Podlediad am Ddinas Bangor a phêl-droed yn y byd Cymraeg.
Tro yma, mae yna ddau gyfweliad: yr un cyntaf efo hyfforddwr newydd y tim cenedlaethol Chris Coleman (yn y Saesneg) ac yr ail un efo cefnogwr Dinas Bangor Ian Gill. Am fwy o wybodaeth, ewch i'r tudalen Facebook Mwydro ym Mangor ac i mwydroymmangor.wordpress.com. Cofiwch danysgrifio i'r podlediad trwy iTunes.
Nid jyst Neville Powell sydd yn rheoli tîm ym Mangor. Tro yma, mae Jonathan Ervine yn siarad efo rheolwr ail dim Dinas Bangor, Haydn Jones. Am fwy o wybodaeth am y podlediad, edrychwch ar mwydroymmangor.wordpress.com. Cofiwch eich bod chi’n medru tanysgrifio i’r podlediad drwy iTunes.
Tro yma, mae Jonathan Ervine yn trafod stadium newydd Dinas Bangor yn Nantporth efo Richard Williams a Pete Jones. Hefyd, mae'r bennod hon yn cynnwys adroddiad am Dorothy a Florence, yr ieir sydd yn rhagweld canlyniadau'r gemau mawr. Cofiwch tanysgrifio i'r podlediad trwy iTunes.
Mae pennod yma ydy'r un olaf i gael ei recordio yn Ffordd Farrar. Mae Jonathan Ervine yn siarad efo caplan Dinas Bangor Geraint Roberts ac yn clywed barn Marc Lloyd Williams am y symudiad i Nantporth. Cofiwch tanysgrifio i'r podlediad tryw iTunes ac i sbio ar dudalen Facebook Mwydro ym Mangor.
Mae Jonathan Ervine yn siarad am y gêm olaf yn Ffordd Farrar efo ysgrifenydd Dinas Bangor Gwynfor Jones, y darlledwr a chefnogwr Bangor Ian Gill, y rheolwr Neville Powell ac y llywydd y clwb Gwyn Pierce Owen. Cofiwch tanysgrifio i'r podlediad tryw iTunes ac edrychwch ar y blog sydd ar mwydroymmangor.wordpress.com.
Mae yna lawer o bobl sydd wedi sgorio goliau yn Ffordd Farrar dros y flyneddoed. Rhywun sydd wedi sgorio llawer o weithiau efo Bangor, ac yn erbyn Bangor hefyd, yw Marc Lloyd Williams. Ym mhennod yma, mae Jonathan Ervine yn cyfweld 'Jiws' am Ddinas Bangor, sgorio goliau a safon yr Uwch Gynghrair Cymru. Am fwy o wybodaeth, ewch i mwydroymmangor.wordpress.com neu y dudalen Facebook Mwydro ym Mangor.
Ym mhennod yma, mae Jonathan Ervine yn trafod dilyn Dinas Bangor o bell efo Carwyn Edwards. O ardal Bodedern yn wreiddiol, mae Carwyn yn byw yn Arizona ac yn gwrando i'r sylwebaeth cefnogwyr Radio Bangor (ar gael ar www.bangorcitizens.com). Hefyd, mae Jonathan yn son am ei atgofion o Gary Speed.
Tro yma, dan ni'n mynd i Nantporth a thrafod cae newydd Dinas Bangor efo swyddogion a chefnogwyr y clwb yn cynnwys Gwynfor Jones, Les Pegler, Ian Gill a Gwyn Pierce Owen. Cofiwch tanysgrifio i'r podlediad tryw iTunes ac edrych ar y dudalen Facebook Mwydro ym Mangor ac y blog ar mwydroymmangor.wordpress.com.
Yr ail rhan o'r sgwrs efo Ian Gill. Tro yma, mae o'n son am 'Radio Bangor' sydd yn darlledu sylwebaeth cefnogwyr o gêmau Dinas Bangor. Hefyd, mae o'n trafod diwedd Ffordd Farrar, stadiwm Dinas Bangor sydd yn croesawu gêm am y tro olaf ar Rhagfyr 27. Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar mwydroymmangor.wordpress.com neu y grŵp Facebook Mwydro ym Mangor.
Tro yma, mae Glynne Roberts yn son am lyfyr mae o'n ysgrifennu am hanes Dinas Bangor yn Ffordd Farrar. Hefyd, mae Cwpan y Byd Rygbi wedi rhoi syniad i Jonathan Ervine am sut i wella pêl-droed yng Nghymru. Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar dudalen Facebook 'Mwydro ym Mangor' neu y blog mwydroymmangor.wordpress.com.
Mae Gareth Williams yn trafod y ffaith bod Dinas Bangor yn glwb sy wedi chwarae yng Nghymru ac yn Lloegr. Hefyd, mae'r ieir sydd yn rhagweld canlyniadau y gemau mawr yn dod yn ol. Am fwy o wybodaeth a fideos, sbiwch ar dudalen Facebook 'Mwydro ym Mangor' neu y blog mwydroymmangor.wordpress.com.
Mae Dinas Bangor yn symud ond pa fath o stadiwm bydd yna yn Nantporth ble mae'r cae newydd yn cael ei hadeiladu? Mae Gwynfor Jones, ysgrifennydd y clwb yn ateb a chefnogwr o'r enw Gareth Williams yn mynegi ei farn o am y faith bod y clwb yn symud. Am fwy o wybodaeth am bodlediad hwn, edrychwch ar y dudalen Facebook 'Mwydro ym Mangor' neu y blog www.mwydroymmangor.wordpress.com.
Mae'r darlledwr Ian Gill (Radio Cymru) yn trafod darlledu am bêl-droed a serennau'r Uwch Gynghrair Cymru galluog i ddilyn yn nghamre Robbie Savage a chystadlu ar Strictly Come Dancing. Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar y dudalen Facebook 'Mwydro ym Mangor' neu y blog www.mwydroymmangor.wordpress.com.
Mae Dafydd Hughes o Gymdeithas Cefnogwyr Dinas Bangor yn trafod pwysigrwydd grwpiau cefnogwyr ac mae llywydd Dinas Bangor Gwyn Pierce Owen yn sôn am ei berthynas efo'r clwb a Ffordd Farrar. Am fwy o wybodaeth am y podlediad, ewch i'r dudalen Facebook 'Mwydro ym Mangor' ac edrych ar y blog mwydroymmangor.wordpress.com. Cofiwch hefyd bod hi'n bosib i danysgrifio i'r podlediad trwy iTunes.
Mae'r newyddiadurwr chwaraeon Dave Jones (o'r Daily Post) yn trafod pêl-droed a dwy iâr o Langefni yn rhagweld y gêm yn yr Uwch Gynghrair Cymru rhwng Y Bala a Chaerfyrddin. Cofiwch mynd i'r dudalen Facebook 'Mwydro ym Mangor' ac edrych ar y blog mwydroymmangor.wordpress.com.
Ar faes yr Eisteddfod yn Wrecsam mae Jonathan Ervine yn trafod pêl-droed yng Nghymru efo Spencer Harris (Ymddiredolaeth Cefnogwyr Wrecsam), Ian Gwyn Hughes (Cymdeithas Pêl-droed Cymru) a Gary Speed, hyfforddwr y Tîm Cenedlaethol. Am fyw o wybodaeth, ewch i dudalen Facebook 'Mwydro ym Mangor' neu mwydroymmangor.wordpress.com.
Mae Les Pegler yn cofio'r gêm rhwyng Manchester United a Chymru yn Ffordd Farrar yn 1969, a dwy iâr o Langefni yn rhagweld canlyniad y Community Shield (edrychwch ar y fideo ar y dudalen Facebook 'Mwydro ym Mango'r neu y blog: mywydroymmangor.wordpress.com). O hyn ymlaen, mi fydd yna bennod newydd o’r podlediad bob yn ail Ddydd Mercher.
Sut dach chi'n dweud 'Shoes off if you love Bangor' yn y Ffinneg? Diolch i Gymro o'r enw Glyn Banks sydd yn byw yn Helsinki, mi wnewch chi ffeindio allan os dach chi'n gwrando ar bennod hon am y daith i'r brifddinas y Ffindir ar gyfer y gem yn erbyn HJK Helsinki.
Pennod cyntaf podlediad am Glwb Pêl-droed Dinas Bangor a phêl-droed yn y byd Cymraeg. Mae Jonathan Ervine yn trafod y gem rhwyng Dinas Bangor a HJK Helsinki efo sylwebydd S4C David James a chyn-myfyrwraig Prifysgol Helsinki Edith Gruber.