bydd Bryn, Iestyn a Sioned hefyd yn rowndio fyny’r newyddion ar NFTs, Bitcoin a’r bolycs yna i gyd - ond mostly pennod ar Street Fighter ydy hon. This Is Merely Superconductor Electromagnetism! Surely You've Heard Of It? It Levitates Bullet Trains From Tokyo To Osaka. It Levitates My Desk, Where I Ride The Saddle Of The World. And It Levitates...Me!
Gwion Hallam fuodd yn sgwrsio gyda pump arall fuodd yn yr wyl dros y penwythnos diwethaf - Siwan Haf, Iestyn Lloyd, Daniel Parry Evans, Llyr ab Alwyn ac Osian Howells. Pob un wedi cael profiad hollol wahanol o'r wyl ym Mhortmeirion.
Iestyn Lloyd ac Osian Howells sydd yn ymuno gyda Gwion Hallam yr wythnos hon i adolygu dau albwm newydd sef 'Praxis Makes Perfect' gan Neon Neon a 'week of Pines' gan Georgia Ruth.
Helo-ho-ho, dyma anrheg Nadolig bach cynnar i chi – Haclediad #3! Ar y rhifyn hwn bydd Iestyn Lloyd (@iestynx) Bryn Salisbury (@bryns) a Sioned Edwards (@llef) yn trafod y mis diwethaf ym myd tech, ac yn edrych mlaen i’r flwyddyn newydd. Ar y fwydlen mae trafodaeth o system weithredu newydd Apple iOS 4.2.1 a dyfodiad y Beatles i iTunes; mwy ar broblemau diogelwch Facebook, a byddwn yn holi os yw’n troi yn ghetto i’r Gymraeg arlein. Hefyd gwybodaeth ECSGLIWSIF ar ddigwyddiad Hacio’r iaith 2011, a beth mae’r cyfranwyr yn chwilio amdano o sach Siôn Corn. Mwynhewch, a ‘Dolig Llawen i chi gyd! The post Haclediad Y Nadolig appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.
Croeso i ail rifyn yr Haclediad, ydan, da ni wedi mentro creu un arall, ys dywed y kids, be da ni fel?! Wele Haclediad #2. Unwaith eto mae Bryn Salisbury (@bryns), Iestyn Lloyd (@iestynx) a Sioned Edwards (@llef), yn trafod tech a’r byd Cymreig. Buom ni’n trafod: “2.9 Million Enemies in 45 minutes” – Jeremy Hunt yn dweud bod Cymru ddim yn cael ei adael allan o’r cynlluniau band eang uwch-gyflym. Ond yn wir, ‘dyw Cymru ddim yn y treial. Yw hi’n amser nawr i’r cynulliad gael cyfrifoldeb am hwn? Beth am fynediad band-llydan yng Nghymru? Hefyd, ydi’r ymgyrch parth .cym yn ddibwys a’i gymharu gyda’r ymgyrch sy angen ar gyfer band eang yng nghefn gwlad? Windows 7 Series phone, hands on, be di’r farn? Ydi hi’n hen bryd i ni weld fwy o e-lyfrau Cymraeg ar y Kindle ag iBooks? A beth am y term “eLyfr?” ydi o’n gwneud synwyr? Tamaid i orffen: Gwefan Tywydd newydd S4C – beth yw’r farn? Diolch eto i Gafyn Lloyd am ysgrifennu’r gân i’r rhaglen a hefyd am rhoi’r rhaglen at ei gilydd. Gallwch ffeindio mwy allan am Gafyn ar ei wefan gafynlloyd.com. Cofiwch, mae mwy i ddod, am declynnau, y Gymraeg arlein a llawer mwy; ond am rŵan cyflwynwn yr Haclediad i chi wrando, barnu a rhoi gwaedd i ni am be hoffe chi i ni drafod ar podlediad@haciaith.com, neu drwy drydar. Edrychwn mlaen i glywed ganddo chi! Criw’r Haclediad The post Haclediad #2 – Yr Ail Ddyfodiad appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.
“Henffych ddarpar wrandawyr! Hoffem ni, griw Hacio’r Iaith, gyflwyno podlediad newydd i’ch clustiau – wele, yr ‘Haclediad‘!” Reit, nol i’r unfed ganrif ar hugain, gobeithio byddwch chi yn mwynhau gwrando ar drafodaeth tech Gymraeg newydd sbon ar ein annwyl Haclediad. Bydd digon o bobl gwahanol yn cyfrannu o bryd i’w gilydd, ond yn y rhifyn hwn, mae’r criw, Bryn Salisbury (@bryns), Iestyn Lloyd (@iestynx) a Sioned Edwards (@llef), yn cael lot o drafod Mac allan o’i system. Gyda defnydd estynedig Bryn o’r iPad, anrheg ‘Dolig cynnar yr Apple TV gan Iestyn, a Sioned yn cracio dan y gwasgedd a gadael i iMac ddyfod i’w thŷ, mae digon i chi wrando arno, ond dim gormod i syrffedu arno gobeithio! Cofiwch, mae mwy i ddod, am declynnau, y Gymraeg arlein a llawer mwy; ond am rŵan cyflwynwn yr Haclediad i chi wrando, barnu a rhoi gwaedd i ni am be hoffe chi i ni drafod ar podlediad@haciaith.com. Edrychwn mlaen i glywed ganddo chi! Criw’r Haclediad O.N. Ffrwd iTunes yn dod yn fuan. Diolch yn fawr i Gafyn Lloyd am ysgrifennu’r gân i’r rhaglen a hefyd am rhoi’r rhaglen at ei gilydd. Gallwch ffeindio mwy allan am Gafyn ar ei wefan gafynlloyd.com The post Croeso i’r Haclediad appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.