Hansh

Follow Hansh
Share on
Copy link to clipboard

Criw Hansh (ac ambell westai arbennig) yn trafod rhai o'r pynciau a fideos diweddaraf.

Hansh


    • Mar 21, 2023 LATEST EPISODE
    • infrequent NEW EPISODES
    • 28m AVG DURATION
    • 67 EPISODES


    Search for episodes from Hansh with a specific topic:

    Latest episodes from Hansh

    Pwy Sy'n Galw? | Gwenllian Ellis

    Play Episode Listen Later Mar 21, 2023 30:32


    Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Dom a Lloyd! Ym mhob pennod bydd y ddau yn gofyn cwestiynau a dilemas doniol i westai arbennig! Ar y rhaglen heddiw mae Gwenllian Ellis, awdures sydd newydd gyhoeddi ei llyfr cyntaf am gariad a rhyw!

    love wales dom welsh vodcast ym cymru cariad cymraeg welsh language croeso iaith gwenllian dom james
    Pwy Sy'n Galw? | Katie Owen

    Play Episode Listen Later Mar 21, 2023 24:26


    Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Dom a Lloyd! Yn ymuno â'r criw yn y bennod yma yw'r DJ, cyflwynydd a'r dysgwr Cymraeg, Katie Owen.

    dj wales dom welsh presenter vodcast yn cymru cymraeg welsh language croeso iaith dom james
    Pwy Sy'n Galw? | Gwion Ifan

    Play Episode Listen Later Mar 21, 2023 16:03


    Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Dom a Lloyd! Ym mhennod olaf y gyfres mae'r cyflwynydd Hansh, Gwion Ifan yn ymuno â'r deuawd direidus i drafod dilemas bwyd!

    Pwy Sy'n Galw? | Brett Johns

    Play Episode Listen Later Mar 15, 2023 37:15


    Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Dom a Lloyd! Yn y drydedd bennod, mae'r ymladdwr MMA Brett Johns yn ymuno â nhw i drafod chwaraeon a'r UFC!

    Pwy Sy'n Galw? | Catrin Feelings

    Play Episode Listen Later Mar 15, 2023 30:29


    Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Dom a Lloyd! Yn yr ail bennod, mae'r Frenhines Drag Catrin Feelings yn ymuno â nhw i drafod nosweithiau allan a'r sîn drag yng Nghymru!

    Pwy Sy'n Galw? | Sage Todz

    Play Episode Listen Later Mar 15, 2023 29:25


    Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Dom a Lloyd! Ym mhennod gynta'r gyfres mae'r rapiwr Sage Todz yn galw heibio i ateb cwestiynau cerddorol. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.

    music rap wales dom welsh rapping vodcast ym cymru cymraeg welsh language croeso iaith dom james cerddoriaeth
    Hansh - PROBCAST - CHWARAEON A FFITRWYDD

    Play Episode Listen Later Feb 13, 2023 20:53


    Roly polies, gwersi ffitrwydd a marathons. Yn bennod olaf y gyfres mae Beth, Amber, Hollie a Mared yn trafod probs mwyaf chwaraeon a ffitrwydd. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.

    Hansh - PROBCAST - IECHYD MEDDWL

    Play Episode Listen Later Jan 30, 2023 28:09


    RHYBUDD – Mae'r pennod yma yn trafod iechyd meddwl ac hunanladdiad. Am gymorth a help ewch i: https://www.s4c.cymru/cy/cymorth/ Ar bennod newyd Probcast mae Hollie, Mared, Amber a Beth yn trafod iechyd meddwl. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.

    Hansh - PROBCAST - RHYW A RHYWIOLDEB

    Play Episode Listen Later Jan 16, 2023 28:12


    Ar bennod newydd Probcast mae Amber, Hollie, Mared a Beth yn trafod eu probs rhyw a rhywioldeb. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.

    Hansh - PROBCAST - HUNAN DDELWEDD

    Play Episode Listen Later Jan 5, 2023 29:58


    Mae 'na lot o bwysau i newid yn y flwyddyn newydd, felly ar bennod newydd Probcast mae Hollie, Mared, Amber a Beth yn trafod hunan ddelwedd. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.

    Hansh - PROBCAST - PARTIOEDD

    Play Episode Listen Later Dec 19, 2022 23:12


    Teimlo'n burnt out o'r holl bartis ‘Dolig? Ar bennod newydd Probcast mae Hollie, Mared, Amber a Beth yn rhannu eu problemau partioedd. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.

    Hansh - PROBCAST - GORO NEUD

    Play Episode Listen Later Dec 5, 2022 30:18


    Mae merched Probcast nôl am gyfres newydd! Ym mhennod gyntaf y gyfres mae Hollie Smith, Mared Jarman, Amber Davies a Beth Frazer yn trafod ffilmio ‘Goro Neud', eu cyfres teithio newydd ar Hansh. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.

    Hansh - PROBCAST #6 - TEITHIO

    Play Episode Listen Later Nov 15, 2021 23:09


    Beth yw probs fwyaf teithio? Gwrandewch ar bennod olaf Probcast i weld beth mae Hollie, Beth, Mared ac Amber yn meddwl.

    Hansh - PROBCAST #5 - TECHNOLEG

    Play Episode Listen Later Nov 8, 2021 25:15


    Teimlo fel deinosor pan mae'n dod i dechnoleg? Ar bennod newydd Probcast mae Hollie, Beth, Mared ac Amber yn rhannu eu problemau technoleg.

    Hansh - PROBCAST #4 - CYMDEITHASU A FFRINDIAU

    Play Episode Listen Later Nov 1, 2021 23:14


    Beth yw ‘social battery'? Ar bennod newydd Probcast wythnos yma mae Beth, Amber, Hollie a Mared yn rhannu eu problemau cymdeithasu a ffrindiau.

    PROBCAST #3 - GWAITH AC ARIAN

    Play Episode Listen Later Oct 25, 2021 19:50


    Wythnos yma mae Mared, Hollie, Amber a Beth yn trafod problemau gwaith ac arian. Faint o gynulleidfa Hansh sydd erioed wedi tynnu sickie?

    PROBCAST #2 - PERTHNASOEDD A DATIO

    Play Episode Listen Later Oct 18, 2021 27:36


    Cheto, ghostio a pwy sy'n talu ar y dêt cyntaf? Wythnos yma ar Probcast mae Amber, Mared, Beth ac Hollie yn trafod perthnasoedd a dateio. Cofia danysgrifio!

    PROBCAST #1 – CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

    Play Episode Listen Later Oct 11, 2021 24:00


    Pedair merch. Tair problem. Probcast. Podlediad lle mae pedair merch gydag anableddau gwahanol yn trafod probs yr 21ain ganrif. Ym mhob pennod bydd Hollie Smith, Mared Jarman, Amber Davies a Beth Frazer yn rhannu probs bywyd nhw, o bethau bach annoying i bethau maen nhw wedi cael llond bol ohono. Bydd pawb yn cyflwyno'u hachosion i'r cadeirydd a'r achos gwaethaf sy'n ennill! Wythnos yma mae Mared yn dewis rhwng probs cyfryngau cymdeithasol y grŵp ac yn gofyn i gynulleidfa Hansh faint ohonyn nhw sydd wedi sleidio mewn i DMs rhywun.

    women social media comedy girls disability dms 21st century disabled ym agony aunt tair comedi hollie smith podlediad bydd wythnos amber davies cyfryngau
    GIGIO #6 - Iwan Fôn (Podcast Hansh)

    Play Episode Listen Later Jul 12, 2021 26:49


    Hywel Pitts sy'n cyfweld Iwan Fôn (Y Reu, Kim Hon, Rownd a Rownd) y tro hwn am ei gigs cyntaf, gwneud stand-up, moonio ar y llwyfan a'r noson nath o sleifio i weld Oasis. Tanysgrifiwch / Gwyliwch / Gwrandwch / Mwynhewch!

    GIGIO #5 - Glain Rhys (Podcast Hansh)

    Play Episode Listen Later Jul 5, 2021 26:42


    Y cerddor a digrifwr Hywel Pitts sydd yn holi'r cantores Glain Rhys am bob dim gigs, gan gynnwys perfformio yn Phantom of the Opera, Tafwyl, Sesiwn Fawr a mwy! Tanysgrifiwch ar Spotify, Apple Podcasts a Fireside i bodlediad Hansh.

    GIGIO #4 - Lewis Williams (Podcast Hansh)

    Play Episode Listen Later Jun 28, 2021 27:04


    Y cerddor a digrifwr Hywel Pitts sydd yn holi drymiwr Swnami a Candelas - Lewis Williams - am bob dim gigs. Tanysgrifiwch ar Spotify, Apple Podcasts a Fireside i podlediad Hansh.

    GIGIO #3 - Esyllt Sears (Podcast Hansh)

    Play Episode Listen Later Jun 21, 2021 29:00


    Hywel Pitts sy'n cyflwyno GIGIO - cyfres podcasts yn trafod gigs - gorau, gwaethaf, delfrydol a'r gyntaf! Sgwrsio gydag Esyllt Sears y tro hwn.

    music band wales bands welsh gigs gig cymru s4c cymraeg gigio esyllt sears cerddoriaeth hywel pitts
    GIGIO #2 - Morgan Elwy (Podcast Hansh)

    Play Episode Listen Later Jun 14, 2021 26:48


    Hywel Pitts sydd yn cyflwyno GIGIO - cyfres podcasts yn trafod gigs - gorau, gwaethaf, delfrydol a'r gyntaf! Ennillydd Can i Gymru 2021 Morgan Elwy sydd yn cael ei holi am barn dances trychinebus a'r profiad o recordio yn Zurich! Tanysgrifiwch yma!

    GIGIO #1 - Al Parr (Podcast Hansh)

    Play Episode Listen Later Jun 7, 2021 27:30


    Cyfres newydd gan Hywel Pitts!

    2020 CB2... Caryl Bryn a Carwyn Bach

    Play Episode Listen Later Dec 28, 2020 25:48


    Mae Caryl Bryn a Carwyn Bach yn edrych yn ol ar ddigwyddiadau mawr o 2020, ac yn sgwrsio am be mae nhw'n edrych ymlaen iddo yn 2021. Cathod, The Crown, Eurovision, TikTok, Brexit, COVID a llawer mwy!

    Arbed Arian... Melanie a Geraint

    Play Episode Listen Later Nov 27, 2020 31:27


    Yda chi angen tips ar syd i edrych ar ol eich arian? Ar syd i brynu y pethau iawn? Ar syd i gychwyn busnes eich hyn?! Gyda phawb yn gwario ac arian yn dynn, mae Geraint Iwan yn holi'r entrepreneur Melanie Carmen Owen am air o gyngor i arbed arian yn ein podlediad mis yma.

    Calan Gaeaf Iwan a Caryl

    Play Episode Listen Later Oct 31, 2020 31:35


    I ddathlu Calan Gaeaf, mae Caryl Bryn ac Iwan Pitts yn gwrando ar amryw o straeon ysbryd, a gwneud Tarot reading...

    Mali a Melanie

    Play Episode Listen Later Oct 17, 2020 29:30


    Yn ein podcast mis yma mae’r entrepreneur Melanie Carmen Owen a’r actores Mali Ann Rees yn trafod Mis Hanes Pobl Ddu.

    Sefyll Allan... Ifan Llywelyn a Cadi Dafydd

    Play Episode Listen Later Aug 30, 2020 42:07


    Ifan Llywelyn a Cadi Dafydd sydd yn trafod dod allan, materion LGTBQIA+, a pam bod Ifan ddim yn hoffi Pride. Gwyliwch y fideo yma - https://www.youtube.com/watch?v=VrHRovyUp6s

    Sesh Maes Barcar

    Play Episode Listen Later Aug 2, 2020 26:36


    Llynedd, mi wnaeth Llyr Jones (Pasta Hull) trefnu gig bythgofiadwy munud olaf ‘Sesh Maes Barcar’ yn ystod wythnos ‘steddfod yn Llanrwst pan wnaeth storm canslo Maes B. Yn y podlediad yma, mae Geraint Iwan yn holi Llyr ac Iwan Fôn am y digwyddiad yna (a mwy).

    Sefyll Allan... Al Parr a Lloyd Steele

    Play Episode Listen Later Jun 28, 2020 38:37


    Yn y podcast yma mae Al Parr a Lloyd Steele yn trafod dod allan, y symudiad Black Lives Matter, y gymuned LGBT a mis Pride. Hefyd yn cael ei drafod mae Grindr a Little Britain, sydd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar. In this podcast, Al Parr and Lloyd Steele discuss coming out, the Black Lives Matter movement, the LGBT community and Pride month. Also debated is Grindr and Little Britain, which have been in the news recently.

    Iechyd Meddwl... Caryl a Meilir

    Play Episode Listen Later May 24, 2020 32:05


    Good Grief! Actor ydi Meilir Rhys - ac mae pawb wedi hen arfer ei weld ar sgrîn, ond ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae Meilir a Caryl Bryn yn sgwrsio a thrafod galar, gorbryder... Ru Paul.

    Y GOFID Gareth a Rhys

    Play Episode Listen Later May 3, 2020 30:35


    Mae Gareth yr Orangutan a Rhys Gwynfor wedi bod yn brysur yn ystod y lockdown yn creu cynnwys i Hansh. Dyma sgwrs rhwng y ddau wrth iddynt drafod be mae nhw wedi bod yn ei neud!

    Podcast Lŵp - Elis Derby yn holi Osian Candelas

    Play Episode Listen Later Apr 6, 2020 16:31


    Elis yn holi Osian am ei fywyd fel cerddor yn ystod COVID-19. Hefyd hanes Y Sesiwn Adre diweddar wnaeth Osian i Lŵp, ynghyd a'r gerddoriaeth a'r teledu y mae o'n eu mwynhau wrth hunan ynysu.

    Be di'r Hanes... Iwan a Rhys

    Play Episode Listen Later Mar 9, 2020 26:13


    Be di hanes Be Di'r Hanes? Iwan Pitts a Rhys Iorwerth sy'n trafod y gyfres hanes wedi'w animeiddio - Be di'r Hanes?

    Actio Ambwyti

    Play Episode Listen Later Feb 5, 2020 36:14


    Yw bywyd actor yn siampên, carped coch a minglo 'da selebs i gyd? Neu yw e mwy fel tempio, takeaways a chadw’r cyfrif banc mas o’r coch? Yn y podlediad yma mae’r actorion, a dau o wynebau cyfarwydd Hansh, Iestyn Arwel a Geraint Rhys Edwards yn camu bant o’r llwyfan a thu ôl y llen i drafod realiti’r byd actio. Ma’ nhw’n trafod auditions gwael, bywyd mewn coleg drama a pham dyle Geraint byth drin eich traed. RHYBUDD: Yn cynnwys iaith gref a chynnwys sydd ddim yn addas i blant.

    High & Dry gyda Iwan a Sion

    Play Episode Listen Later Jan 30, 2020 25:14


    Iwan Fon a Sion Gwyn yn trafod syt mae'r her 'High and Dry' yn mynd! Dros y mis diwethaf mae nhw a grwp o ffrindiau wedi bod yn codi arian i Tim Achub Mynydd Llanberis wrth drio dringo y nifer uchaf o droedfeddi a maent yn medru ei wneud fel grwp dros fis!

    Gweledigaethau 2020

    Play Episode Listen Later Jan 17, 2020 24:47


    Blwyddyn Newydd dda a chroeso i bodlediad cyntaf Hansh yn 2020. Be chi’n edrych ‘mlaen ato dros y flwyddyn nesaf? Ymunwch â Miriam, Tom a Sam a’u gweledigaethau am bob dim 2020. Ma’ nhw’n trafod ffilmiau, teledu, Olympics, Euros, Glastonbury a phwy fyddai’n chwarae Miriam mewn ffilm. Ydych chi’n cofio pryd ddaeth yr iPad allan? Neu Pokémon GO? Ma’ nhw hefyd yn edrych nôl ar eu hoff a’u cas bethau o’r ddegawd ddiwethaf a beth i’w ddisgwyl o’r ddegawd newydd sbon. RHYBUDD: YN CYNNWYS IAITH GREF.

    Hwyl yr Wyl - Gareth a Rhys

    Play Episode Listen Later Dec 23, 2019 40:13


    gareth hwyl
    HMS Morris yn Japan... Heledd a Rhys yn trafod

    Play Episode Listen Later Nov 25, 2019 34:55


    Heledd Watkins o HMS Morris a Rhys Gwynfor yn trafod taith ddiweddar HMS Morris i Japan, oedd digwydd bod yn cyd fynd a Chwpan Rygbi'r Byd. Hefyd yn cael ei drafod, cathod, bwyd, ac ychydig bach am goed Nadolig.

    japan morris nadolig hefyd heledd
    Calan Gaeaf Gareth a Rhys

    Play Episode Listen Later Oct 29, 2019 49:18


    Mae'n wythnos Calan Gaeaf! Dyma Gareth yr Orangutan a Rhys Gwynfor i drafod diwrnod mwya sbwci y flwyddyn! Cofiwch wylio gig HyWelsh ar Facebook Hansh yn fyw Nos Iau am 7.

    Dreigiau Digartref (Osian a Geraint)

    Play Episode Listen Later Oct 18, 2019 46:36


    I gyd fynd efo'n ffilm 'Dreigiau Digartref' dyma podcast diweddara HANSH, lle mae Geraint Iwan yn sharad efo Osian Lloyd, a oedd yn chwarae dros Gymru yng Ngwpan Digartrefedd Y Byd.

    geraint gymru
    Iawn Jonis?....Y Podlediad

    Play Episode Listen Later Oct 14, 2019 28:14


    Iawn Jonis? Meddwl bod chi’n gwbod bob dim am iechyd rhyw? Faint o STIs chi’n gallu enwi? Chi’n mynd am check-up yn rheolaidd? Yn y podledid hwn ma’ Ffraid sôn wrth Sam am ei anturiaethau diweddar i weld faint ma’ bobl ifanc Cymru yn gwbod am iechyd rhyw. Ma’ nhw’n trafod be i ddisgwyl yn y GUM clinig, pam bod e ddim yn embarrassing i gael check-up ac ar ôl i chi gal eich testio pam fod cael STI ddim yn ddiwedd y byd. RHYBUDD - Mae’r podlediad hwn cynnwys iaith gref a thrafodaeth am ryw allai fod yn anaddas i blant.

    Ffanibowan: Amser 'Na O'r Mislif

    Play Episode Listen Later Sep 9, 2019 31:09


    Ma’ Ffanibowan yn ôl a’r tro hwn maent am drafod y diafol yn dod am de, cyfnod y blodau a mis baner Siapan. Ma’ Heledd a Mari Elin yn trafod pob peth mislifaidd: Pam mae cymaint o dabŵ o amgylch siarad am y mislif? Beth chi’n neud os chi’n ‘Steddfod heb y cynnyrch cywir? Sut mae bod yn wyrdd yn ystod yr amser ‘na o’r mis? Mae’r ddwy yn rhannu profiadau personol, ffeithiau ysgytwol ac yn trafod y cynnyrch ecogyfeillgar diweddaraf i’r rhai ohonom sydd ddim am niweidio’r blaned.

    nics sut podlediad mooncup
    Eistwebfod 2019 gyda Aled ac Adam

    Play Episode Listen Later Aug 5, 2019 32:56


    Yn (beth sy'n debygol o fod) y podlediad eisteddfod llwyr ddigidol gyntaf erioed, ma’ Aled Illtud ac Adam Gilder yn agor gatiau Eistwebfod 2019. Y rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol fydd ei maes, pafiliwn a’u horielau; a ma’ nhw’n dathlu’r goreuon yn y byd digidol. Pwy fydd yn ennill y goron? Pam na dyle Garfield gael gwahoddiad i’r pafiliwn? Ac a dyle pwyllgor yr Eistwebfod neud fel Belle Delphine a gwerthu dŵr bath Dewi Llwyd i godi arian? Bydd Aled ac Adam yn rhoi croeso cynnes Cymreig i’r memes mwyaf dank a chynnwys mwyaf fiery y byd digidol. RHYBUDD - Yn cynnwys iaith gref a themâu sydd yn anaddas i blant. Is (what's likely to be) the first ever digital eisteddfod podcast, Aled Illtud and Adam Gilder open the gates of Eistwebfod 2019. The internet and social media are their maes, pavilion and galleries; and they’ll be celebrating the best the digital world has to offer. Who will win the crown? Why shouldn’t Garfield get an invite to the pavilion? And should the Eistwebfod take inspiration from Belle Delphine and sell Dewi Llwyd bath water to raise money? Aled and Adam give a warm Welsh welcome to the dankest memes and the most fiery content in the digital world. WARNING - Contains strong language and themes unsuitable for children.

    Cymru Wyllt: Mari a Geraint

    Play Episode Listen Later Jul 22, 2019 32:17


    Geraint Iwan sy'n holi Mari Huws, y ffilmwneuthurwr ifanc, sydd yn trafod y ffilm ddogfen newydd Wythnos Yng Nghymru Wyllt, ffilm sy'n dilyn taith Mari i galon Ceredigion i ddarganfod mwy am y prosiect dadleuol sydd ar gychwyn yno i adael 10,000 hectar o'r tir fynd nôl yn wyllt. Gwyliwch y ffilm yma - https://youtu.be/-0gXEKlm8FU

    Clwb 26-30 Mir a Tom: Mooncups, Mêl a Malu Cachu

    Play Episode Listen Later Jul 10, 2019 32:39


    Croeso i Glwb 26-30 Mir a Tom! Yn y podlediad hwn bydd Tomos Dafydd a Miriam Isaac yn trafod penblwyddi trychinebus, gwyliau cerdd yr haf ac enwau babi rhyfedd. Pam fod Miriam yn cysgu gyda chyfrifiannell? Beth oedd Bryn Terfel yn meddwl o Tomos? A beth sydd yn gyffredin rhwng Love Island a Golden Balls? RHYBUDD: Yn cynnwys rhegi a themâu sydd yn anaddas i blant. Welcome to Mir and Tom’s Club 26-30! In this podcast, Tomos Dafydd and Miriam Isaac discuss bad birthdays, this summer’s music festivals and weird baby names. Why did Miriam sleep with a calculator? What does Bryn Terfel think of Tomos? And what do Love Island and golden Balls have in common? WARNING: Contains swearing and themes not suitable for children.

    Genod Gwaedlyd

    Play Episode Listen Later Jun 10, 2019 28:18


    Croeso i gwrt y Genod Gwaedlyd! Yn y podlediad hwn bydd Hanna Jarman a Mari Beard, ysgrifenwyr Merched Parchus a connoisseurs y byd gwir drosedd, yn trafod sut nath serial killers ysbrydoli nhw i ysgrifennu’r gyfres. Mae’r pynciau eraill yn y doc yn cynnwys: Pa bodlediadau gwir drosedd dyle bod chi’n gwrando arno, pam fod Ted Bundy yn gymaint o sylwhead a pam fod Florida mor weird? *RHYBUDD *- yn cynnwys iaith gref a themâu sydd yn anaddas i blant. Merched Parchus ar S4C Clic: https://www.s4c.cymru/clic/programme/800935541 Introducing the Genod Gwaedlyd! In this podcast Hanna Jarman and Mari Beard, writers of Merched Parchus and connoisseurs of the true crime world discuss how serial killers inspired them to write the series. Other subjects in the dock include: Which true crime podcasts should you be listening to, why was Ted Bundy such a sylwhead and why is Florida so weird? WARNING - contains strong language and themes not suitable for children. Merched Parchus on S4C Clic: https://www.s4c.cymru/clic/programme/800935541

    Elena Cresci: Muay Thai ar y meddwl

    Play Episode Listen Later May 13, 2019 36:37


    Yn y podlediad hwn bydd Miriam Isaac yn sgwrsio gyda’r newyddiadurwr Elena Cresci am ei siwrnai chwyldroadol o’r ystafell newyddion i’r cylch bocsio Muay Thai. Mae Elena yn sôn am beth yrrodd hi i drawsnewid o nofis dibrofiad i ennill yn y cylch; sut mae bob cic a bob dyrniad yn helpu iddi frwydro salwch meddwl; a’u breuddwyd o gerdded allan i’r cylch i gerddoriaeth Dafydd Iwan! RHYBUDD: Yn cynnwys rhegi a themâu sydd yn anaddas i blant. In this podcast Cai Morgan chats to journalist Elena Cresci about stepping out of the newsroom and into the Muay Thai boxing ring. Elena discusses what drove her to transform from an inexperienced novice to winning in the ring; how each punch and kick help Elena battle her mental health issues; and her dream of walking out to the ring to the tune of Dafydd Iwan! WARNING: Contains swearing and themes unsuitable for children.

    Esyllt Ethni-Jones yn cyflwyno: Iwan a Rhianna

    Play Episode Listen Later Apr 25, 2019 22:18


    Helo! Iwan Pitts sydd yn holi Rhianna Loren am y cymeriad boncyrs Esyllt Ethni-Jones. Pwy, pam, sut?!

    HIV, PrEP a Fi....Stori Guto

    Play Episode Listen Later Apr 9, 2019 27:49


    Yn y podlediad hwn bydd Cai Morgan yn sgwrsio gyda Guto Rhun ynglŷn â'i siwrnai o Fachynlleth i Gaerdydd; wrth iddo ddysgu am bwysigrwydd iechyd rhywiol, dod wyneb yn wyneb a HIV a sut mar’ cyffur PrEP wedi newid ei fywyd. RHYBUDD: Yn cynnwys rhegi, cyfeiriadau at ryw a themâu sydd yn anaddas i blant. Am fwy o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei drafod yn y podlediad, cliciwch yma: http://www.s4c.cymru/cy/cymorth In this podcast Cai Morgan chats to Guto Rhun about his journey from rural Machynlleth to the bright lights of Cardiff; as he learns about the importance of sexual health, comes face to face with HIV and talks about how the drug PrEP changed his life. WARNING: Contains swearing, sexual references and themes unsuitable for children. For more information about the topics discussed in this podcast, click here: http://www.s4c.cymru/en/help

    Claim Hansh

    In order to claim this podcast we'll send an email to with a verification link. Simply click the link and you will be able to edit tags, request a refresh, and other features to take control of your podcast page!

    Claim Cancel