Podcasts about cymreig

  • 25PODCASTS
  • 53EPISODES
  • 36mAVG DURATION
  • ?INFREQUENT EPISODES
  • Apr 30, 2024LATEST

POPULARITY

20172018201920202021202220232024


Best podcasts about cymreig

Latest podcast episodes about cymreig

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill y 30ain 2024.

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Apr 30, 2024 18:18


Ar Blât – Elinor SnowsillY cyn-chwaraewr rygbi Elinor Snowsill oedd gwestai Beca Lyne-Pirkis ar y rhaglen Ar Blât yn ddiweddar, gyda'r ddwy yn trafod ryseitiau, atgofion a sut mae bwyd yn effeithio ar ein bywydau ni bob dydd. Mae coginio yn rhan fawr o fywyd teulu Elinor felly siawns ei bod hi wedi bwyta'n dda ac yn iach pan oedd hi'n ifanc…?Cyn-chwaraewr Former player Rysetiau Recipes Atgofion Memories Gwrthod To refuse Cytbwys Balanced Adnabyddus Famous Wastad AlwaysDros Frecwast – Toiledau CyhoeddusWel dw i'n siŵr bod Elinor yn bwyta'n iachach nawr nag oedd hi pan oedd hi'n ifanc! Ar fore Llun yr 22ain o Ebrill, diffyg toiledau cyhoeddus oedd yn cael sylw ar raglen Dros Frecwast. Buodd Gethin Morris Williams yn sgwrsio gyda Lois Mererid Edwards, o Langefni ar Ynys Môn. Fel cawn ni glywed, mae Lois yn diodde o gyflwr meddygol sy'n golygu bod toiledau cyhoeddus yn bwysig iawn iddi hi … Diffyg Lack of Cyflwr Condition Coluddyn Bowel Rheolaeth Control Straen Stress Croen Skin Ar hap Randomly Ailadroddus Repetitious Cyfleusterau cyhoeddus Public conveniences Cymryd yn ganiataol Taking for grantedBore Cothi – Menna WilliamsLois Mererid Edwards oedd honna'n sôn am pa mor bwysig yw bod digon o doiledau cyhoeddus ar gael, yn enwedig i'r rhai sy'n diodde o gyflwr meddygol. Menna Williams o Langernyw yn Sir Conwy ydy enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes eleni. Gwobr yw hon sy'n cael ei rhoi bob blwyddyn yn Eisteddfod yr Urdd, am gyfraniad sylweddol i fywyd pobl ifanc Cymru. Wythnos diwetha, Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shân Cothi yn gynnes, a chafodd hi sgwrs fach gyda Menna ar y rhaglen: Tlws Trophy Cyfraniad sylweddol A substantial contribution Braint A privilege Dirprwy Deputy Cyfeilio To accompany (on piano) Amyneddgar iawn Very patient Llenni Curtains Deuawd Duet Pan ddaru o Pan wnaeth e Ienga Ifanca Anrhydedd An honourBeti a'i Phobol – Shelley ReesA llongyfarchiadau mawr i Menna Williams ar ennill y Tlws arbennig yna, dw i'n siŵr bydd hi'n mwynhau'r seremoni yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Shelley Rees yr actores, a chyflwynydd Radio Cymru oedd gwestai Beti George ar ei rhaglen nos Sul. Yma mae Shelley yn sôn am actio. Mae hi wedi perfformio ers pan oedd hi'n blentyn bach, ond nawr bod hi'n bum deg oed tybed ydy hi'n anoddach iddi hi gael gwaith actio? Cyflwynydd Presenter Sefyll yn llonydd Standing still Menywod Merched Arallgyfeirio Diversify Ymgyrchu To campaign Egni Energy Drygionus Naughty Yn go glou Yn eitha cyflym Mam-gu Nain Taw MaiAled Hughes – SingaporeYchydig o hanes gyrfa actio Shelley Rees yn fanna ar Beti a'i Phobol. Basen ni'n disgwyl clywed sgwrs Gymraeg mewn ystafell athrawon, neu gweld eisteddfod mewn ysgol yng Nghymru …ond yn Singapore? Wel dyna sy'n digwydd mewn un ysgol draw ar yr ynys bell honno, diolch i bennaeth o Gymru, sydd wedi recriwtio nifer o athrawon Cymreig i weithio yn yr ysgol. Rhys Myfyr, un o athrawon yr ysgol fuodd yn sgwrsio gydag Aled Hughes: Pennaeth Head Rhyfedd Strange Rhyngwladol International Wedi ei leoli Located Diwylliannol Cultural Hap a damwain Luck Denu To attract Ymddiried To trust Cystadleuol CompetitiveDros Ginio – LlyfrauEisteddfod ysgol yn Singapore, gwych on'd ife? Tybed faint o lyfrau dych chi'n llwyddo i'w darllen o glawr i glawr? Yn ddiweddar, mae sawl ap yn crynhoi cynnwys llyfrau, ond ydy hyn yn mynd i gael effaith ar werthiant llyfrau? Ar Dros Ginio ddydd Mawrth diwetha, buodd Jennifer Jones yn holi'r awdur a'r golygydd, Elinor Wyn Reynolds am ei barn: Clawr Cover Crynhoi cynnwys To summarise the content Cyfrolau Books Adolygiadau Review Yn ei chrynswth In its entirety Drwgdybus Suspicious Yn hytrach na Rather than Bod dynol Human being Bygythiad Threat Annog To encourage Agor cil y drws To open the door slightly

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd y 14eg.

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Nov 14, 2023 17:33


Clip 1: Bore Cothi Bore Llun y 6ed o Dachwedd, Mici Plwm oedd yn cadw cwmni i Shân Cothi. Gan ei bod hi'n dymor piclo a gwneud siytni, dyma gael sgwrs efo'r prif biclwr ei hunan. Yma mae Mici yn sôn am nionod brynodd o yn Roscoff, Llydaw, a sut mae o am eu piclo mewn cwrw: Nionod Winwns Llydaw Britanny Ar gyrion Ger Bragdai Breweries Arbrofi To experiment Eirin Plums Eirin tagu Sloes Hel Casglu Y werin The common people Byddigion Posh people Clip 2 – Rhaglen John ac Alun. Www, nionyn wedi ei biclo mewn cwrw, swnio'n ddiddorol yn tydy? Roedd ‘na barti mawr ar Raglen John ac Alun ar y 5ed o Dachwedd– parti penblwydd y rhaglen yn 25 oed! Ac mi ymunodd Dilwyn Morgan yn yr hwyl hefyd, a buodd hi'n gyfle i hel atgofion. Yma, mi gawn ni glywed clip o'r archif sef rhaglen gyntaf John ac Alun cafodd ei darlledu yn ôl yn Ebrill 1998: Hel atgofion Reminisce Darlledu To broadcast Dipyn o gamp Quite an achievement Para To last Cyflwyno Presenting Cynulleidfa Audience Wch chi be? You know what? Cefndir Background Clip 3: Dros Ginio John ac Alun yma o hyd, ac yn boblogaidd iawn gyda gwrandawyr Radio Cymru. Yn ddiweddar mae llawer mwy o bobl ifanc yn delio efo eco-bryder, sy'n cael ei achosi drwy boeni am effeithiau newid hinsawdd. Mae Fflur Pierce o Ddyffryn Nantlle yn un o'r rheini, a buodd hi'n sôn wrth Cennydd Davies wythnos diwetha am y profiad o fyw efo'r cyflwr hwn: Eco-bryder Eco anxiety Newid hinsawdd Climate change Cyflwr Condition Yn fengach Yn ifancach Baich A burden Teimlo'n euog Feeling guilty Rhwystredig Frustrating Gwyddonwyr Scientists Sbio Edrych Amgylchedd Environment Clip 4: Newid Hinsawdd a Fi Does na ddim llawer o fanteision i newid hinsawdd nac oes, ond mi glywon ni am un fantais ar y rhaglen Newid Hinsawdd a Fi bnawn Sul y 5ed o Dachwedd. Aeth Leisa Gwenllian draw i Winllan y Dyffryn ger Dinbych. Mae newid hinsawdd yn golygu ei bod yn bosib cynhyrchu gwin yn Nyffryn Clwyd hyd yn oed. Yma mae Leisa yn sgwrsio efo perchennog y winllan, Gwen Davies sydd wedi dysgu Cymraeg: Cynhyrchu To produce Perchennog Owner Gwinllannoedd Vineyards Cynnydd sylweddol A substantial increase Yn yr un gwynt In the same breath Gwinwydd Vine Arallgyfeirio Diversify Datblygu To develop Aeddfedu To mature Cysgodi To shelter Clip 5: Rhaglen Ifan Ia, mae na sawl gwinllan wedi agor yng Nghymru dros y blynyddoedd diwetha yn does? Er dw i ddim yn cofio clywed am un mor ogleddol a Gwinllan y Dyffryn chwaith. Pob lwc a iechyd da i holl gynhwychwyr gwin Cymreig! Yn ddiweddar ar raglen Ifan, tra bod Hana Medi yn cadw ei sedd yn gynnes, sgwrsiodd Hana gyda Cefin Evans o glwb Dyfed Dirt Bikes. Mae Cefin wedi teithio yr holl ffordd o Gymru i'r Ariannin i wylio cystadleuaeth arbennig iawn, un o brif gystadlaethau Enduro'r Byd, a hynny gan fod ei fab Rhys yn cystadlu yno ar ran y clwb: Ariannin Argentina Eang Wide Mas Allan Bola Bol Paratoi To prepare Tlodi Poverty Gwerthfawrogi To appreciate Clip 7 – Beti a'i Phobol Wel dyna brofiad gwych i glwb Dyfed Dirt Bikes ynde? Dw i'n siŵr eu bod wedi mwynhau pob eiliad o'r daith arbennig i'r Ariannin. Bronwen Lewis, y gantores, oedd gwestai Beti George nos Sul ddiwetha. Cafodd Bronwen ei magu ym Mlaendulais a daeth yn amlwg ar y gwefannau cymdeithasol yn ystod y cyfnod clo, wrth iddi hi ganu o'i chartref a rhannu'r perfformiad ar Facebook. Mi fuodd Branwen yn cystadlu ar raglen deledu The Voice yn y gorffennol ac mae'n cyflwyno rhaglen ar Radio Wales ar foreau Sul ar hyn o bryd: Amlwg Prominent Gwefannau cymdeithasol Social media Yr aelwyd The home Tad-cu Taid Ffili Methu Arweinydd Conductor Mas Allan

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 4ydd o Orffennaf 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jul 4, 2023 11:56


Pigion Dysgwyr – Carie Rimes Perchennog Llaethdy Gwyn ym Methesda yng Ngwynedd yw Carie Rimes. Sgwrsiodd Carie gyda Shan Cothi wythnos diwetha, am wobr mae'r llaethdy newydd ei hennill ennill, sef y caws Cymreig gorau yng ngwobrau artisan Gwyl Gaws Melton Mowbray, a hynny am y trydydd gwaith yn olynol. Perchennog llaethdy Dairy owner Gwobr Award Yn olynol In succession Llefrith dafad Sheep's milk Unigryw Unique Tueddu i Tends to Llwyddiant Success Pigion Dysgwyr – Glastonbury A llongyfarchiadau mawr i Laethdy Gwyn am ennill y wobr fawr on'd ife? Ar Dros Ginio yn ddiweddar cafodd Cennydd Davies air gyda'r hanesydd pop Phil Davies. Buodd Phil yn edrych yn ôl dros Ŵyl Glastonbury gafodd ei chynnal yng Ngwlad yr Haf yn ddiweddar……. Gwlad yr Haf Somerset Darnau Pieces Digon rhwydd Easy enough Ro'n i'n synnu braidd I was rather surprised Amau To suspect Denu To attract Fel mae'r sôn Apparently Ei bai hi oedd o It was her fault Pigion Dysgwyr – Dr Owain Rhys Hughes Ddim pawb wedi plesio Phil Davies yn Glastonbury felly! Gwestai Beti George ar Beti a'i Phobol yr wythnos diwetha oedd Dr Owain Rhys Hughes . Mae'n dod yn wreiddiol o Benmynydd ar Ynys Môn, ac esboniodd e wrth Beti ychydig am system o'r enw Synapsis sef meddalwedd sy'n galluogi doctoriaid teulu i gael mynediad i system sy'n siarad gyda'r ysbyty a'r arbenigwyr Meddalwedd Software Galluogi To enable Arbenigwyr Specialists Yn rhad ac am ddim Free of charge Cystadleuaeth Competition Hyd yn oed Even Pigion Dysgwyr – Dros Ginio Dr Owain Rhys Hughes oedd hwnna'n esbonio pam bod Synapsis yn cael ei ddefnyddio yn Lloegr ond ddim yng Nghymru. Mae dwy fyfyrwraig o Ysgol Feddygaeth Caerdydd newydd gyhoeddi podlediad dan y teitl Paid Ymddiheuro. Elin Bartlett a Celyn Jones Hughes ydy eu henwau nhw, a dydd Mawrth diwetha ar Dros Ginio cafodd y ddwy sgwrs gyda Jennifer Jones. Dyma Elin yn gynta i i ddweud pam aeth hi ati i greu'r podlediad Wastad Always Unigol Individual Gwragedd Women Pigion Dysgwyr – Porthcawl Doedd gan Celyn fawr o ddewis cymryd rhan nag oedd? Aeth Caryl Parry Jones â ni i Borthcawl wythnos diwetha yng nghwmni Richard Howe ar gyfer yr eitem 24 awr yn…Dechreuodd Richard drwy sôn am ei fagwraeth yn y dre… Magwraeth Upbringing Ers sawl blwyddyn for a number of years Cefn gwlad The countryside Mas o'm cynefin Out of my habitat Gwylanod Seagulls Heidio To flock Pigion Dysgwyr – Mari Pritchard Richard Howe yn amlwg yn falch iawn o'i wreiddiau ym Mhorthcawl. Cafodd Shan Cothi sgwrs gyda Mari Pritchard ar ei rhaglen yr wythnos diwetha. Mae Mari wedi bod yn brysur ar hyd y blynyddoedd yn hyfforddi ac yn arwain corau yn y gogledd yn ogystal â gweithio ym maes Theatr Ieuenctid. Dyma hi i sôn mwy am ei magwraeth ym mhentre Rhosmeirch ar ynys Môn Cyflawni To achieve Anferthol Huge Meithrin To nurture Dawn Talent Cyfathrebu To communicate Ffin Border Ydy glei of course it is Elwa To gain Heriol Challenging Ysbryd Spirit

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 11eg o Ebrill 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Apr 11, 2023 13:58


Pigion Dysgwyr – Al Lewis Ar Beti a'i Phobol dydd Sul diwetha cafodd Beti gwmni y cerddor Al Lewis fel gwestai. Esboniodd Al sut aeth e ati i sgwennu llythyrau ac i e-bostio er mwyn cael gwaith yn Nashville, Tennessee a llefydd eraill…… Cynhyrchydd Producer O fewn Within Cerddoriaeth Music Dychmygu To imagine Breuddwydion Dreams Hynod dalentog Extremely talented Profiad anhygoel An incredible experience Hwb A boost Ar y trywydd iawn On the right track Cael ei barchu Being respected Pigion Dysgwyr – Sonia Edwards Profiad anhygoel i Al Lewis yn fanna yn Nashville, Tenesse. Buodd y nofelydd Sonia Edwards yn sgwrsio gyda Dei Tomos ar ei raglen yr wythnos diwetha am ei nofel ddirgelwch newydd. Dyma Sonia i sôn mwy…. Llacio To loosen Dirgelwch Mystery Llofruddiaeth Murder Yn feddalach Softer Ymgynghori To consult Ymchwil To research Cyffuriau Drugs Darganfod To discover Yn ymarferol Practical Doethuriaeth PhD Pigion Dysgwyr – Jason Mohammad A dyna i chi Sonia Edwards yn rhoi blas i ni ar ei nofel ddirgelwch newydd fydd yn y siopau'n fuan. Un o westai Shelley a Rhydian yn ddiweddar oedd y darlledwr Jason Mohammad. Mae Shelley a Rhydian yn rhoi cyfle i'w gwestai bob wythnos ddewis caneuon Codi Calon. Un o ddewisiadau Jason oedd “Pride in the Name of Love” gan U2. Dyma fe i sôn mwy am ei ddewis….. Yn ddiweddar Recently Darlledwr Broadcaster Codi Calon Raising the spirits Cyfweliadau Interviews Watsio Gwylio T'm bod Rwyt ti'n gwybod Atgofion Memories Pigion Dysgwyr – Theatr Wild Cats Y darlledwr Jason Mohammad oedd hwnna'n esbonio pam mai “Pride in the Name of Love” oedd ei ddewis fel Cân Codi Calon. Ac roedd angen codi calon arno gan i'w dîm, Dinas Caerdydd, golli i Abertawe yn y ‘Derby' Cymreig nes ymlaen y diwrnod hwnnw. Yn Aberhonddu mae yna gwmni theatr arbennig wedi ei sefydlu o'r enw Theatr Wild Cats sy'n gweithio gydag unigolion sydd ag anableddau dysgu. Mae Gwenno Hutchinson yn gwirfoddoli gyda'r Theatr ac esboniodd hi wrth Caryl Parry Jones ar ei rhaglen nos Fawrth, sut aeth ati i helpu'r criw….. Anableddau dysgu Learning disabilities Gwirfoddoli To volunteer Gweithgaredd Activity Yn gyfleus Convenient Haeddu To deserve Cyfraniad Contribution Cymdeithasu To socialise Celfyddydau Arts Pigion Dysgwyr – Vaughan Evans Gwenno Hutchinson oedd honna'n sôn am y gwaith pwysig mae Theatr Wild Cats yn ei wneud. Dych chi yn gwybod beth yw Northern Soul? Wel, daeth Vaughan Evans ar raglen Aled Hughes fore Llun wythnos diwetha i esbonio mwy am y symudiad cerddorol hwn…… Symudiad cerddorol Musical movement Tanddaearol Underground Curiad Beat Cefn gwlad The countryside Tywyll Dark Digalon Downhearted Pigion Dysgwyr – Dylan Rhys Parry A dyna ni'n gwybod llawer mwy am Northern Soul a'r Wigan Casino nawr, diolch i Vaughan Evans. Mae Dylan Rhys Parry wedi ei ddewis fel un o arweinwyr y rhaglen deledu S4C Ffit Cymru am 2023. Gweinidog yw Dylan sy'n byw yn Coety ger Pen-y-bont ar Ogwr, ond sy'n dod o Gaernarfon yn wreiddiol. Buodd Dylan yn sgwrsio gyda Heledd Cynwal fore Mercher diwetha a gofynnodd Heledd iddo fe'n gyntaf pam ei fod e wedi rhoi ei enw ymlaen i fod yn rhan o'r gyfres.…….. Gweinidog Minister Y gyfres The series Gwaed Blood Clefyd siwgr Diabetes Canlyniadau Results Ysgogiad Impetus Canrannau Percentages

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 7fed o Fawrth 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Mar 7, 2023 14:19


Pigion Dysgwyr – Handel Cyfansoddwr y mis ar raglen Shan Cothi fore Llun oedd George Freidric Handel. Ymunodd Geraint Lewis â Shan i sôn mwy am y ffigwr mawr yma ym myd cerddoriaeth glasurol. Dechreuodd Geraint drwy sôn am dad Handel… Cyfansoddwr Composer Parchus Respectable Cyfreithiwr Lawyer Offerynnau Instruments Colli ei dymer Losing his temper Cwato To hide Dianc To escape Deifiol Crafty Iachawdwriaeth! Goodness! (lit: salvation) Wrth reddf Instinctive Pigion Dysgwyr – Coffi Y cyfansoddwr Geraint Lewis oedd hwnna'n disgrifio sut dechreuodd gyrfa arbennig iawn Handel. Pnawn Llun ar Dros Ginio cafodd Cennydd Davies sgwrs gyda pherchennog cwmni coffi Poblado yn Nantlle, Gwynedd, sef Steffan Huws. Diben y sgwrs oedd ceisio dod i ddeall pam bod y diwydiant a'r diwylliant coffi mor boblogaidd y dyddiau hyn. Diben Purpose Diwydiant a diwylliant Industry and culture Deniadol Attractive Arogl Smell Cymdeithasol Social Hel atgofion Reminiscing Mam-gu a tad-cu Nain a taid ` Pigion Dysgwyr – William Owen Roberts Cennydd Davies a Steffan Huws oedd y rheina'n sôn am boblogrwydd coffi. Tasai rhaid i chi symud tŷ, oes yna bethau dylech chi gael gwared ohonyn nhw cyn i chi symud? Credwch neu beidio llyfrau mae'r awdur William Owen Roberts eisiau eu gwaredu, gan ei fod yn bwriadu symud tŷ yn fuan. Dyma fe'n esbonio pam wrth Beti George... Cael gwared o/gwaredu To get rid of Cafn Trough Llwythi Loads Tomen A heap Hel To collect Rhif y gwlith Innumerable (lit: as numerous as the dewdrops) Gwadd To invite Methu dygymod â Can't cope with Troednodyn Footnote Pigion Dysgwyr – CBD Yr awdur William Owen Roberts ddim yn hoff iawn o Kindle felly, dych hi'n cytuno gyda fe bod cael llyfr go iawn yn well? Bore dydd Mawrth ar ei raglen buodd Aled Hughes yn sgwrsio gyda Dafydd Leigh o Benybont, perchennog cwmni Joio CBD. Chwe blynedd yn ôl sylwodd Dafydd bod newidiadau bach yn digwydd yn ei iechyd, a chafodd ddiagnosis o Ulceritive Colitis, sydd yn gyflwr difrifol iawn. Dyma Dafydd yn sôn am beth wnaeth e ei hunan i drio gwella ei iechyd, ac osgoi cymryd gormod o dabledi. Cyflwr difrifol Serious condition Anghyfreithlon Illegal Ymchwil Research Yn y pendraw In the end Creu olew fy hun Create my own oil Cyfrifoldeb Responsibility Lleihau To reduce Arwain To lead Pigion Dysgwyr – Owen Williams A phob lwc i Dafydd o ran ei iechyd a'i fusnes on'd ife? Ar raglen Caryl Parry Jones nos Fawrth, rhoddodd Caryl her i Owen Williams i greu Coctel arbennig i ddathlu Dydd Gwyl Dewi a dyma i chi gyngor Owen ar sut i wneud coctel Cymreig. Her A challenge Cyngor Advice Awgrymu To suggest Ysgawen Elderflower Siglo To shake Pigion Dysgwyr - Tryweryn Beth fasai Dewi Sant yn ei feddwl o goctel yn cael ei greu i ddathlu ei ŵyl, tybed? Mae yna bodlediad newydd wedi ei ryddhau ar BBC Sounds dan y teitl Drowned. Cyflwynydd y Podlediad ydy Betsan Powys a buodd hi'n sgwrsio amdano gyda Kate Crockett fore Mercher. Dyma i chi flas ar y sgwrs... Cyfrwng Medium Yn gyfarwydd Familiar Parhau To continue Arwyddocâd Significance Yn gyfansoddiadol Constitutionally Euog Guilty Tueddiad A tendency Prif beiriannydd Chief engineer Yn llwyr ddeall Completely understand Haenau Layers

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr 17eg 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jan 17, 2023 11:45


Pigion Dysgwyr – Kath Morgan 8.1 Gwestai Beti George ar Beti a'i Phobl wythnos dwetha oedd cyn gapten pêl-droed merched Cymru, Kath Morgan. Mae angen bod yn berson hyderus iawn i gymryd y swydd honno on'd oes? Wel nid felly yn ôl Kath... Cyn gapten Former captain Yn falch Proud Difaru To regret Braint An honour Ymfalchïo To be proud of oneself Cyfrifoldeb Responsibility Gormod o bwysau Too much pressure Mynnu To insist Cyfarwyddiadau Instructions Pigion Dysgwyr 10.1 – Gareth Bale O cyn-gapten tîm merched Cymru i gyn-gapten tîm dynion Cymru - Gareth Bale, a daeth y newyddion yr wythnos diwetha bod y pêl-droediwr enwog yn ymddeol. Dyma Nic Parri yn edrych yn ôl ar ei yrfa ar Dros Frecwast fore Mercher. Cyfadde(f) To admit Di-ri(f) Innumerable Annisgwyl Unexpected Ystyried To consider Syllu To stare Llusgo To drag Pencampwriaeth Championship Ysbrydoliaeth Inspiration Aruthrol Huge Breuddwydiol, euraidd Dreamy, golden Yng nghysgod In the shadow Pigion Dysgwyr – Aled Hughes 9.1 R'yn ni'n aros yng Nghaerdydd ar gyfer y clip nesa o raglen Aled Hughes. Cafodd Aled sgwrs gyda Tim Hartley am yr ymgyrch lwyddiannus i gael datblygwyr i ddefnyddio enwau Cymreig ar stad o dai sydd ar hen bencadlys BBC Cymru yn Llandaf. Dyma Tim yn sôn mwy am hanes y pencadlys a rhai o'r strydoedd sydd wedi ei henwi ar ôl unigolion enwog. Ymgyrch llwyddiannus A succesful campaign Datblygwr Developer Pencadlys Headquarters Unigolion Individuals Safle wreiddiol The original site Darlledwr Broadcaster Fel petai ysbrydion yna As if spirits were there Cawr Giant Cofnodi To record Sefydlydd Founder Cadw ar gof To keep on record Pigion Dysgwyr - Alun Gibbard 13.1 Mae'n braf gweld bod enwau Cymraeg ar ardal sydd â hanes pwysig iawn o ran yr iaith, on'd yw hi? Mae Shan Cothi yn gwahodd rhywun i roi Munud I Feddwl i ni bob dydd. Mae'r rhan yma o'r rhaglen yn rhoi munud i ni feddwl a sefyll yn ôl o brysurdeb ein bywydau bob dydd. Tro Alun Gibbard oedd hi fore Gwener. Dychmygwch Imagine Coedwig Wood Y tu draw Beyond Tirwedd Landscape Cysurus Comforting Gwrando'n astud Listen closely Cyfarwydd Familiar Sefyll yn rhydd Freestanding Ehangder The expanse Pigion Dysgwyr – Vicky Alexander 11.1 Munud i Feddwl ar ffurf llun bach yn fanna gan Alun Gibbard. Nos Fercher ar raglen Caryl cafodd hi sgwrs gyda Vicky Alexander o Lanbradach. Mae Vicky yn helpu yn Nghanolfan Soar ym Merthyr Tydfil a hi sydd yn rhedeg y siop lyfrau yno dyma hi i sôn mwy am y lle. Enfys Rainbow Cefnogi To support Cynhesrwydd Warmth Canolfan Gelfyddydol Arts centre Creadigol Creative

Menter Môn - Sgyrsiau am Gynlluniau / Talks About Projects

Gwrando ar pennod cyntaf cyfres podlediadau 'Wmbo' gan Scott Evans a Rhodri Prysor. Yn y pennod yma cliwch y ddau yn trafod eu perthynas a'r iaith a beth mae'n ei olygu i fod yn berson ifanc Cymreig.

Beti a'i Phobol
Meleri Davies

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Nov 13, 2022 50:35


"Cymuned, Amgylchedd, Economi - dyna ydy calon ein gwaith ni yn Partneriaeth Ogwen, Meleri Davies Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen yw gwestai Beti George. Cafodd ei magu ar y fferm Hendre yng Nghwm Prysor sydd rhyw 3 milltir o Drawsfynydd ar y ffordd i Bala a'r Fferm fynydd yn magu defaid Cymreig. Mae hi yn un o 4 o blant - y cyw melyn olaf. Dewi Prysor yr awdur ydi'r hynaf sy'n byw ym Mlaenau Ffestiniog, yna Manon sy'n byw yn Sir Fôn sy'n actores ac yn cynnal gweithdai, a mae Rhys sy'n ffermio adref , fo ydi'r 3ydd genhedlaeth i ffermio yno. Fel Prif Swyddog, mae Meleri yn angerddol am dyfu Partneriaeth Ogwen fel menter gymdeithasol sy'n gwneud gwahaniaeth – yn amgylcheddol, gymunedol ac economaidd. Mae wedi arwain ar brosiectau mwyaf y Bartneriaeth, yn cynnwys datblygiad Ynni Ogwen, canolfan Dyffryn Gwyrdd a throsglwyddiadau asedau. Ers ei phenodiad, mae wedi ennill gwobr Pencampwr Cynaladwyedd Cymru yng ngwobrau Academi Cynaliadwy Cymru a Green Energy Pioneer yng ngwobrau Regen Prydain. Dechreuodd Partneriaeth Ogwen yn 2014 drwy gael 3 cyngor cymuned yn gweithio efo'i gilydd, sef Llanllechid, Llandegai a Bethesda. Daeth y tri at ei gilydd i gyflogi un clerc yn hytrach na tri ac yna defnyddio yr arbed i gyflogi Meleri i ddatblygu prosiectau. Dechreuwyd y bartneriaeth efo Meleri'n gweithio 2 ddiwrnod yn unig a clerc am ddau ddiwrnod. Bellach cyflogir 23 o bobl, rhai yn rhan amser ac eraill yn llawn amser. Mae Meleri'n gweithio'n llawn amser ers sawl blwyddyn bellach ac yn magu 3 o blant gyda'i gwr Meirion. Cawn hanesion ei bywyd o Trawsfynydd i Nepal, ac mae hi'n dewis ambell i gân - gan gynnwys caneuon gan Lleuwen Steffan a Gruff Rhys.

Beti a'i Phobol
Rhiannon Evans

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Oct 2, 2022 49:48


Ers pum degawd, mae Gemwaith Rhiannon wedi bod yn ganolbwynt i dwristiaid a phobl leol fel ei gilydd yn nhref Tregaron. Sŵoleg oedd ei phwnc gradd ac mae ganddi ddoethur hefyd. Hi oedd y cyntaf erioed i wneud PhD yn y Gymraeg a hynny ar bwnc ymbortheg anifeiliaid, ond yn hytrach na dilyn y trywydd yma, fe drodd at fyd busnes ac agor siop grefftau yn Nhregaron. Roedd hi'n un o dri gafodd brynu aur Cymreig, ac mae ei gemwaith Celtaidd yn mynd o nerth i nerth. Mae hi wedi dysgu ei hun i wneud y gwaith.

Bwletin Amaeth
Diwrnod Agored Cymdeithas Defaid Mynydd Cymreig

Bwletin Amaeth

Play Episode Listen Later Sep 30, 2022 4:49


Siân Williams sy'n clywed mwy gan Elain Gwilym, ysgrifenyddes y Gymdeithas.

cymreig cymdeithas
Pod Sgorio
Pod 33: Mike Harris, Cadeirydd Y Seintiau Newydd

Pod Sgorio

Play Episode Listen Later Apr 13, 2022 38:08


Pod 33: Mike Harris, Cadeirydd Y Seintiau Newydd Dyma gyfle am sgwrs hir rhwng cadeirydd Y Seintiau Newydd, Mike Harris a chyflwynydd Sgorio, Dylan Ebenezer. Mae'r ddau yn trafod dyfodol y pyramid Cymreig, pêl-droed Ewropeaidd ac ail ennill y bencampwriaeth. Mwynhewch!

mike harris cymreig mwynhewch cadeirydd
Hefyd
Grant Peisley, Datblygwr Ynni a Thafarn Cymunedol o Awstralia | Pennod 11

Hefyd

Play Episode Listen Later Mar 17, 2022 41:35


Y mis yma rydyn ni'n clywed stori siaradwr Cymraeg o Awstralia, sy'n byw yn ardal Caernarfon, Gwynedd erbyn hyn. Mae Grant Peisley wedi cyfrannu'n fawr at gymunedau Cymreig - nid yn unig trwy ddysgu'r iaith, ond hefyd trwy prosiectau cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae mwy o wybodaeth a lluniau ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter

Pod Sgorio
Pod 27: Owain Fôn Williams a'r Tartan Army Cymreig

Pod Sgorio

Play Episode Listen Later Mar 3, 2022 37:44


Cyfle i glywed gan Tyler Roberts a Dan James, y Cymry sy'n serenu yn Leeds, Owain Fôn Williams sy'n trafod aelodau o garfan Rob Page sy'n chwarae eu pêl-droed yn yr Alban a chyfle i edrych 'mlaen at ein gêm fyw nos Wener rhwng Y Fflint a'r Seintiau Newydd.

The Hundred Podcast
The Hundred Podcast Hundred Redraft - Tân Cymreig with Ed Farrar

The Hundred Podcast

Play Episode Listen Later Feb 17, 2022 42:39


Ed and Charlie discuss Ed's Tân Cymreig side from our Hundred Redraft. Ed talks us through his new team motto, power words and his strategy for building his squad.

Hiraeth - Welsh Politics
Hiraeth Pod Trailer 2022

Hiraeth - Welsh Politics

Play Episode Listen Later Jan 31, 2022 0:30


Hiraeth is an independent Welsh podcast focussing on politics, policy and current affairs within Wales and looks at events beyond our borders from a Welsh perspective. Podlediad Cymraeg annibynnol yw Hiraeth, sy'n canolbwyntio ar wleidyddiaeth, polisi a materion cyfoes yng Nghymru ac yn edrych ar ddigwyddiadau y tu hwnt i'n ffiniau o safbwynt Cymreig.

Wild Horizons - the BMC hillwalking podcast
12 Eben Muse & Gerwyn Jones yn trafod Eifionydd

Wild Horizons - the BMC hillwalking podcast

Play Episode Listen Later Nov 19, 2021 40:43


Ardal yng Ngogledd-Orllewin Cymru, yn estyn o Ddwyrain Llŷn yr holl ffordd i Borthmadog, (ac efallai y tu hwnt, dibynnu pwy sy'n cael eu holi) ydi Eifionydd. Mae'r Afon Erch yn ffin Orllewinol iddi. Mae Moel Hebog, Moel y Gest, Moel Lefn a Moel yr Ogof yn rai o'r copaon di-ri sydd werth ymweld â nhw yno. Yn gyfarwydd iawn i ddringwyr diolch i glogwyni poblogaidd Tremadog, mae'na lawer i'w gynnig hefyd i'r rheini sydd well ganddynt gerdded, a thrwy gydol y cyfweliad yma, mae cariad Gerwyn at yr ardal yn disgleirio. Ynddo, mae hefyd yn rhannu pam ei bod hi'n ystyrlon iddo rannu delweddau o'r ardal ynghlwm â cherddi a phenillion Cymreig (wedi eu cyfieithu er mwyn i bawb gael eu mwynhau). Rydym hefyd yn trafod llwybrau unigryw i gael gweithio yn y mynyddoedd i greu bywoliaeth, a pham fod diwylliant ac iaith yn teimlo'n hollol anwahanadwy oddi wrth yr awyr agored. Mynegai Gerwyn ei farn ar bwysigrwydd arddull gynhwysol a chynrychioladol pan mae hi'n dod at yr iaith, yn enwedig yn y diwydiant awyr agored.   “Mae'r ffaith fod yr iaith Gymraeg yna yn bwysig fel bod pobl yn ei gweld hi.. Mae'r Gymraeg yn gallu mynd ar goll”.

Pod Sgorio
Pod 1: Croeso i'r Pod! Penwythnos agoriadol tymor 2021/22

Pod Sgorio

Play Episode Listen Later Aug 18, 2021 31:06


Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer sy'n trafod penwythnos agoriadol tymor 2021/22 y Cymru Premier, golwg ar y pyramid pêl-droed Cymreig a'r newyddion diweddaraf am y Cymry ar draws cynghreiriau Ewrop.

croeso cymreig ewrop cymry
Y Busnes Rhedeg 'Ma
Pennod 13 - Adolygiad efo Arwel

Y Busnes Rhedeg 'Ma

Play Episode Listen Later Jul 26, 2021 53:46


Pennod fach wahanol y tro yma, cyfle i ddal fyny a thrafod sawl peth o'r byd rhedeg gydag Arwel Evans o Running Review Cymru. Mae rasio'n dechrau nôl yn raddol felly mae'n gyfle i drafod rhai o'r rasus sydd wedi digwydd yng Nghymru gan gynnwys 10K Nick Beer yn Llandudno a chyfres 5K Athletau Cymru yn Y Rhyl a Phenbre. Mae'n gyfle hefyd y gael rhagolwg fach o athletau'r Gemau Olympaidd, y gobeithion Cymreig gyda Jake Hayward, ac ambell uchafbwynt arall o'r amserlen. Pennod syml, dim nonsens - rhowch wybod eich barn ac os hoffech chi glywed mwy o'r rhain yn y dyfodol.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 18fed Mehefin 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jun 18, 2021 15:12


S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” DEWI LLWYD ...pêl-droed wrth gwrs gan fod yr Ewros wedi cychwyn a Chymru wedi dechrau'n dda gyda gêm gyfartal yn erbyn tîm y Swistir. Cyn y gêm honno cafodd Dewi Llwyd air gydag Iwan Roberts cyn i Iwan deithio allan i Baku i weld dwy gêm gynta Cymru... Gêm gyfartal - Drawn game Gohirio - To postpone Pencampwriaeth - Championship Cefnogwyr - Fans Awyrgylch - Atmosphere Cenfigenus - Jealous Dw i'n amau dim - I don't doubt Crynhoi - To summarise Ymosodwr - Attacker Yn ddyfnach - Deeper SIOE FRECWAST A phob lwc i Gymru yn y gemau nesa on'd ife? Cofiwch mae'n bosib clywed sylwebaeth fyw ar holl gemau Cymru yn yr Ewros ar Radio Cymru. A phêl droed oedd pwnc Ffeithiadur y Sioe Frecwast gyda Caryl, Huw a Hywel Llion fore Llun, a chlywon ni nifer o ffeithiau diddorol iawn am y gêm... Iesgob annwyl! Good grief! Cynhyrchu To produce Fel a gydnabuwyd As acknowledged Iseldiroedd Netherlands Clip Gilian Elisa Mae yna dîm pêl-droed yn y Llanfairpwll enwog hefyd cofiwch! Rhydian Bowen Phillips a Shelley Rees oedd yn cyflwyno yn lle Trytsan ac Emma fore Gwener, a'r actores Gillian Elisa oedd eu gwestai a buodd hi'n sôn am ei phrosiect newydd yn LLundain... Gwmws - Exactly Adeiladol - Constructive Ciniawa - To dine Dan y Wenallt - Under Milk Wood Llwyfannu - To stage Ymarferion - Rehearals DEWR Clywon ni Rhydian Bowen Phillips ar Bodlediad Dewr yn ogystal. Roedd Rhydian yn arfer perfformio gyda'r band Mega a buodd e'n sgwrsio gyda Non o'r band Eden am rai o'r sylwadau negyddol a chas roedden nhw'n derbyn ar gyfryngau cymdeithasol, yn enwedig ar o wefannau cymdeithasol cynta yn Gymraeg – maes-e… Cas - Nasty Cyfryngau cymdeithasol - Social media Canmol - To praise Bodoli - To exist Sylwadau - Comments Canolbwyntio - To concentrate Yn fyw - Live Cynulleidfa - Audience Diflannu - To disappear TRYSTAN AC EMMA Ie , mae'r cyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn lefydd negyddol iawn on'd y'n nhw. Buodd Lowri Cooke yn adolygu'r ffilm newydd Dream Horse ar Bore Cothi a chlywon ni bod gan y ffilm gysylltiadau cryf iawn â Chymru. Rhyfeddol - Amazing Cyfarwydd - Familiar Llwyth - Loads Cyfarwyddwr - Director Trin - To treat Argraff - Impression Urddas - Dignity Nid nepell o - Ddim yn bell o Gorbwysleisio - Overemphasising Difreintiedig - Deprived Ffraeth - Witty LISA GWILYM Arhoswn ni gydag actorion Cymreig – y tro hwn Steffan Rhodri sy'n byw yn Llundain ar hyn o bryd. Beth mae e'n licio wneud ar ei ddydd Sul delfrydol? Rhannodd yr actor ei benwythnos perffaith gydag Ifan Davies oedd yn cyflwyno yn lle Lisa Gwilym Delfrydol - Ideal Cyflwyno - Presenting Amrywio - To vary Ymhellach - Further Traddodiadol - Traditional Arbrofol - Experimental Dylanwadau - Influences Dwyrain Canol - Middle East Môr y Canoldir - Mediterranean Sea Cyfuniad - Combination Dychmygol - Imaginative

CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: Theo Davies-Lewis

CYMERIADAU CYMRU

Play Episode Listen Later May 6, 2021 37:58


Gyda'r etholiadau ar Fai'r 6ed, addas yw cael sylwebydd gwleidyddol ar y podlediad wythnos hon. Gwr ifanc, deallus, diymhongar o Lanelli â phen gwybodus iawn ar ei ysgwyddau. Theo Davies-Lewis, erbyn hyn, yw prif golofnydd y fenter newydd The National (a sefydlydd y fenter, Huw Marshall, fydd ar y podlediad cyn bo hir), ac yn ogystal â chyfrannu at bapurau a chylchgronau cenedlaethol, mae Theo a'i galon yng Nghymru ac yn cryfhau cysylltiadau Cymreig yn Llundain. Y tro cyntaf i mi gyfarfod â Theo oedd rhai blynyddoedd yn ôl pan ddaeth draw ata i am brofiad gwaith yn yr adran dywydd. Mae e 'di esblygu a datblygu tipyn ers hynny a braf oedd cael sgwrsio â'r gwr ifanc yma am wleidyddiaeth, Cymru, ei yrfa hyd yn hyn, Coleg Rhydychen a phob math o bethau! Wnes i rili fwynhau a gyda'r bennod yn dechrau ar ddiwrnod yr etholiadau, mae hon yn arbennig o ddiddorol.

Y Busnes Rhedeg 'Ma
Pennod 11 (Rhan 1) - Angharad Mair

Y Busnes Rhedeg 'Ma

Play Episode Listen Later Apr 21, 2021 63:05


Y gwestai diweddaraf i ymuno ag Owain Schiavone ar Y Busnes Rhedeg Ma ydy Angharad Mair. Mae Angharad wrth gwrs yn wyneb a llais cyfarwydd ar y cyfryngau Cymraeg fel un o gyflwynwyr amlycaf Cymru. Ond ar un pryd, Angharad oedd rhedwraig marathon gorau Cymru hefyd. Mae ei hamser gorau o 2:38:47 dros y pellter ym 1996 yn dal i'w gosod yn y 10 Uchaf o ferched Cymreig erioed, ac fe gafodd y cyfle i redeg ym Mhencampwriaethau Athletau'r Byd yn Athen y flwyddyn ganlynol. Er iddi roi'r gorau i redeg am 15 mlynedd flwyddyn yn dilyn anaf ym 1998, fe ail-gydiodd ynddi fel rhedwr hŷn, a llwyddo i dorri record Ewrop yn y categori oedran V55! Mae hanes Angharad yn un hynod o ddifyr, gymaint felly nes bod digon o ddeunydd i rannu'r bennod yn ddau - bydd yr ail ran yn ymddangos wythnos nesaf. Cerddoriaeth y bennod yma ydy sengl Griff Lynch, 'Os Ti'n Teimlo', sydd allan ar label Lwcus T nawr. Mwy o wybodaeth ar wefan Y Selar.

CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: WELSH WHISPERER

CYMERIADAU CYMRU

Play Episode Listen Later Apr 15, 2021 35:18


''Cymeriad'' go iawn (un arall) sydd ar y podlediad wythnos hon. Ma neb yn gwybod ei enw, ond mae'r Welsh Whisperer wedi dod yn rhan o ddiwylliant Cymreig yn gyflym iawn ac yn apelio at pop oedran gyda'i ganeuon fel 'Ni'n beilo nawr', 'Cadw'r slac yn dynn' a 'Loris Mansel Davies'. Fe nes i gyfweld ag e rhai misoedd yn ôl ac felly pleser yw cael chwarae'r sgwrs ar y podlediad, i gyd-fynd â chyfres Mr Whisperer ar S4C. A gyda llaw, mae e di dod allan â chwrw Cymreig! GWD THING!

Bwletin Amaeth
Ysgrifennydd newydd Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig

Bwletin Amaeth

Play Episode Listen Later Mar 29, 2021 5:03


Aled Rhys Jones sy'n sgwrsio gyda Lynfa Jones.

duon cymreig cymdeithas
Ligo
Welsh Soccerites

Ligo

Play Episode Listen Later Mar 12, 2021 28:53


Nick Davies a Jordan Griffiths sy’n ymuno gyda Ligo ar y rhifyn newydd i drafod eu cylchgrawn - Welsh Soccerites - sydd yn dathlu pêl-droed yng Nghymru. Ifan a Rhodri sy’n holi’r ddau am eu atgofion cynnar o ddilyn pêl-droed, eu hoff grysau pêl-droed, ac yn gofyn beth sy’n gwneud pêl-droed Cymreig yn grêt.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion Dysgwyr 5ed Mawrth 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Mar 5, 2021 14:45


S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Sioe Frecwast - Andria Doherty Dych chi’n un o’r miliynau sy wedi gwylio It’s a Sin ar Channel 4? Roedd cysylltiad Cymreig cryf gyda’r gyfres gan fod dau o’r actorion yn dod o Gymru ac yn siarad Cymraeg. Roedd Andria Doherty yn actio rhan Eileen, mam un o brif gymeriadau’r gyfres, Colin. Andria oedd gwestai Daf a Caryl ar Radio Cymru 2 a dyma hi’n rhoi ychydig bach o’i hanes… Cyfres - Series Gwallgo(f) - Mad Dros ben llestri - Over the top Ymateb - Response Poblogaidd - Popular Enfawr - Huge Ysgytwol - Mind-blowing Diweddar - Recent Adrodd - Recitation Ychwanegolion - Extras Nathan Brew Andria Doherty oedd honna, un o sêr It’s a Sin, yn sgwrsio gyda Daf a Caryl. Un arall o westeion RC2 yr wythnos diwetha, oedd y sylwebydd a’r cyn chwaraewr rygbi Nathan Brew. Gan fod y penwythnos diwetha yn un pwysig iawn i dîm rygbi Cymru oherwydd y gêm fawr yn erbyn Lloegr, roedd hi’n amserol iawn i Nathan sôn am obeithion Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni. Sylwebydd - Commentator Amserol - Timely Pencampwriaeth y Chwe Gwlad - Six nations Synnu - Surprised Ysbryd - Spirit Anafiadau - Injuries Yn hytrach na - Rather than Ymarfer - Training Rheolau - Rules Lleihau - To reduce Byd Iolo Williams Roedd Nathan Brew yn optimistaidd yn fan’na am obeithion Cymru, ac roedd o yn iawn – enillodd Cymru o 40 – 24. Llongyfarchiadau mawr i dîm Cymru on’d ife? Yn rhaglen Byd Iolo wythnos diwetha buodd Iolo Williams yn dweud wrthon ni sut mae e wedi ymdopi gyda chyfnod anodd y pandemig… Ymdopi - To cope Cynffon - Tail Heb os nac oni bai - Without doubt Andros o anodd - Terribly difficult Bywyd gwyllt - Wildlife Ar gyrion - On the outskirts Ffodus - Lwcus Deutha chi - Dweud wrthoch chi Yn llythrennol - Literally Goroesi - To survive Dros Ginio - Edwina Williams Iolo Williams yn fan’na yn esbonio sut mae o wedi ymdopi gyda chyfnod y pandemig. Dych chi’n gwisgo het? Oes het-fobl yr Urdd gyda chi? Roedd digon o angen het yn ystod tywydd oer yr wythnosau diwetha, ond ydy gwisgo het wedi dod yn rhywbeth ffasiynol erbyn hyn? Dyma farn Edwina Williams Jones ... Cynllunydd - Designer Dilledyn ymarferol - A practical clothing Toreth - An abundance Crasboeth - Boiling hot Yn y cysgod - In the shade Achlysuron - Occasions Cefnogaeth - Support Geraint Lloyd - casglu ceir Y cynllunydd Edwina Williams Jones oedd oedd honna’n trafod hetiau gyda Jennifer Jones ar Dros Ginio. Nid hetiau ond hen geir ydy diddordeb Sharon Jones Williams o Bentre Berw ar Ynys Môn. Roedd Geraint Lloyd wrth ei fodd yn sgwrsio gyda hi a chlywed am hanes yr hen Mercedes sy gan y teulu Cau - To refuse Miri - Fuss Gynnau - A moment ago Tyrchu - To rummage (y)myrraeth - Curiosity Chwilota - To search for Dewi Llwyd - Osian Roberts Hanes diddorol Mercedes Sharon o Bentre Berw oedd hwnna, ar raglen Geraint Lloyd. Osian Roberts oedd gwestai pen-blwydd Dewi Llwyd wythnos diwetha. Fe yw cyfarwyddwr technegol tîm pêl-droed cenedlaethol Moroco, swydd fuodd e’n ei gwneud gyda thîm pêl-droed Cymru yn y gorffennol. Ond fel clywon ni yn y sgwrs gyda Dewi mae gan Osian sgiliau y tu hwnt i fyd y bêl… Cyfarwyddwr technegol - Technical Director Y tu hwnt - Beyond Fy ngorwelion i - My horizons Digrifwr - Comedian Llefaru - To recite Trin geiriau - To have a way with words Sbïo - Edrych Siarad cyhoeddus - Public speaking Datblygu - To develop

Ystafell Werdd Ieuan Rhys
Ioan Gruffudd - Rhan 2

Ystafell Werdd Ieuan Rhys

Play Episode Listen Later Dec 31, 2020 33:07


Ieuan yn dal fyny gyda un o'r actorion Cymreig mwyaf llwyddiannus sydd bellach yn byw yn Hollywood, Ioan Gruffudd. --- Support this podcast: https://anchor.fm/ieuan-rhys/support

Ystafell Werdd Ieuan Rhys
Ioan Gruffudd - Rhan 1

Ystafell Werdd Ieuan Rhys

Play Episode Listen Later Dec 24, 2020 43:34


Ieuan yn dal fyny gyda un o'r actorion Cymreig mwyaf llwyddiannus sydd bellach yn byw yn Hollywood, Ioan Gruffudd. --- Support this podcast: https://anchor.fm/ieuan-rhys/support

Ar y Marc
Cofio Diego Maradona

Ar y Marc

Play Episode Listen Later Nov 28, 2020 29:58


Dylan Jones a'r criw yn talu teyrnged i un o'r pêl-droedwyr gorau erioed, Diego Maradona. Alan Morgan yn sôn am gysylltiadau Cymreig tîm Marine FC cyn eu gêm yng Nghwpan yr FA. Edrych ymlaen at Chelsea v Spurs.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 27ain Tachwedd 2020

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Nov 27, 2020 15:45


S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … JENI OGWEN - IFAN EVANS ...beth dych chi’n feddwl sy’n gyffredin rhwng Jenny Ogwen, oedd yn arfer cyflwyno rhaglenni teledu Cymraeg, ac Ifan Evans? Wel mae’r ddau â stori i’w dweud am Cliff Richards! Dyma i chi flas ar eu sgwrs nhw ar raglen Ifan... Llofnod - Autograph Diawch - Goodness (an exclamation) Naill ai - Either Ar bwys - Near to Paid sôn - You don’t say Gwaetha’r modd - Unfortunately Trefdraeth - Newport (Pembrokeshire) Nefolaidd - Heavenly So ti - Dwyt ti ddim Mor gaeth - So restricted ALED HUGHES - SIOE FRECWAST HUW STEPHENS Jenny Ogwen yn fan’na yn sôn am Cliff Richards ac am Ynys y Barri ar raglen Ifan Evans. Aled Hughes oedd yn ateb cwestiynau Cocadwdl-do Huw Stephens wythnos diwetha – dyma i chi gyfle i glywed rhai o gyfrinachau Aled… Cyfrinachau - Secrets Ysgwydd - Shoulder Cwlwm - Knot Llwyth - Tribe Eu hadnabod nhw - To know them Ar faes y gad - On the battlefield Rhwyfo - To row (a boat) Parch - Respect Yr un pryd - The same meal RICH HOLT - SIOE SADWRN DANIEL GLYN Wel dyna ni’n cael gwybod am datŵs a thatws Aled yn fan’na! Mae‘r cogydd Richard Holt i’w weld ar S4C ar hyn o bryd yn y gyfres Anrhegion Melys Richard Holt, a fe wrth gwrs yw seren y sioe! Fe hefyd oedd gwestai arbennig Daniel Glyn fore Sadwrn a dyma Richard yn sôn ychydig am ei gefndir a’i waith. Cefndir Background Cerddoriaeth Music Llygoden Ffrengig Rat Cyfuniad Combination Danteithion anhygoel Incredible delicacies Pwysau Pressure Newydd sbon Brand new WRECSAM POST CYNTAF ..a chofiwch wylio Anrhegion Melys Richard Holt ar S4C i gael syniadau am gacennau blasus. Roedd yna ddathlu mawr yn Wrecsam wythnos diwetha wrth i’r newyddion dorri fod sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenny am brynu clwb pel-droed y dre. Cafodd Dylan Jones sgwrs am y newyddion hyn gyda Chris Evans, cadeirydd tafarn gymunedol Wrecsam, Saith Seren, ar Y Post Cyntaf… Dioddef - To suffer Gwireddu - To fulfil Yn rheolaidd - Regularly Boddi eu gofidiau - Drowning their sorrows Wedi cryfhau - Has strengthened Wedi cael ei ffrydio’n fyw - have been streamed live Mentrau cymunedol - Community ventures Byd-eang - Worldwide Ymddiriedolaeth - Trust Mewn bodolaeth - In existence BETI A’I PHOBOL ...a phob lwc i glwb ac i dre Wrecsam gyda’r fenter newydd on’d ife? Mae cefndir teuluol Cymreig gan Robert Joseph Jones ond cafodd ei eni yn Pennsylvania yn yr Unol Daleithiau ac mae o’n byw nawr yn nhalaith Efrog Newydd. Mae o wedi dysgu Cymraeg ac yn ei siarad yn rhugl fel clywon ni yn y sgwrs yma gyda Beti George Unol Daleithiau - United States Talaith Efrog Newydd - New York State Etifeddiaeth Gymreig - Welsh heritage Cyhoeddi - To publish Tanysgrifio - To subscribe Rhyfedd - Strange Eglurhad - Explanation GWENDA WATSON - ALED HUGHES Mae Cymraeg gwych gan Robert Joseph Jones on’d oes, i feddwl mai o hen lyfr ‘Teach yourself Welsh’ ddysgodd o’r iaith. Mae Gwenda Watson newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 90ed. Treuliodd hi ran o’i phlentyndod yn byw ar Ynys Enlli a buodd hi’n sôn ychydig am ei phlentyndod ar yr ynys wrth Aled Hughes... Pobl mewn oed - The elderly Gweinidog - Minister Cymorth - Help Ynys anghysbell - Remote island Atgofion - Memories Nefoedd ar y ddaear - Heaven on earth

Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM
Pennod 056 - Llio Maddocks a Megan Hunter

Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM

Play Episode Listen Later Nov 27, 2020 92:57


Sgwrs ddifyr gyda’r awduron ifanc Llio Maddocks a Megan Hunter. Pynciau llosg: atgofion llenyddol cynnar, athrawon ysbrydoledig, pwysigrwydd darllen, Stephen King, awduron v amser, Eisteddfota, enwau Cymreig, acenion, Y Barri, Twll Bach yn y Niwl a Tu Ol I’r Awyr, Maes B, ‘dwad’ mewn pabell ar LSD, arddulliau sgwennu eithafol, y broses o ysgrifennu nofel, enwi cymeriadau, Y Lolfa, Ty Newydd, golygyddion gwych (Meinir Edwards, Alun Jones a Meleri Wyn James), cysoni, ffwcs a ffycs a ffocs...

Podcast Pêl-droed
Podcast | Podlediad #101: October triple header review | Arolygiad y dri gêm mis Hydref

Podcast Pêl-droed

Play Episode Listen Later Oct 29, 2020 72:52


Russell, Leon and Gareth look back at the October triple header of games versus England and in the Nations League against the Republic of Ireland and Bulgaria. They wax lyrical about Jonny Williams; assess a promising debut by Rhys Norrington-Davies; express their frustrations at Rabbi Matondo; and consider who might replace the injured Wayne Hennessey next month. They also pay tribute to James Collins on his retirement and summarise from a Welsh perspective the final days of the transfer window Mae Russell, Leon a Gareth yn edrych yn ôl ar y driphlyg o gemau fis Hydref yn erbyn Lloegr ac yng Nghynghrair y Cenedloedd yn erbyn Y Weriniaeth Iwerddon a Bwlgaria. Maen nhw'n canu glodydd Jonny Williams; asesu debut addawol Rhys Norrington-Davies; mynegi eu rhwystredigaeth am Rabbi Matondo; ac ystyried pwy efallai fydd yn cymryd lle Wayne Hennessey anafus fis nesaf. Hefyd maen nhw'n talu teyrnged i James Collins wedi iddo ymddeol a chrynhoi o safbwynt Cymreig dyddiau y ffenestr trosgwlyddo.

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#24 - Marchanta cig cymru yng nghwmni Mark Mc C, arbennigwr yn y farchnad bwyd a diod.

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear

Play Episode Listen Later Aug 24, 2020 41:21


Dyma gyfweliad gyda'r arbennigwr marchnata bwyd a diod Mark McC. Trafodir y ffordd mae Cymru'n marchnata cynnyrch Cymreig a'r modd mae'r farchnad bwyd a diod Llundain yn gweld ein cynnyrch.

Yma Mae Dreigiau - Here Be Dragons
Hu Gadarn a'r Afanc

Yma Mae Dreigiau - Here Be Dragons

Play Episode Listen Later Jul 16, 2020 16:41


Chwedl gyntaf o ddwy sydd gydag Afanc ynddynt, ond â yw hon yn wir chwedl o'r oesoedd canol, neu clwyddau noeth gan Iolo Morgannwg? Beth ydych chi'n meddwl? Mae'r podlediad yma yn rhad ac am ddim ond os hoffech chi gadael adolygiad (review) 5 seren ar iTunes neu lle bynnag rydych yn cael eich podlediadau Ac os hoffwch brynu goffi i mi am fy waith caled mae croeso i chi wneud hynny yma www.ko-fi.com/llusern Cerddoriaeth ddi-hawlfraint yng Nghymru diolch i Slic, rhan o Sain. Safle we www.slictrac.com Llun gan Willy Pogány allan o gyfrol o chwedlau Cymreig wedi eu trosi i'r Saesneg gan W Jenkyn Thomas (The Welsh Fairy Book 1908). --- Send in a voice message: https://anchor.fm/herebedragons/message

ac sain nghymru cymreig slic saesneg afanc
PlacePrints
Teitl: These Clouded Hills (Welsh language)

PlacePrints

Play Episode Listen Later Jun 11, 2020 51:23


Dilynwch ôl troed taith anhygoel wrth i'r ferch ifanc Mary Jones gerdded 25 milltir yn droednoeth ar draws fynyddoedd garw Eryri i brynu beibl Cymreig iddi hi ei hun. Cast: Hedydd Dylan Ysgrifennwyd gan David Rudkin Cerddoriaeth a sain gan Adam P McCready Cynhyrchiad New Perspectives wedi'i gyfarwyddo gan Jack McNamara Cefnogwyd gan ddefnyddio cyllid cyhoeddus gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, The Space, BBC

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 4ydd o Fawrth 2020

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Mar 4, 2020 16:58


Beti A'i Phobol - Alis Hawkins ail-gydio yn... - to reconnect with dros dair degawd - over three decades sbarduno'r chwant - to motivate the desire mynd bant - to go away annog - to encourage darganfod - to discover ar lafar - orally rhwydd - easy clytwaith - patchwork amrywiol - varied Mae Alis Hawlins yn dod o Gwm Cou ger Castell Newydd Emlyn yn wreiddiol ond wedi byw yn Lloegr ers dros drideg mlynedd. Roedd hi'n poeni ei bod yn colli ei Chymraeg ond mi wnaeth ffrind iddi hi ei helpu i ddod yn ôl i'r arfer o siarad yr iaith ac nawr mae hi'n rhugl umwaith eto. Yn y clip yma mae Allis yn sôn am rywbeth arall helpodd hi gyda'i Chymraeg hefyd. Gwrandewch ar hyn... Geraint Lloyd - Het Mali Sion yn enwedig - especially y gwynt yn hyrddio - the wind blowing strongly marchogaeth - horse riding ambell i gae - the odd field fan hyn a fan draw - here and there Ie, podlediad y dysgwyr wedi helpu Alis i ail-gydio yn ei Chymraeg - da on'd ife? Dych chi wedi clywed am yr Het ar Raglen Geraint Lloyd? Mae'r Het yn cael ei phasio o un person i'r llall bob wythnos, a'r wythnos yma - Mali Sion o Lanrwst oedd y ferch lwcus. Mae Mali yn ferch brysur iawn. Yn ogystal â gweithio yng Nghaffi Ffika yn Llanrwst, mae hi hefyd yn aelod o'r band Serol Serol, a dyma hi'n sôn am y band wrth Geraint LLoyd... Rhaglen Recordiau Rhys Mwyn - Neil Rosser cyfeillion - friends gei di ymateb - you'll get a response cystal â - as good as ymgais - an attempt roedd yn berchen - he owned mo'yn - eisiau y fenyw - the woman myn uffern i - goodness me jacôs - calm blaenoriaeth - priority Mali Sion oedd honna yn sôn wrth Rhys Mwyn am ei band Serol Serol. A dyn ni am aros ym myd pop nawr gyda rhaglen Rhys Mwyn. Nos Lun cafodd Rhys gwmni y canwr Neil Rosser a buon nhw'n edrych yn ôl ar yr albwm "O'r Gad" gafodd ei recordio yn Nyffryn Ogwen. Dyma Neil yn sôn am adeg y recordio... Sioe Frecwast - Pêl-droed cerdded Cwpan Pêl-droed Cerdded y Byd - Walking Football World Cup eitha anhygoel - quite incredible Yr Eidal - Italy dod lan - to come up tairgwaith - three times wedi cynrychioli - has represented baner - flag hyd yn oed - even camp - game Neil Rosser oedd yn siarad gyda Rhys Mwyn am recordio'r albwm 'O'r Gad'. Roedd llawer o bobl yn hapus iawn bedair blynedd yn ôl bod tîm pêl-droed Cymru wedi cyrraedd semis yr Euros yn Ffrainc. Ond oeddech chi'n gwybod bod Cymru wedi ennill Cwpan Pêl-droed y Byd? Mae hynny'n wir ond cwpan ychydig bach yn wahanol oedd e - Cwpan Pêl-droed Cerdded y Byd. Ar y Sioe Sadwrn cafodd Geraint a Elan sgwrs gyda John Pritchard sy'n chwarae i dim pêl-droed cerdded Amlwch ar Ynys Môn ond sydd hefyd wedi chwarae dros Gymru... Cofio - Dewi Sant yr un mor llwyddiannus - as succesful wedi cwympo - has fallen cyd-ddigwyddiad - coincidence haeddu - to deserve nawddseintiau - patron saints beirdd a llysieuwyr - poets and vegetarians yn y bôn - basically llysenw - nickname eitha anniddorol - quite uninteresting creulon - cruel A gobeithio bydd tîm pêl-droed normal Cymru yr un mor llwyddiannus yn yr Euros eleni on'd ife? Roedd hi'n ddydd Gwyl Dewi dydd Sul diwetha a dw i'n siwr basai'r Sant wedi bod yn falch iawn o weld cymaint o ddathliadau ym mhob ran o Gymru. Dw i ddim yn siwr, cofiwch, beth fasai'r hen Ddewi'n feddwl o berfformiad Daniel Glyn yn y clip nesa 'ma... Aled Hughes - Corgi ast - bitch Arwr - Hero sunsur sgleiniog - shiny ginger Sir Aberteifi - Ceredigion Y Frenhines - The Queen ci defiad Cymreig - Welsh sheepdog hel gwartheg - to drive cattle mwythlyd - doting torraid - litter(animals) goroesi - to survive Dewi Sant gwahanol iawn yn cael ei ddisgrifio yn fan'na gan y comedïwr Daniel Glyn. Mae bridiau cwn Cymreig a Phrydeinig yn ffashiynol iawn ar hyn o bryd ac mi aeth Aled Hughes draw i Dalybont i weld dau gorgi Ceredigion Sioned Humphreys a hefyd i weld Jack Russell bach blin o'r enw Nel.

Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM
Pennod 45 - Esyllt Sears ac Eleri Morgan

Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM

Play Episode Listen Later Oct 25, 2019 83:51


Sgwrs hollol sili gyda’r comediwyr Esyllt Sears ac Eleri Morgan. Pynciau llosg: dyled, Caeredin, The Shamen, labia Esyllt, #MuthaOfTwo, Gwasanaethau T-Bay, Waitrose v M&S, broody v horni, ClecFongio, halio v siocled, brawd secsi Eleri, ffarmo, ffan mwyaf comedi Cymreig, perthnasoedd, hwrddo, camelod, anifeiliaid gwyllt mewn garejys, cathod mawr yng nghefn gwlad Cymru a llawer mwy... Diolch, fel arfer, i Daf Palfrey a Hanner Pei.

Hansh
Eistwebfod 2019 gyda Aled ac Adam

Hansh

Play Episode Listen Later Aug 5, 2019 32:56


Yn (beth sy'n debygol o fod) y podlediad eisteddfod llwyr ddigidol gyntaf erioed, ma’ Aled Illtud ac Adam Gilder yn agor gatiau Eistwebfod 2019. Y rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol fydd ei maes, pafiliwn a’u horielau; a ma’ nhw’n dathlu’r goreuon yn y byd digidol. Pwy fydd yn ennill y goron? Pam na dyle Garfield gael gwahoddiad i’r pafiliwn? Ac a dyle pwyllgor yr Eistwebfod neud fel Belle Delphine a gwerthu dŵr bath Dewi Llwyd i godi arian? Bydd Aled ac Adam yn rhoi croeso cynnes Cymreig i’r memes mwyaf dank a chynnwys mwyaf fiery y byd digidol. RHYBUDD - Yn cynnwys iaith gref a themâu sydd yn anaddas i blant. Is (what's likely to be) the first ever digital eisteddfod podcast, Aled Illtud and Adam Gilder open the gates of Eistwebfod 2019. The internet and social media are their maes, pavilion and galleries; and they’ll be celebrating the best the digital world has to offer. Who will win the crown? Why shouldn’t Garfield get an invite to the pavilion? And should the Eistwebfod take inspiration from Belle Delphine and sell Dewi Llwyd bath water to raise money? Aled and Adam give a warm Welsh welcome to the dankest memes and the most fiery content in the digital world. WARNING - Contains strong language and themes unsuitable for children.

Elis James – Dwy Iaith, Un Ymennydd
Yr Athro Prys Morgan

Elis James – Dwy Iaith, Un Ymennydd

Play Episode Listen Later Jun 14, 2019 45:01


Sgwrs rhwng y comedïwr Elis James a'r hanesydd yr Athro Prys Morgan. Beth oedd cyfraniad unigolion a chymdeithasau Cymreig ym mhrif ddinas Lloegr ar iaith a diwylliant Cymru ar hyd yr oesau? Pa mor hir fydd hi'n gymeryd i'r iaith Gymraeg golli rheolau treiglo? A sut mae rhedeg y ferf ' skidaddle’?

Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM
Pennod 36 - Peredur ap Gwynedd

Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM

Play Episode Listen Later May 26, 2019 85:23


Awr a hanner yng nghwmni'r bwyellwr o Bont-y-Pwl, Peredur ap Gwynedd. Leg-end go iawn sydd wedi chwarae'r gitar gyda rhai o fawrion y byd roc a phop, gan gynnwys Geraint Jarman, Datblygu, Norman Cook / Fatboy Slim, Natalie Imbruglia, Sophie Ellis-Bextor, Kim Wilde, Pendulum a llawer mwy. Pynciau llosg: DOM, nostalgia, Titch Gwilym, enway anodd i'w hynganu, dildos Cymreig, roc trwm, Maffia, Crys, widdly-widdly-weeeeeeeee, jazz club... nice, i-dot, gigs mewn bwytai, Fox Mulder, ofergoelion cyn peffermio, strawpedos, teithio'r byd, seiclo a mwy. DOM - Anghenfil Clai / Un Weledigaeth (https://bit.ly/30HCI6A)

Podled Senedd Podcast
Black History Month - podcast from the Assembly

Podled Senedd Podcast

Play Episode Listen Later Nov 1, 2018 57:28


Ali Abdi, Rocio Cifuentes and Vaughan Gething AM have a roundtable discussion on what Black History Month means for Wales and the wider world. Daf Prys poses the questions and they also tell us about their Welsh Black Icons. Ali Abdi joined the Community Gateway team in October 2015. His work focuses on building a successful partnership between Cardiff University and the community of Grangetown and managing community events in the Grange Bowls Pavilion. Rocio Cifuentes is an experienced, committed and values-driven third sector professional with over 15 years' experience specifically in the BME Third Sector in Wales. Sha has led and developed EYST Wales since its inception in 2005, having previously worked for CEMVO Wales. Vaughan Gething AM was born in Zambia and brought up in Dorset. He was educated at Aberystwyth and Cardiff universities, and now lives in his constituency with his wife Michelle. He's been an Assembly Member since 2011. Daf Prys is part of the Communications team looking after the Assembly's digital content and website. Ali Abdi, Rocio Cifuentes a Vaughan Gething sy'n trafod rownd y bwrdd bwrdd ar yr hyn y mae Mis Hanes Pobl Dduon yn ei olygu i Gymru a'r byd ehangach. Daf Prys sy'n cyflwyno'r cwestiynau ac maen nhw hefyd yn dweud wrthyn ni am eu eiconau duon Cymreig. Ymunodd Ali Abdi â thîm y Porth cymunedol ym mis Hydref 2015. Mae ei waith yn canolbwyntio ar adeiladu partneriaeth lwyddiannus rhwng Prifysgol Caerdydd a chymuned Grangetown a rheoli digwyddiadau cymunedol ym Mhafiliwn bowls Grangetown. Mae Rocio Cifuentes yn weithiwr proffesiynol trydydd sector profiadol ac ymroddedig sydd â thros 15 mlynedd o brofiad yn benodol yn y trydydd sector BME yng Nghymru. Mae hi wedi arwain a datblygu EYST Cymru ers ei sefydlu yn 2005, ar ôl bod yn gweithio i CEMVO Cymru cyn hynny. Cafodd Vaughan Gething ac ei eni yn Zambia a'i fagu yn Dorset. Cafodd ei addysg ym mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd, ac mae bellach yn byw yn ei etholaeth gyda'i wraig Michelle. Mae Daf Prys yn rhan o'r tîm cyfathrebu sy'n gofalu am gynnwys digidol a gwefan y Cynulliad.

Beti a'i Phobol
Neville Evans

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Oct 28, 2018 48:48


Ffiseg yw prif ddiddordeb y gwyddonydd Neville Evans. Mae'n dweud ei fod yn wyddor sy'n mynd ar ôl y manwl, ond hefyd yn gweld y darlun ehangach. Treuliodd ei fywyd ym myd addysg, fel athro, arolygwr, ac yna llywodraethwr. Cafodd ei ddiddordeb yng ngwyddonwyr Cymreig cyfoes ei sbarduno wedi iddo glywed hanesion lleol yn blentyn am E. G. Bowen a'i arbrofion radar. Mae'n credu y dylid gwneud rhagor i hybu gwybodaeth disgyblion Cymru am wyddonwyr cyfoes, a fe sy'n gyfrifol am y posteri o wyddonwyr Cymreig mewn ysgolion ledled y wlad. Mae hefyd yn sgwrsio gyda Beti am ei atgofion o fagwraeth braf yn Gendros, Fforestfach, ac am bwysigrwydd ffydd iddo fe.

Beti a'i Phobol
Sian Lloyd

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Sep 16, 2018 44:25


Mae newyddiaduraeth wedi bod o ddiddordeb i Sian Lloyd ers pan oedd yn ifanc. Roedd yn rhan o griw a sefydlodd bapur newydd yn ei hysgol, ac ar gyfer ei herthygl gyntaf ymunodd â'r wasg yng ngorsaf reilffordd Wrecsam, i adrodd ar ymweliad gan y Dywysoges Diana. Wrth sgwrsio â Beti George, mae'n gweithio i wasanaeth newyddion rhwydwaith y BBC, yn gohebu ar straeon o Gymru, neu'n dod â gogwydd Cymreig i straeon newyddion y dydd. Cafodd Sian ei magu yn Birmingham, cyn i'r teulu symud i Wrecsam pan oedd yn 7 oed. Daw ei thad o Eifionydd yn wreiddiol, ond cwrddodd ei rhieni mewn capel yn Llundain, ac adleoli i Ganolbarth Lloegr. Yn ogystal â darlithio ym maes adeiladu, roedd ei thad yn teithio dramor gyda'r Cyngor Prydeinig, yn enwedig i wledydd yn Affrica, i sefydlu cyrsiau yno. Astudiodd Sian y gyfraith yn y coleg, a threuliodd gyfnodau yn hyfforddi yn Llundain a Hong Kong, cyn dilyn ei breuddwyd a chwilio am waith ym myd newyddiaduraeth. Mae wedi dal sawl swydd yng Nghymru, yn ogystal â gweithio i'r BBC yn Llundain a Chanolbarth Lloegr.

Beti a'i Phobol
Mari Williams

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Apr 8, 2018 43:33


Beti George yn sgwrsio â'r steilydd bwyd a'r cogydd, Mari Williams. Yn un o bedwar o blant, cafodd ei magu ar fferm ger Llannefydd. Aeth i Ysgol Glan Clwyd, ac ymlaen wedyn i Brifysgol Caerdydd i astudio bwyd a maetheg. Ar ôl graddio, aeth i Efrog Newydd i weithio fel nani i deulu gyda chysylltiadau Cymreig. Dychwelodd i Brydain, gan weithio gyda rhai o'r archfarchnadoedd mwyaf fel steilydd bwyd, cyn symud i olygu cylchgronau bwyd. Mae bellach yn gweithio ar ei liwt ei hun, a newydd gyhoeddi ei llyfr ryseitiau cyntaf. Mae'n byw gyda'i phartner a'i mab yn Swydd Hertford ers dros bymtheng mlynedd.

yn cymreig aeth beti george
Podcast Pêl-droed
Podcast / Podlediad #62: Fine margins or failure?

Podcast Pêl-droed

Play Episode Listen Later Oct 23, 2017 59:40


Rich, Leon and Russell review the unsuccessful campaign for Russia 2018. Did Welsh luck fall the wrong side of fine margins? Or has it been a failure to qualify from a relatively easy group? They discuss Chris Coleman's future and ponder whether Tony Pulis has a soul. Mae Rich, Leon a Russell yn adolygu'r ymgych aflwyddiannus ar gyfer Rwsia 2018. A wnaeth lwc Cymreig gwympo ar yr ochr anghywir o ymylon meinion? Neu ydy hi wedi bod yn fethiant i ddianc o grŵp gweddol hawdd? Maent yn trafod dyfodol Chris Coleman a synfyfyrio a oes enaid gan Tony Pulis.

Stori Cymru

Ym 1979, ychydig cyn ethol llywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher, pleidleisiodd pobl Cymru mewn refferendwm i benderfynu a oeddent am ddatganoli rhywfaint o bŵer i Gymru, o senedd Prydain yn San Steffan. Pleidleisiwyd ‘Na’ gyda mwyafrif o 4 i 1. O ganlyniad i amgylchiadau Streic y Glowyr 1984 - 1985, a ddangosodd sut y gallai barn y Cymry gael ei anwybyddu gan San Steffan, teimlai nifer cynyddol o bobl Cymru y dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru yn hytrach nac yn llwyr yn San Steffan. Yn raddol, daeth bywyd cyhoeddus Cymru i gael ei drefnu ar ffurf cyrff cenedlaethol (hynny yw, yng Nghymru a gyda gogwydd Cymreig). Creodd elusennau, grwpiau pwyso, undebau a sefydliadau tebyg bresenoldeb a hunaniaeth benodol Gymreig. Pryd bynnag y gallent, roedd y Cymry yn tueddu i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain. Pan gynhaliwyd refferendwm ar gyfran gymedrol o hunanlywodraeth ym 1997 pleidleisiwyd o’i blaid, er gyda mwyafrif o ddim ond 6721 pleidlais. Cefnogodd refferendwm arall yn 2011 ragor o bwerau deddfu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Cymru’n parhau’n rhan o’r Deyrnas Unedig, i bob golwg yn cerdded y llwybr rhwng manteision perthynas gyda chymdogion mawr a rhywfaint o hunan-benderfynu. Taith sy’n parhau.

Stori Cymru
Datganoli

Stori Cymru

Play Episode Listen Later Mar 25, 2013 6:15


Ym 1979, ychydig cyn ethol llywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher, pleidleisiodd pobl Cymru mewn refferendwm i benderfynu a oeddent am ddatganoli rhywfaint o bŵer i Gymru, o senedd Prydain yn San Steffan. Pleidleisiwyd ‘Na’ gyda mwyafrif o 4 i 1. O ganlyniad i amgylchiadau Streic y Glowyr 1984 - 1985, a ddangosodd sut y gallai barn y Cymry gael ei anwybyddu gan San Steffan, teimlai nifer cynyddol o bobl Cymru y dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru yn hytrach nac yn llwyr yn San Steffan. Yn raddol, daeth bywyd cyhoeddus Cymru i gael ei drefnu ar ffurf cyrff cenedlaethol (hynny yw, yng Nghymru a gyda gogwydd Cymreig). Creodd elusennau, grwpiau pwyso, undebau a sefydliadau tebyg bresenoldeb a hunaniaeth benodol Gymreig. Pryd bynnag y gallent, roedd y Cymry yn tueddu i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain. Pan gynhaliwyd refferendwm ar gyfran gymedrol o hunanlywodraeth ym 1997 pleidleisiwyd o’i blaid, er gyda mwyafrif o ddim ond 6721 pleidlais. Cefnogodd refferendwm arall yn 2011 ragor o bwerau deddfu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Cymru’n parhau’n rhan o’r Deyrnas Unedig, i bob golwg yn cerdded y llwybr rhwng manteision perthynas gyda chymdogion mawr a rhywfaint o hunan-benderfynu. Taith sy’n parhau.

Haclediad – Hacio’r Iaith
Episode 25: 25: Hwyl (teci) yr Ŵyl 2012

Haclediad – Hacio’r Iaith

Play Episode Listen Later Dec 18, 2012 56:32


Yn ôl yng nghôl yr Haclediad y tro hwn mae Sioned, a bydd Bryn ac Iestyn yn ei chroesawu nôl efo cipolwg ar Windows 8 – y dyfodol neu ddymchwel i Microsoft? Hefyd byddwn yn sbïo dros aps newydd geiriadur a bysellfwrdd Cymreig ffab i’ch ffonau a rhestr Nadolig yr Hacledwyr, be da ni am weld yn yr hosan yna ddiwedd mis Rhagfyr? Byddwn hyn edrych mlaen yn ogystal i ddigwyddiad y flwyddyn – Hacio’r Iaith ym mis Ionawr, byddwch yn barod gyda’ch pasbortau i ddod lan/lawr i Aberystwyth! Dolenni Lansiad dau ap symudol hanfodol: bysellfwrdd Literatim ac Ap Geiriaduron Drunk Jennifer using Microsoft Windows 8 Hacio’r Iaith 2013, Aberystwyth: cofrestrwch lle Rhestr Siopa Nadolig Yr Haclediad Sioned Mam – Nook a’r gallu i gael llyfrau Cymraeg arno

Haclediad – Hacio’r Iaith
Episode 14: Mae’n dda i ddarllen (e-lyfrau hynny yw)

Haclediad – Hacio’r Iaith

Play Episode Listen Later Nov 7, 2011 69:38


Croeso i Haclediad #14 – Mae’n dda i ddarllen (e-lyfrau hynny yw), y rhifyn cyntaf gyda chyfweliad gyda pherson go iawn! Yn ymuno gyda Sioned, Bryn ac Iestyn mae Garmon Gruffydd o gyhoeddwyr Y Lolfa, gyda’u gobeithion a chynlluniau nhw ar gyfer cyhoeddi e-lyfrau yn y Gymraeg. Byddwn yna yn trafod lle mae hyn yn gadael gobeithion rhai am gyhoeddi agored Cymreig ar-lein, ond nid sioe llyfrau yn unig fydd hi peidiwch poeni! Mae’r Nokia Lumia 800 yn ein temtio, ynghyd â’r newyddion gwych am brosiect Radio’r Cymry a’n plyg traddodiadol i Hacio’r Iaith ym mis Ionawr, joiwch! Dolenni Nokia Lumia 800 Pwy sy’n rheoli’r cyfryngau yn y 21ain ganrif? Coelcerth Kindles E-lyfrau 2011, recordiadau 2004 Radio’r Cymry The post Haclediad #14 – Mae’n dda i ddarllen (e-lyfrau hynny yw) appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad. Special Guest: Garmon Gruffydd.

Haclediad – Hacio’r Iaith
Episode 6: Yr un ar ôl yr un byw!

Haclediad – Hacio’r Iaith

Play Episode Listen Later Mar 2, 2011 55:54


Heia wrandawyr, dyma ni’n cyflwyno Haclediad #6 – Yr un ar ôl yr un byw! Diolch mawr i bawb ddaeth draw i’n gweld a lawrlwytho Haclediad #5 o ddigwyddiad Hacio’r Iaith, ac i’r holl griw technegol oedd yn rhan o’i chyhoeddi, da chi’n bril. Y tro hwn ar Haclediad #6 byddwn yn trafod mwy am ddyfodiad Umap Cymraeg, yr aggregator trydar Cymreig. Byddwn hefyd yn sôn am yr anghydfod rhwng Apple a rhai o’u cyhoeddwyr, dyfodiad yr iPad 2 a phosibiliadau rheolydd y Microsoft Kinect nawr bod teclyn datblygu wedi ei rhyddhau iddo. Fel pob rhifyn arall, bydd digon o fwydro technoleg a’r we o’n cornel ni o’r rhyngrwyd – mwynhewch! The post Haclediad #6 – Yr un ar ôl yr un byw! appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Haclediad – Hacio’r Iaith
Episode 2: Yr Ail Ddyfodiad

Haclediad – Hacio’r Iaith

Play Episode Listen Later Nov 8, 2010 50:24


Croeso i ail rifyn yr Haclediad, ydan, da ni wedi mentro creu un arall, ys dywed y kids, be da ni fel?! Wele Haclediad #2. Unwaith eto mae Bryn Salisbury (@bryns), Iestyn Lloyd (@iestynx) a Sioned Edwards (@llef), yn trafod tech a’r byd Cymreig. Buom ni’n trafod: “2.9 Million Enemies in 45 minutes” – Jeremy Hunt yn dweud bod Cymru ddim yn cael ei adael allan o’r cynlluniau band eang uwch-gyflym. Ond yn wir, ‘dyw Cymru ddim yn y treial. Yw hi’n amser nawr i’r cynulliad gael cyfrifoldeb am hwn? Beth am fynediad band-llydan yng Nghymru? Hefyd, ydi’r ymgyrch parth .cym yn ddibwys a’i gymharu gyda’r ymgyrch sy angen ar gyfer band eang yng nghefn gwlad? Windows 7 Series phone, hands on, be di’r farn? Ydi hi’n hen bryd i ni weld fwy o e-lyfrau Cymraeg ar y Kindle ag iBooks? A beth am y term “eLyfr?” ydi o’n gwneud synwyr? Tamaid i orffen: Gwefan Tywydd newydd S4C – beth yw’r farn? Diolch eto i Gafyn Lloyd am ysgrifennu’r gân i’r rhaglen a hefyd am rhoi’r rhaglen at ei gilydd. Gallwch ffeindio mwy allan am Gafyn ar ei wefan gafynlloyd.com. Cofiwch, mae mwy i ddod, am declynnau, y Gymraeg arlein a llawer mwy; ond am rŵan cyflwynwn yr Haclediad i chi wrando, barnu a rhoi gwaedd i ni am be hoffe chi i ni drafod ar podlediad@haciaith.com, neu drwy drydar. Edrychwn mlaen i glywed ganddo chi! Criw’r Haclediad The post Haclediad #2 – Yr Ail Ddyfodiad appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Never Mind The Bocs - Podcast
Ar Gyfer Heddiw'r Bore

Never Mind The Bocs - Podcast

Play Episode Listen Later Jan 7, 2009 3:00


A traditional Welsh 'Plygain' carol, recorded for BBC Radio Cymru.

Never Mind The Bocs - Podcast
March Glas (radio edit)

Never Mind The Bocs - Podcast

Play Episode Listen Later Jun 7, 2008 3:09


A radio-friendly version of the album track.

Never Mind The Bocs - Podcast
Bachgen Bach O Dincer (2006)

Never Mind The Bocs - Podcast

Play Episode Listen Later Apr 5, 2008 3:02


Recorded in one 'take' for a radio session, Christmas 2006.