POPULARITY
Hywel Pitts sy'n cyfweld Iwan Fôn (Y Reu, Kim Hon, Rownd a Rownd) y tro hwn am ei gigs cyntaf, gwneud stand-up, moonio ar y llwyfan a'r noson nath o sleifio i weld Oasis. Tanysgrifiwch / Gwyliwch / Gwrandwch / Mwynhewch!
Y cerddor a digrifwr Hywel Pitts sydd yn holi'r cantores Glain Rhys am bob dim gigs, gan gynnwys perfformio yn Phantom of the Opera, Tafwyl, Sesiwn Fawr a mwy! Tanysgrifiwch ar Spotify, Apple Podcasts a Fireside i bodlediad Hansh.
Y cerddor a digrifwr Hywel Pitts sydd yn holi drymiwr Swnami a Candelas - Lewis Williams - am bob dim gigs. Tanysgrifiwch ar Spotify, Apple Podcasts a Fireside i podlediad Hansh.
Hywel Pitts sy'n cyflwyno GIGIO - cyfres podcasts yn trafod gigs - gorau, gwaethaf, delfrydol a'r gyntaf! Sgwrsio gydag Esyllt Sears y tro hwn.
Hywel Pitts sydd yn cyflwyno GIGIO - cyfres podcasts yn trafod gigs - gorau, gwaethaf, delfrydol a'r gyntaf! Ennillydd Can i Gymru 2021 Morgan Elwy sydd yn cael ei holi am barn dances trychinebus a'r profiad o recordio yn Zurich! Tanysgrifiwch yma!
Croeso i UN POD OLA LEUAD - y gyfres newydd lle fydd Iwan Pitts, Hywel Pitts ac Elin Gruff yn dehongli a dadansoddi'r nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard.
Pennod arbennig iawn o Does Dim Gair Cymraeg am Random i ddathlu Nadolig 2019, gyda chyflwynwyr un o fy hoff bodlediadau yn y byd, Podpeth, sef Elin Gruffydd ac Iwan a Hywel Pitts. Pynciau llosg: traddodiadau Nadoligaidd (briwsion bara, death-lists), uchafbwyntiau personol y flwyddyn (gorymdeithiau annibyniaeth, dyrnu mwncis, ymladd llewod, tyfu tash, inverted Hitler), Cystadleuaeth Cont y Flwyddyn 2019, Hyna Di’r Goss, anws-heulo, pysgod siap pidyn a llawer mwy...
Ffarweliwch â'r flwyddyn a fu gyda Cwis 2017! Hywel Pitts ac Elin Gruffydd sydd yn herio Lois Angharad Roberts a Tomos Owens.. ac mae hi'n agos!
Binky, Bunky, Bonky! Hulks, haircuts, hiliaeth! Pennod ddadleuol newydd o Podpeth, efo Elin Gruffydd, Hywel Pitts, a'i frawd Iwan. Mae Hywel yn ofn dal salwch Iwan, ac mae Elin yn gwella'r safon iaith yn gyffredinol. Face-blindness, y Quran, tanwydd di-blwm a llawer mwy yn cael ei drafod, a chofiwch gysylltu drwy drydaru (@Podpeth). Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Graffiti Cymraeg".
Face front, true believer! Mae Podpeth yma unwaith eto, gydag Elin Gruffydd, Hywel Pitts ac Iwan Pitts yn trafod y pethau pwysig i gyd: Be sy'n waeth, Party Like A Russian gan Robbie Williams, neu Smells Like Teen Spirit gan Take That? Be yn union sydd tu fewn i Creme Egg? Pwy ydi Yncl Vern, a pam bod ni wedi cael o ar y Podpeth? Ia, ein gwestai arbennig wythnos yma ydi ewythr yr hogia, Vern Pitts, sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth). Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Llyfrbryfed".
Ahoyhoy! Technoleg, iaith, carnies, Phil Mitchell ym Mangor, Watergate, a mwy! Mae'r brodyr Iwan a Hywel Pitts yn cyflwyno Podpeth. Wythnos yma, mae Elin Gruffydd yn ymuno a'r hogia, ac yn anffodus dydi hi byth wedi gweld Beauty and the Beast (Spoilers i Beauty and the Beast). Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Hwyl Y Ffair". Dilynwch ni ar Twitter/Facebook ayyb - @Podpeth Rhybudd - iaith wael a dramgwyddus.
#JeSuisIkea Cathod, gwrachod, Yncl Vern a zombies! Mae Iwan a Hywel Pitts yn nol i falu cachu am awr o'ch amser unwaith eto. Tro yma, mae Elan Mererid Rhys (Plu, Bendith) ar y soffa i drafod caws, ceir ac adar (diolch am eich cwestiynau Twitter - @Podpeth), cyn i'r hogia' plygio pethau (gig Hywel Nos Wener 3/3, podlediad arall Iwan sydd yn y "cloud") am rhy hir. Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Incognito".