POPULARITY
Ronan Kpakio oedd yr enw annisgwyl i'w gynnwys gan Craig Bellamy yng ngharfan Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn Liechtenstein a Gwlad Belg yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026. Chwe ymddangosiad yn unig sydd gan yr amddiffynnwr dros Gaerdydd, ond Bellamy yn proffwydo gyrfa ddisglair i'r chwaraewr 19 mlwydd oed. Cyn y gemau hynny, bydd ymgyrch tîm Rhian Wilkinson yn dod i ben yng Nghynghrair y Cenhedloedd - dau gyfle olaf i geisio curo un o fawrion Ewrop cyn Ewro 2025. Fydd Sophie Ingle ar yr awyren i'r Swistir?Mae 'na Gymro wrth y llyw yng Nghasnewydd... a Chymraes swnllyd yn dod efo fo!
Andrew, Nick a Carwyn sy'n trafod y diweddara gyda sefyllfa Caerdydd ar ôl iddynt fynd dan berchnogaeth Undeb Rygbi Cymru. Ble nesa i tîm y brifddinas? #ardiff #Caerdydd #Welshrugby #Walesrugby #RygbiCymru #URCgo Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Mwyaf sydyn, mae'r tymor wedi cyrraedd y pedwar wythnos olaf. Ac mi fydd hi'n ddiweddglo llawn tensiwn i Gaerdydd a Wrecsam, wrth iddyn nhw frwydro am bwyntiau gwerthfawr ar resymau gwahanol iawn.Mae Wrecsam yn parhau tri phwynt yn glir o Wycombe yn y ras am yr ail safle yn Adran Un, ond wedi chwarae un gêm yn fwy. Be sydd orau adeg yma o'r tymor felly? Pwyntiau ar y bwrdd ta tynged yn nwylo eich hun? Wrth reswm, mae yna wahaniaeth barn rhwng Ows a Mal.Mae'r ddau hefyd wedi anghytuno ers tro am dynged Caerdydd tymor yma. Ond ar hyn o bryd, does 'na fawr o dystiolaeth i awgrymu mai llwyddo i aros yn y Bencampwriaeth fydd yr Adar Gleision.Ac ydi Rhian Wilkinson yn iawn i ofyn am fwy o gefnogaeth i ferched Cymru yng ngemau Cynghrair y Cenhedloedd?
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod anaf diweddaraf Aaron Ramsey mewn cyfnod allweddol i Gaerdydd a Chymru. Ac ydi dyfodol Omer Riza mewn peryg gyda'r Adar Gleision wrth i'w sefyllfa ddwysáu ger waelod y Bencampwriaeth?
Nick a Carwyn sy'n edrych yn ôl dros benwythnos siomedig i dimoedd Cymru yn yr Alban ac sy'n trafod gobeithion y Cymry gyda'r Saeson yn teithio lawr i Gaerdydd. Maent hefyd yn chwilio am gyflwynydd ychwanegol os hoffech ymuno - cysylltwch. #RygbiCymru #Cymraeg #S4C Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Oes 'na gyfle a sioc yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr i Gaerdydd ac Abertawe? Fe all yr Adar Gleision anghofio am y pwysau o geisio osgoi disgyn i'r Adran Gyntaf wrth iddyn nhw deithio Sheffield United, ac mi fydd yr Elyrch yn edrych i fanteisio ar y blerwch sydd yn Southampton ar hyn o bryd.Mae rheolwr Arsenal Mikel Arteta yn ei chael hi am ei sylwadau am safon y bêl yn rownd gynderfynol Cwpan y Gynghrair yn erbyn Newcastle - gêm mae'n debyg sydd wedi ysgogi tröedigaeth i Malcolm "Toon Army" Allen.
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Naomi Hughes. Merch a fagwyd yng Nghaerdydd yn ardal Llaneirwg yw Naomi Hughes. Mae hi o dras cymysg, ei mam o dras Tsieineaidd a'i thad yn Gymro di-Gymraeg o Gaerdydd. Er iddi gael ei magu yng Nghaerdydd yn yr wythdegau a'r nawdegau prin oedd ei hymwybyddiaeth a'i chysylltiad â'r Gymraeg. Wedi cyfnod yn teithio'r byd yn ei hugeiniau, dychwelodd i Gymru yn benderfynol o ddysgu'r Gymraeg. Cymhwysodd fel athrawes ac erbyn hyn mae'n dysgu ei phwnc drwy gyfrwng y Gymraeg mewn Ysgol Gyfun Gymraeg. Mae'n gadeirydd Menter Iaith Merthyr Tudful ac yn gyfrifol am ddatblygiad y Gymraeg yn ei hardal. Mae hefyd yn is-gadeirydd Yes Cymru.
Mae Joe Allen yn ôl yng ngharfan Cymru a fedrith Owain Tudur Jones a Malcolm Allen ddim stopio gwenu. Hefyd yn plesio ydi'r opsiynau ymosodol ychwanegol i'r rheolwr Craig Bellamy ar gyfer y ddwy gêm nesaf yng Nghynghrair y Cenhedloedd - a'r ffaith bod Brennan Johnson yn dechrau sgorio.Fydd Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam yn chwarae yn Ewrop cyn hir? Mae Prosiect Cymru yn cael sêl bendith Y Coridor beth bynnag. A pham bod Ows yn rhannu tips ar sut i ddal ymbarel?02'00 Joe Allen 15'25 Broadhead, Brooks a Burns yn holliach 19'35 Goliau Brennan Johnson 22'00 Prosiect Cymru 30'20 Y Seintiau'n Fiorentina 34'00 Gobaith i Gaerdydd? 37'00 Trafferthion oddi cartref Wrecsam 44'00 Casnewydd yn tanio adref 45'00 Erik "Pen Gwag" 51'00 Owain "Ymbarel" Jones
Wrth i reolwr arall adael Caerdydd yn ddisymwth, mae Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn sicr bod hi'n amser am chwyldro. Yn ôl Owain does "dim gweledigaeth", tra bod Malcolm yn credu bod y clwb "ar y llawr". Ond pwy all achub yr Adar Gleision tro 'ma? A beth sy'n mynd digwydd i'r Seintiau Newydd? Yn gyntaf, mae'r record hir ddi-guro yn diflannu ac yna colli ddwywaith yn olynol am y tro cyntaf ers mis Hydref 2019. Hefyd, fydd Joe Allen yn gwisgo crys coch Cymru eto mis nesa'..?01'20 Peli golff coll Owain 04'10 Sioc i'r Seintiau Newydd 13'40 Blerwch Caerdydd 26'30 Abertawe yn hedfan "o dan y radar" 28'50 Joe Allen yn ôl i Gymru? 35'40 Wrecsam dal ar y brig 40'00 Trafferthion Casnewydd a toiledau Barrow 41'33 Man City v Arsenal 48'20 Malcolm yn serennu ar Youtube 49'30 Anaf Sophie Ingle
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n ystyried faint o amser geith Erol Bulut i ddatrys problemau Caerdydd wrth iddyn nhw barhau ar waelod y Bencampwriaeth. Gawn ni wybod hefyd pa glwb sy'n berchen a rhai o'r toiledau gorau yn y Gynghrair Bêl-droed a sut nath Owain adael ei farc ar reolwr Birmingham Chris Davies.01'30 Chwaraewyr ar streic? 09'00 Bulut o dan bwysau 16'00 Abertawe yn curo Norwich 21'30 Owain yn gweld hen ffrindiau 24'00 Birmingham yn gosod y safon 35'30 Owain yn llorio Chris Davies 37'30 Casnewydd a thoiledau Barrow 39'15 Fformat newydd Cynghrair y Pencampwyr 43'00 'Toto' Schillaci a hoff Gwpan y Byd
Caitlin Kelly yw gwestai Beti a'i Phobol. Cafodd Caitlin ei geni a'i magu yn Llundain. Mae ei Mhâm, Elen yn dod o Gaerdydd ac mae ei Thad, David yn dod o Iwerddon. “Roedd y ddau ddiwylliant yna yn fy mywyd i o'r dechrau,”meddai.Mae Caitlin yn cofio ei bod hi a'i chwaer yn mynychu Ysgol Gymraeg Cymru Llundain pob dydd Gwener tra yn yr ysgol gynradd. Yn ystod weddill yr wythnos, roedd hi yn mynd i ysgol Gatholig merched yn unig. Fe aeth Caitlin ymlaen i astudio Diwinyddiaeth yn Rhydychen gyda'r ffocws ar Islam a seicoleg crefydd yng Ngholeg Worcester. Yna mi wnaeth gais i astudio newyddiaduriaeth yn Llundain a chael lle yn City University yn astudio newyddiaduriaeth teledu. Mae bellach yn gweithio fel newyddiadurwraig ac wedi bod yn gweithio gyda'r Groes Goch yn gwneud fideos a phecynnau ar gyfer y wasg. Fe dreuliodd amser yn Gaza a Wcráin.
DROS GINIO 11.03.24Buodd Rhodri Llywelyn yn holi Mahum Umer o Gaerdydd. Mae'r cyfnod Ramadan i Foslemiaid ar draws y byd wedi cychwyn. Beth mae'r ŵyl yn ei olygu i Foslem ifanc Cymraeg?Ympryd A fastCymuned CommunityNodi To markCrefyddol ReligousDatgelu To revealHunanddisgyblaeth Self disciplineLlai ffodus Less fortunateAnsicrwydd UncertaintyHeriol ChallengingAdlewyrchu To reflect ALED HUGHES 12.03.24Blas ar sut mae cyfnod Ramadan yn effeithio ar Foslemiaid ifanc Cymru yn fanna ar Dros Ginio. Pwy fasai'n meddwl ei bod yn bosib cynhyrchu gwin cyn belled i'r gogledd â Dyffryn Clwyd? Wel dyna sy'n digwydd yng Ngwinllan y Dyffryn a buodd perchennog y winllan, Gwen Davies, yn sgwrsio gydag Aled Hughes fore Mawrth am yr her o dyfu grawnwin yn yr ardal honno.Cynhyrchu To produceGwinllan VinyardHer A challengeGrawnwin GrapesLlethr SlopeGwerthfawrogi To appreciateAddas AppropriateSefydlu To establishMicro hinsawdd Microclimate Yn y man Mewn munudGwinwydd VinesArallgyfeirio To diversify GEORGIA RUTH 12 03 24Ac erbyn hyn mae sawl gwinllan yng Nghymru on'd oes e? Pwy â ŵyr, falle mai Cymru bydd y Bordeaux newydd!Bardd mis Mawrth Radio Cymru yw Sam Robinson. Mae e'n byw ym Machynlleth, nawr ond yn dod o Rydychen yn wreiddiol ac mae e'n rhugl yn y Gymraeg erbyn hyn. Dyma fe'n sôn wrth Georgia Ruth am daith arbennig buodd e arni i Wlad y Basg...Rhydychen OxfordGwlad y Basg The Basque CountryOfferyn InstrumentGwneuthurion ManufacturersPreniach Small pieces of woodPastynau ClubsGwledda To feastWedi swyno CharmedYmatebol ResponsiveLlanast MessRhyfeddol Wonderful BORE COTHI 15.03.24Un arall sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhyfeddol, fel Sam Robinson yw Debora Morgante o Rufain. Mari Grug oedd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes dydd Gwener, noson cyn gêm rygbi Cymru a'r Yr Eidal, a chafodd hi sgwrs gyda Debora gan ofyn iddi hi sut gwnaeth hi ddysgu Cymraeg yn y lle cynta...Rhufain RomeCwrs Preswyl Residential courseYmarfer To practiceDROS FRECWAST 14.03.23Debora Morgante o Rufain oedd honna, fuodd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn yn 2015. Yn anffodus colli wnaeth Cymru yn y gêm yn erbyn yr Eidal a hon oedd gêm ola George North i chwarae dros Gymru gan iddo ddweud basai'n ymddeol yn dilyn y gêm honno. Cennydd Davies fuodd yn sgwrsio gyda George am ei benderfyniad.Rhestr fer Short listPenderfyniad enfawr Huge decisionCyflawni To achieveY cyhoedd The publicUchafbwynt HighlightBETI A'I PHOBOL 17.03.24George North oedd hwnna enillodd cant dau ddeg o gapiau i Gymru gan ennill ei gap cynta yn 2010. Trueni mawr ei fod yn ymddeol ond mae e wedi rhoi gwasanaeth arbennig i Gymru dros y blynyddoedd. Hazel Thomas o Lanwenog yng Ngheredigion fuodd yn sôn wrth Beti George am ei hamser yn gweithio fel chef yn y Dorchester yn Llundain …y ferch gynta i wneud hynny!Trueni BechodSylw a stwr Fuss and attentionCefn gwlad The countrysideEnwoca The most famousBodoli To exist
Clip 1 Trystan ac Emma: Buodd Steffan Long o Gaerdydd yn sgwrsio ar raglen Trystan ac Emma yn ddiweddar, ac yn sôn am ei waith fel cynorthwyydd dysgu Saesneg mewn Ysgol yn Tokyo, a dyma i chi flas ar y sgwrs: Cynorthwyydd Assistant Ma's Allan Hir dymor Long term Parhau Continue Disgyblion Pupils Mymryn A little Clip 2 Rhaglen Cofio: Steffan Long oedd hwnna'n sôn am ei waith mewn ysgol yn Tokyo. Wythnos diwetha roedd hi'n Sul y Cofio a dyna beth oedd thema rhaglen Cofio gyda John Hardy. A dyma i chi glip o Harold Williams yn sôn am ddod i Lanrwst fel ifaciwî o Lerpwl yn ystod yr Ail Ryfel Byd: Ail Ryfel Byd Second World War Trais Violence Pledu cerrig Throwing stones Cyfnod Period Yn achlysurol Occasionally Mynd yn eu holau Returning Lleia'n byd o sôn oedd The less it was mentioned Buan iawn Very soon Clip 3 Bwrw Golwg: Hanes rai o ifaciwîs Llanrwst yn fanna ar raglen Cofio. Ar Bwrw Golwg ar y 12fed o Dachwedd, mi roddwyd sylw i Diwali neu Ŵyl y Goleuni, sy'n cael ei dathlu gan Hindŵiaid a Sikhiaid. Yn y clip nesa ‘ma mae Mohini Gupta, sydd wedi dysgu Cymraeg, yn sôn am draddodiadau'r Ŵyl hon efo Gwenfair Griffith: Goleuni Light Traddodiadau Traditions Addurno To decorate Gweddïau Prayers Buddugoliaeth Victory Tywyllwch Darkness Gwahodd ffyniant Inviting prosperity Pryder amgylcheddol Environmental concern Ymdrechion i annog Efforts to encourage Melysion Confectionary Byrbrydau Snacks Clip 4 Rhaglen Aled Hughes: Mae'n swnio fel bod dathliadau Diwali yn llawn o fwyd blasus yn tydy? DJ Katie Owen oedd gwestai Aled Hughes yn ddiweddar. Mae Katie wedi dilyn Cymdeithas Bêl-Droed Cymru ar draws y byd yn chwarae cerddoriaeth i'r cefnogwyr, ac mae hi wedi dysgu Cymraeg. Buodd Katie ar y rhaglen Iaith ar Daith efo'i mentor Huw Stephens yn 2021. Mi gafodd Aled â Katie sgwrs yng Nghanolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn, ac yn y clip hwn mae hi'n sôn am gymaint mae hi'n caru dysgu Cymraeg: Cymdeithas Bêl-Droed Cymru Football Association of Wales Cefnogwyr Fans Mo'yn Eisiau Cerddoriaeth Music Ar goll Lost Mi ddylet ti fod You should be Clip 5 Rhaglen Caryl: Dal Ati Katie, mi fyddi di'n rhugl cyn bo hir, dw i'n siŵr. Lowri Cêt oedd yn cadw cwmni i Caryl ddechrau'r wythnos diwetha. Mae Lowri yn chwarae rhan Sindarela ym mhantomeim blynyddol Theatr Fach Llangefni. Yma mae'n dweud mwy am y sioe: Stori draddodiadol Traditional story Llysfam gas Wicked stepmother Annifyr Unpleasant Yn gyfarwydd â Familiar with Hyll Ugly Gwisgoedd Costumes Cymeriadau Characters Yn brin iawn Very rarely Hawlfraint Copyright Clip 6 Bore Cothi: Wel am hwyl ynde? A phob lwc i griw Theatr Fach Llangefni efo'r pantomeim. Bob nos Fawrth mae'r rhaglen Gwesty Aduniad i'w gweld ar S4C. Mae'r rhaglen yn trefnu aduniad i bobl sydd wedi colli cysylltiad â'i gilydd ond hefyd yn trenu i bobl gyfarfod â'i gilydd am y tro cynta mewn amgylchiadau arbennig. Mae'n gyfres boblogaidd ac emosiynol iawn. Nos Fawrth y 14eg o Dachwedd roedd Guto Williams o Dregarth ar y rhaglen. Mae Guto wedi cael ei fabwysiadu ac yn awyddus i ddod o hyd i'w deulu coll: Aduniad Reunion Mabwysiadu To adopt Adlewyrchiad Reflection Magwraeth Upbringing Rhieni maeth Foster parents Tebygolrwydd Similarity Cam mawr A big step Greddf Instinct Parch Respect Ffawd Lwc Clamp o stori A huge story
Pigion Dysgwyr – Heather Jones Mae'r tri chlip cynta i gyd am bobl amlwg sy wedi dysgu Cymraeg, a beth am i ni gychwyn gyda'r gantores Heather Jones? Yn yr ysgol dysgodd Heather Gymraeg yn ail iaith, ond buodd hi'n perfformio a recordio yn y Gymraeg am flynyddoedd maith. Mae Heather newydd gyhoeddi ei bod hi wedi canu'n fyw am y tro ola ac ar Bore Cothi esboniodd hi wrth Shan Cothi sut dechreuodd ei gyrfa ym myd canu Amlwg Prominent Cyhoeddi Announce Ymennydd Brain Yn gyfangwbl Completely Tinc Tone Pigion Dysgwyr – Johnny Tudor Mae'n rhyfedd meddwl na fyddwn yn clywed llais Heather Jones ar lwyfannau Cymru eto on'd yw hi? Dysgu Cymraeg fel oedolyn ar gwrs Wlpan yng Nghaerdydd wnaeth y diddanwr, y dawnsiwr a'r canwr Johnny Tudor, ac roedd e'n dathlu 60 mlynedd ym myd adloniant eleni. Ar gyfer rhaglen Ffion Dafis bnawn Sul, aeth Lily Beau draw i gartre Johnny i'w holi. Dyma fe gydag un stori fach o'i yrfa... Diddanwr Entertainer Dynwared To impersonate Llwyfan Stage Pigion Dysgwyr – Dinbych y Pysgod A dw i'n siŵr bod gan Johnny lawer iawn o straeon difyr eraill o'i yrfa hir ym myd adloniant. Mae Jo Heyde wedi dysgu Cymraeg ac yn byw yn Ninbych y Pysgod erbyn hyn. Mae hi'n fardd, yn barddoni yn Gymraeg, ac wedi ennill cadair am ei barddoniaeth. Nos Fawrth diwetha ar raglen Caryl esboniodd Jo pam daeth hi i fyw i dde Sir Benfro yn y lle cyntaf…… Dinbych y Pysgod Tenby Bardd Poet Hala Treulio Dim syndod No surprise Yn syth bin Straight away Unigryw Unique Haenau Layers Tirwedd Landscape Llanw Tide Cyfnewidiol Changeable Awen Muse Pigion Dysgwyr – Lliw Ddall Wel dyna i chi dri sy wedi dysgu Cymraeg yn wych, ac sydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i'r byd Cymraeg. Diolch Heather, Johnny a Jo. Mae Owen Jones o Gaerdydd yn un o'r 1 o bob 12 dyn sydd yn lliwddall, ond yn ôl gwyddonwyr dim ond 1 o bob 200 o ferched sy‘n lliwddall ac mae Bethan Rhys Roberts yn un ohonyn nhw. Ar gyfer Bore Sul yr wythnos diwetha trïodd Owen a Bethan sbectolau arbennig sydd i fod i gywiro eu golwg...dyma sut aeth pethau …. Cyfraniad gwerthfawr A valuable contribution Lliwddall Colour blind Yn ôl According to Gwyddonwyr Scientists Cywiro eu golwg Correct their eyesight Llachar Bright Sefyll mas To stand out Cyfoethog Rich(colour) Ffug Fake Pigion Dysgwyr – 1973 Wel newyddion da i‘r rhai sy'n lliwddall on'd ife – mae'n debyg bod y sbectol newydd yn gweithio! Mae'r flwyddyn 1973 yn cael ei gyfri'n flwyddyn arbennig ym myd gwneud ffilmiau. Ond beth oedd mor arbennig am y flwyddyn honno? Cafodd Dion Wyn sgwrs gydag Owain Llyr ar Dros Ginio yr wythnos diwetha i esbonio mwy….. Cyfnod Period of time Hogiau Bechgyn Tywyll Dark Agwedd Attitude Eithafol Extreme Naws Mood Anhygoel Incredible Pigion Dysgwyr – Max Boyce Dion Wyn ac Owain Llyr oedd y rheina'n sgwrsio am pa mor bwysig oedd 1973 i fyd y ffilmiau. Ddydd Mercher diwetha roedd y canwr a'r diddanwr Max Boyce o Lyn Nedd yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed. Mae Max wedi bod yn diddanu pobl Cymru ac ar draws y byd ers diwedd y 60au. Cafodd Aled Hughes gyfle i holi Jed O'Riley o Glwb Rygbi Glyn Nedd sy'n ei adnabod e'n dda…. Cymuned Community Sgwrs ddifyr An interesting conversation Ymwybodol Aware Pwysigrwydd Importance
Gwestai Beti George ydi Dr Owain Rhys Hughes - llawfeddyg a pherchennog cwmni Cinapsis, meddalwedd sydd yn rhoi cymorth i feddygon a chleifion i gael diagnosis yn gynt. Wedi ei fagu ym Mhenmynydd ger Porthaethwy, aeth i Gaerdydd i astudio meddygaeth, a dewisodd fynd yn llawfeddyg gan ei fod yn mwynhau anatomi pan yn y Coleg. Yn ystod ei flwyddyn olaf yn y coleg cafodd y cyfle i fynd i weithio i Boston yn yr Unol Dalaethiau ar ôl cael cymrodoriaeth i Harvard. Mae'n mwynhau dringo yn ei amser sbâr.
Yn ddiweddar iawn fe ddaeth Millie-Mae Adams o Gaerdydd yn Miss Cymru/Wales 2023! Ond mae 'na tipyn fwy i Millie na hyn. Yn fyfyrwraig yn astudio meddyginiaeth ym Mhrifysgol Exeter, mae Millie yn lysgengadwraig i elusen Calan DVS ac yn gwirfoddoli ac yn cefnogi elusennau amrywiol, yn ogystal â hybu'r iaith Gymraeg! Llongyfarchiadau mawr i'r wraig ddiymhongar, garedig a deallus hon a phob lwc iddi yn ystod ei hamser fel brenhines Cymru!
Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n dewis tîm a gêm y tymor, yn ogystal â'r chwaraewyr sydd wedi mynd tu hwnt i ddisgwyliadau. Ac mae'r ddau yn cynnig cyngor i Vincent Tan wrth iddo chwilio am reolwr newydd arall i Gaerdydd.
Owain a Malcolm yn edrych yn ôl dros wythnos bryusur welodd Lerpwl yn cael crasfa, rhediad gwael Abertawe yn parhau ond adfywiad i Gaerdydd.
Pigion Dysgwyr – Aled Hughes 13.2 Sut beth oedd golchi dillad cyn dyddiau peiriannau golchi, neu cyn dyddiau trydan hyd yn oed? Wel, yn ystod yr wythnos diwetha yn yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis, buodd plant ysgol yn cael gwybod mwy am hyn gan ‘ Anti Marged' sef yr actores Rhian Cadwaladr. Dyma Mari Morgan o'r Amgueddfa yn sôn wrth Aled Hughes am y digwyddiad…… Amgueddfa Lechi Genedlaethol National Slate Museum Dathlu arferion Celebrating the custom Diwrnod penodol A specific day Plantos Kids Cyflwyno Presented Cymhleth Complicated Rhoi benthyg To lend Teimlo trueni To pity Bwrdd sgwrio Scrubbing board Chwarelwyr Quarrymen Pigion Dysgwyr - Jo Heyde Plant y gogledd yn cael dipyn o sioc dw i'n siŵr o ddysgu sut oedd golchi dillad ers talwm gan ‘Anti Marged'. Dim ond ers pedair blynedd mae Jo Heyde (ynganiad – Haidy Cymraeg) o Lundain wedi dechrau dysgu Cymraeg, ac mae hi erbyn hyn yn bwriadu dod i Gymru i fyw. Dyma hi'n dweud wrth Dei Tomos pryd dechreuodd ei diddordeb hi yn y Gymraeg. Cyfnod Period Yn awyddus Eager Gwasanaethau Services Diolchgar Thankful Yn raddol fach Gradually Yn ei chyd -destun In its context Mynd ati To go about it Wedi fy machu i Has got me hooked O'ch pen a'ch pastwn eich hun By your own devices Yn reddfol Instinctively Pigion Dysgwyr – Emma Lyle 14.2 Stori wych Jo Heyde oedd honna , sydd yn rhugl yn y Gymraeg ar ôl ei dysgu am bedair blynedd yn unig. Lansiwyd y ddol Barbie ar ddiwedd y 50au, ond mae natur a phwrpas y ddol wedi newid yn fawr er hynny. Ar Dros Ginio cafodd Jennifer Jones gyfle i holi un o ffans Barbie, Emma Lyle, am y newidiadau hyn... Torri tir newydd Breaking new ground Dychmygu To imagine Bob lliw a llun All sorts Yn ei chyfanrwydd In its totality Yn ddihangfa o realiti An escape from reality Cynhwysol Inclusive Cadair olwyn Wheelchair Ehangu To expand Yn berthnasol Relevant Uniaethu â To identify with Pigion Dysgwyr – Bryn Tomos 14.2 Mae Barbie yn sicr wedi newid yn fawr ers fersiwn gwreiddiol y pumdegau , ond tybed beth yw hanes ei chariad Ken y dyddiau hyn? Nos Fawrth lansiodd Caryl Parry Jones slot newydd ar ei rhaglen sef “24 awr yn…….”a Betws-y-Coed oedd dan y chwyddwydr yn y slot cynta. Sut le oedd y pentref i dyfu fyny ynddo, oedd cwestiwn Caryl i Bryn Tomos - un gafodd ei fagu yno. O dan y chwyddwydr Under the magnifying glass I raddau To an extent Wst ti be? Do you know what? Fatha mywion Like ants Wnaeth o fy nharo i It struck me Y llwybrau a'r golygfeydd The paths and scenery Pigion Dysgwyr – Mattie Roberts Darlun o Fetws-y-Coed yn fanna gan Bryn Tomos, gaeth ei fagu yn y pentref. Mae Mattie Roberts o Gaerdydd wedi bod yn codi arian ar gyfer ysgol yn Accra, prif ddinas Ghana, ers blynyddoedd. Dyma hi'n sôn wrth Shan Cothi am yr ysgol a pham ei bod hi'n awyddus i'w helpu...….. Prif ddinas Capital Adnoddau Resources Hynod o anodd Extremely difficult Pigion Dysgwyr – John Thomas 13.2 A gobeithio bydd Mattie'n llwyddiannus drwy godi arian unwaith eto i helpu'r ysgol yn Ghana on'd ife? Ar ei raglen mae Ifan Evans yn sgwrsio gyda chynrychiolwyr timau rygbi ar draws y wlad, a'r wythnos diwetha tro y Strade Sospans oedd hi. Cafodd Ifan air gyda John Thomas cadeirydd y tîm hwnnw…. Cynrychiolwyr Representatives Anhygoel Incredible Cynyddu ein niferoedd Increasing our numbers Undeb Rygbi The Rugby Union
Talent a pherson hyfryd arall ar ail bennod 2023 o'r podlediad wythnos hon. Elin Parisa Fouladi o Gaerdydd ac o dras Gymreig a Iranaidd. Mae Elin yn canu ac yn cyfansoddi ei hun ac yn gwneud enw i'w hun ar y sin gerddoriaeth yng Nghymru. Sgwrs gwbl naturiol ganddi am ei magwraeth, ei henw, perfformio a chyfansoddu a lot o hwyl gyda'r 10 cwestiwn a'r cwis! Diolch i Elin neu Parisa, am ei hamser.
Owain a Malcs sy'n trafod pwy fydd rheolwr nesaf Caerdydd ac yn ffarwelio â hen ffrind.
Bore Cothi - Gruffydd Rees 16.11 Ydy gwenyn yn cysgu dros y gaeaf? Nac ydyn, ddim yn ôl y gwenynwr Gruffydd Rees o'r Dryswyn yn Sir Gaerfyrddin. Dyma Gruffydd yn dweud mwy wrth Shan Cothi….. Gwenyn Bees Cwch Hive Para To last Peillio To pollinate Hanfodol Essential Diwydiant Industry Cnwd Crop Trystan ac Emma – Gari'r Gwiningen Y gwenyn yn brysur yn bwyta mêl drwy'r gaeaf – braf on'd ife? Nesa dyma i chi hanes Gari, anifail anwes Emma o Lanbedrog ym Mhen Llŷn, sydd wrth ei fodd yn mynd am dro i'r traeth gyda thri o gŵn Emma. Dim byd yn rhyfedd am hynny nag oes? Wel oes, gan mai cwningen ydy Gari. Dyma Emma'n sgwrsio gyda Trystan ac yr Emma arall… Cwningen Rabbit Aballu And so on Dychmygu To imagine Ymateb Response Aled Hughes – Nyrsus Phillipines 14.11 Felly peidiwch â chael gormod o sioc tasech chi'n gweld cwningen yn mynd am dro ar draethau Pen Llŷn! Fore Llun cafodd Aled Hughes gyfle i sgwrsio gyda Noel Davies mab Lottie, nyrs o Ynysoedd Philippines yn wreiddiol, ddaeth draw i Gymru i weithio yn y Gwasanaeth Iechyd gyda nifer o nyrsys eriall o'r Ynysoedd. Llais Noel ei hunan dyn ni'n ei glywed ar ddechrau'r clip pan oedd e'n 6 oed. Mae e dipyn yn henach nawr ac ymunodd e gydag Aled i ddathlu 21mlynedd ers i nyrsys o'r Ynysoedd gyrraedd Cymru ac i roi ychydig o'i hanes personol e… Uffernol Hellish Cyn gyd-weithwraig annwyl A dear former colleague Yn gyfarwydd Familiar Poblogaidd Popular Hyfforddi To train I chdi I ti Beti – Iestyn Davies 20.11 Noel Davies oedd hwnna'n sgwrsio gydag Aled Hughes yn sôn gymuned Philippino y gogledd. Bnawn Sul ar raglen Beti a'i Phobl, cyn dditectif ac Uwch Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru, Iestyn Davies oedd y gwestai. Dyma fe'n sôn am rywbeth doniol iawn ddigwyddodd iddo fe pan oedd e'n blismon ar Ynys Môn Uwch Arolygydd Superintendent Cau stopio Gwrthod stopio Buarth Farmyard Drewi Stinking Sylweddoli To realise Yn wirioneddol In reality Caryl – Wendy Williams 14.11 Wel dyna stori dda ‚on‘d ife ? Nos Lun a'r raglen Caryl roedd Wendie Williams o Gaerfyrddin yn sôn am y rhaglen deledu Yma O Hyd a'r effaith mae'r gân arbennig hon wedi ei gael y tu hwnt i fyd siaradwyr Cymraeg… Y tu hwnt Beyond Cysylltu To contact Torf Crowd Ias A shudder Aberth Sacrifice Ymgyrchu Campaigning Hunaniaeth Identity Llefain Crïo Angerdd Passion Bore Cothi – Manon Fisher Jenkins 15.11 Ac mae sawl fersiwn o'r gân i'w gael erbyn hyn on'd oes, ers Cwpan y Byd. Mae Manon Fisher Jenkins o Gaerdydd wedi newid gyrfa sawl gwaith er mai yn ei phedwardegau yn unig mae hi. Ond erbyn hyn mae hi wedi dod o hyd i yrfa sydd wrth ei bodd. Dyma hi'n esbonio wrth Shan Cothi... Gradd Degree Amgueddfa Museum TAR PGCE Tost Sâl Mamolaeth Maternity leave Hedyn A seed Tad-cu Taid Rhandir Allotment Dwlu Mwynhau Andros o ffodus Lwcus iawn
BETI A'I PHOBOL Joe Healy, enillydd Dysgwr y Flwyddyn oedd gwestai Beti George yn ystod Wythnos y Dathlu. Mae Joe'n dod o Wimbledon yn ne Llundain yn wreiddiol ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers deg mlynedd. Daeth i Gaerdydd i fynd i'r brifysgol, ac mae wedi aros yno. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018 ac yn y clip yma mae'n sôn am sut wnaeth teulu Mared, ei cyn- gariad, ei helpu i ddysgu'r iaith… Treulio amser - To spend time Mynd mas - Mynd allan Profiad - Experience Mam-gu - Nain Cymdeithasol - Sociable Gorfodi - To force Cefnogol - Supportive Becso - Poeni Trochi - To immerse ALED HUGHES Dim ond ers mis Ebrill eleni mae Katie Owen o Ferthyr yn dysgu'r iaith ar ôl iddi gymryd rhan yn y rhaglen Iaith ar Daith gyda'r DJ Huw Stephens yn fentor iddi hi. Dyma hi'n sgwrsio gydag Aled Hughes… Gwahanol - Different Tad-cu - Taid ALED HUGHES Cafodd Laura Jones o Gaerdydd ychydig o wersi Cymraeg yn yr ysgol, ond penderfynodd ddysgu'r Gymraeg fel oedolyn er mwyn cyfieithu rhannau o'r Quran. Dyma flas ar y sgwrs cafodd hi gydag Aled Hughes... Oedolyn - Adult TGAU - GCSE Annog - To encourage Gyrfa - Career Cyfleoedd Gwaith - Work opportunities Bwlch - A gap Dywediadau - Sayings ALED HUGHES Beth tybed oedd rheswm Kelly Webb-Davies sy'n dod o Awstralia'n wreiddiol dros ddysgu'r iaith? Fel cawn ni glywed mae hi'n briod â Peredur Glyn awdur nofel o'r enw ‘Pumed Gainc y Mabinogi' ac mae hi wedi magu ei mab drwy'r Gymraeg. Dyma hi'n sgwrsio efo Aled Hughes... Ieithyddiaeth - Linguistics Bathu term - To coin a phrase Sillafu - To spell Seiniau - Sounds Clwt - Cewyn Llwglyd - Hungry BORE COTHI Mae stori Sara Maynard o Sir Gaerfyrddin ychydig yn wahanol. Cafodd hi ei haddysg mewn ysgolion Cymraeg ond ar ôl gadael ysgol collodd hi ei hyder o ran sgwennu Cymraeg. Aeth hi ar gwrs Cymraeg i Oedolion i wella'r sgil yma ac erbyn hyn mae hi'n swyddog iaith ym Mhrifysgol De Cymru. Ysgol gynradd - Primary School Ysgol Gyfun - Secondary School Trwy gyfrwng - Through the medium of Ysgrifenedig - Written Sbarduno - To spur BORE COTHI Cafodd Shân Cothi sgwrs ddiddorol arall gyda Dickon Morris, cafodd ei eni yng Nghaergrawnt, ei fagu yn Sir Benfro ond sydd erbyn hyn yn byw yng Nghaerdydd. Mae e'n gweithio fel daearegydd ac yn amlwg mae e wrth ei fodd gyda'r gwaith... Caergrawnt- Cambridge Daearegydd - Geologist Plentyndod - Childhood Dinbych y Pysgod - Tenby Diwydiant - Industry Tirwedd - Landscape Llethrau serth - Steep slopes Amrywiaeth - Variety
BETI A'I PHOBOL Karl Davies oedd gwestai Beti George yr wythnos hon. Mae Karl newydd ddod yn ôl i Gymru ar ôl bod yn dysgu Saesneg i oedolion am bedair blynedd yn China…a dyma fo'n sôn am hanes Cadi, y gath fach, wnaeth deithio mewn awyren yr holl ffordd o China i Gaerdydd... Y gradures fach - Poor thing (lit: the little creature) Mabwysiadu - To adopt Erchyll - Dreadful Epaod - Apes TRYSTAN AC EMMA Mae Elsi Williams yn dod o Fethesda yng Ngwynedd yn wreiddiol ond yn byw yn Llandudno erbyn hyn. Mae hi'n mynd i nifer fawr o ddosbarthiadau ffitrwydd i gadw'n heini, fel cawn ni glywed yn y clip nesa ‘ma. Trïwch ddyfalu be ydy oedran Elsi wrth i chi wrando arni'n sôn am gadw'n heini – mi gewch chi'r ateb cyn diwedd y clip… Ddaru - Gwnaeth Coedwig - Wood Clychau'r gog - Bluebells Anhygoel - Incredible DEI TOMOS Roedd y Moody Blues yn fand poblogaidd iawn yn y chwedegau a'r saithdegau ac mae'n debyg mae Nights in White Satin oedd un o'u caneuon mwya enwog. Roedd un o aelodau'r band, Ray Thomas, yn perthyn i'r cyflwynydd, cerddor ac actor Ryland Teifi. Fo oedd gwestai Dei Tomos nos Fawrth a dyma fo'n rhoi ychydig o'r hanes... Cyflwynydd - Presenter Cerddor - Musician Yn enedigol o - A native of Yn fachan - Yn fachgen Dur - Steel Ar fy mhwys i - Wrth fy ymyl i Modrybedd - Aunties Roedd e'n dwlu ar - Roedd o'n dotio ar ALED HUGHES Mae'r cyflwynydd Bethan Elfyn wedi bod yn sal ers 2005 ac wedi bod yn aros am drawsblaniad ysgyfaint am flynyddoedd er mwyn iddi hi gael gwella. O'r diwedd mae hi wedi cael clywed ei bod ar y rhestr am drawsblaniad... Trawsblaniad ysgyfaint - Lung transplant Wedi cwympo - Has fallen Triniaeth - Treatment Dirywiad - Deterioration Celloedd - Cells Dinistrio - To destroy BORE COTHI Mi gafodd Shân Cothi sgwrs efo Martina Roberts sy'n dod o'r Weriniaeth Tsiec yn wreiddiol ond sydd nawr yn dysgu yn Sir Benfro. Dyma hi'n sôn am sut dechreuodd hi ddysgu Cymraeg... Y Weriniaeth Tsiec - The Czech Republic Ystyried - To consider Denu - To attract Gwella - To improve Almaeneg - German language GWNEUD BYWYD YN HAWS Mi fuodd Hanna Hopwood yn sgwrsio efo Branwen Llywelyn sydd wedi derbyn her 'Medi Ail Law', ond beth yn union ydy'r her ‘ma? Her - A challenge Mae'n hysbys - It's known Amgylchedd - Environment Diwydiant - Industry Hinsawdd - Climate Mynd i'r afael - To get to grips with Codi ymwybyddiaeth - To raise awareness Annog - To encourage Ar hap - Randomly Egwyddorion - Principles Annibynnol - Independent
Wedi ei fagu yn Abergele ac yn gyn ddisgybl Ysgol Glan Clwyd, mae Karl Davies yn ymuno a Beti i drafod ei fywyd yr wythos yma. Dychwelodd Karl nôl i Gaerdydd ddiwedd mis Mehefin eleni o China, ar ôl bod yn dysgu Saesneg i oedolion yno am 4 blynedd. Hanes China gaiff y sylw heddiw, gan ei fod yn credu bod anwybodaeth y gorllewin am y wlad yn broblem enfawr. Bu Karl yn gweithio yn y byd gwleidyddol fel ymchwilydd yn San Steffan i Blaid Cymru, wedyn i'r byd newyddiadura gan ddringo i fod yn Olygydd Newyddion BBC Cymru. Ar ôl hynny fe fu'n Brifweithredwr Plaid Cymru am 9 mlynedd; I'r byd addysg aeth o wedyn fel Cyfarwyddwr Undeb y Prifathrawon. Aeth nol i swydd weinyddol yn y BBC ac wedyn draw i China i ddysgu saesneg i oedolion.
Dros Frecwast Y garddwr o Fôn, Medwyn Williams, yn cofio cwrdd â'r Frenhines Elizabeth yr 2il mewn sgwrs efo Dylan Ebenezer. Brenhines - Queen Cynllunio - To plan Arddangosfa - Exhibition Deuthi - Dweud wrthi hi Gwybodus iawn - Very knowledgable Byd garddwriaethol - Gardening world Croen - Skin Bore Cothi Shân Cothi yn cael sgwrs efo enillydd Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022, Dr Edward Rhys-Harry o Benclawdd, Abertawe. Gofynodd Shân iddo fo sut deimlad ydy hi i glywed ei ddarnau yn cael eu perfformio gan gerddorfa neu gantorion? Tlws y Cerddor - The Musicians Trophy Darnau - Pieces Cerddorfa neu gantorion - Orchestra or singers Unig - Lonely Cyfansoddi - To compose Sefyllfa gyhoeddus - A public setting Aled Hughes Mae Sian Davies a Dyddgu Mair Williams o Nefyn wedi sefydlu busnes arlwyo pysgod, Môr Flasus, ym Mhen Llŷn ac aeth Aled Hughes draw i gael sgwrs efo Dyddgu am y fenter. Arlwyo - Catering Crancod - Crabs Cwta - A meagre Gweledigaeth - Vision Lleihau - To reduce Cynnyrch - Produce Penrhyn - Peninsular Cregyn - Shell Potes - Soup Cimwch - Lobster Bore Cothi Brenhines Canu Gwlad o Ddyffryn Aeron, Cererdigion oedd gwestai Shan Cothi fore Iau. Recordiodd ei sengl cynta ar label Cambrian yn ôl yn 1969 pan oedd hi'n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Dyffryn Aeron, ac mae hi wedi bod yn perfformio ers dros 50 mlynedd . Pan holodd Shan y gantores, Doreen Lewis, roedd hi newydd ddod yn ôl o Ddulyn Canu gwlad - Country & Western Disgybl - Pupil Dulyn - Dublin Llanw - Llenwi Sa i'n cofio - Dw i ddim yn cofio Nefoedd! - Good heavens! Cyfanwaith - The complete set Dw i'n dwlu ar - Dw i wrth fy modd efo Geraint Lloyd Cafodd Geraint Lloyd sgwrs efo Trystan Phillips, Pennaeth Ysgol Penparc, Aberteifi ac sydd yn ogystal yn Faer Aberteifi. Un o Rhuthun ydy o yn wreiddiol ond mae o wedi setlo yng Ngheredigion ers 20 mlynedd ac wedi ymuno â chôr lleol. Cystadlu - To compete Llwyddiannus - Succesful Ffodus - Lwcus Canlyniad - Result Cynulleidfa - Audience Dan ei sang - Full to the brim Gwobr - Prize Cyn arweinydd - Former conductor Braint - A privilege Gwneud Bywyd yn Haws Nos Fawrth mi gafodd Hanna Hopwood sgwrs efo Sioned Hâf o Gaerdydd am ei thaith colli pwysau, sy' wedi arwain at drawsnewid y ffordd mae hi'n cynllunio bwyd. Trawsnewid - To transform Colli pwysau - To lose weight Cynllun penodol - Specific plan
Yn y pennod yma rwy'n sgwrsio gyda Joe Healy, ennillydd Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol 2022. Symudodd e i Gaerdydd o Lundain, er mwyn astudio yn y Prifysgol. Yn fuan iawn, roedd e wedi gwneud ffrindiau gyda Chymry Cymraeg a dechreuodd e ddysgu'r iaith. Trafodon ni sut mae siaradwyr Cymraeg yn gallu helpu dysgwyr, ei fand roc sy'n chwilio am enw (rhannwch eich syniadau!), a'r argraff positif mae pêl droed wedi gwneud o ran yr iaith. Gallwch chi weld lluniau o Joe ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.
Cor y Byd Llangollen Cȏr CF1 o Gaerdydd enillodd gystadleuaeth Cȏr y Byd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni. Dyma i chi flas ar sgwrs rhwng Eilir Owen Griffiths, arweinydd y côr a Shan Cothi fore Llun diwetha. Arweinydd Conductor Ymarfer Rehearsal Datblygu To develop Paratoi To prepare Llwyfan A stage Symudiadau Movements Cerddorion Musicians Creu To create Balch Proud Anwen bowlio i'r gymanwlad …a llongyfarchiadau mawr i Eilir ac i gôr CF1 ynde? Eleni mi fydd Anwen Butten yn cystadlu am y chweched tro yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham, ac mi fydd y gemau'n cychwyn ar yr 28ain o Orffennaf. Mae Anwen wedi cael ei dewis fel Capten Tîm Cymru yn y gemau eleni, felly bydd hi'n gapten ar 202 o athletwyr o Gymru. Gofynnodd Shan Cothi i Anwen sut dechreuodd hi ar y bowlio…. Gemau'r Gymanwlad Commonwealth Games Tîm hŷn Senior Team Hyfforddi To coach Cefnogwr brwd An enthusiastic supporter Profiadol Experienced Yn olygu Means Anrhydedd Honour Dros Ginio Dyfrig a Rhodri …a phob lwc i Anwen ac i dîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwald nes ymlaen yn y mis. Tad a mab o Ddolgellau oedd gwesteion Dewi Llwyd bnawn Llun. Y tad , Dyfrig Siencyn, yn arweinydd Cyngor Gwynedd a'r mab, Rhodri ap Dyfrig yn Gomisiynydd Cynnwys Ar-lein S4C. Dyma Dyfrig i ddechrau'n sôn am ei rôl fel arweinydd y cyngor... Gomisiynydd Cynnwys Ar-lein Online Content Commissioner Y gallu The ability Cymhellion Motives Nodweddion Characteristics Dadleugar Argumentative Etifeddu To inherit Perthynas Relationship Anawsterau Difficulties Chwaraeon rygbi De Affrica Dyfrig Siencyn a'i fab Rhodri oedd rheina yn sgwrsio efo Dewi Llwyd. Mi gafodd tîm rygbi Cymru fuddugoliaeth hanesyddol yn erbyn De Affrica yn Ail brawf Cyfres yr Haf. Gareth Anscombe a Josh Adams oedd arwyr Cymru yn Stadiwm Toyota, Bloemfontein yn ennill y gêm i Gymru yn y munudau ola. Heledd Anna, cyflwynydd Chwaraeon Radio Cymru fuodd yn trafod efo tîm sylwebu'r gêm, dau gyn chwaraewyr i dimau rhyngwladolCymru, Emyr Lewis a Caryl James... Buddugoliaeth hanesyddol An historic victory Ail brawf Cyfres yr Haf The second test in the Summer Series Arwyr heroes Tîm sylwebu Commentary team Yn ysu Itching Maswr Outside half Mewnwr Scrum half Bore Cothi HG yn 80 ...ac yn anffodus collodd Cymru'r trydydd prawf yn Cape Town ddydd Sadwrn, ar ôl perfformiad da iawn. Dydd Mercher y 13eg o Orffennaf mi roedd y darlledwr Hywel Gwynfryn yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed. Mi ddaeth o mewn i'r stiwdio at Shan Cothi i ateb cwestiynau am ei barti penblwydd delfrydol . Un o westeion y parti yn sicr basai'r diweddar Hywel Teifi Edwards... Delfrydol Ideal Y diweddar The late Areithiwr Orator O'r frest Off the cuff Di-nodyn Without notes Cŷn a morthwyl Hammer and chisel Cynhwysfawr Comprehensive Cynhesu To warm Cynghrair League Diwrnod Dathlu Dai Tad Huw Edwards y BBC oedd Hywel Teifi Edwards a phen-blwydd hapus iawn i'n Hywel ni ynde? Dydd Sul cyn y Sioe Frenhinol mi roedd Radio Cymru yn cael diwrnod i gofio a dathlu bywyd y diweddar Dai Jones oedd yn cyflwyno'r rhaglen Cefn Gwlad. Mi roedd Dai hefyd yn ganwr arbennig iawn fasai wedi medru gwneud gyrfa iddo'i hun ym myd yr opera. Dyma glip o'r archif lle roedd Beti George yn holi Dai ar gyfer Beti a'i Phobol yn 1989. Y Sioe Frenhinol The Royal Welsh Cefn Gwlad The countryside Hiraethu To long for Pridd Soil Brycheiniog Breconshire Llond dwrn A small amount Aredig Ploughing Dyled A debt Cyfryngau media Mwyniant Pleasure
Dros Ginio Beti a Raymond Mam a mab o Ddyffryn Nantlle yng Ngwynedd oedd gwesteion Dewi Llwyd bnawn Llun. Y cyn Aelod Seneddol Betty Williams a'i mab, y Rhingyll , neu Sarjant, Raymond Williams sy'n gweithio i Heddlu Gogledd Cymru. Cyn Aelod Seneddol - Former Member of Parliament Yn hen gyfarwydd - Very familiar Llwyddiant ysgubol - A roaring success Petrusgar - Hesitant Y naill a'r llall - One or the other Trychineb - Disaster Ffasiwn beth - Such a thing Am wn i - As far as I know Serth - Steep Brwdfrydig - Enthusiastic ABC Y Geiriadur Raymond Williams a'i fam Betty yn sôn am ran Raymond yn y gyfres Y Llinell Las. Taith drwy'r wyddor yng nghwmni Ifor ap Glyn ydy ABC y Geiriadur, i ddathlu canmlwyddiant Geiriadur y Brifysgol - geiriadur mwya Cymru. Mae'r geiriadur ar gael ar-lein erbyn hyn ,ac mae o am ddim! Mae'r awdures Manon Steffan Ross yn gwneud defnydd mawr o'r geiriadur ar-lein fel buodd hi'n sôn wrth Ifor… Canmlwyddiant - Centenary Penodol - Specific Gweddu - To suit Antur - Adventure Cyd-destun - Context Amaethyddol - Agricultural Mynediad i'r bydoedd - Access to the worlds Dylsa - Dylai Stiwdio Phyllis Kinney Yr awdures Manon Steffan Ross oedd honna'n sôn am sut mae hi'n defnyddio'r Geiriadur ar-lein wrth sgwennu ei cholofn yn Golwg. Dydd Llun y 4ydd o Orffennaf mi roedd Phyllis Kinney yn dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed, a buodd ei merch, Eluned Evans yn sôn wrth Nia Roberts am ddyddiau cynnar ei Mam yn America. Mae cerddoriaeth wastad wedi bod yn rhan enfawr o fywyd Phyllis ers ei dyddiau cynnar yn Pontiac, Michigan. Mi roedd Phyllis a'i gŵr Meredydd Evans, wrth gwrs, yn awdurdod ar ganu gwerin Cymraeg. Awdurdod ar ganu gwerin - An authority on folk music Graddau di-rif - Many degrees Meistr mewn cyfansoddi - Masters in Composing Sbarduno - To inspire Parchedig - Reverend Cyflwyniad - Introduction Ddaru hi - Wnaeth hi Gweinidog - Minister Trwy gyfrwng - Through the medium of Emynau - Hymns Gwneud Bywyd Yn Haws - Aids A phen-blwydd hapus iawn i Phyllis Kinney ynde, yn gant oed ac yn ôl ei merch mewn hwyliau da iawn. Ar Gwneud Bywyd yn Haws yr wythnos hon buodd Hanna Hopwood a'i gwesteion yn nodi pedwar deg mlynedd ers buodd farw'r Cymro Terrence Higgins – un o'r bobl cynta ym Mhrydain i farw o salwch yn gysylltiedig ag AIDS. Dyma i chi ran o sgwrs rhwng Hanna a Mark Lewis sydd yn Uwch Swyddog Polisi i Grŵp HIV ac AIDS Aelodau Seneddol San Steffan . Dyma'r ddau yn sôn am bodlediad newydd A Positive Life sydd ar gael ar BBC Sounds . Yn gysylltiedig ag - Associated with San Steffan - Westminster Holl bwysig a chanolog - All important and central Tyfu lan - Tyfu fyny Hoyw - Gay Cwato - Cuddio Bore Cothi Elinor Ychydig o hanes Terrence Higgins yn fan'na ar Gwneud Bywyd yn Haws. Elinor Staniforth o Gaerdydd fuodd yn siarad efo Heledd Cynwal ar Bore Cothi. Dechreuodd Elinor ddysgu Cymraeg yn 2019 ac mae hi wedi derbyn swydd fel Tiwtor Cymraeg efo Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin ym Mhrifysgol Bangor. Dyma hi'n esbonio pam dechreuodd hi ddysgu'r iaith… TGAU - GCSE Rhydychen - Oxford Tanio - To fire Pam lai - Why not Cymdeithasu - To socialise Yn llythrennol - Literally Bore Cothi Llangollen A phob lwc i Elinor ynde, yn ei swydd newydd efo Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin Prifysgol Bangor. Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn ôl ar ôl y cyfnod clo. Mi fydd y dre yn llawn lliw efo cantorion a dawnswyr o bob rhan o'r byd yn cystadlu yn y pafiliwn. Mae'r gyflwynwraig Sian Thomas wedi bod yn arwain y llwyfan cystadlu ers rhai blynyddoedd. Beth sy'n arbennig am yr Eisteddfod hon felly? Cantorion - Singers Rhyngwladol - International Cyflwynwraig - Female presenter Melin ddŵr - Water mil Prydferth - Pretty Ar gyrion - On the outskirts Tyle - Hill Cwympo mas - To fall out Cytûn - In harmony Atseinio - To echo Dyletswyddau - Duties
Dei Tomos Gwilym Owen Dw i'n siwr ein bod ni i gyd yn gwybod am Harri'r Wythfed a'i chwe gwraig, ond ar raglen Dei Tomos clywon ni hanes bonheddwr o ogledd Cymru, Edward Gruffydd, oedd fel Harri wedi priodi sawl gwaith, a hynny pan oedd Harri'n frenin. Un o Stad y Penrhyn ger Bangor oedd Edward a dyma i chi ran o sgwrs cafodd Dei amdano efo'r darlithydd Gwilym Owen o Brifysgol Bangor... Bonheddwr - Genlteman Mewn gwirionedd - In reality Fawr hŷn - Hardly any older Pwys mawr - Great pressure Cyfoethocach - Richer Cefnog - Well-off Dylanwadu - To influence Tystiolaeth - Evidence Dychwelyd - To return I'r neilltu - To one side Dros Ginio Elfyn ac Alun Doedd na ddim sôn bod Edward wedi cael yr un problemau cyfreithiol a gafodd Harri o ran priodi sawl gwaith – ond hanes ddiddorol ynde? Dau frawd o fyd y gyfraith oedd gwesteion Dewi Llwyd ar Dros Ginio, y bargyfreithiwr a'r gwleidydd Elfyn Llwyd a'i frawd y plismon Alun Hughes. Roedd eu tad yn blismon, felly roedd y gyfraith yng ngwaed y ddau! Elfyn, y brawd mawr, sy'n siarad gynta ... Cyfreithiol - Legal Bargyfreithiwr - Barrister Ddaru - Wnaeth Ganwyd - Was born Sicrhau - To ensure Beti a'i Phobol Hanes Elfyn Llwyd yn enwi ei frawd yn fan'na, ar raglen Dewi Llwyd Yr artist Meirion Jones oedd gwestai Beti George ac yma mae'n sôn am dafodiaith Mwldan - ardal wledig ger Aberteifi. Mi wnaeth Meirion ymchwil MA ym Mhrifysgol Llambed, neu Llanbedr Pont Steffan, ar y dafodiaith. Oedd o'n gyfarwydd ag ardal a thafodiaith Mwldan cyn gwneud yr ymchwil? Dyma fo'n ateb cwestiwn Beti... Tafodiaith - Dialect Cyfarwydd â - Familiar with Crwt - Bachgen Mynychu - To attend Crynhoi - To assemble Ysgolhaig - Scholar Cofnodi - To record Danto - To lose heart Ofergoeliaeth - Superstition Talwrn – Pennill Mawl Y CWPS A'R FFOADURIAID Golwg ar dafodiaith arbennig ardal Mwldan yn fan'na ar Beti a'i Phobol. Cystadleuaeth rhwng timau o feirdd ydy'r Talwrn Radio Cymru. Dyma i chi un gerdd o gystadleuaeth yr wythnos diwetha rhwng tîm y ‘Cwps', Aberystwyth a thîm y ‘Ffoaduriaid' - er dw i ddim yn meddwl eu bod yn ffoaduriaid go iawn rhywsut! Sylwebwyr chwaraeon oedd testun y gerdd... Cerdd - Poem Ffoaduriaid - Refugees Sylwebwyr chwaraeon - Sport commentators Testun - Subject Chwiban - Whistle Cyffur - Drug Dall - Blind Gweiddi'n groch - Shouting loudly Harten - Heart attack Môr o ddagrau llaith - A sea of moist tears Bore Cothi Y Gwcw Wel am gerdd hyfryd ynde? Dach chi wedi clywed y gog, neu'r gwcw eleni? Wel, os nad ydych chi, fydd na ddim llawer o gyfle i'w chlywed eto gan fod y gwcw am ddechrau ar ei thaith yn ôl i Affrica cyn bo hir, fel buodd Daniel Jenkins-Jones o'r RSPB yn sôn wrth Shan Cothi Marchogaeth - Horse riding Yn fy unfan - Still Arwydd - A sign Ar fin - About to Goroesi - To survive Creaduriaid - Creatures Eos - Nightingale Gwenoliaid - Swallow Diwylliant - Culture Clychau'r Gog - Bluebells Bore Cothi Dawnsio ...ac arhoswn ni efo Bore Coffi am y clip nesa – ond i fyd y bale awn ni y tro ‘ma. Mae Luke Bafico (pron. Bahfeeko) o Gaerdydd yn ddawnsiwr proffesiynol ac mae o wrthi'n ymarfer ar gyfer fersiwn modern o'r bale The Nutcracker fydd yn teithio Cymru yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Dyma Luke yn esbonio wrth Shan Cothi sut dechreuodd o ym myd y ddawns Nes ymlaen - Later on Tyfu lan - Tyfu fyny
Beti a Dr Sara Louise Wheeler Mae'r Dr Sara Louise Wheeler yn dod o ardal Wrecsam yn wreiddiol, ac mae hi'n falch iawn ei bod hi'n siarad efo acen arbennig pentref Rhosllannerchrugog. Ond fel cawn ni glywed yn y clip nesa doedd pawb ddim yn hoff o'r acen honno... Magwraeth - Upbringing Tafodiaith - Dialect Herio - To challenge Os dach chi isio gwybod rhagor am hanes diddorol Sara mi fedrwch chi wrando ar y sgwrs yn llawn ar bodlediad Beti a'i Phobol. Aled Hughes a Grant Peisley Mae Grant Peisley yn chwarae criced i dîm dros 50 oed Cymru er ei fod yn dod o Awstralia'n wreiddiol. Mae o'n byw yng Nghymru ers dros ugain mlynedd erbyn hyn, ac wedi dysgu Cymraeg. Mae criced yn ofnadwy o bwysig i bobl Awstralia - felly sut deimlad ydy chwarae dros Gymru i Grant tybed? Dyma fo'n sgwrsio efo Aled Hughes... Rhyngwladol - International Cwpan y Byd - World Cup Ers yn ddim o beth - Since being a small child Braf clywed Grant yn disgrifio ei hun fel Cymro Newydd yn tydy, a dwi'n siwr bydd o'n falch iawn o fod yn rhan o dîm Cymru yn erbyn Awstralia. Erin Bryfdir Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 10 oed eleni ac mae'r coleg wedi medru helpu llawer o bobl i ddilyn cyrsiau yn y prifysgolion ac mewn addysg bellach drwy gyfrwng y Gymraeg. Un o'r rheini ydy Erin Bryfdir sydd yn Sister yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor, a dyma hi'n sôn am sut wnaeth cyflwyniad gan y coleg, pan oedd hi yn yr ysgol uwchradd, newid ei bywyd. Drwy gyfrwng - Through the medium of Cyflwyniad - Presentation Disgybl - Pupil Megis dechrau - Just starting Ysbrydoli - To inspire Gradd - Degree Ysgoloriaeth Cymhelliant - Incentive scholarships Llysgennad - Ambassador Mantais - Advantage Darlithoedd - Lectures Erin Bryfdir oedd honna , un o'r miloedd sydd wedi manteisio ar y cyfle i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Rob Malcolm Jones cocktails. Faint ohonoch chi sy'n mwynhau coctêls? Mae na gymaint o wahanol rai yn does? Mae Rob Malcolm Jones yn byw yn Efrog Newydd ac yn nabod ei goctêls yn dda. Shan Cothi gaeth sgwrs efo fo fore Mawrth Efrog Newydd - New York Ffurfiol - Formal O ddifri - Seriously Bodoli - To exist Poblogaidd - Popular Cynrychioli - To represent Egniol - Energetic Wel dyna ni - y Dirty Martini amdani! GBYH - Eilir Owen Griffiths Mae iechyd meddwl wedi dod mwy i'r amlwg ers y cyfnod clo, ac roedd hi'n wythnos iechyd meddwl wythnos diwetha. Cafodd Hanna Hopwood gwmni yr arweinydd côr a'r cerddor Eilir Owen Griffiths fuodd yn siarad am y tro cyntaf yn gyhoeddus am ei siwrne iechyd meddwl bersonol. Arweinydd côr - Choir conductor Cerddor - Musician Yn gyhoeddus - Publicly Y lle tywylla(f) - The darkest place Eithafoedd - Extremes Creadigol - Creative Yr wythnos ganlynol - The following week Cyfansoddi - Composing Yr arweinydd côr a'r cerddor Eilir Owen Griffiths yn siarad yn bersonol iawn am ei sefyllfa yn ystod y cyfnod clo. Bore Cothi - Hot Cakes Mae na gyfres newydd ar BBC3 - Hot Cakes- ac mae dau o Gaerdydd, Gareth a'i bartner Ryan o gwmni Let them See Cake yn serennu yn y gyfres. Cafodd Shan Cothi sgwrs efo'r ddau a chanfod bod Ryan wedi dysgu Cymraeg dros y cyfnod clo ac mai dyma oedd ei gyfweliad cynta yn Gymraeg.. Cyfres - Series Canfod - To discover Cyfweliad - Interview Joio mas draw - Really enjoing
Bore Cothi Anne Henrot Un o Wlad Belg ydy Anne Henrot ac mi ddechreuodd ddysgu Cymraeg ym 1984 ar ôl bod ar wyliau i Gymru. Mi wnaeth hi deithio ar hyd a lled Cymru pan oedd hi yma - o Gaerdydd i Fangor. Mae hi wedi ymweld â Chasgwent sawl gwaith ac mae wrth ei bodd gyda'r ardal. Dyma Anne yn dweud wrth Shan Cothi sut a pham dechreuodd hi ddysgu Cymraeg. Gwlad Belg - Belgium Yn rhyfeddol - Wonderous Ail-ddechreuais i - I re-commenced Anne Henrot, fuodd yn Nant Gwrtheyrn am bythefnos yn unig, a heblaw am hynny wedi dysgu Cymraeg yn ei chartref yng Ngwlad Belg. Gwych ynde? Aled Hughes ac Ezzati Ariffin Mae E'zzati yn dod o Brunei yn wreiddiol, ond mae hi'n disgrifio ei hun fel "merch Bruneian yng Nghymru" erbyn hyn. Buodd hi'n egluro wrth Aled Hughes mwy am yr ŵyl Hari Raya Aidilffitri sydd yn dathlu diwedd cyfnod ymprydio Ramadan. Gŵyl - Festival Ymprydio - Fasting Am wn i - As far as I know Canolbwyntio - To concentrate Dihuno - Deffro Bennu - Gorffen Dathliad - A celebration A phob hwyl i bawb fydd yn dathlu Hari Raya Aidilffitri, neu Eid al-Ffitr iid ffitr, ynde? Gwneud Bywyd yn Haws - Carys Mai Hughes Mae Carys Mai Hughes yn gweithio o'i champerfan yn hytrach nag o adre er mwyn teithio Ewrop a gwneud y gorau o bob eiliad o'i hamser hamdden. Dyma hi ar Gwneud Bywyd yn Haws yn sgwrsio o lan Llyn Léman... Darlledu - To broadcast Ar bwys - Wrth ymyl Rhyngwladol - International Diflasu - To become weary of Gwenu - Smiling Sa i'n mynd - Dw i ddim yn mynd Dyna'r bywyd ynde - mae gweithio o'r camperfan yn gwneud bywyd yn dipyn haws i Carys Mai Hughes dw i'n siŵr o hynny. Papur Ddoe Mae Elin Tomos yn dilyn hanesion o hen bapurau newydd yn y gyfres Papur Ddoe. Mae hi'n dod ar draws sawl stori ddifyr fel hanes llofruddiaeth Dafydd Lewis cafodd ei saethu yn ei ben gyda phistol llaw yn 1844. Dyma'r hanesydd Erin White i roi ychydig o'r hanes. Llofruddiaeth - Murder Yn dwyn yr enw - Named Tyddyn - Smallholding Cynnyrch - Produce Y Chwyldro Diwydiannol - The Industrial Revolution Swm sylweddol - A considerable amount Tollborth - Toll gate Ymosodiad gan ladron - An attack by thieves Tystion - Witnesses Daethpwyd o hyd - Was found Cwato - Cuddio Hanes llofruddiaeth Dafydd Lewis yn fan'na ar Papur Ddoe. Ifan Evans a Nigel Owens Un o'r pethau unigryw ym myd rygbi Cymru ydy timau cymunedol o bob oedran yn cael chwarae rowndiau terfynol eu cystadlaethau yn y stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd. Er bod Nigel Owens wedi ymddeol fel dyfarnwr rygbi, buodd o yn y Stadiwm yn helpu efo'r gemau. Cafodd Ifan Evans sgwrs efo fo am y digwyddiad... Dyfarnwr - Referee Rowndiau terfynol - Finals Gêm y gymuned - The community game Rowndiau terfynol - Finals Cyfleoedd - Opportunities Yr Undeb - The Union (WRU) Unigryw - Unique Profiad - Experience Wastad - Always Braf gweld Nigel yn helpu'r gêm gymunedol yn tydy? Stiwdio Cefyn Burgess Mae'r artist Cefyn Burgess yn cofio arian yn cael ei gasglu yn yr ysgol Sul ers talwm ar gyfer cenhadaeth yr Eglwys Bresbyteraidd yn Casia India. Cyn y cyfnod clo aeth o draw i Casia er mwyn cael dysgu mwy am bobl y rhan yna o'r byd, ac mae o wedi creu arddangosfa artistig o'i brofiadau yno. Aeth Elinor Gwynn draw i Storiel, Bangor i weld yr arddangosfa a chael gair efo Cefyn am y gwaith. Os dach chi yn yr ardal o gwbl mae'r arddangosfa ymlaen tan yr 2il o Orffennaf 2022. Arddangosfa - Exhibition Casgliad - Collection Bylchau cenhadol - Missionary collection boxes Yn gyfarwydd - Familiar Dychymyg - Imagination Yn fy oed ac amser - At this stage in my life Ehangach - Wider Talaith - State
Post Prynhawn - Beryl y Nyrs Ar Post Prynhawn dydd Llun mi gafodd Nia Cerys sgwrs efo Beryl Roberts, nyrs arbennig sy newydd ymddeol yn 55 oed. Cychwynnodd ei gyrfa yn ysbyty Clatterbridge ac mae hi wedi gweithio gyda chleifion Canser ers hynny yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac yn Wrecsam. Dyma i chi flas ar y sgwrs ... Cleifion - Patients Triniaethau - Treatments Y gweddill - The rest Datblygu - To develop Pennaeth - Head Sgileffeithiau - Side-effects A phob lwc i Beryl ar ei hymddeoliad ynde? Beti a Beks Beks - Rebekah James oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Roedd Beks yn arfer cyflwyno rhaglenni ar Radio Cymru ond erbyn hyn mae hi'n byw yn Hong Kong. Dyma i chi ran o'r sgwrs efo Beti ble mae Becks yn esbonio pam gwnaeth hi werthu ei thŷ, a'i char a rhoi'r gorau i'w gyrfa efo'r BBC ugain mlynedd yn ôl.... Cyflwyno - To present Rhoi'r gorau i - To give up Cwympo - Syrthio Anhygoel - Incredible Delfrydol - Ideal Yn llythrennol - Literally Enfawr - Huge Ysgariad - Divorce Go gyhoeddus - In the public eye ...ac mae Beks yn dathlu ei phenblwydd yn 50 eleni a dw i'n siŵr bydd yna dipyn o ddathlu draw yn Hong Kong. Aled Hughes - Edina a Lin Y Gymraeg sydd yn cysylltu Edina Potts-Clement o Hwngary a Lin Dodd o Tsieina ac mae'r ddwy erbyn hyn yn gweithio yn yr un ysgol - Ysgol Gymraeg Caerffili. Gofynnodd Aled Hughes i'r ddwy ohonyn nhw ar ei raglen bore Mawrth pam wnaethon nhw ddysgu Cymraeg Addysg Cyfrwng Cymraeg - Welsh medium education Cymraeg yw iaith y dyfodol - clywch clywch Lin. Bore Cothi - Rich Pooley Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes fore Iau a buodd hi'n sgwrsio efo Richard Pooley sy'n byw yn Shotton yn Sir y Fflint, ond sy'n dod o Gaerdydd yn wreiddiol ac sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 8 mlynedd. Mae Richard wedi dechrau Clwb Siarad Shotton i roi cyfle i ddysgwyr ac i siaradwyr y Gymraeg yr ardal ddefnyddio'r iaith Ymdrech - Attempt Cylchdaith - Circuit Addas - Appropriate Profiadau - Experiences Cefnogol - Supportive Syniadau gwych yn fan'na gan Richard Pooley am sut i roi cyfleoedd i bobl ardal Shotton ddefnyddio eu Cymraeg. Ar Blat - Owain Wyn Evans Buodd Beca Lyne-Pirkis yn siarad efo Owain Wyn Evans, y cyflwynydd tywydd, ac os dach chi'n cofio llwyddodd Owain i chwarae'r drymiau am 24 awr er mwyn codi arian i Plant Mewn Angen y llynedd. Dyma Owain yn sôn am sut oedd drymio wedi bod o help iddo fo mewn cyfnodau anodd pan oedd o'n ifanc... Cyfnodau - Periods of time Hoyw - Gay Ffonau symudol - Mobile phones Estron - Foreign Owain Wyn Evans y cyflwynydd tywydd oedd hwnna'n sgwrsio efo Beca Lyne-Pirkis. Byd Iolo Aeth Iolo Williams ar daith i Allerdale yng ngogledd yr Alban - rhyw awr a hanner i'r gogledd o Inverness ac mi aeth o â ni, gwrandawyr Radio Cymru, ar y daith efo fo..... Gwarchodfa - Nature reserve Erwau - Acres Hir dymor - Long term Ail-wylltio - Rewilding Ysgubor - Barn Baw - Excrement Ucheldir - Highlands Tylluan - Owl Nythu - To nest Hela - To hunt
Ymunwch â Rhodri, Charlo ac Elinor wrth iddynt edrych ymlaen at benwythnos olaf y Chwe Gwlad! Rhodri Gomer, Gareth Charles and Elinor Snowsill look ahead at the final weekend in the Guinness Six Nations as Wales welcome Italy to Cardiff.
Ar ôl crasfa yn Nulyn, mae'r Cymry yn barod i groesawu'r Albanwyr i Gaerdydd. Rhodri Gomer, Ifan Phillips a Gareth Charles sydd yn edrych ymlaen at y gêm fawr yn Stadiwm y Principality.
01. GBYH - Leisa Mererid Pam dylen ni ddysgu ioga i'n plant, a sut basai gwneud hyn yn eu helpu? Dyma rai o gwestiynau Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws i'r awdures llyfrau ioga i blant, Leisa Mererid . Dyma flas i chi ar y sgwrs ... Yn gynyddol Increasingly Dyrys Complex Ymwybyddiaeth o'n cyrff Awreness of our bodies Delwedd corff Body image Heriau bywyd Life challenges Angor Anchor Gorbryder Anxiety Isymwybod Subconscious Myfyrio To meditate Synhwyrau Senses Gorlethu To overwhelm 02. Aled Hughes - Dr Sara Wheeler Leisa Mererid yn cael ei holi gan Hanna Hopwood. Hefyd ar y rhaglen roedd Nia Parry ac Anwen Gruffydd Wyn yn sôn am sut aeth y ddwy ffrind ati i sgwennu ‘Llyfr Bach Lles', ac yn ogystal mae Laura Karadog yn sôn am ymarfer ioga. I glywed y sgyrsiau yma ewch draw at BBC Sounds a chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws. Ar raglen Aled Hughes fore Mawrth, clywon ni sgwrs am Gastell Dinas ger Llangollen gyda'r Dr Sara Wheeler, a dechreuodd Aled a Sara sgwrsio drwy ddyflau o le daeth yr enw ar y castell... Brân Crow Gerllaw Nearby Deillio To derive Cymeriadau o chwedloniaeth Mythical characters Tueddu i fod Tends to be Yn answyddogol Unofficially Dyffryn Valley Gorffwys To rest 03. Stiwdio - Twm Morys Sgwrs am enw Dinas Brân yn fanna rhwng Aled Hughes a'r Dr Sara Wheeler. Mae hi bron yn flwyddyn ers marwolaeth yr awdur Jan Morris ac ar Stiwdio nos Lun, cafodd Nia Roberts sgwrs efo'i mab, y bardd a‘r cerddor Twm Morus. Dyma Twm yn sôn wrth Nia am ei fagwraeth gyda Jan... Magwraeth Upbringing Tomennydd Heaps Annog To encourage Coblyn o hwyl Great fun Grym geiriau The power of words I raddau To an extent Atalnodi Punctuation Llafar Spoken Golygyddion Editors Proflenni Proofs Mympwy A whim 04. Sioeau Cerdd Steffan - Lili Mohammad Twm Morys yn fan'na yn yn sôn am Jan Morris ac am ei fagwraeth gyda hi ar “Stiwdio gyda Nia Roberts” nos Lun diwethaf. I glywed rhagor o'r sgwrs ewch i BBC Sounds. Gwesteion Steffan Rhys Hughes ar ‘Sioeau Cerdd Steffan' yr wythnos diwetha oedd merch ysgol o Gaerdydd, Lili Beth Mohammad, a dyma hi'n esbonio wrth Steffan o ble daeth ei diddordeb hi mewn sioeau cerdd... Cyfryngau Media Cantores amryddawn A versatile singer(female) Arddulliau Styles Yn benodol Specifically Atgofion Memories 05. Dros Ginio - Angharad Lee Y ferch ysgol o Gaerdydd, Lili Beth Mohammad, oedd honna yn sgwrsio gyda Steffan Rhys Hughes am sioeau cerdd. Mae gan y Gymraeg fel pob iaith arall ei thafodieithoedd. Y Wenhwyseg ydy tafodiaith de-ddwyrain Cymru ond does dim llawer o bobl yn ei siarad erbyn hyn. Dyma ddau o'r de-ddwyrain, Vaughan Roderick ac Angharad Lee yn trafod pam mae hynny wedi digwydd... Tafodieithoedd Dialects Adennill To reclaim Corfforol Physical Galaru To mourn Bodoli To exist Yn gyfarwydd Familiar Plethu To weave in and around Yn weddol glou Quite quickly 06. Pigion - Geraint Lloyd gyda Elis a Sion Vaughan Roderick ac Angharad Lee yn trafod y Wenhwyseg ar Dros Ginio. Dros y penwythnos buodd Geraint Lloyd yn mwynhau Eisteddfod y Ffermwyr Ifainc ym Mhontrhydfendigaid yng Ngheredigion. Cafodd sgwrs gyda sawl un fuodd yn cymryd rhan, a dyma i chi sgwrs cafodd e gydag enillwyr y ddeuawd dan wyth ar hugain oed, Elis Jones a Sion Eilir o Glwyd. Deuawd Duet Pysgotwyr Perl Pearl Fishers Awydd Eagerness Beirniad Adjudicator Heriol Challenging Rhwydd Hawdd Aruthrol o dda Exceptionally good Safon Standard Clod Praise Arwerthwr Auctioneer
Liz Day yw'r gwestai y tro yma. Mae Liz yn dod o Swydd Amwythig, Lloegr. Symudodd hi i Gaerdydd, ble mae hi wedi gweithio fel newyddiadurwr i Wales Online. Erbyn hyn, mae hi'n gwneud nifer o bethau diddorol - sy'n cynnwys sgiliau syrcas, a gwneud blog a phodlediad ei hun, Liz Learns Welsh. Mae mwy o wybodaeth a lluniau ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter
1. Gwneud Bywyd yn Haws – Clip Cytiau Elliw Gwawr ac Angharad Haf Wyn Mae BBC Radio Cymru yn rhoi sylw i'r argyfwng newid hinsawdd yn ystod tymor yr Hydref gyda rhaglenni arbennig o'r enw ‘Ein Planed Nawr'. Un o'r rhaglenni hynny ydy ‘Gwneud Bywyd yn Haws' ac yn rhaglen wythnos diwetha clywon ni bod defnyddio clytiau, neu cewynnau, aml-ddefnydd yn llawer iawn gwell i'r amgylchedd na defnyddio'r rhai sy'n cael eu taflu ar ôl eu defnyddio unwaith yn unig. Dyma glip o Hanna Hopwood yn sgwrsio gyda dwy fam sy'n defnyddio'r clytiau aml-ddefnydd, Angharad Haf Wyn ac Elliw Gwawr… Argyfwng newid hinsawdd Climate change crisis Clytiau/cewynnau Nappies Aml-ddefnydd Multiple use Amgylchedd Environment Ymchwil Research Buddsoddi To invest Arbrofi To experiment Ymrwymo To commit ‘Ta beth Beth bynnag Cyflwr Condition Tueddu i hyrwyddo Tends to promote 2. Ifan Evans – Gwobr i Edna Jones Dyna i chi flas ar raglen ‘Gwneud Bywyd yn Haws' gyda Hanna Hopwood sydd ar Radio Cymru bob nos Fawrth am 6pm. Ac os dych chi eisiau clywed mwy o'r sgwrs yma ewch draw i wefan bbc sounds, neu am ragor o raglenni sy'n sôn am yr amgylchedd ewch at y wefan bbc.co.uk/einplanednawr Unwaith eto mae rhaglen Ifan Evans yn dweud ‘Diolch o Galon' i rywun arbennig sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn eu hardal, neu glwb, neu mewn cymdeithas arbennig. Wythnos diwetha aeth Ifan i Ynys Môn, i roi tlws Diolch o Galon i Edna Jones, Trefnydd CFFI yr Ynys Tlws Trophy Syfrdanu Astounded Gweithgar Hardworking Ces i fy nychryn I was shocked Enwebiad Nomination Talcen caled A hard grafft Cyn-aelodau Former members Mewn chwinciad In a jiffy Becso Poeni 3. Newid Hinsawdd Taid a Fi – Micro Plastic ...ac os dych chi'n nabod rhywun dach chi'n meddwl dylai ennill tlws ‘Diolch o Galon', cofiwch gallwch chi anfon enwebiad at Ifan drwy e-bost ar ifan@bbc.co.uk Yn y rhaglen ‘Newid Hinsawdd :Taid a Fi' mae Leisa Gwenllian yn mynd ar daith i gyfarfod rhai o'r bobol ar ei stepen drws sydd yn gwneud gwaith difyr ac phwysig i wella'r amgylchedd, yng nghwmni ei thaid, neu dad-cu, y naturiaethwr Duncan Brown. Yn y clip yma, mae Leisa yn cael sgwrs am feicroblastig gyda Nia Jones a'r Dr Dei Huws o Brifysgol Bangor. Hudolus Magical Mor brydferth So beautiful Uwch Ddarlithydd Senior lecturer Gwyddorau Môr Marine Science Gwasgariad Dispersal Llygredd Pollution Amsugno To absorb Tanwydd Fuel Ynni Energy Lleihau To reduce 4. Rhys Mwyn – Fflur Dafydd Pwy fasai'n meddwl bod meicroblastig mor gyffredin on'd ife? Mae e yn ein siwmperi hyd yn oed! Roedd yr awdures Fflur Dafydd gyda Rhys Mwyn wythnos diwetha a buon nhw'n rhannu ei dewisiadau o draciau ffync. Yn ystod y sgwrs soniodd Fflur sut gwnaeth hi ddewis caneuon ar gyfer y gyfres deledu ‘Amgueddfa' oedd ar S4C eleni, er mwyn cael rhoi rhagor o haenau i'r cymeriadau… Cyffredin Wide-spread Haenau Layers Cymeriadau Characters Golygfeydd Scenes Drych Mirror Dylanwadau Influences 5. Geraint Lloyd – Randall Bevan ..a'r newyddion da ydy bod cyfres arall o Amgueddfa ar y ffordd, ac mae Fflur wrthi'n sgwennu'r sgript ar hyn o bryd. Randall Bevan o Ipswich sydd yn gyn-drampolinydd, ac yn 88 oed oedd yn cadw cwmni i Geraint LLoyd nos Fercher, a soniodd Randall ei fod wedi derbyn neges arbennig gan ffrind enwog iawn – pwy oedd e tybed? Halais i Anfones i Gynnau fach A moment ago Tylwyth Teulu Ŵyr a ŵyres Grandson and grandaughter 6. Clip Dros Ginio Randall a Buzz – wedi dyna stori dda on'd ife? Wythnos diwetha, cyhoeddodd Wales Online restr o 15 o Gymry du dylen ni roi sylw iddyn nhw. Roedd Sian Jones, y steilydd gwallt 22 oed o Gaerdydd, yn un o'r pymtheg yma. Cafodd hi sgwrs gyda Catrin Haf Jones ar raglen Dros Ginio, a dyma hi'n sôn am ei harbenigedd hi mewn gwalltiau unigolion duon… Unigolion duon Black individuals Cyhoeddi To publish Arbenigedd Expertise Penodol Specific Yn cynnwys Including Mor brin So scarce Gradd Degree Fy synnu i Surprises me Hyfforddi Training
Y gwestai y tro yma ydy David Thomas. Ennillodd David wobr Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn eleni, yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn wreiddiol o Gaerdydd, roedd e'n byw yn Lloegr am flynyddoedd, ond mae e wedi symud yn nôl i Gymru gyda'i ŵr. Mae e'n rhedeg y cwmni Jin Talog ac mae e'n awyddus iawn i ddefnyddio Cymraeg yn y gymuned. Ewch i fy ngwefan i weld lluniau a geirfa'r pennod yma. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … COFIO Plentyndod oedd thema Cofio yr wythnos diwetha a chlywon ni am blentyndod Isora Hughes, plentyndod gwahanol iawn gan ei bod wedi cael ei magu gan ei nani. Roedd mam Isora, Leila Megane, yn gantores enwog ac yn teithio'r byd yn perfformio, ond roedd ganddi ffordd arbennig iawn o adael Isora wybod ei bod yn meddwl amdani hi. T Glynne Davies oedd yn ei holi... Gwâdd To invite Yn ddigalon Trist Anadlu To breathe Peswch A cough Wyddoch chi You know BORE COTHI Cantores arall sy'n gorfod teithio'r byd yw Rhian Lois a buodd hi'n sgwrsio am synhwyrau gyda Shan Cothi. Dyma hi'n trafod beth yw ei hoff arogl yn y byd, sef arogl Elsi. Ond pwy neu beth yw Elsi? Synhwyrau Senses Arogl A smell Bant I ffwrdd Llanw fy nghalon i Fills my heart Croten Merch fach Mam-gu Nain GWNEUD BYWYD YN HAWS Y gantores Rhian Lois oedd honna yn sôn am ei merch fach Elsi. Mae tymor yr Hydref yn dod a sialensau iechyd gydag e, a'r system imiwnedd oedd yn cael sylw Hanna Hopwood yr wythnos hon ar Gwneud Bywyd yn Haws. Buodd Hanna'n siarad gyda Ellie Armstrong o'r cwmni Chuckling Goat i gael gwybod mwy am sut mae'r diod Kefir yn gallu helpu gyda imiwnedd. Ymateb Response Hynod o lwyddiannus Extremely successful Llaeth gafr Goat's milk Llys-fam Stepmother Tawlu Taflu Cyflyrau croen Skin conditions Eitha tost Quite ill ALED HUGHES Kefir yn amlwg wedi gwneud bywyd yn haws i deulu Ellie Armstrong. Mae Morwenna Tang, yn dod o Shanghai yn China yn wreiddiol. Enw Cymraeg YuQi ydy Morwenna, a daeth hi i Gymru ddwy flynedd yn ôl gyda'i gŵr, Scott Griffiths, sy'n dod yn wreiddiol o Gaerdydd. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg trwy Duolingo ac ers dechrau'r cyfnod clo, ar gwrs gyda Dysgu Cymraeg Gwent. Beth wnaeth iddi hi benderfynu dysgu Cymraeg tybed? Adnoddau Resources Bodolaeth Existence IFAN EVANS Cymraeg gwych gan Morwenna yn fan'na ar ôl dim ond dwy flynedd yn dysgu'r iaith. Wythnos yma, cafodd Ifan Evans sgwrs gyda Marc Skone, oedd yn arfer perfformio gyda'r ‘boy band ‘ Cymraeg Mega. Mae e yn ôl yn perfformio nawr yn rhan o'r grŵp newydd Halo Cariad, a gofynodd Ifan iddo fe beth oedd e wedi bod yn ei wneud ers iddo fe adael Mega? Hyn a llall This and that Dim mor ffôl a hynny Not that bad Profiadau Experiences Cyfoethogi To enrich Gwerth chweil Worthwhile Cynhyrchydd Producer Stŵr A row BETI A'I PHOBL Marc Skone oedd hwnna'n sôn am ei fand newydd Halo Cariad. Mae'r ffilm Dream Horse wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae'r ffilm yn seiliedig ar stori wir am griw o bobl o gymoedd de Cymru wnaeth fuddsoddi mewn ceffyl o'r enw Dream Alliance aeth ymlaen i rasio yn Grand National Cymru. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Beti George gyda chyfarwyddwr y ffilm Euros Lyn... Buddsoddi To invest Cyfarwyddwr Director Adolygu To review Crynhoi To summarise Cynulleidfa Audience Adloniant Entertainment Cynhesrwydd Warmth Llafar Vocal Rhyngwladol International
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … COFIO Mae llawer mwy o bobl yn dewis cael gwyliau yng Nghymru eleni a gwyliau oedd them ‘Cofio' wythnos diwetha. Yn y clip nesa mae T Glynne Davies yn holi Mrs Hannah Jones fuodd yn cadw gwesty yn y Rhyl am dros bedwar deg o flynyddoedd... Rhyfel - War Dogni - Rations Gwerthfawrogi - To appreciate Enwogion - Celebraties Digri - Funny Tynnu wynebau - Pulling faces Maldodi - To pamper POD DYSGWYR Dipyn o hanes Morecambe and Wise a Tony the Wonder Horse yn aros yn y Rhyl yn fan'na ar Cofio. Mae Nick Yeo, dyn ifanc o Gaerdydd wedi dechrau podlediad o'r enw Sgwrsio ar gyfer y rhai sy'n dysgu – ac sy'n rhugl yn y Gymraeg. Hannah Hopwood, oedd yn cyflwyno Bore Cothi, a hi gafodd “sgwrs” gyda Nick… Creu - To create Bodoli - To exist Anffurfiol - Informal Rhithiol - Virtual AmGen - Alternative Profad arbennig - A special experience GARMON RHYS Ie, cofiwch droi mewn i‘r podlediad ‘Sgwrsio' pan gewch chi gyfle. Mae Garmon Rhys wedi cael rhan yn y sioe Tina – sioe gerdd am fywyd yr anhygoel Tina Turner. Dyma fe'n sôn am y profiad o gymryd rhan yn Tina gyda Caryl a Huw ar y Sioe Frecwast Sioe gerdd - Musical Llwyfannu - To stage Newid wedd - Transformation Ailagor - To reopen Anhygoel - Incredible Am wn i - I suppose Llwgu - To starve Ailymweld - To revisit Cyn hired - So long Celfyddydau - Arts GWNEUD BYWYD YN HAWS Mae hi'n swnio'n sioe gyffrous iawn on'd yw hi? Ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth buodd Hanna Hopwood yn holi Sian Files am ei phrofiadau fel aelod o'r 'sandwich generation'. Sut mae jyglo bod yn riant, cael gyrfa a gofalu am aelodau hŷn o'r teulu? Dyma Sian yn esbonio sut mae dechrau'r cyfrif Instragam Mamgu Mamgu wedi gwneud bywyd yn haws iddi hi… Cyfrif - Account Sawl rhaglen - Several programmes Gofalu am - To care for Sylweddolais i - I realised Bachu ar y cyfle - Grasped the chance Cofnodi - To record Talu sylw - To pay attention RICHARD HOLT Sian Files oedd honna'n sôn am ei chyfrif Instragram Mamgu Mamgu. Weloch chi'r gyfres Richard Holt a'i Felyn Felys ar S4C? Os weloch chi h, byddwch yn gwybod bod Richard yn gogydd patisserie gwych iawn. Nawr mae e wedi agor bwyty bwyd melys mewn melin wynt ar Ynys Môn ac fel clywodd Nia Griffiths mae ei fenter newydd yn un sy'n cael dipyn o sylw ar yr ynys… Cyfres - Series Melin wynt - Windmill Dw i'm be - I don't know what Cynhyrchu - To produce Erioed wedi gweld - Never seen Nod - Aim Blawd - Flour Gwenith - Wheat Malu - To grind MARED WILLIAMS A phob lwc i Rich Holt gyda'i fenter newydd on'd ife? Mae'r gantores Mared Williams wedi perfformio ar sawl llwyfan yng Nghymru dros y blynyddoedd ac wedi perfformio yn y West End fel un o gast Les Miserable. Clywodd hi'r wythnos diwetha bod ei halbwm Cymraeg cynta wedi ennill gwobr Albym Cymraeg y Flwyddyn eleni. Ifan Davies a Sian Eleri wnaeth longyfarch Mared a gofyn iddi sut oedd hi'n teimlo ar ôl clywed y newyddion. Dyma i chi sut wnaeth hi ymateb… Coelio - Credu Cyfrinach - Secret Rhannu - To share Rhestr fer - Shortlist Yn freintiedig - Privileged Haeddu - To deserve Golygu - To mean Beirniaid - Judges Aeddfedrwydd - Maturity Coroni - To crown
Y newyddiadurwraig a chyflwynwraig o Gaerdydd, Sara Gibson, sy'n sgwrsio â fi wythnos hon ar y podlediad. Pleser oedd cael ei hanes hi fel newyddiadurwraig gyda'r BBC, er erbyn hyn, mae hi wedi gadael y gorfforaeth ac wedi mentro i fyd y rhydd-gyfranwyr (Croeso Sara!).
Cyflwynydd Radio 1 a Radio Cymru Huw Stephens sydd ar y podlediad wythnos hon. Sgwrs ddiddorol a difyr gan y gwr o Gaerdydd ac ar ôl cyfarfod â Huw ar sin Maggi Noggi rhai blynyddoedd yn ôl, pleser odd cael sgwrsio am gerddoriaeth, y sin Gymraeg, Radio 1, cwis am Gaerdydd, dylanwadau a DJ'io (ie, fi'n gwybod
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … BETI A'I PHOBL Merch o Gaerdydd ydy Sara Yassine ond mae ei theulu hi’n dod o’r Aifft yn wreiddiol. Gofynnodd Beti i Sara beth mae Caerdydd yn ei olygu iddi hi Yr Aifft - Egypt Golygu - To mean Trwy gydol fy mywyd - All my life Hen dad-cu - Great-grandfather Rhyfel Byd Cyntaf - First World War Morwr - Seaman GWNEUD BYWYD YN HAWS Ychydig o hanes Sara Yassine yn fan’na ar Beti a’i Phobl Mae hi wedi bod yn flwyddyn rhyfedd on’d yw hi? Pwy fasai wedi medru darogan fel roedd rhaid i ni gyd newid ein ffordd o fyw oherwydd Covid? Sut flwyddyn bydd eleni tybed? Dyma i chi glip o Llio Angharad, awdures y blog bwyd a theithio “dine and disco”, yn ceisio darogan beth fydd y 'trends' bwyd ar gyfer gweddill y flwyddyn… Darogan - To predict Dilynwyr - Followers Dy hynt a dy helynt di - All about you Ail- greu - To re-create Datblygu - To develop Eitha poblogaidd - Quite popular Profiadau gwahanol - Different experiences PENBLWYDD DEWI LLWYD Wel , tybed fyddwn ni’n gweld holl ‘trends’ Llio Angharad yn ystod y flwyddyn? Cawn ni weld on’d ife? Mae rhaglen Tudur Owen ar Radio Cymru yn boblogaidd iawn ond mae Tudur hefyd yn hoff o wneud gwaith ‘stand-up’. Fe oedd gwestai penbwlydd Dewi Llwyd fore Sul a soniodd e wrth Dewi am ei deimladau am fynd yn ôl ar lwyfan i berfformio… Llwyfan - Stage Cynulleidfa fyw - Live audience Ymwybodol - Aware Camu ar - To step onto Ail-gychwyn - To start again Diweddaru fy neunydd - Update my material Am wn i - I suppose Padl fyrddio - Paddle boarding Mae’n llonyddu rhywun - It’s relaxing Cydbwysedd - Balance Cyhyrau - Muscles ALED HUGHES Tudur Owen yn edrych ymlaen mwy at badl fyrddio nag at fynd yn ôl i berfformio, ond dw i’n siŵr byddwn yn ei weld ar lwyfan eto cyn bo hir. Mae’r milfeddyg Malan Hughes wedi gweld llawer iawn o bethau rhyfedd wrth ei gwaith ac yn ddiweddar gwelodd hi rywbeth rhyfedd iawn – llo gyda thair llygad. Tynnodd hi lun o’r llo ac mae’r llun hwnnw wedi cael ei rannu ar draws y byd! Milfeddyg - Vet Gwlybaniaeth - Moisture Y creadur - The creature Aeiliau - Eyebrows Amrannau - Eye lash Pwy â ŵyr? - Who knows? Penglog - Skull Cromfachau - Brackets Caniatâd - Permission Y diweddara - The most recent DROS GINIO Hanes llo gyda thair llygad yn fan’na – diddorol on’d ife?l Mae’n 50 mlynedd ers rhyddhau albym Marvin Gaye – Whats Going On. Y cerddor Carwyn Ellis fuodd yn sôn wrth griw Dros Ginio am bwysigrwydd yr albym yn gerddorol, ac yn wleidyddol Rhyddhau - To release Cerddor - Musician Dylanwadol - Influencial Enfawr - Huge Cyd-destun - Context Cefndir - Background Hynod bwysig - Extremely important Perthnasol - Relevant Hiliaeth - Racism AR Y MARC Y cerddor Carwyn Ellis oedd hwnna’n sôn am albwm eiconig Marvin Gaye. Roedd Abertawe yn chwarae yn erbyn Barnsley ar y Liberty nos Sadwrn diwetha mewn gêm ail-gyfle’r Bencampwriaeth. Abertawe enillodd ac ond i’r tîm ennill un gêm arall bydd Abertawe yn cael dyrcharfiad i’r Uwchgynghrair. Mae OJ wedi ei fagu yn Sheffield, yn ffan mawr o Barnsley ac yn dal i fyw yn yr ardal, ond sut a pham dysgodd e Gymraeg? Dyma fe’n esbonio ar Ar y Marc… Gêm ail-gyfle - Play off Y Bencampwriaeth - The Championship Dyrchafiad - Promotion Uwchgynghrair - The Premier League Rheolwyr - Managers Uniongyrchiol - Direct Cyfleon - Opportunities
Prif Weithredwr Green Finance Institute yn Llundain, Dr Rhian-Mari Thomas yw'r cwmni. Yn wreiddiol o Gaerdydd, aeth hi ymlaen i astudio Ffiseg yng Nghaerfaddon a Dulyn cyn troi i'r byd arian, ac erbyn hyn yn arwain y Chwyldro Gwyrdd ar yr ochr ariannol.
Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n pori dros newyddion mawr yr wythnos ac yn cofio rhai o ganlyniadau gorau clybiau Cymru yn Ewrop 50 mlynedd ers i Gaerdydd guro Real Madrid.
Ar ôl cyffro a cheisiau'r rowndiau agoriadol, mae Cymru yn croesawu'r hen elyn i Gaerdydd lle byddai buddugoliaeth yn sicrhau'r Goron Driphlyg a cham arall tuag at y Gamp Lawn! Ymunwch â Rhodri, Elinor a Nigel wrth iddynt drafod gobeithion Cymru yn ogystal ag ymddeoliad Dan Carter a phenwythnos arall ym Mhencampwriaeth y PRO14.
Mae dysgu Cymraeg wedi newid bywyd Walter Ariel Brooks. Hanesion ei nain a chaneuon Cymraeg wnaeth sbarduno diddordeb yn y bachgen o'r Ariannin. Cwympodd e mewn cariad gyda'r iaith a symudodd e i Gaerdydd. Dyma ei stori anhygoel.
Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod pwy all Gaerdydd benodi fel rheolwr ar ôl diswyddo Neil Harris, ac ymateb i benderfyniad Jaye Ludlow i adael Cymru.
Y cerddor o Gaerdydd sy'n trafod bywyd a gyrfa rhwng sawl iaith...
"S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … " ALED HUGHES - RHYS AB OWEN Mae na lawer o bobl yn credu mai rhywbeth newydd yw clywed Cymraeg yn cael ei siarad mewn rhannau o Gaerdydd. Ond mae llyfr Owen John Thomas, The Welsh Language in Cardiff : A history of survival yn dangos bod yr iaith wedi bod yn fyw iawn mewn sawl ardal o’r ddinas yn y gorffennol. Daeth mab yr awdur, Rhys ab Owen, i sgwrsio am y llyfr gydag Aled Hughes a dyma i chi flas ar y sgwrs… Y bedwaredd ganrif ar bymtheg - 19th Century Enghreifftiau - Examples Y mwyafrif llethol - The vast majority Cyfrifiad - Census Yn fanteisiol iawn - Very advantageous Delwedd - Image Canrif yn ddiweddarach - A century later Tu fas - Outside Y dystiolaeth - The evidence Yr Eglwys Newydd - Whitchurch FFION EMYR - SANDRA LLAN Ychydig o hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd yn fan’na ar raglen Aled Hughes. Mae gan Ffion Emyr raglen newydd nos Wener ar Radio Cymru, a phob wythnos mae hi’n mynd i ofyn “pwy sy’n gwneud y coctel gorau yng Nghymru?” . Sandra Llan oedd ei gwestai cyntaf…. Mi fydd gynnon ni - Bydd gyda ni Hyd yn oed - Even Brifo - Anafu Nei di’m cofio - Wnei di ddim cofio TRYSTAN AC EMMA - JOHN PRITCHARD Hanes coctels peryglus Llanberis oedd hwnna ar raglen Ffion Emyr. Wel gwnaeth tîm pêl-droed Cymru yn dda yn y gêmau diweddar yn Nghwpan y Cenhedloedd ac ennill dyrchafiad i Grŵp A yn y gystadleuaeth. Ond oeddech chi’n gwybod bod yna dîm Pêl-droed Cerdded Cymru hefyd, a bod y tîm wedi ennill Cwpan y Byd? Beth yn union ydy Pêl-droed Cerdded? Dyna un o gwestiynau Trystan Ellis Morris ac Emma Walford i John Pritchard o Ynys Môn sy’n chwarae Pêl-droed Cerdded dros Gymru... Cwpan y Cenhedloedd - Nations Cup Dyrchafiad - Promotion Pencampwr o fri - A renowned champion Yr un rheolau - The same rules Arferol - Usual Pwyslais - Emphasis Yn dda i ddim - No good Dw i’n dychmygu - I imagine GWNEUD BYWYD YN HAWS - GWENNO ROBERTS John Pritchard, un o sêr tîm Pêl-droed Cerdded Cymru oedd hwnna’n siarad gyda Trystan ac Emma ar eu rhaglen newydd sbon bob bore Gwener am 9. Mae Gwenno Roberts wedi dechrau cwmni codi pwysau o’r enw Vulcanna Fit ac yn ystod rhaglen gynta y gyfres newydd ‘Gwneud Bywyd yn Haws’ gofynnodd Hannah Hopwood iddi hi pam yr enw Vulcanna? Codi pwysau - Weightlifting Edmygu - To admire Ysbrydoliaeth - Inspiration Ofnadwy o ddewr - Terribly brave Mewn oes - In an age Dyletswyddau - Duties Ymgyrchu - To campaign Prydferth - Beautiful Noeth luniau - Nude portraits Penodol - Specific POST CYNTAF - ANT A DEC Wel dyna sgwrs aeth â ni o godi pwysau i Vulcanna i Michelangelo ac i golli pwysau, diddorol on’d ife? Os ydych chi’n un o’r MILIYNAU sy’n gwylio I’m a Celeb sy’n cael ei ffilmio yng Nghastell Gwrych ger Abergele, byddwch chi wedi clywed Ant a Dec yn siarad ychydig o Gymraeg. Cafodd Dylan Jones air gyda’u tiwtor Garffild Lewis ar y Post Cyntaf.... Y gyfres The series Darlledu - Broadcast Cyflwynwyr - Presenters Llais cyfarwydd - A familiar voice Ynganu - Pronunciation Cywair - Register (of language) Ymddiriedolaeth - Trust Ymgynghorwyr - Consultants Tîm cynhyrchu - Production team Agwedd - Attitude SIOE FRECWAST - CARYL A DAF Ac arhoswn ni gyda I’m a Celeb am y clip ola. Un sy’n byw yn agos iawn at Gastell Gwrych ydy Sian Rees a gofynnodd Caryl a Dafydd iddi hi sut ymateb sy wedi bod yn yr ardal i’r gyfres.. Ymateb - Response Pwnc trafod - Talking point Arferiad - A habit Hyd y gwela i - As far as I can see Yn eu hoed a’u hamser - Of a certain age Byrlymu - Buzzing Rhoi ni ar ben ffordd - Bring us up to date
Nigel Rees yn edrych yn ôl dros ei gyfnod fel Rheolwr Academi Abertawe, a Macsen Jones o Gaerdydd sy'n sylwebu ar bêl-droed yn Belfast, yn ogystal â dathlu llwyddiant Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Beti George yn sgwrsio gyda'r Parchedig Gethin Rhys o Gaerdydd sydd yn gweithio gyda mudiad Cytûn. Cawn hanes ei gyfnod ym Mhrifysgol Rhydychen, yn gofalu am Goleg Trefeca ac yn gweinidogaethu ym Mhen-rhys.
[English underneath]Yn y bennod yma, dw i'n siarad gyda Grace. Merch o Gaerdydd sy'n dysgu Cymraeg! Ni'n trafod llawer o pethau:Gwersi CymraegCamgymeriadau CyffredinCerddoriaeth WerinY Ffilm Mr JonesHanesContext, recordiais i y bennod cyn y coronafeirws. Felly ni'n siarad yn y un ystafell - wyneb i wyneb, hefyd mae'n esbonio y sain-------------------------------------------------------------------This episode I'm chatting with Grace. A Cardiff girl who's learning Welsh. We discuss loads of things:Welsh LessonsCommon MistakesFolk MusicMr Jones, the filmHistoryJust for some context on the sound quality, we recorded this pre-covid and in the same room so this explains the sound difference
Get in the mood for this week's England-Wales friendly by listening to how, fifty years ago Chris Leek, saxophonist in The Barry Horns, caught a train to Cardiff from Swansea and made his way to Ninian Park for his first ever Wales match: versus England in the 1970 Home Championship. Listen to Chris's recollections of the game and also of the game against Northern Ireland a week later when George Best visited Chris's beloved Vetch Field. Byddwch mewn hwyl i groesawu'r gêm cyfeillgar rhwng Lloegr a Chymru gan wrando ar sut esgynodd Chris Leek, sacsoffonydd gyda'r Barry Horns, drên o Abertawe i Gaerdydd a mentro i Barc Ninian am ei gêm Cymru cyntaf erioed: yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth Prydain 1970. Gwrandewch ar atgofion Chris y gêm ac hefyd y gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon yr wythnos ddilynol pan ymwelodd George Best â'r Cae Vetch mor annwyl i Chris.
Myrddin ap Dafydd ar Aled Hughes Dw i’n sîwr bod y rhan fwya ohonon ni wedi dysgu geirfa newydd un ai yn y dosbarth, wrth ddarllen neu, wrth gwrs, drwy wrando ar Radio Cymru. Ond mae na nifer o eiriau tafodieithiol wnawn ni ond eu clywed drwy ymweld ag ardaloedd arbennig yng Nghymru. Dych chi wedi clywed y gair ‘ “wilibowan” a “sbensh” er enghraifft? Dyma oedd gan Myrddin ap Dafydd i’w ddweud am hen eiriau’r Gymraeg wrth Aled Hughes yr wythnos hon. Tafodieithol Dialectal Wedi gwirioni Really liked Ehangach Wider Y fraint The privilege Yn hanu o Hails from Yn y bôn Essentially Moethus Luxurious Cogio Pretending Yn glymau In Knots Ffashiwn beth Such a thing Catrin Gerallt a Hannah Daniel - Dau Cyn Dau ar Dros Ginio Mam a merch o Gaerdydd fuodd yn cadw cwmni i Dewi Llwyd ar Dau Cyn Dau yr wythnos yma – sef Catrin Gerallt a Hannah Daniel. Mae Catrin Gerallt yn newyddiadurwraig brofiadol iawn sydd wedi gweithio ar raglenni fel Taro Naw, Manylu a’r One Show ac mae Hannah yn actores sydd wedi perfformio mewn cyfresi fel Gwaith Cartref, Hinterland ac Un Bore Mercher. Newyddiadurwraig brofiadol An experienced (female) journalist Cyfresi Series I’r graddau To the extent Y cyfyngiadau The restrictions (G)wynebau cyfarwydd Familiar faces Hogyn Bachgen Mam-gu Nain Cyfres newydd A new series Gweld isie To miss Caryl a Dafydd – Radio Cymru 2 Mae hi’n anodd gweithio ym myd comedi ar adeg mor sensitif ag yw hi nawr, ond dw i’n siŵr ei bod yn bwysicach, o bosib, oherwydd y sefyllfa i godi calonnau pobl. Y gomedïwraig Esyllt Sears oedd gwestai arbennig Caryl a Daf yr wythnos hon i sôn am sut mae’n bosib gwneud i bobl chwerthin y dyddiau hyn... Trafod To discuss Ystafell ddelfrydol Ideal room Yn dynn Tightly Cyffwrdd To touch Ysgwyd ei ysgwyddau Shaking his shoulders Chwerthiniad A laugh Cynulleidfa Audience Gynnau A moment ago Saernïo To construct Llenwi’r bwlch Filling the gap Bore Cothi Faint ohonoch chi sy’n coginio yn amlach y dyddiau hyn? Gaeth Shan Cothi wybod sut i wneud pasta ffres gan Michelle Evans Fecci a dyma i chi flas ar y sgwrs... Diffyg A shortage Oergell Fridge Blawd Flour Rhwydd Easy Tylino To knead Yn gwmws Exactly Garlleg Garlic Winwns Onions Ysbigoglys Spinach Dwlu wneud e Enjoy doing it Cofio – Traed Traed oedd pwnc Cofio yr wythnos diwetha a dyma glip o 2002 pan gafodd Nia Roberts sgwrs gyda Gwenno Saunders o Gaerdydd fuodd yn cymryd rhan yn y sioe Lord of the Dance gyda Michael Flatley. Cwestiwn Nia i Gwenno oedd sut mae’r dawnsio wedi effeithio ar ei thraed hi... Gwyddelig Irish Cystadleuaeth Competition Canolbwyntio Concentrating Ffiaidd Horrible Niwed Harm Cymorth Help Beti a’i Phobol Matt Spry o Aberplym (Plymouth) oedd gwestai Beti George wythnos dwetha. Matt oedd Dysgwr y Flwyddyn yn 2018 ac yn y clip nesa mae e’n sôn am ei hanes yn Lloegr, ei fam-gu o Gymru a pham dewisodd e’r enw Aberplym am Plymouth... Ymuno â Joins with Darganfod To discover Cernyweg Cornish language Ynganu To pronounce Ymwybyddiaeth Awareness Dyfnaint Devon Tad-cu Taid Cysylltiad Connection Syfrdanol Amazing Ar y ffin On the border
Aled Hughes Gwener 17/04/20 Breuddwydio "Dych chi'n cofio eich breuddwydion? Dych chi'n breuddwydio am bethau gwahanol oherwydd argyfwng y feirws? Dyna rai o'r pethau gododd mewn sgwrs gafodd Ffion Dafis gyda'r seiolegydd Dr Mair Edwards. Yn ôl Dr Mair mae cwsg a breuddwydio yn bwysig iawn i’n iechyd meddwl ni ac mae'r adeg anodd yma yn gwneud i bobl freuddwydio mewn ffyrdd gwahanol iawn" breuddwydion - dreams argyfwng - crisis hynod lachar - extremely vivid yr eglurhâd - the explanation trwmgwsg - deep sleep ymwybodol - aware pryder - concern yn fwy tebygol - more likely cyfuniad - a combination ansawdd cwsg - the quality of sleep Ifan Evans Dydd Iau 16/04/20 Bronwen Lewis "Ffion Dafis oedd honna yn eistedd yn sedd Aled Hughes ddydd Gwener diwetha ac yn cael sgwrs gyda'r Dr Mair Edwards am freuddwydio. Nid Ffion oedd yr unig un oedd yn eistedd yn sedd y cyflwynydd arferol. Dydd Iau Trystan Ellis Morris oedd yn cymryd lle Ifan Evans a buodd e'n sgwrsio gyda'r gantores Bronwen Lewis o Flaendulais yng Nghwm Nedd. Buodd rhaid i Bronwen ganslo sawl gig oherwydd y feirws a dyma hi'n sôn wrth Trystan am syniad gafodd hi i godi arian" Y cyflwynydd arferol - the usual presenter ben ei waered - upside down creu - to create mo'yn - eisiau beth bynnag - whatever wedi crio'r glaw - had cried loads ffili credo - can't believe mor garedig - so kind elusennau - charities anhygoel - incredible Geraint Lloyd Llun 13/04/20 ENDAF GRIFFITHS "Pedair mil o bunnoedd am gig dwy awr - da on'd ife?. Buodd Clwb Ffermwyr Ifanc Pont-Siân yn codi arian mewn ffordd arbennig iawn ddydd Llun y Pasg. Bwriad aelodau'r clwb oedd cerdded, rhedeg neu seiclo yr holl ffordd o Gaerdydd i Gaergybi, taith o 218 milltir, a hynny heb adael eu cartrefi, er mwyn codi arian at ddau ysbyty yn y de-orllewin. Ond pa mor bell aethon nhw tybed? Endaf Griffiths – aelod o’r clwb fuodd yn ateb y cwestiwn hwnnw ar Raglen Geraint Lloyd nos Lun…" Swyddogion - officials dechrau becso - beginning to worry chwalu'r targed - smashed the target yn hytrach na - rather than ymateb - response arweinyddion - leaders cyfrannu - contributing cronfa - fund unedau gofal dwys - Intensive care units annog - to encourage Sioe Frecwast Llun 13/04/20 35 Diwrnod "Da iawn Clwb Ffermwyr Ifanc Pont-Siân, rhedeg i Baris - dipyn o gamp! Buodd Fflur Dafydd ar y Sioe Frecwast gyda Daf a Caryl fore Llun y Pasg ar Radio Cymru. Fflur ydy awdures y gyfres boblogaidd 35 diwrnod, a'r newyddion da ydy bod cyfres newydd yn dechrau cyn bo hir. Dyma Fflur yn edrych ymlaen at y gyfres... " Y gyfres boblogaidd - the popular series cynulleidfa - audience yn gyfarwydd ag e - familiar with (it) corf - body y bennod - the first episode llawn cyfrinachau - full of secrets yn raddol - gradually yn cylchdroi - revolving y briodferch - the bride ysgafnder - levity Sioe Frecwast Sadwrn – 18/04/20 Cwestiynau Diog "...a bydd y gyfres newydd o 35 diwrnod yn cychwyn ar S4C yn fuan. Dyma i chi glip arall o'r Sioe Frecwast gyda Daniel Glyn yn gofyn ei Gwestiynnau Diog i’r gantores Ani Glass. Y cwestiynau ydy: beth yw ei hoff liw hi a'i hoff ddarn o wydr... " Cwestiynau Diog - Lazy Questions darn of wydr - piece of glass yn y gorffennol - in the past cyfnod - period eglwys - Ystyr Bore Cothi Iau – 16/04/20 Adam yn yr Ardd "Cwestiynau diog Daniel Glyn yn cael eu hateb yn fan'na gan Ani Glass. Os dych chi'n licio garddio beth wnech chi yn ystod y cyfnod anodd yma? Wedi cwbl mae'r canolfannau garddio wedi cau. Wel dyma i chi rai o'r tips gaeth Shan Cothi gan 'Adam yn yr Ardd' ..." Tyfu'n glou - to grow quickly yn ormodol - excessively yn dueddol - tends to hadau - seeds synnech chi - you'd be surprised plannu - to plant gwasgaru - to spread egino - to germinate twrio - to delve gwastraffu - to waste
Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn cnoi cil dros fuddugoliaeth Cymru yn Azerbaijan ac yn edrych ymlaen i’r gêm fawr yn erbyn Hwngari yn Gaerdydd.
Ar ôl mwynhau gymaint flwyddyn diwethaf, aeth Chris a Geth draw i Gaerdydd ar gyfer Gŵyl Sŵn 2019! Tra'r oeddan nhw yno, mi'r oedd 'na gyfle iddyn nhw siarad hefo rhai o'r artistiaid oedd yn perfformio yn yr ŵyl - Casi, Eadyth, Hyll ac Ynys, yn ogystal â chael sgwrs gydag un o'r trefnwyr, Elan Evans.
Yn y podlediad arbennig yma ma’ Tina a Nia yn sôn am eu Taith i’r Craidd: Siwrne ysbrydoledig o Fangor i Gaerdydd ar gefn beic tandem unigryw; wedi ei addasu i seiclo gyda choesau a breichiau. Ma’ nhw’n trafod y pwysigrwydd o beidio rhoi pobl mewn bocsys, pam dyle pawb wthio heibio’i limits a pha effaith gafodd y daith eithafol hon ar eu cyfeillgarwch.
Sgwrs grwydrol gyda’r DJ o Gaerdydd, Huw Stephens. Pynciau llosg: Capel y Crwys, Mewn ac Allah, hud a lledrith, llafur plant, Paul Daniels, Triciau Trefor, cerdded ar ddŵr, Johnny Cash, Cynan ar feinyl, Virgin Radio, cefndryd cerddorol Huw, Johnny R, Picnic, Datblygu, Meic Stevens, Super Furry Animals, Gorky’s, ANKST, Rookwood Sound, Bethan Elfyn, Radio 1, Caerdydd, canlyniadau Lefel A Huw, Noswyl y Mileniwm, Taffia, Boobytrap, Quodega, Galstonbury, Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Neuadd Baskerville, Four Tet, Potter v Mikey Snooze, Gwenno, Colorama, Heavenly Records, Kanye West, Beck, gwylio Prince mewn onesie a llawer mwy...
Yn y podlediad hwn bydd Ameer Rana yn sgwrsio â Yasmin Begum o Gaerdydd ar adeg bwysig yn y calendr Mwslimaidd: Ramadan ac Eid . Maent yn trafod mynd i’r mosg, sialensau ymprydio a’u hatgofion o dyfu fyny a dathlu’r gwyliau yng Nghymru: Beth y’ch chi’n cael neu ddim yn cael neud yn ystod Ramadan? Yw ymprydio’n dda i’r corff? A pham mae Ramadan mor bwysig yn Islam? Rhybudd: Yn cynnwys iaith gref! In this podcast Ameer Rana chats with Yasmin Begum from Cardiff during an important time in the Muslim calendar: Ramadan and Eid. They discuss going to the mosque, the challenges of fasting and their memories of growing up and celebrating the festivals in Wales: What can you and can’t you do during Ramadan? Is fasting good for the body? And why is Ramadan so important in Islam? Warning: Contains strong language!
Yn y podlediad hwn bydd Cai Morgan yn sgwrsio gyda Guto Rhun ynglŷn â'i siwrnai o Fachynlleth i Gaerdydd; wrth iddo ddysgu am bwysigrwydd iechyd rhywiol, dod wyneb yn wyneb a HIV a sut mar’ cyffur PrEP wedi newid ei fywyd. RHYBUDD: Yn cynnwys rhegi, cyfeiriadau at ryw a themâu sydd yn anaddas i blant. Am fwy o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei drafod yn y podlediad, cliciwch yma: http://www.s4c.cymru/cy/cymorth In this podcast Cai Morgan chats to Guto Rhun about his journey from rural Machynlleth to the bright lights of Cardiff; as he learns about the importance of sexual health, comes face to face with HIV and talks about how the drug PrEP changed his life. WARNING: Contains swearing, sexual references and themes unsuitable for children. For more information about the topics discussed in this podcast, click here: http://www.s4c.cymru/en/help
Beti George yn sgwrsio â Sion, Ffion ac Owain Tudur o Gaerdydd. O gyfrinachau'r maes carafanau i helyntion ieuenctid Maes B, mae'r tri yn sgwrsio â Beti ar achlysur Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.
Er bod Deri Tomos wedi ymddeol o'i waith bob dydd ym Mhrifysgol Bangor, mae ei frwdfrydedd dros wyddoniaeth a thros annog pobl i astudio a thrafod gwyddoniaeth yn Gymraeg yr un mor heintus â phan oedd yn fyfyriwr yng Nghaergrawnt. Treuliodd Deri ei flynyddoedd cynnar yn Gillingham, cyn i'r teulu symud i Gaerdydd. Dysgodd Gymraeg, ond mae'n difaru iddo beidio â chael cyfle i ddysgu tafodiaith Gwenhwyseg teulu ei dad. Mae'n sôn wrth Beti am ei ffydd, traddodiadau asgell chwith Coleg y Brenin yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr, drwghoffi ffonau o bob math, cadw gwenyn a dysgu canu. Mae hefyd yn trafod datblygiadau gwyddonol o bob math ym maes iechyd, technoleg a'r gofod.
Sgwrs gyda'r cantor o Gaerdydd a pherchennog un o'r lleisiau mwyaf llyfn yn y byd, Gareth Bonello.
Ganwyd y cynllunydd mewnol Robert David yn 1962 cyn cael ei fabwysiadu yn ychydig wythnosau oed gan Owen Morris Roberts a Mary Roberts, Penrhynydyn, Rhydyclafdy. Cafodd fagwraeth fendigedig ar fferm brysur ond celf oedd yn mynd a'i sylw, er mai dewis dilyn cwrs Celfyddydau Perfformio ym mhrifysgol Caerlŷr wnaeth Robert i ddechrau, cyn symud i Gaerdydd ac ymddangos fel actor mewn cyfresi fel Coleg a Dinas. Roedd Robert yn aelod o gast Pobol y Cwm yn y 90au ond ar ôl hir feddwl dyma benderfynu gadael y ddrama a dilyn ei freuddwyd i fod yn gynllunydd mewnol. Symudodd i Efrog Newydd i astudio, gan dderbyn Tystysgrif mewn Cynllunio o'r Parsons School of Design, Manhattan. Cafodd gyfnod wedyn yn adnewyddu tai ar raglenni teledu ond mae bellach yn ôl yn Llŷn, yn byw gyda'i bartner ac wedi sefydlu ei gwmni cynllunio mewnol ei hun.
Beti George yn sgwrsio gydag Elin Jones. Ar ôl cael ei magu ar fferm yn Llanwnnen, aeth i Gaerdydd i astudio economeg. Doedd gwleidyddiaeth ddim o ddiddordeb mawr iddi pan yn ifanc, ond roedd buddugoliaeth Cynog Dafis yn etholiad cyffredinol 1992 yn ysbrydoliaeth. Ddwy flynedd wedi refferendwm 1997 o blaid datganoli, cafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad Ceredigion, a hynny yn enw Plaid Cymru. Mae uchafbwyntiau ei gyrfa'n cynnwys blynyddoedd o fod yn Weinidog Materion Gwledig Cymru, yn ystod cyfnod o gydlywodraethu gyda Llafur. Hi yw Llywydd y Cynulliad erbyn hyn, sy'n golygu aros yn wleidyddol ddiduedd bob amser, yn ogystal â gweithio a chymdeithasu ar yr un pryd. Oherwydd hynny, does dim llawer o amser i hamddena.
Wrth i’r Ymerodraeth Brydeinig ymledu ar draws y byd yn y ddeunawfed ganrif, creodd beth o’i chyfoeth mawr drwy ddefnyddio caethweision. Ffynnodd rhannau o Brydain oherwydd eu cysylltiadau â’r fasnach gaethwasiaeth. Cysylltwyd Cymru i’r fasnach gaethwasiaeth oherwydd ei bod yn cynhyrchu metelau a defnydd. Roedd Cymru yn gynhyrchydd mawr pres a chopr. Defnyddiwyd copr fel arian yn y marchnadoedd caethwasiaeth, ar ffurf breichledau a elwid yn manillas. Defnyddiwyd ffiolau pres wrth gynhyrchu rỳm. Cynhyrchwyd rỳm, siwgr a chotwm ar gyfer y farchnad Ewropeaidd drwy lafur caethweision a ddygwyd draw o Affrica ar draws Cefnfor Iwerydd i America ac India’r Gorllewin. Nid oedd gan gaethweision ddewis ond gweithio yn hinsawdd boeth y planhigfeydd. Roedd dillad llawer o’r caethweision wedi eu gwneud o fath o ddefnydd a ddarparwyd gan y diwydiant melinau gwlân yng Nghymru. Ym 1806 dygwyd un o arwyr Cymru yn Rhyfeloedd Napoleon, y Cadfridog Thomas Picton, gerbron llys, am ei driniaeth greulon o gaethweision. Roedd ei achos yn gymorth i ddatblygu ymgyrch y rheiny oedd eisiau diddymu caethwasiaeth. Yn y cyfamser, roedd perchennog caethweision du ei groen yn byw yn Nhrefynwy. Ganwyd Nathaniel Wells yn St Kitts, yn fab i farsiandwr o Gaerdydd ac yn gaethwas du. Etifeddodd ffortiwn ei dad, daeth i Gymru a bu’n byw bywyd uchelwr gwledig.
Wrth i’r Ymerodraeth Brydeinig ymledu ar draws y byd yn y ddeunawfed ganrif, creodd beth o’i chyfoeth mawr drwy ddefnyddio caethweision. Ffynnodd rhannau o Brydain oherwydd eu cysylltiadau â’r fasnach gaethwasiaeth. Cysylltwyd Cymru i’r fasnach gaethwasiaeth oherwydd ei bod yn cynhyrchu metelau a defnydd. Roedd Cymru yn gynhyrchydd mawr pres a chopr. Defnyddiwyd copr fel arian yn y marchnadoedd caethwasiaeth, ar ffurf breichledau a elwid yn manillas. Defnyddiwyd ffiolau pres wrth gynhyrchu rỳm. Cynhyrchwyd rỳm, siwgr a chotwm ar gyfer y farchnad Ewropeaidd drwy lafur caethweision a ddygwyd draw o Affrica ar draws Cefnfor Iwerydd i America ac India’r Gorllewin. Nid oedd gan gaethweision ddewis ond gweithio yn hinsawdd boeth y planhigfeydd. Roedd dillad llawer o’r caethweision wedi eu gwneud o fath o ddefnydd a ddarparwyd gan y diwydiant melinau gwlân yng Nghymru. Ym 1806 dygwyd un o arwyr Cymru yn Rhyfeloedd Napoleon, y Cadfridog Thomas Picton, gerbron llys, am ei driniaeth greulon o gaethweision. Roedd ei achos yn gymorth i ddatblygu ymgyrch y rheiny oedd eisiau diddymu caethwasiaeth. Yn y cyfamser, roedd perchennog caethweision du ei groen yn byw yn Nhrefynwy. Ganwyd Nathaniel Wells yn St Kitts, yn fab i farsiandwr o Gaerdydd ac yn gaethwas du. Etifeddodd ffortiwn ei dad, daeth i Gymru a bu’n byw bywyd uchelwr gwledig.
Jack Peyton sy'n cadw cwmni i ni wythnos yma, yn trafod Gaerdydd, diweithdra, ac yn rhoi blas o gân Nadoligaidd Sion Q.
Y gof Nia Wyn Jones o Gaerdydd yw gwestai Beti yr wythnos hon.