Hollt: Ein America Ni

Follow Hollt: Ein America Ni
Share on
Copy link to clipboard

Podlediad gan Maxine a Jason, dau o Gymry America, sy'n rhoi golwg o'r tu fewn o'r prif bynciau sy'n hollti ac yn uno America ar adeg dyngedfennol. In a deeply divided nation, Maxine and Jason take us on a journey to uncover the major issues affecting America as they choose a leader during a global pandemic.

S4C


    • Nov 23, 2020 LATEST EPISODE
    • infrequent NEW EPISODES
    • 20m AVG DURATION
    • 6 EPISODES


    Search for episodes from Hollt: Ein America Ni with a specific topic:

    Latest episodes from Hollt: Ein America Ni

    #5 Gorau Cymro, Cymro oddi cartef? - gyda Bethan Marlow

    Play Episode Listen Later Nov 23, 2020 29:34


    Yn y bennod hon, bydd Max a Jason yn ystyried pwy ydyn nhw fel Cymry sy'n magu teuluoedd dramor. Gyda'r ddau yn magu plant hil cymysg, sut mae modd creu hunaniaeth newydd i'r genhedlaeth nesaf a dathlu Cymreictod eu gwreiddiau. Yn Miami, cawn glywed profiad teulu arall sy'n magu plant tair ieithog a beth mae'n ei olygu i fod yn Gymry yn America. In this episode, Max and Jason contemplate who they are as Welsh expats in America. Both are raising mixed-race children and trying to figure out how to celebrate their Welshness and carve out a new identity in their new homeland. In Miami, we hear another family's experience of raising tri-lingual children and what it means to be Welsh in America.

    #4 Rhyddid vs Caethiwed: Gyniau America

    Play Episode Listen Later Nov 16, 2020 22:56


    Mae'n rhan annatod o gyfansoddiad America, ond mae'r hawl i gario arfau yn fater yr un mor ddadleuol ag erioed yn yr Unol Daleithiau. Jason sy'n darganfod sut mae'n teimlo i saethu gwn am y tro cyntaf a bydd e a Max yn plymio'n ddwfn i'r dadleuon ar y maes tanio yn Idaho a thu hwnt. It's an integral part of the American constitution, but the right to bear arms is as controversial as ever. Jason finds out how it feels to shoot a gun for the first time, as he and Max dive deep into the debates on the firing range and beyond.

    #3 Lle Aeth Sglein Hollywood? - gyda Mêlisa Annis

    Play Episode Listen Later Nov 9, 2020 19:27


    Dydi Hollywood ddim wedi gweld cyfnod fel hyn erioed o'r blaen. Wedi i'r pandemig daro, mae'r Los Angeles Times yn amcangyfri bod 284,000 o bobl wedi colli eu swyddi o fewn y diwydiannau creadigol. Yn y bennod hon, mae Max a Jason yn trafod #metoo a BLM a sut mae diwydiant mor eiconig i America yn ailadeiladu yng nghwmni un sy'n ddwfn o fewn y diwydiant - Mêlisa Annis. Hollywood has never seen a time like this. Since the pandemic hit, the Los Angeles Times estimates that 284,000 people have lost their jobs within the creative industries. In this episode, Max and Jason discuss how #metoo, BLM and the pandemic is affecting an iconic American industry with Mêlisa Annis in New York.

    #2 Wedi'r protestio, beth nesaf i BLM? - gyda Geordan Burress

    Play Episode Listen Later Nov 2, 2020 25:12


    Pan fo protestio dros hawliau pobl ddu yn America yn troi'n derfysg yn Portland, mae Max a Jason yng nghanol y cythrwfl. Yn y bennod hon, mae'r ddau yn trafod mudiad Black Lives Matter gyda Geordan Burress o Ohio gan drafod sut mae gwleidyddiaeth yn effeithio ar gymunedau du America.

    #1 Rhedeg Busnes Mewn Pandemig - gyda Rhinallt Williams

    Play Episode Listen Later Oct 25, 2020 20:47


    Yn y bennod gyntaf hon o'r gyfres, mae Max a Jason yng Nghaliffornia, canolbwynt y pandemig yn America ar hyn o bryd. Yng ngwesty Rhinallt Williams yn Palm Springs, mae e'n egluro sut mae'r feirws wedi effeithio ar ei fusnes ac hefyd ar gymunedau yn LA. In the first episode of the series, Max and Jason are in California, the epicentre of the epidemic in America at present. In his hotel in Palm Springs, Rhinallt Williams explains the effect the virus has had on his business and on the communities of LA.

    Hollt: Cyflwyniad i'r Podlediad

    Play Episode Listen Later Oct 22, 2020 4:47


    Blas yw hwn o bodlediad fydd yn plymio'n ddwfn i fywyd go-iawn yn America ar adeg dyngedfennol. Wrth i'r wlad baratoi i ethol arlywydd newydd, mae Maxine a Jason yn edrych ymlaen i siarad a thrigolion eraill America am rai o'r prif bynciau sy'n hollti ac yn uno'r wlad.

    Claim Hollt: Ein America Ni

    In order to claim this podcast we'll send an email to with a verification link. Simply click the link and you will be able to edit tags, request a refresh, and other features to take control of your podcast page!

    Claim Cancel