Podcasts about chymru

  • 18PODCASTS
  • 42EPISODES
  • 37mAVG DURATION
  • 1MONTHLY NEW EPISODE
  • Mar 27, 2025LATEST

POPULARITY

20172018201920202021202220232024


Best podcasts about chymru

Latest podcast episodes about chymru

Y Coridor Ansicrwydd
Brooks yn achub Cymru (ac Allen) yn Skopje

Y Coridor Ansicrwydd

Play Episode Listen Later Mar 27, 2025 52:36


Wel am ddiweddglo yn Skopje! Camgymeriad hollol anarferol Joe Allen yn rhoi gôl ar blât i Ogledd Macedonia, cyn i David Brooks fanteisio ar ddau gamsyniad amddiffynnol gan y tîm cartref i achub gêm gyfartal oedd perfformiad Cymru yn ei haeddu. Hyn i gyd wedi'r cloc basio 90 munud!Felly, mae record ddiguro Craig Bellamy fel rheolwr yn parhau, a Chymru yn gyfartal ar frig y grŵp gyda Gogledd Macedonia wedi dwy gêm. Digon i'r 'ogia drafod, ac yn rhoi amser i Owain "ro'n i'n barod i gwffio" Tudur Jones setlo lawr.

Y Coridor Ansicrwydd
Ergyd drom i Ramsey wrth i Gaerdydd faglu eto

Y Coridor Ansicrwydd

Play Episode Listen Later Mar 13, 2025 48:59


Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod anaf diweddaraf Aaron Ramsey mewn cyfnod allweddol i Gaerdydd a Chymru. Ac ydi dyfodol Omer Riza mewn peryg gyda'r Adar Gleision wrth i'w sefyllfa ddwysáu ger waelod y Bencampwriaeth?

Podcast Rygbi Cymru
Y Ddawns Olaf

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later Nov 7, 2024 56:05


Mae Carwyn, Carwyn ac Iestyn yn trafod tîm Cymru cyn gêm Cymru v Fiji, sôn bod Ioan Cunningham ar fin gadael ei swydd fel hyfforddwr menywod Cymru a gêm fawr y penwythnos wrth i Ferthyr chwarae Pontypridd. Hefyd, ffarwel i un o'r pod am y tro wrth i ni a Chymru edrych ar y dyfodol. Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 30ain o Ionawr 2024

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jan 30, 2024 12:57


Pigion Dysgwyr – Arfon Jones Mae deiseb sy'n galw am ddefnyddio'r enw Cymru a Chymru'n unig ac i beidio â defnyddio'r enw 'Wales' wedi casglu dros un-deg un mil o lofnodion. Cyn-athro o Hen Golwyn ddechreuodd y ddeiseb a chafodd Rhodri Llywelyn sgwrs gydag Arfon Jones wythnos diwetha ar Dros Ginio. Deiseb PetitionLlofnodion SignaturesPrif Weithredwr Chief ExecutiveGwyrthiau MiraclesBras BoldTristwch SadnessCefnogwyr FansDigwyddiad EventPigion Dysgwyr – Siop Del Wel ie, tybed wnawn ni glywed y cefnogwyr yn gweiddi Cymru yn lle Wales yn y dyfodol. Cawn weld on'd ife? Nos Fawrth diwetha ar ei rhaglen cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Del Jones. Mae Del yn dod o Garn Fadryn ym Mhen Llŷn yn wreiddiol ond yn byw nawr yng Nghlynnog Fawr gyda'i phartner Math. Erbyn hyn mae hi wedi dilyn ei breuddwyd ac agor siop yng Nghricieth a hefyd mae hi‘n rhedeg gwasanaeth glanhau. Dyma Del yn esbonio y daith gymerodd hi ar ôl iddi hi adael ei swydd fel rheolwr gwesty…… Breuddwyd DreamPenderfyniad DecisionCryfder StrengthYmchwil ResearchFfyddlon FaithfulRhan amser Part timeY Cyfnod clo LockdownHeriol ChallengingPigion Dysgwyr – Treorci A phob lwc i Del gyda'i menter newydd on'd ife? Ar eu rhaglen Sadwrn cafodd Shelley Rees a Rhydian Bowen Phillips air gyda rhai oedd wedi dod i dafarn y Lion yn Nhreorci . Mae yna gynllun wedi dechrau yn nhrefi Aberdâr a Threorci i annog dysgwyr i fynd i siopau ble mae yna siaradwyr Cymraeg yn gweithio, er mwyn iddyn nhw allu defnyddio eu Cymraeg y tu allan i'r dosbarth. Hapus i Siarad yw enw'r cynllun ag un oedd yn y Lion oedd Jo… Menter VentureAnnog To encourage Sylweddoli To realiseDwy fenyw Dwy ddynesIeuenctid YouthDiwylliant CultureYn ddifrifol (o ddifri) SeriouslyPigion Dysgwyr – Guto Bebb On'd yw hi'n bwysig rhoi cyfle i ni gyd fedru defnyddio'n Cymraeg yn y gymuned? Da iawn a phob lwc i griw Hapus i Siarad. Gwestai Beti George ar Beti a'i Phobol ddydd Sul diwetha oedd cyn Aelod Seneddol Aberconwy Guto Bebb. Un o'i ddiddordebau mwya ydy cerddoriaeth fel buodd e'n sôn wrth Beti... Aelod Seneddol Aberconwy Former Aberconwy MPDiléit DiddordebGor-ddweud To exaggerateBuddsoddi'n helaeth To invest massivelyCasgliad A collectionMynd at fy nant i Interests meDw i'n dueddol o I tend toPigion Dysgwyr – Mills and Boon Pedair mil o albymau? Wel dyna beth yw casgliad helaeth on'd ife? Thema rhamantus oedd ar Dros Ginio bnawn dydd Iau pan buodd Lissa Morgan yn sôn am gyfres ramant Mills and Boon. Mae Lissa wedi bod yn ysgrifennu llyfrau i'r cwmni a dyma hi i ddweud ei stori. Cyhoeddi To publishCyflwyno To introduceCynhyrchiol ProductiveMor awyddus So eagerTu hwnt BeyondPigion Dysgwyr – Grav Digon o ramant ar Dros Ginio ar ddydd Santes Dwynwen! Ers degawd bellach mae'r actor Gareth John Bale wedi bod yn perfformio y sioe un dyn “Grav” am hanes bywyd y chwaraewr rygbi a'r darlledwr Ray Gravelle, o Fynydd-y-garreg ger Cydweli. Ond cyn bo hir bydd y sioe yn teithio i Adelaide yn Awstralia. Dyma Gareth i sôn mwy… Degawd DecadeRhyfeddol AmazingAntur AdventureYmateb ResponseCwpla GorffenCawr GiantPwysau PressureDehongliad InterpretationGwyro To deviateGofod SpaceYn uniongyrchol Directly

Podcast Pêl-droed
Ep.167 – Mullin for Wales? | Mullin i Gymru?

Podcast Pêl-droed

Play Episode Listen Later Dec 26, 2023 82:33


Leon and Russell take a look at some of the news headlines including the sacking of Steve Cooper and another health scare for Tom Lockyer. They are then joined by Tim Edwards from the Fearless In Devotion podcast to discuss Paul Mullin and a host of other Wrexham/Wales related topics. Mae Leon a Russell yn bwrw eu llygaid dros y diweddaraf yn cynnwys Steve Cooper sydd wedi cael ei hwi a dychryn iechyd arall i Tom Lockyer. Yna mae Tim Edwards o'r podlediad Fearless In Devotion yn ymuno â nhw i drafod Paul Mullin a chryn dipyn o bynciau Wrecsam a Chymru. Featured image courtesy of: | Dolch am y brif ddelwedd i: Liam Stokes-Massey

Podcast Rygbi Cymru
Y dda, y gwael a'r gwaeth fyth

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later Oct 31, 2023 60:49


Carwyn Harris ac Iestyn Thomas yn dadansoddi penwythnos enfawr o rygbi yn cynnwys gêm derfynol Cwpan y Byd, derbi cynta'r flwyddyn a cholledion anodd i'r Sgarlets a Chymru.  Mae unrhyw ymateb yn werthfawr i ni. Learn more about your ad choices. Visit megaphone.fm/adchoices

byd chymru
Radio YesCymru
Dafydd Iwan - cyfweliad gyda Gaynor Jones 25/9/23. (Yn Gymraeg/In Welsh)

Radio YesCymru

Play Episode Listen Later Sep 26, 2023 43:23


Cyfres 5, Pennod 25. Dafydd Iwan yn sgwrsio am beth sydd yn ei gymell i ymgyrchu dros gyfiawnder yr iaith a Chymru annibynnol, gyda Gaynor Jones o YesCymru Dyma'r link i'r ysgrif ar waith Dafydd Iwan gan Yr Athro E Wynn James- darllen difyr: https://www.cardiff.ac.uk/special-collections/subject-guides/welsh-ballads/dafydd-iwan

Beti a'i Phobol
Edward Morus Jones

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Jun 18, 2023 51:07


Edward Morus Jones yw gwestai Beti George yr wythnos hon. Mae'n trafod ei gartref fferm Eithin Fynydd yn Llanuwchllyn, ac yn hel atgofion am recordio Cwm Rhyd y Rhosyn gyda Dafydd Iwan a'r cyfnod yn canu gyda Mary Hopkin. Ers 40 mlynedd mae wedi bod yn ymwneud â Chymru a'r byd ac eleni, cafodd ei anrhydeddu gan y sefydliad Cymru gogledd America, sef medal am ei gyfraniad ar hyd y blynyddoedd. Bellach mae Edward wedi dechrau pennod newydd yn ei fywyd, wrth iddo rannu ei amser rhwng Llangristiolus ac yn Philadelphia.

CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: BETHANY DAVIES

CYMERIADAU CYMRU

Play Episode Listen Later Feb 5, 2023 34:01


Merch ifanc o Lanelli sydd yn sgwrsio â fi ar y podlediad wythnos hon. Mae Bethany Davies wedi dod yn seren ar y cyfryngau cymdeithasol, ac ar TIK TOK yn arbennig. Mae ei fideos hi yn hybu'r iaith a Chymru yn gyffredinol ac wedi ennill dilyniant anferth a thipyn o sylw yn y wasg. Merch hynod o ffeind ac roedd hi'n bleser i siarad â hi am ei magwraeth, yr iaith Gymraeg, a'i thaith ar Tik Tok! Fel dwi'n dweud pob wythnos, dwi mor lwcus i fedru siarad â phobl neis!

CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: DAFYDD IWAN

CYMERIADAU CYMRU

Play Episode Listen Later Jun 16, 2022 49:27


Heblaw eich bod wedi bod yn byw mewn ogof yn ddiweddar, neu, yn wir, dros y 40 mlynedd a mwy diwethaf, fyddwch chi'n amlwg yn adnabod llais a gwyneb fy ngŵr gwadd wythnos hon. Eicon go iawn, canwr a chyfansoddwr rai o ganeuon mwyaf adnabyddus, pwysig ag eiconig Cymru. Ie, neb llai na Dafydd Iwan! Beth all un ddweud am y gwr yma? Un o gymeriadau pwysicaf ein cenedl ni sy'n sgwrsio am ei fywyd, canu a cherddoriaeth, recordio, yr iaith ac ymgyrchoedd dros yr iaith a Chymru, yn ogystal â phêl droed, tîm Cymru ac wrth gwrs, cân y foment ar hyn o bryd, ''Yma o hyd''. Pleser ac anrhydedd oedd siarad gyda Dafydd a dwi'n wir yn gwerthfawrogi am iddo ymuno â fi wythnos hon.

Podcast Pêl-droed
Ep.139b: Dyrchafwn ‘da’n gilydd – Cais Dinas Diwylliant #Wrecsam2025

Podcast Pêl-droed

Play Episode Listen Later May 20, 2022 33:59


Yn y rhifyn Cymraeg arbennig er gefnogaeth cais Dinas Diwylliant #Wrecsam2025 mae sawl o bobl yn mynegi pam mae pêl-droed mor arbennig i Wrecsam a gogledd-ddwyrain Cymru, ac annog Y Wal Goch i ddod wrth gefn y gais ar ran Cymru oll. Mae siaradwyr yn cynnwys Craig Colville a Morgan Thomas o dîm y gais; bard a llysgennad #Wrecsam2025 Evrah Rose (yn Saesneg); chwaraewr CPD Wrecsam AFC a Chymru o dan 17 Lili Jones; a nifer o aelodau'r Wal Goch ledled Cymru. Ymwelwch â www.wrecsam2025.com am ragor o fanylion. Cerddoriaeth: Kidsmoke - And Mine Alone: https://www.youtube.com/watch?v=zVynpCVR31k The Barry Horns – This Is Wales: https://www.youtube.com/watch?v=wq0li5s6G8w

Pod Sgorio
Pod 29: John Hartson

Pod Sgorio

Play Episode Listen Later Mar 14, 2022 57:34


Pod 29: John Hartson Nicky John a Dylan Ebenezer sy'n dal fyny gyda chyn ymosodwr Celtic, Arsenal a Chymru cyn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle am le yng Nghwpan y Byd 2022 rhwng Cymru ac Awstria.

Pod Sgorio
Pod 15: Goliau'r Cymry a Chymru yn yr het ar gyfer y gemau ail gyfle

Pod Sgorio

Play Episode Listen Later Nov 24, 2021 32:40


Dylan Ebenezer a Sioned Dafydd sy'n edrych nôl dros y penwythnos yn y Cymru Premier ac yn edrych ‘mlaen at ddigwyddiadau ar y llwyfan rhyngwladol, lle bydd merched Cymru yn parhau eu hymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd a bydd y dynion yn darganfod eu gwrthwynebwyr yn y gemau ail gyfle.

byd cymru cymry chymru
Pod Sgorio
Pod 3: Awst 2021 yn y Cymru Premier gyda Mark Jones, rheolwr Cymru C

Pod Sgorio

Play Episode Listen Later Sep 2, 2021 30:43


Rheolwr Cymru C ac un o leisiau'r botwm coch, Mark Jones sy'n edrych nôl ar ddigwyddiadau mis Awst yn y Cymru Premier. Cyfweliad arbennig gydag MJ Williams, chwaraewr canol cae Bolton sy'n trafod dylanwad y Cymry ar y garfan ac edrych nôl ar y gêm gyfeillgar rhwng Y Ffindir a Chymru.

Pod Sgorio
Pod 2: Owain Fôn Williams

Pod Sgorio

Play Episode Listen Later Aug 26, 2021 51:38


Cyhoeddi Carfan Cymru ar gyfer gemau mis Medi, Gareth Bale yn sgorio yn La Liga am y tro cyntaf ers Medi 2019 i Real Madrid a'r Fflint yn fflio yn y Cymru Premier. Ein gwestai arbennig yw golwr Dunfermline a Chymru, Owain Fôn Williams.

Hefyd
Geordan Burress, Ffan Cerddoriaeth Cymraeg o Cleveland, Ohio | Pennod 5

Hefyd

Play Episode Listen Later Aug 19, 2021 23:46


  Geordan Burress yw ein gwestai ym mhennod 5. Mae Geordan yn byw yn Cleveland, Ohio, UDA, a dechreuodd hi ddysgu Cymraeg ar ôl darganfod yr iaith trwy gerddoriaeth Gruff Rhys.   Yn y sgwrs mae Geordan yn esbonio sut mae hi wedi dysgu Cymraeg ar lein, a siaradodd hi am ei hymweliad â Chymru. Gallwch chi weld lluniau o daith Geordan i Gymru yma. Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd: Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 18fed Mehefin 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jun 18, 2021 15:12


S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” DEWI LLWYD ...pêl-droed wrth gwrs gan fod yr Ewros wedi cychwyn a Chymru wedi dechrau'n dda gyda gêm gyfartal yn erbyn tîm y Swistir. Cyn y gêm honno cafodd Dewi Llwyd air gydag Iwan Roberts cyn i Iwan deithio allan i Baku i weld dwy gêm gynta Cymru... Gêm gyfartal - Drawn game Gohirio - To postpone Pencampwriaeth - Championship Cefnogwyr - Fans Awyrgylch - Atmosphere Cenfigenus - Jealous Dw i'n amau dim - I don't doubt Crynhoi - To summarise Ymosodwr - Attacker Yn ddyfnach - Deeper SIOE FRECWAST A phob lwc i Gymru yn y gemau nesa on'd ife? Cofiwch mae'n bosib clywed sylwebaeth fyw ar holl gemau Cymru yn yr Ewros ar Radio Cymru. A phêl droed oedd pwnc Ffeithiadur y Sioe Frecwast gyda Caryl, Huw a Hywel Llion fore Llun, a chlywon ni nifer o ffeithiau diddorol iawn am y gêm... Iesgob annwyl! Good grief! Cynhyrchu To produce Fel a gydnabuwyd As acknowledged Iseldiroedd Netherlands Clip Gilian Elisa Mae yna dîm pêl-droed yn y Llanfairpwll enwog hefyd cofiwch! Rhydian Bowen Phillips a Shelley Rees oedd yn cyflwyno yn lle Trytsan ac Emma fore Gwener, a'r actores Gillian Elisa oedd eu gwestai a buodd hi'n sôn am ei phrosiect newydd yn LLundain... Gwmws - Exactly Adeiladol - Constructive Ciniawa - To dine Dan y Wenallt - Under Milk Wood Llwyfannu - To stage Ymarferion - Rehearals DEWR Clywon ni Rhydian Bowen Phillips ar Bodlediad Dewr yn ogystal. Roedd Rhydian yn arfer perfformio gyda'r band Mega a buodd e'n sgwrsio gyda Non o'r band Eden am rai o'r sylwadau negyddol a chas roedden nhw'n derbyn ar gyfryngau cymdeithasol, yn enwedig ar o wefannau cymdeithasol cynta yn Gymraeg – maes-e… Cas - Nasty Cyfryngau cymdeithasol - Social media Canmol - To praise Bodoli - To exist Sylwadau - Comments Canolbwyntio - To concentrate Yn fyw - Live Cynulleidfa - Audience Diflannu - To disappear TRYSTAN AC EMMA Ie , mae'r cyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn lefydd negyddol iawn on'd y'n nhw. Buodd Lowri Cooke yn adolygu'r ffilm newydd Dream Horse ar Bore Cothi a chlywon ni bod gan y ffilm gysylltiadau cryf iawn â Chymru. Rhyfeddol - Amazing Cyfarwydd - Familiar Llwyth - Loads Cyfarwyddwr - Director Trin - To treat Argraff - Impression Urddas - Dignity Nid nepell o - Ddim yn bell o Gorbwysleisio - Overemphasising Difreintiedig - Deprived Ffraeth - Witty LISA GWILYM Arhoswn ni gydag actorion Cymreig – y tro hwn Steffan Rhodri sy'n byw yn Llundain ar hyn o bryd. Beth mae e'n licio wneud ar ei ddydd Sul delfrydol? Rhannodd yr actor ei benwythnos perffaith gydag Ifan Davies oedd yn cyflwyno yn lle Lisa Gwilym Delfrydol - Ideal Cyflwyno - Presenting Amrywio - To vary Ymhellach - Further Traddodiadol - Traditional Arbrofol - Experimental Dylanwadau - Influences Dwyrain Canol - Middle East Môr y Canoldir - Mediterranean Sea Cyfuniad - Combination Dychmygol - Imaginative

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 4ydd Mai 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jun 4, 2021 15:59


S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … BETI GEORGE Gwestai Beti George wythnos diwetha oedd y newyddiadurwraig o Gonwy, Maxine Hughes sydd erbyn hyn yn gweithio yn Washington DC. Buodd hi'n byw yn Istanbul pan oedd hi'n gweithio i gwmni Newyddion TRT World ac yn 2016 roedd sawl sefyllfa beryglus wedi codi yn y wlad. Be oedd effaith hynny arni hi tybed? … Profiad - Experience Hardd - Pretty Anhygoel - Incredible Darlledwr - Broadcaster Ymosod - To attack Uffernol - Hellish Awyrennau - Aeroplanes GWNEUD BYWYD YN HAWS Roedd hi'n amser cyffrous ond peryglus iawn i Maxine a'i theulu yn Istanbul yn 2016 on'd oedd hi? Mae llawer iawn ohonon ni wedi gorfod hunan ynysu am rywfaint yn ystod y flwyddyn diwetha on'do? Ond doedd gan Mari Huws ddim dewis – roedd hi'n byw ar ynys fach Ynys Enlli. Hi ydy warden yr ynys ac mae hi wedi bod yn brysur yn cael rhai o dai Enlli yn barod ar gyfer ymwelwyr yn ystod yr haf. Nos Fawrth ar Gwneud Bywyd yn Haws caethon ni ychydig o flas bywyd ar yr ynys gan Mari... Ynys Enlli - Bardsey Island Anferth - Huge Cynnal a chadw - To maintain Her - A challenge Llnau - Glanhau Cyflwr - Condition Goleudy - Lighthouse Mae'n anodd dychmygu - It's difficult to imagine Amlwg - Obvious GWNEUD BYWYD YN HAWS Ychydig o flas ar fywyd Ynys Enlli yn fan'na ar Gwneud Bywyd yn Haws. Roedd hi'n benwythnos Gwneud Gwahaniaeth ar BBC Radio Cymru a buodd nifer o bobl yn siarad am eu profiadau o wneud gwahaniaeth yn y gymuned neu am beth sy wedi gwneud gwahaniaeth i'w bywydau nhw. Lowri Morgan oedd gwestai Aled Hughes a soniodd hi am effaith rhedeg ar ei bywyd hi Gwneud Gwahaniaeth - Making a difference Mae'n rhaid i mi gyfaddef - I must admit TGAU - GCSE Ysgafnhau - To lighten Amynedd - Patience Hynod ysbrydoledig - Extremely inspiring Yr un - The same Corfforol - Physical Cymhelliad - Motivation Dewrder - Bravery Hyfforddi - Coaching IFAN EVANS Rhywun arall sy wedi gwneud gwahaniaeth yn ei chymuned yw Ela Jones – a hi oedd yn derbyn gwobr DIOLCH O GALON rhaglen Ifan, a dyma un o'i ffrindiau hi'n sôn mwy amdani wrth Ifan Jones Evans Gwobr - Award Gwirfoddol - Voluntary Cyngor doeth - Wise advice Dirwgnach - Uncomplaining Yn ddiwyd - Diligently Ychwanegol - Extra Cymuned wledig - Rural community Amhrisiadwy - Invaluable Cydwybodol - Concientious DROS GINIO Ela Jones yn llawn haeddu'r wobr on'd oedd hi? Mae cŵn defaid yn werthfawr iawn i ffermwyr, ond pwy fasai'n meddwl basai ci bach o Fangor yn cael ei werthu am bris dorodd record y byd! Jenifer Jones glywodd hanes LASSIE ar Dros Ginio Cŵn defaid - Sheepdogs Arwethiant - Sale Blaenorol - Previous Rhinweddau - Virtues Cynghrhair - League Hen-daid - Great grandfather Cynharach - Earlier Prin iawn - Very rare Gast - Bitch Clip Steffan Sioe Frecwast Ac o seren y cŵn defaid i hanes rai o sêr Hollywood mewn ffilm a chysylltiadau cryf iawn â Chymru. Mi wnaeth Steffan Rhodri ymuno â Shelley a Rhydian i sôn am ei ffilm Hollywood newydd – Dark Horse... Ffilm ddogfen Documentary Perchen To own Llwyddiannus iawn Very succesful Cymeriadau Characters Pentrefwyr Villagers Sain Sound Awgrymu To suggest Talu teyrnged Paying a tribute

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 12fed Mawrth 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Mar 12, 2021 15:22


S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … TRYSTAN AC EMMA Roedd gan Trystan ac Emma ddiddordeb mawr mewn rhestr oedden nhw wedi ei weld o‘r gemau bwrdd mwya poblogaidd – a Monopoly oedd ar y brig wrth gwrs! Cafodd y ddau sgwrs gyda Dyfed Edwards o gwmni What Board Games i drafod y rhestr ac i ystyried apel gemau bwrdd yn gyffredinol Rhestr - List Gemau bwrdd - Board games Ar y brig - In the top spot Ystyried - To consider Yn gyffredinol - Generally Yn amlwg - Obviously Ennyn diddordeb - To arouse the interest Ymddiddori - To be interested in Ehangu meddyliau - To expand the minds Rhyngrwyd - Internet FFION EMYR A dw i’n siŵr bod llawer mwy ohonon ni wedi bod yn chwarae gemau bwrdd yn ystod y cyfnod clo on’d oes? Rhywbeth arall sy wedi bod yn boblogaidd yn ystod y flwyddyn ddiwetha ydy cwisiau. Daeth Cris, cwis feistr rhaglen Geth a Ger i gael sgwrs gyda Ffion Emyr nos Wener a rhoi tips iddi hi ar sut i ennill mewn cwis tafarn. Yr un un diddordebau - Exactly the same interests Ail-greu - To re-create Rhyfeloedd - Wars Dw i’n cymryd - I presume Rhestrau - Lists Prif Wenidogion - Prime Ministers Arlywyddion - Presidents Taleithau - States ALED HUGHES Wel dych chi’n gwybod beth i’w wneud nawr pan fydd cwisiau tafarn yn ail-gychwyn – dim ffrindiau yn eich tîm! Gyda Phrifysgol Lerpwl yn dechrau cwrs gradd MA ar hanes a cherddoriaeth y Beatles, cafodd Aled Hughes a Meurig Rees Jones sgwrs am y cysylltiad rhwng y Fab 4 a Chymru Gradd - Degree Cerddoriaeth - Music Cysylltiad - Connection Ddaru nhw - Wnaethon nhw Hel - To collect Diswyddo - To sack GERAINT LLOYD Meurig Rees Jones oedd hwnna yn sôn wrth Aled Hughes am y cysylltiadiau rhwng y Beatles a Chymru. Daeth y sianti yn boblogaidd iawn yn ddiweddar ar Tik Tok ac ar-lein. Ar raglen Geraint Lloyd buodd Anna Sherratt yn sôn am ei chôr rhithiol, Côr Pawb, ac yn rhoi her i Geraint ymuno â nhw i ganu ac i greu sianti môr Her - A challenge Sylweddoli - To realise Caneuon gwerin - Folk songs Ymuno â - To join Dolen - Link Archebu - To order Ymchwilio - Researching Yn y cefndir - In the background SHELLEY A RHYDIAN Tybed fydd Geraint yn derbyn yr her? Dyn ni’n siŵr o gael gwybod ar ei raglen on’d dyn ni?. Matthew Rhys oedd gwestai Shelley a Rhydian bnawn Sadwrn. Fe oedd yn dewis rhai o’i hoff ganeuon ‘codi calon’ ac yn rhannu rhai o’i hanesion Hollywood – fel pan gafodd y fraint o eistedd ar bwys Michelle Obama mewn swper moethus! Y fraint - The honour Ar bwys - Wrth ymyl Moethus - Luxurious Pob arweinydd y byd - Every world leader Fforcais i e - I forked it Prawf - Proof Ffrwydro - To explode Wir Dduw - God’s truth GWNEUD BYWYD YN HAWS Meddyliwch tasai‘r tomato wedi glanio ar ffrog Michelle – roedd Matthew yn lwcus iawn on’d oedd e? Yr wythnos hon ar Gwneud Bywyd yn Haws buodd Hanna Hopwood Griffiths yn sgwrsio gyda thri sydd wedi dysgu Cymraeg. Yn y clip yma mae hi’n sgwrsio gyda’r Dr Jonathan Hurst, meddyg yn Ysbyty Merched Lerpwl ac Ysbyty Plant Alder Hey sydd wedi dysgu Cymraeg er mwyn gallu siarad yn Gymraeg gyda theuluoedd o Ogledd Cymru sy’n gorfod mynd i’r ddwy ysbyty Mynychu - To attend Yn rheolaidd - Regularly Ymddengys - It appears Gwenu - Smiling Fy annog - Encourages me

Y Coridor Ansicrwydd
Nathan Craig - y Cofi yn Goodison

Y Coridor Ansicrwydd

Play Episode Listen Later Feb 25, 2021 58:35


Cyn-chwaraewr Everton a Chymru dan21 Nathan Craig sy'n trafod ei yrfa a'i obeithion yng Nghaernarfon gyda Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones.

everton cyn goodison chymru nghaernarfon
Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 12fed Chwefror 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Feb 12, 2021 16:04


S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … TROI’R TIR Roedd gêm gynta Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn un gyffrous iawn gyda Chymru yn ennill o bum pwynt yn unig. Pwy tybed oedd Gwenan Morgan Lyttle yn ei gefnogi dydd Sadwrn gan ei bod hi bellach yn byw yng Ngogledd Iwerddon ac wedi priodi Gwyddel? Dyma i chi glip o Gwenan yn sgwrsio gyda Terwyn Davies ar Troi Tir Pencampwriaeth y Chwe Gwlad - Six Nations Championship Cefnogi - To support Gwyddel - An Irishman Gwartheg - Cattle Tad-cu - Taid Bugail - Shepheard Yn y gwaed - In the blood Y Weriniaeth - The Republic Hwyluso - To facilitate Ar y ffin - On the border DANIEL GLYN AC ELLIW GWAWR Dw i’n siŵr bod Gwenan yn hapus iawn dydd Sadwrn ar ôl i Gymru guro’r Iwerddon. Y newyddiadurwraig Elliw Gwawr oedd gwestai Daniel Glyn ar y sioe Frecwast dros y penwythnos. Dyma hi’n sôn am sut mae’r blynyddoedd diwetha wedi bod yn rhai diddorol iawn iddi hi… Newyddiadurwraig - Female journalist Anghyffredin - Uncommon Prif Weinidogion - Prime Ministers Llywodraethu - To govern Newid enfawr - A huge change Llywodraeth Cymru - The Welsh Government Anhygoel - Incredible San Steffan - Westminster Cyn lleied â - As little as Gwefannau cymdeithasol - Social media Diddiolch - Thankless TATŴS TRYSTAN AC EMMA Elliw Gwawr oedd honna’n sôn am waith newyddiadurwraig wleidyddol yn ystod y blynyddoedd prysur diwetha. Ar ôl i Brooklyn Beckham, y model sy’n fab i David a Victoria Beckham, gael tatŵ arall i ychwanegu at yr holl ink sy ar ei gorff, cafodd Trystan ac Emma sgwrs gydag Elin Mai o Lanberis sy hefyd yn dipyn o ffan o datŵs… Na fo - Dyna fe/fo Uniaethu - To empathise Wastad - Always Ymhelaethu - To expand Ysgogi - To inspire GWEN SGWRS YR HET Hanes tatŵs Elin Mai yn fan’na ar raglen Trystan ac Emma. Mae het Geraint Lloyd wedi teithio ar draws Gymru wrth i un gwrandäwr ei phasio at wrandäwr arall. Yr wythnos diwetha roedd yr het wedi cyrraedd Castell-Nedd a dyma Geraint yn holi perchennog newydd yr het - Gwen… Ymgymryd â her - Taking up a challenge Elusen - Charity Elwa - To benefit Gwledd - A feast FFION DAFIS Gwen o Gastell-Nedd oedd honna, yn sôn am ei hetiau. Roedd gan yr actores Ffion “gwallt” Dafis ddewis anodd iawn i’w wneud yn ddiweddar - parhau i actio rhan Alwenna yn y gyfres boblogaidd Rownd a Rownd neu wneud cyfres newydd o’r ddrama boblogaidd ‘Byw Celwydd’. Hi oedd gwestai penblwydd Dewi Llwyd dydd Sul gan ei bod yn dathlu ei phenblwyddd yn hanner cant. Dyma hi’n esbonio wrth Dewi pam gwnaeth hi ddewis ‘Byw Celwydd’… Cyfres - Series Yn werthfawrogol iawn - Very appreciative Pryderus - Worried Cyfuniad - A combination Troi a throsi - Tossing and turning Anwyldeb - Affection Yn wythnosol - Weekly Magwraeth - Upbringing FY STORI I - DEWI TUDUR Penderfyniad anodd iawn yn fan’na i Ffion Dafis. Mewn rhaglen arbennig o’r enw Fy Stori i, glywon ni hanes yr artist Dewi Tudur sydd yn byw yn yr Eidal erbyn hyn. Yn y rhaglen clywon ni ei fod wedi cael cyfnodau trist iawn yn eu fywyd ond yn y clip yma dyma fe’n sôn am ddigwyddiad hapus iawn newidiodd ei fywyd yn llwyr… Cyfeillgarwch - Friendship Gwas y Neidr - Dragonfly Selio - Based Diniweidrwydd - Innocence Cynhyrchwyr - Producers Dyma fi’n digwydd - I happened to Ro’n i wedi gwirioni - I was delighted Unig ac anial - Lonely and desolate

Y Busnes Rhedeg 'Ma
Pennod 7 - Elliw Haf

Y Busnes Rhedeg 'Ma

Play Episode Listen Later Dec 22, 2020 72:06


Ym mhennod ddiweddaraf podlediad Y Busnes Rhedeg 'Ma mae Owain Schiavone yn cael cwmni rhedwraig Harriers Eryri a Chymru, Elliw Haf. Mae Elliw wedi cael cryn lwyddiant dros y blynyddoedd diwethaf, gan gyrraedd y brig (yn llythrennol) trwy gynrhychioli Cymru yn Ras yr Wyddfa ar ddau achlysur. Ym mis Mai, daeth newid ar fyd wrth iddi roi genedigaeth i'w plentyn cyntaf ac yn y sgwrs mae'n trafod sut y llwyddodd i barhau i redeg yn ystod ei beichiogrwydd, ac ail-ddechrau'n fuan ar ôl yr enedigaeth. Ar dop y sioe mae Owain yn sôn am ddwy her elusennol sydd ar y gweill gan David Cole a Peter Gillibrand. Dyma'r dolenni os ydych chi eisiau cefnogi'r heriau hynny, a chyfrannu at yr elusennau teimlwng: David Cole - https://www.justgiving.com/fundraising/MINDAdventCalendarRunningChallenge Peter Gillibrand - https://uk.virginmoneygiving.com/PeterGillibrand1

CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU RHIF 10: CARWYN JONES

CYMERIADAU CYMRU

Play Episode Listen Later Dec 3, 2020 38:29


Nôl I wleidyddiaeth wythnos hon a thro'r Blaid Lafur gyda chyn prif weinidog senedd cymru Carwyn Jones. Ar ôl bron i ddeng mlynedd yn y swydd, mae e'n parhau i fod yn aelod o'r senedd ond erbyn hyn, wedi mynd yn ôl at y gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi ysgrifennu ei hunan gofiant ac yn ymddiddori yn ngwleidyddiaeth a materion yn ymwneud â Chymru a'r Blaid Lafur. Diddorol yw clywed ei farn am annibynniaeth i Gymru, rôl y Senedd, cyn arweinwyr cenedlaethol y Blaid, ei swydd ddelfrydol ac effeithiolrwydd prif weinidog Cymru ar hyn o bryd. Cofiwch wrando ar y rhif arbennig yma a'r gyfres i gyd ar nifer o lwyfannau amrywiol, gan gynnwys llwyfan @YPOD sy'n rhoi sylw i nifer fawr o bodlediadau yn y Gymraeg.

Beti a'i Phobol
22/03/2020

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Nov 19, 2020 47:07


Beti George yn sgwrsio gyda'r Dr Radha Nair Roberts sydd yn niwro-wyddonydd o Singapore yn wreiddiol, ac erbyn hyn yn dioddef o Sglerosis Ymledol. Yma mae hi'n sôn am ei chefndir diddorol, ei gwaith ymchwil mewn i'r cyflwr niwrolegol Alzheimer's ac am ei chariad tuag at ei theulu a Chymru, ei gwlad fabwysiedig.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr Hydref 30ain 2020

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Oct 30, 2020 16:52


"S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” Beti George Cafodd Beti George y cyfle i sgwrsio gydag Aran Jones o’r cwmni Say Something in Welsh ar ddiwedd wythnos dysgwyr BBC Radio Cymru. Yn ôl Aran, mae’r cwmni gafodd ei greu unarddeg o flynyddoedd yn ôl, yn newid cyfeiriad yn y ffordd maen nhw’n dysgu’r iaith. Dyma Aran yn dweud mwy am hyn wrth Beti… Ymdrech sylweddol - A substantial effort Addasiad niwrolegol - a neurological adjustment Arbrofi - To experiment Bron yn ddi-baid - Almost non-stop Ymenydd - Brain Cymhleth - Complex Eitha hyblyg - Quite flexible Dwys - Intense Syfrdanol - Astounding Cyflawni - To achieve Ar y Marc Aran Jones o Say Something in Welsh oedd hwnna’n sgwrsio gyda Beti George. Un fuodd yn defnyddio gwefan Say Something in Welsh i ddysgu Cymraeg ydy’r Almaenwr Klaus Neuhaus. Does gan Klaus ddim cysylltiad â Chymru o gwbl heblaw am ei gariad tuag at tîm pêl-droed y wlad. Mae e’n ffan mawr o dîm Cymru ers chwarter canrif ac erbyn hyn mae e’n aelod llawn o’r wal goch ac yn dilyn y tîm ar hyd a lled y byd. A dyma pam mae e wedi dechrau dysgu Cymraeg fel buodd e’n esbonio wrth Dylan Jones ar Ar y Marc… Peirannydd cyfathrebu - Communication engineer Hyd yn hyn - Up to now Awyrgylch - Atmosphere Canlyniad - Result Heulwen - Sunshine Yr olygfa - The scene Mo’yn - Eisiau Yn ddiweddarach - Later on Rownd derfynol - The final Aled Hughes (Natalie Jones) Dysgu Cymraeg i blant fydd Natalie Jones ar ôl iddi orffen ei chwrs ymarfer dysgu. Cafodd Natalie ei magu ym Mhwllheli ond mae hi’n byw yn San Cler yn Sir Gaerfyrddin erbyn hyn. Yn ystod y mis yma mae hi wedi cael y cyfle, bob nos Iau ar S4C, i gyflwyno cyfres sydd yn rhan o fis Hanes Pobol Ddu yng Nghymru. Dyma hi’n sôn wrth Aled Hughes am beth hoffai hi weld yn newid yng Nghymru o ran y boblogaeth ddu… Dinbych y Pysgod - Tenby Hyfforddi - To train Profiadau newydd - New experiences Anweledig - Invisible Hiliaeth - Racism Bodoli - To exist Parch a sylw - Respect and attention Annhegwch - Unfairness Balchder - Pride Hunaniaeth - Identity Bore Cothi Natalie Jones oedd honna’n sôn wrth Aled Hughes am brofiadau’r boblogaeth ddu yng Nghymru. Daeth y syniad o gael pobl noeth ar galendrau gan y Calender Girls ar ddiwedd y nawdegau, ac ers hynny dyn ni wedi gweld sawl calendr gyda phobl bron yn noeth, neu’n borcyn, yn aml iawn i godi arian at achosion da. A nawr mae Calendr Clo-rona ar werth i godi arian at wefan iechyd meddwl meddwl.org. Syniad Catrin Toffoc oedd hyn ac mae hi wedi perswadio deg o gantorion clasurol Cymru i ddangos y cyfan! Un ohonyn nhw ydy’r tenor Trystan Llyr Griffiths a buodd e’n esbonio wrth Shan Cothi sut aeth e ati i dynnu llun ohono’i hun yn hollol noeth... Noeth - Naked Ei dîn ma’s - His backside out Y mannau iawn - The right places Pipo ma’s - Peepimg out Siglo chwerthin - Rolling with laughter Y tywyllwch - The dark Twlu - To throw Hydrefol - Autumnal Twym - Cynnes Stiwdio Trystan Llyr Griffiths oedd hwnna’n esbonio ar Bore Cothi sut aeth e ati dynnu llun ohono’i hun yn hollol noeth ar gyfer calendr Clo-rona... Ar Stiwdio wythnos diwetha agwedd y Cymry tuag at gelf weledol oedd yn cael sylw ac yma mae Nia Roberts yn holi’r artist Mike Jones am ei fagwraeth, a faint o gelf oedd o’i gwmpas pan oedd e’n ifanc... Agwedd - Attitude Celf weledol - Visual art Cyd-destun - Context Ysbrydoliaeth - Inspiration Lisa Gwilym Mike Jones yn esbonio wrth Nia Roberts beth wnaeth ei ysbrydoli e i fod yn artist. Mae’r band Ail Symudiad o Aberteifi yn perfformio ers y saithdegau ac mae’n debyg mai nhw yw un o’r grwpiau sydd wedi gigio mwyaf o gwmpas Cymru. Mae’r ddau frawd yn y band, Rich a Wyn wedi rhyddhau cân newydd. Dyma Rich yn cael sgwrs gyda Lisa Gwilym am greu’r gân honno a’r hanes y tu ôl iddi hi. Rhyddhau - To release Yr ysfa i greu - The desire to create Y dôn - The tune Testun - Text Carcharorion rhyfel - Prisoners of War Anghredadwy - Unbelievable Yr un egwyddor - The same principle Gwersyll - Camp

Podcast Pêl-droed
Podcast | Podlediad #100: Remembering England vs Wales 1970 with Chris Leek

Podcast Pêl-droed

Play Episode Listen Later Oct 6, 2020 38:45


Get in the mood for this week's England-Wales friendly by listening to how, fifty years ago Chris Leek, saxophonist in The Barry Horns, caught a train to Cardiff from Swansea and made his way to Ninian Park for his first ever Wales match: versus England in the 1970 Home Championship. Listen to Chris's recollections of the game and also of the game against Northern Ireland a week later when George Best visited Chris's beloved Vetch Field. Byddwch mewn hwyl i groesawu'r gêm cyfeillgar rhwng Lloegr a Chymru gan wrando ar sut esgynodd Chris Leek, sacsoffonydd gyda'r Barry Horns, drên o Abertawe i Gaerdydd a mentro i Barc Ninian am ei gêm Cymru cyntaf erioed: yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth Prydain 1970. Gwrandewch ar atgofion Chris y gêm ac hefyd y gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon yr wythnos ddilynol pan ymwelodd George Best â'r Cae Vetch mor annwyl i Chris.

Catholic Bishops' Conference Podcasts
Bishop Regan greets Benedict XVI on behalf of the people of Wales

Catholic Bishops' Conference Podcasts

Play Episode Listen Later Sep 17, 2020 3:56


Bishop Edwin Regan, then Bishop of Wrexham and a fluent Welsh speaker, welcomed Pope Benedict XVI on behalf of the faithful of Wales. He spoke in both his mother tongue and in English. "On behalf of the Catholics of Wales, and of Wales itself, I am immensely privileged to offer you our most sincere sentiments of loving respect and deep appreciation of all that you do for the building of God’s Kingdom on earth." "Dad Sanctaidd, ar ran Catholigion Cymru, a Chymru ei hun, mae hi’n fraint arbennig iawn i mi allu cyflwyno i chi ein teimladau diffuant o barch cariadus, a gwerthfawrogiad dwys o’r hyn rydych chi’n ei gyflawni i adeiladu teyrnas Dduw ar y ddaear." Recorded on Saturday, 18 September 2010.

The Cardiff Blues Podcast
S2 Ep22: Podlediad Cymraeg: Nicky Robinson

The Cardiff Blues Podcast

Play Episode Listen Later Jul 6, 2020 68:09


Ar yr ail bennod podlediad Cymraeg Gleision Caerdydd, cyn maswr Gleision Caerdydd a Chymru, Nicky Robinson, yw'r gwestai er mwyn trafod ei yrfa yn chwarae dros bump clwb mewn tair gwlad Lerpwl yn ennill yr Uwch Gynghrair, y Grand National a llawer mwy!

Ligo
Ewro 96

Ligo

Play Episode Listen Later Mar 29, 2020 61:09


Dentist Chairs, Cheeky Chips, Golden Goals, Fußball’s Coming Home, Fantasy Football, El Tel, Cŵl Croatia, a Chymru’n colli i Georgia a Moldofa. Ymunwch ‘da Ligo wrth iddyn nhw edrych nôl ar dwrnament nath newid pêl-droed yn Lloegr am byth.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 20fed o Fawrth 2020

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Mar 20, 2020 15:11


Hwyrnos Georgia Ruth - Ynys Blastig niwed harm amgylchedd environment creadigol creative lleihau defnydd reduce the use Cyfarwyddwraig Director (female) darn o gelf piece of art gorddefnydd overuse atgoffa to remind pi pi'n bob man urinating everywhere hybu to promote "Dyn wedi clywed llawer iawn yn ddiwedddar am y niwed mae plastig yn ei wneud i'r amgylchedd, ond dych wedi clywed am yr Ynys Blastig? Prosiect gan Gyngor Gwynedd ydy e a dyma'r actor Iwan Fon yn esbonio wrth Sian Eleri beth yn union yw Ynys Blastig... " Sioe Frecwast Radio Cymru 2 - Gwyneth Keyworth ymddangos to appear cyd-actorion co-actors profiad experience cyfres series doniol funny go iawn in reality amyneddgar patient elfennau elements "Sian Eleri oedd honna ar raglen Hwyrnos Georgia Ruth yn siarad gyda'r actor Iwan Fon am yr Ynys Blastig.– Cafodd Daf a Caryl sgwrs gyda Gwyneth Keyworth ar y Sioe Frecwast bore Mercher. Actores ydy Gwyneth ac mae hi'n ymddangos ar hyn o bryd yn y gyfres “The Trouble with Maggie Cole” ar ITV. Ei chyd-actorion ar y gyfres yw Dawn French a Mark Heap. Sut brofiad ydy gweithio gyda'r ddau tybed….? " BORE COTHI - Mari a Mair trawsblaniad aren kidney transplant rhywbeth yn bod something wrong ychwaneg more profion tests cyflwr genetig genetic condition dim byd o'r fath nothing of the sort anghyffredin unusual bendith blessing anhygoel incredible meddyginiaeth medicine "Gobeithio bydd Mark Heap yn nabod Gwyneth erbyn diwedd y gyfres on'd ife? Dydd Iau clwyon ni hanes dwy ferch ifanc ar Bore Cothi, Mari Siwan Davies o'r Parc ger y Bala a Mali Elwy o Danyfron ger Llansannan yn Sir Conwy. Mae un ohonyn nhw wedi cael trawblaniad aren a’r llall yn aros am un. Dyma Mari i ddechrau'n sgwrsio gyda Shan…. " Sioe Sadwrn - Kid Cymru campfa gym tyfu lan to grow up ymateb response watsio to watch yn gleisiau i gyd bruises all over taflu to throw cyhyrog muscular cwympo to fall ffili esgus cannot pretend "... a chafodd y sgwrs honno ei recordio ar Ddiwrnod Aren y Byd. Mae gan Gethin Williams o ardal Llanelli enw arall sef Kid Cymru - ei enw reslo ydy hwnnw. Ar Sioe Sadwrn gofynnodd Geraint Hardy iddo fe sut dechreuodd y diddordeb mewn reslo... " Dros Ginio - Adam ac Adrian gwas sifil Civil servant arweinydd leader barn wleidyddol swyddogol an official political opinion syndod surprise dylanwad mawr huge influence gwleidyddiaeth politics priodoli to attribute cyfeiriadau references prin iawn ei Gymraeg limited knowledge of Welsh gwythien vein "Hanes Kid Cymru yn fan'na ar Sioe Sadwrn. Yn y gyfres Dau cyn Dau y ddau frawd Adam a Adrian Price oedd yn siarad gyda Dewi Llwyd. Mae Adrian yn was sifil ac yn diwtor Cymraeg i Oedolion ac Adam yw arweinydd Plaid Cymru. Saesneg yw mamiaith Adam ond Cymraeg mae e'n siarad gyda'i frawd Adrian. Sut ddigwyddodd hynny oedd un o gwestiynau Dewi Llwyd i'r ddau. " Cofio - Jimmy Carter gwleidydd politician Cyn-Arlywydd former President y diweddar the late cysylltiadau contacts answyddogol unofficial gofalu amdano fe looking after him pwysau pressure "...Adam Price yn fan'na - gwleididd sydd â chysylltiad agos ag America gan iddo fe astudio ym Mhrifysgol Havard. Ond gwleidydd Americanaidd gyda chysylltiad â Chymru sydd yn y clip nesa - sef Jimmy Cartrer, cyn Arlywydd America. A'r cysylltiad â Chymru? Wel yn 1986 dreuliodd e wythnos yng Ngorllewin Cymru yn pysgota gyda Moc Morgan fel y clywon ni ar Cofio . Dyma John Hardy yn holi'r diweddar Moc Morgan... "

Dim Rwan na Nawr
Yr Oesoedd Tywyll

Dim Rwan na Nawr

Play Episode Listen Later Nov 29, 2019 57:17


Dr Rebecca Thomas a Dr Owain Jones o Brifysgol Bangor sy'n ymuno gyda Tudur a Dyl i drafod yr Oesoedd Tywyll. Ydy Tudur yn gywir i ddefnyddio'r term? Pwy oedd yn ymosod ar Gymru ar y cyfnod "tywyll" yma? Oedd 'na lonydd i'w gael i'r Cymry? Oedd na'r fath beth a Chymru, neu Gymry, ar y pryd?!

Byd Rygbi Cat a Charlo
Y sebon o du ôl i’r soffa!

Byd Rygbi Cat a Charlo

Play Episode Listen Later Oct 30, 2019 11:55


Gareth a Catrin sy’n trafod tîm ola’ erioed Warren Gatland wrth y llyw gyda Chymru

Byd Rygbi Cat a Charlo
Awr fawr Japan!

Byd Rygbi Cat a Charlo

Play Episode Listen Later Oct 13, 2019 13:06


Ma’ Gareth yn ei ôl yn gwmni i Catrin i drafod llwyddiant Japan a Chymru!

Ligo
First Blood i Rambo

Ligo

Play Episode Listen Later Sep 24, 2019 37:05


Rhodri, Telor, Rhys, ac Ifan sy’n trafod gêmau’r penwythnos ar draws Ewrop a Chymru. Ma’ Ligo hefyd yn trafod stafelloedd newid a thrydydd crysau Nike.

Y Gic Rydd
CYFWELIAD OSIAN ROBERTS

Y Gic Rydd

Play Episode Listen Later Aug 8, 2019 55:13


⚽Pam mae Osian yn gadael tîm Cymru am Moroco? ⚽Pwy sydd yn ei “dream 11” Cymru? ⚽Sut mae cael y gorau allan o Gareth Bale? Sioned Dafydd sydd yn darganfod y cyfan yn y podlediad yma! #AtléticoHansh Mis yma ar y podlediad mae cyn is-reolwr a chyfarwyddwr technegol Cymru, Osian Roberts yn ymuno â Sioned ar y Gic Rydd. Ar ôl iddo gyhoeddi yn ddiweddar ei fod yn gadael ei swydd gyda Chymru er mwyn symud i weithio gyda thîm rhyngwladol Moroco, mae Sioned yn holi Osian am ei gyfnod gyda Chymru, uchafbwyntiau, isafbwyntiau a mwy am yr her newydd sydd ar y gweill yng Ngogledd Affrica.

Beti a'i Phobol
Matt Ward

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Mar 24, 2019 49:57


Ym Manceinion a Llanrug y cafodd Matt Ward ei fagu. Rhedeg oedd yn mynd â'i fryd yn yr ysgol, gan gynrychioli'r sir a Chymru, cyn gorfod rhoi'r gorau iddi oherwydd anaf. Mae wedi gweithio i'r Llu Awyr, fel DJ, gwerthwr ceir, a rheolwr marchnata i gwmni nwyddau beics. Ar ôl ymgartrefu yng nghanolbarth Cymru, mae wedi dychwelyd at ei hoffter o redeg a'r awyr agored. Mae wedi sefydlu cwmni sy'n marchnata nwyddau chwaraeon, yn cynnig sylwebaeth ar ddigwyddiadau awyr agored, ac yn trefnu digwyddiadau.

dj matt ward cymru chymru rhedeg
Beti a'i Phobol
24/07/2016

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Jul 27, 2016 55:17


Beti George yn holi David Williams o Miami, Florida wrth iddo ymweld â Chymru. Beti George interviews Miami Welshman David Williams on one of his visits to Wales.

miami wales david williams chymru beti george
Stori Cymru
Caethwasiaeth a Chymru

Stori Cymru

Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


Wrth i’r Ymerodraeth Brydeinig ymledu ar draws y byd yn y ddeunawfed ganrif, creodd beth o’i chyfoeth mawr drwy ddefnyddio caethweision. Ffynnodd rhannau o Brydain oherwydd eu cysylltiadau â’r fasnach gaethwasiaeth. Cysylltwyd Cymru i’r fasnach gaethwasiaeth oherwydd ei bod yn cynhyrchu metelau a defnydd. Roedd Cymru yn gynhyrchydd mawr pres a chopr. Defnyddiwyd copr fel arian yn y marchnadoedd caethwasiaeth, ar ffurf breichledau a elwid yn manillas. Defnyddiwyd ffiolau pres wrth gynhyrchu rỳm. Cynhyrchwyd rỳm, siwgr a chotwm ar gyfer y farchnad Ewropeaidd drwy lafur caethweision a ddygwyd draw o Affrica ar draws Cefnfor Iwerydd i America ac India’r Gorllewin. Nid oedd gan gaethweision ddewis ond gweithio yn hinsawdd boeth y planhigfeydd. Roedd dillad llawer o’r caethweision wedi eu gwneud o fath o ddefnydd a ddarparwyd gan y diwydiant melinau gwlân yng Nghymru. Ym 1806 dygwyd un o arwyr Cymru yn Rhyfeloedd Napoleon, y Cadfridog Thomas Picton, gerbron llys, am ei driniaeth greulon o gaethweision. Roedd ei achos yn gymorth i ddatblygu ymgyrch y rheiny oedd eisiau diddymu caethwasiaeth. Yn y cyfamser, roedd perchennog caethweision du ei groen yn byw yn Nhrefynwy. Ganwyd Nathaniel Wells yn St Kitts, yn fab i farsiandwr o Gaerdydd ac yn gaethwas du. Etifeddodd ffortiwn ei dad, daeth i Gymru a bu’n byw bywyd uchelwr gwledig.

Stori Cymru
Newidiadau Crefyddol y Tuduriaid

Stori Cymru

Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


Roedd crefydd yn bwnc peryglus yng nghyfnod y Tuduriaid. Aeth diwygiad Eglwys Lloegr a Chymru gan Harri’r VIII ag ef i wrthdaro â’r Ewrop Gatholig yn gyfan, yn arbennig Sbaen. Mewn cyfnod o’r fath gosododd y wladwriaeth reolau llym ar addoliad a rhyddid crefyddol. Ond byddai’r sefyllfa swyddogol yn newid yn ôl ffydd y brenin neu’r frenhines. Dilynwyd y Protestant Edward VI gan y Gatholiges Mari ac yna ar ei hôl hi daeth Elisabeth, y Protestant. Cafodd hyn i gyd effaith fawr ar fywydau pobl gyffredin drwy’r eglwysi yr oeddent yn eu mynychu, fel y dywed Huw wrthym yn Eglwys Teilo Sant yn Sain Ffagan.

viii protestant ond huw aeth chymru sbaen cafodd
Stori Cymru
Caethwasiaeth a Chymru

Stori Cymru

Play Episode Listen Later Mar 25, 2013 6:59


Wrth i’r Ymerodraeth Brydeinig ymledu ar draws y byd yn y ddeunawfed ganrif, creodd beth o’i chyfoeth mawr drwy ddefnyddio caethweision. Ffynnodd rhannau o Brydain oherwydd eu cysylltiadau â’r fasnach gaethwasiaeth. Cysylltwyd Cymru i’r fasnach gaethwasiaeth oherwydd ei bod yn cynhyrchu metelau a defnydd. Roedd Cymru yn gynhyrchydd mawr pres a chopr. Defnyddiwyd copr fel arian yn y marchnadoedd caethwasiaeth, ar ffurf breichledau a elwid yn manillas. Defnyddiwyd ffiolau pres wrth gynhyrchu rỳm. Cynhyrchwyd rỳm, siwgr a chotwm ar gyfer y farchnad Ewropeaidd drwy lafur caethweision a ddygwyd draw o Affrica ar draws Cefnfor Iwerydd i America ac India’r Gorllewin. Nid oedd gan gaethweision ddewis ond gweithio yn hinsawdd boeth y planhigfeydd. Roedd dillad llawer o’r caethweision wedi eu gwneud o fath o ddefnydd a ddarparwyd gan y diwydiant melinau gwlân yng Nghymru. Ym 1806 dygwyd un o arwyr Cymru yn Rhyfeloedd Napoleon, y Cadfridog Thomas Picton, gerbron llys, am ei driniaeth greulon o gaethweision. Roedd ei achos yn gymorth i ddatblygu ymgyrch y rheiny oedd eisiau diddymu caethwasiaeth. Yn y cyfamser, roedd perchennog caethweision du ei groen yn byw yn Nhrefynwy. Ganwyd Nathaniel Wells yn St Kitts, yn fab i farsiandwr o Gaerdydd ac yn gaethwas du. Etifeddodd ffortiwn ei dad, daeth i Gymru a bu’n byw bywyd uchelwr gwledig.

Stori Cymru
Newidiadau Crefyddol y Tuduriaid

Stori Cymru

Play Episode Listen Later Nov 19, 2012 3:15


Roedd crefydd yn bwnc peryglus yng nghyfnod y Tuduriaid. Aeth diwygiad Eglwys Lloegr a Chymru gan Harri’r VIII ag ef i wrthdaro â’r Ewrop Gatholig yn gyfan, yn arbennig Sbaen. Mewn cyfnod o’r fath gosododd y wladwriaeth reolau llym ar addoliad a rhyddid crefyddol. Ond byddai’r sefyllfa swyddogol yn newid yn ôl ffydd y brenin neu’r frenhines. Dilynwyd y Protestant Edward VI gan y Gatholiges Mari ac yna ar ei hôl hi daeth Elisabeth, y Protestant. Cafodd hyn i gyd effaith fawr ar fywydau pobl gyffredin drwy’r eglwysi yr oeddent yn eu mynychu, fel y dywed Huw wrthym yn Eglwys Teilo Sant yn Sain Ffagan.

viii protestant ond huw aeth chymru sbaen cafodd
Mwydro ym Mangor
Mwydro ym Mangor - Pennod 3

Mwydro ym Mangor

Play Episode Listen Later Aug 2, 2011 9:58


Mae Les Pegler yn cofio'r gêm rhwyng Manchester United a Chymru yn Ffordd Farrar yn 1969, a dwy iâr o Langefni yn rhagweld canlyniad y Community Shield (edrychwch ar y fideo ar y dudalen Facebook 'Mwydro ym Mango'r neu y blog: mywydroymmangor.wordpress.com). O hyn ymlaen, mi fydd yna bennod newydd o’r podlediad bob yn ail Ddydd Mercher.