POPULARITY
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Rhagfyr yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Geirfa ar gyfer y bennod:-CLIP 1Beiriniaid: JudgesIas: A shiverChwerw-felys: Bitter sweetDiniwed: InnocentCynhyrchwyr: ProducersClyweliadau: AuditionsHyfforddwyr: CoachesEwch amdani: Go for itSylwadau: CommentsY Bydysawd: The UniverseCyfarwyddwr: DirectorCLIP 2Lleoliad: LocationGwerthfawrogi: To appreciateHeb os: Without doubtYn ei hawl ei hun: In its own rightDenu cynulleidfa: To attract an audienceDifreintiedig: DisadvantagedWedi elwa: Has profitedYn sylweddol: SubstantiallyFyddwn i'n dychmygu: I would imagineYn bellgyrhaeddol: Far reachingY tu hwnt i: BeyondAchlysuron arbennig: Special occasionsCLIP 3Yn achlysurol: OccasionallyTroedio yn ofalus: Treading carefullyI raddau: To an extentYmwybodol: AwareAgweddau: AspectsRhagrith: HypocrisyEithafiaeth: ExtremismAr yr ymylon: On the fringesFfydd: FaithCLIP 4Cic o'r smotyn: PenaltyErgyd: A shotY cwrt cosbi: Penalty areaYsbrydoli: To inspireMenywod: ffordd arall o ddweud MerchedCLIP 5Cyd-destun: ContextAgweddau: AttitudesBuddsoddiad: InvestmentCynnydd: IncreaseParhau i ddatblygu: Continuing to developCarfan: SquadCLIP 6Atgofion: MemoriesCerddoriaeth: MusicCerrig milltir: MilestonesTegan: ToyCLIP 7Bugeiliaid: ShepherdsDrama'r Geni: NativityBraint: A privilegeY Ceidwad: The SaviourUnig: LonelyMynyddig: MountainousDeuddeg can erw: 1200 acresTerfynau: BoundariesEang: ExtensiveAwydd: DesireEr bore oes: Since childhoodCLIP 8Agorawd: OvertureGwisgoedd: DressesCystadleuol tu hwnt: Extremely competitiveHeriol: ChallengingCerddorfa: OrchestraYsgafnder: LightnessGwaith caib a rhaw: Spadework er mai ‘pick and shovel' ydy' caib a rhaw' fel arferCynhyrchiad: ProductionUchafbwynt: HighlightHyblyg: Flexible
Gyda chyfarchion yr Ŵyl, croeso mawr i chi i bennod mis Rhagfyr, 2024 o Clera. Mae gyda ni wledd o lyfrau a sgyrsiau â'r beirdd a'u saerniodd ar eich cyfer. Cawn gwmni felly, Christine James, Daniel Huws, Meleri Davies a Dafydd John Pritchard, sydd oll newydd gyhoeddi cyfrolau newyd sbon. Ewch ati i'w prynu fel anrhegion Nadolig, neu jyst fel llyfrau gwerth eu cael. Hefyd cawn glywed y Delicysi gan Tudur Dylan ac mae ein beirniad llym, Gruffudd Antur yn ei ôl i ddewis y llinell gynganeddol ddamweiniol y mis orau ar gyfer mis Rhagfyr. Hyn oll, a mwy o'r dwli arferol! Ac os hoffech wneud cyfraniad ariannol i'n helpu ni i ddatblygu'r podlediad, ewch i: https://www.crowdfunder.co.uk/p/podlediad-clera Nadalek llawen i chi gyd!
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Tachwedd yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.
Pigion Dysgwyr – Crempog Roedd hi'n Ddydd Mawrth Ynyd ddydd Mawrth diwetha a chafodd Shan Cothi gwmni Lisa Fearn, y gogyddes a'r awdures, ar ei rhaglen. Dyma Shan a Lisa yn sgwrsio am grempogau neu bancos!!!! Dydd Mawrth Ynyd Shrove TuesdayCrempogau/pancos PancakesPoblogaidd PopularIseldiroedd NetherlandsFfrimpan Padell ffrioBurum YeastDwlu ar Hoff iawn oGwead TextureTwym CynnesDodi Rhoi Pigion Dysgwyr – Cefn Shan Cothi a Lisa Fearn oedd y rheina'n sôn am y gwahanol mathau o grempogau sydd i'w cael. Dych chi'n cael problemau gyda'ch cefn? Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae bron i filiwn o bobl y Deyrnas Unedig yn dweud eu bod nhw'n rhy dost i weithio oherwydd poen yn eu cefnau. Cafodd Gwyn Loader, oedd yn cadw sedd Jennifer Jones yn dwym bnawn Mawrth, sgwrs gyda Fflur Roberts o Gaernarfon, sy'n ffisiotherapydd ers pymtheg mlynedd. Gofynnodd Gwyn iddi hi'n gynta oedd hi'n credu bod y nifer o bobl sy'n gweithio o gartre ers y pandemig wedi gwneud y sefyllfa'n waeth? Swyddfa Ystadegau Gwladol Office for National StatisticsYn rhy dost Yn rhy sâlY Deyrnas Unedig The UKCymalau JointsGwanio To weaken Pigion Dysgwyr – Chicago Y pandemig wedi gwneud drwg i'n cefnau ni yn ôl y ffisiotherapydd Fflur Roberts a chyngor pwysig iawn ganddi am yr angen i symud o'r sgrîn bob hyn a hyn.. Mae Cymdeithas Gymraeg Chicago yn dathlu chwarter canrif o fodolaeth eleni. Aelod o'r Gymdeithas yw Catrin Rush o ardal Aberporth ger Aberteifi yn wreiddiol, a chafodd hi sgwrs gyda Aled Hughes ddydd Mercher. Gofynnodd Aled iddi hi faint o aelodau oedd gan y Gymdeithas... Chwarter canrif Dau ddeg pum mlyneddBodolaeth ExistenceTu fas Tu allanDigwyddiad EventGoleuo IlluminatedPigion Dysgwyr – Y Lleuad Llongyfarchiadau mawr i Gymdeithas Gymraeg Chicago a phob hwyl ar y dathlu on'd ife? Bore Iau diwetha cafodd Gwenllian Grigg a Dylan Ebenezer gwmni Geraint Jones ar Dros Frecwast i sôn am deithiau roced i'r lleuad gan gychwyn ym mis Rhagfyr 1972. Unol Daleithiau USAY lleuad The moonGlanio To landLlwyddiannus ofnadwy Terribly successfulGofodwyr AstronautsPridd SoilLlwch DustAflwyddiannus UnsuccessfulYmdrechion Attempts Pigion Dysgwyr – Rex Ychydig o hanes teithiau i'r lleuad yn fanna ar Dros Frecwast. Fore Gwener diwetha ar eu rhaglen cafodd Trystan ac Emma gwmni y ffermwr o Abergwaun Charles Lamb. Mae gan Charles gi defaid annwyl iawn o'r enw Rex. Mae Rex yn dipyn o gymeriad ac yn fwy na pharod i ddangos i Charles beth mae e'n hoffi a beth mae e'n ei gasau Yn fwy na pharod More than readyFfindir Finland Pigion Dysgwyr – Aderyn y MisRex yn ei gwneud yn glir nad oedd e am fynd i'r gwely! Bob mis ar ei rhaglen mae Shan Cothi yn cael cwmni yr adarwr Daniel Jenkins Jones i sôn am Aderyn y Mis. Y tro ‘ma y Gornchwiglen oedd o dan y chwyddwydr a dyma Daniel i sôn mwy am yr aderyn arbennig hwn…. Adarwr OrnithologistCornchwiglen LapwingChwyddwydr Microscope Yn gyfarwydd Familiar Nythu To nest Wedi prinhau Has become scarce Gwarchodfeydd natur Nature reserves Pert Del Adenydd Wing Pluen Feather Trawiadol Striking
1 John ac Alun – ymweld â Phorthdinllaen: Ar drothwy Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni aeth John ac Alun am dro o gwmpas eu hoff lefydd ym Mhen Llŷn, a dewis John oedd cael mynd draw i Borthdinllaen, a rhoi gwahoddiad i Meinir Pierce Jones, un o ferched yr ardal i ddod yno am sgwrs.Arwyddocâd Significance Cysgod diogel Safe shelter Delfrydol Ideal Dyfnder Depth Porthladdoedd Ports Gofaint Blacksmith Seiri Carpenters Safle diwydiannol An industrial site Gan fwya Mostly Argian Good Lord Trochi traed Paddling2 Clip Aled Hughes:Mae hi'n anodd meddwl am Borthdinllaen fel safle diwydiannol yn tydy? Tybed faint o'r twristiaid sy'n mynd yno bob blwyddyn sy'n gwybod am hanes y lle?Ac mi arhoswn ni ym Mhen Llŷn efo'r clip nesa ‘ma. Ar Orffennaf y 26ain y llynedd, wrth edrych ‘mlaen at Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, mi gafodd Aled Hughes gwmni'r Archdderwydd Myrddin ap Dafydd ac aeth y ddau i gopa'r Eifl, a dyma chi flas o'u sgwrs.Awgrym A suggestion Machlud Sunset Rhufeiniaid yn cilio The Romans withdrawing Anwybyddu To ignore Gwyddelod Irish people Gwaywffon Spear Penwaig Herring Dinasyddiaeth Citizenship Diwylliedig Cultured Tyndra ar y ffin Tension on the border3 Beti a'i Phobol:Dipyn bach o hanes ardal yr Eifl yn fanna gan yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd.Sioned Lewis oedd gwestai Beti a'i Phobol ar y 7fed o Fai 2023. Mae Sioned yn Gwnselydd ac yn Seicotherapydd ac yn dod yn wreiddiol o Ddolwyddelan yn Sir Conwy. MI fuodd hi'n gweithio mewn sawl maes gwahanol, yn gwerthu tai, yn y byd teledu a gyda Mudiad Ysgolion Meithrin. Sioned ydy Cwnselydd y rhaglen Gwesty Aduniad ar S4C. Yn y clip hwn mae hi'n sôn am ei hamser yn dioddef o gancr y fron:Archdderwydd Archdruid Cancr y fron Breast cancer Efo chdi Gyda ti Cwffio Ymladd Dychmygu Imagining Cyfres Series Triniaethau Treatments Ffydd Faith Blin Yn grac Ymdopi Coping Y blaenoriaeth The priority4 Bore Cothi:Sioned Lewis oedd honna'n siarad am ei phrofiad o fod efo cancr y fron.Ar Fedi'r 27ain y llynedd, mi roedd Max Boyce yn dathlu ei ben-blwydd yn 80, ac i nodi'r garreg filltir arbennig yma mi fuodd Max allan ar y ffordd unwaith eto yn perfformio mewn cyfres o gyngherddau. Mi gafodd Shan sgwrs efo Max cyn y daith, gan gychwyn drwy ofyn oedd y penderfyniad i deithio eto'n un anodd? Carreg filltir Milestone Yr hewl (heol) The road Rhoi'r ffidil yn y to To give up Cwpla Gorffen Ysbrydoli To inspire Clwb gwerin Folk club Uniaethu To identify Ystyried To consider5 Caryl Parry Jones: Y bytholwyrdd Max Boyce yn dathlu ei ben-blwydd drwy berfformio - wel be arall ynde? Yn ôl ym mis Mai 2023 cafodd Caryl sgwrs gyda Heather Hughes. Mae Heather yn aelod o grŵp nofio Titws Tomos Môn. Yn 2019 mi gafodd hi waedlif ar yr ymennydd a chyflwr o'r enw Hydrocephalus, sef dŵr ar yr ymennydd. Ers hynny mae hi'n nofio yn y môr ym mhob tywydd. Yn y clip hwn cawn glywed Heather yn sôn am ei phrofiad, a pha mor llesol ydy nofio yn y môr iddi hi:Bytholwyrdd Evergreen Gwaedlif ar yr ymennydd Brain haemorrhage Cyflwr Condition Llesol Beneficial Poblogrwydd Popularity Llwythi Loads Goro Gorfod6 Trystan ac Emma:Dyna enw da ar y grŵp ynde – Titws Tomos Môn!Ddechrau mis Rhagfyr mi gafodd Rhaglen Trystan ac Emma wahoddiad i Gaffi Largo ym Mhwllheli. Mi fuodd yna lawer o hwyl a sbri yn y caffi - yn siarad efo'r staff ac efo pobl leol. Un ohonyn nhw oedd Christine Jones o dre Pwllheli:Haeddu To deserve Bobol annwyl! Goodness me! Brolio To boast Yn rhagori Surpasses Nionyn picl Pickled onion7 Ffion Dafis:Christine Jones – un o gymeriadau ardal Pwllheli yn dod â llwyth o hwyl a chwerthin i Gaffi Largo'r dre.Ac yn ardal Pwllheli oedd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni wrth gwrs ac yno cafodd fersiwn e-lyfr o'r nofel boblogaidd iawn, Un Nos Ola Leuad gan Caradog Pritchard, ei lawnsio, efo'r actorion John Ogwen a Maureen Rhys yn ei darllen. Yn y clip hwn ar raglen Ffion Dafis mae John yn sôn am y tro cynta daeth o ar draws y nofel:Digwyddiad Event Gwerthfawrogi To appreciate Beirdd Poets Lleuad Moon Gwên ryfeddol A wonderful smile Dagrau Tears Atgof Recollection
Croeso i bennod mis Rhagfyr o Clera. Mae 'na gymysgedd o eitemau Nadolig ac eitemau oesol yn y bennod hon. Cawn y fraint o rannu darlith Gurffudd Antur a Peredur Lynch o Blas Mostyn, fel rhan o ŵyl Gerallt yng Nghaerwys. Delicasi Dolig gan Tudur Dylan Jones, Gorffwysgerdd nadoligaidd o gyfrol newydd Rhys Dafis ac englynion newydd sbon gan y Prifardd-Archdderwydd, Mererid Hopwood. Mwynhewch a Nadolig Llawen i chi gyd.
Pigion 12fed Rhagfyr:1 Bore Coth:Pan oedd Shân Cothi yn darlledu o'r Ffair Aeaf yn Llanelwedd yn ddiweddar, mi wnaeth hi gyfarfod â dwy fenyw, sef Francis Finney a Marcia Price. Roedd y ddwy wedi penderfynu dysgu Cymraeg, felly dyma eu gwahodd ar Fore Cothi am sgwrs:Darlledu Broadcasting Cancr y fron Breast cancer Diolch byth Thank goodness Dipyn bach yn iau A little bit younger2 Beti a'i Phobol:Francis a Marcia oedd y ddwy yna, ac mi roedden nhw wedi dysgu Cymraeg yn wych gyda Dysgu Cymraeg Gwent yn doedden nhw?Prif ganwr y band Edward H. Dafis, Cleif Harpwood, oedd gwestai Beti George nos Sul diwetha. Mae cwmni recordiau Sain newydd ryddhau casgliad o holl draciau'r band iconig hwn, er mwyn dathlu hanner can mlynedd ers iddyn nhw ffurfio. Yma mae Cleif yn sôn am ei ddyddiau efo'r bandiau Edward H Dafis ac Injaroc:Rhyddhau To release Cerddorion penna(f) Leading musicians Yn eitha disymwth Quite suddenly Y gynulleidfa The audience Arbrofi To experiment Atgas Obnoxious Y fath wawd Such scorn Bradwyr Traitors Cyfoes Modern Esblygu To evolve3 Trystan ac Emma Gwener 1af Rhagfyr:Hanes diddorol bywyd byr y band Injaroc yn fanna gan Cleif Harpwood.Bob Nadolig dros gyfnod yr Adfent mae trigolion pentref Corris ger Machynlleth yn addurno eu ffenestri. Ar Trystan ac Emma yn ddiweddar mi fuodd un sy'n byw yn y pentre, sef Elin Roberts, yn sgwrsio am y traddodiad arbennig yma yn y pentref:Addurno To decorate Dadorchuddio To unveil Ymgynnull To congregate Cynllunio To plan Goleuo To light 4 Aled Hughes:Yn tydy hi'n braf gweld yr holl oleuadau Dolig yng nhai pobl yr adeg hon o'r flwyddyn? Da iawn pobl Corris am wneud y mwya o gyfnod yr Adfent.Drwy'r wythnos diwetha ar ei raglen mi fuodd Aled Hughes yn siarad efo gwahanol unigolion sydd wedi cymryd rhan yn ymgyrch Defnyddia Dy Gymraeg Comisiynydd yr Iaith. Mae'r sgyrsiau yn pwysleisio sut mae defnyddio'r Gymraeg wedi bod o fantais yn y gwaith o ddydd i ddydd. Yn y clip yma mae Aled yn sgwrsio efo Gareth Williams, un o hyfforddwyr y Scarlets am sut mae o'n defnyddio'r Gymraeg yn ei waith:Mantais Advantage Hyfforddwyr Coaches Cyfathrebu Communicating Y prif nod The main aim Carfan Squad Cryn dipyn Quite a few Agwedd Aspect Adborth Feedback Unigolyn Individual Cyfarwydd Familiar5 Dros Ginio:Gareth Williams oedd hwnna'n gweld mantais mawr mewn defnyddio'r Gymraeg i gyfathrebu efo aelodau o garfan y Scarlets.Ddydd Mawrth y 5ed o Ragfyr roedd hi'n Ddiwrnod Rhyngwladol Gwirfoddoli. Mae Ruth Marks o Gyngor Gweithredu Gwirfoddoli Cymru, wedi dweud fod y sector o dan bwysau ofnadwy. Hedd Thomas, o'r Cyngor, a Gwenno Parry sy'n gwirfoddoli gyda Radio Ysbyty Gwynedd fuodd yn tafod hyn efo Jennifer Jones ar Dros Ginio:Gwirfoddoli To volunteer Pwysau Pressure Argyfwng Crisis Gostyngiad Reduction Cyfleoedd Opportunities Cynrychioli To represent Trafferthion Problems Difrifol Serious Newydd raddio Just graduated Wedi bod wrthi Been at it6 Ifan Jones Evans:Wel dyna ni , tasech chi eisiau helpu allan efo'r gwaith gwirfoddoli cysylltwch â'r mudiad gwirfoddoli lleol. Dw i'n siŵr bydd yna ddigon o gyfleodd i chi.Brynhawn Mercher diwetha, cychwynnodd Ifan ar gyfres newydd o sgyrsiau ar ei raglen. Mae o'n trafod hoff bethau'r Dolig gyda gwestai arbennig bob wythnos, o rwan tan Dolig. A dechreuodd o mewn steil a hynny yng nghwmni Gary Slaymaker:Cymdeithasu To socialise Cwrdda lan To meet up Ymwybodol Aware Sbort Hwyl Yn llethol Overwhelming Nadoligaidd Christmasy Emynau Hymns Cytgan Refrain Nefolaidd Heavenly
1 Bore Cothi: Sioe Aeaf.Ddydd Llun Tachwedd 27 roedd rhaglen Bore Cothi yn darlledu o'r Ffair Aeaf yn Llanelwedd. Cafodd Shân gwmni mam a merch, sef Ffion a Leia Lloyd-Williams o fferm Bathafarn ger Rhuthun. Roedden nhw wedi bod yn dangos ceffyl yn y Ffair, sut aeth hi tybed?Darlledu Broadcasting Y Ffair Aeaf The Winter Fair Gwisg Costume Fel pin mewn papur Immaculate Awyrgylch Atmosphere Rhan-frîd Part breed Is-bencampwr Reserve Champion2 Ffion Emyr: Tips Pwdin Dolig.Roedd Ffion, Leia a Shân hefyd i weld wrth eu boddau gyda'r Ffair Aeaf on'd oedden nhw? Ddydd Sul Tachwedd 26 roedd hi'n Stir Up Sunday sef y Sul ola cyn yr Adfent, a dyma'r diwrnod traddodiadol i bobl wneud eu pwdin Dolig! Y nos Wener cyn hynny rhannodd Ffion Emyr ychydig o dips ar sut i wneud pwdin Dolig. Roedd Ffion wedi casglu'r tips yma gan chefs enwog fel Delia Smith, Andrew Dixon a Nigella Lawson. Socian To soak Fel rheol As a rule Gorchuddio To cover Llysieuol Vegetarian Blawd Flour Ffigys Figs Cnau wedi malu Chopped nuts Ychwanegwch! Add! Sinsir Ginger Heb wres Without heat 3 Carl ac Alun Gwener 24ain yn lle Trystan ac Emma: Dr Who.Wel dyna ni felly, o dan y gwely â'r pwdin Dolig! Tips defnyddiol iawn yn fanna gan Ffion Emyr. Wel mae Dr Who yn ôl! Dych chi wedi cael cyfle i weld y gyfres newydd eto? Dw i'n siŵr bod Ianto Williams o Faesybont ger Caerfyrddin wedi ei gweld gan ei fod yn superfan y gyfres. Fore Gwener Tachwedd 24, Carl ac Alun oedd yn cadw sedd Trystan ac Emma yn gynnes rhwng 9 ag 11 a chaethon nhw sgwrs gyda Ianto a'i glywed yn sôn am ei gasgliad o ddeunyddiau Dr Who Cyfres Series Casgliad Collection Deunyddiau Materials Gwerthfawr Valuable Wedi ei arwyddo Signed Halais i Mi wnes i anfon Yn amlwg Obviously Unigryw Unique Cyfrannu at To contribute to4 Ffion Dafis: Aled Hall mewn opera newydd.Ianto Williams oedd hwnna'n sôn am ei gasgliad o ddeunyddiau Dr Who. Aled Hall, y tenor operatig o Bencader, Sir Gaerfyrddin oedd yn cadw cwmni i Ffion Dafis yn ddiweddar. Yn y clip hwn, mae Aled yn trafod ei ran yn yr opera newydd Men Sheds, gafodd ei chyfansoddi gan y cerddor Lenny Sayers. Mae'r opera hon yn ceisio codi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl dynion:Cafodd ei chyfansoddi Was composed Codi ymwybyddiaeth Raising awareness Cymeriad Character Aeth ati Went at it Ymdrin â Dealing with Ymgynnull To congregate Cymunedau di-rif Countless communities Cysyniad Concept Angen trafod Need to discuss5 Aled Hughes:Mae'n dda gweld opera ar thema modern er mwyn codi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl, on'd yw hi? Wythnos diwetha, Arwyn Tomos Jones o Brifysgol Caerdydd, fuodd yn sôn am hen feddyginiaethau gydag Aled Hughes. Dyma i chi flas ar y sgwrs: Meddyginiaethau Medicines Canrif Century Hollol hurt Totally stupid Ysgyfaint Lung Danadl poethion Stinging nettles Dant y Llew Dandelion Tlodi Poverty Cyn bwysiced â As important as Moddion Medicine Hylif Liquid Dim sail No foundation6 Dros Ginio:Dyna ddiddorol on'd ife fel roedd pobl yn defnyddio‘r byd natur o'n cwmpas yn feddyginiaethau yn y gorffennol. Ddydd Mawrth diwetha, banciau bwyd oedd yn cael sylw ar Dros Ginio gyda Jennifer Jones. Mae mwy a mwy o alw am y banciau bwyd y dyddiau hyn, ond mae llai ac yn llai o bobl yn cyfrannu bwyd at y banciau. Yn y clip hwn, Trey McCain, Rheolwr Banc Bwyd Arfon sy'n egluro'r sefyllfa i Jennifer. Mae Trey yn dod o Mississippi yng ngogledd America yn wreiddiol ond wedi dysgu Cymraeg yn rhugl. Budd-daliadau Benefits Hanfodol Essential Gwendidau Weakness Credyd Cynhwysol Universal credit Cyflenwadau Provisions Pwysau Pressure Galluogi To enable Pryderus Concerned Neges The shopping Uniongyrchol Direct Ar y gweill In the pipeline
Pigion Dysgwyr – Heledd Sion ...dwy Heledd - Heledd Cynwal a'r gwestai ar ei rhaglen, Heledd Sion. Buodd y ddwy yn sôn am fyd ffasiwn ac yn arbennig felly am ddillad ail law. Dyma Heledd Sion yn esbonio sut dechreuodd ei chariad hi at ffasiwn, a pham aeth hi ati i werthu hen ddillad ar y we Uwch seiclo To upcycle Gwinio To sew Cyfnither Female cousin Gwehyddu Weaving Yn llonydd Still Addasu To adapt Awch Eagerness Esblygu To evolve Didoli To sort Buddsoddi To invest Pigion Dysgwyr - Francesca Sciarillo Heledd Cynwal yn fanna'n cadw sedd Shan Cothi'n gynnes ac yn sgwrsio gyda Heledd Sion am uwch seiclo dillad. Francesca Sciarillo oedd Dysgwr y Flwyddyn yr Urdd yn 2019 ac eleni mae hi wedi bod yn gweithio fel tiwtor Cymraeg i Oedolion. Eidalwyr ydy rhieni Francesca, ac ar raglen Dei Tomos nos Sul buodd hi'n dweud faint o ddylanwad gafodd ei hathrawes Gymraeg arni, sef Nia Williams, pan oedd Francesca yn ddisgybl yn Ysgol Alun yr Wyddgrug . Disgybl Pupil Yr Wyddgrug Mold Dylanwad Influence Eidales Italian (female) Sylweddoli To realise Darganfod To discover Pigion Dysgwyr – Dion Davies Ac mae Francesca newydd gael ei phenodi fel swyddog hybu darllen yn adran blant y Cyngor Llyfrau. Pob lwc iddi yn ei swydd newydd on'd ife? A sôn am lwc, prynodd yr actor Dion Davies docyn loteri pan oedd e'n ymddangos mewn pantomeim yn Aberdaugleddau fis Rhagfyr, ond anghofiodd e bopeth am y tocyn. Dyma Dion yn sôn am beth ddigwyddodd pan oedd e'n gwagio ei gar ddechrau Chwefror… Ymddangos To appear Gwagio To empty Hap a damwain Chance Sa i'n gallu Dw i ddim yn medru Pencadlys Headquarters Pigion Dysgwyr – Costa Rica Dyna beth yw sioc braf i'w chael – gwagio'r car a ffeindio eich bod wedi ennill pum deg pump o filoedd o bunnau ar y loteri! Nos Lun roedd y naturiaethwr Iolo Williams yn sôn am ei ymweliad â Costa Rica. Gwlad fechan ydy hi, tebyg i Gymru ond mae sawl peth yn wahanol rhwng y ddwy wlad a dyma Iolo‘n sôn ychydig am y gwahaniaethau rhwng Costa Rica a Chymru… Dylanwad Influence Argraff Impression Amrywiol Varied Gwlad werdd A green country Tebygrwydd Similarity Cynefinoedd Habitiats Amcangyfrif Estimate Gorchuddio To cover Ugain y cant 20% Pigion Dysgwyr – Angela Owen Mae Iolo Williams yn amlwg wrth ei fodd gyda Costa Rica, on'd yw e? Nos Iau ar ei rhaglen cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Angela Owen. Mae Angela a'i ffrindiau wedi sefydlu Clwb Cerdded yn Mhen Llŷn a dyma hi‘n esbonio pam gwnaeth hi benderfynu sefydlu'r clwb arbennig yma yn y lle cynta Sefydlu To establish Awyr iach Fresh air Anhygoel Incredible Diogel Safe Pigion Dysgwyr – Jac y Do Angela Owen oedd honna'n sôn am lwyddiant Clwb Cerdded Pen Llŷn. Bob mis mae Daniel Jenkins Jones yn sgwrsio ar raglen Shan Cothi am aderyn y mis. A'r aderyn y mis yma oedd Jac y Do. Heledd Cynwal oedd unwaith eto'n cadw sedd Shan yn gynnes ddydd Mercher a dyma i chi flas ar y sgwrs cafodd hi gyda Daniel. Jac-y-Do Jackdaw Golygfa aeafol Winter scenery Ar ein gwarthau ni Imminent Heidio To flock Drudwennod Starlings Gwlad yr haf Somerset Wrth iddi nosi As the night draws in Cynrhon Maggots Enw torfol Collective noun
Troi'r Tir – Cofio'r Nadolig 18.12 Buodd Troi'r Tir yn hel atgofion am Nadoligau'r gorffennol. Un o'r rheini siaradodd ar y rhaglen oedd Bessie Edwards o Gribyn ger Llanbedr-Pont-Steffan, a dyma hi'n cofio dydd Nadolig oedd yn wahanol iawn i Nadoligau'r dyddiau hyn... Hel atgofion Recollecting Tylwyth Teulu Arferiad A custom Celyn Holly Addurno To decorate Dim byd neilltuol Nothing particularly Melysion Sweets Cyngerdd cystadleuol A competitive concert Adloniant Entertainment Bore Cothi – Alwyn Sion 20.12 Blas ar Nadoligau'r gorffennol yn fanna gydag atgofion Bessie Edwards. Yn ystod wythnos y Nadolig ar Bore Cothi clywon ni Shan Cothi yn holi gwahanol bobl beth yw ystyr y Nadolig iddyn nhw. Dyma i chi Alwyn Sion yn sôn am sut oedd cymuned ffermio ardal Meirionnydd yn paratoi at yr Ŵyl….. Gwyddau Geese Nefoedd Heaven Plentyndod Childhood Prysurdeb Business Pluo To pluck Cynnau tân To light a fire Llygad barcud A keen eye Rhwygo To tear Braster Fat Glynu To stick Aled Hughes Rysait Nadolig 19.12 Pluo twrci ar gyfer ei rostio oedd Alwyn a'i deulu mae'n debyg, ond nid dyna sut oedd hi ers talwm. Dyma Elin Thomas yn esbonio wrth Aled Hughes sut oedd pobl yn coginio twrci yn y gorffennol pell... Brodorol Native Darganfod To discover Y cyfnod Tuduraidd The Tudor Age Poblogaidd Popular Ymhlith Amongst Bonheddig Aristocratic Uchelgeisiol Ambitious Y bedwaredd ganrif ar bymtheg 19th century Ymarferol Practical Cyfrol Tome Trystan ac Emma – Iwan Jones 16.12 Dw i'n siŵr bod nifer ohonon ni wedi bwyta llawer gormod dros yr Ŵyl, ond mae angen i Iwan Jones o Lwynygroes ger Tregaron fod yn ofalus iawn faint a beth mae e'n ei fwyta, a hynny oherwydd ei fod yn hoff iawn o gystadlu mewn cystadlaethau Ironman. Mae Iwan newydd ddod yn ôl o'r Unol Daleithiau ar ôl cystadlu ym mhencampwriaeth Ironman y byd. Dyma fe'n esbonio wrth Trystan ac Emma sut mae paratoi at gystadleuaeth o'r fath... Wedi bennu Wedi gorffen Ymroddiad Commitment Cyffwrdd To touch Egni Energy Yn feddyliol gryf Mentally strong Llonydd Tranquil Dros Ginio – Traddodiadau'r Nadolig 19.12 Iwan Jones oedd hwnna'n sôn am sut mae paratoi'n gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer cystadleuaeth Ironman. Ar Dros Ginio cafodd Dewi Llwyd sgwrs gyda'r hanesydd Nia Watkin Powell am hanes Gŵyl y Nadolig. Dyma i chi flas ar y sgwrs... Cymharol diweddar Fairly recent Cydnabuwyd Was acknowledged I ryw raddau To some extent Yr Ymerodraeth Rufeinig The Roman Empire Mabwysiadu To adopt Troad y rhod Solstice Ailymddangos To reappear Led-led Throughout Wedi goroesi Has survived Dynodi To note Cofio – Nadolig 21.12 Diddorol on'd ife, bod cymaint o arferion y Nadolig wedi dod yn wreiddiol o'r oes cyn Crist. Ac i orffen yr wythnos hon dyma glip o raglen Cofio gyda W J Jones o Fangor yn cofio cinio Nadolig anarferol gafodd e yn yr Aifft adeg yr Ail Ryfel Byd. Yr Aifft Egypt Y lluoedd arfog The Armed Forces Gweinyddiaeth Administration Rheidrwydd Necessity Ufuddhau To obey Pa mo afresymol bynnag However unreasonable be it Byddent Basen nhw Llw tragwyddol An eternal oath Atgas Detestable Yn awchus Eagerly
Radio Ysbyty – Codi Calon Claf 18.12 Nos Sul buodd Huw Stephens yn rhoi hanes dyddiau cynnar Radio Ysbyty Glangwli Caerfyrddin, gafodd ei sefydlu bum deg mlynedd yn ôl. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Huw gyda sylfaenydd yr orsaf, y darlledwr Sulwyn Thomas Cafodd ei sefydlu Was established Sylfaenydd Founder Darlledwr Broadcaster Fy annwyl wraig My dear wife Cadeirio Chairing Ffodus Lwcus Cymysgu'r sain Mixing the sound Ro'n i'n methu'n deg I couldn't at all Aelod selog A faithful member Ambell I Gan – Bronwen Lewis 11.12 Ychydig o hanes sefydlu Radio Ysbyty Glangwli yn fanna gan Sulwyn Thomas. Cafodd Gwennan Gibbard gwmni'r gantores Bronwen Lewis ar y rhaglen Ambell i Gân. Gofynnodd Gwenan iddi hi yn gynta pwy sydd wedi dylanwadu arni hi Dylanwadu To influence Tyfu lan Tyfu fyny Tad-cu Taid Emynau Hymns Traddodiadol Traditional Yn grac Yn flin Cyfweliad Interview Swnllyd Noisy Swynol Beautifully Ffili Methu Bore Cothi - Banc Bwyd Eglwys Crist 13.12 Bronwen Lewis oedd honna'n sôn am ei theulu cerddorol. Dydd Mawrth ar Bore Cothi aeth Shan Cothi i Eglwys Crist Caerfyrddin ble mae aelodau'r eglwys wedi sefydlu banc bwyd ar gyfer y gymuned. Yn gyntaf dyma y Parchedig Delyth Richards gyda ychydig o gefndir y fenter Parchedig Reverend Esgob Bishop Bendithio To bless Addoli To worship Cynnyrch Produce Blwch Box Yn gyson Regularly Beti a'I Phobl – Marc Howells 18.12 Da iawn aelodau Eglwys Crist, ond dyw hi'n drueni bod rhaid agor banciau bwyd y dyddiau hyn? Gwestai Beti George ar Beti a'i Phobol bnawn Sul oedd Marc Howells o Ddinbych yn wreiddiol, fe yw pennaeth Adnoddau Dynol y cwmni meddyginiaeth Astro Zeneca. Adnoddau Dynol Human Resources Meddyginiaeth Medicine Llywodraethau Governments Datblygu To develop Diwydiant gwyrdd Green industry Yr amgylchedd The environment Aled Hughes – Joseff Gnagbo 14.12 Golwg bach gwahanol yn fanna ar waith y cwmni meddyginiaeth Astro Zeneca ar Beti a'i Phobol. Bore Mercher cafodd Aled Hughes gwmni Joseff Gnagbo. Daw Joseff o'r Traeth Ifori yn wreiddiol cyn iddo fe orfod ffoi oddi yno. Erbyn hyn mae'n byw yng Nghymru ac yn rhugl yn y Gymraeg. Gofynnodd Aled iddo fe beth mae Cymru wedi ei gynnig iddo fe…. Gorfod ffoi Had to escape Cyfrannu To contribute Personoliaeth Personality Ymladd To fight Trefedigaeth Colony Annibyniaeth Independence Hyrwyddo To promote Troi'r Tir – Jamie Stroud 12.12 Joseff Gnabo , wnaeth ffoi o'r Traeth Ifori , dod yn rhugl yn y Gymraeg ac sydd nawr yn gweithio fel tiwtor Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Gwych on'd ife? Un arall sy wedi dysgu Cymraeg ydy Jamie Stroud sy'n gweithio ar fferm lysiau gydweithredol Tyddyn Teg ger Caernarfon. Mae'r fferm yn cyflenwi 170 o focsys llysiau yr wythnos i'r gymuned leol yn ogystal â chynnal siop fferm, becws a llysiau i siopau a bwytai lleol. Buodd Jamie ar raglen Troi'r Tir ddydd Llun i esbonio mwy am waith y fferm Cydweithredol Cooperative Cyflenwi To supply Hinsawdd Climate Bwydydd Cyflawn Wholefoods Anarferol Unusual Pannas Parsnips Cynhaeaf To harvest Meithrinfa planhigion Plant nursery Hau hadau Sowing the seeds Cnwd Crop Bresych Cabbage
Nadolig llawen i chi gyd! Ym mhennod mis Rhagfyr o Clera bydd Gruffudd a'i Ymennydd llawn Manion yn trafod llinacahu barddol gyda ni yn y Pwnco, a detholiad o rai o hoff gerddi'r beirdd yn yr Orffwysfa, gyda Steffan Phillips, Mari George, Carwyn Eckley, Lowri Lloyd a Llŷr James. Nadolig dedwydd i chi gyd a diolch i bawb sy'n gwrando ar hyd y flwyddyn.
Bore Cothi – Rhys Taylor 5.12 Beth yw eich hoff garol Nadolig? Falle cewch gyfle i glywed y band jazz, Rhys Taylor a'i Fand, yn ei pherfformio ar Carioci Carolau Cothi cyn y Nadolig. Dyma Rhys Taylor ei hun ar raglen Bore Cothi wythnos diwetha yn sôn am ei hoff garolau e.... Traddodiadol Traditional Morio canu Singing their hearts out Poblogaidd Popular Amrywiaeth Variety Sioeau cerdd Musicals (Carolau) plygain Traditional Welsh carols Trefniant Arrangement Cydio To grasp Croen gwŷdd Goosebumps Disglair, pur, nefolaidd Brilliant, pure, heavenly Caryl – Llanllwni 5.12 Carioci Carolau Cothi, rhywbeth i edrych ymlaen ato on'd ife? Ac mae plant bach ardal Llanllwni ger Llanbedr Pont Steffan yn edrych ymlaen bob bore i weld pa ddrygioni mae'r hen gorachod ar y silff wedi bod yn ei wneud yn ystod y nos, fel clywon ni gan Nerys Thomas ar raglen Caryl... Drygioni Naughtiness Corachod Elves Wedi gwirioni'n lân Infatuated with Peth diweddar A recent thing Beti A'i Phobol – Shan Ashton 11.12 Mae plant ysgol feithrin Llanllwni wir yn edrych ‘mlaen at y Dolig on'd yn nhw? Shan Ashton oedd gwestai Beti ar Beti a'i Phobol bnawn Sul. Mae Shan wedi cael gyrfa amrywiol ac wedi gorfod magu ei phlant ar ei phen ei hun, ar ôl iddi hi a'i gŵr wahanu pan roedd y plant yn ifanc. Sut wnaeth hi ymdopi â'r sefyllfa anodd yma? Dyna un o gwestiynau Beti iddi hi... Gwahanu To separate Ymdopi â To cope with Cymdogion Neighbours Heb eu hail Second to none Asgwrn cefn Backbone Llifo To saw Man a man Might as well Agwedd iach A healthy attitude Breintiedig Privileged Dros Ginio – John Eifion a Helen Medi 5.12 Shan Ashton oedd honna yn sgwrsio gyda Beti George Bob dydd Llun mae Dewi Llwyd ar Dros Ginio yn cael cwmni 2 cyn 2. Tro brawd a chwaer oedd hi yr wythnos hon, John Eifion a Helen Medi. Mae'r ddau yn gerddorol iawn a chafodd y ddau eu magu ar fferm Hendre Cennin rhwng Penygroes a Chricieth yng Ngwynedd. Dyma Helen i ddechrau yn sôn am eu magwraeth... Magwraeth Upbringing Aelwyd Hearth Arddegau Teenage years Cymdeithasau Societies Diddanu To entertain Dylanwadu To influence Deuawd Duet Cylchwyl A local festival Llenyddol Literary Rheolaidd iawn Very regularly Aled Hughes – Adrian Cain 7.12 John Eifion a Helen Medi yn sôn am eu magwraeth gerddorol ar fferm Hendre Cennin . Dydd Mercher cafodd Aled Hughes sgwrs gydag Adrian Cain o Ynys Manaw. Mae Adrian yn athro yn unig ysgol Manaweg yr ynys sef Bunscoill Ghaelgagh (yngenir fel ‘Bynsgwl gilgach'). Mae Adrian yn siarad pedair iaith - Cymraeg, Manaweg, Gwyddeleg a Saesneg. Dechreuodd Adrian ddysgu Cymraeg tua phum mlynedd yn ôl ac mae e nawr yn dysgu ychydig o Gymraeg i blant yr ysgol ar Ynys Manaw. Ynys Manaw Isle of Man Manaweg Manx Gwyddeleg Irish Language Tŵf Growth Ifan Evans Eden 6.12 On'd yw hi'n braf clywed am dŵf y Manaweg? Pob lwc iddyn nhw ar Ynys Manaw gyda'u hiaith arbennig. Mae gan y grŵp Eden sengl Nadolig allan sef Adre Nôl, a phrynhawn ddydd Mawrth cafodd Ifan Evans siawns i sgwrsio gyda Non Parry o'r grŵp gan ofyn iddi hi yn gynta beth oedd hi'n gwneud y prynhawn hwnnw. Addurno To decorate Goleuadau Lights
Bore Cothi - Huw Williams 29.11 Ddechrau'r wythnos buodd Sian Cothi yn darlledu o'r Ffair Aeaf yn Llanelwedd. Dydd Mawrth cafodd gyfle i siarad ag un o filfeddygon yr Ŵyl sef Huw Williams o Dywyn, Meirionydd. Beth yn union yw gwaith y milfeddygon yn ystod y Ffair Aeaf? Dyma Huw yn esbonio... Ffair Aeaf Winter Fair Milfeddygon Vets Darlledu Broadcasting Hamddenol Leisurely Archwilio To inspect Anhygoel Incredible Y cylch The ring Beirniad Judge Rhesymu'n gyhoeddus Outlining the reasons publicly Arddangoswyr Exhibitioners Beti a'I Phobl – Sylvia Davies 4.12 Blas ar waith milfeddygon y Ffair Aeaf yn fanna ar Bore Cothi. Sylvia Davies oedd gwestai Beti George bnawn Sul . Dyma i chi ran o'r sgwrs ble mae hi'n esbonio pam wnaeth hi benderfynu mynd i'r brifysgol i astudio anthropoleg ar ôl iddi hi ddechhrau gweithio mewn banc... Doedd fy mryd i ddim I wasn't inclined Trywydd traddodiadol A traditional path Aeth ar gyfeiliorn Went astray Ennill fy nhamed To earn my living Gradd Degree Tystiolaeth Evidence Tystysgrif Certificate Dyrchafiad Promotion Mo'yn Eisiau Crefydd Religion Dros Ginio – Rhys Mwyn 28.11 Sylvia Davies oedd honna'n esbonio wrth Beti George beth wnaeth iddi hi benderfynu mynd i brifysgol yn hytrach nag aros yn y banc. Nia Ceris oedd yn cyflwyno Dros Ginio bnawn Llun a chafodd hi sgwrs gyda'r cyflwynydd radio a'r archeolegydd Rhys Mwyn am y mosaig anhygoel o oes y Rhufeiniaid cafodd ei ffeindio ar dir fferm yn Swydd Rutland. Ydy hi'n bosib i rywbeth mor hen a hynny fod mewn cyflwr da? Dyma beth oedd gan Rhys i'w ddweud... Y Rhufeiniaid The Romans Cyflwr Condition Wedi cael llonydd Been undisturbed Goroesi To survive Aredig Ploughed Ail gladdu To rebury Cofnodi To record Y bedwaredd ganrif The fourth century Chwalu To destroy Gaeafau garw Rough winters Tir sad Stable land Caryl – Professor Llusern 30.11 Beth fydd yn digwydd i'r mosaig hwnnw tybed, fydd e'n cael ei ail gladdu fel roedd Rhys yn ei awgrymu? Cawn weld on'd ife? Cafodd Caryl Parry Jones gyfle i sgwrsio â chonsuriwr nos Fercher o'r enw Professor Llusern. Mae e'n dod o Fostyn yn Sir y Fflint a gofynnodd Caryl iddo fe pa mor anodd yw hi i ymuno â'r Magic Circle….neu'r Cylch Hud….. Consuriwr Magician Hen ddywediad Old saying Cyfrinachau hud a lledrith Magic secrets Enwebu To nominate Dros dro Temporary Wir o ddifri Really serious Bore Cothi - Cwn Selsig 30.11 Wel dyna ni, os dych chi'n ffansio bod yn gonsuriwr, dych chi gwybod beth i'w wneud nawr. Erbyn bore Mercher roedd criw Shan Cothi wedi dod yn ôl o'r Ffair Aeaf yn Llanelwedd i'r stiwdio yng Nghaerfyrddin lle cafodd gyfle i siarad ag Emma Hughes sydd yn berchennog ar Seth. Ci Daschund yw Seth ag Emma yw sefydlydd Cymdeithas Cŵn Selsig Gogledd Cymru, a gofynnodd Shan iddi hi‘n gynta faint o aelodau sydd yn y gymdeithas Sefydlydd Founder Perchennog Owner Mae gen i ofn I'm afraid Pryderon Worries Gweddol rhwydd Eitha hawdd Ifan Evans – Llanbed 1.12 Ramp i gŵn selsig – dyna dda on'd ife? Aeth criw Rhaglen Ifan Evans allan o'r stiwdio ddydd Iau a mynd draw i Lanbedr Pont Steffan gan ei bod yn noson siopa hwyr y dref. Cafodd Ifan gyfle i holi Meinir Evans gwraig leol ddechreuodd busnes pobi yn ystod y cyfnod clo. Gofynnodd Ifan iddi hi'n gynta beth yn union yw'r busnes Pobi To bake Y cyfnod clo Lockdown Syndod o dda Surprisingly well Shwd (sut) fraint Such a privilege Cacs Cacennau Ffili Methu Ieuenctid Youth Deugain mlynedd 40 years Ddim digon o blwc Not brave enough Danteithion Delicacies
FSA (feirws syncytaidd anadlol) yw un o'r firysau mwyaf cyffredin sy'n achosi peswch ac annwyd. Mae'n cylchredeg yn eang yn y DU yn ystod misoedd yr hydref a'r gaeaf, gan gyrraedd ei uchafbwynt ym mis Rhagfyr. Mae bron pob plentyn wedi'i heintio â'r firws erbyn ei fod yn ddwy flwydd oed. Gall FSA achosi peswch neu annwyd mewn plant ac oedolion, ond mewn plant ifanc dyma brif achos bronciolitis. Mewn gwirionedd, dyma achos mwyaf cyffredin bronciolitis mewn plant o dan ddwy oed. Yn y bennod hon, mae ein harweinydd iechyd Amanda yn esbonio sut i adnabod arwyddion FSA a beth allwch chi ei wneud i'w lleddfu, gan gynnwys pryd i gael cyngor gan eich meddyg neu help gan y gwasanaethau brys. Nodyn: Mae'r recordiad hwn yn gyfieithiad o drawsgrifiad Amanda i'r Gymraeg, wedi'i ddarllen gan ein Cydlynydd Gwybodaeth a Rhwydwaith Cymru, Dylan.
Mae wedi bod ychydig yn amser ers i ni glywed ddiwethaf gan ein hathrawon dan hyfforddiant, a heddiw gallwch chi glywed gan sawl un ohonyn nhw! Mae'r cysyniad o ymchwil ac ymholi yn ganolog i fodel ymarfer clinigol addysg gychwynnol ymchwil Caerdydd Met, ac mae'n bleser clywed athrawon dan hyfforddiant yn amlinellu eu gweithgareddau ymchwil ac ymholi cynnar o'u lleoliadau ysgol cyntaf mor groyw.Fe wnaethom sefydlu ein prosiect 'bwth lluniau ymchwil ac ymholi' lle anfonodd ein hathrawon dan hyfforddiant fideos 'hunlun' 2-3 munud yn dweud wrthym beth yr oeddent wedi'i dynnu oddi wrth ddarn o ymchwil ac ymholiad. Mae Sioned a Rhian yn cyflwyno rhai ohonynt yn y bennod hon, ac yn trafod y lle ymchwil ac ymholi mewn addysg gychwynnol athrawon.-------------------------------Recordiwyd ar Gampws Cyncoed Prifysgol Fetropolitan Caerdydd ar 14eg Rhagfyr 2021
Why is my curriculum so white? What does it mean in practice to decolonise the curriculum? Many Universities are now developing initiatives to critically review their curricula and diversify the resources which underpin this. Marilyn Clarke Director of Library Services at Goldsmiths University. Abyd Quin Aziz (Cardiff University Programme Director in Social Work), Errol Rivera (Inclusive Curriculum Manager, Cardiff Learning and Teaching Academy) and Regina Everitt (Library Director, University of East London and author of Narrative Expansions: Interpreting Decolonisation in Academic Libraries – published December 2021) will discuss the issues with Tracey Stanley (Library Director and University Librarian, Cardiff University). Pam mae fy nghwricwlwm mor wyn? Beth mae'n ei olygu'n ymarferol i ddad-drefedigaethu'r cwricwlwm? Mae llawer o Brifysgolion bellach yn datblygu mentrau i adolygu eu cwricwla'n feirniadol ac amrywiaethu'r adnoddau sy'n sail i hyn. Marilyn Clarke (Cyfarwyddwr Llyfrgell, Prifysgol Goldsmiths Llundain), Abyd Quin Aziz (Cyfarwyddwr Rhaglen Prifysgol Caerdydd mewn Gwaith Cymdeithasol), Errol Rivera (Rheolwr Cwricwlwm Cynhwysol, Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd) a Regina Everitt (Cyfarwyddwr Llyfrgell, Prifysgol Dwyrain Llundain ac awdur Ehangu Naratif: Bydd Dehongli Dad-drefedigaethu mewn Llyfrgelloedd Academaidd – a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2021) yn trafod y materion gyda Tracey Stanley (Cyfarwyddwr Llyfrgell a Llyfrgellydd y Brifysgol, Prifysgol Caerdydd).
Ifan Evans - Diolch o Galon – IOAN TALFRYN – 28/12/21 Enwebodd Tony Williams ei diwtor Cymraeg, Ioan Talfryn, i dderbyn Tlws Diolch o Galon ar raglen Ifan Evans. Ond fel ‘Llywelyn' mae Ioan yn nabod Tony a chawn ni wybod pam hynny ar ôl i Ioan ateb galwad ffôn Ifan… Enwebu To nominate Tlws Trophy Cyfleus Convenient Cymorth Help Ar flaenau fy nhraed On my toes Astrus Anodd Yn barhaol Constantly Beti A'I Phobol – 02/01/22 – Kristofer Hughes Tony, neu, i roi ei enw dosbarth Cymraeg iddo fe, Llywelyn, yn Diolch o Galon i'w diwtor Cymraeg, Ioan Talfryn, ar raglen Ifan Evans. Mae sawl peth diddorol ac anarferol am Kristoffer Hughes. Mae e'n bagan, fe yw Pennaeth Derwyddon Ynys Môn, mae‘n awdur nifer o lyfrau am fytholeg a chwedlau Cymru. Fe oedd gwestai Beti George a dyma i chi flas ar y sgwrs gafodd e gyda Beti. Anarferol Unusual Pennaeth derwyddon Chief of the druids Chwedlau Fables Sbïwch Edrychwch Distawu To silence Urdd Order Defodau Rites Annog To encourage Yn gamp go iawn A real achievement Diwylliant Culture Munud i Feddwl – 30/12/21 – Helen Prosser Kristoffer Hughes yn fan'na yn canmol dysgwyr y Gymraeg, ac un sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr i ddysgu Cymraeg i oedolion yw Helen Prosser sydd yn un o gyfarwyddwyr strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol. Hi gaeth y cyfle ola i Ddweud ei Dweud yn 2021 a dyma hi'n edrych ar y pethau positif o‘r flwyddyn diwetha, ac hefyd yn edrych ymlaen at 2022. Cyfraniad enfawr Huge contribution Cyfarwyddwyr Directors Amgen Alternative Datblygu To develop Wedi ei ffrydio'n fyw Streamed live Cynulleidfa Audience Pwyslais Emphasis Troedio caeau To tread the fields Cymeradwyo To applause Diweddglo A finale Doniau Skills Geraint Lloyd – 29/12/21 – Rhianwen Condron Helen Prosser oedd honna'n dangos nad oedd 2021 yn ddrwg i gyd a bod lle i fod yn optimistaidd am 2022. Roedd Geraint Lloyd yn edrych yn ôl ar rai o sgyrsiau cofiadwy'r flwyddyn diwetha a dewisodd un gaeth e gyda Rhianwen Condron ddechrau mis Rhagfyr. Cafodd Rhianwen ei geni yng Nghymru ond symudodd i Stratford Upon Avon i fyw pan oedd hi'n 8 oed. Enillodd hi wobr Highway Heroes am ei gwaith yn helpu dynion sydd yn gweithio ar briffyrdd Prydain, gan gynnig cymorth iddyn nhw ymdopi gyda phroblemau iechyd meddwl... Cofiadwy Memorable Gwobr Award Priffyrdd Highways Ymdopi To cope Hewlydd (heolydd) Ffyrdd Pryd ‘ny That time Sut lwyddiant Such success Hala Anfon Oherwydd hyn Because of this Jim Parc Nest – 26/12/21 Rhianwen Condron oedd honna, sydd yn gwneud gwaith arbennig gyda rhai o weithwyr ffyrdd Lloegr. I gael eich galw'n Brifardd mae'n rhaid i chi ennill un ai'r Gadair neu'r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae'r Prifardd T. James Jones wedi ennill y ddwy ddwywaith ac mae ei ddau frawd yn Brifeirdd hefyd! Er mwyn ennill y Gadair mae'n rhaid sgwennu cerdd mewn cynghanedd, hen grefft sydd â llawer iawn o reolau cymhleth. Mewn rhaglen arbennig cafodd Nia Roberts sgwrs gyda'r bardd gan ofyn iddo'n gynta pam dechreuodd o sgwennu mewn cynghanedd…. Cymhleth Complicated Dylanwad Influence Braint Privilege Dw i'n dwlu Dw i wrth fy modd Arddull Style Beirniad Adjudicator Awgrymu'n gynnil To suggest in a subtle way Gor-glywed To overhear Y casgliad The conclusion Bore Cothi - Dydd Mawrth, 28ain o Ragfyr – Sian James Ac nid yn unig mae brodyr T James Jones yn Brifeirdd ond mae ei wraig, Manon Rhys, a'i nai, Tudur Dylan, yn Brifeirdd hefyd! Buodd Heledd Cynwal yn cyflwyno ambell raglen Bore Cothi dros y gwyliau ac yn un o'r rhaglenni hynny cafodd hi gwmni'r gantores Sian James ar slot Y Fordaith. Ble basai Sian yn mynd ar fordaith ddychmygol tybed? Cantores Female singer Mordaith ddychmygol Imaginary cruise O ystyried Considering Di o'm bwys Dyw e ddim yn bwysig Lodes Merch ifanc Profiad hyfryd A lovely experience Ddaru nhw Wnaethon nhw Tirwedd Landscape Trin a thrafod To discuss Rhinweddau Virtues
01. Aled Hughes – Elfyn Jones Does dim golygfa well, nac oes, na mynyddoedd Cymru yn wyn o dan eira ar ddiwrnod braf o aeaf. Mae'n demtasiwn mawr i fynd i ddringo'r mynyddoedd bryd hynny, on'd yw hi? Ond cofiwch, tasech chi'n mentro allan mae'r mynyddoedd yn gallu bod yn lefydd peryglus iawn, fel eglurodd Elfyn Jones sy'n gadeirydd Tîm Achub Mynydd Llanberis, wrth Aled Hughes Yn union Exactly Gorchuddio To cover Anhygoel Incredible Denu To attract Ceudyllau Potholes Twyllodrus Deceptive Amgylchiadau Circumstances Dyffrynnoedd Valleys Yn wirioneddol Really Offer Equipment 02. Cofio – Nia Roberts a Caryl Parry Jones Cyngor da gan Elfyn Jones yn fan'na ar raglen Aled Hughes – byddwch yn ofalus os dych chi am ddringo'r mynyddoedd yn y gaeaf. Mae'n siŵr ein bod yn clywed mwy o ganu adeg y Nadolig nag ar unrhyw adeg y flwyddyn, gyda charolau, caneuon am Sion Corn i'r plant bach a chaneuon pop Nadoligaidd i'r plant mawr! Ond beth sy'n gwneud cân Nadolig dda? Dyma i chi farn Nia Roberts a Caryl Parry Jones... Nadoligaidd Christmassy Naws Mood Cydio yn To attach to Myfyrio To reflect Addoli To worship Dyfynodau Quotation marks Ein heneidiau ni Our souls Hud a swyn Magic and enchantment Preseb Manger Dyheu am To yearn for 03. Dros Ginio – Betsan Powys ac R Alun Evans Ac ar ddiwedd y clip yna clywon ni ddarn o un o ganeuon Nadolig Caryl - “Drama'r Preseb”. Dau sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i'r BBC dros y blynyddoedd oedd gwestai Dewi Llwyd ar Dros Ginio –R Alun Evans a'i ferch Betsan Powys. Buodd R Alun Evans yn gyflwynydd a chynhyrchydd gyda'r BBC am 32 o flynyddoedd ac yn weinidog gydag enwad yr Annibynwyr am flynyddoedd. Roedd Betsan yn Olygydd Rhaglenni y BBC nes iddi hi roi'r gorau i'r swydd yn 2018. Dyma i chi flas ar y sgwrs... Cyflwynydd a chynhyrchydd Presenter and producer Enwad yr Annibynwyr Independents denomination Golygydd Rhaglenni Programme editor Siglen Swing Parchu To respect Penderfynol, ystyfnig Determined, stubborn Cymwynasgar Obliging Cefnogol Supportive 04. Hywel Gwynfryn a Sian Phillips (Darllediad Arbennig Dydd Nadolig) Un arall sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr i'r BBC dros y blynyddoedd ydy Hywel Gwynfryn a fe gafodd y cyfle i gael sgwrs gyda'r actores fyd enwog Siân Phillips, sydd yn dod o Waen-Cae-Gurwen yn Sir Castell Nedd Port Talbot yn wreiddiol. Dyma hi'n sgwrsio am un rhan o'i gyrfa wnaeth ddim gweithio cystal â hynny... Cyfraniad enfawr A huge contribution Cyhoeddwraig Announcer ( female) Ro'n i'n dwlu ar Ro'n i wrth fy modd efo Uffernol Hellish Cyngor y Celfyddydau Arts Council Clychau Bells Mas o anadl Out of breath Pennaeth Head 05. Geraint Lloyd - Rhys Jones o Gwmffrwd Dyna stori dda on'd ife? Mae hyd yn oed Sian Phillips yn gallu bod mewn trwbl gyda'i bos! Ddaeth Sion Corn i'ch tŷ fore Nadolig? Os mai dod lawr y simnai wnaeth e, gobeithio eich bod wedi gwneud yn siŵr bod y simnai'n lân iddo fe! Glanhawr simneiau ydy Rhys Jones o Gwmffrwd ger Caerfyrddin a gofynnodd Geraint Lloyd iddo fe pam dewisodd e wneud y swydd arbennig hon... Glanhawr simneiau Chimney sweep Bachan Dyn (Di)bennu Gorfffen Mo'yn Eisiau Ffili Methu Tystysgrif Certificate Tannau nwy Gas fires 06. Geraint Lloyd – Ar y Map Rhys Jones oedd hwnna , ac mae ganddo un o swyddi bwysica adeg yma'r flwyddyn on'd oes? Arhoswn ni gyda Geraint Lloyd am y clip nesa hefyd, aeth Geraint ‘Ar y Map' i bentref bach Casnewydd Bach yn Sir Benfro, sydd yn enwog fel man geni y mor-leidr Barti Ddu. Mae undeg chwech cenhedlaeth o deulu Richard Davies wedi byw yn y pentre hwn, felly fe yw'r dyn i sôn am berson enwoca Casnewydd Bach a dyma fe'n sôn am hanes Barti Ddu wrth Geraint Lloyd... Man geni Birthplace Morleidr Pirate Cenhedlaeth Generation Taw Mai Yn lled ifanc Quite young Crydd Cobbler Cofnodi To record Carreg goffa Memorial stone Trichanmlwyddiant Tercentenary Genedigaeth Birth Marwolwaeth Death
01. Gwneud Bywyd yn Haws – Hyder Mewn Lliw Dillad oedd yn cael sylw Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth a chafodd hi sgwrs gyda'r hyfforddwr delwedd Sonia Williams o'r cwmni ‘Hyder Mewn Lliw'… Hyfforddwr delwedd Image coach Cynllunio To plan Canolbwyntio To concentrate Pwysigrwydd Importance Arna chdi Arnot ti Cymryd sylw To pay attention Ysbryd Spirit Dos Cer Yr union liw The exact colour Penodol Specific Drych Mirror Coelio Credu 02. Beti a'i Phobol – Mei Jones I glywed mwy o'r sgwrs yna ewch draw i wefan BBC Sounds a chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws, yno hefyd gewch chi glywed cyfweliad gyda Llio Angharad sy'n rhannu cynghorion ar sut i edrych ar ôl ein dillad. Bu farw'r actor, sgriptiwr ac awdur Mei Jones yn ddiweddar, ac i gofio amdano ail-ddarlledwyd sgwrs cafodd Mei gyda Beti George rai blynyddoedd yn ôl. Er bod Mei wedi actio pob math o gymeriadau mae'n debyg mai fel Wali Tomos yn C'mon Midffîld y bydd llawer iawn o bobl yn ei gofio... Y diweddar The late Ail-ddarlledu To rebroadcast Twmffat Idiot (idiomatic) Y gyfres The series Dim cythraul o beryg No way Diawledigrwydd Mischief Cysuro fy hun Consoling myself Yn llythrennol Literally 03. Gareth yr Orangutan ar Bore Cothi Y diweddar Mei Jones oedd hwnna mewn sgwrs gyda Beti George Oeddech chi'n gwybod bod yna Orangutan sy'n siarad Cymraeg? Gareth yw ei enw ac mae'n swnio'n debyg iawn i Gog o Ddyffryn Nantlle. Falle mai dyna sut mae Orangutans yn siarad, pwy â ŵyr? Shan Cothi oedd yn holi Gareth am ei hoff sŵn… Synhwyrau Senses Cerddor Musician Offerynau Instruments Aballu And so on Deilen A leaf Haenen A layer Crybwyll To mention 04. Trystan ac Emma – Delia Heaton Gareth yr Orangutan ar Bore Cothi yn rhoi hysbys bach i'r gyfres “Gareth”, ddechreuodd nos Wener diwetha am 10yh ar S4C. Mae Delia Heaton yn dod o Bentrecagal ger Castell Newydd Emlyn yn wreiddiol ond yn byw yn Nelson ger Caerffili ers blynyddoedd. Mae hi wedi bod yn ffan o Cliff Richard ers iddi fod yn ifanc iawn ac fel cawn ni glywed mae hi wedi teithio'n bell iawn i weld Cliff... Pry'ny (pryd hynny) At that time Sgrechian To scream Sefydlu To establish Wnelon nhw ddim Wnaethon nhw ddim 05. Pererin Wyf – Huw Williams Un oedd yn canu yr un adeg â Cliff Richard, ac i ddweud y gwir mae'r ddau'n dal i ganu rhywfaint, oedd Iris Williams o Donyrefail ym Morgannwg. Un o'i chaneuon mwya enwog oedd Pererin Wyf sef cyfieithiad o ‘Amazing Grace'. Mae tad Georgia Ruth yn dod o Donyrefail hefyd a chafodd Georgia sgwrs gyda'i thad am y pentref bach hwn sydd yn Rhondda Cynon Tâf... Diwylliant y cymoedd The culture of the Valleys Traddodiad Tradition Cymanfa ganu Hymn singing festival Ail Rhyfel Byd Second World War Losin Sweets 06. Geraint Lloyd – Rheilffordd Dyffryn Rheidol Darlun o Donyrefail y gorffennol yn fan'na ar raglen Georgia Ruth, a hynny gan ei thad. Aeth Geraint Lloyd allan o'r stiwdio ddydd Mercher a chael cyfarfod â Chyfarwyddwr a Rheolwr Rheilffordd Rheidol, Llyr Ap Iolo. Rheilffordd fach yw hon sy'n mynd o Aberystwyrth i Bontarfynach. Mae llawer iawn o newidiau‘n digwydd gyda'r rheilffordd ar hyn o bryd a dyma Llyr yn sôn am rai ohonyn nhw Cyfarwyddwr a Rheolwr Director and Manager Pontarfynach Devil's bridge Buddsoddiad Investment Ail-drefnu To rearrange Atyniad Attraction Storfa Storage area Galluogi To enable Ail-gydio To rekindle
Nadolig llawen i chi gyd gan griw Clera. Mwynhewch y bennod ola o'r flwyddyn hon, sy'n cynnwys sgyrsiau difyr gyda Bardd Plant Cymru 2021-23, Casi Wyn a'r Prifardd Rhys Iorwerth am ei gyfrol newydd, Cawod Lwch. Hefyd, cerddi hyfryd gan Ana Chiabrando Rees a Geraldine Macburney Jones o Batagonia.
1. Dros Ginio - Dafydd Iwan ac Alun Ffred Jones Basai'n anodd ffeindio dau frawd mwy enwog yng Nghymru na Dafydd Iwan ac Alun Ffred Jones. Mae Dafydd yn ganwr enwog, ac Alun Ffred yn enwog yn y byd teledu ac, fel Dafydd Iwan, ym myd gwleidyddiaeth hefyd Ond pa mor agos ydy'r ddau ohonyn nhw fel brodyr? Dewi Llwyd gafodd gyfle i holi, ac eglurodd Alun i ddechrau ei fod o'n dipyn ifancach na'r brodyr eraill yn y teulu… Rhyngddyn nhw Between them Yr un cylchoedd The same circles Dyn diethr A stranger Cadw pellter Keeping a distance Yn achlysurol Occasionally Dotio ar Dwlu ar Rhyfedda Strangest Llywydd y Blaid President of Plaid Cymru Gweini To serve Wedi drysu Confused 2. Bore Cothi – Alwyn Humphreys a West Side Story Dafydd Iwan yn fan'na yn dweud nad oedd e a'i frodyr yn agos iawn at ei gilydd, ond hanes dau deulu oedd yn casáu ei gilydd sydd yn y ddrama ‘Romeo and Juliet'. Ac roedd y nofel, y sioe gerdd a'r ffilm ‘West Side Story' yn seiliedig ar y ddrama honno. Dydd Gwener diwetha cafodd fersiwn newydd o'r ffilm ei gweld am y tro cynta. Cyfarwyddwr y ffilm ydy Stephen Spielberg ac mae cerddoriaeth wreiddiol Leonard Bernstein i'w chlywed yn y ffilm newydd. Dyma Alwyn Humphries yn rhoi ychydig o hanes West Side Story ar Bore Cothi… Yn seiliedig ar Based on Cyfarwyddwr Director Y cyfle The opportunity Cysylltu To link Cwerylgar Quarrelsome Dioddef o To suffer from Yn rhyfeddol Astonishingly Llwyfan Stage Cynhyrchwyr Producers Digalon Downhearted Gwobrau Prizes 3. Gwneud Bywyd yn Haws - Addurno Hanes Leonard Bernstein a West Side Story yn fan'na ar Bore Cothi. Dych chi wedi codi'r goeden Nadolig eto? Mae Heledd Jones Tandy wedi codi ei choeden hi ers Rhagfyr y cyntaf ac mae hi wrth ei bodd gydag addurno, fel buodd hi'n sôn wrth Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws… Caniatáu To permit Beirniadaethau Criticisms Llwm Bleak Gwagle Void Noeth Naked Hel To collect Rhoddion Gifts Allor Altar Defnydd Material Trawsnewid To transform 4. Hiraeth – Noel James - Beth yw hiraeth? Hanna Hopwood yn holi Heledd Jones Tandy am addurno. Hefyd ar y rhaglen roedd Ann-Marie Lewis ac i glywed y rhaglen yn llawn ewch i BBC Sounds a chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws. Gair sy'n anodd ei gyfieithu ydy ‘hiraeth' on'd ife? Y comedïwr Noel James fuodd yn chwilio am yr esboniad gorau o'r gair a dyma fe'n holi'r awdures Angharad Tomos… Gwirioneddol Actual Brifo To hurt Cyfeirio ato To refer to Dyfyniad Quotation Fy nhaid Fy nhad-cu Carreg fedd Gravestone Ysgrif Article Melusaf The sweetest 5. Aled Hughes – Anwen Jones Dyna ddyfyniad da on'd ife, yn dangos bod hiraeth yn gallu brifo weithiau. Mae Anwen Mai Jones, yn Nyrs Arbenigol Diabetes Cymunedol yng Ngheredigion ac mae hi wedi ennill gwobr Nyrsio Cymunedol yn ddiweddar. Dyma hi'n dweud wrth Aled Hughes beth oedd y cynllun cymunedol enillodd y wobr iddi hi... Arbenigol Specialist Cymunedol Community Darparu To provide Clinigau Clinics Cleifion Patients Ail-strwythuro Restructure Ymgynghori gyda'r meddygfeydd Consulting with the surgeries Ardal wledig ddiarffordd A remote rural area Bwlch Gap Lleihau To reduce 6. Beti – John Alwyn Griffiths Anwen Mai Jones yn esbonio bod llawer iawn o'r cynlluniau gorau yn dod o'r rhai sy'n gweithio ar y llawr yn hytrach nag oddi wrth y rheolwyr. Mae John Alwyn Griffiths wedi sgwennu sawl nofel ditectif ond roedd e'n arfer gweithio fel ditectif yn ogystal, gydag Adran Dwyll Heddlu Gogledd Cymru. Fe oedd gwestai Beti George ar Beti a'i Phobol a dyma fe'n sôn am y math o bobl oedd e'n synnu o'u gweld nhw'n twyllo. . Oedd e'n synnu He was surprised Adran Dwyll Fraud Squad Twyllo To defraud Cyfreithwyr Lawyers Cyfrifydd Accountant Cyfaill Ffrind Ar ei union Straight away
01. Beti – Laura Karadog Clip o Beti a'i Phobol ddydd Sul diwetha, a Laura Karadog oedd gwestai Beti. Yn y clip hwn mae Laura'n sôn am yr amser buodd hi'n gweithio yn San Steffan fel profiad gwaith yn rhan o gwrs gradd mewn gwleidyddiaeth Prifysgol Aberystwyth. Fel gwnawn ni glywed cafodd hi brofiadau diddorol iawn yno…. San Steffan Westminster Gradd mewn gwleidyddiaeth A politics degree Breintiedig Privileged Yn rheolaidd Regularly Erchyll Awful Hurt Stupid Dinistrio bywydau Destroying lives Diniwed Innocent Grym Power Tu hwnt Beyond Heb os Without doubt 02. Bore Cothi – Rhona Duncan Ychydig o hanes diddorol Laura Karadog yn fan'na ar Beti a'i Phobol. Oes planhigion gyda chi yn y tŷ? Dych chi'n poeni fyddan nhw'n para dros y gaeaf? Os felly dylai'r tips glywon ni ar Bore Cothi fod o ddiddordeb mawr i chi. Rhona Duncan, sy'n rhedeg siop blanhigion yng Nghaerdydd, fuodd yn rhoi cynghorion ar sut i ofalu am blanhigion suddlon... Planhigion suddlon Succulent plants hinsawdd cras An arid climate Dail Leaves Mo'yn Eisiau Gofod Space Hyd oes Lifespan Enfawr Huge 03. Cofio – Bryn Terfel Rhona Duncan oedd honna ac mae hi'n amlwg yn caru planhigion suddlon! Canu a Byd y Gân oedd thema Cofio wythnos diwetha. Dyma i chi glip o Bryn Terfel yn sgwrsio gyda Beti George yn ôl yn 1995 ac yn sôn am weithio gyda chantorion enwog ac yn sôn am sut mae hynny wedi effeithio ar ei ddiddordeb mewn gwin… Cantorion Singers Arweinyddion Conductors Cig eidion Beef Rhyngddon ni Between ourselves 04. Shelley a Rhydian yn holi Dan Lloyd Tenoriaid ‘tempremental', gwin a bwyd da – dyna i chi flas ar fywyd seren y byd opera yn fan'na ar Cofio. Daniel Lloyd oedd y gwestai cyntaf i ateb Ho Ho Holiadur y Sioe Sadwrn gyda Shelley a Rhydian, ond cyn iddo fe wneud hynny, holodd Shelley Dan am ei waith ar un o ffilmiau'r Muppets.. O nerth i nerth From strength to strength Barf/Locsyn Beard Aled Hughes – Carys Eleri Daniel Lloyd oedd hwnna'n sôn am ei ran e yn un o ffilmaiu'r Muppets. Dych chi wedi meddwl beth i'w gael yn anrheg Nadolig i rywun, wel mae hi wastad yn braf cael llyfr newydd on'd yw hi? Wel beth am lyfr newydd gan yr actores a'r gomedïwraig Carys Eleri ‘Dod nôl at fy nghoed'. Llyfr ydy hwn ble mae Carys yn sôn am rai o'r digwyddiadau sy wedi newid ei ffordd o feddwl a'i ffordd o fyw. Un o'r digwyddiadau hynny oedd marwolaeth ei thad ac yn y clip yma mae Carys yn sôn wrth Aled Hughes am daith beics o Lundain i Baris aeth hi a'i chwaer Nia arni ychydig wythnosau ar ôl iddyn nhw golli eu tad. Dameg Parable Ffili Methu Sa i'n gwybod Dw i ddim yn gwybod Angladd Funeral Dim lot o glem Not much of an idea Nunlle Nowhere Pennod Chapter Galar Grief Datgelu To reveal Tanwen Cray - Gucci Ac os dych chi eisiau gwybod sut aeth y daith beics – prynwch y llyfr! Ar raglen Aled Hughes ddydd Llun cafodd Aled gwmni'r hanesydd ffasiwn Tanwen Cray, a soniodd Tanwen am y ffilm ‘House of Gucci' sydd yn y sinemâu ar hyn o bryd. Ond, oeddech chi'n gwybod bod yna Gymraes o Groesoswallt wedi prodi un o'r Guccis, sef un o deuluoedd mawr y byd ffasiwn? Olwen Price Gucci oedd hi a dyma Tanwen yn dweud yr hanes wrth Aled. Croesowallt Oswestry Sefydlu To establish Sylfaenydd Founder Menyw Dynes Y tîm cynhyrchu The production team Yn gysylltiedig Connected to Offeiriaid A priest Rhyfeddol Astonishing
01. GBYH - Leisa Mererid Pam dylen ni ddysgu ioga i'n plant, a sut basai gwneud hyn yn eu helpu? Dyma rai o gwestiynau Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws i'r awdures llyfrau ioga i blant, Leisa Mererid . Dyma flas i chi ar y sgwrs ... Yn gynyddol Increasingly Dyrys Complex Ymwybyddiaeth o'n cyrff Awreness of our bodies Delwedd corff Body image Heriau bywyd Life challenges Angor Anchor Gorbryder Anxiety Isymwybod Subconscious Myfyrio To meditate Synhwyrau Senses Gorlethu To overwhelm 02. Aled Hughes - Dr Sara Wheeler Leisa Mererid yn cael ei holi gan Hanna Hopwood. Hefyd ar y rhaglen roedd Nia Parry ac Anwen Gruffydd Wyn yn sôn am sut aeth y ddwy ffrind ati i sgwennu ‘Llyfr Bach Lles', ac yn ogystal mae Laura Karadog yn sôn am ymarfer ioga. I glywed y sgyrsiau yma ewch draw at BBC Sounds a chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws. Ar raglen Aled Hughes fore Mawrth, clywon ni sgwrs am Gastell Dinas ger Llangollen gyda'r Dr Sara Wheeler, a dechreuodd Aled a Sara sgwrsio drwy ddyflau o le daeth yr enw ar y castell... Brân Crow Gerllaw Nearby Deillio To derive Cymeriadau o chwedloniaeth Mythical characters Tueddu i fod Tends to be Yn answyddogol Unofficially Dyffryn Valley Gorffwys To rest 03. Stiwdio - Twm Morys Sgwrs am enw Dinas Brân yn fanna rhwng Aled Hughes a'r Dr Sara Wheeler. Mae hi bron yn flwyddyn ers marwolaeth yr awdur Jan Morris ac ar Stiwdio nos Lun, cafodd Nia Roberts sgwrs efo'i mab, y bardd a‘r cerddor Twm Morus. Dyma Twm yn sôn wrth Nia am ei fagwraeth gyda Jan... Magwraeth Upbringing Tomennydd Heaps Annog To encourage Coblyn o hwyl Great fun Grym geiriau The power of words I raddau To an extent Atalnodi Punctuation Llafar Spoken Golygyddion Editors Proflenni Proofs Mympwy A whim 04. Sioeau Cerdd Steffan - Lili Mohammad Twm Morys yn fan'na yn yn sôn am Jan Morris ac am ei fagwraeth gyda hi ar “Stiwdio gyda Nia Roberts” nos Lun diwethaf. I glywed rhagor o'r sgwrs ewch i BBC Sounds. Gwesteion Steffan Rhys Hughes ar ‘Sioeau Cerdd Steffan' yr wythnos diwetha oedd merch ysgol o Gaerdydd, Lili Beth Mohammad, a dyma hi'n esbonio wrth Steffan o ble daeth ei diddordeb hi mewn sioeau cerdd... Cyfryngau Media Cantores amryddawn A versatile singer(female) Arddulliau Styles Yn benodol Specifically Atgofion Memories 05. Dros Ginio - Angharad Lee Y ferch ysgol o Gaerdydd, Lili Beth Mohammad, oedd honna yn sgwrsio gyda Steffan Rhys Hughes am sioeau cerdd. Mae gan y Gymraeg fel pob iaith arall ei thafodieithoedd. Y Wenhwyseg ydy tafodiaith de-ddwyrain Cymru ond does dim llawer o bobl yn ei siarad erbyn hyn. Dyma ddau o'r de-ddwyrain, Vaughan Roderick ac Angharad Lee yn trafod pam mae hynny wedi digwydd... Tafodieithoedd Dialects Adennill To reclaim Corfforol Physical Galaru To mourn Bodoli To exist Yn gyfarwydd Familiar Plethu To weave in and around Yn weddol glou Quite quickly 06. Pigion - Geraint Lloyd gyda Elis a Sion Vaughan Roderick ac Angharad Lee yn trafod y Wenhwyseg ar Dros Ginio. Dros y penwythnos buodd Geraint Lloyd yn mwynhau Eisteddfod y Ffermwyr Ifainc ym Mhontrhydfendigaid yng Ngheredigion. Cafodd sgwrs gyda sawl un fuodd yn cymryd rhan, a dyma i chi sgwrs cafodd e gydag enillwyr y ddeuawd dan wyth ar hugain oed, Elis Jones a Sion Eilir o Glwyd. Deuawd Duet Pysgotwyr Perl Pearl Fishers Awydd Eagerness Beirniad Adjudicator Heriol Challenging Rhwydd Hawdd Aruthrol o dda Exceptionally good Safon Standard Clod Praise Arwerthwr Auctioneer
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” DROS GINIO … gadawodd Jessy y band Little Mix achos ei hiechyd wythnos diwetha. Buodd Vaughan Roderick yn sôn am hyn gyda Lloyd Macey, cyn gystadleuwr yr X-Factor, ar un o raglenni Dros, a buon nhw’n trafod hefyd y pwysau mawr sy ar bobl yn llygaid y cyhoedd,. Pwysau - Pressure Llygad y cyhoedd - The public eye Sylwadau - Comments Cystadleuwyr - Competitors Creulon - Cruel So nhw’n gadael - Dyn nhw ddim yn gadael Ymateb - Response Pydew - Well Gwenwynig - Poisonous Cyfathrebu - To communicate Beirniadu - To criticise ALED HUGHES Lloyd Macey oedd hwnna’n sôn wrth Vaughan Roderick am y pwysau sy ar bobl yn llygad y cyhoedd y dyddiau hyn. Wnaethoch chi sylwi ar seren ddisglair iawn yn yr awyr wythnos yma? Ai dyma oedd y seren mae sôn amdani yn Stori’r Geni tybed? Dyma farn y ffisegwr Aled Illtud oedd yn trio ateb cwestiwn mawr Aled Hughes yr wythnos yma 'Wnaeth seren y Nadolig ymddangos go iawn?'… Seren ddisglair - A sparkling star Stori’r Geni - The nativity Y dynion doeth - The wise men Sadwrn - Saturn Ffrwydro - To explode Egni - Energy Tasgu - To spill Bydysawd - The universe Egni - Energy PAPURAU DEWI LLWYD Aled Illtyd ac Aled Hughes oedd y rheina’n trafod seren Bethlehem. Glenda Jones a Prysor Williams oedd yn adolygu’r papurau ar raglen Dewi Llwyd fore dydd Sul a dyma i chi flas ar eu sgwrs ble maen nhw’n trafod beth sy’n boblogaidd i’w brynu y Nadolig hwn… Adolygu - Reviewing Yn ôl - According to Mynd lan - Codi Gwin wedi’i fwydo - Mulled wine Gwerthfawrogiad - Appreciation Gwerthiant - Sales Tu fas - Outside Rhybudd - Warning Iawndal - Compensation Addurniadau - Decorations Ansawdd - Quality DAF A CARYL Glenda Jones a Prysor Williams yn fan’na yn trafod beth sy’n boblogaidd y Nadolig yma. Mae’n debyg bod beiciau yn boblogaidd iawn hefyd gyda llawer mwy o bobl yn eu defnyddio ers y cyfnod clo, ond fydd yna newid yn y math o feiciau mae pobl yn eu prynu y dyddiau hyn tybed? Dyma i chi farn Marc Real ar y Sioe Frecwast gyda Daf a Caryl fore Mawrth. Amgylchiadau - Situations Ail-feddwl - To rethink Anferthol - Huge Galluogi - To enable Anhygoel - Incredible Cynnydd - Increase Serth iawn - Very steep Chwysu - Sweating TROI’R TIR Ond nid e-feic fydd gan Sion Corn i deithio o amgylch y byd wrth gwrs ond ceirw, a Rhian Tyne fuodd yn sôn wrth Terwyn Davies ar Troi’r Tir am gadw ceirw ym Mhen Llŷn… Ceirw - Deer Paratoi’r caeau - Preparing the fields Uchder - Height Trîn - To treat Fatha - Yr un fath â Unigrywder - Uniqueness Silwair - Silage Glaswellt - Grass NADOLIG RADIO CYMRU Rhian Tyne oedd honna’n sôn am geirw Pen Llŷn. Gan ein bod mewn cyfnod clo arall dros y Nadolig beth gwell na chael Radio Cymru yn gwmni i chi. Dyma i chi flas o’r hyn gallwch ei glywed ar yr orsaf dros yr Ŵyl… Yr orsaf - The station I’ch aelwyd chi - To your home Naws y Nadolig - The Christmas spirit Cerddorfa Genedlaethol - National Orchestra Oedfa - Religous service Seren lachar - A bright star Ynghyd - Together .
Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda i chi! Ar ddiweddblwyddyn rhyfeddol a rhyfedd, dyma bennod lawn o bethau difyr i gnoi cul arnyn nhw. O Olygyddion y Stamp, Esyllt Lewis a Grug Muse i Orffwysgerdd yn gan Aron Pritchard. Nad anghofier am bo Gruffudd Antur sy'n wych fel arfer ac fe gawn ddiweddglo teilwng i'r tymor gan blant ysgol sul Caersalem, Pontyberem.
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … GWNEUD BYWYD YN HAWS Ar y rhaglen Gwneud Bywyd yn Haws mae Hanna Hopwood Griffiths a'i gwestai'n trafod beth sy'n gwneud bywyd yn haws iddyn nhw. Dyma Carys Evans, sy’n dod o Ynys Môn yn wreiddiol ond sydd nawr yn byw yn Sir Fynwy, ac mae hi’n ysgrifennu blog o’r enw Colon Lân , er mwyn rhannu beth wnaeth bywyd ychydig bach yn haws iddi ar ôl iddi gael diagnosis o gansr y coluddyn. Cansr y coluddyn - Bowel cancer Ymwybodol - Aware Parhau - To continue Profion gwaed - Blood tests Rhyw fath o dyfiannau - Some kind of growths Iau - Liver Ymledu - To spread Cadarnhau - To confirm Triniaeth - Treatment Rhannu fy mhrofiadau - To share my experiences STIWDIO Carys Evans oedd honna yn dweud beth wnaeth bywyd yn haws iddi hi ar ôl iddi gael newyddion drwg iawn am ei hiechyd. Wel, mae hi bron yn Nadolig ac felly mae’n siŵr bydd y ffilm ‘The Sound of Music ‘ i’w gweld ar ryw sianel dros y gwyliau. 'Teulu' oedd thema rhaglen wythnos diwetha o Cofio ac yn y clip yma mae Nia Roberts yn sgwrsio gyda Rhys Jones am hanes y teulu Von Trapp sef stori’r sioe gerdd a’r ffilm enwog… Wedi ei seilio ar - Based on Lleianes - Nun Wedi hen godi ei ben - Had long since raised its head Gorthrwm yr Iddewon - The oppression of the Jews Canolbwyntio ar yr agwedd - Concentrating on the aspect Rhyfeddol - Amazing Ddaru nhw gynhyrchu - They produced Gogoniant - The glory Bywyd hollol annibynnol - Totally independent life BORE COTHI Rhys Jones oedd hwnna yn sôn am ‘The Sound of Music’ ar Cofio. Wel, mae na beryg i ni or-fwyta, gor-yfed ac eistedd gormod ar y sofa yn gwylio ffilmiau fel ‘The Sound of Music’ dros y Nadolig on’d oes na? Dyma i chi gynghorion Anna Reich ar sut i gadw’n heini ac yn iach dros y gwyliau… Ymchwiliwch nhw - Research them Tro ar ôl tro - Time after time Cymhleth - Complicated Newid meddylfryd - Change the mindset Cryno - Compact Hallt - Salty Sychedig - Thirsty Chwerw - Bitter HUW STEPHENS Dyna ni felly – jog bach cyn stwffio’r twrci! Trystan ap Owen oedd yn sôn am ffilmiau’r wythnos ar Sioe Frecwast Huw Stephens fore Gwener, felly pa ffilm Nadolig wnaeth Trystan ei hargymell i ni tybed? Argymell - To recommend Nadoligaidd - Christmassy Addas iawn - Very suitable Hud a lledrith - Magic Wedi cael ei leoli - Has been located Ymenydd - Brain Cyfoethog - Rich Troslais - Voiceover Cymeriad - Character Achub - To rescue DROS GINIO Argymhelliad ffilm Nadolig deuluol yn fan’na gan Trystan ap Owen . I lawer ohonon ni, fasai hi ddim yn Ddolig heb y twrci, ond sut flwyddyn mae hi wedi bod i’r rhai sy’n gwerthu twrcwns? Carys Thomas a Sion Jones fuodd yn siarad gyda Jennifer Jones ar Dros Ginio… Llawn mor brysur - Just as busy Trefnus - Organised Archebu - To order Ymdopi - To cope Y fwy cyndyn - More reluctant Yn draddodiadol - Traditionally Coron - Crown Arferion - Habits Rhewgell - Freezer Gwerthiant - Sales STIWDIO Sgwrs am dwrcwns yn fan’na ar beth arall ond Dros Ginio! Wrth i Coronation Street ddathlu 60 mlynedd ar y sgrîn, ar Stiwdio nos Lun buodd Nia Roberts a’i gwestai Dr. Manon Wyn Williams yn ceisio dadansoddi pam fod yr opera sebon wedi parhau’n boblogaidd am gymaint o amser. Dadansoddi - To analyse Gweithgaredd deuluol - A family activity Yn cael ei darlledu - being broadcast Yr holl atgofion - All the memories Cymuned glòs - A close community Dosbarth gweithiol - Working class Cysurus - Comforting Wedi cael ei beirniadu - Has been criticised Delwedd - Image Adlewyrchu - To reflect
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Daniel Glyn - Connie Orff Y cymeriad drag – Connie Orff, neu Alun Saunders, oedd gwestai Daniel Glyn fore Sadwrn a buodd e’n sôn wrth Daniel am sut dechreuodd Alun berfformio fel y cymeriad ‘Connie Orff’…… Cymeriad - Character Llwyfan - Stage Cynulleidfa - Audience Ffurfiau - Forms Ysgol Glanaethwy - A Welsh language performance school Geraint Lloyd - Llion Jones Hanes y cymeriad drag ‘ Connie Orff’ yn fan’na ar raglen Daniel Glyn. Mae hi wedi bod yn anodd gweudd llawer o bethau yn ystod y cyfnod clo, on’d yw hi? Ac un o’r pethau hynny yw priodi, fel clywon ni gan Llion Jones, sy’n athro Cymraeg, ac oedd wedi gorfod gohirio ei briodas ddwywaith yn ystod y cyfnod… Gorfod gohirio - had to postpone Y pedwerydd ar bymtheg - The 19th Digwydd bod - As it happened Bellach - By now Gwas Priodas - Best man Darlledu’n fyw - To broadcast live Yn rhithiol - Virtually Yn gorfforol - Physically Dathliad - Celebration Dros Ginio - Elinor Wyn Reynolds Llongyfarchiadau i’r ddau ohonyn nhw a gobeithio cân nhw gyfle am ddathliad go iawn yn fuan on’d ife? Faint ohonoch chi sy wedi darllen nofelau ‘Bridgette Jones’ neu wedi gweld y ffilmiau amei bywyd hi? Llawer ohonoch chi dw i’n siŵr. Wyddoch chi bod dau ddeg pump o flynyddoedd wedi bod ers i’r nofel gynta amdani gael ei chyhoeddi? Dyma glip o Jennifer Jones ac Elinor Wyn Reynolds ar Dros Ginio yn dathlu chwarter canrif y cymeriad Bridgette Jones a’i dyddiadur Yn llythrennol - Literally Yr oriau mân - The early hours Mor hurt - So stupid Arwrol - Heroic Seinio cloch - Sounding a bell Oedd yn taro deuddeg - Which struck a chord Eitha diniwed - Quite innocent Cyfryngau cymdeithasol - Social media Bodoli - To exist Mwyach - By now Yn ddiweddarach - Later on Aled Hughes - Cath Ayers Os ydy Bridgette Jones yn dathlu chwarter canrif, mae Coronation Street dipyn ar y blaen ac ar fin dathlu 60 mlynedd. Mae Cath Ayres wedi actio yn y gyfres a buodd hi’n sôn wrth Aled Hughes am gwrdd a sêr y gyfres pan gafodd ni rôl yn yr opera sebon eiconig. Enwog - Famous Cyffredin - Ordinary Golygfa - Scene Yn gwmws - Exactly Bore Cothi - Meinir Evans Cath Ayres oedd honna’n sôn wrth Aled Hughes am ei phrofiadau’n action yn ‘Coronation Street’. Meinir Evans o gwmni Brownies Hathren oedd gwestai Bore Cothi fore Mawrth a gofynnodd Shan Cothi iddi hi beth oedd arwyddocâd yr enw ‘Hathren’ … Arwyddocâd - Significance Yn y gwaed - In the blood Atgofion melys - Sweet memories Aelwydydd amaethyddol - Agricultural homes Tu fas - Outside Llanw bola - Filling the stomachs Cyndeidiau - Forefathers Nant - Brook Tarddu - To derive Rhys Mwyn - John Gower Ychydig o hanes cwmni Brownies Hathren yn fan’na ar Bore Cothi. Roedd ‘The Clash ‘ yn un o fandiau ‘pync’ cynta Prydain a buodd Joe Strummer, un o aelodau’r band, yn byw yng Nghasnewydd ar un adeg. Tybed oedd e’n berson gwyllt bryd hynny fel y rhan fwyaf o berfformwyr pync? John Gower fuodd yn sôn wrth Rhys Mwyn am y rocyr gwyllt pan oedd yn byw yng Nghymru… Yn ei ugeiniau cynnar - In his early twenties Cynhyrchu - To produce Yn gyson - Regularly Prif leisydd - Lead vocalist Canu gwerin - Folk singing Di-nod - Insignificant Teyrngedu’r ffaith - Attributing the fact Trychinebus - Disastrous Darganfod - To discover
"S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … " ALED HUGHES - RHYS AB OWEN Mae na lawer o bobl yn credu mai rhywbeth newydd yw clywed Cymraeg yn cael ei siarad mewn rhannau o Gaerdydd. Ond mae llyfr Owen John Thomas, The Welsh Language in Cardiff : A history of survival yn dangos bod yr iaith wedi bod yn fyw iawn mewn sawl ardal o’r ddinas yn y gorffennol. Daeth mab yr awdur, Rhys ab Owen, i sgwrsio am y llyfr gydag Aled Hughes a dyma i chi flas ar y sgwrs… Y bedwaredd ganrif ar bymtheg - 19th Century Enghreifftiau - Examples Y mwyafrif llethol - The vast majority Cyfrifiad - Census Yn fanteisiol iawn - Very advantageous Delwedd - Image Canrif yn ddiweddarach - A century later Tu fas - Outside Y dystiolaeth - The evidence Yr Eglwys Newydd - Whitchurch FFION EMYR - SANDRA LLAN Ychydig o hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd yn fan’na ar raglen Aled Hughes. Mae gan Ffion Emyr raglen newydd nos Wener ar Radio Cymru, a phob wythnos mae hi’n mynd i ofyn “pwy sy’n gwneud y coctel gorau yng Nghymru?” . Sandra Llan oedd ei gwestai cyntaf…. Mi fydd gynnon ni - Bydd gyda ni Hyd yn oed - Even Brifo - Anafu Nei di’m cofio - Wnei di ddim cofio TRYSTAN AC EMMA - JOHN PRITCHARD Hanes coctels peryglus Llanberis oedd hwnna ar raglen Ffion Emyr. Wel gwnaeth tîm pêl-droed Cymru yn dda yn y gêmau diweddar yn Nghwpan y Cenhedloedd ac ennill dyrchafiad i Grŵp A yn y gystadleuaeth. Ond oeddech chi’n gwybod bod yna dîm Pêl-droed Cerdded Cymru hefyd, a bod y tîm wedi ennill Cwpan y Byd? Beth yn union ydy Pêl-droed Cerdded? Dyna un o gwestiynau Trystan Ellis Morris ac Emma Walford i John Pritchard o Ynys Môn sy’n chwarae Pêl-droed Cerdded dros Gymru... Cwpan y Cenhedloedd - Nations Cup Dyrchafiad - Promotion Pencampwr o fri - A renowned champion Yr un rheolau - The same rules Arferol - Usual Pwyslais - Emphasis Yn dda i ddim - No good Dw i’n dychmygu - I imagine GWNEUD BYWYD YN HAWS - GWENNO ROBERTS John Pritchard, un o sêr tîm Pêl-droed Cerdded Cymru oedd hwnna’n siarad gyda Trystan ac Emma ar eu rhaglen newydd sbon bob bore Gwener am 9. Mae Gwenno Roberts wedi dechrau cwmni codi pwysau o’r enw Vulcanna Fit ac yn ystod rhaglen gynta y gyfres newydd ‘Gwneud Bywyd yn Haws’ gofynnodd Hannah Hopwood iddi hi pam yr enw Vulcanna? Codi pwysau - Weightlifting Edmygu - To admire Ysbrydoliaeth - Inspiration Ofnadwy o ddewr - Terribly brave Mewn oes - In an age Dyletswyddau - Duties Ymgyrchu - To campaign Prydferth - Beautiful Noeth luniau - Nude portraits Penodol - Specific POST CYNTAF - ANT A DEC Wel dyna sgwrs aeth â ni o godi pwysau i Vulcanna i Michelangelo ac i golli pwysau, diddorol on’d ife? Os ydych chi’n un o’r MILIYNAU sy’n gwylio I’m a Celeb sy’n cael ei ffilmio yng Nghastell Gwrych ger Abergele, byddwch chi wedi clywed Ant a Dec yn siarad ychydig o Gymraeg. Cafodd Dylan Jones air gyda’u tiwtor Garffild Lewis ar y Post Cyntaf.... Y gyfres The series Darlledu - Broadcast Cyflwynwyr - Presenters Llais cyfarwydd - A familiar voice Ynganu - Pronunciation Cywair - Register (of language) Ymddiriedolaeth - Trust Ymgynghorwyr - Consultants Tîm cynhyrchu - Production team Agwedd - Attitude SIOE FRECWAST - CARYL A DAF Ac arhoswn ni gyda I’m a Celeb am y clip ola. Un sy’n byw yn agos iawn at Gastell Gwrych ydy Sian Rees a gofynnodd Caryl a Dafydd iddi hi sut ymateb sy wedi bod yn yr ardal i’r gyfres.. Ymateb - Response Pwnc trafod - Talking point Arferiad - A habit Hyd y gwela i - As far as I can see Yn eu hoed a’u hamser - Of a certain age Byrlymu - Buzzing Rhoi ni ar ben ffordd - Bring us up to date
Cwestiynnau i'r Prif Weinidog 10 Rhagfyr 2019
Croeso i bennod y gaeaf noethlwm a'r Nadolig. Fel arfer, mae llwyth o ddanteithion barddol yn eich disgwyl, o Orffwysgerdd newydd sbon gan Geraint Lovgreen i lu o leisiau amrywiol yn trafod cyfrolau a chyhoeddiadau newydd sy'n eich disgwyl yn y siopau. Hyn oll, a chymaint mwy, o Dalwrn y Beirdd Ifanc a'r Pos gan gruffud Antur i eitem gsan Eurig o daith ddiweddar i India!
Deri Thomas, Ruth Pritchard, Arwel Jones, Elin Mai, Mark Lewis Jones a Kyffin Williams
Nadolig llawen i chi gyd! Pennod lawn dop arall, gydag eitem arbennig am holl gyfrolau barddol y flwyddyn yng nghwmni'r bardd, yr artist a'r cerddor Iestyn Tyne. Sgwrs gydag Eurig ar ei awdl a ddaeth mor agos at gipio Cadair Caerdydd, eitem arall am farddoni yn Llydaweg, Cerdd yr Orffwysfa gan y Prifardd Idris Reynolds, Pos Gruffudd a'i ymennydd miniog a llond sach Santa o bethau difyr eraill.
Tara Bethan, Steffan Lewis, Chris Rees, Eifion Glyn, Arwel Jones banciau bwyd.
Gwen Ellis, Noel James, Cinio Nadolig Figan, Caerdydd yn brifddinas a The Wizard of Oz.
Tudur Owen yn drymio, Eric Jones a Lowri Morgan, cofio Huw Jones, Rhys Morris Califfornia
Mwynhewch bennod mis Rhagfyr o bodlediad Clera. Y mis yma rydyn ni'n Pwnco gyda Llŷr Gwyn Lewis am ei awdl a ddaeth mor agos i gipio cadair Eisteddfod Genedlaethol Môn. Ceir cerdd Orffwysfa nadoligaidd gan Anwen Pierce, y pos gan Gruffudd a'i ymennydd miniog a llawer mwy.
Our first ever podcast with a live audience at Chapter Arts Centre in Cardiff with St. David's Press. Russell and Rich interview Leon Barton about his biography of Brian Flynn, Little Wonder. Little Wonder is available to buy from www.st-davids-press.wales. You can read an excerpt here. Brian will be signing copies of Little Wonder at Wrexham AFC on 16 December. Dyma ein podlediad cyntaf erioed o flaen cynulleidfa fyw yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd gyda St. David's Press. Mae Russell a Rich yn holi Leon Barton am ei fywgraffiad o Brian Flynn, Little Wonder. Mae Little Wonder ar gael i'w brynu trwy www.st-davids-press.wales. Gallwch chi ddarlen detholiad yma. Bydd Brian yn arwyddo copïau o Little Wonder yn CPD Wrecsam ar 16 Rhagfyr.
Cymry 1914-1918, Dylan Davies, Mandy Watkins, Manon Steffan Ros a Gwion Ellis Williams
Pennod mis Rhagfyr o bodlediad Clera yng nghwmni Eurig Salisbury ac Aneirin Karadog.
Beti George yn sgwrsio gyda'r actor Emyr Wyn. Darlledwyd y sgwrs Rhagfyr 20, 2001.
Yr ail rhan o'r sgwrs efo Ian Gill. Tro yma, mae o'n son am 'Radio Bangor' sydd yn darlledu sylwebaeth cefnogwyr o gêmau Dinas Bangor. Hefyd, mae o'n trafod diwedd Ffordd Farrar, stadiwm Dinas Bangor sydd yn croesawu gêm am y tro olaf ar Rhagfyr 27. Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar mwydroymmangor.wordpress.com neu y grŵp Facebook Mwydro ym Mangor.