Gwrachod Heddiw

Follow Gwrachod Heddiw
Share on
Copy link to clipboard

Trafod hefo rhai o genod mwyaf di-flewyn-ar-dafod Cymru.Podlediad yn dathlu merched Cymru, trwy geisio canfod pa nodweddion mae nhw’n ei rannu hefo gwrachod confensiynol.


    • Oct 31, 2021 LATEST EPISODE
    • infrequent NEW EPISODES
    • 58m AVG DURATION
    • 14 EPISODES


    Search for episodes from Gwrachod Heddiw with a specific topic:

    Latest episodes from Gwrachod Heddiw

    Trafod gyda Lauren Albertina-Morais - Cathod Sassy, Beyonce a bod yn ffrind gorau i chdi dy hun

    Play Episode Listen Later Oct 31, 2021 62:44


    CALAN GAEAF HAPUS WITCHEZ! Dyma bennod newydd o Gwrachod Heddiw i ddathlu. Yn y bennod yma, dwi'n siarad hefo'r actor / perfformiwr / bardd / cyfarfwyddwr o fri Lauren Albertina-Morais am yr holl bethau sydd yn ei gwneud hi'n wrachaidd. Mwynhewch Hags, A Plis @iwch fi hefo'ch gwisgoedd gwrachaidd! Byddwch wych, Byddwch Wrachaidd 

    Trafod gyda Mhara Starling : Swyngyfaredd, Doethgrefft, Trawsffobia a bwlio.

    Play Episode Listen Later Aug 17, 2021 99:38


    Sgwrs gyda'r swynwraig Mhara Starling am wir ystyr y term "Gwrach". Yn y bennod hir hon o Gwrachod Heddiw, mae Mhara yn sôn am hanes swyngyfaredd a doethgrefft yng Nghymru, ei hanes personol hi a'r rhwystrau mae hi wedi wynebu yn ei bywyd i gyrraedd lle mae hi rŵan.  Sgwrs ddwys, ddigri ac ysbrydol! Byddwch Wych, Byddwch Wrachaidd xoxo

    Trafod gyda Mahum Umer : Cynrychiolaeth, Iechyd Meddwl a Ffitio Mewn

    Play Episode Listen Later Jul 19, 2021 63:31


    Sgwrs am Iechyd meddwl, cynrychiolaeth o ferched ifanc Mwslimaidd yn y cyfryngau yng Nghymru a ffitio mewn. Ymunwch hefo Mari Elen mewn sgwrs gwrachaidd hefo'r awdur ifanc Mahum Umer, un o gyd-awduron cyfres y Pump. 

    Trafod Hefo Llinos Anwyl

    Play Episode Listen Later May 11, 2021 62:00


    Trafod hefo'r wrach Llinos Anwyl am ei chelf, pwer geiriau, pwysau teulu ar dy hunaniaeth a sut oedd merched yn cosbi dynion oedd yn gneud petha rybish yn yr hen ddyddiau. 

    Trafod Hefo Emmy Stonelake

    Play Episode Listen Later Apr 20, 2021 62:00


    Yr actor a'r model Emmy Stonelake ydy'r wrach dwi'n sgwrsio hefo heddiw, am nabod dy hun, cathod, drag race a bod yn ferched blewog ✨ 

    Trafod Hefo Mirain Fflur

    Play Episode Listen Later Mar 30, 2021 62:10


    Nabod dy werth, nabod dy gorff a Jini Me Jos. Sgwrs hefo'r perfformiwr / gwneuthiwr theatr a'r artist, Mirain Fflur am yr holl bethau sydd yn ei gwenud hi'r gwrach ydy hi. Mwynhau y podlediad? Hoffwch, tanysgrifiwch a rhowch adolygiad bach. Mae o'n gwneud BYD o wahaniaeth, coeliwch chi fi! Trydarwch gan ddefnyddio #GwrachodHeddiw i adael i mi wybod pa bethau Gwrachaidd 'dachi 'di bod yn gwneud, rhannwch hefo ffrind a sleidiwch mewn i'n DMs i. Bydwch wych, byddwch wrachaidd XOXO

    Trafod Hefo Hanna Hopwood Griffiths

    Play Episode Listen Later Dec 21, 2020 62:47


    Heuldro'r Gaeaf Hapus fy swynwragedd ysbennydd!Ym mhennod ola'r gyfres mi ydw i'n trafod hefo'r Academwrach hyfryd Hanna Hopwood Griffiths am ferched yr oesoedd canol , gwallt, esgor a sut mae hi'n gwneud ei bywyd hi'n haws. Diolch am eich cefnogaeth yn ystod y misoedd diwethaf, dwi'n lyfio witchez fi. 

    Trafod hefo Mama Lleuad

    Play Episode Listen Later Dec 9, 2020 59:55


    Doula, Mam, Gwrach o Waunfawr. Sgwrs hefo'r hyfryd Mama Lleuad (Catrin Jones) am foddion, rhianta, placenta a natur. Mwynhewch! 

    Trafod hefo Llio Maddocks

    Play Episode Listen Later Nov 25, 2020 43:56


    "Pan dwi'n cymharu'n ateb wan hefo be dd'udodd Mared Llywelyn am ri mwyar duon ym mhoced ei chwaer dwi fatha: Wyt ti'n serious?!" Sgwrs hefo'r bardd a'r awdur Llio Maddocks am berthnasau, Ffrindiau, Matilda, yr obsesiwn hefo : "Dwi ddim fatha' genod eraill", periods a lot o chwerthin! Mwynhewch! 

    Trafod hefo Bethan Gwanas

    Play Episode Listen Later Nov 4, 2020 55:10


    Madarch, cwtshus i goed, byw ben dy hun ac wrth gwrs Siwsi Dôl-y-Clochydd. Sgwrs hefo Brenhines byd gwrachaidd Cymru, Bethan Gwanas. "Hefo synhwyro ysbrydion,  ella dyna pam dwi'n gallu byw mewn tŷ ben fy hun... ma' ‘na ysbrydion bob man, dwi'm yn gweld nhw... poeni dim arna fi” 

    Trafod Hefo Nia Llinos

    Play Episode Listen Later Oct 21, 2020 40:18


    "Mae menywod yn treulio eu holl bywydau yn rhoi pŵer nhw a rhoi gwaed nhw a rhoi egni nhw mewn i bobl erill fel teulu a partneriaid a pethe, ond mae gwrachod yn pobl sy'n troi y pŵer 'na nôl at ei hun." Sgwrs gyda'r awdur a'r dramodydd Nia Llinos am bod yn od,  yn lleiafrifol a sut mae horror yn helpu hefo gor-bryder. 

    Trafod hefo Efa Lois

    Play Episode Listen Later Oct 8, 2020 51:04


    Positifrwydd, Gwrachod, Ffrogiau o'r 70au a chydig bach o Chwedloniaeth.  Sgwrs gyda'r pensaer a'r arlunydd holl alluog, Efa Lois. Sgwrs hyfryd am godi llais pan bod angen, y broses creu a meithrin syniadau a'i chariad at cyd-ferched... a gwrachod.

    Trafod hefo Gwennan Mair Jones

    Play Episode Listen Later Sep 24, 2020 54:21


    Piriyds, Corff, Dyslecsia a tylluan o'r enw Bili. Sgwrs onest hefo Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd, Gwennan Mair Jones. "Os dani'n meddwl am y classics... dwi methu hedfan na?" Mwynhewch sgwrs hyfryd hefo gwrach hyfryd.

    Trafod hefo Mared Llywelyn

    Play Episode Listen Later Sep 9, 2020 40:35


    "Ma'n ffrindia fi'n d'eud fi 'sa'r person cynta' i ga'l fy hudo mewn i ymuno hefo cult"Sgwrs gyda'r dramodydd Mared Llywelyn am ei natur cenedlaetholgar, ei bro, ei chyfnod yn y brifysgol a Hocus Pocus. Mwynhewch! 

    Claim Gwrachod Heddiw

    In order to claim this podcast we'll send an email to with a verification link. Simply click the link and you will be able to edit tags, request a refresh, and other features to take control of your podcast page!

    Claim Cancel