Sôn am Sîn

Follow Sôn am Sîn
Share on
Copy link to clipboard

Chris, Geth a'u ffrindiau sydd, yn llythrennol, yn Sôn am Sîn! Mae'r sianel yn gartref i gyfresi a rhaglenni amrywiol sydd yn trafod pob elfen o'r Sîn Roc Gymraeg a'i chyrion. Mae'r podcast yn cyd-fynd â'r blog: www.sonamsin.cymru

sonamsin.cymru

  • Feb 1, 2021 LATEST EPISODE
  • monthly NEW EPISODES
  • 47m AVG DURATION
  • 35 EPISODES


Search for episodes from Sôn am Sîn with a specific topic:

Latest episodes from Sôn am Sîn

Sôn Am... Izak Zjalic

Play Episode Listen Later Feb 1, 2021 23:24


Y cerddor arbrofol Izak Zjalic sy'n ymuno hefo Chris a Geth i drafod trac newydd Tai Haf Heb Drigolyn, 'Heneb Ddiog', yn ogystal â'i brosiectau cyffrous eraill.

Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2020

Play Episode Listen Later Nov 12, 2020 34:08


Tegwen Bruce-Deans sy'n ymuno hefo Chris a Geth i drafod rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni.

Y Sôn #22: Yr Eira, Cofi 19 a Stiwdio v Llofft

Play Episode Listen Later Nov 1, 2020 63:54


Mae hi'n dipyn ers i'r Sôn ymddangos y tro diwethaf! Ond - mae Chris a Geth yn eu holau i drafod albym Yr Eira, albym amlgyfrannog Cofi 19, beth yw manteision recordio adref dros recordio mewn stiwdio, a llu o gynnyrch cerddorol eraill i'w trafod hefyd.

Sôn am... Papur Wal!

Play Episode Listen Later Jul 21, 2020 46:40


Beth mae hogia' Papur Wal yn ei wrando arno fo? Beth yw'r dylanwadau sydd yn cuddio y tu ôl i'w cerddoriaeth nhw? Allwn ni ddisgwyl rhywbeth hollol wahanol yn eu caneuon newydd? Be' di hanes Dennis Bergkamp? Hyn i gyd a mwy wrth i'r tri gael cyfle am sgwrs hefo Chris a Geth mewn podlediad arbennig!

Y Sôn #21: Alun Gaffey, Omaloma, Adolygiadau Negyddol a Crysau T bandiau...

Play Episode Listen Later Jun 9, 2020 74:44


Dal yn eu tai eu hunain, wrth gwrs, mae Chris a Geth yn ymuno hefo'i gilydd yn rhithiol i drafod albyms Alun Gaffey ac Omaloma, cael trafodaeth am werth adolygiadau negyddol, a siarad am ddiwrnod crysau T bandiau fydd yn digwydd ddydd Gwener (12/6). Ma' hon yn hir!! 0:00 - Adolygu albyms 33:40 - Adolygiadau Negyddol 59:21 - Crysau T bandiau 1:05:30 - Hoff gerddoriaeth diweddar Chris a Geth.

Y Sôn #20: Lewys, Georgia Ruth, Partis Gwrando a Focus Wales 2020

Play Episode Listen Later May 11, 2020 63:55


Albyms Lewys a Georgia Ruth yw'r cynnyrch diweddaraf i gael sylw Chris a Geth, ond maen nhw hefyd yn trafod Partis Gwrando ar Twitter, a'r ffaith y bydd yn rhaid iddyn nhw aros tan yr Hydref i gael mynd i ŵyl Focus Wales eleni.

Y Sôn #19: Mirores a Gig Cowbois

Play Episode Listen Later Apr 27, 2020 61:08


Dydi Chris a Geth 'rioed di recordio podlediad heb i'r ddau ohona nhw fod yn yr un ystafell o'r blaen... Ond - dydi'r lockdown 'ma ddim di eu stopio nhw rhag trafod albwm ddiweddaraf Ani Glass, gig Cowbois Rhos Botwnnog yn Galeri a'r hyn y maen nhw wedi bod yn ei wrando arno fo dros yr wythnosau/misoedd diwethaf. Yn Trafod Ani Glass - 01:20 Ymateb Cerddorion i aros yn tŷ - 11:40 Cowbois Rhos Botwnnog - 24:25 Dewisiadau Eraill - 42:30

Y Degawd Mewn Cerddoriaeth

Play Episode Listen Later Mar 30, 2020 62:22


Yws Gwynedd a Awen Schiavone sydd yn ymuno a Chris Roberts a Gethin Griffiths i drafod y gerddoriaeth a'r datblygiadau sydd yn diffinio’r degawd ddiwethaf mewn cerddoriaeth cyfoes Cymraeg. Recordiwyd y podlediad yma yn fyw o flaen cynulleidfa yn Clwb Canol Dre, Caernarfon fel rhan o Gŵyl Ddewi Arall 2020.

Y Sôn #18: Marged Rhys, Cyfyrs ein breuddwydion ac albwm Elis Derby!

Play Episode Listen Later Mar 8, 2020 60:04


Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, mae Marged Rhys yn trafod cydraddoldeb mewn cerddoriaeth hefo Chris a Geth. Marged yw'r gwestai cyntaf erioed ar y Sôn! Hefyd, mi fyddan nhw'n trafod albwm Elis Derby a chyfyrs eu breuddwydion...

Sôn am... Elis Derby

Play Episode Listen Later Feb 16, 2020 46:00


Yn ôl Gwobrau'r Selar, Elis Derby yw Artist Unigol Gorau 2019. Yr artist unigol hwnnw sydd yn rhoi ei amser i Chris a Geth, ac maen nhw'n trafod yr albwm newydd, ei ddylanwadau anhygoel, a'r gytgan YNA.

Y Sôn 17: Iaith y Nefoedd a Gŵyl Neithiwr

Play Episode Listen Later Jan 28, 2020 45:50


Mae hi'n 2020 - ac mae 'na ddigon o bethau i'w trafod yn barod! Chris a Geth sydd yn eu holau - ac maen nhw'n trafod Iaith y Nefoedd gan yr Ods, Gŵyl Neithiwr yn Pontio, a'r traciau anhygoel eraill sydd wedi dod allan yn ystod y mis diwethaf.

Y Sôn #16: Dwisio G'neud Rwbath Rhwng Justin Timberlake a Marvin Gaye yn Gymraeg

Play Episode Listen Later Jan 26, 2020 61:09


Pennod ychydig yn wahanol y tro hwn, wrth i Chris a Geth gael cyfle i gyfweld Carwyn Ellis ac Alffa.

Sôn am Sŵn!

Play Episode Listen Later Nov 13, 2019 53:48


Ar ôl mwynhau gymaint flwyddyn diwethaf, aeth Chris a Geth draw i Gaerdydd ar gyfer Gŵyl Sŵn 2019! Tra'r oeddan nhw yno, mi'r oedd 'na gyfle iddyn nhw siarad hefo rhai o'r artistiaid oedd yn perfformio yn yr ŵyl - Casi, Eadyth, Hyll ac Ynys, yn ogystal â chael sgwrs gydag un o'r trefnwyr, Elan Evans.

Y Sôn #15: Spotifive!

Play Episode Listen Later Oct 5, 2019 63:16


Ar fis eu penblwyddi nhw, mae Chris a Geth yn trafod penblwyddi cerddorol a'r ffordd yr ydym ni'n eu nodi nhw. Yn ogystal â hynny, maen nhw'n trafod albyms newydd Los Blancos a Gruff Rhys, ac yn chwarae gêm - Spotifive!

Y Sôn #14: Da ni ddim yma i slagio off Janet Jackson

Play Episode Listen Later Sep 8, 2019 58:36


Ar ôl cwyno a chwyno nad oes yna ddigon o bethau i siarad amdanyn nhw, mae Chris a Geth yn trafod lot o bethau mewn awr... .. ac mae hynny'n cynnwys stwff Hyll a Carwyn Ellis a Rio '19, faint ma nhw'n caru Steve Eaves, a sîn gerddorol Bangor. A Janet Jackson.

Mwy o'r Sôn: Eisteddfod 2019!

Play Episode Listen Later Aug 15, 2019 37:33


Mae'n anarferol iawn i Chris a Geth ddod o'r Eisteddfod heb unrhyw beth i'w ddweud... ... a dydy Eisteddfod Sir Conwy 2019 ddim yn eithriad.

Y Sôn #13: Slepjan.

Play Episode Listen Later Jun 23, 2019 50:44


'Da ni 'di cyrraedd hanner ffordd drwy'r flwyddyn yn barod! Beth sydd wedi bod yn digwydd yn y chwe mis cyntaf? Chris a Geth sy'n trafod. Hefyd, cyfle i adolygu senglau newydd Kim Hon, Omaloma a Pys Melyn, yn ogystal â thrafod caneuon sydd yn eich atgoffa chi o lefydd penodol.

Mwy o'r Sôn: Focus Wales 2019!

Play Episode Listen Later May 22, 2019 35:19


Podlediad ychydig yn wahanol y mis yma, yn cynnwys cyfweliadau gyda'r bandiau oedd yn chwarae yn Focus Wales eleni! Mae Chris a Geth wrth eu boddau hefo'r ŵyl, ac mi gafodd y ddau ohonyn nhw amser i drafod gydag Adwaith, Alffa, Chroma, Elis Derby, Gwilym, I Fight Lions, Papur Wal a Vrï. Fel 'tasa hynny ddim yn ddigon, mae 'na gyfweliad hefo Bethan Elfyn a Huw Stephens hefyd, yn sôn am ugain mlynedd ers eu rhaglen gyntaf ar Radio 1!

Y Sôn #12: Pause Gora'r Ddegawd?

Play Episode Listen Later Apr 27, 2019 54:08


Ma hi'n fis Ebrill, a ma Chris a Geth 'di cadw at eu gair a 'di gneud pedwerydd podlediad y flwyddyn... Am unwaith - ma 'na gigs i'w trafod! Ma 'na ddigon o gynnyrch 'fyd, a ma Chris yn sôn am faint ma'n lyfio Caneuon gan Ynys. Ma 'nhw hefyd yn trafod os ydy'r Eisteddfod yn ddigon hygyrch a fforddiadwy...

Y Sôn #11: Fyddi'n Festivals Cyn Ni Droi Rownd...

Play Episode Listen Later Apr 7, 2019 32:06


Trydydd mis y flwyddyn, trydydd podlediad y flwyddyn... ac mae o'n hwyr. Wps. Chris a Geth sydd yn siarad am EP newydd Papur Wal, Carwyn Ellis a Rio '18, a lot o stwff ma 'nhw di bod yn gwrando arno fo dros y mis!

Y Sôn #10: Ydio'n bodoli rwan?

Play Episode Listen Later Feb 23, 2019 44:29


Mae Chris a Geth yn cadw'r addewid o ddod a podlediad i chi bob mis... ond oes 'na ddigon i'w drafod?! Yn sicr - mae gig Mr, Gwobrau'r Selar, a pha mor anhygoel ydi Los Blancos yn werth trafod. Da chi'n gwbod y dril erbyn hyn.

Y Sôn #9: Ma hi di bod yn dipyn ers i ni fod yma ddwytha...

Play Episode Listen Later Jan 24, 2019 50:44


Mae Chris a Geth yn eu holau am flwyddyn arall o'r Sôn! Mae 'na dipyn i'w drafod, yn cynnwys y cynnyrch cerddorol sydd wedi cael eu rhyddhau ers pennod diwethaf y Sôn, yn ogystal â thrafodaeth am y nifer o leoliadau cerddorol poblogaidd hynny sydd wedi, neu yn bygwth cau.

Sôn am Sîn Ac Alffa

Play Episode Listen Later Oct 8, 2018 47:42


Yn y podlediad yma ma' Chris a Geth yn croesawu Dion a Siôn o Alffa i stiwdio Sôn am Sîn. Dani'n trafod pob dim o dechnegau ysgrifennu i bel-droed! Mae'r ddau o Lanrug wedi profi dipyn o lwyddiant yn eu gyrfa byr hyd yma. Fe ddaeth Allfa yn gyntaf yn Brwydr Y Bandiau Maes B yn 2017 ac wedi eu dewis fel un o 12 Gorwelion ar gyfer 2018. Erbyn hyn wedi arwyddo i Recordiau Côsh mae eu sengl gyntaf gyda'r label, Gwenwyn, wedi profi'n lwyddiant ar Spotify ac mae Dion a Sion rwan yn gweithio ar eu albym cyntaf.

Y Sôn #8 - Odd o mor wahanol...?

Play Episode Listen Later Aug 29, 2018 48:04


Flwyddyn ar ôl lansio'r podlediad... mae Chris a Geth yn ôl lle 'naethon nhw ddechrau, yn sôn am y 'Steddfod. Ond, am y tro cynta' erioed, ma 'na gyfweliadau arbennig hefo Mellt, Yr Eira, Alffa a'r Ods! Hefyd - maen nhw'n trafod albwm newydd Geraint Jarman a gwaith celf! (Pennod 8)

Y Sôn #7 - Plyg gwaetha 'rioed...

Play Episode Listen Later Jul 4, 2018 36:00


Mae 'na hen ddigon o betha diddorol i'w dweud wrth i Chris a Geth adolygu albyms newydd Candelas ac I Fight Lions! Hefyd, mae'r ddau yn trafod effaith rhestrau chwarae Spotify a'r potensial sydd ganddyn nhw i ledaenu cerddoriaeth Gymraeg yn bellach nag erioed o'r blaen... (Pennod 7)

Mwy o'r Sôn: Focus Wales!

Play Episode Listen Later May 15, 2018 54:48


Ar ôl crwydro strydoedd Wrecsam penwythnos diwethaf, mae Chris a Geth yn trafod eu hymweliad cyntaf i ŵyl Focus Wales mewn pennod ychwanegol o'r Sôn! Mae'r uchafbwyntiau yn cynnwys Boy Azooga, Stella Donnelly a Chroma, i enwi dim ond tri...

Y Sôn #6 - Dwi Am Ofyn Cwestiwn I Chdi Ok, A Dwi Isio Chdi Atab...

Play Episode Listen Later Apr 29, 2018 36:16


Pen-blwydd Hapus Libertino... Cofio Gorwelion?... Gyrfa pŵl Gethin Griffiths. Ma' nhw 'di bod yn dawel iawn yn ddiweddar, ond ma' Chris a Geth 'nôl ar gyfer pennod newydd o'r Sôn! (Pennod 6)

Huw Stephens, Elan Evans ac Owain Schiavone: Beth yw gwerth a phwrpas gwobrau cerddorol yn 2018?

Play Episode Listen Later Apr 18, 2018 35:22


Podlediad arbennig a recordiwyd yn Aberystwyth ar benwythnos Gwobrau'r Selar eleni. Gethin sydd yn holi Owain Schiavone, Elan Evans a Huw Stephens mewn trafodaeth sydd yn gofyn beth yw gwerth a phwrpas gwobrwyo artistiaid yn 2018. Wrth gwrs, mae 'na ambell i bwnc trafod arall yn codi hefyd...

Sgwrs Chroma, Adwaith a Serol Serol

Play Episode Listen Later Mar 5, 2018 45:29


Mewn podlediad arebennig mae Mari Elen yn holi aelodau o Chroma, Adwaith a Serol Serol. Maent yn trafod bod yn ferch yn creu cerddoriaeth yn Nghymru, perfformio'n ddwyieithog a llawer mwy. Cafodd y sgwrs hon ei recordio'n fyw yn Galeri Caernarfon. Diolch i Sbarc-Galeri am drefnu'r noson.

Y Sôn #5: Dwi'n Meddwl, Dwi'n Teimlo.

Play Episode Listen Later Feb 25, 2018 31:56


Beth ydych chi'n ei wrando arno fo tra'n coginio, yn clirio'r tŷ ar fore dydd Sul, neu ar lan y môr? Chris a Geth sy'n rhoi eu hatebion nhw, yn ogystal â thrafod penwythnos Gwobrau'r Selar. (Pennod 5).

Y Sôn #4: Ma'n teimlo fatha bo' na ryw fath o chwyldro podlediad-ol...

Play Episode Listen Later Jan 28, 2018 45:34


Ma' Chris a Geth yn ôl am flwyddyn arall o'r Sôn! Beth fydd yn digwydd yn 2018? Pa effaith fydd gan Ddydd Miwsig Cymru eleni? Ac wrth gwrs, mae nhw'n adolygu ac yn sôn am yr hyn sydd wedi tynnu eu sylw nhw yn ddiweddar. (Pennod 4)

Cwis 2017!

Play Episode Listen Later Jan 7, 2018 55:30


Ffarweliwch â'r flwyddyn a fu gyda Cwis 2017! Hywel Pitts ac Elin Gruffydd sydd yn herio Lois Angharad Roberts a Tomos Owens.. ac mae hi'n agos!

Y Sôn #3: Ma' hon yn garreg filltir bwysig i ni...

Play Episode Listen Later Nov 12, 2017 31:40


Coeliwch neu beidio, rydym ni wedi recordio trydydd pennod Y Sôn! Y tro hwn bydd Chris a Geth yn trafod cerddoriaeth amgen a thraciau agoriadol albyms, yn ogystal â'r dadansoddiadau arferol o'r cynnyrch diweddaraf! (Pennod 3)

Y Sôn #2: Ma'n hawdd isda'n fama a deud y petha ma'i gyd

Play Episode Listen Later Sep 18, 2017 36:28


Traciau newydd ar SoundCloud, tiwns rhedag a cherddoriaeth Gymraeg ar y teledu yw pynciau trafod Chris a Geth yn ail bennod Y Sôn. Mi nath hi noson fawr noson cynt, felly mae'r ddau mewn mŵd bach od... (Pennod 2)

Y Sôn: ...ond dodd na neb yn gwrando.

Play Episode Listen Later Aug 21, 2017 48:46


Chris a Geth sydd yn rhoi'r sîn yn ei le ym mhennod gyntaf Y Sôn! Pynciau trafod y bennod hon yw EPs diweddaraf rhai o fandiau mwyaf cyffrous y sîn, ac wrth gwrs, y 'Steddfod! (Pennod 1)

Claim Sôn am Sîn

In order to claim this podcast we'll send an email to with a verification link. Simply click the link and you will be able to edit tags, request a refresh, and other features to take control of your podcast page!

Claim Cancel