Podcasts about podpeth

  • 4PODCASTS
  • 107EPISODES
  • 1hAVG DURATION
  • ?INFREQUENT EPISODES
  • Jun 28, 2022LATEST

POPULARITY

20172018201920202021202220232024


Best podcasts about podpeth

Latest podcast episodes about podpeth

Podpeth
Syniadad #7 - Podpeth ar Daith!

Podpeth

Play Episode Listen Later Jun 28, 2022 36:55


"Wyt ti'n gwrando ar unrhyw bodcasts?" "Na."   Mae gan @SpursMel syniad tydi hyd 'noed o'm yn licio. Elin, Iwan a Hywel sy'n gofyn y cwestiwn: Pam?

Podpeth
Syniadad #3 - Cewri Tudur

Podpeth

Play Episode Listen Later May 31, 2022 33:49


"Be 'di hwn ydi ailwampio un o Syniadads gora fi... Ar y Zip."   Mae Elin, Hywel ac Iwan yn trio gwneud synnwyr o syniad diweddara' @SpursMel.   (Mae'r ysbrydoliaeth - Ar y Zip - yn wreiddiol o bennod 9 o'r Podpeth.)

Podpeth
Odpeth 24 - Aliens

Podpeth

Play Episode Listen Later Nov 23, 2021 34:36


Heddiw, mae criw Podpeth yn trafod aliens, hoff takeaways a pwy dylai'r Ddaear danfon fel cynrychiolydd i gyfarfod bywyd arall-fydol.

aliens podpeth
Podpeth
UN POD OLA LEUAD #8 - Un Pod Ola

Podpeth

Play Episode Listen Later May 25, 2021 52:07


Yn y pennod olaf o'r gyfres, mae Hywel yn chwarae clipiau o John Ogwen a Maureen Rhys yn darllen detholiad o'r nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard. Mi fydd Un Pod Ola Leuad yn nôl pan mae'r ffilm ar S4C Clic. Nesaf ar Podpeth, mae Pod Pêl-droed yn atgyfodi ar gyfer Yr Ewros!

yn hywel podpeth
Podpeth
UN POD OLA LEUAD #6 - Gruff Sol

Podpeth

Play Episode Listen Later May 11, 2021 57:59


Mae'r bardd talentog a chasglwr llus, Gruffudd Eifion Owen, yn ymuno efo criw Podpeth i drafod y nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard. Mae Gruff hefyd yn egluro Pennod 8, o'r diwedd!

Podpeth
UN POD OLA LEUAD #5 - Caryl Bryn

Podpeth

Play Episode Listen Later May 4, 2021 58:14


UNOL Super-fan Caryl Bryn sy'n ymuno i drafod y nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard efo criw Podpeth.

podpeth
Podpeth
UN POD OLA LEUAD #4 - Miriam Trefor

Podpeth

Play Episode Listen Later Apr 27, 2021 44:28


Yr athrylith o Dŷ Newydd, Miriam Trefor Williams, sy'n ymuno efo criw Podpeth wythnos yma i drafod y nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard. Rhybudd - peidiwch a quotio'r podlediad yma yn eich traethodau!

yr podpeth
Podpeth
UN POD OLA LEUAD #3 - Mared Llywelyn

Podpeth

Play Episode Listen Later Apr 20, 2021 39:48


Yr actores a dramodydd Mared Llywelyn sy'n ymuno efo criw Podpeth wythnos yma i drafod y nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard.

yr llywelyn podpeth
Podpeth
UN POD OLA LEUAD #2 - Ar Yr Olwg Gyntaf

Podpeth

Play Episode Listen Later Apr 13, 2021 50:16


Wedi darllen Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard, mae criw Podpeth yn trafod eu hagraffiadau cyntaf o'r nofel.

wedi podpeth
Podpeth
Podpeth #67 -"Y GOFID"

Podpeth

Play Episode Listen Later Oct 4, 2020 51:43


Mae Elin, Hywel ac Iwan yn nôl ar ôl amser maith i drafod be sydd wedi bod yn digwydd (COVID-19/Coronafeirws, 2020) a be sy'n mynd i fod yn digwydd (clwb llyfrau Podpeth - Un Nos Ola Leuad).

covid-19 iwan hywel mae elin podpeth
Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM
Pennod 049 - Podpeth Nadolig 2019

Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM

Play Episode Listen Later Dec 24, 2019 83:33


Pennod arbennig iawn o Does Dim Gair Cymraeg am Random i ddathlu Nadolig 2019, gyda chyflwynwyr un o fy hoff bodlediadau yn y byd, Podpeth, sef Elin Gruffydd ac Iwan a Hywel Pitts. Pynciau llosg: traddodiadau Nadoligaidd (briwsion bara, death-lists), uchafbwyntiau personol y flwyddyn (gorymdeithiau annibyniaeth, dyrnu mwncis, ymladd llewod, tyfu tash, inverted Hitler), Cystadleuaeth Cont y Flwyddyn 2019, Hyna Di’r Goss, anws-heulo, pysgod siap pidyn a llawer mwy...

adolf hitler goss iwan pennod nadolig flwyddyn podpeth hywel pitts elin gruffydd
Podpeth
Podpeth #66 - "Yas Cymru!"

Podpeth

Play Episode Listen Later Jul 27, 2019 30:44


Mae Elidyr Glyn, y flugalist Miriam Trefor, sport expert Jack Peyton ac 8000 mil o bobl eraill yn ymuno ag Iwan, Hywel ac Elin am dro rownd dre ar orymdaith annibyniaeth hanesyddol yng Nghaernarfon.

elin iwan cymru hywel nghaernarfon podpeth jack peyton
Podpeth
Podpeth #65 - "Bolycs Diddoniol"

Podpeth

Play Episode Listen Later Mar 6, 2019 33:24


Hi-di-ho! Dim Elin wythnos yma yn anffodus, ond mae'r brodyr Pitts yn ol i ddadansoddi'r gair "difyr", ac hefyd i ymosod ar Bolycs Cymraeg. I wirfoddoli i fod yn westai arbennig, DMiwch ni @Podpeth ar Twitter.

pitts podpeth
Podpeth
Podpeth #64 - "Ffuglen Gân"

Podpeth

Play Episode Listen Later Feb 26, 2019 30:11


SyniaDad Sbeshal arall gan @SpursMel - tro yma, mae o wedi "dyfeisio" cyfres sy'n gorfodi awduron gorau Cymru i gydweithio efo cerddorion Cymraeg...

Podpeth
Podpeth #63 - "Ffrindiau Elin Haf"

Podpeth

Play Episode Listen Later Feb 20, 2019 32:24


Mae'r podlediad gorau o Gaernarfon (os na mae 'na un arall) yn dychwelyd i'r arfer gyda sgwrs hirwyntog a ddibwynt am sgiliau cyflwyno Hywel, gyrfa gyfryngol Elin, Odpethau Iwan, a dyfodol y Podpeth.  Bydd na fwy o Class Cymraeg?  Bydd na fwy o Odpethau?  Bydd na fwy o "PETH!" (y podlediad i blant)?  Pryd da ni am gael gwesteion yn nol?!  PWY FYDD Y GWESTEION?!  Oedd Ross a Rachel ar break?!  Dyma'r cwestiynau da ni isio chi ateb - gadawn ni wybod ar Facebook a Twitter (@Podpeth).  Wsos nesa - SyniaDad!

elin hywel peth mae'r bydd pryd gaernarfon podpeth
Podpeth
Podpeth #62 - "Dydd Y Farn"

Podpeth

Play Episode Listen Later Feb 5, 2019 30:44


SyniaDad Sbeshal arall gan @SpursMel - tro yma, mae o wedi dyfeisio rhaglen deledu newydd lle mae rheithiwr yn medru ennill drwy ddadlau am elusen gyda seleb.

farn dydd podpeth
Podpeth
Podpeth #61 - "BreXit"

Podpeth

Play Episode Listen Later Jan 29, 2019 31:10


Boed chi'n gammon snowflake gwep-goch blin, neu yn remoaning Lefty Corbynite sydd isio Pleidlais y Bobl, nid oes osgoi Brexit, a dyma'r Podpeth mwyaf Brexit-y eto.  Piers Morgan, Theresa May, Donald Trump, Boris Johnson, David Cameron, Winston Churchill, Nazis - am y tro olaf erioed, da ni am drafod Brexit. Gyda @IwanPitts @HywelPitts ac @ElinGruff.

Podpeth
Podpeth #60 - "Geith John Onllwyd F*** Off"

Podpeth

Play Episode Listen Later Jan 23, 2019 31:20


Mae'r wasg (un boi yn Golwg) wedi bod yn slatio gwaith y brodyr Pitts ar y sioe ddychanol Y Da, Y Drwg a'r Diweddara' oedd ar Radio Cymru yn ddiweddar. Mae'r hogiau yn ymateb i'r feirniadaeth deg ag adeiladol mewn ffordd deg ag adeiladol. Hefyd, mae'r podlediad addysgol i blant - POD! - yn nol! Tro yma mae Elin yn trafod bwyta'n iach gyda Peth a POD.

pitts elin tro f off peth mae'r hefyd radio cymru golwg podpeth
Podpeth
Podpeth #59 - "Ti'sho Grêp?"

Podpeth

Play Episode Listen Later Jan 16, 2019 30:46


Wythnos yma, mae Iwan yn cynnig syniad am "spin off" - lle fydd Hywel, Elin ac Iwan yn mynd o amgylch Cymru yn cael bwyd a diod am ddim. I roi flas ar y syniad, mae Iwan yn bwyta grawnwinen wiyrd. Dyma lun:  Ti'sho grêp? pic.twitter.com/xPfwm6IJyv — Iwan Pitts (@IwanPitts) January 15, 2019

Podpeth
Podpeth #58 - "Sgrin"

Podpeth

Play Episode Listen Later Jan 9, 2019 30:04


Mae Elin yn nol!  A @SpursMel, sydd yn egluro ei SyniaDad gorau eto - "Sgrin".  Hefyd, mae Hywel ac Elin wedi bod Ar Y Zip!

elin hywel hefyd mae elin podpeth
Podpeth
Podpeth #57 - "Heddwch ei Lwch 2018"

Podpeth

Play Episode Listen Later Jan 2, 2019 34:06


Blwyddyn Newydd Dda! Mae Elin yn sal - ond mae'r brodyr Pitts yma efo Papa Pitts (@SpursMel) i chwarae "Heddwch Ei Lwch 2018"! Mae Heddwch Ei Lwch yn SyniaDad am raglen cwis. Mae pob ateb yn berson wnaeth farw yn 2018.  Mwynhewch!

pitts mwynhewch mae elin podpeth
Podpeth
Podpeth #56 - "Paff-ddydd Hapus"

Podpeth

Play Episode Listen Later Dec 26, 2018 30:47


Iawn latch? Mae Iwan, Hywel ag Elin yn trafod Diwrnod Westminster.  Hefyd: rap battles Y Fari Lwyd, addunedau blwyddyn newydd a traddodiadau eraill Boxing Day Cymreig.

elin hywel paff hefyd mae iwan podpeth
Podpeth
Podpeth #55 - "Pwpsi Syrpreis"

Podpeth

Play Episode Listen Later Dec 19, 2018 30:59


Mai bron yn ddolig! Mae Elin, Hywel ac Iwan yn trafod beics, carolau dolig a llwyau cariad (eto). Hefyd, da ni'n hel atgofion am tegannau reslo a doli's babis sy'n cachu.

iwan hywel hefyd mae elin podpeth
Podpeth
Podpeth #54 - "Writer's Block"

Podpeth

Play Episode Listen Later Dec 12, 2018 30:30


Mae @SpursMel yn nol ar y Podpeth gyda SyniaDad newydd - "Writer's Block".  Hefyd, mae Santa yn dod heibio'r tŷ.

Podpeth
Podpeth #53 - "Cawl Cariad"

Podpeth

Play Episode Listen Later Dec 5, 2018 30:43


Dim Elin tro yma, felly mae Iwan ac Hywel yn trio cofio be oedd o fel yn yr hen ddyddiau. Lovespoons, ysbrydion, enwau randym a gwestai ydi'r pynciau wythnos yma.

Podpeth
Podpeth #52 - "Sbwngllyd"

Podpeth

Play Episode Listen Later Nov 28, 2018 30:07


Ola chicas! Dyma pennod newydd o Podpeth! Mae Hywel, Elin ac Iwan yn cyflwyno hanner awr o fwydro eto. Clocks, bins, Little Chef a twyllo mewn cwis tafarn! Gyda pennod gyntaf "POD!" - Podlediad addysgol i blant; gyda Elin, Hywel, "Peth" y creadur diniwed ac effeithiau sain anhygoel.

Podpeth
Podpeth #51 - "Mochan"

Podpeth

Play Episode Listen Later Nov 21, 2018 30:05


Elin, Hywel ac Iwan yn cyflwyno Podpeth!   Mae Elin yn dangos sgiliau acenion hi, mae Iwan yn siarad am neud rhaglenni datio i S4C, ac mae Hywel yn ateb y cwestiwn “Pwy di Hywel Pitts?” Hefyd, yn dod yn fuan - t-shirts a hwdis Podpeth!

Podpeth
Podpeth #50 - "Canwr Clwb Y Flwyddyn"

Podpeth

Play Episode Listen Later Nov 14, 2018 30:00


Mae Elin, Hywel ac Iwan yn trafod "Be da chi isio?" ac yn dod i'r canlyniad - Syniadau!  Felly, mae @SpursMel yn nol ar y Podpeth gyda SyniaDad newydd - "Canwr Clwb Y Flwyddyn".

iwan hywel felly flwyddyn mae elin podpeth
Podpeth
Podpeth #49 - "Ffowc o Podpeth"

Podpeth

Play Episode Listen Later Nov 7, 2018 30:05


Bang bang! Mae hi'n fuan ar ol Noson Tan Gwyllt, ac i ddathlu, dyma bennod o Podpeth! Yn y pennod yma, mae Iwan yn cyfarfod Elaine Summer a Howell Pydew.  Mae'r gang yn trafod y presennol, penblwyddi a porn parodies diog.  Mae Elin yn wglo, mae rhywun yn trigro Alexa heb drio ac mae dipyn o nostalgia tuag at gemau plant a WWE.

wwe bang iwan yn mae'r mae elin podpeth
Podpeth
Podpeth #48 - "Ofnadwych"

Podpeth

Play Episode Listen Later Oct 31, 2018 30:05


Wwww Sbwci! Mae hi'n Galan Gaeaf, ac mae Podpeth yn ôl am byth! Elin, Hywel ac Iwan sy'n cyflwyno Podpeth ar ei newydd wedd - hanner awr o falu awyr heb gynllun na rheswm.  Mae Podpeth bellach yn bodlediad Dosbarth Canol, ac yn trafod bod yn Ddosbarth Canol, prynu tai a phowlenni ffrwythau, ac i ddangos pa mor anhygoel ac angenrheidiol ydi iaith, mae'r gang yn trio neud Podpeth heb ddefnyddio geiriau.

Podpeth
Podpeth #47 - "Henffych"

Podpeth

Play Episode Listen Later Apr 1, 2018 73:00


Mae Podpeth yn ôl! Mae Iwan wedi cael gig gwael, ac yn cael rant mor anghyfforddus am y peth ein bod ni'n ei gladdu ar ddiwedd y bennod, ac mae Elin a Hywel wedi prynu tŷ! Wythnos yma yn Class Cymraeg, mae Elin yn trafod termau pêl-droed. Hefyd, mae Dad yn trafod y SyniaDad diweddaraf - "Talwn Y Beirdd".

Podpeth
Cwis Podpeth 2017

Podpeth

Play Episode Listen Later Jan 7, 2018 99:30


Blwyddyn Newydd Dda! Mae Elin wedi creu cwis, ac mae'r brodyr yn mynd ben-ben i weld pwy oedd yn cymryd sylw ar y newyddion yn 2017! Chwaraewch ymlaen adra a thrydarwch eich sgôr i @podpeth! Efallai bydd wobr i'r tîm gyda'r sgôr uchaf. Hefyd, mae 'na rownd gan Dad (Heddwch ei Lwch 2017) sydd efallai ddim yn cyfri tuag at y sgôr terfynol...

hefyd cwis mae elin podpeth
Podpeth
Podpeth Dolig 2017 - "Tina Turnips"

Podpeth

Play Episode Listen Later Dec 24, 2017 118:50


Nadolig Llawen! Class Cymraeg!  SyniaDad!  Sion Corn?!  Be ydi'r gwahaniaeth rhwng Sleigh, Sled a Sledge? Hyn a mwy mewn pennod hynod hir Podpeth!

turnips sled sleigh nadolig llawen dolig podpeth
Podpeth
Podpeth #46 - "Interrobang?!"

Podpeth

Play Episode Listen Later Dec 18, 2017 84:26


Konnichiwa! Lle mae'r Podpeth wedi bod?! Be ydi'r gwahaniaeth rhwng cupcake a fairy cake? Be ydi eyebrows yn Gymraeg? Y cwestiynau yma a lot mwy yn cael ei ateb wythnos yma mewn pennod newydd o Podpeth. Hefyd, mae Dad yn dychwelyd gyda SyniaDad anhygoel arall - "Priodi Pwy?!"

Podpeth
Podpeth #45 - "Acagnacnag"

Podpeth

Play Episode Listen Later Oct 2, 2017 79:25


Wythnos yma, mae Elin yn dysgu'r hogiau am y gwahaniaeth rhwng "ac" ac "ag", mae Hywel yn trio cyfathrebu heb ddefnyddio geiriau ac mae Iwan yn teimlo bod y Podpeth yn cyrraedd low point. Mathonwy Llwyd o Y Reu sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter. Hefyd, mae gan Dad syniad newydd - "Prawf Sgrin".

Podpeth
Podpeth #44 - "Um Bongo Mags"

Podpeth

Play Episode Listen Later Sep 18, 2017 109:09


Podpeth hir iawn wythnos yma, ond ddim Bonws, felly mae'n iawn yndi?Mae Hywel ac Elin yn mynd ar wyliau ac mae Iwan yn dynwared Tom Jones. Yn Class Cymraeg, 'da ni'n cael fwy o ddiarhebion, ac efallai bod ni'n clywed yr Odpeth gwaethaf erioed - "Irma Help Kids With Porn Money". Sori. Hefyd, mae gan @SpursMel syniad am ffilm - KGBale.

Podpeth
Podpeth #43 - "Geriatric Mutant Ninja Plwmsans"

Podpeth

Play Episode Listen Later Sep 11, 2017 86:10


Mae Iwan yn ail-ddychmygu y Gruffalo o'r newydd, mae Elin yn dyfal donc yn Class Cymraeg, mae Hywel yn holi Hywel (Williams AS) ac mae @SpursMel yn pitchio SyniaDad newydd - "2050". Fydd y Bonws gyda sgwrs cyfan efo Hywel Williams allan yn fuan... Dilynwch ni ar Twitter @podpeth a cysylltwch drwy'r wefan - podpeth.com

ninjas mutant geriatrics elin gruffalo hywel hywel williams mae iwan podpeth
Podpeth
Podpeth #42 - "Ma' Wcw Yn Hyll a Sgeri"

Podpeth

Play Episode Listen Later Sep 4, 2017 72:37


Cyfarchion! Spoiler Alert - mae Elin, Hywel ac Iwan yn trafod Game of Thrones wythnos yma, ac yn ailgreu golygfa yn y Gymraeg. Mae Elin yn siarad am faint o sgeri ydi Wcw, ac yn dysgu'r hogia am cyplysnodau yn Class Cymraeg, ac mae Hywel wedi bod ar RADIO CYMRU wythnos yma, a di Iwan ddim yn hapus am y peth!Hefyd, mae gan Dad syniad newydd - "Sêl Y Sêr".

Podpeth
Podpeth #41 - Steddfod 2017

Podpeth

Play Episode Listen Later Aug 28, 2017 120:30


Shwmae! Podpeth - Steddfod Sbeshal! Wel, dim o Bodeds, ond wedi ei recordio yng Nghaernarfon wythnosau wedyn. Mae Elin yn dysgu'r hogiau am do bach, mae Iwan yn nôl gyda Odpeth (Hebog a Neidr yn Ennyn Gwŷdd), a chawn glywed cân arbennig Hywel i Tommo o'r Eisteddfod, a pherfformiad stand-up Iwan yn noson Cabarela! Hefyd, mae Dad yn nôl gyda SyniaDad newydd - "Procar Poeth".

dad wel iwan tommo hywel eisteddfod hefyd nghaernarfon mae elin podpeth
Podpeth
Podpeth #40 - "Ffabouffe"

Podpeth

Play Episode Listen Later Jul 31, 2017 77:02


Wythnos yma mae Elin, Hywel ac Iwan yn sôn am sound system Dan Owen, Jim Dyson, a hunllef gwaethaf atheists, tra mae Hywel yn cael vanilla latte sy'n achosi meigryn. Mae Elin yn dysgu'r 'ogia am tafodiaeth, a mae Iwan yn cyflwyno Odpeth od iawn - Ti Ddim Ar Ben Dy Hun. Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd - "Cadair Cerddorion".

Podpeth
Podpeth #39 - Sesiwn Fawr 2017

Podpeth

Play Episode Listen Later Jul 24, 2017 66:17


Wythnos yma mae Elin, Hywel ac Iwan yn cerdded o gwmpas Dolgellau ar y Dydd Sul, lle mae Iestyn Tyne yn bwyta wyau a'r comedïwr Dan Thomas yn trafod The Room. Yn ogystal â hyn, mae Guto Howells, Gerwyn Murray, Gwilym Bowen Rhys a Gruff Jones yn ymddangos, ac mae Iwan yn sôn am be ddigwyddodd pan aeth o am suit fitting. Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd - "Lle Mae Wali?".

Podpeth
Podpeth #38 - "Umami!"

Podpeth

Play Episode Listen Later Jul 17, 2017 109:20


Wythnos yma mae Elin, Hywel ac Iwan yn trafod Umami, y blas sydd ddim yn sur, chwerw, hallt neu felys. Hefyd ar yr agenda mae Wacky Races, Elon Musk, mabolgampau ac enwau brenhinol. Dim gwestai wythnos yma, ond mae 'na Odpeth - Jackson Chwilod (Pollock), ac mae Elin yn dysgu'r hogiau am dybl N ac R a'r goben yn Class Cymraeg. Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd - "O Bacchus I'r Bar".

Podpeth
Podpeth #37 - Gŵyl Arall 2017

Podpeth

Play Episode Listen Later Jul 9, 2017 45:20


Er bod yr hogiau heb gael gwahoddiad i recordio podlediad arbennig yn fyw o Ŵyl Arall, mi wnaethom fynd a'r recordydd sain lawr i Gaernarfon yn ystod yr wyl ar b'nawn Dydd Sadwrn yn yr haul, a dros awr mewn 4 leoliad gwahanol, mi wnaethom lwyddo i recordio...  Podpeth!Dim Elin, SyniaDad, Class Cymraeg, Postpeth, Gwestai Arbennig 'na Odpeth wythnos yma, mond Iwan a Hywel yn yfed ac yn mwydro.  Mwynhewch!

er iwan hywel arall gaernarfon podpeth
Podpeth
Podpeth #36.5 - "Dai Sgyffaldi 2"

Podpeth

Play Episode Listen Later Jun 27, 2017 71:58


Rhan 2 o Podpeth 36! Yn y bennod yma mae Hywel, Elin ac Iwan yn trafod hanes cymeriadau comedi Cymru, Wetherspoons, a chwmnïau Cymraeg!Mae Miss Elin yn dysgu'r hogiau'r gwahaniaeth rhwng gyrru, anfon a danfon yn Class Cymraeg. Hefyd, mae gan Dad syniad newydd - "Y Targed". Cysylltwch drwy'r wefan (podpeth.com) yn anhysbys, neu'n gyhoeddus drwy Twitter - @Podpeth

Podpeth
Podpeth #36- "Dai Sgyffaldi"

Podpeth

Play Episode Listen Later Jun 26, 2017 68:44


Rhan 1 o Podpeth 36! Yn y bennod yma mae Hywel, Elin ac Iwan yn trafod newyddiaduraeth, gwleidyddiaeth, y gwahaniaeth rhwng chick pea a runner bean, a pam bod Rupert The Bear yn gwisgo'r trowsus 'na?! Yn ymuno dros y we o Abertawe yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf mae'r bardd Elan Grug Muse, sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter! Mae cyfrol newydd Grug (Ar Ddisberod) ar gael rŵan. Mae Iwan hefyd yn cyflwyno Odpeth yr wythnos (Sgert Cwl). Cadwch lygad allan am Ran 2 (Podpeth 36.5) i glywed SyniaDad wythnos yma (Y Targed) a Class Cymraeg!  

ran elin iwan yn hywel abertawe mae iwan podpeth
Podpeth
Podpeth #35 - "Plismon Cachu Trwsus"

Podpeth

Play Episode Listen Later Jun 12, 2017 94:02


Gyda senedd grog a dyfodol ansicr, mae Elin, Hywel ac Iwan yn trafod rhyw ar teli, Rastafarianism ac yoga! Mae Miss Elin yn dysgu'r hogia sut i dreiglo yn gywir yn Class Cymraeg, mae Hywel yn cyflwyno Odpeth yr wythnos ("Bark Zuckerberg"), ac mae Iwan yn gofyn y cwestiynau pwysig i gyd fel "pwy fysa'n curo mewn ffeit - Sting ta Rag'N'Bone Man?". Hefyd, mae Dad (@SpursMel) efo SyniaDad newydd - "Fy Hoff Raeadr".

Podpeth
Podpeth #34 - "Pleidleisio"

Podpeth

Play Episode Listen Later Jun 5, 2017 74:40


Wythnos yma, mae Hywel, Elin ac Iwan​ yn trafod yr etholiad. Mae Miss Elin yn dysgu'r hogiau'r gwahaniaeth rhwng "cychwyn" a "dechrau", a phryd i ddefnyddio Y neu Yr. Mae Hywel yn cyflwyno Odpeth yr wythnos ("Marty McFine"), ac yn lle BONWS, mi fydd y BONWS Odpethau yn mynd ar ei'n sianel YouTube (sydd dal yn llwyth o nymbyrs a llythrennau randym fel UCzl9hDsPh1uhnpZS1Ipd9zQ gan nad oes ddigon o danysgrifwyr). Hefyd, mae Dad (@SpursMel ar Twitter) efo SyniaDad newydd - "Yr Ods".

Podpeth
Podpeth #33 - "Ansensitif"

Podpeth

Play Episode Listen Later May 29, 2017 109:52


Mae Hywel ag Elin yn hungover (eto) ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc, ac mae Iwan yn benderfynol o fod yn ddwys drwy son am derfysgaeth. Mae Miss Elin yn dysgu'r hogiau sut i ddweud os ydi gair yn fenywaidd neu wrywaidd, mae Iwan yn cyflwyno Odpeth yr wythnos ("Tigerist"), ac ar ôl i bethau droi yn ddifrifol, mae Hywel yn cytuno i fod yn gyfrifol am Odpeth wythnos nesaf. Elidyr Glyn (Bwncath) sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth). Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd - "Lleoli'r Llwch".

Podpeth
Podpeth #32 - "Clwb Tatws Alaw Gin"

Podpeth

Play Episode Listen Later May 22, 2017 92:43


Mae Hywel, Iwan ag Elin yn hungover yn y bennod yma, ac yn siarad am amryw o bethau dibwys a gwirion. Mae Miss Elin yn dysgu'r hogiau am arddodiaid, mae Iwan yn cyflwyno Odpeth yr wythnos ("Haka Na'n Mental"), ac mae Hywel yn switchio off. Elidir Jones (@ElliotSquash, Fideo Wyth, Plant Duw, Y Porthwll, Griff Y Ci, ayyb) sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth). Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd - "Styffylau".

Podpeth
Podpeth #31 - "Roc a Rol"

Podpeth

Play Episode Listen Later May 15, 2017 84:31


Mae Hywel, Iwan ag Elin yn nôl gyda Podpeth ar ei newydd wedd, gyda jingles a phethau go wir! Yr Odpeth gyntaf erioed, y Class Cymraeg gyntaf erioed, ac mae Lisa Angharad yn ateb eich cwestiynau Twitter!Hefyd, mae @SpursMel efo syniad newydd - Ffrinj. *YMWRTHODIAD* - Mae Hywel yn sôn am ei gig "wythnos nesaf", ond yr wythnos wedyn mae'r gig, felly disgwyliwch glywed yr un plyg wythnos nesaf.