Podcasts about wythnos

  • 29PODCASTS
  • 112EPISODES
  • 35mAVG DURATION
  • 1MONTHLY NEW EPISODE
  • May 2, 2025LATEST

POPULARITY

20172018201920202021202220232024


Best podcasts about wythnos

Latest podcast episodes about wythnos

Colli'r Plot
Dim byd, ond llyfrau

Colli'r Plot

Play Episode Listen Later May 2, 2025 69:48


Dim thema, dim trafodaeth ddwys, dim byd, ond llyfrau. Ie, mae'r bennod hon llawn llyfrau.Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:Wythnos yng Nghymru Fydd - Islwyn Ffowc ElisCysgod y Cryman - Islwyn Ffowc ElisYn Ôl i Leifior - Islwyn Ffowc ElisThe Conspiracy Tourist - Dom JolyThe Twat Files - Dawn FrenchLula Dean's Little Library of Banned Books - Kirsten MillerThe Burning Chambers - Kate MosseUn nos Lun - Dafydd ParriDau - Bethan NantcyllPwyso ar y giât - Aled Lloyd DaviesFel yr wyt - amrywiolFel Hyn yr Oedd Hi- Hunangofiant Rhys JonesNormal Women - Phillipa GregoryCasglu Llwch - Georgia RuthMynd - Marged TudurDeath at the White Hart - Chris ChibnallDays at the Morisaki Bookshop - Satoshi YagisawaMemory Man - David BaldacciV a Fo - Gwenno GwilymWhale Fall - Elizabeth O'ConnorThe Significance Of Swamns - Rhiannon Lewis

Podcast Rygbi Cymru
Am wythnos yn rygbi Cymru

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later Apr 24, 2025 51:12


Nick a Carwyn sy'n edrych yn ôl ar dydd y farn ac wythnos brysur iawn gyda chwaraewyr yn ymuno, ail arwyddo, gadael ac ymddeol. #Cymraeg #URC #Welshrugby #RygbiCymru #S4C Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices

Bwletin Amaeth
Wythnos ‘Gwyliwch Eich Pen'

Bwletin Amaeth

Play Episode Listen Later Feb 12, 2025 5:07


Megan Williams sy'n trafod iechyd meddwl gyda'r ffermwr a'r cyflwynydd Alun Elidyr.

Bwletin Amaeth
Wythnos Ymwybyddiaeth Gwrthficrobaidd y Byd

Bwletin Amaeth

Play Episode Listen Later Nov 21, 2024 4:57


Megan Williams sy'n trafod yr wythnos gyda Dr Gwen Rees o Brifysgol Cymru Aberystwyth.

Bwletin Amaeth
Wythnos Caru Cig Oen Hybu Cig Cymru

Bwletin Amaeth

Play Episode Listen Later Aug 28, 2024 4:48


Megan Williams sy'n clywed mwy am yr ymgyrch gan Liz Hunter o Hybu Cig Cymru.

Bwletin Amaeth
Wythnos Ffermio Cymru NFU Cymru

Bwletin Amaeth

Play Episode Listen Later Jun 17, 2024 4:57


Megan Williams sy'n trafod yr wythnos gyda Llywydd NFU Cymru, Aled Jones.

Bwletin Amaeth
Wythnos Iechyd Dynion

Bwletin Amaeth

Play Episode Listen Later Jun 10, 2024 5:00


Ar ddechrau Wythnos Iechyd Dynion, Megan Williams sy'n holi'r Dr Beth Howells.

Bwletin Amaeth
Wythnos Gwin Cymru

Bwletin Amaeth

Play Episode Listen Later May 27, 2024 4:40


Megan Williams sy'n trafod yr wythnos gyda'r ffermwr Geoff Easton o Ddyffryn Clwyd.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill y 30ain 2024.

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Apr 30, 2024 18:18


Ar Blât – Elinor SnowsillY cyn-chwaraewr rygbi Elinor Snowsill oedd gwestai Beca Lyne-Pirkis ar y rhaglen Ar Blât yn ddiweddar, gyda'r ddwy yn trafod ryseitiau, atgofion a sut mae bwyd yn effeithio ar ein bywydau ni bob dydd. Mae coginio yn rhan fawr o fywyd teulu Elinor felly siawns ei bod hi wedi bwyta'n dda ac yn iach pan oedd hi'n ifanc…?Cyn-chwaraewr Former player Rysetiau Recipes Atgofion Memories Gwrthod To refuse Cytbwys Balanced Adnabyddus Famous Wastad AlwaysDros Frecwast – Toiledau CyhoeddusWel dw i'n siŵr bod Elinor yn bwyta'n iachach nawr nag oedd hi pan oedd hi'n ifanc! Ar fore Llun yr 22ain o Ebrill, diffyg toiledau cyhoeddus oedd yn cael sylw ar raglen Dros Frecwast. Buodd Gethin Morris Williams yn sgwrsio gyda Lois Mererid Edwards, o Langefni ar Ynys Môn. Fel cawn ni glywed, mae Lois yn diodde o gyflwr meddygol sy'n golygu bod toiledau cyhoeddus yn bwysig iawn iddi hi … Diffyg Lack of Cyflwr Condition Coluddyn Bowel Rheolaeth Control Straen Stress Croen Skin Ar hap Randomly Ailadroddus Repetitious Cyfleusterau cyhoeddus Public conveniences Cymryd yn ganiataol Taking for grantedBore Cothi – Menna WilliamsLois Mererid Edwards oedd honna'n sôn am pa mor bwysig yw bod digon o doiledau cyhoeddus ar gael, yn enwedig i'r rhai sy'n diodde o gyflwr meddygol. Menna Williams o Langernyw yn Sir Conwy ydy enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes eleni. Gwobr yw hon sy'n cael ei rhoi bob blwyddyn yn Eisteddfod yr Urdd, am gyfraniad sylweddol i fywyd pobl ifanc Cymru. Wythnos diwetha, Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shân Cothi yn gynnes, a chafodd hi sgwrs fach gyda Menna ar y rhaglen: Tlws Trophy Cyfraniad sylweddol A substantial contribution Braint A privilege Dirprwy Deputy Cyfeilio To accompany (on piano) Amyneddgar iawn Very patient Llenni Curtains Deuawd Duet Pan ddaru o Pan wnaeth e Ienga Ifanca Anrhydedd An honourBeti a'i Phobol – Shelley ReesA llongyfarchiadau mawr i Menna Williams ar ennill y Tlws arbennig yna, dw i'n siŵr bydd hi'n mwynhau'r seremoni yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Shelley Rees yr actores, a chyflwynydd Radio Cymru oedd gwestai Beti George ar ei rhaglen nos Sul. Yma mae Shelley yn sôn am actio. Mae hi wedi perfformio ers pan oedd hi'n blentyn bach, ond nawr bod hi'n bum deg oed tybed ydy hi'n anoddach iddi hi gael gwaith actio? Cyflwynydd Presenter Sefyll yn llonydd Standing still Menywod Merched Arallgyfeirio Diversify Ymgyrchu To campaign Egni Energy Drygionus Naughty Yn go glou Yn eitha cyflym Mam-gu Nain Taw MaiAled Hughes – SingaporeYchydig o hanes gyrfa actio Shelley Rees yn fanna ar Beti a'i Phobol. Basen ni'n disgwyl clywed sgwrs Gymraeg mewn ystafell athrawon, neu gweld eisteddfod mewn ysgol yng Nghymru …ond yn Singapore? Wel dyna sy'n digwydd mewn un ysgol draw ar yr ynys bell honno, diolch i bennaeth o Gymru, sydd wedi recriwtio nifer o athrawon Cymreig i weithio yn yr ysgol. Rhys Myfyr, un o athrawon yr ysgol fuodd yn sgwrsio gydag Aled Hughes: Pennaeth Head Rhyfedd Strange Rhyngwladol International Wedi ei leoli Located Diwylliannol Cultural Hap a damwain Luck Denu To attract Ymddiried To trust Cystadleuol CompetitiveDros Ginio – LlyfrauEisteddfod ysgol yn Singapore, gwych on'd ife? Tybed faint o lyfrau dych chi'n llwyddo i'w darllen o glawr i glawr? Yn ddiweddar, mae sawl ap yn crynhoi cynnwys llyfrau, ond ydy hyn yn mynd i gael effaith ar werthiant llyfrau? Ar Dros Ginio ddydd Mawrth diwetha, buodd Jennifer Jones yn holi'r awdur a'r golygydd, Elinor Wyn Reynolds am ei barn: Clawr Cover Crynhoi cynnwys To summarise the content Cyfrolau Books Adolygiadau Review Yn ei chrynswth In its entirety Drwgdybus Suspicious Yn hytrach na Rather than Bod dynol Human being Bygythiad Threat Annog To encourage Agor cil y drws To open the door slightly

Bwletin Amaeth
Wythnos Cig Eidion Prydain Fawr

Bwletin Amaeth

Play Episode Listen Later Apr 23, 2024 4:42


Megan Williams sy'n sgwrsio gydag Elwen Roberts o Hybu Cig Cymru am yr ymgyrch.

Podcast Rygbi Cymru
Lle aeth e gyd yn anghywir? - gyda Seimon Williams

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later Feb 20, 2024 79:53


Wythnos yma mae Carwyn a Iestyn yn cael cwmni Seimon Williams, awdur y llyfr “Welsh Rugby: What went wrong?” i drafod ei lyfr yn ogystal â lle ydym ni nawr gyda rhanbarthau Cymru.  Hefyd maent yn trafod newyddion a chanlyniadau'r penwythnos yn cynnwys buddugoliaeth arall i'r Gweilch a cholledion drwm i'r Scarlets a'r Dreigiau.  Dilyn ni ar gyfryngau gymdeithasol @RygbiCymruPod Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices

Bwletin Amaeth
Wythnos 'Gwyliwch Eich Pen'

Bwletin Amaeth

Play Episode Listen Later Feb 12, 2024 4:48


Megan Williams sy'n clywed mwy am yr ymgyrch gan Kate Miles o elusen Sefydliad y DPJ.

Podcast Rygbi Cymru
Y Gweilch yn lladd y Llewod yn hwyr

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later Jan 23, 2024 37:21


Wythnos tawelach i Iestyn a Carwyn yw hi wythnos yma wrth i'r ddau edrych yn ôl ar yr Indigo Premiership, Ewrop a newyddion yr wythnos.  Sultan ni ar gyfryngau gymdrithasol @RygbiCymruPod Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices

Bwletin Amaeth
Wythnos Brecwast Fferm Undeb Amaethwyr Cymru

Bwletin Amaeth

Play Episode Listen Later Jan 17, 2024 4:39


Rhodri Davies sy'n clywed mwy am yr wythnos gan Guto Bebb o Undeb Amaethwyr Cymru.

Podcast Rygbi Cymru
Gwyl o geisiau I Dewi

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later Dec 13, 2023 72:30


Wythnos yma mae Carwyn ac Iestyn yn dadansoddi perfformiadau'r pedwar rhanbarth yn Ewrop ar ôl buddugoliaethau i'r Gweilch a'r Dreigiau ond teithiau anodd i'r Sgarlets a Chaerdydd yn Ffrainc.  Dilyn ni ar gyfryngau gymdeithasol @RygbiCymruPod  Mae unrhyw ymateb yn werthfawr i ni. Learn more about your ad choices. Visit megaphone.fm/adchoices

Podcast Rygbi Cymru
Rhondda i Ponty via Glantaf a'r Sgarlets gyda Josh Phillips

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later Dec 8, 2023 74:14


Wythnos yma mae Carwyn ac Iestyn yn cael eu ymuno gan faswr Pontypridd a chyn faswr dan ugain Cymru Josh Phillips i drafod ei daith rygbi yn ogystal â'r Indigo Prem a fuddugoliaeth y Sgarlets dros Caerdydd.  Hefyd maent yn edrych ymlaen i gemau Ewrop a sialens tîm y prifddinas yn Toulouse a Gweilch v Benetton Round 2.   Dilyn ni ar gyfryngau gymdeithasol @RygbiCymruPod  Mae unrhyw ymateb yn werthfawr i ni. Learn more about your ad choices. Visit megaphone.fm/adchoices

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr y 5ed 2023.

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Dec 5, 2023 17:33


1 Bore Cothi: Sioe Aeaf.Ddydd Llun Tachwedd 27 roedd rhaglen Bore Cothi yn darlledu o'r Ffair Aeaf yn Llanelwedd. Cafodd Shân gwmni mam a merch, sef Ffion a Leia Lloyd-Williams o fferm Bathafarn ger Rhuthun. Roedden nhw wedi bod yn dangos ceffyl yn y Ffair, sut aeth hi tybed?Darlledu Broadcasting Y Ffair Aeaf The Winter Fair Gwisg Costume Fel pin mewn papur Immaculate Awyrgylch Atmosphere Rhan-frîd Part breed Is-bencampwr Reserve Champion2 Ffion Emyr: Tips Pwdin Dolig.Roedd Ffion, Leia a Shân hefyd i weld wrth eu boddau gyda'r Ffair Aeaf on'd oedden nhw? Ddydd Sul Tachwedd 26 roedd hi'n Stir Up Sunday sef y Sul ola cyn yr Adfent, a dyma'r diwrnod traddodiadol i bobl wneud eu pwdin Dolig! Y nos Wener cyn hynny rhannodd Ffion Emyr ychydig o dips ar sut i wneud pwdin Dolig. Roedd Ffion wedi casglu'r tips yma gan chefs enwog fel Delia Smith, Andrew Dixon a Nigella Lawson. Socian To soak Fel rheol As a rule Gorchuddio To cover Llysieuol Vegetarian Blawd Flour Ffigys Figs Cnau wedi malu Chopped nuts Ychwanegwch! Add! Sinsir Ginger Heb wres Without heat 3 Carl ac Alun Gwener 24ain yn lle Trystan ac Emma: Dr Who.Wel dyna ni felly, o dan y gwely â'r pwdin Dolig! Tips defnyddiol iawn yn fanna gan Ffion Emyr. Wel mae Dr Who yn ôl! Dych chi wedi cael cyfle i weld y gyfres newydd eto? Dw i'n siŵr bod Ianto Williams o Faesybont ger Caerfyrddin wedi ei gweld gan ei fod yn superfan y gyfres. Fore Gwener Tachwedd 24, Carl ac Alun oedd yn cadw sedd Trystan ac Emma yn gynnes rhwng 9 ag 11 a chaethon nhw sgwrs gyda Ianto a'i glywed yn sôn am ei gasgliad o ddeunyddiau Dr Who Cyfres Series Casgliad Collection Deunyddiau Materials Gwerthfawr Valuable Wedi ei arwyddo Signed Halais i Mi wnes i anfon Yn amlwg Obviously Unigryw Unique Cyfrannu at To contribute to4 Ffion Dafis: Aled Hall mewn opera newydd.Ianto Williams oedd hwnna'n sôn am ei gasgliad o ddeunyddiau Dr Who. Aled Hall, y tenor operatig o Bencader, Sir Gaerfyrddin oedd yn cadw cwmni i Ffion Dafis yn ddiweddar. Yn y clip hwn, mae Aled yn trafod ei ran yn yr opera newydd Men Sheds, gafodd ei chyfansoddi gan y cerddor Lenny Sayers. Mae'r opera hon yn ceisio codi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl dynion:Cafodd ei chyfansoddi Was composed Codi ymwybyddiaeth Raising awareness Cymeriad Character Aeth ati Went at it Ymdrin â Dealing with Ymgynnull To congregate Cymunedau di-rif Countless communities Cysyniad Concept Angen trafod Need to discuss5 Aled Hughes:Mae'n dda gweld opera ar thema modern er mwyn codi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl, on'd yw hi? Wythnos diwetha, Arwyn Tomos Jones o Brifysgol Caerdydd, fuodd yn sôn am hen feddyginiaethau gydag Aled Hughes. Dyma i chi flas ar y sgwrs: Meddyginiaethau Medicines Canrif Century Hollol hurt Totally stupid Ysgyfaint Lung Danadl poethion Stinging nettles Dant y Llew Dandelion Tlodi Poverty Cyn bwysiced â As important as Moddion Medicine Hylif Liquid Dim sail No foundation6 Dros Ginio:Dyna ddiddorol on'd ife fel roedd pobl yn defnyddio‘r byd natur o'n cwmpas yn feddyginiaethau yn y gorffennol. Ddydd Mawrth diwetha, banciau bwyd oedd yn cael sylw ar Dros Ginio gyda Jennifer Jones. Mae mwy a mwy o alw am y banciau bwyd y dyddiau hyn, ond mae llai ac yn llai o bobl yn cyfrannu bwyd at y banciau. Yn y clip hwn, Trey McCain, Rheolwr Banc Bwyd Arfon sy'n egluro'r sefyllfa i Jennifer. Mae Trey yn dod o Mississippi yng ngogledd America yn wreiddiol ond wedi dysgu Cymraeg yn rhugl. Budd-daliadau Benefits Hanfodol Essential Gwendidau Weakness Credyd Cynhwysol Universal credit Cyflenwadau Provisions Pwysau Pressure Galluogi To enable Pryderus Concerned Neges The shopping Uniongyrchol Direct Ar y gweill In the pipeline

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd yr 21ain 2023.

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Nov 21, 2023 16:00


Clip 1 Trystan ac Emma: Buodd Steffan Long o Gaerdydd yn sgwrsio ar raglen Trystan ac Emma yn ddiweddar, ac yn sôn am ei waith fel cynorthwyydd dysgu Saesneg mewn Ysgol yn Tokyo, a dyma i chi flas ar y sgwrs: Cynorthwyydd Assistant Ma's Allan Hir dymor Long term Parhau Continue Disgyblion Pupils Mymryn A little Clip 2 Rhaglen Cofio: Steffan Long oedd hwnna'n sôn am ei waith mewn ysgol yn Tokyo. Wythnos diwetha roedd hi'n Sul y Cofio a dyna beth oedd thema rhaglen Cofio gyda John Hardy. A dyma i chi glip o Harold Williams yn sôn am ddod i Lanrwst fel ifaciwî o Lerpwl yn ystod yr Ail Ryfel Byd: Ail Ryfel Byd Second World War Trais Violence Pledu cerrig Throwing stones Cyfnod Period Yn achlysurol Occasionally Mynd yn eu holau Returning Lleia'n byd o sôn oedd The less it was mentioned Buan iawn Very soon Clip 3 Bwrw Golwg: Hanes rai o ifaciwîs Llanrwst yn fanna ar raglen Cofio. Ar Bwrw Golwg ar y 12fed o Dachwedd, mi roddwyd sylw i Diwali neu Ŵyl y Goleuni, sy'n cael ei dathlu gan Hindŵiaid a Sikhiaid. Yn y clip nesa ‘ma mae Mohini Gupta, sydd wedi dysgu Cymraeg, yn sôn am draddodiadau'r Ŵyl hon efo Gwenfair Griffith: Goleuni Light Traddodiadau Traditions Addurno To decorate Gweddïau Prayers Buddugoliaeth Victory Tywyllwch Darkness Gwahodd ffyniant Inviting prosperity Pryder amgylcheddol Environmental concern Ymdrechion i annog Efforts to encourage Melysion Confectionary Byrbrydau Snacks Clip 4 Rhaglen Aled Hughes: Mae'n swnio fel bod dathliadau Diwali yn llawn o fwyd blasus yn tydy? DJ Katie Owen oedd gwestai Aled Hughes yn ddiweddar. Mae Katie wedi dilyn Cymdeithas Bêl-Droed Cymru ar draws y byd yn chwarae cerddoriaeth i'r cefnogwyr, ac mae hi wedi dysgu Cymraeg. Buodd Katie ar y rhaglen Iaith ar Daith efo'i mentor Huw Stephens yn 2021. Mi gafodd Aled â Katie sgwrs yng Nghanolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn, ac yn y clip hwn mae hi'n sôn am gymaint mae hi'n caru dysgu Cymraeg: Cymdeithas Bêl-Droed Cymru Football Association of Wales Cefnogwyr Fans Mo'yn Eisiau Cerddoriaeth Music Ar goll Lost Mi ddylet ti fod You should be Clip 5 Rhaglen Caryl: Dal Ati Katie, mi fyddi di'n rhugl cyn bo hir, dw i'n siŵr. Lowri Cêt oedd yn cadw cwmni i Caryl ddechrau'r wythnos diwetha. Mae Lowri yn chwarae rhan Sindarela ym mhantomeim blynyddol Theatr Fach Llangefni. Yma mae'n dweud mwy am y sioe: Stori draddodiadol Traditional story Llysfam gas Wicked stepmother Annifyr Unpleasant Yn gyfarwydd â Familiar with Hyll Ugly Gwisgoedd Costumes Cymeriadau Characters Yn brin iawn Very rarely Hawlfraint Copyright Clip 6 Bore Cothi: Wel am hwyl ynde? A phob lwc i griw Theatr Fach Llangefni efo'r pantomeim. Bob nos Fawrth mae'r rhaglen Gwesty Aduniad i'w gweld ar S4C. Mae'r rhaglen yn trefnu aduniad i bobl sydd wedi colli cysylltiad â'i gilydd ond hefyd yn trenu i bobl gyfarfod â'i gilydd am y tro cynta mewn amgylchiadau arbennig. Mae'n gyfres boblogaidd ac emosiynol iawn. Nos Fawrth y 14eg o Dachwedd roedd Guto Williams o Dregarth ar y rhaglen. Mae Guto wedi cael ei fabwysiadu ac yn awyddus i ddod o hyd i'w deulu coll: Aduniad Reunion Mabwysiadu To adopt Adlewyrchiad Reflection Magwraeth Upbringing Rhieni maeth Foster parents Tebygolrwydd Similarity Cam mawr A big step Greddf Instinct Parch Respect Ffawd Lwc Clamp o stori A huge story

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Hydref yr 24ain 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Oct 24, 2023 13:08


Siw Hardson Ar raglen Trystan ac Emma roedd Siw Harston, sy'n dod o Landeilo yn wreiddiol ond sydd nawr yn byw yn Surrey, yn sgwrsio am y siaradwyr Cymraeg mae hi wedi dod ar eu traws dros y blynyddoedd, ym mhob rhan o'r byd: Anhygoel Incredible Cynhesrwydd i'r enaid Warmth for the soul Y tu hwnt i Beyond Rogue Jones Does ots ble fyddwch chi, dych chi'n siŵr o glywed y Gymraeg, on'd dych chi? Buodd Mari Grug yn holi Bethan Mai o'r band Rogue Jones, ar raglen Ffion Dafis yn ddiweddar, hyn ar ôl iddyn nhw ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, nos Fawrth y 10fed o Hydref. Dyma i chi flas ar y sgwrs: Gwobr Gerddoriaeth Gymreig Welsh Music Prize Sylw Attention Llafur cariad Labour of love Yn ariannol Financially Gwefreiddiol Thrilling Cyfweliadau Interviews Ffydd Faith Llinach Pedigree Rhyfedd Strange Toddi To melt Jenny Adams A llongyfarchiadau mawr i Rogue Jones, yn llawn haeddu'r wobr. Roedd hi'n Wythnos y Dysgwyr wythnos ddiwethaf ar Radio Cymru a Heledd Cynwal oedd yn sedd Shan Cothi fore Llun Hydref 16, a chafodd hi sgwrs gyda Jenny Adams, sy'n dod o Surrey yn wreiddiol, ond sy'n byw ym Machen, ger Caerffili ar hyn o bryd: Yn llawn haeddu Wholly deserving Cyfathrebu Communicate Swyddogol Official Profiad Experience Codi hyder To raise confidence Disney Jenny Adams oedd honna – un o'r nifer fawr o ddysgwyr y Gymraeg glywon ni ar Radio Cymru yn ddiweddar. Ddydd Llun rhoddodd Dros Ginio sylw i'r ffaith bod cwmni Disney yn 100 oed, a Catrin Heledd fuodd yn holi'r Dr Elain Price sy'n darlithio ar ffilm a theledu, am ddylanwad y cwmni ar y byd ffilmiau dros y blynyddoedd: Darlithio To lecture Dal dychymyg To catch the imaginagion Yn ddiweddarach Later on Cydamseru Synchronize Arloesi To innovate Wrth wraidd At the root of Dyfeisio To invent Bodoli To exist Addasu To adapt Cyfarwydd Familiar Tybio To suppose Mai Lloyd Dr Elain Price yn fanna yn rhoi ychydig o hanes cwmni Disney i ni. Fore Mawrth wythnos ddiwethaf ar raglen Aled Hughes, Mai Lloyd o Aberteifi oedd yn edrych yn ôl ar ei hamser yn Trinidad a Tobago dros yr haf, yn cystadlu efo'r ddisgen yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad: Disgen Discus Y Gymanwlad The Commonwealth Uchafbwyntiau Highlights Pobl hŷn Older people Gareth Wyn Jones A dw i'n siŵr byddwn ni clywed llawer iawn mwy am Mai yn y dyfodol, a hithau'n amlwg wedi mwynhau'r cystadlu. Gwestai Ifan Jones Evans yn y clip nesa yw ffermwr mwya enwog Cymru, sef Gareth Wyn Jones. Mae ganddo ddilyniant mawr ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn ddiweddar, mae wedi croesi carreg filltir anferth ac wedi cyrraedd miliwn o danysgrifwyr ar ei sianel You Tube: Dilyniant Following Cyfryngau cymdeithasol Social media Carreg filltir anferth Huge milestone Tanysgrifwyr Subscribers Diwydiant amaeth Agricultural industry Ymdopi To cope

Podcast Rygbi Cymru
Y WRRAP Gymraeg - Dechreuad newydd

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later Oct 4, 2023 61:49


Croeso mawr i bodlediad newydd i gefnogwyr rygbi Cymru drwy gyfrwng y Gymraeg!  Wythnos yma mae Carwyn ac Iestyn yn eich arwain trwy newidiadau'r haf, y pedwar tîm rhanbarthol yn ogystal â thîm Cymru yn erbyn Georgia yng Nghwpan y Byd.  Mae unrhyw ymateb yn werthfawr i ni! Learn more about your ad choices. Visit megaphone.fm/adchoices

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Medi'r 26ain 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Sep 27, 2023 12:21


Pigion Dysgwyr – Y Wladfa Mae Llinos Howells o Ferthyr Tudful yn gweithio ar hyn o bryd yn y Wladfa, sef y rhan o‘r Ariannin ble mae siaradwyr Cymraeg yn byw. Yn ei gwaith bob dydd mae hi‘n dysgu Cymraeg i blant yr ysgolion lleol. Wythnos diwetha cafodd Aled Hughes gyfle i sgwrsio gyda hi i weld sut mae pethau‘n mynd hyd yn hyn... Yr Ariannin Argentina Union fis A month exactly Rhagbrofion Preliminary competition Llefaru Reciting Braint o feirniadu The honour of adjudicating Deng mlynedd ar hugain 30 years Cyngerdd mawreddog A grand concert Croesawgar Welcoming Twymgalon Warm-hearted Pigion Dysgwyr – Ann Evans Llinos Howells oedd honna'n brysur iawn yn y Wladfa, ond i weld yn mwynhau bob eiliad. Merch arall o Ferthyr sydd yn y clip nesa - Ann Evans, dorrodd record Cymru i ferched dros 65 oed yn Hanner Marathon Casnewydd fis Mawrth diwetha, ond sydd erbyn hyn wedi cyflawni camp arall. Bythefnos yn ôl roedd hi yn Kenya yn cymryd rhan mewn ras barodd bump o ddiwrnodau drwy ardaloedd cadwraeth y wlad. Roedd rhaid rhedeg 30 milltir y dydd mewn tywydd poeth iawn. Dyma hi‘n sgwrsio gyda Alun Thomas ar Bore Sul ac yn sôn am un digwyddiad arbennig ar y daith…… Tu fas i Tu allan i Cyflawni camp To fulfil an achievement Ardaloedd cadwraeth Conservation areas Heol (hewl) Ffordd Eiddo Possessions Perchen Ownership Dwyn To steal Gofidus Worried Rhydd Loose Dros y dibyn Over the precipice Pigion Dysgwyr – Karen Wynne Mae merched Merthyr yn hoff iawn o antur on'd dyn nhw? Ac roedd hi'n dipyn o antur i'r actores Karen Wynne yn ddiweddar wrth iddi hi gael ei derbyn i'r Cylch Hud. Dyma Karen ar raglen Bore Cothi wythnos diwetha yn sôn wrth Shan am y broses o gael eich derbyn i'r cylch arbennig hwn……. Cylch Hud Magic Circle Mynd amdani Going for it Syth bin bot Straight away Digwydd bod Happened to be Hanu Deriving from Sêl bendith Seal of approval Gweinidog Minister Hud a lledrith Magic Honni To claim Arallfydol Otherworldly Pigion Dysgwyr – Hafodwennog Basai'r gair ‘hudolus', falle, yn un gair i ddisgrifio taith Aelwyd Urdd Hafodwennog i Ffrainc. Mae'r aelwyd yn y wlad fel rhan o ymgyrch Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd. Cafodd Ifan Evans gwmni Gwenan Evans a Dai Baker o'r Aelwyd ar ei raglen yr wythnos diwetha i sôn mwy am daith... Hudolus Magical Ymgyrch Campaign Swmpus Substantial Arweinyddion cyfrifol Responsible leaders Gweithdai Workshops Cytgan Refrain Pigion Dysgwyr – Gwion Clarke A dw i'n siŵr bod aelodau'r Aelwyd wedi ysbrydoli cefnogwyr Cymru yn ystod y gêm bwysig honno yn erbyn Awstralia yn Lyon. Nos Fawrth diwetha cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Gwion Clarke o Gaernarfon. Mae Gwion yn sgriptio darnau comedi ac yn gomedïwr ei hun, a dyma fe'n sôn wrth Caryl am sut dechreuodd e yn y maes……. Ysbrydoli To inspire Testunau List of competitions Creadigol Creative Edmygu brwdfrydedd Admire the enthusiasm Buddugol Successful Doniol Funny Deunydd Material Llifo To flow Difrifol iawn Very serious Tawelwch Silence Pigion Dysgwyr – John Shaw A phob lwc i Gwion gyda'r gigs on'd ife? Ar Dros Frecwast fore Mercher clywon ni lais John Shaw. Mae John yn byw yn Utah ond roedd ei deulu'n dod Gymru yn wreiddiol. Alun Thomas aeth draw i Ysgol Llangynwyd ger Maesteg i weld John ar ei ymweliad cynta â gwlad ei gyn-deidiau Cyndeidiau Forefathers Gwyddonydd coedwig Forestry scientist Gweddill The rest of Annerch To address Troedio llwybrau Treading the paths Y bedwaredd ganrif ar bymtheg 19th century Cysylltiad Connection Degawdau Decades Bedyddwyr Baptist Emyn Hymn

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 11eg o Orffennaf 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jul 11, 2023 12:01


Pigion Dysgwyr – Cerys Hafana Cerys Hafana, y cerddor ifanc o Fachynlleth oedd gwestai Beti George ar Beti a'i Phobol wythnos diwetha. Mae hi'n chwarae'r delyn ers pan oedd hi'n 7 mlwydd oed. Daeth hi i Fachynlleth i fyw yn blentyn bach o ddinas Manceinion. Dyma hi'n sôn am sefyllfa byd cerddoriaeth werin yng Nghymru, ymhlith pobl ifanc. Cerddor Musician Telyn Harp Ymhlith Amongst Offeryn Instrument Cerddoriaeth (g)werin Folk music Mae'n ddilys It's valid Mynegi eich hunain To express yourselves Llawysgrifau Manuscripts Plant yn eu harddegau Teenagers Ysbrydoliaeth Inspiration Pigion Dysgwyr – Cernyweg Y cerddor Cerys Hafana oedd honna'n sgwrsio gyda Beti George. Enillodd Matt Spry wobr Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018 ac aeth ymlaen i fod yn diwtor Cymraeg gyda Phrifysgol Caerdydd. Mae'n dod o Aberplym neu Plymouth yn wreiddiol, ac nawr mae e wedi bod yn dysgu Cernyweg ers tua 8 mis. Wythnos diwetha ar raglen Aled Hughes cafodd Matt air gydag Aled i esbonio pam ei fod wedi mynd ati i ddysgu'r iaith … Cernyweg Cornish language Yn bennaf Mainly Ar y ffin On the border Cysylltu To contact Wythnosol Weekly O gymharu â Compared to Anhawsa Most difficult Yn rheolaidd Regularly Hynod o bwysig Extremely important Pigion Dysgwyr – Talwrn A phob lwc i Matt gyda'r Gernyweg on'd ife? Cystadleuaeth rhwng dau dîm o feirdd ydy'r Talwrn a'r wythnos diwetha y ddau dîm oedd yn cymryd rhan oedd Tir Iarll a'r Glêr, mewn rhaglen cafodd ei recordio yn Neuadd Pontyberem. Dyma Ceri Wyn Jones i osod tasg y limrig….. Dim peryg No danger Barddoniaeth Poetry Gosod tasg Setting the task Unwaith y flwyddyn Once a year ‘Na ryfedd That's strange Awgrymais I suggested Fy ffiol oedd lawn My cup was overflowing Pigion Dysgwyr – Gyrru Dramor Wel dyna ddau limrig doniol on'd ife? P'run enillodd tybed? Dych chi wedi gyrru dramor erioed? Un sydd wedi gwneud yn aml yw arbenigwr moduro Rhaglen Bore Cothi, Mark James. Wythnos diwetha cafodd Mark sgwrs gyda Shan Cothi am beth sydd angen ei gofio pan dych chi'n gyrru ar gyfandir Ewrop. Tramor Overseas Arbenigwr Expert Cyfandir Continent Esgeuluso To neglect Trwydded yrru Driving license Pigion Dysgwyr – Dafydd Morgan Pethau i chi gofio wrth yrru ar gyfandir Ewrop yn fan'na ar Bore Cothi. Awn i gyfandir arall nawr – Awstralia. Mae Dafydd Morgan o bentre Ffarmers yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn byw yn Awstralia ers mis Medi y llynedd. Mae Dafydd wedi bod yn gweithio ar ffermydd y wlad a dyma fe i sôn wrth Ifan Evans am y tywydd yno ar hyn o bryd….. Gaeafau Winters Porfa Pasture Sulwair Silage Plannu To plant Ffrwythlon Fertile Pigion Dysgwyr – Rhys Mwyn Wel dyna ni, nid Cymru sy'n cael y glaw i gyd! Yn y cylchgrawn Far Out mae'r cerddor a'r canwr Paul Weller, fuodd gyda band The Jam, wedi dewis yr albwm Hotel Shampoo gan Gruff Rhys fel un o'i hoff albymau. Ymhlith ei hoff albymau eraill roedd rhai gan y Beatles, Stevie Wonder, Bob Marley a David Bowie. Dyma Rhys Mwyn ar Dros Frecwast fore Iau diwetha'n sôn am gerddoriaeth Rhys a'r Super Furry Animals Tueddu i Tend to Edmygu neu gwerthfawrogi Admire or appreciate Petai Tasai Arbrofol Experimental Cydnabod To acknowledge

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 31ain o Fai 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later May 31, 2023 12:37


Rhaglen Caryl Parry Jones Ar ei rhaglen wythnos diwethaf, mi gafodd Caryl sgwrs efo Ieuan Mathews o Gwmni Theatr Pontypridd. Mae'r cwmni ar hyn o bryd yn llwyfannu y sioe gerdd Grease. Mi ofynnodd Caryl iddo fo‘n gynta, faint o sioeau maen nhw‘n arfer perfformio bob blwyddyn... Llwyfannu - To stage Sioe gerdd - Musical Cymeriadau - Characters Iesgob annwyl! - Good grief! Y brif ran - The main part Rhaglen Bore Sul Yn 1963 recordiwyd Cymanfa Ganu arbennig yn Neuadd Albert Llundain gyda dros 5,000 o gantorion yn cymryd rhan. Mi roddodd Alun Thomas, cyflwynydd y rhaglen, apêl ar y cyfryngau cymdeithasol am unrhyw un oedd yn bresennol yn y recordiad hwnnw i gysylltu efo fo. Ac yn wir, mi gafodd ymateb gan Non Thomas, sy'n dod o Ferthyr yn wreiddiol, ond sy'n byw yn Hirwaun yng Nghwm Cynon erbyn hyn... Cymanfa Ganu - A hymn singing festival Cyflwynydd - Presenter Cyfryngau cymdeithasol - Social media Ymateb - Response Ymuno â - To join Gwasanaeth sifil - Civil Service Dipyn o fenter - Quite a venture Profiad - Experience Dych chi'n gallu dychmygu - You can imagine Y wefr - The thrill Rhaglen Trystan ac Emma Mi fuodd Casi ac Elen o Ysgol Treganna, Caerdydd yn ddigon lwcus yn ddiweddar i dderbyn llythyr arbennig iawn yn y post. Roedden nhw wedi anfon llythyr at y naturiaethwr a'r darlledwr enwog David Attenborough. Mi ofynnodd Trystan ag Emma i'r ddwy pam penderfynon nhw anfon llythyr ato fo... Darlledwr- Broadcaster Yn ddiweddar - Recently Arwr - Hero Cyflwyniad - Presentation Brathu - To bite Sefydlu - To establish Baswn i'n tybio - I would assume Rhaglen Ar Blât Y ddarlledwraig Siân Thomas oedd gwestai Beca Lyne-Pirkis ar ei chyfres yr wythnos diwethaf. Dyma Sian yn sôn am wyliau gwahanol iawn gafodd hi yn y gorffennol... Mis mêl - Honeymoon Sa i'n gwybod - Dw i ddim yn gwybod Wedi gweini ar iâ - Served on ice Trwchus - Thick Amrwd - Raw Cig carw - Venison Anhygoel - Incredible Pert - Pretty Yn go gloi - Quite quickly Rhaglen Aled Hughes Mae Tegan Rees o Gwm Rhondda yn fyfyrwraig newyddiaduraeth, ond mae hi hefyd wedi cynrychioli Cymru mewn Bowlio Lawnt. Wythnos diwethaf ar raglen Aled Hughes mi ofynnodd Nia Parry (a oedd yn cyflwyno yn lle Aled Hughes) i Tegan, pryd dechreuodd hi chwarae bowls... Newyddiaduraeth - Journalism Cynrychioli - To represent Wastad - Always Chdi - Ti Pryderus - Concerned Cyffro - Excitement Braslun - Outline Rhaglen Caryl Parry Jones Ar Ynys Môn mae na griw o ferched yn nofio'n gyson yn y môr drwy'r flwyddyn hyd yn oed yng nghanol y gaeaf. Maen nhw'n nofio dan faner Nofwyr Titws Tomos Môn!! Dyma un ohonyn nhw, Sian, i sôn mwy wrth Caryl Parry Jones… Yn gyson - Regularly Hyd yn oed - Even Baner - Flag Titw Tomos - Blue Tit Calon - Heart Trochiad - Ducking Canmol - Praise

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 21ain o Fawrth 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Mar 21, 2023 16:42


Pigion Dysgwyr – Doctor Cymraeg Cafodd Steven Rule ei eni yn Nghoed-llai ger yr Wyddgrug ond mae llawer yn ei nabod erbyn hyn fel y Doctor Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol. Ar Twitter mae Steven yn ateb cwestiynau dysgwyr Cymraeg am yr iaith. Gofynodd Aled Hughes iddo fe'n gynta, gafodd Steven ei fagu ar aelwyd Cgymraeg? Aelwyd Home Cyfryngau cymdeithasol Social media Yr Wyddgrug Mold Bodoli To exist Bellach By now Fel petai As it were Ar y ffin On the border Anogaeth Encouragment Pigion Dysgwyr – Dawnswyr Mon On'd yw hi'n braf cael clywed am blant y ffin yn cael Dysgu Cymraeg? Daliwch ati Doctor Cymraeg! Buodd Mair Jones yn sgwrsio gyda Shan Cothi ar ei rhaglen yr wythnos diwetha yn apelio am aelodau newydd i ymuno â chriw Dawnswyr Môn. Dyma Mair i esbonio yn gynta sut a pryd ffurfiwyd y grŵp... Mi ddaru John sefydlu John formed Treulio To spend (time) Y clo The lockdown Ail-gydio To rekindle Gwlad Pwyl Poland Cynulleidfaoedd Audiences Anferth Huge Yn rhwydd Yn hawdd Yn helaeth Extensively Pigion Dysgwyr – Geraint Roberts Felly os dych chi'n byw yn y gogledd orllewin ac eisiau dysgu dawnsio gwerin , cysylltwch â dawnswyr Môn. Fe gafodd Trystan ac Emma gwmni y pibydd o Ystradgynlais Geraint Roberts ar eu rhaglen yn ddiweddar. Mae Geraint yn chwarae'r bib Gymreig mewn gorymdeithiau a phriodasau, a bu'n esbonio beth yn gwmws yn ei farn e yw eu hapel Mewn – gallech chi ddweud Allan – I ddweud y gwir Hyd – 1'39” Pigion Dysgwyr – Pryd Ma Te Felly os dych chi'n byw yn y gogledd orllewin ac eisiau dysgu dawnsio gwerin , cysylltwch â dawnswyr Môn. Nos Lun ar ei raglen gwahoddodd Rhys Mwyn - Mair Tomos Ifans, Carys Huw, Sian Wheway a Nia Owens i'r stiwdio. Yn yr 80au ffurfion nhw fand o'r enw Pryd Ma Te. Dyma Mair Tomos Ifans yn gynta i sôn am ba offeryn roedd hi yn chwarae yn y band Offeryn Instrument Mi ddaru ni benderfynu Penderfynon ni Genod Merched Chdi Ti Pigion Dysgwyr – Quincy Jones Criw Pryd Ma Te yn fanna'n cofio dyddiau cynnar y band efo Rhys Mwyn. Ddydd Mawrth diwetha roedd y cerddor a'r cyfansoddwr Quincy Jones yn dathlu ei benblwydd yn 90 oed. Ar Dros Ginio y diwrnod hwnnw cafodd y cerddor jazz Tomos Williams gyfle i edrych yn ôl dros ei yrfa, gan ddechrau drwy sôn am ble gafodd Jones ei fagu….. Y cerddor a'r cyfansoddwr The musician and composer Ardal ddiwydiannol Industrial area Hiliaeth Racism Rhaglenni dogfen Documentaries Llygod Ffrengig Rats Cnewyllyn o brofiadau A grain of experiences Y tu hwnt i Beyond Tlodi enbyd Extreme poverty Ysgoloriaeth Scholarship Mireinio ei grefft To refine his craft Pigion Dysgwyr – Berwyn Rowlands Bach o hanes Quinzy Jones yn fanna ar ddiwrnod ei benblwydd yn 90 oed. Gwestai Beti George ar Beti a'i Phobol bnawn Sul oedd Berwyn Rowlands. Berwyn oedd sylfaenydd gwyl ffilmiau Iris sef gwyl ffilmiau ar gyfer y gymuned LGBTQ+ . Dyma fe i sôn am ei ddyddiau Ysgol ar Ynys Môn Sylfaenydd Founder Mynedfa Entrance Babanod Infants Arlunio Painting Gwnïo Sewing Cofrestr register Gydol yr wythnos Throughout the week Ymddangos To appear Chwysu chwartiau Sweating like a pig ( lit: sweating quarts) Pigion Dysgwyr – Sandra de Pol Dw i'n meddwl bod ysgolion Môn wedi newid yn fawr ers dyddiau ysgol Berwyn Rowlands. Wel gobeithio on'd ife? Dros yr wythnosau nesa bydd Aled Hughes yn sgwrsio gyda rhai o enillwyr Gwobr Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn y gorffennol i nodi 40 mlynedd er cychwyn y wobr. Wythnos diwetha dechreuodd Aled drwy holi enillydd y flwyddyn 2000 sef Sandra De Pol sy'n dod o'r Ariannin yn wreiddiol ond sydd nawr yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel tiwtor Cymraeg. Ariannin Argentina Adfywio To revive Disgynyddion Descendants Diwylliant Culture Enwebu To nominate Cyfweliadau Interviews Cyfathrebu To communicate Ymdrech Attempt Hynod o arwyddocaol Very significant Heriol Challenging

Menter Môn - Sgyrsiau am Gynlluniau / Talks About Projects
WMBO Pennod Cariad - Santes Dwynwen V Sant Ffolant, a'r Iaith Gymraeg

Menter Môn - Sgyrsiau am Gynlluniau / Talks About Projects

Play Episode Listen Later Mar 2, 2023 26:30


Wythnos yma ma Rhodri a Scott yn rhannu eu trafferthion fflyrtio yn y iaith Gymraeg, ac yn gymharu dydd sant Ffolant a dydd santes Dwynwen.

Just the Ticket | Jest y Tocyn
National Apprenticeship Week 2023 | Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2023

Just the Ticket | Jest y Tocyn

Play Episode Listen Later Feb 6, 2023 18:19


In Lockdown With...
Penod 1: Llwyd Owen

In Lockdown With...

Play Episode Listen Later Jan 21, 2023 71:54


Mewn cyfres byr newydd ar gyfer 2023, mae Ciaran Fitzgerald yn cyflwyno cyfres o phodlediadau Gymraeg, yn cyfweld a phobol fwyaf adnabyddus Cymru. Wythnos yma, y nofelydd Llwyd Owen yw'r gwestai. Ar ol astudio ym Mhrifysgol Bangor, wnaeth Llwyd addasu sgript ffilm i fewn i'w nofel cynta 'Ffawd.' Hyd heddiw, mae Llwyd wedi sgwennu 13 nofel, sgwennodd eu nofel diweddara 'O Glust i Glust' yn ystod y pandemic. Mae Llwyd hefyd yn podledydd, wedi hostio'r podlediad 'Does Dim Gair Cymraeg am Random,' ac ar hyn o bryd yn hostio 'Ysbeidiau Heulog,' gyda Leigh Jones. Gwrandewch i glywed mwy am gyrfa Llwyd! In a short new series for 2023, Ciaran Fitzgerald presents a series of Welsh-Language podcasts, interviewing some of Wales' best loved faces. This week, the novelist Llwyd Owen is the guest. After studying at Bangor University, Llwyd adapted a film script into his first novel 'Ffawd.' Llwyd has written 13 novels, his latest novel 'O Glust i Glust' was written during the pandemic. Llwyd is also a podcaster, having hosted 'Does Dim Gair Cymraeg am Random,' and currently hosts 'Ysbeidiau Heulog' with Leigh Jones. Listen now. to hear more about Llwyd's career    

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd 29ain 2022

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Nov 29, 2022 13:48


Bore Cothi – Iestyn Jones Mae Iestyn Jones o Gapel Hendre yn Sir Gaerfyrddin yn gerddor llwyddiannus sy'n gweithio yn y West End, ac ar hyn o bryd mae e'n aelod o gerddorfa sioe ‘Back to The Future'. Buodd Iestyn yn sôn wrth Shan Cothi am ei yrfa…………. Cerddor llwyddiannus A successful musician Cerddorfa Orchestra Sioe gerdd Musical theatre Dwlu ar Wrth ei fodd efo Llwyfan Stage Anghyffredin Unusual Profiadau Experiences Trwy rinwedd By virtue of Beti a'i Phobl – John Owain Jones 27.11 Iestyn Jones oedd hwnna'n sôn am rai o'i brofiadau yn y West End ar Bore Cothi. Pnawn Sul ar Beti a'i Phobl y Parchedig John Owain Jones oedd gwestai Beti. Bydd e'n ymddeol fel gweinidog ar Ynys Bute yn yr Alban ym mis Chwefror 2023 ar ôl treulio 12 mlynedd fel gweinidog yno. Dyma fe'n sôn am sut dechreuodd ei gysylltiad â'r ynys... Parchedig Reverend Gweinidog Minister Yn y fyddin In the army Hel pres Casglu arian Llongau Ships Ymerodraeth Empire Ffrindiau mynwesol Bosom pals Ddaru Wnaeth Naill ai Either Gwas priodas Best man Gwneud Bywyd yn Haws – Lloyd Henri 22.11 Y Parchedig John Owain Jones yn fanna, ac mae Owain yn cyfrannu'n aml i'r slot Thought for Today Radio Alban ac wedi cyfrannu hefyd i'r Daily Service Radio 4. Bydd e hefyd yn cyfrannu ar Munud i Feddwl, Radio Cymru. Nos Fawrth ar ei rhaglen Gwneud Bywyd yn Haws, cafodd Hanna Hopwood gwmni Lloyd Henri , athro coginio sydd wedi sgwennu llyfr o'r enw Cegin Mr Henri. Gofynnodd Hanna iddo fe'n gynta pam aeth o ati i sgwennu'r llyfr Ymarferol Practical Cynyddu To increase Enfawr Huge Llwyth Loads Gwastraff Waste Yn eu harddegau In their teens Rhwng y cloriau Between the covers Heriol Challenging Cynhwysyn Ingredients Sawrus Savoury Aled Hughes – Ian ap Dewi 21.11 Dw i'n siŵr basai hwnna'n gwneud anrheg Dolig neis i rywun –Cegin Mr Henri. Dyw hi ddim yn bosib dianc rhag pêl-droed y dyddiau hyn nag yw hi? Bore Llun aeth Aled Hughes i Ganolfan yr Urdd Llangrannog a chafodd air gyda Ian ap Dewi sylfaenydd tîm pêl-droed y pentre sef Crannog. Dianc rhag To escape from Sylfaenydd Founder Cyfaill Ffrind Y gynghrair The league Cais Application Cymuned Community Ieuenctid Youth O dipyn i beth Little by little Mas Allan Caryl – Eleri Lloyd Jones 22.11 Hanes sefydlu tîm pêl-droed Crannog yn fanna ar raglen Aled Hughes. Cafodd Caryl Parry Jones gyfle i sgwrsio gyda Eleri Lloyd Jones o Ffostrasol yng Ngheredigion ar ei rhaglen nos Fawrth. Mae Eleri yn athrawes wrth ei gwaith bod dydd, ond gyda'r nos mae hi'n hoff iawn o uwchgylchu dodrefn. Uwchgylchu Upcycle Dodrefn Celfi Tywyll Dark Gweddill The rest Yn dueddol Tend to Cael gwared To get rid of Harddwch Beauty Derw Oak Goleuo To lighten Newid ei wedd To change its complexion Bore Cothi – Elinor Young Os nad oeddech chi'n gwybod beth ydy uwchgylchu o'r blaen, dych chi'n siŵr o fod yn gwybod nawr! Wythnos diwetha roedd rhaglen Shan Cothi yn rhoi sylw i elusennau bychain Cymru a buodd Elinor Young o Cŵn Cymorth Cariad yn siarad â Shan am y gwaith mae ei chi Tana yn ei wneud ar ran yr elusen Elusennau bychain Small charities Lles Welfare Cleifion Patients Mwythau Pandering Delwedd Image Ystyried To consider

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 25ain o Hydref 2002

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Oct 25, 2022 15:48


BETI A'I PHOBOL Joe Healy, enillydd Dysgwr y Flwyddyn oedd gwestai Beti George yn ystod Wythnos y Dathlu. Mae Joe'n dod o Wimbledon yn ne Llundain yn wreiddiol ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers deg mlynedd. Daeth i Gaerdydd i fynd i'r brifysgol, ac mae wedi aros yno. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018 ac yn y clip yma mae'n sôn am sut wnaeth teulu Mared, ei cyn- gariad, ei helpu i ddysgu'r iaith… Treulio amser - To spend time Mynd mas - Mynd allan Profiad - Experience Mam-gu - Nain Cymdeithasol - Sociable Gorfodi - To force Cefnogol - Supportive Becso - Poeni Trochi - To immerse ALED HUGHES Dim ond ers mis Ebrill eleni mae Katie Owen o Ferthyr yn dysgu'r iaith ar ôl iddi gymryd rhan yn y rhaglen Iaith ar Daith gyda'r DJ Huw Stephens yn fentor iddi hi. Dyma hi'n sgwrsio gydag Aled Hughes… Gwahanol - Different Tad-cu - Taid ALED HUGHES Cafodd Laura Jones o Gaerdydd ychydig o wersi Cymraeg yn yr ysgol, ond penderfynodd ddysgu'r Gymraeg fel oedolyn er mwyn cyfieithu rhannau o'r Quran. Dyma flas ar y sgwrs cafodd hi gydag Aled Hughes... Oedolyn - Adult TGAU - GCSE Annog - To encourage Gyrfa - Career Cyfleoedd Gwaith - Work opportunities Bwlch - A gap Dywediadau - Sayings ALED HUGHES Beth tybed oedd rheswm Kelly Webb-Davies sy'n dod o Awstralia'n wreiddiol dros ddysgu'r iaith? Fel cawn ni glywed mae hi'n briod â Peredur Glyn awdur nofel o'r enw ‘Pumed Gainc y Mabinogi' ac mae hi wedi magu ei mab drwy'r Gymraeg. Dyma hi'n sgwrsio efo Aled Hughes... Ieithyddiaeth - Linguistics Bathu term - To coin a phrase Sillafu - To spell Seiniau - Sounds Clwt - Cewyn Llwglyd - Hungry BORE COTHI Mae stori Sara Maynard o Sir Gaerfyrddin ychydig yn wahanol. Cafodd hi ei haddysg mewn ysgolion Cymraeg ond ar ôl gadael ysgol collodd hi ei hyder o ran sgwennu Cymraeg. Aeth hi ar gwrs Cymraeg i Oedolion i wella'r sgil yma ac erbyn hyn mae hi'n swyddog iaith ym Mhrifysgol De Cymru. Ysgol gynradd - Primary School Ysgol Gyfun - Secondary School Trwy gyfrwng - Through the medium of Ysgrifenedig - Written Sbarduno - To spur BORE COTHI Cafodd Shân Cothi sgwrs ddiddorol arall gyda Dickon Morris, cafodd ei eni yng Nghaergrawnt, ei fagu yn Sir Benfro ond sydd erbyn hyn yn byw yng Nghaerdydd. Mae e'n gweithio fel daearegydd ac yn amlwg mae e wrth ei fodd gyda'r gwaith... Caergrawnt- Cambridge Daearegydd - Geologist Plentyndod - Childhood Dinbych y Pysgod - Tenby Diwydiant - Industry Tirwedd - Landscape Llethrau serth - Steep slopes Amrywiaeth - Variety

wimbledon quran fel cymraeg daith gymraeg dyma mabinogi podlediad wythnos iaith hydref ysgol aeth nghaerdydd gaerdydd flwyddyn ebrill sir benfro cafodd daeth beti george
Bwletin Amaeth
Wythnos Wlân Prydain

Bwletin Amaeth

Play Episode Listen Later Oct 12, 2022 4:23


Rhodri Davies sy'n nodi'r wythnos drwy siarad gyda'r ffermwraig ddefaid, Anwen Hughes.

Bwletin Amaeth
Wythnos COP Cefn Gwlad yn dechrau

Bwletin Amaeth

Play Episode Listen Later Oct 10, 2022 5:03


Rhodri Davies sy'n clywed mwy gan y ffermwr Llŷr Jones o ardal Corwen.

Bwletin Amaeth
Wythnos Caru Cig Oen

Bwletin Amaeth

Play Episode Listen Later Sep 1, 2022 4:53


Siân Williams sy'n clywed mwy am yr ymgyrch gan Rhys Llewelyn o Hybu Cig Cymru.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 23ain 2022

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Aug 23, 2022 13:36


Cofio - Gwersylla oedd thema Cofio dros y Sul ac mi gaethon ni gyfle arall i glywed Wil Parry Williams o Dregarth yng Ngwynedd, yn sôn am weithio fel Red Coat yng ngwersyll Butlins, Pwllheli rhwng 1954 a 1961. Agorwyd y gwersyll 75 mlynedd yn ôl a chlywon ni'r recordiad arbennig yma am y tro cynta ar raglen Cofio yn 2009. Gwersylla To campOddeutu AboutYchwanegol AdditionalGan benna(f) MainlyAdnoddau ResourcesCychod BoatsAdran feithrin NurseryAdloniant EntertainmentDiddori To entertainDyletswyddau cyffreinol General dutiesDei Tomos – Wel ia, hi di hi yn wir – hanes diddorol Butlins Pwllheli yn fanna ar Cofio. Aeth Dei Tomos i Aberystwyth i weld llyfrgell bersonol Gerald Morgan sydd yn awdur, ac yn gyn athro a phrifathro. Mi aeth draw i'w gartref a chael gweld rhywbeth prin iawn - copi o Destament Newydd William Salesbury oedd yn dyddio'n ôl i 1567! Prin iawn Very rareRhagair IntroductionBiau To ownYn gymharol ddiweddar Fairly recentlyCasglwyr CollectorsCofi dre Person o Gaernarfon O fath yn y byd Of any kind Bore Cothi - Dei Tomos oedd hwnna'n cael golwg ar lyfrgell arbennig Gerald Morgan. Shelley Rees Owen fuodd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes ddydd Mercher diwetha ac mi gafodd hi sgwrs efo Daniel Jenkins Jones o'r RSPB am y Pâl neu'r Puffin. Colur dros eu pig Makeup over their beakTriongl TriangleLlachar BrightMas yn yr Iwerydd Out in the AtlanticNythu To nestY bedwaredd ganrif ar bymtheg 19th centuryLlongddrylliad ShipwreckLlygod mawr RatsDifa To destroyBeti a'i Phobol - Bach o hanes y palod yn fanna , bechod eu bod wedi ein gadael ni erbyn hyn ynde? Cafodd Beti George sgwrs efo'r dylunydd a'r gemydd Ann Catrin Evans o Dregarth ger Bangor. Ann wnaeth Coron Eisteddfod yr Urdd eleni. Dyma Beti'n gofyn iddi hi ai cael gyrfa ym maes celf oedd hi eisiau ei wneud erioed? Dylunydd a gemydd Designer and jewellerCoron CrownCam i'r tywyllwch A step into the unknownCelfyddydau The artsBywoliaeth A livelihoodClod PraiseHybu To promoteCefnogaeth SupportCydnabyddiaeth AcknowledgementNi y Nawdegau - Ann Catrin Evans yn siarad efo Beti George am ei gwaith fel dylunydd a gemydd. Nos Iau ar Radio Cymru, y ddig-rifwraig Esyllt Sears oedd yn edrych yn ôl ar Oes Aur y 90au ... Digrifwraig Female comedian Oes aur Golden ageAberthu To sacrificeUchafbwyntiau HighlightsMaeddu Curo Ymdrechion AttemptsLlwyfannau StagesDygymod To put up withGoroesi To surviveAmherthnasol IrrelevantBore Cothi - Esyllt Sears oedd honna'n edrych yn ôl ar y nawdegau. Mi roedd hi'n Wythnos y Bandiau Pres ar Bore Cothi ac mi gafodd Shelley Rees Owen sgwrs efo Tomos Evans o Fand Cross Keys, enillodd Dosbarth 4 a 3 yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron. Dyma i chi flas ar y sgwrs,,,Bandiau pres Brass bands Llwyddiannus iawn Very successful Dyrchafu To be promoted Darnau Pieces Yn glou Quickly Crynhoi To summarise

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 21ain Mehefin 2022

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jun 21, 2022 17:08


Gwneud Bywyd yn Haws Oeddech chi'n gwybod mae'r Ffindir a'r Swistir ydy'r ddwy wlad hapusa i fyw ynddyn nhw? Wel yn ôl un adroddiad beth bynnag. Dewch i ni gael clywed dipyn am fywyd yn y ddwy wlad gan Dwynwen Hedd o'r Swistir a Tristan Owen Williams o'r Ffindir. Dyma nhw'n sgwrsio efo Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws. Mor ddwfn - So deep Diwylliant - Culture Cyd-fynd - To agree Traddodiad - Tradition Coedwigoedd - Forests Penodol - Specific Ysgogi - To motivate Noeth - Naked Bedydd tân - Baptism of fire A sôn am sauna, os dach chi isio gwybod rhagor gan Trystan a Dwynwen ac am fywyd yn y Ffindir a'r Swistir yna agorwch ap BBC Sounds a theipio'r geiriau Gwneud Bywyd yn Haws i fewn i'r bar bach chwilio. Aled Hughes a Maggie Morgan Wedi dysgu Cymraeg mae Maggie Morgan a buodd hi'n chwilio mewn i hanes ei theulu yn y gobaith o ddod o hyd i'r rhesymau pam nad oedd ei theulu bellach yn siarad Cymraeg. Cafodd Aled Hughes sgwrs efo Maggie ar ei raglen fore Llun. Bellach - By now Di-Gymraeg - Non Welsh speaking Mewn gwirionedd - In reality Teulu estynedig - Extended familly Tad-cu - Taid Aelod - Member Yr aelwyd - The hearth Mamiaith - Mother tongue Mae mwy o hanes Maggie i'w gael yn y rhaglen arbennig ‘Fy Achau Cymraeg' ar BBC Sounds Ifan Evans a Nan Thomas Enillodd rhaglen Ifan Evans wobr arbennig mewn ŵyl Geltaidd yn ddiweddar ac un o'r cynta i'w longyfarch ar ei raglen oedd Nan Thomas o Eglwyswrw. Roedd Nan yn falch bod Cymru'n gwneud yn dda ar lwyfan rhyngwladol ac yn awyddus i ni gymryd rhan fel gwlad yn yr Eurovision Song Contest, ond pwy fasai Nan yn licio ei weld yn cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth tybed? Achau - Ancestry Gwobr - Award Llongyfarch - To congratulate Llwyfan rhyngwladol - International stage Cynrychioli - Represent Pwy gelen i? - Pwy gawn ni? Yr unig fai - The only fault Pallu - Gwrthod Dewis da ynde? Morgan Elwy enillodd Can i Gymru y llynedd, ac mae o'n diwtor Cymraeg yn ogystal! Rhys Mwyn a Catrin Saran Buodd Rhys Mwyn yn trafod sut mae cerddoriaeth yn siapio ein bywydau efo Catrin Saran o Abertawe. Aeth Catrin yn eitha emosiynol wrth gofio am ei mam-gu yn canu ‘Y Darlun – Dwy Law yn Erfyn' – iddi pan oedd hi'n blentyn... Mam-gu - Nain Erfyn - Praying Difyr - Diddorol Wyres - Grand-daughter ‘Y Darlun – Dwy Law yn Erfyn' dyna i chi gân hyfryd, syml ac un emosiynol iawn i Catrin Saran ynde? Bore Cothi - Shan Cothi a Debra Drake Os dach chi'n gwylio ‘The Great British Sewing Bee' dach chi'n siŵr o fod yn nabod Debra Drake sydd yn cystadlu yn y rhaglen. Mi wnaeth hi blesio'r beirniaid yn arbennig yr wythnos o'r blaen ac ennill gwobr ‘Dilledyn yr Wythnos'. Dyma Debra yn sôn am y gystadleuaeth wrth Shan Cothi... Beirniaid - Judges Dilledyn - Garment Uffar o brofiad - Hell of an experience Gwnio - To sow Her - A challenge Cyd-destyn - Context Becso - Poeni Cywrain - Elaborate Trawsnewid - To transform Dyluniad - A design Lluchio - Taflu A phob lwc i Debra efo'r gystadleuaeth o hyn ymlaen! Dei Tomos a Dani Schlick Mi symudodd Dani Schlick o Berlin i Gymru saith mlynedd yn ôl, mae hi wedi dysgu Cymraeg ac erbyn hyn mae hi'n gweithio i'r Mentrau Iaith. Dyma hi'n egluro wrth Dei Tomos sut daeth hi i Gymru i ddechrau, a pham ei bod hi wedi dysgu Cymraeg. Wedi gwirioni ar - Wedi dwlu ar Tebygrwydd - Similarity Synau - Sounds Ymdopi - To cope Ieithyddol - Linguistic Cam - A step Mynychu digwyddiadau - Attending evebts Cysylltiadau - Connections

Just the Ticket | Jest y Tocyn
Race Equality Week with Inein Victor Garrick | Wythnos Cydraddoldeb Hiliol gyda Inein Victor Garrick

Just the Ticket | Jest y Tocyn

Play Episode Listen Later Feb 14, 2022 23:41


In this weeks podcast, we learn of Inein's powerful story about the bias and barriers he faced when applying for jobs and how reverting to his given name after more than a decade has been a ‘rebirth.' Ym mhodlediad yr wythnos hon, byddwn yn clywed stori bwerus Inein - y bias a'r rhwystrau a wynebodd wrth ymgeisio am swyddi a'r ffaith, o ddychwelyd i ddefnyddio ei enw bedydd am dros ddeng mlynedd, mae wedi profi 'dadeni.'

Just the Ticket | Jest y Tocyn
National Apprenticeship Week | Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau

Just the Ticket | Jest y Tocyn

Play Episode Listen Later Feb 7, 2022 21:09


This week we break our regular bi-weekly cycle to bring you a special podcast to support National Apprenticeship Week. We're joined by Katie Harris, Transport for Wales' Early Talent Business Partner and Robert Lane, a Project Management Assistant who recently completed an apprenticeship with Transport for Wales to discuss the opportunities available for apprenticeships with us, and what it's like to go through an apprenticeship. Fel y gwyddoch, rydyn ni fel arfer yn cyhoeddi podlediad pob pythefnos ond gan ein bod yn awyddus i ddathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, rydyn ni wedi gwneud eithriad. Yn ymuno â ni yn y podlediad arbennig hwn fydd Katie Harris, Partner Busnes Talent Cynnar Trafnidiaeth Cymru a Robert Lane, Cynorthwyydd Rheoli Prosiectau. Cwblhaodd Robert ei brentisiaeth gyda Trafnidiaeth Cymru yn ddiweddar. Byddan nhw'n trafod y prentisiaethau sydd ar gael gyda ni a sut brofiad yn union yw ymgymryd â phrentisiaeth.

CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: NON PARRY/WILLIAMS

CYMERIADAU CYMRU

Play Episode Listen Later Dec 2, 2021 52:10


Dwi'n hoffi meddwl bod pob un bennod o Cymeriadau Cymru yn ddiddorol neu ddoniol neu'n ddylanwadol. Wythnos yma beth bynnag, dwi wir yn meddwl fod y bennod yma nid yn unig yn ddiddorol, doniol ac 'entertaining' ond yn bwysig a dylanwadol. Mae Non Parry (Williams) yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru ac yn rhan o'r grŵp bytholwyrdd Eden wrth gwrs. Mae hi yn gantores, cyfansoddwraig ac yn sgriptio i deledu a radio ac yn ogystal â hynny, mae hi wedi sgrifennu llyfr am ei bywyd a'i gyrfa a'i brwydr â salwch meddwl ag iselder. Mae hi'n fraint i gael Non ar y podlediad wythnos hon yn trafod y pwnc mor agored, ag onest a dewr!

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 12fed o Dachwedd 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Nov 12, 2021 18:33


1. Gwneud Bywyd yn Haws – Clip Cytiau Elliw Gwawr ac Angharad Haf Wyn Mae BBC Radio Cymru yn rhoi sylw i'r argyfwng newid hinsawdd yn ystod tymor yr Hydref gyda rhaglenni arbennig o'r enw ‘Ein Planed Nawr'. Un o'r rhaglenni hynny ydy ‘Gwneud Bywyd yn Haws' ac yn rhaglen wythnos diwetha clywon ni bod defnyddio clytiau, neu cewynnau, aml-ddefnydd yn llawer iawn gwell i'r amgylchedd na defnyddio'r rhai sy'n cael eu taflu ar ôl eu defnyddio unwaith yn unig. Dyma glip o Hanna Hopwood yn sgwrsio gyda dwy fam sy'n defnyddio'r clytiau aml-ddefnydd, Angharad Haf Wyn ac Elliw Gwawr… Argyfwng newid hinsawdd Climate change crisis Clytiau/cewynnau Nappies Aml-ddefnydd Multiple use Amgylchedd Environment Ymchwil Research Buddsoddi To invest Arbrofi To experiment Ymrwymo To commit ‘Ta beth Beth bynnag Cyflwr Condition Tueddu i hyrwyddo Tends to promote 2. Ifan Evans – Gwobr i Edna Jones Dyna i chi flas ar raglen ‘Gwneud Bywyd yn Haws' gyda Hanna Hopwood sydd ar Radio Cymru bob nos Fawrth am 6pm. Ac os dych chi eisiau clywed mwy o'r sgwrs yma ewch draw i wefan bbc sounds, neu am ragor o raglenni sy'n sôn am yr amgylchedd ewch at y wefan bbc.co.uk/einplanednawr Unwaith eto mae rhaglen Ifan Evans yn dweud ‘Diolch o Galon' i rywun arbennig sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn eu hardal, neu glwb, neu mewn cymdeithas arbennig. Wythnos diwetha aeth Ifan i Ynys Môn, i roi tlws Diolch o Galon i Edna Jones, Trefnydd CFFI yr Ynys Tlws Trophy Syfrdanu Astounded Gweithgar Hardworking Ces i fy nychryn I was shocked Enwebiad Nomination Talcen caled A hard grafft Cyn-aelodau Former members Mewn chwinciad In a jiffy Becso Poeni 3. Newid Hinsawdd Taid a Fi – Micro Plastic ...ac os dych chi'n nabod rhywun dach chi'n meddwl dylai ennill tlws ‘Diolch o Galon', cofiwch gallwch chi anfon enwebiad at Ifan drwy e-bost ar ifan@bbc.co.uk Yn y rhaglen ‘Newid Hinsawdd :Taid a Fi' mae Leisa Gwenllian yn mynd ar daith i gyfarfod rhai o'r bobol ar ei stepen drws sydd yn gwneud gwaith difyr ac phwysig i wella'r amgylchedd, yng nghwmni ei thaid, neu dad-cu, y naturiaethwr Duncan Brown. Yn y clip yma, mae Leisa yn cael sgwrs am feicroblastig gyda Nia Jones a'r Dr Dei Huws o Brifysgol Bangor. Hudolus Magical Mor brydferth So beautiful Uwch Ddarlithydd Senior lecturer Gwyddorau Môr Marine Science Gwasgariad Dispersal Llygredd Pollution Amsugno To absorb Tanwydd Fuel Ynni Energy Lleihau To reduce 4. Rhys Mwyn – Fflur Dafydd Pwy fasai'n meddwl bod meicroblastig mor gyffredin on'd ife? Mae e yn ein siwmperi hyd yn oed! Roedd yr awdures Fflur Dafydd gyda Rhys Mwyn wythnos diwetha a buon nhw'n rhannu ei dewisiadau o draciau ffync. Yn ystod y sgwrs soniodd Fflur sut gwnaeth hi ddewis caneuon ar gyfer y gyfres deledu ‘Amgueddfa' oedd ar S4C eleni, er mwyn cael rhoi rhagor o haenau i'r cymeriadau… Cyffredin Wide-spread Haenau Layers Cymeriadau Characters Golygfeydd Scenes Drych Mirror Dylanwadau Influences 5. Geraint Lloyd – Randall Bevan ..a'r newyddion da ydy bod cyfres arall o Amgueddfa ar y ffordd, ac mae Fflur wrthi'n sgwennu'r sgript ar hyn o bryd. Randall Bevan o Ipswich sydd yn gyn-drampolinydd, ac yn 88 oed oedd yn cadw cwmni i Geraint LLoyd nos Fercher, a soniodd Randall ei fod wedi derbyn neges arbennig gan ffrind enwog iawn – pwy oedd e tybed? Halais i Anfones i Gynnau fach A moment ago Tylwyth Teulu Ŵyr a ŵyres Grandson and grandaughter 6. Clip Dros Ginio Randall a Buzz – wedi dyna stori dda on'd ife? Wythnos diwetha, cyhoeddodd Wales Online restr o 15 o Gymry du dylen ni roi sylw iddyn nhw. Roedd Sian Jones, y steilydd gwallt 22 oed o Gaerdydd, yn un o'r pymtheg yma. Cafodd hi sgwrs gyda Catrin Haf Jones ar raglen Dros Ginio, a dyma hi'n sôn am ei harbenigedd hi mewn gwalltiau unigolion duon… Unigolion duon Black individuals Cyhoeddi To publish Arbenigedd Expertise Penodol Specific Yn cynnwys Including Mor brin So scarce Gradd Degree Fy synnu i Surprises me Hyfforddi Training

ac buzz ipswich leisa yn haws s4c ifan diolch dyma duncan brown podlediad wythnos hydref radio cymru nia jones gaerdydd cafodd
Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 29ain Hydref 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Oct 29, 2021 15:37


Aled Hughes – Erin Fflur a Mari Elen Mae pedair cenhedlaeth o deulu fferm y Pandy, Rhos-y-gwaliau ger y Bala wedi bod yn cystadlu mewn treialon cŵn defaid, a'r ddwy ferch fferm ifanc, Erin Fflur a Mari Elen ydy'r diweddara i gystadlu. Cafodd Aled Hughes air gyda'r ddwy a dyma i chi flas ar y sgwrs... Cenhedlaeth Generation Y diweddara The most recent Rheoli To control Ar gyrion On the outskirts Praidd Flock Canolbwyntio To concentrate Amynedd Patience Dallt Deall Cyngor Advice Yn y gwaed In the blood Cynhaliwyd Was held GWNEUD BYWYD YN HAWS Hanes teulu fferm y Pandy a'r treialon cŵn defaid yn fanna. Buodd Theatr Genedlaethol Cymru yn teithio gyda'i drama ‘Anfamol ‘ yn ddiweddar. Hon ydy drama lawn gynta i'r cwmni ei llwyfannu'n fyw ers dechrau'r cyfnod clo, ac mae'n cymryd golwg ar fywyd mam sengl. Sut mae'r ddrama hon yn cymharu â rhaglenni teledu ar yr un thema, fel Motherland tybed? Dyna fuodd Hanna Hopwood a'i gwesteion Rhiannon Mair a Llinos Patchel yn ei drafod ar Gwneud Bywyd yn Haws Llwyfannu To stage Cyfresi Series Pegynnu Polarizing Cymeriadau Characters Gor-ddweud To exaggerate Elfennau Elements Anweledig Invisible Rhianta Parenting Denu To attract Prydferthwch Beauty Mor glou Mor gyflym Datgelu'n raddol Gradually revealing Arwyr Glew – Erwau'r Glo Mae'n amlwg bod Llinos a Rhiannon wedi mwynhau ‘Anfamol ‘ yn fawr iawn. Mae'r diwydiant glo yn aml iawn yn cael ei gysylltu gyda llygredd, ond clywodd Aled Sam am gynllun sydd yn defnyddio glo gorllewin Cymru i buro dŵr ar draws y byd. Dyma Aled yn sgwrsio gyda Jeff Macavoy o gwmni glo Western Carbons ger Rhydaman yn Sir Gaerfyrddin. Y diwydiant glo The coal industry Llygredd Pollution Puro To purify Tunnell A ton Rhyfedd Strange Dros Ginio Wel, wel, pwy fasai'n meddwl? Diemwntau du gorllewin Cymru yn puro dŵr Saudi Arabia. Dyna ddiddorol on'd ife? Wythnos diwetha, roedd Paul Simon yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed. Mae e wedi dylanwadu ar gerddorion ar draws y byd, gan gynnwys cerddorion Cymru fel Delwyn Sion, sydd yn dipyn o ffan o'r dyn o Efrog Newydd. Buodd e'n sôn ychydig am yrfa Paul Simon gyda Jennifer Jones ar Dros Ginio... Dylanwadu To influence Rhyfeddol Astonishing Degawd A decade Poblogaidd Popular Canwr gwerin Folk singer Deuawdau Duets Beti a'i Phobl – Ann Jones Fasai hi ddim wedi bod yr un fath tasen nhw wedi cadw'r enw Tom and Jerry, na fasai? Cadeirydd Cenedlaethol Sefydliad y Merched, Ann Jones o Landdewi Brefi yng Ngheredigion oedd gwestai Beti George. Dyma hi'n sôn wrth Beti am bwysigrwydd y Sefydliad.. Sefydliad y Merched Women's Institute Pwysigrwydd Importance Delwedd Image Ymgyrchydd Campaigner Yn wirioneddol Truly Materion Cyhoeddus Public affairs Cyfrifol Responsible Amgylchedd Environment Parchu llais To respect the voice Geraint Lloyd Dyna ni felly, Jerusalem ond ddim jam i Sefydliad y Merched! Yr arbenigwr hen bethau John Rees oedd gwestai Geraint Lloyd nos Fercher a buodd e'n sôn am rywbeth o'r enw ‘chippy paint'. Beth yw hwnnw tybed? Arbenigwr Expert Tad-cu Taid Celfi Dodrefn Gweithdy Workshop Traul Wear and tear Brwnt Budr

Podpeth
Odpeth 20 - COVIDspiracies

Podpeth

Play Episode Listen Later Oct 26, 2021 33:03


I ddathlu Calan Gaeaf, mae'r podcast mwyaf sbwci yn y byd yn nôl! Yn y bennod yma o Odpeth, dan ni'n gofyn y cwestiwn mawr - "Ydi'r pandemic yn PLANdemic?" Mae'r ateb yn amlwg (na), ond tydi hynna ddim yn stopio Iwan, Hywel, Elin a Miw (y gath) trafod 5G, Bill Gates a Brexiteers. Wythnos nesaf, ysbryd!

Hansh
PROBCAST #3 - GWAITH AC ARIAN

Hansh

Play Episode Listen Later Oct 25, 2021 19:50


Wythnos yma mae Mared, Hollie, Amber a Beth yn trafod problemau gwaith ac arian. Faint o gynulleidfa Hansh sydd erioed wedi tynnu sickie?

Hansh
PROBCAST #2 - PERTHNASOEDD A DATIO

Hansh

Play Episode Listen Later Oct 18, 2021 27:36


Cheto, ghostio a pwy sy'n talu ar y dêt cyntaf? Wythnos yma ar Probcast mae Amber, Mared, Beth ac Hollie yn trafod perthnasoedd a dateio. Cofia danysgrifio!

Hansh
PROBCAST #1 – CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Hansh

Play Episode Listen Later Oct 11, 2021 24:00


Pedair merch. Tair problem. Probcast. Podlediad lle mae pedair merch gydag anableddau gwahanol yn trafod probs yr 21ain ganrif. Ym mhob pennod bydd Hollie Smith, Mared Jarman, Amber Davies a Beth Frazer yn rhannu probs bywyd nhw, o bethau bach annoying i bethau maen nhw wedi cael llond bol ohono. Bydd pawb yn cyflwyno'u hachosion i'r cadeirydd a'r achos gwaethaf sy'n ennill! Wythnos yma mae Mared yn dewis rhwng probs cyfryngau cymdeithasol y grŵp ac yn gofyn i gynulleidfa Hansh faint ohonyn nhw sydd wedi sleidio mewn i DMs rhywun.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 1af Hydref 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Oct 1, 2021 15:31


S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … COFIO Plentyndod oedd thema Cofio yr wythnos diwetha a chlywon ni am blentyndod Isora Hughes, plentyndod gwahanol iawn gan ei bod wedi cael ei magu gan ei nani. Roedd mam Isora, Leila Megane, yn gantores enwog ac yn teithio'r byd yn perfformio, ond roedd ganddi ffordd arbennig iawn o adael Isora wybod ei bod yn meddwl amdani hi. T Glynne Davies oedd yn ei holi... Gwâdd To invite Yn ddigalon Trist Anadlu To breathe Peswch A cough Wyddoch chi You know BORE COTHI Cantores arall sy'n gorfod teithio'r byd yw Rhian Lois a buodd hi'n sgwrsio am synhwyrau gyda Shan Cothi. Dyma hi'n trafod beth yw ei hoff arogl yn y byd, sef arogl Elsi. Ond pwy neu beth yw Elsi? Synhwyrau Senses Arogl A smell Bant I ffwrdd Llanw fy nghalon i Fills my heart Croten Merch fach Mam-gu Nain GWNEUD BYWYD YN HAWS Y gantores Rhian Lois oedd honna yn sôn am ei merch fach Elsi. Mae tymor yr Hydref yn dod a sialensau iechyd gydag e, a'r system imiwnedd oedd yn cael sylw Hanna Hopwood yr wythnos hon ar Gwneud Bywyd yn Haws. Buodd Hanna'n siarad gyda Ellie Armstrong o'r cwmni Chuckling Goat i gael gwybod mwy am sut mae'r diod Kefir yn gallu helpu gyda imiwnedd. Ymateb Response Hynod o lwyddiannus Extremely successful Llaeth gafr Goat's milk Llys-fam Stepmother Tawlu Taflu Cyflyrau croen Skin conditions Eitha tost Quite ill ALED HUGHES Kefir yn amlwg wedi gwneud bywyd yn haws i deulu Ellie Armstrong. Mae Morwenna Tang, yn dod o Shanghai yn China yn wreiddiol. Enw Cymraeg YuQi ydy Morwenna, a daeth hi i Gymru ddwy flynedd yn ôl gyda'i gŵr, Scott Griffiths, sy'n dod yn wreiddiol o Gaerdydd. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg trwy Duolingo ac ers dechrau'r cyfnod clo, ar gwrs gyda Dysgu Cymraeg Gwent. Beth wnaeth iddi hi benderfynu dysgu Cymraeg tybed? Adnoddau Resources Bodolaeth Existence IFAN EVANS Cymraeg gwych gan Morwenna yn fan'na ar ôl dim ond dwy flynedd yn dysgu'r iaith. Wythnos yma, cafodd Ifan Evans sgwrs gyda Marc Skone, oedd yn arfer perfformio gyda'r ‘boy band ‘ Cymraeg Mega. Mae e yn ôl yn perfformio nawr yn rhan o'r grŵp newydd Halo Cariad, a gofynodd Ifan iddo fe beth oedd e wedi bod yn ei wneud ers iddo fe adael Mega? Hyn a llall This and that Dim mor ffôl a hynny Not that bad Profiadau Experiences Cyfoethogi To enrich Gwerth chweil Worthwhile Cynhyrchydd Producer Stŵr A row BETI A'I PHOBL Marc Skone oedd hwnna'n sôn am ei fand newydd Halo Cariad. Mae'r ffilm Dream Horse wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae'r ffilm yn seiliedig ar stori wir am griw o bobl o gymoedd de Cymru wnaeth fuddsoddi mewn ceffyl o'r enw Dream Alliance aeth ymlaen i rasio yn Grand National Cymru. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Beti George gyda chyfarwyddwr y ffilm Euros Lyn... Buddsoddi To invest Cyfarwyddwr Director Adolygu To review Crynhoi To summarise Cynulleidfa Audience Adloniant Entertainment Cynhesrwydd Warmth Llafar Vocal Rhyngwladol International

china mega shanghai duolingo ond kefir cymru haws dream horse cymraeg ifan gymru dyma morwenna euros lyn wythnos isora hyn hydref radio cymru gaerdydd chuckling goat beti george
CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU : RAE CARPENTER

CYMERIADAU CYMRU

Play Episode Listen Later Sep 23, 2021 49:35


Mae fy mhobl gwadd mor amrywiol ar y podlediad yma. Wythnos diwethaf, prif gwnstabl heddlu. Wythnos hon, cyflwynwraig, hyfforddwraig cadw'n heini a gwraig fusnes, Rae Carpenter, sydd yn siarad mor agored ag onest am ei bywyd. Beth wnaeth iddi benderfynu colli pwysau a chadw'n ffit? Sut mae hi yn medru helpu pobl i newid eu bywydau? Sut beth yw ei gwybodaeth hi am y corff? (cwis bach). Mae Rae yn un o dîm y gyfres deledu Ffit Cymru ar S4C erbyn hyn ond mae ei gyrfa wedi bod yn anhygoel o amrywiol! O ddifri!

Pod Sgorio
Pod 4: Wythnos ryngwladol Medi '21

Pod Sgorio

Play Episode Listen Later Sep 9, 2021 32:52


Cyfle i edrych nôl ar gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 mis Medi a rhagolwg o'r gemau yn y Cymru Premier dros y penwythnos. Bydd camerâu Sgorio yn fyw ar Goedlan y Parc ddydd Sadwrn, gydag Aberystwyth yn croesawu Met Caerdydd. Cawn glywed gan reolwr Aberystwyth, Antonio Corbisiero ac amddiffynnwr Met Caerdydd, Emlyn Lewis.

Welsh phrase of the week- week one
Dyddiau’r wythnos- days of the week and key words

Welsh phrase of the week- week one

Play Episode Listen Later May 20, 2021 4:28


Days of the weeks and key words

Bwletin Amaeth
Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

Bwletin Amaeth

Play Episode Listen Later May 11, 2021 4:57


Aled Rhys Jones sy'n trafod iechyd meddwl yng ngefn gwlad gyda Wyn Thomas o Tir Dewi.

wythnos iechyd
Podlediad Cymru Fyw
Croes yn y Bocs: Yr Wythnos Fawr

Podlediad Cymru Fyw

Play Episode Listen Later May 4, 2021 32:06


Gyda'r etholiad o fewn golwg, Richard Wyn Jones a Vaughan Roderick sy'n ymuno i drafod.

Pobol y Cwm a Phaned
Wythnos holl bwysig... a surpreis?

Pobol y Cwm a Phaned

Play Episode Listen Later Jan 31, 2021 22:59


Helo a chroeso nol i ni UNWAITH ETO yn trafod pob dim pobol y cwm. Aroswch tan y diwedd i glywed surpreis bach...