Haclediad – Hacio’r Iaith

Follow Haclediad – Hacio’r Iaith
Share on
Copy link to clipboard

Barn heb ymchwil na gwybodaeth.

Haclediad

Donate to Haclediad – Hacio’r Iaith


    • Jun 30, 2025 LATEST EPISODE
    • monthly NEW EPISODES
    • 1h 49m AVG DURATION
    • 145 EPISODES


    Search for episodes from Haclediad – Hacio’r Iaith with a specific topic:

    Latest episodes from Haclediad – Hacio’r Iaith

    Switch, Plîs

    Play Episode Listen Later Jun 30, 2025 181:35


    Croeso i big Summer Blow Out yr Haclediad! Bydd Bryn, Iest a Sions yn mynd nôl i wreiddiau'r sioe mis yma, efo actual tech review go iawn o'r Nintendo Switch 2

    Talk Hard: Pretty Bad Case of Being Cut in Half

    Play Episode Listen Later Jun 2, 2025 170:23


    Craciwch y golf claps na allan am bennod hafaidd o'r Haclediad! Datblygiadau dirgel AI sy'n mynd â bryd Sioned, Iestyn a Bryn mis yma - romcom y degawd gyda teaser am “rhywbeth” gan Sam Altman a Jony Ive, a guest appearance gan Nick Clegg i roi chi off eich swper. Yn wahanol i'r arfer mae'r criw wedi gwylio ffilm actually da ar gyfer y #Ffilmdiddim - y music biopic i ladd y genre (wrth ei dorri yn ei hanner natch) Walk Hard. Diolch o galon i chi gyd am wrando, diolch i'n cyfranwyr (https://ko-fi.com/haclediad) caredig, a diolch i Iestyn am gynhyrchu a golygu'r sioe

    Sean a'i Scheepy Shwetah

    Play Episode Listen Later Apr 29, 2025 193:20


    Croeso i Haclediad mis Ebrill! Mae Bryn, Sions a Iestyn nôl efo mwy o farn heb ymchwil na gwybodaeth

    Con-boocha

    Play Episode Listen Later Apr 6, 2025 145:26


    'Ble mae'r Haclediad diweddaraf di bod?' da ni'n clywed chi'n holi. Wel, mae rhediad o cursed episodes wedi torri cynhyrchydd, boi sain ac enaid y podlediad - so ddefnyddion ni'r sweet sweet arian sponcon i anfon Iest off ar meditation retreat tra bo Bryn a Sioned yn ffaffian am loose leaf tea neu rw nonsens dosbarth canol arall. Ar bennod yma'r Haclediad - ni'n trafod Teslas, De-Americaneiddio ein bywydau, Drinkfluencers a Signal-gate (gafodd y bennod ei recordio CYN cyhoeddiad manylion y Switch 2

    The Pope's Sgwishi Sobrasada Excorcist

    Play Episode Listen Later Mar 2, 2025 166:21


    Mae criw'r Haclediad nôl gyda cursed episode arall o'ch hoff tech/existential dread/ffilms gwael podcast (yn y Gymraeg!) Mis yma bydd Bryn, Sions a Iestyn yn galaru am Skype, trafod cêrio am bethe a phethe sydd wedi eu neud â gofal, a haunted trailer newydd Alexa plus (pam fod angen brên dy hun? Just gad i big brother Jeff Bezos neud o!) Hefyd gwrandwch allan am coverage byw o #CIG2025 yn trendio ar Bluesky as it happened, a'r criw yn bathu'r term "Booze Miles" am y cysyniad sut mae gwin wastad yn neisiach dramor

    Blunder Woman 1984 // "Haclediad is good, but it can be better"

    Play Episode Listen Later Feb 1, 2025 169:22


    Croeso i flwyddyn newydd gyffrous ym myd yr Haclediad... psych! Na, just blwyddyn arall o ni'n tri yn arwain chi trwy storm

    Penblwydd Morb-us i ni

    Play Episode Listen Later Oct 28, 2024 169:06


    Mwah ha hahclediad Calan Gaeaf hapus i chi wrandawyr - ydych chi'n barod am hunllef fwyaf rhieni... ffôns yn yr ysgol?!

    Môr-BADron

    Play Episode Listen Later Sep 29, 2024 170:23


    Tymor newydd, pennod newydd arrr-dderchog o'r Haclediad i chi... yn llawn môr ladron, language models a trips cyffrous i'r swyddfa bost...?! FfilmDiDdim y mis ydy'r llanast epic 'Cutthroat Island', a diolch enfawr i Matt M a Jamie am eu cyfraniadau ac i Iestyn am lywio'r good ship Haclediad

    The Wrong Sexy Trousers

    Play Episode Listen Later Aug 31, 2024 169:36


    Mae'r haf ar ben, ond gadewch i Iestyn, Bryn a Sioned fynd â chi am un fling gwyliau arall... Mis yma da ni'n cael braw efo Pixel 9 Google, sy'n stwffio tech AI Gemini mewn i bob twll a chornel - a fyddwn ni'n gallu trystio unrhyw lun ffôn byth eto? Byddwch yn barod am Iest Test arall ar ôl trip i drio'r Vision Pro yn y siop Apple; a'r ffilmdiddim y mis ydy'r ‘camp'waith Y2K Entrapment - Abertawe's finest yn erbyn y lasers coch na, be gei di well? Diolch i Iestyn am gynhyrchu'r sioe, i bob un ohonoch sy'n gwrando, a diolch arbennig i chi sy'n cyfrannu'n fisol

    Mae'r Sharks ma'n In-Seine

    Play Episode Listen Later Jul 31, 2024 202:29


    Clasur arall o barti haf sy'n dod i'ch clustiau chi mis yma - ymunwch â Bryn, Sions a Iestyn i ddeifio i'r Seine, teithio i Mexico a malu pob terminal Microsoft welwn ni. Outage fawr Crowdstrike, search GPT, Archif Ddarlledu Cymru a llawer mwy fydd yn yr epig yma i chi wrando ar y traeth

    Hac the Planet!!

    Play Episode Listen Later Jun 29, 2024 171:15


    "I am a Haclediad, and this is my manifesto. You may stop this podcast, but you can't stop us all... " Y flwyddyn yw 1995, mae sbectols bychan a rollerblades yn bla ar ein strydoedd, a mae 'Hackers' yn dy siop video leol... ochenaid dyddiau da. Yn y bennod yma o'r Haclediad (sy'n brysur troi mewn i Milennial hiraeth cast) bydd Iest, Sions a Bryn yn trafod:

    Paned with the Apes

    Play Episode Listen Later May 28, 2024 195:25


    Yn parhau'r run o benodau melltigedig, trïwch sbotio lle wnaeth Sioned ddiffodd switch trydan ei set up cyfan ynghanol y sioe yma ⚡

    Mae 'na ffilms gwell Argylle...

    Play Episode Listen Later Apr 28, 2024 160:47


    Shhhh, peidiwch gadael y gath o'r cŵd am gynnwys Haclediad mis Ebrill... y cyfan allwn ni ddeud ydy bod yr Humane AI pin yn siomedigaeth a mai Argylle ydy o bosib y Ffilmdiddim GWAETHAF hyd yn hyn (yup, waeth na Diana the Musical

    Dune i'm, ‘de

    Play Episode Listen Later Mar 31, 2024 168:15


    Pasg hapus... neu ffŵl Ebrill? Penderfynwch chi! OK, mae 'na newyddion tech i'w gael, ond mae pennod Mis Mawrth yn un Ffilm Di Ddim ffest go iawn... diolch i ffrind y sioe Ross McFarlane, mae Bryn, Sions ac Iest wedi gwylio DUNE (1984). Dy'n ni ddim yn rhy siŵr os ydyn ni'r un bobl ar ei ôl o, ond tiwniwch mewn i glywed Diolch i bob un ohonoch chi sy'n gwrando, cyfrannu (https://ko-fi.com/haclediad) a chefnogi ni bob mis - a diolch arbennig i Iest am waith arwrol golygu a chynhyrchu'r sioe mis yma

    fear dune dy diolch ross mcfarlane ebrill
    Ddim cweit yn Taron 12

    Play Episode Listen Later Feb 28, 2024 189:32


    “Haul y gwanwyn, gwaeth na gwenwyn” meddai'r Nains, so anwybyddwch y pelydrau egwan yna, ffendiwch flanced a cwtshwch fyny am bennod Chwefror 2024 o'ch hoff podlediad tech-ffilm-sortof! O'r diwedd byddwn ni'n mynd i'r berllan i weld be di'r ffys am yr Apple Vision Pro, a wedyn syllu'nyn gegrwth ar fideos AI diweddaraf Sora. I'r rhai ohono chi sy'n joio'r podcast-within-a-podcast, mae'r #FfilmDiDDim yn... ofnadwy?! Mi oedd na LOT o emosiynau cryf wrth drafod (Not your Daddy's) Robin Hood (2018), y Robin Hood gwaethaf erioed?! Diolch i bawb sy'n gwrando a chefnogi (https://ko-fi.com/haclediad) - chi werth y byd!

    Rebal Moon Wîcend

    Play Episode Listen Later Jan 28, 2024 180:37


    Diwedd mis Ionawr, tywydd ofnadwy, ond mae na gwmni da a ffilm gwael genno ni i'ch cadw i fynd! Bydd Bryn, Iestyn a Sions yn trafod sgandal Horizon, Gladiators, dyfais ddigidol Rabbit (ond dim honna sori), memory hole Bryn am Bwncath ac amserlennu bysus efo AI. Mae'r ffilmdiddim yn LLANAST o gynhyrchiad gan un o feistri'r genre - Rebel Moon gsn Zack Snyder. Tybed pa un o'r criw oedd dioddef PMS gwaeth na'r arfer o'i herwydd?

    A Christmas Twistmas

    Play Episode Listen Later Dec 20, 2023 151:43


    Large Language Model Croft: Tomb Raider

    Play Episode Listen Later Nov 29, 2023 160:51


    Gyda S4C yn sacio un pennaeth ac Open AI yn sacio/ddim sacio un nhw, dyma bodlediad i chi sy wastad dan yr un arweinyddiaeth gadarn... ond sydd hefyd ddigon twp i wylio ffilms ofnadwy bob mis

    Tri Gwrach, un Pwmpen

    Play Episode Listen Later Oct 31, 2023 171:12


    Ma genno ni bennod mwy sgeri na climate change i chi Mis yma - neu mwy sgeri nac AI oleia

    SpecsDols G.I. Ken

    Play Episode Listen Later Sep 24, 2023 164:05


    Hwciwch y pumpkin spice lattes na i'ch veins i ddathlu dechre'r hydref efo Bryn, Iest a Sions

    Bwncath Seepage

    Play Episode Listen Later Aug 28, 2023 177:03


    Croeso i blow out diwedd y gwyliau i griw'r Haclediad - da ni'n rhoi Haf 2023 i'w wely gyda kraken o benod i chi ☺️ Ymunwch gyda Bryn, Sions ac Iestyn i weld final death throws TwiXter, yr argymhellion i gael awdurdod darlledu i Gymru a holi sut allith yr Eisteddfod ehangu allan o'r maes yn ddigidol... hyn oll a'r campwaith o FfilmI'rDim "Master and Commander: Far side of the World", pa weevil basa chi'n dewis?

    Treklediad: Deep Space Bryn

    Play Episode Listen Later Jul 29, 2023 170:26


    O'r diwedd, mae Bryn, Sions a Iestyn wedi ffendio ffordd i neud yr Haclediad yn hydynoed mwy o niche podcast na'r arfer... Ni'n neud pennod ar ffilm Star Trek

    Caernarfon Has Fallen

    Play Episode Listen Later Jun 26, 2023 162:44


    Rhy boeth i gysgu? Aircon yn freuddwyd pell? WEL, co' chi Haclediad mis Mehefin i ffanio chi efo breezy chat tri ffrind am dechnoleg, billionaires a ffilms rybish Byddwn ni'n sipian coctêls oer a thrafod Reddit, VR Headset freaky newydd Apple, trip Bryn i dŷ'r Cyffredin a FfilmAmDdim-DiDdim waethaf (?) ein run ni o 40 hyd yn hyn: London has Fallen. Diolch o galon i bob un ohonnoch chi sy'n gwrando ac yn cyfrannu (https://ko-fi.com/haclediad) bob mis - chi'n ridic a da ni'n meddwl y byd ohonoch!

    Byth Di Bod i Japan

    Play Episode Listen Later May 28, 2023 159:19


    Mae'r Haclediad yn cael ei recordio mewn golau ddydd o'r diwedd -yup, mae'r haf yn dod! Byddwch yn barod am FfilmDiDdim(AmDdim) ridic o boncyrs - yr anhygoel Adventures of Buckaroo Banzai Across the 8th Dimension

    AI Generated Gwynfor Evans

    Play Episode Listen Later Apr 29, 2023 160:03


    Be, pennod mis Ebrill YN mis Ebrill?! Ydy, mae'r Haclediad nôl i'w threfn arferol - gyda pennod jiwsi arall i'ch clustiau chi. Mis yma bydd Iest, Bryn a Sions yn trafod Humane AI a'i dyfais syth allan o'r ffilm "She", Alarms UK, Sioned yn ymuno â Mastodon fel rhywfath o hipster ac ein Ffilm Di Ddim Gymraeg gyntaf Y SŴN! A fydd Bryn yn cofio ei login S4C Clic? A fydd Sioned yn hitio'r sub standard tonic chydig yn galed? A fydd Iestyn yn pivotio i fod yn Anson Mount lookalike?! Yr atebion i hyn a llawer mwy yn Haclediad 121! Diolch am wrando, etc!!

    Pennod Mis Mawrth but make it Mis Ebrill / “Cocaine be?!”

    Play Episode Listen Later Apr 2, 2023 141:09


    Mae hi di bod yn 'bit of a Mis' i griw'r Haclediad - so dyma chi treat bach, pennod mis Mawrth, ond ym mis Ebrill! Gyda franchise killer o Ffilm di Ddim, yr infamous Divergent:Allegiant, llwyth mwy o scramblo brêns gyda AI a fideo brilliant newydd arall ar y Metaverse gan Dan Olson mae genno ni gwerth mis o sioe arall i chi AM DDIM! Os hoffech chi helpu allan efo costau creu'r sioe a bil therapi'r cyflwynwyr, taflwch bit coin neu ddwy drew i'n cyfrif Ko-Fi fan hyn (https://ko-fi.com/haclediad)

    The Iest and the Furious

    Play Episode Listen Later Feb 23, 2023 166:05


    Dewch am dro draw i diroedd pell Mastodon efo'r Haclediad mis yma - bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn gweld sut mae dechrau o'r dechrau ar rwydwaith gymdeithasol sy'n chydig o ddrysfa o'r tu allan. Da ni yma i ddal eich llaw i neud y naid! Byddwn ni hefyd yn rhoi Iest Test i'r frwydr am hawliau trans, yn ogystal â gwylio ffilm di ddim sy mor ridiculous allwn ni ddim hyd yn oed: Furious 7 Diolch o galon i bob un ohonoch chi sy'n gwrando, cefnogi a chyfrannu bob mis - caru chi!

    Sh*tcake Mushrooms

    Play Episode Listen Later Jan 29, 2023 150:21


    Blwyddyn newydd dd- wps! OK so mae'r Haclediad braidd yn hwyr efo'r cyfarchion, ond dyma chi gwerth mis arall o #cynnwys tech a pop culture i'ch cadw i fynd yn 2023! Da ni'n popio draw i CES i weld skins newydd i dy gar, sensor piso a sut i optimeiddio dy hun i fod yn super hiwman. Ond pwy sydd angen hiwmans pan fydd AI yn neud y job drosa ni eniwe? Ffilm di ddim y mis ydy'r epic oesol Warcraft gan ffrind y sioe Duncan Jones - a bydd Iest, Bryn a Sions yn argymell beth ddylai chi wylio yn lle hwnnw yn yr after party. Joiwch, diolch am bob cyfraniad (https://ko-fi.com/haclediad) a welwn ni chi mis nesa!

    Sharknadodolig on Ice

    Play Episode Listen Later Dec 24, 2022 183:03


    Da ni'n dathlu heuldro'r gaeaf yn yr unig ffordd bosib eleni - efo llwyth o booze a ffilm ofnadwy(o dda!) Iep, mis yma ni'n parhau i CSI-io diwedd Twitter, yn gegrwth efo sgams FTX, ac yn dathlu FIND Y FLWYDDYN gan Iest - ffilm A CHRISTMAS ICETASTROHE (2014) Diolch o galon i chi GYD am wrando, cyfrannu a chefnogi elenni - welwn ni chi am fwy yn 2023

    Twit-Ty-Whodunnit

    Play Episode Listen Later Nov 30, 2022 171:53


    OK bawb, mae'n gwdyn cymysg o'r gwych a'r gwallgof heno ar eich hoff bodlediad tech-a-phopeth arall, croeso ir gaeaf! Setlwch nôl efo mulled wine a neidiwch mewn i gornel crypto enfawr wrth i Iestyn drio esbonio be ddiawl sy'n digwydd

    NFCheese

    Play Episode Listen Later Oct 29, 2022 168:35


    Gyda tymor sbŵci ar ein pennau bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn neidio mewn i newyddion tech/bywyd/popeth yr hydref - ydy Rishi Sunak yn crypto bro? Hiraeth hen iPods a (diffyg) ethics apps cymdeithasol. (Recordiwyd y sioe cyn i Elon Musk actually brynu Twitter tho, sori!) Ffilm di ddim y mis ydy John Carter, ydy'r 10 mlynedd ers iddo agor wedi newid y feirniadaeth arno…? (sboilers: mae un o'r criw yn flin am y peth!) Diolch o galon eto i bawb sy'n gwrando a chyfrannu i'r sioe bob mis

    Contrepreneurs

    Play Episode Listen Later Sep 30, 2022 180:38


    Oeddech chi'n meddwl bod dim Haclediad am fod mis yma? Dim y fath lwc, yn hwyr neu'n hwyrach dyma hi, Haclediad mis Medi! Mae Bryn yn ôl o'i wyliau yn yr Eidal (dydi o ddim yn licio siarad amdano) ac yn barod i drafod newyddion tech efo Iestyn a Sioned. Bydd y criw yn trafod fideo newydd Dan Olson am Evans passive income, hardware newydd Amazon a cynhyrchiad theatr / ffilm / arlein newydd trippy “Galwad”. Yn fwy na hyn, bydd y criw yn trafod o bosib y ffilm di ddim di-ddimiaf ohonynt i gyd: MOONFALL (spoilers: pa un o'r tri sy fwya blin efo hwn? The answer might surprise you!) Diolch o galon i bawb am gefnogi a gwrando - os hoffech chi gefnogi ni, taflwch geiniog it het fan hyn (https://ko-fi.com/haclediad), neu rhannwch ni gyda'ch ffrindiau!

    RRR-Bennig

    Play Episode Listen Later Aug 29, 2022 158:02


    Mae'r tech yn eilradd i'r ffilm y mis yma - gyda Iestyn, Bryn a Sions yn taclo'r Ymerodraeth Brydeinig yn y FFORDD MWYAF EPIC trwy wylio/profi RRR

    Rheol Goldblum's Law

    Play Episode Listen Later Jul 30, 2022 145:01


    Dyma hi, parti haf (arall) yr Haclediad - a mae hi just digon hir i bara'r dreif i'r sdeddfod

    Anadin Skywalker: The Cursed Haclediad

    Play Episode Listen Later Jun 29, 2022 163:56


    Meddwl mai dim ond Iesu Grist oedd yn gallu atgyfodi pethe o farw'n fyw? Meddyliwch eto - trwy rhyw wyrth mae'r criw yn cyflwyno Pennod 111 i chi: The Cursed Haclediad. Mae na newyddion sentient chatbots a'r Apple WWDC yn ogystal â Ffilm di Ddim rybish go iawn (Jumper gyda Hayden Christensen);ond yn bwysicach na hynny... Mae na bennod wedi ei ryddhau mis yma diolch i Iestyn Grist ✝️

    Wild Mountain Thymecoin

    Play Episode Listen Later May 24, 2022 141:44


    Croeso i Haclediad arall sy'n gofyn “ydy gwneud acen Wyddelig, pan ti'n amlwg ddim yn Wyddelig, yn dderbyniol?” Mae'r ateb i hwn, a'ch holl gwestiynau tech, yma ar bennod 110 o'r Haclediad. Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn mynd i Gornel Crypto Caernarfon, siarad efo dy Sonos, herio Netflix a siarad am y “Ffilm Di Ddim gwaethaf hyd yn hyn” - Bryn Salisbury Diolch i chi gyd am wrando bob mis, ni'n joio llenwi'ch clustiau efo'r audio equivalent o'r distraction dance - os chi awydd ymuno â'r criw ffyddlon o gyfranwyr, taflwch cwpl o bunnoedd i'r pot Ko-rfi (https://ko-fi.com/haclediad) ☺️

    House of Chŵd-cci

    Play Episode Listen Later Apr 25, 2022 148:20


    Os nad yw'r teitl rhy off-putting i chi, dyma Haclediad mis Ebrill

    BMX Bryndits

    Play Episode Listen Later Mar 27, 2022 162:15


    Mae'n dymor newydd, felly dyma bennod ffresh lliwgar i'r gwanwyn i chi ffam yr Haclediad - mwynhewch 2+ awr o Bryn, Iestyn a Sions yn eich clustiau. Mae ganddo ni scoop o newyddion tech go-iawn gan Iest - app Speechify a'i tech llais text-to-speech Cymraeg sy'n curo Siri. Hefyd, y newyddion tech allai helpu droi'r llanw yn rhyfel torcalonnus Iwcrain. Ffilm di ddim y mis ydy'r ridic/hyfryd/weird BMX Bandits o 1983 - ac with gwrs mae na sbrinclad o awgrymiadau ffilms, streaming a (old skool) llyfrau i gael chi trwy'r mis nesa. Diolch i bawb sy'n gwrando, ac i'r legends sy'n cyfrannu i'n Ko-fi (https://ko-fi.com/haclediad) - chi'n wych

    Hamiltwrd

    Play Episode Listen Later Feb 18, 2022 150:41


    Tro yma bydd Bryn, Iestyn a Sions yn brwydro trwy hellscape teulu'r Windsors i gadw cwmni efo chi am y 2~ awr nesa. Yn ogystal â thrafod toxic Roblox, rhaglen ddogfen ‘The Instagram Effect' a ffilm ddogfen anhygoel Dan Olson ‘Line Goes Up -The Problem with NFTs'; byddwn ni'n eich cyflwyno i erchylltra ‘Diana - The Musical'. So diolch i Sioned am awgrymu hwna i ni gyd, a sbwylio mis pawb. Gwd job

    Hei Pen Pidyn

    Play Episode Listen Later Jan 24, 2022 169:35


    Mae'n amser dechrau'r flwyddyn efo pennod XXL arall o'ch hoff podlediad-am-tech-ond-ddim-rili

    Bataverse

    Play Episode Listen Later Nov 23, 2021 149:50


    Bondigrybwyll

    Play Episode Listen Later Oct 28, 2021 205:47


    Bron i 3 awr o gadgets, sgwrsio suave a gwisgoedd arbennig... Bond film newydd neu Haclediad #103? Pam ddim yn ddau?! Yup, mae'ch hoff cusping Milennials chi nôl efo newyddion yr N64 y dod i Switch, y Facebook Files a #FfilmdiDdim arall o'r 90au - y clasur am hawliau darlledu - Tomorrow Never Dies Diolch am danysgrifio - cofiwch bod hi'n beryg i wrando ar yr Haclediad mewn un go, defnyddiwch y chapter markers gwych gan Iest #podresponsibly

    Zig-a-Zig-Nah. Just nah.

    Play Episode Listen Later Sep 19, 2021 177:04


    S**t Handwich

    Play Episode Listen Later Aug 28, 2021 154:49


    Mae'r haf yn dod i ben, ond mae gan yr Haclediad bennod mor hir â phenwythnos gŵyl y banc i chi joio... O'r teslabot, ac amddiffyn plant gan Apple i Only Fans yn banio pr0n mae na rywbeth i bawb ma — a ffilm-di-ddim sy'n lanast o franchise starter, Suicide Squad (2016) Hyn i gyd ac awgrymiadau be i wylio/darllen/gwrando am y mymryn o haf sydd ar ôl yn 2021 - diolch am wrando

    Iawn Cant?

    Play Episode Listen Later Jul 30, 2021 170:41


    Dros yr 11 mlynedd diwethaf mae Bryn, Sions ac Iest wedi creu miloedd o oriau o #cynnwys i'ch clustiau chi — a dyma benllanw eu celf clywedol — pennod 100 o'r Haclediad! Yma byddwn ni'n trafod bach o tech (podlediad ‘Hyfryd iawn' ar Spotify, app Newydduon S4C), bach o ethics (rhannu data iechyd) a cachlwyth o stwff da i wylio ar streaming. I topio'r cyfan, ymunwch â ni am ein trip cyntaf i fyd ffilms di ddim Liam Neeson efo'r juggernaut (geddit) o #FfilmdiDdim Ice Road Diolch am wrando!

    Sbeshal Audio

    Play Episode Listen Later Jun 21, 2021 180:33


    Croeso i'ch chill hang misol am tech, TV a ffilms mor wael mae nhw'n... wael?! Mis yma mae Bryn, Iest a Sioned yn trafod holl ddatblygiadau shiny newydd WWDC Apple; yn rhoi tro ar ffilm di ddim "Ender's Game" ac wrth gwrs yn cynnig cwpl o oriau o #cynnwys i gael chi trwy weddill 2021 efo gwên ar eich gwyneb ☺️ Welwn ni chi mis nesa am bennod... 100

    Cream of the Cymoedd

    Play Episode Listen Later May 23, 2021 201:34


    OK, so chi’n edrych ar y running time yna ac yn meddwl “be ddiawl alle gyfiawnhau 3hr+ running time?” SPECIAL GUEST, na be! Mis yma, mae Bryn, Iest a Sions yn croesawu Mr Game and Watch ei hun, Gav Murphy i’r sioe! Rhan o’r RKG Video collective, yr enwog @CymroGav (https://Twitter.com/cymrogav) ar twitter a basically y boi ma’r BBC yn ffonio i gael rwyn i siarad am ‘games a ballu’. Bydd Gav a’r criw yn siarad am SUPER MARIO BROS (1993) - diolch massive iddo am ddod ar y sioe ☺️ Checkiwch y chapters i weld beth fyddwn ni’n trafod, mae Iest yn gweithio mor galed arno nhw bob mis, sai’n embarrasing i chi fethu’r hidden gems ‘na Subscribiwch a rhowch cash i ni ac ati, worrevs Special Guest: Gav Murphy.

    Non Fungible Gojira

    Play Episode Listen Later Apr 24, 2021 165:22


    Tro ‘ma ar eich hoff substitute am fywyd cymdeithasol tan i’r pybs agor: bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn checkio allan fights mawr byd tech, a fights mawr Kaiju yn Godzilla King of the Monsters. Ydy NFTs yn morally ofnadwy, neu’n ddyfodol disglair i’r byd celf arlein? Gav Murphy vs Griff Lynch yn nhudalennau Golwg; Mae Bryn yn couch-2-5-k-io, Sions yn optio allan o consumerism tra’n joio app Newyddion S4C, a Iest yn ecseitio am yr Apple event diweddaraf. Ond chi yma am y lols, so sgipiwch mlaen i weld pam fod Godzilla 1954 yn stynnar o ffilm, a pham bod gan baddie GKOTM falle bwynt, er mor wael di’r movie o 2019. Diolch eto am wrando, welwn ni chi mis nesa!

    Claim Haclediad – Hacio’r Iaith

    In order to claim this podcast we'll send an email to with a verification link. Simply click the link and you will be able to edit tags, request a refresh, and other features to take control of your podcast page!

    Claim Cancel