Y gorau o gampau’r Cymry ar draws y cynghreiriau pêl-droed, croeso i Pod Sgorio.
Pod 122: Pwynt yn Göteborg, gôl fawr Francis a Callum McKenzie Mae Sioned Dafydd ac Ifan Gwilym yn ôl i drafod llwyddiant tîmoedd menywod Cymru ac edrych ymlaen at benwythnos mawr tua waelod tabl Uwch Gynghrair Cymru wrth i'r Drenewydd herio Aberystwyth yn fyw ar Sgorio. Sioned Dafydd and Ifan Gwilym are back to discuss the recent success for the Wales Womens first team and Under-19s then look ahead to a big weekend at the bottom of the Cymru Premier as Newtown host Aberystwyth live on Sgorio.
Gyda gêm bwysig yn y frwydr i osgoi'r cwymp ar y ffordd y penwythnos yma, Tomi Morgan sy'n ymuno am sgwrs i drafod Aberystwyth a'r Drenewydd, sydd byth wedi cwmpo o'r Uwch-gynghrair eto – ond gyda'r ddau mewn peryg ar hyn o bryd. Aberystwyth v Y Drenewydd yn fyw ar Sgorio am 12 dydd Sadwrn (cic gynta am 12.15) With an important game in the relegation battle this weekend, Tomi Morgan joins Pod Sgorio to discuss Aberystwyth and Newtown, who have never been relegated from the Premier League yet - but with both in danger at the moment. Aberystwyth v Newtown live on Sgorio at 12 on Saturday (kick-off at 12.15)
Pod 120: Cwpan Cymru gyda James Davies Nicky John ac Ifan Gwilym sy'n dechrau'r pod yn edrych yn ôl ar buddugoliaeth hanesyddol Y Seintiau Newydd dros Abertawe yn Nhlws Yr Adran cyn edrych ymlaen at benwythnos o Gwpan Cymru JD. Mae Ifan yn cael sgwrs gyda chwaraewr Airbus UK, James Davies am eu tymor hyd yma a'r gobeithion wrth iddyn nhw herio'r Seintiau Newydd bnawn Sadwrn. Nicky John and Ifan Gwilym look back at The New Saints Women's historical Adran Trophy victory over Swansea City Women before turning their attention to this weekend's JD Welsh Cup action. Ifan chats with Airbus UK's James Davies about their season so far and the prospect of facing The New Saints on Saturday.
Owain Jones (Hwlffordd) sy'n ymuno ag Ifan a Sioned wythnos yma i drafod tymor Hwlffordd hyd yn hyn, a'u gem nhw yn erbyn Penybont dros y penwythnos (YN FYW ar-lein ac ar eich teledu clyfar ddydd Sadwrn 1 Chwefror 12:10). Mae hefyd cyfle i drafod cyn-glwb Owain, Merthyr yn dilyn y newyddion eu bod wedi cael cynnig £6m wrth y Gymdeithas Bel-droed i ymuno a'r pyramid yng Nghymru. Owain Jones (Haverfordwest) joins Ifan and Sioned this week to discuss Haverfordwest's season so far, and their upcoming game against Penybont (LIVE online and on your smart TV on Saturday 1 February 12 :10). There is also an opportunity to discuss Owain's former club, Merthyr Town, following the news that they had been offered £6m by the FAW to join the pyramid in Wales.
Ar y Pod wythnos yma cawn glywed wrth Jack Sharpe am gynlluniau Cymdeithas Bel-droed Cymru i wahodd y clybiau alltud o Gynghrair Bel-droed yn Lloegr i gystadlu am un o lefydd Cymru yn Ewrop. Mae Ifan yn teithio i Barc Jenner i gael ymateb cefnogwyr y Barri a Hwlffordd, ac i ddarganfod pwy fydd yn 6 ucha Uwch-gynghrair Cymru ar gyfer ail ran y tymor, er wrth i'r noson ddod i ben mae'r sefyllfa dal braidd yn ...niwlog. On this week's Pod we hear from Jack Sharpe about the FAW's plans to invite the (Welsh) English Football League clubs to compete for one of Wales' places in Europe. Ifan travels to Jenner Park to get the reaction of Barry and Haverfordwest fans, and to find out who will be in the top 6 of the Cymru Premier for Phase 2 of the season, although as the evening comes to an end the situation is still somewhat...foggy.
Dylan, Ifan a Sioned sy'n croesawu'r flwyddyn newydd wrth ddewis symudiadau Sgorio ar gyfer y ffenestr drosglwyddo. Beth sydd FEWN ar gyfer 2025 - sbectol newydd Dylan, cerddoriaeth Ifan, neu car Sioned?! Dylan, Ifan and Sioned welcome the new year by choosing Sgorio's moves for the transfer window. What's IN for 2025 - Dylan's new glasses, Ifan's music, or Sioned's car?!
Gyda'r enwau mas o'r het ar gyfer Euro 2025, mae Cymru yn gwybod taw Ffrainc, Lloegr a'r Iseldiroedd fydd eu gwrthwynebwyr nhw yn y Swistir haf nesa. Yn ogystal ag ymateb i grwp Ewros Cymru, mae Ifan a Sioned yn trafod Cwpan Cymru a'r Brif Adran yn dilyn sawl sioc dros y penwythnos. With the names drawn for Euro 2025, Wales know that France, England and the Netherlands will be their opponents in Switzerland next summer. As well as reacting to Wales's group, Ifan and Sioned discuss the Welsh Cup and the Adran Premier following a few shocks over the weekend.
Wrth i benwythnos o gemau Cwpan Cymru agosau, Barry Owen (rheolwr yr Wyddgrug) sy'n ymuno am sgwrs cyn iddyn nhw wynebu Cei Connah yn fyw o flaen camerau Sgorio dydd Sadwrn. Y gêm yn fyw ar S4C - Cei Connah v Yr Wyddgrug, y gic cynta am 17:15. Mae Ifan a Sioned hefyd yn trafod dathliadau Sioned allan yn Nulyn, Tlws Adran Genero, a gemau arall Cwpan Cymru - ble fydd y sioc? As another Welsh Cup weekend approaches, Barry Owen (Mold Alexandra manager) joins to disguss their upcoming game against Connah's Quay on Saturday. The game will be shown live on S4C - Connah's Quay v Mold Alex, kick-off at 17:15. Ifan and Sioned also discuss Sioned's celebrations out in Dublin, the Genero Adran Trophy, and the weekend's other Welsh Cup games - will there be a shock somewhere?
Wedi buddugoliaeth hanesyddol i Gymru yn rownd derfynol y gemau ail-gyfle i gyradd Ewro 2025 yn y Swistir, Gwennan Harries sy'n ymuno i drafod pwysigrwydd y canlyniad - y tro cynta i dîm menywod Cymru gyrradd prif dwrnament. After a historic victory for Wales in the play-offs to qualify for Euro 2025 in Switzerland, Gwennan Harries joins the Pod to discuss the importance of the result - the first time for the Welsh women's team to qualify for a major tournament.
Ifan a Sioned sy'n trafod wythnos fawr i dîm Cymru gyda gemau ail-gyfle pwysig yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon, a gemau'r penwythnos yn Uwch-gynghrair Cymru. Mae rheolwr newydd Aberystwyth, Antonio Corbisiero, hefyd yn ymuno am sgwrs (15:59) cyn eu gem nhw yn erbyn Caerdydd yn rownd gynderfynol Cwpany Gynghrair Nathaniel MG. Ifan and Sioned look forward to an important double-header for Wales against the Republic of Ireland in the play-off final to reach Euro 2025 in Switzerland, as well as looking back at the weekend's games in the Cymru Premier. Aberystwyth's new manager, Antonio Corbisiero, also joins in for a chat (starting at 15:59) before their game against Cardiff in the semi-final of the Nathaniel MG League Cup.
Wrth i gemau Cymru yn erbyn Twrci a Gwlad yr Iâ agosau, cyfle i wrando ar sgwrs Sioned Dafydd gyda Sorba Thomas (Cymru a Nantes). Yn fyw ar Sgorio yr wythnos yma: * Rhydaman v Hwlffordd, Cwpan Cymru, Dydd Sadwrn 16 Tachwedd am 14:00 ar S4C ac ar-lein * Twrci v Cymru, Cynghrair y Cenhedloedd, Dydd Sadwrn 16 Tachwedd am 16:30 ar S4C ac ar-lein * Cymru v Gwlad yr Iâ, Cynghrair y Cenhedloedd, Nos Fawrth 19 Tachwedd am 19:20 ar S4C ac ar-lein As Wales' matches against Turkey and Iceland approach, an opportunity to listen to Sioned Dafydd's conversation with Sorba Thomas (Wales and Nantes). Join us live on Sgorio this week: * Ammanford v Haverfordwest, Welsh Cup, Saturday 16 Nov at 14:00 on S4C and online * Turkey v Wales, Nations League, Saturday 16 Nov at 16:30 on S4C and online * Wales v Iceland, Nations League, Tuesday 19 Nov at 19:20 on S4C and online
Cyfle i glywed gan Craig Bellamy wrth iddo enwi ei garfan i wynebu Twrci a Gwlad yr Iâ yng Nghynghrair y Cenhedloedd Craig Bellamy speaks to Dylan Ebenezer as he names his squad to face Turkey and Iceland in the UEFA Nations League
Ifan a Sioned sy'n edrych ar brif bynciau trafod y penwythnos o bel-droed domestig yng Nghymru, ac yn edrych ymlaen at ddwy gem gyw ar Sgorio benwythnos nesaf - Llansawel v Aberystwyth yn Uwch-gynghrair Cymru (dydd Sadwrn, 17:15) ac Aberystwyth v Y Seintiau Newydd yn y Brif Adran (dydd Sul, 17:10). Ifan and Sioned discuss the weekend's main talking points in Welsh domestic football, and look forward to two live games on Sgorio next weekend - Briton Ferry v Aberystwyth in the Cymru Premier (Saturday, 17:15) and Aberystwyth v The New Saints in the Adran Premier (Sunday, 17:10).
Pod 109: Pedwar Sioc Cwpan Cymru Wedi penwythnos llawn cyffro yng Nghwpan Cymru, mae Tom McLean (Caerau Trelai) ac Ifan Emlyn Jones (Hotspur Caergybi) yn ymuno i drafod eu buddugoliaethau nhw ar giciau o'r smotyn yn erbyn timau Uwch Gynghrair Cymru. Bydd hefyd cyfle i glywed gan garfan Cymru wrth i'r merched baratoi am gemau ail-gyfle i gyrraedd Ewro 2025 yn y Swistir. After an eventful Welsh Cup weekend, Tom McLean (Caerau Ely) and Ifan Emlyn Jones (Holyhead Hotspur) join Ifan Gwilym to talk us through their wins over Cymru Premier opposition on penalties. We also hear from Carrie Jones and Lois Joel as Wales women prepare for their Euro 2025 play-off on Friday.
Craig Bellamy sy'n siarad gyda Dylan Ebenezer wrth i' garfan Cymru gael ei enwi ar gyfer gemau nesa Cynghrair y Cenhedloedd. Mae Ifan a Sioned yn trafod cynlluniau'r Gymdeithas Bel-droed ar gyfer Uwch-gynghrair Cymru, a thrip Y Seintiau Newydd i'r Eidal i wynebu Fiorentina. Craig Bellamy talks to Dylan Ebenezer as the Wales squad is named for the next Nations League games. Ifan and Sioned discuss the FAW's plans for the Cymru Premier, and The New Saints' trip to Italy to face Fiorentina.
Dylan, Ifan a Sioned sy'n trafod wythnos llawn cyffro yn Uwch-gynghrair Cymru wedi i'r Seintiau golli dwy gem yn olynol am y tro cynta ers 2019. Cwarter ffordd trwy'r tymor, mae'r tri yn dewis eu gem gorau, a'r chwaraewr sydd wedi dal y sylw. Dylan, Ifan and Sioned discuss an exciting week in the Cymru Premier after the New Saints lost two games in a row for the first time since 2019. A quarter way through the season, the three choose their best game, and the best newcomer to the league.
Mael Davies sy'n sgwrsio gyda Pod Sgorio cyn gem fawr Pen-y-bont yn erbyn Y Seintiau Newydd nos Wener. Mae Sioned ac Ifan hefyd yn cael cyfle i sgwrsio am weddill gemau'r uwch-gynghrair, ac edrych nol ar benwythnos agoriadol y Brif Adran Genero. Mael Davies chats with Pod Sgorio before Penybont's big game against The New Saints on Friday night. Sioned and Ifan also have the opportunity to discuss the rest of the Cymru Premier games, and look back at the opening weekend of the Genero Adran Premier.
Ar ddiwedd ffenest ryngwladol fis Medi, Ifan Gwilym sy'n crynhoi'r gemau o ran Cymru. Cyn teithio i Serbia ar gyfer Cwpan Rhanbarthau UEFA, mae Joe Hopkins (capten Llanelli) yn ymuno i drafod dechrau'r tymor a'r cyfle i gynrychioli tim rhanbarthol De Cymru ar y cyfandir. At the end of September's international window, Ifan Gwilym summarizes the Wales results. Before traveling to Serbia for the UEFA Regions Cup, Joe Hopkins (Llanelli captain) joins to discuss their start of the season and the opportunity to represent the South Wales regional team on the continent.
Pod 104: Rhagolwg Rhyngwladol: Twrci a Montenegro Sioned Dafydd sy'n eistedd lawr am sgwrs gyda dri o garfan cyntaf Craig Bellamy fel Brif Hyfforddwr Cymru; Mark Harris, Harry Wilson a Connor Roberts cyn herio Twrci a Montenegro yng Nghyngrair Y Cenhedloedd. A chance to hear Sioned Dafydd's sit down interviews with three players from Craig Bellamy's first Wales squad, Mark Harris, Harry Wilson and Connor Roberts before they face Türkiye and Montenegro in the UEFA Nations League.
Mae Craig Bellamy a Matty Jones wedi enwi eu carfannau ar gyfer gemau rhyngwladol mis Medi, ac fe glywn ni wrth y ddau ar y pod rhyngwladol wythnos yma. Mae Craig Bellamy ar fin gwynebu ei her gynta fel rheolwr Cymru wrth i'r ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd ddechrau gyda gemau yn erbyn Twrci a Montenegro. Dwy gem sydd ar ol o ymgyrch ragbrofol Matty Jones a'i dim dan 21, gyda thrip i Wlad yr Ia mis yma. Craig Bellamy and Matty Jones have named their squads for September's international games, and we will hear from them both on the international edition of the pod this week. Craig Bellamy is about to face his first challenge as Wales manager as the League of Nations campaign begins with games against Turkyie and Montenegro. There are two games left of the qualifying campaign for Matty Jones and his under 21 team, with a trip to Iceland this month.
102: Cyfle ola'r Seintiau Marc Lloyd-Williams sy'n ymuno â Sioned Dafydd ac Ifan Gwilym i drafod y diweddaraf o Uwch Gynghrair Cymru, ymgyrch Ewropeaidd Y Seintiau Newydd a rhai o wynebau'r gynghrair sy'n serenu yng Nghasnewydd. Marc Lloyd-Williams joins Sioned Dafydd and Ifan Gwilym to discuss the latest news from the Cymru Premier, The New Saints' European campaign and some familiar faces shining at Newport County.
Mae'r pod nôl ar gyfer tymor 2024/25 gyda Sioned Dafydd ac Ifan Gwilym yn trafod y penwythnos agoriadol. Yn cynnwys sgwrs gyda Owain Jones o Hwlffordd, Leo Smith o'r Seintiau, a chips a curry sauce Llansawel. The pod is back for the 2024/25 season with Sioned Dafydd and Ifan Gwilym discussing the opening weekend. Includes a chat with Owain Jones from Haverfordwest, Leo Smith from the New Saints, and chips and curry sauce from Llansawel.
Pod 100: YN FYW o Sinemaes Eisteddfod 2024 Sioned Dafydd, Owain Tudur Jones a Dylan Ebenezer sy'n trafod dyfodol tîm cenedlaethol dynion Cymru dan Craig Bellamy a'r tymor newydd Cymru Premier JD mewn pod byw cafodd ei recordio yn Sinemaes Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf. Sioned Dafydd, Owain Tudur Jones and Dylan Ebenezer discuss what the future holds for the Wales men's national team under Craig Bellamy as well as the upcoming JD Cymru Premier season in a live pod recorded at the Rhondda Cynon Taf National Eisteddfod.
Pod 99: Rob Page Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer sy'n cael cwmni'r gohebydd Dafydd Pritchard o'r BBC i drafod y penderfyniad i ddiswyddo Robert Page, gan gymryd y cyfle i edrych nôl dros ei gyfnod fel rheolwr tîm dynion Cymru, ac i edrych ymlaen i'r dyfodol hefyd! Sioned Dafydd and Dylan Ebenezer are joined by BBC reporter Dafydd Pritchard to discuss the FAW's decision to sack Robert Page, taking the opportunity to look back over his time as Wales men's team manager, and to look forward to the future too!
Pod 98: Rownd Derfynol Cwpan Cymru Ifan Gwilym oedd yn Rodney Parade ar gyfer rownd derfynol Cwpan Cymru dydd Sul i wylio Cei Connah yn herio'r Seintiau Newydd. Roedd cyfle i gymysgu gyda'r cefnogwyr i weld be oedd barn pawb am weledigaeth y Gymdeithas Bêl-droed ar gyfer y gynghrair yng Nghymru. Ifan Gwilym was at Rodney Parade for Sunday's Welsh Cup final between Connah's Quay and The New Saints. There was an opportunity to mingle with the fans to see what they think about the FAW's vision and strategy for the Cymru Premier.
Pod 97: Strategaeth 2024-30 Cymru Premier JD Yr wythnos yma mae'r Gymdeithas Bêl-droed wedi datgelu eu gweledigaeth ar gyfer y gynghrair bêl-droed yng Nghymru. Ar y Pod, cawn glywed wrth Jack Sharp (Pennaeth Cynghreiriau Domestig) a chael ymateb gan Sioned Dafydd ac Ifan Gwilym. This week the Football Association of Wales revealed their vision for the football league in Wales. On the Pod, we hear from Jack Sharp (Head of Domestic Leagues) and get the initial response from Sioned Dafydd and Ifan Gwilym.
Pod 96: Trwydded Pontypridd Sioned Dafydd ac Ifan Gwilym sy'n trafod newyddion yr wythnos ym myd pêl-droed Cymru. Yn dilyn y newyddion bod Pontypridd wedi methu â chael trwydded i chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru y tymor nesa', mae Steve Savage (Cyfarwyddwr Chwaraeon Pontypridd) yn ymuno i roi ymateb y clwb. Sioned Dafydd and Ifan Gwilym discuss the week's news in Welsh football. Following the news that Pontypridd United failed to obtain a license to play in the Cymru Premier next season, Steve Savage (Pontypridd United's Sporting Director) joins us to give the club's response.
Pod 95: Hwlffordd gyda Rob Edwards Cadeirydd Hwlffordd, Rob Edwards, sy'n sgwrsio gyda Pod Sgorio wythnos hyn am dymor y clwb hyd yn hyn, newidiadau i'r Uwch-gynghrair, ac edrych mlaen ar gyfer y gêm yn erbyn Bae Colwyn ar y penwythnos. Mae hefyd cyfle i longyfarch Llansawel ar eu dyrchafiad nhw i'r Uwch-gynghrair. Haverfordwest Chairman, Rob Edwards, talks to Pod Sgorio about the club's season so far, the Cymru Premier review, and looks ahead to their game against Colwyn Bay at the weekend. There is also an opportunity to congratulate Briton Ferry Llansawel on winning the Cymru South and gaining promotion to the Cymru Premier.
Pod 94: Cymru 0-0 Gwlad Pwyl (4-5 c.o.s) Sioned Dafydd, Dylan Ebenezer ac Ifan Gwilym sy'n cwrdd i drafod y golled torcalonnus ar giciau o'r smotyn i Gymru yn erbyn Gwlad Pwyl, a'r freuddwyd o gyrraedd Ewro 2024 yn Yr Almaen ar ben. Sioned Dafydd, Dylan Ebenezer and Ifan Gwilym meet up the morning after Wales' heartbreaking defeat, on penalties to Poland and their dream of reaching Euro 2024 in Germany comes to an end.
Pod 93: Cyhoeddi Carfanau Cymru Yr wythnos hon mae Sioned Dafydd ac Ifan Gwilym ar leoliad yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan am gyhoeddiadau carfan tîm dynion Rob Page a thîm dan-21 Matty Jones. This week, Sioned Dafydd and Ifan Gwilym are on location at St Fagan's National Museum of History for Rob Page and Matty Jones' squad announcements.
Pod 92: Cymru ‘C' I gyd-fynd â chyhoeddiad carfan Cymru ‘C' yr wythnos hon mae Ifan Gwilym a Dylan Ebenezer yn cael sgwrs gyda'r rheolwr a sylwebydd Sgorio, Mark Jones. Mae Jonah yn trafod ei garfan o 20 chwaraewr a'r cyfle i'r criw yma argyhoeddi eu hunain o flaen cynulleidfa newydd yn erbyn Lloegr ‘C'. Cyfle hefyd i drafod Y Seintiau Newydd yn cael eu coroni'n Bencampwyr ar y penwythnos ac ail-strwythuro posib i'r gynghrair. With the Cymru ‘C' squad being announced this week, Ifan Gwilym and Dylan Ebenezer talk to the manager and Sgorio's English language commentator Mark Jones. Jonah goes through his squad of 20 players and the platform this game against England ‘C' brings with a new audience and several scouts in attendance. They also talk about newly crowned Cymru Premier Champions, The New Saints and a possible league re-structure.
Pod 91: Greg Draper Gyda tîm dynion a merched Y Seintiau Newydd yn fyw ar Sgorio dros y penwythnos pa berson gwell i wahodd ar y pod ond eu cyn-ymosodwr a rheolwr tîm y merched presennol, Greg Draper. Mae Sioned Dafydd ac Ifan Gwilym yn ei holi am rhediad gwych YSN ar hyn o bryd gyda record byd tîm Draper dan fygythiad; ac am y tymor mae'r merched yn ei gael gyda gêm gyn-derfynol Cwpan Cymru Bute Energy yn erbyn Wrecsam ar ddydd Sul. With Sgorio showing The New Saints' men and women's teams over the weekend, who better to have on the pod but former striker and current women's team manager, Greg Draper. Sioned Dafydd and Ifan Gwilym ask him about this crop of TNS players who are on course to equal the World Record winning run that he was involved in in 2016/17; and to assess his TNS Women's season so far, with a huge Bute Energy Welsh Cup semi-final against Wrexham coming up on Sunday.
Pod 90: Adio 6 miliwn a thynnu 6 phwynt Sioned Dafydd, Dylan Ebenezer ac Ifan Gwilym sydd nôl yn y stiwdio yr wythnos hon i drafod newyddion yr wythnos ddiwethaf, gan gynnwys bwriad y Gymdeithas Bêl-droed i fuddsoddi £6m yn yr Uwch-gynghrair, a chosb newydd i Ben-y-bont. Sioned Dafydd, Dylan Ebenezer and Ifan Gwilym are back in the Pod studio this week to discuss the week's news, including the FAW's investment of £6m in the Cymru Premier, and a new points deduction for Pen-y-bont .
Pod 89: Ryan Jenkins Yr athro a rheolwr Met Caerdydd, Ryan Jenkins sy'n ymuno â Sioned Dafydd yr wythnos hon i rhoi asesiad hanner tymor ar ei dîm. Cyfle hefyd i edrych ymlaen at Rownd Wyth Olaf Cwpan Cymru ac am gyn-ymosodwr y Met, Will Evans sy'n cael tymor gwych yng Nghasnewydd. Teacher and Cardiff Met manager, Ryan Jenkins gives Sioned Dafydd a half term report on his team. He also looks ahead to this weekend's Welsh Cup Quarter Finals and talks Will Evans; the former Met forward who's having a great season in League Two with Newport County.
Pod 88: Gavin Allen Rheolwr newydd Pontypridd, Gavin Allen sy'n ymuno ag Ifan Gwilym yr wythnos hon i drafod ‘The Great Escape' – y swydd o gadw'r clwb yn y gynghrair y tymor hwn. Cyfle hefyd i sôn am ei waith gyda'i gyn-glwb, tîm merched Aberystwyth sydd ond angen pwynt ar y penwythnos i orffen yn hanner ucha'r tabl. Newly appointed Pontypridd manager Gavin Allen joins Ifan Gwilym to discuss what he calls ‘The Great Escape' – the job of keeping Ponty in the league this season. He also reflects on his time as Aberystwyth Town Women's manager as they head into the weekend only needing a point to secure a top four spot.
Pod 87: Cwpan FA a Falkirk gyda OTJ Owain Tudur Jones sy'n ymuno ag Ifan a Sioned wythnos yma i ymateb i ganlyniadau clybiau Cymru yng Nghwpan FA Lloegr, gan gynnwys perfformiad Will Evans i Gasnewydd yn erbyn Manchester United. Mae hefyd cyfle i edrych ymlaen at gem Y Seintiau yn erbyn cyn-glwb OTJ - Falkirk. Owain Tudur Jones joins Ifan and Sioned this week to react to the weekend's FA Cup games, including Will Evans' performance for Newport County against Manchester United. There is also an opportunity to look forward to The New Saints' game against OTJ's former club - Falkirk
Pod 86: Rhydaman gyda Euros Griffiths Amddiffynnwr ac arwr Yr Aman, Euros Griffiths sy'n ymuno â Sioned Dafydd ac Ifan Gwilym i drafod eu tymor hyd yn hyn, safon Cynghrair Y De, chwarae gyda Lee Trundle a chŵn poeth! Cyfle hefyd i edrych nôl ar Y Seintiau Newydd yn codi eu tlws cyntaf y tymor hwn wrth iddynt guro Abertawe yn ffeinal Cwpan Nathaniel MG. Ammanford legend Euros Griffiths joins Sioned Dafydd and Ifan Gwilym to assess his club's season so far, the quality of the Cymru South, playing with Lee Trundle and hot dogs! Also, a chance to look back at The New Saints victory over Swansea City in the Nathaniel MG Final.
Pod 85: Rhagolwg Rownd Derfynol Nathaniel MG Sioned Dafydd ac Ifan Gwilym sy'n edrych nôl ar dydd Sadwrn prysur wrth i Gaernarfon cadw eu lle yn y Chwech Uchaf ar drael Hwlffordd. Yna, mae Sioned wedi bod yn sgwrsio rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG gyda'r rheolwyr a chwaraewyr y ddau glwb; Y Seintiau Newydd ac Abertawe dan21. Sioned Dafydd and Ifan Gwilym look back at a chaotic Saturday that saw Caernarfon Town keep their spot in the Top Six at the expense of Haverfordwest County. Then, Sioned talks to both managers and a couple of players from The New Saints and Swansea City under21's before the Nathaniel MG Final this coming Saturday.
Pod 84: Y Ras am y Chwech Uchaf gyda Neil Thomas Cyn-chwaraewr Hwlffordd a Chaernarfon, Neil Thomas sy'n ymuno â'r pod yr wythnos hon i drafod y ras am y Chwech Uchaf yn Uwch Gynghrair Cymru, y tymor hyd yn hyn i'w glwb Treganna a Chwpan FA Lloegr. Former Haverfordwest and Caernarfon player Neil Thomas joins the pod this week to discuss the race for the Top Six in the Cymru Premier, his side Canton FC's season so far and the English FA Cup.
Pod 83: Pwyntiau Ponty Tomos Lewis sy'n ymuno â Sioned Dafydd ac Ifan Gwilym wythnos yma i drafod achos Pontypridd sydd wedi creu penawdau yn ddiweddar. Mae hefyd cyfle i edrych ymlaen at gemau cyfnod y Nadolig yn y Cymru Premier, Cymru North a Cymru South. Sioned Dafydd and Ifan Gwilym are joined by Tomos Lewis this week to discuss the Pontypridd case which has made headlines recently. There is also an opportunity to look forward to tupcoming games in the Cymru Premier, Cymru North and Cymru South over the Christmas period.
Pod 82: Rhifyn Rhyngwladol - Ffarwel 2023, Helo 2024! Sioned Dafydd, Dylan Ebenezer ac Ifan Gwilym sy'n trafod uchafbwyntiau (ac isafbwyntiau) 2023 i holl dimau rhyngwaldol Cymru yn 2023, ac yn edrych mlan at bêl-droed rhyngwladol sydd i ddod yn y flwyddyn newydd. Sioned Dafydd, Dylan Ebenezer and Ifan Gwilym discuss the highs (and lows) of 2023 for all Welsh national teams in 2023, and look ahead to international football in the new year.
Pod 81: Rhagolwg Cwpan Cymru gyda Jake Phillips Cefnwr Y Fflint, Jake Phillips sy'n ymuno â Sioned Dafydd ac Ifan Gwilym cyn i'w dîm herio Cei Connah o'r Uwch Gynghrair ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru ar y penwythnos. Cyfle hefyd i drafod ei argraffiadau ar Gynghrair Y Gogledd a'r râs am ddyrchafiad rhwng dri clwb o Sir Y Fflint. Flint Town United defender Jake Phillips joins Sioned Dafydd and Ifan Gwilym before his side's huge Welsh Cup Fourth Round clash with local rivals Connah's Quay. We also get his impressions of the Cymru North and the race for promotion between three teams from Flintshire.
Pod 80: Rhagolwg Rhyngwladol: Armenia a Twrci Ar ôl sgwrs fer am 3edd Rownd Cwpan Cymru mae Sioned Dafydd, Ifan Gwilym a Malcolm Allen yn edrych ymlaen at ddwy gêm enfawr yn ymgyrch Cymru i gyrraedd Ewro 2024. Cyfle hefyd i sôn am dîm dan-21 Matty Jones a'u hymgyrch nhw hyd yma, cyn herio Gwlad Yr Iâ a Denmarc. After a brief look back at the Welsh Cup 3rd Round results, Sioned Dafydd, Ifan Gwilym and guest Malcolm Allen look ahead to a massive international window for Wales in their bid to reach Euro 2024. Also a quick look at Matty Jones' under-21 side who face Iceland and Denmark this week.
Pod 79: Wrecsam gyda Tomi Caws Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer sy'n edrych ymlaen at gem Wrecsam yn erbyn Mansfield yng Nghwpan FA Lloegr yng nghwmni Tomi Caws. Sioned Dafydd and Dylan Ebenzer are joined by Tomi Caws to preview Wrexham's FA Cup tie against Mansfield, which will be broadcast live on Sgorio this Saturday (4th November, 19:30)
Pod 78: Chris Hughes – 10 Years at Newtown Ar y 7fed o Dachwedd bydd rheolwr Y Drenewydd, Chris Hughes wedi bod wrth y llyw ym Mharc Latham am ddegawd – Ifan Gwilym a Nicky John sy'n ei holi am ei uchafbwyntiau a'r gyfrinach o gadw tîm yn gystadleuol am gyhŷd. On November the 7th Chris Hughes will have been in charge of Newtown AFC for a decade – Ifan Gwilym and Nicky John ask him about his tenure, his highs and lows and the secret behind his longevity at Latham Park.
Pod 73: Rhagolwg Rhyngwladol gyda Owain Tudur Jones Sioned Dafydd ac Ifan Gwilym yn cael cwmni'r cyn-chwaraewr rhyngwladol Owain Tudur Jones i drafod gêm gyfeillgar Cymru yn erbyn Gibraltar a'r gêm ragbrofol fawr yn erbyn Croatia, yn ogystal â charfan dan 21 Cymru. Sioned Dafydd and Ifan Gwilym are joined by former international Owain Tudur Jones to discuss Wales's upcoming friendly against Gibraltar and the crunch qualifier against Croatia, as well as the Welsh under 21 squad.
Pod 76: Caernarfon gyda Richard “Fish” Davies Rheolwr CPD Tref Caernarfon, Richard Davies sy'n ymuno â Sioned Dafydd ac Ifan Gwilym i drafod dechrau da'r Cofis a dechrau gwael ei gariad cyntaf, Everton. Caernarfon Town manager Richard Davies joins Sioned Dafydd and Ifan Gwilym to discuss the Cofis' good start to the season and the poor start for his first love, Everton.
Ifan Gwilym sy'n recordio'r pod yma o Bontypridd ar gyfer rownd o gemau ganol wythnos yn Uwch-gynghrair Cymru. Yn ogystal a chrynhoi digwyddiadau'r wythnos yn y gynghrair, cawn glywed sgwrs arbennig rhwng Sioned Dafydd a Gwnellian Jones o glwb Aberystwyth (sydd wedi cael dechrau cryf i'r Brif Adran), ac hefyd cael ymateb Chris Venables wedi iddo dorri'r record am nifer o ymddangosiadau yn y gynghrair! Join Ifan Gwilym for this week's pod recorded at Pontypridd for a round of midweek fixtures in the Cymru Premier. As well as wrapping up the week's action from the Cymru Premier, there is also a special conversation between Sioned Dafydd and Gwnellian Jones from Aberystwyth (who have had a strong start to the Adran Premier), and we also get Chris Venables' reaction to breaking the league's appearance record!
Pod 74: Goliau Galore ar Y Graig Lot i drafod ar y pod yr wythnos hon i Sioned Dafydd, Dylan Ebenezer ac Ifan Gwilym! Penwythnos agoriadol Prif Adran Genero, digon o goliau yn Uwch Gynghrair Cymru, sylw i'r timau rhyngwladol cyn gorffen gyda Derby De Cymru. Alot to discuss on this week's pod for Sioned Dafydd, Dylan Ebenezer and Ifan Gwilym! The opening weekend in the Adran Genero Premier, goals galore in the Cymru Premier, taking a look at the national teams before finishing with the South Wales Derby.
Pod 73: Rhagolwg Rhyngwladol gyda Gwennan Harries Sioned Dafydd ac Ifan Gwilym yn cael cwmni'r cyn-chwaraewr rhyngwladol Gwenna Harries i drafod gemau Cymru yn erbyn De Corea a Latfia, carfan dan 21 Cymru, ac ymgyrch Cynghrair y Pencampwyr Merched Caerdydd. Sioned Dafydd and Ifan Gwilym are joined by former international Gwennan Harries to discuss Wales's upcoming games against South Korea and Latvia, the Welsh under 21 squad, and Cardiff City Women's Champions League campaign.
Pod 72: Pen-y-bont v Met Caerdydd gyda Mael Davies Ifan Gwilym sy'n dod yn fyw o Stadiwm Gwydr SDM ym Mhen-y-bont wrth iddyn nhw herio Met Caerdydd yn fyw ar Sgorio. Yn gynharach yn y dydd fe gafodd Ifan a Sioned Dafydd sgwrs gyda un o sêr y ‘Bont, Mael Davies am y tymor hyd yma. Ifan Gwilym comes live from the SDM Glass Stadium in Pen-y-bont as they face Cardiff Met in front of Sgorio's cameras. Earlier that day Ifan and Sioned Dafydd caught up with one of the Bont's stars, Mael Davies to assess how the season's gone so far for Rhys Griffiths' men.