Town in Wales
POPULARITY
Fydd 'na ddim pedwerydd dyrchafiad yn olynol i Wrecsam ond roedd hi'n ddychrynllyd o agos. Dau bwynt oedd y gwahaniaeth rhyngddyn nhw a'r safleoedd ail-gylfe yn y pendraw ar ôl gorffen y tymor gyda gêm gyfartal yn erbyn Middlesbrough ar y Cae Ras. Ond mi gafodd y Dreigiau ddau gyfle mawr i ennill y gêm a chipio'r chweched safle oddi wrth Hull City. Be fydd y rheolwr Phil Parkinson wedi ei ddysgu o'r tymor? Sut all o wella'r garfan? Oes angen iddo fod mwy hyblyg yn ei arddull chwarae?Emosiynau gwbl wahanol oedd i Gasnewydd wrth guro Barrow i osgoi disgyn o'r Ail Adran. Cymysgedd o orfoledd a rhyddhad oedd hi, wrth i'r clwb ddod yn anghyfforddus o agos unwaith eto i golli eu statws yn y gynghrair bêl-droed. Y cwestiwn mawr ydi, beth sydd angen newid er mwyn sicrhau bod hyn ddim yn digwydd eto?Ac wrth gwrs, gan fod y tymor wedi dod i ben, mae'n rhaid coroni pencampwr proffwydo Y Coridor Ansicrwydd 2025-26...
gyda Huw Birkhead a Neil Williams.
Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n cael modd i fyw wrth i'r tymor ddod i ben llawn tensiwn a drama i Wrecsam a Chasnewydd.Fydd y Dreigiau yn cyrraedd gemau ail-gyfle y Bencampwriaeth? Yn rhyfeddol, mae pob canlyniad posib yn golygu fydda nhw'n llwyddo, ond hefyd yn gallu golygu bod nhw'n methu. Ond un peth sy'n sicr, fydd 'na "cool head" gan Phil Parkinson.Brywdro am eu bywydau i aros yn y Gynghrair Bel-droed mae Casnewydd. Oes ganddyn nhw un ymdrech fawr arall i sicrhau'r fuddugoliaeth fydd yn sicr o'u hachub rhag disgyn?Ac un gair o rybudd. Mae gan Dylan "ffaith" am Lerpwl sydd ymysg y mwyaf diflas fuodd ar unrhyw bodlediadau erioed.
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n llawn clod i reolwr Caerdydd Brian Barry-Murphy am arwain y garfan ifanc yn ôl i'r Bencampwriaeth ar y cynnig cyntaf. Mae gobeithion Wrecsam o gyrraedd y gemau ail-gyfle yn sicr am fynd i gêm ola'r tymor, tra bod gan Gasnewydd ddwy gêm i achub eu croen yn yr Ail Adran.
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn trafod gyrfa Aaron Ramsey, gobeithion Wrecsam o gyrraedd y gemau ail gyfle a record sgorio Zan Vipotnik.
gyda Huw Birkhead a Neil Williams.
Ydi canlyniadau da Abertawe yn golygu bod nhw wedi ymuno yn y ras am gemau ail-gyfle y Bencampwriaeth? Pum pwynt ydi'r bwlch bellach rhwng y ddau glwb, ac fe all hynny leihau i ddau gyda buddugoliaeth i'r Elyrch ar y Cae Ras nos Wener. Mae hi wedi bod yn dipyn o wythnos i Wrecsam yn dilyn amser ychwanegol yn erbyn Chelsea ac yna colled gartref yn erbyn Hull City. A chyda rhagor o anafiadau - gan gynnwys i Kieffer Moore fydd yn bryder i Gymru - ydi'r Dreigiau yn dechrau colli stêm?Ac wrth i Ryan a Rob baratoi i sylwebu ar y gêm am y tro cyntaf, pa air o gyngor sydd gan y criw i rannu gyda'r ddau actor enwog?
Y CHWIBAN TERFYNOL | Wrecsam yn erbyn Chelsea by Wrexham_AFC
Oes 'na ormod o basio a dim digon o gyffro yn y gêm fodern? Ydi ciciau cornel wedi mynd dros ben llestri go iawn? Ydi Malcolm wedi clywed gan Snoop Dogg ers ei rap bythgofiadwy? Oes, mae 'na gwestiynau dyrys i'w hateb ar y bennod yma...Mae'r criw yn cychwyn gyda'r pwynt gwerthfawr lwyddodd Cymru i gipio wrth agor y gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2027 gyda gêm gyfartal yn y Weriniaeth Siec. Canlyniad da, ond perfformiad siomedig. Roedd 'na ragor o ddathlu i'r Seintiau Newydd nos Fawrth wrth iddyn nhw gael eu coroni'n bencampwyr Cymru Premier am y pumed tymor yn olynol. Mae Casnewydd wedi codi allan o'r ddau safle isaf am y tro cyntaf mewn pum mis ar ôl curo Tranmere Rovers, ac am gol sgoriodd Dylan Lawlor i Gaerdydd (doedd honno ddim yn ddiflas)! Ac mae hi'n benwythnos mawr yn y gwpan wrth i Wrecsam groesawu mawrion Chelsea, tra bod Cwpan Cymru yn cyrraedd y pedwar olaf. Blwyddyn y Cofis o'r diwedd?
Welsoch chi erioed olygfa mwy swrreal na Snoop Dogg - un o rapwyr enwoca'r byd - yn cyfarch cefnogwyr Abertawe tra bod rai o'i ganeuon yn bloeddio o uchelseinydd cartref yr Elyrch? Go brin. Roedd hi'n anodd i Dyl, Ows a Mal wybod lle i gychwyn efo'r holl firi - ond mi fydd y digwyddiad yn sicr yn aros yn hir yn y cof. Ac wrth gwrs, mi oedd rhaid i Mal roi gynnig ar rap bach ei hun...Mi oedd 'na ychydig o amser i drafod pêl-droed hefyd, wrth i Wrecsam sicrhau dwy fuddugoliaeth llawn cymeriad (eto), tra bod 'na sioc i Gaerdydd wrth golli'n drwm i Plymouth. A beth am Eric Ramsay druan... 44 diwrnod yn unig gafodd y Cymro yn West Brom cyn cael ei ddiswyddo.
gyda Huw Birkhead a Neil Williams
gyda Huw Birkhead a Neil Williams
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod gem Wrecsam yn erbyn Chelsea yn Nghwpan Lloegr a gobeithion y pedwar clwb tan ddiwedd y tymor. Ma Ows hefyd yn dathlu fod yn Bencampwr Ras Crempog Llanelli, heb cael anaf!
gyda Neil Williams.
gyda Huw Birkhead a Neil Williams.
Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n asesu'r ffenestr drosglwyddo i glybiau Cymru ac yn dadlau dros leoliad rownd derfynol Cwpan Cymru.
Ar ôl buddugoliaeth swmpus ganol wythnos i Gaerdydd, mae'r criw yn dechrau meddwl bod dyrchafiad yn ôl i'r Bencampwriaeth yn anochel yn barod. Maen nhw ar "lefel uwch" yn ôl Malcolm Allen, tra bod Owain Tudur Jones yn credu bod popeth "rhy hawdd" i'r Adar Gleision ar hyn o bryd. Y rheolwr Brian Barry-Murphy sy'n cael y clod i gyd am drawsnewid canlyniadau'r clwb... ond ydi'r llwyddiant yma yn peryglu ei ddyfodol hirdymor yn y brifddinas?Tydi pethau ddim mor hawdd i Abertawe, yn sicr pan maen nhw'n chwarae oddi cartref. Sut all yr Elyrch wella'r record druenus o dair buddugoliaeth mewn 14 gêm? Does dim problem debyg i Wrecsam wrth iddyn nhw ddangos cymeriad drwy frwydo'n ôl unwaith eto i sicrhau buddugoliaeth anhygoel i godi i'r chwe safle uchaf yn y Bencampwriaeth. Ond ar ôl buddugoliaeth i godi hyder ddydd Sadwrn, roedd 'na ergyd drom eto i Gasnewydd wrth golli ganol wythnos.Ac ar drothwy rownd wyth olaf Cwpan Cymru, mae 'na sawl clwb o'r is-gynghreiriau yn breuddwydio am godi'r cwpan ac am daith fythgofiadwy i Ewrop.
Mae ymosodwr da yn gallu bod gwerth y byd i unrhyw glwb. Tymor yma, mae gan dri phrif glwb Cymru streicar sy'n tanio. Zan Vipotnik o Abertawe yw prif sgoriwr y Bencampwriaeth gyda 13 gôl, tra bod 10 gôl Kieffer Moore wedi helpu Wrecsam i aros o fewn gafael i'r safleoedd ail-gyfle. Ac yn yr Adran Gyntaf, mae Yousef Salech wedi serennu wrth godi Caerdydd i frig yr adran. Ond pwy mae'r criw yn ystyried ydi'r gorau o'r tri?Ond mae'r drafodaeth yn cychwyn ar nodyn siomedig yn dilyn y newyddion bod capten Cymru Ben Davies wedi torri ei bigwrn. Go brin fydd o'n holliach i chwarae yn y gemau ail-gyfle i gyrraedd Cwpan y Byd 2026. Ydi o'n ddewis cyntaf yn y tîm beth bynnag? Ddim yn ôl Malcolm...Ac nid dyna'r unig sioc i ddod o geg Mr Allen... mae o'n rhannu cyfrinach ryfeddol am ei wallt yn yr 80au.
gyda Huw Birkhead.
gyda Huw Birkhead i Neil Williams.
gyda Huw Birkhead.
Ar ôl colli'n flêr i Abertawe cyn y Nadolig, prin fyddai rheolwr Wrecsam Phil Parkinson wedi gofyn am ymateb gwell gan eu chwaraewyr. Pedair buddugoliaeth yn olynol - gan godi'r Cochion o fewn chwe phwynt i'r ail safle yn y Bencampwriaeth. Ydi cyfnod perffaith yma yn cynnig gobaith am ddyrchafiad awtomatig?Digon derbyniol oedd canlyniadau a pherfformiadau Abertawe hefyd, gan berswadio Owain mai mynd o nerth i nerth fydd yr Elyrch o dan Vitor Matos o hyn tan ddiwedd y tymor. Parhau ar y brig mae Caerdydd yn Adran Un, ac mae Casnewydd yn symud i'r cyfeiriad cywir drwy godi oddi ar waelod yr Ail Adran.Ond pwy sydd ar frig y tabl proffwydo? Does gan neb fawr o syniad i ddeud y gwir wrth i Dylan golli trac a cholli'i ben.
gyda Huw Birkhead a Neil Williams.
gyda Neil Williams.
Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones yw'r tri gŵr doeth sy'n edrych yn ôl ar fuddugoliaeth Abertawe yn erbyn Wrecsam ac yn edrych ymlaen at gemau dros gyfnod y Nadolig. Bydd Dylan yn gofyn beth fydd rheolwyr timau Cymru eisiau fel anrhegion Nadolig, ac mae yna gwis arbennig - ond nid pawb sy'n hapus...mae ffrij Dylan Griffiths wedi torri!
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod perfformiad Caerdydd yn erbyn Chelsea, y darbi rhwng Abertawe a Wrecsam, cyfweliad syfrdanol rheolwr Penybont Rhys Griffiths a'r clybiau annisgwyl sydd wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Cymru.
gyda Huw Birkhead.
Gemau all ddiffinio gweddill y tymor. Dyna sut mae'r criw yn gweld dwy gêm nesaf Abertawe - y ddwy adref ac yn erbyn timau o'u cwmpas ger gwaelodion y Bencampwriaeth. A tydi'r arwyddion ddim yn wych ar ôl i'r Elyrch ildio mantais o ddwy gôl wrth golli yn West Brom.Parhau i godi'r tabl mae Wrecsam, gan ddangos yr "ysbryd a'r cymeriad" i sgorio gôl hwyr i osgoi colli yn erbyn Blackburn. A daeth rhediad heb ennill Cymru i ben drwy guro'r Swistir - buddugoliaeth gyntaf tîm Rhian Wilkinson yn 2025.Ac ar ôl cyfweliad hynod onest a chignoeth ar raglen Sgwrs Dal y Lloer, mae 'na lwyth o gariad tuag at Mal.
gyda Huw Birkhead.
gyda Huw Birkhead.
gyda Huw Birkhead.
Ar ôl creu hanes drwy gyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2025, y targed amlwg nesaf i ferched Cymru yw cyrraedd Cwpan y Byd yn 2027. Mae'r llwybr i Frasil ychydig cliriach bellach wrth i garfan Rhian Wilkinson ddysgu pwy fydd ei gwrthwynebwyr cyntaf yn y rowndiau rhagbrofol.Roedd Dylan Griffiths ar Y Cae Ras nos Wener i weld "gêm orau'r tymor hyd yma" wrth i Wrecsam guro Coventry City, gan helpu chwalu unrhyw atgofion o'r golled siomedig i Gaerdydd yng Nghwpan y Gynghrair.Tydi'r hwyliau ddim cystal yn Abertawe. Ydi'r rheolwr Alan Sheehan yn tangyflawni o ystyried cryfder y garfan?Ac wrth i Craig Bellamy barhau i gael ei gysylltu gyda swydd wag Celtic, fydd o wir yn cael ei ddenu i'r Alban yng nghanol ymgyrch ragbrofol Cymru?
gyda Huw Birkhead a Liam Stokes-Massey
Y gantores Ani Glass sy'n trafod ei chariad at y bêl gron, a sut ddysgodd hi am hoffter cyn seren Croatia Davor Suker at siocled.Yn yr ail ran, buddugoliaeth Caerdydd yn erbyn Wrecsam yng Nghwpan y Gynghrair ar y Cae Ras sy'n cael y prif sylw, wrth i'r criw drafod y gwahaniaeth amlwg rhwng dulliau hyfforddi'r ddau dîm.
gyda Huw Birkhead.
Yn 28 oed, bu'n rhaid i Joe Morrell dderbyn bod ei yrfa fel chwaraewr proffesiynol ar ben oherwydd anaf i'w ben-glin. Dau sy'n gallu uniaethu gystal â neb gyda'r ergyd enfawr hynny ydy Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones.Am y tro cyntaf ers dros i ddegawd, mae Lerpwl wedi colli pedair gem yn olynol. Manchester United, o bawb, oedd y diweddaraf i gael o gorau o dîm Arne Slot. Be sydd wedi digwydd i rai o sêr amlycaf y Cochion? Oes 'na obaith o'r newydd i gefnogwyr Utd?A pharhau i ddisgwyl am fuddugoliaeth mae Wrecsam. Ydi'r rheolwr Phil Parkinson wir mewn peryg o golli ei swydd?
gyda Huw Birkhead.
Wrth i Abertawe nesu at safleoedd ail-gyfle y Bencampwriaeth diolch i fuddugoliaeth oddi cartref yn Blackburn, mae'r criw yn trafod os ydi dal yn rhy gynnar yn y tymor i gymryd unrhyw sylw o safleoedd ein clybiau yn y tabl. Wedi pedair gêm gartref, dal i ddisgwyl am fuddugoliaeth ar y Cae Ras mae Wrecsam - fydd hynny'n newid gydag ymweliad Birmingham nos Wener?A sôn am ganlyniadau siomedig gartref, beth yn y byd ddigwyddodd i Gaerdydd yn erbyn Burton Albion, oedd ar waelod Adran Un ar gychwyn y gêm? Parhau mae problemau enbyd Casnewydd - oes unrhyw arwyddion bod gan y rheolwr Dave Hughes atebion i atal rhediad o naw colled mewn 10 gêm.Ac ar ôl i amddiffynnwr Arsenal rhywsut lwyddo i osgoi unrhyw gosb am ddyrnu Nick Woltemade, mae gan Mal ac Ows atgofion o dderbyn dwrn neu benelin slei ar y cae.
gyda Huw Birkhead.
Mae bron i saith mlynedd bellach wedi mynd heibio ers i Gymru chwarae yn Stadiwm Principality, ond fydd hynny'n newid cyn hir o dan gynllun Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Ymateb cymysg sydd wedi bod gan y cefnogwyr, ond mae Ows a Mal yn gweld synnwyr y syniad er mwyn paratoi at y posibilrwydd o chwarae gemau yn y stadiwm yn Ewro 2026...cyn belled bod gemau rhagbrofol ddim yn symud o Stadiwm Dinas Caerdydd.Mae cryn amser hefyd ers i Wrecsam golli gymaint o gemau. QPR oedd y diweddaraf i guro criw y Cae Ras ddydd Sadwrn. Oes 'na bwysau ar y rheolwr Phil Parkinson? Mae gan Ows neges chwyrn at unrhyw gefnogwr sy'n galw am ei ddiswyddo. Ac mae gan Dyl her annisgwyl i Conor Coady...
Roedd 'na gyfle i gael cip o'r dyfodol yn Abertawe wrth i rai o chwaraewyr ifanc Cymru wynebu tîm graenus Canada mewn gêm gyfeillgar. Ac er colli 1-0, mi welodd y criw ddigon i gredu bod 'na genhedlaeth newydd yn barod i dorri drwodd. Digon i'r rheolwr Craig Bellamy - doedd ddim rhy hapus gyda dathliadau'r ymwelwyr - asesu cyn y ddwy her enfawr i ddod yn erbyn Lloegr a Gwlad Belg fis nesaf.Nôl i'r bara menyn dros y penwythnos wrth i'r gemau clybiau ddychwelyd, a chyfle i Wrecsam ac Abertawe gynnwys rhai o'r chwaraewyr arwyddodd ar ddiwedd y ffenestr drosglwyddo am y tro cyntaf.
‘Sgwrsio' ydy enw'r podlediad hwn ac mae'n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda Stephen Rule, sydd yn cael ei adnabod hefyd fel 'Y Doctor Cymraeg'. Mae'r podlediad wedi ei recordio ym Maes D yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam ym mis Awst eleni.
Am y tro cyntaf ers sbel, mae gan y criw ddigon o reswm i deimlo'n obeithiol am obeithion clybiau Cymru. Yn ogystal â chanlyniadau addawol, mae Abertawe wedi cryfhau'r garfan gan wario'n sylweddol ar chwaraewyr newydd am y tro cyntaf ers tro. Ac er nad ydi canlyniadau Wrecsam wedi bod cystal, does dim posib cwestiynu'r uchelgais wrth i'w gwariant nhw dros yr haf fynd heibio £30m.Mae Caerdydd hefyd wedi synnu nifer drwy arwyddo Omari Kellyman ar fenthyg - chwaraewr canol cae symudodd i Chelsea am £19m y llynedd. A phrin fod cefnogwyr yn gallu cwyno efo'r perfformiadau ar y cae wrth i'r Adar Gleision godi i frig Adran Un. Dydi pethau ddim cystal yng Nghasnewydd, ond dyddiau cynnar ydi hi i'r rheolwr newydd Dave Hughes...Ac wrth gwrs, mae gan Gymru daith hir i Kazakstan ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd 2026. Ydi diffyg munudau rai o amddiffynwyr Cymru am greu penbleth i'r rheolwr Craig Bellamy?
gyda Neil Williams
Y CHWIBAN TERFYNOL Wrecsam yn erbyn WBA by Wrexham_AFC
Cyn hir, mi fydd Wrecsam yn chwarae yn ail haen pêl-droed Lloegr am y tro cyntaf mewn 43 o flynyddoedd. Lle gwell, felly, i drafod gobeithion a disgwyliadau'r clwb nag ar faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam? Ac er gwaetha'r gwynt a'r glaw, mae Dylan, Mal ac Ows yn cael cwmni tri aelod o'r clwb. Yn gyntaf, sgwrs efo Huw Birkhead, sydd yn dysgu Cymraeg i chwaraewyr, staff a chefnogwyr y clwb. Ac yna Cledwyn Ashford, y sgowt a'r gwirfoddolwr sydd wedi gwneud cymaint dros y clwb. Ac mae ganddo egsliwsif neu ddau i rannu hefyd...Mi fydd tymor Abertawe hefyd yn cychwyn ddydd Sadwrn. Oes 'na obaith am fwy na thymor arall yng nghanol y tabl? A beth fydd effaith mewnbwn Snoop Dogg a Luka Modric? Ac wrth gwrs, mae'r tymor wedi cychwyn yn barod i Gaerdydd a Chasnewydd.
Beti George sydd yn holi'r pianydd sydd yn adnabyddus trwy'r byd, Llŷr Williams. Cafodd ei fagu yn Pentre Bychan, Wrecsam ac mae dal i fyw yno. Mae wedi perfformio mewn neuaddau megis Carnegie Hall, Efrog Newydd, ac wedi llenwi neuadd fawr yn y Moscow Conservatory, Rwsia. Mae wedi teithio i berfformio'n Tokyo a Mecsico ac yn rhannu eu straeon difyr. Mynychodd Ysgol Gynradd ID Hooson yn Rhosllannerchrugog, cyn mynd ymlaen i Ysgol Uwchradd Morgan Llwyd. Yn Dilyn pynciau Cerddoriaeth, Cymraeg a Saesneg, cyn mynd ymlaen i gael gradd mewn cerddoriaeth yng Ngholeg y Frenhines yn Rhydychen (Queens College Oxford) ac yna yn gorffen ei addysg yn yr Academi Frenhinol yn Llundain.Fe wnaeth Llŷr basio gradd 8 ar y piano yn 11 mlwydd oed, ac fe gafodd "distinction" ymhob un.Mae'n ymarfer y piano am 6 awr y dydd - ac yn dal i ddarganfod pethau newydd, ac yn mwynhau cerdded yn ei amser sbâr i ymlacio.
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n pwyso a mesur sut dymor fydd hi i Gaerdydd a Chasnewydd o dan eu rheolwyr newydd. A pham bod cefnogwyr Abertawe yn dechrau troi ar gefnogwyr Wrecsam..?
gyda Neil Williams.